12 minute read
Suki a Susannah yn Achub y Nadolig
Cerddodd Suki a Suzannah i dŷ eu mam-gu a oedd dwy stryd yn unig i ffwrdd o’u hysgol. Roedd yr efeilliaid yn mynd yno bob dydd nes bod eu rhieni’n cyrraedd gartref o'r gwaith.
Wrth iddynt gerdded, gofynnodd Susannah i’w chwaer, “Felly pa elusen wyt ti’n mynd i bleidleisio drosti?”
Roedd y ddwy ym Mlwyddyn 5 ac roedd eu dosbarth yn ymchwilio i elusennau. Gwaith cartref yr wythnos oedd ystyried pa elusen y byddent yn dewis ei chefnogi ar gyfer trafodaeth ddosbarth, ynghyd â rhesymau pam.
Dywedodd Suki, “Does dim gwellhad llwyr ar gyfer canser eto, felly byddai unrhyw arian sy’n cael ei godi i helpu i ddod o hyd i wellhad llwyr yn dda. A dw i’n gwybod dy fod yn dwlu ar anifeiliaid, ond nid ydynt mor bwysig â bodau dynol.”
“Sut allet ddweud hynny!” llefodd Susannah. “Roedd Buddy’n well na rhai bodau dynol!”
Pan oeddent wedi symud i'w fflat newydd i fod yn nes at Mam-gu, roedd angen iddynt ailgartrefu eu ci Labrador, Buddy. Roedd y fflat yn rhy fach, a gyda Mam yn mynd yn ôl i’r gwaith, nid oedd neb gartref i fynd ag ef am dro. Roedd y merched yn gweld eisiau Buddy’n fawr iawn, a'u gardd fawr hefyd.
Dywedodd Susannah, yn angerddol, “Rwy'n ei golli shwd gymaint! Weithiau rwy’n dymuno na fyddem wedi symud i’r fflat gwirion hwn.”
Gwasgodd Suki law ei chwaer. “Dw i’n gwybod,” dywedodd. “Fi hefyd. Hynny yw, mae'n hwyl rhannu ystafell wely gyda ti, ond r’on i wir yn hoffi cael fy ystafell fy hun."
“Beth bynnag, nid yw bodau dynol yn bwysicach. All anifeiliaid ddim siarad drostynt eu hunain,” parhaodd Susannah. “Dyw hi ddim yn deg sut maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer arbrofion a cholur a phethau.”
Dw i’n dal i feddwl y dylai gofalu am bobl ddod yn gyntaf,” meddai Suki, gan ganu cloch drws Mamgu. “Mae angen i fodau dynol fod yn iach i ofalu am anifeiliaid.”
Shw’mae ferched, diwrnod da?” gofynnodd Mam-gu, gan agor y drws. Rhoddodd Suki a Susannah gwtsh iddi, rhoi eu bagiau cefn ar y llawr a mynd i mewn i'r gegin. Roedd yr arwynebau gwaith wedi’u gorchuddio gyda ffrwythau cymysg, lemonau, orennau a siwgr. Roedd ffedog mam-gu wedi'i gorchuddio â blawd; roedd hi’n gwneud ei chacen Nadolig enwog ddau fis cyn y Nadolig - fel bob amser.
“Mae'n arogli'n hyfryd yma!” meddai Suki, gan gau ei llygaid ac anadlu'n ddwfn.
“Dim byd fel pobi i wneud i le deimlo’n gartrefol,” meddai Mam-gu, gan wenu. Sychodd ei dwylo ar ei ffedog.
Dw i’n methu aros am y Nadolig,” ochneidiodd Susannah, gan eistedd ar stôl ger y bar brecwast. Dw i mor gyffrous. Dw i wedi ysgrifennu fy rhestr yn barod.”
“Fi hefyd!” chwarddodd Suki.
“Ar fy rhestr mae gya fi feic newydd, esgidiau rholio, tabled…”
Arllwysodd Mam-gu'r cytew i ddau dun cacen. “Unrhyw un am y rhan orau?” Gwthiodd y powlenni cymysgu tuag atynt, gan wenu. Cydiodd Suki a
Susannah yn un yr un a rhedeg eu bysedd o amgylch yr ymyl, gan lyfu cymysgedd y gacen oedd â blas sinsir a sinamon.
“Ferched,” meddai Mam-gu’n dyner. “Mae'n swnio fel rhestr hir. Ond, chi’n gwybod… efallai bydd y Nadolig ychydig… yn wahanol eleni.”
“Gwahanol?” gofynnodd Susannah, gan gulhau ei llygaid. “Beth wyt ti’n feddwl 'gwahanol'?”
“Oherwydd nad ydym yn y tŷ mwyach?” ychwanegodd Suki” “Rwy’n tybio na fyddwn yn gallu cael coeden enfawr fel sy’n digwydd fel arfer.”
“Wel ie, mae hynny’n rhan ohono. Ond, roedd rhaid i’ch rhieni roi’r car newydd yn ôl, ac mae swydd newydd Mam yn brysur iawn. Mae gennym gyfle i ganolbwyntio ar wir ystyr y Nadolig. Efallai heb gymaint o bwyslais ar y pethau materol.”
Wyt ti’n dweud na fyddwn yn cael unrhyw anrhegion?” llefodd Suki.
Chwarddodd Mam-gu a siglo’i phen. “Nid dim anrhegion, ond efallai llai nag ydych wedi arfer â nhw. Ni fydd yn gwneud unrhyw niwed i feddwl am beth mae’r Nadolig wir yn ei olygu, a beth sy’n creu’r atgofion gorau.”
“Mae hynny'n hawdd,” meddai Susannah. “Bwyta, chwarae gemau, gwylio ffilmiau Nadolig a bod gyda’n gilydd.”
Gwenodd Mam-gu o glust i glust. “Yn union, cariad.”
“A dyw'r pethau hynny ddim yn costio’r byd, ydyn nhw?” dywedodd Suki.
“Dydyn nhw ddim yn sicr!”
* * *
Yn ôl gartref, yn y cyntedd clywodd Suki a Susannah eu rhieni yn cweryla yn yr ystafell fyw.
Rhoddodd Suki ei chlust yn erbyn y drws a dal ei bys i fyny. “Shh,” sibrydodd wrth Susannah. “Rwy’n ceisio gwrando.”
“Nid yw’n iawn i glustfeinio!” dywedodd Susannah.
“Ond dw i’n meddwl…” gwgodd Suki a throi at Susannah. “Dywedodd Dad bod angen i ni ‘gyfyngu ar wario’. Beth mae hynny'n ei olygu?"
Cododd Susannah ei hysgwyddau. Rwy’n tybio... peidio â gwario cymaint o arian?”
“Ond mae hi bron yn Nadolig!” sibrydodd Suki, gan ledaenu’i llygaid. Wyt ti’n meddwl mai dyna oedd Mam-gu’n ei olygu? Ein bod heb arian?”
Dw i ddim yn credu. Mae gan Mam a Dad swyddi nawr.”
“Ond doedd Mam ddim yn gweithio am hydoedd ac rydym newydd symud. Llogon nhw’r fan fawr honno a phopeth…”
I fyny'r grisiau, rhoddon nhw eu bagiau ysgol ar eu gwelyau. Eisteddodd Suki gyda’i choesau wedi croesi ar ei gwely a gorweddodd Susannah ar ei un hi.
Dywedodd Suki, “Nid wyf wedi dangos fy rhestr i unrhyw un eto, ond mae’n eithaf hir.”
“Fy un i hefyd.” Nodiodd Susannah. “Efallai ddylen ni ddim cynnwys cymaint o bethau ar y rhestr? Does dim angen cymaint o bethau arnom. A beth am feddwl am ffyrdd y gallem arbed arian? Rhoi syrpreis i Mam a Dad.”
“Dyna syniad da! Iawn, dyna’n bwriad – arbed arian ac achub y Nadolig!”
Wrth i Dad rhoi’r llestri i gadw o’r bwrdd cinio, gofynnodd Mam, “Lwyddoch chi i orffen eich holl waith cartref yn nhŷ Mam-gu?”
“Bron i gyd,” meddai Suki. “Ond mae gennym un dasg arall - cynllunio arian. Nid yw mam-gu yn defnyddio bancio ar-lein felly r’on ni’n meddwl gallech esbonio rhai pethau i ni."
Edrychodd Mam ar Dad, a gododd ei ysgwyddau.
“Dw i’n tybio nad yw fyth yn rhy gynnar i ddysgu am ofalu am eich arian,” meddai.
Rhoddodd mam yr hen liniadur ymlaen a mewngofnodi i'w chyfrif banc. Pwyntiodd at y sgrin.
“Mae gwybodaeth ariannol yn wybodaeth sydd wedi’i gwarchod a dylid ei chadw’n breifat, felly peidiwch â dweud wrth eich ffrindiau beth dw i ar fin ei rannu gyda chi, iawn, ferched?”
Edrychodd Suki a Susannah ar ei gilydd a nodio. Ar y sgrin roedd rhestr hir o rifau, rhai gydag arwyddion minws wrth eu hymyl.
“Edrychwch, dyma sut rwy’n cadw golwg ar ein cyflog; dyna ein hincwm ac rydym yn galw beth rydym yn ei wario yn daliadau allan. Dw i’n ei wirio bob dydd, ac yn sicrhau fy mod yn cadw fy nerbynebau hefyd. Yna dw i’n ei baru â chyllideb ein teulu.”
“Ond beth yn union yw cyllideb?” gofynnodd Susannah, gan bwyso'n agosach at y sgrin.
“Cyllido yw gweld beth sy'n dod i mewn, beth sy'n mynd allan a beth sydd gennych yn weddill. Ydych chi’n gweld ein cyflog yno?” Pwyntiodd mam
Gwenodd Suki a rhoi pwt i Susannah. “Mae hynny'n edrych yn iawn.”
Chwarddodd Mam. “Wel, byddai’n wych – pe na fyddai’n rhaid i ni dalu unrhyw beth allan!”
“Beth mae’n rhaid i ni –chi – dalu amdano ‘te?”
Edrychodd mam yn ei bag llaw a daeth â'i dyddiadur allan. Aeth yn gyflym drwyddo.
“Gadewch i ni weld… Dyma lle dw i’n cadw fy nerbynebau a biliau.
Mae'n rhaid i ni dalu rhent am y fflat. Mae angen i ni dalu swm penodol bob mis os ydym am barhau i fyw yma. Yna mae’n rhaid talu biliau: nwy, trydan a dŵr. Y rhyngrwyd, ffôn, trwydded deledu, treth y cyngor.”
Torrodd Dad ar draws, “Dyna pam dw i’n eich atgoffa i gau’r drysau i gadw’r gwres i mewn ac i ddiffodd y goleuadau! A pheidio â threulio oesoedd yn y gawod.”
Dywedodd Suki, “Beth yw treth y cyngor?”
Esboniodd Dad. “Rydym yn talu bob mis am yr heddlu, y frigâd dân a mynediad i’n gwasanaeth iechyd, y GIG.”
Gofynnodd Susannah, “Dyna’r cyfan?”
Gwenodd ei Mam. “O na. Mae gennym ni gostau eraill bob mis hefyd: ein tocynnau bws a nwyddau. Rydym hefyd yn hoffi rhoi rhywfaint o’r neilltu ar gyfer argyfyngau, fel y llynedd pan fu’n rhaid i Dad fynd yn ôl i India am gyfnod, a chynilo ar gyfer eich dyfodol hefyd.”
Dywedodd Suki, “Felly beth sy’n digwydd i’r arian sy’n weddill, os oes unrhyw beth?”
“Wel, pan fyddwn wedi gofalu am ein holl anghenion: bwyd, dillad a tho uwch ein pennauyna gallwn feddwl am bethau rydym yn dymuno eu cael. Y pethau sy’n llawn hwyl.”
Y pethau sy’n llawn hwyl Nid oedden nhw wedi gwneud pethau oedd yn llawn hwyl ers amser hir, meddyliodd yr efeilliaid. Ai’r cyllido yma yw’r rheswm pam nad oedden nhw’n gallu mynd i’r sinema neu fowlio fis diwethaf?
Dywedodd Susannah, “Felly mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr bod anghenion pawb yn cael eu bodloni cyn gwario unrhyw beth arall?”
Nodiodd Mam. “Iawn. Rydym yn cyfrifo beth sydd gyda ni’n weddill. Rhai misoedd efallai byddem yn dewis mynd i nofio neu gael pryd ar glud.”
Ychwanegodd Dad, “Weithiau mae pethau sy’n codi unwaith yn unig yn digwydd hefyd: mae’r peiriant golchi neu’r hwfer yn torri, neu, fel y mis diwethaf pan ffrwydrodd boeler Mam-gu – pethau felly.”
“Beth sy'n digwydd os nad oes arian ar ôl?” gofynnodd Suki, gan boeni.
Dywedodd Susannah, “Maent yn cael mwy o'r banc, rydych yn gallu benthyg arian gyda nhw.”
Dywedodd Dad, “Nawr, arhoswch eiliad ferched… Weithiau bydd angen benthyg arian gan y banc o bosib ar gyfer pethau mawr fel prynu tŷ, ond fel arfer mae’n syniad da gwario beth rydych yn gallu’i fforddio’n unig. Gall y banc helpu ond nid ydyn nhw’n rhoi arian am ddim! Maen nhw’n codi ffi arnoch i fenthyg arian. Mae’r ffi’n cael ei alw’n ‘llog’, felly’n ddelfrydol mae angen i chi ddysgu sut i gyllido a chynilo, ac os bydd angen i chi fenthyg arian yna mae’n rhaid i chi bwyso a mesur y risgiau’n ofalus iawn.”
* * *
Y bore wedyn, ar eu ffordd i’r ysgol, cerddodd Suki a Susannah heibio i’r siop bapurau newydd.
Arhoson nhw i ddarllen y cardiau post yn y ffenestr. Darllenodd Suki un neu ddau’n uchel – roedd rhai’n cynnwys ‘Angen Help’ arnynt.
“Edrycha, mae’r wraig ‘ma ynn chwilio am rywun i fynd â’i chi am dro ar ddydd Sul tra ei bod yn siopa. On’d yw hwnna lawr y stryd?”
Pwysodd Susannah ei thrwyn yn erbyn y gwydr i ddarllen un arall. “Ac mae’r dyn yma angen rhywun i ysgubo a chlirio dail.”
Trodd y merched at ei gilydd yn gyffrous, y ddwy’n meddwl yn union yr un peth. “Gallen ni wneud y pethau hynny!”
Agorodd Suki ei bag cefn ac ysgrifennodd y rhifau ffôn mewn llyfr nodiadau. “Gallen ni ennill arian ychwanegol a’i roi i Mam tuag at y Nadolig. Byddwn yn gofyn iddi amdano yn nes ymlaen.”
Ond, ar ôl yr ysgol, pan ddywedodd y merched wrth eu Mam am y cardiau post oedd yn hysbysebu’r swyddi, ysgydwodd ei phen.
“Mae’n flin gyda fi ferched. Rwy'n deall ei bod yn rhwystredig i beidio â derbyn arian poced fel rhai o'ch ffrindiau, ond rwy'n ofni nad ydych yn ddigon hen i wneud mân swyddi tebyg i’r rhai hynny. Mae angen i chi fod o leiaf yn bedair ar ddeg cyn y byddwn yn teimlo'n hyderus i ganiatáu i chi wneud rhywbeth tebyg. Rydym yn newydd i’r ardal, ydych chi’n cofio?”
Edrychodd y merched ar ei gilydd. Nid oedden nhw am ddweud wrth eu mam nad oedden nhw’n ceisio ennill arian poced.
Y diwrnod canlynol, ar y maes chwarae amser egwyl, meddyliodd y merched am wahanol ffyrdd gallent godi arian ychwanegol.
“Does dim llawer gyda ni i’w werthu, cafodd popeth ei glirio pan symudon ni,” meddai Suki. Meddyliodd Susannah am hyn am ychydig ac yna dywedodd, “Oes gyda ni unrhyw arian ein hunain?”
Aeth Suki draw at ei chist ddillad a gwagio’u blwch arian. Cyfrifodd y darnau arian. “A dweud y gwir, o’n pen-blwydd mae gennym bum punt a phedwar deg ceiniog yn weddill.”
“Hmm,” meddai Susannah. “Fydd hwnna ddim yn prynu tabled! Felly os allwn ni ddim codi llawer o arian, beth am wario llai? Ac efallai y gallem … wneud rhai anrhegion Nadolig? Wedyn fyddai dim angen i Mam brynu pethau newydd.”
Gwgodd Suki. “Ond beth allen ni wneud?”
“Rwyt yn dda am beintio. Yn lle prynu cardiau, gallen ni wneud ein rhai ein hunain.”
“O ie!” Roedd Suki’n hoffi’r syniad hwn. Gallwn ddefnyddio’r dyfrliwiau hynny dw i prin wedi’u cyffwrdd. Rwyt yn dda am gyda chrefftau; gallen ni wneud llyfrnodau i Mam a Dad? Efallai gofyn i Mamgu am rai o'i thoriadau gardd a gweld oes unrhyw botiau sbâr gyda hi. Gallen ni eu haddurno a’u rhoi i’n Modrybedd?”
Ar ôl yr ysgol, yn nhŷ Mam-gu, dywedon nhw wrthi am eu cynlluniau ar gyfer gwneud anrhegion i’w rhieni a’u modrybedd a’u hewythrod. “Dyna syniad gwych!” dywedodd Mam-gu. “Wir? Mae anrhegion cartref gyda chymaint o gariad a meddwl wedi’u rhoi ynddynt. Mae llais hyfryd gyda’ch tad; gallech ei recordio yn canu ac yn canu’i gitâr. Byddai Ewythr Abhishek wrth ei fodd â hynny, yn enwedig gan y bydd ym Mwmbai ar gyfer y Nadolig. * * *
Yn ôl gartref, ychydig cyn mynd i'r gwely, gofynnodd y merched i Dad fynd i nôl ei gitâr a chanu eu hoff ganeuon pan oedden nhw’n iau. Recordiodd Suki ef ar ffôn Dad ac yna ei lanlwytho i'r gliniadur. Byddent yn ei e-bostio at Uncle Abhishek.
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod siopa bwyd. Roedd mam yn gweithio shifft ychwanegol, felly aeth y merched gyda Dad ar y bws i'r archfarchnad.
Roedd gan Dad restr hir o eitemau i'w prynu.
Yn yr eil grawnfwyd, gwgodd ar yr arddangosfa o'i flaen. “P’un ydych chi’n fwyta? Mae llawer o ddewis yma,” dywedodd.
“Pyffion sinamon crensiog,” dywedodd Suki, gan ddal ymlaen i’r troli.
“A dw i’n bwyta’r miwsli di-wenith arbennig yna,” meddai Susannah.
Roedd Dad ar fin rhoi'r pecynnau o rawnfwyd yn y troli pan roddodd Suki ei llaw ar ei fraich.
“Aros,” cydiodd mewn pecyn o rawnfwyd brand yr archfarchnad oddi ar y silff - dau am un - a syllodd ar Susannah. “Mae’r rhain yn edrych yn iawn.”
Cododd ei hysgwyddau. “Ceirch ydynt, nid gwenith. Gallen ni roi cynnig ar y rhain am newid?
“Wir?” gofynnodd Dad, yn syn.
Nodiodd Susannah. “Yn bendant!”
Cymerodd Dad y pecynnau gan Suki a'u hychwanegu at y troli.
Dywedodd Suki, “A dweud y gwir Dad, gallet roi’r rhestr i ni – gwnawn ni ddod o hyd i bopeth.
Mae Mam-gu bob amser yn dweud sut y dylen ni fod yn fwy annibynnol. Byddwn yn defnyddio'r hunan-sganiwr; mae’n llawer o hwyl ac yn dda i’n mathemateg.”
Gwgodd Dad. “Ydych chi’n siŵr?”
“Ydyn, ac rydym yn gwybod ble mae popeth oherwydd ein bod yn dod yma gyda Mam.”
Ychwanegodd Susannah, “Gallet aros amdanom yn y caffi ger y fynedfa.”
Gwenodd Dad. “Wel, iawn. Byddai hynny'n wych oherwydd bod angen i mi wneud un neu ddwy o alwadau. Bydda i’n cwrdd â chi ger til pedwar mewn pymtheg munud ‘te. Cofiwch ofyn i’r cynorthwywyr siop mewn iwnifform gyda’u bathodynnau enw, neu dewch i fy nôl, os oes angen unrhyw help arnoch, iawn?”
Er eu bod yn llwythog gyda'r siopa ar y bws, roedd Dad mewn hwyliau gwych yr holl ffordd adref.
“Gwnaethoch chi ferched waith gwych! Edrychodd ar y dderbynneb. “Bydd Mam yn falch iawn; rydych wedi arbed llwyth o arian i ni."
Ar ôl cinio a gorffen ei gwaith cartref, cyrliodd Suki i fyny ar ei gwely a thynnu llyfr nodiadau allan.
“Beth wyt ti'n ysgrifennu?” gofynnodd Susannah, wrth iddi newid i'w pyjamas.
“Cyllideb! Dw i’n ysgrifennu beth rydym yn ei wneud fel pethau arbennig, ond nad ydynt yn ‘anghenion’, y ffordd roedd Mam yn siarad amdanyn nhw. Y sinema? Gallem gael ein noson ffilm ein hunain gartref, allen ni ddim? Hyd yn oed gyda phopgorn a losin, byddai’n dal yn rhatach na mynd i’r sinema. Nawr ein bod wedi symud, rydyn ni'n agos iawn at y llyfrgell. Dylem ymuno eto, byddai hynny'n arbed llwyth o arian ac mae gyda nhw gyfrifiaduron gallem eu defnyddio neu wneud ein gwaith cartref hefyd. Dw i wedi ymchwilio i ffyrdd eraill gallem arbed arian - mae llawer gallem ei wneud. Prynu bylbiau golau arbed ynni am un peth, er eu bod yn costio mwy ymlaen llaw, rydych yn arbed arian yn y pen draw.”
“Ti’n wych! Mae’r rheiny’n syniadau gwych,” dywedodd Susannah. “Allwn ni ddechrau gwneud y cardiau Nadolig nawr?”
Nodiodd Suki a thynnodd Susannah gerdyn, dyfrliwiau, gliter a glud allan o'u bocs celf. * * *
Ddydd Gwener yn y dosbarth, gofynnodd Mrs Burrows i’r merched pa elusen roeddent wedi dewis siarad amdani. Cododd Suki a Susannah ar eu traed a gwenu ar ei gilydd.
Dywedodd Susannah, “Rydym wedi dewis elusen i’r ddigartref fel un rydym yn meddwl dylai ein dosbarth ei chefnogi y tymor hwn.”
“Allech chi esbonio pam i’r dosbarth?” gofynnodd Mrs Burrows. “Y tro diwethaf i ni siarad – roeddech yn anghytuno!”
“Mae’n elusen sy’n helpu pobl nad oes gyda nhw gartref,” esboniodd Suki wrth y dosbarth. “Ond, rydym yn credu dylai pawb gael yr hawl i gartref.
Mae’n fwy nag adeilad yn unig neu’r pethau ynddo.”
“Bod gyda'n gilydd,” ychwanegodd Susannah..
“Gyda'r bobl rydych yn eu caru ac sy'n eich caru chi.”
Gwenodd yr efeilliaid ar ei gilydd. Roedd hwn yn mynd i fod y Nadolig gorau erioed – roeddent wedi meddwl am ffyrdd i helpu Mam a Dad i arbed arian, yn ogystal â’r ffaith bod ganddynt anrhegion cartref bendigedig i’w rhoi i’r teulu cyfan.