Y Selar - Ebrill 2011

Page 1

RHIFYN 24 . EBRILL . 2011

y Selar

AM DDIM

Gwobrau’r Selar 2010 Trwbador 10 Uchaf Albyms 2010 O glawr i glawr

al lewis wm al albnewydd


www.labelcopa.net www.gwymon.net www.rasal.net

TANYSGRIFIO I’R

SELAR

HOFFECH CHI GAEL COPI NEWYDD SBON DANLLI PERSONOL DRWY’CH BLWCH POST BOB RHIFYN? GYRRWCH E-BOST GYDA’CH CYFEIRIAD A’CH ENW AT HYSBYSEBIONYSELAR@GOOGLEMAIL. COM ER MWYN CAEL EICH HYCHWANEGU AT FAS-DATA Y SELAR.

AM DDIM FELLY PAM DDIM? OS YDYCH CHI MEWN BAND, YN TREFNU GIGS NEU’N YMWNEUD A CHERDDORIAETH GYMRAEG MEWN UNRHYW FODD, MAE ‘Y SELAR’ YN EICH GWAHODD I ANFON EICH NEWYDDION AT Y CYLCHGRAWN DRWY E-BOSTIO YSELAR@LIVE.CO.UK

YMA CEWCH DDARLLEN COPI ELECTRONEG O’R RHIFYN NEWYDD YNGHYD Â PHORI TRWY ÔL-RIFYNNAU.

www.y-selar.com

a S4C

a’r Dyfodol

cymdeithas.org am newyddion diweddaraf yr ymgyrch bwysig yma:

a Manylion taith ‘S4C a’r Dyfodol’ a Deiseb S4C a Ysgrifennu at eich AS a’ch AC a Gwrthod talu’r drwydded a Cyfrannu’n ariannol at yr ymgyrch NA I DORIADAU a IE I S4C NEWYDD AC ANNIBYNNOL


al lewis

golygyddol

Blwyddyn newydd dda, a chroeso i rifyn cyntaf 2011 o’r Selar. Mae’n dymor y glits a’r glamy^ r gyda gwobrau’r ffilmiau, a hefyd gwobrau’r byd cerddorol yn cael eu cynnal ym mhob twll a chornel. Mae’r un peth yn wir am ein twll a chornel bach ni yma yng Nghymru wrth i ni gyhoeddi enillwyr ‘Gwobrau’r Selar 2010’. Mae wedi bod yn flwyddyn fach ryfedd i’r sin, gyda nifer o ffactorau yn effeithio ar faint o gerddoriaeth newydd sydd wedi’i rhyddhau yn ystod 2010. Mae hynny’n arbennig o wir yngly^ n ag albyms Cymraeg, ond na phoener, rydan ni wedi llwyddo i greu ein ’10 Uchaf albyms y flwyddyn’ yn ôl yr arfer ar gyfer y rhifyn hwn. Nid dim ond edrych yn ôl fyddwn ni yn y rhifyn yma cofiwch, o na, fe fyddwn yn ôl yr arfer yn edrych ar bopeth newydd yn y byd cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, a hefyd yn edrych ar yr hyn sydd i ddod yn ystod 2011 gan rai o’r prif fandiau. Cyn i chi frysio i bawennu trwy’r tudalennau lliwgar yma, cofiwch un peth, rhaid cerdded cyn rhedeg!

4

owain s sesiwn unnos trwbador

16 8

Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd

3 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

gwobrau y Selar

Marchnata

12

Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr

Gwilym Dwyfor, Aled Ifan, Leusa Fflur, Barry Chips, Lowri Johnston, Casia Wiliam, Owain Gruffudd

y Selar Rhifyn 24 . Ebrill . 2011

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


cyfweliad

siwpyr

trwbyr

Mae eu henw’n gwneud i chi feddwl am y dynion drwg mewn ffilmiau Star Wars neu un o ganeuon Abba, ond mae cerddoriaeth swynol y ddeuawd o Sir Gâr, Trwbador, yn gwneud i’r gwrthwyneb. Os wnewch chi ychydig o ymchwil i ystyr y gair ‘troubadour’ fe ddysgwch chi mai cyfansoddwyr a pherfformwyr barddol canoloesol o Occitania (De Ffrainc) oedd y troubadour. Mae’r enw’n dechrau swnio’n fwy addas yn tydi! ‘Digon o’r wers hanes am y tro, ers i’r Selar sôn amdanyn nhw yn ‘Dau i’w Dilyn’ mae Owain ac Angharad ryddhau EP newydd Trwbador’. Lowri Johnston fu’n sgwrsio â’r ddau ar ran Y Selar...

“... ni ddim yn cof io rôl tua 3am achos o’n ni gyd wedi blino cymaint!”

4

?

Mae’n brynhawn dydd Sul glawog a dwi’n ddiog fel pob prynhawn Sul arall yn hanes dydd Sul. Ond mae heddi yn mynd i fod ychydig yn wahanol gan fod y band hynod ^ o cw l, Trwbador, yn galw draw am baned a sgwrs, a gan mod i di bod yn mwynhau gwrando arnyn nhw dros y misoedd diwethaf dwi’n hynod o gyffrous, mewn ^ ffordd cw l a chilled wrth gwrs.... Helo Trwbador! Mae’n neis i gwrdda chi... Nawrte, i ddechre - ers pryd y chi wedi bod da’ch gilydd? Owain - Mae bron yn flwyddyn nawr ers ni ddod at ein gilydd fel Trwbador. Angharad - Ond mae’r ddau o ni wedi bod yn gwneud cerddoriaeth ddigidol ers sbel, ond dyma’r band ‘go iawn’ cyntaf i ni fod ynddo. O - Ar gyfer prosiect yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yng Nghasnewydd gofynnes i Angharad helpu fi i wneud EP bach ac aeth hi o fana rili. Nath Bethan Elfyn gynnig i ni wneud gig a wedyn o fana nathon ni gario mlaen i fod yn Trwbador. Pam yr enw Trwbador? O - Wel o’n i ishe gwneud prosiect

dwyieithog felly o’n i ishe enw oedd yn Gymraeg ond bod pobl Saesneg yn ei ddeall ... felly o’n ni’n chwilio am air gyda stamp Cymraeg ac oedd yn hawdd i’w ddweud felly daethon ni lan da Trwbador. Sut fyddech chi’n disgrifio eich cerddoriaeth? A - Ma’ llawer o bobl wedi ei ddisgrifio yn wahanol ond ryw fath o gerddoriaeth gwerin ddigidol - sdim genre strict ‘da ni – rhyw cerddoriaeth pop rhydd. Sut fath o ymateb y chi wedi ei gael dros y flwyddyn diwetha? O - Ma’r ymateb wedi bod yn anhygoel a gweud y gwir. Ni byth wedi gofyn am ddim eto... A - Na, ni heb ofyn am ddim, ma pawb yn dod ato ni - cynnig sesiwn radio, gofyn am gân, sai’n gw’bod pam! Ydych chi’n meddwl bod bwlch yn y math o gerddoriaeth ydych chi’n ei gwneud yn y Gymraeg? O - Wel ma lot wedi neud pethe tebyg Jakakoyak, Texas Radio Band...Falle achos fod Angharad yn ferch?! A - Paid dweud ‘na!


O - Falle ein bod ni’n lwcus?! ... Fi’n meddwl achos bod Angharad yn ferch! Beth oedd uchafbwyntiau 2010 i chi? O - Gwneud gigs i Bethan Elfyn yng Nghaerdydd, cael ein chwarae gan Adam Walton - ni’n hoffi Adam Walton! - chwarae ^ gwyl Sw n, chwarae gig Huw Stephens yn Llundain, cyngerdd Nadolig C2 ... A ni newydd neud ‘sesiwn unnos’ C2 yr wythnos hon! Sut oedd e? A - Blinedig! O - Ond lot o hwyl... Oedden ni’n gweithio gyda Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan ac oedden ni i gyd mewn un stafell yn rhoi syniadau... Oedden ni’n nacyrd a ni ddim yn cofio rôl tua 3am achos o’n ni gyd wedi blino cymaint! A - Odd pawb ishe mynd adre ac odd Eilir fel ‘C’mon, dwy gân arall!’. Nathon ni bump cân i gyd, un yn acapela oedd yn lot o hwyl. O - Odd e’n brofiad rili da ac oedd e’n neis cwrdda’r criw sy’n gweithio ar y rhaglen. Fi’n hoffi Bangor a’r gogledd, sai’n cael lot o gyfle i fynd lan na so odd hwnna’n neis. Licen i gael siawns i dreulio mwy o amser ‘na tro nesa’ dwi ‘na! Sut y chi’n recordio a chynhyrchu eich cerddoriaeth? A - Nathon ni recordio ‘Snowed a lot this year’ yn fy stafell i, ond ni nawr yn recordio yn stafell wely Owain. O - Ni wedi prynu meicroffon newydd ac mae’n awsome. Mae rili yn! Neith e lot o wahaniaeth yn safon y caneuon. A - Gobeithio..!

“Ni wedi sgwennu lot o stwff ond ni angen recordio nhw nawr, a stopio sgwennu!”

defnyddio techneg ‘cut-up poetry’ ac ma hyn yn eithaf anodd yn y Gymraeg. Ni’n cael papur newydd ac yn torri pob gair ti’n hoffi mas o fe, rhoi nhw mewn het, a tynnu geiriau mas. A - Ond ma rhaid i ti gael syniad yn dy ben cyn i ti wneud hyn... O - Ma’ Cymraeg yn dechrau dod yn fwy naturiol i ni wrth i ni ddefnyddio fe mwy. Ni’n caru’r iaith a ni eisiau gwneud mwy yn y Gymraeg. Ond ni wedi tyfu lan yn gwrando ar gerddoriaeth Saesneg a dyma sy’n naturiol i ni. A - Weithiau byddwn ni’n cael brawddeg Cymraeg a bydd hwnna’n sgwennu’r gân yn ei hunan. Sut ymateb y chi’n cael wrth gynulleidfa Gymraeg pan y chi’n canu’n Saesneg? O - Wel ma pobl Cymraeg ishe i ni ganu yn uniaith Gymraeg a ni’n hollol deall pam. Ond ni ddim yn meddwl am yr issue iaith - ni wastad yn trio cofio pam dechreuon ni sgwennu caneuon - i wneud cerddoriaeth. Os yw pobl yn dod i weld chi’n fyw, pa fath o set-up allen nhw ddisgwyl? O - Wel ni di cael gormod o technical

mishaps da laptop yn ddiweddar felly ni wedi penderfynu mynd yn acwstig - gitâr a glockenspiel am bach. Ar ôl rhyddhau yr EP dyma fydd y setup ond ni’n bwriadu newid y setup eto ar ôl rhyddhau’r albwm. A - Ni ishe chwilio am ffordd newydd o neud pethe. Ma set acwstig yn fwy syml ma’r feedback yn fwy syml. Mae’n anodd cael yr intimacy ti’n gallu cael mewn gig acwstig gyda set ddigidol. O - Ma’ angen i ni ddod o hyd i set ddigidol sy’n gweithio a sy’n gwella’r berthynas rhyngon ni â’r gerddoriaeth.

Beth ydych chi’n gweithio arno ar hyn o bryd? O - Wel heddi nathon ni orffen cân ni mynd i roi ar y we - ryw gân jocan o’r enw ‘google it’ am y pethau doniol ma pobl yn googlan. A - Ni hefyd wedi gorffen EP Cymraeg hollol acwstig. Ni wedi cael ymateb lot gwell i’r caneuon acwstig pan ni’n chwarae yn fyw. Bydd y dair cân newydd ‘ma mas cyn hir gobeithio. O - Ni hefyd wedi sgwennu pymtheg cân newydd ar gyfer albwm, ni angen dechrau cynhyrchu hwn. Bydd e’n gymysgedd o ganeuon dwyieithog digidol ac acwstig, bach o bopeth. Ni wedi sgwennu lot o stwff ond ni angen recordio nhw nawr, a stopio sgwennu! A - Er, mae’n beth da i sgwennu lot... O - Ydy ond ni rili angen dechrau cynhyrchu nhw nawr! Ond mae’n fwy o hwyl i sgwennu na chynhyrchu. Chi’n canu’n ddwyieithog yn dydych chi? O - Ydyn. Ni’n ffeindio fe’n haws i ddod lan da caneuon Saesneg a bod yn onest - ni’n

5


cyfweliad

Mae deunydd Trwbador hyd yn hyn wedi’i ^ ryddhau’n annibynnol gan y band, a rw an maen nhw wedi penderfynu helpu bandiau eraill fel nhw, trwy ryddhau eu cynnyrch hwythau. Cyfle da i’w holi nhw yngly^ n â hynny felly! Dwi’n clywed bod ganddo chi label, dwedwch wrtha i am hwnna. O - Owlet Music yw enw’r label, mae’n label ar gyfer y gerddoriaeth ni’n ei charu. Ar hyn o bryd ni jyst yn cyhoeddi cerddoriaeth ond yn y diwedd hoffen ni fynd i wneud rheoli digwyddiadau neu gyhoeddi. A - Ma 2 artist da ni ar hyn o bryd, Telefair sy’n dod o Manceinion. Mae jyst fel ni ond gwell...! Glywon ni ‘e ar sioe Adam Walton ac wedyn nathon ni gysylltu da fe dros myspace.

“...ni’n ffeindio yn aml bod lot o dalent gyda pobl ond dyw nhw ddim yn gw’bod be i wneud gyda fe” 6

O - Ni hefyd yn rhyddhau stwff Vera Go, ma hi’n anhygoel. Mae’n dod o San Francisco ond yn byw ym Mharis nawr. Nathon ni jyst dod ar draws hi a mae’n anhygoel o dda. Ni’n gobeithio mynd i Baris i recordio hi gyda’r meicroffon newydd ..! Beth sy’n cael ei ryddhau nesa’ ar y label te? O - Wel pan nathon ni ddechrau’r label oedden ni’n gw’bod ein bod ni am ryddhau compilation album, felly nathon ni dreulio ryw dri mis yn chwilio am fandie ni’n hoffi. Bydd hwn yn cael ei ryddhau cyn bo hir casgliad o ganeuon ni’n hoffi o Gymru a’r byd – ‘Owlet Music All in One’ fydd enw’r albwm. A - Pan ni’n dod ar draws rhywun ni’n hoffi ni ishe helpu nhw - a ni wedi dod ar draws bandiau amazing ni ishe i pobl glywed. O - Ma cymaint o fandiau talentog ond ni’n ffeindio yn aml bod lot o dalent gyda phobl ond dyw nhw ddim yn gw’bod be i wneud gyda fe – ma felse bod nhw jyst yn aros i rhywun helpu nhw. A dyna be ni ishe ^ neud gyda’r ddau grw p ni am ei ryddhau ar Owlet. Hoffen ni ddod o hyd i fwy o fandiau Cymraeg... Ma lot o fandiau wedi dechrau ‘leni a ni’n edrych mlaen i weld sut ma nhw’n datblygu - bandiau fel Violas a Crash. Disgo!

“Ni wedi prynu meicroffon newydd ac mae’n awsome” Pa fandiau y chi’n hoffi ar hyn o bryd yng Nghymru? A - Ni’n hoff iawn o’r Cyrion, Colorama, Cate le Bon, H Hawkline, Sweet Baboo... Be am yn sir Gâr? O - Sain meddwl bod lot yn mynd mlaen ma ar hyn o bryd. Cafodd y Gorkys lot o ddylanwad arna’i pan o’n i’n tyfu lan – o’n i wastad yn cysylltu Sir Gâr gyda’r Gorkys, ond nawr s’dim band yn cael ei gysylltu gyda’r ardal.. Ma angen rhywbeth.

Edrychwch mas am EP Trwbador, a’r CD Cymysg gan Owlet Music. Bydd yr albwm mas yn yr haf! www.owletmusic.com


geiriau sy n gyrru r gan í

í

^

Beth ydy hanes geiriau prif drac ‘Sengl y Flwyddyn’ eleni? Mae Jen Jeniro yn fand sy’n tueddu i roi pwyslais ar arbrofi cerddorol, ac fel ^ arfer mae’r sw n tu ôl i gân yn bwysicach na’r geiriau. Wedi dweud hynny, mae Eryl ‘Pearl’ y prif leisydd yn rhoi tipyn o feddwl i’r geiriau hefyd. ‘Dolffin Pinc a Melyn’ oedd y sengl a ryddhawyd ganddyn nhw dros yr haf yn 2010 ... sengl sydd bellach wedi hawlio coron ‘Sengl Orau 2010’ yng Ngwobrau’r Selar! Pa gyfle gwell felly i gael gair efo Eryl i ddarganfod cefnir y gân:

“...yn fras, cân am geffyl môr unig yn disgyn mewn cariad efo dolffin pinc a melyn brydferth ydy’r sengl. Fe ddoth y syniad o ryw geffyl môr marw sydd gena ni yn y ty^ adra - nath dad ddal o tra oedd o’n byw yn Awstralia yn y 1970au, a trio’i gadw fo fel ceffyl môr anwes...ond bu farw’r ceffyl môr yn reit sydyn, a sychodd o allan yn soled. Fel yna mae’r hen geffyl môr hyd heddiw - yn y cabinet yn ^ y rw m ffrynt. A rhan o hanes bywyd cradur bach ydi’r gân yma.”

Dolff in Pinc a Melyn Mae’n unig ar waelod y môr – dos’na neb arall ddigon ffôl. Dim ond gwymon am gwmni, dos’na neb lawr fama i fi. (dolffin pinc a melyn! dolffin pinc a melyn!) Dwi’m yn mynd yn iau, a mae’r cyfleoedd yn culhau; rhaid mentro i’r dyfroedd pell ar drywydd bywyd gwell. O’n i allan o nghynefin yn brysur gosi’r ffin pan welais i’r peth dela’ ‘rioed- a rhoddodd naid bach llôn ym mhob troed. (dolffin pinc a melyn! dolffin pinc a melyn!) Ond nid ceffyl môr oedd hi - dolffin, ac yn lliwia i gyd! Oni mewn serch yn syth...ma hyn am bara am byth! (dolffin pinc a melyn! dolffin pinc a melyn!)

Y BADELL

FFRIO

gyda Barry Chips

SGRECH NEIL MAFFIA Rhagorol oedd clywed sgrech-floeddiad ceilliog Neil Maffia ar y gân ‘Addewid tanddaearol’ – un o gasgliad o ganeuon gafodd eu recordio ar gyfer Sesiwn Unnos Radio Cymru, gan Gai Toms ac eraill dan yr enw Ap Smith (ewch draw i wefan Radio Cymru i glywed y gân – mae’r sgrech yn dod yr holl ffordd o latex crotch sdinci’r 1980au, ac yn atgoffa rhywun o The International Language of Screaming chwedl y Super Furry’s). Mae’n werth gwrando hefyd er mwyn atgoffa’n hunan nad y gelyn ydi Radio Cymru. Maen nhw’n cyflogi lot o rocars fel Dyl Mei a Gruff P o’r Ods, heb sôn am Meic P, Y Ffyrc gynt, felly ddylai neb synnu eu bod nhw’n dod fyny efo rhaglenni da sy’n dangos y Sin Rhoc Gymraeg ar ei gorau. Ond wedi dweud hynny, roedd hi’n hen bryd i’r rocars gynnal Streic y Cerddorion ^ ar Ddydd Gw yl Dewi Llwyd, a gwrthod gadael i Radio Cymru chwarae eu caneuon am 24 awr. Mae hi’n amser i dynnu’r BBC fewn i’r ffrae dros arian breindal – y tâl mae cyfansoddwr/band yn dderbyn pan mae un o’u caneuon ar y weiarles. Mae penderfyniad y corff casglu breindal – y PRS – i ostwng tâl rocars Cymru 90% yn syfrdanol. 24% o’i chyllideb mae S4C yn ei cholli, ac mae’r Gymdeithas a’r pleidiau gwleidyddol wedi mynd yn boncyrs am hynny. Ond tu allan i swigen yr SRG, ‘chydig iawn o sdinc sydd wedi bod am golli 90% o incwm, yr arian sy’n talu i fandiau fynd i’r stiwdio i recordio albyms newydd a

ballu. Faint ohona ni, yn ein bywydau bob dydd, fydda’n medru byw ar 90% yn llai o gyflog? ^ Roedd Streic Dydd Gw yl Dewi yn ddechra da, ond mae angen parhau i godi sdinc am y sefyllfa. Mae rocars yn cael £22.71 y funud pan mae eu cân ar Radio Two, o gymharu efo’r £0.49 am funud ar Radio Cymru – sef 46 gwaith yn llai o dâl! Ydy cân gan Bob Delyn a’r Ebillion 46 gwaith salach peth, 46 fwy di-werth na chân gan Coldplay? Ydy gwleidyddion Cymru, athrawon Cymru, actorion Cymru a chyflwynwyr radio Cymru yn derbyn 46 gwaith yn llai o dâl na’r un bobol yn Lloegr? Hen bryd i Radio Cymru roi dwy ysgwydd tu cefn i’r rocars a’u cefnogi i’r carn, a dweud wrth y PRS fod angen tâl tecach. Lle fydd yr orsaf radio ‘genedlaethol’ heb fiwsig newydd i’w chwarae, am nad oes gan neb yr arian i recordio stwff newydd? Difyr oedd gweld Meic Stevens yn dweud y plaendra yn Golwg cyn mudo am Ganada, via 37 gig ta-ta... yng Nghymru mae angen gordd i’r caill cyn bo ni’n deffro o’n trwmgwsg. A gordd i’r caill gafwyd gan Swynwr Solfach. Mae eraill o rocars Gwalia wedi defnyddio dwrn dur mewn maneg felfed i dynnu sylw at yr argyfwng yn y Sîn. Ond nid Meic, sy’n gweld bai mawr ar S4C a’r BBC: “Maen nhw’n fodlon gwario ffortiwn ar ddrama ac ar ff***n rygbi, ond bygyr ôl ar roc Gymraeg! Mae hi’n bechod.” A-men.

7


o glawr i glawr

Melys Mae’n flwyddyn newydd, felly dyma gyfle perffaith i gyflwyno eitem newydd sbon danlli i chi ddarllenwyr lwcus! Mae delwedd yn bwysig iawn yn y byd cerddorol – i rai, mae sut mae artistiaid cerddorol yn edrych bron mor bwysig â sut maen nhw’n swnio. Yn yr un modd, mae rhai bandiau ac artistiaid yn rhoi llawer o ^ ymdrech i wneud yn siw r bod cloriau eu CDs yn denu sylw ar y silff. Gydag ‘O glawr i glawr’ byddwn ni’n rhoi sylw i rai o’r cloriau mwyaf trawiadol sydd wedi ymddangos yn y sin Gymraeg – rhai’n hen, eraill yn newydd. Pwy well i ddechrau efo nhw nag enillwyr gwobr ‘Clawr gorau 2009’ yng Ngwobrau’r Selar flwyddyn yn ôl. Mae’r fan hufen ia ar glawr Melys, albwm gyntaf Clinigol, bron iawn yn eicon pop Cymraeg erbyn hyn! Bu’r Selar yn siarad â Geraint o Clinigol i ddysgu mwy am y clawr... Shw’mai Geraint! Mae’n deg dweud bod clawr eich albwm gyntaf, Melys, yn un trawiadol. I’r darllenwyr sydd ddim yn

8

yselar@live.co.uk

gyfarwydd â’r clawr, mae’n dangos llun o fan hufen ia lliwgar wedi’i pharcio mewn ‘dymp’, ^ gydag Aled fel gwerthwr hufen ia hynod cw l mewn headphones a sbectol haul, a thithau yn edrych yn smyg yn y blaendir! Mae’n amlwg bod tipyn o feddwl wedi mynd i’r gwaith celf. I ddechrau felly, pwy gynlluniodd y clawr unigryw yma? Geraint: “Cysyniad fi oedd y clawr a’n cynhyrchydd ni Chris Maguire nath dynnu’r lluniau. Nethon ni dynnu dros 200 o luniau tebyg mewn dau leoliad ar fore gwlyb a gwyntog ym mis Mawrth 2009. Ethon ni i ardal ddiwydiannol ym Mae Caerdydd yn gynta. Ar ôl rhyw awr, wrth i yrrwr y fan hufen ia ddeall beth o ni’n trio neud, wedodd e ‘my other job is working down the dump on Rover Way - shall I ask my boss if we can go down there?’ Odd hwn yn berffaith - achos i dymp o ni moyn mynd yn wreiddiol, ond o ni ddim yn meddwl y bydden i yn cael caniatâd. Wedi cael caniatâd y boss, ethon ni ar siwrnai o filltir lawr yr hewl, a threulio awr arall, yn tynnu mwy o luniau.” Strocen felly! Gyda chymaint o luniau sut

oeddech chi’n dewis y gorau a wedyn cyrraedd y clawr gorffenedig? “Ar ôl i ni fynd trwy’r cannoedd o lunie, a dewis un - nath Chris wedyn weithio tipyn ar liwiau’r clawr, nath e neud iddi edrych yn ddiwrnod braf i ddechre, nath e newid lliw’r fan hufen ia, newid lliw fy nghrys ac ati er mwyn cal y colour scheme yn iawn - o ni moyn i’r holl beth fod yn eitha lliwgar a thrawiadol. O ran y logo, o ni moyn ffont eitha cyfrifiadurol, modern ar gyfer “Clinigol” ac eisiau i ‘Melys’ fod mewn llawysgrifen.” Oedd gyda chi syniad penodol ar gyfer y clawr cyn dechrau? Oes ‘na unrhyw ddylanwad tu ôl iddo fe? Prif ddylanwad y clawr oedd delwedd a syniadau Roisin Murphy a ddefnyddiodd hi trwy gydol ei hymgyrch i hyrwyddo ei halbwm Overpowered, sef y syniad o roi rhywbeth cyffredin mewn man anghyffredin. Roeddwn ni newydd ryddhau Hufen Ia fel sengl, odd e wedi cal ymateb da ac yn cael ei chware lot


ar y radio, felly tyfodd y syniad o’r fan hufen ia - y peth cyffredin - a’i roi e mewn man diwydiannol, sef y man anghyffredin. Mae’r gân ‘Hufen Ia’ yn metaphor am ein cerddoriaeth ni, felly daeth y fan hufen ia yn metaphor yn yr un modd, hynny yw, bod pawb yn licio hufen ia er falle ei fod e bach yn ddrwg iddyn nhw - rhyw fath o guilty pleasure. Roedd y lleoliad diwydiannol yn metaphor hefyd - a bod y fan hufen ia lliwgar yma yn gyrru mewn i ardal di-liw, a dechre chware cerddoriaeth pop!” Ah, difyr iawn – mae’n gwneud mwy o synnwyr nawr. Rodd delwedd Murphy yn drawiadol iawn yn doedd? “Oedd, roedd hi’n eitha outlandish yn ei delwedd ac yn gwisgo dillad high fashion - ac er nad oeddwn ni am fynd i eithafion Roisin Murphy o ran delwedd, mi roedd ffasiwn yn bwysig i’r shoot, ro ni am i ni edrych yn ddinesig ac edgy fel band. Y bwriad o roi Aled mewn headphones oedd i ychwanegu at yr abswrditi. Ond

damwain llwyr oedd y shot a ddefnyddiwyd yn y diwedd o Aled yn edrych lan - mae’n ymddangos ei fod e’n edrych lan at logo Clinigol - ond ie, damwain oedd hwnna!” O ble ddaeth y fan hufen ia felly? “Odd cal gafel ar y fan Hufen Ia yn strach! O’n ni wedi gofyn i’n ffrindiau i gyd i fod ar y look out am fan - rhywbeth anarferol ar strydoedd Caerdydd yng nghanol Chwefror! Ath wythnose heibio ac o ni’n dechre mynd yn nerfys, ond o’r diwedd nath fy ffrind Rachel (oedd yn actio merch hoyw yng nghyfres ^ Caerdydd) ddigwydd clywed sw n fan hufen ia yn Sblott - felly redodd hi ar ôl y fan ac egluro iddo beth oeddwn ni moyn fel band ^ a chymryd rhif ffôn y gyrrwr - mae’n siw r ei fod e yn credu bod Rachel yn hollol wallgof! Ar y diwrnod, nath gyrrwr y fan hufen ia neud i ni chwerthin - yn gynta, roedd e wedi drysu’n llwyr gyda beth odd yn digwydd ... a wedyn glywon ni fe ar y ffôn gyda’i ffrind yn dweud “You’ll never believe this, last week, I was accosted by the lesbian out of that Caerdydd programme, and now I’m on a photo shoot with a Welsh electro duo!”

Mae’n amlwg bod tipyn o ymdrech wedi mynd i’r clawr yma, ond yn gyffredinol, ydy clawr yn bwysig? “Yn fy marn i, ma clawr yn bwysig iawn, ddim o safbwynt gwerthiant sain credu, ond yn sicr o safbwynt delwedd, ac ma delwedd yn bwysig iawn i’r fath o gerddoriaeth y ni’n ei gynhyrchu. Ni’n falch iawn o’r clawr - nath e droi mas yn union fel o ni wedi gobeithio. Ac ar ôl gweithio mor hir a chaled ar yr albwm, y clawr yw’r eisin ar y gacen, ac o’n ni moyn ^ neud yn siw r bod y clawr yn adlewyrchiad da o’r gerddoriaeth.” Dechrau da i gyfres newydd felly a hanes difyr tu ôl i glawr trawiadol!

Os ydych chi’n teimlo fod clawr arbennig yn haeddu sylw yn yr eitem hon, neu eisiau gwybod cefndir clawr un o albyms eich hoff fand Cymraeg, yna anfonwch eich awgrymiadau draw at yselar@live.co.uk

9


. . . d a u e l u a l o unnos I CAEL CRYN DIPYN ED W C2 S NO UN N SIW SE MAE CYFRES

O SYLW DROS YR

O AR RAN Y SELAR UN NOSON I

YN WYTHNOSAU DIWETHAF. LEUSA FFLUR AETH WELD BETH OEDD YR HOLL FFYS. TY UNNOS

Roedd hi’n draddodiad yn y 17eg a’r 18fed ganrif i barau priod newydd adeiladu tai syml ar dir comin, gyda chymorth eu teuluoedd a’u cymdogion. Ond roedd yn rhaid gwneud hynny mewn noson. Roedd yn rhaid cwblhau’r gwaith adeiladu a chael mwg drwy simnai’r ty^ erbyn toriad gwawr y bore canlynol i gael perchnogaeth ar y ty^ . Enghraifft enwog o’r ty^ unnos yw’r Ty^ Hyll ger Capel Curig.

SESIWN UNNOS

Arbrawf gan Radio Cymru yw hwn lle gwahoddir cyfres o gerddorion, ac ambell fardd, i gydweithio ar y sialens o gyfansoddi a recordio EP dros nos. Mae gwe-gamera yn y stiwdio recordio yn darlledu’n fyw ar wefan C2, yn ogystal â thîm o flogwyr a gohebwyr yn darlledu’r diweddaraf yn syth o lygad y ffynnon. Wedi cyfres lwyddiannus o chwe sesiwn y llynedd, fe gafwyd ail gyfres eleni i herio cerddorion y sin gerddorol Gymraeg.

“MA’N SWNIO WEITHIE FEL MOD I’N CHYDIG O DICTATOR”

10

#UNNOS

Mae hi’n amser gwely. Ond mae ‘na rhyw gyffro ar y we sy’n anodd ei anwybyddu. Mae #unnos yn cael ei fownsio fel pêl ping pong rhwng ffrindiau ar Twitter. Mae hi’n nos Fawrth ac mae Sesiwn Unnos byw yn cael ei darlledu trwy we-gamera ar wefan C2. “Mae’r BBC am ganiatáu i @steffancravos ddarlledu’n fyw o’i stiwdios, dros y byd i gyd, am 12 awr cyfan? Ow, fydd hyn YN hwyl! #unnos”, meddai un gwrandäwr pryderus ar Twitter. “Mae fel bod ar Big Brother!” meddai Steffan Cravos, sy’n cydweithio â Gwilym Morus yr wythnos hon i greu EP newydd sbon rhwng machlud a thoriad gwawr. “Dwi’n meddwl bo gennon ni hawl i regi, ond bo ni ddim yn enllibio neb!” Ac er mai jôc ydi hi, mae’r elfen o’r anhysbys yn hofran uwchben Cravos heno, ^ a neb yn siw r iawn beth i’w ddisgwyl. Caiff ei adnabod yn bennaf fel un o’r Tystion, un o’r bandiau ddaeth a hip hop Cymraeg i olau dydd, ac yn fwy diweddar fel y perfformiwr rap ‘Lembo’. Mae ei lyrics fel arfer yn danllyd o wleidyddol, yn feirniadol o sefydliadau a’r drefn, ac yn angerddol o genedlaetholgar. Oes ‘na thema dan sylw ar gyfer y Sesiwn

Unnos heno, felly? “Mae Gwilym [Morus] newydd ddod nôl o Barcelona, ac mae’r boi sy’n gwneud y celf i’r EP yn dod o Barcelona, ac es i allan yna mis Mehefin llynedd hefo tocyn un ffordd a chant ewro yn fy mhoced a fues i yn Catalonia am dri mis” meddai Cravos. ^ ^ “Es i allan i w yl Sonar, gw yl electroneg fwyaf Ewrop,” mae’n ychwanegu “ac wedyn fues i’n gwneud gwaith gwirfoddol ar fferm organig, a ^ bues i’n gweithio mewn gw yl yn yr anialwch o’r enw Nowhere Festival - oni’n constructio structures celf a phethau felly. Ac wedyn nes i hangio allan lot yn Catalonia yn sgwatio


mewn adeiladau ac yn cwcio fyny efo anarchwyr. Doedd gyno’ ni ddim ^ trydan na dw r na dim byd - oedd o’n briliant, golchi llestri yn y nant ac ymolchi yn yr afon a thyfu bwyd ein hunain, byw’n rhydd, dim pres!” Swnio fel lot o hwyl felly Crav, ond sut yn y byd lwyddaist ti i ddod nôl i Gymru fach? “Ges i check PRS i ddod adre a nes i bwcio flight ond nes i golli’r flight achos oni wedi mynd yn rili ecseited a chael cwpwl o ddrincs a nes i lwyddo i ddisgyn i gysgu!” Ond be sydd gan hyn oll i’w wneud â’r Sesiwn Unnos? “Mae newid lleoliad yn gallu rhoi syniadau i ti. Dydw i’m di sgwennu lot ers blynyddoedd a nes i ddechrau sgwennu eto allan yno, a dwi wedi dod a bits a bobs o hynna hefo fi heno.” Gwych iawn, mae’n dda clywed bod yr awen yn ôl gan un o feterans yr SRG bellach. Y ‘boi celf’ y cyfeiria Cravos ato heno yw Monso “monsito” Monson, sy’n wreiddiol o Bow Street ond sydd bellach yn byw yn Barcelona ac yn dylunio a chynllunio ar gyfer cwmnïau ffasiwn mawr fel Next a Zara.

SESIYNAU UNNOS DELFRYDOL Mick Jagger a John Lennon - Ems y Goruchwyliwr Sain Gorky’s Zycotic Mynci a Faust - Huw Evans, y cyflwynydd Toumani Diabate a fi fy hun - Gwilym Morus, y cerddor Gruff Rhys ac Endaf Emlyn – Gareth Iwan, Cynhyrchydd John Cale, Gruff Rhys, Dave Datblygu, Amy Winehouse a Stevie Wonder – Dwynwen Morgan, Cynhyrchydd Beatles a’r Gorky’s Zycotic Mynci - Dyl Mei, y guru cerddorol a dogsbodi y BBC

“NES I HANGIO ALLAN LOT YN CATALONIA YN SGWATIO MEWN ADEILADAU AC YN CWCIO FYNY EFO ANARCHWYR” Mae Monso’n gwylio’r sesiwn dros y gwe-gamera, gan weld yr EP’n cael ei hadeiladu fesul nodyn. Gwaith Monso yw addurno’r campwaith gorffenedig drwy lunio clawr addas. Mae’r elfen gelf yn ychwanegu dimensiwn arall i’r Sesiwn Unnos, sy’n broject aml-blatfform. “Mae o’n rhywbeth byw ... dim jyst rhaglen radio ydi o, na hyd yn oed sesiwn. Mae o fod yn rywbeth celfyddydol, sy’n dod a cherddoriaeth, celf, barddoniaeth, defnydd y we a chyfrwng gweledol y gwe-gam at ei gilydd.” meddai Dyl Mei, sy’n gyfrifol am blannu’r syniad cychwynnol o Sesiwn Unnos yn y BBC. Yn ystod Sesiwn Unnos gyda’r Race Horses y llynedd, llwythwyd un o’u caneuon gorffenedig ar safle gwe C2, a gwahoddwyd y cyhoedd i ail-gymysgu’r trac erbyn y bore. Roedd yr ymateb a gafwyd i’r sialens yn anhygoel. Mae syniadau eraill ar y gweill i ddatblygu’r syniad o Sesiynau Unnos, yn ôl Dyl Mei. Un syniad am raglen arbennig yw recordio un o’r sesiwn yn y Ty^ Hyll - sef ty^ unnos. Ond mae hi’n rhy oer ar hyn o bryd, ac efallai y bydd raid aros tan yr haf! Mae hi’n un ar ddeg o’r gloch, a tra bod Cravos yn sgwennu ei lyrics am Catalonia a’i hiraeth am ei gariad, mae Gwilym Morus yn y stiwdio hefo’i gerddorion - Zoot, Henry a Ben. Pum awr ers cychwyn y sialens, ac maen nhw eisoes wedi recordio’r rhan fwyaf o’r

gerddoriaeth gefndirol. Bydd y band yn gadael y stiwdio erbyn hanner nos. Mae Gwilym Morus yn poeni am yr amser, ac yn groes i natur ei gerddoriaeth hamddenol mae golwg dan bwysau arno. Mae Huw Evans yn hofran o amgylch y stiwdio yn ceisio cydlynu popeth ar gyfer y sioe radio, ac yn ceisio cadw dan draed y cerddorion. Mae o’n blogio am ddull gwahanol Gwilym yn y sialens unnos, “Yn dilyn ‘chydig o wrthdaro yn y stiwdio (nath un o’r aelodau defnyddio’r gair “tywallt” er i Gwilym Unben Morus egluro fod defnydd o’r gair yma, a clymu carau sgidiau mewn double knot, wedi’w wahardd) ma Gwilym wedi sackio pawb ond Steffan Cravos a Ben y Basydd (sy’n eistedd yn y stiwdio yn crynu ac yn chwys doman tra bod Gwilym yn martsio o gwmpas mewn pâr o long johns yn taro rhyw ffon anferth tra’n gweiddi rhwbeth am atgyfodiad Anti Marian).” Mae Gwilym wedi clywed y sïon o amgylch y stiwdio, “Ma’n swnio weithie fel mod i’n chydig o dictator, ond dwi’n rhoi penrhyddid i gerddorion. Does dim pwynt fel arall cael cerddorion mor dalentog. Dwi’n meddwl fod y sesiynau unnos yn syniad gwych - dwi’n meddwl fod o’n athrylithgar o syniad, a dwi’n ddiolchgar iawn i’r tîm. Ma’n wych gallu rhoi pobl at ei gilydd a chael y gorau allan ohonyn nhw drwy eu rhoi nhw dan bwysau. A dwi’n licio gweithio felly, fel her.” Ac er gwaethaf herio gweddill y tîm, mae’n amlwg mai Gwilym sy’n iawn. Mae’r Sesiwn Unnos hon wedi ei hadeiladu ar graig ac nid ar dywod. Wedi aros ar ei draed drwy’r nos, a’r bore canlynol mae’r traciau gorffenedig yn broffesiynol, yn safonol, yn ffynci, yn glasuron sy’n mynd i gael eu chwarae ar y radio am flynyddoedd i ddod. Gallwch wrando ar yr EP orffenedig gan Gwilym Morus, Steffan Cravos a’u band ar safle gwe unnos ar wefan C2 - www.bbc.co.uk/c2.

11


gwobrau y selar 2010 EIN DARLLENWYR UNWAITH ETO ELENI MAE Y SELAR WEDI AGOR PLEIDLAIS EIN GWOBRAU BLYNYDDOL I CHI, WEDI BWRW PLEIDLEISIAU ANNWYL. MAE’R YMATEB WEDI BOD YN WYCH UNWAITH ETO A LLWYTH OHONOCH CHI NIADAU LLAWN. DROS EICH HOFF ARTISTIAID YN 2010. WEL, MAE’R DISGWYL AR BEN – DYMA’R CANLY CATEGORI: SENGL ORAU

YR ODS

RHESTR FER: DAL DY DRWYN / CÂN Y TÂN – Y BANDANA DOLFFIN PINC A MELYN – JEN JENIRO CYFRINACH - CLINIGOL

Enillydd: Dolff in Pinc a Melyn Jen Jeniro

Cân yr haf meddai Y Babell Roc yng nghylchgrawn Golwg, sengl y flwyddyn meddai darllenwyr Y Selar. Mae Jen Jeniro yn dipyn o hen bennau ar y sin bellach, ond er iddyn nhw gyrraedd rhestr fer ‘Band y flwyddyn’ yn y gwobrau llynedd, ychydig iawn o gydnabyddiaeth maen nhw wedi’i gael y tu hwnt i’r miwso’s deallus. Mae’r prif drac yn psychadelia hafaidd delfrydol i’r gwyliau, tra bod remics Llwybr Llaethog o ‘Hulusi’ yn taro deuddeg fel B-side. Hefyd, hon ydy’r sengl gyntaf i’w rhyddhau ar gasét ers 1923! Retro.

CATEGORI: EP GORAU RHESTR FER: YR ODS – YR ODS CERDYN NADOLIG – COLORAMA SWIGOD - CLINIGOL

Enillydd: Yr Ods - Yr Ods

Rhaid dweud bod hon yn fuddugoliaeth weddol gyfforddus i’r Ods gyda’i EP o’r un enw. Maen nhw wedi rhyddhau cwpl o senglau eisoes, ond dyma’u EP cyntaf sy’n cynnwys 5 cân. Un peth sy’n ddiddorol am yr EP ydy bod 4 o’r aelodau yn cyfrannu fel prif lais ar ganeuon gwahanol – gobeithio ceith Rhys gyfle ar yr albwm dduda i! Caneuon popi a bachog gan un o fandiau ifanc gorau Cymru.

CATEGORI: DIGWYDDIAD BYW GORAU RHESTR FER: GADAEL YR UGEINFED GANRIF (THEATR SHERMAN) MAES B, EISTEDDFOD GLYN EBWY GWYL GWYDIR ^

Enillydd: Maes B, Eisteddfod Glyn Ebwy JEN JENIRO

12

Mae prinder gwyliau mawr ar hyn o bryd yn golygu bod nifer o wyliau cerddorol bach wedi ymddangos yng Nghymru yn ddiweddar. Er hynny, mae adloniant nos yr Eisteddfod yn dal i fod yn uchafbwynt

yn y calendr cerddorol. Gigs Maes B sy’n ennill y categori ‘Digwyddiad Byw’ am yr ail flwyddyn yn olynol.

CATEGORI: CLAWR CD GORAU RHESTR FER: NOS DA – GILDAS DYDDIAU DU, DYDDIAU GWYN – COWBOIS RHOS BOTWNNOG YR ODS – YR ODS

Enillydd: Nos Da - Gildas

Mae Arwel Lloyd yn adnabyddus fel gitarydd a chyd gyfansoddwr Al Lewis Band ers rhai blynyddoedd, ond llynedd fe gafodd lwyddiant fel artist unigol dan yr alias Gildas (di honna’n gynghanedd dudwch?). Mae ei albwm ‘Nos Da’ yn chwa o awyr iach ac mae’r clawr, ^ sydd â dylanwad cartw n-aidd, yn un hyfryd iawn

CATEGORI: CÂN ORAU RHESTR FER: DOLFFIN PINC A MELYN – JEN JENIRO Y BÊL YN ROWLIO – YR ODS CÂN Y TÂN – Y BANDANA

Enillydd: Ca^ n y Ta^ n - Y Bandana

Categori agos iawn ond band y foment, Y Bandana sy’n mynd a hi gyda chân sy’n annodweddiadol o’r band ifanc. Mae llwyth o airplay yn sicrhau bod pawb yn gyfarwydd â’r alaw fachog.


CATEGORI: BAND GORAU RHESTR FER: Y NIWL Y BANDANA YR ODS

Enillydd: Y Bandana

Y Bandana oedd yn fuddugol yng

nghategori ‘Band Newydd Gorau’ llynedd, ac maen nhw wedi cael blwyddyn hynod lwyddiannus ers hynny. Yn gyntaf fe ddaeth eu sengl ‘Dal dy Drwyn / Cân y Tân’, sydd wedi ei chwarae hyd syrffed gan DJ’s Radio Cymru, ac yna ddaeth eu halbwm cyntaf,

CATEGORI: BAND NEWYDD GORAU RHESTR FER: SENSEGUR CRASH.DISCO! YR ANGEN

Enillydd: Crash.Disco!

Mae hi wedi bod yn flwyddyn arall dda o ran bandiau newydd Cymraeg, gan wneud y categori yma’n un cystadleuol. Er hynny, roedd Crash.Disco!, prosiect electronic Gruff Jones o Fangor yn ffefryn amlwg gyda chi’r darllenwyr.

o’r enw ‘Y Bandana’. Ar ben hyn, maen nhw wedi cael llwyth o gigs llwyddiannus a chyfweliad mawr yn Selar mis Awst! Heb os, maen nhw’n boblogaidd, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu’n glir wrth ennill y categori ‘Band Gorau 2010’.

CATEGORI: ARTIST UNIGOL GORAU RHESTR FER: GILDAS HUW M THE GENTLE GOOD

Enillydd: The Gentle Good

Mae gyrfa gerddorol The Gentle Good, neu Gareth Bonello i ddefnyddio’r enw y rhoddwyd iddo gan ei fam, yn mynd o nerth i nerth. Mae’r Gentle Good yn bodoli ers 2005 ac mae 2010 wedi gweld rhyddhau ei ail albwm, ‘Tethered for the Storm’ sydd wedi cael adolygiadau ffafriol iawn. Boi sy’n gweithio’n galed ac yn haeddu llwyddiant.

CATEGORI: DJ GORAU RHESTR FER: CRASH.DISCO! HUW STEPHENS MEIC P

Enillydd: Huw Stephens

Mae o’n ‘chydig bach o arwr i ni gyd yn tydi. Arbenigwr cerddorol o’r radd flaenaf sy’n

THE GENTLE GOOD

Y BANDANA

gwneud popeth o fewn ei allu i hyrwyddo artistiaid newydd, a lle bo’n bosib, rhai Cymraeg yn arbennig. I goroni blwyddyn arall lwyddiannus i Huw, mae newydd sicrhau slot amser brig ar Radio 1 ar y penwythnosau. Gwd boi.

CATEGORI: HYRWYDDWR GORAU RHESTR FER: DILWYN LLWYD CRIW ‘NYTH’ GUTO BRYCHAN

Enillydd: Dilwyn Llwyd

Yn ei golofn Y Badell Ffrio yn rhifyn mis Mawrth o’r Selar, fe ddywedodd Barry Chips am Dilwyn Llwyd – “Mae’r boi yma’n cynnal y sin yn ei amser sbâr.” Digon gwir y gair, gyda’i gigs yn y Morgan Lloyd yng Nghaernarfon a gigs ‘Coll’ amrywiol mae wedi bod yn un o hyrwyddwyr mwyaf toreithiog Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, mae’r gigs yn y Morgan Lloyd yn dirwyn i ben, ond mae ei ymdrechion yn llawn haeddu’r wobr hon.

CYTUNO I’R CARN NEU ANGHYTUNO’N LLWYR GYDA’R ENILLWYR? MAE’R SELAR EISIAU CLYWED EICH BARN. CYSYLLTWCH Â NI – YSELAR@LIVE.CO.UK

13


albyms

s m y b l A f a 10 Uch

Y Flwyddyn

GWEDDILL Y GWOBRAU) DYMA NI, AIL UCHAFBWYNT MWYAF RHIFYN CYNTAF Y FLWYDDYN O’R SELAR (H.Y. AR ÔL FLWYDDYN HYNOD – EIN RHESTR 10 UCHAF O ALBYMS Y FLWYDDYN A FU. RHAID CYFADDEF NAD OEDD HI’N AU YN FWY NA GWNEUD GYNHYRCHIOL O RAN ALBYMS CYMRAEG, OND MAE SAFON YR HYN A GAFODD EI RYDDH YN IAWN AM Y DIFFYG NIFEROEDD. FELLY, DYMA DDEG UCHAF ALBYMS 2010 Y SELAR. ^

10. OS MEWN SWN – HUW M

8. GOREUON DOCKRAD

6. DWI’N CARU CIWDOD 2004 – 2010

Label: Gwymon. Rhyddhawyd: Mehefin Cardiau ar y bwrdd, roedd yr albwm yma yn siart llynedd hefyd! Roedd hi mor uchel â rhif dau i ddeud y gwir. Fe ryddhaodd Huw M ei albwm unigol gyntaf yn annibynnol yn 2009, ond fe’i hail ryddhawyd ar label Gwymon yn 2010 ... a chan ei bod yn ddarn o waith cystal roedden ni’n teimlo bod cyfiawnhad i’w chynnwys yn y 10 uchaf eleni eto. Yn ei adolygiad i’r cylchgrawn hwn fe ddywedodd Hefin Jones, “... os ydi treulio pnawn poeth o haf yn La Rochelle yn swnio’n apelgar yna ^ bydd Os Mewn Sw n yn albwm berffaith.”

Label: Dockrad. Rhyddhawyd: Mehefin Wel, mae Dai Lloyd wedi mynd a’n gadael ni yn y flwyddyn ddiwethaf. Peidiwch â phoeni, dim ond wedi symud i fyw i Ganada mae o wrth gwrs, ond mae hynny wedi golygu dirwyn i ben y label gwych roedd o’n ei redeg, Recordiau Dockrad. Y newyddion da ydy bod hynny wedi arwain at ryddhau casgliad o’r traciau gorau a ryddhawyd gan artistiaid amrywiol ar y label ers ei ffurfio yn 2001. Mae’r detholiad o 13 o ganeuon yn cynnwys traciau gan artistiaid mor amrywiol a MC Saizmundo, Ashokan, Diffiniad a Gilespi. Mae hefyd yn dyst i’r gwaith da a wnaed gan Dockrad dros y ddegawd ddiwethaf.

Label: Ciwdod. Rhyddhawyd: Mehefin Yr ail albwm aml gyfrannog ar ein rhestr 10 uchaf, ac un sy’n dathlu’r hyn mae label Ciwdod wedi’i gyflawni dros y chwe mlynedd diwethaf gyda’i ‘glwb senglau’. Mae’r albwm yn cynnwys trac oddi-ar bob un o’r pymtheg sengl mae Ciwdod wedi eu rhyddhau er 2004 ynghyd â thrac newydd gan y Zimmermans. Ymysg rhain mae clasuron yn cynnwys ‘Lisa, Magic a Porva’ Radio Luxembourg, ‘Nerth dy Draed’, Plant Duw a ‘Madrach’ Derwyddon Dr Gonzo. Beth am glywed barn Huw Stephens am y casgliad – “Un o’r syniadau gorau am labeli yng Nghymru ers tro, roedd y casgliad yma ynghyd â chasgliadau Electroneg 1000 a Rasal yn grynodiadau perffaith o’r sin.”

7. GOGLEDDWYR BUDR - MR HUW

HUW M

9. CRACIO – WYRLIGIGS Label: Recordiau Bos. Rhyddhawyd: Ebrill ^ Albwm gyntaf y grw p ifanc o’r gogledd ac un sydd wedi creu argraff. Wedi’i recordio yn stiwdio Gwyn Maffia yn Llanerfyl gyda Mark Roberts, gynt o’r Cyrff a Catatonia, yn cynhyrchu, mae dylanwad bandiau pync roc Cymraeg diwedd y 1980au yn amlwg. Meddai Telor Gwyn am yr albwm, “mae’n albwm sydd wedi ei chynhyrchu i safon uchel gyda’r tri offeryn yn asio’n syml ac yn effeithiol gyda’r drymiau’n aml yn gyrru’r gerddoriaeth yn ei blaen.”

14

Label: Annibynnol. Rhyddhawyd: Rhagfyr Ar ôl rhyddhau ei ddwy albwm gyntaf ar label Rasal, fe benderfynodd Mr Huw ryddhau ei drydedd yn annibynnol a’i chynnig ar gael i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim ar ei wefan, http://mrhuw.com/. Ar ben hynny, mae Huw a’i ffrindiau yn y broses o gynhyrchu cyfres o fideos ar gyfer y caneuon ar yr albwm ar hyn o bryd. Fel yr ydym wedi dod i ddisgwyl gan Mr Huw erbyn hyn, mae’r albwm yn llawn caneuon pop tywyll ond “bachog. Gwilym Dwyfor sy’n crynhoi, “Riffts bachog fel ei ddwy albwm gyntaf ond y lyrics ychydig bach mwy o ddifrif tro yma”

MR HUW


Y NIWL

5. AMSER AM UN GÂN ARALL Label: Rasal. Rhyddhawyd: Mawrth Gredwch chi fyth – casgliad aml gyfrannog arall! Y tro hwn casgliad arbennig o gynnyrch label Rasal, gan gynnwys yr is labeli Copa a Gwymon, i ddathlu pumed pen-blwydd y label. Dyma ni un ar bymtheg o ganeuon gan artistiaid sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o gerddoriaeth sydd wedi’i rhyddhau ar y label dros y bum mlynedd ddiwethaf, o MC Mabon i Lleuwen. “... mae’r casgliad yma’n destament i waith clodwiw Sain wrth roi llwyfan i hufen y Sîn Rhoc Gymraeg ...ag ambell rech wlyb wrth reswm. Does neb yn berffaith.” Barry Chips (adolygiad o rifyn 20 o’r Selar, Ebrill 2010). Ok, fel mae Barry dweud yn ei ffordd didwyll, tydi pob cân ddim yn mynd i daro deuddeg efo pawb, ond mae’r albwm yn dyst i’r gwaith da mae Rasal wedi’i wneud mewn cyfnod cymharol fyr ac yn gasgliad bach handi o ganeuon hefyd.

4. MYFYRDODAU PEN WY - TWMFFAT Label: Annibynnol. Rhyddhawyd: Ebrill Albwm unigol gyntaf Ceri Cunnington, prif leisydd Anweledig gynt, a hynny dan yr enw ‘Twmffat’. Mae’n braf iawn i weld Ceri yn ôl ar lwyfan ac yn cynhyrchu cerddoriaeth newydd unwaith eto, ac mae’r albwm hon a ddaeth o nunlle yn glamp o ymgais gyntaf dda! Fel y dywedodd Barry Chips, “Ond nid, NID, darllediad gwleidyddol ydi Myfyrdodau ^ Pen w y. Yn hytrach mae’n ymosodiad hynod bleserus ar yr elît hunanbwysig, hunan benodedig, hollalluog-hollwybodus...fel bywyd ei hun, mae’n chwerw ac yn felys, yn bleserus ac yn boenus ... yn brawf gogoneddus bod rhyw ddaioni mewn gwylltio’n gacwn a chicio yn erbyn y tresi.” (adolygiad o rifyn 20 o’r Selar, Ebrill 2010).

2. Y NIWL Label: Annibynnol. Rhyddhawyd: Rhagfyr Ydy’r gaeaf Cymreig oer yn amser addas i ryddhau albwm syrff hafaidd? Mae o’n sicr yn amser delfrydol yn achos Y Niwl a ryddhaodd eu halbwm gyntaf ym mis Rhagfyr. Ers hynny, mae’r albwm wedi cael ei chanmol i’r cymylau gan arbenigwyr cerddorol o Aberdeen i Abergwaun. Yng ngeiriau sgwenwr Y Selar, Gwilym Dwyfor, “O’n i’n meddwl y bysa hi’n amhosib i’r

^ Niwl ail-greu’r sw n anhygoel o’r gigs ar albwm ... ond o’n i’n rong! Gwych, jest gwych.” Ydyn, maen nhw’n rhyw fath o ^ siwpyr grw p Cymraeg felly efallai y dylen ni ddisgwyl dim llai, ond mae eu impact dros fisoedd olaf 2010 wedi bod yn aruthrol. Pwy well na DJ y flwyddyn Huw Stephens i grynhoi, “Yn ogystal â bod yn fand byw gore llynedd, allan o nunlle daeth y casgliad rhyfedd, di deitl yma gan fand o gerddorion gwych. Chwa.”

3. NOS DA – GILDAS Label: Sbrigyn-Ymborth. Rhyddhawyd: Awst Mynach o’r chweched ganrif oedd Gildas, ond ers i Arwel Lloyd gael gafael arno mae wedi’i droi’n un o artistiaid unigol mwyaf cyffrous y sin gerddoriaeth Gymraeg. Cyn eleni, roedd Arwel yn fwy adnabyddus fel gitarydd a chyfaill oes Al Lewis, ond bellach mae ganddo albwm ei hun sydd cystal ag unrhyw beth mae Al wedi’i ryddhau. Glaniodd Nos Da jyst mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol – amseru perffaith ar gyfer albwm hafaidd hyfryd. Mae dylanwad cerddoriaeth ^ thema cartw ns yn amlwg ar y caneuon a chymeriadau hoffus sydd wedi eu creu gan Gildas. “Mae’n albwm gwbl orffenedig, mae’r gerddoriaeth yn dynn, mae sglein ar y caneuon, ac mae’n prysur ddringo ysgol fy hoff albyms Cymraeg yn 2010” Casia Wiliam (adolygiad o rifyn 22 o’r Selar, Awst 2010).

COWBOIS RHOS BOTWNNOG

1. DYDDIAU DU, DYDDIAU GWYN – COWBOIS RHOS BOTWNNOG Label: Sbrigyn-Ymborth Rhyddhawyd: Rhagfyr “Dyma fy hoff albwm Gymraeg i ers Moelyci gan Steve Eaves, ac mewn sawl ffordd, mae’r ddwy yn debyg. Mae’n albwm yng ngwir ystyr y gair - yn gyfanwaith yn hytrach na chasgliad o ganeuon - yn llawn teimlad, a chyda phwyslais ar grefft geiria.” Geiriau y cynhyrchydd radio Gareth Iwan Jones, sy’n gyfrifol am sioe Lisa Gwilym ymysg eraill, wrth grynhoi ei deimladau am ail albwm Cowbois Rhos Botwnnog. Mae’r albwm

wedi hollti barn ... wel erbyn meddwl, heblaw am banel y rhaglen deledu ‘Pethe’ oedd ddim yn ei hoffi o gwbl, mae pawb fel petai nhw wrth eu bodd efo hi erbyn meddwl, felly be ddiawl maen nhw’n ei w’bod! Roedd albwm gyntaf y tri brawd o Benllyn, Dawns y Trychfilod yn llawn hwyl, ond mae Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn ddatblygiad, yn fwy aeddfed ac, wel, yn lot gwell! A chwarae teg i Sbrigyn-Ymborth hefyd am fentro a llwyddo gyda dwy albwm yn y deg uchaf eleni.

15


cyfweliad

! a i w i l e Aal-lbwm arall al!

Rhwng rhyddhau albwm Saesneg yr haf diwethaf, rhyddhau ei ail albwm Gymraeg yn y Gwanwyn, a mynd ar daith o siopau coffi yn y cyfamser, mae’n deg dweud bod Al Lewis yn gerddor gweithgar iawn. Ychwanegwch at hynny alwadau eraill aelodau’r band gyda phrosiectau unigol ac artistiaid eraill ac mae gennych chi griw prysur iawn. Roeddwn i’n lwcus iawn felly i gael sgwrs sydyn ag Al, Arwel a Sion ar ôl eu gig yn Ten Feet Tall, Caerdydd ddiwedd mis Ionawr. A pha ffordd well i ddechrau felly na thrwy holi sut aeth y gig? Al: Reit dda, braidd yn oer tu allan felly dwi’m yn meddwl bod hynna wedi helpu efo cael

pobol allan, ond roedd pawb oedd yma’n gwrando’n astud, felly hapus efo’r ymateb o leia’. Sion: Oedd ’na lot o bobol da ’di troi fyny, lot o bobol sydd wedi gweithio ar yr albwm, felly oedd o’n reit neis iddyn nhw gael gweld caneuon yn cael eu gneud yn fyw am y tro cynta’. Wedi ei recordio yn Stiwdio Bryn Derwen dan ofal David Wrench bydd yr albwm newydd, ‘Ar Gof a Chadw’ allan yn y Gwanwyn, felly beth allwn ni ei ddisgwyl? Rhywbeth tebyg i’r hyn yr ydym wedi ei glywed gan Al Lewis Band yn y gorffennol? Al: Ia, eitha’ tebyg, ond fyswn i’n licio meddwl ei fod o’n fwy cyflawn, yn ddarn o waith

“fyswn i ac Arwel yn cyfadda nad ydan ni’n aelodau blaenllaw o’r SRG“

mwy cyflawn sy’n gweddu efo’i gilydd yn well. ^ Sion: Mae ’na sw n i’r albwm ^ does, sw n specific ti’n gwbod, dydi o’m yn gasgliad o ganeuon gwahanol - ma’ nhw ar yr albwm am reswm ac ma’ ’na steil iddyn nhw i gyd. Arwel: Dim ond pedwar ohonan ni wnaeth weithio arni hefyd o ran offerynnau felly mae hi ‘chydig bach mwy bare na be’ ’da ni wedi bod yn ei wneud, a dyna pam dwi’n meddwl ei bod hi’n swnio yn fwy fel albwm. Swnio’n addawol. Mae hi’n cael ei rhyddhau ym mis Ebrill. Gan gofio bod y rhan fwyaf o sdwff Cymraeg yn cel eu ryddhau unai cyn Dolig neu o gwmpas Sdeddfod, pam dewis Ebrill ac ydi hynny yn ychydig bach o risg? Al: Na, dwi’m yn meddwl ‘risg’. Dwi’n meddwl fydd hynna’n rhoi digon o amser i’r caneuon gael eu clywed cyn yr Haf. Arwel: Haf dwytha, oedd gen i [Gildas] albwm yn dod allan, oedd gan Al albwm Saesneg yn dod allan, felly fysa hi wedi bod

yn wirion inni ryddhau albwm arall yn rhy fuan. Oedd hi’n barod cyn y Nadolig, a fysa Haf yma wedi bod yn ormod o gap ers yr albwm dwytha felly dyna ^ pam rw an. Al: Ia, oedd o just teimlo’n iawn.

Oes yna unrhyw gigs eraill ar y gweill felly er mwyn hyrwyddo’r albwm? Al: Oes, ’da ni’n chwarae yn y Llangollen ym Methesda ar y cyntaf o Ebrill a’r Whitehall ym Mhwllheli ar yr ail. Sion: Fydd honna’n daith bydd! Taith dwy noson? Al: Ia! Beth am y profiad o ryddhau dwy albwm yn gymharol agos at ei gilydd, sut brofiad oedd hynny? Oeddach chi’n ei ffendio hi’n haws, neu oedd o’n lot o waith? Al: Oedd o’n od actually - o’n i’n mynd i mewn i mixio’r albwm Saesneg yr un adeg ag oeddan ni’n y stiwdio’n recordio’r un Gymraeg, felly roedd yna chydig bach o overlap. Ond fel’na mae’r cardiau wedi disgyn, oeddan ni wedi dechrau deud ein bod ni isho gneud ail albwm Gymraeg a ma’ bron i ddwy flynadd ers ^ y gynta rw an – mae’r petha

“... o’n i’n mynd i mewn i mixio’r albwm Saesneg yr un adeg ag oeddan ni’n y stiwdio’n recordio’r un Gymraeg“ 16


barod - ‘da ni gyd yn byw mewn llefydd gwahanol. Wyt ti meddwl dy fod ti’n fwy o ran o’r sin yn Llundain felly? Al: Wel mae Llundain yn rhywbeth hollol wahanol! Ar sgêl hollol wahanol? Al: Yndi! Mae gen ti Arwel dy brosiect unigol dy hun, Gildas, ac wedyn rwyt ti Sion yn chwarae efo ^ Elin Fflur a dwi’n siw r mod i dy weld di efo dipyn o fandiau eraill hefyd... Sion: ... do, jyst abowt pawb, dwi’n dipyn o hwran gerddorol!

’ma yn gallu cymryd mwy o amser na ’da chi’n ei feddwl! Rwyt ti, Al yn byw yn Lludain, Arwel yn Nghaerfyrddin a Sion yng Nghaerdydd. Tybed sut y mae hynny’n effeithio ar y band? Ydi hi’n anodd dod ynghyd i ymarfer a threfnu gigs? Sion: Dio’m yn hawdd nag’di, yn ddelfrydol byddai pawb yn byw o fewn tafliad carrag i’w gilydd. Ond yr un pobol sydd wedi bod yn y stiwdio â’r rhai sy’n chwarae’n fyw, felly dim ond matar bach o tweekio ’chydig ydi ymarfer wedyn. A fyddi di’n gneud gigs llai heb y band yn Llundain hefyd Al?

Al: Byddaf, yn Llundain dwi jest yn chwarae efo Sarah [Howells], neu jest ar ben fy hun weithia’, ond ma’n neis dod nôl i Gymru a gwneud petha’ efo’r band i gyd. Fel oedd Sion yn deud, dydi hi’m yn sefyllfa ddelfrydol ond ‘da ni’n ‘i neud o weithio dwi’n meddwl. Yn amlwg, ti’n tapio mewn i’r sin yn Llundain hefyd, sut wyt ti’n ffendio cydbwyso bod yn rhan o ddwy sin a sut mae’r ddwy’n cymharu? Al: Wel, fyswn i ac Arwel yn cyfadda nad ydan ni’n aelodau blaenllaw o’r SRG, dwi’m yn teimlo ein bod ni’n rhan o’r sin, oherwydd y rhesymau ‘da ni wedi sôn amdanyn nhw’n

“... mae gen ti lot o fandiau sydd wedi gadael y sin, lot o fandiau mawr, felly mae gen ti’r gap ’na rwan ...“

Ydi hynny’n help? Yn amlwg heno, roeddat ti Arwel yn gneud set fel rhan o’r gefnogaeth felly mae hynny ^ reit handi ma’ siw r, ond ydi o’n gallu achosi problemau weithiau? Gigs yr un noson ac ati? Arwel: Wel, gan ein bod ni’n byw mor bell prin fyddwn i’n gweld ein gilydd mewn blwyddyn, felly mae ‘na amser yn y cyfamser pan mae’r awen gerddorol yn parhau a ti’n chwilio am bethau eraill. Dyna oedd Gildas i mi i ddechrau trio llenwi’r bwlch yna. Ac mae Sion wel... ...Yn hwran gerddorol? Arwel: ... Ia, does ‘na’m llawer o ddyddiau pan ’di Sion ddim yn gigio. Ond dwi’n meddwl fod y pethau eraill yn helpu, mae o’n cadw’r datblygiad cerddorol yna i fynd yn hytrach na’i fod o’n stop start trwy’r adeg. Fyddi di’n gneud chydig o’r sdwff Cymraeg pan fyddi di’n chwarae yn Llundain hefyd Al? Al: Byddaf, fyddai’n rhoi un neu ddwy o ganeuon yn y set. A fyddan nhw’n cael derbyniad go lew hefyd? Al: Byddan. Yn amlwg, dydi pobol ddim yn deall y geiriau,

17


cyfweliad a mae’r tri ohonan ni’n cytuno bod y geiriau yn rhan bwysig iawn o’n cerddoriaeth ni, felly mae’n anodd deall sut mae pobol yn cymryd y gân i mewn ... Sion: Ia, ond y peth ydi, yn Llundain mae ’na gymaint o ieithoedd gwahanol yno, mae ‘na gymaint o fars yna efo cerddoriaeth o wledydd gwahanol, mae pobol wedi arfer erbyn hyn gwrando ar gerddoriaeth lle nad ydyn nhw’n deall y geiriau. Rwyt ti’n gneud taith Café Nero o gwmpas Prydain mewn ychydig. Mi fysa hi’n deg dweud bod y syniad hwnnw yn un gwreiddiol iawn, ’chydig yn anarferol ella. Sut ddaeth hynny i fod? Chdi aeth atyn nhw neu nhw atat ti? Al: Wel, fy rheolwr i wnaeth glywed am y peth yma, oedd o wedi bod yn mynd am ’chydig o fisoedd, wedyn wnaeth o anfon CD iddyn nhw a gofyn iddyn nhw wrando arni, roeddan nhw’n ’i licio hi a mi wnaethon nhw fy ngwahodd hi ar y daith ’ma! A mi fyddi di yn mynd ar hyd a lled efo honno felly? Al: Byddaf, cychwyn yn Yr Alban a gweithio’n ffordd i lawr! Mae o’n syniad da mewn ffordd, gan ystyried bod llai a llai o bobol yn mynd i gigs mewn tafarndai a chlybiau, efallai mai siopau coffi ydi’r ffordd ymlaen! Arwel: Ia, ti’n mynd atyn nhw yn lle disgwyl iddyn nhw ddod atat ti. Al: Ia, a mae’n gerddoriaeth sy’n gweddu i siopau coffi hefyd… Sion: Miwsig Mocha drinkers! [Gan mai hwn yw rhifyn gwobrau Y Selar penderfynais holi ychydig ar yr hogia’ am gyflwr y sin yn gyffredinol.] Pa fandiau sydd wedi creu mwyaf o argraff arnoch chi yn ddiweddar yn y sin Gymraeg? [Mae tawelwch hir! Yna…] Sion: Na, ma’ ’na lot o fandiau da allan yna. Ti ond yn gorfod sbio ar y Racehorses sy’n

18

mynd o nerth i nerth… ond ’di’r Racehorses ddim yn canu’n Gymraeg ddim mwy felly wyt ti’n galw nhw’n ‘fand Cymraeg’? Dwi’n meddwl bod y sin ar hyn o bryd yn brysur, mae hi’n ffynnu, mae’r safon wedi codi ... ond does ’na neb allan yna’n gigio lot achos does ’na nunlla isho gigs! Y lleoliadau ydi’r broblem felly yn fwy na’r bandiau eu hunain? Sion: Ia dwi’n meddwl, mi oedd ’na gyfnod ddeg mlynadd yn ôl lle fysat ti fel band yn gallu mynd ar daith o amgylch Cymru i gyd ti’n gwbod, oeddat ti’n gallu chwarae mewn tua chwe deg / saith deg o venues gwahanol, ond erbyn heddiw tydi rheinia ddim yna i chdi, ac os wyt ti’n chwilio am bobol i gael dy ddylanwadu ganddyn nhw yn y sin Gymraeg, dwyt ti’m yn cael y cyfla i’w gweld nhw! Al: Oedd 2010 o beth o’n i yn ei weld yn flwyddyn i lot o fandiau ifanc sydd heb ryddhau dim byd eto, yn creu enwau i’w hunain, yn dysgu’u crefft. A mae gen ti lot o fandiau sydd wedi gadael y sin, lot o fandiau mawr, felly mae gen ti’r gap ’na ^ rw an lle ti’n disgwyl i’r bandiau newydd yma gymryd y cam nesaf i lenwi’r bwlch yna. Sion: Dduda i wrtha chdi pwy oedd yn dda yn 2010 Colorama. Al: Ia, a mae ’na ryw foi o’r enw Gildas reit dda hefyd! Arwel: Ha ha! Ia, Colorama yn sicr, a Masters in France hefyd,

yselar@live.co.uk

“Ddyla bod y ffaith dy fod ti’n fand ddim deud dy fod ti’n recording artist.“

ma’ nhw ’di gneud yn dda. A’r Violas hefyd ’di cael blwyddyn dda, a’r Ods wrth gwrs, maen nhw’n sgwennu caneuon cryf iawn yn ogystal â’u cynhyrchu nhw’n dda. Sion: Ydyn, mae EP diweddara’r Ods yn dda iawn. ^ Al: Dwi’n licio sw n newydd ^ y Cowbois hefyd, sw n mwy Americanaidd, gwlad. Oeddach chi’n sôn yn fan’na am fandiau ifanc. Ydi hi’n well eu bod nhw ddim yn rhyddhau yn rhy fuan, ac yn gigio dipyn gynta? Al: Mae ’na o hyd bwysau


yn sin Gymraeg, gan bod yr holl gyfleuon yma yna. Mae o mor tempting, ac elli di’m beio bandiau am eu cymryd nhw... Sion: Ia, ond does ’na ddim quality control nagoes. Ddyla bod y ffaith dy fod ti’n fand ddim deud dy fod ti’n recording artist. Ddyla dy fod ti’n gigio lot i ddechra’, dysgu sut ma’ chwarae dy offerynnau’n iawn, dysgu pa ganeuon sy’n rhai da, ac wedyn dechra’ creu albym o gwmpas hynny. Dwi’n meddwl ei fod o’n hanfodol gigio am gwpl o flynyddoedd cyn meddwl rhyddhau dim byd.

Sylwadau difyr iawn am y sin gan y tri felly, ond un peth sy’n sicr ydi bod lle i Al Lewis Band ynddi hyd yn oed os nad yw ef ei hun yn meddwl hynny. Achos mewn cyfnod pan mae gymaint o fandiau o Gymru yn troi at y Saesneg a thrio’i “gneud hi” yn Lloegr mae’n braf gweld artist sydd wedi ei leoli yn Llundain yn parhau i wneud yr ymdrech i gefnogi’r sin Gymraeg hefyd.

Geiriau: Gwilym Dwyfor

19


cynlluniau A FU GYDA GWOBRAU’R MAE RHIFYN CYNTAF Y FLWYDDYN YN GYFLE I EDRYCH NÔL AR LWYDDIANT Y FLWYDDYN DOL. BETH AM GAEL CIP SELAR. ER MOR BWYSIG YDY HYNNY, MAE HEFYD YN BWYSIG EDRYCH YMLAEN AT Y DYFO FELLY AR GYNLLUNIAU RHAI O BRIF FANDIAU CYMRU AR GYFER 2011

Cynlluniau Huw M

2011

Cafodd Huw M flwyddyn gyntaf ragorol fel artist unigol nôl yn 2009. Fe enillodd deitl ‘artist unigol y flwyddyn’ yng Ngwobrau’r Selar ac fe gafodd ei albwm gyntaf wych, ^ Os Mewn Sw n, ei chanmol i’r cymylau. Fuodd o ddim yn segur yn 2010 chwaith, ^ gydag Os Mewn Sw n yn cael ei hail ryddhau ar label Gwymon cyn iddo hefyd ryddhau EP Yn Ddistaw, Ddistaw Bach i’w lawr lwytho am ddim ym mis Rhagfyr. Tybed fydd 2011 yn flwyddyn yr un mor brysur i un o fois neis yr SRG? “Y cynllun yw recordio albwm newydd, ond dwi heb wneud y trefniadau terfynol eto.” Ateb cryno ond clir! Mae Huw wedi addo rhoi gwybod i’r Selar pan fydd cynlluniau mwy pendant...a chi ddarllenwyr fydd y cyntaf i gael gwybod pan fyddwn ni’n cael gwybod!

Clinigol ^ Mae grw p electro-pop, Clinigol, wedi bod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol y sin dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Y newyddion da ydy bod mwy i ddod o stabal y brodyr Pickard, gydag ail albwm y ddeuawd i’w rhyddhau yn ystod y flwyddyn. Dyma’r hyn oedd gan Geraint o Clinigol i’w ddweud: “Cynllunie 2011 ...erm...wel y cynllun yw rhyddhau albwm cyn yr haf. OND! ma lot fawr o bethau gyda ni i sortio cyn bod hynny’n digwydd!” Da iawn wir, beth allwn ni ddisgwyl felly, rhywbeth tebyg i Melys gafodd ei ryddhau yn 2009?

20

Sibrydion

Rhwng bod aelodau’n brysur gyda materion teuluol, roedd 2010 yn flwyddyn weddol dawel o ran y Sibrydion. Na phoener gyfeillion, byddan nhw nôl yn 2011 gyda chynnyrch newydd. Y deunydd diwethaf i gael ei ^ ryddhau gan y grw p oedd yr albwm Saesneg, Campfire Classics, a welodd olau dydd yn Ionawr 2009. Mae’r hogiau’n troi eu golygon yn ôl i’r ochr yma i Glawdd Offa gyda’u halbwm newydd yn ôl ^ Osian Gwynedd o’r grw p, “Ma’r Sibrydion wedi bod yn gweithio ar albwm newydd Cymraeg ers ryw ddau fis ‘wan. Fydd hwn y bedwaredd LP i ni. Da ni’n ei recordio hi yn stiwdio newydd da ni wedi ei sefydlu yn Fairwater, sef Stiwdio Nen.”

“Os eith popeth yn iawn, ni’n bwriadu rhyddhau albwm 10 trac pop/dawns gyda Caryl Parry Jones, Elin Fflur, Amy Wadge, Siwan Morris, Nia Medi, El Parisa a Rufus Mufasa yn serennu! Dwi’n credu y bydd yr albwm yn well na’r un diwetha’ o ran safon y sgwennu a safon y cynhyrchu - ac unwaith eto, fi’n credu y bydd yr albwm yn rhywbeth unigryw, gwahanol ac uchelgeisiol o safbwynt cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.” Er hyn, mae’r brodyr ychydig yn fwy ansicr yngly^ n â’r dyfodol hirdymor yn ôl Geraint, “Dyma fydd ein halbwm ola – sai’n credu bod y project yn dod i ben, ond fyddwn ni ddim yn neud albwm arall ar ôl hwn. Cawn ni weld.”

Da’r hogia, ond pryd fydd darllenwyr Y Selar yn gallu cael eu bachau bach blewog ar yr albwm newydd Osh? “Gobeithio fydda ni’n agos i ddarfod y broses recordio mewn tair w’sos, wedyn mynd i’w gymysgu efo Cian (Ciaran). Gobeithio wedyn fydd yr albwm allan erbyn Gorffennaf neu Awst.”

Masters in France

Dyma chi fand sydd heb stopio ers dod i’r amlwg yn ystod ail hanner 2009. Mwy o’r un fath o weithgarwch allwn ni ddisgwyl gan Masters in France yn ôl un o’r aelodau, Mathew gyda thaith o’r DU i’w gyhoeddi’n fuan iawn “ma’r rhan fwyaf o’r dyddiadau ar www.myspace.com/ ^ mastersinfrance rw an.” Maen nhw hefyd yn bwriadu rhyddhau deunydd newydd yn ystod y flwyddyn hefyd, gan gynnwys sengl ‘A.I.’ fydd allan ym mis Mai, “a mae ‘na EP Cymraeg newydd ar y ffor.”


Gai Toms

Creision Hud Bydd y rhai craff ohonoch chi wedi sylwi ar weithgarwch y Creision Hud yn barod, gan eu bod nhw’n ymdrechu i ryddhau sengl newydd bob mis i’w lawr lwytho ar yw we. Meddai’r band wrth y Selar ddechrau’r flwyddyn “Ar gyfer 2011 mi fydd Creision Hud yn rhyddhau sengl newydd bob mis, am y 6 mis gynta o leia”

Race Horses

Fe wnaeth Y Selar ddal fyny efo’r Race Horses yn fresh o’u taith ‘British Sea Power’ ddechrau mis Chwefror – gwibdaith gan stopio yng Nghaerdydd, Bryste, Birmingham a Nottingham oedd hon gyda llaw. Y newyddion gwych oedd gan Dylan o’r band i ni oedd eu bod nhw ar fin mynd i’r stiwdio i recordio dilyniant i’w halbwm gyntaf, Goodbye

Mae pethau’n mynd yn iawn hyd yn hyn beth bynnag, gyda ‘Cyllell’ yn cael ei rhyddhau ddiwedd Ionawr a ‘She Said’ ym mis Chwefror. Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y drydedd sengl, ‘Bedd’, sydd allan ddiwedd mis Mawrth. Mae’r Selar wedi bod yn ddigon lwcus i glywed y trac yn barod ac mae’n swnio’n dda iawn!

Falkenberg, “mewn tua wythnos a hanner ni’n mynd mewn i’r studio - ‘The Pool’ yn Ne Llundain - i recordio ein hail albwm anodd!” Amseru da i ni fod yn holi felly, pryd allwn ni weld hon ar y silffoedd Dylan? “Ni’n gobeithio cael y cyfan wedi’i orffen mewn mis a felly bydd e’n dod allan tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai efo tipyn o lwc. Ni’n eitha

Mae’r wobr am ‘foi prysuraf 2011’ yn mynd i...Gai Toms. Ers rhyddhau ei albwm gysyniadol, Rhwng y Llygru a’r Glasu, nôl yn 2008 mae Gai Toms wedi bod yn gymharol dawel o ran stwff cerddorol. Er bod ‘na awgrym ers amser bod albwm Saesneg ar y ffordd, ond tydi hwnnw heb weld golau dydd eto, tra’i fod hefyd wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru llynedd mae wedi bod yn gyfnod hesp i gerddorol mor gynhyrchiol. Yn ôl Gai, bydd pethau’n wahanol iawn yn 2011: “Dwi mynd i ryddhau dwy albwm ar y cyd - un Saesneg ‘Ffish Ffresh’, ac un Cymraeg ‘Bethel’.” Mae Gai mewn trafodaeth â label yngly^ n â rhyddhau Bethel, ond fel arall fe fydd yn ei ryddhau ei hun os oes ganddo ddigon o bres. Bydd Ffish Ffresh ar gael, “fel freebie ar y we ar label Sbensh + 500 o gopis CD limited edition.” Os nad ydy hyn yn ddigon, mae Gai wedi rhoi gwybodaeth hyd yn oed mwy cyffrous fel ‘ecsgliwsif’ i’r Selar, “dwi wedi buddsoddi mewn adeilad i’w drosi mewn i stiwdio, Capel Bethel yn Tanygrisiau. Hwn fydd y stiwdio Sbensh newydd! Hynny ydy, yn hytrach na’r stiwdio yn y ty^ . Bydd yr albwm Bethel yn rhyw fath o gofnod o’r gofod a’i acwstics cyn gwneud gormod o waith arno. Fydd yr albwm ddim yn un acwstic o bell ffordd – mwy roc / indie efo saws gwerin drosto!” Gwych iawn, rhaid deud bod digon o uchelgais gan yr hen Gai! Ac mae mwy i ddod, “dwi wrthi’n datblygu Sbensh i fod yn gwmni aml-gyfrwng sgwennu i theatr, teledu, sioeau, priodasau ac ati, yn ogystal a stiwdio / label / gneud rhaglenni Radio ac ati.“ Gallwch chi gadw golwg ar sut mae cynlluniau Gai yn datblygu ar wefan Sbensh - www. sbensh.com

awyddus i gal y caneuon yma allan cyn gynted â ni’n gallu achos bo nhw’n wahanol iawn i’r stwff oedd ar Goodbye Falkenburg ac yn cynrychioli lle yden ni fel band yn llawer gwell. Ni’n ecseited iawn i bobl eu clywed nhw.” Yn ôl Dylan, maen nhw hefyd yn trafod y syniad o ryddhau sengl, gyda nifer cyfyngedig o 200 copi yn

unig – pob un gyda’i waith celf unigryw. Byddai hwn yn cael ei ryddhau ar gyfer ‘diwrnod siopau recordiau’ ym mis Ebrill, “ond ma’r syniad yma yn ei faboed ar y funud.” “Efo gigs a theithiau - ma na gwpwl i’w cadarnhau ar diwedd Mawrth - Ebrill yn cefnogi bandie yn y DU, ond does dim manylion pendant eto.”

21


adolygiadau AR GOF A CHADW AL LEWIS BAND

SURROUNDED CYRION

Dyma gasgliad o ganeuon digon hawdd gwrando arnyn nhw, ac maen nhw’n saff o gael eu chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru dros y misoedd nesaf. Ond mae’r cyfan braidd yn rhy daclus i mi ar adegau, yn enwedig ar ôl gwrando ar fersiynau byw dipyn mwy amrwd o’r un caneuon. Mae hi’n albwm sy’n gwella dipyn yn yr ail hanner hefyd, ac mae rhywun wedi anghofio’n llwyr am gaws ‘Clustiau March’ erbyn y trac olaf gwirioneddol hyfryd, ‘Hanes Yn Y Lluniau’. Ac mae hi’n addas rhywsut mai honno sy’n cloi’r casgliad gan ei bod yn crynhoi’r thema gref o hiraeth a nostalgia sydd yn rhedeg trwy’r rhan fwyaf o draciau’r albwm gan ei gwneud yn gyfanwaith graenus. Yn wir, mae’r thema honno hyd yn oed i’w gweld yn nghynllun y CD sy’n drawiadol tu hwnt. Mae yna gymaint a chymaint o artistiaid yn ceisio gwneud y math yma o beth ac llwyddo i swnio fel platiad o Damien Rice wedi ei ail dwymo, ond mae’r albwm yma yn well na hynny. (Ond yn bersonol… dwi’n fwy o foi tships.)

Talcen caled ydi i fi adolygu CD newydd Cyrion - Surrounded mewn gwirionedd gan ym mod i’n bell o fod yn arbenigwr ar gerddoriaeth electro. Ond serch dweud hynny, cefais bleser rhyfedd o wrando ar y CD wrth fynd lawr am Aberystwyth i gyfarfod rhyw fore. Newidiais EQ sterio’r car a’i drio fyny’n uchel a ffwrdd â ni. Yn sicr mae na ddigon o egni yng ngherddoriaeth Rhodri a Theston. Digon o rythmau cyffrous a digon o synau gwallgof. Mae’r albwm yn dechrau’n gryf gyda thraciau ‘Climbing The Walls’ a ‘Avalanche’, sydd yn swnio fel Orbital cynnar, yn sefyll allan. Ond y trac olaf ‘Count This One (dubstep remix)’ ydi’r trac

7/10 Gwilym Dwyfor

Dwi’n hoffi’r Bandana. Ma’ nhw’n sbort. Ro’n i’n gyffrous i glywed yr albwm felly - ac er eu bod nhw’n fand ‘ifanc’ ma’r egni a’r amser sy’n cael ei roi gan yr aelodau i’r band yn amlwg - ac mae hyn yn talu ar ei ganfed yn ^ sw n yr albwm. Dyma gasgliad o ganeuon pop/roc ac mae’n anodd gwrando arnyn nhw heb eisiau dawnsio’n wyllt. Ma’r albwm di bod yn fy nghar am wythnos

£8.95

22

?

8/10 Aled Ifan

Y BANDANA

ac mae’n ffordd dda o fy neffro yn y bore ar y ffordd i’r gwaith! Mae gan Gwilym lais cryf a (gan geisio peidio swnio fel beirniad mewn eisteddfod)

DAU FEISTR DWY NOFEL

Yn y siopau nawr

nes i fwynhau orau. Dyma’r unig drac sydd yn cynnwys unrhyw lais hefyd. Ydi hyn yn fwriadol? Mae’r traciau’n llifo o un i’r llall yn esmwyth iawn, ond teimlais efallai fod ychydig o undonedd yn amlygu ei hun weithiau. Ond, a bod yn deg, dwi’m yn meddwl fod cerddoriaeth fel hyn yn cael ei chyfansoddi er mwyn ei chwarae ar stereo car ben bore! Mae angen ei phwmpio allan o system sain anferth mewn clwb nos llawn a chwyslyd er mwyn ei gwir fwynhau! Neis gweld rhywbeth ychydig yn wahanol yn dod allan o’r sin.

www.ylolfa.com

£8.95

mae e’n geirio’n glir ... mae’n albwm sing-along da! Band o arddegwyr yn canu am bethau sy’n berthnasol iddyn nhw (ac i bawb yn eu hugeiniau, tridegau....) merched, mynd mas, chwilio am gariad a phobl yn drewi ... ^ Dwi’n siw r mai dyma fydd ^ swn yr haf yng ngwyliau cerddorol Cymru - a dwi methu aros! 8/10 Lowri Johnston

IT SNOWED A LOT THIS YEAR TRWBADOR Mae EP newydd Trwbador, yn cyfuno cerddoriaeth electroneg a gwerinol. Er nad yw’r mathau hyn o gerddoriaeth yn cael eu cysylltu gyda’i gilydd yn draddodiadol, mae Trwbador yn cyflwyno casgliad o 7 cân sydd yn ychwanegu at y rhestr hir o gerddoriaeth electronig newydd a phoblogaidd yma yng Nghymru. Mae cymhariaeth amlwg rhyngddyn nhw â’r Gorky’s cynnar, ac mae Angharad ac Owain wedi dal sylw nifer o sylwebwyr cerddorol mwyaf Cymru, gan gynnwys Adam Walton a Huw Stephens. Mae’r band wedi llwyddo i gyfleu teimlad ysgafn a hamddenol yn eu cerddoriaeth, gyda ‘Shapes (La La La)’ a ‘Daw’r Nos, Daw’r Haf’ yn cefnogi’r cyffro a’r sylw mae’r ddeuawd yn derbyn’. Yn sicr, mae’r band yma yn un i wylio allan amdano. 7/10 Owain Gruffudd


TÂN LLEUWEN

PEN RHYDD SEN SEGUR

Mae gwrando ar albwm gyfan gan Lleuwen Steffan yn fy atgoffa unwaith eto mai hi sydd â’r llais mwyaf unigryw yng Nghymru. Mae’n gryf, eto’n swynol, a pan mae hi’n harmoneiddio gyda hi’i hun ar ambell un o’r caneuon mae’n ddigon i doddi calon rhywun. Dyma albwm ddwyieithog - Cymraeg a Llydaweg, a naws Fez Nos i ambell un o’r traciau gyda’r drymiau llaw, y strymio gitârs a’r delyn. Byddai’r caneuon hyn yn gweithio’n berffaith ^ yn fyw ar y llwyfan mewn gw yl werin (Sesiwn Fawr, cymrwch sylw!). Y gân orau yn y steil hon ar yr albwm ydi ‘War Varc’h Da’r Mor’, ac mae’n werth gwrando arni jyst er mwyn cymharu tebygrwydd y ddwy iaith Geltaidd. Ond dwi’n tueddu i ffafrio’r caneuon tawelach eu naws, y rhai symlaf. Ymysg y rhai gorau mae ‘Tachwedd’ a ‘Breuddwydio’. Mae’r geiriau’n gydradd â rhai bardd, a swyn llais Lleuwen yn

troi’r caneuon hynny’n rhai emosiynol iawn. Mae’n ffres cael caneuon amrywiol sydd ddim yn dilyn y patrwm cytgan pennill, a dôs o ganu jazz - sy’n troi’r llais ei hun yn offeryn cymhleth ac anhygoel.

Wele dwf Sen Segur o lwch y Crazy Mountain People fel ffenics o’r fflamau, a da o beth am hynny. Gwell o beth ydy gweld EP cyntaf y band yn dilyn eu hatgyfodiad, ac mae’n gynnig digon derbyniol gan y band ifanc o Benmachno. Mae’n rhaid bod ‘na ddiferyn reit sylweddol o ^ seicadelia yn nw r yr Afon Conwy, gan bod rhain yn dilyn yn ôl traed Jen Jeniro gyda’u cerddoriaeth ‘seicadelig na fydd at ddant pawb’. Y gân agoriadol, ‘Cyfoeth Gwlyb’, ydy’r gryfaf o bosib ac mae’r hammond a’r sleid ar y gitâr yn atsain o ddylanwad Jen Jeniro, ond hefyd yn atgoffa rhywun rhywfaint o stwff gorau Y Promatics. Mae ‘na amrywiaeth dda gyda’r ‘Taith Duncan Goodhew’ ac ‘Oswald’ mwy ffynci tra bod agoriad ‘Oswald’ yn awgrymu dylanwad Y Cyrff ar y band hefyd. ‘Pen Rhydd’ sy’n cloi’r casgliad cryno – cân dywyll ei naws sy’n cael ei gyrru gan y bas dwfn. Ddim yn berffaith ond cynnig cyntaf bach da felly, a digon i awgrymu fod llawer gwell i ddod.

7/10 Leusa Fflur

6/10 Owain S

hysbys 434 selar:434 01/03/2011 10:01 Page 1

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2012 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg newydd wedi agor ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL

MAE’R CYRSIAU A GYNIGIR YN CYNNWYS: Addysg; Astudiaethau Plentyndod; Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau; Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a’r Amgylchedd; Busnes; Cyfrifeg; Bioleg Môr; Cemeg; Cerddoriaeth; Cyfathrebu a’r Cyfryngau; Cyfrifiadureg; Cymdeithaseg; Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Daearyddiaeth; Dylunio a Thechnoleg; Dysgu Cynradd; Gweinyddu Busnes a Chymdeithasol; Gwyddorau’r Amgylchedd; Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon; Hanes a Hanes Cymru; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Ieithoedd Modern; Marchnata; Nyrsio; Newyddiaduraeth; Polisi Cymdeithasol; Peirianneg Electronig; Saesneg; Seicoleg; Y Gyfraith; Y Gyfraith a’r Gymraeg; Ysgrifennu Creadigol.

Tel: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

23


Dodd com

Eich rhaglen chi yn fyw ar y we 7pm Llun – Gwener bbc.co.uk /c2

Dilynwch y sw ˆn ar Facebook a Twitter c2_advert_190x138mm.indd 1

18/11/2010 15:06


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.