15 minute read

Rhodd Bod yn Ofalus gydag Arian

“Pa mor bell yw’r siopau?” gofynnodd Summer, gan anadlu ar ffenestr y bws ac amlinellu patrymau.

Tynnodd Ruby un glustffon. Roedd wedi gofyn os oedd Summer wedi eisiau gwrando – ond dywedodd Summer fod gwrando ar gerddoriaeth neu edrych ar ffôn tra’n teithio yn gwneud iddi deimlo’n sâl.

“Pedair arhosfan i ffwrdd.” Trodd Ruby y sain i fyny ar ei ffôn. “Paid â gwneud hynny, dyw’r gyrrwr ddim yn ei hoffi.”

Nid oedd Ruby yn gallu credu bod ei hanner tymor yn helpu cariad newydd Dad, Catriona, a’i merch Summer, i ymgartrefu. Roedd Ruby a Summer mor wahanol. Roedd Summer yn un ar ddeg, blwyddyn yn ifancach na Ruby. Roedd Summer yn dwlu ar anime ac yn cymryd oesoedd i benderfynu am bopeth: beth i'w fwyta, ble i fynd.

Unwaith, yn y sinema, cymerodd Summer gymaint o amser yn penderfynu beth i'w wylio fel eu bod wedi colli dechrau dwy ffilm! Nid oedd Ruby fyth yn gwybod beth dylent siarad amdano os nad oeddent yn gwneud rhyw weithgaredd wedi’i drefnu.

Gwasgodd Summer ei wyneb ar y gwydr yn lle hynny. “Ond beth os byddwn yn mynd ar goll?”

“Fyddwn ni ddim,” dywedodd Ruby’n gadarn.

“Dyw’r dref yma ddim tebyg i Fanceinion. Bydda i’n dod i siopa bob dydd Sadwrn ac wedi gwneud ers oesoedd. Mae’r ganolfan siopa’n hollol gaeedig, does dim ffyrdd na dim byd. Ac mae’n ffonau gyda ni, os oes argyfwng.”

Ysgydwodd Summer ei phen. “Does dim ffôn gyda fi.”

“Beth?” Roedd Ruby wedi cael ffôn symudol am ei phen-blwydd yn ddeg oed.

Cododd Summer ei hysgwyddau. Dywedodd Mam does dim angen un arna i.” Cnoiodd ewinedd ei bysedd eto. “Ddim eto ta beth. Efallai pan fyddai’n mynd i’r ysgol fawr.”

“Paid â phoeni, mae fy un i gyda fi. A – gair o gyngor – paid â’i galw yn ‘ysgol fawr’. Mae’n swnio’n blentynnaidd. O edrycha, rydyn ni yma!”

Wrth ddod oddi ar y bws, gwelodd Ruby ei ffrindiau a rhedeg atynt. Taflon nhw eu breichiau o amgylch ei gilydd, gan wichian.

Sefodd Summer yn ôl, gan droi ei dwylo gyda’i gilydd, yn nerfus.

Syllodd y tair ohonynt arni. “Helo,” dywedon nhw, gan edrych i fyny ac i lawr arni, gan wenu.

“Mya dw i.” Pwyntiodd Mya at grys-T Summer. “O dduw mawr... dw i’n dwlu ar dy dop - mae mor ciwt!” Rhoddodd Mya ei breichiau o amgylch ysgwyddau merch arall. “Dyma Yetunde.”

“O ble gest ti’r crys-t?” gofynnodd Yetunde, yn edmygus. “Mae’n rhyfeddol.”

Gwenodd Summer. “Fi wnaeth e.”

“Wir?” ebychodd Yetunde. “Sut?”

Syllodd Ruby ar grys-T Summer, gan edrych arno go iawn am y tro cyntaf. “Ti Wnaeth hwnna?”

Roedd yn ddu gyda secwinau a thoriadau ac roedd yn edrych yn unigryw.

“Yn wreiddiol ffrog oedd e. Gwnes i ei huwchgylchu.”

Doedd dim syniad gan Ruby beth oedd uwchgylchu ac nid oedd ar fin gofyn, gan nad oedd eisiau edrych yn dwp o flaen ei ffrindiau. Chwifiodd nodyn ugain punt o dan drwyn Mya. “Edrycha beth roddodd Dad i mi!”

“Sut?” dywedodd Yetunde.

Gwenodd Ruby. “Mae i fod ar gyfer cinio, ond ni fydd angen i ni wario cymaint â hyn. Bydd digon

‘da fi ar ôl ar gyfer y sgert ddisglair honno. Efallai esgidiau sy’n mynd gyda hi hyd yn oed?”

“Anfonodd Rubes neges testun atom i ddweud byddet yn dod.” Fflachiodd Mya wên gyfeillgar ar Summer. “Barod i gael amser dy fywyd?”

Nodiodd Summer. “Ydw!”

Cleciodd Yetunde swigen binc fawr. “Rwyt wedi dod ag arian?”

“Does dim angen dim byd arnaf. Dw i jyst yn edrych.”

Chwarddodd Mya. “Dim ond yn edrych?”

Rhoddodd Ruby bwt i’r gweddill. “Beth?” gofynnodd gan dynnu coes.

Dywedodd Yetunde, “Ie. Arhosa nes i ti weld yr holl wisgoedd newydd anhygoel - byddi di'n newid dy feddwl yn ddigon buan!"

Cydiodd y tair merch ym mreichiau’i gilydd. Edrychodd Ruby dros ei hysgwydd, gan deimlo'n euog pan welodd Summer yn llusgo’i thraed. Efallai dylai gydio ym mraich Summer hefyd?

Er bod Ruby a’i ffrindiau yn cerdded o amgylch y siopau arferol, nid oedd yn teimlo’r un peth gyda Summer yno. Ceisiodd Ruby ei chynnwys yn eu sgyrsiau, ond roedd Summer yn cadw gofyn, "Beth mae hynny'n ei olygu?" a “Pwy yw hwnna?” a phan oedd Ruby’n ceisio esbonio, roedd yn diffetha popeth.

Wrth bori drwy raciau o legins newydd, roedd Mya ac Yetunde yn chwerthin am ben rhyw fachgen yn eu dosbarth Ffrangeg. Rhoddodd Ruby bwt i Summer gan sibrwd, “Paid â sôn wrth dy Fam am y peth, iawn?”

“Sôn am beth?” Dylyfodd Summer ei gên. “Sori, d’on i ddim yn gwrando.”

Sylwodd Ruby nad oedd Summer yn pori trwy'r rhaciau dillad, a doedd hi ddim yn gwenu llawer chwaith. Roedd hi'n cadw i gnoi ei gwefus ac edrych ar ei watsh. Cafodd Ruby syniad a allai eu helpu i gyd i gael amser gwell.

“Mae siop gomic retro drws nesaf. Mae ganddi rifynnau manga bob amser. Mae gen ti ddiddordeb yn hwnna, eisiau mynd i weld beth sy ar gael?”

Gwenodd Summer am y tro cyntaf drwy'r dydd. “Ydw plîs!” Pefriodd ei llygaid.

Edrychodd Ruby ar ei ffôn. “Fyddwn ni ddim yn rhy hir. “Down i dy nôl mewn pymtheg munud, iawn?

“O." Roedd Summer yn siomedig. Dydych chi ddim yn dod?”

“Paid â siarad ag unrhyw ddieithriaid, iawn.” Cydiodd Ruby ym mreichiau Yetunde a Mya. “Gwelwn ni ti mewn ychydig!”

* * *

Yn ddiweddarach, gartref, roedd Ruby’n chwarae cerddoriaeth yn uchel ar ei ffôn ac yn cymryd hun-luniau wrth fynd trwy ei phethau newydd. Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n mynd i ddefnyddio’i harian poced i roi cynnig ar y dosbarth crefft ymladd newydd, ond roedd ei theithiau siopa ar ddydd Sadwrn yn demtasiwn, ac roedd ei ffrindiau bob amser yn llwyddo i’w pherswadio i brynu rhywbeth.

Rhuthrodd Dad i mewn i’w hystafell wely.

“Hei!” dywedodd Ruby. Dywedaist y byddet yn cnocio’r drws o hyn ymlaen!”

Roedd Dad yn gwgu. “Dw i newydd gyrraedd adref ar ôl bod yn rhedeg i ddod o hyd i Summer mewn dagrau.”

“Beth?” Daeth teimlad oer ar draws gwddf Ruby. “Pam?”

“Yn ôl pob tebyg, ar ôl pymtheg munud o fynd o amgylch y siopau, gwnest ti a dy ffrindiau ei gadael hi?”

“Dydy hynny ddim yn deg!” gwaeddodd Ruby.

“Dyma’i diwrnod cyntaf mewn tref newydd, Ruby.” Roedd Dad yn swnio mor siomedig. “Sut gallet ti?”

Roedd Summer wedi bod yn dawel ar y bws adref a heb ddangos unrhyw diddordeb yn beth roedd Ruby wedi’i brynu. Pan gyrhaeddon nhw adref, roedd Catriona yn swatio o flaen y teledu ac roedd Dad allan yn rhedeg. Roedd Ruby wedi gofyn i Summer os oedd hi eisiau gwylio rhywbeth ar Netflix, ond roedd hi wedi mynd yn syth i'w hystafell.

“Nid fel hynny oedd hi!” Protestiodd Ruby, gan ymladd yn erbyn dagrau.

“Beth yw’r gwir ‘de?” Gwgodd Dad.

“Dywedodd Summer nad oedd ots ganddi!”

Ymddangosodd Catriona wrth ddrws Ruby.

Roedd ei llais yn ddigyffro. “Gwrandewch, does dim angen codi llais. Dw i wedi siarad â Summer. Mae'n debyg bod gyda chi'ch dwy syniadau gwahanol iawn am ffordd sy’n llawn hwyl o dreulio dydd Sadwrn. Does dim niwed wedi cael ei wneud. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn hapus bod Summer yn crwydro o gwmpas y siopau ta beth.”

“Dw i’n meddwl bod angen i Ruby ymddiheuro i Summer.” Meddalodd Dad ei dôn, ond roedd ei wyneb yn dal i edrych fel taran.

Dywedodd Catriona’n dyner, “Mae cinio bron yn barod, felly efallai y gallwn drafod y peth bryd hynny? Fel teulu.”

Fel teulu! Edrychodd Ruby ar y drws yn ddig wrth i Dad ei gau ar ei ôl. Beth oedd yn bod ar y teulu oedd ganddi’n barod? * * *

Roedd y sbageti bolognese, sef ffefryn Ruby fel arfer, yn rhy sbeislyd, ond doedd hi ddim eisiau i Dad fod hyd yn oed yn fwy crac, felly gwthiodd e o amgylch ei phlât ac yfed llawer o ddŵr.

“Wel,” meddai Catriona yn llawn bywyd, gan edrych o gwmpas y bwrdd. “Mae Summer a fi’n meddwl ei bod hi’n ddefnyddiol siarad am unrhyw broblemau sy’n dal i loetran yn yr ystafell. On’d ydyn ni?”

Gwenodd Summer yn lletchwith; ei cheg yn llawn.

Cliriodd Dad ei wddf a syllu'n ddwys ar Ruby. Rhoddodd Catriona ei llaw ar fraich Dad. Roedd Ruby’n teimlo'n boeth yn sydyn, roedd gormod o tsili yn y saws hwn!

“Mae’n flin ‘da fi, Summer.” Syllodd Ruby ar ei phlât. “Ddylen ni ddim wedi dy adael di fel yna. Doedden ni ddim yn sylwi ar yr amser.”

Cododd Summer ei hysgwyddau. “Mae’n iawn. Roeddwn wedi diflasu braidd, ond dywedodd fy mam fod yn rhaid i mi fynd oherwydd dy fod wedi fy ngwahodd.”

“Dywedodd nhad wrthyf fod yn rhaid i mi ddod â thi!”

Roedd tawelwch o gwmpas y bwrdd. Gan sylweddoli bod eu rhieni wedi’u gorfodi at ei gilydd, gor-roliodd y ddwy ferch ei llygaid ac yna edrych ar ei gilydd a chwerthin.

Ochneidiodd Catriona a dweud, “Dylen ni wedi gadael i chi ferched benderfynu drosoch eich hunain, hmm?”

Nodiodd Ruby a Summer.

“Mae’n flin ‘da fi os nad oedd yn llawer o hwyl,” meddai Ruby.

Gwenodd Summer arni. “R’on i’n meddwl efallai y byddem wedi gallu gwneud rhywbeth gyda’n gilydd. Neu y gallet ddysgu dy sgiliau tynnu llun i mi. D’on i ddim yn sylweddoli dy fod yn hoffi siopa dillad shwd gymaint.”

Meddyliodd Ruby am eiliad. “Dw i ddim... ddim mewn gwirionedd. Mae’r ddwy arall bod amser yn gwario llawer mwy na fi. Dw i’n hoffi gweld beth sy’n newydd yn unig. Dw i’n meddwl efallai hoffwn ddechrau dylunio dillad un diwrnod. Yn yr ysgol mae ganddyn nhw glwb tecstilau. Efallai gwna i ymuno.”

Gweinodd Catriona mwy o salad iddi hi ei hun. “Mae’r siopau hynny rwyt yn ymweld â nhw yn cael eu galw’n 'ffasiwn cyflym'.”

Gwgodd Ruby. “Ffasiwn beth?”

Dywedodd Summer, “Mae'n golygu nad yw'r dillad yn cael eu gwneud i bara, felly maen nhw’n cwympo’n ddarnau’n hawdd. Ddim bob amser ond weithiau.”

“O." Meddyliodd Ruby am y ffaith fod ei Mam-gu yn arfer dweud, “Ansawdd dros faint,” ac ystyriodd a oedd hi'n iawn.

Taclusodd Catriona eu platiau tra gweinodd Dad bowlenni o hufen iâ siocled.

“Mae hynny’n wir. Dyw yw rhai dillad ddim yn para'n hir, ”meddai Ruby. “Ond mae popeth mor rhad felly does dim ots mewn gwirionedd, nac oes?”

“Ond os bydd dillad newydd yn cael eu rhyddhau drwy’r amser, rwyt yn dechrau credu bod dillad i’w taflu,” atebodd Catriona. “Mae eu gwisgo unwaith neu ddwy yn unig a phrynu cymaint o ddillad newydd yn wastraffus.”

Ochneidiodd Ruby. “Dw i a Dad yn rhoi ein hen ddillad i fanciau dillad a siopau elusen. Yna maent yn cael eu hailgylchu.” Croesodd ei breichiau; doedd dim angen darlith arni.

Dywedodd Summer, trwy lond ceg o hufen iâ, “Mae hynny’n digwydd yn unig os byddant mewn cyflwr da. Allwch chi ddim ailgylchu dillad sydd wedi’u staenio neu eu difrodi.”

Dywedodd Catriona, “R’on i wrth fy modd yn siopa pan o’n i eich oedran chi; mae siopau elusen yn wych. R’on i bob amser yn dod o hyd i rywbeth anarferol ac o’r oes a fu.”

“Dim diolch!” gwaeddodd Ruby. “Does gan siopau elusen ddim dewis ar gyfer fy oedran. A does gen i ddim diddordeb mewn pethau... o’r oes a fu.”

Ac mae oglau arnynt, meddyliodd, ond roedd hi'n gwybod yn well na dweud hynny'n uchel.

“Dilyna esiampl Summer.” Gwenodd Catriona. “Gallet ddefnyddio’r arddangosfeydd ffenestr a phethau newydd i gael ysbrydoliaeth, ac yna uwchgylchu a dylunio dy ddillad dy hun.”

Pam roedd Catriona yn dweud wrthi beth i'w wneud?

“Ond dw i a fy ffrindiau yn hoffi mynd o amgylch y siopau. Mae’n hwyl. A does dim byd llawer arall i’w wneud.”

“Mynd ar y beic?” gofynnodd Catriona.

“Dyw hynny—” ysgydwodd Ruby ei phen. Nid oedd syniad gan neb sut oedd hi a’i ffrindiau’n hoffi treulio amser gyda’i gilydd.

Doedd Catriona ddim yn mynd i roi’r gorau iddi. “Neu... beth am y llyfrgell?”

“Dydych chi ddim yn gallu bwyta ac yfed yn y llyfrgell,” dywedodd Ruby. Ychwanegodd hi ddim, Neu fod yn uchel eich cloch a chwerthin am yr ysgol a bechgyn a... bod ni ein hunain.

Dywedodd Summer, “Aeth y bws heibio i barc neu ddau.”

Cynyddodd tymer Ruby ac edrychodd yn gas ar Summer. Nid oedd neb yn deall! “Dydych chi ddim yn gallu mynd yno os bydd hi’n bwrw glaw neu’n oer ac mae’n llawn plant bach—”

Pam nad oedden nhw’n gadael llonydd iddi? Gwthiodd Ruby ei chadair yn ei hôl a rhedodd i fyny’r grisiau. Gan gau drws ei hystafell wely’n glep, taflodd ei hun ar ei gwely a sgrechiodd i mewn i’w chlustog. * * *

Ar ôl ychydig, roedd cnoc ar ei drws.

Sibrydodd Dad. “Ga i ddod i mewn, cariad?”

Eisteddodd Ruby i fyny, sniffiodd a sychodd ei llygaid. Agorodd ddrws ei hystafell wely a rhoddodd Dad gwtsh mawr iddi.

“Mae’n flin ‘da ni.” Eisteddodd nesaf ati ar y gwely. “Dyw Catriona ddim yn ceisio dweud wrthyt beth i’w wneud.”

Oedd, roedd hi. Pam roedd rhaid i ti a Mam ysgaru?” Cyrliodd Ruby i mewn i bêl a throdd i wynebu’r wal. Roedd ei llais yn dawel. “Roedd Mam a fi’n arfer mynd i siopa dillad, dyna ein peth ac wedyn, byddem yn cael y deisen arbennig honno yn y caffi.”

“Mae hynny’n swnio’n neis.”

Eisteddodd Ruby i fyny i weld Catriona’n pwyso yn erbyn y drws. “A dw i’n siŵr y byddwch yn dal i wneud hynny gyda’ch gilydd unwaith y bydd yn ymgartrefu yn ei fflat newydd. Ga i eistedd?”

Nodiodd Ruby ac eisteddodd Catriona ar ymyl pen y gwely. “Mae’n flin ‘da fi. D’on i wir ddim yn ceisio dweud wrthyt beth i’w wneud.”

Sniffiodd Ruby. “Roeddet yn gwneud iddo swnio fel bod siopa’n ddrwg. Ond mae gwneud dillad newydd yn rhoi swyddi i bobl, yn arbennig mewn gwledydd tlawd.”

“Wn i. Mae rhai o’r siopau ffasiwn cyflym hyn yn gwneud pethau da hefyd, ond y ffaith yw, mae gwneud dillad o gwbl yn defnyddio llawer o adnoddau naturiol y Ddaear. Rwyt wedi clywed am newid hinsawdd, on’d wyt ti?”

Cofiodd Ruby am ei harwyddair ysgol o Ailddefnyddio, Lleihau ac Ailgylchu.

“Mae’r blaned mewn gwir drafferth os na fyddwn yn newid ein ffyrdd; mae hynny’n golygu pawb. Mae pobl sy’n gwneud dillad yn cael eu trin yn ddrwg weithiau ac mae’n rhaid iddynt weithio mewn amodau ofnadwy.”

Gwenodd Dad ar Catriona. “Rwyt y fath ryfelwraig-eco fach.”

Rholiodd Ruby ei llygaid. Yyy, plîs.

Dywedodd Catriona, “Mewn gwirionedd, Summer yw’r arbenigwraig. Aethom ar ymdaith i brotestio pan wrthododd y myfyrwyr i gyd fynd i’r ysgol. Dysgodd bopeth i mi am gompostio!”

Roedd Summer yn dweud hyn? Roedd gan Ruby lawer i feddwl amdano. “Dw i wedi blino, efallai a i i’r gwely.”

“Iawn, cariad,” dywedodd Dad, gan ei chusanu ar ei thalcen. “Paid ag anghofio brwsio dy ddannedd.”

Gadawodd Dad a Catriona’r ystafell, gan gau'r drws ar eu hôl.

Y bore canlynol, dihunodd Ruby’n gynnar. Yn y gegin, wrth y bwrdd brecwast, roedd Summer yn bwyta mêl ar dost. “Bore da!”

“Ble mae nhad?”

Pwyntiodd Summer at y nenfwd. “Maen nhw’n clirio’r atig. Chlywaist ti mohonyn yn gwneud sŵn curo i fyny yna?”

“R’on i’n meddwl beth oedd yr holl sŵn yna.”

Aeth Ruby i nôl powlen o rawnfwyd iddi hi ei hun.

“Dywedodd dy Dad bod llwythi o ddillad i fyny yno. Dw i eisiau bwrw golwg ar gyfer fy uwchgylchu.”

Crychodd Ruby ei thrwyn. “Soniaist am hynny o’r blaen. Uwch beth?”

Pwyntiodd Summer at ei jîns. Roedd y clytiau wedi’u pwytho gyda phwythau coch a phorffor llachar. “Gweld y rhain? Trwsiais nhw yn lle eu taflu. Ac yn lle prynu pethau newydd, gelli ddefnyddio hen ddillad i wneud dillad cwbl newydd.”

“Sut?”

“Mae llwythi o bethau gallet wneud. Dw i’n gwylio’r YouTuber gwych yma. Torri pethau allan, gwnïo pethau ychwanegol, brodio, paentio... dw i wedi gwneud bandiau gwallt allan o hen grysau-T o’r blaen. Gwna i ddangos i ti, mae’n weddol hawdd. Mae’n gwneud popeth yn fwy unigryw hefyd unwaith i ti ei bersonoli; fel nad oes rhaid i ti edrych yr un peth â phawb arall. Ychwanegu clytiau neu fathodynnau. Tipyn bach o wnïo.”

Ochneidiodd Ruby. “Does dim clem ‘da fi am y math yna o beth. Roedd Mam bob amser yn dweud nad wy’n ymarferol iawn.”

“Meddwl dy fod wedi dweud dy fod am fynd i mewn i ffasiwn, ymuno â’r clwb tecstiliau?

Dywedodd Ruby, “Mae hynny’n wir, ond r’on i’n meddwl fel dylunio a chynllunio dillad, dim eu gwneud.”

Edrychodd Summer yn feddylgar. Efallai gallem wneud prosiectau gyda’n gilydd? Bydda i’n dy ddysgu i wnïo a chrosio, a gallet ti fy nysgu sut i dynnu llun!

Mae rhai technegau’n gallu bod yn drafferthus, felly bydd rhaid i ti fod yn amyneddgar.”

Efallai gallai Catriona a Summer ddysgu rhai pethau cŵl i Ruby. Roedd ei mam wedi’i dysgu sut i ddawnsio ac i drin dwylo, ond roedd pethau eraill gallai eu dysgu hefyd. A phan oedd yn rhoi eu dillad newydd i gadw neithiwr, roedd wedi sylwi ar un neu ddau o’r gwniadau’n edrych yn rhydd.

“Beth oedd wedi dy ddenu at hyn yn y lle cyntaf?” gofynnodd Ruby i Summer.

“Ar ôl i Dad adael, roedd gennym ni lawer llai o arian. Dechreuodd mam ail-baentio hen ddodrefn, ychwanegu ei dolenni’i hun, gan ddefnyddio stensiliau. Ac mae ei ffrind yn gweithio i'r elusen hon sy'n anfon hen ddillad dramor. Dywedodd fod dros ddeg mil o eitemau yn cael eu hanfon i'r safle tirlenwi bob pum munud. Deg mil! Wyt ti’n gallu dychmygu?”

Meddyliodd Ruby am ddeg mil o eitemau o ddillad wedi'u pentyrru'n uchel mewn pentwr enfawr.

“Wow. Mae hynny’n llawer o wastraff.”

“Y siopau hynny roeddet ynddyn nhw ddoe?

Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio ffibrau synthetigneilon, acrylig, polyester - ac maen nhw’n cymryd cannoedd o flynyddoedd i fynd yn ddim. Ond mae cotwm a gwlân yn naturiol, felly maen nhw’n mynd yn ddim yn haws. A’r cemegau a ddefnyddir ar gyfer argraffu, cannu a lliwio – mae nhw mor niweidiol i anifeiliaid a’r amgylchedd.”

“D... D’on i ddim yn gwybod hynny.” Syrthiodd Ruby yn swp i'w chadair. “Felly, ddylwn i ddim siopa yn y lleoedd hynny o gwbl? Mae hynny’n drist.”

Gwenodd Summer. Mae’n fwy amnodi a dewis. Dysgu pa siopau sy'n trin eu gweithwyr yn iawn, efallai o ble maen nhw’n cael eu deunyddiau, sut maen nhw’n gwaredu gwastraff, ac yna rwyt yn siopa yn y lleoedd hynny’n unig."

“Swnio’n anodd. Fel, mae'n haws cydio mewn pethau."

“Ond os byddai pawb yn meddwl fel hynny, yna fyddai dim byd fyth yn newid, fyddai e?” dywedodd Summer yn angerddol. “Edrycha ar bobl fel Greta Thunberg. Mae hi'n profi y gallwn wneud gwahaniaeth. Er ein bod yn ifanc, dydyn ni ddim yn ddi-rym. ”

Syllodd Ruby ar Summer; roedd hi'n glyfar. Roedd hyn o ddiddordeb i Ruby. Roedd rhai o’i ffrindiau’n poeni’n unig am siopa a'u ffonau, ond roedd Summer yn iawn. Roedd meddwl am y byd o'i chwmpas yn bwysig. Nawr, roedd ganddi rywun i'w helpu i wneud hynny.

“Fy hoff beth ar hyn o bryd yw sashiko, mae’n dechneg pwytho hawdd iawn o Siapan. Bydda i’n dy ddysgu!"

“Ferched!” Roedd gwaedd Catriona i’w chlywed i lawr y grisiau. “Dewch yma!”

“Rydych chi'n mynd i ddwlu ar hwn!” Atseiniodd chwerthiniad Dad i lawr y grisiau. * * *

Yn yr atig, pesychodd Ruby a Summer eu ffordd drwy'r llwch a'r gwe pry cop.

“Mae fel ogof Aladin!” Gwthiodd Catriona leinin bin tuag atynt. “Edrychwch y tu mewn i'r drysorfa hon…”

“Pry cop!” Chwifiodd Ruby ei dwylo wrth i rywbeth blewog ei heglu hi i gornel dywyll. “A, roedd yn enfawr!

Chwarddodd Summer. Ma’n fwy ofnus ohonot ti.”

“Pfft!” Tynnodd Ruby wyneb. “Mae rhieni’n dweud hynny er mwyn gwneud i ni beidio â bod yn ofnus; rhywbeth sydd ag wyth coes ac yn symud mor gyflym? Mae hynny'n anghywir ar gymaint o lefelau."

Dywedodd Catriona, “Rhaid dweud fy mod yn cytuno â thi. Rwy’n hoff o fyd natur ond yn dal heb lwyddo i dderbyn y pryfed annifyr hynny yn fy mywyd.”

Gwenodd Ruby ar Catriona. Efallai doedd hi ddim mor ddrwg â hynny… doedd Mam fyth yn hoffi pryfed cop chwaith.

“Dyma chi.” Tynnodd Dad leinin bin orlawn arall draw i ble roedd y merched. “Edrychwch. Mae hen bethau go iawn yn hwnna!”

Plygodd Ruby a Summer i lawr o flaen y bagiau bin oedd wedi'u labelu’n yr wythdegau a'r nawdegau. Agorodd Ruby’r bag oedd wedi'i labelu gyda’r nawdegau a chloddio o gwmpas, gan dynnu hetiau, sgarffiau a sgertiau.

Gofynnodd Summer, "Pwy sy’n berchen ar y rhain i gyd?”

Dywedodd tad Ruby, “Mae’r rhain wedi bod yma ers oesoedd; mam-gu Ruby oedd yn berchen arnyn nhw. Byddwn yn eich gadael i fynd ati. Gwaeddwch pan fyddwch wedi gorffen.”

Aeth Dad a Catriona i lawr ysgol y llofft.

Cyn hir, roedd Ruby a Summer wedi'u hamgylchynu gan ddillad, esgidiau, bagiau ac ategolion,gayn chwerthin, gwichian a dal pethau i fyny. Gwisgodd Summer gap pêl fasged am yn ôl ac edrych fel sglefriwr.

“Edrycha ar hwn!” Gwaeddodd Ruby, gan ddal sgert ra-ra â streipiau neon. Sniffiodd “Ond oooo, mae’r cyfan yn drewi!”

“Does dim byd na fyddai golch go iawn yn ei ddatrys,” meddai Summer, yn llawn cyffro. “Edrycha!

Mae’r crys siec hwn yn union fel y byddai rhywun yn ei wisgo mewn hen ffilm arswyd.”

* * *

Awr yn ddiweddarach, roedd yr ystafell fyw’n edrych fel ffair sborion fwyaf lliwgar y byd, gyda'r bagiau bin wedi'u gwagio yng nghanol y llawr.

“Gadewch i ni gael trefn ar beth rydyn ni eisiau,” meddai Summer. “Yna gallwn benderfynu sut i’w huwchgylchu.”

“Syniad da,” meddai Ruby, gan wenu arni. “Efallai dydd Sadwrn nesaf, gallwn brynu rhai ategolion i fynd gyda nhw. Mae’r dosbarth crefft ymladd newydd hwn hefyd dw i eisiau mynd iddo. Eisiau dod?”

“Dw i bob amser wedi bod eisiau gwneud rhywbeth fel ‘na, ond ddim ar fy mhen fy hun.”

Wrth i Summer daflu siaced felfed fathredig i Ruby, roedd Ruby'n meddwl efallai na fyddai bod â chwaer newydd mor ddrwg wedi'r cyfan.

This article is from: