nnig Rhifyn arbe Urdd Steddfod yr
bach Mae’r Selar wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’r Urdd i wneud yn siŵr bod mwy o gerddoriaeth gyfoes nag erioed ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon. Dyma i chi ganllaw bach i’r artistiaid y gallwch chi eu gweld ar y maes yng Nghaerffili.
....canlla wi gerddo riaeth gyfoes ar f Eistedd aes f yr Urdd od 2015
Y prif le i weld cymysgedd o enwau amlycaf, ynghyd â rhai o fandiau mwyaf addawol y sin ydy’r Llwyfan Agored. Ymysg yr enwau mawr mae Plu, Y Ffug, a Kizzy Crawford ond rydan ni hefyd yn gyffrous iawn ynglŷn â nifer o’r enwau newydd sy’n mynd i ddal y llygad dros y blynyddoedd nesaf – Terfysg, Henebion a Cpt Smith yn eu mysg. Yn ogystal â’r llwyfan agored, mae modd i chi ddal nifer o’r artistiaid ar lwyfan uned y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (109-112). Mae Mellt, Alun Tan Lan, Y Cledrau a llawer mwy yn chwarae yma’n ystod yr wythnos. Mae lein-yp llawn o’r gerddoriaeth gyfoes ar y llwyfannau yma yng nghanol y daflen.
Rhifyn Newydd Y Selar Mae rhifyn Mehefin o’r Selar allan rŵan, ac ar gael ar faes yr Eisteddfod cyn unrhyw le arall. HMS Morris, sy’n rhan o gynllun Gorwelion y BBC/Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd ar glawr y rhifyn newydd a chyfweliad gyda nhw rhwng y cloriau. Rydym hefyd wedi bod yn sgwrsio gyda Calfari, Band Pres Llarreggub, Cpt Smith a Breichiau Hir ar gyfer y rhifyn newydd, ac mae gennym lwyth o adolygiadau ac erthyglau eraill yn ôl yr arfer.
Gallwch fachu copi o’r Selar ar y maes yn y llefydd canlynol: Canolfan Groeso’r Eisteddfod; Coleg Cymraeg Cenedlaethol (109-112); Pentre Mistar Urdd; Llwyfan Agored y maes; Caffi Mistar Urdd; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (33-24); Cyngor Llyfrau Cymru; Mentrau Iaith Cymru (60-62)