12 minute read
Y Siop Gyfnewid
“Felly, 6B,” meddai Mr Wilson fore Gwener wrth iddo sychu’r bwrdd gwyn yn lân, “dyna rai o’r perchnogion busnes mwyaf dylanwadol - sy’n cael eu hadnabod fel arall yn entrepreneuriaid - yr unfed ganrif ar hugain.”
Trwy’r wythnos roedd y dosbarth wedi bod yn dysgu am bobl fusnes lwyddiannus a’r gwahanol ffyrdd roeddent wedi gwneud arian. Roedd Kwame eisoes yn gwybod am Steve Jobs a Bill Gates, ond roedd clywed am bobl ifanc yn eu harddegau fel Fraser Doherty, a sefydlodd ei fusnes jam ei hun yn bedair ar ddeg oed yn unig, yn gwneud i Kwame gyffroi. Pa mor cŵl fyddai i feddwl am syniad gwneud arian a fyddai’n llwyddiannus? I gael eich cwmni eich hun a bod yn fos arnoch chi eich hun?
“Rydym yn symud ymlaen at ein pwnc Menter ein hunain nawr,” dywedodd Mr Wilson. “Byddwn yn rhannu’n grwpiau a bydd pob grŵp yn meddwl am syniad ar gyfer stondin yn y ffair haf. Efallai byddwch yn dewis canolbwyntio ar wasanaeth i'w ddarparu, neu gynnyrch y gallwch ei werthu. Bydd yr ysgol yn cyfrannu deg punt i bob grŵp ar gyfer deunyddiau. Gallech wario’r arian hwnnw ar hyrwyddo neu wobrau neu hysbysebu – beth bynnag mae eich grŵp yn ei benderfynu sydd orau. Pa stondin bynnag fydd yn gwneud yr elw mwyaf fydd ein henillydd.”
“A beth fydd yr enillydd yn ei gael?” gwaeddodd Kwame, yn gyffrous.
Chwarddodd Mr Wilson. “Wel, gall yr enillwyr ddewis gweithgaredd arbennig i'r dosbarth gymryd rhan ynddo. Nawr, amser egwyl. Ewch i redeg o gwmpas - llosgwch ychydig o egni!” * * *
Yn y maes chwarae, dechreuodd Kwame a'i ffrindiau gorau, Alya, Wasim a Malika, i gyd siarad yn frwdfrydig am y stondin.
“Beth ddylen ni wneud?” gofynnodd Malika.
“Gadewch i ni wneud gêm,” meddai Wasim. “Rhywbeth y byddech yn dod o hyd iddi mewn ffair.”
“Beth am daflu pêli basged – gallem ddefnyddio’r cylchyn yn y maes chwarae?” awgrymodd Alya.
“Dw i ddim yn meddwl y byddai pêli basged yn bownsio o gwmpas y lle’n ddiogel iawn,” meddai Malika. “Gallai pobl faglu drostynt o bosibl.”
“Ac mae pobl yn hoffi rhywbeth gallant ei gadw,” ychwanegodd Kwame. “Os byddwch yn chwarae gêm, unwaith i chi ei chwarae, mae'ch arian wedi diflannu, on’d yw e?"
Cododd Wasim ei ysgwyddau. “Ydy, mae hynny’n wir.”
“Dewch i fy nhŷ i ddydd Sul a byddwn yn penderfynu ar y syniad cywir bryd hwnnw.”
Cerddodd Owen, gwrthwynebydd Kwame –roedd y ddau’n meddwl mai nhw oedd y pêl-droediwr gorau yn eu blwyddyn – yn hamddenol draw atynt.
Glaswenodd ar Kwame. “Dylen ni gael cystadleuaeth a gweld pa stondin sy’n cynhyrchu’r arain mwyaf.”
Edrychodd Kwame ar ei ffrindiau; nodion nhw. “Iawn,” dywedodd. “Bargen! Bydd pwy bynnag sy’n ennill yn cael chwarae ar y cae pêl-droed am yr wythnos.”
“Bargen!” Cerddodd Owen i ffwrdd, gan chwerthin.
* * *
Roedd y diwrnod nesaf yn ddydd Sadwrn gwell na’r arferol oherwydd bod Kwame yn dathlu’i benblwydd yn un ar ddeg oed. Yr unig beth roedd wedi bod yn siarad amdano ers wythnosau oedd y gêm fideo newydd Rocket Stormz II.
Wrth fwrdd y gegin, gyda Dad a Thad-cu yn edrych arno, rhwygodd Kwame ei anrhegion ar agor: llyfr cofnodion y byd, pâr o glustffonau Bluetooth a hwdi. Dim Rocket Stormz II. Ceisiodd guddio’i siom. Ers damwain beic modur Dad, roedd arian wedi bod yn brin. Daeth Dad draw yn ei gadair olwyn at Kwame a rhoi ei fraich o amgylch ei ysgwydd.
“Edrycha, dw i'n gwybod dy fod wedi gosod dy galon ar y gêm gyfrifiadurol honno, ond mae'n ddrwg ‘da fi - allwn ni ddim ei fforddio ar hyn o bryd. Efallai rho hi ar dy restr Nadolig, bydd wedi gostwng mewn pris erbyn hynny.”
Torrodd Tad-cu ar draws, “Pan o’n i’n fachgen, ro’n i a’m ffrindiau’n arfer cyfnewid teganau. Bob amser, roedd gan rywun rhywbeth ro’ch chi eisiau ac felly roedd pawb yn cael tro.”
Nid oedd gan Kwame y galon i egluro bod gan ei holl ffrindiau wahanol gonsolau, felly hyd yn oed os oedd ganddynt y gêm roedd ei heisiau, ni fyddai'n addas.
Gan feddwl, cnoiodd lond ceg o grempog, gyda surop masarn yn diferu i lawr ei ên. “Dad … allwn i werthu fy hen bethau ar y wefan honno rwyt yn ei defnyddio i werthu dy hen recordiau arni?”
“Kwame!” Chwarddodd Dad. “Mae gan hanner dy deganau ddarnau ar goll neu fatris wedi rhydu. Cofio’r drôn wnest ti ei yrru mewn i wal y Nadolig diwethaf? Ar ôl i'r adain ddisgyn i ffwrdd, wnest ti ddim chwarae ag ef eto.”
“Neu’r robot hwnnw oedd yn poeri disgiau sbwng,” ychwanegodd Tad-cu. “Aeth y disgiau hynny’n sownd a wnest ti ddim chwarae â hwnnw chwaith.”
Doedd hynny ddim yn deg! Croesodd Kwame ei freichiau. “Roeddwn yn iau bryd hynny a doeddwn i ddim yn gofalu am bethau’n dda iawn, ond dw i’n gwneud nawr. Mae’r consol gemau wedi bod gyda fi i ers pum mlynedd ac mae’n dal i weithio.”
Rhoddodd Tad-cu y platiau brecwast i gadw. “Dyw gwerthu pethau ar-lein ddim yn hawdd, K. Rwyt wedi fy ngweld yn helpu dy dad. Mae'n rhaid i ni lunio disgrifiad ar-lein, tynnu lluniau, pacio pethau a thalu i’w postio. Mae gwerthu ar-lein yn werth chweil yn unig os ydynt yn eitemau prin, neu grysau T wedi’u teilwra fel y rhai mae dy dad yn gwneud.”
Rhedodd ei Dad ei fysedd trwy wallt cyrliog
Kwame. “Paid â bod yn rhy siomedig, iawn? Rydym yn cael pysgod a sglodion i ginio, ac mae Tad-cu wedi dweud bydd yn gwneud ei lemonêd melon-dŵr arbennig roedd yn arfer ei yfed pan oedd yn fachgen.”
Tynnodd tad-cu jwg wydr fawr allan o dan y sinc. “Bydd, bydd yn flasus iawn yn y tywydd poeth yma ac yn mynd yn dda gyda dy gacen pen-blwydd.”
Ddydd Sul, eisteddodd Kwame a'i ffrindiau o gwmpas yn gweiddi'n hapus wrth gymryd eu tro yn chwarae gêm fideo pêl-droed.
“Pasia’r bêl!” gwaeddodd Alya.
“Unrhyw syniadau am ein stondin felly?” gofynnodd Kwame, gan wasgu'r botymau ar y rheolydd. “Dim ond wythnos sydd gennym.”
“Beth am gêm can tun, gan eu taro i lawr?” gofynnodd Wasim.
Ysgwydodd Kwame ei ben. “Dw i ddim yn meddwl y bydd pobl eisiau chwarae’r gêm honno… byddai’n gwneud gormod o sŵn.”
“Mae angen i ni feddwl beth sy'n gwerthu. Breichledi cyfeillgarwch?” dywedodd Malika. “Pwy sy’n gallu eu gwneud?”
Dywedodd Wasim, “Fy chwaer. Mae bob amser yn gadael edafedd o gwmpas y lle.”
“Ond all hi ddim gwneud cannoedd erbyn dydd Sadwrn nesaf, all hi?” cwynodd Alya.
“Beth am sleim?” ebychodd Wasim. “Mae pawb yn y blynyddoedd iau yn dwlu ar sleim.”
“Dyw hwnna ddim yn syniad drwg,” dywedodd Kwame. Roedd wedi gweld potiau o sleim yn gwerthu am bum punt neu fwy, felly cyn belled â bod eu rhai nhw’n rhatach na’r sleim roedd pobl yn ei brynu yn y siopau…
Nodiodd Malika. “Mae’r cynhwysion yn rhad.
Dim ond glud, lliw bwyd yw e a rhywbeth i’w ddal at ei gilydd…”
Gwenodd Kwame. “Iawn, sleim amdani!”
Rhoddodd bawen lawen i’w ffrindiau ac aethant yn ôl i gicio’r bêl o amgylch y cae a thaclo’i gilydd.
“K,” gwaeddodd Alya, yn frwdfrydig wrth iddi sgorio cic rydd. “Ie! Rwyt wedi codi i lefel uwch. Gelli gael yr ymosodwr hwnnw nawr.” Pwysodd Alya tuag at Kwame a chymryd ei reolydd. “Edrycha, cer yma –i ‘opsiynau’ a dod â’r ddewislen ‘ychwanegol’ i fyny.”
Ychydig o gliciau yn ddiweddarach, cafodd
Kwame yr ymosodwr diweddaraf a churodd y gweddill ohonynt 3-0! * * *
Fore dydd Llun, roedd tad Kwame yn eistedd wrth fwrdd y gegin, yn syllu ar ei liniadur, gan edrych yn ddryslyd.
“Kwame, dere ‘ma.”
Rhoddodd Kwame ei focs bwyd yn ei fag cefn. “Mae’n rhaid i mi fynd, neu bydda i’n hwyr.”
“Aros eiliad.” Pwyntiodd Dad at y sgrin. “Edrycha ar hwnna?”
Dilynodd llygaid Kwame fys ei Dad. Darllenodd yn uchel: “Pryniant Game network.” Llowciodd.
Culhaodd llygaid Dad. Brynaist ti rywbeth arlein ar gyfer un o'th gemau?”
“Naddo. Wel, ro’n ... Wn i ddim! Ddim ar bwrpas.
Dywedodd Alya wrthyf y gallwn gael yr ymosodwr rhad ac am ddim hwn pe bawn yn clicio ar hwn—”
Ochneidiodd Dad yn uchel a rhwbio’i ddwylo ar draws ei wyneb. “Gwranda. Mae fy manylion banc wedi'u storio ar y consol gemau pan fyddwn yn prynu ffilmiau. Doedd yr ymosodwr hwnnw ddim am ddim! Roedd wedi costio pum punt mewn gwirionedd.”
Doedd dim syniad gan Kwame! Syllodd ar y llawr. Mae’n flin ‘da fi, Dad.”
Ysgwydodd ei Dad ei ben. “Gwranda, os oes rhywbeth ar-lein fel hwnna’n edrych yn rhy dda i fod yn wir - yna mae'n debygol ei fod. Paid fyth â chlicio ar ‘Prynu Nawr’ neu ‘Gynnig Am Ddim’ heb wirio gyda mi yn gyntaf, iawn? Er mai ar y sgrin yn unig mae’n bodoli, mae eitemau’n dal i gael eu prynu gydag arian go iawn. ”
“Do’n i ddim yn gwybod.”
“Mae’n iawn.” Aeth Dad i roi cwtsh iddo.
“Mae’n hawdd iawn gwneud y camgymeriadau hyn; mae Tad-cu hyd yn oed wedi gwneud yr un peth! Ond, dylet fod yn gwybod am y pethau hyn erbyn nawr. Bydd angen i ti wneud rhai tasgau ychwanegol o gwmpas y tŷ i fy nhalu nôl, iawn?" * * *
Ar ôl yr ysgol, gwasgodd Kwame a'i ffrindiau i mewn i ystafell ymolchi Kwame. Wrth greu gwahanol ryseitiau sleim wrth wylio fideos ar-lein, yn fuan iawn, roedd yr ystafell ymolchi’n edrych fel bod bom wedi ffrwydro ynddi. Roedd gan bob un ohonynt bowlen o'u blaenau ar dywel ac roeddent wedi’u hamgylchu gyda chapsiwlau golchi llestri, hydoddiant lensys cyffwrdd, powdr pobi, olew babi, glud a sebon.
“Mae’r un yma’n ludiog,” meddai Malika, gan ddal llwy bren i fyny. Diferodd slwtsh pinc oddi arni.
Ochneidiodd Kwame. “A’r lleill?” Syllodd i mewn i’r powlenni eraill, gan ysgwyd ei ben ar yr holl lanast slwtsh.
“Beth ydyn ni’n mynd i'w wneud?” llefodd Alya.
“Allwn ni ddim gwario mwy o arian! Mae angen y pum punt arall arnon ni ar gyfer losin i ddenu’r cwsmeriaid.”
“Efallai nad oes rhaid i ni wario pum punt ar losin?” dywedodd Wasin. “Mae angen i ni feddwl am syniad arall sy’n rhad neu am ddim. Mae’r ffair mewn dau ddiwrnod.”
Cofiodd Kwame am rywbeth roedd ei dad-cu wedi’i ddweud. “Mae gyda phob un ohonoch frodyr a chwiorydd iau, on’d oes? Allech chi weld oes ganddynt unrhyw hen deganau nad ydyn nhw’n eu defnyddio mwyach - gallem eu gwerthu?"
Crychodd Alya ei drwyn. “Mae fy chwaer yn driblo ar bopeth. Fyddai neb yn talu arian am ei llyfrau defnydd cnöedig.”
“Ond does dim miloedd o’r pethau Sylvanian Family hynny gyda hi?”
“Oes. Dyw hi ddim yn chwarae â nhw bellach,” dywedodd Alya.
“Dyna’n union beth fydd pobl eisiau!” llefodd Kwame. “A Malika, on’d yw dy chwaer yn dwlu ar Star Wars?
“Roedd hi,” dywedodd Malika. “Doctor Who mae’n dwlu arno nawr, ond gallwn i ddod â rhai o’i hen flwyddlyfrau i’r stondin. Ddim yn siŵr y bydd hi'n fodlon eu rhoi am ddim er hynny.”
Dywedodd Kwame, “Gallwn eu cyfnewid am bethau mae gyda hi ddiddordeb ynddy nhw nawr.”
Ysgydwodd Malika ei phen. “Ond sut rydym yn gwneud unrhyw arian felly?”
Meddyliodd Kwame am y peth. “Efallai gallai pobl dalu ffi i ymuno?”
“Fel sut mae campfeydd yn codi ffi aelodaeth ac yna’n gadael i chi ddefnyddio’r offer!” Gwenodd
Wasim. “Ac, efallai gallem, sefydlu ein busnes ein hunain - cael diwrnod cyfnewid unwaith y mis neu rywbeth?”
* * *
Ar ôl i'w ffrindiau fynd adref, edrychodd Kwame trwy ei gypyrddau ei hun am eitemau i'w rhoi ar eu stondin cyfnewid. Roeddent i gyd wedi cytuno i ddod â hen deganau a gemau neu byddai dim byd ar y stondin. Yn fuan, roedd wedi llenwi bag plastig gyda theganau meddal, blociau stacio, brics adeiladu heb gyfarwyddiadau, a llyfrau lluniau. Dim byd newydd, ond roeddent yn ddigon da i chwarae â nhw o hyd. * * *
Daeth bore dydd Sadwrn - y ffair haf. Roedd yr awyr yn glir ac yn ddisglair. Am 10 o'r gloch y bore agorodd y gatiau, ac roedd y maes chwarae’n brysur iawn mewn dim amser. Roedd castell neidio a stondin toesenni drws nesaf i’w gilydd. Mae hynny'n gofyn am drwbwl, meddyliodd Kwame. * * *
Gosodwyd y stondinau a oedd yn cael eu rhedeg gan 6B o amgylch ymyl y cae chwarae. Roeddent yn lliwgar ac yn amrywiol: cacennau ar werth, gêm cylchyn poteli plastig, tatŵs dros dro a phaentio wynebau. Roedd gan wrthwynebydd Kwame – grŵp
Owen – gêm ‘Taflu Sbwng Gwlyb at yr Athro’. Roedd hynny'n edrych yn hwyl; pwy fyddai ddim yn dwlu ar daflu sbwng llawn dŵr at athro! Roedd y ciw’n fawr iawn. Llyncodd Kwame – doedd dim ffordd y byddai’u Siop Gyfnewid fyth yn curo hynny. * * *
Edrychodd Kwame ar eu stondin, yn obeithiol. Er bod y rhan fwyaf ohoni wedi’i rhoi at ei gilydd ar y funud olaf, nid oedd yn edrych yn rhy wag. Roedd pawb wedi dod â rhywbeth. Er bod 75 y cant o’r stondin yn deganau meddal, roedd posau, llyfrau, pethau meddal a DVDs yno hefyd.
“Beth yw hwn ‘te?” gofynnodd gwraig, gan siglo babi oedd yn driblo.
“Siop gyfnewid,” dywedodd Malika. “Rydych yn talu hanner can ceiniog i fod yn aelod ac yna byddwch yn gallu benthyg beth bynnag rydych eisiau am wythnos.”
“Hmm.” Daliodd y babi ar ongl, a tharodd yn erbyn y teganau meddal.
“Ond sut dw i’n dychwelyd beth dw i wedi'i fenthyg?” meddai, gan edrych yn ddryslyd.
Cododd Alya a Wasim eu hysgwyddau. Cymerodd y wraig arth losin o'r bowlen losin rhad ac am ddim ac yn fuan crwydrodd i ffwrdd i stondin oedd yn gwerthu cacennau eisin.
Dylen ni fod wedi gwneud y rheiny ar gyfer aelodau’n unig,” cwynodd Wasim, gan daro’i law i’w dalcen. * * *
Arhosodd Mr Wilson wrth y stondin. “Dywedwch wrthyf am eich stondin ‘te. Beth wnaeth i chi benderfynu ar y syniad hwn?”
Llyncodd Kwame. Sut i ateb? Roedd y wraig yn iawn; doedd e heb feddwl hyn drwyddo mewn gwirionedd. Os oedden nhw yma heddiw yn unig, fyddai neb yn gallu cyfnewid dim byd, byddent ond yn gallu benthyg a sut fyddent yn dychwelyd pethau? Beth oedd y pwynt? Efallai y gallent newid syniadau ac yn lle hynny gwerthu popeth?
Diferodd y chwys i lawr ei gefn wrth i Mr Wilson syllu arno, gan aros.
“Roedden ni ... eisiau dangos ... does dim angen i chi gadw i brynu teganau a phethau newydd. Efallai bod sbwriel rhywun yn drysor i rywun arall, wyddoch chi?” Gwenodd, gan hoffi’r syniad. “Mae'n dda i'r blaned hefyd, cywir? Mae gyda ni rywfaint o arian ar ôl hyd yn oed, dim llawer ond punt neu ddwy.”
Gwenodd Mr Wilson. “Dw i’n hoffi hynny, Kwame. Felly, bydda i’n cofrestru. Mae fy merch wedi bod eisiau un o’r anifeiliaid anwes micro hynny ers oesoedd, ond maent wedi rhoi’r gorau i’w gwneud nawr a does dim ffordd byddwn i’n talu’r prisiau gwallgof sy’n cael eu hysbysebu ar-lein.”
Ar ôl i Mr Wilson adael, edrychodd Kwame o gwmpas y maes chwarae. Doedd dim cwmwl yn yr awr, a nawr, am 11a.m., roedd yn boeth iawn. Roedd pobl yn torchi’u llewysau ac yn casglu yn y mannau lle roedd cysgod o dan gynfasau’r ystafell ddosbarth.
Roedd gan y stondin diodydd arwydd ‘Wedi Gwerthu
Allan’, a chasglodd ciw mawr wrth yr unig ffynnon ddŵr.
Meddyliodd Kwame byddai gwydryn o lemonêd melon dŵr oer hyfryd Tad-cu yn cael ei werthfawrogi’n fawr ar hyn o bryd. Wrth iddo feddwl am hynny, yn sydyn cafodd syniad. “Mae gennym dair punt ar ôl, cywir?” Trodd at Wasim. “Alla i fenthyg dy ffôn?”
* * *
Ddeg munud yn ddiweddarach, daeth tad-cu Kwame i’r stondin gyda thair llond jwg o lemonêd melon dŵr oer.
“Shw’mae!” Gwaeddodd Owen dros y maes chwarae. “Mae gofyn i dy dad-cu ddod â diodydd i’w gwerthu’n dwyllo!”
“Na, dyw e ddim!” gwaeddodd Kwame yn ôl. “Talon ni am y lemwn a’r melon dŵr o’r gyllideb oedd yn weddill, diolch yn fawr!”
Cwynodd Alya, “Dylai beidio â busnesu...”
Dechreuodd Malika a Wasim arllwys lemonêd i mewn i gwpanau plastig.
“Lemonêd! Lemonêd!” gwaeddodd Alya’n uchel. “Aelodaeth i'r Siop Gyfnewid yn hanner can ceiniog yn unig ac yn cynnwys gwydriad AM DDIM o’r lemonêd cartref hyfryd hwn. * * *
Yn ddigon buan, roedd gan eu stondin giw hir o bobl. Ysgrifennodd Alya e-bost neu rif ffôn symudol pawb yn y cyfriflyfr. Rhwygodd Malika y tocyn raffl a oedd yn gweithredu fel eu cerdyn aelodaeth ac ar y cefn ysgrifennodd y teganau roeddent wedi'u benthyg a'r dyddiad roeddent i’w dychwelyd. Am y tro, roeddent wedi penderfynu ar ddydd Gwener nesaf, ar ôl yr ysgol.
“Da iawn!” dywedodd Mr Wilson, gan nodio’n llawn edmygedd tuag at eu ciw hir. “Ar ôl dechrau araf, mae’n edrych fel bod eich lemonêd wedi denu’r cwsmeriaid!”
Gofynnodd Kwame, “Ydyn ni wedi ennill felly? Ai ni oedd wedi gwneud y fwyaf o arian?”
Ysgydwodd Mr Wilson ei ben. “Nage, mae’n ddrwg gennyf, rwy’n siŵr mai stondin Owen sydd â’r elw mwyaf hyd yn hyn. Ond mae gyda’r syniad hwn o siop gyfnewid wreiddiau mewn gwirionedd.”
“Beth, Syr?” gofynnodd Malika’n synn.
“Dyma’r union fath o beth y byddai’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn ystyried ei wneud ar ôl yr ysgol yn rheolaidd. Mae wir yn annog lleihau gwastraff. Yn y wers nesaf, byddwn yn trafod sut i ysgrifennu cynllun busnes. Gwaith ardderchog!” * * *
Cododd Kwame gwpanaid plastig o lemonêd a gwnaeth, Alya, Wasim a Malika lwnc destun i'w gilydd. “I ni, tîm Entrepreneuriaid y Siop Gyfnewid!”