RHIFYN 16 . RHAGFYR . 2008
y Selar
AM DDIM
R ’ U A R H C E D
D A I G Y DIW ^
^
THE GENTLE GOOD . SIN NEWYDD DE CYMRU . COLOFN LISA GWILYM . ADOLYGIAD GWYL SWN . PUMP PERL RHYS MWYN
1
Y Rei, Sibrydion, Mattoid z, Creision Hud, Elin Fflur, Frizbee, Al Lewis. Pwsi Meri Mew, Y Diwygiad, Derwyddon Dr Gonzo...
... i gyd i’w gweld ar
Pob nos Fercher a Gwener rhwng
18.00 a 19.00
NADOLIG Y LOLFA
Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com
THE GENTLE GOOD
OWAIN S
PUMP PERL - RHYS MWYN
Y DIWYGIAD
L O D D Y GOLYG
a phob l Y Selar, y w n dymor n n a , mae hi’ el. nwyr ir e ll w r a y d d d Y . h w d ^ Henffyc l i chi gy d sbon ar y gor n yr W y yd ifyn h r o n cyfarchio blwyddyn new y flw ga y i mi gy anolbwyntio ar y Nadoli iawn fell ch s a a . d .. d r a ad Mae hi’n on danlli o’r Sela yn hwn. Mae tro b if s h n r d e yn y u’r h a i newyd ddwn ni erffaith i wared fy d d f wed y w y ne diwetha mser p is a m n y ’r n e nd, y a y flwydd ’r newydd, ac m Genod Droog. O n u ’r ty â s w e a o s rweli lar yn chroe G yn ffa dd Y Se u R y S b m r a a y g u ld w gwe r i drista wrth iddyn nh e s m a h r yn oi does dim r i Y Diwygiad ni hefyd prysur n w w d a d y m B croeso Cymru. ydd sy’n hip-hop orol new hyn o bryd. i orsedd nig i’r sin gerdd r Cymru a wn en sylw arb yn Ne-Ddwyrain ewydd allan me au n d u ’s ia g D g ly ioC adoly ddatb fyd lwyth olygu llwythi o wrth e h a ‘n Mae y’n g i chi adolig, s help llaw pryd i’r N y gallwn ni roi . hio eu ddwy – gobeit elar, hosan n w y h r i d yn Y S lenw u newyd yn y rhifyn a th e p ni’n licio frynnau a Ydan, da igon o’r hen ffe n d u i’w Dily d ond byd – Pump Perl, Da wilym. Felly pa G d ’r hwn hefy nedig gan Lisa n diweddaraf o ty y s if e h r fn h a c cholo gwell n io new Nadolig s i gyd. Gobeith lar, a anrheg in Se im Y da’r tr gaidd Selar gy u soiree Nadoli mhen. m y rw ha chi fwyn cwrw ym mol, tw hchofiwc
12
4 Golygydd
Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
Dylunydd
16
Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)
Cyfranwyr
18
Y DE I’W DILYN
Barry Chips, Ian Cottrell, Dewi Snelson, Aled Ifan, Lowri Johnston, Hefin Jones, Leusa Fflur, Gwilym Dwyfor, Rhys Mwyn, Lisa Gwilym, Guto Brychan
y Selar RHIFYN 16 . RHAGFYR . 2008
Ariennir y Selar trwy grant gan Gyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
3
Y H C W CAN
! S L O N R E F F
4
“
myspace.com/ydiwygiad ?
MA’ ANGEN GWNEUD Y PWYNT I BOBOL Y PETHE FOD RAPWYR YN FEISTRI AR CHWARAE GYDA GEIRIAU
“
Mae’r brenin yn farw, hiroes i’r brenin! Yn ddiweddar, daeth terfyn ar deyrnasiad y Genod Droog fel un o fandiau mwyaf dylanwadol, a byddai rhai’n dweud arloesol, y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Ond, yn aml iawn mae diwedd un bywyd yn esgor ar fywyd newydd ac mae dau frontman y Genod eisoes yn rhyddhau albwm cyntaf ^ eu prosiect ymylol (tan rw an), Y Diwygiad. Barry Chips fu’n siarad efo Aneurin Karadog ac Ed Holden Dychmyga’r olygfa ... criw o josgins yn isda rownd y tân yn ‘Sdeddfod, yn barod i ddechra’ morio canu’r hen emynau ...ond wele ddau foi digon od yr olwg yn tarfu ar yr hwyl, a dechra’ rapio freestyle dros y shop. Dyma beth yw sypreis. Wel, ac y sôn am ddiwygio trefn pethau ... mae hyn bron mor wael â’r Archdderwydd yn gneud dw-dw ar yr orsedd... Chaiff y bali rapio yma ddim parhau. Ma’ Hed Josgin yn codi fyny a sythu’i gefn, gan lenwi’i ‘sgyfaint efo Gwynt Y Cyfiawn cyn sgrechian nerth esgyrn ei ben: “Canwch Y Ffernols!” Ond parhau i lafarganu’n floesg wnaeth Y Ddau Ddiwygiwr, gan fynd o nerth i nerth ^ - a rw an mae nhw’n rhyddhau casgliad o’u caneuon hip-hop. Ed Holden ac Aneurin Karadog ydi aelodau craidd Y Diwygiad. Mi fyddwch yn eu hadnabod yn well fel Y Polyn Lein a’r Gasgan fu’n ffryntio’r Genod Droog - dau ddigri’, llawn egni yn gweiddi’r slogans poblogaidd ‘Pwy sy’n ddrwg?’ a ‘Bomiwch Y Byd’. Gath y Genod Droog ei gladdu mewn gig yn ddiweddar, cyn iddo fynd yn sdêl. “Getho ni lot o hwyl efo Genod Droog,” meddai Ed Holden. “Roedd o’n apelio i lot. Dwi’n hapus ^ fod o’n dod i ben rw an - mae hi’n amsar i ganolbwyntio ar bethau eraill. Oedd hi’n end of the line, a da ni wedi gorffen ar high point.” “Doedda ni ddim isho mynd rownd yr un feniws yn g’neud yr un peth drosodd a throsodd.”
cyfweliad: ydiwygiad
GEIRIAU: BARRY CHIPS LLUNIAU: UNED5
“
“
MA’R DIWYGIAD AR GYFAR YR HARDCORE RAP FFANS, A NEITH O DDIM APELIO AT 80% O’R BOBOL.
Wrth reswm, mae Aneurin yn cytuno fod claddu’r Genod Droog wedi bod yn beth iach. “O ni’n teimlo bach yn gutted fod o wedi dod i ben. Ond roedd e wedi rhedeg ei gwrs ... ath bandiau fel Anweledig ymlaen yn rhy hir. Netho nhw hedleinio pump, chwech, saith Sdeddfod. Odd hynny’n ormod. “Ma’ tristwch, ond does dim byd yn para am byth, a fi’n hapus ni heb fynd rhy hir.” Bron cyn i gorff y Genod Droog oeri yn ei fedd, ma’r ddau rapiwr wedi lansio Y Diwygiad - prosiect sydd ar y gweill ers sawl ^ blwyddyn, ond sydd rw an hyn yn cael eu sylw mynwesol. Ac wrth sôn am yr albwm, Hymn808, mae’n amlwg iawn fod Aneurin Karadog yn cymryd y busnes rapio yma o ddifrif. I Aneurin, mae rapio yn barhad naturiol o arfer oesol y Cymry o ddod at ei gilydd i adrodd ag odli. “Ma’ angen gwneud y pwynt i Bobol Y Pethe [beirdd, telynorion ac aelodau Plaid Cymru] fod rapwyr yn feistri ar chwarae gyda geiriau. Mae lle i rap yng Nghymru, ma fe’n ddatblygiad naturiol o farddoniaeth.” Mae Aneurin wedi’i argyhoeddi fod Yr Efengyl Rap yn werth ei phregethu. “Efo Genod Droog netho ni lwyddo i boblogeiddio rap yng Nghymru,” meddai Aneurin. “Ryda ni’n cenhadu mwy efo’r Diwygiad, yn ceisio dangos bod rap yn gweithio’n well yn Gymraeg nag yn Saesneg. Hefyd ryda ni ishe dangos i bobol Lloegr bod yna rap da sydd o werth yn Gymraeg.” Mae’r Diwygiad yn ddigon hirben i ddeall
na fydd eu rapio caled i gefndir curiadau syml at ddant pawb. Ond nid trio plesio pawb a phlesio neb ydi’r nod, medda’ Ed Holden. “Ma’r Diwygiad yn sbesiffig, sydd yn beth da. Mae yna lot o sdwff yn y sîn sy’n apelio i bawb, ond does yna ddim specialist stuff. Dwi ddim i fewn i werthu loads o albyms. Ma’r Diwygiad ar gyfar yr hardcore rap ffans, a neith o ddim apelio at 80% o’r bobol.” Ac mae yna ddigon ar yr albym, Hymn808, i ddiddori unrhyw un sy’n licio clwad odli clyfar, hiwmor a churiadau ffynci. Wna’i ddim difetha’r gân Paneidiwch i neb sydd heb ei chlywed - ond mae’n rapio doniol ag esmwyth iawn am yr hen arferiad diniwad o ferwi teciall a mwynhau panad. Ella bo fi’n dadansoddi gormod ac yn siarad drwy’r hen dintws fama ynde, ond i fi ma’n ddiddorol clywed Ed ag Aneurin yn defnyddio geiriau Gog a De i drafod panad/ dishgled - mewn ffordd, mae o’n tanlinellu’r pwynt fod ein geirfa ni’n wahanol, ond yr un yda ni fel pobol yn Amlwch a Phontypridd. Ac mae rapio am wneud te yn Gymreig iawn hefyd - o gymharu efo hen arfer anffodus rapwyr ‘Mericia o adrodd am popio caps yn nhinau eu gwrthwynebwyr, neu fynd allan mewn Cadi Lac i chwilio am ‘hoes’ a ‘bitches’ i’w trin yn anghyfartal a thecthuthd. “Dyw dryllie a bling ddim yn berthnasol i ni,” meddai Aneurin.
CYCHWYN YN Y COLEG
Tra’n ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen ym Mhontypridd, roedd Aneurin Karadog yn arfar canu mewn band o’r enw Y Brwyn Twenty Marlboro Lights oedd eu hanthem, efo’r gytgan goifadwy “Twenty Marlboro Lights, fi’n casau ti ond fi ishe ti!” Ffagin hilariws. Wedyn roedd o’n brifleisydd ‘Pwdin Blew’, yn canu cyfyrs Tebot Piws. Ond doedd ei fam ddim yn licio’r enw ‘Pwdin Blew’, felly fe newidiwyd yr enw i rwbath arall, llai riwd. Mi welodd Aneurin y goleuni ar ôl gadael adra i fynd i’r Coleg, a dod i ddeall y grym o gyplysu gair a churiad. “Os fyswn i heb fynd i’r Coleg yn Rhydychen, fyswn i ddim yn rapio,” meddai Aneurin, oedd wedi hanner meddwl mynd i Aberystwyth i astudio. “Roedd yna scene drum and bass yn Rhydychen, a ges i fewn iddo fe. O ni’n arfer ymarfer rapio dros recordie Dub Reggae.” A dydi Aneurin yn bendant ddim isho cydymffurfio efo’r hen sderioteip o rapar mewn cragenwisg yn brolio’i hun. A deud y gwir, mae’r boi yn chwa o awyr iach sydd ddim i’w weld yn becso’r dam. “Pan ddechreues i rapio, roeddwn i’n
5
cyfweliad: ydiwygiad
PIMPIO’R DALENT I DALU RENT
Heb os, ma’ Ed Holden yn byw hip-hop. Rapio a chreu miwsig ydi ei fywyd, ei dalent, ei grefydd. Ac mae o’n hogyn lwcus iawn, yn medru gwneud bywoliaeth o’r hyn mae o’n garu. Bob nos Iau fydd o’n cynnal gweithdy troelli records a rapio go unigryw. “Dwi’n g’neud gweithdy efo ex-cons yn y Bail Hostel yn Bangor,” meddai Ed, “a mae o’n reit chilled out. Pan dwi’n dechra rapio a bît-bocsho yn Gymraeg mae nhw’n mynd ‘Blydi hel, doeddwn i ddim yn gwbod bo chdi’n medru neud hynna yn Gymraeg. Ma’ nhw’n synnu bo chdi’n medru defnyddio’r iaith Gymraeg i neud barddoniaeth gyflym.” Mae o hefyd wrthi efo gweithdy ar stâd Sgubor Goch Gynarfon, a wnaeth o helpu rapars ifanc lleol i berfformio mewn sioe Cofi Opera yn ddiweddar. Hefyd, mae Ed yn perfformio sioe un dyn fel Mr Phormula. Mae’n defnyddio’i amrediad eang o dalentau i greu caneuon yn fyw, gan gychwyn drwy recordio ei ^ hun yn gwneud sw n dryms efo’i gêg (bît-bocsho) - wedyn mae’n recordio synau cefndir dros y bît, cyn mynd ati eto i rapio dros y cyfan - ma’n athrylith gweld y boi
6
“
... ROEDD HUW STEPHENS, EUROS CHILDS A DYL MEI YN DAWNSIO I BON JOVI.
“
ymddangos mewn gigs yn syth o’r swyddfa, mewn crys a throwsus. Roeddwn i’n cael fy ngalw’n Accountant Rapper. Oedd pobol yn gweud tho fi ‘No offence, but you don’t look like a rapper’. O ni ishe chwalu pre-conceived ideas.” Nath Aneurin gyfarfod Ed yn y ‘Sdeddfod a byrfyfyrio (odli ar y sbot. Ryw fath o jamio geiriol) rown y tân, dod yn gyfeillion mynwesol, ac mae’r gweddill yn hanas.
yma’n creu trac efo dim offeryn heblaw ei lais ei hun. A ma’ pobol wrth ei bodda’ efo shit fel hyn ‘dyn.
CHWYDU FEWN I GWPAN, Y FAENOL YN 2020 A DYL MEI YN ROCIO I BON JOVI
Roedd Aneurin Karadog yn arfer dawnsio fel ynfytyn wrth berfformio efo’r Genod Droog. Yma mae’n sôn am y pris corfforol ac ysbrydol y bu’n rhaid iddo dalu, er mwyn gallu pherfformio fel Baboon ar dân. “Post-gig, fyddwn i wasdad yn gorfod ^ ^ partio heb lais ... yng ngw yl Sw n y llynedd, nesh i chwydu. Roeddwn i wedi bod yn rhedeg ar yr unfan, a doedd y fodca a coke ddim yn cyd-fynd efo hynny.” “Ond whare teg, esh i i gefn y llwyfan i chwydu fewn i gwpan yn hytrach na chwydu rywle rywle!” Ond sut mae cyfiawnhau y ffasiwn ymddygiad? “Roeddwn i’n ymateb i’r gerddoriaeth, yn mynd yn excited. Y ddau yn y ffrynt y llwyfan oedd efo’r cyfrifoldeb o gynnal y parti.”
myspace.com/ydiwygiad
Bois bach, mae hwn wedi aberthu yn enw adloniant. Roedd sôn fod parti claddu’r Genod Droog wedi bod yn farathon o anfoesoldeb rhonc. Bu Dyl Mei ar Wedi 7 yn brolio fod o heb fynd i’w wely tan wyth y bore wedyn (pwff ath parti claddu Rocset ymlaen am dridia’). Yn ôl Aneurin, roedd o’n ei wely am ddau y bore, yn gorfod codi i wneud gwaith go-iawn bora wedyn (a nachdi, dydi udo ar lwyfan ddim yn waith go-iawn, ocê?). Ond nid felly Dyl Mei, “Roedd yr aftershow party yn Clwb Ifor,” meddai Aneurin, “a roedd Huw Stephens, Euros Childs a Dyl Mei yn dawnsio i Bon Jovi.” Ond ai dyma’r diwadd? Wnawn ni weld ^ Genod Droog yn ailffurfio ar gyfer Gw yl Y Faenol yn 2020. “Twenty grand each a fydde ni yna,” meddai Aneurin, heb lawn sylweddoli na fydd £20k prin yn ddigon i brynu torth erbyn 2020.
YR EFENGYL RAP...
Dwi’n rhagweld y bydd rap yn ennill ei blwy’ yng nghalon y genedl, yn dod yn rhan o’n traddodiad. Ac fel dehonglwr cardiau tarot proffesiynol, ga i fod y cyntaf i’ch hysbysu bod y diwrnod ar droed, pan y gwelwn ni Aneurin Karadog ar lwyfan y genedlaethol yn rapio’i anerchiad Archdderwyddol i’r dorf. Ac nid telyn fydd yn gyfeiliant iddo, ond bît-bocsho Ed Holden.
GEIRIAU SY’N GYRRU’R GÂN? Fuoch chi erioed yn pendroni yngly^ n â geiriau llinell yn un o’ch hoff ganeuon? Wel, dyma chi eitem fach newydd sbon danlli lle fyddwn ni’n gofyn i fandiau Cymru ddatgelu geiriau un o ganeuon mwyaf poblogaidd y foment – ystyriwch hwn yn anrheg Nadolig cynnar gan Y Selar. Lle arall allem ni ddechrau ond gyda’r gân sydd wedi bod yn bwnc trafod mawr dros y mis diwethaf, fersiwn Gymraeg Brigyn o gan enwog Leonard Cohen, Hallelujah. Ond yn gyntaf, dyma chi Ynyr o’r band yn disgrifio peth o gefndir eu fersiwn nhw: Ynyr: “Tra roeddem ni’n gwneud cyfres o gigs yn San Francisco ddiwedd 2005 roedd Nia, ein telynores yn sôn byth a beunydd am iddi glywed hogyn bach yn canu fersiwn Gymraeg o’r gân Hallelujah yn ‘steddfod Nefyn - fersiwn ‘festive’ tebyg i ryw garol fodern oedd y geiriau o beth oedd hi’n gofio... Wedi i ni ddod nôl i Gymru, cafodd Nia gopi o’r geiriau yma gan dad yr hogyn oedd yn canu’r gân sef Tony Llewelyn (Angylion Stanli). Mi wnaeth hi mherswadio fi i recordio’r fersiwn Gymraeg yma yr wythnos wedi ni ddod yn ôl o San Francisco, a mi wnaethom ni berfformio fersiwn bras iawn efo piano a thelyn, ac ar y noson yn dilyn y sesiwn mi wnes i yrru’r gân ar MP3 i Daf Du ... ‘and the rest is history’ fel petai. Mae hi wedi dod yn un o hoff ganeuon byw Brigyn ers 2 flynedd. Ac mae’n braf dweud bod hi’n apelio at drawsdoriad o oedran, o stiwdants i bobl wedi ymddeol! Doedden ni erioed wedi disgwyl ymateb mor bositif i’n fersiwn, ac mae llawer o bobl wedi deud pethau mor
YMATEB
Eleni, da ni di cael dau ymateb cadarnhaol iawn i’r fersiwn Gymraeg: “A band called Brigyn turned in a faultless, classy set of mid tempo folk rock with lyrics sung predominantly in Welsh. They did a beautiful version of Leonard Cohen’s ‘Hallelujah’. A brave song to pull off at the best of times, but they did so with
HALELIWIA
[Geiriau Cymraeg: © Tony Llewelyn] Mewn dwrn o ddur mae’r seren wen Mae cysgod gwn tros Bethlehem Dim angel gwyn yn canu Haleliwia. Codi muriau, cau y pyrth Troi eu cefn ar werth y wyrth Mor ddu yw’r nos ar strydoedd Palesteina. garedig am y trefniant a’r geiriau – rhai’n honni fod y geiriau Cymraeg yn well na’r gwreiddiol! Da ni wedi canu’r gân yn fyw ers diwedd 2005, ac ar ôl trafodaethau gyda’r cyhoeddwyr, Sony, mae nhw wedi rhoi’r hawl i ni ei rhyddhau ar CD.
aplomb. It was very moving.” John Haylock, Soundfires – Live review of the Green Man Festival, 2008 … ac wrth gwrs fe ddwedodd Tom Robinson hyn yn ddiweddar ar ôl chwarae’r gân ar BBC 6 Music: “Great voices, great song! This is a cross-over record, it’s
done by a band with great taste, fantastic singer and it would not only cross-over to people who listens to BBC Radio 6 and Radio 2 but to the record buying public - it could be a Christmas number one!” A dyna pam mae pawb yn sôn am Brigyn yn rhif 1 yn y siartiau! Ha!”
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. Mae weiran bigog gylch y crud A chraith lle bu creawdwr byd Mae gobaith yno’n wylo ar ei glinia’ A ninnau’n euog bob yr un Yn dal ei gôt i wylio’r dyn Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. Mae’r nos yn ddu mae’r nos yn hir Ond mae na rai sy’n gweld y gwir Yn gwybod fod y neges mwy na geiria’ Mai o’r tywyllwch ddaw y wawr A miwsig ddaeth â’r muriau lawr Daw awr i ninnau ganu Haleliwia. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
myspace.com/brigyn
7
DAU I’W DILYN
YD GYDA LLWYTH O BR O N HY AR U MR HY NG G D YN EI HANTERTH YN MAE CERDDORIAETH NEWYD , NEU’N RECORDIO W BY U NA AN YF LW AR RC MA EU ARTISTIAID IFANC YN GWNEUD STON YN TYNNU SYLW AT HN JO RI W LO E MA N HW N EDD GWELY. YN Y RHIFY ! CANEUON YN EU HYSTAFELLO CADWCH OLWG ARNYN NHW – HI NI AR F AF GR AR EU CR I DDAU FAND SYDD WED
Pwy: Band o ardal Crymych yw’r Offbeats, ac mae’r chwech aelod, i gyd ym mlwyddyn 10 yn Ysgol Preseli. Megan Davies sydd ar yr allweddellau, Owen Sears ar y gitâr, Ryan Rees ar y gitâr fas, Rhys Sajko ar y trwmped, Ellie Robinson ar y drymiau a Hannah Watkins yn canu. Dechreuodd y band ychydig dros flwyddyn yn ôl, gan ^ yl y chwarae eu gig cyntaf yng ngw Garreg Las yn 2007. Cymysgedd o ferched a merched - da! O, a ma nhw’n ^ edrych yn cw l!
Seindorff Pwy: Seindorff yw Geraint Ffrancon a William Cnicht. Mae Geraint o Bethesda ac wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth electroneg ers blynyddoedd bellach, o dan enwau fel Stabmaster Vinyl, Blodyn Tatws, Ap Duw, ac Estron. Mae e hefyd yn rhedeg y label Recordiau Safon Uchel. Mae William o Felinheli ac wedi rhyddhau stwff o dan yr enwau Y Pencadlys, Pappy a Consultant. ^ n: Mae’n anodd disgrifio Y Sw ^ swn Seindorff, ond yn fyw, ma nhw’n nyts a gwych a jyst yn eich gorfodi i godi ar eich traed a symud y corff ‘na ... ^ Disgrifiodd Geraint eu sw n fel “Dros y lle ... weithiau ni’n swnio fel Kraftwerk, weithiau fel Captain Beefheart mewn experimental mode, weithiau tipyn bach o drwm a bass. Electroneg, ond efo canu a
8
yselar@live.co.uk
^ ^ Y sw n: Mae’r sw n yn amrywio’n fawr, pob cân yn swnio’n wahanol achos bod yr aelodau’n hoffi cerddoriaeth amrywiol. Felly ma’ ‘na bop, roc, blws a.y.y.b., sy’n gwneud eu gigs yn ddiddorol. Mae gan Hannah lais cryf, ac er bod ‘na bethau sydd angen gweithio arnyn nhw, mae nhw bendant yn fand i edrych mas amdano gyda lot fawr iawn o botensial. Mae geiriau’r caneuon yn unigryw ac yn dal eich sylw. Er ^ eu bod nhw’n tueddu tuag at sw n Garej-Dolwen-aidd weithiau, peidiwch poeni achos mae ‘na rhywbeth arall cyffrous a diddorol amdanyn nhw. Yn bendant ‘ma ‘na rhywbeth arbennig am
rwdlan. Darllen barddoniaeth. Free-flow thought of consciousness. Trio cael hwyl a pheidio actio fel artistiaid electronic cliched. Cymryd y piss allan o’n hunain a phawb arall. ‘Da ni’n meddwl fod ni’n ‘wahanol’ i bawb arall ond ‘da ni ddim rili.” Hyd yn hyn: Efallai eich bod chi wedi gweld Seindorff yn ‘Dirty Sue’s’ yng Nghaerdydd ^ ^ yl Sw n eleni. Mae yng ngw nhw wedi rhyddhau albwm ‘Arvonia’, ac wedi chwarae tri gig yn cynnwys set tair awr o hyd ar stondin Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Caerdydd haf ‘ma. Wrth ddisgrifio eu gigs, dywedodd Geraint, “ma’r gigs bob tro’n wahanol iawn i’w gilydd oherwydd nad ydan ni’n ymarfer o gwbl o flaenllaw, jyst troi fyny a gweld be sy’n digwydd” Cynlluniau: Yr ethos Seindorff yw peidio â chynllunio dim
y band yma a dwi’n cyffroi wrth feddwl amdanyn nhw’n datblygu ac yn gwella! Hyd yn hyn: Daeth yr Offbeats i sylw Cymru wrth iddynt ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith / C2 Radio Cymru 2008. Mae nhw wedi chwarae ^ yl y Garreg Las, mewn ysgolion yng ngw ac yn Maes B ‘leni. Yr unig beth mae nhw wedi ei recordio hyd yn hyn yw cân Nytars y Byd, sef hoff gân y ffans! Cynlluniau: Mae’r band yn bwriadu mynd i recordio sengl yn nhy^ anti Ellie, y drymiwr, cyn bo hir, a chario ymlaen i
byd, felly does ganddyn nhw ddim syniad be neith ddigwydd nesaf. Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n chwarae lot mwy o gigs, base fe’n grêt eu gweld nhw mewn clwb dingy tywyll neu mewn cae mawr o dan haul tanboeth yn chware’r beats ‘na! Fasen nhw hefyd wrth eu bodd yn chwarae mewn llwyth o wyliau blwyddyn nesaf, felly Michael Eavis – gwrandewch ar fy nghyngor, a bwciwch y rhain!
“
DA NI’N MEDDWL FOD NI’N ‘WAHANOL’ I BAWB ARALL OND ‘DA NI DDIM RILI
“
Offbeats
Y GOLOFN
WADD
www.bebo.com/The-Offbeats
Llun: C 2
gyda Guto Brychan
gigio a chael hwyl! Does ganddyn nhw ddim Myspace eto (cyn bo hir!) ond ewch i chwilio amdanyn nhw ar Bebo. Ewch i’w cefnogi nhw a’u gweld yn fyw – byddai’n drueni mawr i ni golli band ifanc fel hyn gyda chymaint o botensial.
GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO:
www.myspace.com/seindorff
Los Campesinos, Bandiau Crymych!
GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Kraftwerk, Acid Casuals, PSI
SIART C2: YR UNIG SIART SY’N CYFRI? I ddechrau ma rhaid i mi nodi, fel rheolwr label, fy mod yn gweld gwerth mewn cal siart ar gyfer artistiaid Cymraeg. Dwi’n falch hefyd bod Radio Cymru bellach yn ei hyrwyddo’n rheolaidd ar draws yr orsaf a bod Ciwdod yn ceisio codi ymwybyddiaeth ohono trwy ddatblygu llefydd newydd i’w arddangos. Er hyn, dwi yn pryderu nad oes yna ddigon o wybodaeth ynghylch sut yn union mae’n cael ei lunio, ac o ganlyniad ma’ ‘na ddiffyg hygrededd i’r siart ymysg artistiaid Cymraeg a’r labeli sy’n eu hyrwyddo. Cwmni Cytgord sy’n gyfrifol am greu’r siart, ac wedi bod yn gwneud hynny ers ugain mlynedd. Yn ôl y cwmni mae’n seiliedig ar y ffactorau canlynol; 1) gwerthiant 2) perfformiadau radio 3) perfformiadau teledu 4) perfformiadau byw Rhoddir pwyntiau i’r artistiaid yn ôl y categorïau uchod, a’r artist gyda chyfanswm uchaf o bwyntiau sy’n cyrraedd brig y siart. Fodd bynnag, er ymholiadau ar ran cwmnïau recordio ac artistiaid Cymraeg, nid yw Cytgord wedi datgelu unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y broses o lunio’r siart. Er enghraifft, nodir bod gwerthiant yn cyfrannu tuag ato ond does dim ffordd o wybod faint o siopau sy’n cyfrannu ffigyrau’n wythnosol; os yw’n ganran isel o’r siopau sy’n gwerthu CDs Cymraeg yna ma rhaid cwestiynu gwerth y sampl. Dywedir hefyd bod perfformiadau radio yng Nghymru’n cael eu cynnwys ond be’n union ma hyn yn ei olygu - C2 yn unig, Radio Cymru yn unig neu a yw Champion, Radio Ceredigion, GTFM a gorsafoedd rhanbarthol
eraill yn cael eu hystyried? O ran teledu, mater reit syml fyse cynnwys perfformiadau, ond gan nad yw nifer o’r rhaglenni – Bandit, Uned 5, Nodyn a.y.b. – yn darlledu’n wythnosol yna ma angen ystyried pa mor gyson yw’r categori yma ar hyd y flwyddyn. Yn olaf, a’r mwyaf problematig, yw perfformiadau byw. Yn ôl Cytgord ma pob gig yn cael ei gyfri ond sut yn union ma hyn yn gweithio? Ydi gig sy’n denu 20 o bobl yn gyfystyr â gig sy’n denu 200? Oes rhaid i drefnwyr gofnodi eu gigs gyda Cytgord neu a yw’r cwmni yn cysylltu efo trefnwyr i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill? O brofiad personol o hyrwyddo digwyddiadau yng Nghymru am dros 15 mlynedd dwi erioed wedi cael neb yn cysylltu â mi i holi pa gigs sydd wedi’u trefnu, na chwaith faint o bobl oedd yn eu mynychu. Hyd yn oed petai atebion i’r cwestiynau uchod, byse dal angen rhoi esboniad clir o sut yn union ma’r gwahanol ffactorau yn cyfrannu at gyfanswm y pwyntiau terfynol, h.y. ydi perfformiad teledu werth cymaint â gig, neu faint o werthiant sydd ei angen i gael yr un pwyntiau â pherfformiad radio? Hyd yma does na ddim esboniad wedi’i gynnig ac o ganlyniad ma gwerth y siart i artistiaid a labeli’n cael ei danseilio gan ddiffyg gwybodaeth ynghylch yr holl broses. Os mai Siart C2 yw hwn i fod, efallai dylid ystyried seilio’r holl beth ar yr hyn sy’n cael ei chwarae ar C2 o wythnos i wythnos. O leiaf wedyn byddai pawb yn gwybod yn union sut ma’r holl beth yn gweithio, ac o ganlyniad byddai artistiaid yn gwybod beth fyse angen ei wneud i geisio sicrhau safle yn yr unig siart sy’n cyfri.
9
N ’ O I SWN A HANNER ^
WYL ^
^
^
CYNHALIWYD GWYL SWN YNG NGHAERDYDD AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL FIS TACHWEDD – MI WNAETHOCH CHI DDARLLEN CYFWELIAD GYDA’R TREFNYDD, HUW STEPHENS, YN RHIFYN DIWETHAF Y SELAR OS GOFIWCH CHI. WEL, DOEDD HI DDIM OND YN DEG FELLY I ANFON LOWRI JOHNSTON I’R DDINAS FAWR DDRWG AM Y PENWYTHNOS I WELD SUT HWYL OEDD I’W ^ GAEL YNO...A FY-SWN I’N DEUD BOD HI WEDI CAEL AMSER DA!
10
150 o fandiau mewn 12 lleoliad ar draws y brifddinas, yn ogystal â chelf, ffilm a seminarau, a’r cyfan wedi ei drefnu gan Huw Stephens a John Rostron anhygoel. Ro’n i wedi bod yn egseited bost at y penwythnos o’r funud daeth un llynedd i ben. Do’n i heb wneud llawer o gynllun beth i weld na gwneud dros y penwythnos a falle bod hynny’n gamgymeriad wrth edrych nôl. Gan fod y lleoliadau wedi eu gwasgaru ar draws y ddinas roedd angen tipyn o waith meddwl a pharatoi rhag gwastraffu amser prin! Mae’n drueni nad oedd rhyw fath o drafnidiaeth wedi ei threfnu rhwng y lleoliadau - doedd gan yrrwyr tacsi Caerdydd ddim syniad lle’r oedd Tommy’s Bar UWIC er enghraifft! Ond ^ dyna fy unig gw yn am y penwythnos cyfan, a chwyn bach yw hynny. Ac oedd, mi oedd hi’n benwythnos arbennig. Dwi wrth fy modd gyda’r syniad o fynd o un lleoliad i’r llall yn gweld pob math o fandiau – gan fod gen i docyn penwythnos roeddwn i am ^ wneud yn siw r fy mod i’n gweld cymaint a fedrwn i!
Dechreuodd y cyfan yn Dirty Sue’s (yr hen Europa) nos Wener, a hynny gyda’r hyfryd MeMeMes. Roedd yr awyrgylch yn Dirty Sue’s yn wych trwy’r penwythnos, ac ar ôl aros i weld ychydig o Llwyd (da iawn), lan star Dempseys oedd y lleoliad nesaf i weld MC Mabon yn DJo a dechrau set MC Saizmundo cyn cael cryn dipyn o drafferth i ddod o hyd i Tommy’s Bar. Ond cyrraedd yn y diwedd, a dal diwedd set Thomas Tantrum oedd yn wych. Pete and the Pirates oedd nesa’ ac roedd tipyn o ddiddordeb da fi glywed rhain gan eu bod nhw wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar. ^ Ma’ nhw’n edrych fel band cw l mewn ffordd geeky, a nes i rili fwynhau eu set nhw, dawnsio fflat-out! Doedd dim amser i whilibowan wedyn ‘ny, a syth draw i’r ‘Silent Disco’ yn y Point yn y Bae. Rhaid fi gyfadde, o’n i di bod yn hynod o gyffrous am hyn, a nath e ddim siomi! Oedd cerdded mewn yn brofiad rhyfedd, popeth yn dawel heblaw am rai pobl oedd yn canu heb sylwi, a phawb yn dawnsio yn hollol wyllt! I esbonio os nagych chi wedi bod mewn un - chi’n cael pâr o glustffonau ac mae na ddwy donfedd ar gyfer dau DJ sydd ar y llwyfan. Allwch chi fynd o un donfedd
Yn wahanol i llynedd, doedd dim llawer ymlaen prynhawn Sadwrn, felly nath ^ y noson ddim dechre i ni tan y grw p tecno Seindorff yn Dirty Sue’s, oedd yn briliant! Oedd y ddau yn amlwg yn angerddol iawn am y gerddoriaeth, ac roedd hyn yn ddechrau arbennig i’r noson. Alex Dingley oedd nesaf yn Dempseys, a nes i rili fwynhau y set, ond roedd rhaid brysio draw i’r amgueddfa ar gyfer Euros Childs. Roedd y gig mewn darlithfa oedd yn lleoliad ffantastig. Roedd y lle bron yn llawn, ac roedd e’n brofiad rhyfedd gwylio Euros a neb yn dawnsio. Nath hyn ddim ein stopio ni rhag dawnsio serch hynny ... Chwareuodd e dipyn o stwff newydd, oedd yn swnio’n eitha da. Welon ni ymddangosiad cyntaf Sweet Baboo ar y drymiau hefyd ... diddorol! Roedd Euros mewn hwylie da ac yn cyfathrebu’n grêt gyda’r gynulleidfa. Clwb Ifor oedd nesaf, gan fethu Cats in Paris ond dal y Vinyl Vendettas yn DJo, sydd wastad yn plesio! Draw i’r Point ar gyfer gig ola’ y noson i ni ar gyfer noson drum ‘n’ bass, gyda High Contrast yn cloi’r noson. Gwych, a’r lle i gyd yn hollol wyllt!
“Enillydd y gystadleuaeth i ennill ^ ^ tocynnau Gw yl Sw n yn y rhifyn diwethaf oedd Sioned Gwyn. Llongyfarchiadau mawr iddi a diolch i bawb arall am gystadlu.”
“
NETHON NHW HYD YN OED RANNU’R GYNULLEIDFA’N DDAU A GWNEUD I BAWB GOFLEIDIO EI GILYDD
“
i’r llall ac mae’r ddau yn chwarae cerddoriaeth wahanol. Mae’n hwyl trio dyfalu be’ ma’ pobl yn gwrando arno wrth edrych arnynt yn dawnsio!
Dydd Sul, ac er mod i’n benderfynol o gario mlaen tan y diwedd, roedd hi’n her a dweud y lleia’! Glo Bar oedd stop cynta’r pnawn ar gyfer set ffantastig (ond poeth) Sweet Baboo, yna un o uchafbwyntiau y bandiau-newydd-ifi-eu-gweld dros y penwythnos, Clare Maguire. Waw am lais anhygoel, rili dwfn ac roedd hi’n perfformio’n wych, roedd sylw y gynulleidfa i gyd wedi ei hoelio arni.
rhain! Mae nhw’n dod o Glasgow, a mae eu perfformiad byw yn gyffrous ac yn llawn egni. Naethon nhw hyd yn oed rannu’r gynulleidfa’n ddau a gwneud i bawb gofleidio ei gilydd.
Y Barfly oedd hi nesaf, ar gyfer Dananananaykroyd, ac os ydych chi’n mynd i weld band yn fyw, ewch i weld y
Rob da Bank oedd yn gorffen y noson, set da iawn, a noson wych i ddod a phenwythnos hyd yn oed yn gwych-ach i ben. Dwi ddim yn meddwl mod i di dawnsio cymaint mewn un penwythnos erioed! Methu aros tan blwyddyn nesaf yn barod, ac os nad oeddech chi yno, lle yn y byd oeddech chi?
Y Point oedd diwedd y penwythnos i mi, gyda Goldie Lookin Chain, oedd yn lot gwell na’r disgwyl, a Genod Droog a’u gig olaf, bwhw. Perfformiad da iawn i ddod â chyfnod lliwgar i ben!
11
?
N I R E W G A M
D W G YN
12
myspace.com/gentlegood
cyfweliad: thegentlegood
Dros y dair mlynedd ddiwethaf mae Gareth Bonello, neu The Gentle Good i ddefnyddio ei enw llwyfan, wedi prysur sefydlu ei hun fel un o’r to newydd, cyffrous o gerddorion ‘gwerin’ ifanc Cymraeg. Cymerodd egwyl o’i daith i Awstralia yn niwedd Tachwedd i siarad gyda’r Selar am ei albwm cyntaf. Gareth, ti yn Awstralia! Be sy mlaen gen ti - busnes neu bleser? Pleser! Mae teulu fy nghariad i gyd wedi symud i Awstralia felly ‘da ni mas yn ymweld â nhw yn Perth. Wyt ti’n gwneud unrhyw gigs tra ti allan yna? Yn anffodus nac ydw – does gen i ddim cysylltiadau yng ngorllewin Awstralia i drefnu gigs. Serch hynny, mae’r gitâr ‘da fi jest rhag ofn.
“
“
MAE GORSAF RADIO YN SYDNEY WEDI BOD YN CHWARE FY NGHANEUON ERS TUA BLWYDDYN
Mae dy albwm cyntaf di, While You Slept I Went Out Walking, ar fin dod allan. Beth allwn ni ddisgwyl? Mae’r albwm yn debyg i’r EP ddaeth allan blwyddyn ddiwethaf ond mae’r trefniannau yn fwy cymhleth gyda mwy o offerynnau fel banjo, llinynnau a thelyn. Serch hynny y gitâr acwstig sy’n ffurfio asgwrn cefn yr albwm a ‘dwi wedi ceisio ‘sgwennu caneuon sy’n werinol ond eto’n gyfoes ar yr un pryd. Mae ‘na gymysgedd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol ar yr albwm ac mae hi’n hanner/hanner rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Dwi’n cofio siarad gyda thi yn Eisteddfod Abertawe yngly^ n â’r ffaith bod ti’n cael trafferth ffeindio label i ryddhau dy ddeunydd. Nest ti brofi lot o rwystredigaeth yn hynny o beth? Ar y pryd roeddwn yn teimlo nad oedd lot o ddiddordeb gyda labeli Cymraeg mewn rhyddhau deunydd acwstig. Do’n i ddim ^ r chwaith os oeddwn i’n ffitio gyda’r yn siw labeli traddodiadol neu’r rhai ‘indie’. Nath pethau wella pan wnes i ryddhau’r sengl Amser ar fy mhen fy hun yn hwyrach yr haf yna gan iddo ennyn digon o ddiddordeb ar Radio Cymru. Aeth pethau’n ^ yl ‘In the well eto ar ôl chwarae yng ngw City’ ac wedyn ‘South by Southwest’ gan ^ fod y ddwy w yl yn ‘showcases’ ar gyfer
13
cyfweliad: thegentlegood
Dyma fydd dy ail CD di ar label Gwymon yn dilyn yr EP Dawel Disgyn. Wyt ti’n meddwl fod sefydlu label Gwymon wedi agor drysau i gerddorion ‘gwerinol’ ifanc? Ydw, mae Gwymon yn datblygu fel pwynt ffocws ar y sin werin gyfoes yng Nghymru ar y foment, ac mae’n hyfryd gweld siwd mae’r label wedi tyfu. Mae’n bleser bod ar yr un label â cherddorion sy’n rhannu fy niddordeb mewn cerddoriaeth gwerin, a dwi’n falch iawn bod y label yn cynnig cyfle i gerddorion sy’n gwneud pethau newydd a diddorol gyda cherddoriaeth gwerin.
“
ROEDDWN YN TEIMLO NAD OEDD LOT O DDIDDORDEB GYDA LABELI CYMRAEG MEWN RHYDDHAU DEUNYDD ACWSTIG
“
artistiaid newydd a dwi’n credu iddyn nhw ddangos i’r labeli bod e’n bosib i ngherddoriaeth apelio i gynulleidfaoedd tu hwnt i Gymru hefyd.
Beth ydy’r prif ddylanwadau tu ôl i’r albwm? Cerddorion yr adnewyddiad gwerin yn y 60au – Bert Jansch, John Renbourn, Martin Carthy a Dave Evans yn enwedig. ‘Dwi hefyd wedi bod yn gwrando ar lot o gerddoriaeth canu gwlad ac mae dylanwad Hank Williams, Earl Scruggs a John Fahey yno i’w glywed. Cefais ysbrydoliaeth i ehangu ar y caneuon gyda threfniannau llinynnol ar ôl gwrando ar Joanna Newsom a Nick Drake. Mae synau llinynnol yn nodwedd amlwg o dy stwff diweddar, ac mi rwyt ti wedi cydweithio llawer efo pobl fel Harriet Earis a Seb Goldfinch sy’n gerddorion talentog iawn. Ydy dylanwad pobl fel yma wedi rhoi dimensiwn newydd i’r gerddoriaeth? Ydy, ‘dwi wedi bod yn lwcus iawn i weithio gyda cherddorion mor dalentog â Seb a Harriet. Mae’r trefniannau llinynnol yn codi’r caneuon ac yn creu awyrgylch na fyddai’n bosib i mi greu ar ben fy hun. Mae eu chwarae hefyd yn cyflwyno amrywiaeth sy’n atal yr albwm rhag swnio’n undonog. Dwi’n bwriadu gweithio’n agosach gyda Seb yn y dyfodol agos ac mae’n bosib y byddai’n dechrau perfformio gyda Harriet pan dwi’n dod ‘nôl i Gymru. Beth ydy dy obeithion di gyda’r albwm? Unrhyw labeli yn Awstralia’n dangos diddordeb?
yn arwydd o’r cyfeiriad dwi’n bwriadu mynd gyda’r albwm nesaf. Dwi eisiau gwneud recordiad mwy llawn gyda mwy o offerynnau a threfniannau mwy cymhleth. Dwi’n gobeithio bydd yr albwm yn profi’n Serch hynny dwi’n bwriadu aros yn weddol boblogaidd yng Nghymru a Lloegr ac ffyddlon i’r arddull acwstig (dim brad yn derbyn adolygiadau teg gan y wasg. Newport Pop Festival ar y gweill!) gan fy Gobeithio hefyd y bydd yn agor drysau i mi mod yn dal i ddatblygu fel cyfansoddwr ac berfformio’n fwy eang o amgylch Prydain, mae rhaid rhoi amser i hynny. a falle hyd yn oed ymhellach oddi cartre’. Mae gorsaf radio yn Sydney o’r enw Mae’r trefniannau llinynnol ar yr albwm Sideways Through Sound wedi bod yn
14
myspace.com/gentlegood
chware fy nghaneuon ers tua blwyddyn a dwi wedi cyfrannu cân i fynd ar albwm ^ aml-gyfrannog ganddyn nhw felly pwy a w yr! Yn nhermau’r flwyddyn i ddod dwi’n gobeithio chwarae mwy o gigs a gwyliau cerddorol a dwi’n edrych ‘mlaen i ddechrau ar yr ail albym! Gareth, diolch yn fawr am gymryd amser o dy wyliau i siarad efo’r Selar - pob lwc gyda’r albwm.
0 8 0 UCHAFBWYNTIAU ‘088
COLOFN LISA GWILYM
Mae 2008 wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous iawn i golofnydd Y Selar, Lisa Gwilym. Yn ogystal â sgwennu i ni, mae hi wedi bod yn cyflwyno rhaglen Sioe Gelf ar S4C, ac wrth gwrs ei sioe boblogaidd ar C2 Radio Cymru. Rhwng popeth, mae’n deg dweud iddi fod reit yng nghanol bwrlwm y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ... a dyma ei deg uchafbwynt:
DATBLYGU Ankstmusik yn rhyddhau “The Peel Sessions” – casgliad o sesiyne’r band ar gyfer rhaglen yr anfarwol John Peel. I gyd-fynd efo hyn, nath Dave a Pat recordio sengl newydd sbon, “Cân y Mynach Modern”, a ges i’r fraint o’i chware am y tro cynta ar C2.
“ATGOF FEL ANGOR”, GERAINT JARMAN Hen bryd cael holl stwff un o gewri cerddoriaeth Cymru mewn bocs! A braf hefyd oedd clywed Jarman yn sôn am yr albyms ar ei raglenni difyr ar C2.
SESIWN C2 MC MABON
Unwaith eto, blwyddyn amrywiol a difyr iawn o ran sesiyne C2. Yr uchafbwynt i mi, MC Mabon yn gwneud tair cân wych.
NEON NEON Blwyddyn weddol ddistaw i SFA, ond blwyddyn brysur i’r gwahanol aelodau – Cian hefo’r Acid Casuals, Daf a Guto hefo The Peth, a Gruff hefo Neon Neon. Er fod yr albwm wedi ei recordio ers cwpl o flynyddoedd, ges i’r pleser o chware’r ‘album tracks’ am y tro cynta’ ar unrhyw orsaf mis Ionawr ar C2, ac fe gafodd yr albwm enwebiad Mercury.
DERWYDDON DR GONZO Band byw y flwyddyn heb os ac oni bai! Ac ma’r gore dal i ddod efo albwm yn 2009…
HANNER PEI
Hwre! Casgliad goreuon yr hyfryd Hanner Pei ar gryno ddisg o’r diwedd! Ac yn ôl y sôn, bydd sesiwn newydd Mis Awst, ganol haf, tywydd uffernol! ganddyn nhw yn 2009 – edrych Ond yng nghanol y mwd a’r glaw, braf oedd cael gweld Radio Lux, SFA, 9 Bach, mlaen! The Peth, a Heather Jones mewn safle godidog. Spiritualized ar y nos wener yn uchafbwynt. ^
GWYL Y DYN GWYRDD
^
GWYL GARDD GOLL
Tywydd perffaith, lleoliad hudolus, cerddoriaeth anhygoel, diwrnod gwych! Diolch i Dilwyn Llwyd a Gethin Evans am neud i ni golli’n pennau mewn Pentref Coll, Gardd Goll, a Thraeth Coll eleni. Mae ‘na sôn am “Ynys Goll” yn 2009 ...
Gallwch chi glywed Lisa Gwilym ar C2, Radio Cymru bob nos Iau a nos Wener rhwng 10pm ac 11pm.
^
^
GWYL SWN
“Y CAPEL HYFRYD”, PLANT DUW
Llongyfarchiade eto i Huw Stephens a John Rostron am ^ drefnu gw yl unigryw arall yng Nghaerdydd. Braf oedd cyfarfod ffrindie mewn gigs ym mhob twll a chornel o’r brifddinas – jyst bechod bod hi’m yn bosib bod mewn dau le gwahanol ar unwaith!
Mae’n albwm bendigedig, efo amrywiaeth o steils, a’r cyfan yn swnio’n unigryw. Mae Huw Evans yn meddwl ma dyma’r albwm ore i ddod o stiwdio Blaen y Cae ers Baccta Crackin gan Texas Radio Band.
15
MAE’R SELAR YN HOFFI BUSNESA, YN ENWEDIG PRYD MAE’N DOD I FUSNESA YNG NGHASGLIAD RECORDIAU RHAI O BOBL DDYLANWADOL Y SIN GERDDORIAETH GYMRAEG. YN Y RHIFYN HWN, Y CERDDOR, YR HYRWYDDWR A’R SYLWEBYDD DADLEUOL, RHYS MWYN SY’N EIN HARWAIN TRWY EI HOFF RECORDIAU.
pump perl ...
Rhys
MWYN “
Mae o’n un o’r pethau yna dwi o hyd yn bangio’n mlaen amdano, y diffyg ymwybyddiaeth o hanes canu pop Cymraeg, nid er mwyn edrych yn ôl a sôn am yr ‘Oes Aur’ ond er mwyn cael y “reference points” angenrheidiol. Dychmygwch y sin Saesneg heb y Beatles, Woody Guthrie neu Bob Marley – fydda na neb yn gwybod beth i’w wneud o ran sgwennu caneuon heb y “reference points” yma. ^ Rw an mae’n anodd cyfleu heddiw y wefr o brynu recordiau finyl a rheini weithiau ar ffurf 12 modfedd neu hyd yn oed ar finyl lliw. Fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl roedd yr EP pedair cân “Un Sip Arall” gan y Trwynau Coch nid yn unig ar 12” ond ar feinyl coch. O bosib dyma’r slab o feinyl mwyaf secsi erioed yn yr Iaith Gymraeg, nid jest y plastig coch ond y gân am y newyddiadurwraig Angela Rippon. Fe chwaraeodd John Peel Angela ar ei raglen hwyr sawl gwaith, ac fel hogyn ysgol oedd rioed di gweld y Gymraeg ^ fel rhywbeth ’cw l’ roedd hyn yn rhywbeth ^ ofnadwy o cwl. Fe newidiodd fy agwedd dros nos tuag at grwpiau Cymraeg. ^ Nid grw p ton-newydd yn unig oedd y ^ Trwynau, ond grw p gyda Label Recordiau ^ eu hunain a grw p oedd yn gallu canu cân am Angela Rippon, dynes hy^ n secsi ffantasi pob hogyn ysgol. Hyd yn oed o fewn ffiniau punk rock roedd dal angen yr
16
yselar@live.co.uk
O BOSIB DYMA’R SLAB O FEINYL MWYAF SECSI ERIOED YN YR IAITH GYMRAEG
“
TRWYNAU COCH - UN SIP ARALL
elfen yna o sex. Ar yr EP mae Byth Mynd i Golli yn gan bop ardderchog a Pepsi Cola yn rhoi rhyw spin pop Warholaidd i’r holl beth. Roedd y Trwynau yn mynegi rhywbeth mwy na chulni arferol y sin roc Gymraeg. Dim ond Jarman oedd yn gallu cadw fyny hefo nhw. Mae angen i’r Trwynau Coch fod yn un o’r “reference points”! Dydi Angela ddim yn ymddangos ar y CD amlgyfrannog o ganeuon y Trwynau gyda llaw.
ARTISTIAID AMRYWIOL - YN DAWEL HYD NAWR Mae’r syniad o sefydlu Label Recordio Cymraeg yn y Trallwng yn un o’r datganiadau diwylliannol gorau erioed. Dau fys anferth i’r syniad o Fro, a’r sefydliad pop Cymraeg Cyfryngol a hynny mewn tref sydd ddim hyd yn oed ar yr A470. Doedd neb yn gwybod lle’r oedd y Trallwng mwy na lle oedd Sir Drefaldwyn. Ar ben hyn enw’r Label oedd ‘Legless Records’, roedd eu cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn pubs y
Trallwng a phawb oedd yn gysylltiedig yn ddarpar alcoholics. Heb gefnogaeth ac ysbrydoliaeth Legless fydden i rioed di gallu rhoi recordiau allan ar Label Anhrefn. Nhw, yn fwy na Factory a Rough Trade hyd yn oed, oedd y rhai arweiniodd ac a ddangosodd fod unrhyw un yn gallu sefydlu Label. Beth oedd yn dda am Legless oedd eu bod yn rhyddhau recordiau Cymraeg ond yn gwbl annibynnol ar yr holl sefydliad pop Cymraeg. Mae’r Byd Pop Cymraeg o hyd wedi tueddu i fod yn glic bach cymharol hunan bwysig a rhan amla yn hollol amherthnasol i ran fwyaf o bobl Cymru. Faint bynnag oedd gwir berthnasolrwydd Legless o leiaf roedd yn rhywbeth tu allan i’r grwpiau Coleg neu’r Cyfryngau arferol. O ail wrando ar yr LP mae trac Rhiannon Tomos, India’r Prynhawn, yn sefyll allan. Mae bron yn arddull southern soul a byth yn cael ei chwarae heddiw wrth gwrs ac yn gymwys fel perl. Perl arall yw Paid â’m Beio gan Heather Jones; dyma gyfnod lle’r oedd gan y sin Gymraeg “cool rock chicks” oedd ddim yn cymryd unrhyw gachu - ddim mor Efrog Newydd a Patti Smith efallai ond yr un mor gryf. Peth arall diddorol am y record yw bod dwy gân gynnar gan Geraint Lovgreen ar yr albym - roedd gan Lovgreen gysylltiad teuluol â’r Drenewydd. Mae Sbwriel Niwclear gan Pal hefyd yn sefyll
AMY WADGE - WOJ Y tro cyntaf i mi weld Amy Wadge yn fyw oedd yn y Hotel Martinez yn Cannes a finnau’n llusgo criw o Gymry lawr yno i gefnogi Amy yn ystod ^ gw yl MIDEM (ymhlith y criw a lusgwyd yno roedd Dafydd Iwan). Yr ail dro i mi weld Amy oedd yn y Talbot yn Nhregaron - fedrith Cannes a Thregaron ddim bod yn fwy gwahanol, a’r tro yma yn rhannu’r llwyfan hefo Amy fel aelodau o’i band roedd Aled Richards (gynt o Catatonia) a ^ Dave Bronze o grw p Eric Clapton. Gyda’r Talbot yn orlawn, rhyfeddais fod Aled a Dave yn addasu mor hawdd i chwarae mewn ystafell fach yng nghefn tafarn, ond yn fwy na hyn, fy atgof yw bod yr holl beth mor
safonol, llawer fwy felly na’r rhan fwyaf o grwpiau Cymraeg. ^ Dim ond Big Leaves fel grw p Cymraeg oedd wedi ymateb i’r ^ l Cymru” her a osodwyd gan “Cw ac wedi camu allan o amaturiaeth y Byd Cymraeg. Roedd Amy fel merch o Fryste, wedi priodi Cymro ac wedi ymgartrefu yng Nghymru hefyd rhywsut yn cael ei chwythu ^ ymlaen gan gorwynt “Cw l Cymru” ac yn gwneud argraff. Wrth wrando ar y CD “Woj” mae bron pob cân yn ddigon cryf i fod yn sengl. Does ‘na ddim ‘duds’ ar y CD, sy’n beth cymharol anghyffredin, ac mae Amy wedi neilltuo gofod ei hun, nid yn indie ac nid yn gantores-gyfansoddwraig arferol. I mi, mae’r CD’n crisialu gobaith y cyfnod yna yn ^ syth ar ôl “Cw l Cymru” fod pethau yn mynd i symud ymlaen unwaith ac am byth. Mae Open yn benodol yn un o’r caneuon gorau gennyf gan unrhyw artist erioed. Cân dda ydi cân dda!
allan fel cân brotest, rhywbeth ddylia byth fynd allan o ffasiwn. Petai’r record feinyl yma yn cael ei ail ryddhau ar CD fedrai ddim dychmygu byddai gan y Cymry Cymraeg unrhyw ddiddordeb ... sy’n biti!
LLYGOD FFYRNIG - NCB Dyma enghraifft dda ^ o grw p Cymraeg lle dydi dadansoddi gormod ddim yn gwneud lles. Gwell derbyn fod y gân N.C.B bron mor berffaith ag mae caneuon yn dod. Wedi ei boeri allan yn amrwd ac yn pynci o ardaloedd glofaol Abertawe ac Ystradgynlais, dyma gân Gymraeg a gafodd ei chynnwys ar un o recordiau hir amlgyfrannog label Cherry Red - sy’n profi hyd yn oed ym 1979 fod gan grwpiau Cymraeg apêl tu hwnt i ffiniau Cymru a’r Gymraeg. Mae’r ffaith fod y Desperate Bicycles yn cael credit ar y clawr yn bwysig. Y Desperate Bicycles gyhoeddodd ar glawr eu sengl gyntaf beth oedd costau’r broses o gynhyrchu record, fel rhyw fath o faniffesto, ac fe arweiniodd hyn wedyn at bobl yn gallu sefydlu Labeli yng Nghwm Tawe a Llanfair Caereinion. Dwi ddim yn cofio clywed NCB ar John Peel ac yn sicr dwi ddim yn credu i Radio Cymru erioed ddangos fawr
o frwdfrydedd am futrwch gitars y Llygod ond mae’r gân yn berl heb os. O leiaf nawr mae’r gân ar un o gasgliadau CDs Sain, sydd yn eironig rhywsut o ystyried fod y gan yn wreiddiol ar label annibynnol Pwdwr. Dydi hyn ddim yn golygu unrhyw fwy o airplay wrth gwrs ond mae’n gwneud y “reference point” yn haws i’w ffeindio.
HENRY PRIESTMAN - THE CHRONICLES OF MODERN LIFE Artist arall sydd wedi mabwysiadu perthynas agos â Chymru ac wedi ymgartrefu ar Pop Island (Sir Fôn) yw Henry Priestman, gynt o’r Christians. Arferais edmygu Henry o bell am ei ganeuon fel Ideal World ond bellach mae’n un o fy ffrindiau gora. Ffrindiau neu ddim, dydi hynny ddim wedi effeithio ar fy ymateb i CD unigol cyntaf Henry ar label Stiff. Dyma gasgliad o ganeuon ar gyfer
pobl sydd wedi byw drwy’r “rhyfeloedd punk”. Yn wir, mae’r gân Did I Fight in the Punk Wars for this? mwy neu lai yn gosod y maniffesto ar gyfer unrhyw un yn eu pedwardegau neu bumdegau gafodd eu dylanwadu gan y Pistols a’r Clash, ac sydd erioed wedi gallu troi’n ôl o hynny. Gyda hiwmor tafod yn foch, ond llwy-llawn o angerdd hefyd mae Henry’n gofyn “did we fight in the punk wars for this?”, a dyna chi gwestiwn! ^ Ar ôl punk, neu hyd yn oed “Cw l Cymru”, ^ beth yn union sydd gennym ni rw an ? Yng nghyd-destun y sin Gymraeg mae hynny’n gwestiwn da iawn. Os ydi grwpiau fel Thretmantics, Cate Le Bon a Radio Luxembourg yn torri trwodd, prin iawn yw eu heffaith yng Nghymru. Ydi’r grwpiau yma’n golygu unrhyw beth ar strydoedd Aberdâr neu Bwllheli? Un peth ydi “llwyddo” ond mae angen gwneud y “groundwork” yng Nghymru hefyd! Beth bynnag oedd y rhyfeloedd punk Cymraeg mae nawr angen gofyn y cwestiwn - lle da ni heddiw? Ella fod Henry yn atgoffa rhywun fod caneuon da gydag alawon cofiadwy hefyd yn gallu trosglwyddo neges – a hyd yn oed bod yn “wleidyddol” hefo ‘gw’ fach wrth gwrs!
17
N Y L I D W ’ I E D Y
RIAETH GYMRAEG
GADARNLE’R SIN GERDDO EDD YN CAEL EI YSTYRIED YN
YN AML IAWN, MAE GWYN GYSON. OND YN DDIWEDDAR, YN AIN HUN EU U LYG AM YN AID ISTI ART AC GYDA LLU O FANDIAU RYWBETH YN AER Y DE-DDWYRAIN HEFYD.... ‘NA E MA D, NFO RGA DA DI WE ELL TTR CO FEL MAE IAN
“Oni jyst yn meddwl bod pob band yn dod o Flaenau Ffestiniog neu’r Gogledd in general” oedd argraffiadau cynta’ Tom Winfield o’r sin gerddorol Gymraeg. “Fi wastad wedi sgwennu, ond pan oni’n canu yn Gymraeg o’dd e’n swnio fel bod fi’n canu soppy love songs. Oni jyst yn
18
yselar@live.co.uk
“
ONI JYST YN MEDDWL TAW DIM OND ACEN GOG O’DD YN SWNIO’N DDA
“
Ma’ ‘na rywbeth ar droed yn y De, rhywbeth sydd ddim wedi codi ei ben ers dros bymtheg mlynedd pan, yn ystod y cyfnod hwnnw sy’n cael ei gofio gan bobl fatha fi fel “oes aur yr SRG” (mae ‘na oesoedd aur eraill ar gael), Caerdydd oedd yn arwain y ffordd pan oedd hi’n dod i bob dim oedd yn gerddorol ac yn Gymraeg. Rhwng 1988 ac 1993, U-Thant, Crumblowers a Hanner Pei oedd y bandiau oedd pawb isho gweld, Clwb Ifor Bach oedd y lle’r oedd pawb isho chwarae a Chaerdydd oedd y lle i fod. Ok, roedd gan Fangor Ffa Coffi Pawb a meibion Llanrwst oedd Y Cyrff ond doedd hi ddim yn hir tan fod Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ‘di darganfod eu hunain yn y brifddinas, roedd Mark Roberts ‘di symud mewn i dy^ yn Sblott efo rhyw ferch o’r enw Cerys, mudodd pencadlys label Ankst o Aberystwyth i Dreganna a rhoddodd Geraint Jarman a’i gwmni teledu, Criw Byw, gynhaliaeth i’r sin gyfan trwy’r gyfres ‘Fideo 9’. O, ie, roedd gan Gaerdydd bopeth ... ac yna, am ryw reswm hollol ^ anesboniadwy aeth hi’n dawel. Tan rw an. A thro ‘ma, mae’n mynd yn ddyfnach ac ymhellach, yn ymestyn o ganol y ddinas i’r mannau fyddai byth wedi cael eu hystyried yn gyraeddadwy o’r blaen.
meddwl taw dim ond acen Gog o’dd yn swnio’n dda. Ond ar ôl i fi glywed Radio Luxembourg sylweddolais i fod e’n iawn”. Mae pryder Tom, prif leisydd The Zimmermans sy’n dod o ardal Pontyclun, ger Llantrisant, yn un cyffredin, sy’n cael ei rannu gan Rhydian ^ p o’r Ball, prif gitarydd y grw Fenni, Byd Dydd Sul. “Mae Gwynedd fel byd arall. Mae e jyst yn mad i feddwl bod gymaint o fandiau’n dod o un ardal fach tra lawr fan hyn, dim ond ni, The Zimmermans, Just Like Frank a Nos Sadwrn Bach sydd” medde fo wrtha’i cyn i’r ddau ohonom ni gael rant enfawr am dyfu fyny mewn ardaloedd
“
“
BREUDDWYD PAWB PAN MA’ NHW’N IFANC, WEL, OEDRAN NI, YW MYND I CLWB!
di-Gymraeg, cael eich galw yn “Welshie” yn eich tre’ eich hun, cael tröedigaeth maint Beiblaidd wrth fynd i’n ‘Steddfodau cynta (y ddwy yn Yr Wyddgrug, f’un i ym 1991, un Rhydian yn 2007) a sut ar wyneb y ddaear mae Gwibdaith Hen Fran yn a) boblogaidd a b) yn gallu bod ar frig Siart C2 am 29 wythnos yn olynol. “I fi, dwi jyst ddim yn deall pam bod pobl yn lico’r math yna o beth” mae’n dweud gydag arddeliad ac angerdd. “Yn y saithdegau a’r wythdegau, o’dd cerddoriaeth fel Jarman yn union fel be o’dd yn mynd ymlaen yn y sin Saesneg, jyst bod y geiriau yn Gymraeg - gyda lyrics am beth oedd yn digwydd ar y pryd ... Nawr ma’ fe just yn “trôns dy Dad”. Mae ganddo fo bwynt, dwi’n ychwanegu, wrth roi rhagor o danwydd i’r pwnc llosg holl bwysig, ond dadl am rifyn arall ydy honno. A chyn i chi gyd yn y Gogledd neidio ar eich ceffylau a’i heglu hi lawr fan hyn i roi cweir a chwip din i’r ypstarts ifanc ‘ma - ac ma’ nhw’n ifanc; 17 yn achos Tom ac 16 yn achos Rhydian - pwyllwch gynta’, achos outsiders go iawn yw’r ddau yma. Isho mynd i gig Cymraeg yn Y Fenni? Tough. Mae Caerdydd yn bum deg munud i ffwrdd yn y car (os oes gennych chi un); mae Lloegr yn agosach. Angen trefnu gig yn Ysgol Llanhari gyda band Cymraeg arall? Tough. Nath yr un ola’ adael yr ysgol saith mlynedd yn ôl. Lwcus iddyn nhw, felly, bod Just Like Frank, sy’n cael ei ffryntio gan
“Breuddwyd pawb pan ma’ nhw’n ifanc, wel, oedran ni, yw mynd i Clwb!” yw datganiad Steffan. Mae’r boi fel morgi mawr gwyn y sin gerddorol Gymraeg ifanc yma yng Nghaerdydd - wastad yn symud, wastad yn edrych, wastad yn gwrando, wastad yn trefnu. “Dwi mewn sefyllfa nawr le ni’n gallu ffono llefydd “Mae ‘na lot o ddiolch i Random Elbow yn Gaerdydd, er enghraifft Buffalo Bar Pain am be’ sy’n bodoli nawr” yw barn a dweud ‘Chi ishe i ni roi gig ymlaen? Ianto, prif leisydd Nos Sadwrn Bach “am Mae’n gig Cymraeg’ a ma’ nhw jyst yn fod yn ysbrydoliaeth i ni ddechrau band. ^ dweud ‘Cw Cyn nhw, doedd prin neb o’n hysgol ni l, gwnewch e!’, so dyna be ni’n yn canu’n Gymraeg”. Ac yn ôl Elis Llwyd neud!”. Yn ôl Ianto “Dyma’r gigs cynta Williams, sacsoffonydd Random Elbow ma’ lot o bobl oedran ni yn gweld a ... ma’ Pain “Mae’r diolch o’n hochr ni yn mynd i nhw’n gigs Cymraeg”. Mae’r balchder Eleri Griffiths, sy’n rhedeg Clwb Ieuenctid yn ei lais yn anhygoel. A dyma lle mae’r Plasmawr, am drefnu gigs ar y cyd gyda cynsail sydd wedi cael ei osod gan Fenter Menter Caerdydd”. Gyda Random Elbow Caerdydd (a gafodd ei gynorthwyo mae’n ^ Pain bellach yn enw cyfarwydd i nifer siw r gan y ffaith mai yng Nghaerdydd fawr o fynychwyr gigs a gwyliau cerddorol oedd y Steddfod eleni) yn dechrau amlygu Cymraeg, gobaith Just Like Frank yw dilyn ei wir werth. Trwy chwarae ar yr un yn ôl eu troed. Ac ma’r isadeiledd bellach line-ups yn ystod y flwyddyn ddiwetha, yn ei le i wneud hynny, oherwydd y gwaith mae’r bandiau hyn - Just Like Frank, cychwynnol mae’r Fenter wedi’i wneud Nos Sadwrn Bach, Byd Dydd Sul a The trwy gynnal ei gigs yn Clwb, nid yn unig Zimmermans - wedi dod yn ffrindiau ac i gynulleidfaoedd dros 16 oed o ysgolion wedi tyfu i gefnogi ei gilydd mewn mwy Cymraeg Caerdydd a’r Fro, ond hefyd na dim ond yr ystyr gerddorol. Maen nhw i flynyddoedd 7 i 10 yr ysgolion hynny, wedi creu sîn lle nad oedd sin yn bodoli. sydd wedi profi yn fenter (gyda “f” fach) lwyddiannus dros ben. Gwrandewch ar Myspace y bandiau, gwyliwch eu perfformiadau ar Bandit, gwrandewch ar eu sesiynau C2 achos be welwch chi yw pedwar band hollol wahanol, sy’n gweithio fel uned gref ac agos er mwyn gwella ei gilydd a phrofiadau eu cynulleidfaoedd. Fel mae Tom o The Zimmermans yn dweud “Does dim egos a does dim cystadleuaeth. Mae pawb yn edrych mas am ei gilydd ac yn cael hwyl”. Felly, dewch lawr i’r de. Dyn ni’m yn brathu ... yn galed.
y roced-ddyn Steffan Dafydd (go iawn ^ an, dio’m yn stopio) a Nos Sadwrn rw Bach yn arwyr lleol yn eu hysgol nhw yng Nghaerdydd, Ysgol Plasmawr ac erbyn hyn yn trefnu gigs eu hunain yn y brifddinas.
19
JUST LIKE FRANK:
O: Treganna, Y Tyllgoed Ysgol: Plasmawr Oed: 16 Wedi eu gweld/clywed ar: Bandit, Brwydr y Bandiau Maes B 2008, Gwyliwch Y Gofod C2, Taith C2/ Bandit Dylanwadau: We Are Scientists, Ashokan, Say Anything, Offspring, Bad Religion Ffeindiwch nhw: www.myspace.com/ justlikefrankband
THE ZIMMERMANS:
O: Pontyclun, Penybont, Tonyrefail Ysgol: Llanhari Oed: 17/18 Wedi eu gweld/clywed ar: Bandit, Uned 5, Sesiwn C2, Ep ar gael ar I-Tunes Dylanwadau: Meic Stevens, The Beatles, Super Furry Animals, Radio Luxembourg, The Kooks, Zabrinski Ffeindiwch nhw: www. myspace.com/zimmermans
NOS SADWRN BACH:
O: Pentyrch, Creigiau, Gwaelod Y Garth, Treganna Ysgol: Plasmawr Oed: 16/17 Wedi eu gweld/clywed ar: Bandit, Brwydr y Bandiau Maes B 2008, C2 Huw Stephens, Taith Ysgolion C2/Bandit Dylanwadau: Hanner Pei, Derwyddon Dr Gonzo, Rage Against The Machine, MC Mattholwch, Kool and the Gang Ffeindiwch nhw: www.myspace.com/ nossadwrnbach
20
BYD DYDD SUL:
O:: Y Fenni, Casnewydd Ysgol: Gwynllyw Oed: 16/17 Wedi eu gweld/clywed ar: Bandit, Brwydr y Bandiau Maes B 2008, C2 Huw Stephens Dylanwadau: Bloc Party, Foals, We Are Scientists, Kings of Leon, Joy Division, Radiohead Ffeindiwch nhw: www.myspace.com/byddyddsul
adolygiadau BOOTNIC BLASU BAW (OLDS-KOOL-RECORDS)
MONTE CASSINO
Ma’ Bootnic o Sir Fôn yn feistri corn ar sgwennu caneuon bachog llawn egni. Ma’ nhw’n canu’r caneuon hynny efo lleisiau crug, a’r agwedd ‘sa i’n becso’r dam gw’boi’. Dydyn nhw ddim ofn defnyddio power cord neu ddeg, a ma’r hiwmor gonzo yn llifo ar Pwy sy’n Mygu? - “Pwy ydi hon sy’n isda ar fy nglin, yn sbïo’n flin, heb ddim blwmar ar ei thîn.” O gofio bod y ddynas ddweutha i wisgo blwmar ar Ynys Môn wedi marw yn 1983, ma’n amlwg mai dychymyg pur ydi’r gân yma, ac nid rwbath ddigwyddodd go-iawn. Ond os ydi Bootnic yn roctititastig, pam bo nhw ddim i weld yn cael fawr o sylw? Dyma eu pedwerydd albwm/e.p., ond dio’m i weld fod y plebs wedi cymryd atyn nhw. Biti, achos ma’ cân fel Cerdded Ar Ddwr yn haeddu torf enfawr yn cyd-hedbangio a chwarae air guitar iddi.
Dyma ail EP y band ifanc o’r Wyddgrug a Shotton. Mewn un ffordd maen nhw’n swnio’n debyg i unrhyw fand pedwar darn pync-roc nodweddiadol o gystadleuaeth brwydr y bandiau yn y steddfod, ond hefo ‘chydig mwy o sglein. Mae’r llais yn anhygoel o debyg i un Hefin Mattoidz, a’r gerddoriaeth yn groes rhwng y band
8/10 BARRY CHIPS
‘THE QUICKEST WAY TO END A WAR IS TO LOSE’
Y DIWYGIAD HYMN 808 (Dockrad) “Dyma ni, Dyma ni, Dyma ni...” Y Diwygiad : y Pep le Pew newydd efo hint o hwntw. Mae albwm gyntaf y ddau rapiwr talentog Mr Phormula (Ed Holden) a 9Tonne (Aneirin Karadog) yn hip hop electronig gystal ag unrhyw fand o’r un genre mewn unrhyw iaith. Mae yma rapio, rhegi, canu, beatboxio mewn Cymraeg, Saesneg a Wenglish. Mae yma westai arbennig o Cofi Bach a Tew
AMSTERDAM RYAN KIFT Beth allai ei ddweud? Pan ges i CD Ryan Kift i’w adolygu, o’n i’n disgwyl yr un fath o beth ag arfer Ryan, gitâr acwstig gyda lot o ‘attitude Manciwnian’. Ond o’r eiliad agorais yr amlen, ro’n i’n gwybod nad albwm gyffredin mohoni. Dwi erioed wedi teithio i Amsterdam, ond wedi bod yno wedi gwrando ar yr albwm hon. Albwm dywyll, ddu (neu goch!!), fudr sy’n olrhain hanes Ryan ar
antur drwy Amsterdam. Yn gerddorol, efallai nad yw’n gonfensiynol. Ond ai dyna ei fwriad? Gyda’r trac Porn Cinema ceir un
THE GENTLE GOOD WHILE YOU SLEPT I WENT OUT WALKING (Gwymon) Gan ‘mod i wedi gweld The Gentle Good yn fyw dipyn o weithiau ro’n i’n gwybod ei fod o’n chwip o gitarydd. Mae’r deg trac ar yr albwm hon yn profi hynny, yn enwedig y trac offerynnol Gwêl yr Adeilad, sy’n wych. Ond wrth wrando arno’n fyw do’n i’m ^ yn hollol siw r am y llais bob tro. Mae o’n gallu swnio’n undonog ar adegau, ac fel buwch ‘fo ‘hangover’ ar adegau eraill. Ond
5/10 LEUSA FFLUR
Shady (yn bygwth pawb a phopeth), i Lews Tewns, Dybl L a’r cynhyrchydd ac artist o America, Daedelus. Bu’r band yn Los Angeles yn recordio ychydig o ganeuon, ac mae proffesiynoldeb a safon uchel y cynhyrchu’n dangos ffrwyth llafur hynny a’i ddylanwad. Ond er mor anghonfensiynol o Gymreig yw’r holl gyfanwaith, mae Cymreictod wedi ei sgwennu ar dalcen yr albwm hon mewn beiro fawr goch. Mae teitl trac 5, Paneidiwch yn dweud y cwbl, dyma derm newydd Y Diwygiad am sut i wneud ‘paned’ neu
o’r rifftiau gorau dwi wedi clywed ers blynyddoedd, ac mae Massage Parlour yn drac â naws ddwyreiniol hamddenol wych iddo. Gyda Sian Davies, Gronw Roberts a Sleifar yn cyfrannu at y sain anghyffredin, yn sicr mae’r albwm yn un sy’n rhaid i chi wrando arni os ydych yn cyfrif eich hun yn ffan go iawn o’r SRG. Diddorol fydd gweld yr ymateb y tu allan i Gymru! 6/10 ALED IFAN
dyw hynny ddim yn wir am y record yma, ac mae’r cydbwysedd rhwng y llais a’r gerddoriaeth yn berffaith. Mae un neu ddwy o’r caneuon yn alawon gwerin cyfarwydd, Hiraeth am Feirion a Titrwm Tatrwm, a’r ail wedi cael ei chwarae cryn dipyn yn barod. Naws ddigon tywyll a thrist sydd yma ar y cyfan felly ni fyddwch yn dawnsio o gwmpas y lle wrth wrando, ond mae’n albwm gwerth ei chael yn y casgliad ar gyfer rhyw ddiwrnod glawog diflas. 7/10 GWILYM DWYFOR
hwnnw ac Ashokan. Mae yma ambell i solo gitâr da. Y gân orau genna i ydi Superhuman, ma’n catchy iawn ac yn llawn adeiladwaith, ac mae’n swnio’n gyfarwydd rhywsut, a dim jyst achos mod i wedi ei chlywed hi ddoe! EP iawn i hed-bangio iddi hi os dechi’n licio neud pethe felly.
‘dishgled’ aml-dafodieithol berffaith, hefo ‘llefrith’ neu ‘laeth’. Mae geiriau caneuon Cymraeg cyfarwydd, Hen Wlad Fy Nhadau a Mawredd Mawr i enwi dwy, yn canfod eu hunain wedi’u gweu ymysg y cyffuriau, rhyfel Irac a chwarae X-box. Yn Dauwynebog mae Ed hyd yn oed yn llwyddo i rapio stori amdano’n naw oed a’i nain Llannerchymedd sy’n byw’n ymyl y coed. Diwygiadeiddiwch! 7/10 LEUSA FFLUR
CILFACH YNYR LLWYD (Aran) Doeddwn i ddim yn ffan mawr iawn o’r rhaglen ‘Wawffactor’, ond efallai mai bai Eleri Sion oedd hynny! Ond, profodd Ynyr Llwyd yn ystod y gyfres fod ganddo lais a photensial cerddorol. Gwelwyd hyn yn glir hefyd gyda’r band ifanc Labrinth. Wrth wrando ar ganeuon Cilfach, yr hyn sy’n fy nharo’n syth yw bod gan Ynyr ddawn cyfansoddi hefyd. Ond dawn sydd angen ei feithrin gan gynhyrchwyr ychydig mwy ‘cutting edge’. Gallai unrhyw un o’r caneuon ennill Cân i Gymru, ond a yw hyn yn gwireddu ei botensial? Yn anffodus mae’r cynhyrchu ar Cilfach ychydig yn saff a diddychymyg. Wedi dweud hyn i gyd, rwy’n eithaf hoff o’r cyffyrddiadau Sbaenaidd sydd yn ymddangos ar Rositta, a’n hoff drac oherwydd ei symlrwydd yw Ddim yn Ddrwg i Gyd. Gallai Tu ôl dy Wên fod yn drac da, ond yn anffodus, mae’r fersiwn hwn yn gweddu fwy at sioe gerdd. Diddorol fyddai gwrando ar fersiwn byw acwstig. Cynnig cyntaf da, ond beth am ddilyn llwybr ychydig yn wahanol y tro nesaf? 6/10 ALED IFAN
mwy o adolygiadau trosodd ...
21
adolygiadau MATTOIDZ LLYGAID CAU A DILYN TREFN (MYIMAGINARYLABEL) Er nad ydw i wedi gwrando rhyw lawer ar Mattoidz yn y gorffennol roedd gen i syniad yn fy mhen o be i ddisgwyl o’r albwm yma, sef albwm yn mynd ar garlam efo gitars mawr a harmoni lleisiol, a dyna ar y cyfan sydd yma. Mae’r trac cyntaf Cyflwyniad/Intro yn rhoi argraff hollol ffug o be sydd i ddod. RSI ydy’r ail drac gan lifo’n syth o’r trac cyntaf ac yn ein deffro’n llwyr o’r nodyn cyntaf. Rhywbeth tebyg sydd i’w glywed ar
PLANT DUW Y CAPEL HYFRYD (SLACYR) Dwn i’m sut ma nhw’n gneud hi!? Ychydig iawn o argraff ma Plant Duw wedi’i greu arna’i mewn gigs byw – tebyg iawn i ddegau o fandiau pync-roc ifanc dwi di clywed o’r blaen. Ond rhywsut, ar CD ma nhw’n llwyddo i swnio fel un o fandiau gorau’r sîn Gymraeg. Mae Y Capel Hyfryd yn gyfanwaith ...wel, hyfryd, RHAID o’r intro nefolaidd a NDO thraciau melodig i’r GWRA roc curiad cyflym mae dyn yn cysylltu â’r band. Fel eu sengl Nerth dy Draed mae Byth Stopio Chwalu yn swnio’n well gyda phob gwrandawiad, ac mae’r thema yna’n parhau gyda thraciau fel Y Ffwl gyda’i gorws lled-anthemaidd, Yn y Nos a Raskolnikof. Ond wedyn mae ‘na ambell sypreis yn y canol, y breuddwydiol Byw ar Gwmwl, elfennau bluegrass-blues Copora Cavernosa Blues ac yna cymysgedd llwyr o genre cerddorol Dihiryn y Gwanwyn. Dwi’n betrusgar i ddweud hyn, ond beryg fod hon yn un o albwms Cymraeg y flwyddyn. 9/10 OWAIN SCHIAVONE
LLWYD + HWN MM DECHRAU YN Y DECHRAU Bydd rhai darllenwyr yn cofio Huw Meredydd ac Erddin Llwyd o’u dyddiau yn y band, Chouchen, ac mae’n braf gweld bod y ddau’n dal i gyfansoddi a rhyddhau cerddoriaeth. Maent yn cyfansoddi’n unigol erbyn hyn, ond dyma’r ail Cd iddyn nhw ryddhau ar y cyd.
22
drac 3 a 4 gyda petha’n arafu mymryn erbyn Rhywbeth o’i le (Powns!) er, mae’r gytgan yn llawn gitâr a llais mawr eto. I mi mae’n braf cyrraedd Difaterwch i gael egwyl fach. Mae’r gân yn arafach a dipyn mwy creadigol gyda sw^ n a theimlad hollol wahanol i weddill yr albwm. Ac yna da ni nol i’r Mattoidz egnïol ar EYWOB a gweddill yr albwm. Dylsa fod yr albwm yn dod gyda nodyn yn deud ‘Peidiwch â gwrando wrth yrru’ rhag i chi ffindio’ch hun, fel yr albwm, yn mynd 100 milltir yr awr. 6/10 DEWI SNELSON
THREATMANTICS UPBEAT LOVE (DOUBLE SIX) Dwi di bod yn edrych mlaen at hwn. Na’i ddim whilibawan, datganaf fy hun yn ffan a hanner. Mae’r Threatmantics wedi pwyso fy motymau ers y tro cyntaf i fi glywed eu sbil byw eclegtic gwahanol lloerig gwych. Gallai hynny fod yn beth drwg, pwysau disgwyliadau ac yn y blaen. Dim byd gwaeth na disgwyl treiffl a chael powlen o bryfaid cop, mm? Felly da adrodd mai llwyddiant ysgubol ydi Upbeat Love, 8 cân ffyrnig wedi eu tynnu gerfydd eu gwddf gan fiola Heddwyn i fannau nas cyrhaeddir gan eich band arferol, yn stomp buddugoliaethus sy’n poeri agwedd, James Lemain a Get Outta Town yn enghreifftiau perffaith o’u pwdin. Fersiwn newydd o Don’t Care hefyd, eu sengl o label Ciwdod. Gwych, gwych, hollol wych.
Rho dy ragfarn gadw - ma’ criw o actorion Pobol Y Cwm wedi g’neud albwm ddigon derbyniol. Gitârs, bass, dryms, tiwns a lleisiau - mae o i gyd yma, ac mae o’n safonol. Dydi caneuon ‘Hywel y Sgamp Secsi Off Y Teli’ (Andrew Teilo) ddim yn annhebyg i Jess. Ma’ gwrando ar ganeuon Jinx (Mark Flanagan) fatha darganfod rhei o ganeuon gora’ Topper. Ond diog ag annheg fydda jesd gadael hi fel’na ma’r Philbennetts mymryn mwy na tribute band i rei o fandiau gwych ddoe. I gymryd un o ganeuon Teilo - mae Y Gyfrinach yn cychwyn efo dau gord gitâr hyfryd yn troelli, harmonïau yn siffrwd - yna BANG, y dryms yn cicio fewn. Fel udwyd droeon, syml ond hynod, hynod effeithiol. Ma’r harmoni lleisiol yn hyfryd hefyd atgoffa dyn o REM circa Out Of Time. Ac mae Flanagan yn gwneud y busnas ar Awr Arall yn y Gwely. Mae’n gân bop wych am isda mewn sdafell wely yn teimlo’n sori ac yn difaru. (Mi fysa’r ffretwancio ar ddiwadd hon yn g’neud i hyd’noed Noel Gallagher gochi at ei glustiau.) Mae yna amball Sgipsan ar yr albwm cofiwch (Sgipsan = caneuon fyddi di’n sgipio reit sydyn). Ond fel udish i - os ti’n licio Jess a Topper, nei di licio Cwpwrdd Cudd. 6/10 BARRY THOMAS
SEINDORFF ARVONIA
Mae cân unigol Huw MM yn dychwelyd at arddull mwy acwstig, ac yn gân serch hamddenol a swynol. Does ‘na ddim byd chwyldroadol am y sengl yma, ond does ‘na ddim byd drwg amdani chwaith. Gan na fydd hi ar werth yn y siopau, mae’n werth mynd i un o gigs y bois i fynnu copi.
Dwi’n licio meddwl ym mod i’n eithaf meddwl agored pan ddaw hi i gerddoriaeth. Mae gen i hefyd ddiddordeb mawr yn y symudiad electronica diweddar yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac felly o’n i’n disgwyl hoffi Arvonia. Ond yn anffodus di hi ddim cweit yn taro deuddeg, dwi jyst ddim yn ‘cal’ yr albwm yma. Dwi’n hoffi gweld artistiaid yn arbrofi gyda synau bach rhyfedd, ond weithiau ma’r albwm yn swnio fel bod rhywun ‘di gafael mewn allweddellau a thaflu gymaint o synau gwahanol at ei gilydd jest er mwyn gwneud hynny, a ma’ rhai o’r caneuon yn f’atgoffa i o gemau Super Mario neu Sonic ‘slawer dydd. Mae ‘na ganeuon bach digon neis cofiwch, gyda Menai a Lux yn sefyll allan, ond does dim cysondeb rhwng y caneuon, dim uchafbwynt i’r albwm. Mae’n albwm offerynnol, ac efallai fod y diffyg llais yn broblem hefyd. Dyw hi ddim at fy nant i, ^ ond dwi’n siw r y bydd hi’n blasu’n well i ffans hardcôr electronica.
6/10 OWAIN SCHIAVONE
4/10 OWAIN SCHIAVONE
9/10 HEFIN JONES
Mae’r trac teitl wedi ei ysgrifennu a’i recordio ar y cyd, ac mae’n gân acwstig swynol sy’n cael ^ ei gyrru gan sw n banjo a harmonïau lleisiol neis. Ymdrech Llwyd, Gofod a’r Gwifrau, sy’n dod nesaf a heb fawr o syndod mae hon yn ^ fwy electronig ei sw nmae llais Erddin hefyd yn swnio’n reit debyg i Gruff Rhys ar adegau... sydd ddim yn beth drwg.
Y PHILBENNETTS CWPWRDD CUDD (PERENMIWSIG)
CD newydd i adolygu? e-bostiwch yselar@live.co.uk
CYFLE I ENNILL LLWYTH O CDS Anghytuno gydag un o’r adolygiadau? Un o’r colofnau wedi’ch corddi chi? Ydi Lisa wedi methu unrhyw uchafbwyntiau? Mae’r Selar eisiau clywed eich sylwadau ar ffurf llythyr. Byddwn yn argraffu’r llythyrau gorau ym mhob rhifyn a bydd ‘Llythyr y Rhifyn’ yn derbyn pecyn o bob CD a adolygwyd yn y rhifyn blaenorol! Anfonwch eich llythyrau draw ar e-bost i ni – yselar@ live.co.uk
Tanysgriffiiwch trwy ymuno a grwp Y Selar ar facebook neu ebostiwch eich enw, cyfeiriad ac ebost i hysbysebionyselar@googlemail.com fel arall mae modd mynnu copi’n rhad ac am ddim o’ch siop Gymraeg leol.
hysbys 314 rhaglen yr urdd 2009:311
23/11/08
20:16
www.myspace.com/yselar
Page 1
• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2010 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda’r dewis yn cynnwys neuadd Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau newydd yn ogystal a bwrsari o £500 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys: Addysg; Astudiaethau Crefyddol; Astudiaethau Plentyndod; Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau; Amaethyddiaeth a Choedwigaeth; Busnes; Cyfrifeg; Bioleg Môr; Cemeg; Cerddoriaeth; Cyfathrebu a’r Cyfryngau; Cyfrifiadureg; Cymdeithaseg; Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Daearyddiaeth; Dylunio a Thechnoleg; Dysgu Cynradd; Gwaith Cymdeithasol; Gweinyddu Busnes a Chymdeithasol; Gwyddorau’r Amgylchedd; Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon; Hanes a Hanes Cymru; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Ieithoedd Modern; Marchnata; Nyrsio; Newyddiaduraeth; Polisi Cymdeithasol; Peirianneg Electronig; Saesneg; Seicoleg; Twristiaeth; Y Gyfraith; Y Gyfraith a’r Gymraeg; Ysgrifennu Creadigol.
Ffôn: 01248 382005/383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk
Y Flaenoriaeth i Gerddoriaeth 8pm-1am Llun i Gwener
bbc.co.uk/c2
www.sainwales.com www.rasal.net www.myspace.com/gwymon www.myspace.com/labelcopa
Anrhegion gan Sain i lenwi’r hosan Dolig!
Huw Chiswell Neges dawel Ysgol Glanaethwy O Fortuna Calan Bling The Gentle Good While you slept I went out walking Goreuon Mim Twm Llai Geraint Jarman Atgof fel angor Gwibdaith Hen Frân Tafod dy wraig Hanner Pei Ar Plat 9Bach C’weiriwch fy ngwely Holl gatalog Sain, Rasal, Gwymon a Copa ar gael i lawrlwytho ar iTunes neu archebwch CDs o –
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 archeb@sainwales.com