Gyda'n Gilydd Gaeaf 2015

Page 1



DIWEDDARIAD LLYWODRAETHU Mae'r Bwrdd Rheoli yn gyfrifol am sicrhau bod ein gweithgareddau busnes yn cael eu cynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy a safonau cyfreithiol, ariannol a rheoliadol. Mae'r Bwrdd yn cynnwys 15 o bobl, pob un ohonynt wedi ymrwymo i ymddwyn er lles gorau Cartrefi Conwy bob amser, ac maent yn wirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys 5 tenant. Mae gwaith y Bwrdd yn golygu pennu cyfeiriad y busnes, cymeradwyo cyllidebau ariannol ac adolygu perfformiad. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein Perfformiad a'r Bwrdd Rheoli ar ein gwefan. Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd yn ystyried y blaenoriaethau i'w cynnwys yn y Cynllun Busnes i fynd o 2016 i 2020. Wrth wneud hyn mae'r Bwrdd yn cymryd i ystyriaeth anghenion a barn ein cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â rhai sydd â diddordeb perthnasol eraill. Cafodd tenantiaid a fu’n bresennol yn y Diwrnod Allan Mawr ym mis Awst a Diwrnod Pobl Hy^n ym mis Hydref gyfle i rannu eu barn

ynghylch y blaenoriaethau roeddynt yn dymuno cael mwy o sylw. Y rhain oedd: rhagor o dai, helpu pobl i fyw'n annibynnol am fwy o amser a chyflwyno gwasanaethau o safon. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y Cynllun Busnes 2016 - 2020 yn y flwyddyn newydd unwaith y bydd wedi cael ei gwblhau a’i gymeradwyo. Mae gan gyfranddalwyr Cartrefi Conwy yr hawl i fynychu'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyfarfod blynyddol yw hwn, a gynhelir ym mis Medi, pan fydd cyfranddalwyr yn derbyn datganiadau ariannol blynyddol ac yn pleidleisio ar faterion megis penodi aelodau i’r Bwrdd. Gall tenantiaid Cartrefi Conwy wneud cais i fod gyfranddalwyr. Cysylltwch â'r tîm Llywodraethu os hoffech chi ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r materion hyn.

DEWCH I ADNABOD EICH TÎM LLESDDEILIAID PENODEDIG Helo Julie Brotherton ydw i.

Helo Nicky Haselgrove ydw i.

Dwi wedi bod yn gweithio fel Swyddog Cyswllt Prydles a Thir am nifer o flynyddoedd, a dwi’n mwynhau’n fawr iawn. Dwi wedi datblygu fy rôl dros y blynyddoedd i allu cynnig gwasanaeth cefnogi calonogol i denantiaid prydles. Mae gen i lawer o wybodaeth, a gallaf roi atebion i gwestiynau unigolion ynghylch prydles. Ychydig flynyddoedd nôl, roeddwn i’n falch o gael bod yn rhan wrth sefydlu Fforwm Prydleswyr, sy’n cwrdd sawl gwaith y flwyddyn. Fy nod at y dyfodol yw parhau i gydweithio er mwyn i ni wella ein gwasanaethau. Byddem yn annog pob llesddeiliaid i ddod draw i'r fforwm, yn enwedig os nad ydych erioed wedi bod i gwrdd â ni am sgwrs dros baned a chacen.

Mae rhan fawr o fy ngwaith yn golygu dadansoddi gwariant i gynhyrchu cyfriflenni terfynol a dadansoddi gwaith atgyweirio i gynhyrchu gwybodaeth gywir i lesddeiliaid. Dwi hefyd yn gweithio'n agos gyda Julie, Swyddog Llesddaliad o ran ymholiadau am gyfreithwyr a gwybodaeth ariannol. Rwy'n mwynhau mynychu'r fforwm llesddaliad yn arbennig a dod i gwrdd â'n llesddeiliaid wyneb yn wyneb.

Cofiwch mai Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Cartrefi Conwy yw eich pwynt cyswllt cyntaf er mwyn:

✔ Gwneud Taliad ✔ Rhoi gwybod am Waith Atgyweirio

Helo Rachel Dolan ydw i. Fe ymunais â Chartrefi Conwy yn ddiweddar, a dwi’n cefnogi Julie â phob dim sy’n ymwneud â thaliadau prydles. Yn bwysicach na dim, dwi yma i’ch helpu a’ch cefnogi pan fyddwch yn cael anhawster talu neu’n mynd i ddyled. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod y gallwch gysylltu â mi’n gyflym a siarad am eich problemau talu fel y gallwn gytuno ar gynllun talu hylaw, ac mae gennym nifer o opsiynau, gan gynnwys benthyciadau*. Cofiwch bydd delio ag ôlddyledion yn gynnar yn eich helpu i osgoi gorfod delio ag asiantaethau casglu dyledion. Rwyf wedi helpu llawer o bobl sydd ag ôl-ddyledion gwael i ddilyn cynlluniau talu llwyddiannus. *amodau yn berthnasol

Ffoniwch 0300 124 0040 Dolenni cyswllt defnyddiol: Leasehold Advisory Service (give free independent specialist leasehold legal advise) www.leaseholdadvicecentre.co.uk North Wales Credit Union www.creditunionsofwales.co.uk

A YDYCH YN DOD Â'CH TENANTIAETH I BEN? Cofiwch osgoi’r tebygolrwydd o fod mewn dyled, drwy ddod â’ch tenantiaeth i ben â 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig, cyflwynwch eich goriadau cyn diwedd eich cyfnod rhybudd a sicrhewch fod yr eiddo yn wag heb unrhyw gelfi a’i fod yn yr un cyflwr â phan wnaethoch chi symud i mewn.

Bydd delio â’r ôl-ddyledion yn gynnar yn eich helpu â cheisiadau tai yn y dyfodol ac osgoi gorfod delio ag asiantaethau casglu dyledion. Rwyf wedi helpu llawer o gyndenantiaid sydd ag ôl-ddyledion gwael i ddilyn cynlluniau talu llwyddiannus. Mae'n well eich bod yn cysylltu â mi cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn dod â'ch tenantiaeth i ben.

ENVIRO SOS YN DYRANNU DROS £36,000 I BROSIECTAU GWARIANT A ARWEINIR GAN Y GYMUNED LLONGYFARCHIADAU i'r grwpiau prosiect llwyddiannus yn:

AMGY L CH E D DO L

Ysgol Maes Owen - Bae Kinmel

Ysgol Bro Aled - Llansannan

Marl Crescent - Cyffordd Llandudno

Ysgol Bro Aled - Llansannan

Ysgol Llandrillo Yn Rhos - Llandrillo-yn-Rhos

Bryn Difyr - Penmaenmawr

Tan Y Graig - Llanrwst

Twr Llewelyn - Conwy

Cae Bronydd - Llanrwst

Kennedy Court - Hen Golwyn

Cwrt Cae Mor - Abergele

Marl Crescent - Cyffordd Llandudno

3


^

DIWRNOD POBL HYN 2015 Gwahoddwyd dros 200 o denantiaid Cartrefi Conwy o bob cwr o’r sir i’w Diwrnod Pobl Hy^n yn Venue Cymru, Llandudno. Roedd y digwyddiad gala, gyda’r thema “Byw Bywyd, Caru Bywyd”, yn rhoi cyfle iddynt gyfarfod a chymysgu gyda phobl o oed tebyg o weddill 3,500 eiddo’r gymdeithas. Cafodd y tenantiaid gyfle hefyd i weld enghreifftiau o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hy^n a’r hyn y gallant ei gyflawni eu hunain gyda’r cymhelliant cywir. Uchafbwynt y diwrnod oedd seremoni wobrwyo nodedig lle cafodd tri o denantiaid oedrannus eu hanrhydeddu am eu gwaith gwirfoddol yn y gymuned a bod yn gymdogion eithriadol o dda. Aeth y Wobr Gwirfoddolwr Rhagorol, i Renee Williams am y ffordd y mae hi ^ p cyfeillgarwch gyda’r nod o lonni bywydau cydwedi arloesi mewn grw breswylwyr yn natblygiad Y Fron, Bae Colwyn. Dyfarnwyd anrhydedd Pencampwr Pobl hy^n i Olwyn Rowlands, i nodi ei chefnogaeth barhaus i’w chymdogion oedrannus a’i gallu i roi gwen ar wynebau pobl eraill. Enillydd y Wobr Cymydog Eithriadol oedd Dilys Roberts, am y modd y mae hi’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod ei chymdogion ym Maes Cwstennin, Cyffordd Llandudno yn gyfforddus ac yn hapus yn eu cartrefi. Dechreuodd y trydydd Diwrnod Pobl Hy^n blynyddol gyda dangosiad o ffilm yn tynnu sylw at yr hyn y mae pobl hy^n Cartrefi Conwy wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Sied Dynion newydd ym Mae Colwyn, cyrsiau diogelwch yn y cartref sy’n cael eu rhedeg ar eu cyfer ac agor Cysgod Y Gogarth. Yna cafodd y gwesteion gyfle i glywed am y cymorth hanfodol a ddarperir i denantiaid Cartrefi Conwy yn eu cynlluniau Byw’n Annibynnol, ac ymuno ag

Ymgyrch Cefnogi Pobl i sicrhau bod y cyllid yn parhau. Roedd yna groeso cerddorol gan gôr o Ysgol John Bright a ffarwel bywiog gan Gôr Meibion Trelawnyd. Ymunodd Tenantiaid mewn her Pasbort i Les lle’r oeddent yn ymweld â gwahanol stondinau o gwmpas y neuadd, a chael stamp gwahanol ar bob stondin mewn pasbort arbennig oedd yn cynrychioli’r pum ffordd i les corfforol ac emosiynol – gan nodi a chydnabod eu talentau eu hunain ac eraill, cysylltu â phobl drwy wrando neu ffonio, bod yn gorfforol weithgar drwy feicio, dawnsio neu arddio, a dal ati i ddysgu drwy roi cynnig ar bethau newydd a hefyd rhoi drwy rannu ag eraill a gwenu. Dywedodd Nerys Veldhuizen, Cydlynydd Ymgysylltu Pobl Hy^n Cartrefi Conwy: “Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych sydd wedi tynnu sylw at rai o lwyddiannau anhygoel pobl hy^n a’r pethau y maent wedi eu cyflawni trwy gydol y flwyddyn.

‘‘

Mae hefyd wedi bod yn ffenestr siop ar eu cyfer a hefyd i waith ein cydlynwyr byw’n annibynnol sy’n cefnogi dros 600 o’n tenantiaid ar draws sir Conwy, gan helpu i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

’’

GRANT CEFNOGI POBL YN DDIOGEL Fe sefydlwyd ymgyrch 'Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl' yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl, y bobl sy'n elwa, natur ataliol y rhaglen a sut y mae'r arian yn cael ei wario. Nod yr ymgyrch yw sicrhau buddsoddiad parhaus yn y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl a sicrhau bod pobl sy'n cael eu gwthio i'r ymylon ac sydd mewn perygl, yn parhau i gael eu diogelu. Mae ymgyrch 'Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl' yng Nghymru yn cael ei redeg gan Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, a Cymorth Cymru, y corff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl sydd ar yr ymylon ac sydd mewn perygl yng Nghymru.

Diolch yn fawr i'n tenantiaid am ein helpu ni i dynnu sylw at yr ymgyrch ac am ei hyrwyddo. www.cartreficonwy.org/cartefi/page/cartrefi-tv

RHOI I’CH ARDAL Mae 'Rhoi i’ch Ardal’ yn brosiect newydd cyffrous y dechreuodd Cartrefi Conwy ym mis Awst 2015 yng Nghysgod y Gogarth, Llandudno. Mae Rhoi i’ch Ardal yn ymwneud â rhannu eich amser a’ch sgiliau gyda’ch cymdogion a’ch ffrindiau. Mae ein cymuned yn llawn o denantiaid sydd â chymysgedd rhyfeddol o sgiliau a gwybodaeth nad ydych efallai yn ymwybodol ohonynt. Gallwch ymuno yn rhad ac am ddim, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhannu sgìl sydd gennych chi a threulio ychydig o’ch amser yn helpu rhywun arall, a disgwyl iddyn nhw wneud

4

yr un peth. Mae'n hynod hyblyg a gallwch roi cymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunwch ac nid oes rhaid i chi ymrwymo i amserau a dyddiadau penodol. Erbyn hyn, mae gennym dros 20 o aelodau yn rhannu ^ n, sgiliau a thasgau megis DIY, gwnïo, cerdded cw gwersi cyfrifiadurol, siopa a llawer mwy. Mae'n rhad ac am ddim, mae'n hwyl ac yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd! Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhannu eich sgiliau a gwneud ffrindiau newydd? I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kelly Williams ar 07436 589812.

Mrs Pat Farley ein haelod GWYL cyntaf


ARCHIE SY’N GANT OED YN COFIO DIANC RHAG BWLEDI GANGSTERS YN EFROG NEWYDD ^ Mae gw r sy’n gant oed wedi sôn am sut y cafodd ei ddal ynghanol ymrafael rhwng gangsters a mynychu digwyddiad gyda’r mobster enwog o Chicago, Al Capone.

Mae pen-blwydd Archie Kipling yn 100 oed wedi dod â’r atgofion yn ôl am ei anturiaethau rhyfeddol pan oedd yn ddyn ifanc, gan gynnwys dod i adnabod sêr comedi chwedlonol Hollywood Laurel a Hardy. Ar ôl derbyn cardiau pen-blwydd arbennig gan y Frenhines a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, mi wnaeth Archie fwynhau parti yn ei gartref yn Llandudno lle bu’n dawnsio drwy’r nos gyda theulu a ffrindiau. Yn siarad yn ei fyngalo dywedodd sut y bu iddo fynd i’r môr yn 13 oed i weithio i gwmni llongau Cunard. Dywedodd: “Bûm yn gweithio ar rai llongau arbennig fel y Mauritania’ ond fy hoff long oedd yr ‘Aquitania’, roedd hi’n brydferth tu hwnt. Rydych yn dod i adnabod llong wrth weithio arni ac roedd yr ‘Aquitania’ yn arbennig.

‘‘

Roeddwn wrth fy modd gyda fy swydd ac mi wnes i weithio fy ffordd i fyny i fod yn stiward Dosbarth Cyntaf. Mi wnes i weld y byd a chael bywyd gwych.

’’

DWEUD EICH DWEUD Rydym wir yn gwerthfawrogi eich bod yn cymryd yr amser i ddweud eich dweud. Mae hyn yn ein helpu i wella ein gwasanaethau, ac rydym yn gofyn i chi lenwi mathau gwahanol o arolygon yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod hyn mor hawdd â phosibl i chi drwy: • Ail ddylunio arolygon sy'n golygu mai’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ticio neu glicio i fynegi eich barn. • Rhoi mwy o gyfle i chi ddweud eich dweud • Creu swyddi newydd i geisio eich barn Mae dweud eich dweud yn bwerus ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn dylanwadu ar yr hyn yr ydym yn ei flaenoriaethu ac yn helpu i siapio ein gwasanaethau i weddu orau i chi, ein cwsmeriaid.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi beth sydd gennych i'w ddweud, felly rydym yn cynnig gwobr.

LLONGYFARCHIADAU i enillwyr Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid

(A enillodd Talebau Love2Shop gwerth £250)

Stats Perfformiad Gorffennaf - Medi 2015 % o ymatebwyr yn fodlon gyda'r ffordd y cafwyd eu trin gan Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer pan y galwyd ynglyn a atgyweiriad. 914

98%

% o ymatebwyr oedd ar y cyfan yn fodlon gyda'r gwasanaeth y cafwyd gan y crefftwr. 934

99%

% o ymatebwyr oedd yn fodlon gyda'r gwasanaeth atgyweirio y cafodd gan Cartrefi Conwy. 936

99%

Mr Foster, Hen Golwyn

SUT I OSGOI TWYLL BANCIO DROS Y FFÔN • Ni fydd banc neu gwmni cerdyn talu yn gofyn i chi drosglwyddo arian allan o'ch cyfrif i gyfrif arall nad ydych yn ei adnabod, felly rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. • Os ydych chi’n meddwl y gallai’r alwad fod yn un dilys a’ch bod yn dewis ffonio eich banc neu’r cwmni a roddodd y cerdyn i chi, ffoniwch y rhif ar eich cyfriflen banc neu ddogfen arall gan eich banc, neu’r rhif ar gefn eich cerdyn – cofiwch ddefnyddio ffôn arall i’r un y gwnaethoch ei roi lawr. Os na

allwch chi ddefnyddio ffôn arall, gadewch o leiaf pum munud cyn deialu, neu ffoniwch ffrind, cyn gwneud galwad arall.

Os ydych wedi bod yn Ddioddefwr o Dwyll Bancio dros y Ffôn

• Peidiwch byth â rhoi manylion ariannol neu bersonol i rywun sy'n ffonio, ond ffoniwch yn ôl ar rif rydych chi’n gwybod sy’n ddilys. Mae gan rai twyllwyr y gallu i barodi rhifau dilys i’ch twyllo i feddwl eu bod yn ddilys.

5


GWNEWCH EICH NADOLIG YN GOFIADWY, AM Y RHESYMAU CYWIR... • Llosgi Canhwyllau - peidiwch â’u gosod ger llenni, ffabrigau neu ddodrefn. • Peidiwch â gadael ystafell pan fo cannwyll yn llosgi, a dylech ddiffodd ^ . canhwyllau sy’n llosgicyn i chi fynd i gysgu neu cyn i chi fynd allan o'ch ty • Dylech osod canhwyllau mewn cynhwysydd gwydr neu fetel bob tro sy’n gallu gwrthsefyll gwres. • Dylid gosod canhwyllau y tu hwnt i gyrraedd plant ac i ffwrdd o ardaloedd y gall anifeiliaid anwes eu cyrraedd. • Peidiwch byth â gadael i gannwyll losgi mewn ystafell plentyn.

Mae Carol wedi ymgymryd â dyletswyddau Chad fel Swyddog Cefnogi Diogelwch yn y Cartref Cartrefi Conwy. Yn nain i ddau, mae Carole wedi gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 12 mlynedd. Mae Carol yn mwynhau ei rôl newydd, yn enwedig cwrdd â thenantiaid a gweithio gyda chydweithwyr Cartrefi Conwy. PRIF ARGYMHELLION CAROL i fod yn ddiogel yn eich cartref dros y Nadolig a'r adeg hon o'r flwyddyn yw: Peidiwch byth â gorlwytho socedi trydan • Addurniadau sydd wedi’u gwneud o bapur ysgafn - peidiwch â'u gosod yn union uwchben neu o amgylch y lle tân a chadwch nhw i oddi wrth ganhwyllau. • Goleuadau Mân - gwiriwch eich bod yn defnyddio'r ffiwsiau cywir a chofiwch ddiffodd y goleuadau i ffwrdd pan fyddwch yn mynd i gysgu. • Larymau Mwg - gwiriwch fod eich larwm mwg yn gweithio ac ystyriwch osod larwm mwg ychwanegol yn yr ystafelloedd ble y llosgir canhwyllau.

H YN CERD NGARWCD DEYR LTY CAR A LOY

er er numb / Memb d lo e R a Rhif MBE LE NU SAMP

te xpiry da rfyn / E te d ia d Dyd HERE DATE

Teimlwch gynhesrwydd eich cartref y Nadolig hwn, ond cofiwch fod yn ddiogel Cofiwch fod yn ddiogel wrth geisio cadw’n gynnes yn enwedig drwy:

Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth neu i gael rhagor o gyngor, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid, ffoniwch 0300 124 0040 i drefnu Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim.

• Tanau agored - defnyddiw ch warchodydd bob amser • Ysgubo eich simneiau yn rheolaid • Peidiwch a defnyddio eic h popty i gynhesu eich cartref^ • Blancedi Trydan - gwnewc r eu bod yn ddiogel i'w defnyddhio.yn siw ^

Oes gennych chi gerdyn countdown? Peidiwch ag anghofio ei ddefnyddio wrth siopa Nadolig cofiwch y gallwch arbed cannoedd o bunnoedd gyda manwerthwyr lleol a chenedlaethol.

LLONGYFARCHIADAU i enillwyr cofrestru eich cerdyn

Kirsty a Kane Evans, Deganwy a enillodd iPad Air

Safiwch bres ar hanfodion.

Safiwch bres ar hanfodion

Cofrestrwch eich cerdyn - galwch ennil tocyn Costa gwerth £5

Defnyddiwch y côd y dangosir Neu, ymwelwch ar wefan arbennig y dangosir

Roger Davidson, Llanfairfechan a enillodd Talebau Love2Shop gwerth £100

6

Cofrestrwch nawr: www.countdowncard.com neu galwch 01462 889 010 customerservices@countdowncard.com

@CountdownCard

CountdownCardSavings


10 AWGRYM I OSGOI SGIL EFFEITHIAU DYLED Y NADOLIG 1. Cynlluniwch yn gynnar ar gyfer y Nadolig. Byddwch yn realistig a gosodwch gyllideb yn unol â hynny. Cyfrifwch faint rydych yn mynd i'w wario ar bob person - a chadwch at y ffigur hwnnw. Rheolwch ddisgwyliadau ynghylch beth allwch chi neu Sion Corn eu rhoi. 2. Peidiwch ag anghofio’r biliau bob dydd. Cofiwch fod rhent, y morgais, biliau cyfleustodau, biliau bwyd a dyledion eraill sy'n bodoli eisoes yn dal i orfod cael eu talu - a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol os na chânt eu talu. Er ei bod hi’n Nadolig, mae hi’n bwysig cael eich blaenoriaethau’n iawn. 3. Peidiwch â dibynnu ar orddrafft. Os hoffech chi gael mwy o arian, peidiwch â mynd i’ch gorddrafft heb drafod â’ch banc gyntaf - fe fydd hyn yn llawer mwy costus. 4. Cadwch bethau'n syml. Os allwch chi fforddio talu am eich nwyddau’n syth gydag arian parod, siec, neu gerdyn debyd, peidiwch â chael eich perswadio i ymestyn cytundebau credyd oni bai eu bod yn rhatach.

5. Siopwch o gwmpas. Rhowch gynnig ar gymaint o wahanol lefydd â phosibl i ddod o hyd i'r pris gorau. Prynwch yr hyn yr ydych ei eisiau ac nid yr hyn mae pobl eraill yn ei ddweud sydd ei angen arnoch. Byddwch yn wyliadwrus o warantau estynedig; gallai'r gost o’u trwsio fod yn llai na chost y warant. 6. Prynwch yn ddiogel i fod yn ddiogel. Beth bynnag y fargen, beth bynnag y demtasiwn, peidiwch â phrynu gan fasnachwyr heb awdurdod a pheidiwch â benthyg gan fenthycwyr heb awdurdod. Gall yr arbedion a chyfleustra cychwynnol olygu eich bod yn gwario punt i ennill ceiniog. 7. Darllenwch y print mân. Gwiriwch am bethau ychwanegol cudd mewn unrhyw gytundeb credyd. Cyfrifwch y cyfanswm sy'n daladwy. Sicrhewch fod y rhandaliadau misol o fewn eich cyllideb cyn llofnodi. Gall credyd di-log ymddangos yn ddeniadol, ond os nad ydych yn talu ar amser, neu’n methu taliad, gallai olygu bod rhaid i chi dalu llawer mwy. 8. Gwnewch eich gwiriadau credyd eich hun.

Manylion cystadleuaeth a’r gael yn Gymraeg

WIN £25 of Store Vouchers ouche

Os ydych yn mynd i ddefnyddio cerdyn credyd, gwnewch waith ymchwil a chymharwch dermau. Mae rhai cardiau yn codi cyfraddau llog uchel, ond maent yn darparu cyfnodau di-log neu ostyngiadau. Dylech glustnodi cyllideb ar gyfer yr holl gostau yma, a nodwch ddyddiadau’r taliadau yn eich dyddiadur. 9. Byddwch yn drefnus. Mae yna lawer i'w gofio adeg y Nadolig. Os ydych wedi benthyg arian peidiwch ag anghofio na fydd yn hir cyn i chi orfod gwneud taliad. ^ Gwnewch yn siw r eich bod yn talu ar amser, hyd yn oed os mai dim ond y lleiafswm, neu byddwch yn wynebu costau ychwanegol. 10. Dechreuwch gynllunio a chynilo ar gyfer y Nadolig nesaf. Unwaith y bydd y Nadolig ar ben, mae'n werth edrych ar yr hyn oedd yn llwyddiant a’r hyn nad oedd yn llwyddiant. Dysgwch o’ch camgymeriadau a dechreuwch gynllunio sut y byddwch yn gwneud pethau yn wahanol y flwyddyn nesaf. Gallai hyn hefyd fod yn amser da i ddechrau cynilo ar gyfer y Nadolig nesaf.

CADW’N HEINI A CHAEL HWYL

What wo W wou uld you do o if you arrived rr home after fter a night o outt or a trip rip away y to find fi out o thatt some so o eone had b broken into iin your your h home, a pipe ipe p had d burst and and flooded d you y your property? o Your belongingss are a not automatically om insured by Cartrefi Conwy against fire, re, e theft, h , water damage and other house hold risks. r So, if you y haven’ ve t thought th properly about insurance coverr,, you co could ould u be in for a shock. h However err,, Cartrefi Conwy ca Con can now arrange a nge for insurance for the contents of your home h me e at a sp special special i affordable da rate.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch

0845 305 4134 neu ewch i: www.ageconnectswales.org.uk

PWYSIG - Cadwch lygad ar ein gwefan neu dudalen facebook i gael gwybodaeth am gyfleoedd swyddi newydd. www.cartreficonwy.org/ cartrefi/page/creating-enterprise

The cover er has been d designed es gned to to help you insure most of your be belongings n as eas easily sily as possible. ible. The minimum value of possessions on you yo can n insure is only £9,000 £ (£6,000 iff you ou are re aged over 60) and premiums start ta t from f as little ass £1.53 £1 a fortnight (under 60’s)) and £1.16 £1 16 a fortnight tn ni (over ver 60 60’s) for f standard cover. Optiional extensions are available for an additional o premium pr m.. Terms and a conditions, o , limits and exclusions ns apply app y, a copy apply, p of o the policy wording is available aila able on o request. requ uest. Forr further informat F infor tion ask a Cartrefi Conwy nwy for a ffree ree application pack p or call Crystal Crystal r Insurance an 0845 337 2463 63 6 3 or itt may o y be e cheape cheaperr tto call 01628 16 586189 8 from om a mobile), mobile) mob le), or visit le v www ww w.thistlem thistlem myhome co m myhome.co.uk o.uk u There h he are 1 13 words to t find fi in the grid rid above. Can n you find them em all? a l? If so mark them t up p clearly and an return n with w th the slip below e ow to Cartrefi Co on y,, Morfa Gele, North Waless Business Park, onwy k, Cae C Eithin Eithin, hi bergele, b g berg LL22 L22 8LJ before f e 16th January 201 201È. You u could be the tth lucky luccky winner w er of the vouchers. The Th he winner willl be b the first fi stt correct corrrect rre t entry ry drawn. (This competition comp petition et tion is i only on y available labl to entrants e over 18 years of age).

Name:…………………………………………………............ Address:………………………………………………............ …………………………………………………………........... …………………………………………………………........... Postcode: ………………………………………………........

Telephone number: ……………………....................... I would like more information about the special home contents insurance scheme YES/NO Cartrefi Conwy competition rules apply yy,, a copy of these rules is available on request.

The National Housing Federation My Home Contents Insurance Scheme is a product name arranged and administered on behalf of the National Housing Federation by Thistle Tenant Risks. A trading style of Thistle Insurance Services Limited. Lloyd’s Broker. Authorised and Regulated by the Financial Conduct Authority. A JLT Group Company. Registered Office: The St Botolph Building, 138 Houndsditch, London, EC3A 7AW. Registered in England and No 00338645. V VA AT No. 244 2321 96. The National Housing Federation is an Appointed Representative of Thistle Insurance Services Limited.

7


SIED DYNION NEWYDD LLANRWST YN HELPU I ROI BYWYD NEWYDD AR ÔL STRÔC I BRYAN Mae syniad y sied yn dod yn wreiddiol o Awstralia yn a nawdegau hwyr i helpu dynion ddod dros problemau hyder gyda cymdeithasu am ei teimladau ai iechyd. Mae’r syniad eusoes yn boblogaidd iawn ac mae 6 dros hyd a lled Gogledd Cymru. Diolch yn fawr iawn i'n sefydliad partner, Jewson ym Mochdre, a roddodd yr holl goed a phalmentydd ar gyfer y prosiect, a chafodd gwerth cannoedd o bunnoedd o offer eu rhoi gan wraig o Lanrwst. Ymunwch â Sied Dynion yn eich ardal, cysylltwch â: Sied Dynion y Rhyl Cysylltwch: Steve ar 07989 875 904 neu swyddfa: 01745 797112 Sied Dynion Bae Colwyn Cysylltwch: Brian ar 07887 602733 Sied Dynion Llandudno Cysylltwch: Mike ar 07713861003 Sied Dynion Llanrwst Cysylltwch: Rosie ar 01492 642110

Mae cynllun cymunedol arloesol yn Llanrwst, sydd wedi rhoi bywyd newydd i ddyn a ddioddefodd anabledd difrifol yn dilyn strôc, wedi cael ei agor yn swyddogol. Roedd Bryan Jones, sy’n byw yn y dref, yn gweithio fel peiriannydd rhwydwaith ffôn symudol pan gafodd ei daro gan strôc a gwaedlif ar yr ymennydd chwe blynedd yn ôl. Yn dilyn y strôc, gadawyd Bryan, sydd bellach yn 68 oed, wedi ei barlysu ar ochr chwith ei gorff ac yn gaeth i gadair olwyn, ac mi gafodd effaith hefyd ar ei hunanhyder a chyfyngu’n ddifrifol ar ei allu i adael y ty^. Ond cymerodd pethau dro enfawr er gwell i Bryan wrth iddo helpu i sefydlu Sied Dynion Llanrwst. Man cyfarfod rheolaidd yw’r Sied, sy’n cynnig amrywiaeth o ddiddordebau a chwmnïaeth newydd, ac fe’i sefydlwyd gyda chefnogaeth gref gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy.:

ARTISTIAID NEWYDD YN TEIMLO EFFEITHIAU IACHAU SIWRNAI’R CARPED HUD bod o gymorth iddynt ymdopi â cholli anwyliaid, ffrind agos neu anifail anwes, i unigolyn arall mae wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar adsefydlu yn ôl i'r gymdeithas ar ôl gwaeledd, ond mae pawb yn gytûn bod celf yn gyfaill newydd iddynt, yn enwedig yn ystod y gaeaf hir a thywyll pan nad yw hi’n ddiogel i adael y ty^ ar rai diwrnodau. Bu modd i Cartrefi Conwy gomisiynu Jan Gardner fel artist preswyl ar gyfer y cwrs hwn ar ôl derbyn rhywfaint o arian gan Arts & Business Cymru. Mae Cartrefi Conwy’n cydnabod Bydd gwaith pwysigrwydd celf yn y gymuned a'r effeithiau therapiwtig ^ y grw p yn cael ei cadarnhaol mae'n ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi 10 wythnos o ddosbarthiadau celf yng Nghysgod Y Gogarth, bu 12 o denantiaid a phreswylwyr yn dathlu eu gwaith celf lliwgar ac unigryw gyda'r arlunydd a thiwtor lleol, Jan Gardner. Nid dosbarthiadau celf cyffredin oedd y rhain, roeddynt yn therapi celf, ac mae pob un o’r campweithiau yn adrodd hanes ^ p ar eu siwrneiau personol yr unigolyn a'i creodd. Dywedodd Jan bod y grw carped hud eu hunain, sydd wedi dod â'r holl dechnegau artistig ynghyd, ac mae'r grŵp wedi cydweithio fel tîm, gan ddysgu a rhannu ymysg eu gilydd. Serch hynny, mae'r cwrs wedi golygu llawer mwy na'r gwaith celf gorffenedig, mae llawer o'r grŵp wedi disgrifio eu cyfarfodydd wythnosol fel sesiynau iachau; i rai maent wedi

8

ddathlu mewn arddangosfa gelf ar 18 Rhagfyr


CYNLLUN TAI ARLOESOL GWERTH £600,000 AR GYFER GWEITHWYR ALLWEDDOL

Before

After Mae cymdeithas tai yn braenaru tir mewn cynllun arloesol gwerth £600,000 i drawsnewid plas Edwardaidd yn gartrefi fforddiadwy ar gyfer gweithwyr allweddol ym Mae Colwyn. Trwy brynu’r eiddo mawreddog wyth ystafell wely ar Ffordd Conwy oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Cartrefi Conwy wedi gadael ei rôl arferol o ddarparu cartrefi cymdeithasol cost isel yn benodol er mwyn gweithredu’r prosiect hwn. Pan fydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd chwe fflat o’r radd flaenaf yn cael eu gosod ar rent fydd 20 y cant yn is na phris rhent y farchnad gyfredol – er mwyn sicrhau bod pobl allweddol fel yr heddlu, staff iechyd a gwasanaethau brys yn medru byw yn agos at galon y dref.

Yn fras, rydym yn sôn am bobl sydd yn ennill rhwng £15,000 a £29,000 y flwyddyn – llawer ohonynt mewn swyddi sy’n allweddol i gymuned Bae Colwyn. Mae’r fflatiau wedi cael ei dinistrio ac ei ailnewid yn llawn, gyda gyd o chwech fflat newydd dwy ystafell ar dri llawr gwahanol gyda lolfa ar wahan neu ardal lolfa/cegin. Gyda’r diweddaraf mewn gwresogi a ffenestri pren called i ostwng biliau, mae efyd cawodau a bath newydd yn y ystafelloedd folchi newydd. Rydym yn helpu i wella’r economi leol drwy ein buddsoddiad yn y cynllun hwn, ond rydym hefyd yn dod â phobl yn ôl i fyw yng nghanol y dref. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â

Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050

RHAN FLAENLLAW I AMY YNG NGHWPAN Y BYD Llongyfarchiadau i bêl-droedwraig alluog o Fae Cinmel Amy Woodbridge wedi llwyddo i oresgyn ei hofn o hedfan i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol.

Dywedodd: “Roeddwn yn teimlo’n nerfus iawn am nad oeddwn wedi bod ar awyren o’r blaen.

Roedd y chwaraewr canol cae, Amy Woodbridge, 16 oed, yn aelod blaenllaw o dîm Cymru yng Nghwpan y Byd i’r Digartref yn Amsterdam.

“Cefais wahoddiad i fynd i Gasnewydd ar gyfer y treialon ar gyfer Cwpan y Byd i’r Digartref ac nid oeddwn yn disgwyl cael fy newis, ond cefais alwad ffôn y diwrnod canlynol yn dweud fy mod yn rhan o’r tîm.

Cynhelir y gystadleuaeth hon, sy’n agored i chwaraewyr 16 oed a hy^n, ac sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd yn neu sydd wedi bod yn denantiaid tai cymdeithasol yn y 12 mis blaenorol, bob blwyddyn rhwng timau sy’n cynrychioli mwy na 70 o genhedloedd.

“Mae’n fraint anhygoel cael cynrychioli Cymru ac roeddwn ar ben fy nigon – ond roeddwn yn teimlo’n ofnus iawn yngly^n â mynd ar yr awyren! Fe wnaethom hedfan draw ym mis Medi, a buom yn eithaf llwyddiannus. Fe wnaethom orffen yn y 9fed safle a llwyddo i gyrraedd y twrnamaint ‘Plât’.

Yr oedd yn gam mawr o chwarae i dîm Pêl-droed Merched Bae Cinmel a thîm pêl-droed stryd cymdeithas tai Cartrefi Conwy.

Meddai: “Rwy’n astudio gwasanaethau cyhoeddus a gwyddor chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo yn awr ac rwyf eisiau bod yn hyfforddwr pêl-droed os gallaf. Cefais lawer o brofiadau yn chwarae yn Amsterdam, ac mae wedi rhoi hwb mawr i fy hyder.

Fe sicrhaodd Amy, sy’n byw ar ystâd Rhodfa Caer Cartrefi Conwy, gyda’i mam, ei thad, dwy chwaer a brawd, ei sedd ar yr awyren i’r Iseldiroedd ar ôl perfformio’n dda mewn gêm brawf yn Ne Cymru. Fodd bynnag, mae Amy yn cyfaddef ei bod yn teimlo’n ofnus iawn cyn mynd ar awyren am y tro cyntaf wrth iddi baratoi i hedfan gyda gweddill y tîm.

“Mae Cartrefi Conwy wedi bod yn wych, a heb eu help eu cymorth hwy ni fyddwn wedi gallu cymryd rhan i fod yn deg. Rwy’n mwynhau chwarae i’r tîm pêl-droed stryd ac mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn. Mae’n rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.”

9


SÊR RYGBI A PHOBL IFANC YN GARDDIO I ROI’R GWANWYN YN Y TIR Bydd blodau yn creu caleidosgop o liw yn ystâd Tre Cwm Llandudno Mae criw o chwaraewyr rygbi a’r trigolion lleol wedi dangos eu doniau garddio ac ymuno â’i gilydd i blannu miloedd o yn ystad tai yn Llandudno. ^ r y bydd ystâd Bydd eu hymdrechion yn gwneud yn siw Tre Cwm yn Llandudno yn ei blodau go iawn pan fydd y bylbiau’n blodeuo mewn ffrwydrad o liw y gwanwyn nesaf.

Ymunodd 22 o blant a phobl ifanc â’r tenantiaid yn y gwaith plannu, ynghyd â mamau a thadau o’r ystâd, aelodau o Academi Rygbi RGC 1404, staff swyddfa Cartrefi Conwy, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu a mudiadau cymunedol eraill. Planwyd llawer o flodau ar y diwrnod yn cynnwys daffodils, bluebells, wild garlic, crocuses, scillas puschkinia, a blodyn or Dwyrain Canolog.

Daeth tenant Zoe Robertson I lawr ar y diwrnod gyda ei phlant Carys, 10, Gethin, 9 a Dyfan, 6. Dywedodd “Mi roedd yn hwyl iawn yn enwedig ir plant. Mi wnaith helpu yr ystad i edrych yn well ac yn fwy llachar ac yn enwedig am fod y plant wedi helpu mi fyddent yn falch ofnadwy”. “Mae digwyddiadau fel hyn yn dod ar gymuned gyda ei gilydd ac mae hyn yn bwysig. Mae yn wych bod yr heddlu, tim rygbi a gwirffoddolwyr sydd wedi dod i helpu. Mae’n wych I weld”. Cafodd gwaith y grwp ei wobrwyo gan gawl wedi ei baratoi gan denant lleol Anne Forbes yn Canolfan Gymuned Ty^ Llywelyn lle y mae hi yn gweithio fel rheolwr gwirfoddol.

www.facebook.com/trecwm

Y ‘LILYWHITES’ YN SGORIO

Mae logo Cartrefi Conwy i’w weld ar grysau chwaraewyr Clwb Pêl Droed Y Rhyl. Ond mae’r gefnogaeth yn mynd ymhellach nag anturiaethau’r ‘Lilywhites’ yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae Cartrefi Conwy nawr yn hyfforddi tim peldroed y Rhyl am y tri tymor nesaf. Mae Cartrefi Conwy yn rhannu gwerthoedd gyda tim peldroed y Rhyl ac yn cefnogi llawer yn y gymuned yn enwedig gyda’r prosiect ‘Strikers’ yn ogystal â thrwy gynlluniau eraill. Mae’r prosiect yma yn rhaglen ysbrydoledig sy’n cyfuno hyfforddiant pêl droed a ffitrwydd gyda gwaith dosbarth. Mae’r rhai sydd ar y cwrs yn dysgu darllen a rhifo yn ogystal ag adeiladu hyder a chymhelliant. Mike Jones yw rheolwr gyfarwyddwr Clwb Pêl Droed Y Rhyl. Mae hefyd yn gweithio fel gweithiwr cefnogol i wasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint. Roedd wrth ei fodd fod y clwb wedi llwyddo i ddodo hyd i noddwr o ansawdd

Cartrefi Conwy. Meddai: “Rwy’n meddwl fod cael nawdd gan Gartrefi Conwy yn dangos pa mor werthfawr yw’r clwb pêl droed i’r dref a chymaint sydd wedi ei gyflawni drwy gydweithio â’r gymuned. “Mae ein rhaglen ‘Strikers’ yn helpu gwneud oedolion ifanc yn haws i’w cyflogi a’u rhoi mewn awyrgylch dysgu yn y clwb pêl droed. “Maen nhw’n dysgu drwy iaith pêl droed ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth ddatblygu eu sgiliau personol a dod yn fwy hyderus. Mae hyn yn gymorth mawr iddyn nhw wrth chwilio am waith. “Mae nawdd gan Gartrefi Conwy yn rhoi cyfleoedd i deuluoedd ac yn ein galluogi ni i’w helpu drwy gyfrwng pêl droed.” Ychwanegodd: “Yn ogystal â’n rhaglen ‘Strikers’ rydym hefyd yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 10 ac 11 Ysgol Uwchradd Y Rhyl. Disgyblion yw’r “Yn 2013 ni oedd Clwb y Flwyddyn drwy Gymru am ein hymroddiad i’r gymuned ac roeddem yn hynod falch hefyd o ennill gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl. Dywedodd Corey Taylor, 17 oed, chwaraewr CHI Clwb Pêl Droed Y Rhyl ac sy'n byw yn Abergele, fod gweithio gyda’r gymuned wedi bod yn rhan bwysig o’i hyfforddiant. ^ an am dair blynedd ac roeddwn yn chwarae Meddai: “Rwyf wedi bod yn y Rhyl rw yn y tîm tan 19 am y ddwy flynedd ddiwethaf cyn cael fy newis i chwarae i’r tîm cyntaf y tymor yma. Rydw i yn y clwb hefo tri chwaraewr CHI arall dri diwrnod yr wythnos dydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau. “Ar ddydd Mawrth rwy’n mynd i’r coleg lle rwy’n dilyn cwrs NVQ mewn gwasanaeth cwsmer gyda Hyfforddiant Gogledd Cymru. Ar y dyddiau yr ydw i yn y clwb rwy’n gweithio gyda phobl ifanc ac ysgolion gan ddysgu sgiliau pêl-droed.

Mae gan Cartrefi Conwy 3 ffurf o Gyllid Cymunedol, Rhoddion a Hyfforddiant, Cist Cymunedol ac SOS Amgylcheddol. Pob blwyddyn rydym yn cefnogi, hyfforddi a rhoi £1,000 i ein cymunedau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ein tim Cyfathrebu a’r:

10

01745 335345 neu ebostiwch communications@cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.