029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
Celfyddyd
029 2030 4400
Artes Mundi 7
I’r rheiny ohonoch sydd wedi bod i ffwrdd dros y misoedd diwethaf, mae Artes Mundi yn sefydliad celfyddyd gyfoes sydd fwyaf adnabyddus am yr arddangosfa ddwyflynyddol a’r wobr gysylltiedig sy’n arddangos gwaith rhai o artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw’r byd. Erbyn i chi ddarllen hwn, byddwn yn gwybod pwy yw’r enillydd — caiff y cyhoeddiad mawr ei wneud ar 26 Ionawr! A fydd yna enillydd o Chapter? Dros y misoedd diwethaf, rydym ni wedi cyflwyno gwaith tri artist o fri rhyngwladol, Nástio Mosquito, Bedwyr Williams a Lamie Joreige. Neu ai yn yr amgueddfa y mae gwaith y buddugol i’w weld? Yn y fan honno mae gwaith gan Bedwyr a Lamia i’w weld ochr yn ochr â darnau gan John Akomfrah, Neil Beloufa ac Amy Franceschini / Futurefarmers.
Llun: Pob gosodiad yn Chapter. O’r brig: Bedwyr Williams, Tyrrau Mawr 2016. Lamia Joreige, Under-Writing Beirut, After The River 2016. Pob llun gan Jamie Woodley.
02
Tan ddydd Sul 26 Chwefror 2017
Mae hi’n fis olaf arddangosfa Artes Mundi 7 — ac fe fu’n gyfnod anhygoel. Rydym wedi mwynhau bod yn un o leoliadau partner yr arddangosfa, ar y cyd â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ac rydym yn gobeithio eich bod chi hefyd wedi cael eich ysbrydoli, eich cyffroi a’ch herio gan rai o weithiau’r sioe.
Delwedd y clawr: O No! Llun: Jack Taylor Gotch
Celfyddyd
Cafodd rhestr fer Artes Mundi 7 ei dewis gan Elise Atangana, curadur annibynnol ym Mharis a Cameroon, Alistair Hudson, Cyfarwyddwr Sefydliad Celfyddyd Fodern Middlesbrough a Marie Muracciole, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddyd Beirut. Dewiswyd yr enillydd gan Ann Jones, curadur gyda Chasgliad Cyngor y Celfyddydau, Phil Collins, artist a ddangosodd waith yn rhan o Artes Mundi yn y gorffennol, Elvira Dyangani Ose, darlithydd mewn diwylliannau gweledol yn Goldsmiths; Curadur annibynnol; Aelod o’r Thought Council, Fondazione Prada, Carolyn Christov-Bakargiev, awdur, hanesydd celf a churadur, Nick Aikens, curadur, Van Abbemusuem, ac Oliver Basciano, Golygydd (Rhyngwladol) ArtReview ac ArtReview Asia.
CELFYDDYD + FFILM
03
Nástio Mosquito, Transitory Suppository: Art #III No. Pruritus.No.ANI, 2016
chapter.org
Oriau agor yr Oriel: Maw, Mer, Sad, Sul: 12-6pm, Iau, Gwe: 12-8pm, Llun: Ar gau
Artes Mundi: Neil Beloufa Desire for Data Sad 18 Chwefror, 2.30pm Ffrainc/2014/49mun/dim tyst. Cyf: Neil Beloufa
A ellir defnyddio fformiwla i fesur dyhead? Mae grŵp o fathemategwyr Ffrengig yn ceisio pennu’r tebygolrwydd y bydd grŵp o bobl ifainc yn America yn ‘dod at ei gilydd’ mewn parti. Mae’r ffilm yn neidio rhwng clipiau o’r bobl ifainc yn yfed cwrw, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn cymdeithasu, a golygfeydd heddychlon o’r grŵp o fathemategwyr yn trafod, yn ystyried ac yn archwilio’r sefyllfaoedd hynny.
Celfyddyd
029 2030 4400
James Richards, Rosebud, Artist’s installation.
04
Dewis James Richards i gynrychioli Cymru yn Fenis 2017 Rydym yn falch o gyhoeddi bod James Richards wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis. Bydd yr arddangosfa yn cael ei churadu gan Chapter. Mae’r artist yn ymddiddori ym mhosibiliadau’r ‘wedd bersonol’ oddi mewn i anhrefn y cyfryngau torfol. Mae ei waith yn gwneud defnydd o fanc cynyddol o ddeunydd fideo sy’n cynnwys darnau o sinema, gweithiau gan artistiaid eraill, deunydd ‘camcorder’, sioeau teledu hwyr-y-nos a deunydd archif. Mae ei osodiadau bwriadus yn cynnwys elfennau cerfluniol, sinematig, acwstig, cerddorol a churadurol a’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu gwaith o ddwyster rhyfeddol. Bydd cyflwyniad Richards yn Fenis yn cynnwys gosodiad sain safle-benodol newydd a chyfres o weithiau ychwanegol sy’n cynnwys samplau archifol a darnau cerddorol wedi eu hailadrodd a’u hailweithio ar wahanol ffurfiau. Bydd yn cydweithio gyda myfyrwyr o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a, thrwy gyfrwng preswyliad arbennig, yn cloddio yn neunydd yr Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol yn Aberystwyth. Dywedodd Cyfarwyddwr Celfyddyd Weledol Chapter, a churadur Cymru yn Fenis 2017, Hannah Firth: “James Richards yw un o artistiaid mwyaf gwreiddiol a chyffrous ei genhedlaeth ac rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gydag ef i gomisiynu corff newydd o waith i’w gyflwyno yn Fenis.
“Rydym wedi datblygu dulliau gwaith cydweithredol ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno’r arddangosfa, a’r rheiny’n cynnwys Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ac oriel G39.” Mae James Richards (g. Caerdydd, 1983) bellach yn byw yn Berlin. Cwblhaodd flwyddyn sylfaen yn Ysgol Celfyddyd a Dylunio Caerdydd cyn cwblhau gradd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Chelsea, Llundain. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys ‘Request and Antisongs’, ICA Llundain, ‘Crumb Mahogany’, Bergen Kunsthall a ‘Radio at Night’, Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Bordeaux (pob un yn 2016). Cafodd ei enwi ar restr fer Gwobr Turner 2014. Cafodd arddangosfa ‘Cymru yn Fenis’ ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i cyflwynir yn Fenis rhwng 13 Mai a 26 Tachwedd 2017. Yn rhan o’r cyflwyniad, bydd yr artist hefyd yn curadu sioe grŵp yn Chapter yn Hydref 2017 ac ar ôl hynny, ym mis Chwefror 2018, byddwn yn dangos y gwaith a gyflwynwyd yn ei arddangosfa unigol yn Fenis. james-richards.co.uk
chapter.org
“ Y tu hwnt i’r digwyddiadau celfyddydol, mae’r bar diymhongar hyfryd yn werth ymweliad ynddo’i hun” – Observer Food Monthly
#CaruBwydChapter
05
Ry’ch chi wedi clywed sôn am ddiwylliant caffis. Wel, mae ein caffi bar gwobrwyol ni yn ddiffiniad perffaith, bron, o gaffi diwylliannol. Wrth galon Chapter, mae’r caffi bar yn lle bywiog a chroesawgar bob awr, bod dydd. Lle perffaith i drafod yr hinsawdd ddiwylliannol dros cappuccino (neu rywbeth cryfach), i gael tamaid blasus cyn digwyddiad neu i hamddena gyda ffrindiau dros bryd i’w rannu. Mae llawer o bobl yn manteisio ar ein cysylltiad di-wifr cyflym rhad-ac-am-ddim ac yn defnyddio ein caffi fel swyddfa dros-dro i gynnal cyfarfodydd anffurfiol. Mae hyn yn ein plesio’n ofnadwy! I weld ein bwydlen, i gael gwybodaeth am darddiad ein cynhyrchion Cymreig a’n rhestr win gynhwysfawr, ewch i chapter.org.
Dilynwch ni ar Twitter: @ChapterTweets @ChapterEats
06
Perfformiadau
029 2030 4400
GWYN EMBERTON, EDDIE LADD, ILDANCE A JOHANNA NUUTINEN YN CYFLWYNO
BABULUS Gwe 17 & Sad 18 Chwefror, 7.30pm Trwy gyfrwng dawns, cân a straeon mewn gwahanol ieithoedd, mae Babulus yn cwestiynu natur cyfathrebu a’r hyn a wnawn pan na allwn guddio y tu ôl i eiriau. Mae’n holi beth sy’n digwydd pan gollwn afael ar ddulliau cyfathrebu arferol ac yn gofyn a yw sensoriaeth a hunan-sensoriaeth yn ddwy ochr i’r un geiniog. £12/£10. Oed: 11+ Sad 18 Chwefror, 12-3pm. Gweithdy i ddawnswyr proffesiynol a myfyrwyr ar Sad 18. Gweler y we-fan am fanylion.
Babulus
Mae Babulus yn dwyn Gwyn Emberton ac Eddie Ladd at ei gilydd unwaith eto, mewn cynhyrchiad theatr ddawns agos-atoch. Maent yn ymuno â’r coreograffwyr Lee Brummer ac Israel Aloni, o gwmni dawns ilDance yn Sweden, a’r coreograffydd o’r Ffindir, Johanna Nuutinen, a hynny’n rhan o iCoDaCo 2016 (Grŵp Dawns Gyfoes Rhyngwladol). Bydd pum dawnsiwr/coreograffydd o fri rhyngwladol yn cyflwyno’r gwaith grymus ond amrwd hwn. O wahanol gefndiroedd artistig ac â lleisiau creadigol gwahanol iawn, maent yn cyfleu’r llawenydd, yr heriau a’r peryglon sy’n deillio o greu sioe gyda’i gilydd.
Perfformiadau
Macbeth yn Fyw o Gastell Caerffili
Jamie Wood O No!
Maw 7 — Sad 18 Chwefror, Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd â Cadw, gyda chefnogaeth Chapter.
Sad 11 Chwefror 7.30pm
07
Macbeth
chapter.org
“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll; Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.” Mae Brenin yr Alban wedi rhoi gwobr hael i’w ryfelwr mwyaf disglair. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi rhag-weld anrhydedd bwysicach o lawer i Macbeth. Ar ôl i’w wraig ddidostur gael ei swyno gan addewid o rym anfeidrol, caiff uchelgais ddieflig ei gŵr ei thanio. Ac, wrth iddynt fynd at eu tranc, try’r cyfan yn gyflafan gwaedlyd. Mae cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru — yng Nghastell Caerffili — o drasiedi greulon Shakespeare yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg newydd gan y diweddar Gwyn Thomas. “… y mae pethau / Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.” Cynhyrchiad safle-benodol gan Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad Cymraeg o gyfieithiad newydd gan y diweddar Gwyn Thomas. Mae hwn yn gynhyrchiad Cymraeg. Bydd ap iaith Sibrwd ar gael i’r di-Gymraeg. Mae hwnnw’n rhoi crynodeb o’r ddeialog ac yn sicrhau bod y rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn gallu gwerthfawrogi’r cynhyrchiad. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.sibrwd.com. Maw 7 & Mer 8: £14 / £11 (rhagolygon — caiff y perfformiad ar Mer 8 ei ffilmio) Iau 9 — Sad 18: £15 / £12 (dim perfformiad ar Sul 12) Gwe 10 + Maw 14: £14 / £11 (caiff y perfformiadau hyn eu ffilmio) Mer 15: Talwch beth hoffech chi Os collwch chi’r perfformiad yng Nghastell Caerffili, gallwch wylio dangosiad byw yn Chapter. Trowch i dudalen 16 am fanylion.
Taith seicedelig a theyrnged ar letraws i’r fenyw sy’n cael y bai am chwalu The Beatles. Mae O No! yn benthyca cyfarwyddiadau celfyddydol Yoko Ono ei hun ac yn gofyn a yw syrthio mewn cariad bob amser yn drychinebus. Mae hon yn sioe am optimistiaeth ddi-hid, celfyddyd avant-garde a’r hyn y gallem ei ddysgu o hyd gan yr hipis. £10/£8. Oed: 14+
“ Cecrus, doniol a digamsyniol hardd. Mae teyrnged Jamie Wood i Yoko Ono yn ddireidus ac yn llawn hud a lledrith” The Stage *****
Ensemble Cymru Mer 15 Chwefror 7pm Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i Chapter ym mis Chwefror 2017 i gyflwyno cyfres newydd sbon o gyngherddau. Bydd y feiolinydd, Florence Cooke, a’r pianydd, Christina Lawrie, yn ymuno â’r prif glarinetydd, Peryn Clement-Evans, i gyflwyno rhaglen gyffrous ac amrywiol a fydd yn cynnwys Sonata B Fflat Mozart i Biano a Ffidil. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys Straeon Tylwyth Teg Schumann (Märchenerzälungen) a’r Suite hyfryd o egnïol i glarinét, ffidil a phiano gan y cyfansoddwr Ffrengig hynod wreiddiol, Darius Milhaud. £10/£8/£3 i fyfyrwyr
“ Mae Ensemble Cymru yn drysor diwylliannol” Aelod o’r Gynulleidfa
Perfformiadau
029 2030 4400
(F.E.A.R)
08
LITTLE WANDER YN CYFLWYNO
EVERYMAN YN CYFLWYNO
Brian Gittins — Don’t Feed the Monkey The Romans in Britain Man (Gwaith ar y gweill) gan Howard Brenton Iau 16, 8pm Mae alter ego David Earl, Brian Gittins, yn fwlsyn llwyr ac, yn ôl y Sussex Argus, ef yw ‘Digrifwr Gwaetha’r Byd’. Ond dyw Brian ddim yn credu hynny am eiliad ac mae e yn ei ôl â sioe fyw (wedi’i noddi gan Rampoo — Siampŵ i hyrddod). Bydd y noson yn llawn dawnsio, canu a jôcs Cnoc Cnoc am wraig oedrannus o’r enw Joan McEnroe. Yn ogystal â hynny, bydd yna adran arbennig i aelodau rhwystredig o’r gynulleidfa o’r enw ‘Heckle Gittins’. Felly, os ydych chi’n hoffi gwylio dynion 42 oed yn prancio o gwmpas fel twpsod, dewch i weld Brian ar ei newydd wedd cyn i banic perfformio ei gaethiwo i’w wely.
‘Hollol wreiddiol a syfrdanol o ddoniol hefyd.’ - The Guardian £8/£7/£6. Oed: 18+
CYNHYRCHIAD GAN MR & MRS CLARK
(F.E.A.R) Maw 21 — Sad 25 Chwefror, 7.30pm + 2.30pm ar Sad 25 Chwefror Mae (F.E.A.R.) yn sioe un-dyn am ofn sy’n gofyn a yw’r byd am i ni deimlo’n ddiogel mewn gwirionedd. Mae hi’n sioe ddewr a doniol ar adegau, am atgofion plentyndod ac argyfwng canol oed ac fe’i cyflwynir mewn modd uniongyrchol, dadlennol a phersonol. Drwy gyfrwng cyfuniad o atgofion a ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus, mae naratif clir a mwyfwy angerddol yn datgelu ofnau dyn canol oed sy’n cael ei blagio gan y newyddion — ymosodiadau gan y Wladwriaeth Islamaidd, datgeliadau Edward Snowden a Brexit, heb sôn am y pryderon cynyddol am ei ddirywiad corfforol.
‘Ffrwydrad o theatr rymus’ ***** The Sprout £12/£10 Oed: 14+ Bydd dehongliadau BSL a disgrifiadau sain ar gael yn y perfformiadau ar brynhawn a nos Sadwrn
Maw 28 Chwefror — Sad 4 Mawrth, 7.30pm + 2.30pm ar Sad 4 Mawrth 54 CC. Mae offeiriad ifanc o Brydain ar fin cael blas o rym a llygredigaeth y fyddin Rufeinig oresgynnol. Yn y flwyddyn 515 OC, mae dwy chwaer yn ceisio ymdopi yn y byd ôl-apocalyptaidd sy’n dod yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a choncwest y Sacsoniaid o ynys Prydain. Ac, yn 1980 OC, mae swyddog yr SAS yn Iwerddon yn mynd ati i geisio llofruddio arweinydd un o gelloedd lleol yr IRA ond yn ei chael ei hun wyneb yn wyneb â gweledigaethau o’r gorffennol ac awydd mynwesol am heddwch. Mae campwaith barddonol Howard Brenton, The Romans in Britain, yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd pan fydd gwledydd yn ymosod ar wledydd eraill; mae’r ddrama mor ddadleuol — ac mor drasig a pherthnasol — heddiw ag yr oedd pan gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1980 yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain. Golygfeydd o drais ac o natur rywiol, a iaith gref. Addas i gynulleidfaoedd 16+ oed yn unig. £12/£10.50 (disgownt ar gael ar gyfer matinées Iau a Sad yn unig). Oed: 16+
HELPWCH NI I SICRHAU DYFODOL I GELFYDDYD A PHERFFORMIADAU ARBROFOL BYW YNG NGHAERDYDD!
Experimentica yw’r unig ŵyl o gelfyddyd fyw yng Nghymru sy’n ymroi i ddarparu llwyfan i artistiaid arbrofol, ac artistiaid y tu allan i’r brif ffrwd, er mwyn iddynt ddatblygu a rhannu eu gwaith. Bu’n gwneud hynny ers 2001 a thros y blynyddoedd mae cynulleidfaoedd wedi cael cyfle i weld gweithiau gwirioneddol unigryw ac arbrofol — yn ffilmiau, darnau dawns, gweithiau theatr a chelfyddyd sain. Ar gyfartaledd, mae hi’n costio rhyw £1,000 i Chapter gefnogi pob artist yng ngŵyl Experimentica ac, â hyd at 30 o artistiaid i’w cefnogi bob blwyddyn, a rhaglen addysg gysylltiedig, mae angen eich help chi arnom i sicrhau datblygiad parhaol yr ŵyl.
I wneud cyfraniad i Chapter ac i gefnogi gŵyl Experimentica, tecstiwch ‘EXPM17 £5’ at 70070. Diolch am eich cefnogaeth!
GWYLIWCH BOB UN O GÊMAU CHWE GWLAD CYMRU YN CHAPTER.
Sul 5 Chwefror 2017 2pm Yr Eidal v Cymru Sad 11 Chwefror 2017 4.50pm Cymru v Lloegr Sad 25 Chwefror 2017 2.25pm Yr Alban v Cymru Gwe 10 Mawrth 2017 8.05pm Cymru v Iwerddon
Sad 18 Mawrth 2017 2.45pm Ffrainc v Cymru i’w dilyn gan Iwerddon v Lloegr Gwyliwch y gofod hwn! Bydd ein gŵyl gwrw ranbarthol eleni yn ein harwain dros y dŵr a byddwn yn rhannu cwrw, seidr a gwirodydd o’r Ynys Werdd gyda chi. Mae’n bosib y gallwn ni smyglo ychydig o poteen yn ôl hefyd, i’w ychwanegu at y craic! Dangosir yr holl gêmau yn y Gofod 1af.
Ffilm
029 2030 4400
Manchester By The Sea
Free Fire
Mer 1 & Iau 2 Chwefror
Maw 7 Chwefror
UDA/2016/137mun/15. Cyf: Kenneth Lonergan. Gyda: Casey Affleck, Kyle Chandler, Lucas Hedges, Michelle Williams
DG/2017/90mun/TiCh. Cyf: Ben Wheatley Gyda: Brie Larson, Cillian Murphy, Sharlto Copely, Armie Hammer, Michael Smiley, Sam Riley
Free Fire
10
Ar ôl marwolaeth ei frawd Joe, mae Lee yn synnu clywed mai ef, bellach, yw unig warcheidwad ei nai 15 oed egnïol, Patrick. Mae e’n gadael ei swydd ac yn dychwelyd, yn anfoddog, i’w dref enedigol, lle caiff ei orfodi i ddelio â’r gorffennol a adawodd ar ei ôl. Weithiau’n ddoniol, weithiau’n hynod deimladwy a dynol, mae’r archwiliad hwn o alar yn gafael yn dynn yn ei gymeriadau — ac yn y gwyliwr hefyd.
Mewn warws llwm, mae Justine ar fin trefnu dêl arfau rhwng dau aelod o’r IRA, Chris a Frank, a’r gwerthwyr gynnau, Vernon ac Ord, ond daw anghydfod personol i darfu ar bethau — a chyn hir mae pawb yn saethu. Ffilm gomedi dywyll, egnïol a chwareus wedi’i gosod yn y 1970au ac wedi’i ffilmio â deheurwydd penfeddwol a gwaedlyd. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Ben Wheatley, ar ôl y rhagolwg arbennig hwn.
Ffilm
11
Gyda’r cloc o’r brig: Jackie, A Monster Calls, La La Land
chapter.org
La La Land
A Monster Calls
Mer 1 & Iau 2 Chwefror Gwe 24 Chwefror — Iau 2 Mawrth
Gwe 3 — Iau 9 Chwefror
UDA/2016/128mun/12A. Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Emma Stone, Ryan Gosling
Mae Mia yn actores uchelgeisiol a Sebastian yn gerddor jazz — maent yn crafu byw drwy weini coffi a chwarae’r piano mewn bariau coctel di-nod. Ond ar ôl dechrau blasu rhywfaint o lwyddiant, mae ffabrig bregus eu carwriaeth yn dechrau dadfeilio. Â brwdfrydedd heintus, prif actorion carismatig, caneuon hyfryd, lliwiau bywiog a gwaith camera disglair, mae La La Land yn adfer cyfrwng y sioe gerdd i’w gogoniant blaenorol.
Jackie Mer 1 — Mer 15 Chwefror UDA/2016/99mun/15. Cyf: Pablo Larrain. Gyda: Natalie Portman, Peter Sarsgaard, Greta Gerwig
Portread deifiol a phersonol o un o’r cyfnodau pwysicaf a mwyaf trasig yn hanes yr Unol Daleithiau, a welir drwy lygaid prif foneddiges America, Jacqueline Bouvier Kennedy. Mae Jackie yn ein gosod ni ym myd y fenyw ifanc yn ystod y dyddiau yn union wedi i’w gŵr gael ei lofruddio.
DG/2017/108mun/12A. Cyf: J A Bayona Gyda: Signourney Weaver, Felicity Jones, Lewis MacDougall
Mae Conor yn fachgen ifanc sy’n methu ag ymdopi â’r ffaith bod ei fam yn marw o gancr. Caiff ei fwlio gan blant yn yr ysgol a chan ei fam-gu awdurdodol adre’. Mae e’n dibynnu ar ei ddychymyg i oroesi ac yn sgetsio yn ei lyfr. Mae e’n creu delwedd o anghenfil siâp coeden sy’n fodlon gwrando ar ei gyffesion mewnol dyfnaf — ac mae’r anghenfil gwyllt hynafol a di-ildio yn arwain Conor ar daith o ddarganfyddiad, tuag at ddewrder a ffydd.
Ffilm
029 2030 4400
Gyda’r cloc o’r brig: Lion, Toni Erdmann, Loving
12
Lion
Toni Erdmann
Gwe 3 — Iau 9 Chwefror + Gwe 17 — Iau 23 Chwefror
Gwe 17 — Iau 23 Chwefror
Awstralia/2016/118mun/PG. Cyf: Garth Davis Gyda: Dev Patel, Rooney Mara, Nicole Kidman, Divian Ladwa, David Wenham
Yr Almaen/2016/162mun/15/is-deitlau. Cyf: Maren Ade. Gyda: Oeter Simonischek, Sandra Hüller, Michael Wittenborn
Mae’r Saroo pum-mlwydd-oed yn mynd ar goll ar drên sy’n teithio miloedd o filltiroedd ar draws India — ac yn ei gario hefyd oddi wrth ei gartref a’i deulu. Ar ei ben ei hun, bellach, caiff ei fabwysiadu gan gwpwl o Awstralia. 25 mlynedd yn ddiweddarach, ac â chymorth llond dwrn o atgofion a thechnoleg newydd, mae e’n ceisio dod o hyd i’w deulu coll. Yn seiliedig ar stori wir am deulu Brierley, mae’r ffilm hon yn astudiaeth ddadlennol o rym y cof.
Loving Gwe 10 — Iau 23 Chwefror DG/2016/123mun/12A. Cyf: Jeff Nichols. Gyda: Joel Edgerton, Ruth Negga, Marton Csokas
Dathliad o ddewrder ac ymrwymiad cwpwl go iawn, Richard a Mildred Loving, dyn gwyn a menyw ddu yr arweiniodd eu priodas at frwydr gyfreithiol am yr hawl i fyw fel teulu yn eu tref enedigol. Portread trawiadol o gyfnod cythryblus yn yr America wledig sy’n cynnwys perfformiadau perffaith. Ffilm a ddylai fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer brwydrau dros hawliau sifil yn y dyfodol.
Mae Winfried eisiau ailgysylltu gyda’i ferch, Ines, ond dyw hi ddim yn gwerthfawrogi’r ymyrraeth yn ei bywyd, heb sôn am hiwmor rhyfedd ei thad. Felly mae Winfried yn gwisgo wig a dannedd ffug ac yn chwarae rôl ‘hyfforddwr bywyd’ llachar o’r enw Toni Erdmann. Yng nghanol y gwallgofrwydd, caiff Ines ei gorfodi i ailystyried ei bywyd ei hun a bywyd ei thad ecsentrig. Daeth y ffilm chwerw-felys hon am berthnasoedd teuluol i frig siart Sight and Sound o ffilmiau gorau 2016.
Ffilm
Moviemaker Chapter
Hacksaw Ridge
Llun 6 Chwefror
Gwe 10 — Iau 23 Chwefror
Sesiwn reolaidd sy’n cynnig cyfle i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@chapter.org.
UDA/2016/139mun/15. Cyf: Mel Gibson Gyda: Andrew Garfield, Sam Worthington, Vince Vaughn, Teresa Palmer
13
Hacksaw Ridge
chapter.org
RHAD AC AM DDIM (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 i gadw lle)
BAFTA Cymru yn cyflwyno: Ffilm yn y Dyfodol: Trafodaeth gyda YouTube Mer 8 Chwefror 6pm Mae natur y defnydd o fideo yn newid ac mae YouTube ar flaen y gad yn hynny o beth. Bydd Tomos Grace, sy’n enedigol o Gaerdydd ac sydd bellach yn rheolwr gyda YouTube, yn sôn am y modd y mae YouTube yn gweithio gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a darlledwyr yn y DG ac yn fyd-eang. A oes yna wersi i bartneriaid yng Nghymru?
Stori wir anhygoel Desmond Doss sydd, yn ystod brwydr fwyaf gwaedlyd yr Ail Ryfel Byd, yn llwyddo i achub bywydau 75 o ddynion. Roedd Doss o’r farn bod y rhyfel yn gyfiawn ond nad oedd lladd. Aeth, felly, i fod yn feddyg gyda’r fyddin, fel na fyddai’n rhaid iddo danio neu gario gwn. Ac fe lwyddodd y dyn unplyg hwn i ddangos y math o gryfder yr oedd llawer yn ei weld fel gwendid. Mae hon yn ffilm ryfel epig am heddychiaeth.
Clwb Ffilmiau Gwael Stealth Sul 5 Chwefror UDA/2015/120mun/12A. Cyf: Rob Cohen Gyda: Josh Lucas, Jamie Foxx, Jessica Biel, Sam Shepard
Ydych chi erioed wedi ystyried yr hyn ddeuai allan yr ochr arall tasech chi’n croesi Top Gun â 2001: A Space Odyssey? Na, na ni, mae’n swnio fel syniad ofnadwy. Ond aeth Hollywood ati i wneud y ffilm honno beth bynnag. Fe ychwanegon nhw Jamie Foxx at y gymysgedd a galw canlyniad yr arbrawf erchyll yn Stealth (2005). Felly, os ydych chi am weld sut mae tri o beilotiaid cynllun milwrol uwch-ddirgel yn mynd ati i ddofi rhaglen deallusrwydd artiffisial cyn i honno ddechrau rhyfel byd, dewch draw i ymuno â’r ... hwyl?
14
Ffilm
029 2030 4400
Amadeus
Y LLWYFAN AR Y SGRIN
NT Live: Amadeus
Theatr Gen Byw: Macbeth
Iau 2 Chwefror 7pm, Encore Sul 12 Chwefror 1.30pm
Maw 14 Chwefror 7.30pm
DG/2017/210mun/12A. Cyf: Michael Longhurst Gyda: Lucian Msamati
Mae Wolfgang Amadeus Mozart, cerddor ifanc rhyfeddol a gwyllt, yn cyrraedd Fiena, prifddinas gerddorol y byd, ac mae e’n benderfynol o wneud ei farc. Mae cyfansoddwr y llys, Antonio Salieri, yn cael ei syfrdanu gan athrylith Mozart ac mae ganddo ddewis — annog y gŵr ifanc, neu ei ddinistrio. Wedi’i feddiannu gan eiddigedd obsesiynol, mae Salieri yn rhyfela â Mozart, â cherddoriaeth, ac yn y pen draw, â Duw ei hun. Tocynnau: £17.50 / £14 / £13 disgownt i aelodau Tocynnau encore: £13 / £11 / £10
NT Live: Saint Joan Iau 16 Chwefror 7pm DG/2017/240mun/12A. Cyf: Josie Rourke Gyda: Gemma Arterton
Cafodd Siân d’Arc ei galw’n ferch fferm, yn weledydd, yn wladgarwr, yn filwr, yn arweinydd, yn fuddugwr, yn eicon, yn radical, yn wrach, yn heretic, yn sant ac yn ferthyr. Mae drama glasurol Bernard Shaw yn adrodd hanes bywyd a threial merch ifanc o’r wlad sy’n arwain cenhadaeth waedlyd i yrru’r Saeson o Ffrainc. Fel un o’r Protestaniaid a’r cenedlaetholwyr cyntaf, mae hi’n bygwth ffabrig cymdeithas ffiwdal a grym yr Eglwys Gatholig ledled Ewrop yn y ddrama drydanol hon. Tocynnau: £17.50 / £14 / £13 disgownt i aelodau Tocynnau encore: £13 / £11 / £10
Cymru/2017/tua 210mun/dim tyst. Cyf: Arwel Gruffydd Gyda: Richard Lynch, Ffion Dafis
Mae Brenin yr Alban wedi rhoi gwobr hael i’w ryfelwr mwyaf disglair. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi rhag-weld anrhydedd bwysicach o lawer i Macbeth. Ar ôl i’w wraig ddidostur gael ei swyno gan addewid o rym anfeidrol, caiff uchelgais ddieflig ei gŵr ei thanio. Ac, wrth iddynt fynd at eu tranc, try’r cyfan yn gyflafan gwaedlyd. Mae cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru — yng Nghastell Caerffili — o drasiedi greulon Shakespeare yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg newydd gan y diweddar Gwyn Thomas (dim is-deitliau). Tocynnau: £14 / £11 disgownt i aelodau
NT Live: Hedda Gabler Iau 9 Mawrth 7.00pm Encore Sul 19 Mawrth 1.30pm DG/2017/210mun/12A. Cyf: Ivo van Hove. Gyda: Ruth Wilson.
Mae Hedda a Tesman newydd ddychwelyd o’u mis mêl ond mae eu perthynas eisoes mewn trafferth. Yn sownd yn ei rôl ond yn benderfynol, mae Hedda yn ceisio rheoli’r bobl o’i chwmpas — wrth i’w byd ei hun ymddatod. Mae portread Ruth Wilson o fenyw yn dyheu am ei rhyddid yn rhyfeddol — a dehongliad newydd Patrick Marber o gampwaith Ibsen yn hynod. Tocynnau: £17.50 / £14 / £13 disgownt i aelodau Tocynnau encore: £13 / £11 / £10
Ffilm
15
O’r brig: The Fits, T2 Trainspotting
chapter.org
Firefighters Under Occupation The Fits Iau 23 Chwefror
Gwe 24 Chwefror — Iau 2 Mawrth
Cymru/2017/70mun. Cyf: Ciaran Gibbons
UDA/2015/72mun/12A. Cyf: Anna Rose Holmer. Gyda: Royalty Hightower, Alexis Neblett, Antonio A.B. Grant Jr.
Teithiodd y cyn-ddiffoddwr tân, Ciaran Gibbons, i Balestina ac Israel i ddogfennu’r trais cynyddol yn y wlad, ac i weld sut beth yw byw a gweithio yn yr anheddiad milwrol mwyaf hirhoedlog yn y byd. Byddai hon yn swydd beryglus mewn unrhyw wlad ond mae’r straen ychwanegol o weithio yn y Tiriogaethau Meddianedig yn fodd i arddangos ochr orau — ac ochr waethaf — y ddynoliaeth.
Mae Toni, 11 oed, yn treulio amser gyda’i brawd yn y clwb bocsio lleol ac yn cael ei swyno gan y tîm dawns i ferched hŷn sy’n ymarfer y drws nesaf. Ar ôl i rai o aelodau’r grŵp hwnnw lewygu, mae’r tomboi Toni yn dechrau teimlo’n anesmwyth yn wyneb ei benyweidddra nhw ac fe gaiff ei denu i gydymffurfio o ran ei gwisg a’i symudiadau. + Ymunwch â ni am gyfarfod Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LGBTQI misol, ar ôl y dangosiad ar Maw 28 Chwefror.
+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Ciaran Gibbons, ar ôl y ffilm
20th Century Women Gwe 24 Chwefror — Iau 9 Mawrth UDA/2016/118mun/15. Cyf: Mike Mills Gyda: Annette Bening, Lucas Jade Zumann, Elle Fanning, Billy Crudup, Greta Gerwig
Yn y gomedi gynnes a chwerw-felys hon, wedi’i gosod yn ystod haf 1979, mae’r Dorothea rydd-ei-hysbryd yn ceisio hyfforddi ei mab, Jamie, i ddeall menywod ac mae hi’n gofyn am gymorth y ffotograffydd pync Abbie, sydd yn denant yn ei thŷ preswyl afreolus. Ond er gwaethaf ymdrechion Dorothea, mae yna gryn gystadlu am sylw Jamie — gan ei ffrind gorau Julie a’r tenantiaid eraill.
T2 Trainspotting Gwe 24 Chwefror — Iau 2 Mawrth DG/2017/117mun/18. Cyf: Danny Boyle Gyda: Ewan McGregor, Ewen Bremner, Jonny Lee Miller, Robert Carlyle
Mae mwy nag 20 mlynedd ers i Renton symud i Lundain ond, erbyn hyn, mae e yn ôl yng Nghaeredin ac yn awyddus i weld ambell hen ffrind — ac i osgoi rhai eraill. Mae e eisiau gwybod a oedd y dewisiadau a wnaeth yn y 1990au yn rhai cywir, ac i weld eu goblygiadau.
Ffilm
029 2030 4400
Y mis hwn rydym yn cyflwyno cyfres o ffilmiau clasurol a newidiodd hanes y sinema ynghyd â’u cymheiriaid cyfoes — ffilmiau sy’n fodd i ystyried gorffennol a dyfodol ffilm.
Christine
Blue Velvet
Gwe 3 — Iau 9 Chwefror
Sul 12 + Mer 15 Chwefror
UDA/2016/119mun/15. Cyf: Antonio Campos. Gyda: Rebecca Hall, Michael C. Hall, Tracy Letts
UDA/1986/115mun/18. Cyf: David Lynch Gyda: Kyle MacLachlan, Isabella Rossellini, Dennis Hopper, Laura Dern
Mae’r newyddiadurwr, Christine Chubbuck, yn ymddiddori mewn cyfiawnder cymdeithasol ac yn dadlau byth a hefyd â’i bos, sydd yn awyddus am fwy o straeon sgandal i ddenu cynulleidfa fwy. Wedi’i phlagio gan hunan-amheuaeth, mae bywyd Christine yn mynd ar drywydd tywyll ac annisgwyl. Yn seiliedig ar hanes go iawn, mae’r ffilm hon yn bortread personol a sensitif o wraig ar ymyl y dibyn ac mae perfformiad Hall yn syfrdanol.
Mae dod o hyd i glust ddynol mewn cae yn gychwyn ar daith i fyd anghyffredin iawn. Mae Jeffrey yn cael ei gyffroi can y cyfle i chwarae rhan y ditectif amatur ond mae ei ymchwiliad yn ei arwain i fyd mwy tywyll nag y gallai fod wedi’i ddychmygu erioed — byd y troseddwr seicopathig, Frank Booth, a’r gantores glwb brydferth a bregus, Dorothy Valens. Mae tref fechan y ffilm yn ymddangos yn berffaith — ond mae is-fyd rhyfedd iawn yn cuddio oddi tani.
“ Perfformiad gorau Rebecca Hall” The Guardian
Network Sul 5 + Maw 7 Chwefror UDA/1976/117mun/15. Cyf: Sidney Lumet Gyda: Peter Finch, Faye Dunaway, William Holden, Robert Duvall
Ar ôl i’r cyflwynydd teledu, Howard Beale, gael ei orfodi i ymddeol, mae e’n gwneud cyhoeddiad syfrdanol cyn ei sioe olaf. Mae hynny’n arwain at ddiddordeb cynyddol yn y rhaglen newyddion ac mae rheolwyr y sianel yn manteisio’n sinigaidd ar Beale er mwyn gwneud elw. Golwg filain ar fyd didostur newyddiaduraeth yn yr 20fed ganrif sy’n cynnwys perfformiad olaf gwyllt gan Peter Finch.
Blue Velvet Revisited Sul 19 + Maw 21 Chwefror
Yr Almaen/2017/86mun/TiCh. Cyf: Peter Braatz
Yn 1985, gwahoddodd David Lynch y gwneuthurwr ffilmiau ifanc Almaenaidd, Peter Braatz, i set y ffilm Blue Velvet ac fe recordiodd y gŵr ifanc lawer iawn o ddeunydd fideo Super-8 a thynnu dros fil o luniau. Fwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach, aeth Braatz ati i greu myfyrdod hypnotig ar sail y drysorfa archifol honno; breuddwyd hir, gyda cherddoriaeth atmosfferig, am un o gampweithiau mwyaf enigmatig y sinema.
“ Mae myfyrdod mwyaf ystyrlon [Lynch] yn dychmygu dyfodol uwch-dechnolegol... Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’r freuddwyd honno’n edrych yn gynyddol fel proffwydoliaeth.” Hollywood Reporter
Christine
16
Ffilm
Prevenge
Chapter 13: Rosemary’s Baby
17
O’r brig: Blue Velvet Revisited, Prevenge
chapter.org
Gwe 10 — Iau 16
DG/2017/88mun/15. Cyf: Alice Lowe. Gyda: Alice Lowe, Kate Dickie, Jo Hartley
Mae Ruth yn feichiog ac yn llawn dicter llofruddgar. Er ei bod yn ymddangos yn ddigon cyffredin, mae deialog fewnol sinistr yn ei gyrru; mae ei phersonoliaeth yn gyfnewidiol ac mae ei chwmpawd moesol wedi chwalu’n yfflon. Comedi ddu ddidostur wedi’i chyfarwyddo a’i pherfformio gan Alice Lowe — a oedd yn feichiog ers saith mis ar y pryd. + Trafodaeth Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar Llun 13 Chwefror
Mae Tinted Lens yn gydweithrediad newydd rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ffilm Cymru. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg ar ffilm, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a gwahanol gyflyrau ymwybyddiaeth.
Sul 26 + Maw 28 Chwefror UDA/1968/131mun/18. Cyf: Roman Polanski Gyda: Mia Farrow, John Cassavetes, Ruth Gordon.
Mae Rosemary a Guy Woodhouse newydd briodi ac maent yn symud i fflat newydd yn barod i gychwyn eu bywyd gyda’i gilydd. Mae Guy yn dechrau cyfeillgarwch â’r cymdogion busneslyd oedrannus, Roman a Minnie, ac mae ei yrfa fel actor yn blodeuo. Ond ar ôl i Rosemary feichiogi, mae’r fenyw ifanc yn ei chael ei hun yn fwyfwy ynysig ac yn amau nad yw popeth cweit fel yr ymddengys...
Ffilm
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
A Street Cat Named Bob
Sing
Sad 4 + Sul 5, Gwe 10 — Sul 12, Mer 22 + Iau 23 Chwefror
Gwe 17 — Sul 26 Chwefror
DG/2016/103mun/12A. Cyf: Roger Spottiswoode Gyda: Luke Treadaway, Bob y Gath, Joanne Froggatt, Ruta Gedmintas
Stori wir a theimladwy am James Bowen, bysgar a chyn-adict, a drawsnewidiodd ei fywyd ar ôl cwrdd â chath sinsir strae. + Dangosiad Addas i Bobl â Dementia Mer 15 Chwefror
A Monster Calls Sad 4 & Sul 5 Chwefror DG/2017/108mun/12A. Cyf: J A Bayona Gyda: Signourney Weaver, Felicity Jones, Lewis MacDougall
Mae Conor yn fachgen ifanc sy’n methu ag ymdopi â’r ffaith bod ei fam yn marw o gancr. Caiff ei fwlio gan blant yn yr ysgol a chan ei fam-gu awdurdodol adre’. Mae e’n dibynnu ar ei ddychymyg i oroesi ac yn sgetsio yn ei lyfr. Mae e’n creu delwedd o anghenfil siâp coeden sy’n fodlon gwrando ar ei gyffesion mewnol dyfnaf — ac mae’r anghenfil gwyllt hynafol a di-ildio yn arwain Conor ar daith o ddarganfyddiad, tuag at ddewrder a ffydd.
029 2030 4400
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
UDA/2016/108mun/U. Cyf: Garth Jennings, Christophe Lourdelet Lleisiau: Matthew McConaughey, Reese Witherspoon, Seth MacFarlane
Mae coala o’r enw Buster Moon yn cael un cyfle olaf i adfer ei theatr i’w chyn ogoniant trwy gynhyrchu’r gystadleuaeth ganu orau yn y byd.
Queen of Katwe
Sad 18 + Sul 19, Sad 25 + Sul 26 Chwefror UDA/2016/124mun/PG. Cyf: Mira Nair Gyda: Madina Nalwanga, David Oyelowo, Lupita Nyong’o
Yn yr Uganda wledig mae bywyd Phiona, sy’n 10 oed, yn newid am byth ar ôl iddi ddechrau chwarae gwyddbwyll. Ar ôl sylweddoli cymaint yw ei photensial, mae’r cyn-hyfforddwr, Katende, yn mentora’r ferch ifanc ond mae Harriet, mam Phiona, yn poeni taw breuddwyd gwrach yw’r gobaith o gael addysg. + Ymunwch â ni am ddathliad o’r gêm glasurol gyda Chlybiau Gwyddbwyll Ysgolion Caerdydd ar Sul 19 Chwefror
Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.
Sing
18
chapter.org
Chapter Mix
19
DYDD IAU CYNTAF Y MIS
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd
Sinema Hygyrch Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau. Is-deitlau Meddal
I’w cadarnhau
Disgrifiadau Sain
I’w cadarnhau
Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. Cefnogir ein dangosiadau a’n digwyddiadau i Bobl â Dementia gan Sefydliad Rayne.
Iau 2 Chwefror, 7.30pm Bydd Richard Gwyn a Clare Potter yn darllen o’r gyfrol The Other Tiger: Recent Poetry from Latin America, wedi’i chyfieithu gan Richard ei hun. £2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones Gwe 3 + Gwe 17 Chwefror Drysau’n agor: 8:30pm Sioe’n cychwyn: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. £3.50 (wrth y drws)
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 5 Chwefror, 8pm Straeon yn nhro’r tymhorau. Storïau a chaneuon tymhorol gan aelodau Cylch Chwedleua Caerdydd. Croeso i bawb. £4 (wrth y drws)
Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Thomas Heatherwick — ‘Leonardo Modren?: Golwg Ar Waith Ian Swankie’ Iau 9 Chwefror, 2pm Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r dylunydd ifanc amryddawn (a fu’n gyfrifol am y Pair Olympaidd a bysus newydd Llundain) wedi mwynhau cynnydd aruthrol. Gyda’i chwilfrydedd a’i ysbryd arbrofol, aeth ati i gynnig datrysiadau arloesol i heriau dylunio ledled y byd.
Jazz ar y Sul Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
Sul 19 Chwefror, 9pm
Dangosiadau Hamddenol
Sad 25 Chwefror 11am — 2.30pm
Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.
RHAD AC AM DDIM www.cantoncommunitygardens.co.uk
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.
Plannu’r had ar y Sadwrn 2017
Cyfle gwych i rannu eich hadau, eich planhigion a’ch offer garddio diangen, ac i ddysgu gan arddwyr profiadol am faterion fel hogi a chynnal eich offer a chadw gwenyn. Os na fydd gennych hadau i’w cyfnewid, peidiwch â phoeni, byddwch yn gallu prynu hadau ar y diwrnod gan un o’n garddwyr cyfeillgar. I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch Sue Waring — sue.waring@buildingsfortomorrow.co.uk
20
Addysg
Academi Ffilm Pobl Ifainc 2017
‘Sewcial’ Ffilm Chapter: SING
Sad 4 + Sad 11 Chwefror, Sad 4 + Sad 11 Mawrth 10.30am–2.30pm
Iau 23 Chwefror 10.45am — 3.30pm
Ym mis Chwefror, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng naw a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar y broses o wneud ffilmiau a bydd cyfle hefyd i wylio ffilm sy’n enghreifftio’r agwedd honno.
Sad 4 Chwefror: ‘Sut caiff ffilmiau eu gwneud’ Sad 11 Chwefror: ‘Hanes y Sinema’ Sad 4 Mawrth: ‘Ry’ch chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 11 Mawrth: ‘Sut i olygu ffilm’
Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud eu ffilmiau eu hunain! Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £40 am bob un o’r pedair sesiwn (yn cynnwys tocyn i’r ffilm). Er bod yr Academi wedi’i bwriadu fel pecyn cyflawn, gellir mynychu sesiynau unigol hefyd felly nid oes angen i gyfranogwyr fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pedair sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £12 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld y ffilm) 16 o leoedd fydd ar gael ar y cwrs felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi. Am fwy o fanylion neu i gofrestru ar gyfer y cwrs, e-bostiwch learning@chapter.org a nodi ‘Academi Ffilm Pobl Ifainc’ ym mhennawd yr e-bost.
‘Sewcial’ Chapter Gweithdai Gwnïo i Blant Sul 5, 12 Chwefror 1.30pm–3pm 8–12 oed. Cyflwyniad perffaith i wnïo â llaw ac â pheiriant. Y gaeaf hwn byddwn yn arbrofi â gwahanol fathau o ffabrig (cnu a gwlân cynnes a ffelt ffluwchaidd!). Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol i bobl ifainc sy’n dechrau gwnïo yn ogystal â phwythwyr a chrefftwyr eraill sydd am ddysgu a datblygu eu sgiliau mewn gweithdy hamddenol. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £40 am bob un o’r chwe sesiwn
3.30pm–5pm 10–14 oed Mae’r sesiynau hyn yn addas i bobl ifainc y mae ganddynt eisoes rywfaint o brofiad o wnïo ac sy’n awyddus i roi cynnig ar ambell dechneg newydd. Byddwn hefyd yn mynd yn ôl dros dechnegau sylfaenol er mwyn datblygu hyder a chreadigrwydd. Byddwn yn defnyddio’r gaeaf fel ysbrydoliaeth ac yn arbrofi â gwahanol ffabrigau i greu pethau cynnes a chysurus. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £40 am bob un o’r chwe sesiwn
029 2030 4400
Mae coala o’r enw Buster Moon yn cael un cyfle olaf i adfer ei theatr i’w chyn ogoniant trwy gynhyrchu’r gystadleuaeth ganu orau yn y byd. Dewch i ddylunio a gwneud dillad ac ategolion disglair a fydd yn addas ar gyfer y gystadleuaeth ganu bwysicaf un! 12 o leoedd fydd ar gael. Addas ar gyfer pwythwyr profiadol a dibrofiad fel ei gilydd. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22.50 (pris yn cynnwys tocyn i weld y ffilm)
Gwobr Ffilm Fer Ewart Parkinson 2017 Diolch i grant hael gan Sefydliad Brainwave, mae Chapter yn falch iawn o gyhoeddi cystadleuaeth ffilm newydd i bobl ifainc rhwng 15 a 21 oed. Caiff y gystadleuaeth ei hategu gan ddau Ddosbarth Meistr penwythnos o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant ym mis Ebrill a mis Mehefin, a chan dair cymhorthfa ffilm hanner diwrnod yr un ym mis Mai, mis Gorffennaf a mis Medi. Dylai ffilmiau fod rhwng tair a phum munud o hyd, ac fe fydd yna dri dyfarniad ariannol: am y sgript orau, am y ffilm orau ac am y defnydd gorau o animeiddio. Y dyddiad cau fydd 30 Tachwedd ac fe gyhoeddir enwau’r enillwyr mewn digwyddiad arbennig ym mis Ionawr 2018. Bydd y manylion yn llawn ar gael yng nghylchgrawn y mis nesaf.
‘Crafty Pictures’
7–12 oed. 1.50pm–2.50pm Clwb Sinema Newydd Sbon Chapter i blant 7+ oed. Bob wythnos am awr, cyn y Ffilm Nodwedd i’r Teulu Cyfan, byddwn yn cyflwyno gweithdy creadigol a chyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft gwahanol, pob un ohonynt yn ymwneud â’r ffilm a gyflwynir am 3pm. Ydych chi wrth eich bodd yn gludo, yn torri a chreu, ac yn darlunio a phaentio? Os felly, ac os ydych chi’n mwynhau gwylio ffilmiau, byddwch chi wrth eich bodd â Crafty Pictures!
Sad 4 A Monster Calls Sad 11 A Street Cat Named Bob Sad 18 Queen of Katwe Sad 25 Sing
Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. £6 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm am 3pm) I gadw lle, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 0290304400
chapter.org
Cefnogwch Ni
21
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn — ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad mewn modd syml a chyflym tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd ...
Unigolion
Busnesau
Ffrindiau
Clwb
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40
Chwilio am anrheg i ffrind neu aelod o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich mysg beth am brynu tanysgrifiad i Gynllun Ffrindiau Chapter? I gael mwy o wybodaeth am roi aelodaeth fel rhodd, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.
Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.
Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.
22
Cymryd Rhan
029 2030 4400
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA
Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds
Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs
Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda
A’r holl unigolion hynny a’n cefnogodd ni mor hael yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi hynny
chapter.org
Gwybodaeth
23
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
d Roa
e St. Glynn
arc
lyF
Heo
o 6pm
Ha m i l t o n
St
t
Gr
ad
cen res mC ha
Road
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
nd Wy
rn Seve
ane
. Library St
L Gray
M a rk e t P l . treet yS
St Talbot
Orc h a r d P l.
King’s Ro
d hna
Springfield Pl.
St. Gray
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd ton ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.