Y SIARTR
MYFYRWYR
Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau
Lluniwyd y Siarter Myfyrwyr hon mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Esbonia’n glir ddisgwyliadau’r Brifysgol a’i myfyrwyr, y naill gan y llall, gan egluro sut y byddant yn cydweithio i ddarparu amgylchedd diogel, iach a chynhwysol, gan gydnabod bod darparu profiad ardderchog i bob myfyriwr yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Adolygir Siarter y Myfyrwyr yn flynyddol gan fyfyrwyr, swyddogion Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol ac fe’i cymeradwyir gan Gyngor y Brifysgol.
Yr Is-Ganghellor
Dyddiad yr adolygwyd: Cymeradwywyd gan Gyngor y Brifysgol:
Llywydd Grŵp Undeb y Myfyrwyr (2016/17)
Y Siartr Myfyrwyr 2016
Neidio i..
> Prifysgol
> Myfyrwyr
> Undeb y Myfyrwyr
Bydd y Brifysgol.. Ymwneud Myfyrwyr a Chynrychiolaeth
Dysgu ac Addysgu
Cyfathrebu a Gwybodaeth
Yn cydnabod mai Undeb y Myfyrwyr yw llais y myfyrwyr.
Yn cynnig cwricwlwm wedi’i ddiffinio’n dda, sy’n darparu rhinweddau graddedig penodol ym meysydd cyflogadwyedd, mentergarwch, addysg gynaliadwy a dinasyddiaeth fydeang.
Yn darparu gwybodaeth hawdd ei chael a’i deall trwy wefan y Brifysgol ar bob un o reoliadau a pholisïau’r Brifysgol, y cymorth sydd ar gael a’r cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.
Yn cydnabod bod myfyrwyr yn bartneriaid yn yr hyn a ddysgant a thrin pob myfyriwr gydag ystyriaeth a pharch.
Yn darparu safonau addysgu uchel, wedi’u gwella gan gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu gydol oes.
Yn sicrhau y caiff myfyrwyr wybod am unrhyw newid neu wybodaeth am eu cyrsiau cyn gynted ag y bo modd gan ddefnyddio’r sianelau cyfathrebu perthnasol.
Yn agored a thryloyw am benderfyniadau ar bob lefel lle bo’n briodol, gan barchu cyfrinachedd unigolion.
Yn sicrhau y cynorthwyir y myfyrwyr i fanteisio’n llawn ar yr hyn a ddysgant a’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Yn darparu canllawiau cryf i fyfyrwyr ynghylch ble y gallant gael gwybodaeth am bob agwedd ar y Brifysgol.
Yn gweithio gyda myfyrwyr i ymateb i’w hadborth ar eu profiad a gwella profiad myfyrwyr.
Yn darparu amgylcheddau a chyfleusterau priodol ar gyfer dysgu ac addysgu.
Yn darparu manylion clir costau astudio i bob myfyriwr cyn iddo wneud ei gwrs.
Yn cefnogi cynrychiolaeth effeithiol gan fyfyrwyr, gan sicrhau y clywir llais myfyrwyr ar bob lefel yn y broses o wneud penderfyniadau.
Yn darparu adborth defnyddiol o ansawdd uchel ar waith ysgrifenedig. Yn cynnig cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’n ddwyieithog.
Iaith Gymraeg a Dwyieithrwydd
Darparu Cyfleoedd
Profiad Cynaliadwy, Cyfartal
Yn darparu cyfleoedd wedi eu hachredu i ddysgu Cymraeg.
Yn darparu’r cymorth a’r adnoddau priodol i Undeb y Myfyrwyr gan sicrhau y darperir ystod o weithgareddau a fydd yn gwella profiad myfyrwyr.
Hyrwyddo a sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd yn rhan annatod o bob un o feysydd y Brifysgol.
Trwy ei Chynllun Iaith Gymraeg , yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau lleol sy’n wynebu gwahanol gampysau o ran statws yr iaith Gymraeg. Yn cynnig i fyfyrwyr y myfyrwyr yr hawl i gyfathrebu â’r Brifysgol a chael gwasanaethau ganddi yn Gymraeg neu’n Saesneg. Yn cydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i astudio’n ehangach i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a datblygu adnoddau i gefnogi eu hastudiaethau.
Yn darparu gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd, a chynorthwyo gyda chynllunio datblygiad proffesiynol. Yn darparu ystod o gyfleoedd i wella sgiliau cyflogadwyedd a chynaliadwyedd gan gynnwys menter Dylunio Bywyd, interniaethau INSPIRE, astudio dramor, blasu gwaith, lleoliad gwaith a gweithgareddau eraill. Yn darparu a hyrwyddo gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer astudio pellach ac ymchwil. Darparu gwasanaethau cymorth effeithiol i fyfyrwyr.
Trwy INSPIRE, yn rhoi cynaliadwyedd ynghanol gweledigaeth y Brifysgol, gydag ymrwymiadau cyhoeddedig clir yn unol â Deddf newydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth y myfyrwyr, gan ddarparu profiad ardderchog sy’n helpu pob myfyriwr i gymryd rhan yn lawn ym mywyd y brifysgol a chymryd camau i gefnogi symud rhwystrau rhag cymryd rhan.
Y Siartr Myfyrwyr 2016
Neidio i..
> Prifysgol
> Myfyrwyr > Undeb y Myfyrwyr
Bydd myfyrwyr.. Ymrwymiad i Astudio
Yn rhan o Gymuned y Brifysgol
Gweinyddu a Chymorth
Yn gwneud cyfraniad unigol cadarnhaol i gymuned ddysgu fywiog sy’n ennyn diddordeb, a chymryd rhan yn adeiladol mewn gwaith grŵp.
Yn cymryd rhan mewn adborth myfyrwyr a phrosesau cynrychiadol.
Yn cofrestru bob blwyddyn ac yn gwneud trefniadau ar gyfer talu ffioedd sy’n gysylltiedig â gwaith academaidd ac sy’n ddyledus i’r Brifysgol yn brydlon neu fel y cytunwyd arno â’r Brifysgol.
Yn ymrwymo’n llawn i astudio academaidd mewn modd diwyd, gonest a phroffesiynol gan gynnwys paratoi’n briodol ar gyfer dysgu academaidd a amserlennwyd fel yr argymhella’r tiwtoriaid. Yn ceisio pob elfen asesu o bob un o’u modylau. Yn ystyried adborth gan diwtoriaid a’i ddefnyddio i wella gwaith academaidd.
Yn ymgyfarwyddo â Rheoliadau’r Brifysgol ac yn eu dilyn. Yn cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Brifysgol trwy drin pob aelod o gymuned y brifysgol â pharch yn bersonol ac ar gyfryngau eraill megis y cyfryngau cymdeithasol. Yn gweithredu’n llysgenhadon cyfrifol i’r Brifysgol trwy ymddwyn yn dda ac ymwneud â’r gymuned leol a’r amgylchedd. Yn defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r Brifysgol gyda pharch ac ystyriaeth. Yn parchu ac yn dilyn cyfansoddiad a pholisïau Undeb y Myfyrwyr.
Darparu gwybodaeth bersonol a manylion cyswllt cywir a chyfredol. Yn defnyddio eu cyfrif e-bost myfyriwr yn y Brifysgol a Moodle o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gydnabod mai’r rhain yw’r llwyfannau a ddefnyddir i gyfleu gwybodaeth frys a phwysig.
Y Siartr Myfyrwyr 2016
Neidio i..
> Prifysgol
> Myfyrwyr > Undeb y Myfyrwyr
Bydd Undeb y Myfyrwyr.. Cynrychiolaeth Myfyrwyr Yn gweithredu oddi mewn i ofynion ei ddogfennau llywodraethu. Yn cynrychioli, grymuso a chynorthwyo’r holl fyfyrwyr Addysg Uwch yng ngrŵp y Drindod Dewi Sant er mwyn sicrhau eu bod yn cael chwarae teg a’u bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Yn ymwneud â chyrff cynrychiadol myfyrwyr ar draws grŵp Y Drindod Dewi Sant. Yn hwyluso etholiad democrataidd swyddogion sabothol i weithio’n
amser llawn yn Undeb y Myfyrwyr i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr yn y Brifysgol. Cynrychioli buddiannau myfyrwyr ar lefel leol a chenedlaethol ac ymgyrchu ar faterion sy’n berthnasol a phwysig i fyfyrwyr yn y Brifysgol. Yn sicrhau proses gyson ar gyfer ethol, hyfforddi a chefnogi pob cynrychiolydd myfyrwyr, (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell a myfyrwyr ôlraddedig) ar draws pob cwrs ac ar bob campws.
arwyddion priodol ac atgyfeirio ar gyfer materion academaidd a lles. Cynrychioli barn myfyrwyr i’r Brifysgol a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Yn mynd ati i ymwneud â’r Brifysgol i adolygu’n flynyddol a llywio’r Cytundeb Perthynas, sy’n rhoi manylion y berthynas rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ac sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r Brifysgol at Undeb y Myfyrwyr. Yn cydweithio’n agos ag Uwch Swyddogion y Brifysgol wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.
Yn helpu myfyrwyr gydag
Gweithgareddau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd
Cynaliadwyedd
Dwyieithrwydd
Yn hyrwyddo ac yn galluogi cyfranogiad myfyrwyr ym mhob un o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr, gan sicrhau bod modd manteisio ar bob un o brosiectau, digwyddiadau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr.
Yn cymryd rhan yng Nghynllun Effaith Werdd yr NUS, cael cynrychiolaeth ar Bwyllgor Cynaliadwyedd y Brifysgol ac yn gweithio gydag interniaethau INSPIRE a’r swyddogion amgylcheddol a chynaliadwyedd.
Yn adlewyrchu pwysigrwydd a statws yr iaith Gymraeg wrth gyfathrebu a chreu cyfleoedd i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno gweithio a chymdeithasu trwy’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.
Yn galluogi myfyrwyr i gynnal amrywiaeth o glybiau chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau i wella datblygiad a chyflogadwyedd personol, cyfarfod â myfyrwyr eraill a datblygu hobïau a diddordebau. Yn cynnig nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr trwy weithgareddau Undeb y Myfyrwyr gan gynnwys gwirfoddoli.