Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Lefel 2
Prentisiaeth Lefel 2
Lefel 2
Prentisiaeth Lefel 2
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth i’r holl ddysgwyr o’u rolau a’u cyfrifoldebau, gan wella eu proffesiynoldeb, gwybodaeth a hyder yn eu gwaith gyda phlant a chydweithwyr.
Fframwaith Prentisiaeth
Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Datblygu’r Gymraeg
Nod y Brentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu rôl yn y lleoliad ac ymestyn eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc.
Mae’r rhaglen yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau fel:
• Cynorthwyydd Addysgu / Ystafell Ddosbarth / Cymorth Dysgu
• Cynorthwyydd Cymorth Arbenigol
• Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)
• Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol / Lles
Ar gyfer pwy mae’r brentisiaeth hon?
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at staff cymorth dysgu sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth yr athro dosbarth, y mae ei gynlluniau gwersi a’i gyfarwyddyd o ddydd i ddydd yn gosod y fframwaith sy’n sail i waith yr unigolyn. Hefyd, gallent fod yn gyfrifol am dynnu grwpiau bach allan o wersi neu helpu cynnal cynlluniau fel Read Write Inc.
Mae’r cwrs hwn yn datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth fydd eu hangen ar bawb sy’n gweithio mewn ysgol. Bydd ymarferwyr yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth i weithio’n effeithiol gyda’r athro i gynorthwyo dysgu, lles, gofal ac ymddygiad disgyblion Mae’n ceisio datblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol ymhellach, a dealltwriaeth o bwysigrwydd o berthnasoedd cadarnhaol mewn ysgol.
Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth hon, byddwch yn cyflawni’r canlynol:
• Tystysgrif Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Cyfathrebu
• Sgiliau Hanfodol Lefel 1 Cymhwyso Rhif
• Sgiliau Hanfodol Lefel 1 Llythrennedd Digidol
• Cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith
Ar y tudalennau canlynol, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â’r prif gymhwyster (Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion), yn ogystal ag agweddau eraill a fydd yn creu’r rhaglen brentisiaeth hon, yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Datblygu’r Gymraeg.
Yr amser a ganiateir i gwblhau’r cymhwyster hwn yw 14 mis, ond byddwn yn teilwra’r rhaglen ddysgu i weddu i anghenion unigol, fel bod profiad pob dysgwr yn unigryw
Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno’n bennaf trwy sesiynau un-i-un gydag aelod o dîm Cyflwyno ACT, gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell. Bydd Asesydd ACT yn cyfarfod â’r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddull digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am oddeutu dwy awr i gefnogi cynnydd. Mae arsylwi yn rhan allweddol o’r cymhwyster hwn, felly bydd rhai ymweliadau yn hirach er mwyn galluogi’r asesydd i arsylwi cymaint ag y bo modd
Yn ogystal â hyn, bydd oddeutu 4 awr o waith yn cael ei osod i ddysgwyr ei gwblhau bob mis.
Mae enghreifftiau o rai o’r tasgau a allai gael eu gosod gan ein haseswyr yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig, e.e. Disgrifiwch batrwm disgwyliedig datblygiad plant a phobl ifanc o’r adeg y cânt eu geni hyd nes byddant yn 19 oed. Gellid cyflwyno hyn fel poster neu lyfryn hefyd.
• Paratowch i mi eich arsylwi yn cynorthwyo plant mewn gweithgaredd dysgu sy’n cynnwys llythrennedd neu rifedd
• Cwblhewch y gweithgareddau ategol ar gyfer atalnodi ar wefan Sgiliau Hanfodol Cymru, a mynychu’r sesiwn sgiliau o bell i helpu â hyn
Bydd yr holl waith yn cael ei gwblhau ar ein e-bortffolio - OneFile. Felly, bydd angen i ddysgwyr gael gliniadur neu gyfrifiadur. Mae llyfrau gwaith wedi cael eu creu ar gyfer yr unedau y gellir eu cwblhau â llaw, ond wedyn bydd angen eu sganio a’u lanlwytho i OneFile.
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol (rhaid i bob dysgwr gwblhau’r rhain fel rhan o’r cymhwyster) ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau sy’n berthnasol i’ch rôl). I gyflawni tystysgrif lefel
2, rhaid cwblhau o leiaf 11 uned Mae hyn yn cynnwys 9 uned orfodol, yn ogystal ag
1 uned o grŵp dewisol A, ac 1 uned o grŵp dewisol B.
Ceir trosolwg bras o’r unedau hyn isod.
Unedau Gorfodol
• Datblygiad plant a phobl ifanc
• Cefnogi gweithgareddau dysgu
• Diogelu lles plant a phobl ifanc
• Cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion
• Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc
• Helpu i wella eich arfer eich hun ac arfer tîm mewn ysgolion
• Cynnal a chefnogi perthnasoedd gyda phlant a phobl ifanc
• Cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc
• Cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc
Unedau dewisol Grŵp A*
• Ysgolion fel sefydliadau (Lefel 2)
• Ysgolion fel sefydliadau (Lefel 3)
Unedau dewisol Grŵp B
• Symud a lleoli unigolion yn unol â’u cynllun gofal
• Darparu cymorth ar gyfer sesiynau
therapi
• Cymorth asesu ar gyfer dysgu
• Cyfrannu at gynorthwyo dysgwyr dwyieithog
• Paratoi a chynnal amgylcheddau dysgu
• Darparu arddangosfeydd mewn ysgolion
• Cynorthwyo plant a phobl ifanc amser prydau bwyd neu amser byrbryd
• Cynorthwyo plant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig (anghenion dysgu ychwanegol)
• Cynorthwyo chwarae a hamdden plant a phobl ifanc
• Cynorthwyo teithio plant a phobl ifanc y tu allan i’r lleoliad
• Cefnogi gweithgareddau allgyrsiol
• Cefnogi’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer addysgu a dysgu
• Goruchwylio profion ac arholiadau
ystod yr ymweliad / y cyfarfod cyntaf, bydd ein haseswyr yn gweithio gyda phob un o’r dysgwyr a’r cyflogwyr i adolygu pa rai o’r unedau dewisol yw’r rhai mwyaf priodol ar gyfer eich rhaglen.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Tystysgrif Lefel
2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion?
Rydym ni yma i helpu Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach am brif elfen cymhwyster y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Llwybr, sef:
Ann Rees
Rheolwr Llwybr ar gyfer Addysg a Datblygu annrees@acttraining.org.uk
neu IQA Arweiniol alisonstone@acttraining.org.uk
Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, gallai fod yn ofynnol i chi gwblhau Sgiliau Hanfodol fel rhan o’ch
Fframwaith Prentisiaeth.
Beth yw Sgiliau Hanfodol?
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd
Digidol Mae’r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i arddangos y gallant gymhwyso’r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd tra byddant yn y gwaith, mewn dysgu a thrwy gydol eu hoes
Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol y gofynnir i chi eu cwblhau yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.
Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol i gyd ar gael ar bedair lefel, yn dibynnu ar eich anghenion unigol (Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2, a Lefel 3) ac yn cynnwys:
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
• Deall data rhifiadol
• Cwblhau cyfrifiadau
• Dehongli a chyflwyno canfyddiadau canlyniadau
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
• Siarad a gwrando
• Darllen
• Ysgrifennu
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
• Cyfrifoldeb digidol
• Cynhyrchiant digidol
• Llythrennedd gwybodaeth ddigidol
• Cydweithredu digidol
• Creadigrwydd digidol
• Dysgu digidol
Bydd yr holl ddysgwyr yn dilyn WEST pan fyddant yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth, sef set o asesiadau sgiliau ar-lein sy’n cyfrifo lefel gallu a dealltwriaeth mewn Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) a Llythrennedd Digidol.
Nid arholiadau yw asesiadau WEST ac nid oes ganddynt unrhyw feini prawf llwyddo na methu Gellir cwblhau asesiadau WEST yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’r asesiad Cymhwyso Rhif yn ddwyieithog (dylai unrhyw ddysgwyr a fyddai’n hoffi archwilio hyn ofyn!). Nid oes unrhyw derfynau amser penodol ar gyfer unrhyw un o’r asesiadau, ond rhaid eu gwneud dan oruchwyliaeth.
Mae WEST yn rhan hanfodol o’ch taith fel dysgwr. Mae’r canlyniadau yn helpu eich
Tiwtor Sgiliau Hanfodol i gynllunio eich rhaglen ddysgu i ddiwallu eich anghenion penodol Yn ogystal ag asesiadau, byddwch chi hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio WEST i ddatblygu eich sgiliau trwy gydol eich rhaglen Prentisiaeth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio WEST yn llawn
Os yw’n ofynnol i chi gwblhau eich Sgiliau Hanfodol fel rhan o’r fframwaith Prentisiaeth, byddant yn cael eu trafod yn ystod eich ymweliad cyntaf gyda’ch Asesydd a’ch cyflogwr.
Trwy ddadansoddi eich canlyniadau WEST a sgwrs fanwl, bydd cynllun dysgu yn cael ei roi ar waith i gefnogi cyflawni unrhyw Sgiliau Hanfodol y mae’n ofynnol i chi eu cwblhau
Gyda’ch gilydd, byddwch yn cytuno ar yr amseroedd a’r lleoliadau gorau ar gyfer y cymorth i chi a’ch cyflogwr, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eich anghenion personol a’ch ymrwymiadau bywyd gwaith.
Mae enghreifftiau o sut byddwn yn eich cynorthwyo â hyn yn cynnwys:
• Cymorth gydag aelod o’n tîm Sgiliau Hanfodol
• Mynychu gweithdai grŵp
• Sesiynau gweithdy digidol
Os ydych chi eisoes wedi ennill cymwysterau mewn llythrennedd, rhifedd neu lythrennedd digidol, ond yr hoffech chi ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach gyda chymorth ein Tiwtoriaid, rhowch wybod i’ch Asesydd, a gellir trefnu hyn ar eich rhan.
Rydym yn teilwra eich rhaglen ddysgu yn unol â’ch anghenion; felly mae rhaglen ddysgu pob dysgwr yn unigryw. Er na allwn ni ddweud yn sicr pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi gwblhau eich cymhwyster / cymwysterau Sgiliau Hanfodol, gallwn roi ychydig o arweiniad i chi o ran amserlenni. Mae’r canllawiau hyn yn dibynnu ar lefel y Brentisiaeth yr ydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun. Er enghraifft:
Cymhwyso Rhif Oddeutu 7-8 wythnos*
Cyfathrebu Oddeutu 8 wythnos*
Llythrennedd Digidol Oddeutu 4 wythnos*
* Yn cynnwys Tasg a Phrawf
Sylwer:
• Mae pob sesiwn sgiliau yn para rhwng 1.5 a 2.5 awr, yn dibynnu ar ddull cymorth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn trafod yr amser sydd ei angen ar gyfer eich asesiadau Sgiliau Hanfodol gyda chi, a fydd hefyd yn dibynnu ar y lefel rydych chi’n ei chymryd
• Rydym yn gweld yn aml y gallem ofyn i chi fynychu rhai sesiynau ychwanegol gyda ni os oes angen i ni weithio gyda chi i wella sgiliau o fwy nag un lefel. Peidiwch â phoeni – mae gennym ni ystod o ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn (er enghraifft trwy sesiynau sgiliau).
• Gallwn eich cynorthwyo ar sail un-i-un, ond fel y gallech werthfawrogi, mae’r lleoedd hyn yn gyfyngedig. Trafodwch â’ch Asesydd.
Os oes gennych chi gymwysterau eisoes, gellir defnyddio’r rhain fel ‘procsi’ tuag at eich Fframwaith Prentisiaeth. O ganlyniad, byddwch yn cael eich eithrio o ennill y Sgil Hanfodol penodol hwnnw, os ydych yn dymuno.
Ceir rhai enghreifftiau isod, er nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr Bydd yr holl geisiadau am brocsi yn cael eu gwirio a’u cadarnhau ar ddechrau eich Prentisiaeth. Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen dangos tystysgrifau gwreiddiol o fewn yr 8 wythnos gyntaf er mwyn cael eich eithrio o Sgiliau Hanfodol.
Sgil Hanfodol Procsi
Cyfathrebu Lefel 1
Cyfathrebu Lefel 2
Cyfathrebu Lefel 3
Cymhwyso Rhif Lefel 1
Cymhwyso Rhif Lefel 2
Cymhwyso Rhif Lefel 3
G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi gofrestru â ni, a bydd eich asesydd yn ymdrin â hyn hefyd cyn ac yn ystod eich ymweliad cyntaf gennym ni.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Sgiliau Hanfodol?
Rydym ni yma i helpu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau
pellach am elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Sgiliau
Hanfodol:
Julie Maughan
Rheolwr Sgiliau Hanfodol
juliemaughan@acttraining.org.uk
Fel rhan o’ch fframwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwch yn cael cymorth i ddatblygu a chynnal eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Beth yw Datblygu’r Gymraeg?
Mae ACT wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn strategaeth Miliwn o Siaradwyr
Cymraeg Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl ddysgwyr yn cwblhau cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith fel rhan o’ch fframwaith gyda ni
Peidiwch â chynhyrfu – mae hyn yn ffordd o ddatblygu, a’i nod yw eich cynorthwyo â datblygu eich sgiliau Cymraeg. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio’n arbennig i roi gwybodaeth sylfaenol i brentisiaid am y Gymraeg ar gyfer y gweithle, ac yn cynnwys 6 modiwl rhyngweithiol i’w cwblhau ar-lein. Bydd y cwrs yn cael ei gwblhau trwy gydol eich fframwaith, gyda chymorth gan eich asesydd.
Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch yn ymgymryd â’ch dysgu yn ddwyieithog.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallwch chi ddewis elfennau o’ch dysgu yr hoffech eu cwblhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gallu trafod eich ffafriaethau penodol gyda’ch asesydd.