y Selar Rhif 37 | Mehefin | 2014
mr Phormula y-selar.co.uk Y Reu | Geid i’r Gwyliau | Cofiwch Dryweryn
1
y Selar
cynnwys
RHIF 37 | Mehefin | 2014
Mr Phormula
4
Golygyddol
Trydar gyda Breichiau Hir
8
Ti ’di clywed ...
9
Eisteddfod yr Urdd unwaith eto ac mae hynny’n golygu un peth, amser am rifyn arall o’r Selar. Mae noson y gwobrau’n teimlo’n bell yn ôl bellach ond mae digon yn y rhifyn hwn i’ch cadw’n ddiddig tan yr haf a’i holl wyliau cerddorol. Anghofiwch Mr Urdd, mae gwir arwr Cymru, Mr Phormula, yn y rhifyn hwn yn sôn am ei albwm newydd, Cymud. Rydym hefyd yn ymestyn ein Breichiau Hir at Y Reu Ffug yn Fleur de Lys cyn taro golwg ar yr hyn sydd i ddod yn ein canllaw gwyliau. Ond mae’r peth mwyaf syfrdanol am y rhifyn hwn ar y tudalenau cefn. Cyn i neb holi, naddo, dydyn ni heb ddechrau adran chwaraeon, sôn yr ydw i wrth gwrs am yr adolygiadau. Roedd yna lond tair tudalen o stwff y tro hwn ac roedd hynny gan orfod anghofio ambell sengl yma ac acw. Yr arwydd cryfaf eto o bosib o gryfder y sin ar hyn o bryd. Mae’r artistiaid yn rhyddhau ac mae’r gwrandawyr yn mwynhau, hir oes i hynny! Gwilym Dwyfor
Y Reu
10
O glawr i glawr
14
Sesiwn #20
17
Geid i’r Gwyliau 2014
18
Adolygiadau
20
4
10
Llun clawr: Rhys Llwyd
14
18
GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
@y_selar
DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
facebook.com/cylchgrawnyselar
MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com)
CYFRANWYR Casia Wiliam, Griff Lynch, Lowri Johnston, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Cai Morgan, Lois Gwenllian
yselar@live.co.uk
Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
4
y-selar.co.uk
Lluniau: Rhys Llwyd
Mae Ed Holden wastad yn ddyn prysur, ond yn enwedig felly yn ddiweddar gan fod Mr Phormula wedi rhyddhau albwm newydd, Cymud. Ond yn ffodus i Y Selar, rhyw dro rhwng perfformiadau yn Wrecsam ac Efrog Newydd, fe ddaeth y cerddor amryddawn o hyd i amser i sgwrsio efo Casia Wiliam.
D
wi’m yn planio stopio, dwi’m yn planio quitio, dwi ’di bod yma ers oes ac mae’r esgid yn ffitio.’ Dyma frawddeg o ‘Lleiafrifol’, y gân gyntaf ar Cymud, albwm diweddaraf Ed Holden, y rapiwr, hip-hopiwr a’r bocsiwr bît sy’n perfformio dan yr enw Mr Phormula. Dyma artist sydd wedi gweithio a gweithio i gerfio lle arbennig, lle unigryw a dweud y gwir, iddo’i hun yn y sin gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt, a does dim arwydd ei fod am roi gorau iddi’n fuan. Yn gwbl groes i roi’r gorau iddi, mae Ed, sydd yn byw i greu, ac yn ennill ei fara menyn wrth greu cerddoriaeth, wir yn ei elfen ar hyn o bryd. Wedi deall y sin rap a hip-hop ehangach, wedi gweld heibio’r holl siarad gwag a’r hunan-frolio a’r sioe sy’n gallu perthyn iddi; mae’n gyfforddus, yn hyderus ac mae digon ganddo i’w ddweud. Ydi, mae’r esgid yn ffitio. Ers iddo ddechrau perfformio mae Mr Phormula wedi rhyddhau deg CD, ac wedi perfformio ledled Cymru, Prydain, ac America. Un o Ynys Môn yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Llanfrothen, Gwynedd, mae’n llenwi ei ddyddiau yn creu cerddoriaeth ei hun, cynhyrchu, rhedeg label Paned Productions ac yn cynnal gweithdai rap, hip hop a chynhyrchu o’r enw 808 mewn ysgolion. A’r darn gorffenedig diweddara i ddod o gegin gerdd Ed Holden ydi Cymud. “Dwi’n gweithio ar Cymud ers tua dwy flynedd a hanner, tair blynedd ma’ siŵr. Mae o wedi bod yn gyfnod eitha’ hir” esbonia Ed, wrth i mi holi mwy am sut ddaeth Cymud i fodolaeth. “Mae ’na doman o westai arni. Sut oedd hynna’n gweithio oedd fel arfer, o’n i’n gyrru trac allan, gofyn cymrwch listen ar hwnna a dowch yn ôl ata’ i os ’sa chi’n licio neud rwbath. Wedyn aros iddyn nhw ddweud ia neu na, hwnna sy’n cymryd amser rili.” Mewn albwm gyda dros ddeg o gyfranwyr gwadd, dwi’n eiddgar i ddysgu
mwy am sut mae’r broses yn gweithio. Pwy sy’n gwneud be’ yn union? Pwy sy’n gofalu am y geiriau? Sut mae’r cydweithio’n digwydd? “Wel fi sy’n gyfrifol am y miwsig a’r cymysgu ac wedyn fyddai’n trafod dros y we efo gwahanol bobl. Weithia’ fydda nw’n cael teimlad am un darn, ti’n gwbo’, gwrando arno fo a dweud o ma’ hwn yn neud fi feddwl am hyn a dwi isio mynd ar ôl hyn a’r llall – wedyn ’da ni’n trafod dros y we be’ ’da ni am sgwennu. Wedyn weithia ’na nhw sgwennu un pennill a fi sgwennu un. Ma’n amrywio. “Dim ond ar un o’r tracia yma dwi wedi bod yn y stiwdio efo rywun sef Dybl L ar gyfer y trac ‘Nôl Arni’ a nathon ni sgwennu’r geiria efo’n gilydd ac ma’ ’na rywbeth neis am hynna ’chos wedyn ti’n gwneud y cyswllt yna ac mae’n cynrychioli rhywbeth lot mwy.”
CYSYLLTIADAU Ac yn amlwg does yna ddim prinder o bobl sy’n eiddgar i gael cyd-weithio efo Ed, ac mae yna enwau mawr o sin hip hop Prydain yma, fel BVA a Leaf Dog o’r grŵp Four Owls.’ “Nesh i jyst digwydd cwrdd â nhw mewn rhyw gig a throi allan mae nain BVA yn byw ym Meddgelert! Jysd malu awyr
... mae nain BVA yn byw ym Meddgelert!
fel ’na oddan ni ac fel yna wnaethom ni’r cysylltiadau, ac ma’ hynna’n bwysig dwi’n meddwl, cadw’r drws yn agored i wneud cysylltiadau newydd.” Mae Cymud yn albwm dwyieithog gyda deuddeg trac, gyda’r pynciau’n amrywio o drafod bod yn un o’r lleiafrif, o fod yn rhan o’r sin hip hop – y cliques a’r siarad stryd gwag - o fynnu llais Cymraeg mewn môr o Saesneg, o gelwyddau a chyfrinachau cymdeithas, i’r awch di-ben-draw am eiriau, odlau a tîîîîwns! Mae yna samplau cyfoethog ac amrywiol ar yr albwm, cerddoriaeth glasurol, llinynnau, piano, electro a lleisiau persain, a gyda geiriau telynegol Ed a’r cyfranwyr yn haen gelfydd ar ben hynny mae Cymud yn creu awyrgylch hudol a llesmeiriol, sy’n denu rhywun yn ôl dro ar ôl tro.
“Dwi jysd yn unigolyn sy’n adlewyrchu bywyd fi trwy gerddoriaeth, dim bwys be’ ’di’r iaith.” y-selar.co.uk
5
Ac fe wna’i fod yn gwbl onest, dwi ddim yn rhywun sy’n gwrando ar lawer o hip-hop na rap o ddydd i ddydd, a doeddwn i ddim yn siŵr be’ fyswn i’n feddwl o Cymud, ond dwi wedi gwrando a gwrando a gwrando arni, ei mwynhau mwy gyda phob gwrandawiad, yn chwerthin ar yr hiwmor cynnil sydd wedi ei blannu yma a thraw, ac yn medru adrodd geiriau ‘Starts Right Here’ gyda Skamma o’r dechrau i’r diwedd (Rhif 2 - fy hoff drac ar yr albwm).
Cynrychioli Ydi Cymud yn gasgliad eclectig o ganeuon sydd wedi dod i Ed ar hyd y blynyddoedd neu oedd yna thema tu ôl iddi? Oes gan Cymud neges benodol? “Dwi jysd yn neud caneuon trwy’r adeg ac wedyn weithia dwi’n meddwl o ’sa honna’n cŵl ar gyfer albwm a dwi’n rhoi hi yn y drôr. So mae ’na dracia yma dwi wedi gweithio arny’ nhw ages yn ôl a dwi jysd wedi rhoi nhw mewn ffeil bach a mynd yn ôl atyn nhw wedyn.” Ond ar albwm dwyieithog sy’n agor efo cân o’r enw ‘Lleiafrifol’, ac yn cloi efo cân o’r enw ‘HipHop Cymraeg’ (gyda Dybl L, Hoax Emcee, Tew Shady, Cofi Bach, Nine Tonne, MC Sleifar, Rufus Mufasa MC Saizmundo a Chef Kwan) oes yna neges ehangach yma am y Gymraeg? “Wel, ma’ ’na un llinell gin John Gedru sydd ar ‘HipHop Cymraeg’ sydd wedi sticio efo fi – ‘mae o fatha bo’ pync a hip hop byth ’di digwydd’ - ac mai’n llinell bwysig, achos dyna’n union be’ dwi ’di bod yn ei deimlo dros y blynyddoedd dwytha yma, felly o’n i isio rhoi rhywbeth newydd allan yna, ti’n gwbo? Mwy o dân de. Bam!” “Ond dwi jysd yn unigolyn sy’n
adlewyrchu bywyd fi trwy gerddoriaeth, dim bwys be’ ’di’r iaith, s’gen i ddim mynadd efo rhyw shit, ar ddiwedd y dydd cerddor ydw i, a dwi isio cynrychioli’r lle dwi’n dod ohono. “Mae’n bwysig bo’ pobl yn dallt so fyddai’n deud ‘ye you might not understand this, it’s in Welsh…’ ond dwi isio cynrychioli’r ffaith bod Cymry yn rapio yn Gymraeg a chyrraedd y bobl sy ddim yn gwybod bod yna hip hop Cymraeg.”
NEGES CYMUD Am beth mae Cymud yn sefyll felly? “Dwi ’di galw’r albwm yn Cymud achos dyna be’ dwi’n neud yn y diwydiant Prydeinig. Mae ’na lot o agweddau negyddol allan yna, a lot o ‘this bruv, that bruv, that blood, c’mon’, ac mae ’na lot o bobl yn siarad stryd ti’n gwbo’? Agwedd s’ganddyn nhw ac ar ddiwedd y dydd, ’di o ddim yn golygu dim byd.” “Yn y diwydiant cerddoriaeth mae o i gyd am weithio’n galad ac am bwy ti’n nabod. Ti ddim yn mynd i gael llwyddiant wrth ‘talking the talk’, felly dwi jysd yn Cymud y darn yna o’r sin Brydeinig, y darn dwi ’di gweithio amdano fo.” Wedi blynyddoedd o waith mae Ed wir wedi creu enw iddo’i hun yn sicr yng Nghymru ond tu hwnt hefyd, ac mae’n
“dwi isio cynrychioli’r ffaith bod Cymry yn rapio yn GymraeG” 6
y-selar.co.uk
haeddu pob owns o’r clod mae Cymud wedi’i dderbyn yn barod. “Mae’r ymateb wedi bod yn hollol overwhelming,” meddai Ed. “Dwi ’di bod yn perfformio’r albwm fel sioeau byw, so fi a Dybl L yn dj-io a rapio ar y llwyfan. Mae’n braf cael bod ar y llwyfan efo person eto yn lle jysd peiriannau!” “Mae’r albwm yn gwerthu’n dda, mae ’di cael ei hamro ar Radio Cymru a Radio Wales, cwpwl o plays ar Radio 1, ac mae ’na erthygl fawr wedi bod yn Word Play Magazine, a ti’n gwbo, hwnnw ydi cylchgrawn hip hop mwya’ Prydain felly wrth drio neud gyrfa efo rap Cymraeg ti’n gwbod, mae hynna, wel, dwi’n hollol, hollol chuffed!” Felly, dwi am gloi efo cymhariaeth eisteddfodol. Os fysa yna ffasiwn beth â chadair eisteddfodol i rapwyr, bocswyr bît a hip-hopwyr mi fasa Ed Holden, heb os, wedi codi ar ganiad yr utgorn yn y pafiliwn yna ddegau o weithiau bellach. Mae’n trin geiriau trwy’r dydd bob dydd, ond mae’n gwneud gymaint mwy ’na hynny hefyd. Mae’n ddewin cerddorol a lleisiol, mae’n cysylltu Cymru â’r byd, a’r byd efo Cymru. Nes i ddechrau’r darn yma efo brawddeg o gân gyntaf yr albwm felly dwi am orffen yn ddigon addas efo llinell o gân olaf yr albwm – ‘HipHop Cymraeg’. ‘Hip-hop Cymraeg? ’Da ni dal yn y sin. Hip-hop Cymraeg? ’Da ni dal ar y ffin . Hip-hop Cymraeg? ’Da ni’n symud fel un. Hip-hop Cymraeg? ’Da ni dal yn y llun.”
y-selar.co.uk
7
trydar
@BreichiauHir @Y_Selar Su’mai @BreichiauHir, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar. Newydd ryddhau ‘Byth yn Agor’, trydedd sengl mewn tri mis. Sut ymateb gafodd hi?
@BreichiauHir Dim siâp ar y band, mynd ar goll, colli pethe, hangovers, ond ath Mei ddim yn pissed off, odd e’n cool! Fydd rhaid trio’n galetach tro nesa.
@BreichiauHir Helo @Y_Selar, ni heb glywed unrhyw abuse, so da fi’n meddwl. Hon odd yr hawsa’ i gymryd ati o’r tair fi’n meddwl.
@Y_Selar Haha! Swnio’n roc a rôl! Gweld eich bod chi wedi recordio ychydig mewn “neuadd dywyll mewn ysgol yn Llanelli”! Beth yw’r hanes?
@Y_Selar Ond ‘Chwarae Cuddio’ a ‘Palu Tyllau’ wedi cael ymateb go lew hefyd do?
@BreichiauHir Ma’ Rhys Gnash yn dod o Lanelli ag odd e’n gweithio mewn ysgol yno, so nath e’ recordio’i ddarne fe yn gyfrinachol yn y neuadd.
@BreichiauHir Do! Ni’n hapus achos gafo’ nhw gyd ymateb da ond mewn ffyrdd hollol wahanol. @Y_Selar Tair mewn tri mis, allwn ni ddisgwyl mwy? Beth am un bob mis am flwyddyn fel @hudmusic ychydig flynyddoedd yn ôl? @BreichiauHir Ni dal i recordio i ryddhau eleni, ond odd tair sengl yn ddigon o waith i ni, sai’n gwbod sut ddiawl nath Hud hwnna! @BreichiauHir Y plan yw cario ’mlan i recordio pan ni’n gallu a rhyddhau pan ma’r caneuon yn barod. Ond addo dim! @Y_Selar Y senglau i gyd yn ddigidol, ond efallai y gwelwn ni rywbeth ar gopi caled gan @BreichiauHir yn y dyfodol agos felly? @BreichiauHir Ie, fydd EP gyda ni mas o gwmpas yr haf a mwy o bethe mas erbyn diwedd y flwyddyn. Ma’ mwy o syniadau gyda ni nag amser! @Y_Selar Cyffrous iawn. Fyddai hi’n deg dweud fod y stwff diweddaraf yma ychydig yn llai trwm, yn enwedig y ddwy sengl gyntaf? @BreichiauHir Ydyn, oedden ni moyn cal y ddwy ‘ysgafn’ mas gyntaf i newid meddwl pobl am be’ oedden ni’n neud, ond yna dangos beth sydd i ddod gyda ‘Byth Yn Agor’. @Y_Selar Haha, slei iawn! Ond mae’r cwbl yn wahanol iawn i’ch setiau byw chi yn tydi? @BreichiauHir Ydyn, ma’ setie byw ni lot fwy egnïol ac ma’r angst yn dod mas fwy ar lwyfan. @Y_Selar Gyda @meigwynedd wnaethoch chi recordio ie? Sut brofiad oedd hynny? @BreichiauHir Y dryms gyda Mei, wedyn popeth arall rhwng @OshGruff (Crash.Disco!) a Llyr & Gnash o’r band. Odd recordio gyda Mei yn wael ar ein rhan ni.
8
y-selar.co.uk
@Y_Selar Nawn ni ddim holi mwy am hynny felly! Ma’r cyfan yn swnio’n dda pryn bynnag. Oes yna gynlluniau o ran hyrwyddo? Gigs neu wyliau dros yr haf? @BreichiauHir Ni’n trefnu taith haf a ni meeeethu aros am hwnna. Ni’n chwarae ym Maes B a chwpl o wyliau eraill. @BreichiauHir Ma’ Gnash yn edrych ’mlan at Maes B achos bod e’n Llanelli a ni’n excited i chwarae Gŵyl Crug Mawr achos ni ’di clywed bod hi’n eitha’ manic. @Y_Selar Yndi, gŵyl ar faes y gad! Pa fandiau ydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld? @BreichiauHir Ni heb weld @Castrocerdd na @BandYFfug yn fyw eto a ma’u cerddoriaeth nhw’n cyffroi ni. @Y_Selar Mae’n dda gweld stwff mwy ballsy felly o gwmpas ar hyn o bryd. @BreichiauHir Yn union! Ma’ nhw’n codi sgwrs a dadl, sydd wastad yn dda. A ma’ nhw’n eitha funny wrth neud e’. @Y_Selar Nôl at eich stwff chi, gwaith celf trawiadol efo’r tair sengl. Pwy sy’n gyfrifol? @BreichiauHir Diolch! Fi (Steffan!). Ni’n meddwl trio neud mwy gyda’r ochr weledol yn y dyfodol ’fyd. @Y_Selar Dwi’n ffan, yn enwedig gwaith ‘Byth yn Agor’ a ‘Palu Tyllau’. Mwy o reswm dros ryddhau rhywbeth ar glawr caled @steffdafydd! @BreichiauHir Diolch a gwir iawn! @Y_Selar Edrych ymlaen at hynny felly ac edrych ymlaen at glywed y deunydd newydd yn fyw dros yr haf. Diolch @BreichiauHir a phob lwc. @BreichiauHir Diolch @Y_Selar!
.. Ti d . d
Fleur de Lys
.T d .. i d
y w l C e i
yw i Cl e
PWY? Band ifanc newydd o Ynys Môn Swn? Fel sawl band newydd mae Fleur de Lys yn gweithio ar eu sŵn ar hyn o bryd fel yr eglura Ianto eto, “mae’r sŵn yn amrywio gan ein bod ni dal i arbrofi, mae gwahaniaeth rhwng ein dwy sengl gyntaf, ‘Crafangau’ a ‘Difaru Dim Byd’ hyd yn oed. ’Da ni dal i chwarae heb synth felly mae’r piano yn ein gwneud ni swnio’n eitha’ roc a rôl, ond ar y funud ’da ni’n eithaf poppy hefyd. Os fysa rhaid dewis genre, Pop-Roc a Rôl ella?” ^
Dylanwadau? Mae cryn amrywiaeth yn nylanwadau cerddorol yr hogia’ hefyd. Rhestra Ianto fandiau roc fel Y Cyrff a’r Manics ynghyd ag unigolion fel Jake Bugg a Neil Young fel rhai o’i hoff gerddorion ef cyn enwi bandiau mwy indie fel Stereophonics ac Oasis fel dylanwadau Rhys. Caiff Ywain Gwynedd a Meic Stevens eu crybwyll hefyd. “Fel band fyswn i’n deud bod cyfuniad o’r bandiau yna yn ein dylanwadu mewn rhyw ffordd,” meddai Ianto wrth grynhoi. Hyd yn hyn? All neb eu cyhuddo o ddiogrwydd, maent wedi bod yn hynod weithgar eisoes mewn cyfnod byr. “’Da ni wedi gweithio’n galed i gael ein henw allan yn lleol trwy wneud deg gig ers mis Hydref.” Un o’r rheiny oedd gig llawn dop Noson Pedwar a Chwech yng Nghaernarfon gyda Bandana ac Yr Eira. Ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon, maent wedi ymweld â’r stiwdio hefyd gan recordio dwy sengl gyda Dewi Williams yn Stiwdio SWN, Bontnewydd.
Ar y Gweill? Gydag arholiadau ar y gorwel mae Fleur de Lys am stwffio cymaint â phosib o gigs i’r calendr cyn hynny gyda chwech arall ar y gweill o fewn mis. Blaenoriaethu fel’na ’da ni’n ei hoffi yn Y Selar! Mae pethau’n argoeli’n dda i’r band dros yr haf hefyd yn ôl Ianto. “Mae ambell ŵyl wedi cysylltu gyda Gŵyl Cefni ym mis Mehefin wedi cadarnhau. Rydym wrthi’n trefnu taith ar gyfer yr haf ac yn bwriadu gigio gymaint ag sy’n bosib! Mi fyddwn ni yn y stiwdio eto ym mis Gorffennaf ac yn dal i ysgrifennu deunydd newydd.”
yw Fleur de Lys. Daw Rhys (gitâr a phrif lais) o Langefni, Huw (piano) ac Ianto (bas) o Lanfairpwll, ac Elis (dryms) o Landdaniel. Maen nhw’n prysur ennill edmygwyr ym Môn a thu hwnt er mai dim ond ers ychydig dros chwe mis maen nhw wedi bod wrthi. “Ddaru ni ffurfio’n swyddogol tua mis Hydref,” eglura Ianto. “Roedden ni wedi bod yn sôn am ddechrau band ymhell cyn hynny ac wedi dechrau jamio tua mis Medi.”
Uchelgais? Digon diymhongar yw’r band yn eu huchelgais. “’Da ni ddim am ddweud pethau hurt fel hedleinio Maes B neu ennill pum Gwobr Selar,” eglura Ianto. “Yn syml, yr uchelgais i ni fel band ydy bod pobl sy’n edrych yn ôl mewn ugain mlynedd, yn meddwl ein bod ni wedi gadael ein marc ar y sin.” Barn Y Selar Braf gweld nad pethau materol fel Gwobrau Selar sy’n ysgogi’r band! Wedi dweud hynny, pe bai yna gategori i’r band newydd mwyaf gweithgar fyddai’r hogia’ o Fôn ddim yn bell ohoni. Mae arbrofi a datblygu trwy chwarae’n fyw yn hollbwysig i fand ifanc ac mae’n ymddangos fod Fleur de Lys yn mynd o’i chwmpas hi yn y ffordd iawn. Yn sicr, mae yna elfen bop gref i’r gerddoriaeth ar hyn o bryd a synnwn i fawr na chlywn ni dipyn ohonynt ar Radio Cymru yn y prynhawn yn ogystal ag ar C2. Mae yma brif lais cryf iawn yn sicr, ac wrth i’r sŵn esblygu, fe fydd hi’n ddiddorol clywed beth fydd cyfeiliant y llais hwnnw ymhen blwyddyn neu ddwy. Gwrandewch os yn ffan o roc piano fel Coldplay, Keane a Tom Odell y-selar.co.uk
9
Y Reu
GEIRIAU: GWILYM DWYFOR
Lluniau: Ochr 1
yn rhoi’r byd yn ei le
10
y-selar.co.uk
“
O
Efallai fod rhai’n meddwl fod Tŷ Gwydr wedi claddu ‘reu’ nôl yn 1992, ond mae’r gair wedi parhau’n un poblogaidd (iawn!) mewn rhannau o Ddyffryn Nantlle byth ers hynny. Bellach mae Y Reu yn ôl ar wefusau Cymru gyfan unwaith eto diolch i’r band o’r ardal chwarelyddol yn y gogledd orllewin. Ar ôl ffurfio ar gyfer cystadleuaeth Band 50 yn 2012, rhyddhawyd sengl gyntaf y band y llynedd ac maent yn ôl eleni gyda sengl ddwbl wych arall felly rhaid oedd mynd am sgwrs.
O
mae’n ddiwrnod braf...”, geiriau cyntaf ‘Haf’, un o ddau drac ar sengl newydd Y Reu, ‘Darnau Bach / Haf’, ond ffordd berffaith hefyd i ddisgrifio’r prynhawn Llun gŵyl y banc yr es i gyfarfod y band i ardd gwrw cadwyn-dafarn nid anenwog yng Nghaernarfon. Yno yn fy nisgwyl yr oedd Iwan, Math, Aled a Cai – pawb heblaw Lloyd (a oedd eisoes wedi dychwelyd i’r brifysgol yng Nghaerhirfryn). Dechreuais trwy longyfarch yr hogia’ ar y sengl a holi ychydig am y broses recordio. “Nathon ni recordio efo Rich Roberts yn Ferlas,” eglura Iwan, y prif leisydd. “Yr union berson i gael y sŵn mawr oeddan ni isho felly dewis hawdd.” Eglura Math (gitâr a synth), mai yno cafodd eu sengl ddiwethaf, ‘Symud Ymlaen / Diweddglo’ ei recordio hefyd. Yn wahanol i’r sengl honno, cafodd y ddau drac newydd eu rhyddhau ar label I Ka Ching, fel yr eglura Iwan: “Oedd Gwion [I Ka Ching] wedi cysylltu isho gneud albwm efo bandiau ifanc. Wnaeth hynny ddim digwydd felly wnaethon ni jyst rhyddhau nhw fel sengl.” Cafodd y sengl gyntaf ymateb ffafriol llynedd felly sut dderbyniad mae’r traciau newydd yn eu cael hyd yma tybed? “Mae o ’di bod yn eitha’ positif do?” hola Math wrth y gweddill
ac mae Iwan yn cytuno, “Do, dwi ’di chlywad hi ar radio few times ia!” Yna mae’r sgwrs yn troi at y broblem o ddiffyg beirniadaeth ar gerddoriaeth Gymraeg. “Does ’na neb rili’n beirniadu petha’ Cymraeg pryn bynnag nag oes!” meddai Math, cyn i Cai, y drymiwr, ychwanegu, “Ia, mae hynny’n broblem, ma’ pawb rhy neis. Ma’ pawb yn cael get awê efo sgwennu wbath, dio’m otsh be’ ’di’r safon, geith o’i chwara’ ar radio pryn bynnag. Mae o’n bach o jôc.” Honna Iwan y byddai ef yn croesawu adolygiad anffafriol o dro i dro, felly ar ôl cynnig rhoi un ofnadwy iddynt y tro yma cofiais i mi adolygu eu sengl ddiwethaf yn y cylchgrawn hwn! Fy unig boen bryd hynny oedd y diffyg perthynas rhwng y ddau drac. Ac mae’r un peth yn wir i raddau am ‘Darnau Bach / Haf’, yn yr ystyr fod yma un trac roc ac un mwy electronig. Holais felly ai arbrofi â’u sŵn y maent o hyd neu ai’r bwriad yw dilyn y ddau lwybr yn y tymor hir? “Ma’n anodd diffinio’n sŵn ni rili,” eglura Math. “Tydan ni ddim yn meddwl amdano fo, mae o jysd yn dod yn eitha’ naturiol.” Cai sy’n parhau, “Mae o’n gweithio ar hyn o bryd ia. Os fysan ni’n sgwennu albym dwi’n meddwl fysa rhaid i ni kind of callio o ran y genres fel bod ganddom ni ddim un ar ddeg cân hollol wahanol.” Ond ar hyn o bryd o leiaf, mae’r hyblygrwydd creadigol yn apelio atynt. “Mae ganddo ni’r rhyddid sgen lot o fandiau ddim gan ein bod ni’n defnyddio synths a ballu,” meddai Iwan. “’Da ni jysd yn jamio be’ ’da ni’n licio rili.” “Dyna sy’n dda am greu stwff Cymraeg hefyd,” ychwanega Math, “dwyt ti ddim yn cael dy orfodi gan label i sticio at rwbath penodol, mae ’na lot o ryddid.” Dwi’n awgrymu wrthyn nhw efallai fod hynny’n un o fanteision prin y diffyg arian yn y sin yng Nghymru. Heb arian, o leiaf all arian ddim yn rheoli’r allbwn. Wedi dweud hynny teimla Iwan fod tueddiad o ddarparu ar gyfer sin gyffredinol yma yn hytrach na darparu ar gyfer cynulleidfa benodol, “Mae pawb yn gwrando ar bob un dim!” Hynny sydd yn gyfrifol mae’n debyg am y syniad ofnadwy yma fod cerddoriaeth Gymraeg yn genre. “Mae hynna’n beth drwg,” meddai Cai yn bendant. “Mae’r generalisation yma fod stwff Cymraeg i gyd yr un peth yn wrong. Mae yna bobl yn gneud petha gwahanol, gen ti artistiaid fel Gwenno sy’n gneud stwff pop weird efo synth sydd yn cŵl, Y Ffug yn wahanol hefyd. Ma’n bwysig bod gen ti bethau gwahanol felly a bod y cwbl ddim yn cael ei roi i gyd efo’i gilydd fel miwsig Cymraeg.”
Mwy i ddod?
A hwythau bellach wedi rhyddhau dwy sengl rhaid gofyn yr amlwg, pryd allwn ni ddisgwyl rhywbeth hirach? Math sy’n ateb, “’Da ni’n gobeithio gwneud EP dros yr Haf. Er, ’da ni’n deud hynny ers dipyn cofia!” Rhaid i bopeth ddigwydd yn ystod gwyliau coleg gan fod Math a Lloyd yn astudio dros y ffin, sy’n gallu achosi ambell broblem ymarferol. “’Da ni wedi gorfod gwrthod dipyn o gigs,” eglura Iwan, ond nid yw’n credu fod hynny’n beth drwg i gyd. “Mae yna rhai bandiau sydd yn chwarae bob wicend nes ’di o ddim byd sbeshal pan ti’n gweld nhw. Dwi wrth fy modd efo Candelas ond y-selar.co.uk
11
ma’ nhw’n chwara’ jysd iawn bob wsos felly mae o mor hawdd mynd i’w gweld nhw. Mae pobl yn gallu mynd yn bôrd.” Cytuna Cai, “Yr Ods ydi un o’r bandiau mwyaf yng Nghymru ond eto dwi wedi gweld nhw ddega’ o weithia’ nes tydi o ddim yn big deal bellach, ond mi ddyla fo fod.” Bydd yn rhaid i Y Reu wneud yn fawr o’r haf a darnau bach arall i drefnu gigs felly. Wedi eu holi, Maes B sy’n cael ei enwi gyntaf ac mae’n amlwg eu bod yn edrych ymlaen at Lanelli. Wedi trafodaeth fer maent yn cofio/cytuno eu bod yn chwarae yn Tafwyl hefyd, ond bydd gig gyntaf yr haf o flaen torf wyllt Slot Selar ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd. “Fydd honno’n nyts, fydd rhaid cael ffensys o’n blaen ni yn honno,” meddai Cai wrth edrych ymlaen!
Symudiad
“Does ’na ddim byd yma i’n cadw ni, dim ond budredd a llechi” yw un o linellau arall ‘Haf’, cân sy’n sôn am yr awydd i adael ardal. Roeddwn i’n awyddus i wybod felly os oedd y band yn teimlo fod eu lleoliad daearyddol yn eu caethiwo o ran cynulleidfa a chyfleoedd cerddorol. “Dim ond yn y gogledd ’da ni ’di gneud gigs,” eglura Math. “Dim ond un ’da ni di neud yn y de, yng Nghlwb Ifor, ond fydd hynny’n newid yr haf yma efo Maes B ac ati.” “Fyswn i’n licio gneud taith o Gymru ond does ganddom ni’m fan a dim ond un ohonom ni sy’n dreifio!” ychwanega Cai. Yn Lerpwl y mae Math yn y brifysgol felly sut mae’r sin yn Arfon yn cymharu â’r sin ar Lannau Merswy tybed? “Ym... gwahanol! I rêfs fydda i’n mynd fwya’ yn Lerpwl, partis mewn hen warehouses a ballu. Cerddoriaeth electronig felly dwi’n ei fwynhau ond mewn pybs mae’r rhan fwya’ o gigs rownd ffor’ma.”
12
y-selar.co.uk
Wedi dweud hynny, mae yna dipyn o fandiau’n dechrau ymddangos yn ardal Eryri ar hyn o bryd. Mae Y Rhacs yn lleol iawn i Y Reu ac I Fight Lions yn eithaf lleol hefyd. Ydy’r band yn teimlo’n rhan o rywbeth ar gychwyn yn y gogledd orllewin tybed? “Fysa’n neis gweld ’chydig bach o symudiad yn dechra’, meddai Iwan. “Does ’na’m byd ’di digwydd rownd ffor’ma ers Topper ia, does ’na neb rili ’di cael gafael ar bobl.” Yna, wedi trafod y broblem oesol o ddiffyg gwrandawiad mewn gigs dwi’n holi’r hogiau am y sin yng Nghymru yn ehangach. Ac fel techno-geek y band dwi’n awyddus i holi Math am y sin electronig. “Mae yna lot o stwff o gwmpas, ond eto mae’n hawdd defnyddio electroneg fel umberella term achos mae ’na lot o amrywiaeth o fewn hynny. Mae ’na elfen D.I.Y. i stwff electronig. Mae o’n eitha pynci mewn ffordd yn yr ystyr ei fod o’n hawdd i’w greu a does dim rhaid i chdi fod yn dda iawn arno fo.” Yr hyn oedd yn prysur ddod i’r amlwg wrth sgwrsio efo Y Reu oedd eu bod nhw’n ddi flewyn ar dafod ac ychydig yn wahanol. Gyda hynny mewn golwg roeddwn i’n awyddus i wybod beth yw’r uchelgais, felly gan geisio fy ngorau i beidio â swnio fel fy mod yn rhoi cyfweliad swydd iddynt fe holais lle yr hoffen nhw fod mewn pum mlynedd. “Does ’na nunlla i fynd yng Nghymru, dim ond lle mae Yr Ods rwan,” meddai Cai. “Fysan neis cael ein nabod mewn chydig o flynyddoedd,” ychwanega Iwan, “... dim jesd fel “y band ’na” ond fel rhywun wnaeth adael eu marc a dechra’ newid petha ’chydig. Rhywun wnaeth neud petha’ eu ffordd eu hunain.” Mae Math ar y llaw arall wedi hen benderfynu beth yw’r uchafbwynt i unrhyw fand Cymraeg. “Cael fan, dyna di’r freuddwyd, cael fan!”
Î Bê Trydan - Mods a Rocers Pris Gwerthu: £32.00 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Roc / Ton Newydd Cymraeg Prin iawn 1980, SAIN 77S. Cyflwr - Feinyl yn sgleiniog ac yn ardderchog, chwarae’n ardderchog a’r clawr yn dda iawn. Traciau - Mods a Rocers, Di Waith di Fynedd, Mr Urdd Barn Y Selar: Nid y band enwocaf, felly mae’r pris sylweddol yn dal y llygad. Trydan oedd Meic Jones (Gitâr, llais), Garym Jones (Drymiau), Linda Williams (llais), Sharon Jones (Llais), Dafydd Elis (Bas), Carol Jones (Gitâr). Roedd y sengl yma’n un o gyfres senglau Sain yn y cyfnod, oedd a chloriau digon plaen a thebyg i’w gilydd. Wedi dweud hynny mae’n ymddangos yn ôl y lluniau gyda’r record yma fod fersiwn arall o’r clawr ac mae’r pris gwerthu’n awgrymu bod hon yn fersiwn brinnach. Eryr Wen - Manamanamwnci Pris Gwerthu: £43.00 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: LP ‘pop-grymus’ Cymraeg prin o 1987 ar label Sain (Sain 1401M). Caneuon yn cynnwys ... Gloria Tyrd Adre, Y Briodas, Yr Alcoholic Llon, Ceridwen, Heno Heno a mwy Barn Y Selar: Band o gyfnod llwyddiannus iawn cylchgrawn Sgrech ar ddechrau’r 1980au oedd â Chyfarwyddwyr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion, a’r Prifardd Llion Jones ymysg eu haelodau. Rhaid cyfaddef bod rhaid edrych ddwywaith ar y pris gwerthu, ond dyma eu record amlycaf sy’n cynnwys yr enwog ‘Gloria Tyrd Adre’ - enillydd Cân i Gymru 1987. Nia Ben Aur Pris Gwerthu: £20 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Heather Jones, Cleif Harpwood a Sidan Nia Ben Aur - Sain (1019M). Psych asid prog roc Cymraeg - 1975. Cyflwr - Da iawn + Barn Y Selar: Roedd rhaid cynnwys hon gyda sioe gerdd Nia Ben Aur eleni’n dathlu 40 mlynedd ers y perfformiad gwreiddiol yn Eisteddfod Caerfyrddin 1974. Roedd y sioe yn cynnwys sêr mwyaf y sin ar y pryd gan gynnwys aelodau Ac Eraill ac Edward H Dafis. Wedi’i recordio yn Llundain a Llandwrog mae’n cynnwys deunaw o draciau ac yn record fach dda i’r casgliad.
‘Go Ferched’ medd Griff Does dim dwywaith fod y sin yn gyffredinol wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf a go brin mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith i fwy a mwy o artistiaid a cherddorion benywaidd ddod i amlygrwydd yn y cyfnod hwnnw hefyd. Griff Lynch sydd wedi bod yn edrych ar gyfraniad merched i’r sin ar hyn o bryd. Un peth sy’n arwydd o ba mor iach ydi sin gerddoriaeth Cymru ar hyn o bryd ydi’r cynnydd graddol ym mhresenoldeb merched dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae’n galonogol gweld fod yna artistiaid benywaidd cryf ar bob lefel, o’r pop i’r amgen, a’u bod yn cael sylw, nid am eu bod yn ferched, ond gan eu bod yn safonol. Yn hanesyddol mae ‘na lot o gwyno wedi bod fod ‘na “ddim digon o sylw” i artistiaid sy’n ferched ar S4C a Radio Cymru. O ganlyniad mae trefnwyr gigs a’r cyfryngau wedi bod yn dueddol o roi sylw i artist, gan ei bod hi’n ferch. Does dim pwynt rhoi sylw i artistiaid benywaidd er mwyn cael cydbwysedd i raglen, cylchgrawn neu gig, dim ond er mwyn bod yn ‘deg’. Mae hynny yn ei hun yn hollol rywiaethol. Ond bellach dydi’r broblem honno ddim yn codi, oherwydd bod yna ferched safonol yn canu, neu’n chwarae mewn bandiau ym mhob genre. Ar un llaw ma’ artistiaid fel Georgia Ruth, Plu, 9Bach, Greta Isaac a Kizzy Crawford yn cyfleu eu portreadau eu hunain o werin cyfoes, yna ar y llaw arall ma’ Efa Supertramp, Vintage Magpie ac Estrons yn byrlymu o roc a rôl ac agwedd. Yn y canol yn rhywle ma’ artistiaid fel Gwenno Saunders, The Lovely Wars a Casi Wyn yn arbrofi efo pop electronig neu gitâr-aidd, yn ogystal ag ambell i artist sy’n anodd eu categorïo megis band Heledd Watkins, HMS Morris, neu synau hip hop Rufus Mufasa. Y peth mwyaf positif, ydi fy mod i’n sicr wedi anghofio sawl un arall. O’n i’n mynd i orffen yr erthygl yma efo ryw jôc am olchi llestri a smwddio, ond fe wnaeth fy nghariad i fy mherswadio y bysa fo’n ddi-chwaeth ac yn ddiangen. Felly yn lle hynny – GO FERCHED.
y-selar.co.uk
13
Cofiwch Dryweryn Does dim dwywaith mai un o recordiau mwyaf cyffrous y gwanwyn yw EP Y Ffug, Cofiwch Dryweryn. Mae’r rocars o Grymych wedi tynnu blewyn o drwyn ambell un gyda’u caneuon di flewyn ar dafod ers iddynt ffrwydro ar y sin tua blwyddyn yn ôl. Roeddem ni yn Y Selar wedi cyffroi dipyn wrth ddeall fod y record hir ddisgwyliedig wedi ei rhyddhau, ond pan welon ni fod y gwaith celf yn gweddu’n berffaith i’r tiwns tywyll doedd dim amdani ond mynd O Glawr i Glawr.
Dafydd Jones yw’r gŵr sy’n gyfrifol am waith celf Cofiwch Dryweryn ond cyn mynd i holi’r dylunydd am y gwaith fe gafodd Y Selar ychydig o hanes y clawr gan brif leisydd y band, Iolo Selyf. “O’n i ’di gweld bod Dafydd ’di gwneud gwaith anhygoel gydag EP Castro ac albwm Bromas. Wedyn wnaeth Richard [Fflach] ddweud y byddai Daf [ei fab] yn gwneud clawr yr EP i ni ac oedden ni’n hapus gyda ’na gan ein bod wedi gweld y gwaith gwych oedd e’ wedi ei wneud yn y gorffennol. Felly cam eithaf naturiol ac rydyn ni’n hapus iawn ei fod e’ wedi gweithio mas.” Swnio’n broses digon di lol ac atgyfnerthu’r argraff honno a wna sylwadau Dafydd. “Dwi ’di neud sawl gwaith celf i Fflach/Rasp yn ddiweddar, gan gynnwys cloriau Castro a Bromas. Mae’r Ffug yn dod o’r un ardal a finne, felly roedd hi’n gwneud synnwyr i fi gydweithio gyda nhw. Mae’n anhygoel i weld tri band ffantastig, nid yn unig ar label Rasp, ond yn fois o orllewin Cymru. Arwydd da o bethau i ddod gobeithio.” TEYRNGED Tonnau tywyll pigog - syniad eithaf syml sydd yma mewn gwirionedd. Syml ond effeithiol felly roeddwn yn awyddus i wybod gweledigaeth pwy yn union oedd y gwaith. Oedd gan y Ffug syniadau pendant eu hunain neu a oedd gan Dafydd rwydd hynt i wneud fel y mynnai? “Dwi’n credu’n gryf iawn mewn artistic license,” eglura Iolo. “Wnaethon ni roi copi o’r EP iddo fe i wrando a gadael i bethau fynd o fan’na rili. Fe wnaethom ni roi mewnbwn o ran ein bod ni eisiau iddo fe gyfeirio at y syniadau sy’n cael eu cyfleu yng nghân olaf yr EP. Hefyd, o’n i eisiau iddo fe fod yn eithaf dadleuol, rhywbeth eithaf hard hitting.” Fe lwyddodd Dafydd yn hynny o beth heb os ac ef sy’n manylu ar yr union broses o greu’r darn. “Yn gyntaf, wnes i
14
y-selar.co.uk
gynnig tua thri neu bedwar dyluniad digidol. Ond oeddwn i am greu rhywbeth mwy dwfn ac amrwd - i gyd fynd â’r testunau yn y caneuon. Fe wnaeth Nico Dafydd (trefnwr gigs Mafon) sôn am ddefnyddio paent, felly penderfynais arbrofi gyda phaent olew du a gwyn i greu’r olwg o ddŵr (nod i Lyn Celyn). We ni am wead eithaf cras ond iddo hefyd edrych yn bwrpasol. Cafodd y paent wedyn ei ffotograffu mewn ffordd macro i gael effaith drawiadol.” Mae cysylltiad amlwg iawn rhwng y darlun ac enw’r EP ond roedd arddull a chymeriad y gerddoriaeth yn gyffredinol yn ysbrydoliaeth hefyd yn ôl Dafydd. “Mae’r gwaith yn dilyn teitl y CD ond mae’r tonnau miniog a chras yn deyrnged i eiriau caled a bachog Y Ffug hefyd. Roedd y band yn grêt i weithio gyda, a ges i ddigon o fewnbwn wrth Iolo a’r band wrth greu’r dyluniad terfynol.” Gwell oedd dychwelyd at Iolo i holi’r cwestiwn pwysicaf un felly, ydi’r band yn hapus â’r gwaith terfynol? “’Da ni’n eithriadol o hapus. Pan ges i’r e-bost gan Daf o’n i mewn syndod. ’Da ni’n ddiolchgar iawn i Daf, mae e’ wedi llwyddo i ddeall yr EP ac wedi creu darn o waith celf prydferth ac anhygoel sydd yn cydfynd â’r themâu i gyd ac mae hynna’n sgil.” CARIAD DOSBARTH CANOL CYMRU Roedd Iolo eisoes wedi sôn am y cysylltiad rhwng y gwaith celf â thrac olaf yr EP sef ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’. Mae’r gân honno, a’r ymadrodd ‘ anghofiwch Dryweryn’ wedi corddi’r dyfroedd (fel petai) ers i’r band ddechrau ei chwarae hi’n fyw. Nid pawb lwyddodd i ddeall neu werthfawrogi syniadau neu feirniadaeth Y Ffug o Gymry a Chymreictod, ac fe wnaeth hynny yn ei dro atgyfnerthu’r pwynt gwreiddiol mewn ffordd. Tybed felly os chwaraeodd
o glawr i glawr
yr ymateb hwnnw ran wrth benderfynu ar glawr i’r casgliad? Oedd e’ yn eithaf pwysig i ni fod y gwaith celf yn adlewyrchu beth sydd ar yr EP. Mae yna bobl heb cweit deall neu gytuno â gwleidyddiaeth y gân a’n teimladau ni at ddiwylliant a hanes Cymru ac yn bendant, oedden ni eisiau i’r clawr gysylltu â’r trac olaf. A dwi’n meddwl fod Daf wedi llwyddo, ti’n sicr yn gweld y dŵr, y tonnau a’r duwch.” O ystyried themâu’r gân olaf yn enwedig, fe allai’r EP fod wedi ei galw’n ‘Anghofiwch Dryweryn’ yr un mor hawdd, ac yn wir fe wnaeth hynny groesi meddwl Iolo. “Dyna oedd y cynllun gwreiddiol ond wnaethon ni benderfynu fod eironi ‘Cofiwch Dryweryn’ hyd yn oed fwy outrageous. O’n i jysd yn benderfynol rili i pissan pobl off! Erbyn y diwedd, oedden ni jyst am ei gael e’ mas, am iddi gael sylw ac am bobl i ymateb. Dyna sy’n bwysig am gerddoriaeth, fod pobl, nid o angenrheidrwydd ei licio fe, ond yn cwestiynu ac yn ystyried eu barn.” LICIO WALIO Pan mae rhywun yn enwi EP yn Cofiwch Dryweryn, mae’n rhaid bod y ffaith fod yna waith celf parod ar wal ar gyrion Llanrhystud yn croesi meddwl rhywun! Mae’r band wedi manteisio ar y safle enwog ar gyfer peth o’u deunydd hyrwyddo ond oedd yna demtasiwn i ddefnyddio’r wal ei hun fel clawr tybed? “Odd hwnna hefyd yn un o’r syniadau ond o’n i’n meddwl fod hynny ychydig yn rhy amlwg. Mae ’na luniau ohonom ni ar bwys y wal yn y llyfryn tu fewn ond odd gwell gennym ni gael darn o gelf ar y tu blaen. Byddai ffotograff wedi bod braidd yn simplistic, mae hi’n haws cyfleu emosiwn a
theimladau mewn darn o waith celf nag mewn llun.” Digon o emosiwn, oes, ond does yna ddim byd yn flodeuog neis am gerddoriaeth y Ffug. Does fawr o syndod felly iddynt fynd am glawr du a gwyn. “Yn bendant, rydyn ni’n hoff iawn o’r teimlad du a gwyn,” eglura Iolo. “Mae e’ jysd yn cŵl. Dwi’n dueddol o dynnu llunie’ mewn du a gwyn fy hunan. Odd y band yn hoffi’r teimlad grainy, tywyll yna. Dwi’n teimlo ei fod yn ein cyfleu ni fel pobl ac ein cerddoriaeth.” Yn sicr, mae’r tywyllwch yn gweddu’n berffaith i’r gerddoriaeth ond pa mor bwysig yw’r berthynas honno rhwng y gweledol a’r clywedol? “Bydden i’n dweud mai’r gerddoriaeth sydd bwysicaf ond eto ’da ni gyd fel band wastad wedi bod yn hoff o waith celf rili cŵl. Dwi wastad wedi bod yn ffan o waith celf Super Furry Animals, y stwff rili cŵl seicedelig oedden nhw’n ei wneud achos oedd e’ wastad yn mynd gyda’r gerddoriaeth. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig dy fod ti’n rhoi’r ymdrech i mewn i wneud y gwaith yn weledol brydferth ac nid yn unig yn dda i wrando arno.” A beth yw barn Dafydd y dylunydd tybed? “Dwi’n credu fod rhaid i safon y gwaith celf fod yn gydradd â’r gerddoriaeth. Mae gwaith celf da yn help i werthu’r cynnyrch, mae ‘na sawl gwaith lle dwi ’di cerdded mewn i siop recordiau a phrynu CD gan fand dwi erioed ’di clywed, jest achos bod y clawr yn dda - ond falle fod hynny achos mai dyluniwr ydw i!” Does dim angen yr ysgogiad ychwanegol i brynu a gwrando ar Cofiwch Dryweryn ond mae’r gwaith celf yn sicr yn ategu at y cyfanwaith.
y-selar.co.uk
15
Meic Stevens Dyma’r ffordd i fyw 5 albym Meic o’r 80au, ynghyd â Gwymon. CD1 CD2 CD3 CD4 CD5 CD6
: : : : : :
Gwymon Nos du, nos da Gitar yn y twll dan star Lapis Lazuli Gwin a mwg a merched drwg Bywyd ac angau
meic
stevens
Hwn yw’r ail mewn cyfres o dri phecyn o holl recordiadau Meic Stevens, cyhoeddwyd y cyntaf, Disgwyl rhywbeth gwell i ddod, yn 2002
g w i n
a
m w g
a
m e r c h e d d
r
w
g
Chris Jones Albym newydd allan cyn hir ar label Gwymon, un o artistiaid Gorwelion BBC Cymru Mae’r canwr-gyfansoddwr gwerin o Cwm y Glo, Chris Jones, wedi bod yn perfformio caneuon gwerin traddodiadol o Gymru ers ymhell dros 20 mlynedd gan dderbyn y disgrifiad ‘canwr baledi cyfoes’. Daeth ar draws caneuon tra’n fyfyriwr coleg yn Lloegr ac mewn gwyliau a sesiynau gwerin ar hyd a lled Prydain – yn wreiddiol canwr baledi di-gyfeiliant oedd Chris, ond yn y blynyddoedd diweddar ychwanegodd gyfeiliant gitar a bouzouki i’r caneuon gan greu trefniannau newydd yn deillio o’r traddodiad gwerin yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n gweld y broses o ganu gwerin fel rhywbeth hanesyddol sydd hefyd yn fyw heddiw ac yn datblygu. Bydd Chris yn rhyddhau albym newydd sbon ar label Gwymon yn fuan iawn.
POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWALES.COM
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com
Sesiwn
#20
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau’n cael ei chynnal am yr ugeinfed tro eleni, a’r ŵyl wedi profi uchafbwyntiau anhygoel, yn ogystal ag amseroedd caled yn y cyfnod hwnnw. Bu’r Selar yn siarad â dwy genhedlaeth o’r trefnwyr – Ywain Myfyr a Branwen Huws.
I
gwylio Super Furry Animals, Bob Geldof, Levellers, Saw Doctors a mawrion eraill ar y Marian, mae Ywain yn cytuno bod y Sesiwn bellach yn nes at weledigaeth gwreiddiol yr ŵyl. “Nôl yn 1992, teithiodd nifer ohonom o Ddolgellau draw i’r Fleadh Choeil yn Sligo, Iwerddon. Gŵyl sy’n denu tua 100,000 o bobl, ac mae cerddoriaeth draddodiadol yn llifo allan o bob tafarn, caffi, siop a thŷ.” “Ar y pryd roedd Huw Dylan, Tony Hodgson, Dan Morris, Elfed ap Gomer a minnau yn aelodau o Gwerinos ac wedi cael tipyn o gyfle i ymweld â sawl gŵyl werin debyg, ac yn ystod ymarfer un noson yn dilyn Sligo, trafodwyd y syniad o gynnal gŵyl werin yn Nolgellau. Cyn pen dim roedd babi newydd wedi ei eni - Sesiwn Fawr Dolgellau.” Mae’r hanes yn un cyfarwydd, tyfodd y Sesiwn Fawr o’r ŵyl fach gymunedol, a gorfod symud o’r sgwâr i leoliad mwy ffurfiol y Marian yn 2002. “Denwyd artistiaid mawr i Ddolgellau ... ond wrth i’r derbyniadau gynyddu, felly hefyd y costau. Cafwyd blynyddoedd o lanw a thrai gyda phenllanw’n llythrennol yng nglaw 2007 a 2008.” “Wedi ymgynghori llawer yn lleol aed ati yn 2011 i drefnu gŵyl unwaith eto. Gŵyl tipyn gwahanol, yn llai, ac yn llawer mwy cymunedol ei naws. Ac ydy, mae hi’n deg dweud bod fformat y penwythnos byth ers hynny yn nes at syniad gwreiddiol yr ŵyl.”
berson o oedran penodol, mae elfen gref o nostalgia ynghlwm â’r geiriau ‘Sesiwn Fawr Dolgellau’. Am rhyw 10 mlynedd o ddiwedd y 1990au hon oedd gŵyl gerddorol flynyddol fwyaf Cymru, ac er y daeth tro ar fyd ar ddiwedd y ddegawd ddiwethaf mae’r ŵyl yn parhau. Beth felly ydy cyfrinach Sesiwn Fawr Dolgellau? “Dw i’n credu mai’r prif resymau y tu ôl i lwyddiant Sesiwn Fawr yw gweledigaeth, y gallu a’r parodrwydd i addasu” meddai Branwen Huws, sy’n un o’r criw ifanc brwdfrydig sydd ynghlwm â’r trefniadau erbyn hyn. “Mae aelodau o’r pwyllgor fel Ywain Myfyr wedi bod yno ers y cychwyn, ac wedi sicrhau fod arlwy’r penwythnos yn datblygu ac yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, a hynny’n ddiflino a gyda’r un awch yn flynyddol.” “Dwi’n cofio rhywun yn dweud wrtha’i rhywdro mai ‘peth hawdd ydy cychwyn pethau, cadw nhw fynd ydy’r gamp’” ychwanega Ywain Myfyr. “Dwn i ddim am hynny ond mi rydan ni wedi llwyddo i gario mlaen trwy pob dim ac mi roedd y blaidd wrth y drws yn llythrennol beth amser yn ôl. Mae’n bwysig i unrhyw ŵyl, ‘Trydydd degawd’ newid, arbrofi ac esblygu.” Er nad oes modd osgoi nostalgia wrth ddathlu pen-blwydd, y Does dim amheuaeth fod hon yn ŵyl sydd wedi arbrofi, a dyfodol ydy’r peth pwysig i griw Sesiwn Fawr yn ôl yr hen ben gweld llawer o newid dros y blynyddoedd. Er bod rhai o’r criw Ywain Myfyr. gwreiddiol yn dal i ymwneud â’r trefniadau, mae ‘na waed newydd “Mae gennym aelodau ifanc brwdfrydig iawn ar ein pwyllgor, ar y pwyllgor bellach, a hwnnw wedi trefnu arlwy sy’n deilwng o sy’n llawn syniadau am y dyfodol a chredaf y gall y Sesiwn Fawr ddathlu dau ddegawd o Sesiwn Fawr, gyda llwyfannau yn Nhŷ gamu mewn i’r trydydd degawd yn hyderus gan wybod fod y Siamas, gardd gefn y Ship a phrif sgwâr y dref. Sesiwn yn saff yn eu dwylo.” “’Da ni wedi gwneud yn siŵr fod lein-yp penwythnos Sesiwn “Ein nod ni bellach yw cynnig llwyfan teilwng i’n cerddoriaeth Fawr 2014 yn chwip o un da! Mae gen ti artistiaid fel Kizzy draddodiadol, yn ogystal â datblygu a gwella’r ŵyl” meddai Crawford, Yws Gwynedd a Georgia Ruth yn canu, yn ogystal â Branwen. bandiau fel Candelas, Cowbois Rhos a Climbing Trees, ac mae’r “Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig ei chadw yn gymharol anhygoel Mike Peters yn canu ar y nos Sadwrn” meddai fach ac yn amrywiol, a pheidio tyfu’n ormodol, Branwen gan sicrhau fod yr ŵyl yn parhau i fod yn un o ‘Sesiwn Fawr Mae yna hefyd flas rhyngwladol gyda un o grwpiau uchafbwyntiau’r calendr cerddorol yng Nghymru.” Dolgellau gwerin gyfoes mwyaf adnabyddus yr Alban, Petebog 18 20 Gorffennaf Faeries, a Plantec o Lydaw, yn ogystal â sesiynau Tocynnau penwythnos - £30 o Sesiwnfawr.co / Y Sgwâr, Dolgellau’ acwstig, ymryson, sgyrsiau a chomedi ar y dydd Sul. Sadwrn.com Ar ôl cyrraedd yr uchelfannau o filoedd yn
y-selar.co.uk
17
Geid i’r Gwyliau
2014 ^ Gw yl Rhif 6
y Mawr Wakestock Pryd: 11 - 13 Gorffennaf Lle: Abersoch, Pen Llŷn Pris: £40 (y dydd) £115 (penwythnos) Beth: Gŵyl sydd bellach yn 14 oed, ac sy’n cyfuno cerddoriaeth wych gyda chwaraeon môr. Er bod yr ŵyl wastad wedi cynnig ambell slot i artistiaid Cymraeg, mae naws llawer mwy Cymreig iddi eleni. Mae pum llwyfan yn yr ŵyl, ac ymysg y perfformwyr eleni mae Alys Williams, Forever Kings, Ywain Gwynedd, Sion Russel Jones, Sŵnami, Candelas ac Yr Ods. Mae enwogion eleni’n cynnwys Tom Odell, Razorlight, John Newman a Charlotte Church. wakestock.co.uk / @WakestockUK
^ Gw yl y Dyn Gwyrdd
Pryd: 14 - 17 Awst Lle: Glanwysg, ger Crughywel Pris: £85 - £159 (am y penwythnos) Beth: Gŵyl fwyaf Cymru sy’n denu 15,000 o bobl i Fannau Brycheiniog erbyn hyn. Mae›r ŵyl yn un eclectig sydd â thuedd werinol, ond sy’n cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth a gweithgareddau amgen. Ymysg y prif artistiaid eleni mae The Waterboys, Beirut, Bill Callahan a First Aid Kit gyda 9Bach, Gareth Bonello a Georgia Ruth Williams yn arwain y cerddorion Cymraeg. greenman.net / @GreenManFest
18
y-selar.co.uk
Pryd: 5 - 7 Medi Lle: Portmeirion Pris: £95 (11-15 oed) £175 (oedolyn) am y penwythnos llawn Beth: Digwyddiad a gynhelir am y drydedd flwyddyn ym mhentref Eidalaidd hyfryd Portmeirion, a gŵyl sy’n prysur wneud enw i’w hun fel un o’r gwyliau ‘bach’ gorau ym Mhrydain. Mae’r enwau mawr cerddorol eleni’n cynnwys Beck, London Grammar, Neneh Cherry ac wrth gwrs Côr y Brythoniaid. Unwaith eto eleni mae criwiau Sŵn, Nyth a Gŵyl Gwydir yn helpu gyda llwyfan Clough, lle bydd llwyth o artistiaid Cymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys Gai Toms, Mr Phormula, Y Pencadlys, Gwenno a Kizzy Crawford ar y nos Wener, ac Yr Ods, Plyci, Sŵnami, Casi Wyn a Geraint Jarman ar y nos Sul. festivalnumber6.com / @festivalnumber6
y Cartrefol ^ Gw yl Cann Office
Pryd: 27 - 28 Mehefin Lle: Tafarn Cann Office, Llangadfan Pris: £10 am y penwythnos (gwersylla am ddim) Beth: Gŵyl fach braf yng nghrombil Canolbarth Cymru yn un o dafarnau enwocaf y wlad. Mae’r ŵyl eleni’n dechrau gyda gig Twmffat ar y nos Wener, cyn symud ymlaen at amrywiaeth o weithgareddau ar y dydd Sadwrn. Mae gweithgareddau plant yng ngofal Bethan Gwanas, Ymryson y Beirdd a cherddoriaeth gan Dan Gilydd, Radio Rhydd, Yr Eira ac Ywain Gwynedd. @CannOffice
Mae’r haf ar fin cyrraedd a hynny’n golygu un peth – llwyth o wyliau cerddorol i edrych ymlaen atyn nhw! Dyma arweiniad Y Selar i rai o’r goreuon eleni... ^ Gw yl Tafwyl
Pryd: 11-18 Gorffennaf Lle: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd Pris: £7 - £10 (gigs unigol), Ffair am ddim Beth: Gŵyl Gymreig fawr y brifddinas sy’n mynd o nerth i nerth, ac sy’n cynnwys mwy o gerddoriaeth nag erioed eleni. Yn ogystal â’r Prif lwyfan, mae Ffair Tafwyl yn cynnwys llwyfan acwstig a phabell gerdd eleni. Mae uchafbwyntiau cerddorol y Ffair yn cynnwys Bryn Fôn, Mynediad am Ddim, Yr Ods, Endaf Gremlin, Y Bandana, Yr Eira, Kizzy Crawford a Steve Eaves. Mae gig yng Nghlwb y Diwc ar y nos Wener gyda Neil Rosser a Catrin Herbert yn ogystal â gig Sŵnami, Ywain Gwynedd ac Y Reu yng Nghlwb Ifor i ddilyn y Ffair fawr. tafwyl.org / @Tafwyl ^ Gw yl Gardd Goll
Pryd: 26-27 Gorffennaf Lle: Plas Newydd, Ynys Môn Pris: £30 (penwythnos) £20 (diwrnod) Beth: Prosiect Dilwyn Llwyd, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Ynys Môn. Gallwn ddisgwyl cerddoriaeth Gymreig a rhyngwladol o’r safon uchaf, ac eisoes wedi’u cadarnhau mae The Joy Formidable, Cian Ciaran, Sen Segur, R-Seiliog, Yucatan, Santiago, Thee Ahs, Sun Up, Palenco a Saron. gwylgarddgoll.com / @GwylGarddGoll13 ^ Gw yl Gwydir
Pryd: 29-30 Awst Lle: Clwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst Pris: £28 (penwythnos) £15 (y dydd) Beth: Gŵyl sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, ac wedi aeddfedu i fod yn un ôl wyliau bach gorau Cymru. Yng nghysgod coedwig Gwydir, mae’n ŵyl sy’n apelio at y miwsôs a’r trefnwyr yn addo elfennau newydd eto eleni. Y prif atyniad eleni fydd Gruff Rhys, ond hefyd wedi eu cyhoeddi mae Candelas, Keys, Sŵnami, Colorama, Gwenno, Cowbois Rhos Botwnnog, Sen Segur, Trwbador, Y Reu, Yr Eira a Memory Clinic. gwylgwydir.com / @GwylGwydir
Y Steddfod Maes B
Pryd: 6 - 9 Awst Lle: Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli Pris: I’w gadarnhau Beth: Mae cerddoriaeth yn rhan amlwg o weithgareddau’r Steddfod eleni gyda gŵyl Maes B ar y Maes peByll o nos Fercher ymlaen yn brif atyniad. Ar ben hynny bydd llwyth o gerddoriaeth acwstig yng Nghaffi Maes B trwy’r wythnos, a Llwyfan y Maes yn gartref i berfformwyr ac artistiaid o bob math. Mae gormod o artistiaid i’w rhestru ond mae prif fandiau Maes B yn cynnwys Yr Ods a Sen Segur ar y nos Fercher, Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas nos Iau, Al Lewis ac Y Bandana nos Wener, ac Endaf Gremlin a Sŵnami yn cloi popeth ar y nos Sadwrn. eisteddfod.org.uk / @maes_b
Gigs Cymdeithas yr Iaith Pryd: 2 - 9 Awst Lle: Thomas Arms, Clwb Rygbi Ffwrnes a’r Kilkenny Cat Pris: £6 - £10 (y gig) Beth: Yn ôl yr arfer mae llwyth o amrywiaeth a phethau arbennig yn gigs y Gymdeithas eleni, fydd yn defnyddio tri lleoliad yn Llanelli. Bydd y band roc chwedlonol, Crys, yn gwneud gig arbennig ar y nos Lun ac Ail Symudiad yn dathlu lansio eu hunangofiant gyda Catsgam yn cefnogi. Bydd nos Wener yn ddathliad o fandiau Sir Gâr gyda Mattoidz. Bromas, Tymbal a’r Banditos. Ymysg yr enwau eraill sy’n perfformio yn ystod yr wythnos mae Gwenno, Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Y Reu, Siddi, Sen Segur, Gareth Bonello, Colorama, Bob Delyn a’r Ebillion, Castro, Yr Eira, Casi Wyn a Breichiau Hir. cymdeithas.org / @cymdeithas
Mwy
o
wylia ôl a Mla u ’n: 6-7 M Gŵyl Ce ehefin fni: 11-14 Llangra nnog Mehefin Gŵyl Er - Llange yri: 14-1 fni 5 Mehe Gŵyl Ar fin - Lla all: 18-2 nrwst 0 Mehe Gŵyl C fi n rug Ma C a e r narfon wr: 23-2 4 Awst - Abert eifi Gŵyl N
y-selar.co.uk
19
Darnau Bach Haf - Y Reu Teimlais fel paffiwr a oedd newydd oroesi deuddeg rownd gyda Muhammad Ali ar ôl clywed y sengl yma am y tro cyntaf. Cyfuniad o batrymau gitâr cymhleth ymosodol ac alawon cofiadwy yw ‘Darnau Bach’. Mae gan y gytgan naws roc 90au gydag adleisiau o Liam Gallagher yn steil canu’r prif leisydd, Iwan Fôn. All rhan arall y sengl ddwbl, ‘Haf’, ddim dechrau gyda sŵn mwy gwahanol. Cordiau steil house yn cael eu chwarae ar Synth sydd yn agor, gyda’r gitârs trwm ddim yn bell ar eu hôl. Hwn ydy’r sŵn yr hoffwn glywed mwy ohono gan Y Reu, cyfuniad o gerddoriaeth electroneg a roc sydd yn sicr o ddal ei dir yn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Mae’r sengl yma bellach ar gael o wefannau lawrlwytho ar draws y we, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei phrynu hi’n barod ar gyfer yr haf. 7/10 Cai Morgan Aoesheddwch? Gramcon Efallai y bydd rhai’n dadlau fod cynnwys y cynnyrch hwn ychydig yn rhyfedd, neu efallai’n sioc i’r system gan nad oes llawer o gynnyrch tebyg yn bodoli yn y sin. Ond, i mi mae Gramcon, trwy gyfrwng ei arddull finimalistaidd a’i synau unigryw, yn llwyddo i ddiddori. Fel cyfanwaith, mae Gramcon wedi llwyddo i greu rhywbeth gwych. O wrando’n fanwl gellir clywed yr ymdrech sydd wedi mynd i gynhyrchu’r holl beth. Dengys yr EP wir ddawn yr artist i fynd â’r gynulleidfa i fyd hollol wahanol trwy ddefnydd o synnau a lleisiau ailadroddus. Creai hyn naws od ar adegau, ond yn sicr, mae’n gwneud y cynnyrch yn ddiddorol dros ben. Mae’n fath o gynnyrch hefyd sy’n gwneud ichi fod eisiau gwrando eto i sylwi ar holl elfennau’r traciau. Mae teimlad o Gymreictod mewn traciau fel ‘Heddwch’ ac mae’r defnydd o riffs yn aros yn y côf mewn traciau fel
‘Brwydrwch’. Ychwanega’r elfennau hyn at ddiddordeb y gwrandawyr gan wneud y cynnyrch yn apelgar iawn. Yn bersonol, buaswn yn gallu gwrando ar hwn am oriau. Dyma rywun sydd wedi llenwi bwlch yn y sin yng Nghymru. Lawrlwythwch a mwynhewch. 7/10 Ifan Prys Effaith Trwsus Lledar Gwyllt Mae’r caneuon y mae Gwyllt wedi eu rhyddhau hyd yn hyn wedi bod yn amrywiol a dweud y lleiaf. ’Da ni ’di clywed roc ysgafn ‘Pwyso a Mesur’ a reggae ‘Dyffryn Nunlle’ ar yr LP aml gyfrannog, O’r Nyth, ac mae’r sengl ddiweddaraf, ‘Effaith Trwsus Lledar’ yn cynnig rhywbeth gwahanol eto. Yma clywn ddylanwadau roc Americanaidd, a’r math o sŵn y byddem yn disgwyl clywed gan fand o’r enw Gwyllt. Mae ’na ddigon o hiwmor yn y geiriau wrth i ni glywed hanes yr artist yn mentro gwisgo pâr o drwsus lledar ei dad am y tro cyntaf, stori sy’n gwneud y gân yn un hwyliog a hawdd gwrando arni. Ac er nad ydi natur y riff agoriadol yn gwbl wreiddiol, mae’r gân yn llwyddo i roi bywyd newydd i hen drawiad. Dyma’r gân gyntaf i ni ei chlywed o’r albwm newydd, Aflonydd, fydd allan dros yr haf. Ac mae un peth yn sicr os yw’r sengl hon yn llinyn mesur, gallwn ddisgwyl mwy o’r annisgwyl. 6/10 Owain Gruffudd I’r Bür Hoff Bau Does ’na ddim byd yn bod ar hon ond does ’na ddim byd arbennig ynddi chwaith. Does yma ddim gwreiddioldeb, fe allai yn hawdd fod yn rywbeth wedi ei godi o siop recordiau ail law yn Berlin, a dyna’r pwynt am wn i. Ydi, mae’r cwbl wedi ei wneud yn dda iawn, wrth gwrs ei fod o, fysa rhywun yn disgwyl dim llai o ystyried y cerddorion galluog sydd ar waith yma. Ond mae’r
syniad o ‘superband’ Cymreig o 2014 yn ffurfio band ffuglennol o Gymru 1974 sy’n chwarae cerddoriaeth Almaenig o gyfnod sydd rhywle yn y canol yn chwalu fy mhen i braidd! Mae’r casgliad yn llwyddo i fod yn ‘arbrofol’ ond eto’n uffernol o hen ffasiwn ar yr un pryd sydd yn dipyn o gamp. Dyna pam dwi’n meddwl fod y prosiect yn ei gyfanrwydd aml blatfform yn un diddorol a chlyfar tu hwnt ond o ystyried y record ar ei thraed ei hun, ar wahân i’r ail drac, ‘Angelika’, tydi hi ddim yn cydio ynof i. Cofnod da o’r holl beth o bosib, ond hel llwch fydd hi gen i ymhen blwyddyn dwi’n ama. 4/10 Gwilym Dwyfor Cofiwch Dryweryn Y Ffug Mae agwedd ac angerdd yn rhywbeth sydd wedi bod ar goll mewn nifer o fandiau Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae ymddangosiad Y Ffug wedi bod yn chwa o awyr iach i’r Sin. Wedi gigio am ’chydig fisoedd, roedd tipyn o gynnwrf wedi adeiladu cyn iddynt ryddhau eu EP cyntaf, Cofiwch Dryweryn. Be’ dwi’n ei fwynhau wrth wrando ar Y Ffug, boed yn fyw neu ar yr EP yma, ydi bod ’na fwriad a datganiad yn eu geiriau. Mae’n braf clywed band sy’n dweud eu dweud - yn canu am bynciau gwleidyddol sy’n eu poeni. O’r holl ganeuon ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’ sy’n sefyll allan. Mae’n codi dau fys ar gymdeithas, ac yn fy atgoffa o rai o ganeuon Datblygu o ran y geiriau. Un o’r llinellau wnaeth fy nharo i yn y gân oedd “Dwedwch pryd a gawn ni anghofio Tryweryn”. Mae’n braf cael neges mewn cân. O ran arddull mae’r band yn chwarae cerddoriaeth roc eitha’ trwm ac amrwd. Mae’r gitâr yn arwain yn gryf a chadarn, ond mae’n braf cael ambell ddarn ysgafnach yma ac acw hefyd. Mae gigio’n sicr wedi talu ei ffordd. Ma’ nhw’n swnio’n dynn, ac yn swnio fel tasa nhw’n credu yn yr hyn ma’ nhw’n ei neud a’i ddeud, ac mae hynny’n mynd yn bell. 8/10 Owain Gruffudd
Merched Mumbai Bromas “Cerddoriaeth sy’n eich cywilyddio os nad y’ch chi’n codi o’ch eistedd a dechrau dawnsio.” Dyna sut mae Bromas yn disgrifio’u sŵn diweddaraf ar eu sengl newydd ‘Merched Mumbai’, ac yn sicr dyna mae’n ei wneud. Dyma’r sengl gyntaf i’w rhyddhau o albwm nesaf y band sef Codi’n Fore fydd mas ym mis Awst. O! Mae’n argoeli’n DDA! Mae ‘na deimlad mwy ffync i’r gân yma na sŵn Bromas yn ddiweddar, mae’n llawn egni ac yn dangos datblygiad clir yng ngherddoriaeth y band o’r Gorllewin. Mae’n teimlo fel bod Bromas wir yn dod i nabod eu hunan a’u steil, ac mae hwnna’n beth da. Sengl fydd yn sicr yn plesio… a nawr, dwi wir methu aros i’r albwm newydd! 7/10 Lowri Johnston Arthur Plu Mae gan y sengl yma naws bron yn seicedelig sydd yn amhosib peidio ei hoffi. Y peth cyntaf i mi feddwl amdano wrth wrando arni oedd Green Day! Atgoffodd y riff gitâr agoriadol fi o’r trac ‘Wake me up when September Ends’, ond dyma’r tro cyntaf a’r olaf i’r triawd o Fethel gael eu cymharu â’r triawd roc pync o California. Ond o ddifrif, mae ‘Arthur’ yn sengl ddisglair sydd wir yn arwain y gad ochr yn ochr â Georgia Ruth, Kizzy Crawford a’r Gentle Good yn y twf newydd yma o werin cyffrous Cymraeg sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Gyda harmonïau hudolus ynghyd â riffs gitâr ailadroddus ac unawdydd ffidl, mae’r trac 3 munud 50 eiliad yma drosodd o fewn chwinciad sydd wastad yn arwydd da. Ewch i lawrlwytho’r sengl am ddim o wefan SoundCloud Plu, wnewch ddim difaru. 8/10 Cai Morgan
I Fight Lions I Fight Lions Mae’n arwydd da pan dwi’n cychwyn gwrando ar albwm i’w hadolygu ac yn sydyn reit dwi ar fy nhraed yn sgrechen ‘lle dwi ’di bod a pham dwi heb wrando ar I Fight Lions o’r blaen?!’ Ie, dyna’n union sydd wedi digwydd i mi heddiw. Lle dwi ’di bod? Lle y’ chi ’di bod? A lle ma’ I Fight Lions ‘di bod?! Dyma’r albwm cyntaf gan y band o ardal Llanberis ac mae’n dda iawn. Dim albwm cyntaf gan ‘fand newydd di-brofiad’ yw hon o bell ffordd. Mae’r sŵn yn dynn, y caneuon yn un epic ar ôl y llall, geiriau gwreiddiol clyfar, digon o roc, gitâr a drymio gwych a dwi ddim eisiau eistedd fan hyn yn sgwennu dwishe bod mewn gig I Fight Lions! Fy hoff fand newydd! Mae’n albwm ddwyieithog ac mae’r 12 cân yn llifo o un i’r llall a phob un yn unigryw ond yn gyfanwaith campus. Dwi’n hoff yn enwedig o ‘Carousels’, ‘Dy Dalent ar Waith’, a ‘Chwil a Chwerw’. Oce - dwi’n licio’r cyfan. Prynwch o wefan y band a rhowch anrheg hyfryd i’ch clustiau. Nawrte - lle mae’r gig nesaf?! 8/10 Lowri Johnston Cymud Mr Phormula Mae Ed Holden, a.k.a Mr Phormula yn ôl efo albwm 12 trac dwyieithog o rapio, hip-hopio a bocsio bît. Ar Cymud mae Mr Phormula yn edrych ar ddwy ochr y gyllell o’r byd hip-hop fel petai. Ar un llaw, mae’n frawdoliaeth byd eang sy’n rhoi teimlad o berthyn, ac ar y llaw arall mae yna agwedd, mae yna deimlad o egsclwsifiti a chau pobl allan, y siarad stryd sy’n siarad gwag. Mae Mr Phormula hefyd yn defnyddio Cymud fel platfform i gynrychioli ei hun, ei iaith a’i wlad, a hynny gyda geiriau telynegol ei hun a rhai ei gyfranwyr - sy’n cynnwys rhai o enwau mwyaf y sin hip hop ym Mhrydain gan gynnwys BVA, Leaf
AID O Dog o’r grŵp Four Owls. RHRAND GW Mae yna lwyth o samplau amrywiol ar yr albwm hefyd - piano, electronica, lleisiau swynol a cherddoriaeth glasurol, sy’n golygu bod gan bob trac haenau o synau, ac mae rhywun yn sylwi ar rywbeth newydd gyda phob gwrandawiad. Dyma albwm cyfoethog, mentrus, hyderus a hoffus. 9/10 Casia Wiliam
Tincian 9Bach Fe ŵyr ffans 9Bach mai caneuon gwerin traddodiadol ydy eu forté nhw. Felly sut bydd albwm o ganeuon gwreiddiol yn plesio? ‘Lliwiau’, y sengl gyntaf, sy’n agor yr albwm ac heb os mae’n eich paratoi am yr hyn sydd i ddod ar weddill y casgliad; caneuon sydd, er eu bod nhw’n wreiddiol, yn atseinio undonedd caneuon gwerin. Yma mae alawon sy’n aros yn y cof yn hawdd iawn. Bu’r cam i gyfeiriad gwahanol yn un llwyddiannus. Yr unig gŵyn sydd gen i yw bod y caneuon ychydig yn rhy hir. Does dim un ohonynt yn llai na phedwar munud ac mae hynny’n teimlo’n hir mewn ambell gân araf ac ailadroddus. Mae un gân Groeg arni, ac er nad oes gen i syniad beth sy’n cael ei ddweud rwy’n mwynhau. Felly os dyma’r profiad y bydd gweddill y byd yn ei gael o wrando ar Tincian, ’dw i’n siŵr y bydd hi’n gwneud yn dda iawn. 8/10 Lois Gwenllian Dal dy Wên Talmai Wow. Do’n i ddim yn siŵr be’ i ddisgwyl wrth wasgu play ar sengl newydd Talmai, ‘Dal dy Wên’, ond do’n i ddim yn disgwyl hyn! Mae ‘Dal dy Wên’ yn awgrymu rhyw gân serch sentimental ond mi dduda i wrtha chi rŵan – does ’na ddim siwgr ar hon. Dyma faled roc/metal uchelgeisiol, bwerus a rhythmic. Mae gan y ddau brif ganwr leisiau cryf a phwerus sy’n gweddu i’r Mwy trosodd
drymiau trwm a’r gitâr iasol. Maen nhw’n hanner herio efo cordiau llon melodig cyn tynnu’r carped dan draed y gwrandawr wrth blymio i iseldiroedd tywyll a lleddf. Ffwoo, stwff pwerus. Mae’n f’atgoffa i ychydig bach o 3 Doors Down (cofio rheiny?!), ychydig bach o Eryr (cofio rheiny ta?!), ac ychydig bach o faledau mwyaf epig Meat Loaf. Wel, be’ gewch chi well na hynna? Dwi’n edrych ymlaen at wrando ar yr albwm (fydd allan ym mis Hydref 2014) i glywed beth arall sydd gan y band diddorol yma i’w gynnig. 7/10 Casia Wiliam ‘Difaru Dim Byd’ a ‘Crafangau’ – Fleur de Lys Ar y gwrandawiad cyntaf, ‘Difaru Dim Byd’ yw’r un o’r ddwy sengl newydd yma gan Fleur de Lys sydd yn dal sylw rhywun. Honno ydi’r gân bop daclusaf, mae tincian y piano’n rhoi naws hapus, bositif iddi ac mae hi’n hymian o asbri ieuenctid. Carpe diem iawn a braf clywed band ifanc yn canu am rywbeth sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae’r gitâr a’r bas yn fwy blaenllaw yn ‘Crafangau’ ac mae hon fymryn tywyllach o ran sŵn a thestun, yn symud yn nes at y palmant na ‘Difaru Dim Byd’ o bosib. Un peth sy’n nodweddu’r ddwy sengl, ydi perfformiad lleisiol cryf, tydi o ddim mor ‘neis’ yn ‘Crafangau’ ond dwi’n meddwl mai dyna pam mai hon oedd fy ffefryn i erbyn y diwedd. 6/10 Gwilym Dwyfor
Heulwen o Hiraeth Al Lewis Band Mae popeth am Al Lewis yn daclus. Mae ei gerddoriaeth wastad yn safonol – caneuon bachog, wedi eu cynhyrchu’n dda. Mae ganddo fo lais da, byth allan o diwn, ac mae hyd yn oed pob blewyn yn ei le ar y pen golygus yna. Does ‘na ddim oll o’i le ar ei albwm diweddaraf – agoriad bywiog ‘Heno yn y Lion’, uchafbwynt diweddglo ‘Heulwen o Hiraeth’ (gaiff ei chwarae hyd syrffed ar Radio Cymru) a
‘Chwarae Cuddio’, ‘Palu Tyllau’ a ‘Byth yn Agor’ Breichiau Hir Criw anwadal yw bois Breichiau Hir. Maent yn diflannu am gyfnodau meithion, cyn ailymddangos eto i’n synnu gyda chaneuon newydd. Eleni, mae’r criw o Gaerdydd eisoes wedi rhyddhau tair sengl mewn cyfnod byr, ac wedi eu cynnig i ni i gyd am ddim. Mae’r sengl gyntaf, ‘Chwarae Cuddio’, yn wahanol iawn i’w sain trwm cyfarwydd. Gyda llaw fedrus Gruff o Sŵnami (Crash.Disco gynt) wrthi’n cynhyrchu, mae yna sglein broffesiynol i’r trac, ac alaw iasoer sy’n codi’r blewiach mân ar gefn eich gwddf. Cân digon derbyniol yw’r ail sengl, ‘Palu Tyllau’, ond dyw hi ddim yn fy syfrdanu fel y gwna’r ddwy arall. Weithiau, meddyliaf fod y band yn gallu colli eu momentwm yn eu stwff stiwdio, ac mae’n drueni nad oes modd chwistrellu’r egni hynny sy’n eu gwneud yn fand mor wefreiddiol ar lwyfan i mewn i’r cynnyrch maent yn eu recordio. Does gan Steffan Dafydd ddim o’r llais cryfaf, ond yn fyw, efe yw’r ffrynt man bywiocaf dwi erioed wedi ei weld. ‘Byth yn Agor’ yw fy ffefryn personol o’r tair sengl. Mae’r gitâr acwstig sy’n esblygu’n glatsh o gitars trwm ar y dechrau’n drawiadol, gan dawelu’r gweiddi herfeiddiol yn yr un modd i
chasgliad o ganeuon bach digon da yn y canol. Ydy o’n beth drwg mai’r dair cyfyr, ‘Esmeralda’, ‘Salem yn y Wlad’ a ‘Gwlith y Wawr’ ydy fy ffefrynnau, neu a ddylid canmol Al Lewis Band am eu dehongliad gwreiddiol o ganeuon y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Endaf Emlyn a Big Leaves? Taclus iawn, ond fedrai’m helpu teimlo fyswn i rhywdro’n hoffi cael sypreis gan Al. Crew cyt erbyn yr albwm nesa ella? 6/10 Owain Schiavone
gloi. Gwelwn ôl arbrofi ac aeddfedu ar y traciau hyn, er ei bod hi’n anodd gweld sut y byddent yn gweithio fel casgliad. Fodd bynnag, os ydy Breichiau Hir yn bwriadu parhau i ryddhau caneuon mor safonol, mae’n bryd iddynt ddechrau hawlio tâl teg amdanynt. 7/10 Miriam Elin Jones I’r Dim Llwybr Llaethog Mae I’r Dim ychydig fel y popcorn yna ’da chi’n ei wneud eich hun yn y microdon. Mae o’n neis ac yn dipyn gwell na sawl snacsan arall sydd ar gael ond tydi o ddim yr un peth â’r popcorn go iawn ’da chi’n ei gael yn y sinema. Hynny ydi, band byw ydi Llwybr Llaethog i mi. Dwi wrth fy modd bob tro mae yna CD newydd yn dod o stabl Neud nid Deud, a theimlad ‘cartref’ yr holl beth, ond os oes ’na ddewis rhwng gwrando yn y tŷ neu ddawnsio’n wallgo’ tan oriau mân y bore, mae’r dewis yn un hawdd. Ar y gwrandawiad cyntaf dyma fi’n dechrau meddwl, ew, mae’r trac cyntaf ’ma braidd yn hir... Roeddwn i wedi cyrraedd trac rhif naw! Mae yma 17 i gyd ond alla’i ddim enwi ffefryn gan fod y cwbl yn toddi i mewn i un freuddwyd hir o dub ac electronica.Peth da fel popcorn ’di peth felly. 7/10 Gwilym Dwyfor
hysbys 570 selar 2014 190x138mm_562 12/05/2014 12:39 Page 1
• Prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2015 • Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Neuadd Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru
PRIFYSGOL BANGOR YN ARWAIN AR Y GYMRAEG
www.bangor.ac.uk
• Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01248 382005/383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk www.facebook.com/PrifysgolBangor www.twitter.com/prifysgolbangor
Nos Wener (Ty^ Siamas, 6.30pm) Siddi, The Gentle Good Nos Wener (Gwesty’r Llong, 7pm) Kizzy Crawford, Yws Gwynedd a’r band, Candelas, Peatbog Faeries Nos Wener (Tafarn y Gader, 7pm) Tom Lewis, Calum Duell, Queen Beats Jack Dydd Sadwrn (llwyfan y sgwâr, 12pm) Amser, Bromas, Gwerinos, Cowbois Rhos Botwnnog & mwy! Nos Sadwrn (Gwesty’r Llong, 7pm) Climbing Trees, Y Plebs, Georgia Ruth, Mike Peters, Plantec Nos Sadwrn (Tafarn y Gader, 7pm) Aruchel, Ways Away, I Fight Lions, Turrentine Jones Dydd Sul (T. H. Roberts, 12pm) Setiau acwstig gan amrywiol artistiaid dros amser cinio. Ymryson y Sesiwn. Blodau Gwylltion a Manon Steffan. Noson gomedi gyda Daniel Glyn, Steffan Alun & Beth Angell.
Tocynnau penwythnos yn £30 (£25 cyn Mai 31), ac ar gael i’w prynu o: Awen Meirion, Y Bala Antur ’Stiniog, Blaenau Ffestiniog Siop Y Cymro, Dolgellau Ty^ Siamas, Dolgellau Sadwrn.com, Sesiwnfawr.co
@SesiwnFawr
neu drwy ffonio Emyr Lloyd: 07860 934 722
YN CYFLWYNO GORWELION 12
BABY QUEENS
CANDELAS
CASI
CHRIS JONES
CLIMBING TREES
GABRIELLE MURPHY
HOUDINI DAX
KIZZY CRAWFORD
SEAZOO
PLU
SWNAMI
THE PEOPLE THE POET
12 artist wedi cael eu dewis ar gyfer Gorwelion 2014 – ar lwyfannau gwyliau Cymru dros yr haf Mae Gorwelion yn gynllun gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.
bbc.co.uk/horizons