Arweiniad tai a llety

Page 1

36

Eich Undeb Myfyrwyr

Arweiniad Tai a Llety

Canllawiau ar gyfer myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant

@TSDSU

www.tsdsu.co.uk


Cynnwys Chwilio am dÅ·

3

Cytundebau

4

Gweithio Allan eich Rhent

5

Cadw eich blaendal

6

Problemau

7

Symud

8

Sut Mae Arbed Ynni

10

Lleithder a Llwydni

10

Cysylltiadau Defnyddiol / Caerfyrddin

11

Cysylltiadau Defnyddiol / Llambed

12

Cysylltiadau Defnyddiol / Abertawe

13

Rhestr-wirio

14

Siarter Tai UMyDDS

16

2


Chwilio am Dŷ

1

Ble i ddechrau • Pwyllwch

• Trefnwch eich bod yn ymweld ag o leiaf tri fflat neu dŷ • Byddwch yn sicr ynglŷn â phwy rydych chi am fyw gyda nhw • Fyddech chi’n gallu byw’n gytûn? (Gwahanol ddulliau o fyw, arferion)

2

Lluniwch restr o’r hyn rydych chi eisiau • Ardaloedd rydych chi am fyw ynddynt

• Isafswm ac uchafswm rhent y gallwch chi ei fforddio • Maint a math o eiddo • Anghenion mynediad ac argaeledd parcio

3

Mae grym mewn gwybodaeth

• Holwch beth yw rhent ar gyfartaledd yn yr ardal • Trafodwch ffioedd gweinyddiaeth a blaendaliadau • Gwrandewch ar y cyngor a roddir i chi • Ble mae’r eiddo? (Ydy e’n agos i’r brifysgol / siopau / cysylltiadau teithio?)

4

Gofynnwch gwestiynau

• Ydych chi wedi holi eich Undeb Myfyrwyr ynglŷn â’u hargymhellion? • Ydych chi wedi holi ffrindiau / cyd-fyfyrwyr ynglŷn â’u profiadau?

5

Siarter Tai UMyDDS • Ydy’r landlord / asiant wedi arwyddo Siarter Tai UMyDDS?

3


Cytundebau . .

Peidiwch â theimlo dan bwysedd i arwyddo’r cytundeb yn syth! Os ydych chi wedi llwyddo cael hyd i’r tŷ perffaith, dylai hynny fod ar eich telerau chi, nid ar delerau’r landlord. Mae gennych chi bob hawl i ddarllen drwy’r cytundeb cyn ei arwyddo.

Mynnwch yr wybodaet h mewn ysgr ifen.

• Does dim rhaid i chi arwyddo ar y diwrnod. Dylai eich landlord roi 24 awr i chi fynd â’r cytundeb i ffwrdd gyda chi i’w ddarllen; dylai’r eiddo gael ei ddal i chi yn ystod y cyfnod hwn. • Oes unrhyw welliannau neu newidiadau i’r eiddo mae’r landlord , wedi cytuno iddyn nhw? Gwnewch yn sicr fod hyn mewn ysgrifen wedi’i ddyddio a’i arwyddo. fath • Gwiriwch fod gennych chi a’ch landlord gopiau sy’n union yr un

Math o gytundeb: Ydy e’n gytundeb unigol neu’n un ar y cyd? • Mae cytundebau unigol yn well, gan fod cytundebau ar y cyd yn eich gadael yn gyfrifol am rent neu ddifrod gan denantiaid eraill. Os ydych chi ar gytundeb ar y cyd, gwnewch yn sicr ei fod gyda phobl rydych chi’n gallu ymddiried ynddyn nhw. • A ofynnwyd i chi ddarparu gwarantwr, ac oes angen iddyn nhw arwyddo ffurflen? • Ydy’r landlord / cwmni wedi arwyddo Siarter Tai UMyDDS?

Ffioedd a Thaliadau

• Peidiwch fyth â gwneud unrhyw daliad (gan gynnwys blaendal) cyn arwyddo’r cytundeb. • Gwiriwch ble caiff eich blaendal ei gadw’n ddiogel. • Pryd a sut caiff eich rhent ei dalu. • Ydych chi wedi cyd-drafod gwahanol raddfa ar gyfer misoedd yr haf?

4


Gweithio Allan eich Rhent Ydych chi’n gofidio ynglŷn â sut byddwch chi’n cadw trefn ar eich arian?

Defnyddiwch ein system i weithio allan faint o rent allwch chi ei fforddio bob mis ar ôl i chi roi ystyriaeth i bopeth.

Gwariant Misol

Cyllid Blynyddol Myfyriwr Benthyciad Cynhaliaeth

£

Grant Cynhaliaeth

£

Cyllido Arall

£

Nwy a Thrydan

£

fesul mis x 12

£

fesul mis x 12

£

Dŵr

£

Teledu, Ffôn a Rhyngrwyd

Incwm Misol

£

£ fesul mis x 12

£

£ fesul mis x 12

£

fesul mis x 12

£

£

Cyfanswm Incwm

fesul mis x 12

£

fesul mis x 12

£

Bywyd Cymdeithasol

£

£

fesul mis x 12

£

fesul mis x 12

£

fesul mis x 12

£

Teithio

Costau Rhent Un-tro Ffioedd Asiantaeth

£

Blaendal

£

(Cyfanswm Incwm

£

Siopa Arall e.e.Dillad

Incwm Arall

£

fesul mis x 12

Bwyd

Rhieni

£

£

Cytundeb Ffôn Symudol

Cyflogaeth

£

fesul mis x 12

£ Gwariant Arall

£

Costau Rhent + Cyfanswm Gwariant

Cyfanswm Gwariant) 5

12

£

Costau Rhent £


Cadw eich blaendal Symud i mewn Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, talwch eich blaendal i’ch landlord neu asiant fel arfer. O fewn 14 diwrnod, mae gofyn i’r landlord neu asiant roi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut caiff eich blaendal ei warchod, gan gynnwys: • Manylion cysylltu’r cynllun gwarchod blaendal tenantiaeth • Manylion cysylltu’r landlord neu’r asiant • Sut i wneud cais am ryddhau’r blaendal • Gwybodaeth sy’n esbonio diben y blaendal • Beth i’w wneud os oes anghydfod ynglŷn â’r blaendal Os nad ydych chi’n Os nad ydych chi’n cael yr wybodaeth hon, Gofynnwch y cwestwn syml hwn i’ch landlord neu asiant:

‘Sut mae fy mlaendal yn cael ei warchod?’ Mae tri chynllun ar gyfer gwarchod blaendal:

The Tenancy Deposit Scheme

My Deposits

The Deposit Protection Service

www.tds.gb.c om • www.mydeposits.c o.uk • www.depositprotection.c om Gwnewch yn sicr eich bod yn gofyn i’ch landlord amdano! Mae’r llywodraeth am sicrhau bod eich blaendal tenantiaeth yn cael ei amddiffyn: Er mwyn i chi gael eich blaendal yn ôl yn gyfan, neu ran ohono, pan fydd gennych chi hawl i hynny, a bydd yn haws datrys unrhyw anghydfod rhyngoch chi â’ch landlord neu asiant.

6


Problemau Rhoi terfyn ar gytundeb cyfnod gosod

i fod yn syniad da rhoi gwybod i’r landlord pan fyddwch chi’n symud allan.

Mae rheolau arbennig yn perthyn i sut gallwch chi ddod â’ch tenantiaeth i ben os yw am gyfnod gosod (e.e. chwe mis neu flwyddyn), sydd heb ddod i ben eto. Gallai eich tenantiaeth fod am gyfnod penodol hyd yn oed os ydych chi’n talu’r rhent bob wythnos/mis (mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod os ydych chi mewn cytundeb cyfnod gosod).

Ydw i’n gallu rhoi rhybudd i fy landlord, ac os ydw i, faint o amser?

Beth sy’n digwydd pan fydd fy nghytundeb yn dod i ben?

Gwiriwch eich cytundeb i weld os yw’n cynnwys cymal fel hwn.

Os yw eich cytundeb am gyfnod penodol (e.e. chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, ond rhaid i chi sicrhau nad ydych chi’n aros ddiwrnod yn fwy, neu byddwch yn dod yn denant cyfnodol yn awtomatic, a bydd rhaid i chi roi rhybudd go iawn. Mae cyfathrebu da’n helpu i bethau fynd yn hwylus, felly er nad oes rhaid i chi wneud hynny, mae’n dal

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (gan gynnwys rhai tenantiaethau sicr byr â landlordiaid preifat) yn cynnwys cymal terfynu, sy’n caniatáu i chi ddod â’r cytundeb i ben cyn diwedd y cyfnod penodol.

Os nad yw eich cytundeb yn cynnwys cymal terfynu, yna dylai hefyd ddweud faint o rybudd sydd ei angen; os nad yw’n cynnwys cymal terfynu, yna ni allwch ddod â’r denantiaeth i ben yn gynnar oni fydd y landlord yn cytuno.

Beth os yw fy landlord yn cytuno fy mod i’n gallu gadael? Mae’n bosib dod allan o’r cytundeb ar unrhyw

7

amser os gallwch chi â’r landlord gytuno ar hynny. Gelwir hyn yn ‘ildio’. I fod yn ddilys, rhaid i’r naill ochr a’r llall gytuno, ac mae’n well os yw’r cytundeb yn cael ei wneud mewn ysgrifen, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddryswch yn nes ymlaen. Os oes gennych chi denantiaeth ar y cyd, rhaid i bob un o’r tenantiaid ar y cyd a’r landlord gytuno i’r ildio.

Ydw i’n gallu cael rhywun arall i symud i mewn? Gall hyn fod yn bosib os nad oes gennych chi unrhyw ddewis ond gadael yn gynnar, a’ch bod am osgoi talu rhent ar fwy nag un cartref. Serch hynny, rhaid i chi gael y landlord i gytuno i’r unigolyn hwnnw symud i mewn i’r eiddo. Mae’n bosib y bydd y landlord am gael geirda ar ei cyfer nhw. Dylai’r landlord roi cytundeb tenantiaeth newydd i’r unigolyn yma - fel arall byddwch chi’n dal i fod yn gyfreithiol gyfrifol am y denantiaeth.


Symud Rhestr eiddo

Gallwch hefyd ofyn i’r Gwasnaeth Tân ac Achub ymweld â’ch eiddo i gynnal Asesiad Risg Tân yn y Cartref.

Bydd eich landlord yn rhoi rhestr eiddo ysgrifenedig i chi, sef rhestr o’r gosodiadau, ffitiadau a’r dodrefn yn yr eiddo. Mae angen i chi wirio popeth! Sicrhewch eich bod chi’n cymryd nodiadau o unrhyw waith rydych chi’n meddwl sydd angen ei wneud.

www.fireservice.co.uk/safety

Treth Cyngor Gall myfyrwyr llawn amser cofrestredig wneud cais am eithriad rhag talu treth cyngor. Gellir gwneud hyn drwy fynd i’r Gofrestrfa i gael tystysgrif eithriad.

Os oes unrhyw anghysondeb, cytunwch nhw â’r landlord a sicrhewch ei fod yn llofnodi. Os na chawsoch chi restr eiddo Yswiriant Cynnwys ysgrifenedig, ysgrifennwch un a sicrhewch Sicrhewch eich bod chi’n cael yswiriant eich bod chi a’r landlord yn ei llofnodi. cynnwys! Bydd hwn yn sicrhau bod eich pethau gwerthfawr, gan gynnwys Biliau cyfrifiaduron, teledu ayyb. yn cael Ar y diwrnod y cewch chi allweddi’r eiddo, eu gwarchod. nodwch ffigurau’r mesuryddion nwy a thrydan. Mae’n werth cael ffeil i gadw’r holl Trwydded Deledu filiau ynghyd. Yna, os byddwch chi’n talu bil, gallwch sicrhau bod modd i’ch cydlety- Os ydych chi’n berchen ar deledu, yna wyr gofnodi faint a phryd gwnaethon nhw bydd angen i chi fod â thrwydded deledu. eich talu chi. Os oes gennych chi denantgiaeth ar y cyd, does ond angen bod ag un drwydded. Os yw’r denantiaeth yn un unigol, mae angen Diogelwch Nwy, trwydded ar wahan ar gyfer pob person.

Trydan a Thân

www.tvlicensing.co.uk

Dan y gyfraith, mae gofyn i landlordiaid sicrhau bod pob cyfarpar nwy yn cael ei wirio’n flynyddol gan beirianwyr sydd wedi cofrestru â Gas Safe. Mae hefyd angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod pob cyfarpar trydanol a ddarperir yn dangos marc CE (mae gwneuthurwyr yn honni ei fod yn ateb gofynion Cyfraith Safon Diogelwch Ewropeaidd)

Biniau ac Ailgylchu Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa ddyddiau mae eich sbwriwel a’ch ailgylchu’n cael ei gasglu. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn, holwch gymydog neu ewch ar-lein gan ddefnyddio eich cod post. www.gov.uk/recycling-collections

Dylai eich landlord ddarparu larwm dân ar gyfer pob llawr a chanfodydd carbon monocsid mewn unrhyw ystafell sy’n defnyddio tannwydd caled.

Cadwch du allan yr eiddo’n daclus ac yn lân gan osgoi plâu a drewdod a fydd yn eich gwneud yn amhoblogaidd â’r cymdogion!

8


Beth ddylech chi ei wneud os nad yw eich landlord neu asiant wedi gwarchod eich blaendal?

Symud Allan Darllennwch y mesuryddion - Trydan a Nwy. Rhowch wybod i’r darparwyr eich bod am gau’r cyfrifon a thalu’r bil terfynol. Gwnewch yn siŵr fod eich rhent i gyd wedi ei dalu. (gall hyn gynnwys amser nad ydych chi yno, ond mae’n ddyletswydd arnoch i gyflawni eich cytundeb)

Gallwch wneud cais i’ch llys sirol lleol; gall y llys wedyn orchymyn eich landlord neu asiant i naill ai ad-dalu eich blaendal i chi, neu ei osod mewn cynllun gwarchod blaendaliadau.

Gwnewch yn siŵr fod yr eiddo’n LÂN! Mae hyn bob amser yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl, felly dylech ganiatáu o leiaf dau ddiwrnod.

gov.uk/tenancy-deposit-protection

Gwarchod eich blaendal Mae’n ddyletswydd arnoch i ddychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd pan y gosodwyd y lle i chi, a chaniatáu ar gyfer traul teg.

Dylech gael eich blaendal yn ôl o fewn 10 diwrnod ar ôl diwedd y denantiaeth, os ydych chi a’ch landlord yn cytuno ar faint ddylid ei dalu’n ôl i chi. Mae sut mae hyn yn gweithio os oes anghytno’n dibynnu ar y math o gynllun mae eich landlord yn ei ddefnyddio (gwnewch yn sicr bod gan y landlord a’r cynllun eich manylion cywir, e.e. cyfeiriad ar gyfer anfon pethau ymlaen, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn).

Mae’n syniad da sicrhau pan fyddwch chi’n arwyddo eich cytundeb, eich bod yn: • Tynnu lluniau o’r ystafelloedd ac unrhyw ddifrod neu draul, cyn i chi symud i mewn.

Mae’n rhesymol i’ch landlord ddal arian yn ôl o’ch blaendal mewn achos lle bu difrod i’r eiddo neu’r dodrefn, neu eitemau ar goll o’r rhestr y cytunwyd arni ar ddechrau’r denantiaeth. Ni ddylai’r landlord gymryd arian allan o’r blaendal i dalu am draul teg (h.y. difrod sydd wedi digwydd yn raddol yn sgil defnydd cyffredin o ddydd i ddydd.

• Cadw rhestr fanwl o’r cynnwys (dodrefn a gosodiadau) • Gwirio dan ba amgylchiadau y gallai eich landlord neu asiant ddal eich blaendal yn ôl.

9


Sut Mae Arbed Ynni • Ewch am gawod nid bath! • Trowch y thermostat i lawr. Gall pob gradd is leihau’r costau ynni cymaint â 15% • Golchwch eich dillad ar 30˚ ac osgowch ddefnyddio’r peiriant sychu dillad. • Defnyddiwch y maint cywir ar yr hob a rhowch gaead ar y sosban wrth goginio

Lleithder a Llwydni Lleithder + Gwyntyllu gwael = Llwydni Mae lleithder yn broblem gyffredin yn y mwyafrif o eiddo hŷn a chaiff ei achosi gan amlaf gan ager a lleithder yn yr awyr. Mae gweithgareddau fel golchi, coginio a sychu dillad yn creu lleithder yn eich cartref. I osgoi ager rhag troi’n lleithder a llwydni: • Agorwch y ffenestri ac unrhyw awyrellau • Defnyddiwch ffaniau echdynnu

• Peidiwch â gorlenwi’r tegell defnyddiwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig

• Cadwch y tymheredd yn gyson

• Gwisgwch siwmper ychwanegol yn hytrach na throi’r gwres i fyny

• Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, awyrellwch ef y tu allan

• Osgowch roi bwyd poeth yn yr oergell • Cofiwch ddadmer y rhewgell yn rheolaidd

• Sychwch y ffenestri • Osgowch sychu dillad yn y tŷ

• Os yw’n bosib, defnyddiwch beiriant gwrth-leithder

• Defnyddiwch y gosodiad hanner llwyth / cynildeb ar eich peiriant golchi • Coginiwch gyda’ch gilydd! • Defnyddiwch fylbiau golau sy’n arbed ynni. • Diffoddwch gyfrifiaduron sydd ddim yn cael eu defnyddio • Diffoddwch y goleuadau a’r teledu pan fyddwch yn gadael yr ystafell • Chwiliwch am y cyflenwr ynni gorau

10


Cysylltiadau Defnyddiol

Caerfyrddin

Undeb y Myfyrwyr

Pwy all helpu?

Ffordd y Coleg, Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EP tsdsu.co.uk 01267 676 870

Swyddog Llety Jean Thomas

Canolfan Cyngor ar Bopeth

01267 676 819 jean.thomas@uwtsd.ac.uk

113 Heol Awst, Caerfyrddin, Dyfed, SA31 3AP citizensadvice.org.uk

Porthorion Llambed 07767 842738 (24 hour) porterscarm@uwtsd.ac.uk

0344 477 2020

Pencadlys yr Heddlu, Caerfyddin

Wardeniaid Neuaddau 07854 832 753

0845 330 2000 999 ar gyfer achosion brys

Shelter Cymru

Dŵr Cymru

Shelter Cymru yw’r elusen tai a digartrefedd ar gyfer Cymru. Maen nhw’n credu bod cartrefi gwael yn difetha bywydau. Bydd Shelter yn eich helpu i ganfod lle i fyw a rhoi cymorth i chi os oes unrhyw anawsterau’n codi â’ch llety.

dwrcymru.com Cyfrifon: 0800 052 0145 Achosion Brys: 0800 052 0130

Cyflenwyr Cyfleustodau British Gas: britishgas.co.uk Edf: edfenergy.com E-On: eon-uk.com Npower: npower.com SSE: sse.co.uk

0345 075 5005

sheltercymru.org.uk

11


Cysylltiadau Defnyddiol

Llambed Undeb y Myfyrwyr

Pwy all helpu?

Heol y Coleg, Llambed Ceredigion, SA48 7ED tsdsu.co.uk 01570 422 619

Swyddog Llety Ann Harris

Canolfan Cyngor ar Bopeth

07854 721 761 a.harris@uwtsd.ac.uk

Lleoliad gwasanaeth allgymorth CAB yn Llambed: Meddygfa Llambed, Taliesin, Stryd y Bont. citizensadvice.org.uk 01970 612817

Porthorion Llambed 07976 828 354 (24 Hour)

Wardeniaid Neuaddau 07975 640 200 (7:00pm – 3:00am)

Heddlu Llambed 01267 222 020 999 ar gyfer achosion brys

Shelter Cymru Shelter Cymru yw’r elusen tai a digartrefedd ar gyfer Cymru. Maen nhw’n credu bod cartrefi gwael yn difetha bywydau. Bydd Shelter yn eich helpu i ganfod lle i fyw a rhoi cymorth i chi os oes unrhyw anawsterau’n codi â’ch llety.

Dŵr Cymru dwrcymru.com Cyfrifon: 0800 052 0145 Achosion Brys: 0800 052 0130

Cyflenwyr Cyfleustodau

0345 075 5005

British Gas: britishgas.co.uk Edf: edfenergy.com E-On: eon-uk.com Npower: npower.com SSE: sse.co.uk

sheltercymru.org.uk

12


Cysylltiadau Defnyddiol

Abertawe Undeb y Myfyrwyr

Pwy all helpu?

Llys Glas, Heol Alexandra, Abertawe, SA1 5AJ tsdsu.co.uk

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Swyddog Llety Jean Thomas

Second Floor, City Gates, 50A Wind St, Abertawe SA1 1EE

07788 215 825 jean.thomas@uwtsd.ac.uk

citizensadvice.org.uk 0844 477 2020

Porthorion Abertawe

Cyngor Dinas Abertawe

07788 214 441

Cymorth Llety ar Rent Y Ganolfan Ddinesig, SA1 3SN. swansea.gov.uk 01792 774320 tsu@swansea.gov.uk

Wardeniaid Neuaddau 07540 919 915 07970 282 950

Heddlu Abertawe 01792 456 999 999 ar gyfer achosion brys

Shelter Cymru Shelter Cymru yw’r elusen tai a digartrefedd ar gyfer Cymru. Maen nhw’n credu bod cartrefi gwael yn difetha bywydau. Bydd Shelter yn eich helpu i ganfod lle i fyw a rhoi cymorth i chi os oes unrhyw anawsterau’n codi â’ch llety.

Dŵr Cymru dwrcymru.com Cyfrifon: 0800 052 0145 Achosion Brys: 0800 052 0130

Cyflenwyr Cyfleustodau British Gas: britishgas.co.uk Edf: edfenergy.com E-On: eon-uk.com Npower: npower.com SSE: sse.co.uk

0345 075 5005

sheltercymru.org.uk

13


Y tu mewn i’r eiddo Oes lleithder yn y tŷ?

Oes unrhyw leithder yn y tŷ? All y landlord ddangos tystysgrif diogelwch nwy ar gyfer yn yr eiddo?

yr offer

Boeler/cwcer/tân ayyb? Oes gan y landlord gofnod o archwiliad diogelwch tân? Ydy’r dodrefn yn ddiogel rhag tân? Ydy’r drysau’n ddrysau tân? Oes diffoddwyr tân ar bob llawr? Oes larymau tân neu larymau mwg addas? Oes blanced tân yn y gegin? Ydy’r eiddo’n ddiogel? Oes drysau allanol cadarn? Oes clo gan bob ystafell? Oes cloeon ar ffenestri’r llawr gwaelod?

Rheoli’r eiddo

Ydych chi’n hapus â’r drefn atgyweirio? Ydy hi’n hawdd cysylltu â’r landlord os bydd argyfwng? wys? Pryd Ydych chi’n glir ynglŷn â’r rhent? Beth mae’n ei gynn mae angen ei dalu? lu BlaeYdy eich blaendal dan ddiogelwch y Gwasanaeth Dioge ndaliadau? o leiaf 48 Ydych chi wedi cael cytundeb i’w wirio? (Bydd angen awr i’w wirio) naeth Os oes gan yr eiddo fwy na 3 ystafell wely, tŷ amlfeddian yw e – ydy hyn wedi cael ei gofrestru?

Gall wch wirio drwy gysylltu âa’r Cyngor 14 23


Rhestr W irio.. . . . . Lleo liad yr Eiddo

Ydy tu allan yr eiddo mewn cyflwr da?

Ydych chi’n gwybod pwy sy’n cynnal a chadw’r ardd? Oes mynediad diogel i’r eiddo? Gyda’r nos, oes digon o olau ar y stryd o gwmpas yr

eiddo? Ydych chi’n gwybod lle mae’r siopau agosaf atoch chi? Ydy’r eiddo mewn lleoliad da ar gyfer y brifysgol?

Y tu mewn i’r eiddo

Ydy cyfleusterau’r gegin yn addas i chi i gyd?

Ydy’r cyfleusterau golchi a’r tai bach yn addas? Oes cawod? Ydych chi’n hapus â’r dodrefn a ddarperir? Pa ddodrefn mae’r landlord yn eu cyflenwi? Oes digon o socedi trydan yno? Oes digon o olau, gwres ac awyru? Ydy’r ardaloedd a rennir yn addas at eich anghenion Oes lolfa neu rywle i bawb fwyta/eistedd? Oes cysylltiad â theleffon? Ydych chi’n hapus â’r gwaith atgyweirio/addurno ar

y cyfan? Os oes angen mwy o atgyweirio, a fydd y landlord yn gwarantu y caiff hyn ei wneud cyn i chi symud i mewn? Ydy’r tŷ’n lân ar y cyfan? Oes sugnydd llwch sy’n gweithio yno? A fydd modd gwresogi’r tŷ’n hawdd ac yn ddiwastraff? 22 15


21

Siarter Tai UMyDDS Bydd Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn gwneud y canlynol:

Mewn cydweithrediad â PCyDDS, cadw rhestr o landlordiaid ac asiantaethau ‘cymeradwy’ sydd wedi llofnodi’r siarter. Rhoi cyfle (am ddim neu am bris) i bartneriaid cymeradwy farchnata eu portffolios eiddo i’r myfyrwyr ar y campws, o fewn cyrraedd cyfleus i’r myfyrwyr hynny wedi’i drefnu, ei hyrwyddo a’i weithredu gan UMyDDS. Gweithio ar y cyd â PCyDDS i ddatblygu system hysbysebu hygyrch ar gyfer landlordiaid a / neu asiantau cydnabyddedig. Peidio â hyrwyddo, hysbysebu na gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw landlord neu asiantaeth sydd ddim yn arwyddo Siarter Tai UMyDDS (ac o hynny ymlaen yn cytuno i gydymffurfio â’r Siarter honno)

fflat sy’n eiddo i unrhyw bartner cydnabyddedig. Cynnig lefel o gefnogaeth a chyfarwyddyd, pan o hynny’n briodol, i fyfyrwyr sy’n denantiaid a landlordiaid / asiantaethau.

Er mwyn cydymffurfio â’r Siarter, bydd Landlordiaid ac Asiantaethau yn: Darparu tystiolaeth o’u Trwydded Tai Amlfeddiannaeth (fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Tai, 2004) Darparu tystiolaeth o’r dogfennau a’r trefniadau yswiriant perthnasol a phriodol. Darparu tystiolaeth i’r tenantiaid ac UMyDDS eu bod yn defnyddio Cynllun Gwarchod Blaendal annibynnol. Cytuno i gydymffurfio â chanllawiau Safon Ansawdd Tai Cymru (2008) Cytuno ar amserlen ar gyfer ad-dalu blaendal i bob tenant sy’n fyfyriwr.

Darparu rhestr o ddisgwyliadau y cytunwyd arnynt ar gyfer myfyrwyr sy’n Darparu Cytundeb Byrddaliadol Sicr symud i mewn i eiddo â’r partneriaid hynny mewn ysgrifen i bob tenant cyn iddynt sydd wedi arwyddo’r Siarter ac sy’n symud i mewn. cydymffurfio â hi. Darparu rhestr gyflawn o eitemau y Sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio yn cytunwyd arnynt nad yw’r tenantiaid yn PCyDDS yn gwybod cymaint â phosib gyfrifol am eu cynnal, eu hatgyweirio, na ynghylch yr hyn sydd ynghlwm mewn phrynu rhai yn eu lle os cânt eu difrodi. tenantiaeth cyn symud i mewn i dŷ neu Am fwy o wybodaeth ewch i: tsdsu.co.uk/housing


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.