EICH UNDEB MYFYRWYR
Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant
YOUR STUDENTS’ UNION Trinity Saint David Students’ Union
Adroddiad ar Ansawdd Academaidd
Tachwedd 2016
Rhagair Rydym yn falch o gyflwyno Adroddiad cyntaf Undeb y Myfyrwyr ar Ansawdd Academaidd; eleni byddwn yn canolbwyntio ar faes sy’n agos at galon y mwyafrif helaeth o fyfyrwyr, sef y costau ariannol sy’n gysylltiedig ag astudio. Rydym yn gwybod bod mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn gweithio i gynnal eu hastudiaethau, a bod ein cenhedlaeth ni o fyfyrwyr yn gwario mwy ar rent, bwyd a theithio na’r genhedlaeth o’r blaen – yn arbennig mewn sefyllfa lle nad yw grantiau a benthyciadau’n cwrdd â’n holl gostau. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn falch iawn o gyflwyno’r darn hwn o waith i Senedd y Brifysgol, a gofynnwn i’r Brifysgol roi ystyriaeth fanwl i’n canfyddiadau. Credwn, yn y bôn, y dylai myfyrwyr ddechrau yn y Brifysgol mewn sefyllfa o fod yn gwbl hysbys ynglŷn â’r costau fydd yn eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau; hefyd hoffem weld y Brifysgol yn ceisio lleihau’r costau i’r myfyrwyr hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y costau ychwanegol hyn. Yn olaf, hoffem ddiolch i aelodau tîm sabothol 2015/16 a fu’n gyfrifol am y prosiect hwn, ac i staff Undeb y Myfyrwyr am eu cymorth wrth lunio’r adroddiad. Yn gywir,
Dan, Gwyneth, Joe a Rebecca Tîm Sabothol UMYDDS, 2016/17
Rhagarweiniad Mae’r argymhellion sy’n deillio o Gynllun Gweithredu Adolygiad yr ASA 2015 yn amlinellu ymrwymiad gan Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno datganiad blynyddol ar brofiad myfyrwyr i PCYDDS. Y darn hwn o waith yw ein hadroddiad cyntaf ar ‘Ansawdd Academaidd’ ac mae wedi cael ei ddatblygu fel cynllun peilot ar gyfer ymchwil a gweithgaredd yn y dyfodol. Dyma hefyd yw ein darn cyntaf o ymchwil ers rhai blynyddoedd, ac fe’i lluniwyd yn ystod cyfnod lle mae strwythurau a rolau staff yn newid. Yng ngoleuni hyn, penderfynnodd Pwyllgor Gwaith yr UM y dylai ein AAA cyntaf roi sylw penodol i un agwedd o brofiad myfyrwyr sy’n allweddol i gymaint o grwpiau o fyfyrwyr â phosib. Cyfeiriwn yn gyffredinol at gost astudio, gan ganolbwyntio’n benodol ar faes “costau ychwanegol ar gyrsiau”. Mae amrywiaeth eang corff y myfyrwyr yn PCYDDS yn arwain at heriau unigryw, nid yn unig i’r myfyrwyr eu hunain, ond hefyd i’r Brifysgol, mewn meysydd megis cyllido atodol, a theimlwyd pe gallem greu darlun o’r maes hwn, y gallai fod o fudd i nifer fawr o’n myfyrwyr.
At ddibenion yr astudiaeth hon, diffinir ‘costau ychwanegol’ fel gwariant ar y profiad academaidd sydd ddim yn cael ei gynnwys dan y ffioedd dysgu. Mae pedwar amcan cyffredinol i’r gwaith hwn:
• Ymchwilio i lefelau
gwariant mae myfyrwyr yn ymrwymo iddynt er mwyn cynnal eu profiad academaidd;
• Canfod a yw
disgwyliadau myfyrwyr ar yr un lefel a’u gwariant;
• Canfod a yw myfyrwyr
yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael, ac ydyn nhw’n gallu manteisio ar y cymorth hwnnw; ac
• Ymchwilio a oes
digon o wybodaeth yn cael ei darparu ar gyfer myfyrwyr ynglŷn â chostau ychwanegol cyn iddynt ymgymryd â’u hastudiaethau.
Dulliau Gan mai hwn oedd y darn cyntaf o ymchwil i’r Undeb ei gynnal ers peth amser, teimlwyd bod ei bod yn allweddol ei gadw’n syml, i’r rheiny oedd yn cymryd rhan ac i’r ymchwilwyr. Cynhaliwyd dau arolwg byr ar-lein, a bu swyddogion a staff UMYDDS yn rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar-lein ac mewn nifer o ddigwyddiadau yn ystod Pythefnos y Glas. Roedd dau arolwg oherwydd teimlwyd bod cyfle i gael dau wahanol safbwynt, yn arbennig ar ddechrau’r flwyddyn. Dylid nodi, er ein bod yn gobeithio y caiff y prosiect effaith cadarnhaol ar brofiad myfyrwyr, mewn rhai ffyrdd man cychwyn yw hwn ar gyfer prosiect blynyddol mwy sefydlog. Yn gyntaf, lluniwyd arolwg wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr oedd yn dychwelyd i’r Brifysgol ar ôl gwyliau’r haf, â’r nod o ganfod eu profiadau parthed costau ychwanegol a wynebwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau hyd yma (boed yn argraffu, cyfarpar arbenigol, teithio a.y.b.), faint wariwyd, a sut mae’r hyn maent wedi’i wario’n cymharu â’u disgwyliadau cyn dechrau’r cwrs. Bwriadwyd yr arolwg arall ar gyfer myfyrwyr oedd yn dechrau yn y Brifysgol ym Medi 2016, a’n hamcan oedd gwella’n dealltwriaeth o’u disgwyliadau o ran pa gostau fyddent yn eu hwynebu a faint oedden nhw’n disgwyl y byddai rhaid iddynt ei wario. Yn ogystal â’r arolygon, mae’r adroddiad hwn hefyd yn seiliedig ar ymchwil arall, yn arbennig adroddiad UCM y DU ar Gostau Cudd1, a thrwy adolygu deunydd hyrwyddo a gyhoeddir gan y Brifysgol, gan gynnwys gwefan PCYDDS.
Ymatebion Yn achos yr arolwg ar gyfer myfyrwyr cyfredol, cwblhawyd yr holiadur gan 159 o bobl. Roedd y rhan fwyaf o’r rheiny a ymatebodd (45%) yn dechrau ar eu hail flwyddyn neu eu trydedd flwyddyn (30%). Yn ogystal â chynrychiolaeth gan bob grŵp blwyddyn o blith yr israddedigion, derbyniwyd ymatebion gan bob Cyfadran. Roedd cynrychiolaeth o bob Cyfadran hefyd ymysg y rheiny a ymatebodd i’r arolwg ar gyfer myfyrwyr newydd.
1. https://www.nus.org.uk/PageFiles/12238/NUS_poundinyourpocketWales_report-English.pdf
Arolwg o Fyfyrwyr Cyfredol Mae Siart 1 isod yn dangos y meysydd mae myfyrwyr fwyaf tebygol o wario eu harian arnynt. Fel y gallwn weld, caiff y rhan fwyaf o arian ei wario ar argraffu a phrynu llyfrau, gyda bron i 3/4 y rheiny a ymatebodd yn nodi iddynt wario cryn lawer ar gyfarpar ac adnoddau. Nododd dros 50% o’r myfyrwyr a ymatebodd i’r arolwg eu bod wedi gwario arian ar y meysydd hyn i gyd. Roedd hefyd cyfle i fyfyrwyr ychwanegu eu sylwadau eu hunain, a’r ddau ymateb mwyaf cyffredin oedd costau teithio ar gyfer y cwrs (yn arbennig ymhlith myfyrwyr ar leoliad gwaith) ac ar gymwysterau ychwanegol (er enghraifft cymwysterau hyfforddi, tystysgrifau achub bywyd) oedd eu hangen ynghyd â’u gradd.
Siart 1 Gwariant a nodwyd
A Argraffu aseiniadau B Llun-gopïo adnoddau C Prynu offer TG D Prynu offer neu adnoddau ar gyfer y cwrs E Prynu llyfrau F Teithiau maes, ymweliadau neu brosiectau G Teithio i leoliadau gwaith
Hefyd gofynnwyd i fyfyrwyr tua faint oedden nhw’n ei wario ar bob un o’r uchod. Roedd yr ymatebion yn amrywio, ond er enghraifft, cost argraffu aseiniadau, ar gyfartaledd, oedd £45 y flwyddyn, er i rai myfyrwyr ddweud eu bod yn gwario dros £200. Wrth reswm, mae mwy o gostau ynghlwm mewn rhai cyrsiau o gymharu â rhai eraill. Nodwyd bod myfyrwyr Celf yn gwario llawer mwy nag eraill ar argraffu a chyfarpar. Roedd cryn amrywiaeth hefyd o ran faint oedd myfyrwyr yn ei wario ar lyfrau, gyda rhai’n dweud nad oeddynt yn prynu llyfrau o gwbl, a dau o’r rheiny a ymatebodd yn dweud iddynt wario £1000. Roedd llai o bwyslais ar grwpiau penodol o fyfyrwyr, er i amryw ohonynt nodi bod prinder adnoddau yn y llyfrgell yn golygu bod rhaid iddynt brynu rhai llyfrau. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos myfyrwyr ar leoliad gwaith, oedd yn ei chael yn anodd cael mynediad i lyfrgelloedd gan eu bod nhw oddi ar y campws yn ystod yr oriau mae’r llyfrgelloedd ar agor), ac yn fwy cyffredinol yn achos myfyrwyr oedd ar gyrsiau lle nad oedd fersiwn electronig o lyfrau penodol ar gael.
O ran myfyrwyr ar leoliad, gofynnwyd i’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg tua faint oedden nhw’n ei wario ar deithio i leoliadau gwaith. Unwaith eto roedd cryn amrywiaeth yn yr ymatebion a ddaeth i law, gyda rhai yn gwario dim ar deithio ac ambell un yn gwario cymaint â £1,000; y ffigur ar gyfartaledd oedd £200. Gofynnwyd i fyfyrwyr a oedd y gwariant hwn tua’r un faint â’u disgwyliadau. Yn achos argraffu aseiniadau, dywedodd 66% o fyfyrwyr fod y gost yn uwch neu ychydig yn uwch na’r hyn roeddent yn ei ddisgwyl, gyda 61% yn dweud yr un peth am gost prynu llyfrau. O ran costau teithio i leoliadau gwaith, dim ond 12% ddywedodd fod hyn tua’r un faint â’r swm oedden nhw’n ei disgwyl. Yn olaf, gofynnwyd i fyfyrwyr a oedd unrhyw un wedi eu gwneud yn ymwybodol o’r bwrsariaethau a gynigir gan y brifysgol. Dywedodd tua 28% nad oeddent wedi cael eu hysbysu, a nododd 52% o’r rheiny a holwyd eu bod wedi elwa ar ryw ffurf o fwrsariaeth wrth astudio. Roedd myfyrwyr ar y cyfan yn bositif ynglŷn â’r cynllun bwrsariaeth, ond nododd
amryw ohonynt nad oedd canfod gwybodaeth amdanynt yn hawdd o gwbl, a soniodd ambell un am yr anawsterau mewn diwallu rhai o’r meini prawf, gyda nifer o fyfyrwyr yn dweud nad oeddent yn ddigon i dalu costau rhai cyrsiau.
“Pe na bai am y cynllun bwrsariaeth, fuaswn i ddim wedi gallu cwblhau fy ngwrs… Roedd y pwysedd ychwanegol o orfod gweithio i dalu fy rhent yn rhoi straen gwirioneddol ar fy astudiaethau. Trueni na fuaswn yn gwybod am y cynllun bwrsariaeth cyn fy mlwyddyn olaf.” “Er mor ddefnyddiol yw bwrsariaethau, os nad ydych yn gymwys i’w derbyn, dydyn nhw ddim mor wych” “Mae’n dda o beth y gallwn wneud cais am y bwrsariaethau hyn, ond yn achos cyrsiau fel Addysg Awyr Agored, dim ond help bach ydyn nhw tuag at gostau’r holl gyfarpar sy’n rhaid i ni ei brynu”
Myfyrwyr Newydd Roedd yr arolwg hwn yn gosod mwy o bwyslais ar ddisgwyliadau myfyrwyr cyn iddynt ddechrau ar eu cwrs, ac roedd y tri chwestiwn cyntaf yn rhoi sylw i’r costau roeddent yn eu disgwyl cyn ymgymryd â’u hastudiaethau. Dywedodd 80% nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw gostau ychwanegol y gallai fod angen iddynt eu talu, a doedd bron i 95% ddim wedi gweld unrhyw gyfeiriad at gostau ychwanegol yn y prosbectws. O ran gwariant ychwanegol, roedd bron i hanner y myfyrwyr a holwyd yn disgwyl talu o leiaf rywfaint ym mob un o’r categorïau gwariant, fel y gallwn weld yn Siart 2.
Siart 2 Gwariant a Ddisgwylir A Argraffu aseiniadau B Llun-gopïo adnoddau C Prynu offer TG D Prynu offer neu adnoddau ar gyfer y cwrs E Prynu llyfrau F Teithiau maes, ymweliadau neu brosiectau G Teithio i leoliadau gwaith
Hefyd gofynnwyd i fyfyrwyr a oeddent yn ymwybodol o fwrsariaethau. Nododd 56% ohonynt nad oedd unrhyw un wedi’u gwneud yn ymwybodol o hyn. Rydym yn cael ar ddeall fod y Brifysgol yn hysbysebu bwrsariaethau i fyfyrwyr yn ystod y broses sefydlu, ond ymddengys nad yw’r neges hon o reidrwydd yn cyrraedd pen ei thaith ar hyn o bryd.
Cymhariaeth Un o brif ddibenion y cwestiwn ar gyfer myfyrwyr newydd ynglŷn â gwariant y gellir ei ddisgwyl oedd gallu ei gymharu â phrofiadau myfyrwyr cyfredol. Ym mhob categori, mae myfyrwyr yn gwario mwy na’r hyn roedden nhw’n ei ddisgwyl, ac eithrio prynu offer TG. Roedd gwariant yn uwch na’r disgwyl yn y meysydd canlynol: • Argraffu aseiniadau • Adnoddau llungopïo • Prynu Cyfarpar ac Adnoddau angenrheidiol ar gyfer eu cwrs • Prynu llyfrau
Siart 3 Gwariant yn erbyn yr hyn a ddisgwyliwyd A Argraffu aseiniadau B Llun-gopïo adnoddau C Prynu offer TG D Prynu offer neu adnoddau ar gyfer y cwrs E Prynu llyfrau F Teithiau maes, ymweliadau neu brosiectau G Teithio i leoliadau gwaith
Presennol
Newydd
Prosbectws a Deunydd Arall Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym hefyd wedi adolygu cryn lawer o’r deunydd hyrwyddo mae’r Brifysgol yn ei gyhoeddi, o ran prosbectws a gwefan. Dim ond nifer fach o gyfeiriadau at gostau ychwanegol oedd i’w gweld, ac roedd y rhain i raddau helaeth yn canolbwyntio ar ennill cymwysterau ychwanegol oedd yn perthyn i rai cyrsiau yn yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored. Mae hyn o bryder arbennig o ystyried bod rhaid prynu offer penodol fel rhan o rai cyrsiau (eto yn arbennig cyrsiau Addysg Awyr Agored – dywedodd un myfyriwr
y bu rhaid iddynt brynu eu holl ddillad hyfforddi, gan gynnwys siwtsych a siwt-wlyb). Hefyd nododd myfyrwyr Celf a Dylunio y bu rhaid iddynt dalu cryn lawer tuag at gost eu harddangosfeydd ar ddiwedd y flwyddyn (dywedodd un myfyriwr y bu rhaid i’w grŵp blwyddyn rannu bil o £3,000 ar gyfer cost eu harddangosfa blwyddyn olaf). Credwn fod gan fyfyrwyr hawl i wybod ar ddechrau eu cyrsiau pa gostau ychwanegol y gallant eu hwynebu fel rhan o’u hastudiaethau, ac y dylai deunydd hyrwyddo adlewyrchu hyn.
Deilliannau Un o’r materion craidd rydym wedi’i ganfod yw bod gwahaniaeth sylweddol rhwng y costau sy’n wynebu myfyrwyr a’r disgwyliadau sydd gan y myfyrwyr hynny ar ddechrau eu hastudiaethau. Credwn, yn unol â’r Cylchlythyr gan CCAUC yn 2010 at Sefydliadau AU yng Nghymru parthed “y ddarpariaeth o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ar gost astudio”2 , ei bod yn ofynnol i’r Brifysgol wneud myfyrwyr yn ymwybodol o gostau mandadol (y rheiny sy’n “perthyn i astudio modiwlau craidd/gorfodol”). Hefyd costau angenrheidiol (sydd “ddim o ganlyniad uniongyrchol i ymgymryd â modiwlau craidd, na fydd yn wynebu pob myfyriwr, ac sy’n amrywio yn ôl amgylchiadau myfyrwyr, megis y pellter sy’n rhaid iddynt deithio i’r brifysgol ac unrhyw gostau parcio neu dalu am lety a ddaw i’w rhan) erbyn iddynt wneud cais am le yn y brifysgol. Mae CCAUC hefyd yn nodi’n eglur eu bod yn awyddus i brifysgolion wneud myfyrwyr yn ymwybodol o gostau dewisol cyn ymgeisio. Mae llawer o brifysgolion yn Lloegr a Chymru’n gwneud hyn yn eglur3 drwy gyhoeddi datganiad ar gostau ychwanegol sy’n ymddangos ar wefannau a deunydd hyrwyddo. Mae’r ASA hefyd yn ei gwneud yn eglur ym Mhennod B2 o’r Cod Ansawdd4 bod rhaid gwneud myfyrwyr yn gwbl ymwybodol o gostau ychwanegol sy’n perthyn i astudiaethau academaidd.
Argymhelliad 1 a. Dylai’r Brifysgol wneud newidiadau i’w deunydd hyrwyddo, gan wneud yn eglur unrhyw gostau ychwanegol cyffredinol fydd yn wynebu myfyrwyr fel rhan o’u hastudiaethau. b. Yn ogystal â hyn, dylai’r Brifysgol sicrhau bod deunydd hyrwyddo ar lefel rhaglenni’n tynnu sylw myfyrwyr at unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau academaidd. Dylai hyn gynnwys cyfeirio at yr angen am gyfarpar arbenigol, costau teithio, neu unrhyw gostau o’r rhestr gyffredinol sy’n debygol o fod yn uwch na’r hyn sy’n wynebu’r helyw o fyfyrwyr. c. Dylai’r Brifysgol hefyd asesu ‘costau ychwanegol ar gyrsiau’ fel rhan o’r broses o ddatblygu modiwlau; dylid cynnwys a thrafod hyn o fewn y gylchred ddatblygu ac adolygu rhaglenni astudiaeth. Yn ffodus i ni, pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, rhyddhawyd adroddiad cyfamserol gan ymchwilwyr yn yr Athrofa Addysg, oedd yn dangos ei bod yn debygol bod cysylltiad rhwng bwrsariaethau a chyrhaeddiad academaidd5. Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau cynnar yn unig, yn awgrymu y gall bwrsariaeth o £1000 wella rhagolygon myfyriwr o ennill gradd dda 3.7%. Ymddengys hefyd ei fod yn gwrthdroi astudiaeth gan OFFA yn 2014 oedd yn awgrymu nad yw bwrsariaethau’n gwneud fawr ddim i gynnal myfyrwyr o gefndir incwm isel; yn hytrach mae myfyrwyr o hanner isaf yr ystod incwm yn elwa cymaint â 6 gwaith mwy na’r cyfartaledd yn sgil bwrsariaethau. Ynghyd â hyn, mae ymchwil gan Brifysgol Southampton ac Ymddiriedolaeth GIG Solent6 yn dangos cyswllt rhwng gofidiau ariannol ymysg myfyrwyr a risg gynyddol o iselder, gorbryder a chamddefnydd alcohol. Wrth reswm, roedd hyn hefyd yn effeithio ar lefelau cyrhaeddiad academaidd a dargadwedd. Tra bod darpariaeth y Brifysgol ar gyfer bwrsariaethau’n cymharu’n dda â phrifysgolion eraill, credwn y gellid
gwella ymhellach ar hyn. Un o’r materion allweddol a ddaeth i’r amlwg oedd, er bod ystod eang o fwrsariaethau ar gael, roedd y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i’w derbyn yn aml yn fwy cyfyngedig na’r hyn a ddefnyddir mewn prifysgolion eraill. Er enghraifft, mae bwrsariaeth PCYDDS yn seiliedig ar brawf modd ariannol i’r rheiny sydd ag incwm teuluol o lai na £18,000. O gymharu, mae Prifysgol Spa Caerfaddon yn gosod y trothwy ar £25,000 a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste ar £40,000. Buasem hefyd yn argymell bod y Brifysgol yn gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo’n ehangach y bwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr, yn arbennig y rheiny sydd â dyddiad cau cyn dechrau’r tymor. Mae yma hefyd broblem o ran faint o arian sydd ar gael drwy rai bwrsariaethau, yn arbennig y Fwrsariaeth Addysgol. Gydag uchafswm o £100 ar gael, ni fyddai hyn yn ddigon i alluogi rhai myfyrwyr i dalu am adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer eu cyrsiau, yn arbennig, ond heb fod yn gyfyngedig i fyfyrwyr Celf a’r rheiny sydd ar gyrsiau Addysg Awyr Agored. Buasem yn croesawu mwy o gyllido wedi’i dargedu at fyfyrwyr yn y grwpiau hyn yn arbennig. Hoffem hefyd ddwyn sylw at fyfyrwyr ôl-raddedig. Er bod y ddarpariaeth ar gyfer israddedigion yn gryf ar y cyfan, mae’r cymorth sydd ar gael i ôl-raddedigion yn isel o’i gymharu. Hoffem hefyd ei gwneud yn eglur ein bod yn ymwybodol o’r cynnydd parhaus yn y cyllid ar ffurf bwrsariaeth sydd ar gael yn flynyddol, ac rydym yn croesawu hyn. Rydym yn arbennig o falch bod bron i 100% o’r arian sydd ar gael yn cael ei ddosrannu; serch hynny, mae’r ymchwil yn dangos bod angen gwneud mwy o waith o ran gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael. 2. http://www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/Pages/Additional-Costs.aspx, http://www.hefcw.ac.uk/documents/publications/circulars/circulars_2010/W10%20 07HE%20Provision%20of%20information%20for%20students%20on%20costs%20of%20 study.pdf 3. http://www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/Pages/Additional-Costs.aspx, http://www. glos.ac.uk/life/finance/costs/pages/fees-and-additional-costs.aspx, http://www.ncl.ac.uk/ undergraduate/finance/tuition-fees/additional-costs/, http://www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/tuition-fees/additionalcosts/ 4. http://www.qaa.ac.uk/publications/information-and-guidance/uk-quality-code-for-higher-education-chapter-b2-recruitment-selection-and-admission-to-higher-education#. WBnuzdKLSUk 5. http://repec.ioe.ac.uk/REPEc/pdf/qsswp1510.pdf 6. http://link.springer.com/article/10.1007%2Fs10597-016-0052-0
Argymhelliad 2
Argymhelliad 3
a. That the University investigates its current offering of bursaries and looks to increase and widen current offerings, especially by targeting students studying courses which carry particularly high associated costs.
a. Cynnal adolygiad llawn o’r costau cysylltiedig cyfredol sy’n perthyn i astudiaethau myfyrwyr, gan ddefnyddio categorïau CCAUC.
a. Dylai’r Brifysgol edrych yn fanwl ar y bwrsariaethau mae’n ei chynnig ar hyn o bryd, â’r nod o gynyddu ac ehangu’r hyn sydd ar gael, gan dargedu’n arbennig myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau sydd â chostau cysylltiedig uwch na’r cyffredin. b. Rydym am weld bwrsariaethau sy’n seiliedig ar brawf modd ariannol wedi’u bwriadu’n benodol ar gyfer: • Myfyrwyr ar gyrsiau Celf • Myfyrwyr sy’n astudio Addysg Awyr Agored • Myfyrwyr ar Leoliad Gyda chyhoeddi Adroddiad Diamond yn ddiweddar, mae’n debygol y bydd newidiadau sylweddol o ran y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr yn ganolog. Yn gyffredinol, rydym yn croesawu hyn, gan fod y newidiadau diweddar mewn cyllido AU a chynhaliaeth i fyfyrwyr wedi gosod cryn lawer o’r baich ariannol ar ysgwyddau myfyrwyr a sefydliadau fel ei gilydd. Bydd unrhyw beth sy’n llacio’r pwysedd ar y naill grŵp a’r llall yn gam i’r cyfeiriad cywir. Serch hynny, teimlwn yn gryf na ddylai unrhyw newidiadau mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr gan y llywodraeth arwain at ostyngiad yn y cymorth sydd gan brifysgolion i’w gynnig. Yn ogystal â’r egwyddor hwn, un o’r prif faterion a godwyd gan ein harolygon yw bod diffyg eglurdeb ar hyn o bryd ynglŷn â’r costau sy’n wynebu myfyrwyr fel rhan o’u hastudiaethau. Rydym felly’n awgrymu bod y Brifysgol yn defnyddio’r amser rhwng nawr ac o bosib gweithredu argymhellion Diamond yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r holl gostau ychwanegol a wynebir gan fyfyrwyr. Dylid eu categoreiddio fel y gwnâ CCAUC (mandadol, angenrheidiol a dewisol) fel bod gan bob rhanddeilydd well dealltwriaeth ynglŷn â ble gall y Brifysgol dargedu’n fwyaf effeithiol unrhyw gymorth pellach.
b. Datblygu cynllun gweithredu ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr er mwyn penderfynu beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod baich y costau hyn yn cael ei rannu yn y modd mwyaf cyfiawn.