Y Selar - Awst 2013

Page 1

y Selar RHIF 34 | AWST | 2013

Band mwya’ poblogaidd Cymru ^ Yr Ods | Candelas | Gwyllt | Sw nami

selar_urdd2013.indd 1

y-selar.co.uk

1

29/07/2013 22:43


Cerddoriaeth gyfoes Gymraeg C2 BBC Radio Cymru Llun - Iau 7pm Nos Wener 6.30pm

bbc.co.uk/c2

C2 selar ad july.indd 1

selar_urdd2013.indd 2

29/7/13 09:52:06

29/07/2013 22:43


y Selar RHIF 34 | AWST | 2013

Mae pawb yn meddwl mai cyfnod eu hieuenctid nhw oedd oes aur y sin. Rydan ni wastad yn clywed am ryw eisteddfodau chwedlonol o’r gorffennol, ond oes yna rywun yn edrych ar y pethau yma yn wrthrychol? Mae’r dair Eisteddfod nesaf yn ymweld â Dinbych, Llanelli a Meifod am yr eildro mewn cyfnod o 12-14 mlynedd felly dyma gyfle gwych i gynnal arbrawf, (dim byd rhy gyffrous felly cadwch y bynsyn byrnyrs ’na). O gymharu arlwy cerddorol ein prifwyl o un degawd i’r llall fe gawn ni syniad go lew o’n sefyllfa bresennol. Oedd, roedd yna fandiau da yn Ninbych 2001. Doedd dim Sdeddfod heb Anweledig yn y cyfnod hwnnw ac mi fyswn i wrth fy modd yn gweld Maharishi a Melys heddiw. Ond o’r adolygiadau dwi wedi eu darllen, mae’n debyg mai Caban a Cajuns Denbo oedd bandiau mwyaf cyffrous y cyfnod. Dwi’n deud dim… Deud ’dw i. Yr Ods, Candelas, Y Bandana a Sŵnami – i gyd yn chwarae yn Ninbych yn 2013, ac fel mae hi’n digwydd, i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o’r Selar! Meddyliwch am y peth. Dwi ddim yn siŵr iawn pwy wnaeth hed-leinio nos Sadwrn ola’ Dinbych 1939, yr un un ag eleni o bosib. Gwilym Dwyfor

8

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com) MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Lowri Johnston, Cai Morgan, Ifan Prys a Ciron Gruffydd

CYNNWYS Bywyd Gwyn Y Bandana

4

O glawr i glawr - Llithro

8

Trydar gyda Swnami

10

Gwyllt

12

Ti ’di clywed ...

14

Candelas

16

adolygiadau

20

^

22

^

I-Be ^

Llun clawr: Rhys Llwyd (Y Bandana)

16

22

@y_selar yselar@live.co.uk facebook.com/cylchgrawnyselar Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

52:06

selar_urdd2013.indd 3

29/07/2013 22:51


Byw Bywyd

Gwyn B

and y Flwyddyn am dair blynedd yn olynol, tair gwobr Cân Orau ac un wobr Record Fer Orau i gwblhau’r hatric. Dim ond un o anrhydeddau Gwobrau’r Selar sydd ar goll o gasgliad Y Bandana, Albwm y Flwyddyn. Ond all hynny newid yn 2013? Mae ail albwm hir ddisgwyliedig band mwyaf poblogaidd Cymru allan ac Owain Gruffydd aeth leoliad addas iawn i holi mwy ar ran Y Selar. Sengl ddiwethaf Y Bandana oedd ‘Heno yn Yr Anglesey’, cân y flwyddyn i ddarllenwyr Y Selar yn 2012, a chân oedd yn trafod ymdrechion Gwil i geisio bachu merch mewn tafarn yng Nghaernarfon. Roedd hi’n addas iawn felly mai i dafarn yr Anglesey yr es i i gyfarfod yr hogia’ i drafod yr albwm newydd, Bywyd Gwyn. Ond dim ond tri o’r pedwar aelod sydd wedi llwyddo i ddod i ’nghyfarfod i. Mae Sion yn gweithio yng Nghaerdydd, ac felly’n dal yn y brifddinas dros yr

selar_urdd2013.indd 4

Haf. Ond am fand mor weithgar â’r Bandana, sydd i weld yn gigio bron pob penwythnos, dipyn o syndod yw’r ffaith fod y tri aelod arall hefyd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y wlad yn ystod rhan fwyaf o’r flwyddyn. Tra fod Gwilym yn treulio ei amser yn ei gartref ym Methel, mae Tomos a Robin wedi bod yn byw ym Manceinion a Lerpwl, wrth iddynt fwrw ymlaen â’u graddau prifysgol. Felly sut yn union maen nhw wedi parhau i gigio, yn ogystal ag ysgrifennu a recordio albwm gyfan mewn stiwdio yng Nghaerdydd? “Mae o’n bedwar person mewn pedwar lle gwahanol. Be’ wnaethom ni drio’i wneud gyda’r albwm oedd mynd i’r stiwdio unrhyw bryd roeddem ni lawr yng Nghaerdydd yn gigio. Ond erbyn y diwedd, roedd rhaid i ni fynd draw at Mei [Gwynedd] i’r stiwdio am y diwrnod ar unrhyw benwythnos lle nad oedd ganddom ni gig,” meddai Tomos. “Nid y teithio sydd wedi bod yn broblem, ond ceisio ffeindio penwythnos

lle mae’r pedwar ohonom ni’n rhydd, yn ogystal â cheisio cael balans rhwng dal i gigio a mynd i’r stiwdio i recordio – dyna pam fod hi wedi cymryd dros flwyddyn i greu’r albwm. Mae Gwil hefyd angen cyfle i chwara’ a hyrwyddo albwm Plu, ei fand newydd o.” Mae Robin yn ychwanegu, “roedd ymarfer y caneuon ’chydig yn anodd ar adegau, ac roedd rhaid i ni ddysgu ambell gân ar y funud olaf. Er enghraifft, ’nath hynny ddigwydd hefo ‘Gwyn Dy Fyd’, lle doeddan ni heb gychwyn edrych ar y gân yn iawn cyn cyrraedd Caerdydd, ac felly roedd rhaid ei hymarfer hi i gyd ar y diwrnod cyn mynd i’r stiwdio.” “Ond mae recordio dros gyfnod mor hir wedi golygu fod chdi’n gweld y gwahaniaeth rhwng ambell gân fel ‘Gwyn Dy Fyd’ o’i chymharu â ‘Byth yn Gadael y Tŷ’ a gafodd ei sgwennu ddwy flynedd yn gynharach.”

29/07/2013 22:43


Derbyn Beirniadaeth

“Mae unrhyw feirniadaeth wedi helpu ni wrth baratoi i wneud yr ail albwm.”

Stiwdio a gigio Ar ôl recordio y rhan fwyaf o’u gwaith blaenorol yn Stiwdio Ferlas gyda Rich Roberts, fe aeth yr hogia’ draw i stiwdio Mei Gwynedd i recordio’r casgliad newydd. Robin sydd yn esbonio’r penderfyniad a’r gwahaniaeth rhwng y profiad o weithio gyda’r ddau gynhyrchydd gwahanol. “Oedd steil Mei yn golygu fod o’n rhydd ac yn gadael i ni gael lot o fewnbwn ar y sŵn roeddan ni isho. Nath Rich helpu lot achos roedd o’n rhoi cyfeiriad i ni pan doeddan ni ddim wedi cael llawer o brofiad yn y stiwdio. Ond gan ein bod ni wedi cael y profiad yna erbyn hyn, roedd o’n dda mynd mewn at Mei a chael trio mwy o’n syniadau ein hunain. “’Da ni’n teimlo fod y sŵn sydd wedi dod allan ar Bywyd Gwyn yn llawer fwy relaxed ac amrwd a dyna oeddan ni’n anelu ato fo” meddai Gwilym.

Mae’n teimlo’n gryn dipyn o amser, bellach, ers i’r Bandana ryddhau eu halbwm cyntaf, nôl yn 2010. Cafodd hwnnw ymateb da iawn ar y cyfan, ond mae’r band yn pwysleisio fod unrhyw feirniadaeth negyddol maen nhw wedi’i dderbyn wedi helpu wrth recordio Gwyn Dy Fyd. “Oedd yr albwm cyntaf yn fwy o gasgliad o’r caneuon roeddan ni’n chwarae’n fyw ers ’chydig o flynyddoedd. Oedd ’na lot o amrywiaeth yn yr albwm yna. Aeth o lawr yn dda ar y cyfan, ac mae unrhyw feirniadaeth wedi helpu ni wrth baratoi i wneud yr ail albwm. Mae o ’di neud ni feddwl mwy am ba ganeuon i’w cynnwys a pha ganeuon i beidio cynnwys ar yr albwm” meddai Gwilym. Mae Tomos yn mynd ymlaen, “dwi’n meddwl y galli di ddeud mai hogia’ 15 oed sydd yn canu ar yr albwm cyntaf, ac felly dwi’n gobeithio bydd y gwrandawyr yn gallu deud mai’r hogia’ yna sydd wedi aeddfedu erbyn yr ail albwm. Mae’r sŵn ei hun yn canolbwyntio mwy ar y gân, yn hytrach na thrio dangos pa mor dda mae pob un ohonom ni’n gallu chwarae ein hofferynnau. Mae’n albwm llawer haws gwrando arno.” Felly beth am y caneuon sydd ar Bywyd Gwyn? Ydyn nhw’n dal i ganu am brofiadau bywyd hogia’ yn eu harddegau, fel yfed dan oed, neu am beidio bod yn ‘fabi dim mwy’? Ta ydyn nhw’n canu am eu bywydau erbyn hyn? “Dwi’n meddwl bod ni wedi defnyddio’r dyfyniad yma o’r blaen, ond roedd yr albwm gyntaf yn siarad mwy am fod isho mynd allan i yfad a joio, lle mae’r ail yn sôn mwy am sut ’da ni wedi bod yn y pyb, wedi mwynhau ein hunain ac erbyn hyn yn diodda’ ’chydig. Ac yn hiwmor ffraeth nodweddiadol y band, mae Robin yn awgrymu “ella bydd yr albwm nesa’n sôn am fynd i chwilio am waith!” y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 5

5

29/07/2013 22:43


“Roedd Ifan Jones, gitarydd Candelas, hefyd wedi dod i mewn i helpu yn y stiwdio, a gan fod o wedi gweld ni’n fyw fwy o weithia’ na Mei, nath hynny wneud petha’n haws hefyd.” Fel fysach chi’n ei ddisgwyl, mae amserlen haf yr hogia’n llawn dop, gyda gigs ar hyd a lled Cymru. Gyda thaith hyrwyddo’r albwm wedi eu gyrru o Ferthyr Tydfil i Fethesda ac o Gaernarfon i Gaerfyrddin, a chyfnod y gwyliau wedi eu harwain eto i bob rhan o’r wlad, does ’na ddim stop wedi bod ar yr hogia’. Tomos ydi aelod mwyaf trefnus y band, a fo sy’n esbonio ymhellach. “Roedd mis Gorffennaf yn brysur iawn achos y daith. Mi gychwynnodd honno

“Mae’r albwm yn sôn am sut ’da ni wedi bod yn y pyb, wedi mwynhau ein hunain ac erbyn hyn yn diodda’ ’chydig.” ym Mhontardawe, cyn gorffen yn Llanfair-ym-muallt a fuon ni’n gigio am wyth diwrnod allan o naw dros Gymru gyfan. Wedyn mi wnaethon ni chwarae yng Ngŵyl Arall, a rŵan rydan ni’n edrach ’mlaen at y ’Steddfod a Maes B, a chwpwl o betha’ erill yn ystod mis Awst, yn enwedig penwythnos Gŵyl y Banc.”

“Roedd y daith yn gyfle da i ni lenwi’r bylchau yn y map o le ’da ni heb chwarae eto a hefyd i chwarae mewn ardaloedd lle does dim llawer o gigs Cymraeg yn cael eu trefnu – fel Merthyr Tydfil, er enghraifft. Mae’n neis cael chwarae o flaen cynulleidfa wahanol weithia’.”

Dim am newid Wrth sôn am berfformiadau, i’r rheini aeth i gigs Maes B llynedd, dwi’n siŵr fod perfformiad Y Bandana yn aros yn y cof diolch i’r egni a’r ymdrech aeth i greu sioe unigryw. Roedd ’na siwtiau, roedd ’na fand pres, ac roedd hyd yn oed un o’r rheini wedi deifio o’r llwyfan i mewn i’r dorf! Felly, beth sydd gan yr hogia’ wedi’i gynllunio ar gyfer y nos Wener ym Maes B Dinbych eleni? “’Da ni’n licio creu sioe ym Maes B achos mae’n ŵyl sy’n golygu lot i ni. Ar ôl gweld Creision Hud ar y llwyfan yn yr Wyddgrug, Creision Hud dyna wnaeth ein hysgogi ni i gychwyn y band. Ond ’da ni ddim yn datgelu dim byd am ein perfformiad ni ym Maes B eto. Mae ’na ambell syniad sydd angen eu cadarnhau, felly cawn weld.” Yn olaf, wrth i mi dderbyn copi o’r

6

albwm newydd yn fy llaw ar ddiwedd y cyfweliad, allai ddim peidio sylwi’n syth ar y clawr. Mae’n dangos pedwar hen ŵr yn eistedd mewn cornel yn nhafarn yr Anglesey, yn amlwg yn mwynhau. Pam felly, fod band sydd â chasgliad o ganeuon sy’n rhoi cymaint o bwyslais ar fyw a mwynhau eu dyddiau ifanc, wedi penderfynu cael yr hen bennau yma ar glawr eu CD? “Roedd ganddom ni lot o wahanol syniada’ am y clawr. Wedyn gath Robin y syniad yma” meddai Tomos Aiff Robin yn ei flaen i esbonio...“mae o i wneud lot efo be’ ’da ni isho i’r albwm ei ddiffinio a deud amdanom ni. Mae o hefyd i wneud efo enw’r albwm – mae’r llun yn dangos pedwar dyn mewn tafarn yn cael amser da. Wedyn mae’r syniad yn dod drosodd mai ni yn y dyfodol ydi’r dynion yma, a bod mwynhau mynd am beint efo’n gilydd ddim am newid wrth i ni fynd yn hyn!”

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 6

29/07/2013 22:43


530 hysbys selar_517 14/02/2013 10:06 Page 2

RHAGORIAETH ˆ MEWN GWYL A GWAITH Ffôn: 01248 382005/383561 • E-bost: marchnata@bangor.ac.uk Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor

www.bangor.ac.uk

selar_urdd2013.indd 7

•Copiau o’n prospectws a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2014 •Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru •Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru •Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar •Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

29/07/2013 22:43


O Glawr i Glawr – Llithro Deunydd sydd wedi ei ryddhau ers tipyn sydd yn cael sylw yn yr eitem hon fel arfer, gweithiau celf gwych sydd eisoes wedi bod yn addurno’ch silffoedd ers misoedd. Ond pan glywodd Y Selar si fod gwaith celf albwm newydd Yr Ods, Llithro, mor arbennig, doedden ni’n methu aros i fynd o glawr i glawr.

M

ae’n anodd meddwl am fand mwy cŵl ond eto proffesiynol eu hagwedd nag Yr Ods, ac mae eu gwaith celf wastad yr un mor gywrain a chofiadwy â’u cerddoriaeth. Rydym eisoes wedi gweld hynny yn yr EP, Yr Ods, a’r albwm cyntaf, Troi a Throsi, ac mae’r un peth yn wir am yr albwm newydd, Llithro. Ac os am drafod celf gydag un o aelodau Yr Ods mae’r dewis yn amlwg – y darlunydd proffesiynol, Rhys Aneurin. Dechreuais trwy holi Rhys am hanes y gwaith. “Ddaru ni gomisiynu Ed [Fairburn] i greu’r darn. Roedden ni eisiau cael rhywbeth arbennig at hon, rhywbeth trawiadol sy’n adlewyrchu themâu’r record.” Pwy yw Ed Fairburn felly? “Roedd Ed yn ffrind coleg i mi, ar yr un cwrs yng Nghaerdydd. Ac er nad oedd o’n gweithio gyda mapiau gymaint bryd hynny, roeddwn yn hoff iawn o’i arddull o ddarlunio wynebau, a dwi wastad ’di bod a pharch mawr tuag ato. Ac fel finna’, aeth o allan o’r cwrs ac yn syth i fod yn ddarlunydd llawn amser, felly odd o’n brâf gallu comisiynu rhywun sydd yn yr un cwch â finna’.” Does dim dwywaith fod y darlun pensil o ferch ifanc ar gynfas o fap OS yn un hynod drawiadol felly rhaid oedd i mi gael gafael ar Ed ei hun, i’w longyfarch i ddechrau, ac yna’i holi am y darn. Mae’n amlwg o’i wefan, edfairburn.com, fod y darlun hwn yn nodweddiadol o’i waith felly beth yw apêl yr arddull anarferol hwn? “Y ffigwr dynol yw testun fy ngwaith wedi bod erioed ac rwyf yn hoff iawn o batrwm – felly roedd plotio portreadau ar fapiau yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i mi roi cynnig arno. Un o’r pethau yr wyf yn ei garu am weithio gyda mapiau yw’r amrywiaeth – does dim dwy fodfedd sgwâr yr un peth.” Cystal yw’r gwead rhwng y map gwreiddiol a’r portread ar ei ben mae’n anodd dweud faint o waith darlunio sydd yn y llun, felly holais faint o amser mae darn o waith fel hwn yn ei gymryd i’w gwblhau. “Mae’n amrywio, rwy’n dueddol o weithio wrth fy mhwysau. Rwy’n gallu gweithio’n ddi-dor a chwblhau

“Roedd gweithio gyda Dewi Prysor ar ei nofel Cig a Gwaed yn bleser llwyr”

8

portread mewn wythnos ond wedi dweud hynny mae rhai yn fy stiwdio ers misoedd dal heb orffen. Os wyf yn gweithio’n ddwys am gyfnod hir rwyf yn dechrau gweld patrymau ym mhob dim ac yn rhoi’r gorau iddi am y dydd!”

Model cyfarwydd Rhaid oedd i mi fusnesu a holi pwy oedd y ferch yn y darlun ac eglurodd Ed mai testun y darlun hwn, fel y mwyafrif o’i weithiau eraill, yw ei gariad, Bobbie. “Mae ein perthynas yn creu awyrgylch gyfforddus ar gyfer modelu. Tydw i ddim yn ffotograffydd naturiol felly mae’n help mawr i mi adnabod y model. Rwyf yn gyfarwydd â’i nodweddion a’r ffordd y maent yn cydweithio â gwahanol dirluniau.” Crëwyd y gwaith ar fap OS mawr ac roedd yn rhaid ei sganio er mwyn cael y gwaith ar gyfrifiadur i Bedwyr ap Iestyn yn Sain helpu Rhys i’w gysodi. Roedd gan Rhys rôl i’w chwarae yn y broses hon felly ond mae yntau yn hen law ar ddylunio cloriau ei hun, ag yntau wedi creu gwaith celf ar gyfer nifer o lyfrau’n ddiweddar. Roeddwn yn awyddus i wybod sut mae creu clawr nofel i rywun arall yn cymharu â chydweithio ar ei ddeunydd ei hun. “Mae’r syniad o gyd-weithio gydag awdur neu gerddor yn un cyffrous, mae’r dasg o greu celf yn seiliedig ar ofynion yn sicr yn sialens, sialens sy’n amrywio yn dibynnu beth yw’r brîff a faint o reolaeth maen nhw eisiau. Roedd gweithio gyda Dewi Prysor ar ei nofel Cig a Gwaed yn bleser llwyr gan i mi gael rhyddid mawr gyda fy syniadau ond hefyd roedd o’n gwybod yn iawn sut fath o deimlad yr oedd o eisiau i’r clawr.” “Mae creu stwff fy hun yn wahanol yn yr ystyr fy mod i efallai yn galetach ar fy hun o ran be’ sy’n cael ei greu.” Rhys ei hun wrth gwrs a greodd waith celf yr EP gyntaf, Yr Ods. Mae ganddo brofiad felly o weithio ar ben ei hun yn ogystal â gyda dylunwyr eraill fel Ed Fairburn y tro hwn a Sara Mererid ar Troi a Throsi. “Roedd fy nghlawr i at yr EP yn ddarn enfawr hefyd - paentiad o fy nghwrs sylfaen yng Ngholeg Menai - ond roedd wedi bodoli (a chael ei losgi!) cyn i’r EP gael ei greu felly doedd o ddim wir yn adlewyrchiad penodol o’r gerddoriaeth, mwy o rywbeth lliwgar i ddal sylw. Gyda Sara a’r albwm cyntaf, ddaru ni benderfynu ei fod yn syniad gwych cael rhywun arall i greu’r gelf, i gael allbwn rhywun allanol.”

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 8

29/07/2013 22:43


Nodwydd yn Llithro

“Roedd gweithio gyda Dewi Prysor ar ei nofel Cig a Gwaed yn bleser llwyr”

Fel artist y band, tybed a oes pwysau ar Rhys pan mae hi’n dod i’r elfen weledol? “Dim pwysau ond mae’n braf gwybod eu bod yn ymddiried ynof i. Roedden ni’n benderfynol o ryddhau Llithro ar feinyl 12”, gan dalu am y pressing ein hunain, wedi i Sain wrthwynebu’r syniad. Ac ar ôl sicrhau ffordd i allu cael rhain ar feinyl, roedden ni eisiau darn o gelf a oedd yn mynd i edrych yn dda ar glawr mawr. A ’swn i’n dweud fod Ed wedi bod yn llwyddiannus yn hynny o beth. Yn sicr, a sut mae Ed yn teimlo am gael ei waith ar feinyl tybed? “Rwyf yn falch fod clawr albwm bellach yn fy mhortffolio ac mae cael hwnnw ar finyl yn wych. Mae’n bwysig bod unrhyw gelfyddyd (clywedol neu weledol) ar gael mewn sawl fformat, a hefyd, mae rhywbeth yn neis

am feinyl. Does gen i ddim chwaraewr recordiau felly rwyf yn meddwl fframio fy nghopi i.” Mae Rhys yn teimlo ei bod yn bwysig amrywio gwaith celf Yr Ods wrth i’w sŵn ddatblygu, felly beth allwn ni ei ddisgwyl yn gerddorol ar Llithro a sut mae’r ddwy elfen greadigol yn priodi? “Mae yna deimlad mwy organig a ’chydig bach mwy byw iddi. Prif thema Llithro yw rhwystredigaeth pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru ac mae’r gwaith celf yn sicr yn dod mewn i hynny. Ddaru ni ofyn i Ed fynd ati i ddefnyddio tirwedd Cymru i fynegi’r rhwystredigaethau hyn mewn ffordd syml ond hefyd effeithiol a thrawiadol.” Rhys yn swnio’n hapus iawn gyda’r gwaith felly ond beth am Ed? “Ydw, rwy’n hapus iawn gyda’r gwaith terfynol ac roedd hi’n grêt cael gweithio gyda’r mapiau penodol yma. Dyw tirwedd Cymru byth yn fy niflasu.” A go brin y bydd neb yn diflasu ar yr albwm newydd hon chwaith na’i gwaith celf gwych. y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 9

9

29/07/2013 22:43


trydar gyda @Swnami_ @Y_Selar Su’mai @Swnami_! Yr EP newydd, Du a Gwyn, allan, amser cyffrous iawn i chi fel band mae’n siŵr?

@Y_Selar Plyg bach da iawn yn fanna! Ac mae ’na dipyn o gigs does! Roedd yna 17 ym mis Gorffennaf yn unig oedd? ’Da chi’n cadw’n brysur iawn!

@Swnami_ Su’mai Mr Selar! Yndi amser cyffrous iawn i ni... @Swnami_ Hwn ‘di’r tro cynta’ i ni ryddhau casgliad o ganeuon felly fydd hi’n neis cael copi caled o’n gwaith, a gweld sut wnaiff pawb ymateb iddo! @Y_Selar ’Da ni gyd yn edrych ymlaen. ’Da chi wedi rhyddhau stwff yn ddigidol o’r blaen wrth gwrs ond wedi aros dipyn cyn rhyddhau ar CD, pam hynny? @Swnami_ Dwi’n meddwl mai mater o beidio rhyddhau “rwbath rwbath” oedd o... @Y_Selar Call iawn. @Swnami_ Disgwyl tan fod gennon ni grŵp o ganeuon a oedd yn plesio, a chaneuon sy’n gweithio’n dda efo’i gilydd. @Y_Selar Allwn ni ddisgwyl rhywbeth gwahanol o ran y sŵn i’r senglau, Eira a Mynd a Dod, felly? @Swnami_ Mae ‘na sicr ddatblygiad yn y sŵn, ac mae’r ffaith ein bod ni flwyddyn yn hŷn yn siŵr o ddangos yn y caneuon, yn offerynnol ac o ran geiriau. @Swnami_ Ond gobeithio bod y caneuon yma’r un mor fachog a phoblogaidd â’r ddwy sengl ddiwethaf!

@Y_Selar Ia, y daith wrth gwrs, efo Candelas a Hud ia? Edrych ymlaen mae’n siŵr. I le mae hi’n mynd i gyd? @Swnami_ Ni, Candelas, Hud a bandiau lleol ymhob gig. Dechrau yng Nghaernarfon, yna Pwllheli, Y Bala, Llanidloes, Aberteifi a gorffen yng Nghaerdydd. @Y_Selar Ond ambell gig yn Steddfod cyn hynny wrth gwrs, edrych ymlaen at Faes B nos Fercher? @Swnami_ Methu aros! Maes B ydi uchafbwynt yr haf i’r mwyafrif o fandiau, felly gobeithio ’gallwn ni roi sioe dda ‘mlaen gan cynnwys amball sypreis! @Y_Selar Sypreis? Ydan ni’n cael cliw?! @Swnami_ Gwell peidio! @Y_Selar Hmm... diddorol. Ac ar ôl rhyddhau’r EP yr haf yma, allwn ni ddisgwyl albwm flwyddyn nesaf wedyn?

@Y_Selar Oes ‘na ffefryn o blith y traciau?

@Swnami_ Gobeithio! ‘Swn i’n meddwl mai dyna’r cam nesaf naturiol, os yw’r caneuon dal i lifo a’r galw dal yno gobeithio bydd ’na albwm yn y dyfodol!

@Swnami_ Ummm..... ma’ ‘na wahaniaeth barn o fewn y band ond ‘da ni’n hapus iawn efo ‘Gwreiddiau’ ac ‘Y Nos’

@Y_Selar Edrych ymlaen at hynny. Unrhyw newyddion cyffrous arall yn y dyfodol agos?

@Y_Selar Da iawn, edrych ymlaen at rheiny. A beth am y cynllun, allwn ni ddisgwyl gwaith celf cyffrous ar eich EP cyntaf?

@Swnami_ Dim felly, heblaw am yr EP a holl gigs yr haf wrth gwrs!

@Swnami_ Gruff brawd @IfanYwain sydd wedi dylunio’r clawr unwaith eto, yn gweithio gyda’r thema du a gwyn.

10

@Swnami_ Diolch, oedd! Ofnadwy o brysur dros yr haf, taith ddiwedd Awst a chynigion dal i ddod. Fydda’ ni ‘di hen laru ar ein gilydd erbyn y diwedd!

@Swnami_ Y peth mwyaf cyffrous i ni ydi’r cyfla i ‘pimpio’r’ fan newydd, felly cadwch lygad am honno!

@Y_Selar Hapus efo’i waith o?

@Y_Selar Yr arwydd bod band wedi “ei gneud hi” - eu fan eu hunain! Edrych ymlaen at weld honno ac i wrando ar Du a Gwyn dros yr haf. Diolch yn fawr

@Swnami__ Mor hapus efo’r clawr mi fydd yna grysau-T ar gael i’w prynu yn ein gigs dros yr haf. Felly gobeithio y bydd pobl yn ei licio!

@Swnami_ Diolch yn fawr Mr Selar!

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 10

29/07/2013 22:43


BYW YN GYMRAEG!

NEUADD Y DRE Llun 5 Awst - AM DDIM

TAFARN Y GILD Sadwrn 3 Awst - £6

8yh

Gŵyl Ffilmiau Ffilm fawr “Lloyd George”

8yh

Y Bandana | Jessops a’r Sgweiri Y Llwyd | Y Cledrau

Mawrth 6 Awst - AM DDIM 11yb-12yh

Sul 4 Awst - £8

Ffilmiau o Gig Hanner Cant CYIG, Y Chwarelwyr, Ffilmiau amgen a llawer mwy

Noson Gomedi Tudur Owen, Eilir Jones, Beth Angell, Dilwyn Morgan a John Sellars

Ar y cyd gyda Clwb Ffilmiau Dinbych a Cwmni Da

Mercher 7 Awst - £10

7:30yh

Meic Stevens Tecwyn Ifan Plu Iau 8 Awst - £10

Mawrth 6 Awst - £7 8yh

8yh

ar y cyd gyda Menter Iaith Dinbych

Mercher 7 Awst - £7

8yh

Y Niwl | Sen Segur Mr Huw | Y Pencadlys 8yh

Iau 8 Awst - £7

Bryn Fôn a’r Band Al Lewis Band Gildas

8yh

Gai Toms (band) | Twmffat Felix Ngindu | Radio Rhydd ar y cyd gyda Dinbych-Congo

Ar y cyd gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc

Sadwrn 10 Awst - £8

8yh

Georgia Ruth | Gareth Bonello Gwyneth Glyn | Kizzy Crawford Steve Eaves | Siddi Dan Amor | Casi Wyn

Geraint Jarman Candelas Bromas Gwener 9 Awst - £10

Llun 5 Awst - £7

8yh

Gwener 9 Awst - £7

8yh

8yh

Cowbois Rhos Botwnnog | Yucatan Violas | Afal Drwg Efa

Yr Ods Hud Sŵnami Plyci

Sadwrn 10 Awst - £8

cymdeithas.org/steddfod2013

8yh

Bob Delyn a’r Ebillion Geraint Løvgreen a’r Enw Da Brigyn | Gwyllt

hysbyseb selar.indd 1

15/07/2013 12:12

Eich cyfle i brynu copi DVD o gystadlaethau, seremonïau a chyngherddau’r Pafiliwn o 1999 ymlaen. Gwasanaeth newydd gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Your chance to buy a DVD copy of competitions, ceremonies and concerts held in the Pavillion from 1999 onwards. A new service from the National Screen and Sound Archive of Wales.

01970 632 828 copi@llgc.org.uk archif.com/copi

selar_urdd2013.indd 11

29/07/2013 22:43


f cyffrous cerddorol mwya au ct ie os br o n U wrog lyn Parry, o Land Am lt. yl w G yw 2013 byw yng sydd bellach yn yn wreiddiol ond . Ac er ei ’r dyn tu ôl y cwbl Nghaerdydd, yw mae ef, rol newydd i’r sin, ha m cy w en yn d fo ofiadol bell i gerddor pr am th or ym ch lbwm gyda i rhyddhau eu ha ed w es so ei nd yn ei fa i ’n hen bryd felly cyntaf. Roedd hi Y Selar. am sgwrs ar ran nd fy am ili W ia as C

T L L Y W G O F E R I A G Yn eiriau yma ac acw ar hen ddarnau o bapur ac yn alawon sy’n troelli yn y pen ers tro, dwi’n cael y teimlad mai ffrwyth llafur hedyn a blannwyd ers blynyddoedd yw Gwyllt, ond mai dim ond rŵan mae’r gwreiddiau’n ddigon cadarn i’r ffrwyth ddod i’r golwg. Ac enw’r garddwr hoffus sy’n gyfrifol am y tyfiant soniarus yma ydy Amlyn Parry. “Ro’n i’n cael gwersi piano pan o’n i’n fach. ’Oedd mêts fi i gyd allan yn chwarae ffwtbol yn cae tra’r o’n i yn gorfod cael gwersi piano. Ond nath dad ddeud y baswn i yn cael stopio pan o’n i’n cyrraedd gradd 5, felly pan nes i gyrraedd gradd 5, pan o’n i’n bymtheg oed, nes i stopio,” esbonia Amlyn, wrth i mi ei holi o le y daeth ei ddoniau cerddorol. “Ac o’n i’n cael gwersi trymped hefyd. Ro’n i’n chwarae trymped i fand pres Dyffryn Nantlle, ond ro’n i’n cael stopio hwnnw pan o’n i’n cyrraedd gradd 6 felly’r diwrnod nes i gyrraedd gradd 6 nes i stopio!” Ond er ei fod yn swnio fel disgybl anfoddog, mae’n amlwg bod y gwersi wedi bod o fudd mawr yn y pen draw. “Mae lot o’r caneuon yma gen i ers blynyddoedd,” eglura Amlyn. “Nes i ddechra off jysd yn jamio ar y gitâr ac yn arbrofi a deud y gwir. Hwnna ’di’r peth cyntaf dwi’n ei gael at ei gilydd, a fydd gen i eiriau neu frawddeg yn fy mhen ac mi fydd ’na gân wedyn yn dod o fan’na. Ond dyma’r tro cyntaf i hynny i gyd droi yn rwbath sy’n teimlo yn barod, efo Gwyllt.” Gosod stamp

Rhyddhawyd albwm gyntaf Gwyllt, albwm o’r un enw, ar label Sbrigyn Ymborth ddechrau Haf 2013. Amlyn sy’n gyfrifol am

12

gyfansoddi’r saith cân, ond yn ffurfio’r band ac yn cadw cwmni iddo yn y stiwdio mae Alun Gaffey ar y gitâr; Richard Chitty ar y drymiau; Mirain Evans ar y ffidl; Llio Non, Ceren Roberts a Deian Owain yn canu lleisiau cefndir, a Sion Meurig yn chwarae bas ar un neu ddwy o’r caneuon. Wedi dweud hynny mae rhywun yn teimlo bron y gallai Amlyn fod wedi recordio’r cwbl ei hun gan ei fod yn chwarae piano, organ gêg, gitâr a gitâr fas ar yr albwm yn ogystal â chanu’r geiriau y mae wedi eu cyfansoddi ei hun wrth gwrs. Mae’r cwbl yn cyfrannu at albwm fyrlymus, fywiog, sydd â theimlad gonest a diffuant iddo. Mae’n fy atgoffa ryw fymryn o Mim Twm Llai ar ei orau, circa Sesiwn Fawr 2006 gyda thinc Bob Delyn-aidd, a naws storïol tebyg i Kimya Dawson. Ond, mae stamp Amlyn i’w glywed yn blaen hefyd, stamp sy’n swnio’n oesol, yn werinol, ond gyda

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 12

29/07/2013 22:43


Hwyl hyblyg

Lansiwyd yr albwm yn nhafarn y Cornwall yng Nghaerdydd ym mis Mehefin, ac roedd yr ymateb yn dda iawn a dweud y lleiaf, er bod y ffryntman gweddol ddibrofiad fymryn yn nerfus. “’O’n i reit nyrfys y noson yna ond nesh i fwynhau perfformio. Aeth o lawr yn dda. Roedd hi’n gig cartrefol iawn o flaen lot o ffrindiau ac roedden nhw wedi pacio’r lle. Gaethon ni lot o hwyl.” Dyma rywbeth y mae Amlyn i’w weld yn dod yn ôl ato dro ar ôl tro – yr hwyl. Mae’n amlwg bod cael hwyl a bod yn hyblyg wrth greu a pherfformio’r gerddoriaeth yn bwysig iawn i’r cerddor amryddawn, ac mae hyn wedi arwain at nifer o syniadau diddorol wrth iddo feddwl am gamau nesaf Gwyllt. “Dwi’m yn gweld Gwyllt gymaint fel band, ella fwy fel project. Rhywbeth sy’n gallu symud ymlaen a jyst gweld sut mae’n mynd ac i le mae’n mynd. Dwi’m yn gweld pwynt cymryd y peth ormod o ddifri’ achos ma’n waith caled wedyn. “Y gwir ydy, mae pobol yn gorfod gweithio dydyn, ac mae bywyd yn brysur, felly be’ sy’n bwysig ydy mwynhau wrth wneud y gerddoriaeth, a neith pobol eraill fwynhau wedyn. Pan ma’ pawb yn mwynhau ma’r gerddoriaeth yn aml iawn yn well, yn tydy?” ’ Ehangu r Gwyllt

geiriau sy’n grimp o gyfoes. Mae’r albwm yn agor gyda ‘Pwyso a Mesur’, cân sy’n cychwyn yn offerynnol (dwi’n gweld dechrau’r gân yma fel cefnder Cymraeg caneuon Arcade Fire – fe wnewch chi ddallt be’ s’gin i ar ôl i chi wrando!) ac yn mynd yn ei blaen i fyfyrio ar dyfu, newid ac aeddfedu. Mae’r gân yn ymddangos yn syml ar y gwrandawiad cyntaf ond wrth wrando eto ac eto mae rhywun yn dod i sylwi fwyfwy ar yr haenau cerddorol, y llinynnau, y piano, a hefyd yr haenau o ystyr a chymariaethau estynedig neis sy’n y geiriau. Mae’r haenau yma i’w clywed trwy’r casgliad ac yn dod i amlygrwydd gyda phob gwrandawiad. Mae ‘I ble’r est ti?’ Yn ddigon i wneud i galon rhywun waedu, mae hwyl i gael gyda ‘Pobol Da’ ac mae ‘Mynd yn Hen’ yn gadael rhywun yn cnoi cîl am feidroldeb dyn i gloi’r albwm. Mae’r caneuon yn plethu’n hyfryd i’w gilydd ac mae’n brofiad gwrando organig a phleserus iawn.

Pa fath o bosibiliadau sydd gan Amlyn mewn golwg felly? “Wel, dwi’n licio rap, a hip hop, Wu-Tang Klan, Roots Manuva a Pep Le Pew. Dwi’n gwbod geiriau Pep Le Pew yn well nag oedd Pep Le Pew dwi’n meddwl! “’Sw ni’n licio agor Gwyllt allan, ehangu ella, cael mwy o offerynnau, ac ella trio pethau gwahanol, ’neud albwm reggae, ella albwm hip hop. Ond ar y llaw arall ’swn i’n hapus i ni fynd yn llai hefyd, a gwneud rhywbeth reit acwstig. ’Da ni’n reit hyblyg yn Gwyllt.” Yn wir, hyblyg a hapus ydy teimlad y gerddoriaeth a elwir Gwyllt. Dwi’n edrych ymlaen at wrando ac ail-wrando ar y casgliad hwn yr haf yma, yn bendant hwn fydd albwm yr haf 2013 i mi. A heb os nac oni bai mi fydda’ i yn rhuthro i brynu’r albwm nesa pryd bynnag y daw o, achos pwy a ŵyr beth allwn ni ei ddisgwyl?! Llongyfarchiadau felly i artist newydd cyffrous iawn. Chwynnwch eich casgliad CDs a gwnewch le i Gwyllt. y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 13

13

29/07/2013 22:43


Pwy? Cynhyrchydd cerddoriaeth newydd i’r sin electroneg Gymraeg yw Gramcon. Does neb yn siŵr iawn pwy yw ef neu hi ond nid yw hynny’n bwysig.

hyn, traciau fel ‘Indigo’ gan Hud a ‘Fan Hyn’ Casi Wyn, ond mae un trac gwreiddiol o’r enw ‘Canwch’ wedi ei ryddhau hefyd. Mae’r cwbl ar gael am ddim ar ei Soundcloud neu o’r wefan, Gramcon.co.uk

Sŵn? Yr hyn sydd yn bwysig wrth gwrs yw’r sŵn felly pa fath o stwff mae Gramcon yn ei gynhyrchu? “Alla’i ddim ar y funud enwi un genre achos dwi’n dal i ddarganfod beth yw sŵn cerddoriaeth gwreiddiol Gramcon, ond gyda gwn i’m mhen, base rhaid i fi ddeud Electro Pop.” Mae cerddoriaeth Gramcon wedi ei ysbrydoli gan gerddoriaeth o’r 90au cynnar ond wedi dweud hynny nid yw “byth yn eistedd lawr ac yn meddwl dwi moyn cyfansoddi cân yn yr arddull yma, mae popeth yn cael ei wneud ‘off the cuff’ ac mor naturiol â phosib. Dwi’n cloi fy hun yn y stiwdio a jyst yn creu be bynnag sydd yn dod i fy mhen.”

Ar y gweill? Mae gan Gramcon ddau neu dri thrac yn barod i’w rhyddhau ond nid yw’n siŵr os mai fel senglau neu EP fydd hynny ar hyn o bryd. “Base fo’n cŵl cael ailgymysgu pobl fel Siddi, Cowbois, Greta Isaac, The Gentle Good - maent i gyd â chaneuon mor bert. Base gweithio gyda Gwenno Saunders yn cŵl hefyd, Trwbador, Yr Ods... ma’ ’na gymaint o artistiaid a bandiau mas ’na y bydden i wrth fy modd yn gweithio gyda nhw.” Cyn hynny, mae un person arbennig iawn ar frig rhestr Gramcon ond chawn ni ddim gwybod dim am hynny nes bydd yr artist dan sylw wedi cytuno! Mae recordio a rhyddhau yn anhysbys yn un peth ond all y cerddor cyfrinachol Cymraeg chwarae’n fyw tybed? “Base gigio un dydd yn brofiad arbennig iawn, ond bydde hynny’n golygu cymryd y mwgwd i ffwrdd. Hmmmmmmm...”

Dylanwadau? Mae Gramcon yn hoff iawn o gerddoriaeth Pet Shop Boys ond artistiaid electroneg Cymraeg yw’r prif ddylanwad. “Dwi’n ffan mawr o waith Gwenno, hoff iawn o wrando ar ei cherddoriaeth hudolus hi. Parch mawr at Clinigol am eu cerddoriaeth nhw hefyd, odd yr albwm dwbl, Discopolis, yn hollol sblendigedig, just moyn iddyn nhw blygio’r synths ’na mewn pan maen nhw’n chwarae’n fyw! Mae stwff Y Pencadlys yn wicked hefyd a stwff diweddar Masters in France. Ond y gwir amdani yw y gall Gramcon gymryd ysbrydoliaeth o unrhyw le. Mae hynny’n amlwg yn y gerddoriaeth y mae wedi ei samplo a’i ail gymysgu hyd yma, stwff sy’n amrywio o leisiau hyfryd Plu a Casi Wyn i riffs gitârs cofiadwy Hud. Mae Gramcon wedi ailgymysgu cerddoriaeth artist arall sydd wedi ymddangos yn Ti Di Clywed hefyd. “Yr ailgymysgiad cyntaf nes i oedd trac gan Kizzy Crawford. Ma’ hi’n gantores unigryw iawn fydd yn enfawr ddim jyst yng Nghymru ond ar draws y cyfandir dwi’n credu.” Hyd yn Hyn? Ailgymysgiadau yw rhan helaeth o allbwn Gramcon hyd yn

14

Uchelgais “Uchelgais Gramcon? Cael cyfrannu rhywbeth newydd i’r sin electronig Gymraeg. Dwi’n cael syniadau gwirion am brosiectau gwahanol trwy’r amser, felly gobeithio ar ôl hoelio sŵn Gramcon y galla’ i ddod â’r syniadau yma mewn.” Gwyliwch y gofod a dilynwch @gramconmusic. Barn Y Selar Nid ydym yn gwybod llawer am Gramcon ond mae un peth sydd yn hollol amlwg, mae yma rywun sydd yn ffan go iawn o gerddoriaeth Gymraeg ac yn benodol cerddoriaeth gan artistiaid ifanc Cymraeg, ac mae hynny’n beth i’w groesawu. Dyma blatfform gwych i hyrwyddo cerddoriaeth ein hartistiaid mwyaf addawol a’i gyflwyno i glustiau newydd. Edrychwn ymlaen nawr i glywed mwy o ddeunydd gwreiddiol ac efallai gweld y tu ôl i’r mwgwd. Gwrandewch os yn ffan o Ifan Dafydd, Y Pencadlys a Clinigol.

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 14

29/07/2013 22:43


Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o noddi Caffi Maes B ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

www.colegcymraeg.ac.uk hysbys_selar.indd 1

22/07/13 11:29:03 AM

New ydd sbon o’r Lolfa

y Selar

Y Selar Gweithgareddau hyn dros Selar yn y llefydd Galwch i weld Y . y misoedd nesaf..

£8.95

£8.95 Dyddiaduron

Desg A4 £6.95 Addysg A5 £5.95 Poced £3.95 Ffeiloffaith £6.95

£8.95

Caffi Maes B, 10 Awst, 14:00 – Pnawn Sadwrn, ethol Dinbych dla ne Ge d dfo Maes Eisted bawb – croeso mawr i Cwis Pop Y Selar l Llanbedr Pont ^ Campws Prifysgo di: Gwyl Golwg, rd, Fflur Dafydd, Me 7 wfo rn Cra dw zy Sa Kiz dd a Dy ll Roc gyd yn noddi Y Babe lar Se y Y n. mw + ffa Ste Gildas, Casi Wyn Santes Fair, ^ ^ arn O’Neils, Heol a f – Gwyl Swn, taf w, Radio Rhydd Hu Mr s, Nos Iau, 17 Hydre Od Yr n Y Selar gydag Caerdydd Llwyfa rd wfo Kizzy Cra

y-selar.com @y_selar facebook.com/cylchgrawnyselar yselar@live.co.uk

www.ylolfa.com hysbysA5.indd 1

selar_urdd2013.indd 15

29/07/2013 21:19

29/07/2013 22:43


Candelas Candelas Yn ystod haf pan fo dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg yn cael eu sbwylio’n rhacs am gynnyrch newydd o safon, does dim dwywaith mai dyma un o’r uchafbwyntiau. Mae Candelas wedi bod yn un o fandiau byw gorau Cymru dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ers rhyddhau eu EP cyntaf, Kim y Syniad ym Medi 2011. Bellach, gydag ychydig llai o wallt ac ychydig mwy o agwedd mae Candelas yn ôl gydag albwm sy’n rhannu enw’r grŵp. Aeth Y Selar am sgwrs sydyn gydag Ifan, y gitarydd. Beth yw enw’r albwm newydd? Candelas. A pham dewis ei hunan-enwi (os mai dyna’r gair!)? Ddim isho sbwylio’r clawr! Na, ’oddan ni’n ei weld o’n gweithio gan mai hwn oedd ein halbwm cyntaf ni a gan ei fod o’n ddwyieithog.

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Y nosweithiau ar ôl gorffen recordio am y dydd.

A rŵan, y cwestiwn pwysicaf, beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Ychydig o roc caled hefo ambell i gân bop. Sut mae o’n cymharu o ran steil gyda’r EP, Kim y Syniad, felly? Trymach o ran caneuon a sŵn lot fwy llawn. Rydych chi wedi aros dipyn cyn rhyddhau albwm cyntaf, ydi hynny’n beth pwysig? Ydy, os ydi rhywun dal ddim yn siŵr o’i sŵn (fel ’oddan ni). Doeddan ni ddim eisiau rhyddhau rhywbeth fyddan ni’n ei ddifaru, neu ryddhau rhywbeth a swnio’n hollol wahanol yn y dyfodol. ’Da ni wedi medru cael y sŵn odd yn ein pennau a’r caneuon gorau i’r albwm.

Oes yna unrhyw hanes difyr y tu ôl i’r gwaith celf? Dim felly, ond mae’r hogan yn neis tydi? Mae o’n glawr trawiadol iawn. Oes gennych chi hoff gân o blith y casgliad, a pham? ‘Cwrdd a Fi Yno’ ydi’r ffefryn achos doedd ganddo ni ddim syniad sut oedd hi’n mynd i droi allan yn y stiwdio ac yn dal i newid pethau ac ychwanegu neu dynnu pethau reit tan ddiwedd y recordio. ’Da ni’n falch iawn o sut mae hi wedi gweithio. Pa un fydd yr “hit”? Yn ôl yr ymateb ’da ni wedi ei gael gan wrandawyr Radio Cymru, twitter a ballu, ‘Anifail’ ydi’r “hit” ar y funud ond mae ’na ychydig o draciau eraill ar yr albwm sydd o’r un steil. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un yr ydych chi fwyaf balch ohoni? ‘Symud Ymlaen’ oherwydd

Lle fuoch chi wrthi’n recordio? Cyfuniad o Dŷ Siamas yn Nolgellau, fy nhŷ i (Aerfen, Llanfor) a thŷ Osh (Yr Hen Felin, Llanuwchllyn). Pwy fu’n cynhyrchu? Ni ein hunain. Ac ar ba label y cafodd o’i ryddhau? Rhyddhau’n annibynnol, Cyhoeddiadau Peno. Ar ba fformat mae o ar gael? Copi caled ar hyn o bryd ond mi fydd o ar iTunes a Spotify yn y dyfodol.

16

y-selar.com

selar_urdd2013.indd 16

29/07/2013 22:43


hoff m albw ei bod yn gân reit boblogaidd yn barod a hefyd wedi ei recordio o’r blaen. Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Dreifio gyda’r ffenestri i gyd lawr a’r stereo yn uchel! A fu lansio swyddogol? Do, wedi lansio ar y 6ed o Orffennaf yng Nghlwb Ifor Bach ag yn Nyth yng Nghastell Caerffili ar y 7fed. Rydych chi wedi perfformio yn Wakestock a Gŵyl Gardd Goll ers hynny wrth gwrs, ond beth am weddill yr haf, beth sydd ar y gweill? Chwarae yn gig Cymdeithas Yr iaith nos Iau Eisteddfod Dinbych gyda Jarman ac yna ym Maes B gyda Yr Ods ar y nos Wener. Yna taith EP Sŵnami ddiwedd Awst. Digon o gyfleoedd i hyrwyddo’r albwm felly, ond am rŵan, gwerthwch hi i ni mewn pum gair! Troi’n Anifail Yn Y Nos.

Pan nad yw Ifan a gweddill Candelas yn cyfansoddi, recordio, cynhyrchu a rhyddhau eu halbwm eu hunain, ar beth y maen nhw’n gwrando? Beth yw hoff albwm Ifan yn y categoriau canlynol tybed? Hoff albwm erioed? Because Of The TimesKings Of Leon Hoff albwm Gymraeg? Pwy Sy’n Galw? - Big Leaves Hoff albwm gan fand / artist o Gymru? Good Music- Colorama Hoff albwm yn y flwyddyn ddiwethaf? Like Clockwork – Queens of the Stone Age Yr albwm ddiwethaf i ti ei brynu? Comedown Machine – The Strokes

Griff ar y Gigs

Fel un fydd yn chwarae ym Maes B, yn gig Cymdeithas yr Iaith ac ar y maes yn Ninbych eleni, pwy well i roi ei farn ar gigs yr Eisteddfod na Griff Lynch. Mae’r Eisteddfod wedi cyrraedd unwaith eto a’r un hen gwestiwn yn codi - ydw i’n rhy hen i fynd i Faes B? Yn blwmp ac yn blaen, yr ateb ydi, na. Un o’r dadleuon dwi’n ei chlywed yn aml ydi, “Mae’r dorf yn ’fengach o lawer na fi, dwi’n teimlo’n hen”. Wel, ma’ hi wedi troi’n drychineb o fyd arnom ni pan fo pobl rhwng 25 a 35 yn cael eu bygwth a’u swilhau gan dorf sydd ddeg / ugain mlynadd yn ’fengach na nhw. Efallai y bysa yna faddeuant pe byddai’r bobl yma sy’n dweud eu bod yn rhy hen i Faes B, wedyn yn lle hynny, yn mynd i gigs Cymdeithas yr Iaith, ond o fy mhrofiad i, tydi hyn ddim wastad yn digwydd. Efallai fydd hynny’n wahanol eleni gyda lein-yp mor dda i nosweithiau’r Gymdeithas yn Neuadd y Dref a Thafarn y Gild. Y broblem fwyaf mae’n debyg, ydi nad ydi pobl isho mynd i Faes B na gigs y Gymdeithas achos ei bod hi mor gyfforddus wrth y bar ar faes y Steddfod. Mae’r gerddoriaeth yn cymryd rôl gefndirol, a’r cymdeithasu’n bwysicach. Ma’ hyn yn ddigon teg wrth gwrs achos nid pawb sy’n mwynhau cerddoriaeth fyw. Efallai fod yna ddadl i gau’r bar ar y maes yn gynt i anog pyntars i gyfeiriad y gigs, ond gallai hyn yr un mor hawdd eu harwain i dafarndai eraill yn y dre’ neu yn ôl i’w carafannau. Ond i chi sydd YN mwynhau bandiau Cymraeg, peidiwch â rhoi’r esgus eich bod chi’n ‘rhy hen’ i gigs, er mwyn cael aros wrth y bar yn llowcio. Wela’ i chi yn yr Eisteddfod. Da’ bo’. y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 17

17

29/07/2013 22:43


s u p a h d d y w l b n e P

Y

m 1988 daeth chwa o awyr iach i’r sin gerddoriaeth Gymraeg – ffurfiwyd label recordiau newydd o’r enw Ankst. Dau fyfyriwr ym mhrifysgol Aberystwyth oedd yn gyfrifol am y prosiect cyffrous, sef Alun Llwyd a Gruffydd Jones – y ddau’n teimlo fod galw am label Cymreig ar gyfer cerddoriaeth amgen. Ymunodd Emyr Glyn Williams fel partner ychydig yn ddiweddarach a rhwng 1988 a 1997 rhyddhawyd 81 o recordiau gan rai o artistiaid a bandiau mwyaf nodedig hanes y sin Gymraeg. Roedd y diwydiant cerddoriaeth yn prysur newid erbyn canol y 1990au a holltwyd Ankst yn ddau – aeth Emyr ymlaen i greu Ankst Musik, gan benderfynu dal ati i gyhoeddi cerddoriaeth tra bod Alun a Gruffydd yn awyddus i addasu a dod yn gwmni rheoli. Roedd Ankst yn rheoli Super Furry Animals, Gorkys Zygitic Mynci, Melys a Topper a thrwy hynny’n ganolog i holl gyffro symudiad ‘Cŵl Cymru...ac mae’r gweddill yn hanes. I nodi chwarter canrif ers ffurfio un o labeli mwyaf dylanwadol Cymru, dyma restr 10 uchaf recordiau gorau Ankst... Y Gwefrau – Y Gwefrau (1989) Ankst 010 Aml-gyfrannog – Ap Elvis (1993) Ankst 038 Un o grwpiau cynnar Huw ‘Bunf’ o’r Super Furry’s a grŵp bach da Datblygu, Catatonia, Beganifs, Gorkys, Steve Eaves, Ffa Coffi, Geraint iawn oedden nhw hefyd. Ail gân yr EP, Miss America, yn glasur. Jarman, Tŷ Gwydr, Diffiniad ... i gyd ar un record!!! Y Cyrff – Llawenydd heb Ddiwedd (1990) Ankst 016 Sibiant, Colli er mwyn Ennill, Euog, Llawenydd heb Ddiwedd, Eithaf... oes Super Furry Animals – Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyndrobrhaid mynd ymlaen? Albwm lawn cyntaf y cewri cerddorol o Lanrwst. wllatysiliogogogochynygofod (in space) (1995) Ankst 057 Tŷ Gwydr – Reu (1990) Ankst 019 Record gyntaf SFA a lle yn Llyfr Recordiau Byd Guiness am yr enw Dyma’r record ddechreuodd yr hoff ffenomena ‘Reu’! hiraf ar EP! Steve Eaves – Croendenau (1992) Ankst 028 Gorkys Zygotic Mynci – Bwyd Time (1995) Ankst 059 ‘Sanctaidd i Mi’, ‘Noson Arall Efo’r Drymiwr’, ‘Rhywbeth Anodd dewis rhwng holl recordiau cynnar y Amdani’, ‘Ffŵl Fel Fi’, ‘10,000 Folt Trydan’, ‘Rhai Pobl’ Bydd Alun Llwyd, un o Gorkys, ond gyda thraciau ‘Miss Trudy’, ‘Iechyd - albwm orau Steve Eaves o bosib? sylfaenwyr Ankst, yn siarad Da’, ‘The Game of Eyes’ a ‘Gewn ni Gorffen’ Ffa Coffi Pawb – Hei Vidal (1992) Ankst 036 am hanes y label fel rhan o dyma un o albyms gorau’r grŵp gwych o’r Albwm olaf ac orau Ffa Coffi Pawb cyn iddyn nhw arlwy Gŵyl Golwg yn Llanbedr gorllewin, chwalu, ac i Gruff a Daf fynd ati i ffurfio Super Pont Steffan ar 7 Medi – Topper – Arch Noa EP (1997) Ankst 073 Furry Animals. gwylgolwg.com Record gyntaf yr hogia’ o Benygroes. Wnaethon Datblygu – Libertino (1993) Ankst 037 nhw ddim cweit gyrraedd lefel ‘cŵl Cymru’ SFA, Casgliad mwyaf cynhwysfawr a gorau un o grwpiau Gorkys a Catatonia ond roedden nhw’n agos iawn. pwysicaf y sin Gymraeg.

18

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 18

29/07/2013 22:43


Y Stiwd Gefn io

8.25 27 Aws t

Ymlaci a gerdd a mwynha oriaeth se artistia gyda r siwn id cyfo h es gor ai o au Cym ru.

s4c.co .uk

Y Selar Ad.indd 1

10/07/2013 15:50

CynnyrCh newydd Gwibdaith Hen Frân £9.99 Yn ôl ar y Ffordd

Albwm newydd llawn hwyl, dychan a digon o ganu iach!

Georgia Ruth £9.99 Y Bandana £9.99 Yr Ods £9.99 Swˆnami £5.99

Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig o £9.99 i £4.99

Mwy o gynigion arbennig ar stondin sain yn yr eisteddfod - rhif 846-848 PoSt yn rHaD ac aM DDiM wrtH arcHebu Drwy www.SainwaleS.coM defnyddiwch y cod 06152013 i gael 15% i ffwrdd oddi ar archebion y we

selar_urdd2013.indd 19

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

29/07/2013 22:43


adolygiadau Llithro Yr Ods Er gwaetha’r teitl, nid yw safonau’r Ods wedi ‘Llithro’ ac mae’r ail albwm cystal, os nad gwell, na’r cyntaf. Er eu bod yn cael eu hadnabod am ‘hits’ bachog ond mae’r band i weld yn troi i gyfeiriad ’chydig yn wahanol y tro hwn. Mwy o ganeuon o safon, er na fydd cymaint o ganu arnyn nhw mewn gigs efallai. Mae melodiau a strwythur llawer symlach i’r caneuon ar Llithro, gyda’r traciau agoriadol ‘Dim Esboniad’ a ‘Rhywbeth i Rhywun’ yn enghreifftiau da. Dydyn nhw ddim yn ganeuon mor brysur a llawn â thraciau Troi a Throsi, ond mae ’na deimlad mwy aeddfed i’r sŵn a naws mwy gwleidyddol i rai o’r geiriau. Cân ora’r albwm i mi yw ‘Gad Mi Lithro’. Dechreua’r gân yn eithaf araf a distaw, cyn adeiladu i ddiweddglo epig – allai weld nhw’n cloi set fyw efo hon! Er bod newid wedi bod yn y sŵn, yn aelodau’r band ac yn y cynhyrchydd, mae Llithro yn esiampl arall o allu Yr Ods i greu casgliad safonol iawn o ganeuon. 9/10 Owain Gruffydd Sgwennu Stori Gildas Cawn ein croesawu i’r albwm dlws yma yn sŵn harmonïau, offerynnau pres a samplau anifeiliaid ‘Y Gusan Gyntaf ’, trac sy’n codi calon. ‘Gweddi Plentyn’ sydd nesaf, trac llai mawreddog ond harmonïau swynol iawn gan Greta a Miriam Isaac. Mae mwy o fynd wedyn i ‘Y Gŵr o Gwm Penmachno’ ac mae’n amhosib peidio tapio’ch troed i’r trac hwn.

selar_urdd2013.indd 20

Ceir drymiau electronig ar ddechrau ‘Elenbenfelen’, tri munud o gerddoriaeth syml ac ailadroddus ond unigryw a seicadelig bron ar yr un pryd. Gitâr yn efelychu sŵn Clychau Eglwys sy’n agor y trac nesaf, ‘Clychau’. Trac offerynnol sy’n dal ei dir ochr yn ochr â’r lleill. Synth, llinynnau, gitâr acwstig, a llais yw elfennau ‘Kenny’ - cyfuniad anarferol o offerynnau a sŵn hollol wreiddiol. ‘Sgwennu Stori’ sydd nesaf, deuawd wefreiddiol gydag Arwel a Greta Isaac, llais cyfarwydd iawn erbyn hyn yn yr albwm. Dyma uchafbwynt yr albwm i mi’n sicr. Daw trac 8 ‘Carreg Cennen’ a ni nôl i’r ddaear gyda phedair munud o brydferthwch cyn diflannu mewn eiliad. Mae’r offerynnau i gyd yn cael eu plygio mewn ar gyfer y trac olaf ‘Dweud y Geiriau’ sy’n falad llawn emosiwn i gloi’r albwm. Pleser llwyr oedd gwrando ar yr albwm yma, un ar gyfer diwedd diwrnod hir, gyda phaned. 8/10 Cai Morgan

Plu Plu Mae ’na edrych ymlaen wedi bod am yr albwm yma, a dwi’m yn meddwl y bydd llawer yn cael eu siomi. Tarwch hi, caewch eich llygaid, a ’da chi ar strydoedd cul Llydaw gyda gwydraid o win gwyn oer yn eich llaw a gwres yr haf o’ch cwmpas. Os fasa’r albwm yma’n brofiad, dyna be fasa fo. Mae lleisiau’r triawd Rhys fel hufen ia, yn felfedaidd a blas mwy arno – y tri yn hyderus yn unigol ac yn gweithio’n hyfryd gyda’i gilydd. Mae yma ganeuon gwerin traddodiadol, caneuon jazz eu naws a thipyn o ganu gwlad. Dewis da o hen ganeuon fel ‘Hiraeth’, a chyfansoddi penigamp i’w glywed mewn caneuon gwreiddiol fel ‘Fyddai’m yn Ddiarth’. Os fasa gen i un gŵyn ella bod ’na ormod o ganeuon ara’ deg ac y byddai un neu ddwy gyflymach ’di amrywio’r profiad gwrando, ond fel arall, penigamp. Dwi ’di brolio digon rŵan dwch?! 9/10 Casia Wiliam AID O RHRAND GW

Du A Gwyn Swnami ^

EP gan Sŵnami medde chi? Wel, mae hyn yn newyddion da. Ac mae ffan mwyaf y band, Leusa Fflur (os ydych chi’n anghytuno â’r datganiad yma, mae croeso i chi gysylltu â’r Selar), yn mynd braidd yn wallgo’ am y peth. Ydy, mae’n newyddion da achos dwi’n hoff iawn o Sŵnami (dim cymaint â thi Leusa). A dwi’n falch o ddatgan nad yw’r casgliad o 5 cân yma’n siomi o gwbl. I’r gwrthwyneb. Mae’r EP yn agor gyda ‘Yn y Nos’ sy’n egniol ac yn dal sylw’n syth. A dyna’r gwir am yr holl EP, mae’n fy ngwneud i’n hapus. Syml! Mae llais y prif leisydd, Ifan Davies, yn ddi-ymdrech o dda, a’r riffs gitâr yn cario’r cyfan. Mae’r EP yn llawn wneud cyfiawnder â’r band, ac yn un swmp-5-cân o diwns. Ond da chi, ewch mas i’r haul i’w gweld nhw’r haf yma achos dyna pryd maen nhw wir yn disgleirio. 8/10 Lowri Johnston

Candelas Candelas Llwyddai Candelas i greu casgliad amrywiol o ganeuon cofiadwy wrth blethu melodïau a riffs cryf gyda’i geiriau bachog ac uniongyrchol yn gampus. Daw llawer o ddylanwadau’r band i’r amlwg wrth wrando, ond rhaid dweud fod dylanwad Arctic Monkeys i’w glywed yn gryf yn y naws roc-aidd, trwm ac ysgafn sy’n cael ei gyflwyno. Cyfunai’r band ganeuon â naws trwm iddynt fel ‘Anifail’ a ‘Llewpart Du’ gyda chaneuon ysgafnach fel ‘Dant y Blaidd’ a ‘Symud Ymlaen’, gan wneud yr albwm yn ddiddorol dros ben a sicrhau fod yma rywbeth i bawb. Bydd caneuon fel ‘Cofia Bo fi’n Rhydd’ a ‘The Moon’ yn fwy o glasuron nac ydynt yn barod yn y dyfodol. Mae dwyieithrwydd yr albwm hefyd yn beth gwych yn fy marn i gan y gall ennill dilynwyr y tu allan i Gymru. Does dim gorddefnydd o unrhyw effeithiau ychwanegol yma ac mae natur

29/07/2013 22:43


byw a hynod amrwd y record yn rhoi i ni wir sŵn Candelas. Dyma gasgliad sy’n sicr yn cicio’r gwrandawyr yn eu hwynebau. Trowch hi fyny i un ar ddeg a chofiwch wrando tan y diwedd un! 8/10 Ifan Prys Pop Ar Y Radio Huwbobs Pritchard Dwi wedi cael y pleser o wylio HuwBobs Pritchard (Neu Bobs gynt) yn chwarae’n fyw ddwywaith ac mae o’n dipyn o brofiad. Mae o’n ymddangos o rywle bob hyn a hyn ac yn rhoi gwers i unrhyw un ar sut i ddangos ychydig o bersonoliaeth ar y llwyfan. A dyna’n union gawn ni ar yr albwm newydd yma hefyd – personoliaeth. Dechreua’r casgliad ar dân gyda ‘Cenedl’ sy’n llawn angerdd ac agwedd. Ceir traciau arafach fel ‘Un prynhawn’ ac ‘Euog’ hefyd sy’n llawer mwy personol, ac mae i rain eu rhinweddau. Ond i mi, mae HuwBobs yn ffynnu pan mae yna fwy o fynd i’r caneuon fel yn ‘Plygu!’ sef yr uchafbwynt heb os. Does yna ddim un dwy gân yn debyg, felly mae yma amrywiaeth hyd yn oed os nad oes teimlad o gyfanwaith. Wedi dweud hynny, mae’r geiriau’n cynnig cysondeb i’r casgliad. Beirniadaeth gymdeithasol boi sydd wedi byw sydd yma. Nid yr albwm i’r gwangalon efallai ond os am rywbeth gwahanol yr haf hwn, ewch amdani. 7/10 Gwilym Dwyfor Lliwiau Plant Duw Mae Plant Duw yn un o’r bandiau hynny sydd wedi bod o gwmpas ers sbel ond erioed wedi cael y clod maen nhw’n ei haeddu . ‘Distewch, Llawenhewch’ oedd un o albyms gorau 2011 mewn unrhyw iaith ond eto anaml mae rhywun yn clywed clasuron fel ‘Lawr wrth yr Afon’ ac ‘Emyn’ ar y radio. Mae’r EP Lliwiau unwaith eto’n record fedrus iawn ac fel holl allbwn Plant Duw, mae’r sŵn yn unigryw iddyn nhw. Er mai slogan y band yw “enaid, pync,

selar_urdd2013.indd 21

cariad” mae Lliwiau yn record reit hamddenol ar y cyfan gyda’r banjo yn ‘Y Ffenast’ a naws Caribïaidd ‘Heno Ges i Gannwyll gan fy Nghariad’ yn ychwanegu at hynny. Yr un gân sydd ddim cweit yn ffitio yw C.O.B (Cofio o’r Blaen) sydd wedi ei gorfodi braidd, ond gan mai siop Recordiau Cob oedd un o’r ychydig lefydd gwerth chweil yn ninas Bangor, cyn iddi gau, mae’n anodd peidio maddau’r sentiment. Er nad yw’r record yn cyrraedd uchelfannau ‘Distewch, Llawenhewch’ mae’n gyflwyniad da i un o fandiau gorau Cymru heb orfod buddsoddi amser ac arian mewn albwm llawn. Wedi’r cwbl, onid Plant Duw ydyn ni pob un? 7/10 Ciron Gruffydd Symud Ymlaen / Diweddglo Y Reu Fe fydd riff gitâr araf agoriadol ‘Symud Ymlaen’ yn sownd yn eich pen am ddyddiau ar ôl gwrnado ar y sengl hon. Mae’r haenau’n adeiladu’n daclus wedi hynny hefyd i greu cân roc gref. Ro’n i’n disgwyl iddi adeiladu eto at y diwedd ond wnaeth hynny ddim digwydd, sydd yn reit glyfar. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, trac electronig ei naws yw ‘Diweddglo’. Ac os mai gitâr ‘Symud Ymlaen’ sy’n aros yn y cof, geiriau gwych fel “y bluen yn dy gap yn rhy drwm i dy ben” sy’n tynnu sylw yn hon. Dwi’n ama’ y bydd gan bawb ffefryn clir oherwydd y gwahaniaeth rhwng y ddau drac (‘Symud Ymlaen’ sy’n mynd â hi i mi). Mae hyn yn gweithio ar sengl ond fe fydd hi’n ddiddorol gweld pa lwybr fydd Y Reu yn ei gymryd yn y dyfodol os yn rhyddhau EP neu albwm. 7/10 Gwilym Dwyfor 1982-1984 Y Tapiau Cynnar Datblygu Mae’n siŵr gen i mai Datblygu ydy un o eiconau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg. Ymwybodol o hynny neu beidio, mae pob

un o’n hartistiaid cyfredol ni wedi’i dylanwadu arnynt gan y grŵp yma. Rhyddhaodd AnkstMusik gasgliad Datblygu 1985-1995 ar ddiwedd y mileniwm, yn cynnwys holl ganeuon amlycaf y grŵp ac yn hanfodol i unrhyw gasgliad cerddoriaeth Gymraeg. Ond, roedd Datblygu cyn hynny – wedi ei ffurfio gan Dave Edwards a T. Wyn Davies ym 1982. Mae’r casgliad newydd yn cynnwys y 5 casét a ryddhawyd gan Datblygu ar label Neon ac mae’n gofnod hollbwysig o gyfnod cynnar y grŵp. Tydi’r traciau yma ddim mor hygyrch â rhai diweddarach Datblygu ... ac mae hynny’n dweud rhywbeth! Mae’r gwrandawiad cyntaf yn un anodd, ond mae’n werth dyfalbarhau a gwrando eilwaith a theirgwaith er mwyn dechrau gwerthfawrogi’r hyn sy’n cuddio dan yr wyneb amrwd. Mae nifer o draciau’r albwm Fi Du yn arbennig yn awgrym clir o’r athrylith fyddai’n dod i’r amlwg. 7/10 Owain Schiavone dana Bywyd Gwyn Y Bandana Does ’na ddim dadlau am allu cerddorol Y Bandana na chwaith allu Gwilym fel prif leisydd. Yr unig beth dwi wedi ei gwestiynu yn y gorffennol ydy eu dawn ysgrifennu caneuon, ond dwi falch o gyhoeddi nad yw honno’n broblem ar Bywyd Gwyn. Arwydd o fand da ydi eu bod yn gallu newid a datblygu ac mae dau fand mwyaf y sin, Yr Ods a Cowbois, yn enghreifftiau perffaith. Oes, mae yna ambell drac dwi wedi eu clywed ddigon yn barod fel ‘Byth yn Gadael y Tŷ’ a ‘Geiban’ ar yr albwm hon, ond ar y cyfan mae o’n gasgliad cryf. Mae intro gitâr y gân gyntaf ‘Cyffur’ yn gofiadwy iawn ac mae hi’n datblygu wedi hynny i fod yn gân dda. Dwi’n eitha’ licio ‘Ffwrnais’ hefyd ond efallai mai ‘Gwyn ein Byd’ yw’r uchafbwynt yn gerddorol ac yn sicr yn eiriol. Cerddoriaeth felys ar gyfer pobl ifanc hapus sydd yma o hyd, ond yn gynyddol bellach, mae Y Bandana yn rhoi sylwedd y tu ôl i’r siwgr 7/10 Gwilym Dwyfor

29/07/2013 22:43


Tybed pa eitemau cerddorol Cymraeg sydd wedi bod yn newid dwylo arlein dros y misoedd diwethaf. Dyma ddetholiad o’r mwyaf diddorol...

£ Bathodyn ‘Y Trwynau Coch’ lliw coch (Band Pop/ Pync Cymraeg 1970au)-Prin Pris Gwerthu: £3.50 (1 cynnig) Disgrifiad: Bathodyn lledr coch prin gydag ‘Y Trwynau Coch’ - band pop/pync Cymraeg o’r 1970au - wedi’i argraffu arno. Mae’r bathodyn wedi’i ddefnyddio ond mewn cyflwr da iawn am ei oedran gyda’r pin gwreiddiol o hyd. Dwi ddim yn credu i nifer o’r bathodynnau yma gael eu gwneud felly mae hwn yn wych ar gyfer unrhyw gasglwr. 5cm mewn diamedr. Barn Y Selar: Eitem fach ddifyr iawn gan un o’r grwpiau Cymraeg mwyaf chwedlonol. Mae nwyddau fel hyn yn bethau ddigon prin felly synnu nad oedd mwy o gynigion.

Hanner Dwsin, Ysbryd Y Nos/Dan Y Dŵr. Sengl 7” iaith Gymraeg SAIN 112S, 1985 Pris Gwerthu: £5.19 (3 cynnig) Disgrifiad: Sengl saith modfedd iaith Gymraeg, record mewn cyflwr ardderchog, mae 2.07 wedi’i sgrifennu mewn inc ar y label ar ochr B a’r llawes mewn cyflwr da iawn gydag ychydig o grychu yn y corneli. Barn Y Selar: Ychydig o nostalgia i blant yr 80au cynnar! Hanner Dwsin oedd y grŵp dychmygol oedd yn serennu mewn cartŵn ar S4C, gan frwydro yn erbyn y dihiryn ‘Cysgod’. Rhai o gerddorion gorau Cymru wedi gweithio ar y caneuon, gyda Dewi Pws a Gillian Elisa’n canu ar y traciau. Copi mewn cyflwr tipyn gwell wedi gwerthu am 19c yn llai rai wythnosau wedyn doh!

Endaf Emlyn: Salem - SAIN 1012M Pris Gwerthu: £31.00 (13 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: LP gwerin asid Cymraeg da iawn ar label cynyddol gasgladwy Sain. Cymysgedd dda iawn o steil gwerin meddal a ffanffer avant. Albwm cysyniadol iaith Gymraeg gyda digwyddiadau Salem yn ganolbwynt i’r cyfan. O flwyddyn 1974.

22

Llawes: Ardderchog. Mae’r cefn sydd heb ei lamineiddio wedi colli ychydig o liw ac mae cinc bach ar un gornel Record: Ardderchog. Ambell farc ysgafn yn dangos dan olau llachar iawn - mae ambell gracyl ond dim mwy na hynny wrth chwarae. Barn Y Selar: Un o’r cerddorion Cymraeg gorau a phwysicaf. Ei albwm cyntaf, Hiraeth, a ryddhawyd yn yr un flwyddyn ar label Wren yw’r fwyaf gwerthfawr, ond mae Salem yn record eiconig a gwerthfawr i unrhyw gasgliad recordiau Cymraeg. Pris teg i’r prynwr a’r gwerthwr.

C A

S L S D

Pererin - Haul ar yr Eira Pris Gwerthu: £121.01 (13 cynnig) Disgrifiad: Record feinyl gwerin blaengar ar y label Gwerin prin. Rhif catalog SYWM215, 1980. Wedi’i lofnodi gan Einion Williams. Clawr: Da iawn + Record: Da iawn + (ambell pop) Barn Y Selar: Pererin oedd un o brosiectau cynnar Arfon Wyn ac Einion Williams o’r Moniars erbyn hyn. Mae’r albwm yma, sef eu cyntaf, yn cynnwys Nest Llewelyn o Brân (mam Elin Fflur) yn canu a chwarae’r allweddellau. Mae diddordeb rhyngwladol enfawr yn y grŵp a’r recordiau’n gasgladwy iawn felly nid yw’n syndod gweld yr eitem yn gwerthu am bris sylweddol.

G C F A S A A

Rhaglen Albert Hall 2013 wedi’i lofnodi gan Gruff Rhys Pris Gwerthu: £7.00 (7 cynnig) Disgrifiad: Cafodd y rhaglen yma’i lofnodi pan chwaraeodd Gruff Rhys yn ein sioeau Albert Hall eleni. Fe gyfrannodd yr eitem wedi’i lofnodi i’n helpu i godi arian at bobl ifanc gyda chancr. Barn Y Selar: Eitem fach wahanol a diddorol arall, ac mae llofnod un o sêr mwyaf cerddoriaeth gyfoes Cymru wedi denu rhywfaint o ddiddordeb. Roedd Gruff yn cefnogi set arbennig gan Noel Gallagher, Damon Albarn a Graham Coxon mewn un o gyfres o nosweithiau i godi arian i’r ‘Teenage Cancer Trust’ ym mis Mawrth eleni.

SG LL

Hein Man Alan Ed T

Am

y-selar.co.uk

selar_urdd2013.indd 22

29/07/2013 22:43


MEDI 7

£8 oedolyn £5 o

fed 2013

PLANT

flaen llaw AM DDIM

10.30 TAN 19.30

CAMPWS PRIFYSGOL Y DRINDOD DEWI SANT

LLAnBED

CERDDORIAETH ACWSTIG SGYRSIAU LLENYDDOL SESIYNAU DIGIDOL

ADLONIANT I’R

PLANT

gwyl

GWEITHDAI CELF FFILMIAU ARCHIF STONDINAU AMRYWIOL ARDDANGOSFEYDD SGYRSIAU LLENYDDOL

a mwy NOS IAU

Theatr Felinfach 7.30

‘GOLWG GO WHITH’

SESIYNAU DIGIDOL

Heini Gruffudd, Gerwyn Wiliams, sesiynau’n trafod apps, Manon Steffan Ros, Dylan Iorwerth, blogio, trydar, ffilmio Alan Llwyd, Dafydd Hywel, gyda ffôn a llwyth o bethau digidol eraill Ed Thomas, Geraint Evans a mwy...

Am wybodaeth pellach 01570 423529

selar_urdd2013.indd 23

Dona Direidi Sioe Wcw Sgiliau Syrcas Angharad Tomos Kariad y Clown

Gildas CERDDORIAETH ACWSTIG Dewi Pws Fflur Dafydd

Casi Wyn Si ddi Kizzy Crawford

www.gwylgolwg.com

@gwylgolwg

gyda • Gary Slaymaker • Eirlys Bellin • • Ifan Gruffydd • Ifan Jones Evans • • Heledd Cynwal • Aeron Pugh • £8 • Iwan John •

NOS WENER

7.00

Neuadd Celfyddydau, Prifysgol Llanbed

£8

GIG GW^ YL GOLWG

• Cowbois Rhos Botwnnog • • Bob Delyn a’r Ebillion • Elin Fflur • • Bromas • Mellt •

29/07/2013 22:43


Profiad Cymraeg a Chymreig mewn Prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol

Ar frig y don

www.abertawe.ac.uk

selar_urdd2013.indd 24

01792 60 20 70

astudio@abertawe.ac.uk

29/07/2013 22:43


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.