ISBN: 978-1-905865-38-3
cynnwys cyflwyniad Philip Hughes
5
dycnwch ci Jane Audas
9
gosodweithiau Elvis’ Salon Palas Troed-Rolio Reggie
19 27
bywgraffiad
43
cydnabyddiaethau
44
Ci tarw
cyflwyniad
Mae gosodwaith Olivia Brown yn brofiad i ymgolli ynddo; wedi ei gynllunio a’i osod yn fanwl, gyda sylw rhyfeddol i bob manylun, mae wedi creu cyfanwaith llwyr sy’n gofyn i ni ystyried y diwylliant poblogaidd sy’ mhobman o’n cwmpas, â’n perthynas gyda’n cyfeillion pedair coes. A yw Palas Troed-Rolio Reggie yn ddisgynydd uniongyrchol o farathonau dawns y 20au ar 30au, neu’r fflyd o ffilmiau rolio-disgo o’r UD yn y 70au? Efallai. Mae cyfeiriadau amlwg yma i’r pleser euog byddwn yn ei gael o lwc neu anlwc cystadleuwyr mewn sioeau megis The X Factor, Britain’s Got Talent neu Sioe Gŵn Crufts, a mae arddull y gosodwaith yn sicr yn taro tant gyda’r cynnydd mewn diddordeb sydd mewn arteffactau, pethau cofiadwy a ffordd o fyw sydd â blas o’r hen ffasiwn. Mae Olivia wedi creu awyrgylch sy’n llawn cymeriadau unigryw, unigolion cryf neu druenus wedi eu dal mewn sefyllfa lle mae’n atal ei chellweirio gweledol rhag troi’n gomedi slapstic, wedi ei gymedroli gan densiynau a ‘chythraul canu’ y fformat gystadleuol. Mae Olivia yn delweddu’r gosodwaith yn ei gyfanrwydd, gan wneud pob cydran bach unigol yn fanwl ac yn ofalus, a chyfarwyddo’r holl beth gyda’i chydweithredwr cadarn (ac ers Mai 2011, ei gŵr) Andrew Lawes, sy’n cyfansoddi’r gerddoriaeth, ac yn darparu'r lleisiau. Mae’n diolch i Pete Goodrich â’r criw yn ArtWorks am wireddu a logisteg, ac i Jo Scott am wneud yn siwr fod y cyfryngau yn ‘cael’ hanfod gweledigaeth Olivia a rhoi sylw teilwng. Mae hwn yn osodwaith hollol unigryw sy’n ysbrydoli a chodi’r galon. Ar amser sy’n ddigon llwm, mae Olivia Brown yn ein hatgoffa fod yna reswm i wenu, chwerthin yn uchel hyd yn oed – gan ein gwahodd i weld y cyfarwydd o’r newydd, a thrwy hyn agor myrdd o bosibliadau creadigol.
Philip Hughes Cyfarwyddwr yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun
5
Daeargi Manceinion
dycnwch ci
Wrth gyfweld â phobl, mae ambell i stori’n dod i’r wyneb yn hawdd tra mae’n rhaid tyrchio dipyn yn ddyfnach am un arall. Mae hanes Olivia Brown – fel ei gwaith – yn dod i’r amlwg yn eglur a chroch. Mae’n hanes wedi ei fywiogi gan anifeilaid llawn miri, hen bapurach, cariad tuag at atgofion a stori, naws hiraethus a hoffter o’r eclectig. Ond mae hefyd yn hanes trafodaeth barhaol o’i phwnc, o weledigaeth a dycnwch (ci). Yng nghwyneb cymdeithas grefft heb lawer o gariad tuag at waith sy’n gogwyddo tua’r poblogaidd a’r theatrig, mae Brown wedi gorchfygu. Palas Troed-Rolio Reggie yw ei thrydydd gosodwaith, a’r mwyaf eto. ’Roedd ei hoffter o’r mawreddog i’w weld yn ei gwaith prifysgol. Datblygodd ei sioe radd ym Mhrifysgol Metropolitanaidd Manceinion (MMU) ym 1999 i mewn i arddangosfa Elvis’ Salon ddangoswyd yn ffenest siop Debenhams ynghanol Manceinion. Fe’i gwelwyd yno gan Oriel y Ddinas, Caerlŷr, ac o ganlyniad cafodd gomisiwn yn syth ganddynt i greu fersiwn ‘iawn’ i’r oriel yn 2001. Cafodd Operation Jumpsuit ei gomisiynu gan Middlesborough Institute of Modern Art (Mima) yn 2004. Rhyddhaodd 400 o lygod mawr protestgar ar y cyhoedd diarwybod. Daeth y cyflwyniad cyntaf o Balas Troed-Rolio Reggie yn Oriel Gelf Stockport ym Mai 2010. Ond mae’n newydd ac yn well yn Rhuthun, wedi cael ei ail-wampio: cŵn newydd, paent newydd, cefndir newydd. Yn barod a bodlon i berfformio ac adloni. Mae’r chwaeth tuag at arddangosfeydd, gosodweithiau a grwpio pethau yn ymestyn ymhellach fyth yn ôl ym mywyd Brown. Mae llawer o’i hysbrydoliaeth yn dod o gasgliadau o bethau. Wedi’u pentyrru yn uchel, fel y byddent unwaith mewn ffenestri siopau efallai. Mae casgliad o becynau creision (wedi’u fframio) yn gorchuddio wal yn ei thŷ. Mae ei hail stiwdio yn Hebden Bridge yn llawn o hen betheuach o dŷ ei diweddar nain.
Cofroddion Papillon a Palas Troed-Rolio Reggie
9
Mae ‘Nana’ yn dod i’r sgwrs yn aml. Mae’n swnio’n hen wreigan glên. ’Roedd ei thŷ yn Heywood yn llawn atgofion plentyndod hapus i Brown. Yn enwedig chwarae siop a ‘dwyn’ gwrthrychau o gwmpas y tŷ i’w gwerthu yn ôl i Nana. A’u ‘gwerthu’ wrth gwrs, mewn hen fagiau papur ‘iawn’. Parhaodd eu perthynas glòs wedi i Brown fynd i MMU. Aeth Brown yn rheolaidd yn ei fan fechan i ymweld â Nana gan ddod ’nôl bob wythnos gyda bag plastig Morrisons ac ynddo dun o stêc ’di stiwio, tun o rawnffrwyth, tun o ffa a pecyn o greision wedi’u halltu. Yr un pethau bob wythnos. Canlyniad hyn oedd i’r tuniau stêc ddechre pentyrru yn ei ’stafell. Felly dechreuodd ei gosodweithiau cynnar. Yn adran Crew ac Alsager o MMU, fe gafodd Brown ei hun yn llogi ’stafell ar fferm yn Sandbach. Golygodd hyn ei bod yn dod ar draws anifeiliaid o bob mathau a nifer. Yn fferm weithiol gyffredin, ’roedd yn ymddangos yn lle eithaf anarferol i fyfyrwyr logi ’stafelloedd. Ond ’roedd Brown wrth ei bodd – gyda’r arwahanrwydd â’r anifeiliaid. Datblygodd gyfeillgarwch gyda chi Doberman, un nerfus oedd wedi ei hesgeuluso braidd, a hi gafodd lawer o duniau stêc ’di stiwo Nana. Roeddynt yn rhoi gwynt drwg iddi (y ci). Er hyn, datblygodd Brown empathi hirhoedlog tuag at anifeiliaid ar y cyrion, wedi eu hesgeuluso. Yn ddiweddarach fe ymgyfeilliodd gyda llygoden fawr ac yna ci arall braidd yn od. Byddech yn disgwyl i hyn fod yn wireb, fod Brown yn cadw anifailiad anwes. Am fod ei gwaith i gyd am anifeiliaid.
10
Tsineaidd Copog a Daeargi Boston
Ac felly bu erioed. Fe achosodd ei hobsesiwn gyda anifeiliaid fel pwnc drafferth iddi tra yn y coleg. Fe geisient fynnu nad oedd Brown yn setlo ar un pwnc cyn archwilio rhai eraill ond roedd Brown yn ei chael yn anodd. Wrth gwrs ’roedd yn awyddus i ddefnyddio deunyddiau newydd ond fe wyddai mai anifeiliaid oedd ei deunydd pwnc. Mae celf anifieiliaid yn beth eithaf neilltuol. Mae’n rhedeg yr ystod o’r merfaidd, cardiau cyfarch ciwtlyd i gerfluniaeth comisiwn realistig o anifeiliaid anwes, i baentiadau olew clasurol a cherfluniau celfyddydol anferth. Mae gwaith Brown yn ymgyffwrdd â’r holl bethau hyn. Ond nid yw’n gallu (nag eisiau) bodloni ar un cyfrwng. Mae’n paentio, gwneud cerfluniaeth serameg, gwenud tecstiliau, gosodweithiau, cyfrwng-newydd a sain, graffeg a gwrthrychau i’w gwerthu. Mae’n artist aml-orchwyl, aml-gyfrwng. Ond fe all hyn bery problem ddyrys i’r cyfryngau ac i orielau. Maent yn hoffi gallu rhoi artist ar un math o silff a’u gadael yna. Mae gwneuthurwyr yn gwneud enw am wneud un math o beth, gwneud llwyddiant masnachol ohoni, ac yna fe ddisgwylir iddynt gario ’mlaen i wneud yr un peth yna hyd dragwyddoldeb. Ond mae’r awen greadigol angen cyffro a sialens cyson os am barhau i fod yn gynhyrchiol. Mae gwaith Brown yn fwy datblygiedig, mwy masnachol, na llawer o’i chyfoedion yn y byd crefft. Rhywbeth arall sy’n gallu esgor ar deimladau cymysg. Gadawodd
Daeargi Manceinion a Westi
11
y coleg gyda chynllun i dechrau busnes. Nid cael stiwdio a myfyrio ar ei bogel yn unig. Ond i wneud pethau, eu gwerthu a gwneud bywoliaeth. Symudodd i stiwdio yn union ar ôl graddio, bwrw iddi i weithio a chreu gwefan. Yn y dechrau roedd yn gwneud tecstiliau a phaentiadau ond daeth cyfle ffodus i weithio yn Stiwdios Dean Clough yn Halifax lle ail-gydiodd yn ei gwaith serameg a dechrau ar ei chŵn. Mae gan Brown ddwy stiwdio, un yn Dean Clough ac un yn Hebden Bridge lle mae’n byw. Mae gan ill dwy ddefnydd gwahanol iawn. Mae’r ystafell dywyllach yn Dean Clough (hen felin) yn llawn o bethau ar gyfer gwneud ei serameg. Mae’r stiwdio llawn golau yn Hebden Bridge yn llawn atgofion achubwyd o dŷ Nana (fu farw y 2005) a phethau mae Brown wedi eu hychwanegu i’r pentyrrau dros y blynyddoedd. Mae Brown yn gasglwr pethau. Llawer o bethau. Anfonebau (hen rai, nid ei rhai hi), biliau, y pecynnau creision soniwyd amdanynt eisioes, llyfrau plant, bagiau papur. Mae wedi bod yn gasglwr ers yn blentyn a nawr yn diwallu’r angen trwy fynd i farchnadoedd rhad a ffeiriau henebion. Wedi dechrau cynnar yn casglu effemera’r 1970au – pethau tebyg i’r hyn fuasai wedi eu gweld yn nhŷ Nana – mae Brown wedi bwrw iddi i gasglu, um… ymron bopeth. A mae ei chariad tuag at y gwantan yn amlygu yn ei chasglu hefyd. Yr un mor hapus gyda hen becyn creision racs jibidêrs ddaw i’r wyneb yn y pridd wrth balu, potiau Munch Bunch (pwdin iogyrt adnabyddus
12
Man gwaith yn Hebden Bridge
o’r 1980au) sydd yn dal hefo olion paent ’di sychu Taid ynddynt ag enghreifftiau o dacsidermi wedi torri. Po fwyaf gwirion a thirst, y gorau ydynt. Mae’n hoffi hen bacedi papur ac effemera felly yn arbennig, oherwydd iddynt gael eu ‘taflu i ffwrdd.’ Mae Brown yn gallu dadlau fod hyn i gyd yn ymchwil at ei gwaith. Ac yn wir, ni fuasai yn gallu cynnwys y fath fanylder yn ei gosodweithiau heb wybodaeth helaeth a thrylwyr am raffeg, effemera, a wel, stwff, o wahanol gyfnodau i ddwyn ohonynt. Ond mae Brown yn gwerthfawrogi’r hanesion sy’n tarddu o’i chasgliadau bron iawn yn fwy na’r casgliadau eu hunain. Yn yr un modd, mae ei gosodweithiau yn fwy na chyfanswm eu darnau. Proses yw’r hanfod, yn wir, gyda gweithiau megis Palas Troed-Rolio Reggie. Mae Brown yn gwneud yr holl gyfranogwyr i’r rasus sglefrio yn unigol, gyda llaw. Mae’r holl ddarnau cynhwsyiol wedi cael sylw manwl, ac er i hyn ei gyrru yn wallgo gyda rhwystredigaeth ar adegau, mae’n bwysig iddi. Mae’n cyfaddef iddi or-weithio pethau ond ni all helpu ei hun. Ar gyfer Rhuthun, mae Brown wedi ailweithio’r hysbysebion, ffilm a’r deunydd cyd-destunol. Ac wedi adeiladu mwy o gŵn. Mae Brown yn cael cymorth gyda’r gwaith gan ei gŵr Drew, hen gydnabod ddaru hi ail-gysylltu gyda fe yn 2008. Ei ‘thechnegydd cŵn’, sy’n ymwneud â phopeth cerddorol neu logistaidd. Ac yn cyfrannu cymorth emosiynol di-fesur.
Olivia yn gweithio yn ei stiwdio yn Dean Clough
13
Wedi priodi yn ddiweddar, fe drefnodd y ddau eu priodas i’r manylun lleiaf. O’r cardiau enw i beiriannau hufen iâ ‘vintage’ i’r napcynau wedi eu printio i focsus cacen origami. Llafur cariad yng ngwir ystyr y gair. Ffrindiau oes eraill Brown yw ei hanifeiliad anwes. Os oedd y Doberman yn Alsager yn swnio braidd yn anghenus, doedd e’n ddim i gymharu â rhai diweddarach. Cafodd Glen y llygoden fawr, oddeutu 2003-2004, ei ddewis oherwydd ei faint a’r modd y gellid ei guddio oddi wrth y landlord mewn fflat lle nad oedd hawl ganddi i gadw anifieiliaid anwes. Yn amlwg ei hysbrydoliaeth ar gyfer Operation Jumpsuit, byddai Glen yn cwrdd â Brown ar dop y grisiau bob dydd wrth iddi gyrraedd adre. Ac (os ellwch chi gredu Brown) ar aml i noson buasech wedi eu gweld yn bwyta swper neu eistedd ar y soffa i wylio’r teledu gyda’i gilydd. Aeth Glen ar wyliau gyda hi unwaith hyd yn oed ond fe wrthododd y gwesty a’i adael i mewn. Er yn honi i fod yn westy cyfeillgar at anifieiliaid, chafodd Glen y llygoden fawr, ddim croeso yna. Yna fe gafwyd ci arall. Yn ei chelfyddyd ac yn ei gwaith. Daeth Mr Wolf, Milgi gadawedig fu’n gi rasio unwaith, i greu hafoc ar fodolaeth Brown yn 2005. ’Roedd ganddo’r gallu gwrth-gymdeithasol i gerdded a phi-pi ar unwaith, gan ymarfer hyn unwaith – i gywilydd marwol Brown – yn nhŷ bwyta Rick Stein ar hyd y bwytawyr eraill i gyd. Fe achosodd rwyg rhwng Brown a’i chwaer hefyd, olygodd fod stiletos wedi hedfan a bu blwyddyn o ddistawrwydd rhyngddynt. Dilynwyd Mr Wolf gan Edith yn 2008. Hen Filgi rasio cythryblus arall. Fe ellir ei gweld yn serennu ym Mhalas Troed-Rolio Reggie ac yn darparu ysbrydoliaeth (â’r coesau) i rai o’r hysbysebion. Mae’n teimlo ychydig (olreit, llawer) fel bo bywyd â chrefft wedi dod yn un i Brown. Os bu iddynt erioed fod ar wahân. Pa un ai yw Brown yn cerdded ei chrefft a’i chŵn, neu a ydynt hwy yn ei cherdded hi, mae’n anodd dweud. Pa bynnag ffordd, mae’n cael amser eithaf bywiog. Ac yn gwneud i ni wenu wrth i ni ei gwylio yn pasio heibio.
Jane Audas
14
Trosodd Operation Jumpsuit, protest y Llygod Mawr, 2004
’Roedd Wolfie a Glen yn anifeiliaid anwes i Olivia
Elvis’ Salon
20
Elvis the Whippet’s Salon, Oriel y Ddinas, Caerlŷr 2001
21
22
Hysbysebion Tony’s Toxigel a Hairpieces. Dyfrgi wedi ei stwffio ganfu Olivia mewn ffair drugareddau ydi Tony
23
24
Hysbysebion L’eau d’Edith a Sylvia’s Slip-ons. Cynigiodd milgi Olivia ei gwasanaeth yn hael i’r rhain
25
Palas Troed-Rolio Reggie
Ceni a’r Cenifls
Ceni a Reginauld
Gwerthwyr peis a a chofroddion
bywgraffiad
Addysg 1999
Gradd Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd, Crefft Cyfoes, Prifysgol Metropolitanaidd Manceinion
Arddangosfeydd Dethol 2011 Palas Troed-Rolio Reggie, Canolfan Grefft Rhuthun, Gogledd Cymru 2010 Arddangosfa baentio unigol, Orielau Dean Clough, Halifax 2010 Arddangosfa unigol, Orielau Anstey, Harrogate 2010 Palas Troed-Rolio Reggie, Oriel Gelf Stockport 2007 The dogs home, Orielau’r Mileniwm, Sheffield 2007 Gosodwaith Ffenest, Oriel Roger Billcliffe, Glasgow 2006 Oriel Stephanie Hoppen, Llundain 2004 Operation Jumpsuit, Canol Tref Middlesborough 2004–09 Bonemouth Pier (deithiodd i drefi glan môr) 2003–04 Orielau Medici, Llundain 2002 Elvis’ Salon, Oriel Babylon, Ely, Swydd Caergrawnt (teithiol) 2002 Libre les Grenouilles, Oriel Siop y Cyngor Crefftau, Llundain 2002 Elvis’ Salon, Oriel Shire Hall, Stafford 2002 Elvis’ Salon, Oriel Sanderson George a Peach, Holmfirth 2001 Ffair Grefftau Chelsea 2001 Oriel y Ddinas, Caerlŷr 2000 Elvis’ Salon, arddangosfa ffenest Debenhams, Manceinion Cyhoeddiadau Dethol Cylchgrawn Craft & Design, Gorff/Awst. 2010 The Craftsman, Chwef. 2007 You Magazine, Ion. 2005 Homes and Interiors Scotland, Mawrth. 2004 BBC Good Homes, Tach. 2002 Gylchgrawn Elle, Ebrill. 2002 Calendr y Cyngor Crefftau, Mawrth. 2002 Cylchgrawn Living etc, Mawrth. 2002 Cylchgrawn AN, Mawrth. 2001 The Independent, Chwef. 2001
Tsineaidd Copog
43
cydnabyddiaethau
Hoffai Olivia ddiolch i Ganolfan Grefft Rhuthun ac i’r tîm rhagorol yna am eu holl gymorth, am gredu yn Reggie a bod yn ddigon dewr i ymgymryd â’r sioe yn enwedig Philip, Pete, Jo, Lisa yn Lawn a Jane am yr ysgrif. ‘Rwyn hapus dros ben gyda’r cyfan! Fy mam a nhad – Pat a Les Brown am helpu gyda’r pethe gwallgo munud ola’ ’na, sydd dros y blynyddodd wedi dod yn rhan mor hanfodol o’r ‘broses’. I’m hanner arall annwyl hynod oddefgar Andrew Lawes am yr holl gerddoriaeth a’r lleisiau sy’n elfen hollol annatod o’r sioe ac am yr holl bethau eraill ychwanegol sy’n aml yn mynd yn ddi-sylw. Yn olaf ond nid y lleiaf mae fy niolchgarwch yn gorfod mynd i Edith y Milgi am gynnig ei gwasanaeth hael fel model i’r hysbysebion ac am fod yn gi arbennig iawn. Hoffai CGRH ddiolch i: Olivia Brown, Andrew Lawes, Jane Audas, Jo Scott, Pete Goodridge, Curtis Beeby, Dean Button, Nia Roberts, Gregory Parsons, Dewi Tannatt Lloyd, Lisa Rostron, Stephen Heaton. Staff Arddangosfa ac Addysg CGRH: Philip Hughes, Jane Gerrard, Elen Bonner Cyhoeddiad Golygwyd gan: Philip Hughes Dylunio: Lisa Rostron, Lawn Creative Ffotograffiaeth: Dewi Tannatt Lloyd (clawr, t.1, 4, 6–8, 10–11, 14, 28–29, 41, 42, 44). Holl luniau eraill trwy garedigrwydd Olivia Brown Cyfieithu: Nia Roberts Gosodwaith Logisteg a gosod: Pete Goodridge ac ArtWorks Cerddoriaeth a lleisiau: Andrew Lawes Canolfan Grefft Rhuthun, Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1BB Tel: +44 (0)1824 704774 www.canolfangrefftrhuthun.org.uk Testun Yr Awduron 2011. ISBN 978-1-905865-38-3 Cyhoeddir gan Ganolfan Grefft Rhuthun Mae Caolfan Grefft Rhuthun yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych ac yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Nid oes hawl atgynhyrchu’r gyfrol hon yn gyfan nac yn rhannol heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr.
ISBN: 978-1-905865-38-3