13 minute read
Bwyd, Gogoneddus Fwyd
“Rwy’n llawn!” meddai Ashok, gan rwbio’i stumog a griddfan, wrth iddo wthio’i fowlen o gyri cig oen i un ochr. “Beth sy i bwdin?”
Nos Sul oedd hi. Roedd tad Ashok newydd adael am ei sifft yn yr ysbyty ac roedd ei fam yn tynnu dillad gwlyb o'r peiriant golchi i mewn i fasged golchi dillad. Edrychodd mam i fyny a rholio’i llygaid. “Rwyt ti newydd ddweud dy fod yn llawn!”
Gwenodd Ashok. “Mam, ti'n gwybod bod lle i bwdin bob tro!”
“Gorffenna beth sy yn dy fowlen, plîs,” meddai Mam. “Mae plant—”
“—yn llwgu, ydw, dw i’n gwybod.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Mam ddweud wrth Ashok am orffen ei fwyd. Y broblem oedd, roedd hi bob amser yn rhoi dognau enfawr, ac nid oedd fyth yn gallu gorffen beth roedd hi’n ei weini. Roedd Dad yn meddwl ei bod yn gweld eisiau’r efeilliaid a oedd wedi gadael cartref yn ddiweddar i fynd i’r brifysgol.
Cafodd Ashok un llond ceg arall ac yna crafu'r gweddill i'r bin.
“Mam, ydyn ni'n prynu nwyddau masnach deg?”
“Masnach beth?”
“Masnach deg. Roeddem yn dysgu amdano’r wythnos ddiwethaf. Yfory mae’n rhaid i mi ddod â rhestr o unrhyw nwyddau masnach deg rydym yn eu defnyddio yn y tŷ.”
Cododd ei fam ei hysgwyddau. “Dw i ddim yn credu.”
Dywedodd Ashok, “Dylem ddechrau prynu peth. Cefnogi sefydliad byd-eang sy’n sicrhau gwell prisiau ac amodau gwaith i ffermwyr – maent yn gwneud lles.”
Rhoddodd y plwg yn y sinc ac ychwanegu hylif golchi llestri. Gwasgodd y dŵr allan o liain ac yna sychu bwrdd y gegin a'r arwynebau gwaith yn ofalus.
“Rwyt ti mor barod i helpu.” Gwenodd Mam arno. “Diolch, cariad. A dweud y gwir, masnach deg...? Ai dyna’r sticeri bach gwyrdd a glas hynny ar bethau?”
Nodiodd Ashok. “Dyna ni. Maen nhw’n rhoi arian i gymunedau i ddarparu pethau fel ysgolion a dŵr glân.”
“Wel, dw i bob amser yn prynu bananas masnach deg.”
“Ond gallem brynu coffi a phethau eraill hefyd.”
“Dw i fel arfer yn prynu beth bynnag sy yn y siop, cariad. Nid fy mhenderfyniad i yw hi.”
“Ond bydd siopau’n stocio’r hyn mae cwsmeriaid yn dewis eu prynu – felly os bydd mwy o bobl yn prynu masnach deg, yna byddant yn cael mwy i mewn.”
“Efallai gwnaf i felly. Os nad ydynt yn llawer mwy drud,” dywedodd gan gymryd saib. “Ti’n iawn.
Dylai pawb gael yr un cyfleoedd.”
Clepiodd y drws ffrynt, a dechreuodd eu ci Rufus, oedd yn cysgu o dan fwrdd y gegin, glepian cyfarth.
“Shh, Rufus!” dywedodd Ashok. “Dim ond y bachgen sy’n gwneud gwyrthiau yw e!”
“Sut oedd dy ddiwrnod cyntaf?” galwodd mam ar Zhiming, tra'n ysgwyd cynfas gwely cyn ei hongian dros y rac dillad.
“Dw i wedi blino’n lân!” Rhoddodd Zhiming ei fag cefn ar gadair a disgyn i mewn iddi. “Mam, o ddifrif – dw i ddim yn gwybod sut rwyt yn gallu gwneud dwy swydd a gofalu amdanom ni hefyd.”
Roedd Zhiming yn un deg chwech. Pedair blynedd yn hŷn nag Ashok, ac roedd newydd gael ei swydd ran-amser gyntaf, yn golchi llestri yng ngheginau'r bwyty ffansi newydd, enwog yn y dref.
“Yr allwedd yw dod o hyd i rywbeth rwyt yn ei fwynhau fel fi yn y llyfrgell a thiwtora - yna dyw e ddim yn teimlo fel gwaith.”
“Wel am y tro, yr unig beth sydd gen i i edrych ymlaen ato yw bod hyd at fy mhenelinoedd mewn dŵr brwnt, seimllyd.” Chwarddodd Zhiming.
“Mae’n anodd iawn i rywun o’r un oedran â mi ddod o hyd i bwrpas eu bywyd a chael ei dalu amdano. Pwy fyddai'n talu i mi chwarae gemau fideo?"
Gwenodd ei fam. “Mae gweithio’n galed am beth wyt ti eisiau yn esiampl dda i Ashok, ac rwyt yn cael profiad gwerthfawr hefyd.”
Edrychodd Ashok i fyny. “Mae diwrnod caled o waith wedi dy flino’n llwyr, ydy e?” dywedodd gan dynnu’i goes.
“Beth alla i ei fwyta?” Agorodd Zhiming yr oergell ac edrychodd y tu mewn. "Mam, dw i'n llwgu!"
“D’on nhw ddim wedi dy fwydo yn y gwaith?
R’on i’n meddwl bod hynny’n rhan o’r fargen.”
Cododd Zhiming ei ysgwyddau. “Do, r’on nhw wedi cynnig, ond d’on i ddim eisiau trio gafr na chwningen mewn gwirionedd.” Tynnodd wyneb rhywun yn bod yn sâl “Druan â Pwtan y Gwningen bach, yn cael ei fwyta, tamaid o bersli wedi’i daenu dros ei glustiau.”
“Wir?” gofynnodd Ashok, ei lygaid yn llydan agored. “Mae hwnna ar y fwydlen?”
“Ydy.” Nodiodd Zhiming. “Digon i wneud i unrhyw un droi’n llysieuwr, on'd yw e?”
“Ddim y ddadl yma eto!” Rholiodd Mam ei llygaid. “Zee. Rwyt yn tyfu. Mae angen protein arnat ar gyfer yr holl gyhyrau rwyt yn ysu eu magu. Cig!”
Ochneidiodd Zhiming. “Na Mam, dw i wir ddim ei angen.”
“Paid â chwyno wrthyf pan fyddi’n rhy wan i symud…” twt-twtiodd hi.
“Ond mae digon o brotein mewn soia a ffa a—”
Daliodd Mam faneg rwber felen i fyny a'i ysgwyd tuag at Zhiming. “Paid ti â fy narlithio i am fwyd, boi.”
Nid oedd Ashok yn ei hoffi pan oedd ei fam a'i frawd yn trafod y mater. Roedd y sgwrs yma wedi bod yn digwydd yn eu tŷ am wythnosau bellach: Zee yn cwyno bod bwyta cig yn ddrwg i dreuliad a'r amgylchedd. Ond roedd Mam yn mynnu bod protein yn bwysig, ac mai cig oedd y ffordd orau i'w gael.
“Mae llwyth o gyri cig oen ar ôl.” dywedodd Ashok wrth Zhiming, gan deimlo'n wael yn sydyn am y dogn roedd newydd ei daflu. Diolch byth bod Mam wedi gwneud gormod!
Gweinodd Zhiming gyri i mewn i bowlen a chael chapati.
Rhoddodd mam y fasged golchi dillad i Ashok.
“Allet ti hongian y dillad sydd ar ôl, plîs? Mae’r ystafell fyw gyda chi i chi’ch hunain am awr, ond golau i gael eu diffodd am naw, Ash."
Nodiodd y bechgyn a mynd i’r lolfa. Rhoddodd Zhiming ei bowlen i lawr a llwytho’i hoff gêm fideo, tra bod Ashok yn hongian y sanau oedd yn weddill ar y rheiddiaduron.
“Shwd beth yw e ‘te? Gweithio?” gofynnodd Ashok.
Ochneidiodd Zee. “Dw i wedi blino shwd gymaint, Ash. Dw i wedi bod ar fy nhraed ers amser cinio –dyna chwe awr. Roedd hi'n boeth iawn, yn flinedig ac yn chwyslyd, ac roedd y llestri’n cadw i ddod yn ddi-ddiwedd. Ond cawsom lwyth o gildyrnau; maen nhw’n cael eu rhannu rhwng y gegin a’r staff gweini.”
“Gwrddaist ti â Mick, y boi o’r teledu?” Roedd y perchennog yn ben-cogydd o fri, yn enwog am weiddi ar bobl a gwneud iddynt goginio bwydydd rhyfedd.
“Naddo. Yn ôl pob tebyg, weithiau mae'n galw heibio ar hap, ond fel arall mae’n gadael i bawb gario ymlaen ar eu liwt eu hunain. A dweud y gwir wrthyt, maen nhw’n taflu llwyth o fwyd. Allwn i ddim credu fy llygaid ar ddiwedd y sifft.”
Rhoddodd Ashok reolydd arall i Zhiming a dechreuon nhw chwarae Race2Glory 2.
“Wir? Ydy’r bwyd mor ddrwg â hynny?”
“Nac ydy, nid dyna’r rheswm. Gwagiais y biniau ac yn llythrennol roedd mynydd o fwyd, y cyfan wedi’i stwnsio gyda’i gilydd.” Cododd Zee ei ddwylo i uchder ei ganol. “Yn wir, roedd peth ohono – wel, doedd dim byd o’i le arno. Mae'r pen-cogyddion yn anodd eu plesio ynglŷn â chyflwyniad, ac oherwydd bod cwsmeriaid yn darllen adolygiadau ac yn disgwyl perffeithrwydd… Os bydd gan blât y camgymeriad lleiaf - fel diferyn o ddresin yn anghywir - mae'r pencogyddion yn colli’u tymer ac yn ei daflu i ffwrdd!”
Teimlodd Ashok ei fochau’n llosgi wrth iddo gofio crafu ei gyri cig oen i’r bin yn gynharach. Roedd ei fam yn iawn; roedd plant yn llwgu ledled y byd a doedd e heb feddwl dwywaith hyd yn oed.
Y diwrnod canlynol yn yr ysgol, roedd Ashok yn dal i feddwl am beth roedd Zhiming wedi'i ddweud am y bwyd yn cael ei daflu i ffwrdd yn ei fwyty. Doedd hynny ddim yn swnio’n deg. Yn eu gwers ABCI, roeddent wedi cael trafodaeth ddosbarth am bobl ddigartref. Ni allai rhai teuluoedd hyd yn oed yn y dref hon fforddio bwyta, nid ardaloedd pell yn unig oedd angen help. Dywedodd eu hathro wrthynt am geginau bwyd a banciau bwyd – roedd yn swnio fel bod y ddau’n helpu eraill ac nid oeddent yn gwastraffu bwyd. Ond yn amlwg, nid oedd pawb yn gwneud hynny. Os oedd y bwyty newydd ffansi hwn yn taflu bwyd ar ddiwedd pob sifft, bwyd oedd yn iawn i bobl ei fwyta, sut gallai hynny fod yn iawn?
Ond efallai nad oedd y bwyty’n ymwybodol am y banciau bwyd a’r ceginau yma. Efallai gallai Ashok fynd i ddweud wrthynt!
Tapiodd ffrind Ashok, Aleia, ef ar ei fraich. “Dod i gael cinio?” gofynnodd.
“Aros eiliad,” dywedodd Ashok, gan symud ymlaen yn y llinell a oedd yn ciwio am y ffynnon ddŵr. “Rwy’n ail-lenwi hwn.”
“Wyt ti wedi gweld fy fflasg newydd?” Daliodd Aleia fflasg arian a du i fyny. “Dylet brynu un.”
Rhoddodd Ashok ei botel blastig o dan y beipen ddŵr a'i hail-lenwi. “Ond dw i ddim yn cael cawl.”
“Dyw hi ddim ar gyfer cawl yn unig. Rwyt ti’n gallu rhoi unrhyw beth y tu mewn.” Nodiodd tuag at ei botel ddŵr blastig. “Dyw hi ddim yn dda prynu poteli dŵr plastig.”
“Ydy hi?” Cododd Ashock ei ysgwyddau. “Pam?”
“Os wyt ti’n cadw eu taflu i ffwrdd ac yna'n prynu un arall - dyw e ddim yn dda ar gyfer yr amgylchedd, ydy e?”
“Na, dyw e ddim, am wn i.”
Nodiodd Aleia. “Clywais bodlediad amdano.” Edrychodd o gwmpas am fwrdd rhydd yn yr ystafell fwyta a phwyntio at un. “Wela i di draw fan ‘na.”
Pan oedd Ashok yn ciwio am ei ginio ysgol poeth, yn sydyn meddyliodd am rywbeth. “Ydych chi'n taflu bwyd allan?” gofynnodd i'r wraig ginio oedd yn gweini dogn slwtshlyd o lasagne iddo.
“Beth cariad?” gofynnodd, gan bwyso ymlaen a gwthio’i rhwyd gwallt gwyn yn ôl dros ei chlust i'w glywed yn iawn.
“Ar ddiwedd y dydd, ydy ffreutur yr ysgol yn taflu bwyd i ffwrdd?”
Craffodd arno. “O nac ydy.” Edrychodd wedi’i syfrdanu. “Byddai hynny’n wastraffus iawn.”
Da iawn. “Felly, beth ydych chi’n wneud gyda’r bwyd ychwanegol?” gofynnodd.
Gwenodd y wraig ginio. “Wel, fel y gallet ddychmygu, does fyth unrhyw sglodion ar ôl, ond mae brechdanau a salad gyda ni’n aml ar ôl. Ar ddiwedd pob prynhawn, rydym yn mynd â’r bwyd i'r lloches i'r digartref. Braf dy weld yn cymryd diddordeb, boi.”
Roedd Ashok yn falch bod eu hysgol o leiaf yn ymddwyn yn gyfrifol. Gan eistedd wrth ymyl Aleia, edrychodd arni’n tynnu un neu ddau o wahanol gynwysyddion allan. “Beth sydd gennyt?”
“Bwyd dros ben.”
“Mae’n arogli’n dda.”
“Ydy, mae cyri bob amser yn blasu’n well y diwrnod canlynol, on’d wyt ti’n meddwl?”
Meddyliodd Ashok am sut roedd wedi taflu ei gyri yn y bin. “Ydyn nhw?” Mae mam yn poeni’n fawr bob amser am fwyd yn mynd yn ddrwg, mae fel arfer yn ei daflu yn y bin. Mae bob amser yn gwneud gormod hefyd, yn coginio fel bod gennym dŷ llawn o bobl o hyd.”
“Cred fi - maen nhw’n llawer mwy blasus ddiwrnod neu ddau’n ddiweddarach. Oo, sut aeth swydd Zee?"
Chwarddodd Ashok. “Roedd e mor flinedig, syrthiodd i gysgu o fy mlaen i!”
“Mae'n gweithio yn y lle newydd ffansi hwnnw sy'n gweini sgorpionau wedi'u ffrio a siarc?”
“Ydy. Mae eu bwydlen yn swnio’n anghyffredin iawn.”
“Wyt ti wedi bod?”
“Nac ydw, ddim eto. Roedd Ashok yn tybio sut roedd lle mor ffansi yn edrych... efallai gallai ymweld ag ef a gweld drosto'i hun. “Ond mae Zee yn dweud eu bod yn taflu llwyth o bethau allan.”
“Dyw hynny ddim yn swnio’n gyfrifol iawn!”
Sychodd Aleia ei ffacbys i fyny gyda roti. “Cofia, pa mor rhyfedd mae rhaid i ti fod i fwyta aligator!”
* * *
Ar ôl yr ysgol, tinciodd ffôn Ashok wrth iddo gerdded trwy ei ddrws ffrynt. Neges testun gan Zhiming: Elli di ddod â’m pwmp i’r bwyty? Teiar yn fflat. Der rownd y cefn.
Neidiodd Ashok ar ei feic, gwisgodd ei helmed a phedlodd ar hyd y ffyrdd tawel nes iddo gyrraedd y lonydd cefn oddi ar y stryd fawr. Sylwodd ar feic Zee wedi'i gloi i bolyn lamp wrth ymyl y bwyty.
Roedd plocyn yn dal y drws cefn ar agor, ac yng nghanol biniau diwydiannol ag olwynion oedd yn gorlifio â sbwriel, clywodd Ashok botiau a sosbenni’n clecian yn erbyn ei gilydd. Edrychodd i mewn, a thrwy gwmwl o stêm, gwelodd Zhiming â’i wyneb coch a chwyslyd yn dadwneud ei ffedog a'i hongian i fyny.
“Amseru da, frawd!” Gwenodd mewn rhyddhad wrth weld Ashok yn chwifio'r pwmp beic. “Ddim yn ffan o’r sesiwn amser cinio. Wela i di!” dywedodd Zhiming dros ei ysgwydd wrth y lleill yn y gegin.
“Cofio beth ddywedaist wrthyf y diwrnod o'r blaen?” Gwyliodd Ashok Zee yn pwmpio ei deiar ôl.
“Dylet siarad â dy fos am yr holl wastraff bwyd yna. Ydy hwnna’n rhan ohono?” Pwyntiodd at hambwrdd o binafalau wedi'u cydbwyso ar ben bin ag olwynion. “Beth sy'n bod ar y rheiny?”
“Doedden nhw ddim wedi’u torri’n gywir.”
“Mae hynny mor wirion!” Cwyna wrth rywun.”
“Beth? Dim diolch!” ebychodd Zhiming. “Dw i newydd gychwyn yma. Nid wyf yn mynd i groesi'r... peth.”
“Ond mae’n anghywir os ydynt yn gwneud cymaint o arian ond ar y llaw arall yn taflu cymaint o fwyd!”
“Does dim ots gan neb!”
Dywedodd Ashok, “Wel, mae ots gen i . Yn yr ysgol dywedon nhw wrthym am y banciau bwyd a'r ceginau bwyd. Pam dyw’r lle yma ddim yn helpu, efallai rhoi bwyd neu rywbeth?”
“Edrycha, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny, ydyn nhw? Beth bynnag, dyw banciau bwyd ddim yn derbyn pethau fel llaeth a chaws oherwydd eu bod yn mynd yn ddrwg yn rhy gyflym. Ac os byddai unrhyw un yn clywed bod y bwyty wedi rhoi stêcs estrys i ffwrdd, byddai’u busnes yn cael ei ddifetha. Pam fyddai unrhyw un yn dod i dalu hanner can punt am ginio dau gwrs, hmm? Meddylia amdano fe, Ash. Eu henw da.”
Rhoddodd Zhiming y pwmp yn ôl i Ashok a neidiodd y ddau ar eu beiciau a beicio adref. Ond nid oedd Ashok yn gallu peidio â meddwl os oedd Zee’n anghywir. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn gallu cael ei wneud ... roedd angen iddo feddwl am ffordd. Os na allai banciau bwyd dderbyn cynhwysion ffres, mae’n rhaid y byddai’r ceginau bwyd yn gallu gwneud?
* * *
Gartref, wrth i Mam weini cinio, syllodd Ashok ar ei blât oedd yn llawn bwyd.
“Mam…” gan droi ei lygaid at Zhiming a oedd yn llowcio’i fwyd. “Dw i wir … does dim angen i ti roi dognau mor fawr i mi,” dywedodd. “Rwy’n credu dy fod yn dal i goginio fel nad yw Nandita a Rani wedi mynd i’r brifysgol!”
Gwenodd ei fam, ychydig yn drist. “Efallai bod pwynt gyda ti.” Ochneidiodd a thynnu’i ffedog. “Rwyf wedi arfer coginio i chwech!”
Gwenodd Ashok. “Bydd yn iawn yfory, gallaf fynd â’r bwyd dros ben i ginio! Yn nhechnoleg bwyd, dysgon nhw ni am gyllido a phrynu bwyd. Efallai yn lle gwneud cymaint, os byddet yn dechrau cyllido, dim ond prynu a choginio i’r pedwar ohonom, yna hyd yn oed os byddai pethau masnach deg yn costio ychydig yn fwy, byddem yn gallu eu fforddio!”
Syllodd Mam ar Ashok, gyda’i cheg ychydig ar agor. “Wel, wel. Syniad da!”
Gwenodd Zhiming ar y ddau. “Tra ein bod i gyd yn meddwl am syniadau da… Mam, beth wyt ti’n feddwl am beidio â chael cig ar ddydd Llun? “Hmm?” * * *
Y diwrnod canlynol, ar ôl yr ysgol, aeth Ashok i'r bwyty. Canodd cloch fach arian dros y drws pan gerddodd i mewn. Edrychodd gwraig ifanc gyda thatŵs ar ei breichiau a gwallt coch llachar i fyny o’r tu ôl i ddesg Bersbecs borffor glir. Edrychodd ar Ashok.
Ga i helpu?” gofynnodd, yn ddigon caredig, er ei bod yn gwgu, fel pe bai’n methu credu bod plentyn yn sefyll o'i blaen.
“Ydy’r rheolwr yma?” Cliriodd Ashok ei lwnc. Roedd ar bigau’r drain ond roedd beth oedd ganddo i'w ddweud yn bwysig. Os byddai unrhyw beth yn mynd o'i le, yna roedd yn gwybod bod ei frawd mawr yn y cefn. Nid ei fod wedi dweud wrth Zee am ei gynllun i ddod yma.
“Ymm, nac ydy. Mae’n flin ‘da fi ond dim ond fi sy'n gofalu am y dderbynfa a'r ardal trefnu bwrdd.
Pam bod angen i ti siarad â’r rheolwr, cariad?” Roedd hi’n edrych fel ei bod ar fin chwerthin, yn meddwl mae’n debyg ei fod wedi dod i gael llofnod Mick yn unig.
“Dw i... wel, r’on i eisiau gofyn rhywbeth iddo.
Trafod... syniad busnes.”
“Pam na wnei di ddim gofyn i mi?” Gwyrodd ei phen i un ochr.
Gollyngodd Ashok y gath o’r cwd. “Oeddech chi’n gwybod bod pobl di-gartref yr ochr arall i’r parc? Gallai’r bwyty yma gael cynwysyddion pryd ar glud a rhoi’r bwyd nad yw’n cael ei ddefnyddio iddyn nhw ar ddiwedd pob nos?”
“O cariad.” Diflannodd ei gwên. “Mae hynny’n syniad hyfryd, ond nid dyna sut mae pethau’n gweithio yn y byd go iawn.
Roedd Ashok wedi drysu ynghylch pam nad oedd hi wedi cymryd ei syniad o ddifrif, dyma oedd y byd go iawn!
“On’d ydych chi ddim yn meddwl y byddai’n dda i’r gymuned os byddech—”
“Gwranda.” Culhaodd ei llygaid. “O ddifrif –mae llawer gormod o faterion iechyd cyhoeddus i ni eu hystyried i roi bwyd. Beth os byddai rhywun yn dioddef adwaith alergaidd, neu'n mynd yn sâl? Ni yw'r prif fwyty newydd yn y dref hon. Yn fasnachol, ni fyddai’n... briodol.”
Roedd bochau Ashok yn goch Trodd a rhuthrodd adref yn gyflym. Efallai nad oedd mynd i’r bwyty yn syniad da wedi’r cyfan. Nid oedd wedi ystyried pethau.
* * *
Yn yr ysgol, dywedodd wrth Aleia am beth roedd wedi bod yn gweud. Er syndod iddo, roedd hi ar yr un ochr â Zhiming.
“Ash! Rwyt ti’n methu mynd o gwmpas yn mynnu bod lleoedd yn newid! Efallai bod ganddynt resymau hollol ddigonol dros wneud beth maen nhw’n ei wneud.” Yna ebychodd. “Neu efallai nad oedden nhw’n sylweddoli bod unrhyw un yn gwybod eu bod yn taflu bwyd i ffwrdd?”
Efallai bod Aleia’n iawn ac nad oedd yr hyn roedd y bwyty’n ei wneud yn wybodaeth gyffredin, ond roedd Ashok yn meddwl y dylai pawb wybod.
Pe bai elusen yn cychwyn gartref, yna byddai'n gwneud synnwyr i fusnesau lleol helpu'r rhai hynny mewn angen. Roedd eu harchfarchnad bob amser yn rhoi prydau am ddim ar gyfer rafflau Nadolig, felly pam na allai’r bwyty wneud rhywbeth gwerth chweil hefyd? Neu oeddent yn meddwl bod rheolau gwahanol yn berthnasol iddyn nhw oherwydd bod y perchennog yn gyfoethog ac yn enwog?
“Aleia, wnei di fy helpu gyda rhywbeth?”
“Wrth gwrs! Beth sy angen arnat? gofynnodd, gan wenu.