Holi'r Awdur - Dewi Wyn Williams

Page 1

Holi’r Awdur

Dewi Wyn Williams Dyma Atebol yn holi’r awdur a’r dramodydd, Dewi Wyn Williams, am ei nofel newydd, Madi. Ar gael Mawrth 2019. Ble ges di dy eni a dy fagu? Cefais fy ngeni yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor, ar ddydd Gŵyl Dewi, a fy magu ym Mhenysarn a Llaneilian ar fferm Glanrafon. Ble ges di dy addysg? Ysgol Gynradd Penysarn ac Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones, Amlwch, cyn graddio o Goleg y Brifysgol ym Mangor mewn Cymraeg a Drama. Oes gen ti ddiddordebau? Cadw’n heini, cerdded, cefnogi Man Utd, mynd i’r theatr a’r sinema … a bocsio! Ers pryd wyt ti wedi bod yn ysgrifennu? Fe wnes i ddechrau sgwennu pan o’n i yn y coleg, roeddwn i’n cyfrannu at gyfres Pupur a Halen ar Radio Cymru. Rho ddisgrifiad o’r nofel i ni... Thema’r nofel yw hunaniaeth a’r pwnc yw’r cyflwr anorecsia. Ond stori am deulu anweithredol yw hi, a’r berthynas rhwng tad, mam a merch. Mae hi’n stori y gall pawb uniaethu â hi oherwydd rydan ni gyd yn perthyn i deulu.

Ble ges di’r syniad am y nofel? Ym 1999, ysgrifennais y ffilm Lois sydd am anorecsia, ac roedd gen i lawer o ddeunydd ymchwil heb ei ddefnyddio. Ond nid oes cysylltiad rhwng y ffilm a’r nofel, heblaw’r thema a’r pwnc. At bwy mae’r nofel wedi ei hanelu? Nofel i oedolion a phobl ifanc yw Madi; mae ei chynnwys yn trafod y pwnc yn onest a chignoeth ... a chyfrifol. Mae hi’n bwnc personol iawn, bu fawr fy nghariad cyntaf ar ôl dioddef o’r cyflwr, ond pwysleisiaf nad oes unrhyw gysylltiad rhwng ei bywyd hi a’r nofel. Mae’r stori a’r cymeriadau yn ddychmygol. Pam nes di benderfynu ysgrifennu am y pwnc yma? Mae’r cyflwr yn cynyddu ar draws y byd, yn cael ei fwydo gan gymdeithas sydd yn edrych fwyfwy i’r drych. Mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth am y cyflwr seicolegol erchyll hwn sydd yn dinistrio unigolion a theuluoedd. Rwy’n gobeithio ysgrifennu ail nofel. Mae hi’n mudlosgi yn y pen!

Darluniau gan

Niki Pilkington


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.