Chapter Ebrill 2017

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Celfyddyd

029 2030 4400

These Rotten Words Rebecca Ackroyd, David Austen, Johann Arens, Anna Barham, Marie-Michelle Deschamps, Foundation Press, Anneke Kampman, Joanna Piotrowska a Devlin Shea Wedi’i churadu gan George Vasey Sad 18 Mawrth — Sul 11 Mehefin Mae ‘These Rotten Words’ yn cwmpasu ffotograffiaeth, paentio, cerflunwaith, sain a delweddau symudol ac yn canolbwyntio ar natur gorfforol ffurfiau testunol, ystumiol a lleisiol ar gyfathrebu. Caiff pydredd ei ddiffinio fel ‘yr hyn sydd wedi mynd yn bwdr’ ac fel ‘dirywiad’, mewn byd lle mae’r disgwrs cyhoeddus yn cael ei lywio fwyfwy gan ddadleuon wedi’u polareiddio. Mae’r arddangosfa yn mabwysiadu iaith sy’n fwy amodol ac agos-atoch. Mae’r artistiaid yn tynnu sylw at briodweddau corfforol cyfathrebu: mae cyswllt annatod rhwng y geg a’r dwylo ac er bod dwylo yn ein galluogi i lywio deunyddiau, mae’r llais — a’n defnydd o iaith — yn cynnig arf pellach ar gyfer trin y byd o’n cwmpas. Caiff geiriau eu datgysylltu o fwriadau’r awdur. Mae coesau a breichiau yn arnofio. Caiff cyrff eu chwyddo a’u lleihau. Caiff y cyfarwydd ei ddieithrio. Mae pydredd — dadfeilio — yn cynnig cyfle i ail-greu. Mae

Delwedd y clawr: Dancer, p12

artistiaid yr arddangosfa yn awgrymu math o adnewyddu, ac yn archwilio posibiliadau a chyfyngiadau y corff a’r llais. Gall testun fod yn gyfrwng ar gyfer alaw yn gymaint ag ystyr. Fe allwn ni siarad cyn i ni wybod yn union beth rydym am ei ddweud. Mae lleferydd yn beth llithrig, ac mae bwriad yn ymwneud â chywair cymaint ag y mae’n ymwneud â chynnwys — mae pob iaith yn cynnwys aneffeithlonrwydd a lacwna. Comisiynwyd ‘These Rotten Words’ gan Chapter i gydfynd â gŵyl Experimentica. Cyflwynir yr Ŵyl rhwng 29 Mawrth a 2 Ebrill — i gael mwy o wybodaeth ewch i dudalennau 4–5. Mae GEORGE VASEY yn guradur ac awdur sy’n gweithio yn Newcastle. Ar hyn o bryd, mae e’n gymrawd curadurol ym Mhrifysgol Newcastle. Cyhoeddwyd ei waith yn Art Review, Art Monthly, Apollo, Frieze a chylchgrawn Kaleidoscope.


chapter.org

Celfyddyd

03

Gyda’r cloc o’r chwith eithaf: Devlin Shea, Reclining Figure, 2016; Anneke Kampman, What the Voice Wants. 2016. Delwedd: Hydra Dewachi; David Austen, Di-deitl, 12.4.06. Delwedd gyda chaniatâd caredig yr artist ac Ingleby, Caeredin

Sgyrsiau am 4 Sadwrn 8 + 22 Ebrill 4pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r ‘Sgyrsiau am 4’ yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni!

These Rotten Words — Ffilmiau gan Artistiaid Sad 1 Ebrill 12pm, Sinema 2 Detholiad o ffilmiau gan artistiaid yn ymwneud â iaith, llais ac ystum yn rhan o Experimentica: Iaith Ddirgel. Mae’r rhaglen yn cynnwys: Cara Tolmie, Pley, 2013 (19 mun) Abri De Swardt, Ridder Thirst, 2015-17 (14 mun) Anna Bunting-Branch, The Linguists, 2017 (8 mun) Rob Crosse, Clear as a Bell, 2015 (8 mun) Oriau agor yr Oriel: Maw, Mer, Sad, Sul: 12-6pm, Iau, Gwe: 12-8pm, Llun: Ar gau


Perfformiadau

029 2030 4400

Mer 29 Maw — Sul 2 Ebrill Pum niwrnod o berfformiadau arbrofol sy’n chwalu ffiniau genre, o Gymru a phedwar ban byd. Iaith dosbarth, iaith bod yn cŵl, codau cyfrinachol. Iaith celfyddyd, iaith tecstio a slang. Pa ieithoedd anweledig sy’n rheoli ein bywydau?

* Mae pob un o ddigwyddiadau EXPERIMENTICA yn ddigwyddiad “Talwch be’ fynnwch”. I gael mwy o wybodaeth am archebu, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer pob digwyddiad, felly byddai’n syniad da archebu tocynnau ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth am raglen Experimentica, ewch i www.experimentica.org.

Gareth Chambers, Llaeth. Delwedd: Jorge Lizalda

04


chapter.org

MER 29 MAW — SAD 1 EBRILL Foundation Press These Rotten Words: Gweithdai Print

Perfformiadau

SAD 1 EBRILL 12pm

Clayton Lee

These Rotten Words: Ffilmiau gan Artistiaid Cara Tolmie, Abri de Swardt, Anna Bunting-Branch, Rob Crosse and Steve Roggenbuck

MER 29 MAW

Heike Roms a Gareth Llˆyr Evans Yr Ymarferiadur: What’s Welsh for Live Art?

MER 29 MAW — SUL 2 EBRILL

5pm

Sheree Naqvi Round and Round and Round 6pm

Rose Biggin & Keir Cooper BADASS GRAMMAR 8pm

GETINTHEBACKOFTHEVAN FRANKENSHOW

IAU 30 MAW 2.30pm

anti-cool Plena Rondo — Leaving Language 6pm

Rachel Helena Walsh Catholic Guilt 8pm

Tim Bromage The Man Stands Alone in the Vortex

GWE 31 MAW 2pm

What It Is Not: Ffilmiau Artistiaid Lux Ed Atkins, Mark Aerial Waller, Mark Leckey, Laure Prouvost, James Richards, David Raymond 3.30pm

Rhiannon White/Common Wealth Class: The Elephant in the Room 6pm

Gareth Chambers Llaeth 8pm

Yoanna Blikman & Dan Robert Lahiani Kung Fu

05

3-9pm

2pm

Jonny Cotsen Louder is Not Always Clearer + sgwrs ar ôl y sioe 4pm

Dustin Harvey a Adrienne Wong Something Bigger 7pm

Julie & Robbie Passing Through 8.30pm

Katy Baird Workshy

SUL 2 EBRILL 2pm

Thomas Goddard Idle Hands are the Devil’s Workshop (Cyflwyniad o waith ar y gweill ar y cyd â myfyrwyr o Ysgol Stanwell. Gweler tudalen 6 am fwy o fanylion)

3–9pm (Perfformiad am 7.15pm)

Heike Roms and Gareth Llŷr Evans Yr Ymarferiadur: What’s Welsh for Live Art? 6pm

A.S. H*w Gr**n W*s M* V*ll** (Dr*ft 1) 8pm

Rachel Mars Our Carnal Hearts Nodwch os gwelwch yn dda y gallai amseroedd y perfformiadau newid. Gweler y wybodaeth ddiweddaraf ar www.experimentica.org.

Experimentica yw’r unig ŵyl o gelfyddyd fyw yng Nghymru sy’n ymroi i ddarparu llwyfan i artistiaid arbrofol ac artistiaid y tu allan i’r brif ffrwd er mwyn iddynt ddatblygu a rhannu eu gwaith. Plîs ystyriwch gefnogi’r ŵyl yn Chapter. Gallwch wneud cyfraniad drwy anfon ‘EXPM17 £5’ at 70070. Diolch yn fawr i chi.


Perfformiadau

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Thomas Goddard, Caitlyn

06

Thomas Goddard Sad 8 Ebrill 8pm Idle Hands are the Devil’s Workshop Mae Idle Hands are the Devil’s Workshop yn berfformiad newydd gan Thomas Goddard a ddatblygwyd ar y cyd â grŵp theatr ieuenctid lleol. Dwylo yw’r prif gymeriadau a’r prif berfformwyr yn y sioe hon – perfformiad trasicomig haniaethol sydd yn defnyddio technegau symud fel pwyntio bysedd i wneud ffurfiau tra chyfarwydd yn hynod, ac yn swynol, o ddieithr. Bydd y gwaith yn estyniad o ffilm fer Goddard, Idle Hands are the Devil’s Play Thing, a gyflwynir cyn y perfformiad. Mae’r ffilm honno’n defnyddio deunydd ffilm archifol o ddwylo prysur — yn sgrolio, yn tapio, yn ysmygu — er mwyn ystyried cyddestunau cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol y symudiadau a’r gweithgareddau hynny. Digwyddiad am ddim. Comisiwn i Experimentica 17 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

LIGHT, LADD & EMBERTON YN CYFLWYNO

CAITLIN Maw 11 — Sad 15 Ebrill 8pm Maw 11 + Iau 13 + Sad 15 (perfformiadau yn Saesneg) Mer 12 + Gwe 14 Ebrill (perfformiadau yn Gymraeg) “Mae fy ngŵr yn fardd enwog iawn. Roeddwn i’n mynd i fod yn ddawnsiwr enwog iawn.” Caitlin oedd gwraig y bardd Dylan Thomas. Yn 1973, dechreuodd hi fynychu cyfarfodydd Alcoholics Anonymous. Mae’r gynulleidfa’n eistedd yn y cylch gyda Caitlin wrth iddi ail-ystyried ei bywyd gyda Dylan ac fe ddaw’r cadeiriau gwag yn rhan o’r digwydd, mewn deuawd ddawns gorfforol a grymus. Yn dilyn dau rediad hynod lwyddiannus yn Chapter, mae Caitlin yn dychwelyd. Sioe wedi’i chyfarwyddo gan y coreograffydd gwobrwyol, Deborah Light, a’i pherfformio gan ddau o’r dawnswyr uchaf eu parch yng Nghymru, Eddie Ladd a Gwyn Emberton, gyda sain gan Sion Orgon. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly awgrymwn eich bod yn archebu ymlaen llaw. Cynhyrchiad Dawns Gorau, Gwobrau Theatr Cymru 2015 £12/£10 Ymunwch â’r artistiaid am sgwrs ar ôl y perfformiad am 8pm ar ddydd Iau 13 Ebrill


Perfformiadau

07

O’r brig: You’ve Got Dragons, Family Dance Festival

chapter.org

THEATR TAKING FLIGHT

You’ve Got Dragons Iau 13 — Sad 15 Ebrill Iau 13 + Gwe 14 Ebrill 6.30pm Sad 15 Ebrill 2pm & 5pm Cynhyrchiad ar y cyd â Met Abertyleri, gyda chefnogaeth Creu Cymru ‘Mae dreigiau yn ymddangos pan na fyddwch yn disgwyl eu gweld. Ry’ch chi’n troi eich cefn ... a dyna nhw.’ Stori hyfryd am daith plentyn i ddod i delerau â’r Dreigiau mewnol. Pryderon ac ofnau ... dreigiau ydynt, sydd yn ymddangos ym mywydau pob un ohonom ar ryw adeg neu’i gilydd. Mae llawer o bobl yn eu gweld. Hyd yn oed pobl dda. Ac weithiau mae hi’n anodd cael gwared arnynt. Beth, felly, all merch ifanc ei wneud, ar ôl cael dosaid dda o’r dreigiau? Caiff y stori hyfryd hon ei hadrodd yn arddull unigryw Cwmni Theatr Taking Flight. Sioe gwbl hygyrch i bob cenhedlaeth sy’n cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain — gwledd i’r teulu cyfan ... a chofiwch “does ‘na’r un ddraig sy’n fwy pwerus na CHI.” Â cherddoriaeth i wneud i chi dapio’ch traed, mae’r cynhyrchiad gweledol-gyfoethog a sensitif hwn yn archwiliad doniol a theimladwy o’r dreigiau yr ydym yn gorfod eu hwynebu bob un. £7 Oed: 4+ Capsiynau (priodol ar gyfer yr oedrannau gwahanol).

Gŵyl Ddawns i’r Teulu Cyfan Gwe 7 + Sad 8 Ebrill Gwe 7, 1.30pm a 5pm + Sad 8, canol dydd, 3pm & 5pm. Prosiect a gyflwynir gan bartneriaeth Coreo Cymru, Chapter a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Rydym yn falch iawn o gyflwyno detholiad o gwmnïau dawns mwyaf cyffrous Cymru yn ystod gwyliau’r Pasg. Mewn rhaglen awr ddifyr, cewch weld pedwar darn dawns byr, gan gynnwys gwaith newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Animatorium, a welwyd am y tro yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn 2016. Mae’r Ŵyl yn addas i bobl o bob oed. Dewch â’r plantos a gwyliwch wrth iddyn nhw ryfeddu o weld dawnswyr anhygoel yn troelli ac yn troi, yn llithro ac yn neidio! Ymunwch â ni ar Gwe 7 Ebrill am 4pm neu 6pm, neu ar Sad 8 Ebrill am 12pm neu 3pm Digwyddiad am ddim.


Perfformiadau

029 2030 4400

Enough is Enough

08

CYFLWYNIAD GAN BE AWARE PRODUCTIONS

Enough is Enough Mer 26, 27 & 29 Ebrill 7.30pm Yn dilyn taith o 24 sioe i theatrau a chlybiau rygbi Cymru, mae Be Aware yn ôl yng Nghaerdydd. Drwy gyfrwng cân a synnwyr digrifwch tywyll fel y fagddu, mae’r grŵp o ferched-yn-unig yn adrodd straeon na fyddwch chi wedi eu clywed o’r blaen — wel nid fel hyn beth bynnag! Rhybudd: Yn y perfformiad amrwd hwn, caiff y gwir ei ddinoethi — ac fe allai hynny achosi sioc i rai. Dy’n ni ddim yma i wastraffu amser. Ry’n ni yma i DDANGOS EIN DICTER. Ry’n ni wedi cael DIGON.

“Theatr ffeministaidd ddeallus a chwyldroadol.” The Stage “Er gwaetha’r holl fesurau ledled y byd, ni ellir atal camdrin, trais rhywiol a llosgach. Waeth pa mor galed y mae gwladwriaeth, sefydliadau a mudiadau yn ceisio brwydro yn eu herbyn, waeth pa sancsiynau a weithredir ac ni waeth sawl ymgyrch codi ymwybyddiaeth gaiff eu trefnu, mae unigolion yn aml yn anwybyddu’r boen a achosir gan y digwyddiadau hyn. Nod y cynhyrchiad hwn yw dangos i gynulleidfaoedd sut y mae’r materion hyn yn dod yn rhan o’n bywydau ni i gyd – ac y gall y pethau hyn ddigwydd i unrhyw un, yn wir. Trwy gyfrwng theatr, cerddoriaeth, dawns, hiwmor a syndod, rydym am greu ychydig bach o ymwybyddiaeth, moment ‘beth petai?’ i ddangos i’r gynulleidfa nad yw’r materion hyn yn bell iawn o’n bywydau ni i gyd, a’n bod yn aml, yn ddiarwybod weithiau, yn anwybyddu’r trawma sydd i’w weld o’n cwmpas.” Meltem Arikan

THEATR IOLO A NEUADD LES YSTRADGYNLAIS YN CYFLWYNO

twenty16 Sul 30 Ebrill 2017 hyd y perfformiad i’w gadarnhau 2016. Blwyddyn Brexit, Trump, ‘memes’ Harambe, newidiadau pellgyrhaeddol i siâp Toblerone a marwolaethau enwogion di-ri gan gynnwys Bowie a Prince. Mae twenty16 yn olwg onest ar y flwyddyn o safbwynt person ifanc yn ei arddegau. Mae’n ddarn gwreiddiol, amrwd ac uniongyrchol o theatr sy’n olrhain y daith o blentyndod i fyd oedolion; gofyn cwestiynau, dod o hyd i atebion a dod wyneb yn wyneb ag anhrefn. Wedi’i chreu ar y cyd gan Tracy Harris, Paul Jenkins, Aleksandra Jones a 12 o berfformwyr yn eu harddegau, cafodd y darn ei ddatblygu yn Neuadd Les Ystradgynlais gyda chefnogaeth rhaglen Platfform Theatr Iolo. Tocynnau £8/£6 consesiynau


Ffilm

The Student

Who’s Gonna Love Me Now?

Sad 1 — Mer 5 Ebrill

Sul 2 Ebrill + Gwe 7 — Iau 13 Ebrill

UDA/2016/118mun/15. Cyf: Kirill Serebrennikov. Gyda: Pyotr Skvortsov, Viktoriya Isakova, Yuliya Aug

DG/2016/84mun/TiCh. Cyf: Barak Heymann. Tomer Heymann

09

Who’s Gonna Love Me Now?

chapter.org

Hanes Venya, sy’n dod i gredu bod y byd yn mynd a’i ben iddo ac sydd, o’r herwydd, yn dechrau herio moesau a chredoau yr oedolion o’i gwmpas. Mewn sbeit, mae e’n ymosod ar ei fam, sydd wedi ysgaru, yn protestio yn erbyn datblygiadau addysgol ac yn gelyniaethu ei gyd-ddisgyblion benywaidd. Astudiaeth achos drydanol o gymdeithas Rwsia dan arweiniad Pwtin ac o ganlyniadau anesmwyth y cyfuniad o grefydd a rheolaeth wleidyddol i’r dosbarth gwleidyddol.

Wedi’i ddiarddel o’i kibbutz ceidwadol yn Israel am fod yn hoyw, mae Saar yn ffoi i Lundain, i ddilyn ei freuddwydion, ond mae e’n deffro mewn hunllef ar ôl dysgu bod HIV arno. Ar ôl dweud wrth ei deulu, maen nhw’n cael trafferth ymdopi â’u hofnau a’u rhagfarnau. Gyda chefnogaeth a chynhesrwydd Corws Dynion Hoyw Llundain, mae e’n dechrau ar broses o gymodi gyda’i deulu yn Israel. + Ymunwch â ni am sgwrs fyw trwy loeren gyda pherfformiad gan Gorws Dynion Hoyw Llundain ar Sul 2 Ebrill, ar y cyd â Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LGBTQI misol ar ôl y dangosiad.


Ffilm

029 2030 4400

Denial

MovieMaker Chapter: SHIFFT — Gwneuthurwyr Ffilm Benywaidd

O’r chwith i’r dde: Personal Shopper, The Eagle Huntress

10

Sad 1 — Mer 5 Ebrill DG/2016/110mun/12A Cyf: Mick Jackson Gyda: Rachel Weisz, Timothy Spall, Tom Wilkinson, Andrew Scott

Yn y 1990au, rhoddodd y Dr Deborah E. Lipstadt ddarlith am ei llyfr nodedig, “Denying the Holocaust”. Yn ystod y ddarlith, torrodd David Irving ar ei thraws, a’i herlyn wedi hynny am enllib. Roedd yn rhaid i Deborah ymladd brwydr am wirionedd hanesyddol er mwyn profi ei datganiadau am Irving. Golwg hynod amserol ar ffug newyddion a safbwyntiau yr Alt-Right.

“Mae Spall yn llwyddo’n rhyfeddol i bortreadu twyllwr slic obsesiynol sydd, yn ei hanfod, yn fwystfil mewn siwt ddrud.” Richard Roeper, Chicago Sun-Times

+ Trafodaeth Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar Llun 3 Ebrill Mae Tinted Lens yn gydweithrediad rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ffilm Cymru. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg ar ffilm, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a gwahanol gyflyrau ymwybyddiaeth.

Elle Gwe 1 — Iau 6 Ebrill Ffrainc/2016/131mun/18/is-deitlau. Cyf: Paul Verhoeven Gyda: Isabelle Huppert, Anne Consigny, Christian Berkel

Mae Michèle, rheolwraig cwmni gêmau fideo, yn ymddangos yn anorchfygol i’w chydweithwyr a’i ffrindiau. Ond ar ôl dioddef ymosodiad arswydus yn ei chartref, mae hi’n benderfynol o ddal y dyn sy’n gyfrifol ac fe gânt eu hunain yn rhan o frwydr beryglus am reolaeth.

Llun 3 Ebrill Cyfle rheolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos eu gwaith. Bydd ffocws y mis hwn ar wneuthurwyr ffilmiau benywaidd, ar y cyd â SHIFFT. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilm sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. RHAD AC AM DDIM (Archebwch docynnau ymlaen llaw)

Personal Shopper Gwe 7 — Iau 13 Ebrill Ffrainc/2016/105mun/15. Cyf: Olivier Assayas Gyda: Kristen Stewart, Lars Eidinger, Sigrid Bouaziz

Mae Maureen, sydd yn galaru ar ôl colli ei brawd, yn symud i’w gartref yntau ym Mharis er mwyn cysylltu ag ef y tu hwnt i’r bedd. Mae hi’n gweithio fel cynorthwy-ydd personol i fodel ffasiwn. Ond ar ôl i’w bos fynd ar goll, mae hi’n dechrau derbyn negeseuon anhysbys a rhyfedd.

The Eagle Huntress Maw 11, 19 +23 Ebrill Kazakh/2016/87mun/U. Cyf: Otto Bell. Lleisio gan Daisy Ridley

Mae’r darn difyr hwn am anturiaethau ysbrydoledig go iawn yn addas i blant o bob oed (ac i bob un arall y mae angen eu hatgoffa bod pob peth yn bosib). Dilynwn Aisholpan, merch 13 oed, wrth iddi hyfforddi i fod y ferch gyntaf yn ei theulu Kazakh ers deuddeg cenhedlaeth i fod yn heliwr eryrod. Mae hi’n ceisio cyrraedd pinacl traddodiad a drosglwyddwyd ers cenedlaethau o dad i fab.


Ffilm

11

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Aquarius, A Quiet Passion, Their Finest, Raw

chapter.org

Aquarius

A Quiet Passion

Gwe 14 — Iau 20 Ebrill

Gwe 14 — Iau 27 Ebrill

Brasil/2016/142mun/TiCh/is-deitlau. Cyf: Kleber Mendonca Filho Gyda: Sonia Braga, Maeve Jinkings, Irandhir Santos

DG/2016/125mun/TiCh. Cyf: Terence Davies Gyda: Cynthia Nixon, Jennifer Ehle, Catherine Bailey, Keith Carradine

Clara yw preswylydd olaf yr Aquarius, un o’r ychydig adeiladau â chymeriad sydd yn dal i sefyll yn nhref lan-môr Recife. A’r fflatiau eraill wedi eu prynu gan gwmni ailddatblygu, mae Clara dan bwysau i symud ac mae hi’n cychwyn rhyfel oer gyda’r datblygwyr.

“Mae Ms Braga yn ymgorfforiad byw o ogoniannau sinema Brasil” New York Times

Raw Gwe 14 — Iau 20 Ebrill Ffrainc/2016/99mun/18/is-deitlau. Cyf: Julia Ducournau Gyda: Garance Marillier, Ella Rumpf, Rabah Nait Oufella

Mae Justine yn llysieuwraig sy’n astudio yn y brifysgol i fod yn filfeddyg. Ar ôl cymryd rhan mewn defod dderbyn yn y brifysgol, mae hi’n dechrau chwantu am gig. Ffilm gyntaf ryfeddol sydd wedi dychryn cynulleidfaoedd ledled y byd â’i dwyster.

Roedd bywyd Emily Dickinson yn un cyfan-gwbl fewnol, bron; ni phriododd ac fe arhosodd ar hyd ei hoes yn y dref lle cafodd ei geni. Ond er bod ei hamgylchiadau allanol yn awgrymu person swil, datgelodd ei barddoniaeth fenyw angerddol a gwestiynai ei chymdeithas yn barhaus. Â pherfformiad canolog egnïol, mae hwn yn fywgraffiad anarferol o graff.

Their Finest

Gwe 21 Ebrill — Iau 4 Mai DG/2016/117mun/12A. Cyf: Lone Scherfig Gyda: Gemma Arterton, Sam Claflin, Bill Nighy, Richard E Grant, Helen McCrory

Ym Mhrydain yn ystod y rhyfel, a’r dynion i ffwrdd yn ymladd, mae Catrin Cole yn cael swydd yn ysgrifennu ffilmiau propaganda y mae angen “cyffyrddiad benywaidd” arnynt. Mae ei dawn naturiol yn sicrhau llwyddiant ac, â morâl y wlad yn y fantol, mae Catrin a’i chriw o gydweithwyr lliwgar yn gweithio fel lladd nadredd i wneud ffilm a fydd yn twymo calon y genedl. Ond mae hi’n dysgu bod yna gymaint o ddrama y tu ôl i’r camera ag sydd yna ar y sgrin ei hun.


Ffilm

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: Don’t Knock Twice, Free Fire, Dancer

12

Don’t Knock Twice

Free Fire

Gwe 1 — Iau 6 Ebrill

Gwe 7 — Iau 13 Ebrill

Cymru/2016/90mun/15. Cyf: Caradog W James. Gyda: Katee Sackhoff, Lucy Boynton, Javier Botet

DG/2017/90mun/15. Cyf: Ben Wheatley Gyda: Brie Larson, Cillian Murphy, Sharlto Copely, Armie Hammer, Michael Smiley

“Cnociwch unwaith i’w deffro yn ei gwely, ddwywaith i’w chodi o’r bedd ...” Gan y tîm a oedd yn gyfrifol am The Machine, mae’r ffilm arswyd ysgytwol hon yn adrodd hanes mam, sy’n taer geisio ailgysylltu â’i merch ar ôl iddynt gael eu gwahanu. Pan ddaw hi’n rhan o chwedl am wrach ddiafolaidd, caiff ei gorfodi i fynd i eithafion peryglus i geisio adennill ei phlentyn. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd John Giwa-Amu ar ôl y dangosiad ar Gwe 31 Mawrth.

Clwb Ffilmiau Gwael: The Happening Sul 2 Ebrill UDA/2008/88mun/15. Cyf: M. Night Shyamalan Gyda: Mark Wahlberg, Zooey Deschanel, John Leguizamo, Ashlyn Sanchez

Mae athro gwyddoniaeth a’i deulu yn ceisio dianc rhag firws rhyfedd sy’n gwneud i bobl gyflawni hunanladdiad. Ai dyma ddiwedd y ddynoliaeth? Mae rhywbeth yn y gwynt, ond a all Marky Mark ddal pen rheswm ag ef?

The Time of Their Lives Gwe 7 — Iau 13 Ebrill DG/2017/hyd i’w gadarnhau. Cyf: Roger Goldby Gyda: Joan Collins, Pauline Collins, Franco Nero, Ronald Pickup

Yn benderfynol o fynd i angladd ei chyn-gariad ar ynys hudolus yr Île-de-Re yn Ffrainc, mae cyn-seren Hollywood o’r enw Helen yn dianc o’i chartref i bobl wedi ymddeol gyda chymorth Priscilla, gwraig tŷ swil sy’n sownd mewn priodas ddiflas. Gyda’i gilydd, maent yn mynd ar daith — mewn coets, fferi, car ac ar droed — er mwyn ceisio cyrraedd yr angladd mewn pryd.

Mewn warws llwm, mae Justine ar fin trefnu dêl arfau rhwng dau aelod o’r IRA, Chris a Frank, a’r gwerthwyr gynnau, Vernon ac Ord. Ond daw anghydfod personol i darfu ar bethau – a chyn hir mae pawb yn saethu. Ffilm gomedi dywyll, egnïol a chwareus wedi’i gosod yn y 1970au ac wedi’i ffilmio â deheurwydd penfeddwol a gwaedlyd.

Dancer Gwe 14 — Iau 20 Ebrill DG/2016/85mun/TiCh. Cyf: Steven Cantor

Wedi’i fendithio â grym a phwyll rhyfeddol, roedd Sergei Polunin yn un o sêr digamsyniol y byd dawns ac yn brif ddawnsiwr ieuengaf erioed y ballet Brenhinol. Ar anterth ei lwyddiant, trodd ei gefn ar bopeth — gan gwestiynu ei fodolaeth a’i ymrwymiad i fyd y ddawns, a hynny ar yr union adeg pan oedd yn dechrau ennill statws chwedlonol iddo’i hun. Trodd ei ddawn yn faich. Golwg syfrdanol ar fywyd dyn ifanc cymhleth a drawsnewidiodd fyd y ballet.


Ffilm

Chapter 13: Bring Me The Head of Alfredo Garcia

The Lost City of Z

13

O’r brig: Bring Me The Head of Alfredo Garcia, The Sense of An Ending

chapter.org

Llun 17 Ebrill UDA/1974/110mun/18. Cyf: Sam Peckinpah Gyda: Warren Oates, Gig Young, Isela Vega

A’i ferch angylaidd yn feichiog, mae El Jefe yn rhoi pris am ben y cnaf a gyflawnodd y weithred ysgeler. Mae’r barman, Bennie, yn mynd ar daith drwy isfyd Mecsico, lle mae marwolaeth yn drwch yn yr awyr, er mwyn dod o hyd i Alfredo.

“Mae hi bellach yn bryd ailasesu’r ffilm hon, a’i chymysgedd arbennig o dynged, y felan, a meirw-ddewiniaeth. Un o glasuron sinema’r 1970au.” Little White Lies

The Happiest Day in the Life of Olli Maki Gwe 21 — Iau 27 Ebrill Y Ffindir/2016/92mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Juho Kuosmanen Gyda: Jarkko Lahti, Oona Airola, Eero Milonoff

Mae’r Olli diymhongar (‘y Pobydd o Kokkola’) yn paratoi ar gyfer gornest focsio fawr ac mae’r Ffindir cyfan yn ei gefnogi. Ond ar ôl iddo syrthio mewn cariad, daw’n fwyfwy amlwg nad bocsio yw’r peth pwysicaf yn ei fywyd. Stori ramantus a thrawiadol o gynnil, mewn du a gwyn, sy’n creu teimlad hyfryd o felancoli chwerw-felys. Enillydd categori Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 2016

Gwe 28 Ebrill — Iau 4 Mai UDA/2017/141mun/15. Cyf: James Gray Gyda: Charlie Hunnam, Sienna Miller, Robert Pattinson, Tom Holland

Tua dechrau’r 20fed ganrif, daeth y fforiwr, y Cyrnol Percival Fawcett, i gredu bod yna wareiddiad coll yn Ne America, ac fe ddychwelodd dro ar ôl tro i’r Amazon i geisio profi ei ddamcaniaeth. Er wynebu bygythiadau naturiol a dynol, ac wrth i gefnogaeth ei deulu a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol edwino, parhaodd obsesiwn Fawcett. Stori epig a iasol am yr obsesiwn go iawn a’i meddiannodd.

The Sense of An Ending Gwe 28 Ebrill — Iau 4 Mai

DG/2017/109mun/12Aarf. Cyf: Ritesh Batra Gyda: Jim Broadbent, Charlotte Rampling, Harriet Walter, Michelle Dockery, Joe Alwyn

Mae Tony yn clywed bod ei ffrind gorau, Adrian, wedi gadael ei ddyddiadur iddo yn ei ewyllys ac mae’r newyddion yn ei anfon ar ei ben i atgofion am driongl serch a chanlyniadau’r berthynas honno dros gyfnod o sawl degawd. Stori ddeallus am y modd yr awn ati i olygu ein hatgofion er mwyn amddiffyn y fersiwn ‘iawn’ ohonom ein hunain, yn seiliedig ar nofel boblogaidd Julian Barnes. + Addasiadau / Adaptations


Ffilm

029 2030 4400

Millions Like Us, Two Thousand Women

14

MERCHED FEL NI Menywod Prydeinig a Sinema Bropaganda yr Ail Ryfel Byd

Ymunwch â ni am gipolwg ar fyd ffilmiau propaganda a thymor o’r ffilmiau gorau a gwblhawyd i geisio cynorthwyo’r ymgyrch ar faes y gad. Cyflwynir y dangosiadau hyn ar y cyd â ffilmiau byrion o gasgliad yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd. Mae mwy o fanylion i’w cael ar ein gwefan.

Millions Like Us

The Gentle Sex

Sul 9 + Maw 11 Ebrill

Sul 23 + Maw 25 Ebrill

DG/1943/103mun (Rhaglen gyfan: 126mun)/U. Cyf: Frank Launder Gyda: Patricia Roc, Eric Portman, Gordon Jackson, Megs Jenkins, Anne Crawford

DG/1943/93mun (Rhaglen gyfan: 102mun)/U. Cyf: Leslie Howard, Maurice Elvey Gyda: Joan Gates, Jean Gillie, Joan Greenwood

Pan gaiff Celia ei galw i wasanaethu yn ystod y rhyfel, mae hi’n siomedig pan gaiff ei hanfon i ffatri sy’n gwneud rhannau i awyrennau yn hytrach nag i’r WAAF mwy deniadol. Ond ar ôl cyrraedd yno, mae hi’n cyfarfod â merched eraill o wahanol gefndiroedd ac yn dechrau fflyrtio gydag awyrennwr ifanc.

Two Thousand Women Sul 16 + Maw 18 Ebrill DG/1944/95mun (Rhaglen gyfan: 101mun)/PG. Cyf: Frank Launder Gyda: Phyllis Calvert, Flora Robson, Jean Kent, Patricia Roc, Thora Hird

Yn ystod brwydr, caiff dau beilot gyda’r RAF eu saethu o’r awyr ac maent yn glanio yn adran ferched gwersyll caethiwo yn Ffrainc. Mae’r merched yn cuddio’r awyrenwyr ac yn dyfeisio cynllun er mwyn caniatáu iddynt ddianc — ond nid yw pob un o’r merched yn union fel yr ymddengys.

Mae saith o recriwtiaid benywaidd Prydeinig o gefndiroedd tra gwahanol yn ymuno â Gwasanaethau’r Ail Ryfel Byd ac mae’r portread ingol hwn yn eu dangos yn ymwneud â’r rhaglen hyfforddiant ac yn derbyn eu haseiniadau cyntaf. Mae’r ffilm yn cynnwys cast gwych a rôl olaf Leslie Howard, fel adroddwr a chyfarwyddwr, cyn i’w awyren yntau gael ei saethu o’r awyr ym Mhortiwgal.

A Canterbury Tale Sul 30 Ebrill

DG/1944/125mun/U. Cyf: Michael Powell, Emeric Pressburger Gyda: Eric Portman, Sheila Sim, Dennis Price

Mae ‘Land Girl’, GI Americanaidd, a milwr Prydeinig yn eu cael eu hunain gyda’i gilydd mewn tref fechan yng Nghaint sy’n cael ei phlagio gan “ddyn glud” dirgel, sydd yn tywallt glud ar wallt merched sy’n mynd i gwrdd â milwyr wedi iddi dywyllu. Mae’r tri’n ceisio dod o hyd iddo ac yn dechrau amau’r ynad lleol — ffigwr ecsentrig a chanddo weledigaeth gyfriniol o hanes Lloegr yn gyffredinol ac o Gaergaint yn benodol.

“Gwaith bregus a gogoneddus ... Mae hi’n bosib mai A Canterbury Tale yw’r ffilm fwyaf cariadus a thyner am Loegr a gwblhawyd erioed.” Xan Brooks, The Guardian


Ffilm

NT Live: Twelfth Night

Theatr Genedlaethol Cymru: Encore: Macbeth

15

O’r chwith i’r dde: Twelfth Night, Macbeth

chapter.org

Iau 6 Ebrill 7pm DG/2017/180mun/12A. Cyf: Simon Godwin Gyda: Tamsin Greig, Daniel Rigby, Tamara Lawrence, Doon Mackichan, Daniel Ezra

Mae llong yn dryllio ar y creigiau. Caiff Viola ei chludo i’r lan ond mae ei hefaill, Sebastian, yn cael ei golli. Yn benderfynol o oroesi ar ei phen ei hun, mae Viola’n mynd i archwilio’r tir newydd o’i hamgylch. Ac mae hynny’n gychwyn ar ddrama yn llawn camgymryd cymeriadau a chariad angerddol.

NT Live: Rosencrantz and Guildenstern are Dead Iau 20 Ebrill 7pm

DG/2017/200mun/12A. Cyf: David Leveaux Gyda: Daniel Radcliffe, Joshua McGuire, David Haig

O gefndir drama Hamlet, mae dau o’r mân gymeriadau, Rosencrantz a Guildenstern, yn dod i ganol y llwyfan. Wrth i’r dwbwl-act ifanc faglu i mewn ac allan o ddrama eiconig Shakespeare, maent yn dechrau drysu wrth i’w fersiwn nhw o’r stori ddatblygu. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn nodi hannercanmlwyddiant y ddrama a sicrhaodd enwogrwydd i’r Tom Stoppard ifanc.

Sul 23 Ebrill 1.30pm Cymru/2017/tua 210mun/dim tyst. Cyf: Arwel Gruffydd Gyda: Richard Lynch, Ffion Dafis

Mae Brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei ryfelwr disgleiriaf yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi rhag-weld anrhydedd bwysicach o lawer i Macbeth. Ar ôl i’w wraig ddidostur gael ei swyno gan addewid o rym anfeidrol, caiff uchelgais ddieflig ei gŵr ei thanio. Ac, wrth iddynt fynd at eu tranc, try’r cyfan yn gyflafan waedlyd. Mae cynhyrchiad saflebenodol Theatr Genedlaethol Cymru — yng Nghastell Caerffili — o drasiedi greulon Shakespeare yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg newydd gan y diweddar Gwyn Thomas.

NT Live: Julius Caesar Mer 26 Ebrill 7pm

DG/2017/225mun/PG. Cyf: Angus Jackson Gyda: Andrew Woodall, James Corrigan, Martin Hutson

Mae Cesar yn dychwelyd o faes y gad ond mae miwtini yn corddi yng nghoridorau grym a’r ras i hawlio’r ymerodraeth yn bygwth mynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Mae tymor ‘Rhufain’ yr RSC yn agor â golwg ar wleidyddiaeth ‘sbin’, brad a thrais.


16

Ffilm

029 2030 4400

FFILMIAU I’R TEULU CYFAN Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Sinema Hygyrch

The Lego Batman

Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain

Sad 1 + Sul 2, Sad 8 + Sul 9, Sad 15 + Sul 16 Ebrill UDA/2017/104mun/U. Cyf: Chris McKay Gyda lleisiau: Will Arnett, Jenny Slate, Ralph Fiennes, Mariah Carey, Zach Galifianakis

Mae yna newidiadau mawr ar droed yn Gotham, ac os ydyw am achub y ddinas o afael y Joker drwg, mae’n bosib y bydd yn rhaid i Batman roi’r gorau i fod yn ‘vigilante’ unigol a gweithio gydag eraill. Bydd yn rhaid iddo ddysgu delio hefyd â’r cyfrifoldeb o fagu plentyn ac efallai, efallai, ddysgu chwerthin ryw ychydig.

Peppa Pig: My First Cinema Experience Gwe 7 — Iau 20 Ebrill

DG/2017/69mun/U. Cyf: Neville Astley, Mark Baker Gyda: Jo Brand, David Mitchell

Mae Peppa a’i theulu yn mynd ar wyliau i Awstralia, yn ymweld â Llundain gyda’r ysgol, lle mae’r Frenhines yn mynd â nhw ar daith bws agored drwy’r ddinas, ac yn cael trip hyfryd i’r sw! Gwledd o ddeunydd newydd wedi’i gymysgu â deunydd rhyngweithiol o sioe lwyfan Peppa Pinc.

Your Name Sad 29 + Sul 30 Ebrill Japan/106mun/2016/12A/wedi’i dybio. Cyf: Makoto Shinkai.

Mae dau ddieithryn yn dod i gysylltiad rhyfedd â’i gilydd yn y gwaith animeiddio hardd hwn. Ond ar ôl i’r cysylltiad ffurfio, a fydd pellter yn eu cadw nhw ar wahân?

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau. Is-deitlau Meddal

I’w cadarnhau

Disgrifiadau Sain

I’w cadarnhau

Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. Cefnogir ein dangosiadau a’n digwyddiadau i Bobl â Dementia gan Sefydliad Rayne.

The Eagle Huntress 19 +23 Ebrill Kazakh/2016/87mun/U. Cyf: Otto Bell. Lleisio gan Daisy Ridley

Mae’r darn difyr hwn am anturiaethau ysbrydoledig go iawn yn addas i blant o bob oed (ac i bob un arall y mae angen eu hatgoffa bod pob peth yn bosib). Dilynwn Aisholpan, merch 13 oed, wrth iddi hyfforddi i fod y ferch gyntaf yn ei theulu Kazakh ers deuddeg cenhedlaeth i fod yn heliwr eryrod. Mae hi’n ceisio cyrraedd pinacl traddodiad a drosglwyddwyd ers cenedlaethau o dad i fab.

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.

Dangosiadau Hamddenol Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.


chapter.org

Addysg

Gwobr Ffilm Fer Ewart Parkinson 2017

Diwrnod Animeiddio Lego Batman (9+ oed)

Dosbarth Meistr 1 — Gwneud Ffilmiau: Sad 1 Ebrill, Sul 2 Ebrill 10am–4pm

Maw 11 Ebrill, 10am–2.30pm

Wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifainc 13-19 oed, a than arweiniad aelod o’r diwydiant proffesiynol, bydd y Dosbarth Meistr hwn yn cynnwys nifer o dasgau ymarferol, cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp rhyngweithiol er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn dilyn yr arferion gwaith gorau wrth fynd ati i gynllunio eu ffilmiau. Cost £35. 12 o leoedd sydd ar gael. Bydd angen pecyn bwyd bob dydd.

Crafty Pics Sad 1, 15, 22 + 29 Ebrill Lego Batman (8+ oed) 1.50pm–2.50pm Ydych chi’n gallu adeiladu Lego yn gyflym? Dewch i roi cynnig ar ein her Lego Batman. Cystadlwch yn erbyn adeiladwyr Lego eraill ac fe allech chi ennill ambell wobr Lego Batman arbennig. Gallwch roi cynnig ar yr her gymaint o weithiau ag y dymunwch, er mwyn recordio’ch amser gorau. Mae’r her yn rhad ac am ddim i unrhyw un â thocyn i’r ffilm am 3pm.

Sad 8 Ebrill Peppa Pig (4+ oed) 1.50pm–2.50pm Dewch i wneud theatr bypedau Peppa Pinc o focs sgidiau. £6 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm am 3pm)

17

Treuliwch ddiwrnod yn dysgu sut i wneud gwaith animeiddio ‘stop motion’ a chreu eich campwaith eich hun gyda chymorth citiau Lego Batman. 12 o leoedd fydd ar gael. Bydd angen pecyn bwyd bob dydd. £22 i bob plentyn

Parti Picnic Peppa Pinc (4+ oed) Mer 12 + 19 Ebrill, 10.45am–2.00pm Dewch i wylio ffilm Peppa Pinc cyn ymuno â ni am bicnic Peppa yng Nghyntedd y Sinema a fydd yn llawn bwyd a hwyl Peppa-aidd. Yn dilyn y picnic, bydd yna gyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft Peppa. Hwyl garw i’r teulu cyfan! £15 i bob plentyn, am ddim i oedolion! Pris yn cynnwys tocyn i’r ffilm, cinio picnic Peppa a’r gweithdy crefftau. Archebwch mewn da bryd — dim ond 15 o leoedd fydd ar gael ar gyfer pob picnic.

Dathliad Heol Radnor Cwblhaodd disgyblion Ysgol Gynradd Heol Radnor ddau gwrs chwe wythnos o hyd yn Chapter yn rhan o Gwricwlwm Creadigol Prifysgol Plant. Aethant ati i archwilio syniadau am gelfyddyd wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa Artes Mundi ac i greu eu gweithiau animeiddio eu hunain, mewn cyflwyniad i dechneg animeiddio ‘Stop Motion’.


18

Chapter Mix

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd

Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Iau 6 Ebrill, 7.30pm Y gwesteion fydd Jenny Lewis ac Adnan Al-Sayegh. Byddant yn darllen yn Saesneg ac yn Arabeg o’u cyfres wobrwyol ‘Writing Mesopotamia’. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys darlleniadau o fersiwn newydd Jenny o stori epig Gilgamesh ac epigramau ‘dwys a ffraeth’ Adnan o’i bamffled newydd, Ten Poems, a gyhoeddir gan Wasg Mulfran gyda darluniau gan Kate Hazell. Bydd yna sesiwn meic agored hefyd. £2.50 (wrth y drws)

Golden Thread Playback Theatre Sad 1 Ebrill 1pm

Diptych Wilton & Diwylliant Artistig Teyrnasiad Richard II Darlithydd: Mark Cottle Iau 13 Ebrill 2pm Mae Diptych Wilton yn un o’r paentiadau mwyaf prydferth ond enigmatig a grëwyd erioed. Disgrifiwyd to Neuadd San Steffan fel “y gwaith unigol mwyaf rhagorol yn holl hanes Celfyddyd Seisnig”. Cafodd y ddau waith eu creu yn ystod degawd olaf teyrnasiad cythryblus Richard II ac fe fydd y ddarlith hon yn ystyried eu statws fel uchafbwyntiau celfyddydol cyfnod cyfoethog.

Perfformiadau pwerus ac unigryw lle caiff eich straeon chi, y gynulleidfa, ddod yn fyw yn y fan a’r lle, o flaen eich llygaid!

Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

£7/£5/£3 Plant/Am ddim i blant dan 5 oed (wrth y drws)

Sul 16 Ebrill 9pm

Clwb Comedi The Drones Gwe 7 + Fri 21 Ebrill Drysau’n agor: 8.30pm. Sioe’n dechrau: 9pm. Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd

029 2030 4400

Jazz ar y Sul Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM

ChapterLive Gwe 14 + Gwe 28 Ebrill 9pm Ymunwch â ni yn ein Caffi Bar i glywed cerddoriaeth fyw wedi’i churadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter.

Sul 2 Ebrill 8pm

Gwe 14 Ebrill: Joe Kelly + Joe Bayliss Gwe 28 Ebrill: Blind River Scare + Tom Crow

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon. Croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

RHAD AC AM DDIM Mwynhewch beint a phizza am £10 yn ein Caffi Bar yn ystod nosweithiau ChapterLive!

£4 (wrth y drws)


chapter.org

Cefnogwch Ni

19

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn — ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid.

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40

Chwilio am anrheg i ffrind neu aelod o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich mysg beth am brynu tanysgrifiad i Gynllun Ffrindiau Chapter? I gael mwy o wybodaeth am roi aelodaeth fel rhodd, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau.

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.


20

Cymryd Rhan

029 2030 4400

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA

Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds

Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs

Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda

A’r holl unigolion hynny a’n cefnogodd ni mor hael yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi hynny


chapter.org

Gwybodaeth

21

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

cen res mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd ton ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.