Twf Swyddi Cymru+
Ydych chi’n 16-19 oed ac yn meddwl tybed
BETH SYDD NESAF?
P’un a ydych chi’n ystyried eich dewisiadau addysg, yn archwilio cyfleoedd swyddi, neu’n chwilio am gymorth, mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yma i helpu.
Beth yw Twf Swyddi Cymru?
Mae TSC+ yn rhaglen
hyfforddiant a datblygiad sydd wedi’i theilwra ar gyfer oedolion ifanc fel chi. P’un a ydych yn ansicr am eich camau nesaf neu os oes gennych nod clir mewn
golwg, rydym yn darparu’r sgiliau, y cymwysterau a’r
profiadau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Faith Bahwish, Dysgwr TSC+
“Rydw i wir wedi mwynhau’r hyblygrwydd yn ACT ac rydw i wedi dysgu llawer. Mae TSC+ wedi dysgu sgiliau defnyddiol iawn i mi i’m gwneud yn fwy cyflogadwy er mwyn dod o hyd i swydd.”
Pam dewis TSC+?
Archwilio gwahanol ddiwydiannau
Darganfyddwch sectorau newydd er mwyn gweld ble mae eich diddordebau a’ch sgiliau yn disgleirio.
Hwb i’ch hyder
Dysgwch drwy brofiad gwaith ymarferol a fydd yn gwella eich CV ac yn cynyddu eich siawns o gael swydd.
Hyblygrwydd
Dechreuwch unrhyw bryd a dewiswch hyd cwrs sy’n addas i chi, o 6 wythnos i 12 mis.
Cymorth wedi’i bersonoli
Bydd ein tîm ymroddedig o diwtoriaid, anogwyr dysgu, cynorthwywyr dysgu ac anogwyr byd gwaith yn creu taith ddysgu unigryw sy’n berffaith i chi.
Cymorth Ariannol
Enillwch hyd at £60 yr wythnos*, ynghyd â lwfans bwyd wythnosol o hyd at £19.50 a chymorth gyda chostau teithio.
Cymwysterau
Cyfle i gwblhau cymwysterau hyd at Lefel 2.
*Yn dibynnu ar lefel eich cwrs a’ch oriau.
Twf Swyddi Cymru+
ennill ddysgu
WRTHICHI
1. YMGYSYLLTU
Dyma’r lle perffaith i ddechrau os nad ydych chi’n siŵr am eich llwybr gyrfa neu os oes angen arweiniad arnoch i archwilio’ch opsiynau. Mae eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
Cyfleoedd dysgu yn y ganolfan
Treialon gwaith byr gyda chyflogwyr amrywiol mewn gwahanol sectorau
Gweithgareddau cyfoethogi
Fel gwirfoddoli, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, ymweliadau â chyflogwyr, gweithgareddau menter, sesiynau lles, gwibdeithiau a mwy. Nod y profiadau hyn yw rhoi hwb i’ch hyder, archwilio diddordebau, a meithrin eich cryfderau.
Ar y llinyn hwn, byddwch yn derbyn:
Lwfans hyfforddiant o hyd at £42 yr wythnos
Lwfans bwyd o hyd at £11.70 yr wythnos
Cymorth costau teithio
yn symud ymlaen at gyflogaeth
neu addysg uwch.
fod ein llwyddiant nesaf?
2. DATBLYGU
Os oes gennych syniad da o ble rydych chi am fynd neu
ddiddordeb gyrfa penodol, mae’r llinyn Datblygu yn berffaith i chi. Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
Un o’n cymwysterau Lefel 1
Dewiswch o gyrsiau:
Gwasanaethau Modur • Astudiaethau Anifeiliaid a
Diwydiannau’r Tir • Harddwch, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr • Gofal • Adeiladwaith • Gwasanaeth Cwsmer • Cyflogadwyedd • Gwasanaethau Lletygarwch • Cyfryngau TG a Digidol
Lleoliadau Blasu a phrofiad gwaith sy’n canolbwyntio ar y diwydiant
Amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi perthnasol
Gan gynnwys gwaith gwirfoddol, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, ymweliadau â chyflogwyr, gweithgareddau menter, gweithgareddau lles a theithiau a phrofiadau.
Ar y llinyn TSC+ hwn byddwch yn derbyn:
Lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos
Lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
Cymorth gyda chostau teithio
3. CYFLOGAETH
Os ydych chi’n barod am waith llawn amser ac eisiau mynd i swydd cyn gynted â phosibl, mae’r llinyn hwn ar eich cyfer chi. Byddwn yn eich helpu i gaffael lleoliadau gwaith, gan eich galluogi i ennill profiad ymarferol wrth barhau â’ch hyfforddiant. Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
Paratoi ar gyfer cyflogaeth gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau hanfodol a deall beth i’w ddisgwyl yn y gweithle drwy hyfforddiant cyflogadwyedd effeithiol
Sesiynau cyflogadwyedd sy’n canolbwyntio ar chwilio am swydd, ceisio am swydd, ac ymddygiad seiliedig ar waith
Hyfforddiant techneg cyfweliad
Amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar hyfforddiant swydd, chwilio am swydd â chymorth a chymhorthdal cyflog, mentora yn y gwaith, a chyswllt cyflogwyr
Pan fyddwch yn cael swydd, byddwch yn ennill cyflog go iawn, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yn hytrach na lwfans hyfforddiant.
Ar y llinyn TSC+ hwn, byddwch yn derbyn:
Lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos tra byddwch yn chwilio am swydd
Lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
Cymorth gyda chostau teithio
Cymorth ychwanegol
Yn ACT, mae ein Tiwtoriaid TSC+ yn darparu’r gofal, y gefnogaeth a’r arweiniad hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich hyfforddiant. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i gyfoethogi eich profiad:
Swyddogion Diogelu a Chynghorwyr Mewnol
Mae ein tîm yma i gefnogi eich iechyd meddwl, eich taith ddysgu a’ch heriau personol, gan gynnig lle diogel ar gyfer trafodaethau a phenderfyniadau preifat.
Anogwyr Dysgu
Mae ein Hanogwyr Dysgu yn darparu cyfeiriad a chefnogaeth, gan ganolbwyntio ar eich lles cyffredinol.
Anogwyr Byd Gwaith
Mae ein tîm Byd Gwaith yn cynorthwyo gydag anghenion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, o brofiad gwaith i baratoi ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau.
Cynorthwywyr Dysgu
Gan weithio gyda Thiwtoriaid a Hyfforddwyr, maent yn sicrhau eich bod yn parhau i gymryd rhan yn eich cynllun dysgu ac yn darparu cymorth personol ar gyfer anghenion ychwanegol.
Cynrychiolydd Dysgwyr
Mae ein Cynrychiolydd Dysgwyr llawn amser yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y gorau o’u profiad. Maent yn hapus i dderbyn adborth ac awgrymiadau er mwyn gwella’ch amser gyda ni, gan ymdrechu i wneud eich profiad yn un arbennig.
Twf Swyddi Cyrmu+