Duw yn creu’r byd Yn y dechreuad, doedd yna ddim byd. Roedd y byd yn dywyll, yn oer ac yn wag. Yna siaradodd Duw. “Rhowch i ni olau!” Dyma olau yn disgleirio yn y tywyllwch. Roedd Duw yn hoffi’r golau. Yna, dyma Duw yn creu dydd a nos, mynyddoedd anferth, bryniau tonnog a’r môr glas dwfn.
10
Crëodd Duw blanhigion a blodau a choed, sêr a phlanedau, yr haul coch poeth a’r lleuad arian. Llenwodd Duw y môr gyda physgod chwim a’r awyr gydag adar lliwgar, a chreu anifeiliaid o bob maint a lliw. Yna, dyma Duw’n creu pobl, dyn a dynes i ofalu am ei fyd hardd. Eu henwau oedd Adda ac Efa. Edrychodd Duw ar bopeth yr oedd wedi ei greu. Roedd yn hapus gyda’i waith. Roedd yn fyd da.
11
Beth sy’n wahanol? Mae wyth peth yn wahanol rhwng y ddau lun yma. Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw? Rhowch gylch o amgylch bob un.
12
Lliwio’r rhifau Defnyddiwch y rhifau i wneud y pili-pala yn brydferth. 4 3 2
4
3 3 5
4
1
1 Melyn 2 Coch
2
3 3 3 3 3
4
4
5 1 4 3 Brown
13
4 Glas
5 Gwyrdd
Popeth yn mynd o’i le Roedd Adda ac Efa yn hapus iawn. Roedden nhw wedi dewis enwau i’r anifeiliaid. Ac wedi bwyta’r holl bethau da oedd yn tyfu yn yr ardd. Ond, yng nghanol yr ardd, roedd yna goeden fawr. Roedd Duw wedi dweud wrthyn nhw i beidio bwyta o’r goeden honno. Un diwrnod, daeth neidr a sibrwd yng nghlust Efa. “Edrych ar y ffrwyth bendigedig yna”, sibrydodd. “Beth am i ti ei flasu”. Edrychodd Efa ar y ffrwyth. Estynnodd amdano a’i dynnu o’r goeden. Yna, brathodd ddarn mawr ohono gan rannu’r ffrwyth gydag Adda. 14
Yn sydyn, roedden nhw yn gwybod eu bod wedi gwneud rhywbeth drwg. Roedd Duw wedi rhoi popeth iddyn nhw. Dim ond un peth a ofynnodd iddyn nhw beidio ei wneud – a nawr, roedden nhw wedi ei wneud. Roedden nhw wedi bod yn anufudd i Dduw ac roedd popeth wedi ei ddifetha. Ni allai Duw adael iddyn nhw aros yn yr ardd hardd rhagor. Aeth Adda ac Efa oddi yno yn drist. Ni allen nhw fynd yn ôl i’r ardd. 15
Canfod a chyfri’
Cyfrwch faint o weithiau mae’r rhain yn ymddangos yn y llun o’r ardd, lle mae popeth yn mynd o’i le! Rhowch eich ateb yn y blwch. Cwningen Broga
Blodyn Glas Crocodeil
16
Lliwio’r dotiau
Yn ofalus, lliwiwch y rhannau o’r goeden sydd â dot ynddyn nhw. Mae sawl gwahanol math o ffrwyth ar ôl ar y goeden. Ticiwch y ffrwyth yn y rhestr pan fyddwch wedi dod o hyd iddo. Yna, lliwiwch y ffrwyth. 17
afal ceirios banana