Yselar mawrth16 ywe

Page 1

Rhif 44 | Mawrth | 2016

ADRODD ADNODAU

YSGOL SUL

y-selar.co.uk Alun Gaffey | Albyms Gorau 2015 | Gigio gyda’r Selar

1


Sefydlwyd ym

Dros 140 mlynedd o ragoriaeth

Y Coleg ger y lli ...ers 1872 • •

Ystod amrywiol o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg Seminarau Cymraeg a thiwtor personol Cymraeg ar gael ar bob cwrs (gan gynnwys cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg) Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phecyn hyd at £15,000 gan y Brifysgol

• • •

Cyfle i ymuno â gweithgareddau cymdeithasol UMCA a’r Geltaidd Cyfle i fyw yn y Gymraeg - dewis o lety cyfrwng Cymraeg ar gael Cymuned gosmopolitan a chlos

Aber… 020216 - 20599

y dewis naturiol

www.aber.ac.uk/cy


y Selar

cynnwys

RHIF 44 | MAWRTH | 2016

Golygyddol Rydan ni yn Y Selar yn aml yn pwysleisio pwysigrwydd isadeiledd y sin gerddoriaeth. Mae cerddorion a’r gerddoriaeth y maen nhw’n ei gynhyrchu’n bwysig wrth gwrs, ond ar ben ei hun mewn gwagle dydi o’n ddim byd. Mae’n cymryd sawl peth i greu sin; dyna pam ein bod ni’n gwobrwyo cyflwynwyr, hyrwyddwyr, gwaith celf a fideos yn ein gwobrau blynyddol. Fyswn i’n hoffi meddwl fod Y Selar ei hun yn rhan o’r isadeiledd yma, ac mae cyfrif Twitter sbŵff hyd yn oed yn fricsen yn y wal! Rhai o’r brics eraill sy’n cael sylw mewn dwy eitem newydd yn y rhifyn hwn yw stiwdios recordio yn Y Selar yn y Stiwdio a chi’r gwrandawyr yn Gigio Gyda’r Selar. Ychwanegwch at hynny gyfweliadau difyr gydag Ysgol Sul ac Alun Gaffey, heb sôn am holl ganlyniadau’r gwobrau wrth gwrs, ac mae hwn yn rifyn cyffrous. Mwynhewch! Gwilym Dwyfor

4

12

Alun Gaffey

4

Bromas yn Cysgu’n Brysur

8

Selar yn y Stiwdio

10

10 Uchaf Albyms Gorau ‘15

12

Ysgol Sul

16

Ti di Clywed

19

Adolygiadau

20

Gigio gyda’r Selar

22

Llun clawr: Betsan Evans

16

19

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Leigh Jones.

y-selar.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


GAFF YN TEIMLO’R GRWF M

ae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â stori Dr Jekyll a Mr Hyde. Y syniad fod gan unigolion ddwy fersiwn gwbl wahanol o’u personoliaeth. Y da yn erbyn y drwg, y cyfrifol neu’r gwallgof, yr angel a’r diafol. Dyma gysyniad sydd wedi ymddangos dro ar ôl tro yn ein diwylliant poblogaidd dros y blynyddoedd, ac yn fwy diweddar mae’n rhan o’r thema sy’n llunio albwm unigol cyntaf Alun Gaffey. “Mae’r albwm yn canolbwyntio lot ar bethau mewnol. Pethau fel personoliaeth ac yn enwedig cwestiynu’r gwallau yn fy mhersonoliaeth i. Ma’ ’na ryw thema o ddeuoliaeth yn rhedeg trwy’r albwm. Y syniad o Jekyll and Hyde - yr ochr dda, a’r ochr ddrwg.” Ond nid mewn geiriau’n unig y mae’r casgliad hunandeitlog newydd yma’n cyfleu’r syniad o ddeuoliaeth, yn ôl Gaff. Yn wir, mae ’na ddwy ochr i’r gerddoriaeth hefyd. “Dwi ’di trio rhannu strwythur y caneuon yn ddau hefyd. Ma’ ’na dipyn o’r caneuon yn cychwyn mewn un ffordd, ond yn dilyn trywydd hollol wahanol yn yr ail hanner. A ma’ hynny’n fwriadol i fynd efo’r thema.” Wrth gwrs, mae Gaff, sy’n wreiddiol o Fethel ger Caernarfon, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn wyneb cyfarwydd i ni ers blynyddoedd. Mae o wedi chwarae gyda llu o fandiau fel Pwsi Meri Mew,

4

y-selar.co.uk

Er mor hoff yr ydan ni yn Y Selar o weld bandiau ac artistiaid newydd yn ymddangos ar y sin o unman, rydan ni’r un mor hoff o glywed am brosiectau newydd cerddorion profiadol. Mae’n debyg mai Race Horses oedd un o fandiau Cymraeg mwyaf y degawd diwethaf felly mae unrhyw brosiect sydd yn ymwneud ag un o’r cyn aelodau yn un cyffrous. Pan glywsom ni felly fod Alun Gaffey yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf roedd rhaid i ni yrru Owain Gruffudd draw am sgwrs.

Radio Luxembourg, Race Horses, Fist of the First Man a Gwyllt, yn ogystal â bod yn aelod selog o dîm Nyth. Felly pam mai rŵan ydi’r adeg y mae o wedi penderfynu canolbwyntio ar ei brosiect unigol? “Dwi ’di bod yn brysur iawn efo gwahanol brosiectau rili. Oni’n chwarae efo dau fand rhan amser, sy’n ymroddiad llawn amser yn y bôn. Felly pan nes i roi’r gora’ iddi efo’r bandiau eraill, roedd yr amser yna i mi ganolbwyntio ar stwff fy hun” meddai. “O’n i’n bwcio fy hun i mewn i stiwdio Frank Naughton am benwythnosau cyfan a gneud wicend iawn ohoni. Dwi’n llwyddo i wneud cân gyfan fel arfer dros benwythnos, gan gynnwys yr overdubs i gyd. Yn araf bach, wrth i’r caneuon adeiladu, nes i benderfynu fod ’na ddigon i mi fynd ati i ’neud record hir.” Mae Frank hefyd wedi gweithio gydag artistiaid fel MC Mabon a Huw M, yn ogystal â chwarae’r synth gyda Geraint Jarman. Hawdd gweld felly pam fod Gaff wedi penderfynu mynd i recordio i Stiwdios Tŷ Drwg. “Un rheswm nes i fynd i recordio at Frank oedd ’mod i ’di bod draw yno efo Race Horses, ac yn fwy diweddar, efo Gwyllt. Ar ôl bod yno efo Amlyn [Parry], ges i’r blas o fod isho recordio eto. Ma’ stiwdio Frank efo lot o synths anelog a digidol, felly i fi oedd o fel mynd i barc chwarae efo gymaint o offerynnau gwahanol.”


Lluniau: Betsan Evans

“Oedd o fel mynd i barc chwarae efo gymaint o offerynnau gwahanol.”

Grŵf Mae’n deg dweud fod bandiau Gaff hyd yn hyn wedi adlewyrchu ystod eang o steil cerddorol, o roc seicedelig Race Horses i gerddoriaeth lo-fi Fist of the First Man a’r gymysgedd ecsentrig o arddulliau gyda Gwyllt. Felly i ba gyfeiriad fydd y prosiect newydd yma’n mynd â ni? “Yn gyffredinol, space-funk oedd y teimlad o’n i’n trio mynd ar ei ôl o, er, tydi hynny ddim i’w glywed ym mhob cân chwaith. Dwi’n gwrando ar lot o ganeuon sy’n groove-based. Tra’r o’n i’n gneud yr albwm, o’n i’n gwrando ar fandiau fel Parliament, Rick James, Mandré, Maxayn, Isaac Hayes, Sly, Michael Jackson. O hynny o’n i’n licio’r syniad o synths mewn groove.” Ond mae’r math yma o gerddoriaeth yn cynnig her newydd i Gaff, wrth iddo geisio trosglwyddo’r synau hyn i’w set byw. “Yr her rŵan ydi cyfieithu’r caneuon i sefyllfa byw. Ma’n rhaid i fi gyfaddawdu ar rhai rhannau achos fod ’na gymaint o haenau ar y record. Y gamp ydi gneud o swnio’n dda efo pedwar ohona ni yn y band byw” eglura. “Maen nhw’n grêt o offerynwyr. Rhys Jones [Yr Yo’s] oedd i fod i chwarae gitâr yn wreiddiol ond mae o bellach yn chwarae eitha’ dipyn o synths. Dwi ’di llwyddo i samplo lot o synau o’r record i’w chwara’ nhw’n fyw, pethau fysa’n amhosib chwarae’n fyw fel arall.” “Ifan Alun sydd ar y dryms, oedd hefyd yn chwarae ym mand byw Gwyllt, ac mae o ar un o’r tracs ar y record. Ar y bas ma’ gin ti Eifion Austin, oedd yn arfer bod yn rhan o’r Poppies a hefyd yn rhan o Tigana rŵan.” Mae prosiect unigol yn rhoi’r cyfle i Gaff reoli prysurdeb y band. Gyda bywyd pob dydd prysur, ydi o’n rhagweld y bydd hwn efallai’n brosiect mwy hamddenol na’i ddyddiau gyda bandiau fel Race Horses? “’Da ni ’di cael cyfle i ymarfer ’chydig bach fel band ac mae o’n dod at ei gilydd. Y bwriad ydi rhoi cynnig iawn arni ar ôl rhyddhau’r albwm yma a gigio eithaf tipyn blwyddyn yma. Ma’ pawb yn y band tua’r un oed, ac efo commitments personol, sy’n fine gin i, felly mi wnawn ni be’ ’da ni’n gallu.”

y-selar.co.uk

5


“Ma’n amazing be ti’n gallu ei wneud pan ti yn y fan a’r lle ac yn gorfod ei wneud o.”

Gigio O’i gymharu â’i ddyddiau fel aelod o Race Horses, mae’r cwpwl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn gymharol dawel i Gaff a’i brosiectau cerddorol. Ydi o felly’n edrych ymlaen at ail-afael ym mhethau, a bod yn rhan o brysurdeb cerddorol eto? “Dwi ddim ’di cael gig ers bron i ddwy flynedd mewn gwirionedd. Dwi’n meddwl byddai’n mwynhau gigio eto! ’Da ni ’di dechra’ cynhesu fel band rŵan. O’n i’n meddwl ella ’sa hyn yn waith caled, dod â phob dim at ei gilydd, ond mae o ’di bod lot haws nag o’n i’n ei ddisgwyl.” “O’n i’n sicr ’di cael adegau o’r blaen lle o’n i ddim yn mwynhau bod mewn band. Yn enwedig pan o’n i’n gigio mor aml, oedd o’n gallu bod yn straen ac yn rhwystredig. Dwi’n cofio’r pwynt nes i adael Race Horses.” “Oedd ’na wahanol resymau rili, ond o’n i’n sefyll tu allan i rhyw venue yn Coventry yn disgwyl am soundcheck, odd hi’n piso bwrw ac o’n i’n teimlo fy mod i isho cael fy groundio eto yn rhywle. Oedd o’n gallu bod yn waith caled.” Er ei fod bellach yn edrych ymlaen at ddechrau gigio’n eithaf rheolaidd eto, y profiad o recordio yw’r prif beth mae Gaff wedi’i fwynhau am y prosiect unigol yma. “Yn fwy na dim, dwi ‘di rili mwynhau mynd nôl i’r stiwdio. Mae’r awydd gin i eto i sgwennu caneuon.

6

y-selar.co.uk

“O’n i’n sicr ’di cael adegau o’r blaen lle oeddwn i ddim yn mwynhau bod mewn band.” Weithiau o’n i’n mynd i’r stiwdio efo dim byd, oni bai am bass line ella, ac yn adeiladu o hynny. Sgwennu fel o’n i’n mynd yn fy mlaen. Ma’n amazing be ti’n gallu ei wneud pan ti yn y fan a’r lle ac yn gorfod ei wneud o. ’Swn i’n deud fod dros hanner caneuon yr albwm wedi cael ei sgwennu ar y sbot.” Wedi dweud hynny, mae’n amlwg ei fod yn edrych ymlaen at gigio eto hefyd ac mae’r calendr eisoes yn dechrau llenwi. “Dwi ’di dechra’ cymryd bookings am gigs erbyn hyn. ’Da ni ’di cael cynnig cefnogi Titus Monk ym mis Ebrill. Fyddwn ni hefyd yn chwarae yn Twrw Trwy’r Dydd ym mis Mai ac yn Tafwyl dros yr haf. A gobeithio bydd ’na gig neu ddau’n cael eu trefnu ar gyfer diwedd mis Mawrth hefyd.” Am y diweddaraf am gigs Alun Gaffey dros y misoedd nesaf, ac i brynu’r albwm newydd, syrffiwch draw i’w wefan newydd, alungaffey.com. Chewch chi ddim mo’ch siomi.


BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth MMusTech Technoleg Cerddoriaeth

MA Cynhyrchu Sain Creadigol

Yn boeth o’r wasg!

Lisa Gwilym Dathlu cerddoriaeth newydd Bob nos Fercher, 7pm

£9.99

Allan cyn hir

Taffia - Llwyd Owen

£9.99

www.ylolfa.com 2 Huw and Lisa ads 128x90.indd 2

08/02/2016 13:20


BROMAS yn CYSGU’N BRYSUR Yn ein rhifyn diwethaf siaradodd Y Selar gyda’r Pencadlys am ei rôl ef yn sioe Theatr Genedlaethol Cymru, Dawns Ysbrydion. Ymddengys fod y berthynas rhwng yr SRG a’r theatr mor gryf ag erioed achos y tro hwn cynhyrchiad newydd Arad Goch, Cysgu’n Brysur, sydd yn cael ein sylw.

C

yd-gynhyrchiad Arad Goch, Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw Cysgu’n Brysur, drama am fod yn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain. Pam fod hynny o ddiddordeb i’r Selar dwi’n eich clywed chi’n gofyn. Wel, anghofiwch We Will Rock You a Mamma Mia yn y West End, mae’r cynhyrchiad yma o orllewin Cymru wedi’i seilio ar ganeuon Bromas! Beth yw gwreiddiau’r prosiect tybed? Eglura Llewelyn o’r band

8

y-selar.co.uk

iddynt drafod gyda Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, nôl yn Eisteddfod yr Urdd 2013 ynglyn â bod yn rhan o sioe gerdd Theatr Ieuenctid yr Urdd. “Roedd y pedwar ohonom yn aelodau cast gyda’r union gwmni y flwyddyn flaenorol, a nawr roedden ni’n cael ein gwahodd i fod ar yr ochr cynhyrchu, proffesiynol ohono. Roedd hynny, i fechgyn ysgol dosbarth chwech, yn gwneud yr holl beth yn swreal cyn dechrau!” Llwyfannwyd y cynhyrchiad gwreiddiol hwnnw gan yr Urdd yng nghlwb nos enwog, Pier Pressure, Aberystwyth yn 2014, gan gast o actorion ifanc a Bromas yn cyfeilio. “Roedd y perfformiadau hynny i gyd wedi gwerthu allan a nifer wedi siomi na chawson nhw weld y sioe,” eglura Llewelyn. “Yn ddiweddar, dyma

Jeremy’n gofyn a oedden ni am roi’r go-ahead iddo wneud cynhyrchiad proffesiynol ar raddfa tipyn mwy [gydag Arad Goch]. Roedden ni wrth ein bodd yn amlwg, felly mae’r sioe wedi cael reboot ar gyfer cast proffesiynol ac yn barod i deithio Cymru ym mis Mawrth.” Byth ‘di clywed am Bromas Cân oddi ar Byr Dymor yw ‘Cysgu’n Brysur’ a chaneuon oddi ar albwm gyntaf Bromas oedd y mwyafrif yn y sioe wreiddiol. Ysgrifennwyd ambell gân newydd hefyd, gyda rhai o’r rheiny fel ‘Stafell Wag’ yn cyrraedd ail albwm Bromas, Codi’n Fore. Mae’r band wedi parhau’n rhan o’r broses greadigol a bellach mae caneuon eraill oddi ar yr ail albwm megis ‘Fersiwn o Fi’ hefyd yn y sioe. Bethan Marlow yw’r sgriptwraig a gafodd y dasg o droi’r caneuon yn sioe, ond faint oedd hi’n ei wybod am y band o’r de orllewin cyn hynny? “O’n i ’rioed wedi clwad am Bromas


o’r blaen,” cyfaddefa’r dramodydd, “ond rŵan dwi’n ffan mawr! Ma’r gerddoriaeth mor catchy a bywiog a meddwl ‘di mynd tu ôl i’r geiria’. Ar ôl gwrando ar y caneuon mi o’dd o’n gneud synnwyr mai drama am bobl ifanc ar fin gadael sicrwydd ysgol uwchradd a mentro i’r byd mawr oedd hon am fod.” Mae sgriptio sioe gerdd yn anodd [coeliwch fi], ond mae creu un o gwmpas caneuon sy’n bodoli’n barod yn dipyn o her. “Mae o ’di bod yn lot o hwyl,” eglura Bethan. “Dwi ’di gwrando ar y caneuon a meddwl ‘am be’ ma’ hon?’, ‘pwy fasa’n canu hi a pham?’ a nath petha’ gychwyn plethu i’w gilydd. Weithia’ ma’ ‘na thema yn ail-adrodd mewn mwy nag un gân ac yn mynd yn thema bwysig i’r ddrama, a weithia’ mae taith cymeriad yn gweddu’n berffaith i un o’r caneuon.” O adnabod themâu caneuon cynnar Bromas, sioe am fod yn ifanc yw’r canlyniad naturiol, ond pa mor agos at y gwir yw’r fersiwn ffuglennol? Mae’n cael sêl bendith Llewelyn. “Roedd y sioe a lwyfannwyd yn 2014 yn ddarlun teilwng o fod yn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn amlwg, mae pethau wedi eu chwyddo oherwydd y cyd-destun theatrig, ond mae’r holl beth yn driw i’n tuedd ni heddiw o geisio creu fersiynau idealistig o’n hunain, a holl effeithiau positif a negatif hynny.” Y Weledigaeth Fel y soniodd Llewelyn, gweledigaeth Jeremy Turner yw’r cynhyrchiad. Yr ysbrydoliaeth oedd cynhyrchiad

tebyg y bu Jeremy’n rhan ohono yn 2010, yn defnyddio caneuon Edward H Dafis. “Fe weithiodd y cynhyrchiad hwnnw’n wych gan apelio at feddwl retro pobl yn eu 40au a 50au yn ogystal â chynulleidfaoedd cyfoes,” eglura’r cyfarwyddwr. “Wrth gynllunio cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Cenedlaethol yr Urdd roeddwn i am ddefnyddio’r un broses ond ddim am ddychwelyd i’r 70au a’r 80au. Roedd aelodau Bromas wedi bod yn aelodau o gwmni’r Urdd, roeddwn i’n hoffi eu gwaith – y lirics meddylgar a’r naws gerddorol egnïol – a cham naturiol oedd gofyn am eu caniatâd i ddefnyddio’r caneuon ar gyfer sioe newydd.” Gyda chymorth grant gan Gyngor y Celfyddydau llwyddodd Arad Goch a’i partneriaid i droi’r weledigaeth yn realiti. Gyda chast o 11 a band byw bydd Cysgu’n Brysur yn gynhyrchiad Cymraeg proffesiynol ar gyfer pobl ifanc ar raddfa sydd ddim i’w weld yn aml. “Mae diffyg sioeau cerdd Cymraeg” meddai Jeremy. “Mae Cwmni Theatr Maldwyn wedi gwneud gwaith gwych dros gyfnod hir ac wedi dangos bod modd cynhyrchu gwaith sy’n adlewyrchiad creadigol o Gymru. Ond ar y cyfan, gydag ambell i eithriad, ail-bobiadau o gynyrchiadau Saesneg yw’r dramâu cerdd a gynhyrchir yng Nghymru; droeon eraill mae ’na duedd i ddramâu cerdd yng Nghymru fod yn ôl-syllol wrth ddyheu am y gorffennol. Rydw i am drafod y nawr!”

Cydweithio i fentro Dilyna fersiwn ddiweddaraf Cysgu’n Brysur lwyddiant enghreifftiau eraill o gydweithio rhwng cwmnïau theatr a’r sin gerddoriaeth Gymraeg. Soniais eisoes am Dawns Ysbrydion ac mae prosiect Sbectol Cwmni’r Frân Wen yn un arall. Fel ffigwr amlwg ym myd y theatr, diddorol yw clywed sylwadau Jeremy ar y berthynas rhwng y ddwy gelfyddyd. “Mae realiaeth maint y gynulleidfa yng Nghymru yn ei gwneud yn anodd i gwmnïau neu fandiau unigol greu cynyrchiadau graddfa fawr,” meddai. “Gyda lot o arian yn mynd i ychydig o gwmnïau a sefydliadau diwylliannol, a dim ond ychydig yn mynd i lot o gwmnïau a sefydliadau mae’n rhaid i’r cwmnïau, sefydliadau a bandiau gydweithio i allu mentro a chreu gwaith mawr. “Ond yn bwysicach, mae cydweithio, neu weithio ar draws meysydd gwahanol yn bwysig ar gyfer datblygiad: mae’n esgor ar syniadau creadigol hollol newydd ac yn rhoi profiadau amgen i’r artistiaid ac i’r cynulleidfaoedd. Mae cymaint o gerddoriaeth wych yng Nghymru, mae angen ffeindio ffyrdd o’i rannu a’i ddefnyddio’n ehangach. Byddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda mwy o fandiau.” Yn wir, mae artistiaid eraill yn rhan o’r prosiect yma. Fel rhan o’r deunydd hyrwyddo ar wefan cysgunbrysur. cymru bydd Arad Goch yn rhyddhau ailgymysgiadau o’r caneuon gan artistiaid fel Roughion, Martin Kinnear ac Ifan Dafydd. Sioe gyffrous ar y gorwel a thamaid bach electro blasus i aros pryd, be’ gewch chi well?

y-selar.co.uk

9


sELAR YN Y STIWDIO Rydan ni gyd yn cytuno fod y sin yn gryf ar hyn o bryd, ond beth yw’r pwynt cael tomen o fandiau ac artistiaid talentog heb lefydd a phobl i recordio’i deunydd? Mewn eitem newydd bydd Y Selar yn ymweld â rhai o stiwdios y sin. Dechreuwn ein taith ar gyrion Llanrwst gyda Llŷr Pari (Palenco, Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog...) yn Stiwdio Glan Llyn.

enw: Stiwdio Glan Llyn Cyfeiriad: Melin y Coed, Llanrwst, Conwy Dyddiad Sefydlu: Medi 2014 Offer: Cyfrifiadur - Apple iMac Monitors - Yamaha Hs50 a Rockit 6 Audio Interface - RME Fireface Preamps - ART MPA ii a Fredenstein f200 (preamp/ compressor) Mics - AKG C414 XL ii Matched Pair, Coles 4038, Akg D112, Sm58 x 4, Sm7b Offerynnau - 2 drum kit, bass amp, 2 x amp Gitâr, piano trydan, 4 x organ a lot fawr o gitârs! Hanes Gyda chymorth grant gan Gyngor Sir Conwy prynodd Llŷr offer cychwynol yn 2014. “Ers hynny dwi wedi bod yn brysur iawn yn recordio lot o fandiau gwahanol ac yn mwynhau’r gwaith,” eglura. “Dwi wedi llwyddo i sicrhau mwy o arian cyhoeddus dros yr haf felly dwi’n barod i ychwanegu at yr offer dros y misoedd nesa.”

Hyd yn Hyn Yn gerddor amryddawn, mae Llŷr yn gyfarwydd i ni fel gitarydd penigamp sawl band, ac albwm un o’r bandiau hynny oedd un o’r pethau cyntaf i’w recordio yng Nglan Llyn. “Cafodd albwm Palenco ei recordio yma,” meddai. “Holl stwff Ysgol Sul hefyd, gan gynwys yr EP newydd, Huno. Mae ’na lwyth o fandiau eraill wedi bod i mewn yn recordio senglau a phrosiectau eraill gan gynnwys Dan Amor, Siôn Rich, Phalcons, Lastig

‘Y Deffroad’ Leigh Jones

Mwng a Deffroad Hunaniaeth un o’r Cymry Estron

Y

n wreiddiol o Dreffynnon, Sir y Fflint, symudodd Leigh Jones i Lundain ddwy flynedd yn ôl i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth gyda’r label, Cherry Red. Mae’r Cymro alltud gyda’r label honno o hyd, ond bellach wedi sefydlu ei label ei hun

10

y-selar.co.uk

hefyd, Riff Rock Records. Dafydd Iwan, paent gwyrdd, rygbi, Max Boyce, Stereophonics, Eisteddfodau - dyma oedd fy nealltwriaeth i o Gymru wrth dyfu fyny yn nyddiau Cool Cymru. Ac i fod yn onest, dyna fy mherthynas â’r wlad tan yn gymharol ddiweddar.

Roedd 2015 yn flwyddyn ddiddorol iawn i mi wrth ystyried fy hunaniaeth Gymraeg. Trwy nifer o ddigwyddiadau darganfyddais bod fy hunaniaeth i’n gryfach nag erioed er gwaetha’r ffaith i mi fyw i’r dwyrain o Glawdd Offa am y rhan fwya’ o’r degawd diwethaf. Er i mi gael fy magu trwy’r Gymraeg, does gen i ddim enw Cymraeg, nag acen Gymraeg pan dwi’n siarad Saesneg; felly mae fy hunaniaeth yn rhywbeth rwyf wedi brwydro i’w

ddeall ers gadael Cymru. Y digwyddiad cyntaf yn y deffroad oedd ail-ryddhau Mwng ar y label Saesneg Domino. Fel rhywun sy’n gweithio i label recordiau yn Llundain, fe dynnodd hyn fy sylw ar lefel proffesiynol i ddechrau, ond daeth hi’n fwy amlwg dros y misoedd wedyn ei fod yn bwysig ar lefel bersonol hefyd. Dyma fand o’n i’n caru wrth dyfu i fyny, ond saethodd gwleidyddiaeth yr albwm dros fy mhen pan ei rhyddhawyd yn 2000.


Band (Effin gynt), Omaloma, Alun Tan Lan, Santiago, Sen Segur a mwy.”

Ar y Gweill Mae Llŷr yn defnyddio’r stiwdio ei hun ar hyn o bryd i recordio ei ddarnau gitâr ef ar gyfer albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog. Hefyd yn y dyfodol agos bydd nid un, nid dau ond tri cyn aelod o Sen Segur yn mynd i Felin y Coed i recordio! Bydd George yn gorffen albwm Omaloma yno a Phalcons (Ben) a Lastig Band (Gethin) yn recordio EP’s. “Mae Alun Tan Lan yn gweithio ar ddau albwm ar y funud,” ychwanega Llŷr, “a’r gobaith yw y bydd gwaith yn cychwyn ar albwm newydd Palenco ddiwedd y flwyddyn. Dwi’n gobeithio archebu mwy o offer outboard a ’chydig o mics newydd mor fuan â phosib i helpu efo’r prosiectau i gyd.” 5 Ffaith Ddifyr • • • • •

Mae aelod o’r band prog-rock Camel yn byw fyny’r ffordd ac mae ganddo ef setup recordio ei hun. Felly mae dwy stiwdio ym Melin y Coed. Mae Alun Tan Lan yn byw fyny’r ffordd arall ac mae ganddo ddigon o gitârs, amps, pedals, gadgets a stwff i agor siop. Cafodd y jingle ar gyfer The Telegraph Cycling Podcast ei recordio yma. Wedi dau ddiwrnod o recordio dryms ar EP Ysgol Sul, treuliodd Llewelyn Davies weddill yr wythnos mewn coedwig ger Nebo. Bwriad gwreiddiol Llŷr wrth brynu’r offer recordio oedd clustfeinio ar ei gymdogion.

Pan o’n i’n un ar ddeg, roedd fy nealltwriaeth o wleidyddiaeth a hunaniaeth Gymraeg yn syml ac yn anaeddfed, coeliwch neu beidio! Ro’n i’n meddwl mai rhan fawr o hunaniaeth Gymraeg yw’r ffaith ei bod hi wastad o dan fygythiad. Tyfais i fyny’n meddwl bod Cymreictod yn fregus ac yn sanctaidd. Roedd darllen am gyhoeddiad gwreiddiol Mwng yn agoriad llygaid i mi. Bu i’r Furries wrthod teithio yng Nghymru i hyrwyddo’r albwm gan nad oedden nhw eisiau i’r dorf gyfan droi i fyny wedi’u

gwisgo fel cennin Pedr. Sylweddolais ei bod hi’n bosib bod yn feirniadol o Gymru heb i hwnna fod o reidrwydd yn negyddol. Dydw i ddim yn meddwl am eiliad fy mod i’n camu ar dir newydd trwy “ddarganfod” hyn ond fe fu’n gam mawr i mi’n bersonol llynedd. Fe fu digwyddiadau eraill yn 2015 a hybodd fi i ddefnyddio mwy ar yr iaith ac i gymryd rhan fwy rhagweithiol ym mywyd Cymraeg, ond Mwng oedd y dechrau. Heb os, mae’r deffroad wedi digwydd ac mae’r daith wedi dechrau.

Griff yn Gweld Bylchau Fel cyflwynydd Ochr 1 mae Griff Lynch yn clywed llawer o gerddoriaeth o amrywiol genres. Ond pa arddulliau sydd yn gryf ar hyn o bryd ac ym mhle mae’r bylchau? Does ’na ddim prinder bandiau ac artistiaid Cymraeg i lenwi Ochr 1 ar hyn o bryd. ’Da ni newydd orffen ffilmio’r sesiynau stiwdio ar gyfer y gyfres newydd ac mae ’na ddigon o fandiau sefydlog poblogaidd, a mwy a mwy o artistiaid newydd yn ymddangos i lenwi unrhyw fylchau pan mae aelodau o’r bandiau mawr yn penderfynu cael swydd go iawn! Ond mae ’na genres sy’n wanach na’i gilydd yma yng Nghymru. Dyda ni ddim yn brin o safon yn y maes indie, roc, seicedelia a gwerin, ond efallai fod hip hop a cherddoriaeth electronig yn dioddef. Ar wahân i Carcharorion, Roughion, Y Pencadlys, ac ambell i gân yma ac acw gan Ifan Dafydd, mae’r artistiaid sy’n cynhyrchu cerddoriaeth electronig gynhenid Gymreig, yn gyson, yn brin. Oes ma’ ’na elfennau electronig yng ngherddoriaeth artistiaid fel Gwenno, Y Reu, Sŵnami ayyb, ond yn y bôn gwahanol fathau o gerddoriaeth pop ac indie ydi’r rhain. Ac mi allwch i gyfrif artistiaid hip hop Cymraeg ar un... wel, un bys, sef Ed Holden. Gyda’r sin gerddorol boblogaidd brydeinig yn symud fwy fwy i’r cyfeiriad electronig, a chreu’r math yma o ddeunydd yn dod yn haws ac yn haws, mae Cymru’n dal i gynhyrchu synau eithaf organig. Nid bod hyn yn beth gwael wrth gwrs, ond efallai ychydig yn od. Mae sawl rheswm posib am hyn, mae o’n denu torfeydd gwell yn un peth, ond dyma fy nghynnig i... mae cerddorion yng Nghymru yn dueddol o fod mewn bandiau oherwydd yr hwyl sydd ynghlwm â’r gigs byw, a’r egni ifanc sy’n perthyn i gerddoriaeth gitâr. Mewn gwirionedd mae cerddoriaeth amgen ac arbrofol yn eithaf aeddfed. Tydi creu cerddoriaeth electronig ddim hanner mor gymdeithasol â gigio yn y dull traddodiadol, a chymdeithasu yn aml ydi prif nod bandiau’r sin bop Gymraeg wrth ddechrau. Wedi dweud hynny, mae albwm newydd Alun Gaffey yn mynd i gynnig rhywbeth gwahanol i ni a gydag artistiaid fel Titus Monk ac Endaf o gwmpas y lle fe allai pethau newid. Cawn weld.

y-selar.co.uk

11


10 UCHAF ALBYMS GORAU 2015 Rhaid cyfaddef nad 2015 oedd y flwyddyn brysuraf o ran albyms Cymraeg cyfoes, ond er bod y nifer yn isel, roedd y safon yn uchel. Gadewch i ni weld felly pwy oedd 10 albyms orau 2015 yn ôl darllenwyr Y Selar. 10. Paid â Deud – Gildas Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Mai Trydydd albwm unigol y gŵr o Lansannan a record ddigon gwahanol i’r lleill, gan mai casgliad o gyfyrs sydd ganddo yma. Ymysg yr uchafbwyntiau mae ei fersiwn o

12

y-selar.co.uk

‘Pererin Wyf’ a’i ddeuawd hyfryd gyda Hanna Morgan, ‘Gwybod Bod ‘na Fory’. “Mae’r harmonïau penigamp yn plethu â’r gerddoriaeth syml, ailadroddus ac yn creu sŵn hollol wreiddiol a hudolus” [Megan Tomos, Y Selar, Awst 2015] 9. Gwrthgyferbyniad – Neil Rosser a’r Band Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Tachwedd Aeth y record yma dan y radar braidd, ond yn ffodus iawn cysylltodd un o’n darllenwyr ffyddlon i roi gwybod i’r Selar am ei bodolaeth. Rydach chi’n gwybod beth gewch chi gan Neil Rosser – sylwebaeth grafog, llawer o hwyl a digon o fynd ac mae pobl yn amlwg yn dal i werthfawrogi’r hyn mae’n cynnig.

8. Uwch Gopa’r Mynydd – Yucatan Label: Recordiau Coll Rhyddhawyd: Mehefin Da gweld Yucatan yn ôl gyda chryno albwm wedi cyfnod tawel o ran cynnyrch newydd. Mae rhywun gwybod beth i’w ddisgwyl gan brosiect Dilwyn Llwyd erbyn hyn, adeiladwaith graddol a swynol sy’n cyrraedd uchafbwynt epig a dyna’n union a geir yma. “Mae datblygiad hefyd, ar sawl un o’r traciau ceir sŵn llawnach mwy byw na’r hyn rydym wedi’i glywed gan Yucatan o’r blaen” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Mehefin 2015] 7. Porwr Trallod – Datblygu Label: Ankstmusic Rhyddhawyd: Rhagfyr Yn yr 1980au a’r 1990au, Datblygu oedd un o grwpiau, os nad y grŵp, mwyaf arloesol yng Nghymru. Yn


gwthio ffiniau cerddorol, roedden nhw’n ffefrynnau gyda’r DJ chwedlonol, John Peel. Porwr Trallod ydy eu halbwm llawn cyntaf ers Libertino ym 1993, a da gallu adrodd eu bod nhw’n dal i wthio’r ffiniau, a’r themâu yr un mor grafog ag erioed. 6. VU – Rogue Jones Label: Blinc Rhyddhawyd: Tachwedd Un o albyms mwyaf diddorol ac eclectig 2015 gan y ddeuawd Ynyr Ifan a Bethan Mai. Gan ddefnyddio llu o offerynnau maen nhw’n llwyddo i greu record hynod amrywiol a hynod gyffrous. “O ystyried taw dau aelod sydd i Rogue Jones maen nhw wedi creu albwm gyfoethog gyda bîts da, melodïau ar lŵp, ac adeiladu gydag offerynnau yn amrywio o accordion, allweddellau, gitâr, llais ac omnichord” [Bethan Williams, Y Selar, Tachwedd 2015] 5. Dulog – Brigyn Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Rhagfyr Be di hyn? Albwm Brigyn heb rif ar ôl enw’r band ar y clawr? Mae rheswm da am hynny, gan mai record arbennig i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ydy hi, â’r brodyr wedi bod yn cydweithio â dau frawd o Batagonia, Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin ar ei chreu. “Fy hoff drac...ydi ‘Fan Hyn (Aquí)’. Dyma gân sy’n defnyddio Cymraeg a Sbaeneg,

ac er yn gwbl Sbaeneg ei naws mae’r alaw yn medru swnio mor gynhenid o Gymreig” [Elain Llwyd, Y Selar, Mawrth 2016] 4. Yn y Dechrau – Y Trŵbz Label: Copa Rhyddhawyd: Awst Un o grwpiau cyntaf cynllun Senglau’r Selar a braf eu gweld yn rhyddhau albwm llawn gwta 8 mis yn ddiweddarach. Mae’n albwm cyntaf da i grŵp ifanc, sy’n gwneud y gorau o lais pwerus Mared Williams. “Dyma albwm sy’n rhemp o riffs a bloeddio, wedi eu gwrthgyferbynnu â chaneuon tyner sy’n adeiladu at grescendo” [Miriam Elin Jones, Y Selar, Awst 2015] 3. Tir a Golau – Plu Label: Sbrigyn Ymborth Rhyddhawyd: Tachwedd Ail albwm Plu (i oedolion) ac un sy’n dangos aeddfedrwydd newydd gan y triawd, a newid cyfeiriad cynnil hefyd. Er yr arbrofi gyda sŵn mwy amgen, yr un ydy’r sail gwerinol i’r caneuon, ynghyd â’r asio lleisiol hudolus cyfarwydd. “Albwm sy’n llwyddo i amsugno’r gynulleidfa i fyd breuddwydiol trwy’r cynhesrwydd a’r purdeb sy’n perthyn i gynnyrch Plu” [Ifan Prys, Y Selar, Tachwedd 2015] 2. Mwng - Band Pres Llareggub Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Hydref Mae’n siŵr mai’r fersiwn band pres

amgen yma o record chwedlonol y Super Furry Animals ydy albwm mwyaf gwreiddiol y flwyddyn, ac ni allai fod yn fwy amserol wrth i ni weld y Furries nôl ar y llwyfan yn 2015. Gyda gwesteion yn amrywio o John Ogwen i Ed Holden, Lisa Jên i Gwyllt, mae hon yn gampwaith. “Gelwir ar bob math o steiliau i ail-greu caneuon y Super Furries, o fandiau oompah, bandiau pres milwrol, bandiau New Orleans, i gyffyrddiadau cryf o fandiau pres traddodiadol Cymru” [Elain Llwyd, Y Selar, Tachwedd 2015] 1. Sŵnami – Sŵnami Label: I Ka Ching Rhyddhawyd: Awst Wedi rhai blynyddoedd o fflyrtio gyda senglau ac EPs, o’r diwedd fe ddaeth record hir gyntaf y grŵp o Ddolgellau erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Er bod sŵn pop electronig Ewropeaidd cyfarwydd Sŵnami i’w glywed trwy’r albwm, maen nhw’n arbrofi tipyn gyda synau gwahanol hefyd. Wedi dweud hynny, yr un ydy’r canlyniad sef casgliad o ganeuon sy’n mynd yn sownd am eich pen, a sydd yr un mor gyffrous yn fyw ag ydyn nhw ar record. Heb os mae’n haeddu bod ar frig y rhestr eleni. “O wrando ar y cynnyrch yn ei gyfanrwydd, ceir awgrym fod sŵn y band yn newid ac ehangu...ond mae’r riffiau bachog a’r alawon cofiadwy yn parhau i fodoli” (Ifan Prys, Y Selar, Awst 2015]

y-selar.co.uk

13


enillwyr

Gwobrau’r

Selar

Gyda 1425 o bobl yn pleidleisio dros y 12 categori, pleidlais Gwobrau’r Selar eleni oedd y fwyaf eto. Dewch i ni gael gweld pwy oedd yr enillwyr haeddiannol felly...

2015

CÂN ORAU (Noddir gan Ochr 1) RHESTR FER: Foxtrot Oscar – Band Pres Llareggub Trwmgwsg – Sŵnami Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol Sul ENILLYDD: TRWMGWSG – SŴNAMI HYRWYDDWR GORAU (Noddir gan Radio Cymru) RHESTR FER: Maes B Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 4a6 ENILLYDD: MAES B CYFLWYNYDD GORAU (Noddir gan Heno) RHESTR FER: Lisa Gwilym Huw Stephens Dyl Mei ENILLWYR: HUW STEPHENS A LISA GWILYM ARTIST UNIGOL GORAU (Noddir gan Rondo) RHESTR FER: Gwenno Yws Gwynedd Welsh Whisperer ENILLYDD: YWS GWYNEDD

BAND NEWYDD GORAU (Noddir gan Gorwelion) RHESTR FER: Terfysg Cpt Smith Band Pres Llareggub ENILLYDD: BAND PRES LLAREGGUB

OFFERYNWR GORAU (Noddir gan Coleg Ceredigion) RHESTR FER: Gwilym Bowen Rhys Guto Howells Owain Roberts ENILLYDD: GWILYM BOWEN RHYS BAND GORAU (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) RHESTR FER: Candelas Band Pres Llareggub Sŵnami ENILLYDD: SŴNAMI

DIGWYDDIAD BYW GORAU (Noddir gan Stiwdio Gefn) RHESTR FER: Tafwyl Maes B Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula – Frân Wen ENILLYDD: MAES B GWAITH CELF GORAU (Noddir gan Y Lolfa) RHESTR FER: Dulog – Brigyn (gan Ani Saunders) Sŵnami – Sŵnami (gan Gruffydd Ywain) Mae’r Angerdd Yma’n Troi’n Gas – Breichiau Hir (gan Elin Meredydd) ENILLYDD: SŴNAMI – SŴNAMI

RECORD FER ORAU (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) RHESTR FER: Nôl ac Ymlaen – Calfari Dy Anadl Di / Pan Ddaw Yfory – Yws Gwynedd Bradwr – Band Pres Llareggub ENILLYDD: NÔL AC YMLAEN –CALFARI FIDEO CERDDORIAETH GORAU (Noddir gan S4C) RHESTR FER: Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods Sebona Fi – Yws Gwynedd Pan Ddaw’r Dydd - Saron ENILLYDD: SEBONA FI YWS GWYNEDD

Sengl Selar Orau: Aberystwyth yn y Glaw - Ysgol Sul | Cyfraniad Arbennig: Datbygu

14

y-selar.co.uk


HYSTORI

Cyfres a chyflwynwraig newydd Ddechrau’r flwyddyn, fe ddechreodd ‘Cwmni Da’ ffilmio cyfres newydd gerddorol i S4C - ‘Pwy Geith y Gig?’. Bydd hi’n darlledu yn Ebrill ac yn dilyn taith creu band newydd o 6 aelod rhwng 11 ac 16 oed drwy gynnal clyweliadau. Roedd rhain yn cael eu cynnal dros y We ac yn chwech ysgol uwchradd lle bu aelodau bandiau y gyfres - Swnami, Yr Eira, Y Reu, Candelas, Yr Angen ac Yws Gwynedd. Lara Catrin o Felinheli ydi’r gyflwynwraig newydd. “Fedrai’m gwadu bo fi di bod reit nyrfys cyn cychwyn ffilmio” meddai. “O’dd meddwl am sefyll o flaen camera, a gorfod siarad yn gall, yn rwbath hollol newydd i fi…a’n hollol sgeri… AC o’n i’n mynd i orfod siarad efo chwech band-heb doddi a mymblo. On i’n screwed.” “Ond, mi a’th y diwrnod cynta yn HOLLOL ffab! ‘Oedd Swnami, er bo jest sbio arnyn nhw’n gneud fi anghofio sut i siarad weithia yn hogia bonheddig a lyfli. O’dd y gig da ni’n ffilmio yn bob ysgol hefyd yn swperb - pawb yn downsio a sgrechian, a o’dda ni di llwyr anghofio bo ni mewn ysgol.” “Mae hyn i gyd yn profi - dio’m yn ddrwg o beth bod yn nyrfysweithia.”

Rasal•Gwymon•Copa

allan nawr

Patrobas Dawns y Dail

EP newydd ar label Rasal gan y grw ˆp gwerin fodern o Ben Llyˆn

Senglau’r Selar

Casgliad o 10 sengl gan amrywiol fandiau / artistiaid newydd – Estrons, Y Trw ˆ bz, Henebion, Terfysg, Patrobas, Cpt. Smith, Y Galw, Raffdam, Argrph a Magi Tudur

yn fuan Y Bandana

Albym newydd sbon Fel tôn gronallan ar label Copa, Mawrth 12fed Noson lansio – Yr Hen Farchnad, Caernarfon – nos Sadwrn, Mawrth 12fed, £10 ar y drws

yn y stiwdio

Bydd Bronwen Lewis i fewn yn stiwdio Sain yn fuan i recordio albym newydd i label Gwymon … ac mae Ryland Teifi yn brysur draw yn Iwerddon yn gweithio ar ddeunydd newydd

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


ADRODD ADNODAU

YSGOL SUL

Ein hoff beth ni yma yn Y Selar yw gweld cyn fand Ti Di Clywed yn cyrraedd y dudalen flaen. Hynny a cherddoriaeth wych wrth gwrs, ac mae Ysgol Sul yn ticio’r ddau focs. Cafodd y triawd o Landeilo sylw’r eitem honno yn dilyn eu llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Llanelli yn 2014. Gyda’u EP gyntaf bellach allan roedd hi’n hen bryd sgwrsio eto. Geiriau: Gwilym Dwyfor

16

y-selar.co.uk

Ar gyfnod prysur i’r band ym mis Ionawr llwyddais i ddal y gitarydd a’r prif leisydd, Iolo Jones, rhwng dau gig yn y Parrot yng Nghaerfyrddin. Roedd yr EP newydd, Huno, allan ers ychydig dros fis erbyn hynny felly doedd dim ond un lle i ddechrau, trwy holi sut ymateb mae record fer gyntaf yr hogia’ wedi’i chael. “Ni wedi cael ymateb eitha’ da,” eglura Iolo. “Mae mwy o ymateb wedi bod i’r EP nag odd i’r sengle. Dim bod ni wedi cael dim ymateb i’r sengle, ond ma’n teimlo fel bod mwy o bobl wedi clywed amdanon ni nawr.” Dyw hynny fawr o syndod wrth ystyried yr argraff y mae Iolo, Llew Davies (dryms) a Cian Owen (bas) wedi ei greu ers glanio ar y sin ddeunaw mis yn ôl. Yn y cyfnod hwnnw ers ennill Brwydr y Bandiau Maes B maent wedi rhyddhau dwy sengl; ‘Aberystwyth yn y Glaw’ fel rhan o Glwb Senglau’r Selar yn Chwefror 2015 a ‘Machlud Haul’ ar label I Ka Ching fis yn ddiweddarach. Cynnyrch digidol yn unig oedd rheiny felly Huno yw eu deunydd copi caled cyntaf, carreg filltir bwysig i unrhyw fand ifanc.


“Roedd hynny’n nod gan y band,” cytuna Iolo. “Ma’ rhywbeth yn neisach am gael ffurf physical i’r gerddoriaeth, ma’ fe’n teimlo ychydig bach mwy real. Ma’ fe’n rhywbeth defnyddiol i roi mas mewn gigs hefyd.”

Mae mwy o haenau yn perthyn i’r sŵn heb os ond yr un peth sy’n aros yn gyson yw’r ffaith fod riffs gitâr cryf yn ganolog o hyd. Rydw i wrth fy modd er enghraifft gyda’r riff ar ail drac y casgliad, ‘Er Mor Brin yw Nawr’ felly gofynnais i Iolo sut mae o’n mynd o’i chwmpas hi wrth greu’r riffs ac ai dyna’r man cychwyn wrth iddo gyfansoddi cân? “Un peth sy’n werth ei nodi yw bod pob cân ar yr EP wedi eu hysgrifennu mewn tuning gwahanol ac ‘Er Mor Brin yw Nawr’ yw’r gân fwyaf confensiynol mewn ffordd. Mae’r caneuon yn dueddol o ddod wrth chwarae, anaml mae’r holl beth yn bodoli yn fy mhen i’n barod. Mae elfen o hynny ond yn aml ma’ fe’n dod o chware ambwthdi gyda gitârs

tan fod cân yn bodoli. Mae syniadau yno’n barod ond mae angen eu tynnu o’r is ymwybod.” ‘Aberystwyth yn y Glaw’ roddodd Ysgol Sul ar y map ac mae sengl gyntaf y band wedi cael airplay da, (dwi hyd yn oed wedi clywed Colin yn ei chanu hi wrth smwddio ar Bobol y Cwm)! Does dim dwywaith fod hit o’r fath yn help mawr i fand ifanc yn y cyfnod cynnar ond mae hi’r un mor bwysig fod gorsafoedd radio’n chwarae deunydd newydd a ddim yn glynu’n ormodol at yr hyn maent yn ei adnabod. Holais Iolo os oedd hi’n beth braf cael mwy o gynnyrch allan a dechrau clywed stwff gwahanol yn cael ei chwarae. “Yn bendant,” meddai. “Yn bresennol, y caneuon mae pawb yn eu hadnabod yw ‘Aberystwyth yn y Glaw’ ac i raddau ‘Machlud Haul’. Fydd hi’n ddiddorol gweld nawr os fydd yr EP yn newid hynny wrth i bobl ddod yn fwy cyfarwydd â’r caneuon newydd.”

y-selar.co.uk

Lluniau: Betsan Evans

Cig ar yr asgwrn Dychwelyd at y fformiwla lwyddiannus o ryddhau gydag I Ka Ching a recordio gyda Llŷr Pari (gweler ein heitem newydd, Y Selar yn y Stiwdio) a wnaeth y bois o Landeilo ar gyfer Huno. Mae datblygiad amlwg yn y sŵn serch hynny, o arddull minimalistig lofi y senglau i sain arafach, mwy trwchus ar y record yma. Iolo sy’n ymhelaethu. “Odd sŵn y senglau’n eithaf sgerbydol a thenau. Fi wedi datblygu’r ffordd fi’n ysgrifennu ac mae’r modd mae pethau’n cael eu recordio wedi newid. Mae pethau yn bendant wedi mynd yn fwy trwchus ac mae lot o hynny diolch i Llŷr. Fe wnath e’, trwy computer wizardry ac effeithiau, ychwanegu lot o reverb a delay. Ma’ lot mwy o drwch i’r sŵn a ma’ fe’n fwy atmosfferig.”

“Mae syniadau yno’n barod ond mae angen eu tynnu o’r is ymwybod.”

17


Yn Fyw Lansiodd Ysgol Sul yr EP yn y Parrot nôl ym mis Rhagfyr. Mae’r feniw yng Nghaerfyrddin wedi datblygu’n rhyw fath o gartref ysbrydol i’r band bron, ac mae Iolo’n cydnabod ei bwysigrwydd. “Mae’r Parrot yn ofnadwy o bwysig, does dim wir gennym ni unrhyw feniw arall yn y sir, i ni y Parrot yw y lle. Roedd y gig ddwetha wnaethon ni yn y Parrot ac mae ein gig nesaf ni yn y Parrot! Cydddigwyddiad yw hynny ond yn sicr ma’ fe’n le pwysig a ni’n falch fod e’ dal i fynd.” Yn gyffredinol, mae Ysgol Sul yn fand sy’n chwarae’n fyw yn rheolaidd. Yn ogystal â’r gigs yng Nghaerfyrddin, chwaraeodd yr hogia’ yn Aberystwyth a Chaerdydd ym mis Ionawr hefyd. Siaradwch ag unrhyw gerddor ac fe ddywedan nhw fod chwarae’n fyw yn gyson yn allweddol wrth dynhau’r sŵn ac mae’n debyg mai dyna’r gyfrinach pam fod y “Llandeilo dream indie” yn swnio cystal. “Mae chwarae’n rheolaidd yn sicr yn bwysig er mwyn cael sŵn tynn ond sai’n siŵr os ydy’ ni wedi cyrraedd ein peak tightness fel band eto,” meddai’r prif leisydd. Efallai fod Iolo yn ddiymhongar am y peth ond does dim dwywaith fod y ffaith fod y tri yn chwarae’n gyson gyda’i gilydd i’w glywed ar Huno. Iolo

sy’n ysgrifennu’r caneuon ond mae’r cydweithio rhwng y tri yn hollbwysig wrth greu’r cynnyrch terfynol. “Un peth wnes i sylweddoli pan wnaethon ni sesiwn C2 a’r sengalu odd fod gen i syniad eitha’ pendant ynglŷn â sut oeddwn i am i’r caneuon swnio cyn mynd i’r stiwdio. Yna, wrth recordio odd e’n dod i’r amlwg bod rhaid cyfaddawdu gyda phawb arall i ryw raddau er mwyn i’r caneuon swnio’n iawn. “Y tro yma felly o’n i’n fwy parod i gyfaddawdu falle gyda rhai elfennau. Odd gyda ni syniad mwy pendant y tro yma o’r hyn oedden ni eisiau ei glywed, odd yr EP yn bodoli’n barod ar ffurf demos, odd syniad eitha’ clir gyda ni ac fe fuon ni’n siarad gyda Llŷr am gyfnod cymharol hir cyn mynd i’r stiwdio. Odd pob newid ddigwyddodd wedyn yn newid er gwell.”

“Sai’n siŵr os ydy’ ni wedi cyrraedd ein peak tightness fel band eto.” Llifo Un peth sydd yn eich taro wrth wrando ar Huno yw’r llif. Mae’r cwbl yn llifo i’w gilydd yn hynod ddiymdrech. Nid yw hyn wastad yn digwydd ar EP’s, yn aml mae bandiau

yn arbrofi gyda stwff gwahanol ond mae hon fel albwm fer bron yn y ffordd mae’r cwbl yn perthyn i’w gilydd. “Dwi’n falch fod hynny wedi dod drosto,” diolcha Iolo. “O’n i ddim ishe fe ymddangos fod yr holl beth jyst wedi’i roi at ei gilydd ar hap. O’n i ddim yn anelu at ysgrifennu pump hit gyda dim cysylltiad i’w gilydd. Y nod oedd ysgrifennu EP gyda rhyw fath o sain, er bod y pum cân yn unigryw yn eu ffyrdd eu hunain o’n i sicr moyn sain i’r EP.” Maent yn sicr wedi llwyddo yn hynny o beth. Mae’r tri wedi naddu rhyw niche i’w hunain o fewn y sin Gymraeg. Mae gan Ysgol Sul ei sŵn nodweddiadol eu hun a does dim bwriad ganddynt symud i gyfeiriadau gwahanol yn y dyfodol agos. “Sai’n credu ein bod ni wedi cyrraedd ffurf sefydlog eto, ni heb gyrraedd ‘y sain’. Ni dal ar y ffordd ’na. Dyw e’ ddim fel bod gyda ni ein sain ac mai’r cwbl allwn ni ei wneud o nawr ’mlan yw pellhau ein hunain o’r sain yna. Fi’n credu bod ni dal moyn gweithio tuag at sŵn Ysgol Sul.” Newyddion da i’r ffans ond y cwestiwn mawr ar wefusau rheiny, wedi cwpl o senglau ac EP, fydd a oes albwm ar y gorwel? “Ni wedi dechre ystyried y peth yn barod ac ma’ syniadau yn cael eu casglu, ond gawn ni weld...”


.. Ti d . d

.T d .. i d

i Clywe

Rhys Gwynfor

yw i Cl e

PWY? Cofio ymgais (lled llwyddiannus yn ein barn ni) Y Selar i bwmpio mymryn o hygrededd i gystadleuaeth Cân i Gymru ychydig flynyddoedd yn ôl? Enillwyr 2013 oedd Jessop a’r Sgweiri a phwy all anghofio perfformiad blŵstastig Rhys Gwynfor o ‘Mynd i Gorwen Hefo Alys’? Mae’r Sgweiri wedi tawelu ers hynny ond mae Rhys, sydd yn dod o bentref Glanyrafon rhwng trefi Corwen a’r Bala, yn ei ôl gyda deunydd unigol. “Wedi Cân i Gymru mi wnaetho’ ni lwyth o gigs ond dim llawer o ddim arall,” eglura Rhys. “Mae blwyddyn a mwy ers i’r band stopio gigio ond mi oedd gen i ychydig o ganeuon felly dyma ddechrau meddwl mynd ati i’w recordio a chychwyn gigio eto yn solo. A dyma fi rŵan, yn gwneud hynny’n union.” ^ Swn? Mae’r piano yn ganolog ar y tri thrac a recordiodd Rhys fel rhan o’i sesiwn C2 ond nid yw wedi setlo ar arddull penodol eto ac mae’n bwriadu arbrofi. “Ar hyn o bryd mae o’n rhyw roc ysgafn dan arweiniad piano, ond mi all hynny newid fory. Dwi’m yn poeni rhyw lawer ar hyn o bryd am lynu at un arddull a sŵn. Dwi’n licio’r syniad o gynhyrchu caneuon sy’n llawn o arddulliau a synau gwahanol, pob un yn wahanol i’r llall.” Dylanwadau? Adlewyrchir y diddordeb mewn amrywiol arddulliau wrth i Rhys restru rhai o’i ddylanwadau. “I enwi dim ond rhai, dwi’n hoff iawn o Colorama, Cowbois Rhos Botwnnog, Steve Eaves a Geraint Jarman; ac mae dylanwadau bandiau fel Queen, Roxy Music a Pulp yn gryf arna’i hefyd.”

Hyd yn hyn? Sesiwn ar raglen Lisa Gwilym tua diwedd 2015 a ddaeth â Rhys Gwynfor yn ôl i sylw ffans cerddoriaeth Gymraeg. Cafodd ymateb gwych ac mae

‘Rhwng Dau Fyd’, ‘Cwmni Gwell’ a ‘Nofio’ wedi cael eu chwarae’n rheolaidd ers hynny. Dychwelodd Rhys i’r llwyfan hefyd gan chwarae ei gig gyntaf mewn cwmni da iawn yng Nghaernarfon fis Ionawr. “Dwi newydd wneud y gig gyntaf gyda band bach yn noson 4 a 6. Gig berffaith i roi ’nhroed nôl yn y dŵr, o’n i’n cefnogi Anelog a Huw M gyda chynulleidfa wych yn gwrando arna i chware teg.” Ar y Gweill? Parhau i gigio yw’r bwriad yn y dyfodol agos ond mae Rhys yn eiddgar i fynd i’r stiwdio hefyd gyda’r bwriad o ryddhau record hir. “Y gobaith ydi dechrau recordio albwm yn fuan. Mae gen i swp o ganeuon a dwi’n edrych ymlaen at gychwyn gweithio arnyn nhw, chware o gwmpas ac arbrofi tipyn i greu synau unigryw.” Uchelgais? Canolbwyntio ar recordio a gigio yw’r bwriad tymor byr ond fe fydd unrhyw un a welodd Jessop a’r Sgweiri yn fyw yn gwybod fod yr elfen berfformio yn bwysig iawn i Rhys, ac mae’n amlwg fod hynny’n ganolog yn yr uchelgais dymor hir. “’Swn i’n licio dringo’n ara’ deg i lwyfannau mawr y wlad,” meddai. “Yn bennaf er mwyn i fi gael digon o le i strytio’n sdwff.”

Barn Y Selar Fe wnaiff rhai gwrandawyr droi i ffwrdd wedi dim ond ambell gord o’r intros piano, ond eu colled nhw fydd hynny. Tydi’r math yma o gerddoriaeth ddim i fod yn cŵl, ond y tro yma, mae o. Dwi’n ei chael hi’n anodd rhoi fy mys ar yr union reswm pam, cefnogaeth y gitâr a’r synths mewn mannau efallai, y geiriau da neu’r llais dwfn secsi, pwy a ŵyr? Un peth sy’n sicr, wedi gwrando unwaith fe fyddwch chi eisiau gwrando eto ac mae hynny wastad yn ddechrau da. Ychwanegwch y bwriad i arbrofi gydag arddulliau eraill i’r mics a dyma i chi artist cyffrous iawn.

Gwrandewch os yn ffan o Colorama a stwff diweddar Jarman y-selar.co.uk

19


adolygiadau Porwr Trallod Datblygu Wna i ddim sôn gormod am gerddoriaeth Porwr Trallod, dwi wedi derbyn bellach mai trac sain allwn ni ei ddisgwyl ar record Datblygu ac mai’r geiriau, neu’r farddoniaeth ddylwn ei ddweud, sy’n bwysig. Cawn y gymysgedd arferol o sylwebaeth wleidyddol a myfyrdodau personol ar yr albwm ddiweddaraf, wedi’u pupuro fel yr arfer â chyffyrddiadau barddonol fel “eisteddaf ar ben fy hunan mewn gardd o bosib, mor hardd â phosib”. Mae’r hunan archwilio a’r wleidyddiaeth gwrth-wleidyddol yma ar ei orau ar ‘Je Suis David’, ble cawn ychydig o athroniaeth David R. Edwards ar hunaniaeth Gymreig, diwylliant poblogaidd, crefydd ac iechyd meddwl. Alla’ i ddim dweud fy mod i’n cydweld â’r wleidyddiaeth bob tro, dwi’n anghytuno’n sylfaenol â ‘Llawenydd Diweithdra’ er enghraifft ond mae gwahaniaeth barn yn beth iach. A dyna un peth sydd ar Porwr Trallod sydd ar goll yn y mwyafrif o gerddoriaeth Cymraeg ar hyn o bryd, barn. Gwilym Dwyfor

Alun Gaffey Alun Gaffey Dydw i heb chwarae gymaint ar albwm ers oes. Mae o’n grŵfi. O’r bas ffync-in brilliant ar ddechrau ‘Palu Tyllau’ tan jazz araf melfedaidd ‘Fy Mhocad Cefn’, dyma gasgliad sy’n cydio. Efallai fod yr arddull disgo sydd ar waith â’i wreiddiau’n ddwfn yn y 70au ond does dim byd yn hen ffasiwn am yr albwm. Mae Alun wedi llwyddo i gymryd elfennau o’r genre honno a chreu rhywbeth modern a pherthnasol. Dwi’n sicr erioed wedi clywed dim fel hyn yn y Gymraeg. Mae geiriau’n dda hefyd, dim hen

Un Ffordd Mr Phormula Mae Mr Phormula wedi hen brofi i’r rhai sy’n amau, bod hip hop yn gweithio yn y Gymraeg. Cydiodd yr albwm, Cymud, yn nychymyg nifer ohonom. Mae Un Ffordd, ei gynnyrch diweddaraf, yn ymddangos, ar y gwrandawiad cyntaf, llawer mwy cynnil a soffistigedig o’i gymharu. Mae ‘Un Ffordd’ yn ddechrau da i’r casgliad, gyda’r gerddoriaeth gefndirol yn mynnu sylw - fy atgoffa rhywsut o drac sain Rocky! - a dyma frwydrwr unig yn barod i barhau gyda’r chwyldro cerddorol. ‘Asgo Banol’, sydd â naws sinistr iawn yn perthyn iddi, sy’n crynhoi rôl Mr Phormula yn yr hyn a elwid yn ‘Sin Roc Gymraeg’. “Dwi’m rili’n creu miwsig i blesio, dwi’n creu miwsig dwi’n licio,” meddai... a diolch byth amdano! Naws mwynach sydd i ‘Sefyllfa’, ond parha’r elfen o frwydro. Mae’r trac olaf, ‘Cymerwch y Rheolaeth yn Ôl’ yn dechrau gyda llais Saunders Lewis yn areithio. Heb os, dyma ddiwedd herfeiddiol. Rapio am sefyllfa’r Gymru sydd ohoni wna Mr Phormula, gan dynnu ar ddelweddau o ledled y byd i fynegi ei hun. Mae’r EP hwn, eto fyth, yn brawf bod y Gymraeg yn gweddu ymhob math o gyd-destunau. Miriam Elin Jones

Dwyn y Dail Patrobas Dyma EP cyntaf y pedwarawd gwerin o Lŷn, ac arni mae dwy alaw draddodiadol a thair cân wreiddiol; ‘Meddwl ar Goll’, ‘Lle Wyt Ti’ a ‘Lladron’. ‘Deio i Dywyn’ yw un o’r alawon traddodiadol ac mae hi wedi’i gwneud droeon gan amryw o bobl. Does gan hon ddim byd newydd felly dyma drac gwanaf yr EP. Er hynny, mae hon a ‘Mwncwns Abertawe’ yn amlygu talent Iestyn Tyne ar y ffidl. Mae adlais cryf o Gwibdaith Hen Frân yn ‘Meddwl ar Goll’, yn dwyn i gof eu cân boblogaidd nhw ‘Hogan Wirion’ – wna i adael i chi benderfynu a yw hynny’n beth da neu ddrwg. ‘Lle Wyt Ti’ yw’r gyntaf i gydio’n iawn gan eu bod nhw’n canfod eu sŵn eu hunain fel band gwerin-roc modern. Heb os, hon yw’r gryfaf a’r mwyaf trawiadol ar yr EP. Mae ôl gigio helaeth yma (er mai prin yw’r troeon maen nhw wedi gadael Gwynedd!) a da o beth yw hynny – yn rhy aml o lawer mae bandiau yn mynd i stiwdio heb synnwyr o sut fand ydyn nhw. Mae Dwyn y Dail yn gasgliad amrywiol, graenus ac addawol; man cychwyn da. Lois Gwenllian

themâu blinedig, mae o’n gwneud i chi feddwl. Wrth wrando ar ‘Dau O’na Fi’ dwi’n ffendio fy hun wir yn cwestiynu os dwi’n foi iawn, yn dwat neu’n ’chydig o’r ddau. Mae ‘Deinosoriaid’ yn gân wleidyddol hynod amserol am wleidyddiaeth asgell dde, sy’n cynnwys llinellau gwych fel “ti’n gwenwyno’r ganrif yma efo geirfa’r ganrif dwytha”. Gall prosiectau unigol cyn aelodau o fandiau weithiau droi’n ail bobiad gwael o stwff y band, ond yr hyn sy’n wych am y record yma yw’r ffaith ei bod hi, er mor dda oedd Race Horses, ddim byd tebyg i’w stwff nhw. Felly teimlwch y grŵf, prynwch hi. Gwilym Dwyfor

GWRRHAID AND O


Huno Ysgol Sul Yr hyn sy’n ein taro’n syth ar Huno yw’r sŵn amrwd nodweddiadol sydd i’w glywed mewn set byw gan Ysgol Sul, er bod natur arafach a mwy trwchus y cynnyrch diweddaraf yn adlewyrchiad o ddatblygiad y band dros y misoedd diwethaf. Mae dylanwadau lo-fi, roc a seicedelia yn amlwg ac yn fy atgoffa o waith The Smiths a Tame Impala. Cyfuna’r geiriau graenus a’r alawon cofiadwy i greu dyfnder i’r casgliad, gan ei wneud yn llawer mwy hamddenol o’i gymharu â chynnyrch cynharach megis ‘Aberystwyth yn y Glaw’. Er hyn, gyda’r offeryniaeth gadarn a’r riffiau bachog, mae’r naws yn trymhau mewn mannau fel yn y trac ‘Er Mor Brin yw Nawr’, gan gyfleu’r meddwl a’r strwythur gofalus sydd y tu ôl i’r EP. Dengys hyn allu Ysgol Sul i greu, datblygu a chyflwyno cerddoriaeth mewn ffurf ddiddorol ac unigryw. Gyda naws gwanwyn-hafaidd i Huno, edrychaf ymlaen at wrando ar setiau byw’r band dros y misoedd nesaf, a rhagwelaf ambell hit yn tyfu o’r casgliad, gyda ‘Hir Pob Aros’ yn glasur atseiniol. Ifan Prys

Dulog Brigyn O’r trac cyntaf cawn yn union be’ ’da ni wedi dod i ddisgwyl gan Brigyn, sef cân dda, geiriau tlws a harmonïau neis. Mae’r traddodiad yma’n parhau yn ‘Rhywle mae ’na afon’ ac mae symlrwydd y gân yma a’i steil country yn gwneud hon yn un o’n hoff draciau. Wrth wrando ymhellach mae’r dylanwad Sbaenaidd yn amlygu’i hun, gydag ‘Ana’ yn rhoi sain hynod draddodiadol i ni, heb sôn am stori wych. Dwi wrth fy modd hefo ‘Malacara’ sydd yn fy lluchio i ganol ffilm Western ac yn adeiladau’n gyson i gynnal cynnwrf yng nghanol yr albwm. Fy hoff drac, a’r gân sy’n cynrychioli’r albwm orau i mi ydi ‘Fan Hyn (Aquí)’. Dyma gân sy’n defnyddio Cymraeg a Sbaeneg, ac er yn gwbl Sbaenaidd ei naws mae’r alaw yn medru swnio mor gynhenid Gymreig ac mae’n enghraifft berffaith o’r cyd-weithio sydd wrth graidd yr albwm. Mae ’na un neu ddau o draciau sydd ddim cweit yn ffitio efo’r mwyafrif ac ella yn effeithio ar sut dwi’n teimlo amdani hi yn ei chyfanrwydd. Wedi dweud hynny, does ’na’r un gân wael, ac mi fydd albwm diweddara Brigyn yn cymryd ei le yn gyfforddus hefo’r lleill. Elain Llwyd Brython Shag Brython Shag Mae intros offerynnol yn amlwg ar sawl cân, a dyna sut mae ‘Bywyd ei Hun’ yn agor yr albwm. Golyga fod llinell y gitâr yn aros yn flaenllaw drwy’r gân, gan roi sŵn trwm a llawn iddi, yn debyg i sawl un arall ar y casgliad. Ond mae traciau eitha’ gwahanol, mae sŵn ffynci iawn i ‘Pink Tu Mewn’, ‘Afal ac Efa’ wedyn â rhyw elfen blŵsaidd iddi, a ‘Dwnsia neu Granda’ yn fwy o gân. ‘Sbienddrych’ sy’n sefyll mas, yn dechrau’n araf a syml cyn

ffrwydro’n llawn egni a sŵn gitâr cryf. Rhwydd dychmygu’r band yn mynd amdani ar lwyfan wrth ganu hon, yn adeiladu at y diwedd a gorffen yn gryf. Yn ail agos mae ‘Walia Gwalia’, sy’n weddol nodweddiadol o ganeuon Ceri Cunnington, ond mae’r sŵn yn wahanol. Mae’r gitâr a’r dryms â’u sŵn llawn yn agor, cyn i Ceri ymuno a’r bît yn troi’n rhywbeth mwy pryfoclyd a heriol. Drwyddi mae’r gitâr a’r dryms a’r llais yn cymryd eu tro i gamu i’r blaen, cyn ymuno â’i gilydd eto. Dydy’r sŵn ddim yn rhy gymhleth ond rhwng llais Ceri, y geiriau, y gitâr hyderus a’r bît mae hon yn mynnu sylw, fel mae’r albwm. Bethan Williams Tân Calfari Calfari yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o fandiau Cymraeg i begynnu’r farn gyhoeddus. Fel Edward H, Frizbee a’r Bandana o’u blaenau maen nhw’n destun gwawd rhai er gwaethaf eu poblogrwydd. Ond ai rhesymau cerddorol neu’r ysfa hipster honno i gasáu unrhyw beth poblogaidd sy’n gyfrifol? Dyna’r cwestiwn. Alla i ddim dweud i mi fwynhau’r EP newydd, Tân, ond dwi’n ymwybodol iawn o’r angen i gyfiawnhau’r safbwynt hwnnw. Y prif reswm ydi’r guitar solos. Dwi’n gwerthfawrogi’r grefft a’r sgil sy’n perthyn iddynt ond mae ’na ormod ohonynt ac maen nhw’n rhoi rhyw deimlad 80au i’r caneuon. Mae’r llais hefyd yn cyfrannu at naws wedi dyddio’r holl beth, yn dechnegol dda iawn, ond ’bach rhy lân i mi a gormod o ymdrech ynddo fo. Wrth gwrs, dyma rai o’r union resymau y bydd ffans niferus Calfari wrth eu boddau efo’r casgliad. Mae’r holl nodweddion a oedd yn gyfrifol am lwyddiant Nôl ac Ymlaen i’w clywed eto ar Tân felly fyswn i ddim yn poeni gormod am fy marn i, ymddengys fy mod yn y lleiafrif. I ffwrdd â mi i dyfu barf a chwarae gemau bwrdd dros beint o gwrw crefft, ma’ raid ’mod i’n hipster. Gwilym Dwyfor mwy o adolygiadau trosodd


adolygiadau Suddo Yr Eira Os ydych chi’n hoffi caneuon pop catchy sy’n rhwydd gwrando arnyn nhw, byddwch chi’n mwynhau hon. Mae bît bywiog iddi, alaw sy’n aros yn y cof ar ôl gwrandawiad neu ddau a strwythur digon syml. Un o’r cryfderau yw’r gitâr, er mai cyfeiliant yw e’ i ddechrau mae’n gweddu’r llais ac yn cael cyfle i hawlio’r sylw wrth gloi, ac yn cynnig uchafbwynt da. Mae’r cyflwyniad offerynnol tawel sy’n adeiladu cyn sŵn llawn y gân yn rhoi mwy o gic iddi hefyd. Felly nid dim ond cyfeiliant i’r geiriau a’r llais yw’r gitâr, yr offerynnau sy’n serennu yn Suddo. Bethan Williams Swooshed Aml-gyfrannog Yr her efo casgliadau aml-gyfrannog ydi cyfleu’r teimlad hwnnw ei fod o’n gasgliad. Yn aml mae ambell drac yn plesio, ond mae gorfod gwrando ar y lleill yn gallu troi’n anhwylustod. Mae’r her hyd yn oed yn fwy i Recordiau Cae Gwyn ar eu hoffrwm diweddaraf, Swooshed, gan mai nid caneuon fel y cyfryw yw bob un. Mae yna dipyn o draciau offerynnol arni, a rhai fel ‘Surfaces’ (David Hopewell) a ‘Segontiwm’ (Dan Amor a Huw Owen) yn fwy o recordiau amgylcheddol na dim arall. Ond mae Swooshed yn gweithio, a’r rheswm am hynny yw’r ffaith fod yna thema gref yn rhedeg trwy’r cyfan, ac fel mae enw’r casgliad yn ei awgrymu, dŵr yw’r thema hwnnw. Golyga hyn lawer o amser yn gwrando ar sŵn glaw! Ond, er clod i’r artistiaid, rydach chi’n anghofio hynny’n aml iawn wrth gael eich sugno i mewn i naws breuddwydiol yr holl beth. Nid dweud ydw i nad oes gen i ffefrynnau cofiwch, y ddau drac cyntaf yw’r rheiny, ‘Siabod’ (Anelog) a ‘Lutra’ (Omaloma), ond mae cryfder Swooshed yn y cyfanwaith. Gwilym Dwyfor

Gigio gyda’r Selar Mae digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod a Gwobrau’r Selar yn grêt ond mae gigs bach lleol llawn mor bwysig wrth gynnal sin gerddoriaeth ffyniannus. Dyna pam ein bod ni yma yn Y Selar mewn eitem newydd (ia, un arall!) wedi penderfynu mynd ar grwydr i gael blas bach o’r sin fyw mewn ardaloedd gwahanol. Bwriad Gigio Gyda’r Selar yw cyfarfod rhai o’n darllenwyr mewn gigs ledled y wlad gan ddechrau trwy yrru Bethan Williams i Gaerfyrddin. Dyddiad: 15/01/2016 Lleoliad: Parrot, Caerfyrddin Lein-yp: Ysgol Sul / Cpt Smith / Jaffro / Adwaith Enw? Ruth Annwyl Morgan a Martha Ifan Oed? 17 Band/artist lleol mwyaf cyffrous? Adwaith Cerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Datblygu ac Ysgol Sul Pwy/beth ti’n edrych ymlaen at ei glywed yn 2016? Mwy o ferched yn rhan o’r sin.

Enw? Iwan Harries Oed? 18 Band/artist lleol mwyaf cyffrous? Jaffro Cerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Metallica – Greatest Hits Pwy/beth ti’n edrych ymlaen at ei glywed yn 2016? Albwm Guns N’ Roses Enw? Morgan Davies Oed? 16 Band/artist lleol mwyaf cyffrous? Cpt Smith Cerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Sengl Selar Cpt Smith Resbiradaeth Pwy/beth ti’n edrych ymlaen at ei glywed yn 2016? Mwy o Cpt Smith

Enw? Louis Snelling Oed? 18 Band/artist lleol mwyaf cyffrous? Adwaith Cerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Sengl Adwaith - Rhy Ifanc Pwy/beth ti’n edrych ymlaen at ei glywed yn 2016? Mwy o Adwaith

Enw? Heledd Owen Oed? 16 Band/artist lleol mwyaf cyffrous? Ysgol Sul ac Adwaith Cerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Bombay Bicycle Club - I Had the Blues But I Shook Them Loose Pwy/beth ti’n edrych ymlaen at ei glywed yn 2016? Mwy o Adwaith a Cpt Smith

Adwaith

th

Cpt Smi


CWMNI THEATR ARAD GOCH Canolfan Mileniwm Cymru Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Drama gerdd gyfoes, Gymraeg am fod yn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain – yr affêrs a’r fflirtio, angst y dosbarth, y gangiau a’r partïon gwyllt yn y goedwig, moesau ac anfoesoldeb, y rhwystredigaethau, ofnau a’r gobeithion. Cast – Aaron Davies, Tom Conwy, Anni Dafydd, Guto Wynne Davies, Gareth Elis, Mirain Fflur, Osian Garmon, Gwawr Keyworth, Rhianna Loren, Caitlin McKee, Lynwen Haf Roberts Awdur – Bethan Marlow Cyfarwyddwr – Jeremy Turner Coreograffydd – Eddie Ladd Cyfarwyddwr Cerdd – Rhys Taylor

yn cyflwyno

Cerddoriaeth gan BROMAS CANOLFAN CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH 8 + 9 Mawrth, 7.30pm – 01970 623 232 Y LYRIC, CAERFYRDDIN 11 Mawrth, 10.00am a 7.30pm – 0845 226 3510 PAFILIWN Y RHYL 16 + 17 Mawrth 16 Mawrth, 7pm / 17 Mawrth, 10.30am – 01745 33 00 00 GALERI, CAERNARFON 18 Mawrth,1pm a 7pm – 01286 685 222 CANOLFAN MILENIWM CYMRU, CAERDYDD 21-26 Mawrth / 21-23, 1pm / 23–25, 7pm / 26, 2pm + 8pm – 029 2063 6464

cysgunbrysur.cymru

@ CysgunBrysur


#apffrydio – yn fuan! Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer ffonau symudol iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim

twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.