Adroddiad Blynyddol 12-13

Page 1

Uchafbwyntiau wedi’u Golygu 2012 - 2013 Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau


Rhagymadrodd gan Gadeirydd y Bwrdd

Cynnwys Gweledigaeth a Gwerthoedd

4

Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a Mwy

4

Mynd i’r Afael â Thlodi Tanwydd

5

Adfywio sy’n cael ei Arwain gan Dai

5

Datblygu Gwasanaeth o Safon i’n Tenantiaid

6

Cefnogi ein Tenantiaid

7

Partneriaeth: Dull cyfunol o gyrraedd ein hamcanion

9

Manylion y Stoc

11

Eiddo ar Osod

12

Colled ar dai gwag fel canran o’r rhent a godir

12

Ôl-ddyledion Rhent

12

Crynodeb o Perfformiad Ariannol

13

O ble y daw’r arian

13

I ble mae’r arian yn mynd

13

Bwrdd Rheoli ar 31.3.2013

14

Ar ôl fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Cartrefi Conwy ym mis Ionawr 2013 mae’n bleser mawr gennyf ar ran y Bwrdd gyflwyno’r Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol hwn i chi sy’n amlinellu cyflawniadau a chanlyniadau ariannol y Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2013. Yn ddiamau, y cyflawniad mwyaf sylweddol yn y flwyddyn oedd cadarnhad a gafwyd ym mis Rhagfyr 2012 bod stoc tai Cartrefi Conwy yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru – gan wireddu’r prif addewid a wnaed i denantiaid a’r brif resymeg dros drosglwyddo’r stoc tai a gwasanaethau cysylltiedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gartrefi Conwy ym mis Medi 2008. Mae’r ymrwymiad a ddangoswyd gan fy rhagflaenydd, Pam Lonie, wrth arwain y Gymdeithas fel Cadeirydd yn ystod y cyfnod hwn yn rhywbeth y mae’r Bwrdd wedi bod yn falch o’i gydnabod. Mae’r Bwrdd hefyd wedi bod yn falch o nodi bod y Gymdeithas yn gallu rhoi ymrwymiad i barhau i gynnal ei heiddo yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru yn ogystal â dechrau prosiectau a fydd yn cynyddu ei phortffolio o dai fforddiadwy drwy adeiladau newydd ac adnewyddu. Mae gweithwyr ar bob lefel yn y Gymdeithas a’m cydweithwyr ar y Bwrdd Rheoli wedi gweithio’n galed gydol y flwyddyn ochr yn ochr â’n contractwyr, partneriaid strategol, tenantiaid a phreswylwyr lleol i sicrhau ein bod yn parhau i wireddu ein hamcan allweddol, sef creu cymunedau i fod yn falch ohonynt. Rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o hyn. Douglas Leech

Manylion Cyswllt Prif Swyddfa Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele, LL22 8LJ Ffôn: 0300 124 0040 Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch neges e-bost i ymholiadau@cartreficonwy.org Gwefan: www.cartreficonwy.org

A D R O D D I A D

B LY N Y D D O L

A R

W E I T H G A R E D D A U

C A RT R E F I

C O N W Y

2 0 1 2

-

2 0 1 3


Crynodeb y Prif Weithredwr Prif ganolbwynt y gwaith eleni fu cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn mis Rhagfyr 2012 ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y safon hon o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig yr ydym wedi darparu pob cegin ac ystafell ymolchi a’r gwelliannau yr oedd eu heisiau ar denantiaid, rydym hefyd wedi darparu’r holl swyddi a hyfforddiant ychwanegol, a gwerth ychwanegol yr oeddem am eu gweld fel sefydliad. Rwy’n hynod o falch o weithio gyda G Purchase Construction a Chydweithfa Crest a hoffwn roi diolch mawr yn arbennig i’n tenantiaid. Er mai er mwyn gwella safonau byw tenantiaid y gwnaed y gwelliannau hyn, maent wedi gorfod dioddef anghyfleustra ac adeiladwyr yn eu cartrefi. Rydym wedi gallu darparu’r gwelliannau yn y ffordd orau, ond rydym yn gwerthfawrogi eu hamynedd a’u cefnogaeth, felly diolch yn fawr i’n tenantiaid gan Cartrefi Conwy hefyd. Dywedir y gallwch roi lluosydd yn erbyn ein gwariant o ran y budd economaidd y mae wedi’i roi i sir Conwy ac rydym yn edrych ar adeiladu a darparu cartrefi fforddiadwy newydd yn sir Conwy yn awr mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rydym wedi bod yn gwario miliynau o bunnoedd yn y gymuned leol gan defnyddio cadwyni cyflenwi lleol a llafur lleol. Rydym wedi sicrhau mwy na 65 y cant o lafur lleol a daw 95 y cant o Ogledd Cymru. Mae mwyafrif yr arian hwnnw wedi’i ailgylchu a’i wario yn sir Conwy felly yn yr amser economaidd anodd hwn credwn ein bod wedi ychwanegu gwerth at y sir a galluogi pobl i gael cyflogau rhesymol a gwario yn y gymuned i gefnogi eu cymuned. Ond nid ydym yn llaesu dwylo. Rydym yn dechrau prosiectau newydd ac yn edrych ar adeiladu a darparu cartrefi fforddiadwy newydd yn sir Conwy gyda gwelliannau pellach i’n heiddo er mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

• Diwrnod hwyl i’r teulu llwyddiannus arall gyda thenantiaid yn mwynhau gweithgareddau a ddarparwyd gennym ni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy eu digwyddiad dathlu Olympaidd. • Llwyddiant parhaus ein cyfraniadau a’n nawdd i'r cymunedau lleol, a ganiataodd i ni unwaith eto agor cyfleoedd i bobl ifanc drwy ymwneud â Gŵyl Afon Conwy 2012. • Cadarnhau a lansio Cynllun Amgylcheddol Parc Peulwys. • Llwyddiant parhaus cyllid Enviro SOS a dyfarnu £51,239 i 20 prosiect amgylcheddol yn y gymuned. • Dechrau datblygiad ar safle ym mhentref Penmachno. • Canlyniadau ardderchog o ran ymgysylltu â’r gymuned fel digwyddiad ‘We’ll Meet Again’, gweithgareddau yn Nhŷ Cymunedol Bae Cinmel a hefyd Côr Cymunedol Peulwys a berfformiodd yn yr Ŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. • Yn ogystal â pharhau i sicrhau bod ein contractwyr yn darparu gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i’r rhai sy’n byw yn y sir ac yng Ngogledd Cymru, rydym wedi darparu cyfleoedd gwaith lleol yn uniongyrchol yng Nghartrefi Conwy sy’n cynnwys: • 4 prentisiaeth • 8 lleoliad profiad gwaith • 11 swydd wag arall o safon sydd wedi’u hysbysebu a’u llenwi’n allanol. Mae eleni hefyd wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i Gartrefi Conwy gan mai eleni yr ydym wedi dechrau ar safle datblygiad newydd ym Mhenmachno. Mae hyn yn arwydd o ddechrau’r bennod newydd i Gartrefi Conwy, gyda gwaith adfywio sy’n cael ei arwain gan dai yn arwain y ffordd at ddyfodol gwell i bawb. Hoffwn ddiolch i’m cyd-swyddogion gweithredol, cydweithwyr, aelodau’r bwrdd, y Fforwm Tenantiaid a phob grŵp tenantiaid cysylltiedig yng Nghartrefi Conwy am eu holl ymdrechion, gwaith caled a chefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn arbennig am ein helpu i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Uchafbwyntiau:

Yn olaf diolch i bob un o’n tenantiaid am eu cefnogaeth a’u hamynedd ers y trosglwyddo ac yn arbennig eleni gyda'r gwthiad olaf tuag at sicrhau bod ein heiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae’n bwysig sicrhau bod tenantiaid yn teimlo bod eu barn yn cael ei chlywed a’i chynrychioli’n deg ac yn cyfrannu at lwyddiant Cartrefi Conwy heddiw ac wrth symud i’r dyfodol.

• Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn mis Rhagfyr 2012.

Andrew Bowden

Er y bu ein prif ganolbwynt eleni ar sicrhau Safon Ansawdd Tai Cymru, fel sefydliad rydym wedi cyflawni mwy o lawer hefyd fel y gwelwch o’r uchafbwyntiau isod a gwybodaeth yn yr adroddiad hwn.

• Gwobrau’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau 2012: Aur, am ein hymrwymiad i iechyd a diogelwch. • Cwblhau cynllun gwella Parc Peulwys a oedd yn cynnwys perchen-feddiannwyr. • Perthnasoedd parhaus â’n contractwyr a phartneriaid wrth i ni symud ymlaen. • Gwaith ailwampio sylweddol i Compton House yn Llanfairfechan, gan drawsnewid adeilad gwag yn ased sy’n darparu 3 fflat dwy lofft a 3 uned fasnachol.

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

3


Gweledigaeth a Gwerthoedd Ein gweledigaeth yw darparu cartrefi a gwasanaethau cynaliadwy, fforddiadwy, o safon i gymunedau lleol sy’n ceisio annog cyfranogiad pawb a pharchu anghenion pawb. Mae gwneud cyfraniad go iawn i adfywio sy’n cael ei arwain gan dai yng Nghymru yn rhan annatod o wireddu'r weledigaeth hon gan “creu cymunedau i fod yn falch ohonynt”. Mae sylfaen ein Cynllun Busnes yn cynnwys tair elfen: • Buddsoddi mewn pobl • Rhagoriaeth a llywodraethu mentrus • Cryfder ariannol a chraffter masnachol Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys amcanion ar gyfer darparu yn erbyn pob un o’r tair elfen hon i sicrhau bod popeth yr ydym yn ei wneud yn cysylltu’n ôl i’n Cynllun Busnes. Â’r sylfaen ar waith, gall y Bwrdd wneud penderfyniadau strategol cadarn â chanolbwynt ar sail tair ‘addewid’ i denantiaid Cartrefi Conwy ar gyfer eu cyflawni yn ystod 2010 – 2015.

Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a Mwy Ym mis Rhagfyr 2012, cwblhaodd Cartrefi Conwy raglen gwella tai enfawr i bron 3,800 o eiddo ar draws y sir, gan sicrhau bod ein heiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym yn un o lond llawn o sefydliadau sydd wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau bod cartrefi yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2012. Dan delerau’r cynllun, roedd disgwyl i gontractwyr gyflogi pobl leol a sefydlu cadwyni cyflenwi lleol.

Y tair addewid yw: • Cyfranogiad pob tenant • Rhagoriaeth o ran gwasanaeth ac eiddo • Twf cynaliadwy i’n cymunedau

O ganlyniad, roedd y rhaglenni mewnol ac allanol yn cyflogi 320 o bobl, ac:

I gefnogi ein gweledigaeth, gwerthoedd Cartrefi Conwy yw: • Trin pobl yn deg gyda gonestrwydd a thegwch • Ymrwymo i ddarparu safonau gwasanaeth ardderchog a bod yn gadarnhaol am hynny • Bod yn sefydliad agored a blaengar sy’n darparu’r gwasanaethau y mae eu hangen ar denantiaid • Gwrando ar gwsmeriaid ac ymgynghori â thenantiaid ar faterion sy’n gysylltiedig â pholisi a gwasanaeth • Diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd ac atebolrwydd • Creu amgylchedd lle caiff ei weithwyr eu gwerthfawrogi a gwireddu eu llawn botensial • Eirioli cynaliadwyedd ym mhob un o’n trefniadau darparu busnes a gwasanaeth • Croesawu amrywiaeth ein cymunedau.

• Mae menter ailgylchu Cydweithfa Crest a phartneriaeth barhaus wedi creu 300 o gyfleoedd hyfforddiant a 7 swydd lawn amser (ac mae’n tyfu)

4

• Roedd 61% yn seiliedig yn sir Conwy • Roedd 95% yn seiliedig yng Ngogledd Cymru

• Mae 6 prentisiaeth llawn amser wedi’u creu • Mae 50 o leoliadau trwy’r rhaglen ‘Llwybrau at Brentisiaethau’ wedi’u creu ar y cyd â Choleg Llandrillo. Llwyddodd y bartneriaeth flaengar â phrif gontractwyr y fframwaith, G Purchase Construction Ltd a’r fenter gymdeithasol leol, Cydweithfa Crest Cyf, sy’n seiliedig yng Nghyffordd Llandudno, i ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobrau Ailgylchu Cymru a Gwobrau Tai Cynaliadwy’r DU.Y fenter hon oedd y cyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n enghraifft o arfer gorau wrth gyfuno mentrau cyflogaeth a hyfforddiant lleol â rheoli gwastraff, adfer ac ailgylchu deunydd gwastraff o waith ailwampio.

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


Yn ystod rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, achubwyd bron 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi yn hytrach na’u gadael mewn safle tirlenwi. Cafodd pob gwastraff a grëwyd drwy’r rhaglen welliannau fewnol ei wahanu ar y safle, ei symud a’i ailgylchu gan Gydweithfa Crest bob dydd. Llwyddasom i wireddu’r addewid a wnaethom i’n tenantiaid wrth drosglwyddo, sef sicrhau bod tai yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru wrth wneud dros £30 miliwn o waith ailwampio i: 2,305 o geginau newydd 3,367 o ddrysau newydd 2,130 o ystafelloedd ymolchi newydd 319 o addasiadau i ystafelloedd ymolchi 1,398 o eiddo wedi’u hailweirio 455 o ffenestri newydd 295 o doeau newydd 1,062 o waith i linellau to 399 o jobsys rendro 717 boeler newydd 1,809 o jobsys insiwleiddio wal geudod ac atig 325 o jobsys insiwleiddio waliau allanol I grynhoi, mae sicrhau Safon Ansawdd Tai Cymru wedi cyflawni mwy o lawer na brics a morter safonol rhaglen welliannau fawr, mae wedi sicrhau bod etifeddiaeth wedi’i chreu drwy’r sefydliad ac i’r gymuned gyfan.

Mynd i’r Afael â Thlodi Tanwydd Mae cynllun £4 miliwn i drawsnewid ystâd Peulwys hefyd wedi’i gwblhau, gan ddefnyddio math arloesol o insiwleiddiad ecogyfeillgar i adnewyddu 268 o gartrefi ar ystâd Peulwys sy’n tremio Hen Golwyn.

systemau boeler newydd, insiwleiddiad atig a deunydd gwrth ddrafftio yn helpu i dorri 40 y cant oddi ar filiau tanwydd tenantiaid. Amcangyfrifir hefyd y bydd y gwelliannau hyn yn lleihau allyriadau carbon o tua 52 mil tunnell dros gyfnod o 25 mlynedd. Bu ymdrech fawr i sicrhau bod y gymuned yn cael mynegi barn am bopeth sy'n digwydd drwy'r cynllun hwn a thenantiaid sydd wedi dewis y lliwiau a chyfluniad y rendrad lliw yn ogystal â dewis y dylai pob stryd fod yn lliw gwahanol.

Cartrefi Conwy sy’n berchen ar 232 o’r eiddo ar yr ystâd a pherchen-feddiannwyr sy’n berchen ar y 36 arall. Lluniwyd pecyn ariannu er mwyn i berchen-feddiannwyr hefyd allu cael gwaith ar eu cartrefi; am ddim iddynt hwy.

Adfywio sy’n cael ei Arwain gan Dai Drwy adfywio a gaiff ei arwain gan dai gallwn symud rhwystrau i dwf economaidd a helpu i gryfhau ein cymunedau.Yn ystod eleni rydym wedi cwblhau rhaglen ailwampio fawr yn Compton House, Llanfairfechan, sy’n helpu i adfywio a rhoi bywyd economaidd yn ôl yn y dref leol. Mae’r cynllun 6 mis sy’n costio bron £300 mil wedi bod yn llwyddiant mawr, ac mae 3 fflat 2 ystafell wely a 3 siop wedi’u hailwampio’n llwyr. Mae pob un o’r 3 fflat wedi’u gosod a hyd yma, mae tenantiaid llawn amser wedi’u sicrhau ar gyfer 2 o’r 3 siop. Drwy’r rhaglen hon, rydym wedi gwella hyfywedd yr eiddo hwn ac wedi ail-egnio rhan ganolog o’r dref hon sy’n arwain at greu delwedd gadarnhaol yn y

Yn ogystal, bydd gosod A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

5


pen draw i annog buddsoddiad preifat i’r gymuned hon. Drwy adfywio a gaiff ei arwain gan dai yn ein cymunedau, rydym yn cyfrannu at drawsnewid delwedd yr ardal a gwella’r amgylchedd, a fydd yn cynyddu hyder ar gyfer buddsoddiad pellach yn y pen draw. Gan ein bod wedi sicrhau Safon Ansawdd Tai Cymru yn y stoc tai, mae dyhead yn awr i fuddsoddi yn ein hasedau eraill, fel canolfannau cymunedol a bydd ymgysylltu â phreswylwyr i helpu i lunio ein cynllun wrth galon y broses gwneud penderfyniadau. Cefnogi Strategaeth Cartrefi Gweigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Mae Cartrefi Conwy wedi cyllido swydd Swyddog Cartrefi Gweigion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae wedi prynu 3 chartref gwag. Mae Cyngor Conwy wedi gofyn i

Gartrefi Conwy fod yn bartner strategol wrth ddarparu’r Strategaeth Cartrefi Gweigion wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wedi dechrau rheoli gosodiadau preifat ar gyfer hen eiddo gwag. £51,239 o Gyllid Enviro SOS a Ddyfarnwyd i’r Gymuned Leol Drwy gronfa Enviro SOS dyfarnwyd £51,239 i 20 prosiect amgylcheddol yn y gymuned. Roeddent yn amrywio o gais syml am fainc ym Mharc Rhos, Llandrillo-yn-Rhos, i gyfraniad at

6

gynllun draenio ar gyfer cae pêl-droed yn Llanrwst. Un o’r prosiectau hyn oedd ysgol fabanod sydd â’r arwyddair “Byddwch y gorau a allwch” a chawsant hwb o £4,000 i helpu’r disgyblion i gyflawni’r nod honno. Gobeithir y bydd y cyllid nid yn unig o fudd i blant Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel ond y gymuned gyfan hefyd. Bydd y £4,000 yn mynd at greu llwybr coetir, y diweddaraf mewn cyfres o brosiectau amgylcheddol a gynhaliwyd yn yr ysgol. “Rydym am i’r plant gymryd balchder yn eu hamgylchedd,” meddai’r athro Mark Pickering, Cydlynydd Eco-ysgolion Ysgol Maes Owen. Tîm Talu’n Ôl i’r Gymuned Mae Cartrefi Conwy wedi cyllido swydd Cydlynydd Talu’n Ôl i’r Gymuned ers dwy flynedd o 2012 ac maent yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Talu’n Ôl i’r Gymuned, gan eu defnyddio yn rheolaidd i sicrhau bod partneriaeth agos yn cael ei chynnal wrth gydweithio ar yr amgylchedd sy’n amgylchynu ein cymunedau. Roedd un prosiect yn ymwneud â gweithio ar gasglu sbwriel a gwneud gwaith tir ym Mharc Peulwys, gan glirio’r safle arfaethedig ar gyfer y grŵp Go Green.

Datblygu Gwasanaeth o Safon i’n Tenantiaid Yn yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau, rydym yn parhau i ddatblygu gwasanaeth trwsio o safon yn seiliedig ar ymgysylltu gan gwsmeriaid, ansawdd a pherfformiad. Mae’r Uned wedi gweld newid sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wella’n modd o ddarparu gwasanaethau, â strwythurau staffio newydd, prosesau gweithredol gwell a mesuryddion perfformiad newydd. I sicrhau bod newidiadau i’r gwasanaeth yn alinio ag anghenion

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


cwsmeriaid, mae’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau (ar y cyd â Phrifysgol Lerpwl drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) wedi cynnal ymgyrch o ymarferion ymgysylltu tenantiaid sydd wedi'u cynllunio i ddeall "beth sy'n gwneud gwasanaeth trwsio o safon” o safbwynt tenantiaid Cartrefi Conwy. Yn ogystal ag ymchwil academaidd helaeth ac wedi’i gefnogi gan yr ymchwil hwnnw, cynhaliodd y tîm ymarferion ymgysylltu a oedd yn defnyddio sianeli ymgysylltu Cartrefi Conwy sydd wedi’u sefydlu (y Grŵp Eiddo a Gwasanaethau, Pwyllgor Rheoli Fforwm Tenantiaid a digwyddiad Fforwm Tenantiaid). Beth mae tenantiaid wedi dylanwadu arno o ganlyniad? Mae tenantiaid wedi cael cyfle i lunio’r gwasanaeth trwsio a chynnal a chadw a oedd yn golygu datblygu sail Polisi Ansawdd Trwsio a Chynnal a Chadw newydd fel rhan o raglen newid trawsnewidiol ehangach sy’n cael ei gyflawni gan yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau ar hyn o bryd. Mae gweithredu Opti Time, gweithio symudol a threfnu jobsys yn well wedi lleihau costau a gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i denantiaid. Mae’r prosiect hwn wedi dangos y gall ymgysylltiad effeithiol gan denantiaid fod yn werthfawr iawn wrth lunio’r gwasanaethau a gynigir gan Cartrefi Conwy.

Cefnogi ein Tenantiaid Clwb Swyddi Bae Cinmel Mae preswylwyr wedi bod yn mynychu Clwb Swyddi yn Nhŷ Bae Cinmel ac yn y misoedd diweddar, mae 20 o breswylwyr wedi mynychu’r sesiynau galw heibio a gynhelir unwaith yr wythnos. Mae staff ar gael i gynorthwyo preswylwyr wrth chwilio am swyddi a gallant gynnig cefnogaeth un i un wrth ysgrifennu CVs a cheisio am swyddi. Yn ogystal, oherwydd y niferoedd sy’n mynychu a’r cysylltiad sy’n cael ei wneud â darparwyr gwasanaeth allanol, mae asiantaethau wedi gallu ymweld â’r Clwb Swyddi â’r bwriad o gynnig gweithgareddau eraill a chymorth i breswylwyr cymwys. Enghraifft o hyn yw Taith i Waith, sef menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad dwys i bobl sy’n anweithgar yn economaidd ac yn wynebu anfanteision mawrion yn eu bywydau o ran cael hyfforddiant a chyflogaeth”.

Clwb Swyddi. Mae hyn yn golygu eu bod wedi rhoi’r gorau i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac maent mewn cyflogaeth â thâl bellach. Mae cyfranogwyr hefyd yn symud i gyfleoedd hyfforddiant a dysgu eraill, a rhai ohonynt yn cael eu darparu o’r Tŷ Cymunedol. Mae’r Clwb Swyddi yn rhywbeth ychwanegol gwych i breswylwyr Bae Cinmel sy’n gweld y sesiwn yn ddefnyddiol a llawn gwybodaeth. Mae’r sesiynau hefyd yn gadael i breswylwyr rannu profiadau a chymell ei gilydd a chadw’n gadarnhaol am gael gwaith neu gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth aros am waith pan fydd ar gael. Cefnogi Pobl Hŷn Mae ein llety gwarchod yn cyfrif am draean o’n stoc tai. Mae gan bob tenant hawl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae ein wardeiniaid yno i gefnogi a chydlynu’r gwasanaethau y gall fod eu hangen ar denantiaid tai gwarchod i gynnal eu hannibyniaeth. Mae rhai enghreifftiau isod o le mae ein wardeiniaid wedi darparu gwasanaeth ardderchog i denantiaid sy’n byw mewn llety gwarchod. Warden Gwennan Watkin-Evans – “Roedd tenant diamddiffyn, a oedd yn rhannol ddall, wedi cael llifogydd yn ei heiddo ac nid oedd ganddi deulu’n byw yn lleol. Ffoniais am blymiwr a chysylltais â’r cwmni cyfleustodau lleol. Arhosais i glirio’r holl ddŵr ac aros i’r gwaith trwsio gael ei gwblhau.Yna ffoniais ei merch i’w sicrhau bod popeth wedi’i wneud a bod ei mam yn iawn”. Warden Audrey Hughes –“Roedd tenant diamddiffyn a oedd wedi colli ei wraig am gael cymorth â’i arian. I sicrhau ei fod yn cael y gefnogaeth briodol, fe’i atgyfeiriais at Age Concern. Yna cafodd help i drefnu archebion sefydlog yn ei fanc. Mae ei arian mewn trefn bellach”. Warden Lynda Whyte ––“Mae gen i denant diamddiffyn sydd â dementia. Byddaf bob amser yn trefnu bod unrhyw gontractwyr sy’n ymweld â hi yn cysylltu â mi yn gyntaf er mwyn i mi allu cysylltu â’r gofalwyr a’r teulu i’w chefnogi drwy’r ymweliadau hyn”.

Mae pedwar preswyliwr wedi cael gwaith yn dilyn mynychu’r A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

7


Caled ar gyffuriau – tenant Cartrefi Conwy wedi’i garcharu am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig Cyfeiriwyd y tenant at yr Uned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol oherwydd adroddiadau am ei ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys ymddygiad ymosodol at staff a chontractwyr Cartrefi Conwy, ymddygiad ei gi, difrod i’r eiddo a gosod camerâu teledu cylch caeedig. Roedd adroddiadau am ddefnydd cyffuriau posibl hefyd. Dros sawl mis, cynhaliodd y tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gyfweliadau, gan roi rhybuddion a gweithio drwy’r broses dwysau. Lluniwyd perthynas weithio agos â Heddlu Gogledd Cymru gan arwain atynt yn chwilio’r eiddo dan warant ym mis Hydref 2012. Cafodd y tenant ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau rheoledig Dosbarth A a Dosbarth B. Rhoddodd yr Uned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol rybudd i geisio meddiannu’r eiddo ac yn dilyn gwrandawiad llys cawsom feddiant o’r eiddo ar y sail bod cyffuriau wedi’u canfod yno. Ym mis Gorffennaf 2013 ymddangosodd y tenant o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug. Cafodd orchymyn atal ac fe’i dedfrydwyd i 6 mlynedd yn y carchar. Fforwm i Les-ddeiliaid Mae digwyddiadau ymgynghori wedi’u cynnal â les-ddeiliaid i ddatblygu Fforwm Les ddeiliaid. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol i les-ddeiliaid ym mis Mawrth 2013 yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, lle'r oedd mwyafrif y les-ddeiliaid a oedd yn bresennol yn cefnogi’r cynnig i sefydlu fforwm i les-ddeiliaid. Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol i sicrhau mandad i gytuno ar ffurf y grŵp.Y gobaith yw sicrhau dull hyblyg ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol ac y gall y fforwm beidio rhoi baich ar les-ddeiliaid unigol i fod yn swyddogion y fforwm. Roedd barn fwyafrifol o’r cyfarfod hwn i les-ddeiliaid gynnal fforwm.

Ymgysylltu â’n Cymunedau Gweithgareddau’r haf yn ystod cynllun gwella Parc Peulwys Trefnwyd y rhaglen weithgareddau i gefnogi iechyd a diogelwch ar ystâd Parc Peulwys yn ystod y gwaith adeiladu a gyrhaeddodd ei anterth yn ystod gwyliau haf yr ysgol. 8

Cyllidwyd y gweithgareddau gan Cartrefi Conwy a G. Purchase yn ystod gwaith ailwampio’r tai ar Barc Peulwys i ddarparu gweithgareddau i’r bobl ifanc yn y gymuned. Roedd aelodau’r Bwrdd Partneriaeth hefyd yn darparu cefnogaeth gyda lluniaeth a phresenoldeb yn y digwyddiadau. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys: • Beicio • Goleuadau Glas – daeth y gwasanaethau brys â gweithgareddau a gwybodaeth • Sgiliau Syrcas • Crefft nodwydd • Sesiynau drymio a rapio Ymunodd rhai tenantiaid â chôr cymunedol newydd a berfformiodd am y tro cyntaf ym mis Medi 2012 yng Ngŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roeddent dan arweinyddiaeth Dr Paul Mealor sydd wedi bod ar frig y siartiau ac sy’n fyd-enwog diolch i’r anthem briodasol Frenhinol anhygoel a gyfansoddodd ar gyfer y Tywysog William a Kate Middleton. Cynhaliwyd ymarferion gydol y flwyddyn gyda Rhian Jones, pennaeth Ysgol Tan Y Marian, a fu’n arwain yr ymarferion ac yn rheoli’r côr. Roedd y côr yn cynnwys plant ac oedolion. Yn yr ŵyl, ymunodd côr Dr Mealor ei hun o Brifysgol Aberdeen â'r côr, gan berfformio dwy gân lwyddiannus Military Wives.

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


Digwyddiad ‘We’ll Meet Again’ Cynhaliwyd digwyddiad diwrnod ym mis Mawrth 2013 i bob un i’n tenantiaid tai gwarchod yng Ngwesty Kinmel Manor. Roedd amrywiaeth o weithgareddau ar gael ar y diwrnod i denantiaid, rhai ymgynghorol ac addysgiadol, ynghyd â bwyd a lluniaeth. Thema’r dydd oedd yr Ail Ryfel Byd gyda chyflwyniadau a cherddoriaeth o’r cyfnod hwnnw. Gwnaeth pawb a oedd yn bresennol fwynhau eu hunain yn fawr ac roedd yn llwyddiant mawr. Daeth y dydd i ben â chyfle i bawb gydganu.

Tŷ Cymunedol Bae Cinmel Yn Nhŷ Cymunedol Bae Cinmel cynhelir amrywiaeth o sesiynau a digwyddiadau sy’n annog preswylwyr a’u teuluoedd i ymgysylltu â ni yn y tŷ wrth gymryd diddordeb yn eu cymuned, er enghraifft: • Clwb Ieuenctid ‘Youth Space’ • Grŵp Byw’n Iach (‘Weight Matters’) • Clwb ‘Knitterbugs’ • Aerobics o’ch cadair freichiau • Creu teclyn bwydo adar a blwch nythu • Gwehyddu Helyg Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn y Gemau Olympaidd 2012 Eleni, cynhaliwyd Diwrnod Hwyl blynyddol Cartrefi Conwy fel rhan o Benwythnos Access All Eirias ym Mharc Eirias i ddathlu agoriad Gemau Olympaidd Llundain 2012. Roedd ardal wedi’i dynodi’n arbennig i denantiaid, a oedd yn llawn gemau, gweithgareddau ac adloniant. Daeth mwy na 1,000 o denantiaid o fewn trwch blewyn i gyfaredd y Gemau Olympaidd yn eu diwrnod hwyl.

Un o’r bobl fwyaf poblogaidd yn y digwyddiad blynyddol oedd y gweithiwr elusen Stephen Bellis. Daeth plant ac oedolion yn eu tyrrau i gael tynnu llun gyda Stephen a’r ffagl Olympaidd y bu’n ei chario fel rhan o’r tîm ras gyfnewid pan ddaeth i Abergele. Meddai Stephen: “Roedd yn anhygoel. Rwy’n teimlo’n anrhydeddus a balch iawn o fod wedi fy enwebu i gario’r ffagl a gallu ei rannu â thenantiaid Cartrefi Conwy heddiw.”

Partneriaeth: Dull cyfunol o gyrraedd ein hamcanion Brathu’n ôl wrth Fenthycwyr Arian Didrwydded Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Shelter Cymru ac fe’i noddwyd gan Cartrefi Conwy.Yn y gynhadledd, clywyd bod nifer o bobl yn trafferthu i dalu dyledion y Nadolig ac o ganlyniad mae benthycwyr arian didrwydded yn barod i fynd â thenantiaid i lefelau cynyddol o ddyled. Roedd y gynhadledd yn edrych ar nifer o faterion, o fenthycwyr arian didrwydded i’r newidiadau o ran budd-dal tai. Rhoddwyd gwybod i gynrychiolwyr ei bod yn hanfodol eu bod yn dysgu sut i nodi arwyddion benthyca arian anghyfreithlon a helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol mewn cymunedau. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n tenantiaid ac asiantaethau eraill i weld sut y gallwn helpu orau. Mae Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol Shelter Cymru, Janet Loudon, yn dweud bod angen diogelu tenantiaid a phobl ddiamddiffyn rhag benthycwyr arian didrwydded, “rhaid i ni gydweithio a sicrhau y gall tenantiaid a rhai sy’n dioddef benthyca arian anghyfreithlon weld heibio’r ofn a’r bygythiadau gan y benthycwyr arian didrwydded a chael yr help a'r cyngor sydd ei angen arnynt."

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

9


10

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


Manylion y stoc Ar 31 Mawrth 2013, ein stoc tai oedd 3,774 uned, sef: Anghenion Cyffredinol

Eiddo Gwarchod

46

287

1 ystafell wely - fflatiau

344

460

2 ystafell wely – tai / byngalos

398

172

2 ystafell wely - fflatiau

443

136

1288

4

3 ystafell wely - fflatiau

60

2

4+ ystafell wely – tai / byngalos

69

0

4+ ystafell wely - fflatiau

2

0

Fflatiau un ystafell

7

40

2657

1101

1 ystafell wely – tai / byngalos

3 ystafell wely – tai / byngalos

CYFANSWM + 16 Eiddo heb fod yn annibynnol

3774

Yn ogystal, mae gennym: • 628 garej ar rent • 158 Les-ddeiliad sydd wedi prynu eu heiddo dan y cynllun Hawl i Brynu ac sy’n talu tâl gwasanaeth blynyddol • 11 uned fasnachol nad ydynt yn anheddau

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

11


Perfformiad Eiddo ar Osod Wedi eu Wedi eu hail-gartrefu cartrefu o’r fel pobl ddigartref Trosglwyddo rhestr aros blaenoriaeth

Cyfnewid Cyfanswm

20012/13 (Ebrill - Mawrth)

233

57

63

4

357

2011/12 (Ebrill - Mawrth)

201

58

65

7

331

20010/11 (Ebrill - Mawrth)

310

42

15

23

390

Colled ar dai gwag fel canran o’r rhent a godir: Mawrth 2013

1.49%

Mawrth 2012

1.31%

Mawrth 2011

1.77%

Ôl-ddyledion Rhent

12

Mawrth 2013

2.17%

Mawrth 2012

2.20%

Mawrth 2011

2.41%

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


Crynodeb o’r Perfformiad Ariannol O ble daw’r arian 2012 - 13 £000’s

ARIAN I MEWN

13,933

2011 - 12 £000’s Rhent & Taliadau Gwasanaeth

13,065

649

Grant Cefnogi Pobl

624

270

Grantiau Cyfalaf

396

2,600 0 193 7,500 7 3,587

Grant Llywodraeth Cymru

2,600

Grantiau Eraill

127

Gwerthu Tai

427

Benthyciadau gan fenthycwyr preifat

7,500

Llog a Dderbyniwyd Incwm Arall

8 360

I ble mae’r arian yn mynd

ARIAN ALLAN

2012 - 13 £000’s

2011 - 12 £000’s

4,480

Rheoli Tai

4,173

1,179

Gwasanaetha

1,109

2,969

Prynu Eiddo

3,683

Gwelliannau Eiddo

5,395

3,126

Cynnal a Chadw - Rheolaidd

2,907

9,662

Cynnal a Chadw a Gynlluniwyd & Atgyweirio Sylweddol

5,922

117

473

Prynu Asedau Sefydlog Eraill

371

1,081

Talu Llog & Taliadau Tebyg Eraill

766

1,208

Costau Eraill

566

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3

13


Bwrdd Rheoli ar 31.03.2013 Douglas Leech Brian Horton Brian Roberts Christine Jones Mair Jones Chris Hughes Ian Jenkins Brian Leggett Robert Redhead Clifton Robinson Dave Roberts Susan Shotter Huw Evans Robert Hawkes Jim Illidge

Cadeirydd Bwrdd Is-Gadeirydd a Cadeirydd Pwyllgor Gweithrediadau Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Cadeirydd Pwyllgor Tâl Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg

Ymddiswyddodd Gorffennaf 2013

Penodwyd Mehefin 2012 Penodwyd Medi 2012 Penodwyd Ebrill 2013 Penodwyd Ebrill 2013

Bu’r canlynol yn gwasanaethu yn ystod y flwyddyn hefyd: Jonathan Cross Ymddiswyddodd Ebrill 2012 Jennifer Hughes Symudwyd Mehefin 2012 Jason Weyman Ymddiswyddodd Mehefin 2012 Pamela Lonie Ymddiswyddodd Ionawr 2013 Aelodau Cyfetholedig o’r Bwrdd a’r Pwyllgor Jacqueline Doodson Penodwyd Medi 2012 Michael Mason Penodwyd Medi 2012 Gareth Jones Penodwyd Ebrill 2013 Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol Andrew Bowden Prif Weithredwr Tony Deakin Cyfarwyddwr Cyllid Gwynne Jones Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ysgrifennydd y Cwmni Sandra Lee Mae proffiliau o bob Aelod presennol o’r Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol ar ein gwefan, www.cartreficonwy.org

14

A D RO D D I A D B LY N Y D D O L A R W E I T H G A R E D DA U C A RT R E F I C O N W Y 2 0 1 2 - 2 0 1 3


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.