Adeiladu sgiliau, adeiladu dyfodol
Canllaw i brentisiaethau yng Nghymru
Am gyflogwyr
Mae prentisiaethau’n cynnig cyfle gwych i fusnesau ddod â thalent newydd i’w sefydliad, yn ogystal ag uwchsgilio eu gweithlu presennol.
P’un a ydych am recriwtio neu wella set sgiliau eich gweithwyr, mae dysgu seiliedig ar waith yn caniatáu i gyflogwyr ‘dyfu rhai eu hunain’ pan ddaw’n fater o weithlu gwybodus a chynhyrchiol.
Mae prentisiaeth yn golygu bod gweithwyr yn ennill sgiliau newydd sy’n benodol i’w rôl a’ch gweithrediadau, gan feithrin ethos cryf sy’n canolbwyntio ar eich cwmni a’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Mae hefyd yn dangos eich buddsoddiad hirdymor yn eu talent. Mae buddsoddi mewn prentisiaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddyfodol cadarnhaol nid yn unig eich busnes, ond eich diwydiant.
Gall prentisiaethau deimlo’n dasg frawychus ond drwy weithio gyda darparwr hyfforddiant, byddwch yn cael eich arwain drwy’r broses bob cam o’r ffordd a bydd eich dysgwyr yn cael ei ddysgu o ansawdd uchel a fydd yn rhoi hwb i’ch busnes yn y pen draw.
Rhoi dalent y dyfodol eu blas cyntaf o’r byd Gwaith
Yn ogystal â phrentisiaethau, mae darparwyr ACT ac Itec yn cynnig Twf Swyddi Cymru+, rhaglen ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n pontio’r bwlch rhwng ysgol a phrentisiaeth.
Mae cyflogwyr yn allweddol i lwyddiant TSC+, gan gynnig lleoliadau hanfodol i ddysgwyr a rhoi eu profiadau gwaith cyntaf iddynt.
Cysylltwch â ni i weld sut y gallwch chi gymryd rhan a chwarae rôl wrth lunio talent y dyfodol.
Gall prentisiaethau fod yn garreg gamu neu hyd yn oed yn fan cychwyn i yrfa uchel ei pharch.
Gallant hefyd eich helpu i fireinio’r sgiliau rydych chi eisoes wedi’u hennill yn eich swydd. Beth bynnag eich sector, ble bynnag yr ydych yn eich gyrfa, mae yna brentisiaeth i chi.
Gan gyfuno cymysgedd o hyfforddiant ymarferol yn y gwaith ag astudio traddodiadol, mae dysgu seiliedig ar waith yn cynnig y cyfle i ennill sgiliau newydd yn ogystal â chymhwyster cydnabyddedig, i gyd o fewn oriau gwaith i gael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.
Fel prentis byddwch yn ennill eich cyflog eich hun wrth ennill y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Dim yn barod am brentisiaeth eto?
Os ydych chi’n 16-19 blwydd oed yn edrych i gadael yr ystafell Dosbarth ond eisiau cymorth dod o hyd a sicrhau rol sydd yn gywir i chi-gall Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) pontio’r gap rhwng ysgol a Gwaith.
Mae TSC+, a ddarperir ar hyn o bryd gan ACT a Itec, yn rhoi dysgwyr y sgiliau, cymwysterau a profiad i cynyddu i prentisiaeth, sefydlu busnes ei hun neu glanio ei rol breddwydiol.
Mae dysgwyr hefyd yn cael ei talu lan i £60 yr wythnos ar ben lwfans bwyd lan i £19.50 yr wythnos.
Hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn
Mae ACT yn cynnig y maint, y profiad a’r hygrededd i ddarparu amrywiaeth eang o brentisiaethau ar draws 30+ sector.
Rydym yn frwd dros wella bywydau drwy ddysgu a chefnogi busnesau ac unigolion Cymru i uwchsgilio.
Mae ein rhaglenni’n helpu busnesau Cymru i aros ar flaen y gad, gan eich arfogi â sgiliau hanfodol sydd eu hangen mewn byd digidol sy’n newid mor gyflym.
Rydym yn tywys unigolion ar hyd eu taith cyflogaeth, o rolau lefel mynediad i swyddi uwch reolwyr a gweithredol.
Sicrhewch eich bod yn barod ar gyfer y dyfodol gyda’n cymwysterau cynhwysfawr:
TG, Digidol a Marchnata
Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Hyfforddiant
Rheoli Prosiect
Rheoli Ynni a Charbon
Cymwysterau Adnoddau Dynol CIPD
Gwasanaeth Cwsmer
Dadansoddeg Data
Gwasanaethau Busnes
Cyfrifeg a Chyllid
Harddwch, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
Gofal Plant a Chwarae
Addysgu a Dysgu
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ddarganfod mwy, sganiwch y cod QR neu ewch i:
Cartref prentisiaethau a dysgu
R ydym yn angerddol am helpu busnesau i dyfu a grymuso dysgwyr yng Nghymru trwy ystod o hyfforddiant yn y gweithle. Ein hymrwymiad yw darparu prentisiaethau o ansawdd uchel sy’n wirioneddol gefnogi eich datblygiad a’ch llwyddiant.
Archwiliwch ein hystod o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn sydd wedi’u cynllunio i lunio’ch dyfodol.
Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes
Marchnata Digidol
Gweinyddu Busnes
Gwasanaeth Cwsmer
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Rheoli Prosiect
Rheoli Ynni a Charbon
Gofal plant
Iechyd a Gofal Cymdeithaso (Oedolion)
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
Gwyddor Gofal Iechyd
Cefnogaeth Gofal Iechyd Clinigol
Cyngor ac Arweiniad
Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
Ymarferydd Dysgu Digido (Aspire 2Be)
Arweinyddiaeth a Rheolaeth i Addysgwyr (Aspire 2Be)
Cefnogi Addysgu a Dysgu (Aspire 2Be)
Trin Gwallt (ISA Training)
Ewinedd a Harddwch (ISA Training)
Barbro (ISA Training)
Gofal Anifeiliaid (Haddon Training)
Gofal Ceffylau (Haddon Training)
I ddarganfod mwy, sganiwch y cod QR neu ymwelwch www.educ8training.co.uk
Mae Itec wedi bod yn ddarpar wr blaenllaw o raglenni dysgu
seiliedig ar waith ers 40 mlynedd.
Rydym yn helpu unigolion i ddatblygu eu gyrfaoedd trwy paru eu sgiliau gyda chyflogwyr lleol.
Rydym yn cynnig prentisiaethau wedi’u hariannu o Lefelau 2-5 yn y sectorau canlynol:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lletygarwch
Warws
Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Gofal Plant, Chwarae a Datblygiad Dysgu
Gwasanaeth Cwsmer
Gweinyddiaeth Busnes
Rheolaeth Prosiect
Arwain T îm
Rheolaeth itecskills.ac.uk 029 2066 3800 enquiries@itecskills.co.uk
Mae darparwyr hyfforddiant allweddol Cymru –ACT, Cambrian Training, Educ8 ac Itec – yn cynnig amrywiaeth o atebion dysgu seiliedig ar waith i gyflogwyr a dysgwyr ar draws pob sector a lefel rheoli.
ACT acttraining.org.uk
029 2046 4727 info@acttraining.org.uk
Itec itecskills.ac.uk
029 2066 3800 enquiries@itecskills.co.uk
Educ8 educ8training.co.uk 01443 749 000 enquiries@educ8training.co.uk
Cambrian Training cambriantraining.com 01938 555893 info@cambriantraining.com