Y Selar - Mawrth 2014

Page 1

y Selar RHIF 36 | Mawrth | 2014

kizzy t Artis dd Newy u Gora 2013

gwobrau’r selar | castro | 10 uchaf albymsy-selar.co.uk 2013

1


Georgia Ruth Enillydd : Gwobr Cerddoriaeth Gymraeg 2013 Enwebiadau : Trac Traddodiadol Gorau a Gwobr ‘Horizon’ yn y BBC Radio 2 Folk Awards ar Chwefror 19, Neuadd Frenhiniol Albert, Llundain Georgia Ruth £9.99 Week of Pines Gwibdaith Hen Frân £9.99 Yn ôl ar y Ffordd

Albwm newydd llawn hwyl, dychan a digon o ganu iach!

Yr Ods £9.99 Llithro Y Bandana £9.99 Bywyd Gwyn Swˆnami £5.99 Du a Gwyn

Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig o £9.99 i £4.99

PoSt yn rHaD ac aM DDiM wrtH arcHebu Drwy www.SainwaleS.coM

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


y Selar

cynnwys

RHIF 36 | Mawrth | 2014

Kizzy Crawford

4

Golygyddol

Trydar

7

Gwobrau’r Selar

8

Anodd credu ei bod hi’n amser y gwobrau unwaith eto. Do, fe ddiflannodd blwyddyn arall yn gynt na gobeithion y Moniars o gipio gwobr Band neu Artist Newydd Gorau. Ac efallai mai’r rheswm iddi fynd mor sydyn oedd y ffaith ei bod hi’n flwyddyn cystal i gerddoriaeth Gymraeg. Cymerwch gategori’r Record Hir Orau fel rhyw linyn mesur. Bu rhaid i ni grafu gwaelod y gasgen go iawn i ffurfio rhestr hir ddeuddeg mis yn ôl ond cawsom ein meddwi’n llwyr eleni yng nghanol yr holl ddewis. Efallai fod cerddoriaeth Gymraeg yn haeddu llai o arian na deg priodas ar y gyfres Don’t Tell The Bride yn nhyb rhai ond mae’n amlwg ei fod yn werth llawer mwy nag arian i’r holl gerddorion fu’n weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma ein cyfle ni, ddilynwyr yr SRG, i ddangos ein gwerthfawrogiad a gwobrwyo’r goreuon. Gwilym Dwyfor

10 Uchaf Albyms 2013

10

Castro

12

Ti ’di clywed ...

16

O glawr i glawr

18

Adolygiadau

22

4

8

Llun clawr: Warren Orchard

12

16

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com)

CYFRANWYR Casia Wiliam, Griff Lynch, Lowri Johnston, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Cai Morgan, Lois Gwenllian

yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Cappuccino gyda

O

Kizzy

Rydychen i Landeilo, ac o Ferthyr i ddisgleirio’n llachar yng nghanol bwrlwm cerddoriaeth gyfoes Cymru. Mae Kizzy Crawford wedi dod ymhell a hithau ddim ond yn ddwy ar bymtheg, a dim ond dechrau’r daith ydy hyn i’r ferch sydd â gwreiddiau ym Marbados ac angerdd tanbaid at Gymru a’r Gymraeg. Ond mae’n debyg y bu bron i Kizzy sydd wedi ei henwebu mewn 4 categori yng Ngwobrau’r Selar eleni - roi’r gorau i ganu yn gyfan gwbl ychydig flynyddoedd yn ôl. “Ro’n i wastad yn perfformio yn y steddfod ond ro’n i wastad yn rili nerfus a ro’n i wedi cael llond bol o ganu’r un math o ganeuon, felly pan oeddwn i ym mlwyddyn 7 nes i ddweud bo’ fi byth ishe canu eto,” meddai Kizzy, gan gymryd sip o’i cappuccino ac yn edrych allan ar Gaerdydd yn y glaw am eiliad. “Mi wnaeth y steddfod roi hyder i fi a chyfle i berfformio, a dwi’n hynod ddiolchgar am hynny . Ond cefais fy mwlio’n hiliol yn yr ysgol, felly ro’n i yn eitha paranoid am beth oedd pobl yn meddwl ohona i, a hefyd roedd pobl wastad yn dweud ei bod hi’n amhosib gwneud gyrfa o ganu, felly nes i ddweud bo’ fi ddim am ganu eto.” Ac yn sydyn dwi’n ymwybodol iawn ’mod i’n sgwrsio gydag artist difrifol ac aeddfed, nid merch ifanc ddiniwed. A dwi’n ysu i wybod be’ ddigwyddodd i wneud iddi newid ei meddwl. “Pryd o’n i’n 13 nes i brynu gitâr o Argos a dysgu fy hun i chwarae. ’On i’n gwrando lot ar Gwyneth Glyn bryd hynny a nes i ddechrau sgwennu stwff fy hun. Un diwrnod nes i chwarae un o fy nghaneuon i mam ac fe ofynodd hi ‘pa cover yw honna’? So ar ôl hynny nes i barhau i ganu

4

y-selar.co.uk

Mae Kizzy Crawford wedi bod yn un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ers blwyddyn neu ddwy bellach, ac yn awr mae gan y gyfansoddwraig ifanc o Ferthyr EP newydd gwych ar ein cyfer. Mae Temporary Zone allan ers diwedd 2013 a Casia Wiliam fu’n holi Kizzy am ei thaith hyd yn hyn, yr EP a’i chynlluniau i’r dyfodol.

a sgwennu fy nghaneuon fy hun.” A diolch byth am hynny. Mae Kizzy newydd ryddhau ei EP cyntaf sef Temporary Zone – EP Ddwyieithog sydd wedi ei recordio a’i chymysgu gan Amy Wadge, ei meistroli gan Gethin John a Matthew Evans, a’i rhyddhau ar label See Monkey Do Monkey o Gaerdydd (yr un label a Charlotte Church). Gyda’i llais pur, alawon byrlymus, riffiau cofiadwy a geiriau sydd ag ôl gwir feddwl arnyn nhw, mae’n brofiad bendigedig gwrando ar gerddoriaeth Kizzy. Ond gyda’r rhinweddau hynny’n gyson trwy ei gwaith mae hi hefyd yn cynnig amrywiaeth anhygoel; o ganeuon gwerin, i jazz, a ffync a roc ar adegau. Ysbrydoliaeth “Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan lawer o bobl,” meddai Kizzy, wrth i mi ei holi sut mae’n mynd ati i gyfansoddi. “Dwi wedi cael lot o ysbrydoliaeth gan farddoniaeth yn ddiweddar – Waldo Williams, T. H. Parry Williams, Gwyn Thomas, a cherddorion fel Meic Stevens, John Cale

a Steely Dan sy’n enw mawr ar y sin jazz. Dwi’n hoffi cerddoriaeth glasurol hefyd, a baróc, a phobl fel Nick Drake, Kate Bush, Tracy Chapman.” Mae’r enwau yn dod yn un afon ac mae’n amlwg mai cerddoriaeth ydy cyffur Kizzy. “Nes i astudio celf yn TGAU hefyd ac mae gwaith celf yn dylanwadu arna’i. Byd natur hefyd, ges i fy magu yng nghefn gwlad tawel Aberaeron felly dwi wastad wedi hoffi natur.” Mae’r gymysgedd anarferol hyn i’w glywed yn amrywiaeth ac ystod cerddoriaeth Kizzy, a da chi ewch i’w gweld hi’n perfformio yn fyw. Mi weles i Kizzy am y tro cyntaf mewn tafarn fach fach ym mae Caerdydd mewn noson Cwpwrdd Nansi, a gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon bod pawb yno wedi eu swyno gan y ferch droednoeth yn ei ffrog goch yn cyfuno llais trydanol gyda gitâr a loop pedal. “Dwi’n mwynhau perfformio’n fyw. Nes i ddechrau gwneud open mic yn ardal sir Gaerfyrddin pan o’n i tua blwyddyn 8 a 9. Ma’ raid i ti gadw dweud wrth dy hun ti ddigon da achos mae’n anodd pan ti’n cael gigs pan di’r gynulleidfa ddim yn gwrando.” “Ond nes i gefnogi Meic Stevens mewn gig yn y Parrot yng Nghaerfyrddin ac roedd pawb yn gwrando yno! Roedd hi mor neis cwrdd â Meic, a nath e’ brynu fy EP! Roedd mam yn dweud, Kizzy, ti ’di ’neud hi nawr bo’ ti ’di cefnogi Meic Stevens!” Ond er ei bod hi wedi cefnogi’r hen Feic mor ifanc, diolchgar a diymhongar yw’r geiriau fyddwn i’n eu defnyddio i ddisgrifio Kizzy Crawford. Mae hi’n astudio ar gyfer Lefel A Cymraeg ac yn helpu ei mam gyda’i thair chwaer ac un brawd iau adref ym Merthyr, ond ar wahân i hynny mae’n canolbwyntio ar ei cherddoriaeth ac yn cymryd pob gig, pob ymarfer a phob cyfle yn gwbl o ddifrif.


“Cefais fy mwlio’n hiliol yn yr ysgol, felly ro’n i yn eitha paranoid ...”

Wedi ennill cystadleuaeth Canwr/ Cyfansoddwr Merthyr a Rhondda Cynon Taf 2012, ennill Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol 2013, canu yn WOMEX a Sŵn, cefnogi Newton Faulkner, clywed ei cherddoriaeth ar BBC 6Music, cael sengl ac artist yr wythnos ar BBC Radio Wales, a rhyddhau EP, beth all fod nesaf i’r ferch hon sy’n prysur wneud enw iddi hi ei hun? “Mae gen i lot o gigs yn dod lan i hyrwyddo’r EP, ac mae gen i brosiect ar y gweill gyda Sam o’r grŵp Calan hefyd – gwyliwch mas am rywbeth â steil hollol wahanol! Ac mae’n siŵr y bydda i’n gweithio ar albwm cyn bo hir.” “Os fyddwn i’n cael recordio gydag unrhyw un? Yn y byd? Corinne Bailey Ray, a Seal, mae Seal yn amazing, a Gareth Bonello - bydden i wrth fy modd os fydden i mor dda â fe ar y gitâr ryw ddiwrnod! “Ond fi’n gobeithio jyst gorffen fy Lefel A, ac efallai mynd i brifysgol, sa’ i’n siŵr eto, ond byddai’n trio gweithio a chael arian, ac ysgrifennu mwy a pherfformio. Canu yw’r peth sy’n gwneud fi’n hapus.” Ac wrth i’r sgwrs, a’r cappuccino ddod i ben, mae’n diolch i mi, eto, cyn diflannu o dan gymylau duon storm fis Ionawr i ddal trên yn ôl i Ferthyr, ond mae’n gadael rhywbeth ar ei hôl, ond dwi ddim yn siŵr sut i’w ddisgrifio fo. Rhyw deimlad trydanol; gwreichion efallai fyddai’r gair agosaf ati. Cadwch eich llygaid ar y seren hon , mae hi’n sâff o danio cyffro tu hwnt i Gymru fach yn fuan iawn, ond does dim peryg iddi anghofio ble mae ei gwreiddiau. Gwrandwch yn astud ar gân ola’ Temporary Zone – ‘Enaid fy Ngwlad’.

Llun: Warren Orchard

Cynlluniau

y-selar.co.uk

5


Cerddoriaeth

Gorau 2013 Bydd y rhai craff ohonoch yn gwybod ein bod ni wedi penderfynu cyflwyno categori newydd sbon danlli i Wobrau’r Selar eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn dda am fideos cerddoriaeth, rhwng y fideos rheolaidd mae Ochr 1 wedi bod yn cynhyrchu, a’r fideos annibynnol mae nifer o artistiaid wedi bod yn cyhoeddi ar-lein. Roedd yn amser da i gyflwyno categori newydd i’r gwobrau felly, i ddathlu gwaith gwych y rhai sydd wedi bod yn cyfarwyddo’r fideos yma. Eleni, tasg panel gwobrau’r Selar oedd dewis yr enillydd, ond y bwriad yn y dyfodol yw ychwanegu’r categori yma at y bleidlais gyhoeddus. Mae rhestr lawn o’r fideos oedd dan ystyriaeth isod – rhain oll unai wedi eu dangos ar S4C neu eu cyhoeddi ar-lein yn 2013. Mae modd i chi wylio’r rhan fwyaf o’r rhain ar YouTube. Dim ond un oedd yn gallu cipio gwobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau 2013’ wrth gwrs, ac eleni, penderfynodd y panel mai enillydd y teitl oedd fideo Gwreiddiau gan Sŵnami a gyfarwyddwyd gan Osian Williams ar gyfer rhaglen Ochr 1.

DIOGELWCH a RHEOLAETH DIGWYDDIADAU

EMLYN JONES

07980 714019

www.diogelevents.weebly.com

iaith fyw. gigs byw.

sbyseb CYIG 1/8.indd 1

Moel Famau – Dau Cefn (Y Lle) Mynd Trwy dy Bethau – Dau Cefn (Lindsay Macpherson annibynnol) Diwrnod y Brain – Odlgymix (Odlgymix) Yr Sioe Afanc – E. L. Heath (Arron Fowler – annibynnol) Stuntman – Hud (Hud – annibynnol) Fan Hyn – Casi Wyn (Gwion Morris Jones – annibynnol) Y Gŵr o Gwm Penmachno – Gildas (Rebecca Harpwood – 13:19:01 annibynnol) Pob Gair yn Bos – Yr Ods (On Par – annibynnol) Ble Mae’r Haul – Geraint Rhys (Simon Bartlett – annibynnol) Cefn Trwsgl – Gai Toms (Gai Toms – annibynnol) Yn y Llwch – Trwbador (Eilir Pierce – Ochr 1) Geiban – Bandana (Sion Llwyd – Ochr 1) Llonydd – Ifan Dafydd (Osian Williams – Ochr 1) Penseiri – Violas (On-Par – Ochr 1) Caer o Feddyliau – Kizzy Crawford (Ross Coughlan – Ochr 1) Ebol Ebol – Plyci (Turrel Bros – Ochr 1) Rhedwch – Gramcon (Ryan Owen Eddleston – Ochr 1) Gwreiddiau – Sŵnami (Osian Williams – Ochr 1) Addewidion – Yr Ods (Osian Williams – Ochr 1) Glaw Du – Plu (On-Par – Ochr 1)

f 1/2/14


trydar

@YDatgyfodiad Su’mai @YDatgyfodiad, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar. @Y_Selar Ymddiheuriadau ymlaen llaw am y diffyg cynghanedd ar ein hochr ni ond croeso i ti daflu ambell un i mewn! @YDatgyfodiad Henffych! I’n sioe wele Y Selar! @Y_Selar Llongyfarchiadau mawr ar Y Meirw Byw, albwm gysyniadol werth chweil. I ddechrau, pam zombies?! @YDatgyfodiad Am eu bod nhw’n treiddio i gwsg pobol a rhoi hunllefau wedi i chi weld, meddwl am, neu glywed eu herchylltra. Ac maen nhw’n drosiadau da. @Y_Selar Ha! Digon teg. Fel mae albyms cysyniadol yn mynd, mae o’n bwnc eithaf penodol, oedd hi’n anodd creu gymaint o ddeunydd? @YDatgyfodiad Cafodd stori’r albwm ei chreu, wedyn mater o feddwl sut i gyfleu pob golygfa oedd hi. Gobeithio’i fod yn debyg i ffilm gyda phob cân yn olygfa. @YDatgyfodiad Mae’r cyfan yn cael ei ludo at ei gilydd drwy fod i gyd mewn cynghanedd. @Y_Selar Sicr yn llwyddo, ac mae’r gerddoriaeth yn cyfrannu at y teimlad ffilmig hefyd. Mae ‘Caniad 4’ yn diwn. ‘Caniad 8’ yn ffefryn arall.

@Y_Selar Mae hwn yn brosiect traws gelfyddydol. Roedd y rhaglen deledu yn ddifyr iawn hefyd. Beth allwn ni ei ddisgwyl nesaf? @YDatgyfodiad Un syniad yw adrodd stori Dafydd ap Gwilym zombie killer yn ddilyniant i ran 1. Neu falle newid y bygythiad i aliens neu rywbeth mwy gwallgo. @YDatgyfodiad Hoffem ni hefyd greu sioe fyw gyda zombie-ddawnswyr a chelf Huw Aaron. Profiad tebyg i’r Gorillaz pe lice rhywun ein helpu ni i’w wireddu. @Y_Selar Gorillaz wrth gwrs wedi cydweithio gyda llu o artistiaid. Yw cydweithio gyda cherddorion a rapiwyr eraill yn apelio i @YDatgyfodiad hefyd? @YDatgyfodiad Ydy, ro’n i’n meddwl gallai fod yn ddiddorol cael gwahanol feirdd i lunio gwahanol ganiadau i greu stori newydd. Dyna sydd yn ein cyffroi... @YDatgyfodiad Cydweithio ar draws holl sbectrwm celfyddydol i greu pethe gwreiddiol, i wthio ffiniau gweithiau celf, ac wrth gwrs, i gyd yn y Gymraeg. @Y_Selar Mae yna lu o fandiau ifanc yn dod allan o stabl Fflach/Rasp ar hyn o bryd. Sut deimlad oedd bod yn rhan o gyfnod mor gyffrous i’r label?

@Y_Selar Roedd hi’n bleser cael rapio dros y traciau hynny dwi’n siŵr?

@YDatgyfodiad Oes, mae’n gyffrous ac yn galondid mowr, o’r Bromas i Castro. Mae angen cydnabod gwaith diwyd Rich ac Wyn.

@YDatgyfodiad Oedd, mae rapio rhythmau’r gynghanedd yn ffresh a gwahanol ac yn rhoi mynegiant i ffurf esblygiedig Gymreig o berfformio/rapio/llefaru.

@YDatgyfodiad Yr unig beth weden i o safbwynt personol yw bod bandiau newydd ledled Cymru (tra ’mod i’n croesawu eu menter) ar y cyfan yn fandiau roc.

@YDatgyfodiad Mae ‘Caniad 4’ a ‘Caniad 8’ yn bach o bangars diolch i weledigaeth gerddorol Chris Josey’r cynhyrchydd. Gobeithio fod ei fiwsig yn hala ofan!

@YDatgyfodiad Byddai’n dda gyda fi weld mwy o grwpiau fel Radio Rhydd sydd â bôls i’w miwsig! Neu fwy o grwpiau hip hop, dub a dawns i gael amrywiaeth.

@Y_Selar Mae’r gynghanedd yn gweddu’n syndod o dda i rap yn tydi?

@Y_Selar Digon gwir. Efallai y caiff rhai ysbrydoliaeth neu zombie-oliaeth o’r Meirw Byw.

@YDatgyfodiad Ody, mae’n gallu bod yn heriol ceisio rapio cynganeddion. Mae’r albwm fel cerdd dant dubstep gyda’r geiriau wedi eu gosod i geinciau tecno.

@Y_Selar Diolch yn fawr iawn am y sgwrs @YDatgyfodiad. Edrych ymlaen at gael ein dychryn eto yn y dyfodol! Hwyl!

@Y_Selar Cystadleuaeth newydd i’r Ŵyl Gerdd Dant! Ond o ddifrif, roedd creu albwm gyfan ar gynghanedd yn dipyn o her mae’n siŵr? Mae hi’n awdl tydi! @YDatgyfodiad Wel sgwennu awdl wnes i yn gyntaf, yna’i gosod i gerddoriaeth. Roedd cael y geiriau yn iawn ac i olygu rhywbeth yn bwysig.

@YDatgyfodiad Diolch yn fawr i chi ...wotsha mas! Ma’ un tu ôl i ti...<Splat> yn ei ben...saff am y tro!

Dilynwch ni @Y_Selar 7


Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn o’r Selar wastad yn golygu un peth – datgelu holl enillwyr categorïau Gwobrau’r Selar! Yn dilyn gwychder a gorfoledd y noson wobrau gyntaf ym Mangor llynedd, rydan ni’n symud i Neuadd Fawr Aberystwyth eleni ar gyfer ein dathliad mawr o lwyddiant y flwyddyn a fu. I’r rhai oedd yn methu bod yn y noson wobrau eleni, ac i’r rhai sydd efallai ddim yn cofio pwy enillodd beth ... dyma ganlyniadau llawn Gwobrau’r Selar 2013. Categori: Record Fer Orau Rhestr Fer: Casi Wyn Sudd Sudd Sudd – Sen Segur Du a Gwyn – Sŵnami Enillydd: Du a Gwyn - Sŵnami Mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i’r grŵp o Ddolgellau, a hwythau wedi rhyddhau eu EP cyntaf ym mis Awst. Casgliad o 5 cân fywiog a bachog, yn union fel y byddech yn disgwyl gan Sŵnami. Mae llwyddiant hon yn golygu bod albwm ar y gweill ganddyn nhw bellach.

Categori: Cân Orau Anifail – Candelas Gwreiddiau – Sŵnami Elin – Yr Eira Enillydd: Anifail - Candelas Tair cân sydd wedi eu chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi, a thair cân reit wahanol eu harddull. Unwaith eto, roc Candelas a riff gitâr trwm cofiadwy ‘Anifail’ sy’n dod i’r brig eleni, a hynny’n gyfforddus.

Categori: Hyrwyddwr Gorau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Nyth Pedwar a Chwech Enillydd: Nyth Mae wedi bod yn flwyddyn lle mae gigs bach rheolaidd wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda chriwiau Nyth, Pedwar a Chwech, Mafon, Peski a Chymdeithas yr Iaith yn sefydlu digwyddiadau rheolaidd. Am yr ail flwyddyn yn olynol, criw creadigol Nyth sydd wedi dal dychymyg darllenwyr Y Selar.

Categori: Gwaith Celf Gorau Llithro – Yr Ods Du a Gwyn – Sŵnami Un Tro – Siddi Enillydd: Llithro – Yr Ods Mae ‘O Glawr i Glawr’ yn Y Selar wedi

8

y-selar.co.uk

bod yn prysur godi proffil gwaith celf recordiau Cymraeg ers peth amser bellach, ac yn Awst 2013, clawr hyfryd albwm newydd Yr Ods, Llithro, oedd yn dwyn y sylw. Addasiad Ed Fairburn o fap OS sydd wedi dwyn sylw’r mwyafrif o bleidleiswyr y categori yma hefyd.


Categori: Artist Unigol Gorau Casi Wyn Kizzy Crawford Georgia Ruth Williams Enillydd: Georgia Ruth Williams Categori hynod o gystadleuol eleni a braf gweld tair merch yn dod i’r brig. Er bod Casi a Kizzy wedi cael blwyddyn wych, mae llwyddiant ysgubol albwm Georgia, Week of Pines, yn golygu ei bod yn ffefryn mawr gyda’r bwcîs ... ac anaml mae’r bwcî’n anghywir!

Categori: Band neu Artist Newydd Gorau Yr Eira Kizzy Crawford Y Cledrau Enillydd: Kizzy Crawford Categori arall aruthrol o gystadleuol gyda llu o fandiau ifanc wedi ymddangos a chreu argraff yn 2013. Er hynny, artist unigol sydd wedi creu’r argraff fwyaf ar ddarllenwyr Y Selar, a’r hyfryd Kizzy Crawford sy’n cipio’r tlws.

Categori: Cyflwynydd Gorau Huw Stephens Lisa Gwilym Tudur Owen Enillydd: Lisa Gwilym Rydan ni’n ystyried newid enw’r categori yma i jyst ‘Gwobr Lisa Gwilym’! Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol iddi gael ei dewis yn Gyflwynydd Gorau, er bod y bleidlais yn llawer agosach eleni. Fedrwch chi ddim dadlau gyda’r canlyniad – mae pawb wrth eu boddau efo Lisa dydyn!

Categori: Digwyddiad Byw Gorau Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych Maes B, Steddfod Dinbych Taith Candelas, Hud a Sŵnami Enillydd: Gig Olaf Edward H Dafis Lot o ddigwyddiadau da wedi bod yn 2013, ond roedd ‘na un achlysur cofiadwy’n sefyll ben ag ysgwyddau uwchben y gweddill. Efallai mai rocars canol oed ydy Edward H erbyn hyn, ond mi brofodd eu gig olaf ar y maes nos Wener Steddfod Dinbych nad oes unrhyw fand yn dod yn agos atyn nhw wrth ddenu’r miloedd. Categori: Band Gorau Y Bandana Sŵnami Candelas Enillydd: Candelas Categori Y Bandana fu hwn yn ddiweddar, ond er gwaethaf rhyddhau eu hail albwm yn 2013, dydyn nhw ddim wedi bod mor amlwg â’r arfer. Y band sydd wedi bod ym mhobman ydy’r bois o Benllyn, Candelas. Mae eu datblygiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn aruthrol. Yn 2013 maen nhw wedi gigio’n galed, a gadael eu marc ym mhobman maen nhw wedi bod. Llawn haeddu ei trydedd gwobr, a’r mwyaf arwyddocaol o’r dair. y-selar.co.uk

9


10 UCHAF ALBYMS 2013 Dyma’r ail flwyddyn y olynol i chi, y darllenwyr, gael cyfle i bleidleisio dros ein rhestr ’10 Uchaf’ o Recordiau Hir y flwyddyn. Roedd yn flwyddyn dda o ran albyms newydd, gyda 23 ar restr hir Gwobrau’r Selar eleni. Roedd y frwydr yn ffyrnicach nag erioed i gyrraedd brig ein rhestr flynyddol, felly ffwrdd a ni ...

10 O’R NYTH

9

6

SGWENNU STORI GILDAS

Label: Sbrigyn Ymborth Rhyddhawyd: Awst Mae’r ‘ail albwm anodd’ yn cliche cerddorol, ond does ‘na ddim byd yn teimlo’n anodd wrth wrando ar ail albwm Gildas. Mae digon o hwyl ar y casgliad gydag ‘Y Gŵr o Gwm Penmachno’ ac ‘Y Gusan Gyntaf’ ond y caneuon llawn emosiwn ‘Sgwennu Stori’ a ‘Dweud y Geirie’ ydy’r rhai sy’n sefyll allan. “Pleser llwyr oedd gwrando ar yr albwm yma, un ar gyfer diwedd diwrnod hir, gyda phaned” [Cai Morgan, Y Selar, Awst 2013]

y-selar.co.uk

Label: I Ka Ching Rhyddhawyd: Ionawr Albwm cyntaf y ddeuawd brawd a chwaer gwerinol, Branwen ac Osian Williams o Lanuwchllyn. Mae’n brosiect diddorol - yn albwm cysyniadol am dylwyth teg, ac wedi’i recordio’n bennaf yng nghapel Llanuwchllyn. Mae’r stiwdio anarferol yn rhoi sŵn byw ac anarferol iawn i’r casgliad, a hynny’n ychwanegu at naws arbennig a hudol yr albwm. “Mae ôl dwy flynedd o waith gyda phob nodyn a sill yn llawn teimlad” [Ifan Prys, Y Selar, Ebrill 2013]

7 Y RECORD LAS

Label: Nyth Rhyddhawyd: Rhagfyr Roedd hi’n flwydd dda am gasgliadau aml-gyfrannog, a’r olaf i’w rhyddhau oedd ymgais gyntaf hyrwyddwyr gigs Nyth i gyhoeddi record. Mae Nyth yn adnabyddus am lwyfannu gigs diddorol gydag artistiaid eclectig a dyma’n union sydd ar y record mics têp Nyth. Yr uchafbwyntiau ydy ‘Ebol Ebol’ Plyci, ‘Rhywbeth Gwell’ gan Osian Howells, a’r anhygoel ‘Hardd’, cyfraniad Casi Wyn.

10

8 UN TRO - SIDDI

Label: Recordiau Lliwgar Rhyddhawyd: Ebrill Yr ail albwm aml-gyfrannog ar y rhestr 10 uchaf eleni, ac ail gynnig criw Recordiau Lliwgar yn dilyn y Record Goch. Fe gafodd y record sylw cyn ei rhyddhau diolch yn bennaf i ‘Celwydd’ gan Ifan Dafydd sydd wedi’i chwarae dros 200,000 o weithiau ar Soundcloud. Mae hon hefyd yn cynnwys traciau Cymraeg cyntaf H. Hawkline, prosiect Euros Childs, Ymarfer Corff, a dwy gân gan greawdwyr hip-hop Cymraeg, Llwybr Llaethog ... heb sôn am waith celf gwych a feinyl glas.

Y BARDD ANFARWOL THE GENTLE GOOD

Label: Bubblewrap Rhyddhawyd: Hydref Yr ail albwm cysyniadol ar y rhestr eleni. Gareth Bonello, y canwr gyfansoddwr talentog, sy’n adrodd hanes y bardd enwog o Tseina, Li Bai. Nid yn unig tynnu dylanwad o Tseina mae Gareth, mae wedi recordio dau o’r traciau yn Chengu ac mae aelodau o Ensemble Tseineaidd y DU yn chwarae ar y casgliad. “Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen” [Ciron Gruffydd, Y Selar, Rhagfyr 2013]


5 PLU

Label: Sbrigyn Ymborth Rhyddhawyd: Gorffennaf Mae ‘na deimlad cryf o deulu ar y rhestr eleni, gyda pherthnasau yn cydweithio yn o leiaf 4 o’r grwpiau yn y 10 uchaf. Yr amlycaf o’r unedau teuluol cerddorol hyn ydy’r brawd a dwy chwaer sy’n ffurfio Plu - Gwilym, Elan a Marged. Dyma gynnyrch cyntaf y triawd gwerinol, ond nid canu gwerin arferol mo hwn, na, mae’n werin wedi’i gymysgu â dylanwadau jas, canu gwlad a mwy. “Tarwch hi, caewch eich llygaid, a ‘da chi ar strydoedd cul Llydaw gyda gwydraid o win gwyn oer yn eich llaw a gwres yr haul o’ch cwmpas” [Casia Wiliam, Y Selar, Awst 2013]

2

LLITHRO YR ODS

Label: Copa Rhyddhawyd: Gorffennaf Sut mae dilyn albwm gwych fel albwm cyntaf Yr Ods, Troi a Throsi - rhif 1 rhestr ’10 uchaf albyms 2011’ Y Selar ? Yr ateb, wel, rhyddhau casgliad sydd hyd yn oed yn well! Er nad yw Llithro cweit wedi cyrraedd uchelfannau’r albwm cyntaf ar restr Y Selar, does dim amheuaeth fod sŵn ac aeddfedrwydd y band wedi datblygu a bod hwn yn gasgliad arbennig. “Er gwaetha’r teitl, nid yw safonau’r Ods wedi ‘Llithro’ ac mae’r ail albwm cystal os nad gwell, na’r cyntaf” [Owain Gruffydd, Y Selar, Awst 2013]

4

BYR DYMOR BROMAS

Label: Rasp Rhyddhawyd: Rhagfyr Un o albyms olaf y flwyddyn gan enillwyr categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd. Gwell hwyr na hwyrach medden nhw, ac yn sicr roedd Byr Dymor yn werth yr aros. ‘Grimaldi’ ac ‘Y Drefn’ ydy’r uchafbwyntiau ar albwm cyntaf addawol iawn gan y bois o Sir Gâr. “Un peth sy’n eich taro am y casgliad yma ydy fod bob dim yn lân a thaclus iawn, mae’r lleisiau’n felfedaidd a’r cynhyrchu fel pin mewn papur” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Rhagfyr 2013]

3

BYWYD GWYN Y BANDANA

Label: Copa Rhyddhawyd: Gorffennaf ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar y ddwy flynedd ddiwethaf, ac ar ôl cipio tair o’r gwobrau yn Neuadd Hendre llynedd roedd yn amser da i ryddhau eu hail albwm. Roedd yr albwm cyntaf, yn fachog a hwyliog ac mae’r nodweddion hynny’n parhau ar Bywyd Gwyn, ond mae dyn yn teimlo gyda chaneuon fel ‘Cyffur’ a ‘Gwyn eu Byd’ fod y grŵp wedi aeddfedu tipyn yn gerddorol bellach. “Cerddoriaeth felys ar gyfer pobl ifanc hapus sydd yma o hyd, ond yn gynyddol bellach, mae Y Bandana yn rhoi sylwedd tu ôl i’r siwgr” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Awst 2013]

CANDELAS

1

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Gorffennaf ‘Band Gorau’ 2013, ‘Cân Orau 2013, a ‘Record Hir Orau’ i’w ychwanegu at y casgliad ar silff ben tân y bois o Lanuwchllyn. Go brin fod ‘na grŵp wedi gweithio’n galetach a datblygu’n fwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf na Candelas. Mae’r albwm sy’n rhannu enw’r grŵp yn gofiadwy gyda chaneuon fel ‘Symud Ymlaen’, ‘ Cofia Bo Fi’n Rhydd’ a’r anghenfil o drac ‘Anifail’ yn cynnig gymaint o roc budr ag y gallwch chi stumogi. “Dyma gasgliad sy’n sicr yn cicio’r gwrandawyr yn eu hwynebau” [Ifan Prys, Y Selar, Awst 2013]

y-selar.co.uk

11


CASTRO

a’r Chwyldro

Fe allwn i ddweud ‘gweler y rhifyn diwethaf’ am gyflwyniad i’n prif gyfweliad y tro hwn. ‘Rhywbeth yn y dŵr yn y de orllewin’... ‘Ffatri fandiau’... ‘Deunydd newydd’... Newidiwch Bromas am Castro a dyna chi! Oes, yn sicr mae yna chwyldro cerddorol ar droed yn y de orllewin ar hyn o bryd. Diolch felly mai yn y pen hwnnw o’r byd - Camden Cymru - y mae cyfranwraig brysuraf Y Selar ar hyn o bryd, Lowri Johnson, yn trigo ac yn cymysgu â’r rocars.

Lluniau: Betsan Haf Evans

12

y-selar.co.uk

“B

and da o’r de… Who’d have thought it!” meddai Dyl Mei wrth gyflwyno Bromas yng ngwobrau’r Selar yn 2013. Wel, Dyl bach, mae ’na chwyldro bach yn digwydd yn y de orllewin ar hyn o bryd gyda sawl band gweithgar yn datblygu sŵn newydd hynod gyffrous. Un o’r bandiau hynny yw Castro o Landeilo, Sir Gaerfyrddin. Maen nhw’n un o’r bandiau mwyaf amlwg yn y gornel hon o Gymru ar hyn o bryd ond erioed wedi mentro i’r gogledd… Felly rhaid oedd mynd i ddarganfod mwy amdanyn nhw… Castro yw Osian (gitâr a llais), Caradog (bas) a Sam (dryms), disgyblion chweched dosbarth yn ysgol Gyfun Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth. Sam a Caradog sy’n fy nghyfarfod am sgwrs mewn caffi yn Llandeilo. Dwi’n cychwyn trwy holi Castro am eu EP newydd sy’n rhannu enw’r grŵp.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r EP sydd wedi’i ryddhau. Mae’n gyfle i ni gyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangu posibiliadau,” meddai Sam. “Byddwn ni’n rhyddhau’r EP ar feinyl ym mis Mawrth, a bydd ar gael ar Itunes ac mewn siopau ar draws Cymru. Mae’r CD ar gael ar hyn o bryd gan Fflach, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at ei rhyddhau ar draws y wlad yn y gwanwyn.” Pwy ydy Castro? Felly, pwy yw Castro a beth a ddaeth â nhw at ei gilydd? “Rydyn ni’n byw yn ardal Llandeilo,” esbonia Caradog. “Aethon ni i ysgol gynradd yn y dref gyda’n gilydd. Fe wnaeth ein cariad at gerddoriaeth debyg ddod â ni at ein gilydd, a gan ein bod ni i gyd yn chwarae offerynnau fe benderfynon ni gychwyn band.” Wrth ofyn pryd oedd eu perfformiad byw cyntaf nhw,


“Dw

i’n bod meddw pet cyf f hau l r ou s dig wyd iawn y n d o br ar hyn yd. ”

mae ’na ychydig o anghytuno ar y dyddiad, cyn penderfynu mai Rhagfyr 2012 oedd y gig gyntaf. Gig “oedd yn sell-out” ychwanega Sam gan ennyn tipyn o edmygedd gan Caradog, “ni’n neud yn eithaf da o feddwl ein bod ni ond o gwmpas ers blwyddyn!” Gig Nadolig Cymdeithas yr Iaith yn y Parrot, Caerfyrddin, oedd y gig gyntaf honno (“oedd ’na rai cyn hynny ond ni ddim yn sôn am rheina!”), gyda Cowbois Rhos Botwnnog yn gorffen y noson. Noson dda i gychwyn gyrfa, yn wir, gyda’r lle yn llawn dop. “Mae ein diolch ni’n fawr i’r Parrot yng Nghaerfyrddin, ac i Aled sy’n gweithio yno, yn enwedig. Nhw oedd y bobl gyntaf i ofyn i ni ddod ’nôl i chwarae eto, ac rydyn ni’n cael cynnig gigs ganddyn nhw yn chwarae gyda bandiau amrywiol ar hyd y flwyddyn,” meddai Caradog. Maent wedi bod yn brysur iawn felly o ystyried mai dim ond ers

rhyw flwyddyn maen nhw wedi bod o gwmpas. “Do yn bendant. Ni wedi chwarae lot o gigs, ac fe wnaethon ni recordio demo yn nhŷ Caradog yng nghanol y flwyddyn. Yna, pan oedden ni’n chwarae gig yng Nghrymych nath Richard Fflach ofyn a fydde diddordeb ’da ni recordio EP gyda nhw… felly nathon ni neidio ar y cyfle a mynd amdani” meddai Sam. Ond beth all pobl ddisgwyl yn yr EP tybed? “Mae’n EP eithaf hir chwe chân,” meddai Caradog, “fe wnaeth Bromas ryddhau albwm gyda dim ond 7 cân!” ychwanega Sam. “Dafydd, mab Richard Fflach wnaeth ddylunio’r clawr a ni’n hapus iawn gyda fe. Mae’r caneuon yn rhai bywiog a chyflym, ac mae’n grêt cael y traciau yma wedi eu recordio’n broffesiynol.” Ac felly beth fydd ‘mlaen ’da Castro dros y misoedd

nesaf? “Byddwn ni’n hysbysebu’r EP cymaint â bo modd,” meddai Caradog. “A bendant yn chwilio am fwy o gigs. Ni heb chwarae yn y gogledd eto felly hoffem ni drefnu cwpwl o gigs yn bellach o adre i ehangu’r gynulleidfa!” Heb chwarae yn y gogledd eto, lle felly yw’r lle pella’ mae’r band wedi chwarae ynddo hyd yn hyn? “Llangrannog neu Gaerdydd… Pa un sydd bellaf?! Ond yn bendant, bydd angen i ni wneud y mwyaf o’r cyfle bydd yr EP yn ei roi i ni. Yn barod, mae wedi rhoi mwy o gyfleoedd i ni - sgwrs ar C2 gyda Huw Stephens a byddwn ni’n ymddangos ar Y Lle/ Ochr 1 ym mis Mawrth neu Ebrill. Roedd recordio hwnna’n brofiad newydd grêt i ni. Ni’n edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr hefyd, ni wedi trefnu chwarae gyda Chymdeithas yr Iaith yn ystod yr wythnos. Ni’n edrych ymlaen yn fawr!” y-selar.co.uk

13


“Ni heb chwarae yn y gogled d eto...”

Chwyldro’r Gorllewin Allwn i ddim gadael Castro cyn eu holi am y chwyldro bach sy’n digwydd yn Sir Gâr ar hyn o bryd. Fel rhywun o Gaerfyrddin, mae’n grêt gweld cymaint yn digwydd o’m cwmpas i wrth gwrs, ond rwyf yn awyddus i wybod sut deimlad yw e’ i fod yn rhan o hyn, ac oes ’na elfen o labelu grŵp o fandiau yn digwydd? “Mae’n bendant yn helpu lot bod nifer o fandiau yn lleol, ac mae’n denu sylw cenedlaethol, dwi’n meddwl bod mwy yn gwrando,” ateba Sam, cyn i Caradog ychwanegu, “ac mae’n beth da i ni - pan ma’ un o’r grŵp o fandiau yn cael eu bwcio, achos maen nhw’n rhoi enw un o’r bandiau eraill ar gyfer y line-up hefyd - mae’r cyswllt yn beth da i ni yn bendant.” “Ond mae’r peryg o gael tag ein bod ni’n fand o’r de orllewin - yn hytrach na bod pobl yn ystyried y sŵn ni’n ei greu. Ni ddim eisiau cael ein labelu, dwi’n teimlo bod ein sŵn ni’n eithaf gwahanol i’r bandiau eraill yn ein hardal leol ni. Ni’n fwy tebyg i Y Ffug falle o Sir Benfro. Ni eisiau

14

y-selar.co.uk

creu sŵn unigryw” meddai Sam. Dwi’n cyfaddef mod i’n chwilio am ’chydig bach o gossip am fandiau eraill Sir Gâr… mae’n rhaid bod rhywbeth? Bach o bitsho? Ond dwi’n cael dim ymateb. Am boring, sori ddarllenwyr Y Selar! Felly wrth geisio newid y pwnc, rwy’n holi Caradog beth yw ei farn am y sin yn gyffredinol yng Nghymru. “Dwi’n meddwl bod pethau cyffrous yn digwydd ar hyn o bryd. Mae pethau’n bendant ar y ffordd i fyny. Mae bandiau fel R. Seiliog a Gwenno yn gwneud pethau modern, ac am y tro cyntaf mae cerddoriaeth Gymraeg ar y blaen yn hytrach na thu ôl i bopeth!” Mae Sam yn cytuno, “bendant dwi’n teimlo bod cerddoriaeth yng Nghymru wastad tu ôl i bopeth arall. Er bod yr Anhrefn yn fand pwysig, yn ehangach, roedden nhw y tu ôl i’r trend, ac Edward H Dafis yr un peth cyn hynny. Fi’n teimlo bod ni’n dechre dal lan gyda’r amser! Ni’n hoffi bandiau fel Pixies, ac Y Cyrff. Mae ganddo’ ni gyd flas eithaf tebyg

mewn cerddoriaeth, ond dyw’r gerddoriaeth ni’n ei hoffi ac yn gwrando arno ddim bob amser yn dylanwadu ar ein deunydd ni.” “A dyna lle mae digwyddiadau fel Gwobrau’r Selar mor bwysig,” meddai Caradog. “Ni wedi cael ein henwebu ar gyfer Band Newydd Gorau ac mae hynny’n fraint. Mae’n ffordd wych o ddenu sylw at fandiau yng Nghymru. Mae’n gwahodd pobl i gymryd sylw o beth sy’n mynd ymlaen. A gan fod rhan fwyaf o’r bandiau yn nabod ei gilydd ac yn ffrindiau, mae elfen o gystadleuaeth bendant yn beth da! Ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gynulleidfa ar y noson.” A dyna lle daw’r sgwrs i ben, wrth i mi ddymuno pob hwyl i’r band gyda’r EP a’r gigs ar y gweill yn y dyfodol. Yn bendant mae’r egni sy’n perthyn i’r band, a’r teimlad grunge yn eu gwneud nhw’n fand unigryw iawn - ac er bod gwreiddiau yn Sir Gâr, mae angen i weddill Cymru ddechrau cymryd sylw. Felly beth amdani Gymru, chi’n barod am Castro?


hysbys 557 selar_557 190x138 31/10/2013 11:59 Page 2

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2014 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Cefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor Twitter: @prifysgolbangor


n cynulleidfa

nogi Bryn Fôn o flae Hyd yn hyn? Ar ôl cef fe gymerodd y band

... Ti di

i T di . ..

wed y l C

gig cyntaf erioed leol ym Mhenygroes yn eu , ers blwyddyn rifennu stwff newydd. Yna hoe i ganolbwyntio ar ysg ledd orllewin bod yn ôl ar sin fyw’r gog bellach mae Y Rhacs wedi I Fight Lions. ac t af Gremlin, Y Reu, Cel yn cefnogi bandiau fel End i’r gorau hwyl ond mae’n debyg ma “Mae pob gig wedi bod yn Roedd y n efo I Fight Lions a Celt. oedd y gig yng Nghaernarfo hollol wych, , lleol, a chlustiau diarth yn cyfuniad o griw cyfarwydd gynnar hi’n fywiog i feddwl ei bod a’r atmosffer yn rhyfedd o yafrif yn sobor!” mewn gig Gymraeg, a’r mw

Y Rhacs

we Cly d

y misoedd

band yn parhau i gigio’n Ar y Gweill? Bydd y Huws yng Nghlwb y

, Llanwnda, Carmel a if lais), Mabon Eben Myrddin (gitâr a phr Groeslon yw Y Rhacs. Mae (gitâr fas) i es rd (dryms) a Gwyn Jon Jones (gitâr), Owain Pritcha ryn Nantlle, ed dosbarth yn Ysgol Dyff gyd yn ddisgyblion chwech lu yn yng ngwanwyn 2012 i gystad Penygroes. “Mi ffurfion ni hwyl arni ni som Eben. “Ond mi gaw Eisteddfod yr Urdd,” eglura ddan ni i Roe io iddi, a, wel... dyma ni! felly mi benderfynom ni stic criw iawn o , a digwydd bod , roedd y gyd yn ffrindia’ p’ryn bynnag yn band!” gwmpas ar y pryd i gychw

Benygroes pwy? Band pedwar aelod o

amrywio’n helaeth o roc y dyfodol amrywiaeth yw’r bwriad yn i ganu gwlad, a pharhau â’r ‘ddarganfod riad i sticio at un steil neu hefyd. “Does ’na ddim bw ynt ud. Dyda ni’m yn gweld pw ein sŵn’, fel ma’ rhai’n ei dde efo synau rydan ni’n awyddus i arbrofi cyfyngu ein hunain ac mi yn caniatáu i’w beithia’r band y bydd hyn gwahanol a diddorol.” Go od eang o gynulleidfa. cerddoriaeth apelio at yst

yn ^ n? Yn ôl Eben mae sŵn y band Sw

l yn fawr o

rywiaeth yn yr arddul Dylanwadau? Dyw’r am aelodau yn eu henwi.

adau y mae’r syndod wrth ystyried dylanw Rhos Gonzo, Gorillaz i Gowbois O Muse i Dderwyddon Dr delas, Y Can s, Od Yr ns, nt, I Fight Lio Botwnnog, Cage the Elepha e. Dale, Nirvana a Nick Cav Bandana, The Who, Dick

16

y-selar.co.uk

nogi Maffia Mr nesaf gan ddechrau trwy gef ntro i Stiwdio Chwefror. Maent wedi me Rheilffordd, Bangor, ar 22 sgwyl o leiaf ddi a Rich Roberts a gallwn Ferlas hefyd i recordio gyd tymor hir mi fideo hefyd o bosib. “Yn y un trac newydd yn fuan, a nym ni, ura Eben. “Ma’r caneuon gen fasa’n grêt recordio EP,” egl h i ffwrdd, rhai newydd, felly yn bellac ac rydan ni’n dal i ysgrifennu o rhoi wbath n hefyd. Ond ’da ni ddim ish fasa’n neis rhoi albwm alla io gymaint gig y funud y trywydd ydi jest allan fydd neb isho, felly ar l.” diddordeb mwy a mwy o bob ag y medrwn ni, a thrio dal i’r cwestiwn

oedd hi’n syndod ma Uchelgais? Efallai nad h yw eu huchelgais.

ar yma oedd bet anoddaf i’r hogiau diymhong son olaf wythnos Dafydd a Caryl? No “Cwestiwn anodd. Trac yr rifennu ysg , i ni jest dewis gwella’n sŵn Maes B? Mashwr ’sa’n well l.” diddanu mwy a mwy o bob caneuon gwell, diddorol, a yr i wireddu

d Y Rhacs yn rhy hw Barn Y Selar Efallai bo eu rhwystro rhag

does dim byd yn eu huchelgais cyntaf ond y ffordd ent yn gwneud pethau yn cyflawni tipyn. Yn sicr, ma heb d nyddoedd cynnar fel ban iawn, yn mwynhau eu bly ymlaen at dweud hynny, dwi’n edrych ruthro’n ormodol. Wedi e ‘na ddigon o hymweliad â’r Ferlas. Ma glywed ffrwyth llafur eu SoundCloud cynhwysion amrwd ar eu botensial i’w glywed yn y goginio ei gweld sut y caiff y cyfan ac fe fydd hi’n ddiddorol delas, Y randewch os yn ffan o Can gan Rich yn y stiwdio. Gw eiri Bandana a Jessep a’r Sgw


CASTRO

W

.uk

rh yt ti an e o d isia yll îm u b e@ Y L od yll e.c le? yn o

ar all yll e @

ll ra ea

AM FWY O WYBODAETH:

@

yll

ea

ra

ll

@

yll

BROMAS ‘BYR DYMOR’

MAE DY DDYFODOL YN DECHRAU YMA www.ceredigion.ac.uk 01239 612032 | 01970 639700 /colegceredigion

@colegceredigion


Mae digon o dystiolaeth rhwng cloriau’r rhifyn hwn o gystal blwyddyn oedd 2013 o ran rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg. A gyda llawer o gerddoriaeth dda daw llawer o gloriau deniadol. Un o’r goreuon oedd clawr EP Sen Segur, Sudd Sudd Sudd, a dyna’r gwaith celf sy’n cael sylw O Glawr i Glawr y tro hwn.

C

afodd Sudd Sudd Sudd ei henwebu i rest hir Gwaith Celf Gorau Gwobrau’r Selar, a thysteb i gryfder y gystadleuaeth honno yn unig yw’r ffaith i’r clawr hwn fethu â chyrraedd y tri uchaf o drwch blewyn babi gwybedyn. Dyma un o fy ffefrynnau i pryn bynnag felly dyma fynd i holi George o’r band beth yw hanes y clawr. Eglura mai Eryl Prys Jones (neu Pearl i’w ffrindiau) sy’n gyfrifol am y gwaith celf. “Nathon ni ofyn iddo fo achos oeddan ni’n trystio fo. Mae o ’di neud ambell i lun bach da ar gyfer posteri Gŵyl Gwydir yn y gorffennol ac oeddan ni’n licio’i steil o.” Ac oedd yna unrhyw ofynion arbennig ar gyfer y darn yma tybed? “Dim byd penodol deud y gwir. Nathon ni jyst gofyn am wbath eitha’ trawiadol efo lliwiau gwahanol. Oeddan ni’n trystio Pearl i ddod fyny efo wbath da.” Doedd dim amdani felly ond holi Eryl ei hun am y darn a dechreuais trwy ofyn i gyn brif leisydd Jen Jeniro am y broses.

“Dwi’n ’nabod yr hogia’n dda felly odd gen i syniad go lew be’ sa’n gweddu.”

18

y-selar.co.uk

“Nathon nhw roi copi rough mix o’r EP i mi, egluro mai Sudd Sudd Sudd fysa enw’r record, a nes i gychwyn arni. Llun gwreiddiol ydi o, yn arbennig ar gyfer Sen Segz. Llygaid ydyn nhw, ond nes i sylwi wrth beintio ei fod o’n edrych fel ambell beth amheus o ambell i ongl!” I mi, mae gweithiau wedi eu comisiynu’n arbennig yn gweithio’n well na darn parod felly dwi’n holi’r artist beth yw’r gyfrinach. “Yr unig ‘frîff’ i mi oedd enw’r record, dwi’n ’nabod yr hogia’n dda felly odd gen i syniad go lew be’ sa’n gweddu. Ma’ multiples o dri yn edrych yn dda mewn llun... felly tri ‘sudd’... tri dropyn o sudd neu ddagrau neu waed... tri gwrthrych yn gollwng yr hylif fel canolbwynt i’r llun...job done!” Paentiad sydd yma felly cymerais yn ganiataol fod y darn gwreiddiol ar raddfa fwy na’r clawr CD terfynol, ond cefais fy nghywiro. “Na, dim llawer mwy! Peintio llun terfynol mawr oedd y bwriad ar ôl gneud test-run llai gynta’ i benderfynu ar y lliwia’. Ond nes i ddallt ar ôl gneud un llygad bysa hwnnw’n ddigon da! Odd o reit anodd trin paent olew ar raddfa mor fach, ond dwi’m yn meddwl bod y wobbles bach sydd i’w gweld yma ac acw yn amharu llawer.” Yn wir, gellid dadlau fod yr anghysondebau bach hynny yn rhinwedd yn y gwaith. Ac mae hyd yn oed y gwreichion bach lliwgar rheiny a geir yma ag acw ar gardfwrdd wedi ei ailgylchu yn teimlo fel rhan o’r darlun. George sy’n egluro tarddiad hynny. “Syniad Gwion Sgiv (I ka Ching) oedd hwnnw. Mae defnyddio

papur fel’na yn rhatach ac yn fwy ecofriendly am’wn i.” Aiff George ymlaen i egluro mai Aled ‘Arth’ Cummins oedd yn gyfrifol am gwblhau’r gwaith. “Fo ddaru osod popeth, sortio cynllun y CD a’r testun i gyd. Mae Al yn brilliant efo petha’ fel ’na.” Ac yw Eryl yn hapus gydag edrychiad gorffenedig yr holl beth tybed? “Yndw, mae’r font mae o ’di ddefnyddio yn gweithio’n dda. Dwi ’di gweithio efo fo ar ddyluniadau Gŵyl Gwydir yn y gorffennol, ac yn ei ’nabod o reit dda hefyd so mae’n broses reit syml. A dwi’n rhy ddiog/hen ffash i brynu, a dysgu sut i ddefnyddio Photoshop felly dwi’n hapus iddo fo neud y darn yna!” Mae’r clawr yn gweddu steil dow-dow seicedelig y gerddoriaeth felly tybed ai bwriad neu gyd ddigwyddiad oedd hynny? “Yn sicr mae yna berthynas rhwng y clywedol a’r gweledol. Dwi’n ama’ bod hogia’ Sen Segz yn gwbod yn fras pa fath o arddull s’gen i, ac wedi dyfalu bysa’r clawr yn gweddu’r psych dow-dow.” “Ges i fy nhalu gan Sen Segz mewn ffordd ddifyr fyd,” ychwanega Eryl. “Nesi gael aros yn eu stafell nhw am ddim, am wsos yn Barcelona yn ystod gŵyl Primavera. Gwell na cash yn y glaw!” Mae’n debyg fod yr hogia’ reit hapus efo’r gwaith terfynol felly! Ac mae George yn cadarnhau hynny. “Ie, mae seicedelia yn ffurf o gelf a cherddoriaeth, ac mae Pearl yn dallt hynny. Mae o’n atgoffa fi dipyn bach o waith Friedensreich Hundertwasser efo’r patrymau a’r ffordd mae o ’di cael ei beintio.”


o glawr i glawr

“Oeddan ni’n trystio Pearl i ddod fyny efo wbath da.”

Crysau-T

Fe fydd ffans celf gerddorol Gymreig yn adnabod gwaith Eryl Prys Jones, nid yn unig o gloriau CDs, ond o grysau-T hefyd. Mae crys-T Gŵyl Gwydir yn must have i unrhyw miwso gwerth ei halen. Dyma ateb Cymru i grys-T Ramones erbyn hyn. Sut ddechreuodd hynny i gyd tybed? “Haha, doeddwn i ddim yn dallt ei fod o’n gymaint o must-have, jyst T-shirt ‘o gwmpas y tŷ’ / ‘cerdded y ci’ / ’piciad i dre’ o’n i’n meddwl oedd o! O ganlyniad i fod yn fêts ysgol, ac yn Jen Jeniro efo Gwion (prif drefnydd GG), roedd hi’n naturiol i mi neud gwaith celf i’r ŵyl... posteri, flyers, props am y ddwy flynedd gynta’, wedyn y crysau-T hefyd ers hynny.” Mae’r cynllun yn “Mae seicedelia ogystal â’r lliw yn newid yn ffurf o gelf a ychydig bob cherddoriaeth.” blwyddyn ond

mae’r cyrn carw wastad yn ganolog. Beth sydd ar y gweill ar gyfer 2014 felly tybed? ’Sgwn i os wnaiff Eryl fynd yn hollol nyts a rhoi teigr neu rywbeth felly yn lle’r hen garw ffyddlon! “Sticio efo’r carw ma’ siŵr... ‘if it ain’t broke, don’t fix it’ ’de. Hefyd, enw maes Clwb Rygbi Nant Conwy (lle cynhelir GG) ydi Pant y Carw, felly mae’n gwneud synnwyr o ryw fath. ’Da ni heb jyst lluchio hwn at ei gilydd sdi!” Yna, gan ddychwelyd at y cloriau fe holais Pearl pe byddai’n cael y cyfle i greu gwaith celf ar gyfer unrhyw fand neu artist, yng Nghymru neu du hwnt, pwy fysa fo neu hi neu nhw.”Ar hyn o bryd dwi’n hoff o stoners o Awstralia, Pond, ac Unknown Mortal Orchestra. Hefyd, fysa gneud celf i Goat o Sweden yn class, ac yn arddull gwahanol ella, mwy tribal, llai cartoony. Ond byth yn mynd i ddigwydd felly OEN neu Sen Segur eto ma’ siŵr!” Ac efallai na fydd yn rhaid iddo aros yn rhy hir gan

i George awgrymu y bydd gan Sen Segur albwm allan ar finyl 12” erbyn yr haf. Edrych ymlaen at hynny, ond rhaid oedd cloi’r sgwrs trwy sôn am OEN, prosiect cerddorol diweddara Eryl. Mae’n hen bryd i ni glywed ganddo o du fewn i’r cloriau yn ogystal â gweld ei waith ar y tu allan, felly pryd y mae hynny’n debygol o ddigwydd? “Mae OEN yn segur braidd ar hyn o bryd. ’Da ni dal yn sgwennu caneuon ar wahân, ond ddim yn cael cyfle i ddod at ein gilydd i jamio nhw. Ond ’da ni am fynd i’r stiwdio mis Chwefror i recordio sengl, un gân Gymraeg, un Saesneg. Ar ôl hynny, gobeithio bydd ’na fwy o symudiad, ac yn fwy cyson!” Gobeithio wir, ond am y tro cawn barhau i fwynhau ei waith celf, boed hynny wrth gerdded y ci yn eich hen grys-t Gŵyl Gwydir neu wrth daro un o recordiau byr gorau llynedd yn y chwaraewr cryno ddisgiau. y-selar.co.uk

19


Temporary Zone Kizzy Crawford Temporary Zone yw EP cyntaf Kizzy Crawford, cantores ifanc sydd â llais hyfryd a llawer o steil. Mae hi’n cyfansoddi caneuon Cymraeg a Saesneg ac mae dylanwad y gerddoriaeth mae hi’n ei fwynhau yn atsain trwy Temprary Zone – jazz, ffync, gwerin, soul. Mae’n cychwyn gyda ‘The Starling’ sy’n felodig a synhwyrol ac yn rhoi syniad i ni o’r hyn sy’n mynd â bryd Kizzy o ran themâu – byd natur, tyfu, y Gymraeg, hunaniaeth a cherddoriaeth. Mae ‘Caer o Feddyliau’ yn dangos ystod llais y gantores, a’i harddull arbrofol gyda harmoniau sy’n swnio’n gromatig ar adegau, a thinc gwerinol wrth gyflwyno’r ffidl (Kizzy sy’n chwarae). Mae llif brawddegau’r caneuon weithiau’n annisgwyl, sy’n mynd â ni i fyd jazz – clywch ‘Tyfu Lan’. Mae yna gyffyrddiadau cyfarwydd yma, ella Gwyneth Glyn, Meic Stevens, John Cale, ond fel petai hi’n coginio, mae Kizzy wedi llwyddo i gymryd mymryn o’r rhain rhwng bys a bawd, a’u hychwanegu at ei chynhwysion ei hun, i greu rhywbeth sydd â blas newydd ac unigryw. 9/10 Casia Wiliam Codi Angor (Caneuon a Shantis J. Glyn Davies) Amlgyfrannog J Glyn Davies ydi cyfansoddwr rhai o ganeuon morwrol mwyaf adnabyddus y Gymraeg, er y gellir dadlau fod rhai o’r caneuon a’r alawon yn fwy adnabyddus na’r awdur ei hun. Mae llawer wedi clywed ‘Fflat Huw Puw’ a ‘Llongau Caernarfon’, ond ychydig wyddon ni am y dyn a osododd eiriau Cymraeg gyda’r alawon neu sea-shanties yma o ledled y byd. Nid caneuon cwbl wreiddiol felly, ond caneuon gwerin Cymraeg y gallwn bellach ymfalchio ynddynt. Llynedd roedd yn ganmlwyddiant geni Davies, a dyna pam y daeth nifer o artistiaid a cherddorion Llyn at ei gilydd i ddathlu ei waith. Mae’n addas mai Aled

Hughes o Gowbois Rhos Botwnnog oedd yn arwain y prosiect gan eu bod nhw wedi recordio ambell gân forwrol yn barod. Ac mae Aled wedi hel criw o artistiaid amrywiol iawn at ei gilydd. Anodd meddwl am gasgliad arall fysa’n cynnwys Gwyneth Glyn, NAR a John ac Alun. Gyda chyfranwyr mor amrywiol mae’n naturiol fod stamp a steil unigryw i’r traciau. Ar y cyfan mi wnes i fwynhau, er nad oedd pob cân at fy nant. ‘Yn Harbwr Corc’ gan Fflur ac Anni a fersiwn Gwyneth Glyn o ‘Yn Harbwr San Francisco’ wnaeth apelio fwyaf ata i. Tipyn o sioc a diddorol hefyd oedd clywed NAR yn cloi’r albwm gyda chân roc yn dilyn casgliad o ganeuon ysgafn, gwerinol. Mae’r adfywiad diweddar canu gwerin yn siŵr o annog pobl i chwilio am ganeuon o’r gorffennol i’w hatgyfodi, ac mae’r casgliad yma’n gam pwysig yn y broses honno. Mae’n werth ei phrynu i ddarganfod caneuon J. Glyn Davies o’r newydd, neu i atgoffa eich hunain o ba mor bwysig ydi’r caneuon yn y traddodiad gwerin Cymraeg. 7/10 Owain Gruffudd

Rainhill Trials Dan Amor Pe bai Dan Amor yn bryd o fwyd, ‘dw i’n siŵr y byddai sawl un yn dweud “mae angen mwy o halen ar hwn”. Ond ‘dw i’n mynd i anghytuno. Mae o’n fwy fel cinio dydd Sul. Rydych chi’n gwybod yn union be’ fyddwch chi’n ei gael, ac rydych chi’n mwynhau bob tro. Mae’r albwm ychydig yn fwy hamddenol na’i rhagflaenwyr. Arni ceir ambell gyffyrddiad o’r murmur yna mae Iron & Wine a Bon Iver yn ei greu. Un syrpreis ges i ar yr albwm, sef trac cudd ar y diwedd! Albwm fydd yn bodloni unrhyw ffan o Dan Amor ydy Rainhill Trials. Llond lle o ganeuon tawel, hyfryd â chytgan gofiadwy. Pan mae yna fwy o fynd ar y caneuon, fel ‘Y Gwynt’, maen nhw’n dal yn nodweddiadol o’r hyn sy’n ddisgwyliedig o Dan Amor. Yw hyn yn beth da? Wn i ddim, mewn gyrfa lwyddiannus o dros ddeng mlynedd byddech chi’n disgwyl clywed mwy o newid. Ond eto, pam newid rhywbeth

sy’n gweithio cystal? Fyddech chi’n newid eich cinio dydd Sul wythnosol? 6/10 Lois Gwenllian Castro Castro Mae ysbryd anarchaidd ac elfen gref o bunk wedi nodweddu cerddoriaeth Gymraeg ers y cychwyn, ac mae dylanwad bandiau megis Y Cyrff ac Anrhefn i’w glywed hyd heddiw. Mae Castro yn dyst i hynny, ac maent newydd ryddhau eu EP cyntaf sy’n dangos sut maent yn delio ag angst ac angerdd yn y byd sydd ohoni. Mae Castro ymysg yr ieuengaf o’r cnwd diweddar o fandiau punk, ond mae eu casgliad cyntaf yn hynod aeddfed a phroffesiynol. Dwi ddim yn meddwl bod y gân gyntaf, ‘Ddim yn Poeni am y Bobl’, yn gweddu fel agoriad i’r EP - efallai byddai cyflwyniad mwy graddol wedi bod yn well. Fodd bynnag, yn ei gyfanrwydd, mae’r casgliad chwe chân yn waedd eofn sy’n herio’r drefn. Mae ‘Hedfan’ ac ‘Anifeiliaid’ yn ffefrynnau personol, a ‘Tri Tro’ yw anthem yr EP, heb os. Wrth wrando, mae’n amhosib peidio drymio ynghyd i guriad y gerddoriaeth ac ymuno gyda’r bloeddio rhyfygus. Casgliad cyntaf herfeiddiol ac addawol iawn hefyd. 7/10 Miriam Elin Jones Y Meirw Byw Y Datgyfodiad Pan gyrhaeddodd Y Meirw Byw drwy’r post, mae’n rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n edrych ymlaen at wrando arni. Mae albyms cysyniadol, hyd yn oed rhai am sombis, yn tueddu i fy niflasu. Ac ar ôl clywed campwaith The Gentle Good, Y Bardd Anfarwol, y llynedd, doeddwn i ddim yn disgwyl albwm gysyniadol arall fyswn i’n ei mwynhau am flynyddoedd eto. Cefais fy siomi ar yr ochr orau. Dyw’r gerddoriaeth - gyda’r curiadau tewa’ ers Timothy Evans – ddim yn anhebyg i rywbeth fyddech chi’n ei glywed gan Skrillex. Ydy, mae’n gallu mynd yn


undonog ar adegau ond mae digon o amrywiaeth i gadw’r diddordeb ac mae alaw Caniad 6 a 7 yn uchafbwynt iasoer. Mae’r geiriau wedi cael eu sgwennu a’u perfformio gan Nei Karadog, a dwi’n gwybod, mae o’n swnio’n echrydus, ond mae’r ffordd mae o’n perfformio yn rhoi angerdd hanfodol i’r albwm. Mae’r gerddoriaeth ar ei ben ei hun yn swnio fel trac sain ffilm – ac os fyswn i’n gwneud ffilm am sombis, dyma’r gerddoriaeth fyswn i’n ei ddefnyddio - ond mae cael Nei yn poeri’r gynghanedd allan fel petai’r meirw byw yn y stiwdio gydag o yn dod â’r holl beth at ei gilydd, rhywsut. 7/10 Ciron Gruffydd Mae Pawb Yn Haeddu Glaw Yn Waeth Na Fi Y Pencadlys Mae’n rhaid i mi gyfaddef, y tro cyntaf glywais i ‘Mae pawb yn haeddu glaw yn waeth na fi’ nid oeddwn yn gwybod be’ i feddwl. Rhywsut roedd anghyseinedd y patrymau synths gwahanol oedd yn ail adrodd am dros bedwar munud yn fy niflasu braidd. Ond mi o’n i’n anghywir. Wrth i’r gân dyfu ac adeiladu, tyfodd fy nghariad tuag ati. Mae’r sengl yma’n un hypnotig ac yn wahanol i unrhyw beth arall yn y sin Gymraeg ar y funud. Mae’r gymysgedd o lais sinistr Haydn Hughes a’r alawon arswydus yn creu naws fydde’n gweddu’n berffaith i un o ffilmiau Alfred Hitchcock. Efallai fel fi, na fyddwch yn siŵr be’ i feddwl wrth wrando am y tro cyntaf ond dwi’n sicr y byddwch yn cael eich credorfodi gan Y Pencadlys y mwyaf y byddwch chi’n gwrando. Dyma gân sydd wedi ei smentio yn fy mhump uchaf o ganeuon Cymraeg o’r 12 mis diwethaf, yn syml gan ei bod yn wahanol i bopeth arall. 8/10 Cai Morgan Ymollwng / Yr Euog Yr Eira Er cystal cân oedd ‘Elin’ yn 2013 mae’n siŵr ei bod hi wedi rhoi pwysau ar Yr Eira i gynnal safon mor uchel wrth ddatblygu ymhellach fel band. Mae’r grŵp yn rhyddhau dwy sengl yn

Chwefror a Mawrth a dwi’n falch o gyhoeddi fod y ddwy yma’n glincars hefyd. Mwy o riffs gitâr cofiadwy a chytganau bachog a geir yn ‘Ymollwng’ ac ‘Yr Euog’ fydd ar gael i’w lawrlwytho o’r llefydd arferol yn y gwanwyn cynnar. Yn lleisiol, efallai mai Lewys ydi front man newydd gorau’r sin ers y boi sy’n sefyll drws nesa iddo fo yn cynhyrchu hanner y riffs cofiadwy ’na o’n i’n sôn amdanyn nhw! Mae’r dryms yn haeddu mensh hefyd, yn enwedig ar ‘Yr Euog’. Os oes ganddoch chi fymryn o beswch, cymerwch un yr un o’r rhain, achos ma’ nhw’n tiwns! 8/10 Gwilym Dwyfor Bach Yn Ryff Jamie Bevan a’r Gweddillion Dyma gasgliad sydd wedi uno’r traddodiadol a’r presennol, wrth i’r grŵp lwyddo’i gyflwyno naws werinol mewn dull cyfoes – sy’n gwneud Bach yn Ryff yn apelgar dros ben ac yn rhwydd gwrando arno fel cyfanwaith. Caiff cymeriad yr artist ei gyfleu i’r gwrandawyr trwy symlrwydd amrwd yr EP, a rhwydd gweld ei fod yn teimlo’n gryf am ganu gwerin a’r arddull dafarnaidd. Mae elfen gref o hiwmor yn bresennol yma hefyd mewn traciau megis ‘No Lentils in Cawl’ – trac sy’n sicr o gael pawb yn bloeddio canu yn y dafarn erbyn diwedd y nôs. Mae’r finimaliaeth mewn offeryniaeth yn galluogi’r straeon, sy’n rhai gwir a phersonol i Jamie Bevan ei hun, gael eu hadrodd yn effeithiol mewn traciau fel ‘Hanner Nos’ a ‘Bron’, gan ddod ag ymdeimlad ‘Merthyr Tudful-aidd’ iawn i’r EP. Dyma gasgliad addawol iawn, dwi’n edrych ’mlaen i glywed mwy. 7/10 Ifan Prys Cefn Trwsgl Gai Toms Gwerin cyfoes gyda naws seicadelig ar adegau ydy ‘Cefn Trwsgl’, sengl ddiweddara Gai Toms. Mae gan y trac

strwythur syml gydag alawon ailadroddus a chofiadwy. Cawn ein tywys gan rythmau reggae ac offerynnau acwstig ysgafn, cyn cael ein hypnoteiddio gan gasgliad o synths seicadelig a vocoder am wyth bar. Roedd yn braf clywed y newid annisgwyl yma ar ôl tipyn o ailadrodd oedd yn dechrau diflasu. Cynhyrchwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl; un sydd yn eithaf syml fel y gân. Gwelwn Gai yn cerdded ar draws caeau a bryniau cyn iddo ddod ar draws grŵp o estroniaid. Ar y cyfan, nes i fwynhau’r sengl, mae’n eistedd yng nghanol y ffordd, sydd yn hyfryd i glywed bob hyn a hyn. Nes i ffeindio fy hun yn ei chanu hi oriau ar ôl gwrando, sydd wastad yn arwydd da. Mae’r elw a godwyd o’r gwerthiant yn mynd tuag at Apêl Cwmorthin, sydd yn cadw a gofalu am hen adeiladau yn yr ardal. Felly prynwch y gân a chefnogi’r prosiect gwych yma. 7/10 Cai Morgan Santes Dwynwen Y Cariadon Roeddwn i’n methu gwneud pen na chynffon o’r sengl yma ar y gwrandawiad cyntaf. Ai sbŵff oedd hi, neu jysd cachu? Wedyn dyma ddarganfod mai cân i blant yw hi i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen ac mae hynny’n egluro dipyn! Cân ddawns fachog syml yn adrodd hanes Nawddsantes cariadon Cymru, ac mae yna’n sicr werth addysgol yn ei harddull storiol. Dyma gofio wedyn am drafodaeth a godwyd yn ddiweddar am y diffyg darpariaeth cerddoriaeth Gymraeg i blant. Llawer gwell gen i feddwl am y trac hwn ar restr chwarae’r disgo ysgol na’r rwtsh Eingl Americanaidd arferol. Wedi dweud hynny, tydi o ddim yn Diffiniad a tydi o ddim yn drac sain newydd gwych Crwbanod Ninja gan Ed Holden. Os fyswn i ugain mlynedd yn iau, neu’n rhiant, neu’n athro mae’n debyg y byswn i’n lluosi’r marc yma gyda 3, ond o ystyried y gân ei hun yn gwbl wrthrychol... 3/10 Gwilym Dwyfor


Î Bê

Griff yn Cnoi Cil

EP Meic Stevens / Ail Symudiad Pris gwerthu: £23.00 (4 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP prin iawn Meic Stevens/ Ail Symudiad ar label indî Cymraeg Fflach 1986. Gwerin / ton newydd prin. Ochr A: Meic Stevens – Bwgan ar y Bryn / Gaucho Ochr B: Ail Symudiad – Croeso i Gymru / Dyddiau Newydd Cyflwr Clawr: Da iawn, rhwyg ar gornel. Cyflwr record: Da iawn ++ Barn Y Selar: EP wedi’i rannu rhwng Meic Stevens ac Ail Symudiad, ac un bach diddorol i’r casgliad. Trac Bwgan ar y Bryn gan Meic yw’r cryfa’ ar yr EP ac mae’n un dda iawn hefyd. A phe na bai hynny’n ddigon, mae aelodau Hergest i’w clywed yn canu ar gefndir traciau Ail Symudiad. Mae stwff Meic, a stwff Ail Symudiad yn gasgladwy felly hwn yn bris teg. Meic Stevens – Newyddion Da EP Pris Gwerthu: £375.00 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP 7” prin iawn wedi’i wasgu’n breifat o 1970. Aruthrol o brin, heb amheuaeth un o’r recordiau anoddaf i’w ffeindio. Mae’r clawr mewn cyflwr cryf ac ardderchog. Record mewn cyflwr mor agos at berffaith ag yr ydych yn debygol o’i ddarganfod. Un marc bychan ar ochr 2, dim ar ochr 1. Dim ond wedi’i chwarae unwaith, dwi’n amau’n fawr os oes copi gwell mewn bodolaeth. Barn Y Selar: Mewn gwirionedd, enw’r label oedd ‘Newyddion Da’ yn hytrach nag enw’r EP. Rhyddhawyd yr EP erbyn ‘Steddfod Rhydaman ym 1970, yn un o dri EP Cymraeg a ryddhawyd rhwng yr albwm Outlander ar label Warner Bros, a Gwmon ar label Dryw – dwy record hynod o gasgladwy a gwerthfawr. Hwn yn bris mawr am hon, ond os yw’r cyflwr cystal yna efallai nad yw hynny’n syndod. Siencyn Trempyn 7” Pris Gwerthu: £7.40 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Record 45 pync prin gwreiddiol o 1985. Siencyn Trempyn – Yr Olwyn Fawr / Yr Eiliad Olaf (Trythyllwch 001, 1985). Cyflwr (clawr / record): Ardderchog Barn Y Selar: Grŵp o Aberystwyth yn wreiddiol oedd yn cynnwys yr enigma Huw ‘Bobs’ Pritchard, Richard Wyn Jones ac Emyr Glyn Williams aeth ymlaen i fod yn un o bartneriaid label Ankst, ac yn hwyrach i ffurfio Ankstmusik. Daeth recordiad cyntaf Siencyn Trempyn allan mewn ffurf casét ar label tss. Roedd y record yma ar Trythyllwch, sef label annibynnol y grŵp. Aeth Bobs ymlaen i berfformio dan yr enw Byd Afiach cyn dod yn gyflwynydd radio, gan adael yr aelodau eraill i ffurfio Arfer Anfad oedd yn weddol lwyddiannus ddiwedd yr 1980au.

22

y-selar.co.uk

Mae’n anodd anwybyddu’r cysgod du sydd dros y sin ar hyn o bryd, ac mae hi’n bechod mai gwleidyddiaeth cerddoriaeth yw’r newyddion pennaf ac nid y gerddoriaeth ei hun. ’Da ni heb glywed diwedd helynt Eos a BBC heb os, ond yn y cyfamser mae gan Griff Lynch ambell beth i ni gnoi cil drostynt. ’Da ni gyd bellach mae’n debyg yn gwybod rhywbeth am sefyllfa Eos, y BBC, a cherddorion Cymraeg. A’i ddim i barablu am anghyfiawnder a thristwch y sefyllfa, dim ond cynnig ambell beth i gerddorion Cymraeg eu hystyried. 1) I ddechrau, peidiwch â digalonni. Mae’r diwydiant cerddorol byd eang wedi mynd i’r cach yn ariannol dros y blynyddoedd diwethaf beth bynnag, a dim ond adlewyrchiad o hynny ydi beth sy’n digwydd yma yng Nghymru gyda breindaliadau Radio Cymru. 2) Nid dyma’r diwedd i achos y breindaliadau. Mae Eos yn ystyried ambell opsiwn ar hyn o bryd, ac mi allwch chi fod yn saff fod sawl aelod o staff Radio Cymru hefyd yn cydymdeimlo efo cerddorion a chyfansoddwyr, ac am barhau i geisio adfer y sefyllfa. 3) Peidiwch â meddwl yn sgil hyn i gyd mai’r ffordd o gael llwyddiant ydi canu’n Saesneg yn unig. Mae canu’n Saesneg yn iawn wrth gwrs, achos mi rydan ni’n wlad ddwyieithog. Ond mae canu jesd yn Saesneg mor boring a chanol y ffordd. Mae pawb yn y byd yn gwneud hynny. Byddwch yn falch eich bod chi’n gallu cynnig rhywbeth gwahanol yn ieithyddol, nid pawb sy’n gallu. 4) Nid yn Llundain mae’r atebion. Mae’r BBC canolog wedi dangos nad ydynt wir yn ystyried breuder ein diwylliant fel ffactor yn hyn i gyd. Efallai y cawn ni fwy o gydymdeimlad gan ffans cerddorol ar y cyfandir, wedi’r cwbl mae ’na 740 miliwn o bobl yn byw yn Ewrop, siawns na fyddai rhai o’r rheiny’n cymryd diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg, petaent yn cael y cyfle. Dwi’n cau pen y mwdwl ar y busnes yma rŵan, achos mai’n hen stori sy’n llusgo ers tua phedair blynedd, a’r gwir ydy, mae nifer y bandiau yn y sin wedi cynyddu a safon y gerddoriaeth sy’n cael ei gynhyrchu wedi gwella yn y cyfnod hwnnw. Felly ymlaen â ni. I’r gad.


Cân i Gy mru

Nos Wen 28 Chwe er fror

Cyffro’r cy o Bafiliw stadlu’n fyw n Môn

#CIG2014 s4c.co.u k

Ochr 1

10.30 Nos Iau 13 Mawrt h

Rhaglen uchafbw arbennig o Gwobra yntiau u’r Sela r #ochr 1 s4c.co.u k

Nofelau

cyfoes a chyffrous

Cyfres Copa.

Darluniau gan Rhys Aneurin, Yr Ods.

£2.95

yr un

£8.95

Nofel am oes aur finyl

www.ylolfa.com



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.