Cymorth Ysgolion - ACT Canllaw i Ysgolion

Page 1


Dewch o hyd i lu o gymwysterau, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, a chymorth wedi’i deilwra, wedi’u cynllunio i helpu’ch staff i dyfu, datblygu a chyrraedd eu potensial llawn.

cymraeg.acttraining.org.uk/cymorth-ysgolion

Caiff ein gymwysterauholleuhariannu’nllawndrwy doesLywodraethCymrufelly dimrhaidi’chysgol daluceiniog!

Cyflwyniad

Yn ACT, rydym yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda dros 480 o ysgolion i ddarparu rhaglenni hyfforddiant o ansawdd uchel, gan gefnogi ysgolion a’r sector addysg ehangach i fodloni eu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac i sicrhau bod gan staff yr wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Gall ACT a’n chwaer gwmni ALS ddarparu’r gwasanaeth hwn, a ariennir yn llawn, oherwydd ein bod yn rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, un o’r grwpiau coleg mwyaf yn y DU. Gyda’n gilydd, ni yw’r darparwr hyfforddiant seiliedig ar sgiliau mwyaf yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, gall ACT ac ALS helpu i uwchsgilio’ch staff er mwyn diwallu anghenion unigryw eich ysgol. Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg byr o’r cymwysterau, y cyfleoedd datblygiad proffesiynol a’r cymorth y gall Cymorth Ysgolion eu cynnig i’ch staff anhygoel.

Datblygiad Proffesiynol

*Defnyddiwch hyd y cwrs fel canllaw yn unig. Mae llawer o’n rhaglenni dysgu wedi’u teilwra at anghenion unigol y dysgwr felly mae pob profiad yn unigryw.

Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2

Hyd y cwrs*: 14 mis

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i gynorthwyo unigolion a gyflogir mewn rôl gymorth yn yr ystafell ddosbarth, dan oruchwyliaeth athro dosbarth, i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Rheoli Prosiect Lefel 4

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer aelodau staff sy’n arwain gwaith tîm o bobl, gan gyflawni nodau ac amcanion y prosiect a rheoli cwblhad y prosiect o fewn ei amserlen benodol. Bydd staff sydd wedi cofrestru ar y cwrs hwn hefyd yn cael y cyfle i gwblhau cymwysterau ychwanegol PRINCE2 ac APMQ.

Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

Hyd y cwrs*: 17 mis

Mae’r cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 3 wedi’i gynllunio ar gyfer staff cymorth dysgu profiadol ac mae’n adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a sefydlwyd yn y cymhwyster Lefel 2. Bydd hyn yn gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau, gan ganiatáu iddynt ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn yr ystafell ddosbarth yn ôl disgresiwn yr athro dosbarth.

Gweinyddu Busnes Lefel 3

Hyd y cwrs*: 15 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn fwyaf addas ar gyfer aelodau staff sy’n ymgymryd â gweinyddu fel eu prif weithgaredd gwaith. Mae Gweinyddu Busnes Lefel 3 yn gymhwyster seiliedig ar gymhwysedd ac mae’n darparu cymhwyster proffesiynol ar gyfer aelodau staff sy’n dymuno derbyn cydnabyddiaeth am eu profiad ym maes gweinyddu.

Cyngor ac Arweiniad Lefel 4

Hyd y cwrs*: 17 mis

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer ymarferwyr profiadol sy’n darparu arweiniad a chymorth mewn amrywiaeth o gyd-destunau fel rhan o’u rôl. O gyngor gyrfaoedd, hyfforddiant a mentora i gyflafareddu a rheoli, mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o unedau sy’n addas ar gyfer nifer fawr o rolau swydd.

Gweinyddu Busnes Lefel 4

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r cwrs hwn yn gam ymlaen o’r cymhwyster Lefel 3 ac mae’n fwy addas i aelodau staff sy’n rheoli tîm o bobl, proses neu brosiectau. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau trefnu a datrys problemau presennol unigolyn er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithlon ac yn effeithiol yn y gweithle.

Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TG

Hyd y cwrs*: 21 mis

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliauTG sylfaenol sydd eu hangen ar staff i gynorthwyo gyda rheoli’r defnydd o galedwedd a meddalwedd o ddydd i ddydd a rheoli risgiau yn y gweithle.

Sgiliau Digidol ar gyfer

Busnes Lefel 2

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r dyfarniad lefel 2 mewn

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes yn helpu i wella sgiliau digidol eich staff, hybu effeithlonrwydd eich sefydliad ac yn rhoi awgrymiadau a thriciau ar gyfer y rhaglenni a ddefnyddir o ddydd i ddydd.

Ymarferydd Dysgu

Digidol Lefel 3

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu a mireinio sgiliau dylunio dysgu digidol eich staff addysgu a’u cynorthwyo i ddatblygu adnoddau digidol effeithiol a chynhwysol. Yn ystod y cwrs byddant yn datblygu eu gwybodaeth ynglŷn ag offer digidol newydd ac yn dysgu sut i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Sgiliau Digidol ar gyfer

Busnes Lefel 3

Hyd y cwrs*: 21 mis

Mae’r cwrs lefel 3 ar gyfer pobl sydd am fireinio eu sgiliau digidol presennol a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o raglenni cyfrifiadurol proffesiynol.

Dadansoddi Data Lefel 4

Hyd y cwrs*: 24 mis

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau dadansoddol a digidol unigolion yn unol ag anghenion eu sefydliad. Mae’r cwrs hwn yn dysgu sgiliau allweddol rheoli data, egwyddorion llywodraethu a diogelu gwybodaeth a’r defnydd effeithiol o offer dadansoddi data.

Cymwysterau Sefydliad

Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)

Cymhwyster CIPD mewn

Ymarfer Pobl Lefel 3

Hyd y cwrs*: 15 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dealltwriaeth gadarn o arferion Adnoddau Dynol a dysgu a datblygu, ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi aelodau staff sy’n gweithio ar lefel weithredol.

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phynciau fel ymarfer moesegol, hyrwyddo a sicrhau gwerthoedd a datblygiad proffesiynol i staff.

Cymhwyster CIPD mewn

Dysgu a Datblygiad

Sefydliadol Lefel 5

Hyd y cwrs*: 22 mis

Mae’r Diploma Cysylltiol mewn

Dysgu a Datblygiad Sefydliadol wedi’i gynllunio i ddatblygu gweithwyr proffesiynol hyfedr sy’n deall arfer dda mewn dysgu a datblygiad ac sy’n defnyddio’r dysgu a’r datblygiad hwn i ddiwallu anghenion sefydliadol yn effeithiol.

Gwasanaethau Cymorth

Gwasanaethau

Cyfleusterau Lefel 2

Hyd y cwrs*: 14 mis

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddarparu gwell dealltwriaeth ynglŷn â phynciau sy’n amrywio o reoli gwastraff, datblygu perthynas a chwsmeriaid, cynnal a chadw a mân atgyweiriadau i lanhau mewn meysydd arbenigol.

Rheoli Cyfleusterau

Lefel 3

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer staff sy’n rheoli tîm o bobl sy’n cynnal, atgyweirio, gweithredu a darparu gwasanaethau cymorth ar gyfer adeiladau masnachol neu gyhoeddus.

Cymhwyster CIPD mewn

Rheoli Pobl Lefel 5

Hyd y cwrs*: 22 mis

Mae’r Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl wedi’i gynllunio i ddatblygu gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol hyfedr sy’n deall sut i ddefnyddio arferion Adnoddau Dynol i ddiwallu anghenion sefydliad.

Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant

Mae’r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar.

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2

Hyd y cwrs*: 16 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 2 elfen, y Craidd a’r Ymarfer ac mae’n ymdrin ag ystod o bynciau megis Datblygiad Plant, Dysgu a Chwarae, Iechyd a Diogelwch a Diogelu.

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o ofal, dysgu a datblygiad plant o’u genedigaeth hyd at 19 oed. Mae’n addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, canolfannau plant, meithrinfeydd, a lleoliadau gofal plant eraill.

Mae’r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau chwarae, clybiau gwyliau ac ar ôl ysgol.

Gwaith Chwarae Lefel 2

Hyd y cwrs*: 12 mis

Mae’r cymhwyster hwn yn gymhwyster lefel mynediad wedi’i anelu at unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau chwarae. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i gefnogi a hwyluso chwarae mewn amgylcheddau amrywiol.

Gwaith Chwarae Lefel 3

Hyd y cwrs*: 18 mis

Mae Gwaith Chwarae yn broffesiwn sy’n ymroddedig i hybu a chefnogi chwarae plant mewn amrywiaeth o leoliadau, gan sicrhau bod chwarae’n cael ei arwain gan blant ac yn parchu eu dewisiadau a’u rhyddid. Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rôl arwain gyda phlant 5+ oed.

Cymhwysedd

Mae’r tabl isod yn dangos yr holl gymwysterau sydd ar gael i chi ar hyn o bryd fel rhan o’n rhaglen Cymorth Ysgolion ac yn amlinellu pa staff sy’n gymwys ar gyfer pob cyfle hyfforddi.

Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2 & 3

Cyngor ac Arweiniad

Rheoli Prosiect

Gweinyddu Busnes Lefel 3 & 4

Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TG

Ymarferydd Dysgu Digidol Lefel 3

Dadansoddi Data

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 & 3

CIPD Lefel 3

CIPD Lefel 5

Gwasanaethau Cymorth

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Cysylltwch â ni i gael gwybod pa rai o’n cyrsiau sydd ar gael i ddisgyblion, rhieni/gwarchodwyr a gwirfoddolwyr.

Cymhwyster

Cymhwysedd

Athrawon Rhieni/ Gwirfoddolwyr Penaethiaid Staff cymorth Gweinyddwyr Staff bugeiliol Llywodraethwyr

mewn dilyn un o’n cyrsiau?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch heddiw!

cymraeg.acttraining.org.uk/cymorth-ysgolion 029 2046 4727

info@acttraining.org.uk

cymraeg.acttraining.org.uk/cymorth-ysgolion

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.