Cefnogi Addysgu a Dysgu Mewn Ysgolion Lefel 3

Page 1

Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Lefel 3

PRENTISIAETH

Prentisiaeth Lefel 3

Diploma mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn

Ysgolion

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth estynedig i’r holl ddysgwyr o’u rolau a’u cyfrifoldebau, gan ddatblygu eu proffesiynoldeb, gwybodaeth a hyder yn eu gwaith gyda phlant, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Cynnwys

Fframwaith Prentisiaeth

Diploma Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Datblygu’r Gymraeg

1 acttraining.org.uk

Fframwaith Prentisiaeth

Nod y Brentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu rôl yn y lleoliad, i ymestyn eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc, ac ymgymryd â lefelau cynyddol o gyfrifoldeb yn unol â chyfarwyddyd gan yr athro.

Mae’r rhaglen yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau fel:

• Cynorthwyydd Addysgu / Ystafell Ddosbarth / Cymorth Dysgu

• Cynorthwyydd Cymorth Arbenigol

• Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)

• Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol / Lles

Ar gyfer pwy mae’r brentisiaeth hon?

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at staff cymorth dysgu sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth yr athro dosbarth neu weithwyr proffesiynol eraill yn yr ysgol, y mae eu cynlluniau gwersi a’u cyfarwyddyd o ddydd i ddydd yn gosod y fframwaith sy’n sail i waith yr unigolyn. Hefyd, gallent fod yn gyfrifol am dynnu grwpiau bach allan o wersi neu helpu cynnal cynlluniau fel Read Write Inc. a mathau eraill o gymorth arbenigol.

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth fydd eu hangen ar bawb sy’n gweithio mewn ysgol. Bydd ymarferwyr yn meithrin gwybodaeth a sgiliau presennol ac yn gweithio’n effeithiol gyda’r athro i gynorthwyo dysgu, lles, gofal ac ymddygiad disgyblion Bydd yn datblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol a thechnegol ymhellach, ac yn galluogi’r dysgwr i ymgymryd â rolau a chyfrifoldeb mwy heriol yn y lleoliad.

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth hon, byddwch yn cyflawni’r canlynol:

• Diploma Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Cyfathrebu

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Cymhwyso Rhif

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Llythrennedd Digidol

2 acttraining.org.uk

• Cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith

Ar y tudalennau canlynol, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â’r prif gymhwyster (Diploma Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion), yn ogystal ag agweddau eraill a fydd yn creu’r rhaglen brentisiaeth hon, yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Datblygu’r Gymraeg.

3 acttraining.org.uk

DiplomaLefel 3 mewn Cefnogi

Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Cyfnod o amser i gwblhau

Yr amser a ganiateir i gwblhau’r cymhwyster hwn yw 17 mis, ond byddwn yn teilwra’r rhaglen ddysgu i weddu i anghenion unigol, fel bod profiad pob dysgwr yn unigryw.

Cyflwyno’r Cwrs

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno’n bennaf trwy sesiynau un-i-un gydag aelod o dîm Cyflwyno ACT, gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell Bydd Asesydd ACT yn cyfarfod â’r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddull digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am oddeutu dwy awr i gefnogi cynnydd. Mae arsylwi yn rhan allweddol o’r cymhwyster hwn, felly bydd rhai ymweliadau yn hirach er mwyn galluogi’r asesydd i arsylwi cymaint ag y bo modd.

Yn ogystal â hyn, bydd oddeutu 4 awr o waith yn cael ei osod i ddysgwyr ei gwblhau bob mis

Mae enghreifftiau o rai o’r tasgau a allai gael eu gosod gan ein haseswyr yn cynnwys:

• Gwaith ysgrifenedig, e.e. Esboniwch drefn a chyfradd pob agwedd ar ddatblygiad rhwng genedigaeth ac 19 oed.

• Paratowch i mi eich arsylwi yn cynorthwyo plant mewn gweithgaredd dysgu sy’n cynnwys llythrennedd neu rifedd.

• Cwblhewch y gweithgareddau ategol ar gyfer atalnodi ar wefan Sgiliau Hanfodol Cymru, a mynychu’r sesiwn sgiliau o bell i helpu â hyn.

4 acttraining.org.uk

Bydd yr holl waith yn cael ei gwblhau ar ein e-bortffolio - OneFile. Felly, bydd angen i ddysgwyr gael gliniadur neu gyfrifiadur.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol (rhaid i bob dysgwr

gwblhau’r rhain fel rhan o’r cymhwyster) ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio

gyda chi i benderfynu pa unedau sy’n berthnasol i’ch rôl). I gyflawni tystysgrif lefel

3, rhaid cwblhau o leiaf 11 uned orfodol, a 3 uned ddewisol sy’n benodol i rôl. Ceir trosolwg bras o’r unedau hyn isod.

Unedau Gorfodol

• Cyfathrebu a pherthnasoedd

proffesiynol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion

• Datblygu perthnasoedd proffesiynol

gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion

• Ymgysylltu â datblygiad personol

mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu leoliadau plant a phobl ifanc

• Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc

• Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc

• Ysgolion fel sefydliadau

• Cefnogi asesu ar gyfer dysgu

• Cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc

• Cefnogi gweithgareddau dysgu

• Deall datblygiad plant a phobl ifanc

• Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc

Unedau dewisol Grŵp A, B, C a Ch

Ceir ystod eang o unedau dewisol i ddewis o’u plith. Bydd yr asesydd yn helpu â dewis yr unedau mwyaf priodol ar gyfer pob dysgwr, yn dibynnu ar y rôl swydd, a datblygiadau posibl yn y rôl swydd.

* Peidiwch â phoeni! Yn ystod yr ymweliad / y cyfarfod cyntaf, bydd ein haseswyr yn gweithio gyda phob un o’r dysgwyr a’r cyflogwyr i adolygu pa rai o’r unedau dewisol yw’r rhai mwyaf priodol ar gyfer eich rhaglen.

5 acttraining.org.uk

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Diploma Lefel 3

mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion?

Rydym ni yma i helpu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau

pellach am brif elfen cymhwyster y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Llwybr, sef:

Ann Rees

Rheolwr Llwybr ar gyfer Addysg a Datblygu

annrees@acttraining.org.uk

neu IQA Arweiniol

alisonstone@acttraining.org.uk

6 acttraining.org.uk

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, gallai fod yn ofynnol i chi gwblhau Sgiliau Hanfodol fel rhan o’ch

Fframwaith Prentisiaeth.

Beth yw Sgiliau Hanfodol?

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd Digidol. Mae’r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i arddangos y gallant gymhwyso’r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd tra byddant yn y gwaith, mewn dysgu a thrwy gydol eu hoes.

Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol y gofynnir i chi eu cwblhau yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol i gyd ar gael ar bedair lefel, yn dibynnu ar eich anghenion unigol (Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2, a Lefel 3) ac yn cynnwys:

Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol

• Deall data rhifiadol

• Cwblhau cyfrifiadau

• Dehongli a chyflwyno canfyddiadau canlyniadau

Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol

• Siarad a gwrando

• Darllen

• Ysgrifennu

7 acttraining.org.uk

Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

• Cyfrifoldeb digidol

• Cynhyrchiant digidol

• Llythrennedd gwybodaeth ddigidol

• Cydweithredu digidol

• Creadigrwydd digidol

• Dysgu digidol

Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST)

Bydd yr holl ddysgwyr yn dilyn WEST pan fyddant yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth, sef set o asesiadau sgiliau ar-lein sy’n cyfrifo lefel gallu a dealltwriaeth mewn Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) a Llythrennedd Digidol.

Nid arholiadau yw asesiadau WEST ac nid oes ganddynt unrhyw feini prawf llwyddo na methu. Gellir cwblhau asesiadau WEST yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’r asesiad Cymhwyso Rhif yn ddwyieithog (dylai unrhyw ddysgwyr a fyddai’n hoffi archwilio hyn ofyn!). Nid oes unrhyw derfynau amser penodol ar gyfer unrhyw un o’r asesiadau, ond rhaid eu gwneud dan oruchwyliaeth.

Mae WEST yn rhan hanfodol o’ch taith fel dysgwr Mae’r canlyniadau yn helpu eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol i gynllunio eich rhaglen ddysgu i ddiwallu eich anghenion penodol. Yn ogystal ag asesiadau, byddwch chi hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio WEST i ddatblygu eich sgiliau trwy gydol eich rhaglen Prentisiaeth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio WEST yn llawn.

Cyflwyno’r Cwrs

Os yw’n ofynnol i chi gwblhau eich Sgiliau Hanfodol fel rhan o’r fframwaith Prentisiaeth, byddant yn cael eu trafod yn ystod eich ymweliad cyntaf gyda’ch Asesydd a’ch cyflogwr

Trwy ddadansoddi eich canlyniadau WEST a sgwrs fanwl, bydd cynllun dysgu yn cael ei roi ar waith i gefnogi cyflawni unrhyw Sgiliau Hanfodol y mae’n ofynnol i chi eu cwblhau.

Gyda’ch gilydd, byddwch yn cytuno ar yr amseroedd a’r lleoliadau gorau ar gyfer y cymorth i chi a’ch cyflogwr, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eich anghenion personol a’ch ymrwymiadau bywyd gwaith.

8 acttraining.org.uk

Mae enghreifftiau o sut byddwn yn eich cynorthwyo â hyn yn cynnwys:

• Cymorth gydag aelod o’n tîm Sgiliau Hanfodol

• Mynychu gweithdai grŵp

• Sesiynau gweithdy digidol

Os ydych chi eisoes wedi ennill cymwysterau mewn llythrennedd, rhifedd neu lythrennedd digidol, ond yr hoffech chi ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach gyda chymorth ein Tiwtoriaid, rhowch wybod i’ch Asesydd, a gellir trefnu hyn ar eich rhan.

Cyfnod o amser i gwblhau

Rydym yn teilwra eich rhaglen ddysgu yn unol â’ch anghenion; felly mae rhaglen ddysgu pob dysgwr yn unigryw. Er na allwn ni ddweud yn sicr pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi gwblhau eich cymhwyster / cymwysterau Sgiliau Hanfodol, gallwn roi ychydig o arweiniad i chi o ran amserlenni. Mae’r canllawiau hyn yn dibynnu ar lefel y Brentisiaeth yr ydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun. Er enghraifft:

Cymhwyso Rhif

Oddeutu 7-8 wythnos*

Cyfathrebu Oddeutu 8 wythnos*

Llythrennedd Digidol Oddeutu 4 wythnos*

* Yn cynnwys Tasg a Phrawf

Sylwer:

• Mae pob sesiwn sgiliau yn para rhwng 1.5 a 2.5 awr, yn dibynnu ar ddull cymorth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn trafod yr amser sydd ei angen ar gyfer eich asesiadau Sgiliau Hanfodol gyda chi, a fydd hefyd yn dibynnu ar y lefel rydych chi’n ei chymryd.

• Rydym yn gweld yn aml y gallem ofyn i chi fynychu rhai sesiynau ychwanegol gyda ni os oes angen i ni weithio gyda chi i wella sgiliau o fwy nag un lefel Peidiwch â phoeni – mae gennym ni ystod o ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn (er enghraifft trwy sesiynau sgiliau).

• Gallwn eich cynorthwyo ar sail un-i-un, ond fel y gallech werthfawrogi, mae’r lleoedd hyn yn gyfyngedig. Trafodwch â’ch Asesydd.

9 acttraining.org.uk

Procsi

Os oes gennych chi gymwysterau eisoes, gellir defnyddio’r rhain fel ‘procsi’ tuag at eich Fframwaith Prentisiaeth. O ganlyniad, byddwch yn cael eich eithrio o ennill y Sgil Hanfodol penodol hwnnw, os ydych yn dymuno

Ceir rhai enghreifftiau isod, er nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Bydd yr holl geisiadau am brocsi yn cael eu gwirio a’u cadarnhau ar ddechrau eich Prentisiaeth. Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen dangos tystysgrifau gwreiddiol o fewn yr 8 wythnos gyntaf er mwyn cael eich eithrio o Sgiliau Hanfodol

Sgil Hanfodol Procsi

Cyfathrebu Lefel 1

Cyfathrebu Lefel 2

Cyfathrebu Lefel 3

Cymhwyso Rhif Lefel 1

Cymhwyso Rhif Lefel 2

Cymhwyso Rhif Lefel 3

G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi gofrestru â ni, a bydd eich asesydd yn ymdrin â hyn hefyd cyn ac yn ystod eich ymweliad cyntaf gennym ni

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Sgiliau Hanfodol?

Rydym ni yma i helpu Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau

pellach am elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Sgiliau

Hanfodol:

Julie Maughan

Rheolwr Sgiliau Hanfodol

juliemaughan@acttraining.org.uk

10 acttraining.org.uk

Datblygu’r Gymraeg

Fel rhan o’ch fframwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwch yn cael cymorth i ddatblygu a chynnal eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.

Beth yw Datblygu’r Gymraeg?

Mae ACT wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn strategaeth Miliwn o Siaradwyr

Cymraeg Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl ddysgwyr yn cwblhau cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith fel rhan o’ch fframwaith gyda ni.

Peidiwch â chynhyrfu – mae hyn yn ffordd o ddatblygu, a’i nod yw eich cynorthwyo â datblygu eich sgiliau Cymraeg. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio’n arbennig i roi gwybodaeth sylfaenol i brentisiaid am y Gymraeg ar gyfer y gweithle, ac yn cynnwys 6 modiwl rhyngweithiol i’w cwblhau ar-lein. Bydd y cwrs yn cael ei gwblhau trwy gydol eich fframwaith, gyda chymorth gan eich asesydd.

Eisoes

yn ddwyieithog?

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch yn ymgymryd â’ch dysgu yn ddwyieithog. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallwch chi ddewis elfennau o’ch dysgu yr hoffech eu cwblhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gallu trafod eich ffafriaethau penodol gyda’ch asesydd.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Ddatblygu’r Gymraeg?

Rydym ni yma i helpu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach am elfen Datblygu’r Gymraeg y rhaglen, cysylltwch â’n

Rheolwr Datblygu’r Gymraeg:

Non Wilshaw

Rheolwr Datblygu’r Gymraeg

nonwilshaw@acttraining.org.uk

11 acttraining.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.