Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

Page 1

Yn y dechrau: cartref perffaith Cân y Creu: Genesis 1–2

Yn y dechrau, doedd yna ddim byd. Dim i’w glywed. Dim i’w deimlo. Dim i’w weld. Dim ond lle gwag. A thywyllwch. A . . . dim o gwbl. Ond roedd Duw yno. Ac roedd gan Dduw Gynllun – un gwych. ‘Rydw i am gymryd y lle gwag yma, a’i lenwi!’ meddai Duw. ‘Allan o’r tywyllwch, rydw i’n mynd i wneud golau! Ac allan o ddim, rydw i’n mynd i wneud . . . POPETH!’ Fel iâr yn swatio dros y nyth er mwyn helpu’r cywion bach i ddeor o’r wyau, dechreuodd Duw symud dros y lle mawr gwag, tywyll, tawel. Roedd yn creu bywyd. Siaradodd Duw. Dyna i gyd. A beth bynnag roedd Duw’n ddweud, roedd hynny’n digwydd.

18



‘Helô olau!’ meddai Duw, a daeth golau i ddisgleirio yn y tywyllwch. Galwodd Duw’r golau yn ‘Ddydd’ a’r tywyllwch yn ‘Nos’. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd. Yna dywedodd Duw, ‘Helô awyr! Helô fôr!’ ac agorodd gofod mawr llydan, dwfn ac uchel. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd. ‘Helô dir!’ meddai Duw, ac yn sydyn – gan sblasio allan o’r môr – daeth clogwyni, mynyddoedd a thraethau aur. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd. ‘Helô goed!’ meddai Duw. ‘Helô laswellt a blodau!’ A dechreuodd popeth dyfu ym mhobman. Roedd y blagur yn blaguro, yr egin yn egino a’r blodau’n blodeuo. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd.



‘Helô sêr!’ meddai Duw. ‘Helô haul! Helô leuad!’ Yn sydyn, sïodd peli tanllyd i’r golwg gan chwyrlïo rownd a rownd yn y tywyllwch – planedau oren a phorffor ac aur. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd.



‘Helô adar!’ meddai Duw. Gan fflapian a siffrwd, trydar a chanu, daeth adar i lenwi’r awyr. ‘Helô bysgod!’ meddai Duw. Ac yn sydyn roedd y moroedd yn llawn o bysgod, yn sblasio ac yn neidio, yn gwibio ac yn gwau drwy’i gilydd. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd. Yna, meddai Duw, ‘Helô anifeiliaid!’ A daeth pawb allan i chwarae. Roedd y ddaear yn llawn o synau hapus – rhuo a rhochian, snwffio a snapio. ‘Rydych chi’n dda,’ meddai Duw. Ac roedden nhw hefyd.


Gwelodd Duw bopeth roedd wedi’i wneud, ac roedd yn eu caru nhw i gyd. Roedden nhw’n hardd oherwydd ei fod e’n eu caru. Ond cadwodd Duw y peth gorau tan y diwedd. Roedd gan Dduw un freuddwyd fawr. Roedd am wneud pobl er mwyn iddyn nhw rannu ei hapusrwydd am byth. Y nhw fyddai ei blant, a byddai’r ddaear yn gartref perffaith iddyn nhw.


Ac felly, anadlodd Duw fywyd i mewn i Adda ac Efa. Pan agoron nhw eu llygaid, y peth cyntaf welson nhw oedd wyneb Duw. A phan welodd Duw y ddau, roedd e fel tad newydd. ‘Rydych chi ’run ffunud â fi,’ meddai. ‘Chi ydy’r peth gorau i mi ei wneud erioed!’ Roedd Duw’n eu caru â’i holl galon. Ac roedden nhw’n hardd oherwydd ei fod e’n eu caru. Ac ymunodd Adda ac Efa yng nghân y sêr, y nentydd, a’r awel ym mrigau’r coed – y gân hyfryd o gariad i’r un oedd wedi’u creu. Roedd eu calonnau’n llawn o hapusrwydd. A doedd dim byd byth yn eu gwneud yn drist, yn unig nac yn ofnus.


Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi’i wneud. ‘Perffaith!’ meddai. Ac roedd e hefyd. Ond doedd y sêr a’r planedau, y mynyddoedd a’r moroedd, yn ddim o’u cymharu â chariad Duw tuag at ei blant. Byddai’n fodlon symud nefoedd a daear er mwyn bod yn agos atyn nhw. Bob amser. Beth bynnag ddigwyddai, faint bynnag y gost, byddai wastad yn eu caru. A dyna sut dechreuodd y stori garu ryfeddol . . .


Y celwydd ofnadwy Adda ac Efa’n colli popeth: Genesis 3

Roedd Adda ac Efa’n byw yn hapus gyda’i gilydd yn eu cartref newydd. Ac roedd popeth yn berffaith – am sbel. Ond un diwrnod aeth popeth o chwith. Roedd gan Dduw elyn cas. Satan oedd ei enw. Ar un adeg, roedd Satan yn angel hardd, ond doedd e ddim yn fodlon – roedd eisiau bod yn Dduw. Tyfodd i fod yn falch, yn ddrwg, ac yn llawn casineb, a bu raid i Dduw ei daflu allan o’r nefoedd. Roedd Satan yn ddig iawn, ac yn chwilio am ffordd o frifo Duw. Roedd am roi stop ar gynllun Duw, ar y stori garu, yn y fan a’r lle. Felly, trodd ei hun yn neidr a chuddio yn yr ardd. Dim ond un rheol roedd Duw wedi’i rhoi i Adda ac Efa: ‘Peidiwch â bwyta ffrwyth y goeden acw,’ meddai wrthyn nhw. ‘Os gwnewch chi, byddwch yn meddwl eich bod yn gwybod popeth. Fyddwch chi ddim yn ymddiried ynof i wedyn. A bydd pethau erchyll yn digwydd – dagrau, tristwch a marwolaeth.’



(Roedd Duw’n gwybod, petai Adda ac Efa’n bwyta’r ffrwyth, na fydden nhw ei angen e. Bydden nhw’n ceisio gwneud eu hunain yn hapus hebddo. Ond roedd Duw’n gwybod na fyddai bywyd hebddo ef yn werth ei fyw.) Gwelodd y neidr ei chyfle, a llithro’n ddistaw tuag at Efa. ‘Ydy Duw wir yn dy garu di?’ sibrydodd. ‘Os felly, pam na wnaiff e adael i ti fwyta’r ffrwyth blasus, melys yma? Druan ohonot ti, efallai nad ydy Duw am i ti fod yn hapus.’ Roedd geiriau’r neidr yn hisian yng nghlustiau Efa, gan suddo i mewn i’w chalon fel gwenwyn. Ydy Duw’n fy ngharu i, tybed? gofynnodd Efa iddi’i hun. Yn sydyn, doedd hi ddim yn siŵr. ‘Rhaid i ti ’nghredu i,’ sibrydodd y neidr. ‘Does arnat ti ddim angen Duw. Dim ond un darn bach o’r ffrwyth, a byddi di’n hapusach nag y gallet fyth freuddwydio . . .’ Casglodd Efa y ffrwyth, a bwyta peth ohono. Rhoddodd ddarn i Adda hefyd. A daeth celwydd drwg i’r byd. Byddai’n aros am byth. Byddai’n byw ym mhob calon, gan sibrwd wrth bob un o blant Duw: ‘Dydy Duw ddim yn fy ngharu i.’

30



Nid breuddwyd oedd hi, ond hunllef. Hedfanodd colomen oddi ar law Adda. Rhedodd carw i mewn i’r goedwig. Beth oedd wedi’u dychryn? Roedd teimlad iasoer yn yr awyr. Beth yn y byd oedd yn digwydd? Roedd Adda ac Efa wastad wedi bod yn noeth – ond nawr doedd hynny ddim yn teimlo’n iawn, rywsut. Doedden nhw ddim am i neb eu gweld, felly fe aethon nhw i guddio. Yn nes ymlaen, galwodd Duw arnyn nhw. ‘Blant?’ meddai. Fel arfer, roedd Adda ac Efa’n hoffi clywed llais Duw, ac yn rhedeg yn syth ato. Ond y tro hwn, rhedon nhw i ffwrdd a chuddio yn y cysgodion.


‘Ble rydych chi?’ galwodd Duw. ‘Yn cuddio,’ atebodd Adda. ‘Mae arnon ni dy ofn di.’ ‘Ydych chi wedi bwyta’r ffrwyth, er i mi ddweud wrthoch chi am beidio?’ gofynnodd Duw. ‘Efa ddywedodd wrtha i am wneud!’ atebodd Adda. ‘Beth ydych chi wedi’i wneud?’ gofynnodd Duw. ‘Y neidr ddywedodd wrtha i am wneud!’ meddai Efa. Roedd Duw yn teimlo’n drist iawn. Roedd ei blant nid yn unig wedi torri’r rheol; roedden nhw hefyd wedi torri calon Duw. A nawr roedd e’n gwybod y byddai popeth arall yn chwalu. Byddai creadigaeth Duw yn dechrau datgymalu, a phopeth yn mynd o’i le. O hyn ymlaen byddai popeth yn marw – er bod y cyfan i fod i bara am byth.


Roedd pechod wedi dod i mewn i fyd perffaith Duw. A byddai’n aros yno am byth. Byddai plant Duw wastad yn rhedeg i ffwrdd oddi wrtho, ac yn cuddio yn y tywyllwch. Byddai eu calonnau’n torri, a fydden nhw byth yn gweithio’n iawn eto. Allai Duw ddim gadael i’w blant fyw am byth; yn y fath boen, hebddo ef. Doedd yna ond un ffordd o’u gwarchod. ‘Rhaid i chi fynd o’r ardd ar unwaith,’ meddai Duw wrth ei blant, a’i lygaid yn llawn dagrau. ‘Dydy hwn ddim yn gartref i chi bellach – nid dyma’r lle i chi.’


Ond cyn iddyn nhw adael yr ardd, gwnaeth Duw ddillad ar gyfer ei blant, i’w gorchuddio. Yna, ar ôl iddo roi’r dillad amdanyn nhw, anfonodd Adda ac Efa i ffwrdd ar daith bell, bell – allan o’r ardd, allan o’u cartref. Mewn unrhyw stori arall, byddai’r cyfan ar ben, a dyna fyddai . . .

Y Diwedd. 35


Ond nid yn y Stori hon. Roedd Duw’n meddwl gormod o’i blant i adael i’r stori ddod i ben. Er ei fod yn gwybod y byddai e’n dioddef, roedd gan Dduw gynllun – breuddwyd wych. Rhyw ddiwrnod, byddai’n cael ei blant yn ôl. Rhyw ddiwrnod, byddai’n gwneud y byd yn gartref perffaith iddyn nhw unwaith eto. A rhyw ddiwrnod, byddai’n sychu pob deigryn o’u llygaid. Beth bynnag ddigwyddai, byddai Duw’n caru’i blant – yn eu caru â chariad diddiwedd, di-ben-draw; cariad fyddai’n para am byth. Ac er y bydden nhw’n anghofio amdano, ac yn rhedeg oddi wrtho, yn ddwfn yn eu calonnau byddai plant Duw wastad yn ei golli ac yn dyheu amdano – plant ar goll yn hiraethu am eu cartref. Cyn i Adda ac Efa adael yr ardd, sibrydodd Duw addewid wrthyn nhw: ‘Nid fel hyn y bydd hi am byth! Byddaf yn dod i’ch achub chi! A phan ddof i, fe wna i frwydro yn erbyn y neidr. Byddaf yn cael gwared o’r pechod a’r tywyllwch a’r tristwch rydych wedi’u gadael i mewn. Byddaf yn dod i’ch nôl chi!’ A dyna fyddai’n digwydd. Rhyw diwrnod, byddai Duw ei hun yn dod.

36


37


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.