Trio: Antur y Mileniwm - Pennod 1

Page 1


Antur y Mileniwm

trio_mileniwn.indd 1

19/09/2018 14:50


trio_mileniwn.indd 2

19/09/2018 14:50


Manon Steffan Ros

Antur y Mileniwm

Lluniau gan Huw Aaron

trio_mileniwn.indd 3

19/09/2018 14:50


Cyhoeddwyd gyntaf yng Nghymru yn 2018 gan Atebol, Adeiladau’r Fagwyr, Llanfihangel Genau’r Glyn, Aberystwyth, Ceredigion SY24 5AQ www.atebol.com-siop ISBN 978-1-91-226141-3 Hawlfraint y testun © Manon Steffan Ros 2018 Hawlfraint y cyhoeddiad ©Atebol Cyfyngedig 2018 Hawlfraint y lluniau © Huw Aaron 2018 Cedwir y cyfan o’r hawliau. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i throsglwyddo mewn unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd, electronig neu fecanyddol, gan gynnwys llungopïo, recordio neu drwy gyfrwng unrhyw system storio ac adfer, heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwr. Dyluniwyd gan Elgan Griffiths Golygwyd gan Adran Olygyddol Cyngor Llyfrau Cymru Dymuna’r cyhoeddwr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru

trio_mileniwn.indd 4

19/09/2018 14:50


I Caradog ac Eira gan Anti Manon

trio_mileniwn.indd 5

19/09/2018 14:50


Dyma Clem, Dilys a Derec. Maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers amser maith. Maen nhw’n benderfynol o fod yn griw anturus a llwyddiannus, fel clybiau mewn llyfrau hen ffasiwn …

Mae Clem am gael ei alw’n CLEM CLYFAR! Fo sy’n gwybod popeth am bopeth, a’i feddwl chwim yn gallu datrys unrhyw gliw …* * Yn anffodus, dydy meddwl Clem ddim mor chwim 6

trio_mileniwn.indd 6

19/09/2018 14:50


â hynny. Tan wythnos diwethaf, roedd o’n meddwl fod ‘milimilimilimilimilimiliwn’ yn rhif go iawn.

Mae Dilys am i bawb ei galw’n DILYS DDYFEISGAR! Mae’n dyfeisio pob math o bethau anhygoel yng ngarej ei chartref.* * Mae’r pethau mae Dilys yn eu dyfeisio yn anhygoel. Yn anhygoel o wael. Y llynedd, ceisiodd ddyfeisio ffordd effeithol a chyflym o deithio o un lle i’r llall. Ond dydy o ddim yn syniad da iawn i lynu’ch traed i ddau sglefrfwrdd.

Derec ydy hwn, DEREC DYNAMO, fel mae o’n hoffi cael ei adnabod. Mae o am fod fel archarwr, yn gryf fel tarw ac yn gallu rhedeg yn gyflymach, neidio’n uwch a dringo’n well na phawb arall.* * Yn anffodus, mae angen dewrder i ddringo’n uchel. Roedd Derec druan yn sownd ar ben bin am ddwy awr yn ddiweddar, gan fod gormod o ofn arno neidio i lawr.

Gyda’i gilydd, mae’r tri ffrind annwyl ac anobeithiol yma wedi ffurfio grŵp antur … CLEM, DILYS A DEREC YW TRIO! 7

trio_mileniwn.indd 7

19/09/2018 14:50


trio_mileniwn.indd 8

19/09/2018 14:50


Pennod 1 ‘O, alla i ddim aros!’ meddai Clem gyda gwên fawr ar ei wyneb crwn. Roedd o’n pacio dillad i fag ar ei wely, ac yn ceisio stwffio llawer gormod i mewn iddo.

9

trio_mileniwn.indd 9

19/09/2018 14:50


‘Dim ond am un noson rydan ni’n mynd, Clem!’ meddai Derec dan chwerthin. ‘Dwyt ti ddim angen yr holl bethau yna!’ ‘Wel, mae’n bwysig mynd â digon, rhag ofn …’ ‘Rhag ofn be?’ gofynnodd Dilys. ‘Mae gen ti chwe llyfr yn y bag yna!’ Ond un fel yna oedd Clem. Roedd o’n casáu mynd i unrhyw le heb ei lyfrau, rhag ofn y byddai angen yr wybodaeth oedd ynddyn nhw. ‘Mae hi’n hen bryd i ni fynd ar antur efo Trio eto,’ meddai Derec wedyn. ‘A rydw i wrth fy modd efo Caerdydd!’ ‘Trio yn y ddinas!’ dywedodd Clem. ‘’Dan ni’n siŵr o ddod o hyd i bob math o anturiaethau yn fan’no!’ Roedd y criw bach o ffrindiau wedi bod yn galw ei hunain yn Trio ers amser maith bellach. Clem oedd wedi meddwl am yr enw, ac roedd o’n falch iawn ohono. TRIO – Am fod tri ohonom ni, a’n bod ni’n trio bob tro! A dweud y gwir, roedd Clem wedi diflasu pawb am rai misoedd ar ôl meddwl am hynny. Roedd o wedi ailadrodd y frawddeg o leiaf ddeg o weithiau bob un dydd, nes i Dilys fygwth gadael y grŵp. Fyddai’r enw’n gwneud dim synnwyr efo dim ond dau ohonyn nhw. 10

trio_mileniwn.indd 10

19/09/2018 14:50


Roedd y plant eraill yn yr ysgol wedi bod braidd yn gas am Trio, ac wedi chwerthin a chwerthin wrth glywed fod y tri ffrind yma’n chwilio am anturiaethau a hwyl. Byddai ambell un yn gweiddi pethau cas, fel ‘Trio, ond byth yn llwyddo!’ neu ‘Trio Twp!’

(Wrth gwrs, mae hi wastad yn gas i ddweud geiriau hyll. Does dim esgus, byth bythoedd. Ond roedd y plant eraill yn gwybod am yr holl bethau gwirion roedd Trio wedi eu gwneud dros y blynyddoedd, ac felly doedd dim ond rhaid iddyn nhw sôn am un o’r rheiny i godi gwrychyn y tri ffrind. Pethau fel: •

Y tro hwnnw pan benderfynodd Dilys Ddyfeisgar ddyfeisio car oedd ddim yn llygru’r ddaear. Syniad gwych! Ond dim ond bocs cardfwrdd oedd o, a Dilys yn rhedeg o gwmpas yr iard yn dweud ‘ mmmmmmm’.

Brrrrrrr 11

trio_mileniwn.indd 11

19/09/2018 14:50


Y tro hwnnw pan aeth Derec Dynamo i ben y wal i achub gwylan, ond ceisiodd yr wylan fwyta’r siocled oedd yn ei boced. Yn lle achub yr wylan, roedd rhaid achub Derec druan.

12

trio_mileniwn.indd 12

19/09/2018 14:51


A’r tro hwnnw pan ddywedodd Clem Clyfar ei fod o’n

gwybod popeth am hanes y Tuduriaid, a phan ofynnodd Miss Elen iddo roi cyflwyniad i’r dosbarth, gwnaeth gyflwyniad manwl am Mrs a Mrs Tudur oedd yn byw drws nesaf iddo gyda’u ci, Sbarcls.

Ond roedd hi’n wyliau ysgol nawr, ac roedd Clem, Dilys a Derec yn cael trip bach gyda mam Clem i lawr i Gaerdydd. Roedd hi wedi bod yn edrych ymlaen at fynd â nhw i weld sioe yng Nghanolfan y Mileniwm. ‘Be yn union ydy Canolfan y Mileniwm?’ gofynnodd Derec. ‘Lle enfawr efo theatr a chaffi a siop,’ atebodd Dilys. Roedd hi 13

trio_mileniwn.indd 13

19/09/2018 14:51


wedi bod yn edrych ar y we. ‘Ac rydan ni’n mynd i weld sioe o’r enw JYNGL! Mae hi am anifeiliaid y jyngl yn canu a dawnsio a ballu.’ ‘Da iawn!’ meddai Derec. ‘Dwi’n gyflym fel llewpart ac yn gryf fel eliffant. Mi fydda i wrth fy modd!’

‘Mae Canolfan y Mileniwm yn llawer mwy na hynny,’ meddai Clem, gan gau’r sip ar ei fag. ‘Ydych chi wedi ei gweld hi?’ Aeth at ei gyfrifiadur, teipio ambell air, ac ymddangosodd llun ar y sgrin. ‘Mae’r lle wedi ei fodelu ar siâp yr hen ddeinosor oedd yn arfer byw ym Mae Caerdydd – y Danydon. Creadur anhygoel oedd y Danydon. Mae o wedi diflannu bellach, wrth gwrs.’ 14

trio_mileniwn.indd 14

19/09/2018 14:51


‘Dyna drueni,’ meddai Derec. ‘Byddwn i wedi mwynhau gallu cwffio gyda deinosor.’ ‘Mae hi’n cael ei galw’n Ganolfan y Mileniwm am ei bod hi mor hen. Mae wedi bod yno ers mileniwm cyfan.*’ *Does dim rhaid i mi ddweud wrthych chi mai hen lol ydy hyn i gyd. Does dim ffasiwn beth â Danydon … wel, dim cyn belled â dwi’n gwybod, beth bynnag. Dydy Canolfan y Mileniwm ddim yn hen iawn o gwbl, chwaith. Doedd Clem ddim yn meddwl dweud celwydd, ond roedd o’n un gwael am gofio pa ffeithiau oedd yn gywir a pha rai oedd yn lol botes maip. Ac os ydych chi’n gweld Canolfan y Mileniwm, mae hi’n eithaf tebyg i ddeinosor. ‘Ydych chi’n barod, blant?’ galwodd Mam o waelod y grisiau. 15

trio_mileniwn.indd 15

19/09/2018 14:51


Edrychodd Trio ar ei gilydd. ‘Mae’n well i ni fynd! Dwi am adael hen ddigon o amser i gyrraedd Caerdydd cyn y sioe!’ Roedd y trip i Ganolfan y Mileniwm yn mynd i fod yn antur anhygoel!

16

trio_mileniwn.indd 16

19/09/2018 14:51


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.