Cynllun Strategol
2018 - 2021 1
2
Rydym yn cynrychioli holl fyfyrwyr PCYDDS. Rydym am i chi deimlo mai ni yw eich UM chi, sut bynnag a ble bynnag rydych chi’n astudio. Cefndir UMYDDS yw tri undeb myfyrwyr llai yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe yn dod at ei gilydd i gynrychioli pob myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ein myfyrwyr yn astudio ar draws de Cymru, yn Llundain ac yn Birmingham, a ledled y DU ac mae rhai’n astudio drwy bartneriaid ledled y byd. Ein nod yw bod Undeb Myfyrwyr ar gyfer pob un o’n haelodau, ac mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r hyn y bwriadwn ei wneud ar eich rhan chi rhwng nawr a Gorffennaf 2021.
3
Rob, Josh, Charlie & Becky Tîm Sabothol UMYDDS, 2018/19
4
Adlewyrchu Ers ein sefydlu yn 2014, rydym wedi canolbwyntio ar gydweithio i wneud y gorau o’n campysau a’n hadnoddau. Rydym wedi eich holi chi am eich profiad o astudio, ac oherwydd eich adborth rydym wedi llwyddo i wella pethau sy’n effeithio arnoch chi. Mae eich adborth wedi arwain ein system gynrychiolwyr myfyrwyr ac wedi cyfrannu at ein Hadroddiadau Ansawdd Academaidd. O ganlyniad i hyn, rydym wedi dadlau’n llwyddiannus dros gadw parcio rhad ac am ddim i fyfyrwyr ar holl safleoedd y Brifysgol, wedi gwella’r bwrsariaethau sydd ar gael i chi, ac wedi helpu i wella’r cyfleusterau golchi yn y neuaddau. Mae ein swyddogion a’n staff hefyd wedi bod wrth law i helpu’r rheiny ohonoch a oedd ag angen arweiniad, cyngor a chymorth academaidd. Rydym hefyd wedi sefydlogi ein sefyllfa ariannol, wedi gwella ein strwythurau a’n dulliau o lunio penderfyniadau, ac wedi agor ein democratiaeth i bawb ohonoch drwy fynd â’r broses ar-lein. Yn Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin, rydym wedi’ch helpu chi i greu a rhedeg eich clybiau a’ch cymdeithasau eich hun ac wedi lansio nifer o brosiectau gwirfoddoli. Rydym hefyd wedi treialu digwyddiadau yn arddull Farsiti (‘Dwyrain v Gorllewin’ a’r ‘Cwpan Her’), wedi achub y bar yn Llambed rhag cau ac wedi dod o hyd i bartner newydd i weithredu’r lleoliad yng Nghaerfyrddin (a’i adnewyddu). Gyda ni, mae eich swyddogion sabothol a’n swyddogion etholedig rhan amser wedi bod yn brysur. Maent wedi cynnal digwyddiadau ymgyrchu fel ‘Hawlio’r Nos yn Ôl’ a digwyddiadau trafod fel ‘Speak Out’. Maent wedi brwydro dros achosion sy’n bwysig i chi, wedi dangos y ffordd o ran iechyd a llesiant meddwl myfyrwyr, ac wedi ymgyrchu ar faterion sy’n ymwneud â chyfranogiad a chynhwysiant. Maent wedi trefnu digwyddiadau, creu cyfleoedd a chodi arian ar gyfer elusennau. Mae ein swyddogion wedi mynychu cynadleddau cenedlaethol, wedi ethol arweinwyr cenedlaethol ac wedi gosod polisi cenedlaethol. Wrth wneud hyn, mae ein pobl a’n prosiectau wedi ennill gwobrau cenedlaethol am gynaladwyedd, addysg a chynrychiolaeth, amrywioldeb, gweithio mewn tîm ac ymroddiad. Mae eich UM wedi bod yn brysur ond gyda’n gilydd, gallwn ni wneud mwy. Mae angen i ni egluro mai ein prif bwrpas yw bodoli i gefnogi a chynrychioli pob un o’n myfyrwyr trwy eu hastudiaeth academaidd; mae angen i ni wneud mwy ar ran y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd, yn Birmingham ac yn Llundain; mae angen i ni gyrraedd dysgwyr o bell, myfyrwyr rhan amser, a myfyrwyr sy’n byw y tu hwnt i’n campysau. Mae angen i ni gyfathrebu’n fwy effeithiol; mae angen i ni helpu ein gweithgareddau i fyfyrwyr i dyfu a datblygu a’ch helpu chi i ddatblygu sgiliau a phrofiadau a fydd yn cyfoethogi’ch cyfnod yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi. Yn anad dim, mae angen i ni fod yn llais cryf, effeithiol a gweithredol dros eich hawliau, eich syniadau a’r materion sy’n bwysig i chi. Ni yw eich undeb myfyrwyr ac rydym yn edrych ymlaen at fynd ati i wneud pethau mawr gyda chi hyd at Orffennaf 2021. Gadewch i ni wneud eich profiad chi fel myfyrwyr mor dda â phosib. Rob, Josh, Charlie a Becky
5
Datganiad o Fwriad Ni yw eich Undeb Myfyrwyr ac rydym gerllaw i’ch galluogi chi i fanteisio i’r eithaf ar eich addysg a’ch cyfnod yn y Brifysgol. Rydym gerllaw gydol eich profiad yn y Brifysgol, gan ei wneud yn llawn hwyl a sbri a chynnig cymorth pan fydd pethau’n anodd. Byddwn yn siarad â chi, yn sefyll yn gadarn gyda chi, ac yn rhoi grym i chi. Byddwch chi’n ein herio ni i ddal ati i esblygu a gwella a byddwn ni’n eich herio chi i gyfranogi, dweud eich dweud a chreu eich profiad eich hunain.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wella bywydau myfyrwyr yn PCYDDS. 6
Datganiad o Weledigaeth Rydym am fod yr Undeb Myfyrwyr rydych chi’n ei haeddu. Rydym yn gwybod bod bywyd fel myfyriwr yn gallu newid eich bywyd a’i fod yn waith caled hefyd. Rydym am i chi wybod ein bod yma gyda chi bob cam o’r ffordd.
Rhwng 2018 a 2021 byddwn ni: 1
Yn cryfhau eich dylanwad dros benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi
2
Yn sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a bod cymorth ar gael pan fydd ei angen arnoch
3
Yn buddsoddi mewn gweithgareddau a chyfleoedd i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau
4
Yn ymgyrchu dros gymdeithas decach a mwy cynhwysol
5
Yn ei gwneud yn hawdd i chi gyfarwyddo ein gwaith a’n hadnoddau
7
Mae ein Gwerthoedd yn sail i’r holl waith a wnawn. Rydyn ni’n credu’r canlynol:
8
1
Dylai addysg gael ei datblygu gan fyfyrwyr.
2
Mae mwy i brofiad yn y Brifysgol nag ennill gradd.
3
Dylai gweithgareddau a gwasanaethau’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr fod yn hygyrch i bawb.
4
Mae angen herio anghydraddoldeb.
5
Mae arweinyddiaeth myfyrwyr yn bwysig:
Ein Hymddygiad Wrth gyflawni ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd byddwn ni:
1
Yn gweithredu’n gynaliadwy, gan ymrwymo i leihau ein heffaith ar adnoddau naturiol a’ch ysbrydoli a’ch annog chi i wneud yr un peth.
2
Yn gweithio’n ddwyieithog, gan ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi.
3
Yn caffael yn gyfrifol, gan reoli ein pobl a’n harian yn effeithiol; yn cyflawni ein hamcanion sefydliadol, yn cwrdd â’n gofynion statudol o ran adrodd yn ôl, ac yn sicrhau parhad Undeb y Myfyrwyr.
4
Yn gwneud penderfyniadau tryloyw, gan ei gwneud hi’n hawdd i chi ddeall sut i gymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau, sut mae modd i chi gyfrannu at benderfyniadau a’u cwestiynu, yn ogystal â dal i gyfrif y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau.
5
Yn cyfathrebu’n eang, gan estyn allan at bob un ohonoch a gwneud i chi deimlo’n rhan o Undeb y Myfyrwyr.
6
Yn meddwl yn greadigol, gan fanteisio ar gyfleoedd, yn rhoi cynnig ar bethau newydd a chreu diwylliant bywiog a difyr sy’n llawn hwyl a sbri.
9
1.
Adnabod ac estyn allan i’n haelodau 10
1. Adnabod ac estyn allan i’n haelodau Rydym yn gwybod nad ydych i gyd yn teimlo’n rhan o’ch Undeb Myfyrwyr, ac rydym yn gwybod bod ein strwythur a’n daearyddiaeth yn gallu ei gwneud yn anodd i ni gyfathrebu neu gyflawni’r rôl draddodiadol rydych chi’n ei disgwyl gan undeb myfyrwyr. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio’n galed i wneud y canlynol:
a
Yn canfod, yn mynegi ac yn ystyried gwahanol anghenion pob un ohonoch chi, ein haelodau
b
Yn datblygu dulliau priodol ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â’n gwahanol grwpiau o fyfyrwyr
c
Yn egluro ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwaith craidd, fel eich bod chi’n ymwybodol o’n hamcanion a pham rydym yn bodoli
d
Yn datblygu rhwydweithiau myfyrwyr ac yn eu helpu i ymgyrchu ar faterion sy’n berthnasol i chi a materion sy’n eich ysbrydoli
e
Yn rhoi cyfleoedd rheolaidd i chi osod ein gwaith, ei lywio a chraffu arno
11
2.
Gwella Ein Cyfleoedd 12
2. Gwella Ein Cyfleoedd Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i greu’r profiad gorau posibl i chi fel myfyrwyr. Hoffem weld mwy a mwy o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr, ond rydym yn gwybod bod llawer o bethau yn eich rhwystro, fel amser, cyllid, hygyrchedd, cyfrifoldebau… Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio’n galed i drechu rhai o’r rhwystrau hynny. I wneud hyn byddwn ni:
a
Yn buddsoddi mewn clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli, gan greu strwythurau priodol ar gyfer cyllido a datblygu hirdymor.
b
Yn darparu cymorth penodol ar gyfer gweithgareddau newydd dan arweiniad myfyrwyr, gan greu cymorth wedi’i deilwra yn ystod eu blwyddyn gyntaf
c
Yn ceisio gweithio gydag ysgolion academaidd i ehangu ein portffolio o weithgareddau cydgyrsiol
d
Yn ehangu ein gweithgareddau o’n campysau traddodiadol yn ne Cymru i Gaerdydd, Llundain a Birmingham
e
Yn buddsoddi yn ein hyfforddiant a’n datblygiad i sicrhau bod eich gweithgareddau, eich digwyddiadau a’ch offer yn ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda
13
3.
Cryfhau eich Llais 14
3. Cryfhau eich Llais Rydym yn falch o’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes i wella cynllun y cynrychiolwyr cyfadran a chwrs ac yn ansawdd cyffredinol ein cynrychiolaeth academaidd. Serch hynny, rydym yn gwybod nad yw pob myfyriwr yn ymwybodol pwy yw eu cynrychiolwyr myfyrwyr, a chredwn y dylech chi. Rydym hefyd am sicrhau eich bod chi i gyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein gwaith, i rannu eich syniadau a helpu i ddylanwadu ar ein deilliannau a’n canlyniadau. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn ni…
a
Yn sicrhau bod pawb yn gwybod pwy yw eu cynrychiolwyr cwrs a chyfadran a pha effaith sydd ganddynt
b
Yn ehangu ein system llunio penderfyniadau ar-lein, er mwyn caniatáu i bawb ohonoch awgrymu syniadau a chymryd rhan yn ein hetholiadau a’n democratiaeth
c
Yn creu gweithgareddau llais y myfyriwr ac ymgyrchoedd ymarferol ar gyfer Caerdydd, Birmingham a Llundain
d
Yn darparu cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr PCYDDS ddylanwadu ar y rheiny sy’n llunio penderfyniadau yn y Brifysgol, mewn llywodraeth leol, yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Senedd y DU ar faterion sy’n effeithio ar eich bywydau.
e
Yn cefnogi, yn annog ac yn galluogi ein swyddogion rhyddhad rhan amser i herio anghydraddoldeb ac annhegwch
15
4.
Gwneud y Gorau o’n Hadnoddau 16
4. Gwneud y Gorau o’n Hadnoddau Nid yw ein hadnoddau ar hyn o bryd yn cydweddu â’n huchelgais, ond ni ddylai hynny gael ei ddefnyddio fel esgus. Rydym yn addo sicrhau ein bod yn gwerthuso’n hadnoddau’n gyson er mwyn ein galluogi i’w cyfeirio lle mae eu hangen fwyaf. Byddwn yn sicrhau eich bod yn fodlon â ffordd y cânt eu defnyddio, a’ch bod yn hyderus bod yr Undeb yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n unol â’n gwerthoedd ac er eich budd chi. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn ni…
a
Yn buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad ar ran ein swyddogion a’n staff llawn amser a rhan amser er mwyn eu galluogi i wireddu’r cynllun hwn
b
Yn gweithio’n gynaliadwy, i wneud y gorau o’n hadnoddau a sicrhau bod ein gweithgareddau a’n prosiectau’n gwella ac yn tyfu
c
Yn gwella ein llywodraethiant, gan agor ein dulliau o lunio penderfyniadau i bob un ohonoch a rhoi mwy o gyfle i graffu a dylanwadu ar y penderfyniadau hynny.
d
Yn buddsoddi yn ein cynrychiolwyr cwrs a chyfadran, gan eu helpu i godi eu proffil a gwella’u heffaith
e
Yn tyfu ein gweithgareddau masnachol er mwyn darparu gwasanaethau perthnasol, o ansawdd uchel ac i greu cyllid i’w ailfuddsoddi ym mhrofiad y myfyrwyr.
17
Ni yw UMYDDS, eich UM chi, a dyma sut byddwn yn gweithio ar eich rhan chi dros y tair blynedd nesaf. Os ydych yn fyfyriwr cofrestredig yn PCYDDS, rydych eisoes yn aelod o’ch UM; gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cysylltu â chi! Os ydych am ymuno â’r sgwrs ynglŷn â’r cynllun hwn, cysylltwch â ni, neu cyfranogwch yn unrhyw un o’n gweithgareddau; gallwch wneud hyn drwy ein gwefan neu ein cyfryngau cymdeithasol. Mae ein holl fanylion i’w gweld ar dudalen gefn y llyfryn hwn.
18
19
Gwefan www.tsdsu.co.uk E-bost yoursu@uwtsd.ac.uk Facebook www.facebook.com/tsdsu Twitter @TSDSU Instagram @TSDSU
20