12 minute read

Ddim yn Syniad Da

Next Article
Arwyr Arian

Arwyr Arian

Eisteddodd Jess a'i ffrindiau gorau, Manit ac Ashley, ar y gwair yn bwyta eu byrbryd amser egwyl. Roeddent yn gwylio grŵp o Flwyddyn 5 yn bownsio pêl â streipiau enfys at ei gilydd. Cnoiodd Jess i mewn i'w hafal a theimlodd rhywbeth yn symud.

“Ow!”

“Beth sy’n bod?” gofynnodd Manit.

Rhoddodd Jess ei bysedd yn ei cheg a siglodd ddant. “Mae fy nant yn siglo!”

“O, ga i weld?” Aeth Ashley yn agos ati ac agorodd Jess ei cheg yn llydan. “Tynna fe allan!”

“Oes gwaed?” Caeodd Manit ei lygaid yn dynn. “Dw i ddim eisiau gweld.”

Ysgydwodd Jess ei phen. “Na, ddim eto. Rwy’n gallu teimlo croen er hynny.” Siglodd ei dant yn ôl ac ymlaen gyda’i thafod.

“Cilddant yw hwnna,” dywedodd Ashley.

“Pan syrthiodd fy nghilddant cyntaf allan, ces i arian ychwanegol gan y dylwythen deg.”

“A fi,” ychwanegodd Manit.

“Gest ti? Faint?" gofynnodd Jess.

Gorffennodd Ashley gnoi ei thorth frag. “Fel arfer mae’r dylwythen deg yn dod â phunt, ond am fy nghilddant, ces i ddwy bunt.”

“Syrthiodd dau o’m dannedd i allan gyda’i gilydd a ches i bum punt,” meddai Manit.

“Pum punt! Wow!” Roedd Jess mor gyffrousgallai brynu llawer o losin gyda phum punt! * * *

Yn ôl yn y dosbarth, roedd y tri ffrind yn gweithio gyda'i gilydd ar eu llawysgrifen. Tynnodd Ashley gas pensiliau newydd allan; roedd yn betryal hir ac yn binc a phorffor a lelog gyda chwyrliadau gwyrddlas.

Syllodd Jess arno – y peth mwyaf perffaith welodd hi erioed. “Cas pensiliau hyfryd!”

Gwenodd Ashley. “Ie. Mae'n wych - edrycha!"

Agorodd y clasbyn magnetig a thynnu allan rhan gyfrinachol, oedd â drôr bach gyda chyfrifiannell fach hyfryd ynddo. Edrychodd Jess ar ei chas pensiliau oedd wedi gwisgo: roedd beiro wedi gollwng ac roedd un ochr bellach yn las. Gwthiodd y cas pensiliau i un ochr. “Pryd gest ti’r cas pensiliau?”

“Penwythnos diwethaf yn y dref,” meddai Ashley.

Siglodd Jess ei dant drwy'r dydd. Efallai pe bai… pe bai’r dylwythen deg yn dod… Byddai’n gallu gofyn i’w Mam fynd â hi i siopa am gas pensiliau fel un Ashley dros y Sul!

Ddiwedd y diwrnod ysgol, arhosodd mam Jess wrth gatiau’r ysgol gyda brawd bach Jess oedd yn gwneud pob ymdrech i ddod allan o’r bygi. Pwysodd Jess i mewn i’r bygi a siglo’i thafod; chwarddodd Bobby.

Trodd Jess at ei mam. “Mae fy nant yn siglo’n ofnadwy, dw i’n siwr y bydd yn syrthio allan heno.”

Ar y ffordd fer yn ôl i’w fflat, dywedodd Jess wrth ei mam am gas pensiliau newydd anhygoel Ashley. “Mae ganddo bedair rhan gudd, dalwyr pennau ysgrifennu a phren mesur cynwysedig!”

“Wel, mae’n swnio fel rhywbeth i gynilo amdano,” meddai Mam.

Dechreuodd Jess wthio'r bygi. “Alla i wneud tasgau o gwmpas y tŷ i gael mwy o arian?”

Chwarddodd Mam. “Ydw i'n cael fy nhalu am beth dw i’n ei wneud o gwmpas y tŷ? Coginio, glanhau, golchi dillad?”

Ysgydwodd Jess ei phen.

“Nac wyt. Wel, dyna ni.”

Pan gyrhaeddon nhw adref, roedd Jess yn parhau i feddwl am y cas pensiliau ac yn tybied sut y gallai gael un.

“Cafodd Manit bum punt gan y dylwythen deg pan ddaeth dau ddant allan.”

“O’n nhw wedi’u gwneud o aur?” chwarddodd ei Mam, gan dynnu Bobby o’i fygi a'i roi i Jess.

“Fedri di newid ei gewyn i mi, cariad? Pi-pi yn unig yw e. Gwna i weini’r pastai bugail.”

Cwynodd Jess, “Dw i ddim yn hoffi pastai bugail.”

“Jessica! Mae’n flin gyda fi, ond dyma'r unig ffordd y bydd Bobby’n bwyta'r llysiau. Rwyt ti’n gwybod nad oes gan rai pobl ddigon i'w fwyta hyd yn oed. Rwyt ti’n ferch lwcus iawn."

Nid oedd Jess yn cael arian poced fel ei ffrindiau ac nid oedd tad ganddi’n byw gyda nhw… felly weithiau nid oedd yn teimlo'n lwcus iawn.

Ond aeth Jess â Bobby i'r ystafell fyw, tynnu'r mat newid a'r bag cewyn allan.

“Arhosa tan bod dy ddannedd yn dod trwodd!” meddai Jess, wrth iddi ei newid, gan chwythu sws ar fol Bobby. Chwarddodd y ddau.

Yn y gegin, rhoddodd Mam Bobby’n y gadair uchel a rhoi bib arno. Gwichiodd a churodd ei lwy blastig.

“Wyt ti eisiau ei fwydo?” gofynnodd Mam i Jess.

Llwythodd Jess y llwy gyda phastai bugail, gwnaeth sŵn awyren a’i hofran drwy’r awyr.

Bwydo Bobby oedd un o hoff bethau Jess i’w wneud. Meddyliodd eto am ei dant. “Felly pam gafodd Manit gymaint o arian am ei ddannedd?” gofynnodd i’w Mam.

Trwy lond ceg o fwyd, dywedodd Mam, “Wel... mae ei fam yn ddeintydd, on’d yw hi? A fe yw'r ffrind does dim hawl gyda fe gael diodydd pefriog na losin, cywir? Felly, efallai bod ei ddannedd yn berffaith ac yn golygu ei fod yn derbyn mwy o arian.”

Roedd Mam siŵr o fod yn gywir.

Ochneidiodd Jess a thynnu’r moron a’r pys o bastai’r bugail, gan fwyta’r briwgig a’r stwnsh. Rheddodd ei thafod ar draws ei dau lenwad ei hun - efallai bod angen iddi ofalu am ei dannedd ei hun ychydig yn well.

“Mae cas pensiliau Ash mooor wych. Mae gyda fe’r—”

Cwympodd fforc Mam yn swnllyd ar ei phlât. “Does dim byd o le ar y cas pensiliau brynon ni’r llynedd. Efallai dy fod eisiau un newydd, ond nid oes angen un newydd arnat.”

Doedd hi heb weld y marc inc… meddyliodd Jess.

Tynnodd Jess ei thafod ar Bobby – a saethodd ei dant oedd yn siglo yn syth ar hambwrdd cadair uchel Bobby! Gwichiodd, a chipiodd Jess ei dant cyn iddo geisio’i fwyta.

“Dy ddiwrnod lwcus felly!” dywedodd ei Mam, gan wenu. “Paid ag anghofio rhoi dy ddant o dan dy glustog fel bod y dylwythen deg yn gwybod bod eisiau iddi alw.”

Yn y bore, teimloddd Jess o dan ei chlustog. Faint o arian byddai’n cael am ei childdant cyntaf?

Cyffyrddodd ei bysedd â darn arian. Punt – dyna i gyd? Gwisgodd Jess, cribodd ei gwallt cyrliog a stompio i lawr y grisiau.

Roedd Bobby’n crio, yn ysgwyd ei ben ac yn gwrthod bwyta’i frecwast. “Mae ei ddannedd yn cymryd amser i ddod trwyddo,” cwynodd ei Mam, gan ddylyfu gên. “Cadwodd e fi ar ddihun am hanner y nos.”

“Mam…” dechreuodd Jess, ond yr eiliad hwnnw trawodd Bobby ei hambwrdd gyda’i law a throdd ei fowlen drosodd. Aeth uwd i bob man.

"O na!" ebychodd Mam, gan sychu talp o uwd allan o'i gwallt. “Jess, mae'n bryd i ti fynd. Mwynha dy ddiwrnod, cariad.”

Roedd Jess eisiau dweud wrth ei Mam pa mor siomedig oedd hi, ond yn lle hynny, cydiodd mewn darn o dost, rhoi ei bag ysgol dros ei hysgwydd a mynd allan.

Yr eiliad gadawodd Jess y tŷ, dechreuodd fwrw glaw. Rhoddodd ei hwd i fyny. Diferodd glaw i mewn i’w hesgidiau wrth iddi redeg drwy gatiau'r ysgol wrth iddynt gael eu cau. Am ddiwrnod diflastarodd y glaw yn erbyn ffenestri'r ysgol drwy'r bore.

Amser egwyl, dywedodd Miss Burnett, “Mae'n ddrwg gyda fi ddosbarth, ond mae'n llawer rhy wlyb i fynd allan.” Cerddodd o amgylch yr ystafell ddosbarth, gan osod pensiliau lliw a phapur ar bob bwrdd.

“Edrychwch ar hwn!” Tynnodd Ashley ei gas pensiliau allan. “Weloch chi ddim y rhan hon ddoe!” Dangosodd ben ysgrifennu cynwysedig gyda fflachlamp fach.

“Daeth fy nant i allan neithiwr. Ydych chi eisiau gweld? Gallet ddefnyddio dy fflachlamp!” Agorodd Jess ei cheg i ddangos y bwlch i Manit ac Ashley roedd ei dant wedi’i adael.

“Faint gest ti?” gofynnodd Manit.

“Yr un peth ag arfer, punt.”

“O,” meddai Ashley, “r’on i’n meddwl byddet wedi derbyn mwy o bosibl!”

Gwgodd Jess. “A fi.”

Roedd Diego wrth y bwrdd o'u blaenau, yn brysur yn lliwio. Trodd o amgylch. “Ydych chi'n cael arian am ddannedd sy’n siglo yma? Rydych chi’n lwcus! Yn ôl yn Sbaen, Ratoncito Pérez, y llygoden fach sy’n ymweld, ond nid yw’n gadael arian i ni.”

“Llygoden?” Chwarddodd Jess. “Cŵl! Ydy hi’n dod â chaws?”

Gwenodd Diego. “Nac ydy! Rydym yn gadael ein dannedd mewn gwydraid o ddŵr. Yn y bore, mae’r dŵr wedi diflannu ac mae Ratoncito wedi gadael losin yn y gwydr.”

Dywedodd Manit, “Mae hynny'n swnio'n iawn.”

“Dw i’n dwlu ar losin, felly mae’n iawn gen i!”

Chwarddodd Diego.

Ond nid oedd hynny’n swnio’n deg i Jess – bod pobl yn Sbaen yn derbyn losin, ond roedd plant yn y DU yn derbyn gwahanol symiau o arian.

Testun eu dosbarth y tymor hwnnw oedd y swffragetiaid. Roeddent wedi dysgu am ferched yn gwneud cais i bleidleisio yn y 1920au. Roedd y merched hynny – y swffragetiaid – wedi creu ac arwyddo deisebau i wneud y deddfau pleidleisio’n deg i ferched yn ogystal â dynion.

Cafodd Jess syniad.

“Dylem ddechrau deiseb! I roi i'r dylwythen deg. Gallem ofyn fod pawb yn derbyn yr un swm o arian am eu dannedd a dweud… nes i hynny ddigwydd, ni ddylai neb roi eu dannedd i ffwrdd!”

Gwgodd Diego. “Ond rwy’n hoffi cael losin!”

“Ie.” Ysgwydodd Manit ei ben. “Dydy hynny ddim yn swnio fel … Syniad Da Iawn!”

Chwarddodd e a Diego nerth eu pennau.

* * *

Gartref, dywedodd Jess wrth ei mam nad oedd un o’i ffrindiau’n cytuno â’i syniad am gychwyn deiseb.

“Wel, dw i ddim yn siŵr mai cael rhestr o lofnodion yn dal y dylwythen deg yn wystl yw’r peth gorau i’w wneud mewn gwirionedd,” meddai Mam.

“Mae arian yn mynd a dod i bawb, gan ddibynnu ar eu gwahanol amgylchiadau. Efallai bod yr un peth yn wir yng ngwlad y Tylwyth Teg?”

“Os na fyddai’n ysgrifennu deiseb, beth arall galla i wneud?” cwynodd Jess.

“Pam na wnei di ysgrifennu llythyr? Mynega dy deimladau ac yna gweld beth mae'r dylwythen deg yn ddweud, ie?” awgrymodd ei Mam. “Nawr, cer i lanhau dy ddannedd, plîs. Bydd yn ofalus o gwmpas y bwlch a phaid â phoeni os byddi di’n gweld tipyn bach o waed. Bydda i’n dod i roi sws nos da i ti ar ôl i mi dawelu Bobby.”

Yn gysurus yn ei gwely, ysgrifennodd Jess lythyr hir at y dylwythen deg, gan nodi ei phryderon. Cofiodd gadw’i llawysgrifen yn daclus a defnyddio ‘plîs’ a ‘diolch’. Gan blygu ei phapur glas yn hanner, rhoddodd y darn papur o dan ei chlustog. Nid oedd yn gallu aros i weld ymateb y dylwythen deg! Yn y bore, daeth Jess o hyd i nodyn o dan ei chlustog. “Mam!” Llamodd Jess i lawr y grisiau gan chwifio’r llythyr. “Mae wedi ymateb!” Rhuthrodd Jess i mewn i’r gegin.

“Gwych.” Trodd mam sosban o uwd ar y tân. “Beth ddywedodd hi?”

Darllenodd Jess yn uchel.

“Annwyl Jessica

Braf clywed gennyt, er nad yw derbyn gohebiaeth y tu allan i ACD (amser casglu dannedd) yn rhwybeth sy’n digwydd yn aml. Fodd bynnag, gan fod dy lawysgrifen mor wych a dy fod mor gwrtais, roeddwn yn meddwl y byddwn yn ateb dy ymholiadau. Rwy’n gwerthfawrogi dy fod yn siomedig o bosib i beidio â derbyn swm ychwanegol o arian am dy gilddant cyntaf, ond nid yw’r hinsawdd ariannol bresennol yn caniatáu i ni gynyddu’r cyfraddau ar gyfer dannedd.”

“Sw-m... beth? Gwgodd Jess ar ei Mam. Dw i ddim yn deall... Beth sydd gan y tywydd i’w wneud gyda’m dannedd?”

Chwarddodd Mam. “Mae’n deall dy fod yn siomedig na chest ti lawer o arian ond mae’n dweud, oherwydd sefyllfa eu byd nhw ar hyn o bryd, na all fforddio codi’r swm o arian. Darllena ymlaen!”

“Yn ogystal â gwirfoddoli ar Gyngor y Tylwyth Teg, dw i hefyd yn gweithio fel y Prif Llinynydd Mwclis ac nid oes gennym ddigon o staff ar hyn o bryd. Byddaf yn gofyn i'm huwch swyddogion a allaf sôn am dy bryderon yn ein cyfarfod cyffredinol nesaf. Wyt ti erioed wedi gwirfoddoli ar gyfer unrhyw beth? Byddwn wrth fy modd i glywed sut rwyt yn cefnogi dy gymuned dy hun. Cadwa i frwsio dy ddannedd!”

Crafodd Mam yr uwd i mewn i fowlen. “Mae dy dylwythen deg yn swnio'n gall iawn, Jess.”

* * *

Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, yn ystod Amser Aur, gofynnodd Miss Burnett i'r dosbarth pwy oedd â syniadau ar gyfer pa elusen y gallai'r ysgol ei chefnogi nesaf. Cofiodd Jess am y dylwythen deg yn sôn ei bod hi’n gwirfoddoli, a beth roedd ei Mam wedi’i ddweud y diwrnod o’r blaen am bobl nad oedd â digon o fwyd i’w fwyta.

Cododd Jess ei llaw. “Beth am fanc bwyd?”

“Diolch. Syniad gwych, Jess. Mae angen ffrwythau a llysiau ar bawb i fod yn iach, ond ni fydd bwyd ffres yn cadw’n hir iawn y tu allan i oergell. Pa eitemau ydych chi’n meddwl allai fod yn dda i’w rhoi?”

Cododd Manit ei law. Nodiodd Miss Burnett ei phen tuag ato.

“Tuniau a stwff sy’n cadw am oesoedd fel reis a phasta?” dywedodd.

“Ie, yn union.” Ysgrifennodd Miss Burnett restr hir o fwydydd ar y bwrdd. “Os oes unrhyw un o’r eitemau hyn gydag unrhyw un yn sbâr yn eu cypyrddau, dewch â nhw i mewn. Bydda i’n gosod bin rhoddion yn y dderbynfa. Nawr, byddwn yn creu posteri yn hysbysebu diwrnod rhoddion y banc bwyd, a dydd Gwener byddaf yn rhoi gwobrau ar gyfer y tri phoster mwyaf lliwgar gorau.”

Allwn ni liwio ein hun ni gyda'n gilydd?” gofynnodd Ashley, gan ddod â'i chas pensiliau newydd allan. Nodiodd Jess ei phen.

Ar ôl yr ysgol, aeth Jess yn syth i’r gegin a mynd trwy'r holl gypyrddau.

“Beth wyt ti’n wneud?” gofynnodd ei Mam, gan roi’r bygi yn ei le. “Mynd i nôl snac?”

“Mae’r ysgol yn gofyn am roddion ar gyfer y banc bwyd. Ar ôl beth ddywedodd y dylwythen deg am helpu’r gymuned… Oes unrhyw beth gyda ni?”

“Wel…” agorodd Mam y cypyrddau uchaf.

“Prynais i basta a reis i Bobby, ond dyw e ddim yn eu hoffi, felly gallem ddechrau gyda'r rheiny. O, a dyw e ddim yn hoffi cwstard mwyach chwaith.” dywedodd Jess, “Ond dyw’r rheiny ddim yn arbennig... iawn.” Cododd jar ffansi o olewydd oedd wedi bod yn eistedd yno ers oesoedd. “Beth am hwn?”

“Iawn.” Cododd Mam ei hysgwyddau.

Rhoddodd Jess y pecynnau, y tuniau a'r jar ffansi mewn bag plastig. Llusgodd Bobby ei hun draw, gan geisio dringo i mewn i’r bag hefyd.

“O, Bobby!” Chwarddodd Jess, gan ei godi.

* * *

Amser gwely, ysgrifennodd Jess yn ôl at y dylwythen deg, yn dweud wrthi am y banc bwyd. Efallai nawr byddai wedi gwneud cymaint o argraff arni byddai'n cynnig mwy o arian i Jess? Roedd gweithredoedd da bob amser yn cael eu gwobrwyo. Mae'n siŵr nad oedd ei chas pensiliau arbennig ei hun yn bell i ffwrdd nawr.

Yn y bore, roedd ymateb arall yn aros am Jess. Rhedodd i lawr y grisiau.

“Annwyl Jessica,” darllenodd Jess yn uchel i’w Mam dros frecwast. “Da iawn am helpu banc bwyd dy ysgol.

Mae’n drist iawn nad oes gan rai pobl ddigon o fwyd i'w fwyta! Cawsom ein Cyfarfod Cyffredinol ond mae arnaf ofn na fydd y prisiau a roddir am ddannedd yn cynyddu. Oherwydd y cynnydd yn y cyfanswm o blant sy’n yfed diodydd pefriog a losin, nid yw dannedd yn ein cyrraedd mewn cyflwr da iawn y dyddiau hyn. Mae hyn yn golygu roedd rhaid i ni fuddsoddi mewn cyfleusterau glanhau a malu dwys; rydym yn malu dannedd i bowdr, a'r powdr yw'r hyn a ddefnyddir i bweru Gwlad y tylwyth teg. Hefyd, cyn bo hir bydd angen newid ein hechdynnydd carthion gyda’r OoopScoop500 – mae plant yn dal i lyncu neu ollwng eu dannedd i lawr y tŷ bach!”

“Waw,” meddai Mam, lle roedd hi'n golchi llestri wrth y sinc, pan oedd Jess wedi gorffen. “Pwy fyddai wedi meddwl, hmm?”

“Dw i’n gwybod,” atebodd Jess, gan ysgwyd ei phen. “Does dim ffordd y gall hi fforddio rhoi mwy o arian i mi nawr. Doedd dim syniad gyda fi bod gan Wlad y tylwyth teg gymaint o gostau. Wnes i ddim meddwl am yr holl dasgau y gallai fod angen iddi eu gwneud.”

Ochneidiodd Jess a gwyliodd ei Mam yn sychu'r llestri. “A dweud y gwir, Mam, oes angen help arnat ti gydag unrhyw beth cyn i mi fynd?”

"Byddai hynny'n wych.” Gwenodd ei Mam.

“Mae angen i mi roi golch arall ymlaen cyn mynd â

Bobby i’r feithrinfa, felly pe byddet yn gallu tynnu’r dillad sych oddi ar y rheiddiaduron, byddai hynny’n help mawr.”

* * *

Ddydd Gwener, gofynnodd Miss Burnett i'r dosbarth gyflwyno'r posteri roeddent wedi bod yn gweithio arnynt ar gyfer y banc bwyd.

“Da iawn, bawb!” meddai. “Jessica, mae dy un di mor lliwgar. Hoffwn roi'r drydedd wobr i ti. Hoffet ti ddod i'r blaen a dewis rhywbeth o'r drôr gwobrau?”

Cerddodd Jess i flaen y dosbarth a syllu i mewn i drysorfa Miss Burnett: beiros pefriog, llyfrau lliwio a phosau bach - hyd yn oed fersiwn llai o gas pensiliau oedd yn debyg i un Ashley. Dychmygodd Jess ddewis hwnnw… ond ar gyfer un unigolyn yn unig oedd y wobr honno. Roedd Ashley wedi ei helpu i liwio ei phoster, ac roedd Mam yn gywir – roedd cas pensiliau Jess yn iawn am y tro. Gallai nodi cas pensiliau ar ei rhestr pen-blwydd.

Oedd unrhyw beth yn y drôr a fyddai'n hwyl iddi hi a'i ffrindiau chwarae ag ef? Yn fuan gwelodd y peth perffaith: pêl sboncio lliw enfys. Dewisodd y bêl.

“O Jess, mae’n fach iawn - cymera hwn hefyd.”

Rhoddodd Miss Burnett feiro pefriog iddi gyda phompom blewog ar y pen.

Am ddechrau gwych - beiro hardd ar gyfer y cas pensiliau perffaith, pryd bynnag y byddai’n cyrraedd.

This article is from: