Cenedlaethau Ymlaen: Yr Hyn Olygai’r Rhyfel Mawr i Ni

Page 1

Cenedlaethau Ymlaen: Yr Hyn Olygai’r Rhyfel Mawr i Ni


Cynnwys Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig .................................................................................................... 3 Ymgyrch Gallipoli ......................................................................................................................... 6 Cenedlaethau Ymlaen: Llanfyllin................................................................................................... 9 Cofeb Ryfel Llanfyllin........................................................................................................................... 9 Llanfyllin Milwyr ................................................................................................................................ 13 Gartref yn Llanfyllin........................................................................................................................... 68 Croglen Decstil Llanfyllin ................................................................................................................... 82 Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Llanfyllin ......................................................................................... 85 Cenedlaethau Ymlaen: Machynlleth ........................................................................................... 86 Cofeb Ryfel Machynlleth ................................................................................................................... 86 Milwyr Machynlleth .......................................................................................................................... 88 Gartref ym Machynlleth.................................................................................................................... 93 Croglen Decstil Machynlleth ............................................................................................................. 94 Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Machynlleth ................................................................................... 95 Cenedlaethau Ymlaen: Y Drenewydd .......................................................................................... 96 Cofeb Ryfel y Drenewydd.................................................................................................................. 96 Milwyr – Y Drenewydd ...................................................................................................................... 99 Croglen Decstil y Drenewydd .......................................................................................................... 113 Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf y Drenewydd ................................................................................ 115 Cenedlaethau Ymlaen: Y Trallwng ............................................................................................ 116 Cofeb Ryfel y Trallwng .................................................................................................................... 116 Milwyr o’r Trallwng ......................................................................................................................... 120 Croglen Decstil y Trallwng ............................................................................................................... 128 Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Llanfair Caereinion / Y Trallwng ................................................... 129 Y Celfyddydau a Barddoniaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ..................................................... 130 Ellis Humphrey Evans, 1887 - 1917 ................................................................................................. 130 Wilfred Edward Salter Owen, 1893 - 1918 ..................................................................................... 132 David Jones ..................................................................................................................................... 134 Eisiau gwybod mwy? ................................................................................................................ 137


Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Swyddogion a dynion y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (rhan o un o fataliynau Llu Tiriogaethol Brig창d Gogledd Cymru) yn y pafiliwn criced yn Rushden yn Northamptonshire. Delwedd trwy garedigrwydd gwefan ragorol Rushden Research. Roedd llawer o ddynion o Sir Drefaldwyn yn rhan o 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (R.W.F.). Roedd eu canolfan yn Northampton.


Rushden Echo, 14eg Gorffennaf 1916, cyfieithiad o drawsgrifiad Kay Collins Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig – Wedi’u Lletyo gynt yn Rushden & Higham Ferrers 7fed R.W.F. Bu’r Preifat George Davis, y Drenewydd, farw o bendics yng Ngwersyll Prees Heath.

Rushden Echo, 21ain Gorffennaf 1916, cyfieithiad o drawsgrifiad Kay Collins 7fed R.W.F. Mae’r Preifat R. Owen Jones a’r Preifat E. W. Jones (y Bala) wedi ennill cymwysterau fel taflwyr bomiau.


Yn gwmni i’r 1af/7fed R.W.F. mae bwch gafr y gatrawd, “Billy”, sy’n edrych yn smart iawn â’i gyrn euraidd. Mae “Billy” wedi dod gyda’i ffrindiau yr holl ffordd o Gymru a, hyd yma, mae wedi bod yn gwmni iddyn nhw lle bynnag y maen nhw wedi mynd. Maen nhw wedi gofyn i ni ddweud mai er mai “Billy” yw enw’r bwch gafr, mae’n gwadu ar ei ben unrhyw gysylltiad â’r Caiser er, fel ei gydenw, mae’n tueddu weithiau i roi ei big i mewn lle nad oes neb ei eisiau.

Tynnwyd ym 1915, y bwch gafr yn cael ei gyflwyno gan y brenin i’r 7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae’n debyg mai yng ngerddi Castell Powis y cafodd ei dynnu. Ar y chwith mae’r Arglwyddes Magdalen Herbert, chwaer 4ydd Iarll Powis, a’i ferch yr Arglwyddes Hermionie Herbert. Ar y dde mae’r Capten J. H. Addis ac Oswald Davies


Ymgyrch Gallipoli

Roedd Ymgyrch Gallipoli 1915-16, neu Frwydr Gallipoli neu Ymgyrch y Dardanelles i roi enwau eraill arni, yn ymdrech aflwyddiannus gan Bwerau’r Cynghreiriaid i reoli llwybr y môr o Ewrop i Rwsia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ddechreuodd yr ymgyrch â chyrch llyngesol llongau Prydain a Ffrainc a fethodd yng Nghulfor y Dardanelles yn Chwefror-Mawrth 1915 a pharhaodd ag ymosodiad mawr ar y tir ym Mhenrhyn Gallipoli ar 25ain Ebrill, yn cynnwys milwyr Prydain a Ffrainc yn ogystal ag adrannau o Gorfflu Byddin Awstralia a Seland Newydd (ANZAC). Oherwydd diffyg digon o gudd-wybodaeth ac oherwydd nad oedden nhw’n gyfarwydd â’r tir, a hefyd oherwydd gwrthsafiad ffyrnig y Tyrciaid, nid oedd yr ymosodiad yn llwyddiannus. Erbyn canol mis Hydref, roedd lluoedd y Cynghreiriaid wedi dioddef colledion trwm ac nid oedden nhw wedi ennill rhyw lawer o dir o’r safleoedd lle glaniwyd yn gyntaf. Dechreuwyd yr ymgilio ym mis Rhagfyr 1915, a chwblhawyd hyn yn gynnar y mis Ionawr canlynol.

Lansio Ymgyrch Gallipoli Gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi pallu ar Ffrynt y Gorllewin erbyn 1915, roedd Pwerau’r Cynghreiriaid yn ystyried ymgyrchu mewn ardal arall lle roedd gwrthdaro, yn hytrach na pharhau â’u cyrchoedd yng Ngwlad Belg a Ffrainc. Yn gynnar yn y flwyddyn honno, fe apeliodd yr Archddug Nicholas o Rwsia i Brydain am gymorth i wynebu ymosodiad y Tyrciaid yn y Cawcasws. (Roedd Ymerodraeth yr Otomaniaid wedi dod i mewn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ochr y Pwerau Canolog, sef yr Almaen ac Awstria-Hwngari, erbyn mis Tachwedd 1914.) Mewn ymateb, fe benderfynodd y Cynghreiriaid lansio ymgyrch lyngesol i gipio Culfor y Dardanelles, sef tramwyfa cul yn cysylltu’r Môr Egeaidd â Môr Marmara yng ngogledd-


orllewin Twrci. Pe bai’n llwyddiannus, fe fyddai cipio’r culfor yn caniatáu i’r Cynghreiriaid ddod at ei gilydd gyda’r Rwsiaid ger y Môr Du, lle gallen nhw gydweithio i gael gwared ar Dwrci o’r rhyfel.

A Wyddoch Chi? Ym mis Mai 1915, fe ymddiswyddodd Prif Arglwydd Môr Prydain, y Llyngesydd John Fisher yn ddramatig oherwydd ei farn bod Prif Arglwydd y Morlys, Winston Churchill wedi camdrafod ymosodiad Gallipoli. Oherwydd i’r trychineb hwn bardduo enw gwleidyddol da prif weinidog y dyfodol, fe ymddiswyddodd o’i swydd ei hun, gan dderbyn comisiwn fel pennaeth ar fataliwn troedfilwyr yn Ffrainc. Gyda Phrif Arglwydd Morlys Prydain, Winston Churchill ar flaen y gad (er gwaethaf gwrthwynebiad cryf y Prif Arglwydd Môr, y Llyngesydd John Fisher, pennaeth Llynges Prydain), dechreuodd y cyrch llyngesol ar y Dardanelles gyda bombardiad pellgyrhaeddol gan longau rhyfel Prydain a Ffrainc ar 19 Chwefror, 1915. Fe adawodd lluoedd Twrci eu ceyrydd allanol ond gwnaethon nhw danio’n drwm yn erbyn llongau ysgubo ffrwydron y Cynghreiriaid a oedd yn agosáu, gan arafu eu cynnydd. Dan bwysau aruthrol i adnewyddu’r cyrch, dioddefodd y Llyngesydd Sackville Carden, comander llynges Prydain yn y rhanbarth, o waeledd nerfol a chafodd ei ddisodli gan yr Is-lyngesydd Syr John de Robeck. Ar 18fed Mawrth, daeth 18 o longau rhyfel y Cynghreiriaid i mewn i’r culfor; roedd gwaith tanio’r Twrciaid, gan gynnwys meins a oedd heb eu datgelu, yn ddigon i suddo tair llong a difrodi tair arall yn ddifrifol.

Dechrau Ymosodiad Gallipoli ar y Tir Yn sgil y cyrch llyngesol aflwyddiannus, dechreuwyd paratoi milwyr i lanio ar Benrhyn Gallipoli ar raddfa fawr. Gwnaeth Ysgrifennydd Rhyfel Prydain, yr Arglwydd Kitchener benodi’r Cadfridog Ian Hamilton fel comander lluoedd Prydain ar gyfer yr ymgyrch; ag ef yn bennaeth, daeth milwyr o Awstralia, Seland Newydd a chytrefi Ffrainc at ei gilydd gyda lluoedd Prydain ar ynys Lemnos yng Ngwlad Groeg. Yn y cyfamser, rhoddwyd hwb i amddiffynfeydd y Twrciaid dan reolaeth y cadfridog Almaenig Liman von Sanders, a ddechreuodd leoli milwyr Otomanaidd ar hyd y lan lle roedd yn disgwyl i filwyr y Cynghreiriaid lanio. Ar 25ain Ebrill, 1915, fe lansiodd y Cynghreiriaid eu hymosodiad ar Benrhyn Gallipoli. Er gwaethaf dioddef colledion trwm, gwnaethon nhw lwyddo i sefydlu dau droedle: yn Helles ar big deheuol y penrhyn, ac yn Gaba Tepe ar yr arfordir Egeaidd. (Rhoddwyd yr enw Cildraeth Anzac ar y safle yn nes ymlaen, i anrhydeddu’r milwyr o Awstralia a Seland Newydd a frwydrodd mor wrol yn erbyn amddiffynwyr penderfynol Twrci i sefydlu’r troedle yno.)


Ar ôl glanio ar y cychwyn, ni allai’r Cynghreiriaid wneud rhyw lawer o gynnydd o’u safleoedd glanio cyntaf, a hynny wrth i’r Twrciaid gasglu mwy a mwy o filwyr ynghyd ar y penrhyn o Ffryntiau Palestina a’r Cawcasws. Mewn ymdrech i ddatrys y sefyllfa, fe laniodd y Cynghreiriaid lawer iawn o filwyr eto ar 6ed Awst ym Mae Sulva, gan gyfuno hyn â chyrch i’r gogledd o Gildraeth Anzac tuag at y tir uchel ger Sari Bair, a chyrch i wrthdynnu sylw yn Helles. Prin iawn oedd y gwrthsafiad i’r glanio annisgwyl ym Mae Sulva, ond oherwydd petruster ac oedi ar ran y Cynghreiriaid, fe arafwyd eu cynnydd ym mhob un o’r tri lleoliad, gan ganiatáu i filwyr wrth gefn yr Otomaniaid gyrraedd ac ategu eu hamddiffynfeydd.

Penderfyniad i Ymgilio o Gallipoli Gyda mwy a mwy o golledion ymhlith y Cynghreiriaid yn Ymgyrch Gallipoli, gwnaeth Hamilton (gyda chefnogaeth Churchill) erfyn ar Kitchener am 95,000 yn fwy o filwyr wrth gefn; cynigiodd yr ysgrifennydd rhyfel brin chwarter y nifer hwnnw. Yn nghanol mis Hydref, fe ddadleuodd Hamilton y byddai’r ymgilio arfaethedig o’r penrhyn yn golygu y bydden nhw’n colli hyd at 50 y cant o’u dynion; o’r herwydd, fe adalwodd awdurdodau Prydain ef a gosod Syr Charles Monro yn ei le. Erbyn dechrau mis Tachwedd, roedd Kitchener ei hun wedi ymweld â’r rhanbarth a chytunodd ag argymhelliad Monro y dylai’r 105,000 i filwyr y Cynghreiriaid a oedd ar ôl ymgilio. Fe awdurdododd llywodraeth Prydain ddechrau’r ymgilio o Fae Sulva ar 7 Rhagfyr; fe adawodd y milwyr olaf Helles ar 9 Ionawr, 1916. Ar y cyfan, fe gymerodd ryw 480,000 o filwyr lluoedd y Cynghreiriaid ran yn Ymgyrch Gallipoli, ac o’r rhain collwyd mwy na 250,000 o ddynion, gan gynnwys rhyw 46,000 a fu farw. Ar ochr y Tyrciaid, collwyd rhyw 250,000 o ddynion yn yr ymgyrch, gyda 65,000 o’r rheiny wedi’u lladd.


Cenedlaethau Ymlaen: Llanfyllin Cofeb Ryfel Llanfyllin





Llanfyllin Milwyr Casgliad o ffotograffau yn eu trefn gan R. A. Bryan o Sgwadron A Marchoglu Iwmyn Sir Drefaldwyn yn reidio i ffwrdd i’r rhyfel i lawr y Stryd Fawr fore dydd Mawrth 11eg Mawrth 1914. Roedd y bore’n hyfryd, ac roedd y dynion a’r ceffylau’n gwneud sioe dda brin. Daeth pawb allan i’w gweld nhw’n cychwyn.


Fred Smith Ganwyd ar 1af Ionawr 1986 Bu farw ar 27ain Medi 1977


Gallwch chi weld bathodyn llabed Cymrodyr y Rhyfel Mawr Fred Smith. Dyfarnwyd Seren 1914-15, Medal Rhyfel Prydain, 1914-18 a Medal Buddugoliaeth y Cynghreiriaid iddo hefyd.


Bathodyn Llabed â Rhif Swyddogol a Phatrwm Bach Cymrodyr y Rhyfel Mawr

Lluniwyd Cymrodyr y Rhyfel Mawr ym 1917 ar gyfer cyn-filwyr a byddinwragedd a oedd wedi gwasanaethu neu a oedd wedi’u rhyddhau o wasanaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedden nhw’n un o’r pedair cymdeithas cyn-filwyr gwreiddiol a gyfunwyd ym mis Mai 1921 i lunio’r Lleng Brydeinig.

Medalau Ymgyrchoedd Prydain Roedd yna bum medal ymgyrchoedd ar gael i unigolion a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gellid dyfarnu tair ar y mwyaf o’r medalau hyn i unigolyn, boed wryw neu fenyw, er bod yna nifer fach o eithriadau i’r rheol. Dyfarnwyd medalau gwasanaeth yn awtomatig i rengoedd eraill, ond roedd yn rhaid i swyddogion neu eu perthynas agosaf ymgeisio amdanyn nhw. Roedd enw’r sawl a oedd yn derbyn y fedal yn cael ei argraffu arni, ac roedd fel rheol yn cynnwys rhywfaint neu’r cyfan o’r canlynol: rhif gwasanaeth, rheng, enw cyntaf neu lythyren gyntaf, cyfenw ac uned filwrol (Catrawd neu Gorfflu). Roedd hyn naill ai ar rimyn y fedal neu mewn cas seren, ar y cefn. Yn ogystal â’r pum medal ymgyrchoedd, roedd bathodyn ar gael i swyddogion a dynion a oedd wedi’u rhyddhau ag anrhydedd neu a oedd wedi ymddeol oherwydd salwch neu glwyfau o wasanaeth rhyfel. Setiau Pip, Squeak a Wilfred Tair o fedalau ymgyrchoedd Prydain: Seren 1914-15, Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth. Pip, Squeak a Wilfred yw’r enwau annwyl ar dair medal ymgyrchoedd y Rhyfel Byd Cyntaf — Pip ar Seren 1914 neu Seren 1914-15, Squeak ar Fedal Rhyfel Prydain a Wilfred ar y Fedal Buddugoliaeth. Dyfarnwyd y medalau hyn yn bennaf i’r Dirmygedig Rai (Byddin Ymgyrchol Prydain) ac, wrth ddilyn y confensiwn, byddai’r tair medal yn cael eu gwisgo gyda’i gilydd ac yn yr un drefn o’r chwith i’r dde wrth edrych arnyn nhw o’r tu blaen. Y set o dair medal, neu o leiaf Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth, yw’r medalau sydd fwyaf tebygol o ddod i’r golwg ymhlith eiddo etifeddol teuluol.


Pan ddyfarnwyd medalau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr 1920au, fe gyhoeddwyd stribed comig poblogaidd newydd ar yr un pryd ym mhapur newydd y Daily Mirror. Ysgrifennwyd ef gan Bertram J. Lamb (Uncle Dick), a thynnwyd y lluniau gan y cartwnydd Austin Bowen Payne (A. B. Payne). Pip oedd y ci, Squeak y pengwin a Wilfred y gwningen ifanc. Y gred yw mai “Pip-squeak” oedd y llysenw ar fatsmon A. B. Payne yn ystod y rhyfel, a dyna o ble y daeth y syniad ar gyfer enwau’r ci a’r pengwin. Am ryw reswm, daeth pobl i gysylltu tri enw’r cymeriadau â’r tair medal ymgyrchoedd a oedd yn cael eu dyfarnu ar y pryd i filoedd lawer o filwyr a oedd yn dychwelyd, a dyna y galwyd nhw byth oddi ar hynny.

“Mutt a Jeff” Mewn modd tebyg, pan mai dim ond Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth sy’n cael eu harddangos gyda’i gilydd rhoddir yr enwau "Mutt a Jeff" arnyn nhw weithiau.


Seren 1914 - 15 Sefydlwyd hon ym mis Rhagfyr 1918

Mae ‘Pip’ yn enw arall arni. Awdurdodwyd y fedal efydd hon ym 1918. Mae’n debyg iawn i Seren 1914 ond dyfarnwyd hi i amrywiaeth ehangach o lawer o bobl. At ei gilydd, cafodd ei dyfarnu i bawb fu’n gwasanaethu ar unrhyw faes y gad yn erbyn yr Almaen rhwng 5ed Awst 1914 ac 31ain Rhagfyr 1915, heblaw am y rheiny a oedd yn gymwys i dderbyn Seren 1914. Yn yr un modd, nid oedd y rheiny a dderbyniodd Medal Gwasanaeth Cyffredinol Affrica neu Fedal 1910 y Swdan yn gymwys i dderbyn y wobr. Fel Seren 1914, ni fyddai Seren 1914-15 yn cael ei dyfarnu ar ei phen ei hun. Roedd yn rhaid i’r sawl a oedd yn ei derbyn fod wedi derbyn Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth. Mae’r cefn yn blaen gyda rhif gwasanaeth y milwr, ei reng, ei enw a’i uned wedi’u hargraffu arno. Dyfarnwyd rhyw 2.4 miliwn o’r medalau hyn, yn ôl yr amcangyfrif.


Medal Rhyfel Prydain, 1914 – 1918 Sefydlwyd hon ar 26ain Gorffennaf 1919

Mae ‘Squeak’ yn enw arall arni. Dyfarnwyd y fedal arian neu efydd i swyddogion a dynion Lluoedd Prydain a’r Ymerodraeth a aeth naill ai i faes y gad neu a ymunodd â gwasanaeth dramor rhwng 5ed Awst 1914 ac 11eg Tachwedd 1918, gan gynnwys y dyddiadau hynny. Estynnwyd hyn yn ddiweddarach i wasanaethau yn Rwsia, Siberia a rhai ardaloedd eraill ym 1919 a 1920. Dyfarnwyd tua 6.5 miliwn o Fedalau Rhyfel Prydain. Roedd rhyw 6.4 miliwn o’r rhain yn fersiynau arian o’r fedal hon. Dyfarnwyd tua 110,000 o’r fersiwn efydd yn bennaf i Gorffluoedd Llafur Tsieina, Malta ac India. Mae pen Siôr y Pumed i’w weld ar du blaen y fedal. Roedd rhif gwasanaeth y milwr, ei reng, ei enw a’i uned wedi’u hargraffu ar y rhimyn.


Medal Buddugoliaeth y Cynghreiriaid

Mae ‘Wilfred’ yn enw arall arni. Penderfynwyd y dylai pob un o’r cynghreiriau ddyfarnu eu medal buddugoliaeth efydd eu hunain gyda dyluniad tebyg, geiriau cyfatebol tebyg a rhuban a oedd yn union yr un fath. W. McMillan wnaeth ddylunio medal Prydain. Ffigur clasurol ag adenydd yn cynrychioli buddugoliaeth sydd i’w weld ar y tu blaen. Dyfarnwyd tua 5.7 miliwn o fedalau buddugoliaeth. Yn ddiddorol ddigon, cyfyngwyd mwy ar y rhai a oedd yn gymwys i dderbyn y fedal hon ac nid pawb a dderbyniodd Medal Rhyfel Prydain (‘Squeak’) wnaeth dderbyn y Fedal Buddugoliaeth (‘Wilfred’) hefyd. Fodd bynnag, ar y cyfan, gwnaeth pawb a dderbyniodd ‘Wilfred’ dderbyn ‘Squeak’ hefyd a gwnaeth bawb a dderbyniodd ‘Pip’ dderbyn ‘Squeak’ a ‘Wilfred’ hefyd. Roedd rhif gwasanaeth y milwr, ei reng, ei enw a’i uned wedi’u hargraffu ar y rhimyn.




Edward Jones

Ganwyd:

tua 1893, Cledfron, Llanfyllin

Oedran Ymrestriad: 22 Rhif Gwasanaeth:

110198

Catrawd/Gwasanaeth: Magnelwyr Maes Brenhinol


David Richard Jones

Rheng:

Gynnwr

Rhif Gwasanaeth:

150584

Ganwyd:

tua 1898, Llanfyllin

Oedran:

19

Dyddiad Marw:

16/11/1917

Catrawd/Gwasanaeth:

Magnelwyr y Garsiwn Brenhinol, 126ain Magnelwyr Gwarchae

Lleoliad ar Ddyletswydd:

Ffrainc a Fflandrys

Tynged:

Bu farw gartref

Coffawyd:

Ffrainc

Claddwyd:

Mynwent Llanfyllin, Bedd Rhif 440

Rhiant:

Mrs. Martha Jones, o Deras Plas Spa, Llanfyllin

David Richard Jones oedd milwr cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf i gael ei gladdu yn y fynwent yn Llanfyllin ym mis Tachwedd 1917. Cyfarfuwyd â’i arch yn yr orsaf a chafodd ei hebrwng i


gapel y Tabernacl ac yna i’r fynwent lle roedd yna fintai saethu. Roedd holl urddasolion y dref yno â thorchau. Mae bathodyn y gatrawd i’w weld ar y garreg fedd o lechen.


William Gordon Jones


Dyfarnwyd y Goflech ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i berthynas agosaf holl bersonél lluoedd Prydain a’r Ymerodraeth a gafodd eu lladd o ganlyniad i’r rhyfel. Roedd y coflechi (y gellid eu disgrifio fel placiau bychain) wedi’u gwneud o efydd, ac felly roedd “Ceiniog y Dyn Marw” yn enw poblogaidd arnyn nhw, oherwydd eu bod nhw’n edrych yn debyg i ddarn ceiniog a oedd rhywfaint yn llai.






Richard David Pugh

Rheng:

Cloddiwr

Rhif Gwasanaeth:

452300

Ganwyd:

Llanfyllin

Catrawd/Gwasanaeth:

Y Ffiwsilwyr Brenhinol (Catrawd Llundain)

Gwobrau Dewrder: Y Fedal Filwrol (M.M.). Sefydlwyd y Fedal Dewrder Lefel 3 hon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar 25ain Mawrth 1916, a chyflwynwyd hi yn rhifyn 29535 y London Gazette, (wedi’i hôl-ddyddio i 1914) i bersonél Byddin Prydain neu luoedd eraill, a phersonél gwledydd y Gymanwlad, ar reng is na’r rhengoedd â chomisiwn. Dyma oedd yn cyfateb i’r Groes Filwrol (M.C.) i rengoedd eraill (dyfarnwyd yr M.C. i Swyddogion â Chomisiwn ac, yn bur anaml, i Swyddogion Gwarantedig, a allai hefyd dderbyn y Fedal Filwrol). Dyfarnwyd hon i R. D. Pugh am weithredoedd dewr a theyrngarwch i ddyletswydd â ffrwydron yn tanio o’i amgylch neu am weithredoedd dewr unigol neu gysylltiedig nad oedden nhw’n ddigon i haeddu’r Fedal Ymddygiad Neilltuol. Gwybodaeth y Gazette:

Rhifyn 30188 y Gazette. M.M. Bu’n bleser gan Ei Fawrhydi’r Brenin ddyfarnu’r Fedal Filwrol am ddewrder ar Faes y Gad i’r Gwragedd, y Dynion a’r Swyddogion Heb Gomisiwn a restrir isod.

Dyddiad y Gazette: Tudalen y Gazette:

17/07/1917 7283


Roedd yn byw yn 3 Teras Rhiwlas a nodwyd mai cynorthwyydd oedd ei alwedigaeth. Gallwch chi weld y medalau a ddyfarnwyd iddo ynghyd â’r ddyfynneb roedd y maer wedi’i llofnodi ar y pryd, yn ymwneud â’i fedal filwrol.



Bertie Jones

Rheng:

Preifat

Rhif Gwasanaeth:

275693

Ganwyd:

Llanfyllin

Dyddiad Marw:

27/09/1918

Catrawd/Gwasanaeth:

Catrawd Manceinion, Bataliwn 1af/7fed Bataliwn

Lleoliad ar Ddyletswydd: Ffrainc a Fflandrys Tynged:

Lladdwyd ar Faes y Gad

Coffawyd:

Ffrainc


Milton Myal Richards Mr John Richards (died 1905)

Mrs Sarah Richards (Mother)

Rheng:

Preifat

Rhif Gwasanaeth:

31467

Dyddiad Marw:

02/09/1918

Oedran:

20

Catrawd/Gwasanaeth:

Bataliwn 10, Cyffinwyr De Cymru

Coffawyd:

Mywent VIS-EN-ARTOIS

Rhiant:

Mrs. Sarah Richards, of Bronhaul, Bwlchyddan, Llangedwyn, Oswestry, Salop


Thomas Derfel Hughes


William Henry Edwards


Richard Griffiths

1882 – 1961 Bu Richard (Dick) yn ymladd yn y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn frawd yng nghyfraith i Edward Delme Evans a laddwyd yn Ypres ym mis Tachwedd 1917. Fe briododd Edith ym 1918 a bu’n byw yn Llanfyllin tan fu farw. Mae ei wyrion a’i orwyrion yn dal i fyw yn Llanfyllin ac mae ei wyres yn dal i fyw yn ei dŷ.


Edward Delme Evans

Roedd Delme (mab E. a Jane Evans, Tanyard Rown, Llansanffraid)yn breifat yn y Gatrawd Gymreig (55318). Magwyd ef yng Nghroesoswallt a Maesmawr. Roedd ei dad yn glocsiwr ac roedd ei chwaer, Edith, yn briod â Richard Griffiths. Lladdwyd Delme ym Mrwydr Ypres ar 17eg Tachwedd 1917 ar ôl dychwelyd i’r ffrynt ar ôl llawdriniaeth pendics. Dim ond 20 oed ydoedd. Ni wyddys am unrhyw fedd i Delme ond mae ei enw i’w weld ar gofeb Tyne Cot yn Zonnebeke yng Ngwlad Belg. Mae hefyd wedi’i gofio ar y gofeb ryfel yng Nghegidfa.


Robert Lloyd

Mae’n debyg iddo ofalu am y carilon yn Eglwys Sant Myllin. Ar ôl ei farwolaeth, nid oedd unrhyw un arall yn gwybod sut i weithio’r carilon ac felly nid yw wedi’i ddefnyddio erioed ers hynny.


Samuel Evans

Samuel Evans a’i ferch Sarah Jane. Tynnwyd y llun ar wibdaith gweithwyr y Rheilffordd i’r Rhyl, wythnos cyn iddo ymuno â’r fyddin.



Allen Evans

Lladdwyd ar faes y gad, 1918


Tom Ellis (pellaf ar y dde, gyda’i getyn)


Charlie Jones



Disgiau enwau y gwnaeth Charles Jones eu darganfod


Edward Jones

Fe roddodd y ffotograff hwn i’w ddyweddi ond, ar ôl y rhyfel, daeth y dyweddïad i ben


Ed Hall



David Evans



Bernard Jackson

Daeth o Fanceinion ar wyliau saethu yn Llanfyllin, gan aros yn y gwesty o’r enw Cain Valley erbyn hyn. Cyfarfu ag Edith Watkins a oedd yn athrawes ac, yn y pen draw, fe briododd y ddau a symud i Awstralia.


William Parkes

1892 - 1918 Ymunodd â’r fyddin ym 1915 fel rhan o’r Marchfagnelau Brenhinol. Cafodd ei ladd ym Mrwydr y Somme 1918 (Ewythr Thomas Parkes, Ysgubornewydd a Hen Ewythr Leslie, Ken, David a Dale Parkes)


Nathaniel Jones yn yr Aifft


Robert Rowland Griffiths Newman

Mam:

Elizabeth Griffiths, Bwlch-y-ddar

Tad:

Robert Newman, Gwarchodlu’r Ffiwsilwyr Albanaidd, Windsor

Ganwyd:

Windsor, 17/8/1972

Magwyd ef ym Mwlch-y-ddar ac aeth i Ysgol Llangedwyn. Listiodd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Aberhonddu cyn 1909. (Cofnodion y fyddin wedi’u colli yn y Blits) Yn briod ag Annie Whelton, Plant wedi’u geni ym Marics Wrecsam a Choed-poeth. Gwasanaethodd ym Malta, gan ddychwelyd ym 1914 i fynd i Ffrainc. Cafodd ei ladd ym mrwydr Gouzeaucourt, ym Mhencadlys y Bataliwn, yn Rocquigny ar 19eg Medi 1919. (Uwch-sarsiant Catrodol Dros Dro). Claddwyd ef gyntaf yno ar 21ain Medi ac, yn nes ymlaen, symudwyd ef i’r Fynwent Brydeinig yn Bancourt, Pas de Calais, 2/G/6. Wedi’i goffáu ar Gofeb Ryfel Coed-poeth.


Idris Evans, The Mount


Idris Evans & Robert Jones


Milwyr – enwau’n anhysbys









Gartref yn Llanfyllin

Sioe olaf Llanfyllin, rhyw fymryn cyn y cyhoeddwyd bod y Rhyfel Byd Cyntaf ar ddechrau


Y Maer, John Lomax o Llwyn yn cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i’r Capten William M. Evans (DSO) a’r Uwch-gapten W. M. Dugdale (DSO) ym mis Hydref 1918. Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd y Dref ond fe’i hailgrëwyd yng ngardd y rheithordy. Gallwch chi gael gwybod mwy yn llyfr Cymdeithas Ddinesig Llanfyllin, Llanfyllin: Ei Hanes Trwy Luniau ar dudalen 58. •

Sefydlwyd cronfa gymorth ar gyfer ffoaduriaid o Wlad Belg ym mis Rhagfyr 1914 a chyrhaeddodd 6 Belgiad yn yr orsaf am 4.30pm ar 21ain Rhagfyr. Cawson nhw groeso cynnes, â’r platfform yn llawn dop â phobl groesawgar Llanfyllin. Rhoddwyd lle iddyn nhw fyw yng Ngheunant ar y Stryd Fawr a dysgodd y plant ysgol Anthem Genedlaethol Gwlad Belg. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu llawer o ferched yn gweithio’n gwneud arfau rhyfel ac - yn Llanfyllin – yn gweithio ar y tir – Sefydlwyd ‘Clwb Gweithwyr i Ferched’ yn siop Mr Joseph Jones ar y Stryd Fawr. Dechreuwyd cyfyngu ar fwyd ar ddiwedd 1917. Roedd y ‘Swyddfa Fwyd’ yn 10 Stryd y Farchnad – lle gafodd cardiau dogni eu dosbarthu.


Cyrhaeddodd Carcharorion Rhyfel Almaenig ym 1918 a buon nhw’n gweithio ar y tir – roedd eu gwersyll ym Mharc Greenhall. (Carcharorion Rhyfel Ffrengig yn 19C, Almaenwyr ac Eidalwyr yn 20C). Pan ddychwelodd y milwyr rhoddwyd cinio iddyn nhw yn yr hen Neuadd Ymarfer. Fe safodd Mrs Tunstill – merch fach iawn ar y pryd – ar fwrdd, gyda milwyr o’i hamgylch – mae’n siŵr i gyd yn smygu ac yn yfed – a chanu ‘Daddy wouldn't buy me a bowwow.’





Cerdyn post a dderbyniwyd ar 7fed Medi 1917, Llanfyllin









Croglen Decstil Llanfyllin

Wedi’i gwneud gan: Georgette Marshall , Pat and Nia Jones, Jo Eddy, Rhian Davies Y testun yw “A gwaedd y bechgyn lond y gwynt - A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw” Darn tirlun haniaethol, yn cynnwys tiwn ddirgel y carilon – botymau gwyn Map o Lanfyllin Lle roedd y gofeb yn wreiddiol yn y dref, rydyn ni wedi defnyddio Iwmyn Ceffylau Cymru. 34 o fotymau coch (pabïau) Y goeden unig Ffotograffau wedi’u hargraffu ar ffabrig




Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Llanfyllin

Wedi’n hysbrydoli gan archifau o’r gymuned, fe wnaethom bortreadau paent a chlai o’r milwyr o Lanfyllin a fu’n ymladd ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaethom gyflwyno’r ffilm er cof am y 34 dyn o’r ardal a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffilm hefyd wedi ei hysbrydoli gan Fedd Rhyfel Preifat William Gordon Jones. Mae’n dweud: “Until the day breaks and the shadows fall – Mother.” Anfonodd Llanfyllin y ganran uchaf o recriwtiaid ym Mhowys. Cawsom ein cyffwrdd hefyd gan gerdyn post gan y bechgyn ar Ffrynt y Gorllewin: “Here we are again! Greetings to Father and Mother. – Here’s Luck! I've lots of pleasant memories to recall Of good old times at home with you and all. Let's hope there's just as happy times to come When some fine day ahead the boys come home."

Gallwch chi weld yn animeiddiad yma: https://youtu.be/tIkfoEFmZfk?list=PLQi4Oa6wIyldVTUIwEc4dQG8pTTivnKdo


Cenedlaethau Ymlaen: Machynlleth Cofeb Ryfel Machynlleth


Dadorchuddiwyd y gofeb hon ym mis Ebrill 1924 gan Farcwis Dinas y Deri. Roedd ei eiddo yn ardal Machynlleth yn cynnwys y Plas. Ychwanegwyd enwau pobl a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd at y gofeb yn ddiweddarach. Dyluniwyd y gofeb gan y pensaer James Leonard Williams a oedd yn gweithio yn Llundain. Mae “Coffa’r Dewr” wedi’i arysgrifennu yn agos i ben y gofeb. (Ymchwil gan Rab Jones)


Milwyr Machynlleth Thomas Owen Davies

Cafodd yr Is-Gorporal Thomas Owen Davies, rhif gwasanaeth 428278, ei eni ym Machynlleth ym 1893 a bu’n byw yn Stryd y Bont ac, ar ryw adeg, fe ymfudodd y teulu i Ganada. Ym 1915, ac yntau’n 22 oed, fe ymunodd â Byddin Ymgyrchol Dramor Canada. Mae hen doriad o bapur newydd a oedd yn ymwneud â’r Is-Gorporal T. O. Davies yn disgrifio sut roedd ei fataliwn, a fu’n gwasanaethu yn Ypres, Gwlad Belg, fwy neu lai wedi’i ddinistrio yn ystod cyrch gan luoedd yr Almaen a oedd wedi casglu at ei gilydd ar 3ydd Mehefin, 1916. Fe adawodd yr Is-Gorporal Davies y ffosydd a dod â dynion a oedd wedi’u hanafu yn ôl o Dir Neb â chanonau a gynnau peiriant yr Almaenwyr yn tanio o’i gwmpas. I’w gydnabod am hyn, argymhellwyd ei fod yn derbyn y Fedal Ymddygiad Neilltuol ond, i bob golwg, ni chafodd ei dyfarnu iddo erioed. Ym 1917, fe gafodd TB ar ôl 18 mis yn y ffosydd, a chafodd ei ryddhau o’r fyddin. Bu farw ym 1921. Dyfarnwyd Croes Goffa Canada a Seren 1914-1915 i Thomas, â’r llythrennau KIA – am ‘Killed in Action’. Anfonwyd y medalau at ei fam, Mary Ann Davies, ym Machynlleth, ac roedden nhw am ei farwolaeth o ganlyniad i’w wasanaeth yn y rhyfel, yn hytrach nag am gael ei ladd ar faes y gad. Yn 2005, daeth y medalau i’r golwg mewn desg ysgol ym Machynlleth. Daeth Lis Puw, sef pennaeth Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth, o hyd i’r medalau pan roedd hi’n clirio set o ddroriau. Mae Mrs Puw, a oedd wedi bod yn bennaeth yn yr ysgol am fis yn unig, yn credu y gwnaed rhodd o’r medalau i’r ysgol.


David Jones

Roedd David Jones yn hanu o Fachynlleth. Roedd yn yr adfyddin a chafodd ei alw i fyny’n syth ar ddechrau’r rhyfel. Fe ymunodd â’i gatrawd yn y Drenewydd a daeth pawb yn y dref allan ffarwelio â nhw. Roedd eu pecynnau’n drwm ac yn cynnwys 200 rownd o fwledi. Gan nad oedd yna orsaf fyddin yn barod ar eu cyfer yn Northampton, lle roedden nhw wedi’u hanfon, gwnaethon nhw aros gyda theuluoedd lleol. Yn ôl yr awdur H. E. Bates o Northampton roedd y lle yn “filled with babbling Welshmen”. Ar ôl mis cafodd eu huned ei lleoli:


“I left school at 12 to work for WH Smith at Machynlleth station... 1914… Excitement everywhere, but all inclined to treat things as a joke, more or less. On being posted east, we marched to the coast on country roads taking 12 hours longer than we should have. Staying at a farm in Mickham they nicknamed Muckham. They lived off rations and pond water to drink so they didn’t wash for a week and Private Jones caught pneumonia… we’d never dreamt that such primitive conditions could exist in England.” Ar arfordir Norfolk, cyfarfu â’i uned newydd: “They were natives of Bala and Conwy district, farm lads, quarry men etc. a hard working lot, merry crowd, a bit rough perhaps, but true as steel all the same.” Cafodd David Jones o 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ei anfon i Gallipoli ym 1915. Pan chwythodd siel canon yn y tywod, claddwyd corff cyfan y Preifat David Jones, heblaw am ei draed, a gadawyd ef yno gan fod pawb yn meddwl ei fod yn farw. Ddeuddydd yn ddiweddarach, sylwodd rhywun fod ei draed yn symud. Wrth iddo gael ei ddatgladdu, daeth at ei hun a’r peth cyntaf a glywodd oedd “Good God. The Sergeant’s still alive…” Cludwyd ef yn gyflym i’r ysbyty milwrol yn Alexandria. Yn ystod yr amser maith y bu’n aros yno, fe ddysgodd ddigon o Arabeg i allu sgwrsio â’r staff Eifftaidd. Yn y diwedd, fe anfonwyd ef yn ôl i Loegr. Ym 1916, pan roedd ar seibiant, fe briododd Sarah. Fe ryddhawyd ef, ond fe ailymunodd â’r fyddin a derbyniwyd ef oherwydd ei brofiad a’i hanes. Fe ailymunodd â’r Peirianwyr Brenhinol a threuliodd weddill y rhyfel yn Ffrainc, yn gyrru trenau ffrwydron rhyfel i’r ffrynt.

Y Sarsiant David Jones yn ei swyddfa yn Alexandria, yr Aifft


Private Haydn Lewis

Bataliwn 1af, Y Gwarchodlu Cymreig. 2172. Bu farw 29ain Mawrth 1919 yn 25 mlwydd oed. Mab Henry a Jane Lewis. Mynwent Anghydffurfiol Machynlleth. Gweithiodd cyn y rhyfel yn siop groser a becws y teulu yn Nhŷ’r Tŵr (Tower House), ger Cloc Tref Machynlleth. Gwasanaethodd dau o’i frodyr hefyd

Y Preifat Thomas Arnold, Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. 39053. Bu farw ar 10fed Tachwedd 1917, yn 26 oed. Wedi’i goffáu ar Gofeb Tyne Cot. Cafodd ei eni yn Heol Pentrerhedyn, Machynlleth. Yn fab i’r saer maen David Arnold a Mary Arnold (Davies gynt). Roedd y teulu’n byw ym Mythynnod Pantlludw, Machynlleth. Roedd Thomas yn wagenwr cyn y rhyfel. Fe wasanaethodd ei bedwar brawd yn y fyddin hefyd.

Yr Is-Gorporal Thomas Owen Davies, 7fed Bataliwn Troedfilwyr Canada. 428278. Bu farw o dwbercwlosis ym Machynlleth ar 1af Mawrth 1921, yn 29 oed. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Penegoes. Yn fab i Owen Davies a Mary Ann Davies (Hurley gynt). Fe ymfudodd Thomas i Ganada rhwng 1911 a 1915. Mae rhai ffynonellau’n awgrymu y dyfarnwyd y Fedal Ymddygiad Neilltuol iddo.

Y Corporal Dros Dro Jethro Davies, Bataliwn 1af, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. 10507. Bu farw ar 25ain Medi 1915, yn 22 oed. Cofeb Loos, Ffrainc. Mab y ffermwr Thomas Davies a Mary Davies (Roberts gynt), o 29 Heol Pentrerhedyn. Ymunodd Jethro â’r Fyddin ym mis Tachwedd 1910, mae’n debyg ar ôl dweud celwydd am ei oedran.

Y Parch. Emlyn Holt Davies, Cymdeithas Gristnogol Dynion Ifanc. Bu farw ar 18fed Mawrth 1918, yn 43 oed. Mynwent Filwrol Cerisy-Gailly. Yn fab i’r crydd David Edward Davies a Mary Davies (Holt gynt). Roedd y teulu’n byw ar Heol Penrallt, Machynlleth, tan fu Mary farw. Fe ailbriododd David a symud i Aberystwyth. Cafodd Emlyn ei addysgu ym Mangor a Llundain, a daeth yn genhadwr yn Calcutta, India. Ar ôl problemau â’i iechyd, daeth yn Weinidog yn


Lloegr. Ym 1910, fe briododd Winifred Mary Williams, a chafodd dair merch â hi. Ym 1917 fe aeth i weithio gyda’r YMCA ar Ffrynt y Gorllewin, gan roi gofal eglwysig i filwyr Indiaidd, ond fe gafodd lid yr ymennydd a bu farw mewn ysbyty milwrol. •

Y Preifat Rowland Jones, 2il/5ed Bataliwn Garsiwn, Troedfilwyr Ysgafn Durham. 78068. Bu farw ar 30ain Rhagfyr 1919, yn 40 oed. Mynwent yr Anghydffurfwyr ym Machynlleth. Yn fab i’r gwas fferm Edward Jones a Margaret Jones (Ashton gynt), o 61 Heol Maengwyn, a 14 Teras Iorwerth yn ddiweddarach. Cafodd ei anafu pan roedd yn gwasanaethu yn Salonika gyda Chatrawd Swydd Gaer ym 1917. Pan roedd yn teithio adref fel claf, trawyd ei long â thorpido ond fe oroesodd ac, yn y diwedd, bu’n gwasanaethu gartref gyda Throedfilwyr Ysgafn Durham.

Y Magnelwr Dros Dro David Lewis, Magnelwyr y Garsiwn Brenhinol. 187297. Bu farw ar 14eg Ebrill 1919, yn 26 oed. Mynwent y De, Cologne. Yn fab i’r garddwr William Lewis a Sarah Lewis, o Dŷ Meirion, Derwenlas. Rhoddodd y gorau i astudio yng Ngholeg Normal Bangor i ymuno â’r Fyddin, gyda Chatrawd Frenhinol y Magnelwyr i gychwyn. Trosglwyddwyd ef i Fagnelwyr y Garsiwn Brenhinol ym mis Hydref 1917. Fe oroesodd y rhyfel ond parhaodd i wasanaethu yn y Fyddin, yn yr Almaen. Yno, daeth yn sâl o bliwro-pericarditis mewn ysbyty maes ym mis Mawrth 1919, a bu farw ym mis Ebrill.

Y Preifat Percy Lewis, 3ydd/7fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. 4352. Bu farw ar 3ydd Mai 1916, yn 33 oed. Mynwent yr Anghydffurfwyr ym Machynlleth. Yn fab i’r saer John Lewis a’r groser Jane Lewis, o Dŷ Milford, 59 Heol Maengwyn, Machynlleth. Fe raddiodd o Aberystwyth a bu’n addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd cyn ymuno â’r fyddin. Daeth yn sâl pan roedd yn hyfforddi a bu farw yn yr ysbyty yng Nghaer.

Y Preifat Roderick Roberts, 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. 27355. Bu farw ar 16eg Hydref 1919, yn 23 oed. Mynwent yr Anghydffurfwyr ym Machynlleth. Yn fab i’r mwyngloddiwr plwm John Roberts a Jane Roberts (Hughes gynt), o 1 Vale View, Machynlleth. Bu’n gweithio fel bachgen papurau newydd gyda WH Smith yng ngorsaf reilffordd Machynlleth cyn y rhyfel. Gollyngwyd ef yn wael o’r fyddin yn y Dwyrain Canol ym 1918.

(Cael gwybod mwy: http://www.machynlleth.info/flyer_final2.pdf)


Gartref ym Machynlleth

Ffotograff o Ferched Byddin y Tir, ger Machynlleth, rhyw 1917


Croglen Decstil Machynlleth

Wedi’u hysbrydoli gan gardiau post sidan a anfonwyd ac a dderbyniwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe greodd y cyfranogwyr eu negeseuon eu hunain – i filwyr y gorffennol ac i bobl nawr. Argraffwyd eu cardiau post yn ddigidol ar sidan a’u gwnïo ar barasiwt i chwifio’n ysgafn fel baneri gweddïo, gydag enwau o Gofeb Ryfel Machynlleth yma ac acw yn eu plith. Plant o Flynyddoedd 4 a 5 Ysgol Gynradd Machynlleth a wnaeth y gwaith hwn, ynghyd ag aelodau o Grŵp Celfyddydau Machynlleth – Cymdeithas Pob Artist (oedolion 50+ oed) gyda’r artist Becky Knight.


Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Machynlleth

Cawsom ein hysbrydoli gan y senotaff ym Machynlleth a’r holl filwyr a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwnaeth y disgyblion fodel o filwr a phabi yr un, ynghyd â darlunio golygfa o’r frwydr ar gyfer yr animeiddiad. Fe wnaeth stori arbennig gan ddyn lleol o Fachynlleth ein hysbrydoli, sef David Jones a oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd ac a ymunodd â’r fyddin a chael ei yrru allan i Ffrynt y Dwyrain. Ar ôl cael ei anafu, nid oedd am aros adref a gwirfoddolodd eto gan ymuno â Pheirianwyr y Fyddin a gweithio ar y rheilffyrdd yn danfon arfau rhyfel i Ffrynt y Gorllewin tan ddiwedd y rhyfel, a oedd yn waith peryglus iawn. Straeon am ddewrder ac ymrwymiad anhunanol i ennill y rhyfel a ysbrydolodd y disgyblion i wneud eu ffilmiau a deall mwy am ryfel a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl. Cafodd pob disgyblu enw milwr cyffredin neu gorporal o’r rhestr gwasanaethau o Fachynlleth er mwyn iddynt geisio deall y dyn ifanc a gerddodd y strydoedd ac a oedd yn byw yn nhai Machynlleth 100 mlynedd yn ôl. Roedd hi’n bwysig fod y bobl ifanc a oedd yn rhan o’r ysgol gyfan yn deall y golled a deimlwyd ar draws Powys o’u cymunedau eu hunain.

Gallwch chi weld yn animeiddiad yma: https://youtu.be/cQGiQ_J78_s?list=PLQi4Oa6wIyldVTUIwEc4dQG8pTTivnKdo


Cenedlaethau Ymlaen: Y Drenewydd Cofeb Ryfel y Drenewydd




Milwyr – Y Drenewydd Ernest William Norton

Rheng:

Comodôr yr Awyrlu

Ganwyd:

14eg Mai 1893, y Drenewydd

Catrawd/Gwasanaeth: Asgell Rhif 1 RNAS, Sgwadron Rhif 6 RNAS Dyfarniadau:

Y Groes Gwasanaeth Neilltuol

Dyddiad Marw:

23/05/1966

Dechreuodd Comodôr yr Awyrlu Ernest William Nortan ei yrfa filwrol fel archbeilot yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe enillodd naw buddugoliaeth yn yr awyr. Ar 20fed Hydref 1916, pan roedd dal yn Awyr-Lefftenant, fe enillodd Norton y Groes Gwasanaeth Neilltuol am ddinistrio balŵn hofran y gelyn pan roedd ar ddyletswydd gwyliadwriaeth. Roedd Norton yn hedfan ar ran Asgell 1 ac yn defnyddio Nieuport gyda rocedi Le Prieur. Yn nes ymlaen, trosglwyddwyd ef i Sgwadron Llyngesol 6 fel Awyr-Gomander. Ar 8fed Chwefror 1917, fe achosodd

i beilot awyren ragchwilio’r gelyn golli rheolaeth a mynd i lawr. Daeth gweddill ei fuddugoliaethau, pob un yn erbyn awyrennau ymladd Albatros, ym mis Ebrill 1917; dwy yr un ar y 5ed a’r 9fed, a thair ar y 29ain. Yn gyfan gwbl, fe ddinistriodd falŵn a thair awyren ymladd y gelyn, ac achosodd i beilotiaid pum awyren y gelyn golli rheolaeth a mynd i lawr. Fe oroesodd gwymplaniad ar 9fed Ebrill a losgodd ei awyren yn lludw. Ernest oedd y dyn cyntaf o Sir Drefaldwyn i ddysgu i hedfan.


Clement Norton gyda’i ddau fab Edgar ac Ernest. Bu’r ddau fab yn gwasanaethu ar y ffrynt. Daeth Edgar, ar y chwith, yn lefftenant yn y fyddin a bu fawr o malaria ym Mhalestina ym 1918. Roedd diffyg meddyginiaeth a diffyg paratoi milwyr yn iawn yn gyfrifol am gryn salwch ac roedd malaria yn rhemp.


Balŵns Gwyliadwriaeth

Roedd hi’n beth cyffredin i bob ochr fabwysiadu balŵns gwyliadwriaeth, a’r farn oedd eu bod nhw’n ddelfrydol mewn amodau statig rhyfela mewn ffosydd, a oedd fwy neu lai yn neilltuol i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai baneri, neu radio o bryd i’w gilydd, yn cael eu defnyddio i rannu darlleniadau gwyliadwriaeth, a byddai gweithredwyr y balŵns ar y cyfan yn aros yn yr awyr am oriau ar y tro. Ystyriwyd hyn yn waith peryglus; er y byddai gynnau gwrthawyrennol a gynnau peiriant yn anochel yn eu hamddiffyn, yn ogystal â rhwyllau gwifrog a fyddai’n hongian rhwng grwpiau o falŵns, roedden nhw’n aml yn darged llonydd deniadol iawn i awyrennau’r gelyn. O ran yr awyrluoedd amrywiol, ystyriwyd saethu balŵn gwyliadwriaeth i lawr yn fuddugoliaeth ddilys ac ychwanegwyd nhw at restr o ‘laddiadau’ pob peilot yn yr un modd ag awyrennau’r gelyn. Roedd hyn oherwydd yr ystyriwyd bod saethu balŵns i lawr yn beth peryglus, er i rai peilotiaid ennill enw da fel ‘bysters balŵns’. Roedd saethu balŵns i lawr yn achosi mwy o broblemau nag y byddech chi’n ei feddwl. Nid oedd bwledi safonol fel rheol yn ddigon ar eu pennau eu hunain, gan y bydden nhw’n mynd yn syth trwy ffabrig y balŵn heb ei roi ar dân. Pan fyddai’r gelyn yn ymosod arnyn nhw, fe fyddai’r gweithredwyr ar y llawr yn winsio’r balŵn i lawr ac oni bai y gallai’r awyren a fyddai’n ymosod lwyddo i roi’r balŵn ar dân – trwy ddefnyddio bwledi cynnau tân neu fwledi ffrwydrol – fe fyddai wedi methu yn ei chenhadaeth. Roedd llawer o beilotiaid yn ofalus i beidio â mynd ar ôl balŵns yn is na 1,000 troedfedd gan ofni’r gynnau gwrthawyrennol a allai eu dinistrio. Caniatawyd i filwyr Prydeinig wisgo parasiwtau i ddianc pe bai gynnau’r gelyn yn llwyddo i saethu’r balŵn i lawr, er mai bach iawn oedd y gobaith o ddianc yn ddiogel unwaith roedd y balŵn ar dân.


George H Hibbott

Rheng:

Preifat

Rhif Gwasanaeth:

208

Ganwyd:

Tua 1886, y Drenewydd

Catrawd/Gwasanaeth: Y Fyddin Brydeinig, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Dau fab enwog arall y Drenewydd. Ar y chwith mae Mr LI.C. Oliver, neu ‘Cammie’ Oliver fel y galwyd ef fel rheol, sef barbwr enwog a thipyn o gymeriad. Ar y dde mae George Hibbott a gafodd ei enwi mewn adroddiadau (Mention in Dispatches) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.


Dyma oedd y ffurf isaf ar gydnabyddiaeth a gyhoeddwyd. Nid yw enwi milwr mewn adroddiadau’n golygu ei fod yn cael medal, ond mae’n ganmoliaeth am wneud rhywbeth dewr neu am wasanaeth. Byddai enw G. H. Hibbott wedi ymddangos yn yr adroddiad swyddogol a ysgrifennwyd gan Uwch Swyddog ac a anfonwyd at yr uwch reolwyr, lle byddai gweithred dewr neu glodwiw milwr wrth wynebu’r gelyn yn cael ei ddisgrifio. Cyhoeddir yr adroddiad hwn ym mhapur newydd y Wladwriaeth, sef y London Gazette, sydd wedi bodoli ers 1665 ac sy’n dal i gael ei gyhoeddi heddiw. Rhifyn 29455 y Gazette: Eu Henwi mewn Adroddiadau. Mae’n fraint i mi anfon enwau’r swyddogion a’r dynion hynny yr wyf yn dymuno eu dwyn at sylw f’Arglwydd mewn cysylltiad â’r gweithrediadau a ddisgrifiwyd yn fy adroddiad dyddiedig 11eg Rhagfyr 1915. Dyddiad y Gazette: 28/01/1916 Tudalen y Gazette: 1200

Roedd yn gludwr elorwely anarfog gyda’r 7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod glaniadau trychinebus Bae Sulva yn y Dardanelles. Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi mynd yn ôl i fyny’r traeth â’r gelyn yn tanio ffrwydron o’i amgylch i gasglu un arall a oedd wedi’i anafu, ei ateb oedd eu bod nhw’n saethu dynion a oedd wedi’u hanafu. Roedd llawer o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan o’r drychineb yn y Dardanelles.



Gwersyll Parc Henham. Staff y Swyddog Cyflenwi. 2il/7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae’r arloeswr y Sarsiant Harry Hibbott (tad George Hibbott) i’w weld yn ail o’r chwith ar y rhes flaen


George Harold Beadles

(ffynhonnell: http://www.penmon.org) Rheng:

Preifat

Rhif Gwasanaeth:

853

Ganwyd:

28ain Medi 1897, y Drenewydd

Catrawd/Gwasanaeth: Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Gwobrau Dewrder: Gwybodaeth y Gazette:

Dyddiad y Gazette: Tudalen y Gazette:

Croes Karageorge, Medal Aur Rhifyn 29945 y Gazette: Croes Karageorge, Medal Aur. Mae’r Canlynol ymhlith y tlysau a’r medalau a ddyfarnwyd gan Bwerau’r Cynghreiriaid ar ddyddiadau amrywiol i’r Lluoedd Prydeinig am wasanaethau neilltuol a roddwyd yn ystod yr ymgyrch. Mae Ei Fawrhydi’r brenin wedi rhoi caniatâd heb unrhyw gyfyngiad i wisgo’r tlysau a’r medalau dan sylw. 13/02/1917 1610

Cafodd George Harold Beadles ei eni ar 28ain Medi 1897 yn Stryd Fasnachol, y Drenewydd, Sir Drefaldwyn. Roedd yn un o chwe bachgen ac un ferch yr oedd Thomas a Sarah Ann Beadles (Pearce gynt) yn rhieni iddyn nhw.


Milwyr y 7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn gorymdeithio trwy’r Drenewydd wrth iddyn nhw baratoi i adael y dref Harry, Ewart ac Ernie Beadles

cafodd ef ac eraill eu gwenwyno â nwy.

Fe listiodd Harry, ynghyd â’i ddau frawd hŷn Ewart ac Ernie, yn syth i mewn i’r gatrawd gyntaf a ffurfiwyd yn y Drenewydd, sef bataliwn 1af/7fed bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (a ddaeth yn rhan o’r 53fed Adran). Roedd Ewart ac Ernie’n ddigon hen ond dim ond 16 oed oedd Harry. Roedd dau frawd hynaf Harry, Tom a Charlie, ill dau yn Heddweision ar y pryd ac felly ni allen nhw listio, gan yr ystyriwyd eu swydd yn un hanfodol gartref. Roedd Tom, i bob golwg, yn hapus i aros yn yr Heddlu, ond roedd Charlie’n anniddig ynglŷn â’r fiwrocratiaeth a oedd yn ei atal rhag ymuno â’i frodyr. Mae’n debyg iddo ddod yn “niwsans gweinyddol”, gan ymddangos ar Barêd yr Heddlu heb siafio, gydag esgidiau budr a thuniau ffrwythau ym mhocedi ei ffurfwisg ac ati. Mae’n debyg i’r Heddlu ei ryddhau o’r diwedd, a gwireddwyd ei ddyhead i listio â Chatrawd Iarllaeth Balatin, gan wasanaethu yn Cambrai, lle

Listiodd Harry fel Biwglwr pan roedd ei gatrawd wrthi’n dilyn cyrsiau hyfforddi yn y DU. Fodd bynnag, erbyn mis Awst 1915 roedden nhw wedi’u hanfon i Gallipoli, gan lanio ym Mae Sulva ar 9fed Awst 1915.


Milwyr Prydeinig ym Mae Sulva, Awst 1915 Erbyn hyn, roedd Harry wedi restru fel Reifflwr ac, er ei fod dan oed, fe aeth ati i wasanaethu ar flaen y gad. Dyma pan ddyfarnwyd Medal Aur Serbia am “Ddewrder” i Harry. Fe achubodd Swyddog Gwyliadwriaeth Serbia a oedd wedi’i daro i lawr yn nhir neb ac nad oedd yn gallu dychwelyd i’r rheng. Pan roedd yn ei achub, cafodd gap ac epaulettes ffurfwisg Harry eu saethu i ffwrdd ond, trwy wyrth, ni chafodd ei anafu, er gwaethaf tanio hynod drwm o du magnelwyr y gelyn. Cymerodd y swyddog ei enw a’i rif gan ddweud, mae’n debyg, y byddai mwy o sôn am y bachgen hwn. Fodd bynnag, fel bachgen ifanc ar y pryd, nid oedd yn disgwyl clywed unrhyw beth eto ac aeth ymlaen â’r rhyfel fel arfer. Ar yr un adeg, cafodd ei frawd hŷn Ernie ei saethu yn ei droed a’i anfon yn ôl i’r DU. Tristwch yw i Ernie farw o’i glwyfau rhyfel ym 1918, mae’n debyg oherwydd gwenwyn yn y gwaed.

Fe gollodd y gatrawd lawer iawn o ddynion ac roedd y tywydd yn hynod boeth; yn wir, roedd pethau mor ddrwg fel i’r ddwy ochr gael cadoediad am ddiwrnod er mwyn iddyn nhw allu claddu’r meirwon, oherwydd y pryfed a’r drewdod. Erbyn mis Rhagfyr, roedd y tywydd mor oer fel bod llawer ohonyn nhw, gan gynnwys Harry, yn dioddef o frath rhew. Pan ymgiliwyd o’r diwedd ym mis Rhagfyr 1915, gwelwyd bod Harry wedi colli ymwybyddiaeth a’i fod yn arnofio ar y dŵr oherwydd brath rhew a diffyg


hylif. Yn ffodus, pan welwyd ef fe dynnwyd ef o’r dŵr ac, ar ôl cael dos da o wisgi, anfonwyd ef ar long ysbyty i ysbyty milwrol ym Malta. Ar ôl iddo gael ei gefn ato ym Malta, dychwelodd Harry ar unwaith i’w uned a oedd nawr ym Mhalestina. Fe chwaraeodd ran ym mhob un o’r tair brwydr am Gaza a gwthiad y Cadfridog Allanby i gipio Jerwsalem. Yn ystod y frwydr gyntaf, cafodd ef ac eraill eu gwahanu o’u huned a chael eu hunain y tu ôl i rengoedd y gelyn yn yr anialwch. Roedden nhw eisiau bwyd a dŵr yn ofnadwy, felly i ffwrdd â nhw ar ofyn llwyth Bedouin a oedd, yn ffodus, yn gyfeillgar. Gofalwyd amdanyn nhw a dychwelwyd nhw i’r Uned Brydeinig agosaf. Fel mae’n digwydd, Uned y Gyrcas oedd hon, a buon nhw’n byw gyda nhw am 2 wythnos. Roedd Harry yn uchel ei ganmoliaeth o’r ffordd y cawson nhw eu trin, a hefyd o ymddygiad proffesiynol y Gyrcas fel milwyr. Yn ystod yr ail Frwydr am Gaza, dyfarnwyd y Fedal Filwrol i Ewart, brawd Harry, a chafodd ei ddyrchafu i Sarsiant. Fodd bynnag, yn ystod yr un frwydr, cafodd Ewythr Dick Harry (Richard Pearce) ei ladd â bwled i’w ben pan roedd wrth ochr Harry yn y brwydro. Yn eironig ddigon, roedd newydd ddweud wrth Harry am gadw ei ben i lawr, ac roedd yn rhaid i Harry barhau gyda’r rheng er gwaethaf y trawma hwn. Pan ddaeth y rhyfel i ben o’r diwedd, gadawyd catrawd Harry ym Mhalestina tan ganol 1919. Fe drefnodd y Lluoedd gystadlaethau pêl-droed rhwng y gwahanol Fataliynau, ac roedd Harry yn chwaraewr disglair. Cyn bo hir, daeth dan ddylanwad rhywun arall o’r Drenewydd, y Capten George Latham M.C., ac enillodd y 7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair y Lluoedd Prydeinig (yr Aifft) ym 1919.

7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Prydeinig – Pencampwyr y Lluoedd Prydeinig 1919 George Latham yw’r un sy’n eistedd y 3ydd o’r dde ar y rhes flaen, a Harry yw’r un ail o’r dde gyda’r ci, yn yr Aifft. Fel mae’n digwydd, roedd y profiad hwn a’r ffaith ei fod yn ffrindiau â George Latham yn ffactor arwyddocaol yng ngyrfa Harry fel pêl-droediwr yn y dyfodol, ac roedd hefyd yn ddechrau i berthynas y ddau fel ffrindiau gydol oes.




Richard Thomas Lewis Fy Hen Ewythr - Richard Thomas Lewis, 23 oed, a gafodd ei siel-syfrdanu a’i wenwyno â nwy yn y rhyfel. Cafodd ei eni yn Llangurig Mab Mrs M Lewis, Tŷ Arvon, Llandrindod "I have had some terrible days lately. My mind is unsettled. I feel for you all that this terrible step has to be taken. I shall never be happy, although you all show me kindness. One could not wish for more. Love. And please forget. R" "I have tried my best to buck up, and although it is only for a while, I can't endure the thoughts." wedi’i fwriadu i’w fam: "I hope you won't let this hurt you, mother dear, but please forget. They have all been very good to me here, although I am not well. May God forgive me and help you, the dearest of mothers and brothers and sisters and the little girl. Broken hearted R I leave you everything mother"


Croglen Decstil y Drenewydd


Gwaith llaw Anita Jenkins fu’n gweithio â Chymuned y Drenewydd i wneud y groglen decstil hon. Gwnaed gyda Joy Hamer, a gwragedd o blith cwiltwyr Aber-miwl, disgyblion Ysgol Uwchradd y Drenewydd, aelod o staff llyfrgell, rhai o aelodau o deulu Anita, disgyblion ysgol gynradd o’r Drenewydd.


Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf y Drenewydd

Gydag Ysgol y Drenewydd, roeddem ni wedi ein hysbrydoli yn arbennig gan y straeon am ddau ddyn yn yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl trafodaeth am yr ardal a phobl o amgylch y Drenewydd oedd wedi ymladd a cholli eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd, roeddem yn teimlo fod y ddwy stori yma yn amlygu llawer iawn ynghylch yr hyn ddigwyddodd i’n bechgyn yn y rhyfel. Mae ‘The Newtown Flying Ace’ wedi ei ysbrydoli gan Comodôr yr Awyrlu Ernest William Norton (Croes am Wasanaeth Nodedig), a’r Preifat George Hibbott a gafodd ei wobrwyo trwy ei enwi mewn adroddiadau (‘Mention in Dispatches’) yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn gludwr elorwely (stretcher bearer) heb arfau gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng nglaniadau trychinebus Bae Sulva yn y Dardanelles.

Gallwch chi weld yn animeiddiad yma: https://youtu.be/KYJ9IAm9In4?list=PLQi4Oa6wIyldVTUIwEc4dQG8pTTivnKdo


Cenedlaethau Ymlaen: Y Trallwng Cofeb Ryfel y Trallwng





Milwyr o’r Trallwng William Herbert Waring

Rheng:

Sarsiant

Rhif Gwasanaeth:

355014

Ganwyd:

13/10/1885, y Trallwng

Dyddiad Marw:

08/10/1918

Oedran:

33

Catrawd/Gwasanaeth: Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 25ain Bataliwn (Iwmyn Trefaldwyn ac Iwmyn Ceffylau Cymru) y Llu Tiriogaethol Tynged:

Bu farw o glwyfau

Dyfarniadau:

V C, M M

Cyfeirnod Bedd:

Div. 62. V. I. 3.

Mynwent:

MYNWENT STE. MARIE, LE HAVRE

Gwybodaeth ychwanegol: Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da. Mab Richard ac Annie Waring, o’r Trallwng, Sir Drefaldwyn.


Dyfynneb: Mewn erthygl yn y “London Gazette”, dyddiedig 31ain Ionawr 1919, cofnodwyd ei fod wedi arwain cyrch yn erbyn gynnau peiriant y gelyn ac, yn wyneb tanio distrywiol o’r ystlys ac o’r tu blaen, fe ymosododd yn gryf ar ei ben ei hun, gan drywanu pedwar o’r garsiwn â bidog a chipio ugain o rai eraill gyda’u gynnau; yna, dan siel trwm a gynnau peiriant yn tanio o’i gwmpas, fe aildrefnodd ei ddynion a’u harwain a’u hysbrydoli am 400 llathen arall, pan gafodd ei anafu’n angheuol. Croes Victoria Sefydlwyd Croes Victoria (V.C.) gan y Frenhines Victoria i gydnabod pob gweithred ers dechrau Rhyfel y Crimea ym 1854, ac fe’i dyfarnwyd i William Herbert Waring am weithred hynod ddoeth neu deyrngarwch i ddyletswydd ym mhresenoldeb y gelyn. Dyma’r wobr uchaf am ddewrder yn y lluoedd arfog Prydeinig; roedd pob rheng yn gymwys i’w derbyn wrth wasanaethu, ac maen nhw’n dal i fod yn gymwys heddiw.

Y Fedal Filwrol Sefydlwyd y Fedal Dewrder Lefel 3 hon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar 25ain Mawrth 1916, a chyflwynwyd hi yn rhifyn 29535 y London Gazette, (wedi’i hôl-ddyddio i 1914) i bersonél Byddin Prydain neu luoedd eraill, a phersonél gwledydd y Gymanwlad, ar reng is na’r rhengoedd â chomisiwn. Dyma oedd yn cyfateb i’r Groes Filwrol (M.C.) i rengoedd eraill (dyfarnwyd yr M.C. i Swyddogion â Chomisiwn ac, yn bur anaml, i Swyddogion Gwarantedig, a allai hefyd dderbyn y Fedal Filwrol). Dyfarnwyd hon i William Herbert Waring am weithredoedd dewr a theyrngarwch i ddyletswydd â ffrwydron yn tanio o’i amgylch neu am weithredoedd dewr unigol neu gysylltiedig nad oedden nhw’n ddigon i haeddu’r Fedal Ymddygiad Neilltuol. Cyhoeddwyd bod y fedal wedi’i dyfarnu yn y London Gazette ac enillodd William Herbert Waring yr hawl i ychwanegu’r llythrennau M.M. at ei enw.





William Quinn

Rheng:

Preifat

Rhif Gwasanaeth:

8403

Ganwyd:

Tua 1880, y Trallwng

Dyddiad Marw:

31/10/1914

Oedran:

34

Catrawd/Gwasanaeth: Cyffinwyr De Cymru, Bataliwn 1af Tynged:

Lladdwyd ar Faes y Gad

Dyfarniadau:

V C, M M

Cofeb:

COFEB YPRES (PORTH MENIN)

Mynwent:

Eglwys Crist, y Trallwng

Mab y diweddar John ac Elizabeth Quinn, o 10, Brook St., y Trallwng. Ar y gofeb yn y fynwent mae’r geiriau: Also of Pte. William M. Quinn S.W.B. Youngest son of J. and E. Quinn Who was killed in action at Landreices Oct 31st 1914. Aged 34 Years. 'Faithful unto Death'


Y Preifat William Quinn oedd y cyntaf o’r Trallwng i’w ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd William ei eni yn y Trallwng ac ef oedd plentyn ieuengaf John ac Elizabeth Quinn. Gwyddel oedd ei dad, John a Chabolwr Ffrengig ydoedd wrth ei grefft. Cafodd mam William, Elizabeth, ei geni yn Aberriw. Roedd y teulu Quinn yn byw yn 10 Bear Yard (Brook Street). Nid yw’r tŷ yn bodoli mwyach gan fod yr ardal honno o’r ‘Ffordd Gefn’ wedi’i datblygu, ond mae’n bur debyg ei fod wedi sefyll yn yr hyn sy’n faes parcio Sainsbury’s heddiw. Ymunodd William â’r Fyddin pan roedd ym Manceinion, a chafodd ei ddrafftio i India gyda Chyffinwyr De Cymru. Roedd ei ganolfan ym Marics Chatham yn Nghaint. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914, mwstrwyd Bataliwn 1af Cyffinwyr De Cymru a daeth yn rhan o Fyddin Ymgyrchol Prydain. Gwnaethon nhw hwylio i Ffrainc a gorymdeithio tuag at ffin Gwlad Belg. Roedd y Bataliwn yn rhan o Frwydr Aisne a Brwydr Gyntaf Ypres. Lladdwyd William ar faes y gad yn Landreices yng Ngogledd Ffrainc ar 31ain Hydref 1914. Mae wedi’i goffáu ar gofeb Porth Menin (Ypres) sy’n benodol i’r rhai a oedd ar goll ac i’r rheiny yr oedd eu bedd yn anhysbys. Gan iddo listio ym Manceinion, mae wedi’i goffáu ar y gofeb ryfel yn Eglwys St. Clements, Ordsall. Mae John, tad William, wedi’i gladdu ym mynwent Eglwys Crist, gyda dau frawd William. Mae’r arysgrif i goffáu William wedi’i chynnwys ar waelod y plinth. "Faithful unto Death"



Croglen Decstil y Trallwng

Diolch yn fawr i Ysgol Gynradd Aberriw, Cartref Preswyl Llys Hafren, Canolfan Ddydd Coed Isaf, Eglwys Crist y Trallwng, staff a chwsmeriaid Tesco ac eraill a ddaeth i chwarae rhan yn y prosiect. Roedden ni eisiau i bobl o bob oedran gyfrannu at y darn hwn o waith. Gwnaethom ni ofyn am straeon, cysegriadau a meddyliau ynglŷn â sut i’r Rhyfel Byd Cyntaf effeithio ar eu teulu a’u hardal. Mae pob pabi’n cynrychioli rhywun a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf.


Animeiddiad Rhyfel Byd Cyntaf Llanfair Caereinion / Y Trallwng

Barddoniaeth Hedd Wyn oedd canolbwynt ein straeon. Fe ysbrydolodd y rhyfel waith Hedd Wyn gan gynhyrchu rhywfaint o’i waith enwocaf, yn cynnwys Plant Trawsfynydd, Y Blotyn Du, ac Nid â’n Ango. Mae ei gerdd, Rhyfel, yn dal i fod yn ddarn o’i waith sy’n cael ei ddyfynnu amlaf.

Gallwch chi weld yn animeiddiad yma: https://www.youtube.com/watch?v=9ATbgr696IE


Y Celfyddydau a Barddoniaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Ellis Humphrey Evans, 1887 - 1917

Cafodd Ellis Evans ei eni ar fferm ger Trawsfynydd ym Meirionnydd, Gogledd Cymru. Ym 1916, roedd yn rhaid i’r teulu Evans anfon un o’u meibion i ymuno â’r Fyddin Brydeinig er bod ffermio’n waith o bwys cenedlaethol. Fe listiodd Ellis, yn hytrach na’i frawd iau, Robert. Pan roedd yn y fyddin, fe anfonodd gerdd yn Gymraeg dan y ffugenw ‘Hedd Wyn’ at drefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1917, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yn Lerpwl. Fe enillodd ei gerdd ond ni atebodd unrhyw un pan alwodd y prifardd ar ‘Hedd Wyn’ i sefyll. Fe laddwyd ef yn ystod Brwydr Passchendaele, a phan ddysgwyd bod y bardd buddugol eisoes yn farw fe daenwyd lliain amdo du dros ei gadair farddol a’i hanfon adref at ei rieni yn eu ffermdy anghysbell.


Rhyfel Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, A Duw ar drai ar orwel pell; O'i 么l mae dyn, yn deyrn a gwreng, Yn codi ei awdurdod hell. Pan deimlodd fyned ymaith Dduw Cyfododd gledd i ladd ei frawd; Mae s诺n yr ymladd ar ein clyw, A'i gysgod ar fythynnod tlawd. Mae'r hen delynau genid gynt Ynghrog ar gangau'r helyg draw, A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.


Wilfred Edward Salter Owen, 1893 - 1918 Cafodd ei eni yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig. Cafodd ei addysgu yn Athrofa Penbedw a Choleg Technegol Amwythig. Ers ei fod yn bedwar ar bymtheg oed, roedd Owen eisiau bod yn fardd, ac fe ymgollodd mewn barddoniaeth. Ni ysgrifennodd fawr unrhyw farddoniaeth o bwys nes iddo fod ar faes y gad yn Ffrainc ym 1917. Roedd yn hynod agos at ei fam, ac roedd y mwyafrif o’i 664 o lythyrau wedi’u cyfeirio ati hi. (Fe gadwodd pob un ohonyn nhw.) Oherwydd y propaganda, roedd yn teimlo bod yn rhaid iddo ddod yn filwr, ac fe wirfoddolodd ar 21ain Hydref 1915. Fe dreuliodd ddiwrnod olaf 1916 mewn pabell yn Ffrainc yn ymuno ag Ail Gatrawd Manceinion. O fewn wythnos, roedd wedi’i gludo i’r rheng flaen mewn wagen gwartheg ac roedd yn “cysgu” rhyw 70 neu 80 llathen oddi wrth wn mawr a oedd yn tanio bob rhyw funud. O fewn ychydig o ddiwrnodau, roedd ymosodiadau nwy yn digwydd o’i amgylch a chododd drewdod y meirwon yn pydru arswyd arno. Fe ddihangodd y bwledi tan wythnos olaf y rhyfel, ond fe welodd lawer iawn o frwydro ar y rheng flaen: cafodd ei chwythu i fyny, ei ysgytio a’i siel-syfrdanu. Anfonwyd ef yn ôl i’r ffosydd ym mis Medi, 1918 ac, ym mis Hydref, fe enillodd y Groes Filwrol am gipio gwn peiriant yr Almaenwyr a’i ddefnyddio i ladd nifer o Almaenwyr. Ar 4ydd Tachwedd, cafodd ei saethu a’i ladd ger pentref Ors. Cyrhaeddodd y newyddion am ei farwolaeth gartref ei rieni pan roedd clychau’r cadoediad yn canu ar 11eg Tachwedd 1918.


Anthem for Doomed Youth What passing-bells for these who die as cattle? Only the monstrous anger of the guns. Only the stuttering rifles rapid rattle Can patter out their hasty orisons. No mockeries now for them; no prayers nor bells; Nor any voice of mourning save the choirs, – The shrill, demented choirs of wailing shells; And bugles calling for them from sad shires. What candles may be held to speed them all? Not in the hands of boys but in their eyes Shall shine the holy glimmers of goodbyes. The pallor of girls' brows shall be their pall; Their flowers the tenderness of patient minds, And each slow dusk a drawing-down of blinds.


David Jones

(Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig / Stad Lenyddol David Jones)

Braslun mewn pensil gan David Jones, â’r arysgrif ‘Givenchy 1916 / very big mine crater with dugouts’ arno.


(Delweddau trwy garedigrwydd Archif Digidol Barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.)

Daw’r braslun hwn mewn pensil o gyfres o luniadau gan David Jones sy’n cofnodi ei brofiadau fel milwr preifat yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe dynnodd ef ym mis Tachwedd 1916 tra’i fod yn gwasanaethu fel sylwedydd gyda’r Ail Gwmni Arolwg Maes yng Nghoedwig Ploegsteert. Mae testun y braslun yn nodweddiadol ddinod, gan adlewyrchu diddordeb David Jones yn yr agweddau mwy bob dydd ar filwra. Mae lluniau eraill, a lenwodd ei lyfrau nodiadau’r fyddin, yn dangos cyfarpar, adeiladau a ffrindiau yr oedd yn gwasanaethu gyda nhw. Fe listiodd David Jones â’r 15fed Bataliwn (Cymry Llundain 1af), y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym mis Ionawr 1915, yn 19 oed. Yn y dechrau, codwyd y bataliwn o Gymry a oedd yn byw yn Llundain, lle roedd David Jones yn astudio yn Ysgol Gelf Camberwell. Aeth David Jones gyda’r bataliwn i Ffrainc fel rhan o’r 38ain Adran (Gymreig). Bu’n brwydro ar faes y gad ym mrwydr Coedwig Mametz (Gorffennaf 1916), lle cafodd ei anafu, ac yn ddiweddarach yn Bosinghe, Pilkem, Langemark a Passchendaele (1917). Ym mis Chwefror 1918, gollyngwyd David Jones yn wael o’r fyddin, â Thwymyn y Ffosydd, a threuliodd weddill y rhyfel yn Iwerddon. Ar ôl y rhyfel, daeth ei enw da fel arlunydd ac ysgrifennwr yn fwy a mwy. Daeth yn aelod


blaenllaw o grŵp Eric Gill o arlunwyr, ac yn ddyfrlliwiwr mawr ei fri yn rhyngwladol. Ym 1937 fe gyhoeddodd In Parenthesis – sef campwaith llenyddol cydnabyddedig sy’n siartio’i siwrnai yn ystod y rhyfel o recriwt dibrofiad i filwr a oedd yn hen law. Roedd hefyd yn ysgythrwr dawnus, gan adael etifeddiaeth o lythreniadau hynod unigryw. Bu farw ym mis Hydref 1974, ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Ladywell yn ne-ddwyrain Llundain.


Eisiau gwybod mwy? Y Trallwng •

Eglwys Crist, Y Trallwng - http://christchurchwelshpool.blogspot.co.uk/p/blogpage_4.html

http://whatsonwelshpool.blogspot.co.uk/p/welshpool-remembers.html

Llanfyllin Cymdeithas Llanfyllin - http://llanfyllin.org/organisations/the-llanfyllin-society/

Y Drenewydd Cymdeithas Hanes y Drenewydd, dan arweiniad Joy Hamer The Newtonian, Rhoswen, Bryn Street, Y Drenewydd, Powys, SY16 2HW TRWY E-BOST: davidpugh05@aol.com Gellir gweld clawr a rhestr cynnwys pob rhifyn yn; www.penmon.org/page94.htm

Machynlleth http://historypoints.org/index.php?page=Machynlleth-war-memorial

Cyffredinol http://www.oucs.ox.ac.uk/ww1lit/ http://pstatic.powys.gov.uk/fileadmin/Docs/War_Memorials/War%20Memorials/Recording %20Toolkit.pdf https://www.llgc.org.uk/cy/?no_cache=1 http://www.archiveswales.org.uk/cy/?no_cache=1


http://www.casgliadywerin.cymru/ http://www.rushdenheritage.co.uk/war/RoyalWelshFusiliers.html http://www.ww1photos.com/RoyalWelshFusiliers.html https://www.historypin.org/ http://www.rwfmuseum.org.uk/cym/index.html http://www.casgliadywerin.cymru/collections/377297 www.gtj.org.uk http://www.powys.gov.uk/cy/archives/dod-o-hyd-i-archifau-a-chofnodion-lleol/ http://pstatic.powys.gov.uk/fileadmin/Docs/archives/records_catalogue/official_records/M _E_bi.pdf http://www.redcross.org.uk/About-us/Who-we-are/History-and-origin/First-WorldWar/Search?hosp=llanfyllin http://www.archiveswales.org.uk/projects/world-war-one/ http://www.walesremembers.org/ http://www.walesatwar.org/site/home http://www.cymru1914.org/ http://www.penmon.org/page60.htm http://education.gtj.org.uk/en/item1/24655 http://www.historypoints.org/ http://www.powys.gov.uk/en/museums/visit-your-local-museum/powysland-museum/ http://www.1914.org/ http://www.greatwar.co.uk/ http://www.britishlegion.org.uk/remembrance/ww1-centenary http://www.powys.gov.uk/index.php?id=906&L=0 http://www.ancestry.co.uk/cs/uk/world-war-1 https://livesofthefirstworldwar.org/


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.