Mae Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn fudiad democrataidd, dan arweiniad myfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr.
Felly, mae etholiad Undeb y Myfyrwyr yn rhoi cyfle i bob myfyriwr ddweud ei ddweud yn y ffordd y mae’n cael ei redeg a’i gyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n cynrychioli myfyrwyr ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw ac rydyn ni’n ymgyrchu dros y newidiadau y mae ein haelodau wedi gofyn amdanyn nhw, yn ogystal â darparu gwasanaethau i wella eu hamser yn y Brifysgol. Er mwyn sicrhau ein bod yn berthnasol ac yn effeithiol yn ein gwaith, rydym bob amser angen myfyrwyr i ymwneud â’u Hundeb Myfyrwyr, trwy bleidleisio, trafod polisi, dweud wrthym beth sydd angen i ni ei wneud yn well, a thrwy sefyll mewn etholiadau.
Bydd y pecyn gwybodaeth hwn yn cynnwys yr holl ddyddiadau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, peth gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl o’r etholiadau a rhywfaint o wybodaeth am y rolau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn ag Etholiadau’r Gwanwyn, e-bostiwch: elections@uwtsd.ac.uk