Straeon Gwych Ar Gyfer Arwyr Hinsawdd! (Money Heroes KS2 Chapter Book in Welsh)

Page 30

Darluniwyd gan Iris Amaya 2 stori yn 1 Dydych chi fyth yn rhy fach i wneud gwahaniaeth!
E.L. norry
Straeon Gwych ar gyfer
Arwyr HInSAWDD

Straeon Gwych ar gyfer

Arwyr HInSAWDD

norry
E.L.
Darluniwyd gan Iris Amaya
2 stori yn 1

Supported by

Mae Arwyr Arian yn rhaglen gan Young Money, a gefnogir gan HSBC y DU.

Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise, elusen gofrestredig (rhif elusen: 313697)

Cyhoeddwyd yn y DU gan Scholastic, 2021

1 London Bridge, London, SE1 9BG

Scholastic Ireland, 89E Lagan Road, Dublin Industrial Estate, Glasnevin, Dulyn, D11 HP5F

Mae SCHOLASTIC a logos cysylltiedig yn nodau masnach a/neu nodau masnach cofrestredig Scholastic Inc.

Testun © E. L. Norry, 2021

Darluniadau yn null Iris Amaya gan Damien Barlow © Scholastic, 2021

Darlun ar y clawr gan Iris Amaya © Scholastic, 2021

Darluniwyd gan Plum5 Limited

Mae hawl E. L. Norry i gael ei hadnabod fel awdur y gwaith hwn wedi’i ddatgan o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

ISBN 978-1-7396622-9-5

Mae cofnod catalog CIP ar gyfer y llyfr hwn ar gael o'r Llyfrgell Brydeinig.

Cedwir pob hawl.

Gwerthir y llyfr hwn ar yr amod na fydd, fel masnach neu fel arall, yn cael ei fenthyg, ei logi na'i gylchredeg mewn unrhyw ffurf o rwymiad neu glawr ac eithrio'r un y'i cyhoeddir ynddo. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i storio mewn system adalw, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffurf na thrwy unrhyw fodd arall (electronig, mecanyddol, llungopïo, recordio neu fel arall) heb ganiatâd ysgrifenedig Scholastic Limited o flaen llaw.

Ffuglen yw’r gwaith hwn. Mae enwau, cymeriadau, lleoedd, digwyddiadau a deialogau yn gynnyrch dychymyg yr awdur neu’n cael eu defnyddio fel ffuglen. Mae unrhyw debygrwydd i bobl wirioneddol, byw neu farw, digwyddiadau neu fannau yn gydddigwyddiad llwyr.

www.scholastic.co.uk

1 3 5 7 9 10 8 6 4 2
Cynnwys Bwyd, Gogoneddus Fwyd 5 Rhodd Bod yn Ofalus gydag Arian 35

Bwyd, Gogoneddus Fwyd

“Rwy’n llawn!” meddai Ashok, gan rwbio’i stumog a griddfan, wrth iddo wthio’i fowlen o gyri cig oen i un ochr. “Beth sy i bwdin?”

Nos Sul oedd hi. Roedd tad Ashok newydd adael am ei sifft yn yr ysbyty ac roedd ei fam yn tynnu dillad gwlyb o'r peiriant golchi i mewn i fasged golchi dillad. Edrychodd mam i fyny a rholio’i llygaid. “Rwyt ti newydd ddweud dy fod yn llawn!”

Gwenodd Ashok. “Mam, ti'n gwybod bod lle i bwdin bob tro!”

“Gorffenna beth sy yn dy fowlen, plîs,” meddai Mam. “Mae plant—”

“—yn llwgu, ydw, dw i’n gwybod.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Mam ddweud wrth Ashok am orffen ei fwyd. Y broblem oedd, roedd hi

5

bob amser yn rhoi dognau enfawr, ac nid oedd fyth yn gallu gorffen beth roedd hi’n ei weini. Roedd Dad yn meddwl ei bod yn gweld eisiau’r efeilliaid a oedd wedi gadael cartref yn ddiweddar i fynd i’r brifysgol.

Cafodd Ashok un llond ceg arall ac yna crafu'r gweddill i'r bin.

“Mam, ydyn ni'n prynu nwyddau masnach deg?”

“Masnach beth?”

“Masnach deg. Roeddem yn dysgu amdano’r wythnos ddiwethaf. Yfory mae’n rhaid i mi ddod â rhestr o unrhyw nwyddau masnach deg rydym yn eu defnyddio yn y tŷ.”

Cododd ei fam ei hysgwyddau. “Dw i ddim yn credu.”

Dywedodd Ashok, “Dylem ddechrau prynu peth. Cefnogi sefydliad byd-eang sy’n sicrhau gwell prisiau ac amodau gwaith i ffermwyr – maent yn gwneud lles.”

Rhoddodd y plwg yn y sinc ac ychwanegu hylif golchi llestri. Gwasgodd y dŵr allan o liain ac yna sychu bwrdd y gegin a'r arwynebau gwaith yn ofalus.

“Rwyt ti mor barod i helpu.” Gwenodd Mam arno. “Diolch, cariad. A dweud y gwir, masnach deg...? Ai dyna’r sticeri bach gwyrdd a glas hynny ar bethau?”

Nodiodd Ashok. “Dyna ni. Maen nhw’n rhoi arian i gymunedau i ddarparu pethau fel ysgolion a dŵr glân.”

“Wel, dw i bob amser yn prynu bananas masnach deg.”

“Ond gallem brynu coffi a phethau eraill hefyd.”

“Dw i fel arfer yn prynu beth bynnag sy yn y siop, cariad. Nid fy mhenderfyniad i yw hi.”

“Ond bydd siopau’n stocio’r hyn mae cwsmeriaid yn dewis eu prynu – felly os bydd mwy o bobl yn prynu masnach deg, yna byddant yn cael mwy i mewn.”

“Efallai gwnaf i felly. Os nad ydynt yn llawer mwy drud,” dywedodd gan gymryd saib. “Ti’n iawn.

8

Dylai pawb gael yr un cyfleoedd.”

Clepiodd y drws ffrynt, a dechreuodd eu ci Rufus, oedd yn cysgu o dan fwrdd y gegin, glepian cyfarth.

“Shh, Rufus!” dywedodd Ashok. “Dim ond y bachgen sy’n gwneud gwyrthiau yw e!”

“Sut oedd dy ddiwrnod cyntaf?” galwodd mam ar Zhiming, tra'n ysgwyd cynfas gwely cyn ei hongian dros y rac dillad.

“Dw i wedi blino’n lân!” Rhoddodd Zhiming ei fag cefn ar gadair a disgyn i mewn iddi. “Mam, o ddifrif – dw i ddim yn gwybod sut rwyt yn gallu gwneud dwy swydd a gofalu amdanom ni hefyd.”

Roedd Zhiming yn un deg chwech. Pedair blynedd yn hŷn nag Ashok, ac roedd newydd gael ei swydd ran-amser gyntaf, yn golchi llestri yng ngheginau'r bwyty ffansi newydd, enwog yn y dref.

“Yr allwedd yw dod o hyd i rywbeth rwyt yn ei fwynhau fel fi yn y llyfrgell a thiwtora - yna dyw e ddim yn teimlo fel gwaith.”

“Wel am y tro, yr unig beth sydd gen i i edrych ymlaen ato yw bod hyd at fy mhenelinoedd mewn dŵr brwnt, seimllyd.” Chwarddodd Zhiming.

9

“Mae’n anodd iawn i rywun o’r un oedran â mi ddod o hyd i bwrpas eu bywyd a chael ei dalu amdano. Pwy fyddai'n talu i mi chwarae gemau fideo?"

Gwenodd ei fam. “Mae gweithio’n galed am beth wyt ti eisiau yn esiampl dda i Ashok, ac rwyt yn cael profiad gwerthfawr hefyd.”

Edrychodd Ashok i fyny. “Mae diwrnod caled o waith wedi dy flino’n llwyr, ydy e?” dywedodd gan dynnu’i goes.

“Beth alla i ei fwyta?” Agorodd Zhiming yr oergell ac edrychodd y tu mewn. "Mam, dw i'n llwgu!"

“D’on nhw ddim wedi dy fwydo yn y gwaith?

R’on i’n meddwl bod hynny’n rhan o’r fargen.”

Cododd Zhiming ei ysgwyddau. “Do, r’on nhw wedi cynnig, ond d’on i ddim eisiau trio gafr na chwningen mewn gwirionedd.” Tynnodd wyneb rhywun yn bod yn sâl “Druan â Pwtan y Gwningen bach, yn cael ei fwyta, tamaid o bersli wedi’i daenu dros ei glustiau.”

“Wir?” gofynnodd Ashok, ei lygaid yn llydan agored. “Mae hwnna ar y fwydlen?”

“Ydy.” Nodiodd Zhiming. “Digon i wneud i unrhyw un droi’n llysieuwr, on'd yw e?”

“Ddim y ddadl yma eto!” Rholiodd Mam ei llygaid. “Zee. Rwyt yn tyfu. Mae angen protein arnat ar gyfer yr holl gyhyrau rwyt yn ysu eu magu. Cig!”

Ochneidiodd Zhiming. “Na Mam, dw i wir ddim ei angen.”

11

“Paid â chwyno wrthyf pan fyddi’n rhy wan i symud…” twt-twtiodd hi.

“Ond mae digon o brotein mewn soia a ffa a—”

Daliodd Mam faneg rwber felen i fyny a'i ysgwyd tuag at Zhiming. “Paid ti â fy narlithio i am fwyd, boi.”

Nid oedd Ashok yn ei hoffi pan oedd ei fam a'i frawd yn trafod y mater. Roedd y sgwrs yma wedi bod yn digwydd yn eu tŷ am wythnosau bellach: Zee yn cwyno bod bwyta cig yn ddrwg i dreuliad a'r amgylchedd. Ond roedd Mam yn mynnu bod protein yn bwysig, ac mai cig oedd y ffordd orau i'w gael.

“Mae llwyth o gyri cig oen ar ôl.” dywedodd Ashok wrth Zhiming, gan deimlo'n wael yn sydyn

am y dogn roedd newydd ei daflu. Diolch byth bod Mam wedi gwneud gormod!

Gweinodd Zhiming gyri i mewn i bowlen a chael chapati.

Rhoddodd mam y fasged golchi dillad i Ashok.

“Allet ti hongian y dillad sydd ar ôl, plîs? Mae’r ystafell fyw gyda chi i chi’ch hunain am awr, ond golau i gael eu diffodd am naw, Ash."

Nodiodd y bechgyn a mynd i’r lolfa. Rhoddodd Zhiming ei bowlen i lawr a llwytho’i hoff gêm fideo, tra bod Ashok yn hongian y sanau oedd yn weddill ar y rheiddiaduron.

“Shwd beth yw e ‘te? Gweithio?” gofynnodd Ashok.

Ochneidiodd Zee. “Dw i wedi blino shwd gymaint, Ash. Dw i wedi bod ar fy nhraed ers amser cinio –dyna chwe awr. Roedd hi'n boeth iawn, yn flinedig ac yn chwyslyd, ac roedd y llestri’n cadw i ddod yn ddi-ddiwedd. Ond cawsom lwyth o gildyrnau; maen nhw’n cael eu rhannu rhwng y gegin a’r staff gweini.”

“Gwrddaist ti â Mick, y boi o’r teledu?” Roedd y perchennog yn ben-cogydd o fri, yn enwog am weiddi ar bobl a gwneud iddynt goginio bwydydd rhyfedd.

“Naddo. Yn ôl pob tebyg, weithiau mae'n galw heibio ar hap, ond fel arall mae’n gadael i bawb gario ymlaen ar eu liwt eu hunain. A dweud y gwir wrthyt, maen nhw’n taflu llwyth o fwyd. Allwn i ddim credu fy llygaid ar ddiwedd y sifft.”

Rhoddodd Ashok reolydd arall i Zhiming a dechreuon nhw chwarae Race2Glory 2.

“Wir? Ydy’r bwyd mor ddrwg â hynny?”

“Nac ydy, nid dyna’r rheswm. Gwagiais y biniau ac yn llythrennol roedd mynydd o fwyd, y cyfan wedi’i stwnsio gyda’i gilydd.” Cododd Zee ei ddwylo i uchder ei ganol. “Yn wir, roedd peth ohono – wel, doedd dim byd o’i le arno. Mae'r pen-cogyddion yn

14

anodd eu plesio ynglŷn â chyflwyniad, ac oherwydd bod cwsmeriaid yn darllen adolygiadau ac yn disgwyl perffeithrwydd… Os bydd gan blât y camgymeriad lleiaf - fel diferyn o ddresin yn anghywir - mae'r pencogyddion yn colli’u tymer ac yn ei daflu i ffwrdd!”

Teimlodd Ashok ei fochau’n llosgi wrth iddo gofio crafu ei gyri cig oen i’r bin yn gynharach. Roedd ei fam yn iawn; roedd plant yn llwgu ledled y byd a doedd e heb feddwl dwywaith hyd yn oed.

* * * 15

Y diwrnod canlynol yn yr ysgol, roedd Ashok yn dal i feddwl am beth roedd Zhiming wedi'i ddweud am y bwyd yn cael ei daflu i ffwrdd yn ei fwyty. Doedd hynny ddim yn swnio’n deg. Yn eu gwers ABCI, roeddent wedi cael trafodaeth ddosbarth am bobl

ddigartref. Ni allai rhai teuluoedd hyd yn oed yn y dref hon fforddio bwyta, nid ardaloedd pell yn unig oedd angen help. Dywedodd eu hathro wrthynt am

geginau bwyd a banciau bwyd – roedd yn swnio fel bod y ddau’n helpu eraill ac nid oeddent yn gwastraffu bwyd. Ond yn amlwg, nid oedd pawb yn

gwneud hynny. Os oedd y bwyty newydd ffansi hwn yn taflu bwyd ar ddiwedd pob sifft, bwyd oedd yn

iawn i bobl ei fwyta, sut gallai hynny fod yn iawn?

Ond efallai nad oedd y bwyty’n ymwybodol am y banciau bwyd a’r ceginau yma. Efallai gallai Ashok

fynd i ddweud wrthynt!

16

Tapiodd ffrind Ashok, Aleia, ef ar ei fraich. “Dod i gael cinio?” gofynnodd.

“Aros eiliad,” dywedodd Ashok, gan symud ymlaen yn y llinell a oedd yn ciwio am y ffynnon ddŵr. “Rwy’n ail-lenwi hwn.”

“Wyt ti wedi gweld fy fflasg newydd?” Daliodd Aleia fflasg arian a du i fyny. “Dylet brynu un.”

Rhoddodd Ashok ei botel blastig o dan y beipen ddŵr a'i hail-lenwi. “Ond dw i ddim yn cael cawl.”

“Dyw hi ddim ar gyfer cawl yn unig. Rwyt ti’n gallu rhoi unrhyw beth y tu mewn.” Nodiodd tuag at ei botel ddŵr blastig. “Dyw hi ddim yn dda prynu poteli dŵr plastig.”

17

“Ydy hi?” Cododd Ashock ei ysgwyddau. “Pam?”

“Os wyt ti’n cadw eu taflu i ffwrdd ac yna'n prynu un arall - dyw e ddim yn dda ar gyfer yr amgylchedd, ydy e?”

“Na, dyw e ddim, am wn i.”

Nodiodd Aleia. “Clywais bodlediad amdano.” Edrychodd o gwmpas am fwrdd rhydd yn yr ystafell fwyta a phwyntio at un. “Wela i di draw fan ‘na.”

Pan oedd Ashok yn ciwio am ei ginio ysgol poeth, yn sydyn meddyliodd am rywbeth. “Ydych chi'n taflu bwyd allan?” gofynnodd i'r wraig ginio oedd yn gweini dogn slwtshlyd o lasagne iddo.

“Beth cariad?” gofynnodd, gan bwyso ymlaen a gwthio’i rhwyd gwallt gwyn yn ôl dros ei chlust i'w glywed yn iawn.

“Ar ddiwedd y dydd, ydy ffreutur yr ysgol yn taflu bwyd i ffwrdd?”

Craffodd arno. “O nac ydy.” Edrychodd wedi’i syfrdanu. “Byddai hynny’n wastraffus iawn.”

Da iawn. “Felly, beth ydych chi’n wneud gyda’r bwyd ychwanegol?” gofynnodd.

Gwenodd y wraig ginio. “Wel, fel y gallet ddychmygu, does fyth unrhyw sglodion ar ôl, ond mae brechdanau a salad gyda ni’n aml ar ôl. Ar ddiwedd pob prynhawn, rydym yn mynd â’r bwyd i'r lloches i'r digartref. Braf dy weld yn cymryd diddordeb, boi.”

18

Roedd Ashok yn falch bod eu hysgol o leiaf yn ymddwyn yn gyfrifol. Gan eistedd wrth ymyl Aleia, edrychodd arni’n tynnu un neu ddau o wahanol gynwysyddion allan. “Beth sydd gennyt?”

“Bwyd dros ben.”

“Mae’n arogli’n dda.”

“Ydy, mae cyri bob amser yn blasu’n well y diwrnod canlynol, on’d wyt ti’n meddwl?”

Meddyliodd Ashok am sut roedd wedi taflu ei gyri yn y bin. “Ydyn nhw?” Mae mam yn poeni’n fawr bob amser am fwyd yn mynd yn ddrwg, mae fel

20

arfer yn ei daflu yn y bin. Mae bob amser yn gwneud gormod hefyd, yn coginio fel bod gennym dŷ llawn o bobl o hyd.”

“Cred fi - maen nhw’n llawer mwy blasus ddiwrnod neu ddau’n ddiweddarach. Oo, sut aeth swydd Zee?"

Chwarddodd Ashok. “Roedd e mor flinedig, syrthiodd i gysgu o fy mlaen i!”

“Mae'n gweithio yn y lle newydd ffansi hwnnw sy'n gweini sgorpionau wedi'u ffrio a siarc?”

“Ydy. Mae eu bwydlen yn swnio’n anghyffredin iawn.”

“Wyt ti wedi bod?”

“Nac ydw, ddim eto. Roedd Ashok yn tybio sut roedd lle mor ffansi yn edrych... efallai gallai ymweld ag ef a gweld drosto'i hun. “Ond mae Zee yn dweud eu bod yn taflu llwyth o bethau allan.”

“Dyw hynny ddim yn swnio’n gyfrifol iawn!”

Sychodd Aleia ei ffacbys i fyny gyda roti. “Cofia, pa mor rhyfedd mae rhaid i ti fod i fwyta aligator!”

* * *

Ar ôl yr ysgol, tinciodd ffôn Ashok wrth iddo gerdded trwy ei ddrws ffrynt. Neges testun gan Zhiming: Elli di ddod â’m pwmp i’r bwyty? Teiar yn fflat. Der rownd y cefn.

Neidiodd Ashok ar ei feic, gwisgodd ei helmed a phedlodd ar hyd y ffyrdd tawel nes iddo gyrraedd y

21

lonydd cefn oddi ar y stryd fawr. Sylwodd ar feic Zee wedi'i gloi i bolyn lamp wrth ymyl y bwyty.

Roedd plocyn yn dal y drws cefn ar agor, ac yng nghanol biniau diwydiannol ag olwynion oedd yn gorlifio â sbwriel, clywodd Ashok botiau a sosbenni’n clecian yn erbyn ei gilydd. Edrychodd i mewn, a thrwy gwmwl o stêm, gwelodd Zhiming â’i wyneb coch a chwyslyd yn dadwneud ei ffedog a'i hongian i fyny.

“Amseru da, frawd!” Gwenodd mewn rhyddhad wrth weld Ashok yn chwifio'r pwmp beic. “Ddim yn ffan o’r sesiwn amser cinio. Wela i di!” dywedodd Zhiming dros ei ysgwydd wrth y lleill yn y gegin.

“Cofio beth ddywedaist wrthyf y diwrnod o'r blaen?” Gwyliodd Ashok Zee yn pwmpio ei deiar ôl.

22

“Dylet siarad â dy fos am yr holl wastraff bwyd yna. Ydy hwnna’n rhan ohono?” Pwyntiodd at hambwrdd o binafalau wedi'u cydbwyso ar ben bin ag olwynion. “Beth sy'n bod ar y rheiny?”

“Doedden nhw ddim wedi’u torri’n gywir.”

“Mae hynny mor wirion!” Cwyna wrth rywun.”

“Beth? Dim diolch!” ebychodd Zhiming. “Dw i newydd gychwyn yma. Nid wyf yn mynd i groesi'r... peth.”

“Ond mae’n anghywir os ydynt yn gwneud cymaint o arian ond ar y llaw arall yn taflu cymaint o fwyd!”

“Does dim ots gan neb!”

23

Dywedodd Ashok, “Wel, mae ots gen i . Yn yr ysgol dywedon nhw wrthym am y banciau bwyd a'r ceginau bwyd. Pam dyw’r lle yma ddim yn helpu, efallai rhoi bwyd neu rywbeth?”

“Edrycha, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny, ydyn nhw? Beth bynnag, dyw banciau bwyd ddim yn derbyn pethau fel llaeth a chaws oherwydd eu bod yn mynd yn ddrwg yn rhy gyflym. Ac os byddai unrhyw un yn clywed bod y bwyty wedi rhoi stêcs estrys i ffwrdd, byddai’u busnes yn cael ei ddifetha. Pam fyddai unrhyw un yn dod i dalu hanner can punt am ginio dau gwrs, hmm? Meddylia amdano fe, Ash. Eu henw da.”

Rhoddodd Zhiming y pwmp yn ôl i Ashok a neidiodd y ddau ar eu beiciau a beicio adref. Ond nid oedd Ashok yn gallu peidio â meddwl os oedd Zee’n anghywir. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn gallu cael ei wneud ... roedd angen iddo feddwl am ffordd. Os na allai banciau bwyd dderbyn cynhwysion ffres, mae’n rhaid y byddai’r ceginau bwyd yn gallu gwneud?

* * *

Gartref, wrth i Mam weini cinio, syllodd Ashok ar ei blât oedd yn llawn bwyd.

“Mam…” gan droi ei lygaid at Zhiming a oedd yn llowcio’i fwyd. “Dw i wir … does dim angen i ti roi dognau mor fawr i mi,” dywedodd. “Rwy’n credu dy fod yn dal i goginio fel nad yw Nandita a Rani wedi mynd i’r brifysgol!”

24

Gwenodd ei fam, ychydig yn drist. “Efallai bod pwynt gyda ti.” Ochneidiodd a thynnu’i ffedog. “Rwyf wedi arfer coginio i chwech!”

25

Gwenodd Ashok. “Bydd yn iawn yfory, gallaf fynd â’r bwyd dros ben i ginio! Yn nhechnoleg bwyd, dysgon nhw ni am gyllido a phrynu bwyd. Efallai yn lle gwneud cymaint, os byddet yn dechrau cyllido, dim ond prynu a choginio i’r pedwar ohonom, yna hyd yn oed os byddai pethau masnach deg yn costio ychydig yn fwy, byddem yn gallu eu fforddio!”

Syllodd Mam ar Ashok, gyda’i cheg ychydig ar agor. “Wel, wel. Syniad da!”

26

Gwenodd Zhiming ar y ddau. “Tra ein bod i gyd yn meddwl am syniadau da… Mam, beth wyt ti’n feddwl am beidio â chael cig ar ddydd Llun? “Hmm?” * * *

Y diwrnod canlynol, ar ôl yr ysgol, aeth Ashok i'r bwyty. Canodd cloch fach arian dros y drws pan gerddodd i mewn. Edrychodd gwraig ifanc gyda thatŵs ar ei breichiau a gwallt coch llachar i fyny o’r tu ôl i ddesg Bersbecs borffor glir. Edrychodd ar Ashok.

Ga i helpu?” gofynnodd, yn ddigon caredig, er ei bod yn gwgu, fel pe bai’n methu credu bod plentyn yn sefyll o'i blaen.

“Ydy’r rheolwr yma?” Cliriodd Ashok ei lwnc. Roedd ar bigau’r drain ond roedd beth oedd ganddo i'w ddweud yn bwysig. Os byddai unrhyw beth yn mynd o'i le, yna roedd yn gwybod bod ei frawd mawr yn y cefn. Nid ei fod wedi dweud wrth Zee am ei gynllun i ddod yma.

“Ymm, nac ydy. Mae’n flin ‘da fi ond dim ond fi sy'n gofalu am y dderbynfa a'r ardal trefnu bwrdd.

Pam bod angen i ti siarad â’r rheolwr, cariad?” Roedd hi’n edrych fel ei bod ar fin chwerthin, yn meddwl mae’n debyg ei fod wedi dod i gael llofnod Mick yn unig.

“Dw i... wel, r’on i eisiau gofyn rhywbeth iddo.

Trafod... syniad busnes.”

27

“Pam na wnei di ddim gofyn i mi?” Gwyrodd ei phen i un ochr.

Gollyngodd Ashok y gath o’r cwd. “Oeddech chi’n gwybod bod pobl di-gartref yr ochr arall i’r parc? Gallai’r bwyty yma gael cynwysyddion pryd ar glud a rhoi’r bwyd nad yw’n cael ei ddefnyddio iddyn nhw ar ddiwedd pob nos?”

“O cariad.” Diflannodd ei gwên. “Mae hynny’n syniad hyfryd, ond nid dyna sut mae pethau’n gweithio yn y byd go iawn.

Roedd Ashok wedi drysu ynghylch pam nad oedd hi wedi cymryd ei syniad o ddifrif, dyma oedd y byd go iawn!

“On’d ydych chi ddim yn meddwl y byddai’n dda i’r gymuned os byddech—”

“Gwranda.” Culhaodd ei llygaid. “O ddifrif –mae llawer gormod o faterion iechyd cyhoeddus i ni eu hystyried i roi bwyd. Beth os byddai rhywun yn dioddef adwaith alergaidd, neu'n mynd yn sâl? Ni yw'r prif fwyty newydd yn y dref hon. Yn fasnachol, ni fyddai’n... briodol.”

Roedd bochau Ashok yn goch Trodd a rhuthrodd adref yn gyflym. Efallai nad oedd mynd i’r bwyty yn syniad da wedi’r cyfan. Nid oedd wedi ystyried pethau.

* * *

Yn yr ysgol, dywedodd wrth Aleia am beth roedd wedi bod yn gweud. Er syndod iddo, roedd hi ar yr un ochr â Zhiming.

28

“Ash! Rwyt ti’n methu mynd o gwmpas yn mynnu bod lleoedd yn newid! Efallai bod ganddynt resymau hollol ddigonol dros wneud beth maen nhw’n ei wneud.” Yna ebychodd. “Neu efallai nad oedden nhw’n sylweddoli bod unrhyw un yn gwybod eu bod yn taflu bwyd i ffwrdd?”

Efallai bod Aleia’n iawn ac nad oedd yr hyn roedd y bwyty’n ei wneud yn wybodaeth gyffredin, ond roedd Ashok yn meddwl y dylai pawb wybod.

29

Pe bai elusen yn cychwyn gartref, yna byddai'n gwneud synnwyr i fusnesau lleol helpu'r rhai hynny mewn angen. Roedd eu harchfarchnad bob amser yn rhoi prydau am ddim ar gyfer rafflau Nadolig, felly pam na allai’r bwyty wneud rhywbeth gwerth chweil hefyd? Neu oeddent yn meddwl bod rheolau gwahanol yn berthnasol iddyn nhw oherwydd bod y perchennog yn gyfoethog ac yn enwog?

“Aleia, wnei di fy helpu gyda rhywbeth?”

“Wrth gwrs! Beth sy angen arnat? gofynnodd, gan wenu.

Ychydig

oriau’n ddiweddarach, roedd Ashok ac

Aleia wedi anfon eu herthygl ddiweddaraf at bapur newyddion yr ysgol. Roedd tad Aleia hyd yn oed wedi’i rhannu ar ei gyfryngau cymdeithasol.

*
* *

Roeddent wedi rhoi’r teitl ‘Gwastraff Bwyd, Blas

Gwael’ i’r erthygl gydag is-bennawd ‘Peidiwch â bod yn anghwrtais – achubwch eich bwyd!’ Roeddent

wedi dyfynnu ffeithiau a ffigurau am faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu ac yn cynnwys cwestiynau ac awgrymiadau ar gyfer bwytai lleol, gan ofyn pam nad

oeddent bob amser yn gwahanu 'bwyd da ond heb ei gyflwyno'n dda' o 'fwyd dros ben o bryd cwsmer’ ac yn awgrymu ffordd ecogyfeillgar i becynnu'r dognau.

* * *

Yr wythnos ganlynol, yn yr ysgol, ar ôl i'w gwers fathemateg ddod i ben, tynnodd Mrs Haim Ashok i un ochr. Cerddodd Aleia heibio i Ash a thynnu

wyneb ‘Beth nawr?’ Cododd Ash ei ysgwyddau.

“Elli di fynd i weld Mr Redman plis?” gofynnodd Mrs Haim.

Gwgodd Ashok. Mr Redman oedd Pennaeth Blwyddyn Saith. Beth oedd e eisiau?

* * *

Cnociodd Ashok ar ddrws Mr Redman a chlirio ei wddf yn nerfus.

“Dewch i mewn” gwaeddodd Mr Redman.

Doedd dim syniad gan Ashok beth oedd Mr Redman eisiau, ond roedd cael ei alw i'w swyddfa yn eithaf dramatig.

“Ashok, sut wyt ti?”

31

“Iawn, syr. Diolch, syr.” Syllodd Ashok ar y carped. Oedd e mewn trwbwl? Doedd e ddim yn credu. Roedd Ashok bob amser yn gwneud ei orau ac yn cyflwyno’i waith cartref mewn pryd.

“Wyt ti’n digwydd gwybod am y bwyty newydd yn y dre?”

Rhewodd Ashok; llowciodd. Syllodd Mr Redman arno, ond nid oedd yn edrych yn grac, roedd yn gwenu. Nodiodd Ashok.

Ffoniodd reolwr y bwyty ni heddiw. Disgrifion nhw ti, dy wisg ysgol a’th... gŵyn ddiweddar a’th erthygl papur newydd.”

Caeodd Ashok ei lygaid, yn sydyn, am eiliad. O na. Roedd hyn yn ddrwg… Byddai’r ysgol yn ffonio’i fam a byddai’n cael ei gadw ar ôl ysgol neu’n cael ei wahardd – ac roedd ond yn ceisio helpu!

“Mae’n debyg dy fod wedi dod â mater pwysig iawn i'w sylw, a dweud y gwir.”

“Wir?”

“Yn wir. Eu gwastraff bwyd! Mae gan y prifgogydd ddwy ferch yn yr ysgol hon, a gwnest argraff fawr arni wrth godi'r mater trwy ysgrifennu erthygl mor wybodus a chytbwys. Mae wedi codi’r mater gyda Mick ei hun.”

Dywedodd Ashok, “Ceisiais siarad â nhw, syr, ond doedd dim diddordeb gyda nhw. Dw i ddim yn credu eu bod wedi cymryd fy syniad o ddifrif.”

“Wel, yn sicr maen nhw wedi nawr ar ôl i dy stori papur newydd fynd yn feirol.” Gwenodd Mr  Redman.

32

“Mae’n iawn, Ashok. Maen nhw’n gofyn os hoffai papur newydd yr ysgol ddod i’r bwyty a gwneud

erthygl ddilynol: ochr gadarnhaol y tro hwn? Mae

Mick yn ei ystyried fel cyhoeddusrwydd da – maen

nhw’n mynd i ddi oergelloedd a fan ddosbarthu i’r

33

banc bwyd lleol. Maen nhw’n mynd i weithio mewn partneriaeth â’r gegin fwyd leol a datblygu ryseitiau

newydd o’u bwyd gwastraff. Ac, nid yn unig hynny, ond yn lle bod bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi, maen nhw wedi addo adolygu eu polisi compostio.

Drwy dynnu sylw at y mater, rwyt wedi gwneud gwahaniaeth mawr, Ashok.” * * *

Fis yn ddiweddarach, roedd Aleia, Ashok a'u teuluoedd yn cael eu lluniau wedi’u tynnu y tu allan i'r bwyty o flaen dwy fan ddosbarthu newydd. Roeddent i gyd gyda’u bodiau i fyny ac yn gwenu wrth i fflach arall fflachio - y llun oedd i gyd-fynd ag erthygl ddiweddaraf papur newydd yr ysgol.

34

Rhodd Bod yn Ofalus gydag Arian

“Pa mor bell yw’r siopau?” gofynnodd Summer, gan anadlu ar ffenestr y bws ac amlinellu patrymau.

Tynnodd Ruby un glustffon. Roedd wedi gofyn os oedd Summer wedi eisiau gwrando – ond dywedodd Summer fod gwrando ar gerddoriaeth neu edrych ar ffôn tra’n teithio yn gwneud iddi deimlo’n sâl.

“Pedair arhosfan i ffwrdd.” Trodd Ruby y sain i fyny ar ei ffôn. “Paid â gwneud hynny, dyw’r gyrrwr ddim yn ei hoffi.”

Nid oedd Ruby yn gallu credu bod ei hanner tymor yn helpu cariad newydd Dad, Catriona, a’i merch Summer, i ymgartrefu. Roedd Ruby a Summer mor wahanol. Roedd Summer yn un ar ddeg, blwyddyn yn ifancach na Ruby. Roedd Summer yn dwlu ar anime ac yn cymryd oesoedd i benderfynu am bopeth: beth i'w fwyta, ble i fynd.

35

Unwaith, yn y sinema, cymerodd Summer gymaint o amser yn penderfynu beth i'w wylio fel eu bod wedi colli dechrau dwy ffilm! Nid oedd Ruby fyth yn gwybod beth dylent siarad amdano os nad oeddent yn gwneud rhyw weithgaredd wedi’i drefnu.

Gwasgodd Summer ei wyneb ar y gwydr yn lle hynny. “Ond beth os byddwn yn mynd ar goll?”

“Fyddwn ni ddim,” dywedodd Ruby’n gadarn.

“Dyw’r dref yma ddim tebyg i Fanceinion. Bydda i’n dod i siopa bob dydd Sadwrn ac wedi gwneud ers oesoedd. Mae’r ganolfan siopa’n hollol gaeedig, does dim ffyrdd na dim byd. Ac mae’n ffonau gyda ni, os oes argyfwng.”

Ysgydwodd Summer ei phen. “Does dim ffôn gyda fi.”

“Beth?” Roedd Ruby wedi cael ffôn symudol am ei phen-blwydd yn ddeg oed.

Cododd Summer ei hysgwyddau. Dywedodd Mam does dim angen un arna i.” Cnoiodd ewinedd ei bysedd eto. “Ddim eto ta beth. Efallai pan fyddai’n mynd i’r ysgol fawr.”

“Paid â phoeni, mae fy un i gyda fi. A – gair o gyngor – paid â’i galw yn ‘ysgol fawr’. Mae’n swnio’n blentynnaidd. O edrycha, rydyn ni yma!”

Wrth ddod oddi ar y bws, gwelodd Ruby ei ffrindiau a rhedeg atynt. Taflon nhw eu breichiau o amgylch ei gilydd, gan wichian.

Sefodd Summer yn ôl, gan droi ei dwylo gyda’i gilydd, yn nerfus.

Syllodd y tair ohonynt arni. “Helo,” dywedon nhw, gan edrych i fyny ac i lawr arni, gan wenu.

“Mya dw i.” Pwyntiodd Mya at grys-T Summer. “O dduw mawr... dw i’n dwlu ar dy dop - mae mor ciwt!” Rhoddodd Mya ei breichiau o amgylch ysgwyddau merch arall. “Dyma Yetunde.”

“O ble gest ti’r crys-t?” gofynnodd Yetunde, yn edmygus. “Mae’n rhyfeddol.”

Gwenodd Summer. “Fi wnaeth e.”

“Wir?” ebychodd Yetunde. “Sut?”

Syllodd Ruby ar grys-T Summer, gan edrych arno go iawn am y tro cyntaf. “Ti Wnaeth hwnna?”

Roedd yn ddu gyda secwinau a thoriadau ac roedd yn edrych yn unigryw.

“Yn wreiddiol ffrog oedd e. Gwnes i ei huwchgylchu.”

Doedd dim syniad gan Ruby beth oedd uwchgylchu ac nid oedd ar fin gofyn, gan nad oedd eisiau edrych yn dwp o flaen ei ffrindiau. Chwifiodd nodyn ugain punt o dan drwyn Mya. “Edrycha beth roddodd Dad i mi!”

“Sut?” dywedodd Yetunde.

Gwenodd Ruby. “Mae i fod ar gyfer cinio, ond ni fydd angen i ni wario cymaint â hyn. Bydd digon

‘da fi ar ôl ar gyfer y sgert ddisglair honno. Efallai esgidiau sy’n mynd gyda hi hyd yn oed?”

38

“Anfonodd Rubes neges testun atom i ddweud byddet yn dod.” Fflachiodd Mya wên gyfeillgar ar Summer. “Barod i gael amser dy fywyd?”

Nodiodd Summer. “Ydw!”

Cleciodd Yetunde swigen binc fawr. “Rwyt wedi dod ag arian?”

“Does dim angen dim byd arnaf. Dw i jyst yn edrych.”

Chwarddodd Mya. “Dim ond yn edrych?”

Rhoddodd Ruby bwt i’r gweddill. “Beth?” gofynnodd gan dynnu coes.

Dywedodd Yetunde, “Ie. Arhosa nes i ti weld yr holl wisgoedd newydd anhygoel - byddi di'n newid dy feddwl yn ddigon buan!"

39

Cydiodd y tair merch ym mreichiau’i gilydd. Edrychodd Ruby dros ei hysgwydd, gan deimlo'n euog pan welodd Summer yn llusgo’i thraed. Efallai dylai gydio ym mraich Summer hefyd?

Er bod Ruby a’i ffrindiau yn cerdded o amgylch y siopau arferol, nid oedd yn teimlo’r un peth gyda Summer yno. Ceisiodd Ruby ei chynnwys yn eu sgyrsiau, ond roedd Summer yn cadw gofyn, "Beth mae hynny'n ei olygu?" a “Pwy yw hwnna?” a phan oedd Ruby’n ceisio esbonio, roedd yn diffetha popeth.

40

Wrth bori drwy raciau o legins newydd, roedd Mya ac Yetunde yn chwerthin am ben rhyw fachgen yn eu dosbarth Ffrangeg. Rhoddodd Ruby bwt i Summer gan sibrwd, “Paid â sôn wrth dy Fam am y peth, iawn?”

“Sôn am beth?” Dylyfodd Summer ei gên. “Sori, d’on i ddim yn gwrando.”

Sylwodd Ruby nad oedd Summer yn pori trwy'r rhaciau dillad, a doedd hi ddim yn gwenu llawer chwaith. Roedd hi'n cadw i gnoi ei gwefus ac edrych ar ei watsh. Cafodd Ruby syniad a allai eu helpu i gyd i gael amser gwell.

“Mae siop gomic retro drws nesaf. Mae ganddi rifynnau manga bob amser. Mae gen ti ddiddordeb yn hwnna, eisiau mynd i weld beth sy ar gael?”

Gwenodd Summer am y tro cyntaf drwy'r dydd. “Ydw plîs!” Pefriodd ei llygaid.

Edrychodd Ruby ar ei ffôn. “Fyddwn ni ddim yn rhy hir. “Down i dy nôl mewn pymtheg munud, iawn?

“O." Roedd Summer yn siomedig. Dydych chi ddim yn dod?”

“Paid â siarad ag unrhyw ddieithriaid, iawn.” Cydiodd Ruby ym mreichiau Yetunde a Mya. “Gwelwn ni ti mewn ychydig!”

* * *

Yn ddiweddarach, gartref, roedd Ruby’n chwarae cerddoriaeth yn uchel ar ei ffôn ac yn cymryd hun-luniau wrth fynd trwy ei phethau newydd. Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n mynd i ddefnyddio’i

41

harian poced i roi cynnig ar y dosbarth crefft ymladd newydd, ond roedd ei theithiau siopa ar ddydd Sadwrn yn demtasiwn, ac roedd ei ffrindiau bob amser yn llwyddo i’w pherswadio i brynu rhywbeth.

Rhuthrodd Dad i mewn i’w hystafell wely.

“Hei!” dywedodd Ruby. Dywedaist y byddet yn cnocio’r drws o hyn ymlaen!”

Roedd Dad yn gwgu. “Dw i newydd gyrraedd adref ar ôl bod yn rhedeg i ddod o hyd i Summer mewn dagrau.”

“Beth?” Daeth teimlad oer ar draws gwddf Ruby. “Pam?”

“Yn ôl pob tebyg, ar ôl pymtheg munud o fynd o amgylch y siopau, gwnest ti a dy ffrindiau ei gadael hi?”

42

“Dydy hynny ddim yn deg!” gwaeddodd Ruby.

“Dyma’i diwrnod cyntaf mewn tref newydd, Ruby.” Roedd Dad yn swnio mor siomedig. “Sut gallet ti?”

Roedd Summer wedi bod yn dawel ar y bws adref a heb ddangos unrhyw diddordeb yn beth roedd Ruby wedi’i brynu. Pan gyrhaeddon nhw adref, roedd Catriona yn swatio o flaen y teledu ac roedd Dad allan yn rhedeg. Roedd Ruby wedi gofyn i Summer os oedd hi eisiau gwylio rhywbeth ar Netflix, ond roedd hi wedi mynd yn syth i'w hystafell.

“Nid fel hynny oedd hi!” Protestiodd Ruby, gan ymladd yn erbyn dagrau.

“Beth yw’r gwir ‘de?” Gwgodd Dad.

“Dywedodd Summer nad oedd ots ganddi!”

Ymddangosodd Catriona wrth ddrws Ruby.

43

Roedd ei llais yn ddigyffro. “Gwrandewch, does dim angen codi llais. Dw i wedi siarad â Summer. Mae'n debyg bod gyda chi'ch dwy syniadau gwahanol iawn am ffordd sy’n llawn hwyl o dreulio dydd Sadwrn. Does dim niwed wedi cael ei wneud. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn hapus bod Summer yn crwydro o gwmpas y siopau ta beth.”

“Dw i’n meddwl bod angen i Ruby ymddiheuro i Summer.” Meddalodd Dad ei dôn, ond roedd ei wyneb yn dal i edrych fel taran.

Dywedodd Catriona’n dyner, “Mae cinio bron yn barod, felly efallai y gallwn drafod y peth bryd hynny? Fel teulu.”

Fel teulu! Edrychodd Ruby ar y drws yn ddig wrth i Dad ei gau ar ei ôl. Beth oedd yn bod ar y teulu oedd ganddi’n barod? * * *

Roedd y sbageti bolognese, sef ffefryn Ruby fel arfer, yn rhy sbeislyd, ond doedd hi ddim eisiau i Dad fod hyd yn oed yn fwy crac, felly gwthiodd e o amgylch ei phlât ac yfed llawer o ddŵr.

“Wel,” meddai Catriona yn llawn bywyd, gan edrych o gwmpas y bwrdd. “Mae Summer a fi’n meddwl ei bod hi’n ddefnyddiol siarad am unrhyw broblemau sy’n dal i loetran yn yr ystafell. On’d ydyn ni?”

Gwenodd Summer yn lletchwith; ei cheg yn llawn.

Cliriodd Dad ei wddf a syllu'n ddwys ar Ruby. Rhoddodd Catriona ei llaw ar fraich Dad. Roedd Ruby’n teimlo'n boeth yn sydyn, roedd gormod o tsili yn y saws hwn!

44

“Mae’n flin ‘da fi, Summer.” Syllodd Ruby ar ei phlât. “Ddylen ni ddim wedi dy adael di fel yna. Doedden ni ddim yn sylwi ar yr amser.”

Cododd Summer ei hysgwyddau. “Mae’n iawn. Roeddwn wedi diflasu braidd, ond dywedodd fy mam fod yn rhaid i mi fynd oherwydd dy fod wedi fy ngwahodd.”

“Dywedodd nhad wrthyf fod yn rhaid i mi ddod â thi!”

Roedd tawelwch o gwmpas y bwrdd. Gan sylweddoli bod eu rhieni wedi’u gorfodi at ei gilydd, gor-roliodd y ddwy ferch ei llygaid ac yna edrych ar ei gilydd a chwerthin.

Ochneidiodd Catriona a dweud, “Dylen ni wedi gadael i chi ferched benderfynu drosoch eich hunain, hmm?”

46

Nodiodd Ruby a Summer.

“Mae’n flin ‘da fi os nad oedd yn llawer o hwyl,” meddai Ruby.

Gwenodd Summer arni. “R’on i’n meddwl efallai y byddem wedi gallu gwneud rhywbeth gyda’n gilydd. Neu y gallet ddysgu dy sgiliau tynnu llun i mi. D’on i ddim yn sylweddoli dy fod yn hoffi siopa dillad shwd gymaint.”

Meddyliodd Ruby am eiliad. “Dw i ddim... ddim mewn gwirionedd. Mae’r ddwy arall bod amser yn gwario llawer mwy na fi. Dw i’n hoffi gweld beth sy’n newydd yn unig. Dw i’n meddwl efallai hoffwn ddechrau dylunio dillad un diwrnod. Yn yr ysgol mae ganddyn nhw glwb tecstilau. Efallai gwna i ymuno.”

Gweinodd Catriona mwy o salad iddi hi ei hun. “Mae’r siopau hynny rwyt yn ymweld â nhw yn cael eu galw’n 'ffasiwn cyflym'.”

Gwgodd Ruby. “Ffasiwn beth?”

Dywedodd Summer, “Mae'n golygu nad yw'r dillad yn cael eu gwneud i bara, felly maen nhw’n cwympo’n ddarnau’n hawdd. Ddim bob amser ond weithiau.”

“O." Meddyliodd Ruby am y ffaith fod ei Mam-gu yn arfer dweud, “Ansawdd dros faint,” ac ystyriodd a oedd hi'n iawn.

Taclusodd Catriona eu platiau tra gweinodd Dad bowlenni o hufen iâ siocled.

“Mae hynny’n wir. Dyw yw rhai dillad ddim yn para'n hir, ”meddai Ruby. “Ond mae popeth mor rhad felly does dim ots mewn gwirionedd, nac oes?”

47

“Ond os bydd dillad newydd yn cael eu rhyddhau drwy’r amser, rwyt yn dechrau credu bod dillad i’w taflu,” atebodd Catriona. “Mae eu gwisgo unwaith neu ddwy yn unig a phrynu cymaint o ddillad newydd yn wastraffus.”

Ochneidiodd Ruby. “Dw i a Dad yn rhoi ein hen ddillad i fanciau dillad a siopau elusen. Yna maent yn cael eu hailgylchu.” Croesodd ei breichiau; doedd dim angen darlith arni.

Dywedodd Summer, trwy lond ceg o hufen iâ, “Mae hynny’n digwydd yn unig os byddant mewn cyflwr da. Allwch chi ddim ailgylchu dillad sydd wedi’u staenio neu eu difrodi.”

Dywedodd Catriona, “R’on i wrth fy modd yn siopa pan o’n i eich oedran chi; mae siopau elusen yn wych. R’on i bob amser yn dod o hyd i rywbeth anarferol ac o’r oes a fu.”

“Dim diolch!” gwaeddodd Ruby. “Does gan siopau elusen ddim dewis ar gyfer fy oedran. A does gen i ddim diddordeb mewn pethau... o’r oes a fu.”

Ac mae oglau arnynt, meddyliodd, ond roedd hi'n gwybod yn well na dweud hynny'n uchel.

“Dilyna esiampl Summer.” Gwenodd Catriona. “Gallet ddefnyddio’r arddangosfeydd ffenestr a phethau newydd i gael ysbrydoliaeth, ac yna uwchgylchu a dylunio dy ddillad dy hun.”

Pam roedd Catriona yn dweud wrthi beth i'w wneud?

“Ond dw i a fy ffrindiau yn hoffi mynd o amgylch y siopau. Mae’n hwyl. A does dim byd llawer arall i’w wneud.”

48

“Mynd ar y beic?” gofynnodd Catriona.

“Dyw hynny—” ysgydwodd Ruby ei phen. Nid oedd syniad gan neb sut oedd hi a’i ffrindiau’n hoffi treulio amser gyda’i gilydd.

Doedd Catriona ddim yn mynd i roi’r gorau iddi. “Neu... beth am y llyfrgell?”

“Dydych chi ddim yn gallu bwyta ac yfed yn y llyfrgell,” dywedodd Ruby. Ychwanegodd hi ddim, Neu fod yn uchel eich cloch a chwerthin am yr ysgol a bechgyn a... bod ni ein hunain.

Dywedodd Summer, “Aeth y bws heibio i barc neu ddau.”

Cynyddodd tymer Ruby ac edrychodd yn gas ar Summer. Nid oedd neb yn deall! “Dydych chi ddim

49

yn gallu mynd yno os bydd hi’n bwrw glaw neu’n oer ac mae’n llawn plant bach—”

Pam nad oedden nhw’n gadael llonydd iddi? Gwthiodd Ruby ei chadair yn ei hôl a rhedodd i fyny’r grisiau. Gan gau drws ei hystafell wely’n glep, taflodd ei hun ar ei gwely a sgrechiodd i mewn i’w chlustog. * * *

Ar ôl ychydig, roedd cnoc ar ei drws.

Sibrydodd Dad. “Ga i ddod i mewn, cariad?”

Eisteddodd Ruby i fyny, sniffiodd a sychodd ei llygaid. Agorodd ddrws ei hystafell wely a rhoddodd Dad gwtsh mawr iddi.

“Mae’n flin ‘da ni.” Eisteddodd nesaf ati ar y gwely. “Dyw Catriona ddim yn ceisio dweud wrthyt beth i’w wneud.”

Oedd, roedd hi. Pam roedd rhaid i ti a Mam ysgaru?” Cyrliodd Ruby i mewn i bêl a throdd i wynebu’r wal. Roedd ei llais yn dawel. “Roedd Mam a fi’n arfer mynd i siopa dillad, dyna ein peth ac wedyn, byddem yn cael y deisen arbennig honno yn y caffi.”

“Mae hynny’n swnio’n neis.”

Eisteddodd Ruby i fyny i weld Catriona’n pwyso yn erbyn y drws. “A dw i’n siŵr y byddwch yn dal i wneud hynny gyda’ch gilydd unwaith y bydd yn ymgartrefu yn ei fflat newydd. Ga i eistedd?”

Nodiodd Ruby ac eisteddodd Catriona ar ymyl pen y gwely. “Mae’n flin ‘da fi. D’on i wir ddim yn ceisio dweud wrthyt beth i’w wneud.”

51

Sniffiodd Ruby. “Roeddet yn gwneud iddo swnio fel bod siopa’n ddrwg. Ond mae gwneud dillad newydd yn rhoi swyddi i bobl, yn arbennig mewn gwledydd tlawd.”

“Wn i. Mae rhai o’r siopau ffasiwn cyflym hyn yn gwneud pethau da hefyd, ond y ffaith yw, mae gwneud dillad o gwbl yn defnyddio llawer o adnoddau naturiol y Ddaear. Rwyt wedi clywed am newid hinsawdd, on’d wyt ti?”

Cofiodd Ruby am ei harwyddair ysgol o Ailddefnyddio, Lleihau ac Ailgylchu.

“Mae’r blaned mewn gwir drafferth os na fyddwn yn newid ein ffyrdd; mae hynny’n golygu pawb. Mae pobl sy’n gwneud dillad yn cael eu trin

52

yn ddrwg weithiau ac mae’n rhaid iddynt weithio mewn amodau ofnadwy.”

Gwenodd Dad ar Catriona. “Rwyt y fath ryfelwraig-eco fach.”

Rholiodd Ruby ei llygaid. Yyy, plîs.

Dywedodd Catriona, “Mewn gwirionedd, Summer yw’r arbenigwraig. Aethom ar ymdaith i brotestio pan wrthododd y myfyrwyr i gyd fynd i’r ysgol. Dysgodd bopeth i mi am gompostio!”

Roedd Summer yn dweud hyn? Roedd gan Ruby lawer i feddwl amdano. “Dw i wedi blino, efallai a i i’r gwely.”

“Iawn, cariad,” dywedodd Dad, gan ei chusanu ar ei thalcen. “Paid ag anghofio brwsio dy ddannedd.”

53

Gadawodd Dad a Catriona’r ystafell, gan gau'r drws ar eu hôl.

Y bore canlynol, dihunodd Ruby’n gynnar. Yn y gegin, wrth y bwrdd brecwast, roedd Summer yn bwyta mêl ar dost. “Bore da!”

“Ble mae nhad?”

Pwyntiodd Summer at y nenfwd. “Maen nhw’n clirio’r atig. Chlywaist ti mohonyn yn gwneud sŵn curo i fyny yna?”

“R’on i’n meddwl beth oedd yr holl sŵn yna.”

Aeth Ruby i nôl powlen o rawnfwyd iddi hi ei hun.

“Dywedodd dy Dad bod llwythi o ddillad i fyny yno. Dw i eisiau bwrw golwg ar gyfer fy uwchgylchu.”

Crychodd Ruby ei thrwyn. “Soniaist am hynny o’r blaen. Uwch beth?”

Pwyntiodd Summer at ei jîns. Roedd y clytiau wedi’u pwytho gyda phwythau coch a phorffor llachar. “Gweld y rhain? Trwsiais nhw yn lle eu taflu. Ac yn lle prynu pethau newydd, gelli ddefnyddio hen ddillad i wneud dillad cwbl newydd.”

“Sut?”

“Mae llwythi o bethau gallet wneud. Dw i’n gwylio’r YouTuber gwych yma. Torri pethau allan, gwnïo pethau ychwanegol, brodio, paentio... dw i wedi gwneud bandiau gwallt allan o hen grysau-T o’r blaen. Gwna i ddangos i ti, mae’n weddol hawdd. Mae’n gwneud popeth yn fwy unigryw hefyd unwaith i ti ei bersonoli; fel nad oes rhaid i ti edrych yr un peth â phawb arall. Ychwanegu clytiau neu fathodynnau. Tipyn bach o wnïo.”

* * *
55

Ochneidiodd Ruby. “Does dim clem ‘da fi am y math yna o beth. Roedd Mam bob amser yn dweud nad wy’n ymarferol iawn.”

“Meddwl dy fod wedi dweud dy fod am fynd i mewn i ffasiwn, ymuno â’r clwb tecstiliau?

Dywedodd Ruby, “Mae hynny’n wir, ond r’on i’n meddwl fel dylunio a chynllunio dillad, dim eu gwneud.”

Edrychodd Summer yn feddylgar. Efallai gallem wneud prosiectau gyda’n gilydd? Bydda i’n dy ddysgu i wnïo a chrosio, a gallet ti fy nysgu sut i dynnu llun!

Mae rhai technegau’n gallu bod yn drafferthus, felly bydd rhaid i ti fod yn amyneddgar.”

Efallai gallai Catriona a Summer ddysgu rhai pethau cŵl i Ruby. Roedd ei mam wedi’i dysgu sut i ddawnsio ac i drin dwylo, ond roedd pethau eraill gallai eu dysgu hefyd. A phan oedd yn rhoi eu dillad newydd i gadw neithiwr, roedd wedi sylwi ar un neu ddau o’r gwniadau’n edrych yn rhydd.

“Beth oedd wedi dy ddenu at hyn yn y lle cyntaf?”

gofynnodd Ruby i Summer.

“Ar ôl i Dad adael, roedd gennym ni lawer llai o arian. Dechreuodd mam ail-baentio hen ddodrefn, ychwanegu ei dolenni’i hun, gan ddefnyddio stensiliau. Ac mae ei ffrind yn gweithio i'r elusen hon sy'n anfon hen ddillad dramor. Dywedodd fod dros ddeg mil o eitemau yn cael eu hanfon i'r safle tirlenwi bob pum munud. Deg mil! Wyt ti’n gallu dychmygu?”

Meddyliodd Ruby am ddeg mil o eitemau o ddillad wedi'u pentyrru'n uchel mewn pentwr enfawr.

56

“Wow. Mae hynny’n llawer o wastraff.”

“Y siopau hynny roeddet ynddyn nhw ddoe?

Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio ffibrau synthetigneilon, acrylig, polyester - ac maen nhw’n cymryd

cannoedd o flynyddoedd i fynd yn ddim. Ond mae

cotwm a gwlân yn naturiol, felly maen nhw’n mynd yn ddim yn haws. A’r cemegau a ddefnyddir ar gyfer

argraffu, cannu a lliwio – mae nhw mor niweidiol i anifeiliaid a’r amgylchedd.”

57

“D... D’on i ddim yn gwybod hynny.” Syrthiodd Ruby yn swp i'w chadair. “Felly, ddylwn i ddim siopa yn y lleoedd hynny o gwbl? Mae hynny’n drist.”

Gwenodd Summer. Mae’n fwy amnodi a dewis. Dysgu pa siopau sy'n trin eu gweithwyr yn iawn, efallai o ble maen nhw’n cael eu deunyddiau, sut maen nhw’n gwaredu gwastraff, ac yna rwyt yn siopa yn y lleoedd hynny’n unig."

“Swnio’n anodd. Fel, mae'n haws cydio mewn pethau."

“Ond os byddai pawb yn meddwl fel hynny, yna fyddai dim byd fyth yn newid, fyddai e?”

dywedodd Summer yn angerddol. “Edrycha ar bobl fel Greta Thunberg. Mae hi'n profi y gallwn wneud gwahaniaeth. Er ein bod yn ifanc, dydyn ni ddim yn ddi-rym. ”

Syllodd Ruby ar Summer; roedd hi'n glyfar. Roedd hyn o ddiddordeb i Ruby. Roedd rhai o’i ffrindiau’n poeni’n unig am siopa a'u ffonau, ond roedd Summer yn iawn. Roedd meddwl am y byd o'i chwmpas yn bwysig. Nawr, roedd ganddi rywun i'w helpu i wneud hynny.

“Fy hoff beth ar hyn o bryd yw sashiko, mae’n dechneg pwytho hawdd iawn o Siapan. Bydda i’n dy ddysgu!"

“Ferched!” Roedd gwaedd Catriona i’w chlywed i lawr y grisiau. “Dewch yma!”

“Rydych chi'n mynd i ddwlu ar hwn!” Atseiniodd chwerthiniad Dad i lawr y grisiau. * * *

58

Yn yr atig, pesychodd Ruby a Summer eu ffordd drwy'r llwch a'r gwe pry cop.

“Mae fel ogof Aladin!” Gwthiodd Catriona leinin bin tuag atynt. “Edrychwch y tu mewn i'r drysorfa hon…”

“Pry cop!” Chwifiodd Ruby ei dwylo wrth i rywbeth blewog ei heglu hi i gornel dywyll. “A, roedd yn enfawr!

Chwarddodd Summer. Ma’n fwy ofnus ohonot ti.”

“Pfft!” Tynnodd Ruby wyneb. “Mae rhieni’n dweud hynny er mwyn gwneud i ni beidio â bod yn ofnus; rhywbeth sydd ag wyth coes ac yn symud mor gyflym? Mae hynny'n anghywir ar gymaint o lefelau."

Dywedodd Catriona, “Rhaid dweud fy mod yn cytuno â thi. Rwy’n hoff o fyd natur ond yn dal heb lwyddo i dderbyn y pryfed annifyr hynny yn fy mywyd.”

Gwenodd Ruby ar Catriona. Efallai doedd hi ddim mor ddrwg â hynny… doedd Mam fyth yn hoffi pryfed cop chwaith.

“Dyma chi.” Tynnodd Dad leinin bin orlawn arall draw i ble roedd y merched. “Edrychwch. Mae hen bethau go iawn yn hwnna!”

Plygodd Ruby a Summer i lawr o flaen y bagiau bin oedd wedi'u labelu’n yr wythdegau a'r nawdegau. Agorodd Ruby’r bag oedd wedi'i labelu gyda’r nawdegau a chloddio o gwmpas, gan dynnu hetiau, sgarffiau a sgertiau.

Gofynnodd Summer, "Pwy sy’n berchen ar y rhain i gyd?”

Dywedodd tad Ruby, “Mae’r rhain wedi bod yma ers oesoedd; mam-gu Ruby oedd yn berchen arnyn nhw. Byddwn yn eich gadael i fynd ati. Gwaeddwch pan fyddwch wedi gorffen.”

Aeth Dad a Catriona i lawr ysgol y llofft.

Cyn hir, roedd Ruby a Summer wedi'u hamgylchynu gan ddillad, esgidiau, bagiau ac ategolion,gayn chwerthin, gwichian a dal pethau i fyny. Gwisgodd Summer gap pêl fasged am yn ôl ac edrych fel sglefriwr.

“Edrycha ar hwn!” Gwaeddodd Ruby, gan ddal sgert ra-ra â streipiau neon. Sniffiodd “Ond oooo, mae’r cyfan yn drewi!”

“Does dim byd na fyddai golch go iawn yn ei ddatrys,” meddai Summer, yn llawn cyffro. “Edrycha!

Mae’r crys siec hwn yn union fel y byddai rhywun yn ei wisgo mewn hen ffilm arswyd.”

* * *

Awr yn ddiweddarach, roedd yr ystafell fyw’n edrych fel ffair sborion fwyaf lliwgar y byd, gyda'r bagiau bin wedi'u gwagio yng nghanol y llawr.

“Gadewch i ni gael trefn ar beth rydyn ni eisiau,” meddai Summer. “Yna gallwn benderfynu sut i’w huwchgylchu.”

“Syniad da,” meddai Ruby, gan wenu arni. “Efallai dydd Sadwrn nesaf, gallwn brynu rhai ategolion i fynd gyda nhw. Mae’r dosbarth crefft ymladd newydd hwn hefyd dw i eisiau mynd iddo. Eisiau dod?”

62

“Dw i bob amser wedi bod eisiau gwneud

rhywbeth fel ‘na, ond ddim ar fy mhen fy hun.”

Wrth i Summer daflu siaced felfed fathredig i Ruby, roedd Ruby'n meddwl efallai na fyddai bod â chwaer

newydd mor ddrwg wedi'r cyfan.

63

Eisiau dysgu sut i ofalu am y blaned a'ch arian?

Mae'r straeon hwyl hyn yn taro deuddeg o ran arian.

Bwyd Gogoneddus Fwyd

"Gwastraff bwyd, chwaeth lwyd!"

Mae pen-cogydd enwog newydd yn dod i'r dref ac mae'n sbarduno Ashok i feddwl am beth gallwn i gyd ei wneud i leihau gwastraff bwyd.

Dawn Cynildeb

Mae Summer a Ruby'n ei chael hi'n anodd dod ymlaen - tan i brosiect achub y blaned ddod a ^ nhw'n agosach at ei gilydd.

Y pethau bychain sydd o bwys!

Supported by

ISBN 978-1-7396622-9-5 MH-CH-WELSH

Scholastic.co.uk

Mae Money Heroes yn rhaglen gan Young Money, a gefnogir gan HSBC UK. Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise, elusen gofrestredig (rhif elusen:313697)

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.