Storïau Beiblaidd o’r Hen Destament
“Trugarog a graslon yw’r Arglwydd, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.” Salm 103:8
O Arglwydd, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Codaist amddiffyn rhag dy elynion O enau babanod a phlant sugno ... Salm 8:1–2
Duw’r crëwr Dyma fyd arbennig Duw. Dyma’r haul, sy’n disgleirio’n llachar, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma’r lleuad arian a’r sêr, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma’r môr gyda thonnau’n tasgu, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma greaduriaid sy’n byw yn y môr, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma’r awyr, fyny fry, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma’r adar sy’n hedfan yn yr awyr, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma’r tir gyda phlanhigion a choed, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma gymylau glaw sy’n dyfrhau’r tir, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig. Dyma anifeiliaid, mawr a bach, a roddodd Duw yn ei fyd arbennig.
A dyma bobl a greodd Duw i fwynhau ac i ofalu am ei fyd arbennig. Salm 104
11
12
Duw’n creu golau ac awyr Yn y dechreuad, doedd dim byd o gwbwl. Yna, creodd Duw fyd. Roedd Duw eisiau iddo fod yn lle arbennig. Ond roedd popeth yn dywyll ac yn wag. Roedd Duw eisiau i hyn newid. Creodd Duw olau. Erbyn hyn, roedd golau ac roedd tywyllwch. Edrychodd Duw ar yr hyn a greodd a dweud, “Mae hyn yn dda. Rydw i’n falch fy mod wedi creu golau.” Yna creodd Duw yr awyr. Fyny fry uwchben y byd, cyn belled ag y gallwn weld, ac ymhellach. Edrychodd Duw ar yr hyn a greodd a dweud, “Mae hyn yn dda. Rydw i’n falch fy mod wedi creu awyr.” Dydd a nos. Y byd a’r awyr. Dyna sut y creodd Duw nhw, a dyna sut y maen nhw heddiw. Edrychodd Duw ar yr hyn a greodd. “Mae hyn yn dda iawn,” dywedodd. “Bydd yn lle da i bobl fyw, pan fyddaf wedi gorffen creu fy myd.” Ac y mae. Genesis 1:1–8
Duw’n creu tir, môr a phlanhigion Roedd byd newydd Duw wedi’i orchuddio â dwr. Dywedodd Duw, “Rydw i eisiau creu môr a thir.” Yn sydyn, llifodd y dŵr at ei gilydd. Creodd foroedd ac afonydd, llynnoedd a phyllau, cefnforoedd a phyllau dŵr. Ac yna roedd tir sych ar ôl. Gwnaeth Duw y tir hwn yn fynyddoedd creigiog, bryniau mwyn, anialwch sych a thraethau tywodlyd. Edrychodd Duw ar y tir gyda’i bridd tywyll, cyfoethog. Edrychodd ar y moroedd sgleiniog, glas. Roedd Duw’n hapus. Siaradodd Duw eto. “Rydw i eisiau creu planhigion,” dywedodd. Ac ymddangosodd planhigion: planhigion tal, planhigion gwyrdd, planhigion â hadau i greu planhigion newydd, blodau a choed a gwair, planhigion ar dir a phlanhigion dŵr. Edrychodd Duw ar yr hyn a greodd. Roedd wedi creu tir a môr a’u llenwi â phlanhigion. Roedd yn hapus, hapus iawn. “Mae hyn yn dda iawn,” dywedodd. Genesis 1:9–13
13
14
Duw’n creu sêr a phlanedau Creodd Duw awyr arbennig i ni. Yn ystod y dydd, mae’n llachar o liw glas golau, ac mae haul mawr disglair ynddo. Creodd Duw yr haul i’n cadw’n gynnes ac i oleuo’r dydd. Creodd Duw awyr arbennig i ni. Yn ystod y nos, mae’n las tywyll dwfn ac mae lleuad lachar yn disgleirio ynddi. Weithiau, mae’r lleuad yn edrych yn fawr ac yn gron. Weithiau, mae’n siâp crwm, disglair. A dyma Duw’n creu nifer o sêr i ddisgleirio yn y tywyllwch ac i oleuo’r nos. Mae Duw’n ein caru gymaint fel y creodd sêr prydferth a phlanedau, y lleuad a’r haul. Genesis 1:14–19
Duw’n creu’r haul Yn y dechreuad, creodd Duw yr haul disglair a’i osod yn yr awyr. Creodd y planedau llachar i gylchu’r haul, I fyny ac i lawr, rownd a rownd. Roedd rhai o’r planedau’n fawr iawn, A rhai’n fach iawn, iawn, Ond roedden nhw i gyd yn dawnsio o amgylch yr haul, I fyny ac i lawr, rownd a rownd. Creodd Duw yr haul disglair A’r planedau sy’n dawnsio. Mae Duw wedi dy greu di, Ac wedi fy nghreu innau. Diolch i Dduw am y planedau sy’n symud, I fyny ac i lawr, rownd a rownd. Hwrê! Salm 19
15
16
Duw’n creu anifeiliaid Creodd Duw fyd. Uwchben y byd roedd awyr gyda’r haul a’r lleuad, y sêr a’r planedau ynddi. Yn y byd roedd môr a thir, a phlanhigion o bob siâp a maint. Roedd Duw’n hapus gyda’r holl bethau a greodd. Yn awr, roedd Duw am greu mwy o bethau. Creodd Duw adar i hedfan yn rhydd yn yr awyr. Roedden nhw’n canu, “Twît, twît!” ac yn crawcian, “Crawc, Crawc!” ac yn twhwtian, “Twhŵ, twhŵ!” Yna, creodd Duw bysgod i fyw yn y môr. Roedden nhw’n nofio, swishswash. Ac yn neidio, sblish-sblash. Creodd Duw anifeiliaid i fyw ar y tir. Creodd wartheg, mw-mw. A chŵn, wff-wff. A llewod, raaa-raaa. A chrocodeilod, snip-snap. A nadroedd, sssss-ssss. A gwenyn, bysss-bysss. Anifeiliaid o bob siâp, maint a lliw. Yna, creodd Duw bobl, fel ti a fi. Roedd Duw’n hapus iawn gyda phob dim roedd wedi’i greu. “Mae hyn i gyd yn dda,” meddai Duw.
Genesis 1:20–2:4
Mae Duw yn fy nabod Pan ydw i’n sefyll ac yn cerdded i fyny’r grisiau, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Pan af allan neu aros gartref, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Pan af i chwarae gyda’m ffrindiau, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Os ydw i’n deffro i weld yr haul yn codi, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu.
Os ydw i ar fy nhraed yn hwyr, a’r tywyllwch yn fy ngwneud yn ofnus, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Cyn i mi gael fy ngeni, roedd Duw’n gwybod fy mod i yno. Wrth i mi dyfu, mae Duw’n fy ngwylio o hyd. mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Ble bynnaf rydw i’n mynd, beth bynnag rydw i’n ei wneud, mae Duw’n gwybod ac yn gofalu. Salm 139
17