Help Llaw Pam, sut a lle i fod yn wyrdd
Ymlaen Ceredigion Yr Ail Agraffiad Mis Mehefin 2005
Ymlaen Ceredigion
Cyngor Sir Ceredigion
Mae Ymlaen Ceredigion yn cefnogi datblygiadau sydd yn cael eu harwain gan gymunedau lleol a sydd yn cwrdd â'u hanghenion cymdeithasol ac economaidd tra eu bod yn cymryd canlyniadau yn y dyfodol, gan gynnwys yr angen i wella'r amgylchedd. Mae Ymlaen yn cyfranogi i ddatrysiadau i ddatblygiad ac adfywio cymunedau trwy brosiectau, gan gynnwys prosiectau cymell byw yn iach, ynni cynaliadwy, ailgylchu a lleihau gwastraff, yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau addysg, gwybodaeth ac ymgynghori. Mae Ymlaen hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill ar lefel strategol i hybu datblygiad cynaliadwy ac Agenda 21 Leol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Bob Jaques (Cydlynydd), 15 - 17 Ffordd Portland, Aberystwyth, SY23 2NL Ffôn: 01970 633395 Ffacs: 01970 633392 E-bost: bobj@ymlaenceredigion.org.uk Cysyniad gwreiddiol gan Bob Jaques a Helen Nelson. Diweddariad cynhwysfawr gan Pippa Gallop ac Ivan Posinjak.. Mae Ymlaen Ceredigion yn ddiolchgar i Raglen Ieuenctid Ewropeaidd. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â: ww.connectyouthinternational.com ac i Gyngor Sir Ceredigion am ariannu cynhyrchu'r llyfryn hwn, yn ogystal â'r holl bobl fu o gymorth yn cynnig awgrymiadau ac yn darparu gwybodaeth ar gyfer y cynnwys.
Nodir isod yr amcanion corfforaethol a fabwysiadwyd gan y Cyngor er mwyn trosglwyddo gwasanaethau cost effeithiol o ansawdd uchel: ● Darparu'r cyfle dysgu gorau ar gyfer y Gymuned gyfan ● Datblygu ansawdd bywyd ● Stiwardiaeth o'r amgylchedd ● Hyrwyddo ffyniant economaidd ● Hyrwyddo ymwneud, cyfranogaeth a phartneriaeth er mwyn sicrhau datblygiad cymunedau cryfion yng Ngheredigion ● Darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'r cyhoedd trwy staff sydd wedi eu hyfforddi, eu rheoli a'u hysgogi'n dda a thrwy drydydd person ble y bydd y Cyngor Sir yn gweithredu fel galluogwr Os oes gennych ymholiadau cyffredinol cysylltwch â: 01545 570881, neu ymwelwch â gwefan y cyngor ar www.ceredigion.gov.uk
Ceredigion County Council
Dylunio gan zodshop 01239 711638 l info@zodshopdesign.co.uk. Mae zodshop yn cyflwyno gwasanaeth dylunio unigryw i'r rhai sydd yn cymryd sylw ac yn ymwneud â phynciau amgylcheddol. Rhedwn ein stiwdio yn gyfan gwbl gyda ynni adnewyddadwy (ynni'r gwynt a'r haul). Rydym yn defnyddio papur, argraffwyr a phrosesau sydd yn amgylcheddol gyfeillgar.
Cynnwys Ynni a Chynhesrwydd Arbed dw ˆr Gwastraff: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu Bwyd Siopa Pren, DIY ac Adeiladu Trafnidiaeth Eich gardd (a'r tu hwnt) Arian Gweithredu
Diheuriad Tra bo Ymlaen Ceredigion yn croesawu cyfraniadau y personau a'r mudiadau y cyfeirir atynt yn y llyfryn hwn, nid yw'r ffaith eu bod wedi eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd yn golygu bod Ymlaen Ceredigion yn cefnogi eu gweithgareddau. Mae Ymlaen Ceredigion yn cydnabod y gellid bod wedi cynnwys nifer o fudiadau perthnasol eraill yn y cyhoeddiad, a hoffem bwysleisio nad yw'r ffaith eu bod wedi eu hepgor o'r llyfryn hwn yn awgrymu mewn unrhyw fodd nad yw mudiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr a pherthnasol i ddatblygiad cynaliadwy yng Ngheredigion. Tra gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn yn gywir, ni all Ymlaen Ceredigion dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golledion a wneir gan bersonau neu sefydliadau o ganlyniad i unrhyw wall neu wallau a geir ynddo.
help llaw helping hand
1
Allwch chi fforddio i fod yn wrydd? Bydd rhai o'r awgrymiadau yn y llyfryn hwn yn eich galluogi i arbed arian, fel yr awgrymiadau ar arbed trydan a thanwydd (tudalennau 5,25 -27). Nid oes raid i bethau eraill, fel bancio moesegol (t30-31), ailgylchu (t11-15) neu drosglwyddo i gynllun ynni gwyrdd (t7), gostio mwy i chi. Er hynny, gall rhai eitemau, fel bwyd organig lleol o safon uchel, deunyddiau glanhau neu baent amgylcheddol gyfeillgar (tudalennau 23), gostio mwy. Yr unig ateb yw i wneud yr hyn allwch ei fforddio, ac os y credwch na allwch fforddio rhywbeth, rhoddwch wybod i staff y siop efallai y byddech yn ei brynu pe bai'n rhatach.
Datblygiad cynaliadwy Mae datblygiad cynaliadwy'n golygu "Diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain" (Adroddiad Brundtland, 1987). Nid yw datblygiad cynaliadwy felly yn ymwneud â'r amglchedd yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â gwella ein economi, ein cymunedau, treftadaeth diwylliannol, ein iechyd, ein ansawdd bywyd a'n democratiaeth mewn ffyrdd sydd ddim yn difrodi ein amgylchedd. Mae datblygiad cynaliadwy yn berthnasol i ni fel unigolion yn ein cartrefi, i'n cymuned leol ac i'r byd yn gyfan. Mae'n ymwneud â deall bod yr hyn a wnawn yn lleol yn effeithio nid yn unig arnom ni, ond ar weddill y byd yn ogystal. Mae syniad datblygiad cynaliadwy yn ein hannog i feddwl yn fyd-eang a gweithredu'n lleol i newid pethau er gwell. Tudalennau ar y chwith cynghorion, rhagor o wybodaeth, syniadau-perthnasol i'r cysylltiadau
Eich ôl troed ecolegol Mae'r gofynion a wnawn ar y blaned am adnoddau yn fwy na'r hyn all natur ei gyflenwi; fel gydag arian, mae'n bosibl i ni wario mwy nag yr ydym yn ei ennill - am gyfnod. Mae'n bosibl i ni gyfrifo ein 'ôl troed ecolegol' trwy weithio allan sawl planed y byddem ei hangen pe bai pawb yn byw fel yr ydym ni. Gan ddefnyddio'r dull hwn gallwn weld pa mor anghynaliadwy yw ein ffordd o fyw. Yn fyd-eang rydym yn defnyddio tua 1.2 o blanedau (Adroddiad Planed Byw 2004, WWF) ond pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydym ni yng Nghymru bydd angen bron tair planed i'n cynnal. Darganfyddwch ôl troed ecolegol eich cartref a chofrestrwch eich diddordeb yn y mater ar: www.myfootprint.org. Ôl troed Cymru: www.wwf.org.uk/cymru Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Stuart Bond, WWF Cymru, 01286 676826, sbond@wwf.org.uk
SUT I DDEFNYDDIO'R LLYFRYN HWN Y tudalennau ar y dde yw prif dudalennau'r llyfryn, sy'n nodi cysylltiadau yr hyderwn sydd â rhywbeth i'w gynnig i chi, boed hynny'n gynhyrchion, yn wybodaeth neu'n wasanaethau eraill. money , saving energy ving Conser
for vice d Ad ts an Gran
y Savin Energ
g
ice on 512012 3 cks, adv 0800 rgy che 458 597 e ene nt 0845 t poi free hom contac grants, Centre sures. tion on Advice n mea Informa servatio Efficiency con energy les Energy ncy s Wa rgy Age 2815 the cost West s with es 0 316 les Ene . nts help 080 g Tip hom gra -Wa ugh to of vin Mid -sa ividual ral sources is warm eno nd vation bills? e on ind Energy you arou seve conser fuel r hom Some rmationgrants from uring you can save its lifetime. energy ons and r ES) Info bulb will (HE gy over issi ens ● get e you total much CO 2 em ty bills low ener heating You can energy and cy Scheme 00 to mak focusing of the 574132 How rgy ● A on electrici central heating 2 cien ing reduce 01545 w 28% to £2,7 safe, £65 your cut ene d of sav do to rgy Effi nts of up 072900 down cut your just belo is vital to use ient and s. e Ene 0800 utes it y gra turning 1° C can rgy is Hom rgy effic health risk t. 4123) 614832 contrib the UK, so estic ene rity for ● Just mostat by year. Assembl more ene 0800 test pletely. , cer (Ex ther Welsh per grea Housing ssions in com mer of dom main prio offi 10% the ces fuel war ty 58% with bill by energy applian electrici home is the ons on ive, CO 2 emi home. 3 home seholds estic Grants, the so this ial reducti ch off of dom standby. 456977 impress n, on hou Housing ting, use in ice 0845 ● Swit e than 6% ce hea The potent ssions are ces on annual insulatio old Mor Council and adv B) applian for spa Scheme on your ral is by tion -saving. 400 CO 2 emi ng loft LEC (AEC year 20% ywarm used SWA energy therefore ngs by fitti ng a 15 54 702 informa Building up to ng your cent en Sta 016 her save The erg laci us and savi furt can Pow improvi bills boiler. by rep 15% ion 0 e Conscio ● You costs by up to ment servat savings condensing the averag 727 720 fuel and £20 with controls. 0845 to 32% rgy con for Environ ) ient that een £10 which heating y (CAT betw and up ● Ene an effic t estimates year by tion t.org.uk save g lagging, ecb.net hnolog , to with per Associa l. www.a could Tec www.ca es thick sures. fittin boiler Saving Trus £200 ● You year by dysu y mea rnative dra Cutler. t 3.5 inch save rgy Llan ld ienc leas Alte each at San Ene for ld be er tank. old cou and rgy effic shou Centre lleth, contact househ enting ene st labelling hot wat e your iency Machyn Saving Tru implem r hom : .uk rgy effic el te you energy through Energy veenergy.co pack, ene s. heat Insula rgy Lab appliance about the from on is loses www.sa ing acti lation save an Eneon electrical home tell you are rated least insu . cal sav ope l ucts Eur this labe retailers must s Prod do to A typi 'G' the ing wall Energy information for ilers : Gett gs you can and appliance ent and Look turers ls 35% al reta thin general electrical most effici Manufac of many the ● Wal of the best electric bulbs. icity being d save r one Local rgy light efficiency with 'A' n coul energy s. Electr 'G', bills.You heat bs low ene insulatio al bulb 'A' to Save t bul : Loft your heating(8 inches) buying convention f 25% efficient. m on ing ligh 490340 ey by n res ● Roo up to 15% ld be 200m with an 01789 rgy-sav ty and mon longer tha and sto you n shou g this sheep's ● Ene electrici times ed Icel insulatio sider doinl such as ut ten Select com) Save . Con eria att. last abo thick ive mat e. They w.savaw : alternat mafleec 10% ows is plugs UK Ltd (ww s Ther l on dow woo wind d , win awatt rigerati 15% doors and and coul ll ● Ref A Plug' Sav ughts to insta proofing bill. ● Dra 'SAV t ● Firs
th Warm y and Energ
ght easy ting Drau p and your hea chea on both 40% up to save
5
help
re you Buy whe
help llaw helping hand
Prif dudalennau Tudalennau ar y dde-cysylltiadau
help
llaw
el rgy Lab an Ene energy, Europe help save t to ironmen the env blue sign see the money and
helping
hand
llaw
d g han helpin
Help Llaw?
Pwrpas 'Help Llaw' I gydgasglu cyngor a gwybodaeth ymarferol ynglyˆn â'r hyn y gall pobl yng Ngheredigion ei wneud yn eu cartrefi ac yn eu bywyd bob dydd i: ● Helpu'r amgylchedd ● Cryfhau ein cymunedau ● Cryfhau'r economi lleol
Sut gall y llyfryn hwn helpu? Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys: ● Awgrymiadau Ymarferol ar fod yn 'wyrdd' yng Ngheredigion
Gan gynnwys sut i ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn y cartref, ailgylchu gwastraff, arbed dwr, a gwneud dewisiadau sydd yn amgylcheddol gyfrifol ar gyfer y cartref a DIY. ● Cysylltiadau Lleol all helpu ● Cynghorion ar arbed arian ● Gwybodaeth Ddefnyddiol ar sut a lle i ddysgu rhagor ^
Fe allwch wneud gwahaniaeth ● Chi sy'n dewis y nwyddau a'r gwasanaethau yr ydych am eu prynu. ● Bydd eich cydbwer chi ac eraill sy'n gwneud dewisiadau tebyg yn
dylanwadu ar yr hyn sydd ar gael ● Un o'r rhesymau pam fod nwyddau a gwasanaethau 'gwyrdd' yn tyfu'n fwy
cyffredin yw oherwydd bod pobl yn eu mynnu ● Mae niwed i'r amgylchedd ond yn digwydd oherwydd bod pobl yn gadael iddo
ddigwydd. ● Hysbysebwch eich hunain, gofynnwch gwestiynau, a gweithredwch yn erbyn
ymarferion anghynaliadwy. ● Pam na ymunwch â phrosiect lleol sy'n cryfhau eich ardal mewn modd
cymdeithasol neu economaidd neu amgylcheddol? ● Beth ydych chi'n ei wneud?
help llaw helping hand
3
FAINT FYDD ARBED YNNI MEWN CARTREFI YN EI WNEUD I LEIHAU GOLLYNGIADAU CO2 A BILIAU TANWYDD? Mae cartrefi'n cyfrannu 28% o gyfanswm gollyngiadau CO2 yn y DU, felly mae'n hanfodol i ostwng ar ddefnydd ynni cartrefi. Defnyddir 58% o ynni yn y cartref ar gyfer cynhesu'r cartref, felly dyma prif flaenoriaeth arbed ynni. Mae'r gostyngiadau dichonol ar filiau tanwydd ac felly ar ollyngiadau CO2 yn drawiadol, gyda arbediadau at 15% trwy osod defnydd ynysu rhag colledion gwres yn y to, ac at 32% trwy amnewid hen fwyler â bwyler cyddwysol effeithlon. Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn amcangyfrif gall y cartref cyffredin arbed £200 y flwyddyn trwy weithredu mesurau effeithiolrwydd ynni.
LABEL YNNI EWROPEAIDD Chwiliwch am y label hwn ar beiriannau trydan. Mae'n rhaid i wneuthurwyr ddweud wrthych am effeithlonrwydd ynni nifer o beiriannau trydan. Caiff eitemau eu graddio o 'A' i 'G', gydag 'A' yn fwyaf effeithlon a 'G' yn lleiaf effeithlon.
Ynni a chynhesrwydd RHAI CYNGHORION ARBED YNNI ● Gall gosod pob bylb golau ynni isel arbed tua £65 ar eich biliau trydan dros fywyd gweithredol y golau. ● Gall troi thermostat eich system gwres canolog i lawr trwy 1° C dorri 10% oddi ar eich bil gwresogi y flwyddyn. ● Diffoddwch beiriannau trydanol yn y cartref yn llwyr. Caiff o leiaf 6% o drydan yn y cartref ei ddefnyddio gan beiriannau sydd ar standby. ● Gallwch arbed at 20% ar eich biliau tanwydd blynyddol trwy wella rheolaeth eich system gwres canolog. ● Gallwch arbed rhwng £10 a £20 bob blwyddyn trwy osod siaced lapio, a ddylid fod â thrwch o 3.5 modfedd o leiaf, ar eich tanc dw ˆ r cynnes. Gosodwch ddefnydd ynysu rhag colledion gwres yn eich cartref. Mae'r cartref cyffredin yn colli gwres trwy: ● Waliau 35%: mae gosod defnydd ynysu yn eich waliau yn un o'r pethau gorau gallwch wneud i arbed ynni gwres. ● Y to 25%: Gall gosod defnydd ynysu yn eich croglofft arbed at 15% ar eich biliau gwresogi. Dylech osod trwch 200m (8 modfedd) o ddefnydd ynysu. Ystyriwch wneud hyd gan ddefnyddio defnydd amgen fel Thermafleece sy wedi'i gwneud o wlân defaid. ● Drafftiau 15%, ffenestri 10%: Mae gosod defnydd ynysu rhag drafftiau ar ddrysau a ffenestri yn rhad ac yn hawdd i'w wneud a gall arbed at 40% ar eich biliau cynhesu.
Label Cymeradwyaeth Effeithlonrwydd Ynni PPrynwch lle y gwelwch yr arwydd glas er mwyn helpu i arbed ynni, arian a’r amgylchedd.
help llaw helping hand
Arbed ynni, arbed arian
Cymorthdaliadau a chyngor ar Gyfer Arbed Ynni ● Pwynt cyswllt cyntaf
Gwybodaeth am gymorthdaliadau, gwasanaeth gwirio ynni cartref rhad ac am ddim, cyngor ar ddulliau arbed ynni. Canolfan Gyngor Effeithlonrwydd Ynni Gorllewin Cymru Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru
0800 512012 0845 458 5973
● Gwybodaeth yngly ˆ n â grantiau unigol
Gallwch dderbyn grantiau gan amryw o ffynonellau i helpu gyda chostau arbed ynni a sicrhau bod eich cartref yn ddigon cynnes. Home Energy Efficiency Scheme Cymorthdaliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol at £2,700 i wneud eich cartref yn gynhesach, yn well o ran effeithlonrwydd defnydd ynni ac yn fwy diogel, gan ganolbwyntio ar gartrefi gyda'r peryglon iechyd mwyaf. Cymorthdaliadau Tai y Cyngor, swyddog ynni Est 4123 SWALEC Cynllun Staywarm Powergen ● Arbed Ynni - gwybodaeth a chyngor bellach Cymdeithas dros Adeiladu yn Amgylcheddol Ymwybodol (AECB) (AECB), Llandysul. www.aecb.net Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) Machynlleth. www.cat.org.uk Ymddiriedolaeth Arbed Ynni www.saveenergy.co.uk Pecyn arbed ynni, labelu effeithiolrwydd ynni a gwybodaeth gyffredinol.
0800 3162815
01545 574132 0800 0729002 0800 614832
0845 4569773 01654 702400 0845 727 7200
Arbed trydan ● Bylbiau golau arbed-ynni
Adwerthwyr trydanol lleol Arbedwch drydan ac arian trwy brynu bylbiau golau ynni isel. Maent yn para am tua deg gwaith yn hirach na bylbiau confensiynol. ● Plygiau oergelloedd Siopau Iceland detholedig 'SAVA Plug' Savawatt UK Ltd (www.savawatt.com)
01789 490340
help llaw helping hand
5
NEWIDIADAU HINSAWDDOL Mae'n debyg mae newidiadau hinsawddol yw'r bygythiad mwyaf difrifol sydd yn wynebu'r byd heddiw. Bydd y dylanwadau yn cael eu profi yn fyd-eang, ond y gwledydd tlotaf yw'r rhai mwyaf clwyfadwy, gyda rhagfynegiadau o 80 miliwn o bobl ychwanegol o dan berygl llifogydd, y rhan fwyaf ohonynt yn Asia. Mae disgwyl i Affrica dioddef gostyngiadau sylweddol yng nghynnyrch cnydau grawn, fel mae hefyd y Dwyrain Canol ac India. Mae'n bosibl bydd 290 miliwn o bobl ychwanegol yn dioddef perygl malaria erbyn y 2080au, gyda Tsieina a Chanolbarth Asia yn debyg o weld y cynnydd mwyaf. Bydd tymheredd twymach, cyfnodau o sychder a llifogydd yn effeithio ar iechyd a ffordd o fyw pobl, ac yn achosi colled di-droi n'ôl sawl rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid. Mae tymhereddau wyneb y ddaear wedi codi trwy 0.6oC ar gyfartaledd dros yr 20fed canrif. Mae'r deng mlynedd fwyaf cynnes a gofnodir i gyd wedi bod ers dechrau'r 1990au. Mae modelau hinsawdd ar hyn o bryd yn rhagfynegi twymo pellach o 1.4 i 5.8oC erbyn diwedd yr 21ain ganrif. Mae rhagfynegiadau hefyd bod lefelau ar gyfartaledd y moroedd yn mynd i godi trwy 9 i 88cm erbyn 2100. Mae Rhaglen Effeithiau Hinsawddol y DU wedi amlinellu pedwar senario dichonol am newidiadau hinsawddol at 2080. Maent yn rhagfynegi bydd Cymru rhwng 1.1 a 2.9oC yn gynhesach, a hefyd bydd stormydd yn fwy aml, lefel y môr yn codi, gaeafau gwlypach a hafau sychach.
CYNLLUNIAU CYFLENWAD TRYDAN GWYRDD Bellach mae gan y DU amrediad o adwerthwyr sy'n cynnig gwahanol fathau o becynnau ynni gwyrdd, yn aml heb gostio mwy i'r prynwyr. Pwrpas achrediad trwy logo Ynni'r Dyfodol, Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yw sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn yr hyn y mae'r cwmnïau yn ei addo. Mae amrywiol gynlluniau tariff cyflenwad gwyrdd ar gael - gallwch ffurfio cytundeb gydag adwerthwyr i gyflenwi pwer gwyrdd: maent yn addo i brynu i mewn yr un faint o bwer a werthir i chi gan gyflenwyr adnewyddadwy. Mae'r math arall o gynlluniau yn gofyn i gwsmeriaid i wneud cyfraniad i ecogronfa neu ecoymddiriedolaeth, trwy ychwanegu rhagor i'w biliau er mwyn cefnogi prosiectau adnewyddadwy.
help llaw helping hand
Ynni a chynhesrwydd Cynghorion Ynni Adnewyddadwy ● Yn gyntaf ceisiwch ostwng eich defnydd ynni i'r isaf bosibl. Cymharwch y costau dichonol o newid i gyflenydd ynni gwyrdd trwy ymweld a: http://energylinx.co.uk/energy/ecodyfi/ ● Mae yna ambell fudd-daliad ar gael gan y llywodraeth ar gyfer osod cyfarpar ynni adnewyddadwy fel paneli ffotofoltäig. Am ragor o fanylion cysylltwch â Chanolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gorllewin Cymru neu Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. ● Mae gosod system cynhesu dw ˆ r gyda'r ynni'r haul yn broffesiynol ar dy cyffredin yn costio rhwng £2,000 a £4,000. Gallwch dalu llai trwy wneud y gwaith gosod y system eich hunain. Gwelwch ganllaw ‘Solar Water Heating: A DIY guide' gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen am fanylion. ● Mae stôf llosgi coed tân fel arfer yn cynnal gwres ar gyfer un ystafell, ond mae'n bosibl hefyd cael bwyler ôl ar gyfer dw ˆ r poeth ac efallai rheiddiaduron. Mae bwyleri gwres canolog, modern, effeithlon sydd yn llosgi coed ar gael. ● Mae bwyleri sydd yn porthi eu hunain yn awtomataidd yn llai o drafferth, ond yn ddrutach. Mae stofiau a bwyleri sydd yn llosgi pelenni coed yn dod yn fwyfwy cyffredin. Gwneir y pelenni coed o wastraff y diwydiant coed a phren, ac maent yn fwy sych na choed tân ac mae ganddynt gynnwys ynni uwch - ond maent yn ddrutach. Gan fod y pelenni y tanwydd hwn o faint cyson safonol, mae'r llosgwyr yn rhedeg yn awtomataidd ac yn llosgi yn lân ac yn effeithlon. Mae stôf llosgi coed i'r cartref yn costio rhwng £500 a £1,000 gan ddibynnu ar ei maint. Mae bwyleri awtomataidd yn ddrutach, rhai miloedd o bunnau mwy na thebyg. Mae cymorthdaliadau 'Clear Skies' (ymwelwch â www.clear-skies.org) ar gael i gyfrannu at gostau systemau gwresogi gyda thanwydd coed.
Ynni Adnewyddadwy
Newidiwch i gynllun ynni ‘Gwyrdd’ ● Cyngor
Cyfeillion y Ddaear Cymru
02920 229577
www.foe.co.uk/campaigns/climate/press_for_change/choose_green_energy
● Cynlluniau tariff cyflenwad gwyrdd
Ecotricity Good Energy (unit(e)) RWE Npower (Juice)
www.ecotricity.co.uk www.good-energy.co.uk
0800 326 100 0845 456 1640 01905 613191
www.npower.co.uk/At_home/Juice-clean_and_green/About_Juice.
PowerGen Scottish and Southern Energy SWALEC SWEB
0500 240 500 0800 028 8552 0800 117 116 0800 328 9026
Adeiladwch ynni adnewyddadwy i mewn cartref ● Cyngor RHAD AC AM DDIM ar Ynni Adnewyddadwy
Canolfan Gyngor Effeithiolrwydd Ynni Gorllewin Cymru Tyrbinau gwynt Cymunedol: Andy Rowlands, EcoDyfi
0800 512012 01654 703 965
● Gosodwyr ynni adnewyddadwy lleol
Alternatives Wales Ltd. Crymych: systemau cynhesu gyda'r ynni'r haul
0845 458 0335
Organic Energy Co. Y Trallwn: systemau cynhesu gyda'r ynni'r haul, stofiau pelenni coed, bwyleri coed tân
0845 458 4076
Beacon Stoves Castellnewydd Emlyn, stofiau pelenni coed, bwyleri coed tân
01559 371 058
Chris Lord-Smith Llanidloes: systemau cynhesu gyda'r ynni'r haul
01686 412 552
Sustainergy, Crymych, tyrbinau gwynt, ffotofoltäig
01239 891 344
Dulas, Machynlleth: tyrbinau gwynt, ffotofoltäig, ynni coed
01654 705 000
West Wales Renewable Energy: tyrbinau gwynt, ffotofoltäig, systemau cynhesu gyda'r ynni'r haul
01974 298851
help llaw helping hand
7
ˆ R YNG NGHEREDIGION DW Dros yr 20 mlynedd diwethaf cynyddodd ein galw am ddw ˆ r yn gyson, gyda llawer ohono yn cael ei wastraffu. Daw ein dw ˆ r yng Ngheredigion o ddwy brif ffynhonnell, sef Llynnoedd Teifi ac o Lechryd ar yr Afon Teifi. Yn ystod cyfnodau o sychdw ˆ r gall tynnu dw ˆ r o'r Teifi achosi gostyngiad yn lefelau dw ˆ r yr afon. Gall prinder dw ˆ r cael dylanwadau sylweddol ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt. Wrth i lefelau dw ˆ r yn yr afonydd cwympo mae lefelau ocsigen yn y dw ˆ r yn cwympo ac mae safleoedd silio pysgod yn dechrau sychu allan, gan achosi poblogaethau pysgod is yn y dyfodol. Mae anifeiliaid sydd angen dw ˆ r i fagu, fel llyffaint a brogaod yn arbennig o hawdd i'w clwyfo gall un flwyddyn sych effeithio ar faint eu poblogaethau am flynyddoedd lawer. Felly po fwyaf o ddw ˆ r y gall cartrefi ei arbed, gorau i gyd i'r bywyd gwyllt yn ein hafonydd..
ˆR Arbed DW ˆR CYNGHORION ARBED DW ● Gall tap sy'n diferu wastraffu hyd at 30 litr o ddw ˆ r y dydd.. Yn aml iawn y cyfan sydd ei angen yw wasier newydd, tasg syml y gallwch ei gwneud eich hunan. Diffoddwch y tap pan fyddwch yn ymolchi neu'n golchi eich dannedd. Efallai yr hoffech hefyd ystyried gosod tapiau chwistrellu sy'n defnyddio llai o ddw ˆ r. ● Arbedwch ddw ˆ r wrth dynnu'r dw ˆ r yn y toiled. Caiff un rhan o dair o'r dw ˆra ddefnyddir yn y cartref ei olchi, yn llythrennol, i lawr y toiled. Gallwch osod potel blastig o faint addas wedi ei llanw â dw ˆ r yn y seston er mwyn defnyddio llai o ddw ˆ r, neu gosodwch ddolen tynnu dw ˆ r addasadwy, neu prynwch doiled defnydd dw ˆ r isel arbennig. ● Gall golchi eich car gyda phibell ddw ˆr ddefnyddio'r un faint â 33 bwced o ddw ˆ r. Gall pibell ddw ˆ r gardd ddefnyddio cymaint â 1,100 litr o ddw ˆr bob awr - cymaint o ddw ˆ r ac y byddai teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn dau ddiwrnod. ● Cymerwch gawod yn lle bath, er bod cawodydd pw ˆ r uchel yn defnyddio tua'r un maint o ddw ˆ r ag mae bath. ● Ceisiwch beidio defnyddio peiriannau golchi dillad na llestri heb eu bod yn llawn. Defnyddiwch ddysgl ar gyfer golchi llestri a cheisiwch osgoi ystreulio'r llestri o dan dap sy'n rhedeg.
ˆ R GLAW DEFNYDDIO DW ● Casgenni dw ˆr Defnyddiwch gasgenni dw ˆ r i gasglu dw ˆ r glaw ar gyfer eich planhigion bydd yn well ganddynt na dw ˆ r tap. ● Systemau casglu dw ˆ r glaw Gallwch osod systemau i gasglu a storio llawer o ddw ˆ r glaw, at ddefnydd yn yr ardd, i olchi dillad ac mewn sestonau toiled. ● Dw ˆ r llwyd Yn ogystal gellir casglu e.e. dw ˆ r golchi dillad, ei hidlo a'i ailddefnyddio mewn sestonau toiled.
help llaw helping hand
Arbed Dw ˆr ^
Effeithiolrwydd dwr ● Mesuryddion dw ˆ r AM DDIM
Dw ˆ r Cymru
www.dwrcymru.com
0800 0520140
● Hysbysu bod y brif biben yn gollwng dw ˆr
Leakline, Dw ˆ r Cymru
0800 281432 0800 0520130
● Cyngor a gwybodaeth yngly ˆr ˆ n ag arbed dw
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Taflenni gwybodaeth www.environment-agency.gov.uk Mae taflenni gwybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnwys llawer o wybodaeth ynglyn ag arbed dwˆ r yn y cartref.
08708 506 506
^ ^ Defnyddio dw r glaw a dw r llwyd
● Casgenni Dw ˆr
Canolfannau garddio a siopau nwyddau haearn lleol ● Cynllun casgenni dw ˆ r cymorthdaledig
Cyngor Sir Ceredigion Mae'r cyngor yn cynnig casgenni dwˆ r am brisiau gostyngol, £13 ar hyn o bryd am gasgen 250-litr, yn cynnwys TAW a chludiant ● Casglu dw ˆ r glaw Celtic Water Management, Ceredigion www.celticwater.co.uk Rain Harvesting Systems Ltd www.rainharvesting.co.uk ● Dw ˆ r llwyd Canolfan y Dechnoleg Amgen
01545 572572
01239 811 465 01453 836 817 01654 702400
Cystlltiadu defnyddiol eraill ● Llinell Llifogydd
0845 9881188
Llinell Asiantaeth yr Amgylchedd gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar rybuddion llifogydd yn eich ardal ynghyd â gwybodaeth gyffredinol. ● Achosion o Lygredd Llinell Frys Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer rhoi gwybod am achosion o lygredd sy'n effeithio ar eich amgylchedd yn lleol a gorlifo afonydd, llynnoedd a nentydd.
0800 807060
help llaw helping hand
9
CANIAU ALWMINIWM
Gwastraff: LLEIHAU
Os ydych yn yfed diodydd mewn caniau alwminiwm, un o'r ffyrdd rhwyddaf a mwyaf effeithlon o leihau'r niwed y mae cynhyrchu'r caniau hynny yn ei achosi i'r amgylchedd yw i'w rhoi yn y banc caniau. Gellir ailgylchu alwminiwm yn ddiderfyn, gan nad yw ailbrosesu yn niweidio ei adeiledd. Yn ogystal alwminiwm yw'r deunydd mwyaf cost-effeithiol i'w ailgylchu. Bydd ailgylchu 1 cilogram o alwminiwm yn arbed 8 cg o bocsit, 4 cg o gynhyrchion cemegol a 14 cilowatt o drydan. Mae ailgylchu alwminiwm yn arwain at arbedion ynni posibl o 95%, yn gostwng lefel gollyngiadau 99% ac yn lleihau'r gwastraff sy'n cael ei roi mewn claddfeydd sbwriel. Mae bron i 60% o'r alwminiwm a ddefnyddir yn y DU wedi cael ei ailgylchu o'r blaen.
Syniadau ar gyfer Lleihau Gwastraff ● Prynwch bethau newydd ond pan fo rhaid. ● A allwch chi ei fenthyg gan ffrind? Neu ei gael yn aillaw? ● Prynwch bethau fydd yn para,a thrwsiwch bethau sydd wedi torri. ● Ceisiwch beidio â phrynu diodydd mewn caniau, tetrapaks na photeli untro. ● Meddyliwch am gael llaeth wedi ei ddanfon at y ty; cysylltwch â'ch llaethdy lleol,yn aml iawn byddant yn danfon mwy na dim ond llaeth. ● Caiff y poteli eu hailddefnyddio a byddwch yn cefnogi busnes lleol. ● Clytiau golchadwy Mae clytiau ailddefnydd sydd yn hawdd i'w defnyddio a'u golchi ar gael erbyn hyn; maent yn well i'n amgylchedd a byddant yn eich costio llai o arian yn y tymor hir na chlytiau untro gwastrafflyd. ● Post Papurach Cysylltwch a'r Mailing Preference Service (Direct Mailing Association), - gallant drefnu i'ch cyfeiriad gael ei ddileu oddi ar tua 90 y cant o restrau postio.
help llaw helping hand
● Pecynnu Yn hytrach na derbyn bagiau plastig bob tro dylech eu hailddefnyddio, neu ddefnyddio bag siopa, chwiliwch am frandiau sy'n defnyddio llai o becynnu, a rhoddwch wybod i siopau eich bod yn gwrthwynebu pecynnu gormodol (bydd rhai pobl yn tynnu pecynnu gormodol a'i adael yn y siop). ● Bagiau nwyddau / neges: Os oes gennych ormodedd o fagiau neges gartref ac os ydynt yn lân ac yn sych, ewch â nhw i siop sydd yn eu hail ddefnyddio. ● Mae batris ar gyfer fflashlampau, teganau, rheolwyr o hirbell, offer gwaith ac yn y blaen yn cynnwys cemegolion sydd yn achosi llygredd os na cheir gwared ohonynt yn gywir. ● Defnyddiwch wasanaethau ail-lenwi: Er enghraifft, gallwch ail-lenwi eich poteli Ecover a Bio-D gyda'r Treehouse TLC yn Aberystwyth. ● Pan fyddwch wedi gorffen ag eitem y gellir ei defnyddio eto, yn hytrach na'i gwaredu, ewch a hi at un o'r sefydliadau gyferbyn fel y gall pobl eraill ei hailddefnyddio. ● Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei brynu, pam eich bod yn ei brynu, a beth sy'n digwydd iddo pan fyddwch yn ei waredu.
Lleihau, Ailddefnyddio
Lleihau ● Gwybodaeth yngly ˆ n â gwastraff
Swyddog Ailgylchu Cyngor Sir Ceredigion 01545 572442 Cylch www.cylch.org.uk 029 2064 7000 Ailgylchu cymunedol yng Nghymru Ymwybyddiaeth Wastraff Cymru www.wasteawarenesswales.org.uk Waste Watch www.wastewatch.org.uk Hyrwyddo gweithredu er lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff ● Clytiau golchadwy Mae gwybodaeth ar glytiau golchadwy a lle i'w prynu yn lleol i'w gweld yn fanwl ar www.ceredigion.gov.uk/ trwy glicio ar Environment > The Real Nappy Project > 6) Where Can I Buy More Real Nappies? Rhai gwerthwyr lleol: Treehouse TLC, Aberystwyth www.treehousewales.co.uk 01970 625116 Matilda, Aberteifi 01239 621120 Little Jems, Castell newydd Emlyn 01239 711188 Madeleine Baldock, Lollipop Children's Products 01974 241354 Alex Hooper, Eco-babes 01239 682225 ● Post Papurach Mailing Preference Service 020 7291 3300 mps@dma.org.uk
Ailddefnyddio
●
● ● ●
●
Mae'r sefydliadau isod yn derbyn eitemau sy'n addas i'w ailddefnyddio. Caiff nwyddau unai eu hailwerthu, gyda'r elw'n mynd i achosion elusennol, neu fe'u defnyddir gan grwpiau difreintiedig. Dodrefn a llawer o eitemau eraill Tîm Ailgylchu a Dodrefn Ceredigion (CRAFT) www.craftrecycling.org.uk Dodrefn a Chelfi Adran Cyfrifiaduron / Trydanol Beiciau / Ar eich Beic Catalog o nwyddau wedi'u hadennill ar werth, a gwybodaeth gyffredinol. Mae CRAFT hefyd yn cynnig 'Storfa Sgrap' lle gall pobl ddewis nwyddau nad oeddent eu heisiau gan bobl eraill gwerthfawrogir cyfraniadau! Offer garddio Mentro Lluest Offer llaw Tools for Self Reliance, grwp Llanelli Casglu, Derek West, Hwlffordd www.tfsrcymru.co.uk Hen sbectolau VisionAid www.vao.org.uk Merched-y-Wawr Optegwyr Siopau elusennol
01970 626532 01970 626388 01970 626996
01970 612114 01269 871133 01348 840074 01293-535016 01970 611 661 Yellow Pages Yellow pages
help llaw helping hand
11
CYFLEUSTERAU AILGYLCHU YNG NGHEREDIGION Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn rhedeg cynlluniau casglu defnydd ailgylchu o ochr y ffordd yn rhai ardaloedd: tu hwnt i'r ardaloedd hyn mae rhaid i bobl parhau i ddefnyddio safleoedd ailgylchu ym meysydd parcio a Safleoedd Mwynder Dinesig ('tipiau'). Mae yna gyfleusterau ailgylchu ledled Ceredigion. Gallwch gael gwybodaeth fanwl am safleoedd ailgylchu gan y swyddog ailgylchu neu ar: http://www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=339 Cynllun Ailgylchu Cefn Gwlad: ar gyfer cymunedau lleol mae'r Cyngor Sir yn cynnig y cyfle i Gynghorau Cymuned neu grwpiau lleol eraill i gael biniau ailgylchu bach er defnydd y gymuned; mae'r grwpiau yn derbyn taliadau am bob tunnell a gasglwyd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r swyddog ailgylchu. Mae gwneud teithiau arbennig yn y car i fynd â defnydd ailgylchu at y safle ailgylchu yn lleihau yr arbediadau ynni a wneir trwy ailgylchu, felly ceisiwch ei gwneud ar yr un pryd â thaith yr oeddech yn barod yn mynd i'w gwneud. Eitemau mawr ac anodd eu trin: os na fedrwch fynd â rhywbeth mawr neu anodd eu trin o'ch cartref i'r safle eich hunain, gallwch drefnu casgliad ar 01545 572 572 neu 01970 633010. Mae yna dâl o £5 am at 6 o bethau am y gwasanaeth hwn.
BLE ALLAI CAEL GWARED YN GYWIR AC YN DDIOGEL O: Fatris? Gallwch fynd â batris celloedd sych ac asid-plwm i'ch safle mwynderau dinesig agosaf. Fatris ceir? Safleoedd Mwynderau Dinesig Glanyrafon, Aberystwyth; Borth; a Cilmaenllwyd, Aberteifi. Paent, farnais a theneuwyr: dylech eu defnyddio lan cyn taflu'r tun gwag i'r ysbwriel. Os nad yw hyn yn bosibl mae safleoedd mwynderau dinesig Borth, a Glanyrafon, Aberystwyth yn derbyn rhywfaint gan gartrefi i'w aildefnyddio ac ailgylchu lle fo'n bosibl, ac mae rhai grwpiau cymunedol yn falch iawn o dderbyn paent dros ben. Ni dderbynnir teiars bellach gan safleoedd claddu sbwriel. Sicrhewch fod y modurdy sydd yn gosod teiars newydd yn cymryd yr hen rai yn ôl. Ni dderbynnir teiars bellach gan safleoedd mwynderau dinesig yng Ngheredigion. Mae'n bosibl bod modurdai yn cymryd hen deiars am dâl. Mae safleoedd mwynderau dinesig yn derbyn rhywfaint o asbestos o adeiladau cartrefol.
help llaw helping hand
Gwastraff: ailgylchu CWESTIYNAU A OFYNNIR YN AML AM AILGYLCHU A GWASTRAFF YNG NGHEREDIGION: ● Ffoniau symudol? Oxfam, Atmobiles, 3 Alexandra Place, Aberystwyth. ● Rhewgelloedd a Rhewgistiau? CRAFT a Safle Mwynderau Dinesig Glanyrafon, Aberystwyth; a Safle Mwynderau Dinesig Y Borth, a Safle Mwynderau Dinesig Cilmaenllwyd, Aberteifi, a Safle Mwynderau Dinesig Llanbedr-pont-steffan. ● Tetrapaks? Yn fuan fydd yna gasgliad o Faes Parcio Machynlleth. Ond mae'n orau oll i beidio â defnyddio Tetrapaks o gwbl os yw'n bosibl. Yn y cyfamser gallwch eu hanfon trwy'r post at Smith, Anderson and Co Ltd. Fettykil Mills, Leslie, Fife, KY6 3AQ. ● Eitemau trydanol? CRAFT, Canolfan Ailgylchu Aberystwyth (Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon) a Safle Mwynderau Dinesig Glanyrafon, Aberystwyth, Safle Mwynderau Dinesig Y Borth, Safle Mwynderau Dinesig Cilmaenllwyd, Aberteifi, Safle Mwynderau Dinesig Llanbedr-pontsteffan a Safle Mwynderau Dinesig Rhydeinon. Os ydych yn prynu eitem drydanol newydd dylai'r siop derbyn eich hen un. ● Hen olew moduron? Clwb Hwylio Aberaeron; a safleoedd mwynderau dinesig Glanyrafon, Aberystwyth; Borth; Cilmaenllwyd, Aberteifi, Llanbedr-pont-steffan a Rhydeinon. ● Cetris inc cyfrifiaduron? Oxfam ● Tiwbiau fflworoleuadau? Canolfan Ailgylchu Aberystwyth, safleoedd mwynderau dinesig.
Ailgylchu
Ailgylchu ● Swyddog Ailgylchu, Cyngor Sir Ceredigion ● Mannau ailgylchu lleol Cyngor Sir Ceredigion
Cewch wybod ble mae eich man ailgylchu agosaf, a beth ellir ei ailgylchu yno. ● Contractwyr ailgylchu sy'n gweithredu yng Ngheredigion Canolfan Ailgylchu Aberystwyth (ARC) Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon Cyngor Sir Gaerfyrddin Llandeilo Cyngor Sir Ceredigion Neuadd y Sir, Aberaeron Ailgylchu Ceredigion Cwm, Iard y Nant, Capel Bangor, Aberystwyth Duo Skip Hire Ger~y~nant, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth Shanks Waste Services Cwmgwili, Caerfyrddin West Coast Recycling Gweithdai Penfoel, Cross Inn, Cei Newydd L.A.S. Waste Ltd Heol Tregaron, Llambed Toucan Recycling Aberystwyth N. Turnbull Cwmscawen, Felinfach, Llambed D.I.Evans Aberteifi Byddin yr Iachawdwriaeth ● Plastigau Amaethyddol L.A.S. Waste Ltd
01545 572442 01545 572572
01970 627203 01558 825391 01545 570442 01970 880800 01970611176 01269 846200 01545 560568 01570 421421 01970 623931 01570 470738 01239 810878 0845 4581999
01570 421421 ● Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol
Cylch
www.cylch.org.uk
029 2064 7000
help llaw helping hand
13
PA MOR AILGYLCHEDIG YW E? Mae peth dryswch ynghylch pa gynhyrchion sy'n cynnwys deunyddiau ailgylchedig, a hyd yn hyn nid oes symbol safonol ar gael i'w clustnodi. Gall y ddolen mobiws a ddangosir yma olygu unai bod y cynnyrch yn cynnwys deunyddiau ailgylchedig neu y gellir ei ailgylchu. Os yw'r symbol yn cynnwys ffigwr canran, yna mae'r cynnyrch yn cynnwys deunydd ailgylchedig, a dynoda'r canran pa gyfran sy'n ailgylchedig. Os na cheir label canran yna mae'n bosibl nad oes unrhyw ddeunydd ailgylchedig yn y cynnyrch. Os yw'r cynnyrch wedi ei labelu'n dda dylai ddweud wrthych pa gyfrannau o wastraff ôl-ddefnyddiwr ac ôlddiwydiannol a gynhwysir yn yr eitem. Gall honiadau annelwig ei fod wedi ei 'ailgylchu' olygu mai prin iawn yw'r cynnwys ailgylchedig. (Cesglir gwastraff ôlddefnyddiwr trwy gynlluniau ailgylchu masnachol a chartref; mae gwastraff ôl-ddiwydiannol yn wastraff ddaw o brosesau diwydiannol, megis torion argraffu neu o felinau papur.)
COMPOSTIO CARTREF Gallwch droi gwastraff o'r gegin a'r ardd yn gompost defnyddiol, ond os yw yn mynd i safle claddu sbwriel ^ mae yn creu methan neu losgnwy, sydd yn nwy 'ty gwydr' cryfach nag y mae deuocsid carbon, yn ogystal â chymryd mwy o ynni i'w drosglwyddo i'r safle. Bydd compost wedi ei greu o'ch gwastraff gardd a chegin yn cyfoethogi eich gardd, yn lleihau'r gwastraff aiff o'ch cartref i gladdfeydd sbwriel, yn arbed arian i chi ar gompost masnachol, ac yn lleihau'r galw am fawn a thrwy hynny ddifetha mawnogydd (gweler tudalen 28). Yn fwy na hynny, gallwch gael biniau compostio rhad, cryno ac effeithiol oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion i'ch helpu i ddechrau arni.
help llaw helping hand
Gwastraff: ailgylchu Prynwch yn Ailgylchedig Mae cynnwys ailgylchedig yn tyfu'n fwyfwy cyffredin mewn eitemau bob dydd i'r cartref. Golyga datblygiadau mewn technoleg y caiff cynhyrchion ailgylchedig eu creu i safon uchel, ac i safon debyg i gynhyrchion sydd wedi eu creu o ddeunyddiau crai, yn aml am yr un pris neu yn rhatach na chynhyrchion crai. Os nad ydych yn sïwr os yw'r peth sydd arnoch ei eisiau prynu ar gael ar ffurf ailgylchedig, ymwelwch â: www.recycledproducts.org.uk. Rhai pwyntiau i'w cofio pan yn dewis cynhyrchion: ● Nid yw symbol ailgylchu ar eitem yn angenrheidiol yn golygu ei bod wedi ei chreu o ddeunyddiau ailgylchedig. Mae'n bosibl mai dim ond nodi bod modd ailgylchu'r deunydd a ddefnyddiwyd y mae. ● Cofiwch edrych beth yw'r canran o wastraff ôl-ddefnyddiwr a gynhwysir yn yr eitem. ● Nid yw papur sy'n honni y daw o ffynonellau wedi eu rheoli'n gynaliadwy yn ailgylchedig, ond yn hytrach daw o blanhigfeydd coed sy'n disodli bioamrywiaeth coedwigoedd hen dyfiant a'u ecosystemau. ● Mae nerth prynwyr yn gweithio pwyswch ar eich siopau a'ch archfarchnadoedd lleol a gofyn iddynt os ydynt yn gwerthu cynnyrch ailgylchedig, ac os nad ydynt, pam ddim?
Gwastraff peryglus yn y Ty Rhithwir Teithiwch o amgylch y 'ty rhithwir' ar wefan Fforwm Cenedlaethol Gwastraff Ty Peryglus (NHHWF) er mwyn dysgu sut y dylech waredu amrediad eang o eitemau cartref allai fod yn beryglus. Cewch eich dychryn sawl sylwedd gwenwynig y gellir ei ganfod yn y cartref, ond byddwch yn falch bod yr NHHWF yn cynnig gwybodaeth ar sut i'w gwaredu gyda'r lleiafswm posibl o wastraff. Ymwelwch â www.nhhwf.org.uk
Ailgylchu
Compostio ● Compostio cartref rhad
Ymgyrch Compostio Cartref, Cyngor Sir Ceredigion 01545 572572 Mae'r cyngor yn cynnig biniau compostio am £12 neu £14 gan gynnwys TAW a chludiant, a thaflen wybodaeth yn rhad ac am ddim. ● Gwybodaeth compostio Canolfan y Dechnoleg Amgen 01654 702400 Enjoy Your Garden, www.environment-agency.gov.uk 08708 506 506 am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ● Casglu gwastraff gardd Cyngor Sir Ceredigion 01545 572572 Os na allwch gompostio eich gwastraff gardd, gall y cyngor ei gasglu gennych am ddim, os dodwch e mewn bagiau pydradwy (ar gael am 25c yr un o swyddfeydd y Cyngor).
Prynu nwyddau wedi eu ailgylch ● Papur wedi'i ailgylchu
Cyflenwadau Swyddfeydd Cambrian, Aberystwyth Cyflenwadau Swyddfeydd Swallow, Aberteifi
01970 626201 01239 621500
● Data-bas 'Prynu'n Ailgylchedig',
Waste Watch www.wastewatch.org.uk > About Us > Buy Recycled GreenChoices www.greenchoices.org Gwybodaeth ar gyfer y rhai hynny sydd am wneud dewisiadau gwyrdd gyda'u pwer pwrcasu. Yn cynnwys nifer o nwyddau wedi eu ailgylchu.
0207 5490 300
Gwaredu gwastraff mewn modd diogel a chyfreithiol ● Cyngor yngly ˆ n â gwastraff peryglus
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 08708 506 506 www.environment-agency.gov.uk Fforwm Cenedlaethol Gwastraff Tyˆ Peryglus (NHHWF) 01132 467584 www.nhhwf.org.uk/ ● Gwaredu sbwriel Safleoedd Amwynder Sifig a chasglu o dai 01545 572572 Cesglir oergelloedd a rhewgelloedd am dâl bychan (£5 ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi, mae'r cyfraddau ar gyfer busnesau yn wahanol). ● Llinell sbwriel wedi ei waredu'n anghyfreithlon 0800 807060 Rhif rhadffôn Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer eu hysbysu am achosion o waredu sbwriel masnachol yn anghyfreithlon. ● Achosion o waredu gwastraff ty yn anghyfreithlon Cyngor Sir Ceredigion 01545 570881
help llaw helping hand
15
PYSGOD Mae dulliau pysgota diwydiannol yn bygwth parhad nifer o bysgod oedd yn arfer bod yn gyffredin, a thrwy hynny ragolygon hirdymor ein diwydiant pysgota. Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei brynu, siaradwch â'ch gwerthwr pysgod lleol. Rhai cynghorion a addaswyd o '10 cyngor' y WWF: ● Prynwch amrywiaeth o wahanol bysgod ● Ceisiwch osgoi'r ffasiwn am feintiau llai ● Prynwch bysgod sydd wedi eu dal yn lleol ● Holwch sut y cafodd eich pysgod eu dal ● Cefnogwch gynlluniau rheoli lleol ● Ceisiwch osgoi mathau sydd dan fygythiad ● Os ydych yn prynu pysgod sydd wedi eu ffermio, dewiswch rai sy'n cael eu ffermio yn y môr agored ● Byddwch yn ofalus gyda phenwaig - mae cyflenwadau Môr Iwerddon dan fygythiad difrifol, er bod cyflenwadau Môr y Gogledd yn doreithiog ● Daliwch ati i ofyn cwestiynau ● Daliwch i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf Ceisiwch osgoi cregyn Aberffro (scallops) - maent yn cael eu casglu trwy dreillio, sy'n achosi difrod amgylcheddol difrifol i wely'r môr. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan ymgyrch WWF www.wwf-uk.org/orca/tips.asp, neu cysylltwch â Chyfeillion Bae Ceredigion ar 01970 871743 neu ymwelwch â www.fraw.org.uk/cbc/index
PAM PRYNU'N LLEOL? Mae gan Geredigion amrediad eang o fwydydd wedi eu cynhyrchu'n lleol i'w cynnig. Gallwch brynu cawsiau arbennig, cig oen lleol, cig eidion Gwartheg Duon Cymreig o'r ansawdd gorau, menyn, hufen a gwinoedd, ac mae llawer o'r cynnyrch yma'n organig. Gwerthir y bwyd lleol yma trwy siopau fferm, cynlluniau bocs, cydweithfaoedd cynhyrchwyr ac adwerthwyr lleol, Marchnadoedd Ffermwyr a ffeiriau bwyd trwy'r sir. Mae'r rhain i gyd yn cynnig cydadwaith a chydweithiad uchel rhwng y cynhyrchydd â'r defnyddiwr ac yn helpu cadw cymunedau yn fywiog. Trwy brynu gan ffermwyr lleol, siopau llysiau a ffrwythau ar y stryd fawr, Swyddfa'r Post a siopau'r pentref gallwn helpu i atal y dirywiad amaethyddol ac yng ngwasanaethau cefn gwlad. Mae prynu yn lleol yn helpu cynnal amrywiaeth ac i gefnogi cynhyrchwyr graddfa fach sy wedi gweld eu marchnadoedd yn culhau yn ddramatig ers i'r archfarchnadoedd ennill canran enfawr o'r farchnad. Mae siopau a marchnadoedd lleol yn cadw arian yn yr economi lleol oherwydd eu bod yn gallu defnyddio cynnyrch a masnachwyr lleol ac mae'r elw yn aros yn yr ardal, yn lle mynd i gyfranddalwyr pell.
help llaw helping hand
Siopa Milltiroedd Bwyd Mesurir y pellter y mae'n rhaid i gynnyrch bwyd ei deithio o'r man lle caiff ei gynhyrchu i'r man lle caiff ei fwyta mewn 'milltiroedd bwyd'. Bydd rhaid, yn wastad, i fewnforio rhywfaint o fwyd, ond mae rhaid gofyn ein hunain os ydym yn iawn i ddisgwyl prynu pob math o fwydydd ffres ar bob adeg. Mae cludo bwyd mewn awyren yn cynhyrchu 50 gwaith yn fwy o CO2 nag yw cludo'r un maint o fwyd ar long ac yn gwneud cyfraniad enfawr at newidiadau hinsawddol.Yn ogystal bydd bwydydd yn teithio pellteroedd maith o fewn y DU o'r cynhyrchwr neu'r mewnforiwr, i ganolfannau dosbarthu, at adwerthwyr, ac i'n cartrefi. Mae un astudiaeth wedi amcangyfrif bod mewnforio cynnyrch bwyd a phorthiant anifeiliaid y DU yn golygu cludiant ar y môr, yn yr awyr ac ar y ffyrdd o dros 83 biliwn tunnell-cilomedr, gan ddefnyddio 1.6 biliwn litr o danwydd, ac yn creu gollyng iadau o 4.1 miliwn o dunelli o ddeuocsid carbon. Mae'r teulu cyffredin o bedwar yn nodweddiadol yn achosi gollyngiad o 4.2 tunnell o CO2 o'i dÿ, 4.4 tunnell wrth deithio, ac 8 tunnell i gludo bwyd. Yn anffodus mae'r drefn hon yn cael ei hadlewyrchu gyda bwyd organig hefyd. Gan nad oes treth ar danwydd awyrennau, mae'n aml yn rhatach i adwerthwyr mewnforio bwyd sydd wedi'i dyfu ar raddfa anferth, tramor, lle mae costau llafur yn is nag y mae hi i dalu ffermwyr Prydain i dyfu bwyd. Ar y llaw arall, gall cynnyrch lleol a gaiff ei werthu'n uniongyrchol i siopau lleol deithio dim ond 5 milltir i gyrraedd y defnyddiwr. Bydd yr un cynnyrch gaiff ei werthu trwy archfarchnad leol yn teithio bron i 200 milltir trwy'r ganolfan ddosbarthu i gyrraedd yr un defnyddiwr. Holwch ynghylch marchnadoedd ffermwyr yng Ngheredigion ar www.bbc.co.uk/wales/mid/listings/pages/m arkets.shtml.
Bwyd
Prynu bwyd ● Prynu bwyd lleol ac organig
Siopau a marchnadoedd lleol ● Prynu'n uniongyrchol gan y cynhyrchwr
●
●
●
●
●
●
Dysgwch am siopau fferm lleol, cynlluniau blychau llysiau a chydweithfaoedd organig gan: Mentro Lluest, Aberystwyth Soil Association www.soilassociation.org.uk Cyfarwyddiadur y DU o siopau organig ardystedig. Big Barn. www.bigbarn.co.uk Mapiau o'r DU sy'n nodi siopau fferm, marchnadoedd, ayb yn eich ardal chi. Organics Cambria (cig lleol organig) www.cambrianorganics.com Marchnadoedd Ffermwyr Cydlynydd Marchnadoedd Ffermwyr, Ceredigion Cymdeithas Genedlaethol Marchnadoedd Ffermwyr www.farmersmarkets.net Marchnadoedd cynhyrchwyr eraill Marchnadoedd SYM yng Ngheredigion Gwyliau a ffeiriau bwyd: Gwybodaeth i Dwristiaid Aberaeron Aberystwyth Borth Aberteifi Tregaron Gwefan Twristiaeth Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk Gwybodaeth Gyffredinol am nwyddau organig Canolfan Organig Cymru Prifysgol Aberystwyth www.organic.aber.ac.uk Materion bwyd a ffermio ar draws y DU SUSTAIN (Alliance for Better Food and Farming) www.sustainweb.org Bwydydd wedi eu Haddasu'n Enynnol (GM) Shoppers Guide to GM, Greenpeace www.greenpeace.org.uk/Products/GM/index2.cfm
01970 612114 0117 9290661 01234 871005
01559 363151
01970 828194
01970 612831 01545 570602 01970 612125 01970 871174 01239 613230 01974 298144
01970 622248
020 7837 1228
020 7865 8100
Mae'n cyfeirio at brif frandiau ac archfarchnadoedd gan restru eu cynnyrch yn ôl eu cynnwys GM. Nodir cynnyrch yn ôl côd lliwiau fel y gallwch, os y dymunwch, osgoi bwydydd GM a phrynu bwydydd eraill di-GM.
help llaw helping hand
17
MASNACH DEG Does neb ohonom am brynu pethau sydd wedi eu creu gan weithwyr sy'n cael eu trin yn annheg o ran cyflog ac amodau gwaith, ond dichon eich bod yn cefnogi yr ymarferion hyn gyda'r arian yr ydych yn ei wario. Yn aml mae'r bobl sydd yn gwneud eich dillad ac yn cynhyrchu'ch bwyd yn cael eu talu ond mymryn lleiaf o'r pris adwerthu am eu gwaith. Er enghraifft, mae'r ymgyrch Dillad Glân (Clean Clothes) yn amcangyfrif bod yr un sydd yn gwneud yr esgidiau chwaraeon sydd yn gwerthu am 100 Euro y pâr yn cael ei dalu ond 50 Euro-sent ar gyfartaledd. Hyd yn oed ym Mhrydain mae ffermwyr yn cael eu talu yn llai am eu llaeth nag y mae'n ei chostio i'w cynhyrchu, oherwydd nid oes ganddynt y nerth i fargeinio wrth werthu i'r prosesyddion, ac mae llawer ohonynt yn mynd i'r wal fel canlyniad. Ymwelwch â www.farm.org.uk Gallwch helpu i sicrhau bod cynhyrchwyr coffi, coco, bananas a llawer o wahanol fwydydd eraill yn cael pris cyson a theg trwy brynu nwyddau gyda'r arwydd Masnach Deg 'FAIRTRADE' ac osgoi y rhai yr ydych yn gwybod eu bod yn defnyddio ymarferion annheg, a gadael iddynt wybod pam ar yr un pryd. Mae cynhyrchion 'masnach deg' cyffredinol eraill ar gael gan Oxfam, Traidcraft a mudiadau masnachu eraill. Efallai na fydd y rhain yn cario arwydd masnach deg FAIRTRADE oherwydd nad oes criteria a dderbynnir yn rhyngwladol yn bodoli ar gyfer y fath gynhyrchion. Fodd bynnag, mae yna rhai busnesau eraill sydd yn honni eu bod yn gwerthu nwyddau masnach deg sydd yn anodd i'w cadarnhau heb yr arwydd masnach deg FAIRTRADE.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch: www.fairtrade.org.uk, www.labourbehindthelabel.org, www.maketradefair.org.uk, www.wdm.org.uk
help llaw helping hand
Siopa Cyngor ar sut i osgoi cemegolion a allantfod yn niweidiol: ● Ceisiwch beidio â chael carpedi synthetig, isgarpedi na chlustogwaith sydd yn cynnwys spwng synthetig, lloriau finyl, rwber mandyllog, gorchuddion latecs neu blastig, gan bod y rhain i gyd yn gollwng cyfansoddion organig anweddol (Volatile Organic Compounds (VOCs)), sydd yn cyfrannu at lygredd yn yr awyr, sydd yn gysylltiedig ag asthema a phroblemau anadlu eraill. ● Ceisiwch beidio â defnyddio nwyddau glanhau'r cartref sydd gyda channydd clorin (Sodiwm hypochlorit) fel un o'r cynhwysion. Mae cannydd clorin yn llidiwr ysgyfaint a llygaid. Mae'n fwy diogel defnyddio cannydd di-glorin megis perocsid hydrogen i wynnu dillad. Defnyddiwch nwyddau glanwaith a misglwyf papur heb eu gwynnu, neu defnyddiwch 'mooncups'. ● Prynwch fwyd a dillad organig i osgoi defnydd niweidiol o gemegolion yn y diwydiant amaethyddol. ● Ceisiwch osgoi defnyddio nwyddau glanhau sydd yn cynnwys ffosffadau. Mae ffosffadau yn fwynau sy'n gweithredu fel meddalyddion dw ˆ r mewn cynhyrchion glanhau. Maent yn ogystal yn gweithredu fel gwrteithiau. Pan ryddheir ffosffadau i gyrsiau dw ˆ r meant yn achosi twf cyflym mewn algâu, sy'n arwain at lygredd. ● Osgowch gynhyrchion gyda ffthalates yn eu cynhwysion fel farnais ewinedd, sydd fel arfer yn cynnwys DBP (deubiwtyl-ffthalad). Cysylltir DBP (deubiwtyl-ffthalad) â phroblemau atgynhyrchu.
Prynu dillad
Prynu dillad ● Dillad 'Moesegol'
Alotaorganics www.alotaorganics.co.uk Cysylltiadau â chyflenwyr dillad organig, 'heb greulondeb' a masnach deg. Treehouse TLC, 3 Eastgate, Aberystwyth Dillad organig Cwmni dillad Howies www.howies.co.uk
01970 625116 01239 61 41 22
● Prynwch o siopau elusennol lleol
Yellow Pages Mae gan lawer o elusennau siopau ar y stryd fawr sy'n gwerthu dillad ail-law o safon dda yn ogystal â nwyddau eraill.
Nwyddau amgylcheddol gyfeillgar ● Cylchgrawn Ethical Consumer
www.ethicalconsumer.org Cylchgrawn a gwefan ar gyfer pobl sy'n pryderu am effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol eu harferion siopa. Mae'n cynnwys 'bargeinion gorau' ar gyfer amrediad eang o nwyddau. ● GreenChoices www.greenchoices.org Canllaw i amrediad eang o nwyddau, ynghyd â gwybodaeth gyffredinol, i'r rheini sydd am ddefnyddio eu pw ˆ er pwrcasu i leihau eu effaith ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang. ● Nwyddau glanhau amgylcheddol gyfeillgar Siopau bwydydd cyflawn lleol ac adwerthwyr eraill Ecozone.www.ecozone.co.uk Greenbrands. www.greenbrands.co.uk ● Pethau ymolchi naturiol a 'heb greulondeb' Siopau bwydydd cyflawn lleol ac adwerthwyr eraill Spirit of Nature. www.spiritofnature.co.uk Napiers. www.napiers.net
0161 226 2929
0845 230 4200 01892 616 871
0870 725 9885 0131 343 6683
Masnac deg ● Gwybodaeth ar nwyddau, pynciau llosg ac ymgyrchoedd masnach deg
'Trade for Life' Cymorth Cristnogol www.christian-aid.org.uk www.fish.co.uk Fair Trade Foundation www.fairtrade.org.uk Labour Behind the Label www.labourbehindthelabel.org Ymgyrch 'Make Trade Fair' Oxfam www.maketradefair.com Fair Do's Ltd (Traidcraft products) www.fairdo.com Traidcraft, Caerdydd www.traidcraft.co.uk
020 7523 2225
01603 610993 029 2022 2066 029 2022 2066
help llaw helping hand
19
DINISTRIO COEDWIGOEDD Yn ôl asesiad ym 1997 gan Athrofa Adnoddau y Byd (World Resources Institute (WRI)) dim ond un pumed o goedwigoedd gwreiddiol y byd sydd ar ôl fel eco systemau mawr, eithaf naturiol, ac mae'r gweddill wedi'i glirio yn llwyr neu wedi'i wneud yn glytwaith o goedwig lai o faint ac yn llai amrywiaethol. Mae 39% o'r coedwigoedd sydd ar ôl o dan fygythiad gweithgareddau dyn fel torri'r coed yn foncyffion. Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, yn 2001 roedd 60% o bren trofannol oedd yn cael ei fewnforio i'r DU wedi cael ei dorri'n foncyffion yn anghyfreithlon, naill ai gyda gwybodaeth neu heb yn wybod i'r mewnforwyr. ARWYDDION GOBEITHIOL Oherwydd dwyn pwysau gan ddefnyddwyr a grwpiau amgylcheddol mae yna rhai gwelliannau i'r sefyllfa. Mae cynllun ardystio pren y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (Forest Stewardship Council (FSC)) yn darparu fframwaith ar gyfer gwelliannau mewn rheolaeth coedwigoedd, a dyma'r canllaw gorau sy'n bodoli i gynaliadwyaeth coed a phren. Chwiliwch am yr arwydd FSC pryd bynnag yr ydych yn prynu cynnyrch pren a choed. OND CADWCH OLWG AM BREN WEDI EI DORRI'N ANGHYFREITHLON Dywed grwpiau amgylcheddol bod 60% o bob pren trofannol sy'n dod i mewn i Brydain yn anghyfreithlon, boed y mewnforwyr yn ymwybodol o hynny neu beidio. Y llynedd mewnforiodd Prydain tua £10m o bren o Gamerw ˆ n, y credir i lawer ohono gael ei dorri'n anghyfreithiol. Y prif fath o bren gaiff ei fewnforio o Gamerwn ac a gaiff ei werthu gan lawer o fasnachwyr coed Prydeinig yw pren sapele, a ddefnyddir yn aml yn lle mahogani neu tîc, ac a ddefnyddir ar gyfer lloriau, drysau, ffenestri, argaenau, dodrefn ac eirch. Ar hyn o bryd nid oes gan yr FSC gynllun yng Ngorllewin Affrica.
help llaw helping hand
Pren,diy ac adeiladu PREN LLEOL Mae pren Cymreig yn cael ei ddefnyddio gan nifer cynyddol o fusnesau ar gyfer gwaith coed megis drysau, ffenestri a grisiau, yn ogystal ac ar gyfer dodrefn, lloriau a chladin. Yn aml caiff pren saernïol ei fewnforio, ond parheir i ddefnyddio pren derw Cymreig mewn llawer o adeiladau. Caiff y mwyafrif o goetiroedd cynhyrchu pren lleol eu rheoli mewn modd cynaliadwy, felly mae pren lleol gan amlaf yn ddewis da i bobl sy'n pryderu am effeithiau amgylcheddol eu gwaith adeiladu a DIY. Mae Coed Cymru (www.coedcymru.org.uk) yn hyrwyddo ychwanegu gwerth at goetiroedd Cymru trwy dynnu cynnyrch coed a phren ohonynt gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy. Bydd hyn yn cynyddu gwerth coetiroedd i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ac mae o fudd i'r economi a'r bywyd gwyllt lleol. FSC Trademark ©1996 Forest Stewardship Council AC.
PREN WEDI EI ACHREDU GAN YR FSC Mae logo'r FSC yn clustnodi nwyddau sy'n cynnwys coed o goedwigoedd wedi eu rheoli'n dda sydd wedi eu ardystio'n annibynnol yn unol â rheolau y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd.
Pren, DIY ac Adeiladu
Nwyddau coed a phren ● Prynu pren o ffynonellau lleol
Gan amlaf caiff coetiroedd lleol eu rheoli'n dda, felly ble bynnag y bo modd y rheol aur pan yn prynu pren yw i 'brynu'n lleol'. Os na allwch gael gafael ar bren o ffynhonnell leol, ceisiwch brynu cynnyrch wedi ei achredu gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC). ● Cyfarwyddiadur o nwyddau pren a choed lleol Coed Ceredigion, gan Coed Cymru 01545 572140 nigelp@ceredigion.gov.uk Cyfarwyddiadur rhad ac am ddim o ffynonellau lleol cynaliadwy o bren, dodrefn, siarcol a chynnyrch eraill. Rhestrir rhai o adnoddau Pren Ceredigion islaw Saernïaeth Griffiths 01970 624418 Pren Cefnllwyn Timber www.cefnllwyntimber.co.uk 01974 831560 Gwasanaeth Llifio y Melinwr, Coed Llambed, 01570 423800 Melin Llifio Bwlch 01545 560895 Grwp Coetir Nanteos 01974 261198 ● Amrywiad o wasanaethau a chynnyrch y coed a chefn gwlad. Crefftau Coedlan Cwm Cafn 01570 471417 Treeborne sgandy@treeborne.co.uk 01970 820092 Dylunio dodrefn, celfi a gitarau o waith llaw unigryw, drud a phrydferth. Steve Gates 01974 821414 Marchnatwr pren a choed lleol, dodrefn a chelfi o waith llaw, adeiladau hamdden. Gwasanaethau Gema - Arwyddion Creadigol 01970 890326 Arwyddion o unrhyw faint, ffont neu ffurf, wedi'u cerfio neu'u ysgythru gan ddefnyddio pren caled Cymreig. Dodrefn D.E. Designs 01239 851271 Dodrefn a Chelfi (darnau unigol a thraddodiadol) ceginau Gwaeth Saer ac Asiedydd Bae Ceredigion (Cabinetry and Joinery) www.cardigan-bay-joinery.co.uk 01239 623564 Dodrefn y Sgubor / The Barn Furniture www.the-barn.com 01570 423526 ● Cynnyrch pren o ffynonellau cynaliadwy Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd www.fsc-uk.info 01686 413916 (Forest Stewardship Council) Os na allwch ddod o hyd i'r cynnyrch yr ydych ei angen gyda chynhyrchwyr a gwerthwyr cynnyrch pren cynaliadwy lleol, mae'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd yn darparu rhestrau o werthwyr trwy'r DU sy'n cyflenwi cynnyrch wedi eu creu o bren a achredwyd gan yr FSC.
● Adwerthwyr pren FSC yn y DU
canghennau lleol
Yellow Pages
● Siarcol barbeciw
canghennau lleol Siarcol wedi ei gynhyrchu o goetir a reolir yn lleol Siarcol o goetiroedd wedi eu achredu gan yr FSC
Modurdai lleol Yellow Pages
help llaw helping hand
21
CYFANSODDAU ORGANIG ANWEDDOL (VOC'S) Defnyddiwch baent, farnais, codwyr paent ayb sydd yn amgylcheddol gyfeillgar. Cadwch lygad am gynhyrchion gan wneuthurwyr paent confensiynol sy'n honni eu bod yn 'aroglau isel', yn 'ddi-VOC' neu'n seiliedig ar ddw ˆ r - mae'r rhain mewn gwirionedd yn cynnwys mwy o gemegolion synthetig, sy'n deillio o'r diwydiant petrocemegol, na'r rhai y maent yn eu disodli.
MATHAU O BAENT Cawn ein hamgylchynu gan baent a gorffeniadau yn y cartref ac yn y gwaith. Golyga ein bod yn gynyddol agored i gemegau, ac mae hyn yn achos pryder. Paent Alkyd yw'r paent sail olew mwyaf cyffredin - fe'i defnyddir ar gyfer bondio. Mae paent sylfaen olew ^ anniferol yn cynnwys polywrethan. Mae Paent disglair iawn yn cynnwys mwy o doddyddion na gorffeniadau mat neu satin. Mae gan baent sy'n cynnwys llawer o soledau lai o doddyddion organig, a dyma'r dewis gorau ar gyfer paent synthetig ag iddo sylfaen doddydd. ^ Mae Paent acrylig yn defnyddio dwr fel y prif doddydd a defnyddir resin acrylig fel bond. Mae'r rhan fwyaf o'r paent yma yn ficrofandyllog neu mae'n gadael anwedd trwodd, sy'n caniatáu i'r pren oddi tano anadlu. Gellir osgoi nifer o'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â thoddyddion synthetig a VOC gyda'r ^ paent sail dw r neu baent sy'n isel yn y toddyddion hyn Fodd bynnag, gall cynhyrchu'r paent fod yn fwy niweidiol i'r amgylchedd na chynhyrchu paent confensiynol. Gwneir paent a gorffeniadau naturiol o ddeunyddiau nad oes yn rhaid ychwanegu cemegau gwenwynig atynt er mwyn eu cynhyrchu. Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn bigmentau naturiol ac olewau had llin safonol. Mae'r rhan fwyaf o baent naturiol yn datgan yr holl gynhwysion ar y tun - pur anaml y gwelwch chi gynhyrchwyr paent confensiynol yn gwneud hyn. Mae adeiladau iach yn anadlu ac mae paent a gorffeniadau naturiol yn cyfrannu at yr ansawdd anadlu hwn, yn hytrach na selio arwyneb y deunyddiau, fel y gwna'r rhan fwyaf o orffeniadau confensiynol.
help llaw helping hand
Pren,diy ac adeiladu BETH ALLWCH CHI EI WNEUD Gallwch wneud llawer i leihau effeithiau niweidiol eich prosiectau addurno, DIY ac adeiladu ar yr amgylchedd. Nodir rhai syniadau isod; gellir derbyn rhagor o wybodaeth gan y mannau cyswllt a restrir yn yr adran hon. ● Ceisiwch adfer hen bren ac adnewyddu hen ddodrefn yn lle prynu'n newydd. ● Defnyddiwch bren a gynhyrchwyd yn lleol pryd bynnag y bo modd. ● Os y defnyddiwch bren wedi ei fewnforio prynwch gynhyrchion wedi eu achredu gan yr FSC. ● Ceisiwch beidio â defnyddio coed tîc newydd, mahogani neu bren haenog o Dde-orllewin Asia. ● Peidiwch â defnyddio Bwrdd ffeibrau dwysedd canolfaint (MDF) am ei fod yn cynnwys fformaldehyd wrea a ni ddylid byth cael ei losgi. (Friends of the Earth Good Wood Book) ● Gosodwch inswleiddio digonol, a cheisiwch ddefnyddio cynhyrchion megis papur wast (Warmcel) neu wlân defaid. ● Os oes gennych baent dros ben, rhowch ef i grwpiau lleol neu i Community Repaint, fel y gallant ei ailddefnyddio.
Pren, DIY ac Adeiladu
Adeiladu ● Gwybodaeth a chyngor ar ddeunyddiau adeiladu
Y Gymdeithas er Codi Adeiladau sy'n Llesol i'r Amgylchedd, Llandysul www.aecb.net Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth www.cat.org.uk Canolfan Eco Gorllewin Cymru, Trefdraeth www.ecocentre.org.uk ● Deunyddiau Inswleiddio Gwlân Defaid Thermafleece www.secondnatureuk.com Papur gwastraff Warmcel www.excelfibre.com
01559 370908 01654 705959 01239 820235
01768 486285 01685 845200
Paent, farnisiau, amddiffynwyr, tynwyr paent, gludion ● Paent sy'n cynnwys lefel isel o VOC a ● Phaent a nwyddau perthnasol eraill sy'n
amgylcheddol gyfeillgar Adwerthwyr a siopau DIY lleol Yellow Pages Canolfan y Dechnoleg Amgen www.cat.org.uk Calch Ty Mawr, Aberhonddu www.lime.org.uk The Green Shop, Swydd Gaerloyw www.greenshop.co.uk Precious Earth, Llwydlo www.preciousearth.co.uk ● Cyfnewidfa paent dieisiau Community Re>Paint, cyswllt agosaf Ailgylchu Ystrad, Abertawe Cynllun Dodrefn Cymunedol Ffenics, Y Drenewydd
01654 705959 01874 658249 01452 770629 01584 878633 01639 841048 01686 623336
Adnewyddu pecynnau batri ● Born Again Batteries, Llandysul
01559 363965
www.communityrepaint.org.uk Gwasanaeth i ddefnyddwyr offer trydan: adnewyddu ac aildrydanu pecynnau batri, sy'n costio llai na phrynu batris newydd.
help llaw helping hand
23
TRAFNIDIAETH YM MHRYDAIN
Trafnidiaeth
Prydain sydd â'r system drafnidiaeth waethaf yn Ewrop, yn ôl adroddiad yn 2001 gan Gomisiwn y DU dros Drafnidiaeth Integredig. Mae 25% o briffyrdd yn dioddef tagfeydd traffig am awr y diwrnod. Mae Prydain â rhai o'r prisiau bws a thrên drutaf. Caiff wyth deg saith y cant o siwrneiau ffyrdd eu gwneud mewn car a dim ond 12% ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y teulu Prydeinig cyffredin yn gwario 15% o'i incwm ar drafnidiaeth.
TRAFNIDIAETH CYMUNEDOL Nid gwasanaethau bws cyffredin yw'r ateb gorau bob amser i anghenion trafnidiaeth cyhoeddus lleol, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell. Mae 'trafnidiaeth cymunedol' yn ffurf mwy hyblyg ar drafnidiaeth, sy'n cydweddu â ac yn bwydo i mewn i'r rhwydwaith bysiau confensiynol. Mae Trafnidiaeth Cymunedol yn cynnwys gwasanaethau bysiau mini gaiff eu darparu gan grwpiau gwirfoddol a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n darparu ar gyfer pobl anabl a grwpiau eraill, y cynllun Deialu Reid a Cheir Cefn Gwlad. Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) yn gweithio i wella trafnidiaeth ar gyfer holl gymunedau Ceredigion. Mae croeso i chi ffonio gyda'ch anghenion a'ch barn. Ymwelwch â www.cavo.org.uk am ragor o fanylion.
DEFNYDD YNNI GWAHANOL DDULLIAU TRAFNIDIAETH. Dull Trafnidiaeth
Car mawr Car bach Trên (cymudwyr) Bws Beic modur Cerdded Beicio
help llaw helping hand
Nifer o bobl a gludi
Defnydd Ynni (MJ) y filltir y teithiwr
1.5 1.5 65% full 50% full 1 1 1
5.35 3.25 0.9 1.0 4.3 0.4 0.1
Trafnidiaeth Cyhoeddus a Chymunedol a Seiclo
Trafnidiaeth cyhoeddus ● Bysiau Llinell Deithio www.traveline-cymru.org.uk Llinell ddwyieithog gwybodaeth bysiau lleol. Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk Amserlenni, prisiau a thocynnau rhatach, gan gynnwys teithio am ddim i bensiynwyr a grwpiau cymwys eraill Parcio a Theithio, Aberystwyth Parcio di-dâl a chludiant am ddim i ganol Aberystwyth.
● Cynlluniau rhannu-lifft Liftshare.com www.liftshare.org Cynllun rhannu-lifft ar draws y DU ar y we. Ymunwch fel unigolyn neu gallwch ddechrau eich grwp lleol eich hun. Cofrestrwch eich siwrnai dros y ffôn.
0870 608 2608 01545 572504 01970 633555
01545 570881
08700 111199
Trafnidiaeth cymunedol ● Gwybodaeth am Drafnidiaeth Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) www.cavo.org.uk
01570 423232
● Ceir Cefn Gwlad Ceredigion Liffts rhad i bobl sydd ag anawsterau trafnidiaeth.
01974 298501
● Deialu Reid, Cyngor yr Henoed
01970 615151
● Rhannu bysiau mini Cyngor Sir Ceredigion, Gwasanaethau Cymdeithasol Defnydd o fysiau mini am ddim ar gyfer grwpiau anabl Clwb Ieuenctid Aberporth Bws mini y clwb ar gael i'w hurio gan grwpiau am £25
01970 617166 01239 810387
Seiclo yng ngheredigion ● Clwb Teithiau Seiclo Ceredigion (CTC) Am wybodaeth a chyngor ynglyˆ n â seiclo a llwybrau seiclo ● Swyddog Seiclo, Cyngor Sir Ceredigion
01239 621275
● Beiciau trydan, Siopau beiciau lleol New Image Bicycles, siop, Mr. Tom Wells Beiciau ar log (yn yr haf), i'w prynu'n newydd ac yn ail-law www.cardiganshirecoastandcountry.com/cycle.htm Cyclemart www.cyclemart.co.uk Beiciau i'w hurio a phrynu'n newydd ac yn ail-law, beiciau trydan CRAFT www.craftrecycling.org.uk Ailgylchu, beiciau ar log, beiciau i'w prynu'n ail-law
Yellow pages 01239 621275
01545 572424
01570 470679 01970 626996
help llaw helping hand
25
COSTAU CUDD CEIR Yn ogystal â'r llygredd a grëir oherwydd ein defnydd ar geir, sydd yn achosi at 24,000 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yn y DU, ac sydd yn cyfrannu 14% i ollyngiadau CO2 y DU, mae'n cymryd cyfanswm anferth o ynni ac adnoddau i'w gwneud. Mae defnyddio ceir yn llai yn rhan o'r ateb ond mae perchen llai o geir yn bwysig hefyd. Gall car 'cyffredin' gynnwys 800 cg o ddur, 180 cg o haearn, 112 cg o blastigau, 86 cg o hylifau, 85 cg o alwminiwm a 62 cg o rwber. Hyd yn oed petai hanner y dur yn dod o sgrap, byddai tua 1.5 tunnell fetrig o fwyn haearn wedi cael ei gloddio i wneud y car, fyddai'n cynhyrchu yn agos i 1 tunnell fetrig o graig wastraff, fyddai'n gorfod cael ei gwaredu. Mae adeiladu car yn defnyddio bron i 150,000 litr o ddw ˆ r, mwy na 100 gwaith ei bwysau. Mae paentio car yn golygu ei drochi mewn baddonau o lanhawyr, ffosffad sinc ac asid cromig a llygrwyr eraill, ac yna ei bobi a'i chwistrellu â phaent sy'n cynnwys toddyddion PVC chwe gwaith. Ni ellir defnyddio'r paent gwastraff eto; gan amlaf caiff ei gladdu mewn claddfa sbwriel. Fod bynnag, gyrru car sy'n cael fwyaf o effaith negyddol ar yr amgylchedd; bob blwyddyn gall car ddefnyddio tua'r un faint o ynni a ddefnyddiwyd i'w gynhyrchu.
TANWYDDION AMGEN Mae defnyddio nwy LPG yn gostwng gollyngiadau CO2 trwy 15% o'i gymharu â phetrol, sydd yn well na dim byd, ond mae'n ddiffyg mawr o'i gymharu â'r gostyngiadau o 60-90% yng ngollyngiadau CO2 sydd eu hangen. Mae'n bosibl rhedeg cerbydau ar Olew Llysiau pur, Bioddiesel neu Bioethanol ar gyfer gollyngiadau CO2 isel iawn. Gallwch ddefnyddio Bioddiesel mewn unrhyw gerbyd diesel, ac fe'i gynhyrchu'r gan ailgylchu olew llysiau. Mae Sundance Renewables, yn cynhyrchu Bioddiesel, yn ei werth (am 86.9c y litr ar hyn o bryd), ac yn trefnu cludiadau. Hefyd mae'n bosibl addasu peiriannau diesel i redeg ar olew llysiau pur. Mae Veg Oil Motoring, yn addasu cerbydau ac mae ganddynt ffynonellau'r tanwydd. Mae Community Biofuels yn cyflenwi olew llysiau sydd wedi'i ailgylchu a'i buro ar gyfer ei ddefnydd mewn cerbydau sydd wedi cael eu haddasu.
help llaw helping hand
Trafnidiaeth Cynghorion ar gyfer Defnyddwyr Ceir ● Ceisiwch beidio â bod yn berchen ar gar, a chymerwch ran mewn cynlluniau rhannu? lifftiau, neu cymerwch dacsi os oes raid i chi fynd â char. (Ymwelwch â www.liftshare.org) ● Ceisiwch osgoi defnyddio eich car ar gyfer siwrneiau byr; cerddwch, seiclwch neu defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. ● Mae defnyddio tanwyddion glanach, megis petrol sylffwr tra isel, a gosod trawsnewidydd catalytig yn cynorthwyo i leihau'r nifer o lygrwyr a ryddheir gan beipen wacáu eich car. ● Yn ogystal bydd cynnal a chadw eich car yn rheolaidd yn helpu i leihau gollyngiadau, gan y bydd ceir sydd heb eu cynnal yn gywir yn tueddu i ddefnyddio mwy o danwydd ac i gynhyrchu mwy o fwg gwacáu. Os ydych yn cynnal eich car eich hunan cofiwch ailgylchu hen deiars a batris mewn modd diogel. Peidiwch â thywallt eich hen olew i lawr y draen. Mae'n llygru'r amgylchedd a gall arwain at erlyniad. ● Gyrrwch yn fwy effeithlon, gan gadw o fewn cyfyngiadau cyflymder, defnyddiwch y gêr uchaf posibl y mae'r amgylchiadau traffig yn ei ganiatáu bob amser. Osgowch gyflymu'n rhy fuan a brecio'n drwm, mae'r ddau'n arwain at draul tanwydd uwch a mwy o lygredd..
Trafnidiaeth
Ceir ● Petrol a Diesel Ethical Consumer 'Best Buys' www.ethicalconsumer.org Canllaw prynwyr i berfformiad amgylcheddol a moesegol gwahanol gwmnïau tanwydd. ● Cynllun Arafu Cyflymder
www.slower-speeds.org.uk
01239 614556
Ymgyrch i annog pobl i yrru'n arafach, i ddefnyddio llai o danwydd, ac i achosi llai o lygredd.
● Pa gar newydd? Environmental Transport Association (ETA) Mae'r ETA yn cynnig gwasanaeth damweiniau cenedlaethol ac mae'n ymgyrchu dros system drafnidiaeth gadarn a chynaliadwy. Yn ogystal gall yr ETA eich cynghori ynglyn â pha gar i'w brynu er mwyn sicrhau'r perfformiad amgylcheddol gorau posibl. www.eta.co.uk
0800 212810
0193 282 8882
Tanwyddion amgen ● NPH (nwy propane hylifol) Addasiadau Modurdai lleol Gellir addasu motorau petrol a nawr rhai diesel i redeg ar NPH, sy'n rhatach ac yn llai llygrol, mewn modurdai lleol yn Aberystwyth, Llambed, Llwyncelyn, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn. Mae costau addasu'n amrywio o tua £600 i £1,500. Safleoedd ail-lenwi â NPH yng Ngheredigion ac ar draws y DU www.est-powershift.org.uk Nawr mae ymhell dros 1,000 o safleoedd yn y DU sy'n cyflenwi tanwydd NPH, gan gynnwys llawer yng Ngheredigion. ● Olew Llysiau Veg Oil Motoring Community Biofuels
www.vegoilmotoring.com
● Bioddiesel Sundance Renewables www.sundancerenewables.org.uk ● Gwybodaeth Cymdeithas Brydeinig Bio-Danwyddion ac Olewau www.biodiesel.co.uk Veggiepower www.veggiepower.org.uk ● Grantiau ar gyfer addasu i danwyddion glân TransportAction PowerShift www.transportaction.org.uk Efallai y gallwch dderbyn grant i dalu am ran o gostau addasu eich car confensiynol, neu i brynu cerbyd tanwydd glân.
0845 6021425
01239 698237 0845 4589243 01269 842401 01406 350848
0845 6021425
help llaw helping hand
27
DINISTRIO MAWNOGYDD Mae mawnogydd yn rhai o'r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysicaf a mwyaf gwerthfawr. Maent yn gartref i nifer o rywogaethau adar pwysig, planhigion anghyffredin a miloedd o bryfed prin. Dim ond tamaid o gors sydd ar ôl yn y DU. Mae compost wedi ei seilio ar fawn yn cynnwys mawn wedi ei dynnu o rai o'r cynefinoedd bywyd gwyllt gorau yn y DU ac Iwerddon. Mae gwrthwynebiad tuag at y diwydiant mawn dinistriol yn cynyddu; dengys canfyddiadau cylchgrawn Gardeners World y BBC bod 74% o arddwyr yn cefnogi gwaharddiad ar fawn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn anelu i fod yn hollol ddi-fawn, ac mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru'n defnyddio compost di-fawn ac fe'i sefydlwyd heb ddefnyddio mawn i wella'r pridd. Dywed Monty Don, y Garddwr Teledu, 'Bob tro y bydd garddwr yn prynu sach o fawn maent yn uniongyrchol gyfrifol am ddinistrio rhai o'n cynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr. Y dyddiau yma mae digonedd o gynhyrchion da sydd mewn aml i ffordd yn fwy defnyddiol na mawn.' Gellir cael rhagor o wybodaeth am fawn ar wefan Cyfeillion y Ddaear www.foe.co.uk
Eich gardd (a’r tu hwnt) SYNIADAU GARDDIO ● Garddio er budd bywyd gwyllt Mae cynefinoedd lle y gall planhigion ac anifeiliaid gwyllt fyw ynddynt dan fygythiad gan ddatblygiad ac amaethu dwys mewn llawer i ardal yng Ngheredigion. Gall gerddi a rhandiroedd fod yn hafan i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt. ● Corneli gwyllt Er mwyn i ardd fod yn atyniadol i fywyd gwyllt mae angen digon o amrywiaeth o ran planhigion a thirwedd. Bydd gardd sydd yn llawn gwair wedi ei dorri'n fan, palmantu a gwelyau blodau di-chwyn yn llai atyniadol nag un sydd ag ambell i 'gornel wyllt'. Nid oes angen i fannau gwyllt fod yn fawr, a gallant fod yn ddim ond: ● llecyn o wair sydd ond yn cael ei dorri unwaith neu ddwywaith y flwyddyn (fydd ymhen amser yn gartref i flodau gwyllt, pryfed ac anifeiliaid bychain)
CEMEGOLION GARDD Peidiwch â lladd yr adar yn ogystal â'r malwod! Mae amrediad eang o gynhyrchion eraill ar gael ar wahân i beledi lladd malwod confensiynol a phlaladdwyr eraill. Gallwch, er enghraifft, ddefnyddio trapiau cwrw (neu ddiodydd melys) i ddal malwod, neu brynu nematodau (mwydod bychain) sy'n lladd malwod. Gall planhigion penodol atal plâu, clefydon a hyd yn oed rhai mathau o chwyn. Golyga amrywiaeth dda o fywyd gwyllt yn yr ardd y bydd rheibwyr naturiol yn helpu i reoli plâu. Cysylltwch â: The Henry Doubleday Research Association (HDRA), neu The Permaculture Association.
help llaw helping hand
● ambell i goeden a llwyn brodorol (hynny yw, mathau o goed a llwyni sy'n tyfu'n naturiol yn lleol) ● pwll bychan: mae tiroedd gwlybion yn un o'r cynefinoedd sydd dan fwyaf o fygythiad ar draws y byd. ● Peidiwch â bod yn rhy daclus! Os oes modd peidiwch â llosgi 'gwastraff' gardd, mae llosgi'n hybu cynhesu byd-eang ac yn gwastraffu 'bwyd' gardd gwerthfawr. Dylech gompostio gwastraff meddal a thorri gwastraff mwy gwydn yn fân a'i ddefnyddio ar gyfer taenu dan blanhigion neu i greu pentyrrau 'cynefin'. Bydd pentyrrau disylw o dorion gwrych wedi eu gadael i bydru'n hybu toreth o ffyngau, pryfed a'r adar sy'n bwydo arnynt.
Eich Gardd (a'r tu hwnt)
Pa mor wyrdd yw eich bysedd chi ● Garddio er budd bywyd gwyllt Gwybodaeth a chyngor ar fywyd gwyllt a chreu cynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid gwyllt lleol Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark Betws Bledrws, Llanbedr Pont Steffan www.shared-earth-trust.org.uk Cyngor Cefn Gwlad Cymru Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cyrmu ● Prynu compost di-fawn Canolfannau garddio a meithrinfeydd lleol Gwybodaeth ynglyn â deunyddiau amgenach na mawn www.miracle-gone.co.uk ● Compostio cartref rhad Ymgyrch Compostio Cartref, Cyngor Sir Ceredigion Mae'r cyngor yn cynnig biniau compostio am £12 neu £14 yn cynnwys TAW a chludiant, a thaflen wybodaeth am ddim. ● Gwybodaeth compostio Canolfan y Dechnoleg Amgen The Green Book Wales 2002/3 am ddim gan y Western Mail Enjoy Your Garden. am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ● Casglu gwastraff gardd Cyngor Sir Ceredigion Os na allwch gompostio eich gwastraff gardd, gall y cyngor ei gasglu gennych am ddim, os dodwch e mewn bagiau pydradwy (ar gael am 25c yr un o swyddfeydd y Cyngor). ● Garddio ar gyfer bwyd a bywyd gwyllt Cysylltiadau ar gyfer rheoli plâu'n naturiol, dylunio gerddi amgylcheddol, garddio organig a permaculture. Cynnyrch rheoli plâu'n naturiol Canolfannau garddio lleol, siopau nwyddau haearn Henry Doubleday Research Association (HDRA) www.hdra.org.uk Grwp Permaculture Lleol Permaculture Association www.permaculture.org.uk Dyfed Permaculture Farm Trust Gardening for Good Modular Gardening
01570 493358
01970 821100 01239 621212 Yellow Pages
01545 572572
01654 702400 01792 534004 0645 333111 01545 572572
024 7630 3517 01570 480851 0845 4581805 01559 370438 01654 702711 01970 890385
help llaw helping hand
29
Y BWLCH CYNYDDOL RHWNG Y CYFOETHOG A'R TLAWD Yn 2002/03 roedd 12.4 miliwn o bobl ym Mhrydain Fawr (22% o'r boblogaeth) yn byw mewn tyeidiau lle'r oedd yr incwm yn is na 60% o'r incwm canolrifol y DU, ar ôl costau cartrefu. Mae hyn mewn cyferbyniad â ffigyrau 1979 pan oedd 7.1 miliwn (13% o'r boblogaeth yn byw mewn tyeidiau lle'r oedd yr incwm yn is na 60% o'r incwm canolrifol y DU, ar ôl costau cartrefu. Mae anghydraddoldeb rhwng tyeidiau ar draws y byd wedi cynyddu rhwng 1991 a 2001. Yn 2001 roedd incwm y 1% mwyaf cyfoethog yn y byd (50m) yn cyfateb i incwm y 60% (2.7 biliwn) mwyaf tlawd. Aeth holl gynydd incwm y byd dros y degawd diweddaraf at y 20% mwyaf cyfoethog, wrth i incwm y rhai ar y gwaelod mynd i lawr. Cred llawer y bydd globaleiddio yn cynyddu anghydraddoldeb ymhellach. Mae cyhoeddiad milwrol o'r Unol Daleithiau yn rhagweld y bydd 'globaleiddio economi'r byd yn parhau'n ogystal, gyda bwlch cynyddol rhwng y "cyfoethog" a'r "tlawd".' (United Sates Space Command, 1997, Vision for 2020) Beth yw Globaleiddio? Mae cwmnïau mawr, sydd yn ceisio ehangu eu marchnadoedd ar draws y byd, wedi argyhoeddi llywodraethau ledled y byd i arwyddo cytundebau sydd yn caniatáu i'r cwmnïau gweithredu o dan delerau tebyg yn unrhyw fan. Mae hyn yn dda i gorfforaethau mawr ac mae'n gallu arwain at nwyddau rhad i ddefnyddwyr, ond mae'n bygwth marchnadoedd lleol, gan bod y cwmnïau cydwladol yn manteisio ar arbedion maint ac yn symud i le bynnag mae'r costau llafur a chynhyrchu yn rhatach, wrth i'r cynhyrchwyr bach lleol methu â chystadlu â nhw. Mae'n hefyd yn ddinistriol i'r amgylchedd oherwydd bod deddfwriaeth fanwl yn cael ei gweld fel rhwystr i fasnach ac felly ni'i chaniateir, ac oherwydd cludiad nwyddau ar raddfa anferth sydd yn bosibl oherwydd tanwydd rhad ac yn niffyg treth ar danwydd awyrennau. O dan yr amodau hyn mae'n anodd cadw gwahanolrwydd lleol wrth i economïau a diwylliannau cael eu suddo gan y diwylliant rhyngwladol trech. Enghraifft o hyn yw dirywiad afalau Prydeinig, sydd erbyn hyn yn anodd iawn i'w prynu yn y siopau oherwydd mae dim ond ar raddfeydd bach y maent yn cael eu tyfu, sydd o ddim diddordeb i'r archfarchnadoedd.
help llaw helping hand
Arian CEFNOGWCH EICH ECONOMI LLEOL Un ffordd i gadw ein hynodrwydd lleol, a chefnogi busnesau lleol, yw i geisio sicrhau y bydd yr arian a wariwn ac a gynilwn yn aros yn yr ardal, ble y gellir ei fuddsoddi yn ein cymunedau, yn hytrach na chael ei ollwng allan i gwmnïau mawrion wedi eu lleoli mewn ardaloedd eraill neu ar ochr arall y byd. Dyma felly yw'r neges trwy'r llyfryn hwn; prynwch yn lleol ble bynnag y bo modd. UNDEBAU CREDYD - BUDDSODDI YN YR ECONOMI LLEOL Mae undeb credyd yn gweithredu fel banc cymunedol gan ganiatáu i'w aelodau gynilo a benthyca arian ar raddfa llog o 1% y mis (tua 12.68% APR). Mae undebau credyd yn cael eu sefydlu ar hyd a lled y wlad mewn ymateb i gyfraddau llog masnachol afresymol (o hyd at 300% APR) a gwrthod credyd i bobl sydd mewn argyfwng ariannol. Mae undeb credyd wedi newydd gael ei sefydlu ar gyfer Ceredigion. Caiff aelodau eu hannog i gynilo'n rheolaidd er mwyn cymhwyso ar gyfer benthyciadau, ac i fuddsoddi eu cynilon yn y gymuned.
SYSTEM MASNACHU A THROSGLWYDDO LLEOL (LETS) Mae LETS yn fodd o ffeirio eich sgiliau neu nwyddau trwy rwydwaith o aelodau lleol. Mae'r system yn fath o gyfnewid sy'n defnyddio 'arian' lleol i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Mae gan bob aelod gyfrif a llyfr sieciau gaiff ei ddefnyddio i dalu aelodau eraill. Ni chodir llog ar gyfrifon sydd mewn dyled ac anfonir cyfarwyddiadur o nwyddau a gwasanaethau at bob aelod, ac mae ar gael ar eu gwefannau.
Arian
Arian Lleol ● System Masnachu a Throsglwyddo Lleol (LETS) Cyfleoedd LETS Teifi Taf cyfle@teifitaf.org Cyfleoedd LETS Aberystwyth www.aberlets.org.uk Cysylltiad Cyfleoedd / LETS i Gymru www.lets-linkup.com/4112-wales.htm ● Undeb Credyd Ceredigion Ymholiadau Cyffredional Cris Tomos, Antur Teifi Aberteifi a De Ceredigion John Southern Llanbedr-pont-steffan Ivor Williams
01545 580528
01239 710238 01239 621408 01570 422441
Cymorth a chyngor ariannol ● Canolfannau Cynghori Cyngor ynglyn â phroblemau ariannol, dyled, budd-daliadau, ayb.
01239 613707 01970 612817
● Cyngor budd-daliadau Gall y sefydliadau isod gynnig cyngor ar faterion penodol sy'n berthnasol i fudd-daliadau gwladol, budd-daliadau tai, ayb Cyngor yr Henoed Aberteifi Aberystwyth Aberaeron
01239 615777 01970 615151 01545 570055
Gofal a Chynnal Ceredigion Care and Repair www.careandrepair.org.uk Cyngor Sir Ceredigion- Budd-daliadau Tai Adran Pensiynau a Gwaith
01970 639915 01970 633252 01970 653800
help llaw helping hand
31
DEFNYDDIWCH FANCIAU A GWASANAETHAU ARIANNOL 'MOESEGOL' Mae nifer o fanciau a sefydliadau eraill bellach yn cynnig polisïau sy'n 'foesegol' i wahanol raddau. Maent yn cynnwys criteria egwyddorol neu foesegol, positif, fel ymrwymiad y Gymdeithas Adeiladu Ecolegol i ddim ond rhoi fenthyg arian i brosiectau sydd yn amgylcheddol mwyn, neu griteria negyddol, fel polisi Banc Co-operative i beidio â buddsoddi mewn amrywiad o weithgareddau sydd yn cael eu hystyried yn anegwyddorol neu yn anfoesegol.Gallwch dderbyn cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol ddylai allu cydweddu eich gofynion moesegol gyda'r cynhyrchion sydd ar gael. Os ydych am chwilio am fanciau a chynhyrchion trosoch eich hunan gall y manylion cyswllt yma fod o gymorth i chi. Cofiwch dylech allu cael yr hyn yr ydych ei eisiau gan fancio a buddsoddi moesegol. Os y symudwch at fanc neu wasanaeth mwy moesegol, dywedwch wrth eich hen rai pam eich bod wedi symud. Yn anffodus yng Ngheredigion nid oes cangen o'r banciau moesegol adnabyddus fel Banc y Co-operative neu Triodos, ond gallach wneud trafaodiethau i’r Co-operative trwyddo swyddfa post lleol. Neu, gallwch roi cynnig ar gymdeithas adeiladu gydfuddiannol, gan nad ydynt yn cymryd cwsmeriaid busnes ac felly nad ydynt yn buddsoddi mewn ymarferion niweidiol gan gwmnïau. Am ragor o wybodaeth ar arian a phynciau moesegol ac amgylcheddol cysylltwch ag Ethical Consumer ar 0161 226 2929 neu ymwelwch â http://money.guardian.co.uk/factsheets a www.foe-scotland.org.uk/nation/ethical_money.html
BETH MAE EICH ARIAN CHI YN EI WNEUD? Mae torri lawr ar ddefnydd a phrynu cynhyrchion a nwyddau sydd yn amgylcheddol mwyn yn gychwyniad da, ond mae'n bosibl eich bod yn cyfrannu ar ddinistrio'r amgylchedd, cefnogi llywodraethiaid gormesol, neu yn gwrthod hawliau pobl ac anifeiliaid gyda'r arian yr ydych yn cynilo neu fuddsoddi. Nid yw Banciau yn cyhoeddi gwybodaeth ar y pethau yr ydynt yn defnyddio arian ar eu cyfer, felly yr unig ateb yw i ddod o hyd i fanc, cynllun pensiwn ayb gyda pholisïau clir ar y pethau y bydd a ni fydd yn buddsoddi ynddynt.
help llaw helping hand
Arian
Arian
Arian moesegol ● Llinell gymorth ariannol i gwsmeriaid Llinell Gymorth Cwsmeriaid Financial Services Association www.fsa.gov.uk/consumer ● Cyngor a gwybodaeth Association of Independent Financial Advisers www.aifa.net Ethical Investment Research Service (EIRIS) www.eiris.org ● Gwasanaethau bancio ac ariannol moesegol Co-operative Bank www.co-operativebank.co.uk Triodos Bank www.triodos.co.uk Naturesave Policies Ltd www.naturesave.co.uk Norwich and Peterborough Building Society www.norwichandpeterborough.co.uk Ecology Building Society www.ecology.co.uk Friends Provident Stewardship Funds www.friendsprovident.co.uk
0845 606 1234
020 7628 1287 0845 6060324
0161 832 3456 0117 973 9339 01803 864 390 0845 300 6727 0845 674 5566 0870 6071 352
help llaw helping hand
33
CYNALADWYEDD AR WAITH Yn 2000/2001 clustnododd Ymlaen Ceredigion ymhell dros 200 o fentrau sy'n cyfrannu tuag at gynaladwyedd yn y sir. Roedd dros hanner y rhain yn fentrau gan fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Mentrau o'r fath, mewn llawer ffordd, yw'r grym pennaf y tu ôl i ddatblygiad cynaliadwy lleol, gan eu bod yn deillio o'r gymuned, maent yn wreiddiol ac yn meddwl ymlaen yn ogystal ag ymateb i anghenion cymunedau. Mae'r mentrau'n cynnwys prosiectau ailgylchu cymunedol, cynlluniau cadwraeth, mentrau cymdeithasol neu gymunedol lleol, codi ymwybyddiaeth a grwpiau ymgyrchu, gweithredu er effeithlonrwydd ynni, gweithgareddau ieuenctid, adnewyddu neuaddau pentref, a mentrau trafnidiaeth cymunedol. Ble bynnag yr ydych yng Ngheredigion, mae'n debyg y bydd grw ˆp yn eich ardal sy'n prysur chwilio am wirfoddolwyr neu sy'n mynd i'r afael â materion sy'n eich pryderu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â CAVO ar 01570 423232.
Gweithredu SYNIADAU AM GYMRYD RHAN ● Gwirfoddoli yng ngwaith cadwraeth ● Gwirfoddoli mewn siop elusennol ● Cymryd rhan mewn ymgyrchu amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol ● Sefydlu grwp er mwyn cyflwyno gwasanaeth lleol, fel cynllun rhannu ceir, cynllun compostio, neu gynllun ynni cymunedol ● Ymaelodi â neu ffurfio grwp i gynnal a chadw darn o dir, neuadd y pentref ayb. ● Dysgu grefft - ymwelwch â www.aber.ac.uk/sell/courses/index.html, www.shared-earth-trust.org.uk/en/traindsc. www.cat.org.uk
● Dod â themâu cymdeithasol ac amgylcheddol i'r celfyddydau
● Tyfu eich llysiau eich hunain neu gychwyn gardd gymunedol
MYNEDIAD I'R RHYNGRWYD
● Mynd â mentrau amgylcheddol i'ch lle gwaith
Os nad oes gennych fynediad i'r Rhyngrwyd mae nifer o lefydd ble y gallwch ddefnyddio cyfleusterau Rhyngrwyd cyhoeddus. Nawr mae gan bron bob llyfrgell yn y sir fynediad i'r Rhyngrwyd, yn ogystal â Neuadd y Dref yn Aberystwyth.
help llaw helping hand
● Trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer mentrau amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol ● Codi arian ar gyfer cyfleusterau cymunedol ● Cyhoeddi cylchlythyrau lleol neu wahanol fentrau trwy'r cyfryngau eraill
Gweithredu
Am wneud rhagor? ● Gwybodaeth Isod rhestrir cylchlythyrau a chylchgronau lleol fydd o gymorth i chi ddysgu mwy am y pynciau llosg, yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu. Copa Ceredigion Cylchlythyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion Cylchlythyr Agenda 21 Leol Ceredigion Blwch Post 45, Aberaeron, Ceredigion SA46 0WI ● Llyfrgelloedd Ceredigion Gwybodaeth ynglyˆ n â gwasanaethau llyfrgell yn y sir. Am ragor o wybodaeth ar y We ymwelwch â www.ceredigion.gov.uk > Tourism & Leisure > Libraries.
● Cynghorwyr Sir a Chymuned I gael gwybod pwy yw eich Cynghorwyr Sir a Chymuned cysylltwch â: Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk ● Grwpiau Lleol Ble i gael gwybod am grwpiau cymunedol a mentrau gwirfoddol yng Ngheredigion all eich helpu, neu a fyddai'n croesawu eich cefnogaeth. Data-bas llyfrgelloedd o sefydliadau llyfrgelloedd lleol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion www.cavo.org.uk Amgylchedd Cymru www.environment-wales.org Data-bas Cyngor Sir Ceredigion o grwpiau lleol www.ceredigion.gov.uk ● Gwirfoddoli Canolfan Gwirfoddolwyr Ceredigion Gwasanaeth cydweddu gwirfoddolwyr gyda grwpiau priodol sy'n chwilio am wirfoddolwyr. Cynllun Estyn Llaw Hyrwyddo Gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwefan Gwirfoddoli Cymru www.volunteering-wales.net Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk (01974 298 480 am wirfoddoli ar gyfer gwaith cadwraethol yn lleol) Sefydliad y Merched Mentro Lluest www.mentrolluest.org Siopau elusennol lleol Cadwch lygad am gyfleoedd i wirfoddoli yn y papurau lleol ac ar hysbysfyrddau
01570 423232
01970 617464
01545 570881
01570 423232 0292 049 5737
01570 423916
01239 711668
01970 821100 01970 612831 01970 612114
help llaw helping hand
35
PAPURAU BRO, CEREDIGION
Deunydd darllen pellach
Mae'r Papurau Bro yn bapurau cymunedol annibynnol. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth, yn cadw pob cyhoeddiad. Rhestrir cysylltiadau ar gyfer Papurau Bro Ceredigion islaw (ond yn anffodus roedd rhai heb eu cadarnhau erbyn cyhoeddi)
Go M.A.D., (Go Make a Difference 2): Over 500 Daily Ways to Save the Planet: Jo Bourne, 2003, Think Publishing, ISBN: 0954136322, £6.99 0208 962 3020 The Little Earth Book: James Bruges, 4th Edition, 2004, Alastair Sawday Publishing Ltd. ISBN 1901970264, £6.99 01275 464891
Yr Angor (ardal Aberystwyth) Y Barcud (ardal Tregaron)
01974 282 294
Clonc (ardal Llambed)
01570 480015
Y Ddolen (i'r De o Aberystwyth)
01974 272 594
Y Gambo (ardal Aberteifi)
01239 810555
Y Garthen (ardal Llandysul)
01559 363559
Llais Aeron (Dyffryn Aeron)
01570 470345
Papur Pawb (ardal Talybont)
01970 832231
Y Tincer (i'r Gogledd o Aberystwyth)
01970 828017
Do the Right Thing: A Practical Guide to Ethical Living: Pushpinder Khaneka, New Internationalist, ISBN 1904456170, £7.99, 01709 513 999 New Internationalist No-Nonsense Guides: Cyfres o ganllawiau cryno a llawn gwybodaeth ar bynciau byd-eang gan gynnwys Masnach Deg, Islam, Datblygiad Rhyngwladol, Dosbarth a Chastau, Newidiadau Hinsawddol, ar gael trwy www.newint.org, neu 01709 513 999, £7.00 yr un Cylchgrawn Ethical Consumer Mae'n cynnwys enghreifftiau o'r 'cynhyrchion gorau' moesegol ar gyfer amrediad eang o gynhyrchion, yn ogystal ac erthyglau ar y pynciau llosg y tu ôl i nwyddau a gwasanaethau i ddefnyddwyr. I danysgrifio neu i dderbyn copïau sampl, ffoniwch 0161 226 2929 www.ethicalconsumer.org The Ecologist Magazine: Cylchgrawn misol ar bynciau ecolegol o bedwar ban y byd www.theecologist.org, 01795 414963
help llaw helping hand
Gweithredu
Am wneud rhagor? ● Cysylltiadau defnyddiol eraill Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth www.aber.ac.uk/artscentre Ardal 43 www.area43.co.uk Cymdeithas Biognosis Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru www.environment-agency.gov.uk Cymru Cynaliadwy Merched-y-Wawr Ymddiriedolaeth y Tywysog-Cymru www.princes-trust.org.uk Theatr Mwldan www.mwldan.co.uk Theatr Felinfach www.theatrfelinfach.demon.co.uk Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru www.wtww.co.uk Sefydliad y Merched, Ffederasiwn Ceredigion Clybiau Ffermwyr Ifanc, Trefnydd Sirol ● Grwpiau sy'n canolbwyntio ar ardaloedd neu gymunedau penodol Aberystwyth Menter Aberystwyth Capel Dewi (Llandysul) Prosiect Capel Dewi Aberteifi Menter Aberteifi www.visitcardigan.com Bro Dyfi Partneriaeth Eco Bro Ddyfi www.ecodyfi.org.uk Llambed Menter Llambed www.lampeter.org Llandysul Ymlaen Llandysul a Phont - Tyweli www.llandysul-ponttyweli.co.uk Cei Newydd Menter Cei Newydd Castell Newydd Emlyn Menter Emlyn www.ceidev.org.uk Plumlumon Pentir Plumlumon www.pumlumon.org Tregaron Curiad Caron Cyf www.tregarononline.org
01970 623232 01239 614566 01970 615010 01970 821100 08708 506505 01656 783405 01970 611661 02920 437000 01239 621200 01570 470697 01974 261133 01970 612831 01545 571333
01970 624912 01559 363412 01239 615554 01654 705018 01570 424730 01559 362403 01545 561460 01559 371658 01974 282581 01974 298146
help llaw helping hand
37
Eich Nodiadau a Chysylltiadau Gallwch ddefnyddio'r dudalen yma i nodi eich cysylltiadau a'ch nodiadau personol.
help llaw helping hand
help llaw helping hand
39
help llaw helping hand