2 minute read

oriau’n ddiweddarach, roedd Ashok ac

Aleia wedi anfon eu herthygl ddiweddaraf at bapur newyddion yr ysgol. Roedd tad Aleia hyd yn oed wedi’i rhannu ar ei gyfryngau cymdeithasol.

Roeddent wedi rhoi’r teitl ‘Gwastraff Bwyd, Blas

Gwael’ i’r erthygl gydag is-bennawd ‘Peidiwch â bod yn anghwrtais – achubwch eich bwyd!’ Roeddent wedi dyfynnu ffeithiau a ffigurau am faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu ac yn cynnwys cwestiynau ac awgrymiadau ar gyfer bwytai lleol, gan ofyn pam nad oeddent bob amser yn gwahanu 'bwyd da ond heb ei gyflwyno'n dda' o 'fwyd dros ben o bryd cwsmer’ ac yn awgrymu ffordd ecogyfeillgar i becynnu'r dognau.

* * *

Yr wythnos ganlynol, yn yr ysgol, ar ôl i'w gwers fathemateg ddod i ben, tynnodd Mrs Haim Ashok i un ochr. Cerddodd Aleia heibio i Ash a thynnu wyneb ‘Beth nawr?’ Cododd Ash ei ysgwyddau.

“Elli di fynd i weld Mr Redman plis?” gofynnodd Mrs Haim.

Gwgodd Ashok. Mr Redman oedd Pennaeth Blwyddyn Saith. Beth oedd e eisiau?

* * *

Cnociodd Ashok ar ddrws Mr Redman a chlirio ei wddf yn nerfus.

“Dewch i mewn” gwaeddodd Mr Redman.

Doedd dim syniad gan Ashok beth oedd Mr Redman eisiau, ond roedd cael ei alw i'w swyddfa yn eithaf dramatig.

“Ashok, sut wyt ti?”

“Iawn, syr. Diolch, syr.” Syllodd Ashok ar y carped. Oedd e mewn trwbwl? Doedd e ddim yn credu. Roedd Ashok bob amser yn gwneud ei orau ac yn cyflwyno’i waith cartref mewn pryd.

“Wyt ti’n digwydd gwybod am y bwyty newydd yn y dre?”

Rhewodd Ashok; llowciodd. Syllodd Mr Redman arno, ond nid oedd yn edrych yn grac, roedd yn gwenu. Nodiodd Ashok.

Ffoniodd reolwr y bwyty ni heddiw. Disgrifion nhw ti, dy wisg ysgol a’th... gŵyn ddiweddar a’th erthygl papur newydd.”

Caeodd Ashok ei lygaid, yn sydyn, am eiliad. O na. Roedd hyn yn ddrwg… Byddai’r ysgol yn ffonio’i fam a byddai’n cael ei gadw ar ôl ysgol neu’n cael ei wahardd – ac roedd ond yn ceisio helpu!

“Mae’n debyg dy fod wedi dod â mater pwysig iawn i'w sylw, a dweud y gwir.”

“Wir?”

“Yn wir. Eu gwastraff bwyd! Mae gan y prifgogydd ddwy ferch yn yr ysgol hon, a gwnest argraff fawr arni wrth godi'r mater trwy ysgrifennu erthygl mor wybodus a chytbwys. Mae wedi codi’r mater gyda Mick ei hun.”

Dywedodd Ashok, “Ceisiais siarad â nhw, syr, ond doedd dim diddordeb gyda nhw. Dw i ddim yn credu eu bod wedi cymryd fy syniad o ddifrif.”

“Wel, yn sicr maen nhw wedi nawr ar ôl i dy stori papur newydd fynd yn feirol.” Gwenodd Mr Redman.

“Mae’n iawn, Ashok. Maen nhw’n gofyn os hoffai papur newydd yr ysgol ddod i’r bwyty a gwneud erthygl ddilynol: ochr gadarnhaol y tro hwn? Mae

Mick yn ei ystyried fel cyhoeddusrwydd da – maen nhw’n mynd i ddi oergelloedd a fan ddosbarthu i’r banc bwyd lleol. Maen nhw’n mynd i weithio mewn partneriaeth â’r gegin fwyd leol a datblygu ryseitiau newydd o’u bwyd gwastraff. Ac, nid yn unig hynny, ond yn lle bod bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi, maen nhw wedi addo adolygu eu polisi compostio.

Drwy dynnu sylw at y mater, rwyt wedi gwneud gwahaniaeth mawr, Ashok.” * * *

Fis yn ddiweddarach, roedd Aleia, Ashok a'u teuluoedd yn cael eu lluniau wedi’u tynnu y tu allan i'r bwyty o flaen dwy fan ddosbarthu newydd. Roeddent i gyd gyda’u bodiau i fyny ac yn gwenu wrth i fflach arall fflachio - y llun oedd i gyd-fynd ag erthygl ddiweddaraf papur newydd yr ysgol.

This article is from: