RHIFYN 25 . MEHEFIN . 2011
y Selar
AM DDIM CRESION HUD GWYNETH GLYN CLAWR GILDAS GEID I’R GWYLIAU
DYLANWAD
Y DYFFRYN 1 templateyselar.indd 1
25/5/11 00:33:33
Tren y Chwyldro . GIGS STEDDFOD WRECSAM^
Clwb Gorsaf GanoloG Efj Jlc# >fi]]\eeX] *(
Efj =Xnik_# 8njk
==@CD1 J<G8I8;F
P KIÜE @ 8=FE$N<E $ KPE><; PI @8@K?
>NIK?NPE<9LËI KFI@$8;8L
;8E@<C CCFP; 8 DI G@E:# 8C C<N@J 98E;# P J8<K?8L IP8E B@=K
CCNP9I CC8<K?F>
PD;;
I<E
-
Efj Cle# ( 8njk EFJFE ;NP D<NE LE
EFJFE >FD<;@ EF;;NP; >8E È;;F< 8D ;;<>É
;I ?PN<C ==@8@;; /gd$(Xd# /
:CN9 >FIJ8= >8EFCF> PNËI GI@= C<FC@8; :<I;;FI@8<K? =PN PE P >F>C<;; $ PE> E>?8EFC ;I< NI<:J8D
templateyselar.indd 2
8njk
:I8J?%;@J:F
Efj JX[nie# 8njk 8D# /
9inp[i Ble^ =l X KX\bnfe[f
@ .
/gd$)%*'Xd#
8
>F;
Efj =\iZ_\i# 8njk KIÜE P :?NPC;IF1 PE :P=CNPEF ,' DCPE<;; F >8EL IF: 8 9INP;IF D<NE :ÛE 8 ==@CD
D8==@8 DI ?LNJ ?<8K?<I AFE<J
>8@ KFDJ 8ËI 98E; A<E A<E@IF# @8E ILJ?
><I8@EK C¥M>I<<E
PI <IPI 8ËI >FCFD<E Æ
D<@: JK<M<EJ
PE P >F>C<;;
FI8L
0# kXe *%*'Xd
/gd $ )%*'Xd# 0
KfZpeeXl Xi n\ik_ Xic\`e Zpd[\`k_Xj%fi^&jk\[[]f[ '(0.'$-)+,'( e\l f[[` nik_ 8n\e D\`i`fe P 9XcX# PXc\j Ni\ZjXd e\l <c]X`i I_lk_le
25/5/11 00:34:00
GOLYGYDDOL
Shw mai, shw mai Selaryddion ffyddlon?! Llongyfarchiadau gwresog am lwyddo i gael gafael ar rifyn diweddaraf Y Selar - maen nhw’n bethau poblogaidd dros ben ac yn hedfan oddi-ar y silffoedd ... felly fe wnaethoch yn dda. Mae’r rhifyn yma’n un da, hyd yn oed os ydw i ychydig bach yn unllygeidiog yn y mater. Yn un peth dwi’n falch iawn bod ‘na fand newydd o ardal Dyffryn Conwy yn dechrau creu argraff ar y sin, ac mae ‘na gyfweliad efo nhw ymysg pleserau eraill y rhifyn hwn. Mae ‘na gyfweliad arall efo band sydd wedi ailddarganfod eu brwdfrydedd ac egni, ac yn fwy gweithgar nac erioed o’r blaen. Ma’n rhaid eu bod nhw wedi bod yn bwyta eu grawnfwyd i gael y fath wnff! Ac yn olaf, byddwn ni’n cael gair gyda Gwyneth Glyn...sydd wedi bod yn gynhyrchiol mewn mwy nac un ffordd. Efallai mai’r peth mwyaf cyffrous am rifyn hwn o’r Selar yw bod yna daith newydd sbon danlli yn cael ei threfnu i gyd-fynd â’r rhifyn. Bydd Slot Selar yn mynd â cherddoriaeth fyw gwych i bum lleoliad ledled Cymru...ac mae gwybodaeth lawn am y daith i’w chanfod rhwng y cloriau hyn. O ddifrif, tydi’r daith yma ddim yn un i’w cholli a gobeithio y byddwn ni’n cael cwrdd â chymaint â phosib o’n darllenwyr ffyddlon ar y ffordd - dewch yn llu. A gan ei bod hi’n gyfnod Eisteddfod yr Urdd, mae’n rhaid crybwyll sengl gwych newydd Rapsgaliwn a Mr Urdd. Dwi’n disgwyl gweld y ddeuawd yma’n hêdleinio Maes-B... neu hyd yn oed Taith Slot Selar blwyddyn nesaf bois! Cyn i chi ddechrau ar eich taith chi trwy dudalennau’r rhifyn diweddaraf o’r Selar, cofiwch un peth ... gorau freuddwyd a welir liw dydd.
CREISION HUD
12
OWAIN S SENSEGUR GWYNETH GLYN
4
Golygydd Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
Dylunydd Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
MARCHNATA
8 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.
Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)
Cyfranwyr
16 GEID I’R GWYLIAU
Gwilym Dwyfor, Leusa Fflur, Barry Chips, Lowri Johnston, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Toni Schiavone
y Selar RHIFYN 25 . MEHEFIN . 2011
Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
3 templateyselar.indd 3
25/5/11 00:34:10
cyfweliad
MWY O DEIMLAD
NAC O LE
^ Mae ‘na grw p newydd cyffrous sy’n dilyn traddodiad cerddorol unigryw dyffryn arbennig yng Ngogledd Cymru. Nhw ydy’r diweddaraf mewn llinach gerddorol arbrofol ac amrwd sy’n ymestyn yn ôl dros ddegawdau yn Nyffryn Conwy. Maen nhw’n dilyn ôl traed enwau fel Melys, Y Cyrff, Jen Jeniro a hyd yn oed Y Mellt! Mae ganddyn nhw EP newydd allan a byddan nhw’n gigio’n galed dros y misoedd nesaf. Pwy ydyn nhw? Wel Sen Segur wrth gwrs.
Owain Schiavone aeth i gwrdd â’r aelodau yn nhafarn Pont y Pair ym Metws y Coed. Mark Roberts ganodd y geiriau ‘mae o’n fwy o deimlad nac o le’ gyda’i fand diweddaraf, Y Ffyrc, ar eu halbwm gwych ‘Oes’. Efallai mai nid dyna’n union oedd gan y cyn aelod Catatonia ac Y Cyrff mewn golwg yn y gân benodol honno, ond yn sicr fe allai’r geiriau gael eu defnyddio i grynhoi ardal ei fagwraeth. Mae gan Ddyffryn Conwy, ac ardal
Llanrwst a Betws y Coed yn arbennig, dreftadaeth cerddoriaeth roc a phop difyr ac amrywiol sy’n ymestyn yn ôl i’r 1960au. Dros y blynyddoedd mae’r ardal wedi cynhyrchu rhai o’r bandiau mwyaf diddorol a chyffrous a welodd y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a does dim arwydd bod y llinell ffatri honno’n arafu wrth i’r diweddaraf ryddhau eu EP cyntaf ddiwedd mis Mai. Yng ngwir draddodiad bandiau Dyffryn
4 templateyselar.indd 4
25/5/11 00:40:47
Conwy, mae cerddoriaeth Sen Segur yn amrwd iawn ond mae ‘na rywbeth yna sy’n cydio ynddoch chi’n syth. Fel gyda’r ardal ddaearyddol ei hun, mae ‘na rhyw deimlad arbennig i’r gerddoriaeth. ^ Mae EP cyntaf y grw p, Pen Rhydd, yn gasgliad o bedair cân ddigon gwahanol, ond yr hyn sy’n gyffredin ynddyn nhw oll ydy dylanwad eu cyn dadau cerddorol o Ddyffryn Conwy. “Roedd aelodau Jen Jeniro yn byw jyst lawr y ffordd, felly odd o’n anodd peidio cymryd sylw”, meddai George, basydd ac ^ efallai prif egni’r grw p. “R’odd hogia Jen Jeniro yn y chweched pan oeddan ni’n dechra yn yr ysgol” ychwanega’r drymiwr, Geth. Mae’n debyg mai gitarydd a chanwr Sen Segur, Ben, gyflwynodd gerddoriaeth Jen Jeniro i George a’i fod yntau yna wedi eu ^ gweld nhw’n perfformio’n fyw yn y Gw yl Gwydir cyntaf bron i dair mlynedd yn ôl. Mae’n dod i’r amlwg bod Ben yn gefnder
i Llyr Pari – aelod amryddawn Jen Jeniro - ac wedi treulio llawer o amser gydag o wrth dyfu, “nath o fy nghyflwyno i i lot o fandiau” meddai.
MEIBION Y MYNYDD Mae hanes Sen Segur yn ymestyn yn ôl i 2009 ... ond nid Sen Segur oedden nhw bryd hynny. Roedd George wedi bod i Glastonbury y flwyddyn honno gan weld llawer iawn o fandiau, a’i ysgogodd i fynd ati i geisio ffurfio band. Daeth yn ôl a dechrau siarad gyda Ben, a dyna enedigaeth Crazy Mountain People. Fel mae’n digwydd, fe wnaeth awdur yr erthygl hon ddewis C.M.P. fel un o’i ‘top tips’ ar gyfer 2010 ar sioe radio Huw Stephens ... felly siom o’r mwyaf oedd clywed eu bod wedi penderfynu cymryd egwyl yn fuan yn y flwyddyn honno. Wrth gwrs, dod nôl dan yr enw newydd wnaethon nhw, ond pam felly?
“Oedd yr enw o’r blaen yn fwy o novelty” meddai Ben. “Gig one off oedd o fod yn y Shiloh yng Nghwm Penmachno, ond nathon ni rili mwynhau a dechrau cael cynnig gigs.” ^ “Gawsom ni gyfle i chwara yng Ngw yl Gwydir a nath Dilwyn (Llwyd) gynnig gig i ni yn y Morgan Lloyd” ychwanega George. Oedd y newid mewn enw’n golygu eu bod nhw’n dechrau cymryd pethau’n fwy o ddifrif felly? “Oedd, o bosib” ydy ateb prydlon George. “Nathon ni ddechrau mynd yn fwy experimental hefyd” medd Geth cyn i George dorri ar draws, “ond nath hynny jyst digwydd yn naturiol.”
“OEDD YR ENW O’R BLAEN YN FWY O NOVELTY”
5 templateyselar.indd 5
25/5/11 00:38:09
“GAN BOD NI’N CANU’N GYMRAEG RYDAN NI WEDI CAEL Y CYFLE I FOD YN LOT MWY GWEITHGAR...”
DYLANWAD Y DYFFRYN Felly mae’r band yn credu eu bod nhw’n reit arbrofol, ond fel y soniwyd eisoes, mae dylanwad bandiau eraill yn amlwg yn eu cerddoriaeth. Pwy maen nhw’n ystyried fel eu dylanwadau cerddorol mwyaf felly? Geth sy’n ateb gyntaf, “cerddoriaeth y 1990au cynnar, Gorkys a Ffa Coffi a bandia’ felna.” Mae dylanwadau Ben yn fwy annisgwyl efallai, “yn fwy diweddar mae stwff y 1960au wedi dechrau dylanwadu arnom ni – band o’r enw United States of America, Hawkwind a rhai eraill”. Mae George ar y llaw arall yn pwysleisio y sin ym Manceinion, neu ‘Madchester’ fel y cafodd ei fedyddio,
6
bandiau fel y Stone Roses a Joy Division. ^ Mae awgrym cryf o sw n Manceinion ar yr EP, ond ro’n i eisiau gwybod mwy ganddyn nhw am ddylanwad bandiau ardal Llanrwst. “Da ni wedi gwrando lot ar stwff Y Cyrff, a fysa ti’n gallu deud bod Jen Jeniro wedi bod yn ddylanwad anferthol arno ni” meddai Geth. Dwi’n tynnu sylw i’r ffaith fy mod i’n ^ clywed rhywfaint o sw n bandiau fel Melys a Serein (cyn fand Alun Tan Lan tua diwedd y 1990au) ar yr EP. Dwi’n synnu i glywed nad ydyn nhw wedi clywed am Serein ac eu bod nhw ond wedi clywed Melys unwaith ychydig fisoedd yn ôl mewn gig ym Mistro ^ Paul ac Andrea o’r grw p ym Metws y Coed. ^ Efallai bod rhywbeth yn nw r yr afon Conwy
^ n yn naturiol felly. sy’n helpu i ffurfio’r sw Wrth i’r sgwrs grwydro i rai o fandiau eraill yr ardal dwi’n dysgu bod Ben wedi bod yn aelod o fand Dan Amor pan oedd o’n ddim ond deuddeg oed! Ro’n i eisoes yn gwybod bod Dan Amor yn frawd mawr i George, ac ar label Dan – Recordiau Cae Gwyn – mae Pen Rhydd yn cael ei ryddhau. Mae’n rhaid bod yr Amor hy^ n yn ddylanwad felly? “Roedd fy stafell wely i drws nesaf i un Dan, felly nes i dyfu fyny’n gwrando ar ei gerddoriaeth o” meddai George. Mae’n amlwg eisiau talu teyrnged i’w frawd, “fysa ni ddim yma’n gwneud y cyfweliad yma oni bai am ddylanwad Dan. Dwi wedi tyfu fyny’n mynd i’w gigs o, ac wedi deud wrth fy hun
MWY O LUNIAU SEN SEGUR AR WWW.Y-SELAR.COM
templateyselar.indd 6
25/5/11 00:38:25
PEN RHYDDID Un arall o drigolion y dyffryn sydd wedi bod yn bwysig iawn i’r band ydy John Lawrence. Mae cyn-Gorky wedi bod ^ yn byw yn yr ardal ers gadael y grw p, ac mae bellach yn rhedeg stiwdio ger pentref Capel Curig. Yno mae Pen Rhydd wedi’i recordio ac mae’r Lawrence fel cynhyrchydd wedi bod yn allweddol yn y broses honno. “Mae John Lawrence wedi helpu ni lot” medd Ben. “Nath o chwarae organ, trwmped, wah-wah a sgrechian ar yr EP.” Ydy mae John yn hoffi sgrechian – mae o hefyd yn gwneud cyfraniad trawiadol tebyg ar y gân Hulusi gan Jen Jeniro. “Nath o hefyd helpu ni lot trwy roi syniadau a dangos sut i roi structure i gân. Doedd gyno ni ddim cliw sut i weithio yn y stiwdio.” Mae’r EP wedi’i recordio ers mis Hydref, “nath o gymryd tipyn o amser i ddod allan” medd Geth gyda hanner gwên ar ei wyneb. George sy’n egluro pam bod pethau wedi cymryd cyhyd, “odden ni’n chwilio am rywun i’w ryddhau o, ac am ychydig roedd diddordeb gan Sbrigyn (Ymborth) a Dilwyn Llwyd. Nath pethau ddim gweithio allan felly rydan ni’n lwcus iawn bod Dan wedi’n helpu ni.”
lLUNIAU: aNDREW KIME
PASIO’R BATON
bod fi isho gwneud hynna. Mae o wedi helpu ni allan gymaint efo’r EP.” Does dim dadl gan y ddau arall, sy’n cadarnhau fod y deyrnged yn fwy na chariad brawdol.
Mae’n amlwg bod yna dal ddigon o bobl yn yr ardal sy’n weithgar yn y sin, ond sut mae’r hogiau’n gweld sin Dyffryn Conwy ar hyn o bryd? Nhw ydy’r diweddaraf, ond pwy fydd y nesaf yn llinach gerddorol yr ardal? “Iwan Goleuo ydy’r sin yma! Mae o wedi helpu ni lot ac mae o’n trefnu loads yn yr ardal” ydy ateb pendant George. Mae Iwan, trwy ei waith a diddordeb personol wedi bod yn trefnu llawer o nosweithiau adloniant ym musnesau yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r basydd yn mynd ymlaen i drafod bandiau cyfredol eraill yr ardal, “mae ‘na dipyn o fandiau eraill yn yr ardal ar hyn o bryd, ond i gyd yn canu’n Saesneg yn anffodus. Mae gen ti Slight Return, band rili
“FYSA NI DDIM YMA’N GWNEUD Y CYFWELIAD YMA ONI BAI AM DDYLANWAD DAN.” da o’r enw Ugly Fashion a hefyd un o’r enw LSD.” Mae’r tri’n cael trafodaeth frwd am aelodau’r bandiau yma, ond yn y diwedd yn penderfynu bod o leiaf un aelod sy’n siarad Cymraeg ym mhob un. Maen nhw wedi clywed bod LSD yn bwriadu dechrau gwneud stwff Cymraeg, ond pam nad ydyn nhw a’r lleill yn gwneud hynny’n naturiol o’r cychwyn cyntaf? “Mae ‘na ormod o bwyslais ar bod y ^ Gymraeg ddim yn ‘cw l’” ydy barn George, “ond da ni ddim yn cytuno o gwbl.” “I’r gwrthwyneb” atega Ben, cyn i George ychwanegu “gan bod ni’n canu’n Gymraeg rydan ni wedi cael y cyfle i fod yn lot mwy gweithgar na’r bandiau yna.” Maen nhw’n cytuno y bydden nhw wrth eu bodd yn gallu pasio’r baton ymlaen i fand newydd arall o’r ardal ymhen cwpl o flynyddoedd, ond hefyd yn cytuno nad oes yna neb amlwg i gymryd drosodd ar hyn o bryd. Wrth gwrs, dyfodol Sen Segur ydy’r peth pwysicaf i’r tri ar hyn o bryd, felly beth sydd ar y gweill yn y dyfodol agos? Mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi meddwl llawer y tu hwnt i ryddhau a hyrwyddo Pen Rhydd, ac mae llawer o gigs ganddyn nhw dros yr haf. Geth sy’n mentro edrych y tu hwnt i hynny, “sgwennu fel mae’r awen yn dod a gweld sut mae’n mynd. Y cynllun ydy recordio albwm yn y pendraw ond dydan ni ddim mewn unrhyw frys i wneud o chwaith.” ^ Ydy, mae’r agwedd cw l a laidback yn rhinwedd reit gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi treulio amser yn yr ardal hefyd. Mae llinach gerddorol Dyffryn Conwy yn ^ ymestyn yn ôl i grw p o’r enw Y Mellt yn y 1960au. Ers hynny mae’r ardal wedi esgor ar lu o fandiau ac artistiaid gwych. Wrth gael eu cyfweld, roedd Sen Segur yn sôn eu bod nhw wedi gweld copi o EP feinyl Y Mellt ar werth ar Ebay, ac yn bwriadu gwneud cais i’w brynu.
Y MELLT (1967 – 76)
ALUN TAN LAN METAMORFFIG (2003 – ?) (1997 – 2003) Y CYRFF YR ORSEDD SEREIN GABRIELLE 25 (1983 – 92) (1987 – 90) (1996 – 98) (1999 – 2004)
1967
1983
LLINELL AMSER BANDIAU AMLYCAF DYFFRYN CONWY
1987
1996
1997
MELYS (1996 – 2006)
1999
2003 DAN AMOR 2003 – ?)
JEN JENIRO (2005 – ?) 2005
2010 SEN SEGUR (2010 – ?)
7 templateyselar.indd 7
25/5/11 00:38:58
cyfweliad
netyh Gwynyarwain genod
MAE MERCHED CYMRU WEDI BOD YN BRYSUR YN CYFANSODDI AC ERS MIS EBRILL ELENI RYDYM WIR WEDI CAEL EIN DIFETHA GAN Y GENOD.
“Does yna ddim hanner digon o hwiangerddi Cymraeg ar gael i’w prynu ar hyn o bryd, mae ’na gap yn y farchnad...”
Wedi llwyddiant Penmon yn 2007 diflannodd Lleuwen Steffan i Lydaw am gyfnod i gyfansoddi gan amddifadu clustiau’r Cymry, ond wedi clywed ffrwyth ffraeth ei llafur ar Tân, ei halbwm ddiweddaraf a ryddhawyd ar label Gwymon yn gynharach eleni, ma’i wedi cael maddeuant. Dyma albwm sy’n plethu’r Gymraeg a Llydaweg, gwerin a jazz, y tyner a’r tanboeth. Gyda threfniadau tynn a swmp sain cyfoethog yr offerynnau gwerinol, ynghyd â llais pur Lleuwen, mae caneuon megis ‘Cawell fach y galon’ a ‘War Varc’h Da’r Mor’ yn hudolus, a dim ond i chi gau eich llygaid a gwrando cewch chithau ddiflannu am dipyn hefyd. Merch arall hynod gynhyrchiol ar y sin yw Lowri Evans. Yn dilyn dwy albwm ac un EP Saesneg, a dwy albwm ac un EP Gymraeg, ym mis Mehefin eleni bydd Lowri yn rhyddhau ei halbwm ddwyieithog gyntaf, Dydd a Nos, ar label Rasal. Wedi ei llwyddiant gan ddod yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd, a’i gigio cyson mae Lowri’n prysur ddod yn gyfarwydd ledled Cymru a Lloegr. Os ydych chi am glywed ei chaneuon newydd bydd cyfle ^ yng Ngw yl Bedroc ym Meddllwynog ar
17 Mehefin, ac mae adolygiad o’r albwm newydd tuag at gefn y rhifyn yma o’r Selar. Ond y ferch yr es i i ymweld â hi i holi am ei halbwm newydd y tro hwn oedd Gwyneth Glyn sydd newydd ryddhau ei halbwm ddiweddaraf, Cainc, ar label Recordiau Gwinllan. Mae Gwyneth yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru ers blynyddoedd bellach a’i chryno ddisgiau yn mynd fel slecs oddi ar y silffoedd siopau, felly pleser oedd cael sgwrs sydyn gyda hi yn y Fuwch Goch yng Nghaerdydd cyn i’w band gyrraedd am sound check. Casia: Helo! Diolch am ffeindio amser i siarad efo fi (mae’r band yn cyrraedd mewn hanner awr a’r gig yn cychwyn mewn dwy), sut aeth y gig lansio ym Metws y Coed? Gwyneth: Da iawn sdi diolch, roedd ‘na lot o ffrindia a theulu yno felly roedd o’n gig eitha cartrefol i mi. Ac ar ôl heno mi fydda i wedi cael un gig lansio yn y gogledd ac un yn y de. Roeddwn i isio rhoi cyfle i bawb glywed yr albwm newydd o leiaf unwaith … C: Cyn i chdi bopio? G: Ia! (Mae bol Gwyneth yn enfawr gan ei
GEIRIAU: cASIA WILIAM
8 templateyselar.indd 8
25/5/11 00:39:09
bod hi’n disgwyl babi o fewn mis. Dwi’n pendroni sut mae hi am chwarae’r gitâr. O flaen y bwmp? Ar ben y bwmp?) C: Dwi wedi gwrando ar yr albwm newydd a wir wedi mwynhau. Mae hi’n storïol iawn, dwi’n ysu am gael gofyn beth ydi’r hanes tu ôl i lawer o’r caneuon. Beth fasa ti’n ddweud sydd wedi dylanwadu ar yr albwm? G: Profiadau a straeon sy’n gyfrifol am y caneuon a dweud y gwir. Mae na lawer o amser ers yr albwm ddiwethaf felly cyfuniad o straeon a phrofiadau dwi wedi eu clywed neu eu profi. C: Ga’i holi os oes ‘na stori tu ôl i ‘Merch y Brwyn’? (Mae’r gân hon, sef yr ail ar yr albwm, yn Fendigedig - ia, fendigedig efo F fawr. Mae’n syml, yn gynnil, ond yn anhygoel o swynol ac yn swnio’n oesol, ^ dwi’n siw r y bydd hon dal i gael ei chwarae mewn degawdau). G:Oes mae ‘na dipyn o stori tu ôl i hon. Pan oeddwn i’n teithio ym Mheriw, mi ddois i ar draws y ddynes yma oedd yn byw mewn cymuned lle’r oedd pawb yn creu ynysoedd o frwyn ac yn byw arnyn nhw, ynysoedd Uros ydi ei henwau nhw, ar lyn Titicaca. Roedd y ddynes yn gwerthu basgedi ac ati wedi eu gwneud o frwyn ac ro’n i isio prynu rhywbeth, ond doedd fy Sbaeneg i ddim yn hot iawn! Felly mi afaelodd y ddynes mewn tamaid o frwyn a chrafu’r pris ar gefn ei llaw yn giaidd, a wedyn mi ysgrifennais i’r gân wrth drafeilio ymlaen i Batagonia. C: Wow! Dipyn o stori. Mae’r gân yn well byth ar ôl clywed y stori yna. Mae ‘Dancin Bêr’ hefyd yn amlwg yn stori go iawn a’r gân yn dilyn arddull ‘Cân y Siarc’ oddi ar Tonau (albwm ddiwethaf Gwyneth). Wyt
9 templateyselar.indd 9
24/5/11 22:29:22
ti’n gweld pwysigrwydd dal ati i ddefnyddio cân fel dull o adrodd a chofio straeon? G:Yndw, yn bendant. Stori am daid fy nhaid ydi hi, a adroddwyd i mi gan fy nhaid, ac roeddwn i wedi bod isio ‘sgwennu Dancin Bêr ers blynyddoedd. Mi nes i orfodi fy hun ^ i’w sgwennu hi a rydw i mor falch rw an am ei bod hi ar gof a chadw. C: Ac mae’n amlwg mai’r gân honno sydd wedi ysbrydoli clawr yr albwm hefyd. G: Ia, Huw Aaron sydd wedi llunio’r clawr. Mi wnaeth hwnna dros nos mwy neu lai! C: Mae’n glawr ofnadwy o neis, werth ei fframio. G: Yndi, dwi’n meddwl gan fod pobl yn gwrando fwyfwy ar gerddoriaeth ar eu cyfrifiaduron ac ar mp3 a ballu heddiw ei bod hi’n bwysig iawn, os wyt ti’n prynu CD, bod yr holl beth yn rhywbeth neis, gwerth ei gadw. Dyna pam dwi’n licio records gymaint! C: Yn Bendant. Sut brofiad oedd cyfansoddi alaw ar gyfer geiriau Twm Morys ta? (Twm sydd wedi ysgrifennu geiriau ‘Eifionydd’ – trac rhif 4) G: Wel, cael gwahoddiad wnes i i fod yn rhan o’r rhaglen ‘Yma wyf innau i fod’ ar Radio Cymru. Felly mi ‘sgwennodd Twm y geiriau ac yna eu hanfon ata fi. Ro’n i’n teimlo tipyn o bressure a dweud y gwir, roeddwn ni isio gwneud cyfiawnder â geiriau prifardd! C: Oedd y prifardd yn hapus efo’r canlyniad?! G: Oedd, diolch byth! Roeddem ni wedi trafod cerddoriaeth oedd wedi dylanwadu ar y ddau ohonom ni cynt, pobl fel Bob Dylan, felly mi oeddwn i’n gwybod sut fath o naws i fynd amdano. Oedd, mi oedd o’r un mor falch ohoni a fi dwi’n meddwl. C: Cân arall ar yr albwm sydd â hanes difyr iddi ydi ‘Nei di wely clyd i mi’. Cyfieithiad o gân werin draddodiadol Americanaidd ydi hon, ia?
G: Ia. Mi glywes i hi gyntaf gan arwres i mi, Gillian Welch. Mae hi’n ei chanu hi ar ei halbwm Soul Journey, ac mi oedd hi wedi ei chlywed hi gan Doc Watson. Mi es i ati i chwarae o gwmpas efo hi a dyma oedd y canlyniad! C: Mae’n un o fy ffefrynnau i ar yr albwm. Os gen ti ffefryn oddi ar yr albwm? G: Www, cwestiwn anodd! Maen nhw’i gyd mor wahanol, mae’n dibynnu ar fy hwyliau i a dweud y gwir. Yn ddiweddar yn y tywydd braf ‘ma, dwi’n licio ‘Wbanamadda’ – ychydig o bop hwyliog! Ond mae lot o nheulu a’m ffrindiau i’n licio ‘Fy lôn wen i.’ C: Ydi honno’n sôn am y lôn at dy gartref di? G: Nac ydi cofia. Cyn yr Eisteddfod llynedd mi ofynnwyd i lot o artistiaid a beirdd ac ati ysgrifennu rhywbeth gan ymateb i’r teitl ‘Fy lôn wen i’, sef teitl hunangofiant Kate Roberts, gan ei bod hi’n chwarter canrif ers iddi farw, a dyma’r gân yr ysgrifennais i. C: Rwyt ti wedi cydweithio gyda llawer o artistiaid, Cowbois Rhos Botwnnog, Genod Droog a Derwyddon Dr Gonzo - oes yna unrhyw brosiectau eraill ar y gweill? G: Www, dwn’im wir! Does na ddim byd wedi ei drefnu eto, ond rydw i wedi mwynhau gweithio efo Cass Meurig ar yr albwm felly mi faswn i’n mwynhau ^ gweithio efo hi eto. Mae sw n y ffidl yn gweddu i’r caneuon, mae’n od ‘mod i heb gael ffidl ar albwm o’r blaen a dweud y gwir. C: Mae bendant yn cyfoethogi’r sain ar yr albwm. Nes i feddwl (gan daro cip-olwg ar y bol) tybed a fydd yna albwm o hwiangerddi Cymraeg allan cyn bo hir?! G: Wel rhyfedd i ti ddweud hynna! Roeddwn i ac Alun (Tan Lan) yn trafod hyn a dweud y gwir. Does yna ddim hanner digon o hwiangerddi Cymraeg ar gael i’w prynu ar hyn o bryd, mae ‘na gap yn y farchnad, felly ella wir…”
A gyda hynny mae’r band yn cyrraedd felly rydw i’n hegli hi am dipyn iddyn nhw gael ymarfer cyn y gig… .. ac rydw i’n nôl erbyn naw i weld y Fuwch Coch yn llawn a Gwyneth wrth y meic. Mae’n canu’r caneuon newydd i gyd, gan adrodd yr hanesion sydd wedi eu hysbrydoli wrth y gynulleidfa astud. Y gamp mae Gwyneth yn ei chyflawni ydi cyfansoddi caneuon sy’n swnio’n gyfarwydd yn syth. Erbyn ei bod hi hanner ffordd trwy ‘Gafael’ mae pobl yn hymian ac yn canu ‘os ‘di’n bwrw…’ (cân rhif 7 ar yr albwm – un arall o’m ffefrynnau…faint dwi ‘di henwi erbyn hyn?) Ar un pwynt mae’r organ geg yn llithro nes bod Gwyneth yn chwythu mewn i’r meic, ond mor ffraeth a hwyliog ag arfer, mae Gwyneth yn herio’r gynulleidfa: ‘Triwch chi chwarae’r organ geg pan ‘da chi dair wythnos i ffwrdd o esgor babi!’ ac mae pawb yn chwerthin a’r gynulleidfa yn nôl yng nghledr llaw’r gantores unwaith eto. Fel Tonau a Wyneb Dros Dro, mae Cainc yn albwm agos atoch chi, yn llawn straeon a hanesion difyr, ac ar ôl gwrando arni ddwy waith deirgwaith, ma’i fel hen ffrind. Ewch yn ôl at eich gwreiddiau’r gwanwyn hwn gyda Cainc.
“Ro’n i’n teimlo tipyn o bressure ... roeddwn ni isio gwneud cyfiawnder ^a geiriau prifardd!”
GEIRIAU: OWAIN SCHIAVONE LLUNIAU: ELGAN GRIFFITHS lLUN: john [pountney
10 templateyselar.indd 10
24/5/11 22:29:26
Dodd com
Eich rhaglen chi yn fyw ar y we 7pm Llun – Gwener bbc.co.uk /c2
Dilynwch y sw ˆn ar Facebook a Twitter
ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL
• Prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2012 • Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Neuadd Gymraeg newydd wedi agor sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Uned Recriwtio a Marchnata: Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk
11 templateyselar.indd 11
24/5/11 22:29:33
cyfweliad
A’R
“neith o wella sgiliau cyfathrebu Ifs hefyd achos dydi o ddim yn dalld neb yn y De!” 12 templateyselar.indd 12
24/5/11 22:29:42
e y n a K , a G a G
D U H N O I S I R CRE GWILYM DWYFOR FU’N CWRDD Â’R CREISION HUD YN DDIWEDDAR I GLYWED AM EU HYMGYRCH GO ANARFEROL YN 2011. Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch wedi sylwi erbyn hyn bod rhywbeth anghyffredin a go arbennig ar droed gan y Creision Hud eleni. Mae’r band o Gaernarfon yn bwriadu rhyddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Felly, gyda bron i hanner y flwyddyn wedi pasio roedd hi’n hen bryd i’r Selar fynd am sgwrs efo’r hogia yn nhafarn Yr Anglesey, Caernarfon gan ofyn i ddechrau syniad pwy oedd o? Rhydian: Syniad Mathew Sayer, Masters in France. Nath o gynnig edrach ar ôl ni! Ifan: Roeddan ni gyd ’di bod isho gwneud ‘wbath newydd ers dipyn. Naethon ni sylwi bod pawb am fod yn yr un lle am dipyn ac oeddan ni’n teimlo y dyla ni gymryd mantais o’r sefyllfa. Roeddan ni’n meddwl gwneud albwm, a gynigodd o inni neud hynny ar ei label o, Bone Dry Records. Wedyn ddudodd o, ‘pam na wnewch chi’m trio rwbath ’chydig yn wahanol a gwneud sengl newydd bob mis yn dechra’ o Ionawr.’ Cai: Oeddan ni’n meddwl haf dwytha bod hyn ^ yn edrych ages i ffwrdd ond erbyn rw an ’da ni’n stryglo i feddwl am senglau. Ifan: Mathew essentially sydd in charge o
gael y caneuon ar y radio ac ar iTunes. Mae o hefyd wedi rhoi tips i ni ar sut y gallwn ni adael i bobol w’bod am y stwff. Ers i ni weithio efo fo ’da ni wedi joinio twitter, facebook, soundcloud... Mae o fel rhyw reolwr i chi felly? Ifan: Ydi, ac ma’n gweithio’n eidîal. Dwi’n siarad efo fo’n amal, dio’m y math o foi sy’n ffonio unwaith y flwyddyn, mae o’n cadw mewn cysylltiad, yn ffonio neu yn e-bostio bob wsos, a dwi’n ffrindia da efo fo so mae hynny’n help. Ydi hi wedi bod yn anodd cyfansoddi stwff mor gyson felly? Cai: Ddim ar y dechra’, achos oedd gynno ni’r dair, bedair sengl gyntaf. Oeddan ni wedi sgwennu’r caneuon a dim ond matar o’u recordio nhw a’u rhyddhau nhw oedd o. Ond erbyn mis Mai oeddan ni’n trefnu i fynd adra i recordio heb ddim byd i’w recordio! So dwy noson cyn hynny roeddan ni’n Music Box yng Nghaerdydd yn sgwennu. Ifan: Ia, y jôc ydi – honna dwi’n meddwl di’r ora’ so far!
TAITH SELAR Bydd Creision Hud yn ran o daith gyntaf Y Selar yr haf hwn, felly rhaid oedd holi’r hogia am hynny ac am eu trefniadau eraill am weddill yr haf. Edrych ymlaen at y daith felly? Rhydian: Yndan, dyna’r peth cynta fel’na ’da ni di’i wneud. Cai: ’Da ni’n lyfio gigs mewn llefydd random, so fydd taith yn dda. Sion: A reith o jans i Ifs gael Keebab ym mhob man. Ma’ gan Ifs y thing ’ma lle mae o’n gorfod trio Keebab yn bob un lle ’da ni’n mynd yng Nghymru! Rhydian: A neith o wella sgiliau cyfathrebu Ifs hefyd achos dydi o ddim yn dalld neb yn y De! Ifan: Dwi’n iawn yng Nghaerdydd, ond unwaith dwi’n mynd fwy i’r gorllewin ma’ ’na rai llefydd lle dwi ddim yn dalld dim byd ia! Os dwi’n clywad positive sounds fyddai jyst yn nodio neu deud “Ok grêt!” Rhydian: Dwi’n fwy excited i weld hynna na gwneud unrhyw gigs! Ifan: Ond dwi rili isho dysgu, dyna di’r peth! Dwi rili isho trio, a gweld mwy o Gymru hefyd, a ma’ bod mewn band yn awesome ar gyfar hynna.
13 templateyselar.indd 13
24/5/11 22:29:55
“... nesh i neidio ar ben ryw hogan a ddisgynnodd hi lawr a dechra’ crio.” Y broblem i lawer o fandiau Cymraeg wrth gwrs ydi nad ydyn nhw’n cael yr amser yna efo’i gilydd, ond os oes gennych chi rhywbeth pendant sydd yn eich gorfodi chi i ddod ynghy^ d yn gyson mae o yn mynd i wneud gwahaniaeth yn dydi. Cai: Ydi, o’n i’n teimlo ein bod ni’n sefyll yn stond fel band pan oeddan ni ddim yn gwneud hyn. Oedd gynno ni chwe mis yn pasio lle roeddan ni’n gwneud dim byd newydd. Ydi’r senglau wedi cael ymateb go lew felly? Cai: Do, mae nhw ’di gwerthu reit dda ar iTunes. Oeddan ni ar yr homepage! Oedd ’na senglau gan Lady GaGa a Kanye West ac wedyn Creision Hud wrth eu hyml nhw! Rhydian: Mae’n neis bod pobol yn siarad amdana ni fwy rwan, mae pobol yn ein ffonio ni dipyn amlach nag o’r blaen. O’r blaen rhyw unwaith bob chwe mis oeddan ni’n cael cynnig gig! Ifan: Ond mae’r sîn Gymraeg fel’na dydi, os wyt ti’n brysur ac yn trio mae pobol yn mynd i roi cyfleoedd i chdi, felly mae o’n adlewyrchu be’ ’da ni ’di bod yn ei neud. Da chi wedi rhyddhau ‘Cyllell’, ‘She Said’, ‘Bedd’ a ‘Colli Cwch’, ac mae Mai a Mehefin yn sicr o ddigwydd hefyd. Ydych chi’n meddwl y gallwch chi bara blwyddyn gyfan?
14
^ Rhydian: Os allwn ni gario ’mlaen rw an tan yr haf, fydd ’na amser yn yr haf wedyn. Ma’n haws i ni ei wneud o mewn bylcs, yn lle dod yn ôl o Gaerdydd drwy’r adag achos ’da ni’n recordio efo Rich [Roberts] ym Mhenrhyndeudraeth. Felly yn yr haf sa’n dda recordio digon i bara tan Dolig
Ifan: Fel pawb arall ma’ gynno ni hurdles bach i fynd drostyn nhw, un ohonyn nhw ar hyn o bryd ydi trio mynd drwy’n arholiadau a sgwennu caneuon am y mis yma a mis nesa’. Unwaith ’da ni ’di cal dros hynna a chyrraedd yr haf, bysa, mi fysa bylc yn syniad da. Dim ond ar iTunes y mae’r senglau ar gael ar hyn o bryd, ond tybed a oes yna gynllun yn y tymor hir i’w rhyddhau nhw mewn copi caled ar ffurf EP neu albwm? Rhydian: Fysa’n neis symud ymlaen i rwbath hollol newydd, achos ’da ni ’di gneud rhein ^ i gyd rw an, a mi fysa’i rhyddhau nhw eto yn chydig bach o con. Ifan: Tydi CDs ddim yn gwerthu – tydi o ddim yn arwydd o ba mor boblogaidd ydi band. ’Da ni ddim isho gwneud llwyth o albyms efo neb yn eu prynu nhw, a cholli pres arnyn nhw, felly be’ fysa ni’n ei neud mashwr fysa rhyw limited edition. Mae o’n rhatach i chi wrth gwrs i wneud y cyfan yn ddigidol. Cai: Ydi, dio’m yn risg fatha ydi cael rwbath ar CD. Rhydian: Ia, ti’m isho endio fyny efo llwyth yn ty^ na! Ifan: Dwi’n nabod pobol sydd ’di gneud hynna. A’r mwya’ o CDs ti’n ei neud y rhata
MWY O LUNIAU A CHWESTIYNAU AR WWW.Y-SELAR.COM
templateyselar.indd 14
24/5/11 22:30:05
ydy nhw ac wedyn ma’ nhw’n llythrennol yn gorwadd o gwmpas ty^ ganddyn nhw. Fel Flight of the Conchords druan! Oedd rhaid iddyn nhw werthu eu CDs nhw i pawn shop fel CD’s gwag! Pam da chi’n meddwl bod yna ddim gymaint o senglau yn cael eu rhyddhau yn y Gymraeg? Ac oes angen mwy? Rhydian: Mae o wedi gweithio i ni do? Oeddan ni isho gneud albwm neu EP i ddechra’, ond y peth efo albwm neu EP, ydi ei fod o’n brilliant am ’chydig ac wedyn yn mynd ar ôl ryw fis neu ddau – ma’ pawb yn anghofio amdano fo. Fysa ni’n gallu rhoi rhein i gyd efo’i gilydd ar albwm yn hawdd ond mae o’n well i ni fel hyn dwi’n meddwl gan ei fod o’n cadw ni yn y public eye. Sion: Am ryw reswm mae o fatha bod chdi’n neb yn y Sîn Roc Gymraeg tan ti ’di rhyddhau albwm. Mae o fatha bod y sîn yn Lloegr neu lle bynnag wedi cymryd at y thing digidol ’ma lot mwy na ni yng Nghymru a ’da ni ar ei hôl hi braidd. Mae un o’r senglau, ‘She Said’ yn ddwyieithog, ydi hi’n fwriad gennych chi fel band ehangu eich gorwelion? Sion: ’Da ni’n split ar hyn! Rhydian: Nath ‘She Said’ ddod yn eitha’ naturiol. ^ Ifan: Cymraeg ’da ni’n neud o rw an, ond os yda ni’n teimlo ein bod ni’n gneud yn dda yn y dyfodol, a’i fod o’n digwydd yn naturiol, ella ... Os fysa Rhydian yn sgwennu geiria’ da Saesneg, fysa neb yn deud “newid nhw, ’di hynna ddim yn iawn”. Os mai dyna ’di’r gân, dyna ’di’r gân. Rhydain: Dyna ddigwyddodd efo ‘She Said’. Nath hi jyst dod allan o jamio, ac ma’r un peth yn wir am sengl mis Mai, dyna ddoth allan wrth inni chwara’ ac oedd o’n swnio’n iawn. Sion: Dydan ni ddim yn feirdd sy’n sgwennu ^ toman o lyrics p’ryn bynnag, sw n ’da ni’n mynd amdano fo yn fwy na geiria’. Yda chi’n meddwl bod yna ddigon o gyfleoedd i fandiau ifanc wneud pethau fel taith Y Selar yng Nghymru? Ifan: Ma’ ‘na gyfleoedd yna, ond weithia ti’n gorfod byw yn y lle iawn. Ma’ ’na dipyn o gigs rownd ffor’ma ac yn Nghaerdydd, ond ma’na lefydd sydd efo fawr ddim. Cai: Doeddan ni erioed wedi cael gig Cymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerfyrddin tan y gig Bandit wnaethon ni yno. Ifan: Allith pawb sbio lawr a deud “da ni’m yn cael digon o gigs”, y peth i wneud ydi trio gneud dy ran di. Cai: Fel yna oeddan ni, doeddan ni ddim yn cael llawer o gyfleoedd ond doeddan ni ddim yn gweithio’n galad iawn i gael cyfleoedd ’chwaith. Ifan: Ia, oedd y peth yn hollol justified, doeddan ni ddim yn trio digon, oeddan ni’n ddiog ac felly doeddan ni ddim yn cael gigs. Cai: A roeddan ni’n surprised rywsut bo’ ni ddim yn ca’l hefyd!
Ifan: Be’ sydd yn dda am Gymru ydi bod ’na lot o gefnogaeth i fandiau newydd, gen ti Ciwdod a brwydyr y bandiau Maes B ac ati. Ond y broblam ydi bo’ chdi ar ôl hynna yn disgwyl iddo fo bara, ond dim dyna ydi’i ^ bwynt o. ’Da ni’n ffendio rw an mai y mwya ti’n gweithio, y mwya o ymateb ti’n ei gael. Digon gwir. Unrhyw beth arall ar y gweill dros yr haf? ^ Ifan: Gw yl Gardd Goll, ’da ni’n gneud hwnna leni a ’da ni’n rili excited am hwnna, ’da ni erioed ’di’i neud o o’r blaen. Rhydian: A Dolgellau hefyd, gig hel pres ar gyfar Sesiwn Fawr... ond dim Maes B... Dim Maes B? Pam felly? Ifan: Slo yn atab braidd oeddan ni dwi’n meddwl! Cai: Gatho ni gynnig headleinio nos Fawrth! Ond doeddan ni’m yn gallu bod yno bryd hynny eniwe, dwi a Sion ar wylia. Ifan: Y peth ydi, fysa hynna fel arfar yn rili cael ni i lawr, achos ma’ hwnna’n rwbath ’da ni wedi bod yn chwara’ bob blwyddyn ac oedd o’n wbath i edrach ymlaen ato fo bob haf. ^ Ond rw an, achos bo’ ni ’di bod yn gweithio’n galad i gael gigs eraill dydi o ddim yn poeni ni gymaint. Rhydian: Ia, achos fyddwn ni ddigon prysur efo petha’ fel y daith Selar p’ryn bynnag. Ydi hi’n rhwystredig bod y sin fel pe bai’n cysgu dros y gaeaf cyn deffro wedyn at yr haf? Neu ydi o’n beth da i gael amser i wneud pethau eraill? Rhydian: ’Da ni wedi cael amball gig Gaeaf dwytha yma. Ma’ Caerdydd reit dda felly efo gigs mewn llefydd fel Clwb Ifor a’r Fuwch Goch. Sion: Ti bron iawn yn gallu gneud timetable bach am y flwyddyn, a ’da ni ’di iwsho’r amsar reit dda ’leni dwi’n meddwl. ^ Ifan: ’Da ni byth rw an mewn sefyllfa pan da ni ddim yn brysur. Ma’na wastad wbath yn digwydd a ’da ni wastad yn trio meddwl am wbath gwahanol i’w neud, naethon ni photoshoot yn ddiweddar ar enghraifft. Petha’ bach ydyn nhw ond ti angan trio gneud gymaint â ti’n gallu. Rhydian: Gweithio dros y gaeaf ac awê wedyn dros yr haf. Hel ein cnau cerddorol!
“Oedd ’na senglau gan Lady GaGa a Kanye West ac wedyn Creision Hud wrth eu hyml nhw!”
CWESTIYNAU
CYFLYM
Gan ein bod ni yn nhref Frenhinol Caernarfon o gwmpas adeg rhyw briodas yn ôl pob sôn, rhaid oedd imi ofyn os fyddai’r band yn chware mewn priodas Frenhiniol pe baent yn cael y cynnig? Rhydian: Wrth gwrs! Cai: Bysan, ond dim ond achos bod ni ddim yn Maes B ’leni! Sion: Fysa mam ddim yn gadal i mi, ’sa hi’n rhoi chwip dîn i mi! Pwy yw’r lleiaf dibynadwy, a’r gwaethaf am gyrraedd ymarferion yn hwyr? Rhydian: ’Da ni gyd yn hwyr... Ifan: Ond ’da ni’n hwyr efo’n gilydd dydan! Cai: Does gan Sion a fi ddim esgus i fod yn hwyr i ymarferion achos ’da ni’n byw yn y ty^ lle ’da ni’n ymarfer! Ifan: Acshyli, Cai ydi’r gwaetha’ er ’i fod o’n byw yna! Pwy sydd wedi gwneud y peth mwyaf roc-a-rôl a beth oedd hynny? Rhydian / Ifan / Cai: Sion! Rhydian: Pan oedd Radio Lux yn chwara’ yn Maes B Sdeddfod Caerdydd nath Siôn redag ar y llwyfan a chwara’ keyboard efo boi keyboard Radio Lux. Doedd gan y boi ddim syniad be’ oedd yn digwydd a nath Sion jyst crowd surfio o’na! Sion: Trio crowd surfio ia! Oedd gen i’r freuddwyd ’ma o gael fy nghario gan bawb ond nesh i neidio ar ben ryw hogan a ddisgynodd hi lawr a dechra’ crio. Sôn am genod, pwy sydd yn cael y ^ mwyaf o lwc efo’r grw pis? Rhydian: Charlie Sheen yn fa’ma! [cyfeirio at Ifan] Ifan: Ia, rhaid i mi fod yn onast. Dwi wedi defnyddio’r ‘band thing’ ar ddwy hogan! Heb fanylu gormod ar faint y band ia? Ifan: Ia! Jyst deud bod crowd o ryw ddwy fil yn standard ia! ^ yr, os all y Creision Ond pwy a w Hud barhau i weithio mor galed ag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd efallai bydd y band yn chwarae i dorfeydd enfawr mewn dim o dro. Yn sicr, mae’r dyfodol agos yn edrych yn llewyrchus iawn i’r band ac maen nhw’n ymddangos yn ddigon penderfynol i gymryd y cam nesaf hwnnw a dod yn un o fandiau amlycaf y sin dros y blynyddoedd i ddod.
15 templateyselar.indd 15
24/5/11 22:30:28
Geid i’r gwyliau Gw^ yl No^ l a Mla’n
Gw^ yl Bedroc Pryd: 17, 18, 19 Mehefin Lle: Beddllwynog – lleoliadau ar draws y pentref gan gynnwys y clwb rygbi a neuadd Y Workies. Pwy: Sibrydion, Dewi Pws, Yr Hwntws, Bob Delyn ^ a’r Ebillion, Gai Toms, Clustiau Cw n, Lowri Evans, Mr Huw, Twmffat, Breichiau Hir, Crash.Disco!, Yr Angen, Sen Segur, Nos Sadwrn Bach, Alien Square, Bevan a Battrick, JJ Sneed Pris: £7 y noson neu £10 am docyn penwythnos Rhagolygon: Does yna ddim llawer yn wahanol eleni yn ôl y trefnwyr gan eu bod nhw wedi ffeindio fformiwla sydd i’w weld yn gweithio, sef cynnig tri diwrnod o gerddoriaeth gwbl Gymraeg mewn ardal sy’n brin o gyfleoedd tebyg, a chyflwyno’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes i’r ardal. Un o uchafbwyntiau eleni heb os fydd ^ perfformiad arbennig gan Clustiau Cw n - band cyntaf Gareth Potter – sy’n perfformio am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd. www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk
Pryd: 17, 18 Mehefin Lle: Llangrannog Pwy: Huw Chiswell, Colorama, Mr Phormula, DJ Hyp, Einir Dafydd a’r Band, Gildas, Bois y Fro, Sgidie Glas a mwy. Pris: Am ddim! Ond mae’n werth rhoi cyfraniad bach heb os ^ Rhagolygon: Gw yl fach hyfryd yn un o bentrefi glan môr mwyaf ^ hyfryd y gorllewin. Mae Gw yl Nôl a Mlân yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol ac yn dal i dyfu a datblygu. ^ Mae’n w yl deuluol braf gyda gweithgareddau amrywiol yn ystod y dydd, a rhai o artistiaid gorau Cymru’n perfformio i gefndir bendigedig Bae Ceredigion. Mae’r amrywiaeth eang a ^ cwyrci o artistiaid yn ychwanegu cymeriad i’r w yl.
Gw^ yl Gwydir Pryd: 9, 10, 11 Medi Lle: Llanrwst – lleoliadau yn y dref ei hun a thu hwnt Pwy: The Keys, Colorama, Jen Jeniro, Sen Segur, Yucatan, Cowbois Rhos Botwnnog, Land Of Bingo a llawer mwy i’w cadarnhau. Pris: I’w gadarnhau
^ Rhagolygon: Gw yl sy’n cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae hon yn un i’r mîwsos go iawn gyda chymysgedd o artistiaid eclectig yn ymddangos dros y ^ penwythnos yn Llanrwst. Mae’r w yl fach hon yn tyfu ac yn symud ei phrif leoliad eleni. Ar y dydd Sadwrn bydd dau lwyfan
gydag un awyr agored. Bydd cerddoriaeth trwy’r dydd a’r nos ar y ddau lwyfan, ynghyd â gwersylla ar y safle. Mae hyn yn golygu mwy o artistiaid yn perfformio ac mae’r trefnwyr yn gofyn i unrhyw un sy’n awyddus i berfformio i gysylltu â nhw gwylgwydir@live.co.uk
Gw^ yl y Dyn Gwyrdd Pryd: 19, 20, 21 Awst Lle: Parc Glanusk, ger Crughywel, Bannau Brycheiniog Pwy: Cowbois Rhos Botwnnog, Fleet Foxes, Iron and Wine, Explosions in the Sky, Noah and the Whale, James Blake, The Burns Unit, Laura Marling, The Avett Brothers, The Burns Unit, The Gentle Good, Gruff Rhys a llawer iawn mwy Pris: £135 (oedolion), £115 (myfyrwyr) Rhagolygon: Beth allwch ^ chi ddweud am Wyl y Dyn
Gwyrdd? Fe’i sefydlwyd yn ^ 2003 yn w yl un diwrnod gyda chynulleidfa o ddim ond 300 o bobl. Ers hynny mae wedi tyfu ar raddfa eithriadol o gyflym a ^ bellach mae’n w yl tridiau gyda 5 o lwyfannau cerddoriaeth. Mae’n drueni nad oes rhagor o fandiau Cymraeg yn perfformio, a gobeithio bydd hynny’n newid yn y dyfodol. Bydd rhaid i chi frysio i brynu tocyn gan iddyn nhw werthu allan 10 wythnos ymlaen llaw llynedd. www.greenman.net
16 templateyselar.indd 16
24/5/11 22:30:32
Gw^ yl Bro Dinefwr
Y Steddfod
30 Gorffennaf – 6 Awst Gigs Cymdeithas yr Iaith
Pryd: 1, 2 Gorffennaf Lle: Fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm, ger Llanymddyfri Pwy: Elin Fflur, Bryn Fôn, Meic Stevens, Jac y Do, Fushanti, Gwibdaith Hen Frân, Hufen Ia Poeth, Bare Left, Yr Angen, Downhill Pris: Penwythnos - £25, Gwener - £12, Sadwrn - £14 ^ Rhagolygon: Gw yl gwbl Gymraeg fwyaf Sir Gâr sydd bellach yn cael ei chynnal am y nawfed flwyddyn yn olynol. Menter Bro Dinefwr ydy’r trefnwyr, ac maen nhw’n gwneud joban dda iawn o wneud hynny hefyd. www.menterbrodinefwr.org
Gw^ yl Gardd Goll Pryd: 22, 23, 24 Gorffennaf Lle: Ystâd y Faenol, Y Felinheli Pwy: Echo & The Bunnymen, Gruff Rhys, Badly Drawn Boy, Jonny, Islet, Y Niwl, Yr Ods, Race Horses, Cate le Bon, Richards James, Jen Jeniro, Yucatan, The Keys, The Loud, 9Bach, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Sen Segur, Vvolves, Gallops, Ryan Kift, Land of Bingo, Mechanical Owl, Gareth Bonello, Sweet Baboo, H Hawkline, Dau Cefn Pris: £55 am docyn penwythnos i oedolyn Rhagolygon: Mae Dilwyn Llwyd wedi mynd amdani eleni efo rhai enwau gwirioneddol fawr y tu hwnt i Gymru fach yn perfformio ar yr un llwyfan a rhai o fandiau mwyaf cyffrous Cymru. Y ^ prif ddatblygiad ydy bod yr w yl yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yn hytrach nac un, sydd yn ôl Dilwyn yn beth da
Wa Bala! Pryd: 19, 20 Awst Lle: Maes Parcio Cywain, Bala Pwy: Artistiaid heb eu cadarnhau eto, ond rhai DJs yn cynnwys Pavilion a Krafty Kuts i berfformio Pris: £13 y noson neu £20 am y penwythnos
gan ei fod yn “gallu rhoi llwyfan i fwy o gerddoriaeth, odd hi’n anodd rhoi cyfle i bawb mewn 1 diwrnod.” Bydd yna hefyd faes gwersylla eleni sy’n golygu bod cyfle i bobl ymlacio yn y Faenol am y penwythnos cyfan. www.gwylgarddgoll.com
Lle: Clwb Gorsaf Ganolog, Wrecsam Yr Uchafbwyntiau: Dangosiad ffilm Seperado, René Griffiths, Noson Gomedi, Bryn Fôn a’r Band, Maffia Mr Huws, Mr Huw, Meic Stevens a’r Band, Bob Delyn, Geraint Løvgreen Pris: Rhwng £6 a £9 Rhagolygon: Mae’n wythnos fach wahanol iawn o adloniant gan y Gymdeithas eleni gyda nosweithiau yn dilyn cyfres o themâu gwleidyddol. Maen nhw wedi llwyddo i sicrhau defnydd o un o leoliadau cerddoriaeth gorau Gogledd Cymru, reit yng nghanol trefn Wrecsam – ‘tref parti’ go iawn. Mae’r Clwb yn cynnwys dau lawr, yn dal cannoedd ac ar agor tan yr oriau mân gan gynnig opsiwn gwahanol iawn i Maes-B eleni. www.cymdeithas.org/steddfod
Maes B
Rhagolygon: Anodd credu bod y Wa Bala! cyntaf wedi’i gynnal nôl yn 2004, ^ ond mae’r w yl bellach wedi’i sefydlu fel un o uchafbwyntiau gwyliau Cymraeg yr haf. Mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn awyddus i amrywio’r arlwy unwaith eto eleni gan obeithio apelio at gynulleidfa ehangach, felly bydd hi’n ddifyr gweld beth fydd ar gynnig. www.wabala.co.uk
^ Lle: Campws Prifysgol Glyndw r, Wrecsam Yr Uchafbwyntiau: Y Niwl, Elin Fflur, Yr Ods, Cowbois Rhos Botwnnog, Sibrydion, Master sin France, Land of Bingo, Breichiau Hir, Plant Duw, Y Cyfoes Pris: Rhwng £8 a £15 Rhagolygon: Nid pabell fawr ger maes yr Eisteddfod fydd cartref Maes B eleni – mae’r gigs yn cael eu cynnal ar gampws y Brifysgol ar gyrion tref Wrecsam. Yn ôl y drefn ddiweddar, ar ôl gig agoriadol gref ar y Sadwrn cyntaf, mae’r wythnos yn dechrau’n weddol gymedrol gyda chystadleuaeth Brwydr y Bandiau cyn i bethau boethi o’r nos Fercher ymlaen. Heblaw am Meic Stevens (sydd dal heb fynd i Ganada mae’n ymddangos!) mae pwyslais Maes B i’w weld ar fandiau ifanc eleni a gyda dau lwyfan mae digonedd o amrywiaeth yn yr arlwy. www.maesb.com
Gw^ yl Y Cenhedloeth Bychain Wakestock Pryd: 8, 9, 10 Gorffennaf Lle: Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm, ger Llanymddyfri Pwy: DJ Kormac, Lizzy Parks, Panda Su, Mose Fanfan, Trwbador, Rainy and the Dust, Galanastra, Super Cute Voices, MC Xander, Kerekes, Mordekkers, Mabon, Sild, Mr Huw, 9Bach Pris: Tocynnau Penwythnos yn cynnwys gwersylla - £50 (tocynnau ‘Cyntaf i’r Felin’), £65 (oedolion), £40 (Pobl ifanc 13 – 18). Tocynnau
dydd – Gwener: £18, Sadwrn: £32, Sul: £18 ^ Rhagolygon: Mae’r w yl amgen yma yn Sir Gaerfyrddin yn dathlu ei deng mlwyddiant eleni ac yn mynd o nerth ^ i nerth. Mae’r w yl yn rhoi llwyfan i artistiaid amrywiol o bob math o genhedloedd bychain ledled y byd. Mae ^ hon yn w yl wirioneddol eclectig sy’n mynd allan o’i ffordd i osgoi cerddoriaeth briff ffrwd eingl-americanaidd. www.smallnations.co.uk
Pryd: 8, 9, 10 Gorffennaf Lle: Abersoch Pwy: Huw Stephens, Masters in France, Sibrydion, Mr Huw, Colorama, Mr Phormula, Bare Left, Biffy Clyro, The Wambats, The Cribs, Ellie Goulding, Zane Lowe, Kelis, The Joy Formidable, The Noisettes, Kids in Glass Houses a llawer mwy Pris: Pecynnau amrywiol rhwng £45 a £130 ^ Rhagolygon: Mae gw yl ‘wakeboardio’ fwyaf Ewrop yn stori lwyddiant go iawn. Dechreuodd
^ yr w yl nôl yn 2000 gyda dim ond 800 o bobl yn y dorf, ond mae bellach yn denu miloedd i arfordir ^ gogleddol Penllyn. Mae’r w yl yn llwyddo i gyfuno chwaraeon eithafol gyda cherddoriaeth o’r safon uchaf ac eleni mae llu o artistiaid gwych ar y lineup yn cynnwys rhai o’n hoff artistiaid Cymraeg. www.wakestock.co.uk
17 templateyselar.indd 17
24/5/11 22:34:58
n y l i d w ’ i u a d YN CREU ARGRAFF DYMA CHI EICH FFICS ARFEROL O ARTISTIAID NEWYDD Y MAE’R SELAR YN CREDU FYDD - UN O’R DE-DDWYRAIN AR Y SIN. OWAIN GRUFFUDD SYDD WEDI BOD YN SIARAD EFO BANDIAU DAU I’W DILYN A’R LLALL O’R GOGLEDD-ORLLEWIN.
Y Trydan Pwy?: Cymysgedd o fyfyrwyr o Brifysgolion Abertawe a Morgannwg yw ‘Y Trydan’, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘The Electric Company’. Ar wahân i James, drymiwr y band sydd yn dod o Firmingham, bechgyn o Gaerffili yw ‘Y Trydan’, sef stad tai cyngor gorau de Cymru yn ôl y band. Ben yw’r canwr, tra mae Nathan, Chris a Dan yn ei gefnogi ar y gitâr fas, gitâr flaen a’r synth. Daeth y band at ei gilydd wedi iddynt fynd i’r Brifysgol, lle y gwnaethon nhw gyfarfod â James. Roedd y gweddill yn ‘nabod ei gilydd yn barod. ^ Sw n: Mae’n anodd rhoi genre penodol i gerddoriaeth Y Trydan. Mae’r band yn ceisio ^ creu sw n sydd rhywle yn y canol rhwng cerddoriaeth electroneg, dawns, indie a roc. Ond mae hyn oll yn adeiladu a chreu ^ mynydd o sw n - nid fod hynny yn beth drwg o gwbl. Mae’r band yn mwynhau gwrando ar nifer o fandiau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys Crash.Disco!, Breichiau Hir, Future of the Left, Boy 8-bit a “lots mwy”.
Hyd yn hyn: Efallai fod Derwyddon Dr Gonzo wedi hen adael y Sin Roc Gymraeg, gyda’u sioe byw unigryw, ond mae’n edrych yn debyg fod ‘Y Trydan’ am ddilyn ôl eu traed. Mae gigs Y Trydan yn brofiad hollol wahanol, gyda megaphones, siwtiau teigrod ac allweddellau sy’n hy^ n na
chyfanswm oedran yr holl fand! Mae’r band wedi mynd ati i recordio nifer o ganeuon, sydd ar gael i’w clywed ar www. myspace.com/theeleccompany. Maent wedi rhyddhau EP o’r enw ‘The Electric Company / Y Trydan’, sydd wedi ei ryddhau o dan label recordio Noodlebox Record, fydd yn
Y Saethau Pwy?: Mae’r Saethau yn fand o bedwar o hogia o ardal Caernarfon gafodd eu ffurfio bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae’r pedwar yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, ac wedi bod yn ffrindiau drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Lloyd Steele, gyda’i affro unigryw, sydd yn canu a chwarae gitâr, tra bod Shaun Oliver yn chwarae’r gitâr arall a Sion Alun ar y drymiau. Sam Jones, sydd hefyd yn aelod o ‘Tom ap Dan a’r Band’, sy’n chwarae’r gitâr fâs. Ffurfiwyd y band yn wreiddiol er mwyn cael ychydig o hwyl, ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe wnaethon nhw benderfynu ysgrifennu caneuon o ddifri er mwyn cystadlu ym Mrwydr y
Bandiau ‘Sbarc’, a gynhelir yn Galeri, Caernarfon. ^ Sw n: Mae’r aelodau i gyd wedi cael eu dylanwadu gan rai o fandiau mwyaf y byd roc, gan gynnwys y Red Hot Chilli Peppers, y Foo Fighters a Biffy Clyro - ond mae Lloyd Steele yn cyfaddef fod rhai o’u caneuon wedi cael eu dylanwadu gan fandiau o’r SRG: “Rydan ni i gyd yn ffans mawr o’r sin roc Gymraeg. Dani’n hoffi mynd i weld gigs lleol, ac mae yna gymariaethau amlwg i’w weld rhwng rhai o’n caneuon ni a bandiau fel Yr Ods, Sibrydion a’r Bandana.” Yn sicr, wrth wrando ar gerddoriaeth y pedwarawd ifanc yma, maen nhw’n fand sydd yn hoffi arbrofi mewn nifer o
genres gwahanol, o roc i funk, ac mae’n gwneud y profiad o wrando arnyn nhw yn fyw yn un diddorol iawn. Teimla Lloyd hefyd fod y band wedi aeddfedu mewn mwy nag un ffordd, a hynny o ganlyniad i gael profiad gwerthfawr mewn gigs hollol wahanol.
cystadlaethau Brwydr y Bandiau wedi bod yn help mawr iddynt wneud eu marc ar y sin, gan gael eu hystyried yn un o fandiau gorau Brwydr y Bandiau Maes B yng Nglyn Ebwy a chyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith / C2, eleni.
Hyd yn hyn: Wrth ystyried fod y band yn wynebau newydd i gefnogwyr y SRG, maent wedi llwyddo i ddal llygaid nifer o hyrwyddwyr ledled Cymru. Nid yn unig gawson nhw’r cyfle i fod yn fand agoriadol llwyfan Wa-Bala haf diwethaf, ond fe gawson nhw’r fraint o gefnogi un o’u harwyr, Meic Stevens, yn “un o’i gigs olaf” cyn mudo i Ganada. Ar y llaw arall, mae
Cynlluniau: Mae’r band yn gobeithio trefnu sesiwn C2 yn fuan, gan ddal ati i gigio yr un pryd, gyda gig Cymdeithas yr Iaith, yn Eisteddfod Wrecsam ar y gweill. Maent wedi cael profiad o fod yn y stiwdio recordio gyda Rich Roberts, a gynhyrchodd albwm Y Bandana, yn barod, ac maen nhw’n gobeithio rhyddhau EP mor fuan â phosib.
18 templateyselar.indd 18
24/5/11 22:35:15
Y BADELL
FFRIO
gyda Barry Chips
RHOI’R SURNI O’R NEILLTU
Gwrandewch os ydych yn hoffi: Pendulum, Prodigy, Masters In France cael ei ryddhau ar iTunes yn y dyfodol agos. Yn ogystal â hyn, mae’r band wedi llwyddo i ennyn cefnogaeth gan rai o DJs gorau Cymru, gan gynnwys Huw Stephens a Lisa Gwilym. Cynlluniau: Bydd y Trydan yn brysur iawn dros yr Haf yma. Mae rhai o’u
gigs yn cynnwys gig yng Nghlwb Ifor Bach gyda Sen Segur a’r Ods, ac yn un o’r wynebau newydd ar lwyfan Maes B yn Eisteddfod Wrecsam. Yn ogystal â hynny, cadwch olwg am sesiwn C2 gyda Huw Stephens fydd yn cael ei ryddhau yn fuan iawn.
Gwrandewch os ydych yn hoffi: Y Bandana, Candelas, Crwydro
Oes yna rai gwell na’r Cymry am ddarogan ‘Och a Gwae’? ‘Poni welwch chi dranc yr SRG’ ydy’r record sy’ wedi sticio ar ddecs y sin ers yn rhy hir. Twll tin y sin blin medda fi. Os ti’n siarad rhywbeth i lawr ddigon, wrth gwrs ei fod o’n mynd i swnio’n crap... felly dim mwy o rwdlan am PRS, dim mwy o gwyno am Radio Cymru ac S4C ddim yn talu digon am chwarae’r caneuon, dim mwy o ffug-ddoethinebu ‘Pam does yna ddim gigs yn Aber?’ tra’n cosi gên. Bobol sy’ fyw, onid oes ganddo ni albyms newydd gan yr arobryn Gwyneth Glyn Ffidich a Pappa Jarman i’w traflyncu a’u mwytho? ^ Onid oes ganddo ni (g)w yl Gardd Goll i’w thrysori – perfformiad prin yn y Gogs gan Ein Mawrhydi Gruff Rhysababeth y Cyntaf, bona-ffeîd roc roialti? Beth am drefnu arwisgiad a choroni’r Athrylith Anhygoel o Flewog yn Dywysog Pop Cymru? In other news, mae Don Schiavone wedi rhoi’r gorau i flogio am wendidau ac wedi mynd ati gyda’i ddeg egni i drefnu taith Y Selar. Tri band ifanc addawol yn teithio o Gaerdydd i Lanrwst via Aber, Caerfyrddin a Bangor. Da gweld Creision Hud, Sen Segur a Trwbador yn twrio’r wlad ... heddiw Cymru, yfory Dwyrain Ewrop ... ’sa fo jest er mwyn cau ceg Reece Moon! Ac mae arlwy Steddfod Wrecsam – gyda’r Gymdeithas yn ymgorffori comedi i’r arlwy – yn addo gwefreiddio. Yng nghylchgrawn Golwg (fy hoff gomic Cymraeg wythnosol) mae Geraint Jarman wedi sôn am y wefr o gael cydweithio efo rhai o dalentau ifanc y sin – o rym tawel Gareth Bonello i seigiau seicadelig Meilyr Race Horses. Os ydy dyn 60 oed fel Jarman yn gweld gwerth mewn parhau i greu, mae’n amlwg fod lot i fod yn ddiolchgar amdano. *(Diddorol gweld bod Robin Portmeirion wedi talu am recordio peth o albwm newydd Jarman hefyd ... hwyrach mai dyma’r Ffordd Ymlaen – cwmni Blas ar Fwyd Llanrwst yn noddi Sen Segur, Ceir Cymru Bethel yn noddi’r Ods a Chwmni Caws Caerfyrddin i dalu am sengl nesa’ Gwilym Morus ... jôc ia C*nt!)
19 templateyselar.indd 19
24/5/11 22:35:16
o glawr i glawr
Nos da
Wedi i ni gael ymateb da i’n heitem newydd sbon ‘O glawr i glawr’ yn y rhifyn diwethaf, mae’r Selar wedi penderfynu ceisio mynd o dan groen clawr CD trawiadol arall gan artist Cymraeg. Clawr Melys, albwm Clinigol a enillodd deitl ‘Clawr Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar 2009 oedd testun yr eitem hon yn rhifyn mis Ebrill. Y peth naturiol i’w wneud felly ydy ymdrin â deiliwr cyfredol y teitl hwnnw, sef clawr albwm gyntaf Gildas, Nos Da. Bu’r Selar yn siarad â’r dyn ei hun, sef Arwel Lloyd, i gael dysgu am gefndir clawr cofiadwy ei gampwaith.
Henffych Gildas! Mae clawr Nos Da yn un arbennig iawn a gwreiddiol dros ben yng nghyd-destun cerddoriaeth Cymraeg. I unrhyw un sydd heb gael gafael ar dy ^ albwm gyntaf, mae’r clawr yn gartw n-aidd iawn ei naws, yn lliwgar ac yn atyniadol. Y cwestiwn cyntaf amlwg felly ydy pwy gynlluniodd y gwaith celf?
Arwel: “Gwaith cywrain Eurig Roberts - ia ^ hanner y grw p Brigyn - welwch chi ar waith celf Nos Da. Mae ganddo bortffolio eitha’ da o ran dylunio i artistiaid Cymraeg gan gynnwys Sibrydion, Al Lewis Band, Elin Fflur ... heb anghofio Dylan a Neil wrth gwrs! Felly mae’r clod am lwyddiant a’r sylw diweddar i’r clawr yn mynd i gyd i Eurig chwarae teg.” Cymeradwyaeth fawr a gwresog i Eurig Roberts felly. Er gwaethaf creadigrwydd Eurig, mae’n rhaid dy fod wedi rhoi briff o ryw fath iddo fo do? Bydd rhai yn cofioo dy gyfweliad yn rhifyn Awst y llynedd o’rr Selar, ac yn benodol yr hyn soniaist ti am m ^ ddylanwad cartw ns ar dy gerddoriaeth di,i, a chefndir dy enw llwyfan di wrth gwrs – mae’n rhaid dy fod ti wedi cael cryn dipyn yn o ddweud yn y cynllun?
6ed ganrif ym Mhrydain, yn sgwennu am stad Prydain ar ôl i’r Rhufeiniaid adael ... dyna’r wers hanes drosodd! Dwi jyst ‘di dwyn ei enw fo, a rhyw goffâd bach iddo fo ydi’r mynach ar glawr y CD. Nes i roi briff eitha’ manwl o ran y clawr, a jyst deud am y tu fewn i greu gardd i’r mynach - mae ‘na gân o’r enw ‘Gardd y Mynach’ ar yr Albwm - a rhoi list iddo fo o’r pethau o’n i isho yn yr ardd. Roedd hyn yn
“ODD NA GATH YN YR ARDD AR Y DECHRAU, GA’TH HI’R SAC“
“Fi gafodd y syniad. Roedd Gildas yn ffigwr gwr hanesyddol, mynach oedd o yn byw yn y
20 templateyselar.indd 20
24/5/11 22:35:17
“ONI ISHO IDDO FO EDRYCH YN BLENTYNNAIDD AC FEL CARTWN“
Aha, a finnau’n methu deall be oedd ‘mywion’ yn y gân ‘Bruno a’r Blodyn’! I’r darllenwyr iau, roedd Lemon Jelly yn brosiect electronig a ffurfiwyd tua troad y ganrif a sydd ar egwyl estynedig ar hyn o bryd. Mae’n rhaid fod gen ti syniad reit glir o’r hyn oeddet ti isho ar y clawr. Faint o newid fu o’r ymgais gyntaf i’r cynllun terfynol?
cynnwys cymeriadau sy’n ymddangos mewn caneuon fel ‘Gorwedd yn y Blodau’ a ‘Bruno a’r Blodyn’. Fe welwch chi Bruno y broga, corrach bach clên, blodau, ehedydd, mywion - neu morgrug i bobl tu allan i Ddinbych - y dderwen hen, pili pala, watering can. ^ ns. O’n i isho iddo fo Ti’n iawn am y cartw ^ edrych yn blentynnaidd ac fel cartw n - bach fel rhai o stwff ‘Lemon Jelly’, dwi wrth fy modd hefo’i gwaith celf nhw.
“Odd ‘na gath yn yr ardd ar y dechrau, ga’th hi’r sac, oni’m yn cîn arni. Nes i hefyd newid maint y corrach tua 5 o weithiau. Mae gen Eurig amynedd Job! Ond oni bai am hynny, ‘odd o mwy neu lai yn ok ar yr ymgais gyntaf.” O edrych ar y clawr a chlywed y cefndir, mae’n amlwg dy fod wedi rhoi pwys mawr ar gael rhywbeth oedd yn drawiadol yn weledol. Pa mor bwysig ydy clawr a gwaith celf trawiadol yn dy farn di?
“Dwi’n meddwl bod creu gwaith celf gydag unrhyw albwm yn hollbwysig. Dyna’r peth ti’n gweld gyntaf, cyn gwrando ar y gerddoriaeth, felly mae’n gyfle i ddenu sylw ac mae’n helpu gyda’r hyrwyddo. Chwarae teg i lawer o artistiaid Cymraeg am wneud ymdrech yn y maes yma – yn ddiweddar mae gen ti sbectol 3D Genod Droog, casêt Jen Jeniro, Y Niwl gyda gold leaf ar y clawr, gwaith dylunio gwych Brigyn dros y blynyddoedd. Fyswn i’n tybio bod hyn wedi helpu gwerthiant rhain oll.“
Os ydych chi’n teimlo fod clawr arbennig yn haeddu sylw yn yr eitem hon, neu eisiau gwybod cefndir clawr un o albyms eich hoff fand Cymraeg, yna anfonwch eich awgrymiadau draw at yselar@live.co.uk
21 templateyselar.indd 21
24/5/11 22:35:21
adolygiadau 6 SENGL CYNTAF CREISION HUD Yn enillwyr Brwydr y Bandiau Maes B 2007, ac yna Sesiwn C2 orau yng Ngwobrau RAP 2009, yn sicr roedd y Creision Hud yn fand i’w gwylio. Ond wedi iddynt gael seibiant, yn dilyn blwyddyn heb lawer o gigs, maent yn ôl, ac wedi gwneud eu marc yn syth. Er mwyn bod yn wahanol, mae Creision Hud wedi penderfynu recordio albwm. Ond beth sydd yn wahanol am hynny? Wel, mae pob trac o’r ‘albwm’ yn cael eu rhyddhau’n unigol, un bob mis, ar hyd y flwyddyn. Roedd y ddwy sengl gyntaf, sef ‘Cyllell’ a ‘She Said’ yn gychwyn perffaith, gyda dylanwad indieroc poblogaidd diweddar yn amlwg yma. Erbyn diwedd mis Mawrth, roedd y band wedi rhyddhau ‘Bedd’. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae hon yn llawer mwy tywyll nag unrhyw un arall hyd yn hyn. Ond mae cân mis Ebrill, ‘Colli Cwch’, wedi creu cryn tipyn o argraff gyda phobl fel Matthew Sayer o Masters In France, wedi’i chanmol. Yn fy marn i, y bumed sengl, ‘Indigo’ fydd cân yr Haf – roedd hon yn ‘drac yr wythnos’ ar Radio Cymru wythnosau cyn iddi cael ei rhyddhau! Mae Creision Hud yn mynd o nerth i nerth, a bydd digon o gyfleoedd i’w gweld dros yr haf. Ond os na allwch ddisgwyl tan hynny, cofiwch brynu’r holl senglau ar iTunes – gallwch glywed y nesaf ‘Cysgod y ^ Cyrion’ ar eu tudalen Soundcloud rw an. 8/10 Owain Gruffudd
DYDD A NOS LOWRI EVANS Dydd a Nos yw albwm ddwyieithog gyntaf y gantores o Sir Benfro, Lowri Evans. Rwy’n gwybod bod gan Lowri lawer o ffans ledled Cymru ond a bod yn onest chefais i’n bersonol ddim llawer o flas ar yr albwm hon. Mae tipyn o drimins ‘Eurovision-aidd’ ar rai o’r caneuon, fel y canu-siarad ar ‘Dydd a Nos’, a’r ww-wwws ^ wrth ddynwared sw n y trên yn ‘Aros am y trên’, sydd ychydig yn rhy siwgwr-llyd, ac yn tynnu oddi ar y caneuon yn hytrach nag ychwanegu atynt. Wedi dweud hynny, mae llais bendigedig Lowri yn hawdd iawn gwrando arno ac yn f’atgoffa o lais Katie Melua. Teimlaf mai’r caneuon gorau ar yr albwm yw ‘Don’t light a fire’ a ‘Torri Syched’, pan mai llais Lowri yw’r prif offeryn a’r geiriau yn onest a syml ac yn osgoi’r cliches sydd yn rhai o’r caneuon gwannach. Mae Dydd a Nos yn albwm hawdd gwrando arni ac os ydych chi’n ffan o waith Lowri chewch chi mo’ch siomi. 6/10 Casia Wiliam
CAINC GWYNETH GLYN Does yna ddim byd yn syfrdanol am y casgliad hwn o ganeuon. Alawon syml a geiriau syml sydd yma, ond eto, mae’r briodas rhwng y ddwy elfen yma mor gryf nes y mae’r cyfan yn gweithio’n berffaith. Mae gan Gwyneth Glyn rhyw lais meddal sydd yn hawdd gwrando arno fo ac y mae’r holl ganeuon ar yr albwm yma’n gweddu’n berffaith i’r llais hwnnw. Ac efallai mai fi sydd yn hawdd fy mhlesio, ond mae yna ^ rhywbeth am sw n organ geg sy’n mynd â mi i rhyw le bodlon Bob Dylan-aidd, ac mi esh i’r union le hwnnw tuag at ddiwedd ‘Ferch y Brwyn’ ac ‘Eifionydd’. Y traciau mwyaf acwstig ac amrwd ydi’r
uchafbwyntiau heb os, ac hynny gan bod y geiriau mor gryf yn y caneuon hynny am wn i. Dwi’n ffan mawr o ‘Eifionydd’, ‘Gafal’ a ‘Lle fyswn i’. Mae yma ambell i gân mwy joli ag ychydig mwy o fynd iddynt ac y mae’n bosib y gallai rhywun ddiflasu ar ‘Ewbanamandda’ a ‘Dansin Bêr’ o’u gor chwarae nhw, ond dim ond achos eu bod nhw’n dîwns bach mor fachog. Nadi, dydi hi ddim yn glasur ella, ond mae hi’n werth ei chael yn y casgliad serch hynny. 8/10 Gwilym Dwyfor
PAID A GOFYN MESSNER Prosiect Owain Gruffudd Roberts yw Messner, a rhaid cyfaddef mod i heb glywed ei gerddoriaeth tan nawr. Mae’n EP 4 trac o synau hyfryd a hafaidd. Mae’n dechrau’n gryf gyda ‘Taflaist Olwg’ ac rwy’n ffyddiog fod hon am fod yn EP da iawn! Ond dwi’n cyrraedd cân rhif 4 a dwi ^ ddim yn siw r os alla’i gofio unrhyw ddarn o’r EP. Mae’n gofyn am gwpwl o wrandawiadau cyn dod i arfer â’r caneuon, ac mae’n bendant yn gasgliad o ganeuon sy’n gwella gyda phob gwrandawiad. Dyma gerddor sy’n gwneud pethau tebyg i Jakakoyak neu James Yuill - llais cofiadwy a gitâr dros bît electronig - folkelectro falle?! Mae’n EP i wrando arni tra’n ymlacio neu yn y cefndir (nid mewn ffordd drwg!) Dwi’n edrych ymlaen at
FFOADURIAID STEVE EAVES “I fi y man cychwyn pob tro yw’r blues” (Steve, gig Aberystwyth, 13 Mai 2011). Gwir pob gair. O’r gân cyntaf ar y casglid yma a thrwyddi draw mae dylanwad John Lee Hooker a’r cewri blues eraill fel Sonny Boy Williamson a Hound Dog Taylor yn amlwg. Fodd bynnag mae llawer iawn mwy na hynny i gerddoriaeth Steve gydag ehangder y cyffyrddiadau - jazz pobl fel Charlie
weld Messner yn chwarae’n fyw - ar noson braf o haf gobeithio. 8/10 Lowri Johnston
Parker a Van Morrison, canu gwerin Cymraeg a Gwyddelig, soul a hyd yn oed Y Cyrff! Bron yn ddiarwybod mae’r gerddoriaeth yma wedi ymdreiddio i fewn i’n psyche cerddorol Cymreig – yn raddol ac yn ddistaw – i greu corff o ganeuon sy’n gosod Steve ymysg ein cerddorion pwysicaf. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â chaneuon cynnar Steve mae ‘na stôr o drysorau yn eich wynebu o alaw gofiadwy ‘Sonedau Bore Sadwrn’ i ddwyster
‘Traws Cambria’, tristwch ‘Ffoaduriaid’, hyfrydwch pur ‘Siwgr Aur’, dicter ‘Gorllewin Beal Feirste’ a threiddgarwch y mynegiant o gariad ‘Rhywbeth Amdani’ a ‘Pwy yw Hon yn Cerdded Efo Fi?’. Er nad oeddwn wedi gwrando ar rai o’r caneuon yma ers tro byd roedd yr ail wrando’n fy atgoffa o’r grym ysbrydol sydd yn llawer ohonynt a’r graddau mae nhw’n llwyddo i gyffwrdd. O gael casgliad cronolegol fel hyn gallwn olrhain sut mae Steve wedi
? templateyselar.indd 22
24/5/11 22:35:31
y Selar
BRECWAST ASTRONOT GERAINT JARMAN Dyma albwm gyntaf y cawr cerddorol Geraint Jarman, ers i Sub Not Used gael ei rhyddhau yn 1998. Canu reggae Jarman sydd fel arfer ym mynd â’m bryd i - ac felly siom fawr oedd nad oes dim reggae ar yr albwm newydd. Ond wedi gwrando arni yn ei chyfanrwydd, mae’n amlwg mai cam cywir oedd datblygu’r ^ sw n tuag at steiliau gwahanol. Peth peryg ydi adolygu albwm sydd â hanner yr SRG wedi cyfrannu ati! Ond mae’r cyfraniadau yn sicr yn llywio’r albwm tuag at synau gwahanol, a hynny’n llwyddiannus. Mae Siân James â’i thelyn yn llwyddo i hoelio sylw gwrandawyr i’r gân werin ‘Brethyn Cartref’ sydd â melodi hyfryd a harmoneiddio hudolus. Ymysg rhai o’r cerddorion gwadd y mae Gareth Bonello, Ian Lawrence, Meilyr Jones o Race Horces, Griff Lynch o’r Ods, Huw M a Peredur ap Gwynedd. Mae adlais o’r Jarman ifanc wedyn i’w glywed ar anthemau’r albwm – ‘Miss Asbri 69’ a phaid ‘Dwyn dy Hun i’r Dwfn’, sydd yn swnio fel pop roc yn syth o’r 80’au cynnar, gyda’r dryms swnllyd a’r gwaith gitâr gwichlyd yn ysu i gael eu clywed ar lwyfan o flaen cynulleidfa fyw. Trueni na fyse ychydig mwy o ganeuon roc fel hyn ar yr albwm.
YN CYFLWYNO TAITH NEWYDD...
SLOT SELAR
CREISION HUD, SEN SEGUR, TRWBADOR Ond tawel a synfyfyriol yw’r rhan fwyaf o ganeuon ar Brecwast Astronot, gyda’r gân deitl honno ei hun yn freuddwydiol, yn ofodol, bron fel y gallwch ddychmygu’r astronot yn arnofio yn araf yn yr awyr yn y roced. Mae lot o emosiwn yn y caneuon tawel yma, bron eu bod yn drist - yn enwedig mewn caneuon fel ^ Dw r Oer y Fynwent, a’r geiriau clir yn ein hatgoffa fod Jarman yn ddewin gyda geiriau. Un cwyn ydi fod yna ryw adlais o ganu gwlad yn dangos ei wep bob yn hyn a hyn a dwi’m yn hoffi ‘Roedd Hwnna’n Arfer Bod yn Ddigon’. Mae’n fy atgoffa i o line-dancing mewn ysgubor wellt, a dwi’n hanner disgwyl i Jarman weiddi “Iiiiiha” unrhyw funud rhwng gwichian y gitâr, a harmoneiddio Iona ac Andyaidd y gytgan. Felly ar y cyfan, mae Brecwast Astronot yn gyfanwaith blasus iawn - a ^ sw n aeddfed Geraint Jarman yn gweithio’n dda. Gobeithio na fydd rhaid aros 13 mlynedd arall am yr albwm nesa!
glynu at ei wreiddiau tra, ar yr un pryd, wedi ymestyn ei adenydd cerddorol. Mae gwaith gitâr Steve ac Elwyn Williams yn sefyll allan ond yn anad dim cynhesrwydd y llais, agosatrwydd Steve
GWENER 24 MEHEFIN CLWB RAFA, STRYD Y BONT, ABERYSTWYTH. 8PM
SADWRN 25 MEHEFIN THE PARROT, STRYD Y BRENIN / KING STREET, CAERFYRDDIN. 8PM
GWENER 1 GORFFENNAF CLWB Y RHEILFFORDD, BANGOR. 8PM
SADWRN 2 GORFFENNAF CLWB LEGION, LLANRWST. 8PM
TOCYNNAU’N £5 I BOB GIG.
C YFO ES C Y FFR OUS … N OFE LA U ’ R L OL FA
7/10 Leusa Fflur
at ei bobl a thynerwch y caneuon serch sy’n gafael ac yn cyfoethogi pob gwrandawiad. Casgliad heb ei ail!
RHAID GWRANDO
IAU 23 MEHEFIN DEMPSEYS, CAERDYDD. 8PM
O.N. Ychydig wythnosau cyn rhyddhau y CD yma roedd Steve yn sôn wrthyf am bwysigrwydd cyfraniad Les Morrison a’r dylanwad a gafodd arno. Mae Ffoaduriaid yn deyrnged gwych i Les, i Iwan Llwyd ac i gyfoeth cerddoriaeth Cymraeg a Chymreig. 9/10 Toni Schiavone
£8.95
allan ym Mehefin
Rhestr fer
Llyfr y Flwyddyn
£8.95 £9.95 £8.95
www.ylolfa.com
templateyselar.indd 23
24/5/11 22:35:40
NEWYDD GAN
Sain Gwymon Rasal Copa Steve Eaves Ffoaduriaid
SAIN SCD2633
Lleuwen Tân
GWYMON CD014
Lowri Evans Dydd a nos
RASAL CD034
Al Lewis Band Ar gof a chadw
RASAL CD033
Y Bandana COPA CD013
Yr Ods Nid teledu oedd y bai
COPA CD012
POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWALES.COM ac i’r plantos bach…
Rapsgaliwn
SAIN SCD2654
CD newydd sbon gan Rapiwr gorau’r byd!
Mae modd lawrlwytho traciau unigol trwy wefan iTunes neu Amazon
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com
templateyselar.indd 24
24/5/11 22:35:44