029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
ART/CELFYDDYD PERFORMANCE/PERFFORMIO FILM /FFILM FOOD DRINK/BWYTA A DIOD
A NEW CHAPTER IN ARTISAN COOKING IN CARDIFF BAY— CHAPTER NEWYDD MEWN BWYD CREFFT YM MAE CAERDYDD OPENING 14 JUNE — AGOR 14 MEHEFIN BREAKFAST BRUNCH COFFEE LUNCH EVENTS
BRECWAST BRECYN COFFI CINIO DIGWYDDIADAU
@CHAPTERTWEETS @CHAPTER_EATS #CHAPTERSÏO
chapter.org
Art / Celfyddyd
03
Peter Finnnemore
ART/CELFYDDYD
ART IN THE BAR / CELFYDDYD YN Y BAR
Peter Finnemore: Between the Lines Until / Tan 30.07 ’Reading between the lines’ is a phrase suggesting concealed, unspoken or avoided narratives. ‘Between the Lines’ forms part of an ongoing body of photographic work, using newsprint as a source to provide an alternative interpretation of journalistic accounts. Collectively, it is a collage of around 70 fragmented international events, peopled by politicians, celebrities, sportspeople, military personnel, bystanders, victims and demonstrators. The recurring image of an open mouth acts as a silent scream, an open void, a lost voice. Finnemore stretches taut the pictorial life of the found photograph or headline text towards formless signal or noise. ‘Between the Lines’ is part of Diffusion Cardiff’s International Festival of Photography delivered by Ffotogallery in collaboration with a wide range of partners. www.diffusionfestival.org
Mae ‘darllen rhwng y llinellau’ yn ymadrodd sy’n awgrymu ystyron cudd neu naratifau dirgel. Mae ‘Between the Lines’ yn rhan o brosiect ffotograffig parhaus ac yn defnyddio papurau newydd fel modd i gyflwyno dehongliad amgen o straeon newyddiadurol. At ei gilydd, mae’r corff hwn o waith ffotograffig yn dwyn ynghyd ryw 70 o ddigwyddiadau rhyngwladol tameidiog ac yn llawn gwleidyddion, enwogion, campwyr, personél milwrol, penawdau, tirweddau, gwylwyr, dioddefwyr a phrotestwyr. Y geg yw un o ddelweddau allweddol y cyflwyniad — ceg sydd yn sgrechian yn fud ac yn cynrychioli llais coll neu wagle agored di-rym. Mae Finnemore yn estyn bywyd darluniadol y llun neu’r pennawd ac yn ei droi’n signal neu’n sŵn di-ffurf. Mae ‘Between the Lines’ yn rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, Diffusion, a gyflwynir gan Ffotogallery ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid. www.diffusionfestival.org
Art / Celfyddydau
Helen Johnson, installation at ICA, London. Photo: Mark Blower
04 029 2030 4400
Art / Celfyddydau
05
Megan Cope. The Blaktism. Courtesy the artist and THIS IS NO FANTAZY + Diane Tanzer Gallery
chapter.org
Megan Cope & Helen Johnson Preview: 30.06, 6-8pm Exhibition: 01.06 — 24.11.17 Rhagolwg: 30.06, 6-8pm Arddangosfa: 01.06 — 24.11.17 Megan Cope and Helen Johnson interrogate notions of identity, power and social history to explore the complex colonial relationship between Australia and Britain. Using the medium of painting, Helen Johnson weaves and overlays historical and contemporary signifiers to establish points of tension and reflection. Using large-scale paintings mounted to structures that zigzag through the gallery, she creates an economy of images within and between paintings; some are given precedence, others made barely legible. The paintings are the size of theatre backdrops, in excess of the body, becoming sets before which to act. This body of work re-situates 19th century images of the White man as an imperialist brute, a sycophant and a greedy solipsist. The works repurpose and re-examine images of rituals used by colonists in an attempt to legitimise their occupation of Australia. Prompted by the artist’s experience obtaining her ‘Certificate of Aboriginality’, Megan Cope’s video work ‘The Blaktism’ is a high-energy performance and ritual that sees a young female ‘fair-skinned Aborigine’ undertake a sacred ceremony in which she receives the rite of authenticity validated by authorities ever present in the Australian cultural landscape. The sacred ceremony itself results in a satirical cultural assimilation dance party whereby all Australians are liberated, celebrated equally and transgressively renewed through physical and gestural adjustments. ‘The Blaktism’ seeks to challenge audience members by showing the absurd nature of racial classification. This exhibition is presented in collaboration with the ICA, as part of ICA Touring, funded by Arts Council England. The project has been assisted by the Australian Government through the Australia Council for the Arts, its arts funding and advisory body.
Mae Helen Johnson a Megan Cope yn archwilio syniadau am hunaniaeth, pŵer a hanes cymdeithasol er mwyn ystyried y berthynas drefedigaethol gymhleth rhwng Awstralia a Phrydain. Trwy gyfrwng paentio, mae Helen Johnson yn plethu ac yn cyflwyno arwyddion hanesyddol a chyfoes er mwyn creu cyflwr o densiwn myfyrgar. Â phaentiadau mawrion wedi’u gosod ar strwythurau sy’n igamogami drwy’r oriel, mae hi’n creu hierarchiaeth oddi mewn i a rhwng paentiadau; mae rhai yn cael blaenoriaeth ac eraill o’r braidd yn weladwy. Mae’r paentiadau tua maint cefnlenni theatr; yn fwy o faint na’r corff, ac maent yn troi’n setiau i bobl actio o’u blaen. Mae’r corff hwn o waith yn adleoli delweddau o’r dyn gwyn o’r 19eg ganrif – maent yn cyflwyno hwnnw fel bwystfil imperialaidd, crafwr a gormeswr barus. Mae’r gweithiau’n ailddefnyddio ac yn archwilio o’r newydd ddelweddau o ddefodau a ddefnyddiwyd gan y gwladychwyr i geisio cyfreithloni eu meddiant o Awstralia. Wedi’i ysgogi gan y ffaith iddi dderbyn ei ‘Certificate of Aboriginality’, mae gwaith fideo Megan Cope, ‘The Blaktism’, yn berfformiad egnïol a defodol sy’n dangos merch ifanc ‘Aborijini groen-olau’ yn cynnal seremoni sanctaidd. Mae hi’n cymryd rhan mewn defod ddilysu dan oruchwyliaeth awdurdodau penodol yn nhirwedd ddiwylliannol Awstralia. Mae’r seremoni sanctaidd ei hun yn arwain at barti dawns (dychanol) a chymathiad diwylliannol sydd yn rhyddhau, yn dathlu ac yn gosod pob Awstraliad ar yr un lefel. Cânt eu hadnewyddu drwy gyfrwng addasiadau ffisegol ac ystumiol. Mae ‘The Blaktism’ yn herio aelodau’r gynulleidfa trwy ddangos natur hurt rhannu yn ôl hil. Cyflwynir yr arddangosfa hon mewn cydweithrediad â’r ICA, yn rhan o ICA Touring, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Derbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Awstralia trwy gyfrwng corff ariannu a chynghori celfyddydol Cyngor Celfyddydau Awstralia.
Art / Celfyddyd
029 2030 4400
James Richards, Migratory Motor Complex2, 2017. Copyright the artist; photo Jamie Woodley / Hawlfraint yr artist: llun Jamie Woodley
06
James Richards: Music for the gift Until / Tan 26.11.17 Santa Maria Ausiliatrice, Venice / Santa Maria Ausiliatrice, Fenis Our James Richards’ exhibition ‘Music for the gift’ opened in May in Venice to great critical acclaim, being described by Frieze magazine as “…one of the most disturbing, moving and intense presentations at this year’s Venice Biennale”. The exhibition represents Cymru yn Fenis Wales in Venice as a collateral event of the 57th International Art Exhibition — the Venice Biennale. ‘Music for the gift’ features a new body of work including an electro-acoustic installation made in collaboration with Royal Welsh College of Music and Drama students Kirsten Evans and Samuel Williams, a video made with the artist Steve Reinke and a suite of photographic works mounted on aluminium. The exhibition is presented in Venice until November and we are delighted to announce that we will be able to return the exhibition to Wales thanks to
generous support from The Colwinston Trust, Henry Moore Foundation and the Art Fund. The Art Fund money not only enables us to re-present the work in Wales but also facilitates a unique exchange between Cymru yn Fenis Wales in Venice and Scotland + Venice that will see James’ exhibition travel to the Collective, Edinburgh and Scotland’s Rachel Maclean’s Venice exhibition to travel to Chapter. James Richards: ‘Music for the gift’ is commissioned by the Arts Council of Wales; curated by Hannah Firth and managed by Chapter. More information about the exhibition in Venice is available at www.experiencewalesinvenice.org
Art / Celfyddyd
07
Agorodd ein harddangosfa o waith James Richards, ‘Music for the gift’, yn Fenis ym mis Mai a derbyniodd ganmoliaeth feirniadol hael. Fe’i disgrifiwyd gan gylchgrawn Frieze fel “... un o’r cyflwyniadau mwyaf aflonyddol, mwyaf dwys a mwyaf ingol yn Biennale Fenis eleni”. Mae’r arddangosfa’n cynrychioli Cymru yn Fenis ac yn un o ddigwyddiadau cyfochrog 57fed Arddangosfa Gelfyddyd Ryngwladol Biennale Fenis. Mae ‘Music for the gift’ yn gorff newydd o waith sy’n cynnwys gosodiad electro-acwstig a gwblhawyd ar y cyd â myfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Kirsten Evans a Samuel Williams. Y mae hefyd yn cynnwys fideo a wnaed ar y cyd â’r artist Steve Reinke a chyfres o weithiau ffotograffig wedi’u gosod ar alwminiwm.
Cyflwynir yr arddangosfa yn Fenis tan fis Tachwedd ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn dychwelyd wedi hynny i Gymru diolch i gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Henry Moore a’r Gronfa Gelfyddyd. Mae arian y Gronfa Gelfyddyd nid yn unig yn ein galluogi i gyflwyno’r gwaith yng Nghymru ond hefyd yn hwyluso cyfnewid unigryw rhwng Cymru yn Fenis a’r Alban + Fenis. Bydd arddangosfa James yn teithio i’r Collective yng Nghaeredin a bydd Rachel Maclean yn dangos ei harddangosfa Fenis hithau yn Chapter. Cafodd arddangosfa James Richards: Music for the gift ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ei churadu gan Hannah Firth a’i rheoli gan Chapter. Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa yn Fenis ar gael yn www.experiencewalesinvenice.org.
James Richards & Steve Reinke, What Weakens the Flesh is the flesh itself, digital video with sound (still) 2017. Copyright James Richards and Steve Reinke: photo courtesy Wales in Venice / fideo digidol gyda sain (delwedd unigol) 2017. Hawlfraint James Richards a Steve Reinke: llun Cymru yn Fenis
chapter.org
08
Performance / Perfformiadau
029 2030 4400
PERFORMANCE / PERFFORMIADAU Moment(o)s
27.06—01.07 Installation 10am–5pm Performance 7.30pm Join Elaine and her fellow depressives for a manic romp in fluffy slippers. Follow them over the rugged terrain of hospitalisation, down the thorny path of despair, towards the slow tango of recovery. This quirky cabaret reveals the struggle to appear normal when the world inside you is falling apart. There will be a free installation depicting the inner word of being mentally unwell. Featuring moment(o)s from Whitchurch Mental Hospital and items from Elaine’s life — including her diaries. BSL interpreted performance: 29.06 7.30pm Audio Described performance and pre-show touch tour: 01.07 7.30pm £12/£10 (day time installation is free) Age 14+ (guidance)
..............
Gosodwaith 10am–5pm Perfformiad 7.30pm Ymunwch ag Elaine a’i chyd ‘depressives’ am gyflwyniad manig mewn sliperi blewog. Dilynwch nhw dros dir garw’r ysbyty, ar hyd llwybr dyrys anobaith, a thrwy dango araf gwellhad. Mae’r cabaret ‘quirky’ yma yn dangos y frwydr i fod yn normal pan fo’r byd ar y tu mewn i chi yn syrthio’n ddarnau. Bydd gosodwaith am ddim yn cyfleu tirwedd fewnol bod yn sâl yn feddyliol. Bydd yn cynnwys ffilm, sain a thystiolaeth arall o Ysbyty Meddwl yr Eglwys Newydd ac eitemau o fywyd Elaine — gan gynnwys ei dyddiaduron. Perfformiad gyda dehongliad BSL: 29.06 7.30pm Perfformiad gyda Disgrifiadau Sain a thaith gyffwrdd cyn y sioe: 01.07 7.30pm £12/£10 (mae mynediad i’r gosodwaith gyda’r dydd yn rhad ac am ddim) Argymhelliad oedran: 14+
The Bad Mothers Album Launch / Lansiad Albwm 06.07 8.00pm
Join The Bad Mothers for the launch of their debut album ‘Sinners Club’ from the hit show of the same name. Inspired by the life of Ruth Ellis, expect a ginsoaked, blood and guts concept album about heartbreak, jealousy and murder washed down with a cocktail of stories about lives lost to sin. £11/£10 /£9 Age 12+
“A glittering Dark Gem” **** The Guardian
.............. Ymunwch â’r Bad Mothers ar gyfer lansiad eu halbwm cyntaf, ‘Sinners Club’, sy’n seiliedig ar y sioe boblogaidd â’r un enw. Wedi’i ysbrydoli gan fywyd Ruth Ellis, gallwch ddisgwyl albwm yn llawn jin a chig a gwaed, am dor-calon, cenfigen a llofruddiaeth ynghyd â choctel o straeon am fywydau pechadurus. £11/£10 /£9 Oed 12+
“Perl yn llawn disgleirdeb tywyll” **** The Guardian
Bad Mothers (photo/llun: Kirsten McTernan)
Chapter Theatres are supported by the David Seligman donation in memory of Philippa Seligman Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman
Performance / Perfformiadau
09
All About My Tits
chapter.org
All About My Tits
by / gan Anna Suschitzky 07.07 + 08.07 8.30pm
This is a show about tits… Looking back over the past 30 years, I will share their rise and fall, from their first appearance as a ten year old girl, to the sagging sagas of a middle aged woman. ‘All About My Tits’ raises the question: what and who are breasts for? Engaging with the politics of infant feeding, the performance is an attempt to provide a platform to talk about breastfeeding and encourage the audience to re-examine their own relationship to breasts.
Mae hon yn sioe am fronnau. Wrth edrych yn ôl dros y 30 mlynedd diwethaf, byddaf yn rhannu eu hanes — o‘u hymddangosiad cyntaf pan oeddwn yn ferch ddeng mlwydd oed, i sagâu’r sagio i wragedd canol oed. Mae ‘All About My Tits’ yn codi’r cwestiwn: beth yw bronnau ac i bwy maen nhw’n bodoli? Mae’r perfformiad yn ystyried gwleidyddiaeth bwydo babanod ac yn blatfform ar gyfer trafod bwydo ar y fron. Bydd yn annog y gynulleidfa i ailystyried eu perthynas eu hunain â bronnau.
£8/£6 Age 14+ (babes in arms are welcome)
£8/£6 Oed 14+ (ond mae croeso i fabanod wrth gwrs)
..............
10
Performance / Perfformiadau
029 2030 4400
Brendan Burns & Colt Cabana
EDINBURGH FRINGE PREVIEWS / RHAGOLWG ‘FRINGE’ CAEREDIN
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin
Brendon Burns and Colt Cabana Do Comedy & Commentary to Bad Wrestling Matches 09.07 7pm
Brendon Burns (Perrier Award winner) and Colt Cabana (WWE and BBC Insane Fight Club) embody the spirit of the Edinburgh Fringe. There’s nothing else like this. Returning for a fifth year, this is essentially what is says on the tin. Together, the double act sit and watch wrestling... and it’s amazing! They’ve howled as Tracy Smothers tried to work a match with a bear. They’ve grimaced as Kenny Omega miraculously worked a fifteen minute competitive match with a sex doll in Japan. But above all, Burns and Cabana have actually gotten pretty good at doing this. £10/£8 10% off both Brendon Burns shows with code “BrendonTwice” Age 16 +
..............
Mae Brendon Burns (enillydd Gwobr Perrier) a Colt Cabana (WWE a BBC Insane Fight Club) yn ymgorffori ysbryd ‘Fringe’ Caeredin. Does dim byd tebyg iddynt. Yn eu holau am bumed flwyddyn, mae’r sioe yn gwneud yr hyn y mae’n addo’i wneud: mae’r ddeuawd yn eistedd a gwylio reslo... ac mae’r canlyniadau’n anhygoel! Maen nhw wedi sgrechian wrth i Tracy Smothers geisio ymaflyd ag arth. Maen nhw wedi gwingo wrth i Kenny Omega lwyddo — yn wyrthiol — i gynnal gornest gystadleuol bymtheg munud o hyd gyda dol ryw yn Japan. Ond, yn anad dim, mae Burns a Cabana wedi dechrau gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud yn syndod o dda. £10/£8 Gostyngiad o 10% ar gyfer dwy sioe Brendan Burns gyda’r côd “BrendonTwice” 16+ oed
Performance / Perfformiadau
11
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin MR AND MRS CLARK PRODUCTIONS
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin NOTIONAL THEATRE
F.E.A.R
Well-Thumbed
(F.E.A.R.) is a one-man show about constructed fear that asks directly if the world wants us to feel safe. (F.E.A.R.) is a brave, revealing and at times hilarious one-man tour of early child hood memories to midlife identity crisis delivered directly to the audience in a revealing and intimate manner.
Taking outrageous pleasure in the mucky bits of English lit, Notional Theatre presents the finest in stand-up literature. Well Thumbed is Terry Victor’s irredeemably prurient riffling of well-used classics. “A show,” wrote Arts Scene in Wales: “that would have Mary Whitehouse spinning in her chastity belt.”
£12/£10 Age 14+
£10/£8 Age 16+
From left to right / O’r chwith i’r dde: F.E.A.R., Sugar Baby
chapter.org
10.07—13.07 8pm
‘A powerful blast of theatre’ ***** The Sprout
.............. Mae F.E.A.R. yn sioe un-dyn am ofn sydd yn gofyn a yw’r byd am i ni deimlo’n ddiogel go iawn. Mae hi’n sioe ddewr, a doniol ar adegau, am atgofion plentyndod ac argyfwng canol-oed wedi’i chyflwyno mewn modd uniongyrchol, dadlennol a phersonol. £12/£10 14+ oed
“Ffrwydrad theatrig nerthol” ★★★★★ The Sprout
26.07 + 27.07 8.30pm
.............. Sioe’n sy’n mwynhau darnau brwnt llên Saesneg. Mae Notional Theatre yn cyflwyno’r ‘stand-up’ llenyddol gorau, sioe gan Terry Victor am y clasuron hynny sy’n cael eu darllen at bwrpasau ... amgen. Yn ôl yr Arts Scene in Wales, “Mae hon yn sioe a fyddai’n gwneud i Mary Whitehouse gael haint.” £10/£8 16+ oed
Performance / Perfformiadau
029 2030 4400
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin DIRTY PROTEST PRESENT
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin
From left to right / O’r chwith i’r dde: Well Thumbed, Brendon Burns Craig Quartermaine
12
Sugar Baby 25.07—28.07 8pm
Being a small-time drug dealer in Cardiff is tough. Especially when your old man owes £6,000 to a loan shark who’s got a tattoo of Beyoncé on his neck. Comedy from acclaimed writer Alan Harris (Paines Plough, National Theatre Wales, BBC Radio 4) and award-winning Welsh company Dirty Protest. £12/£10 Age 14+
★★★★★ (Scotsman) Dirty Protest’s Last Christmas
.............. Mae bod yn ddeliwr cyffuriau di-nod yng Nghaerdydd yn anodd. Yn enwedig pan fod yr hen ddyn yn gorfod talu £6,000 i fenthyciwr arian diegwyddor a chanddo datŵ o Beyoncé ar ei wddf. Comedi gan yr awdur nodedig Alan Harris (Paines Plough, Theatr Genedlaethol Cymru, BBC Radio 4) a’r cwmni Cymreig gwobrwyol, Dirty Protest.
★★★★★ (Scotsman) Dirty Protest’s Last Christmas £12/£10 14+ oed
Brendon Burns & Craig Quartermaine: Race Off 28.07 8pm
Edinburgh award winner 2007, Brendon Burns and raw comedy finalist and NITV journalist, Craig Quartermaine bring their uncompromising, critically acclaimed show to Chapter. Burns and Quartermaine have set their sights way higher, perhaps higher than anyone ever has. In a post — Trump, post Brexit era needs to have a nuanced intelligent conversation beyond, “everything’s racist” and “racism doesn’t exist”. They have some ideas on how this might be achieved and want to share them in this funny, punchy yet not preachy show. £10/£8 Age 16+
.............. Mae enillydd Gwobr Caeredin 2007, Brendon Burns, a’r newyddiadurwr, a digrifwr a gyrhaeddodd rownd derfynol ‘raw comedy’, Craig Quartermaine, yn cyflwyno’u sioe ddigyfaddawd nodedig yn Chapter. Mae Burns a Quartermaine yn anelu’n uchel, yn uwch nag unrhyw un arall erioed, efallai. Mewn cyfnod ôl-Trump, ôl-Brexit, mae angen trafodaeth ddeallus a chynnil sydd yn mynd y tu hwnt i lefel “mae popeth yn hiliol” neu “nid yw hiliaeth yn bodoli”. Mae ganddynt ambell syniad am y modd y gellid cyflawni hynny ac maent yn awyddus i’w rhannu nhw gyda chi yn y sioe ddoniol a bachog hon sydd yn herio heb bregethu. £10/£8 16+ oed
Performance / Perfformiadau
13
From left to right / O’r chwith i’r dde: Daniel Simonsen, 35 Times
chapter.org
Edinburgh Fringe Preview / Rhagolwg ‘Fringe’ Caeredin LITTLE WANDER PRESENT / YN CYFLWYNO:
Daniel Simonsen 31.07 8pm
Work in progress show from the Norwegian comic and Foster’s Edinburgh Comedy Awards Best Newcomer. As seen on “Russell Howard’s Good News” and “House of Fools” £6
“One of the most compelling voices of the moment”
.............. Dangosiad o waith ar y gweill gan y digrifwr Norwyaidd ac enillydd Gwobr y Newyddddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Comedi Caeredin. Gwelwyd Daniel ar “Russell Howard’s Good News” a “House of Fools” £6
“Un o leisiau mwyaf diddorol y cyfnod cyfoes”
MERCURY THEATRE WALES PRESENT / YN CYFLWYNO:
35 Times
11.07-15.07 7.30pm Jules’s Coffee Mornings are a place to get creative, to glue stringy balloon sculptures, to learn a waltz and to speak out. Inspired by the real experiences of many brave women, join six who are now finding their voices. It’s not all just tea and biscuits. So you see, we know what you think of us, we know what we’ve become. That’s why we’re here… we’re trying to work out together how we move on. How we survive. £12/ £10 Co- produced by RCT Theatres. 13.07 – BSL Interpreted Performance Age 16 + (adult themes and use of strong language)
.............. Mae Boreau Coffi Jules yn lle i fod yn greadigol, i wneud cerfluniau balŵns, i ddysgu’r waltz ac i leisio barn. Wedi’u hysbrydoli gan brofiadau gwirioneddol llawer iawn o ferched dewr, dyma chwe merch sydd yn dod o hyd i’w lleisiau. Ac mae yna fwy o lawer i bethau na the a bisgedi. Felly, welwch chi, ry’n ni’n gwybod beth yw eich barn amdanom, ry’n ni’n gwybod beth ydym bellach. Dyna pam ry’n ni yma… ry’n ni’n ceisio gweithio allan gyda’n gilydd sut i symud ymlaen. Sut i oroesi. £12/£10 Cyd-gynhyrchiad gan Theatrau RhCT. 13.07 — Perfformiad gyda dehongliad BSL 16+ oed (deunydd anaddas i blant ifanc a iaith gref)
Performance / Perfformiadau
Cardiff Fringe Theatre Festival present / Gŵyl Theatr Ymylol Caerdydd yn cyflwyno YESYESNONO
Cardiff Fringe Theatre Festival present / Gŵyl Theatr Ymylol Caerdydd yn cyflwyno LITTLE BLACK BOOK PRODUCTIONS / CYNYRCHIADAU LITTLE BLACK BOOK
029 2030 4400
From left to right / O’r chwith i’r dde: YESYESNONO, nerdfucker
14
5 Encounters on a Site Called Craigslist 20.07 9pm 21.07 7.30pm
Sam wants to tell you about five encounters he had on a site called Craigslist. Sam’s anxious about the way he gets to know people. About the way he selfsabotages his attempts to communicate and reach out to those around him. Sam wants this to be a chance for you to get to know him. £10 / £15 for both Cardiff Fringe Shows in one evening. This performance is part of the Cardiff Fringe Theatre Festival in partnership with Chapter Arts Centre. Age 16+
.............. Mae Sam eisiau sôn wrthych am bum cyfarfod a gafodd wrth ddefnyddio safle Craigslist. Mae Sam yn poeni am y ffyrdd y mae’n dod i adnabod pobl. Am y ffordd mae e’n dinistrio pob ymdrech i gyfathrebu ac i estyn allan at y rheiny sydd o’i gwmpas. Mae Sam eisiau i hyn fod yn gyfle i chi ddod i’w adnabod. £10 / £15 i fynychu dwy sioe yng Ngŵyl Theatr Ymylol Caerdydd yn yr un noson. Mae’r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Theatr Ymylol Caerdydd ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter. 16+ oed
nerdfucker: a solo play with bad boundaries 20.07 7.30pm 21.07 9pm
This critically acclaimed solo drama digs deep into the heart and crotch of geekdom. Set after hours at a geek convention, nerdfucker is an unexpected tale of awkward passion that is all the more wrenching for being so recognizable. Audiences can look for sympathetic laughs and loads of cultural commentary amid the rapid unwinding of a woman on the edge of a troubling truth. £10 / £15 for both Cardiff Fringe Shows in one evening. This performance is part of the Cardiff Fringe Theatre Festival in partnership with Chapter Arts Centre. Age 16+ ..............
Mae’r ddrama solo nodedig hon yn cloddio’n ddwfn i galon ac angerdd y ‘geek’. Wedi’i gosod mewn cynhadledd ‘geeks’, mae nerdfucker yn stori annisgwyl am angerdd lletchwith sydd hyd yn oed yn fwy ysgytwol am ei bod mor gyfarwydd. Bydd cynulleidfaoedd yn cael hyd i lawer iawn o hiwmor cydymdeimladol a llwyth o sylwebaeth ddiwylliannol mewn portread o wraig sydd ar drothwy gwirionedd anghynnes. £10 / £15 i fynychu dwy sioe yng Ngŵyl Theatr Ymylol Caerdydd yn yr un noson. Mae’r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Theatr Ymylol Caerdydd ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter. 16+ oed
Performance / Perfformiadau
15
Martin Creed
chapter.org
Liminality: Dance Workshop 15.07 1pm—3.15pm
Chapter is delighted to be hosting two dancers from New Delhi, India who are working with local dance professionals to create a unique 360º dance film entitled Liminality. The workshop is an introduction to contemporary dance for ages 12 plus and will include a presentation and Q&A. £8
.............. Mae Chapter yn falch iawn o allu croesawu dau ddawnsiwr o New Delhi, India, a fydd yn gweithio gyda dawnswyr proffesiynol lleol i greu ffilm ddawns 360 gradd unigryw o’r enw Liminality. Mae’r gweithdy yn gyflwyniad i ddawns gyfoes i bobl ifanc 12+ oed a bydd yn cynnwys cyflwyniad a sesiwn holi-ac-ateb. £8
Cardiff Guitar Festival / Gŵyl Gitâr Caerdydd 28.07 + 29.07 7.30pm
Graham Anthony Devine 28.07 7.30pm Widely considered as one of the best guitarists of his generation, Graham’s huge repertoire covers music from the renaissance period to most major twentieth century works written for the guitar. Solo recital. £12/£8
.............. Ystyrir Graham yn un o gitaryddion gorau ei genhedlaeth. Mae ei repertoire anferth yn cwmpasu cerddoriaeth o gyfnod y dadeni i’r rhan fwyaf o weithiau gitâr mawrion yr 20fed ganrif. Datganiad unigol. £12/£8
Eden Stell Guitar Duo 29.07 7.30pm Internationally renowned for their dynamism, innovation and breath-taking virtuosity, the Eden Stell Guitar Duo have ‘breathed new life into the word of classical guitar’ (Rotterdam Dagblad). £12/£8
.............. Yn enwog yn rhyngwladol am eu hegni, eu harloesedd a’u meistrolaeth syfrdanol, mae Deuawd Eden Stell yn ‘bywiocáu byd y gitâr glasurol’ (Rotterdam Dagblad). £12/£8
Martin Creed, Talk and Songs 22.07 8pm
Keep Me in your Heart promotions bring artist, musician and Turner Prize-winner Martin Creed to Chapter. Martin invites you to a delightfully nonconformist evening of words and music, talk and songs... “I find myself here in this world trapped inside me looking out and I don’t know what to do. I can’t ignore myself, but I can’t go along with everything either, because I don’t trust myself, because I’m in here with my feelings telling me what to do, and I don’t know where they come from and they’re not reasonable, and before I know it I don’t know the difference between my head, my heart and my feet. But I don’t know what I’m saying, and now I’m wondering what I’m doing.” Martin Creed. £14
.............. Mae Keep Me Company yn dod â’r artist, y cerddor ac enillydd Gwobr Turner, Martin Creed, i Chapter. Mae Martin yn eich gwahodd i noson hyfryd o anghydffurfiol yn llawn geiriau a cherddoriaeth, sgwrsio a chaneuon ... “Dyma fi yn y byd hwn yn sownd ar y tu fewn ac yn edrych allan. Dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dw i ddim yn gallu f’anwybyddu fy hun, ond alla’ i ddim jyst derbyn pethau chwaith — am nad wyf yn ymddiried ynof fy hun, am fy mod i yma yn llawn teimladau afresymol sy’n dweud wrthyf beth i’w wneud, a dw i ddim yn gwybod o ble mae’r rheiny’n dod. A chyn i mi droi rownd dw i ddim yn gallu gweld y gwahaniaeth rhwng fy mhen, fy nghalon a fy nhraed. Dw i ddim yn gwybod beth dw i’n ei ddweud a dw i ddim yn rhy siŵr beth dw i’n ei wneud.” Martin Creed. £14
16
Film / Ffilm
029 2030 4400
My Cousin Rachel
FILM/FFILM
My Cousin Rachel
A Man Called Ove
UK/DG/2017/106m/12A. Dir/Cyf: Roger Michell. With/Gyda: Sam Claflin, Rachel Weisz, Holliday Grainger, Iain Glen
Sweden/2016/116m/15. Dir/Cyf: Hannes Holm. With/Gyda: Rolf Lassgård, Bahar Pars, Filip Berg
Philip plots revenge against his cousin, believing she has murdered his guardian but these feelings are complicated when he begins to fall for the glamourous Rachel.
Ill-tempered Ove spends his days visiting his wife’s grave and enforcing housing association rules, but Parvaneh and her family move next door to interrupt his solitary ways. .............. Mae’r Ove blin yn treulio’i ddyddiau yn ymweld â bedd ei wraig ac yn gweithredu rheolau ei gymdeithas dai, ond ar ôl i Parvaneh a’i theulu symud i’r cartref drws nesaf, caiff ei fywyd unig ei drawsnewid.
23.06—06.07
+ Adaptations introduction Thu 29 Jun
.............. Mae Philip yn cynllwynio i ddial yn erbyn ei gyfnither yn y gred ei bod hi wedi llofruddio ei warcheidwad — ond caiff ei deimladau eu cymhlethu wrth iddo gwympo mewn cariad â’r Rachel hudolus. + Cyflwyniad Addasiadau / Adaptations ar Iau 29 Mehefin
30.06—06.07
Film / Ffilm
17
Colossal
Harmonium
USA/UDA/2016/108m/15. Dir/Cyf: Nacho Vigalondo. With/Gyda: Anne Hathaway, Jason Sudeikis
Japan/2016/120m/12A. Dir/Cyf: Kôji Fukada. With/Gyda: Mariko Tsutsui, Tadanobu Asano, Kanji Furutachi
Gloria is having a crisis but this is nothing compared to the creature destroying the city, somehow connected with her.
Toshio is very proud of his daughter and her talent on the harmonium so he brings in a tutor. However, this mysterious man’s past causes tensions with his wife and causes the family bond to be questioned. .............. Mae Toshio yn falch iawn o’i ferch ac o’i thalent ar yr harmoniwm felly mae e’n cyflogi tiwtor i’w helpu ymhellach. Ond mae gorffennol y dyn dirgel hwnnw yn achosi tensiynau gyda gwraig Toshio ac yn peri i’r cwlwm teuluol gael ei amau.
Clockwise from top left / Gyda’r cloc o’r brig: Collosal, Slack Bay, Harmonium
chapter.org
30.06—06.07
+ Tinted Lens post-screening discussion on 06.07
“Revels in the power of cinematic artifice to tell a story that confronts big questions about real life.” The New Yorker .............. Mae Gloria mewn argyfwng ond dyw hynny’n ddim o’i gymharu â’r creadur sydd yn dinistrio’r ddinas o’i chwmpas — creadur y mae ganddo gysylltiad â Gloria hefyd. + Trafodaeth Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar 06.07
“Ffilm sy’n ymhyfrydu yn nyfeisiau’r sinema ac sydd yn trafod cwestiynau mawrion bywyd go iawn.” The New Yorker
Bad Film Club / Clwb Ffilmiau Gwael: Fifty Shades Darker 02.07
USA/UDA/2017/113m/18. Dir/Cyf: James Foley. With/Gyda: Dakota Johnson, Jamie Dornan, Rita Ora
The last film before the summer break the sequel to Fifty Shades of Grey that nobody asked for! Exotic like an egg sandwich and likely to make you feel just as gassy. .............. Ffilm olaf y tymor, cyn gwyliau’r haf, a’r dilyniant i Fifty Shades of Grey na ofynnodd neb am gael ei weld! Mor ecsotig â brechdan wy ac yn debygol o gorddi’ch perfeddion yn yr un modd.
30.06—06.07
Slack Bay 07.07—12.07
France/Ffrainc/2016/122m/15. Dir/Cyf: Bruno Dumont. With/Gyda: Fabrice Luchini, Juliette Binoche, Valeria Bruni Tedeschi
In 1910 Calais tourists are going missing. At the epicentre of the mystery are the Bruforts and the van Peteghems. It is down to oddball detectives Machin and Malfoy to solve the puzzle. .............. Ym 1910, mae twristiaid yn Calais yn mynd ar goll. Mae’r Bruforts a’r Van Peteghems wrth galon y dirgelwch ac mae’n rhaid i’r ditectifs anghonfensiynol, Machin a Malfoy, ei ddatrys.
18
Film / Ffilm
029 2030 4400
Dispossession
REALTO REEL / O’R REAL I’R RIL
Dispossession: The Great Social Housing Swindle 08.07 6pm
UK/DG/2017/82m/PG. Dir/Cyf: Paul Sng
An incisive exploration of the failures that have led to a shortage of social housing in Britain. + Join us for a Q&A hosted by Michael Sheen with Paul Sng and LSE’s Lisa McKenzie.
.............. Archwiliad treiddgar o’r methiannau a arweiniodd at brinder o gartrefi cymdeithasol ym Mhrydain.
+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Michael Sheen, Paul Sng a Lisa McKenzie o’r LSE.
Summer in the Forest 12.07 + 13.07
UK/DG/2017/108m/PG. Dir/Cyf: Randall Wright
Risk
21.07—27.07 Germany/Yr Almaen/2017/92m/15. Dir/Cyf: Laura Poitras
Filmed over six years, this character study of Julian Assange collides with a high stakes election year and its controversial aftermath. Capturing this story, director Laura Poitras finds herself caught between the motives and contradictions of Assange and his inner circle. .............. Wedi’i ffilmio dros gyfnod o chwe blynedd, mae’r astudiaeth hon o Julian Assange yn cyd-fynd â blwyddyn etholiadol hollbwysig a’i chanlyniadau dadleuol. Wrth gofnodi’r hanes, mae’r cyfarwyddwr Laura Poitras yn ei chael ei hun yng nghanol cymhellion cudd a gwrthddywediadau Assange a’i gylch agos.
In the 1960s Jean Vanier opened L’Arche commune as an alternative to the violent asylums that existed in housing people with learning disabilities. Now in his 80s we take a look at the community he created.
Machines
+ Join us for a discussion with Mencap Cymru on 31.07
Moving through the bowels of the disorientating structure of a textile mill in Sachin, the camera takes us on a journey to a place of dehumanising physical labour. A rare portrait of the guarded world of sweatshops. .............. Mae’r camera’n ein cludo trwy berfeddion dryslyd melin decstilau yn Sachin ac ar daith i fan lle mae llafur corfforol yn dad-ddynoli’r gweithwyr. Portread prin o fyd cudd y slafdai.
.............. Yn y 1960au, agorodd Jean Vanier L’Arche Commune fel opsiwn gwahanol i’r gwallgofdai a fodolai ar y pryd i gartrefu pobl ag anableddau dysgu. Yn ei 80au erbyn hyn, dyma gipolwg ar y gymuned a greodd y gŵr hynod hwnnw. Ymunwch â ni am drafodaeth gyda Mencap Cymru ar 31.07
24.07—26.07
India/2016/71m/12A. Dir/Cyf: Rahul Jain
Film / Ffilm
Edith Walks
Whitney: Can I Be Me
UK/DG/2017/61m+11m short/ 61mun + ffilm fer 11mun/PG. Dir/ Cyf: Andrew Kotting
UK/DG/2017/105m/15. Dir/Cyf: Rudi Dolezal, Nick Broomfield
19
From L to R / O’r chwith i’r dde: Queerama, John Berger: Seasons in Quincy
chapter.org
11.07
An experimental documentary from Andrew Kotting taking a walk from St Leonards on Sea to Waltham Abbey to reconnect Edith Swan Neck with her husband King Harold. .............. Ffilm ddogfen arbrofol gan Andrew Kotting sydd yn mynd am dro o St Leonards on Sea i Abaty Waltham i geisio ailgysylltu Edith Swan Neck â’i gŵr, y Brenin Harold.
28.07—03.08
An intimate exploration into the heart of the career and life of one of the most talented performers of the 20th century. .............. Archwiliad agos-atoch o yrfa, bywyd a chariadau un o berfformwyr mwyaf talentog yr 20fed ganrif.
John Berger: Seasons in Quincey 28.07—03.08
Queerama 19.07
UK/DG/2017/70m/15. Dir/Cyf: Daisy Asquith
The music of John Grant and Goldfrapp take us on a journey through the BFI archive discovering the relationships, desires, fears of the LGBTQ community in the 20th century. + Join us for a Q&A with director Daisy Asquith and producer Catryn Ramasut
.............. Mae cerddoriaeth John Grant a Goldfrapp yn ein harwain ar daith drwy archif y BFI er mwyn olrhain hanes perthnasau, dyheadau ac ofnau’r gymuned LGBTQ yn ystod yr 20fed ganrif.
+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Daisy Asquith a’r cynhyrchydd Catryn Ramasut
UK/DG/2016/93m/12A. Dir/Cyf: Tilda Swinton, Christopher Roth, Colin MacCabe, Bartek Dziadosz
Conceived by Tilda Swinton, this is an experimental filmic love letter to her mentor John Berger, told in four parts. .............. Mae’r gwaith arbrofol hwn gan Tilda Swinton yn llythyr o gariad ffilmig at ei mentor, John Berger, wedi’i adrodd mewn pedair rhan.
Film / Ffilm
029 2030 4400
The Graduate
Manhattan
USA/UDA/1967/105m/15. Dir/Cyf: Mike Nicholls. With/Gyda: Dustin Hoffman, Anne Bancroft, Katherine Ross
USA/UDA/1979/94m/12A. Dir/Cyf: Woody Allen. With/Gyda: Woody Allen, Mariel Hemingway, Diane Keaton, Meryl Streep
Clockwise from top / Gyda’r cloc o’r brig: The Graduate, Manhattan, La Strada
20
02.07+ 04.07
With the world at his feet Ben stumbles into an affair with family friend Mrs Robinson and further complicates things when he falls for her daughter. A tale of youthful rebellion perfectly scored by Simon and Garfunkel. .............. A’r byd yn disgwyl amdano, mae Ben yn ei gael ei hun mewn perthynas â ffrind i’r teulu, Mrs Robinson, ac yn cymhlethu pethau ymhellach ar ôl syrthio mewn cariad â’i merch. Stori am wrthryfel ieuenctid gyda sgôr berffaith gan Simon a Garfunkel.
La Strada 09.07 + 11.07
Italy/Yr Eidal/1954/106m/PG. Dir/Cyf: Federico Fellini. With/Gyda: Anthony Quinn, Giulietta Masina, Richard Baseheart
Gelsomina is sold to strong man Zampanò whose cruel treatment she endures till The Fool changes all their fates. A masterpiece on the quest for life’s meaning. .............. Caiff Gelsomina ei gwerthu i Zampanò ac mae hi’n dioddef yn dawel ei greulondeb yntau tan i’r Ffŵl newid ei thynged. Campwaith am yr ymchwil am ystyr i fywyd.
23.07+ 25.07
Divorced writer Ike navigates entanglements with journalist Mary and high school senior Tracy in his great love: New York City. The essential Woody Allen, shot in lustrous black and white and scored with the music of Gershwin. .............. Mae Ike yn awdur wedi ysgaru ac yn ceisio ymdopi â’u berthnasau â’r newyddiadurwr Mary a’r ferch ysgol Tracy a hynny yn ei annwyl Efrog Newydd. Ffilm sy’n diffinio Woody Allen; fe’i saethwyd mewn du a gwyn gloyw ac mae’n cynnwys sgôr eiconig o gerddoriaeth Gershwin.
Destiny
30.07+ 01.08 Germany/Yr Almaen/1921/91m/PG. Dir/Cyf: Fritz Lang. With/ Gyda: Lil Dagover, Walter Janssen, Bernhard Goetzke
A young woman, who in her dreams is confronted by Death, argues for the life of her beloved, but is unable to make the personal sacrifices that Death insists upon. .............. Mae menyw ifanc sy’n dod wyneb yn wyneb â Marwolaeth yn ei breuddwydion yn dadlau’n llwyddiannus o blaid ei hanwylyd ond dyw hi ddim yn gallu gwneud yr aberthau personol y mae Marwolaeth yn eu mynnu ganddi.
Film / Ffilm
Churchill
Destination Unknown
UK/DG/2017/98m/PG. Dir/Cyf: Jonathan Teplitzky. With/Gyda: Brian Cox, Miranda Richardson, John Slattery
UK/DG/2017/79m/12A. Dir/Cyf: Claire Ferguson
21
From L to R / O’r chwith i’r dde: Churchill, Destination Unknown
chapter.org
07.07—20.07
An immersive look at the iconic and fascinating man as he weighed up his strengths and weaknesses and risked his personal relationships in a nail-bitingly crucial stage of World War II. .............. Golwg hollgynhwysol ar y gŵr eiconig wrth iddo bwyso a mesur ei gryfderau a’i wendidau a pheryglu ei berthnasau personol mewn cyfnod tyngedfennol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Alone in Berlin 07.07—13.07
UK/DG/2016/103m/12A. Dir/Cyf: Vincent Perez. With/Gyda: Emma Thompson, Daniel Brühl, Brendan Gleeson
In 1940 wartime Germany Otto and Anna Quangel lose their son to war they risk everything with messages of protest across the city. But this seemingly small act of subversion rattles the regime. .............. Yn yr Almaen ym 1940, mae Otto ac Anna Quangel yn colli eu mab yn y rhyfel ac maent yn rhoi popeth yn y fantol drwy adael negeseuon o brotest ledled y ddinas. Mae’r gweithredoedd ymddangosiadol ddinod hynny yn anesmwytho’r awdurdodau Natsïaidd.
13.07
Twelve survivors, twelve families torn apart by the Holocaust, twelve people striving to build a new future after the war. + Join us for a Q&A with producer Llion Roberts and Director Claire Ferguson following the film.
.............. Mae deuddeg o oroeswyr, deuddeg o deuluoedd a chwalwyd gan yr Holocost, deuddeg o bobl, yn ymdrechu i greu dyfodol gwell ar ôl y rhyfel.
+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd Llion Roberts a’r cyfarwyddwr Claire Ferguson ar ôl y ffilm.
In This Corner of the World 28.07—03.08
Japan/2016/130m/12A. Dir/Cyf: Sunao Katabuchi. With/Gyda: Rena Nonen, Yoshimasa Hosoya
Suzu, an ordinary young woman, comes of age at an extraordinary time in the city of Hiroshima. An exquisite, compelling animation quietly telling the story about what was lost. .............. Mae Suzu, merch ifanc gyffredin, yn dod i oed yn ystod cyfnod eithriadol yn ninas Hiroshima. Animeiddiad cain a choeth sy’n adrodd hanes yr hyn a gollwyd â sensitifrwydd mawr.
Film / Ffilm
029 2030 4400
David Lynch: The Art Life
Mulholland Drive
Denmark/Denmarc/2016/88m/15. Dir/Cyf: Jon Nguyen, Rick Barnes
USA/UDA/2001/141m/15. Dir/Cyf: David Lynch. With/Gyda: Naomi Watts, Laura Elena Harring
A journey from the idyllic childhood through to his art school days as David Lynch recounts stories of his family, anxieties and fears. .............. O’i blentyndod delfrydol hyd at ei ddyddiau yn yr ysgol gelf, clywn hanes David Lynch. Ei deulu, ei bryderon a’i ofnau, a’r cyfan yn ei eiriau’i hun.
Together a perky Hollywood hopeful and a mysterious woman with amnesia try to piece together a mystery. A Lynchian look at the dream factory of Hollywood and the nightmares that mingle within.
Clockwise from top left: David Lynch: The Art Life, Mulholland Drive, Norman, The Straight Story
22
14.07—20.07
Chapter 13: The Straight Story 14.07 + 17.07
USA/UDA/1999/107m/U. Dir/Cyf: David Lynch. With/Gyda: Richard Farnsworth, Sissy Spacek
A lyrical portrait of Alvin Straight as he travels on a 260 mile journey on a mower across the American heartland. + Dementia Friendly screening 14.07.
“Lynch rises to this challenge with exhilarating vigor.” Janet Maslin, New York Times .............. Portread telynegol o Alvin Straight wrth iddo deithio 260 milltir drwy galon America ar beiriant torri gwair. + Dangosiad Addas i Bobl â Dementia ar 14.07.
“Mae Lynch yn ateb yr alwad â ffilm sy’n llawn egni cyffrous.” Janet Maslin, New York Times
16.07 + 18.07
+ Lavender Screen LGBT discussion group on 16.07
.............. Gyda’i gilydd, mae actores uchelgeisiol yn Hollywood a dynes ddirgel ag amnesia yn ceisio datrys dirgelwch. Golwg Lynchaidd ar ffatri freuddwydion Hollywood a’r hunllefau sy’n gymysg â’r ddelfryd. + Lavender Screen LGBT discussion group on 16.07
Norman
21.07—27.07 USA/UDA/2017/118m/15. Dir/Cyf: Joseph Cedar. With/Gyda: Richard Gere, Michael Sheen, Lior Ashkenazi
A late career triumph from Richard Gere as Norman, a persistent wheeler-dealer who befriends a politician at a low point in his life and when the politician does well Norman’s life changes dramatically for better and worse. .............. Mae perfformiad Richard Gere, yng nghyfnod hwyr ei yrfa, yn ardderchog: mae e’n ddeliwr-mewn-popeth sy’n dod yn ffrindiau â gwleidydd diobaith. Ond ar ôl i bethau newid i’r gwleidydd, mae bywyd Norman yn newid yn ddramatig hefyd, er gwell ac er gwaeth.
Film / Ffilm
Hounds of Love
The Beguiled
Australia/Awstralia/2016/108m/18. Dir/Cyf: Ben Young. With/Gyda: Emma Booth, Ashleigh Cummings, Stephen Curry
USA/UDA/2017/94m/ctba/TiCH. Dir/Cyf: Sofia Coppola. With/Gyda: Nicole Kidman, Kirsten Dunst, Colin Farrell, Elle Fanning
23
Clockwise from top left: Hounds of Love, The Beguiled, Baby Driver
chapter.org
22.07—26.07
A cold-blooded predatory couple in search of their next victim, will stumble upon a 17-year-old Vicki. A bold, horrifying exercise in expertly-crafted tension. .............. Mae cwpl rheibus a didostur yn chwilio am eu dioddefwr nesaf ac yn dod ar draws y Vicki 17 oed. Astudiaeth arswydus, feiddgar a chrefftus o densiwn.
Souvenir 21.07—27.07
France/Ffrainc/2017/90m/ctba/TiCH. Dir/Cyf: Bavo Defurne. With/Gyda: Isabelle Huppert, Kévin Azaïs, Johan Leysen
A forgotten European Song Contest singer, fading away in a factory, falls in love with a young aspiring boxer. Together they decide to attempt her comeback. .............. Mae cantores anghofiedig a gystadlodd yng nghystadleuaeth Cân i Ewrop yn rhygnu byw erbyn hyn ac yn gweithio mewn ffatri. Ond ar ôl syrthio mewn cariad â bocsiwr ifanc uchelgeisiol, mae’r ddau, gyda’i gilydd, yn penderfynu aildanio’i gyrfa hithau.
28.07—03.08
In a Southern girls’ school during the American Civil War its young women take in an injured soldier. Taboos are broken in an unexpected turn of events. .............. Yn ystod Rhyfel Cartref America, mewn ysgol i ferched yn un o daleithiau’r De, mae’r menywod ifanc yn gofalu am filwr wedi’i anafu. Caiff tabŵs eu chwalu wrth i bethau annisgwyl ddigwydd.
Baby Driver 28.07—03.07
UK/DG/2017/113m/15. Dir/Cyf: Edgar Wright. With/Gyda: Ansel Elgort, Kevin Spacey, Jon Hamm
A talented, young getaway driver relies on a pulsating beat to be the best in the game. But a doomed heist for crime boss Doc threatens his cool. .............. Mae gyrrwr getawê ifanc a thalentog yn defnyddio curiadau dyfnion er mwyn gwneud ei waith hyd eithaf ei allu. Ond mae heist wedi’i felltithio, ar ran y pennaeth troseddol, Doc, yn bygwth ei ‘cŵl’.
24
Film / Ffilm
029 2030 4400
From L to R: O’r chwith i’r dde: Wednesday With Godard, Fairy Tail: Dragon City
ANIMATION /ANIMEIDDIO
CARDIFF ANIMATION NIGHT PRESENTS / CARDIFF ANIMATION NIGHTS YN CYFLWYNO:
Late Night Work Club 22.07
A taster event for the Cardiff Animation Festival 2018 — we join members of global animation collective Late Night Work Club with exclusive screenings and insights into their exciting cutting-edge animation work. .............. Digwyddiad i roi blas i chi o Ŵyl Animeiddio Caerdydd 2018. Byddwn yn ymuno ag aelodau o grŵp animeiddio byd-eang Late Night Work Club ac yn cyflwyno dangosiadau ecsgliwsif a chipolygon ar eu gwaith animeiddio arloesol a chyffrous.
Ghost Stories 3pm (38m) A chance to see the first Late Night Work Club anthology of short films on the big screen, including ghostly tales for the modern age. .............. Cyfle i weld y flodeugerdd gyntaf o ffilmiau byrion Late Night Work Club ar y sgrin fawr a’r rheiny’n cynnwys straeon ysbryd ar gyfer yr oes fodern.
Strangers 4pm (42m) The collective’s latest anthology of animated shorts, including Kirsten Lepore’s viral hit ‘Hi Stranger’ and Nicolas Menard and Manshen Lo’s hilarious collaboration ‘Wednesday with Goddard’. .............. Blodeugerdd ddiweddaraf y grŵp o ffilmiau byrion wedi’u hanimeiddio, gan gynnwys fideo ‘feiral’ Kirsten Lepore, ‘Hi Stranger’, a chydweithrediad dwys a doniol Nicolas Menard a Manshen Lo, ‘Wednesday with Goddard’.
An evening with Late Night Work Club and friends / Noson gyda Late Night Work Club a’u ffrindiau 6pm Join Late Night Work Club and friends for conversations about independent animation and collaboration. .............. Ymunwch â Late Night Work Club a’u ffrindiau i sgwrsio am animeiddio annibynnol a chydweithio.
Fairy Tail: Dragon Cry 14.07—18.07
Japan/2017/85m/15. Dir/Cyf: Tatsuma Minamikawa. With/Gyda: Makoto Furukawa, Aya Hirano, Yui Horie
Wizards of the Fairy Tail guild are tasked with retrieving the Dragon Cry, a mystical staff of cataclysmic power and Natsu undergoes a dangerous transformation as his dragon slayer instincts awaken. .............. Mae dewiniaid urdd y Fairy Tail yn gorfod mynd i adennill y Dragon Cry, ffon hud ac iddi bwerau cataclysmig. Mae Natsu hefyd yn cael ei drawsnewid yn llwyr wrth i’w reddf i fod yn lladdwr dreigiau ddechrau dod i’r amlwg.
chapter.org
Film / Ffilm
25
From L to R: O’r chwith i’r dde: Black Britain On Film, Amma Asante
HOMEGROWN / O GYMRU
Chapter MovieMaker
BAFTA Debuts: A Way of Life
Wales/Cymru/2017/approx. 90m/18
Wales/Cymru/2004/87m/15. Dir/Cyf: Amma Asante. With/Gyda: Stephanie James, Brenda Blethyn
03.07
A regular showcase for short films by independent filmmakers. To enquire about screening your film or for any other information email moviemaker@chapter.org .............. Sesiwn reolaidd sy’n cynnig cyfle i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am fynd ati i ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org.
12.07
In this powerful story teenage mother Leigh-Anne is scraping together a life; but paranoia, frustration and anger form a lethal combination and her Muslim neighbour becomes the target. + Join us for a Q&A with director Amma Asante.
.............. Yn y stori bwerus hon mae mam yn ei harddegau, Leigh-Anne, yn crafu byw ond mae paranoia, rhwystredigaeth a dicter yn gyfuniad marwol ac fe ddaw ei chymydog Mwslemaidd yn darged iddi.
Spaceship
+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Amma Asante.
UK/DG/2016/90m/15. Dir/Cyf: Alex Taylor. With/Gyda: Alexa Davies, Steven Elder, Harry Jarvis, Antti Reini
Black Britain On Film / Prydain Ddu ar Ffilm
07.07—10.07
When Lucidia disappears in an apparent alien abduction, her father Gabriel is forced to confront her strange outsider friends. An audacious story told from multiple points of view, the characters pulled together by teenage gravity, looking for a universe to call their own. .............. Ar ôl i Lucidia gael ei herwgipio gan aliens yn ôl pob tebyg mae ei thad Gabriel yn gorfod cyfarfod â’i ffrindiau rhyfedd. Stori feiddgar wedi’i hadrodd o safbwyntiau lluosog, lle caiff y cymeriadau eu tynnu at ei gilydd gan rym adolesent wrth iddynt chwilio am fydysawd a fydd yn gartref iddynt.
21.07 + 25.07
UK/DG/1901-1985/91m/12A
Exploring the vital and vivid history of black Britain throughout the 20th century: stories of migration, community and celebrating British culture on screen including rare colour footage of Cardiff in 1957. .............. Archwiliad o hanes bywiog ac amrywiol pobl ddu ym Mhrydain drwy gydol yr 20fed ganrif: straeon am ymfudo a chymuned a dathliad o ddiwylliant Prydain ar y sgrin sy’n cynnwys delweddau lliw prin o Gaerdydd yn 1957.
26
Film / Ffilm
029 2030 4400
From top / O’r brig: Salomé, Angels in America
STAGE ON SCREEN / Y LLWYFAN AR Y SGRIN
NT Encore: Salomé 09.07 2pm
UK/DG/2017/200m/15. Dir/Cyf: Yaël Farber. With/Gyda: Isabella Niloufar, Raad Rawi
This charged retelling turns the infamous biblical tale on its head, placing the girl we call Salomé at the centre of a revolution. .............. Mae’r fersiwn newydd egnïol hon o’r stori Feiblaidd enwog yn gosod y ferch a adwaenir fel Salomé reit wrth galon y chwyldro.
The Donmar presents / Y Donmar yn cyflwyno: Julius Caesar 16.07 2pm
UK/DG/2016/114m/PG. Dir/Cyf: Phyllida Lloyd. With/Gyda: Harriet Walter
Mutiny is rumbling through the corridors of power and the race to claim the empire spirals out of control. An all-female production widely credited as one of the most original of recent Shakespeare productions. .............. Mae miwtini yn corddi yng nghoridorau grym a’r ras i hawlio’r ymerodraeth yn bygwth mynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Cynhyrchiad â chast o fenywod yn unig — a gydnabyddir fel un o’r cyflwyniadau diweddar mwyaf gwreiddiol o waith Shakespeare.
NT Live: Angels in America Part 1/Rhan 1: Millennium Approaches 20.07 7pm Part 2/Rhan 2: Perestroika 27.07 7pm
UK/DG/2017/210m each performance/15. Dir/Cyf: Marianne Elliott With/Gyda: Andrew Garfield, Nathan Lane, Russell Tovey, Denise Gough
In the midst of the AIDS crisis and a conservative Reagan administration, New Yorkers grapple with life and death, love and sex, heaven and hell in this new staging of Tony Kushner’s thrilling Pulitzer Prize winning drama. .............. Yng nghanol argyfwng AIDS ac arlywyddiaeth geidwadol Reagan, mae Efrog Newydd yn ymgodymu â bywyd a marwolaeth, cariad a rhyw, nefoedd ac uffern yn y llwyfaniad newydd hwn o’r ddrama a enillodd Wobr Pulitzer i Tony Kushner.
Ticket prices / Prisiau tocynnau: Live broadcasts / Dangosiadau byw: £17.50/£14/£13 Encore screenings / Dangosiadau encore: £13/£11/£10
chapter.org
Chapter Mix
27
Despicable Me 3
FAMILY FEATURES/ FFILMIAU I'R TEULU CYFAN A selection of fabulous, family–friendly films every Saturday and Sunday. Children under 12 years old must be accompanied by an adult. ..............
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul 01.07 + 02.07 USA/UDA/2017/91m/U. Dir/Cyf: David Bowers. With/Gyda: Alicia Silverstone, Charlie Wright, Tom Everett Scott
A Heffley family road trip to attend Meemaw’s 90th birthday party goes hilariously off course thanks to Greg’s newest scheme to get to a video gaming convention. .............. Mae taith teulu Heffley i fynychu parti pen-blwydd Meemaw yn 90 oed yn mynd ar chwâl o ganlyniad i gynllun diweddaraf Greg, sydd eisiau mynd i gonfensiwn gêmau video. .
Pirates of the Caribbean: Salazar’s Revenge 15.07 + 16.07 / 21.07—23.07 USA/UDA/2017/129m/12A. Dir/Cyf: Joachim Rønning, Espen Sandberg. With/Gyda: Johnny Depp, Javier Bardem, Kaya Scodelario
Swashbuckling Jack Sparrow teams up with brilliant astronomer Carina Smyth to face Captain Salazar, freshly escaped from the Devil’s Triangle. .............. Mae’r Jack Sparrow herfeiddiol yn ymuno â’r seryddwr gwych Carina Smyth i wrthwynebu Capten Salazar, sydd newydd ddianc o’r Devil’s Triangle.
Fireman Sam: Alien Alert 24.07—03.08 Wales/Cymru/2017/60m/U. Dir/Cyf: Gary Andrews. Voices of / Gyda lleisiau: David Tennant, Steven Kynman, Tegwen Tucker
When presenter Buck Douglas arrives in Pontypandy, the town gets a little over-excited at the prospect of featuring on Buck’s ‘Alien Quest’ TV show. .............. Ar ôl i’r cyflwynydd Buck Douglas gyrraedd Pontypandy, mae’r trigolion yn dechrau cyffroi wrth iddynt freuddwydio am ymddangos ar sioe deledu Buck ‘Alien Quest’.
Rock Dog 08.07+ 09.07 USA/UDA/2017/90m/PG. Dir/Cyf: Ash Brannon. With the voices of / Gyda lleisiau: Luke Wilson, Eddie Izzard
When sheep dog Bodi discovers a radio he decides he wants to be a rock star and heads to the city to follow his dream. .............. Ar ôl i’r ci defaid Bodi ddod o hyd i radio mae e’n penderfynu ei fod am fod yn seren roc ac yn mynd i’r ddinas fawr i ddilyn ei freuddwyd.
Despicable Me 3 21.07—03.08 USA/UDA/2017/96m/PG. Dir/Cyf: Kyle Balda, Pierre Coffin, Eric Guillon. With the voices of / Gyda lleisiau: Steve Carell, Kristen Wiig, Trey Parker
Gru, Lucy and their Minions come face-to-face with Gru’s long-lost twin brother Dru and team up to steal the diamond stolen by 80s child star Balthazar Bratt. .............. Mae Gru, Lucy a’u Minions yn wynebu efall hirgolledig Gru, Dru, ac yn dod at ei gilydd i geisio dwyn y diemwnt a gafodd ei ddwyn yn y lle cyntaf gan seren ifanc o’r 80au, Balthazar Bratt.
Transformers: The Last Knight 25.07—03.08 USA/UDA/2017/ctba/TiCH. Dir/Cyf: Michael Bay. With/Gyda: Laura Haddock, Mark Wahlberg, Anthony Hopkins
Humans and Transformers are at war and the key to saving our future lies buried in the secrets of the past. .............. Mae bodau dynol a’r Transformers yn rhyfela’n ddibaid ac mae’r ateb i broblemau’r presennol i’w cael yng nghyfrinachau dyfnion y gorffennol.
28
Chapter Mix
BurgerStock
First Thursday New Poetry and Fiction / Dydd Iau Cyntaf y Mis — Barddoniaeth a Ffuglen Newydd
29.06—01.07 American-inspired burgers and beers from across the pond make for a perfect summer food festival. .............. Byrgyrs Americanaidd a chwrw o’r ochr draw i Fôr Iwerydd — cyfuniad perffaith ar gyfer gŵyl fwyd hafaidd.
Golden Thread Playback Theatre / Theatr Golden Thread Playback 01.07 1pm Powerful and unique performances in which stories from the audience are spontaneously and magically brought to life before your eyes. £7/£5/£3 Children / Under 5s free (on the door)
.............. Perfformiadau pwerus ac unigryw lle rhoddir bywyd newydd i straeon y gynulleidfa — o flaen eich llygaid, yn y fan a’r lle! £7/£5/£3 Plant / Am ddim i blant dan 5 oed (wrth y drws)
Cardiff Storytelling Circle / Cylch Chwedleua Caerdydd 02.07 8pm Someone tells a story, it might be true or made up or traditional — and everybody else listens. We listen to one another and in that listening we find that there is more that we have in common than there is which divides us. All storytellers and all story listeners welcome. £4 (on the door)
.............. Mae un person yn adrodd stori — a all fod yn stori wir, yn stori draddodiadol neu’n greadigaeth bersonol — ac mae pawb arall yn gwrando. Rydym yn gwrando ar ein gilydd ac yn y gwrando gwelwn fod yna fwy sydd yn ein huno nag sydd yn ein gwahanu. Croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd. £4 (wrth y drws)
029 2030 4400
06.07 7.30pm Irish poet Siobhán Campbell with her new collection: Heat Signature and Yvonne Reddick with her debut Mslexia Prize-winning pamphlet: Translating Mountains. Plus open mic £2.50 (on the door)
.............. Noson gyda’r bardd Gwyddelig Siobhán Campbell a fydd yn cyflwyno’i chasgliad newydd, Heat Signature, ac Yvonne Reddick, a fydd yn cyflwyno ei phamffled cyntaf, a enillodd Wobr Mslexia, Translating Mountains. Ynghyd â sesiwn meic agored £2.50 (wrth y drws)
The Drones Comedy Club / Clwb Comedi The Drones 07.07 + 21.07 Doors: 8.30pm Start: 9pm Clint Edwards brings you the best from up-and coming stand-ups, as seen on Rob Brydon’s ‘Identity Crisis’, on the first and third Friday of the month. One of The Big Issue’s ‘Top Ten Things to Do in Cardiff.’ £3.50 (on the door)
..............
Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
chapter.org
Chapter Mix
Clonc yn y Cwtch
Capoeira Street Roda
Every Monday / Bob dydd Llun 6.30pm–8pm
16.07 2–4pm
Are you learning Cymraeg? Come and join us for a great chance to practice your Welsh with other learners. Croeso i bawb!
Local capoeira group Nucleo de Capoeiragem (mestre Claudio Campos) bring their monthly roda outdoors to Chapter’s Community Garden for the summer months. Capoeira is an Afro-Brazilian martial arts game that incorporates playful fighting, acrobatic “floreos” and elements of dance, with live acoustic music and singing. Everyone welcome!
FREE In partnership with Menter Caerdydd and Cardiff University
.............. Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
ChapterLive 14.07 9pm Little Folk 28.07 9pm TBC Join us in our Caffi Bar for live music curated by seasoned promoters Jealous Lovers Club, bringing the music they love from around the UK, Europe and other distant lands to Chapter. FREE Enjoy a pizza and a pint for £10 in our Caffi Bar on ChapterLive nights!
.............. Ymunwch â ni yn ein Caffi Bar i glywed cerddoriaeth fyw wedi’i churadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. RHAD AC AM DDIM Mwynhewch beint a phizza am £10 yn ein Caffi Bar yn ystod nosweithiau ChapterLive!
29
FREE
.............. Bydd y grŵp capoeira lleol, Nucleo de Capoeiragem (c-m Claudio Campos), yn cyflwyno’u roda awyr agored misol yng Ngardd Gymunedol Chapter yn ystod misoedd yr haf. Mae Capoeira yn gamp AffroFrasilaidd sy’n ymgorffori crefft ymladd chwareus, “floreos” acrobatig ac elfennau o ddawns, cerddoriaeth acwstig fyw a chanu. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM
Sunday Jazz / Jazz ar y Sul 23.07 9pm Our monthly evening of melodic acoustic Jazz in the Caffi Bar with the Chapter Four Jazz Quartet, featuring Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney and Greg Evans. Free
.............. Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM
Chapter Eats If you’re attending a performance or a film, or simply meeting a friend or colleague, remember we have an eclectic selction of food on offer in the Caffi Bar for you to choose from. For more information please see our website www.chapter.org
30
Learning / Addysg
Ewart Parkinson Film Award / Gwobr Ffilm Ewart Parkinson Filmmaking Master Class / Dosbarth Meistr Gwneud Ffilmiau 01.07 + 02.07 10am–4pm Join Filmmaker and Tutor Tom Betts, for a fun-packed two days of practical filmmaking exercises, tips and advice. This Masterclass is designed specifically for young people who would like to be able to hone their skills in order to make a short film before the Film Award Deadline in November. No prior experience necessary just a desire to make films, learn new skills and develop the ones you already have! Cost £35 (Please being packed lunch) Places limited to 15 participants so book early to avoid disappointment.
.............. Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r tiwtor Tom Betts am ddau ddiwrnod hwyliog o ymarferion, awgrymiadau a chyngor ymarferol am wneud ffilmiau. Mae’r dosbarth meistr hwn wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifanc sydd am ddatblygu’u sgiliau er mwyn gwneud ffilm fer cyn dyddiad cau y wobr ffilm ym mis Tachwedd. Does dim angen profiad blaenorol arnoch ond bydd angen i chi fod eisiau gwneud ffilmiau, dysgu sgiliau newydd a datblygu’ch sgiliau presennol! Cost £35 (Dewch â phecyn cinio gyda chi os gwelwch yn dda) 15 o leoedd fydd ar gael ar y cwrs felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.
029 2030 4400
Chapter Sewcial / ‘Sewcial’ Chapter Suitable for ages 8+ / Addas i blant 8+ oed. 09.07 1pm–5pm Make your Own Cotton Top Sewing your own clothes needn’t be difficult. In today’s session young sewers will develop measuring skills, pattern cutting and pattern matching to create a cool and colourful short sleeve top, completely customised to their own look and favourite colours. No previous experience necessary but creativity, imagination and enthusiasm desired. Cost: £20.00 Places limited. Light snacks will be provided. *Please bring 2 metres of cotton or poly cotton fabric to make your top. All cottons and trims included in the price plus written instructions on how to make the top at home.
..............
Dewch i Wneud Top Cotwm Does dim angen i wnïo eich dillad eich hun fod yn anodd. Yn y sesiwn hon, bydd pwythwyr ifanc yn datblygu sgiliau, yn torri patrymau ac yn matsio patrymau er mwyn creu top llewys byr cŵl a lliwgar — dilledyn personol ac unigryw. Does dim angen unrhyw brofiad ond bydd creadigrwydd, dychymyg a brwdfrydedd yn ddefnyddiol iawn!
Cost: £20 Nifer cyfyngedig o leoedd. Darperir byrbrydau ysgafn. *Dewch â 2 fetr o gotwm neu ffabrig cotwm poly i wneud eich top. Mae’r holl gotwm a phob trim yn gynwysedig yn y pris, ynghyd â chyfarwyddiadau ysgrifenedig
chapter.org
Learning / Addysg
Summer Holiday Minion Madness! / Gwyliau Haf Gwallgo gyda’r Minions! Film Activity Day / Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Despicable Me 3 (U) Suitable for Age 8+ / Addas i blant 8+ oed 22.07 10.30am–3.30pm A fun-packed day full of creative activity, including a film screening. Practical activities such as stop-motion animation, design and build, model-making, games, puzzles and much more. Fun, Games and Bananas! Places limited. Please bring packed lunch Cost: £22 (Includes ticket to film)
.............. Diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau creadigol sydd hefyd yn cynnwys dangosiad o ffilm. Gweithgareddau ymarferol fel animeiddio ‘stop-motion’, dylunio ac adeiladu, gwneud modelau, gêmau, posau a llawer mwy. Hwyl, gemau a bananas! Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda. Cost: £22 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)
Film Sewcial / ‘Sewcial’ Ffilm Despicable Me 3 (U) Suitable for Age 8+ / Addas i blant 8+ oed 23.07 10.30am–3.30pm Watch a film, then get inspired with a Summer Sewcial Class. Participants will learn and develop sewing skills in a fun 2-hour post screening sewing workshops. Ideal for beginners or intermediate sewers aged 8–12 who want to make their own stuffed Minion toy. Places limited. Please bring packed lunch Cost: £22 (Includes ticket to film)
.............. Dewch i wylio ffilm ac i gael eich ysbrydoli yn ‘Sewcial’ yr haf. Bydd cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau gwnïo a hynny mewn ffordd hwyliog mewn gweithdai gwnïo dwy awr o hyd ar ôl ffilm. Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu bwythwyr canolradd 8-12 oed sydd am wneud eu tegan Minions eu hunain. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd gyda chi os gwelwch yn dda. Cost: £22 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)
Radnor University / Prifysgol Radnor Following another successful Creative University the following students from Radnor Primary have all completed a course in Visual Art and in Animation: Visual Artists: Tameema, Ruby C, Nell, Luka, Millie, William, Jaydon, Ruby H, Betsy, Cai, Madison, Amir, Eva Animators: Mario, Drew, Tess, Natalia, Gethin, Adian, Isaac, Zahira, Hewad, Cora, Jacob, Alfie. Congratulations! Go create the future! .............. Yn dilyn Prifysgol Greadigol lwyddiannus arall, mae’r myfyrwyr canlynol o Ysgol Gynradd Radnor wedi cwblhau cwrs mewn Celfyddyd Weledol ac Animeiddio: Artistiaid Gweledol: Tameema, Ruby C, Nell, Luka, Millie, William, Jaydon, Ruby H, Betsy, Cai, Madison, Amir, Eva. Animeiddwyr: Mario, Drew, Tess, Natalia, Gethin, Adian, Isaac, Zahira, Hewad, Cora, Jacob, Alfie. Llongyfarchiadau! Bant â chi i greu’r dyfodol!
Crafty Pictures Birthday Parties / Partïon Pen-blwydd ‘Crafty Pictures’ Do you have a Birthday coming up? Contact us to book A Crafty Picture Party. 1 hour Craft Workshop, Party Buffet, and ticket to the Cinema! Saturdays and School Holidays only. 1.30pm – 4.30pm (Film at 3pm). Minimum booking required. £15 per child. For more information contact learning@chapter.org .............. Ydy hi bron yn ben-blwydd arnoch chi? Cysylltwch â ni i archebu Parti ‘Crafty Pictures’. Gweithdy crefftau awr o hyd, bwffe parti a thocyn i’r sinema! Dyddiau Sadwrn a Gwyliau Ysgol yn unig. 1.30pm – 4.30pm (Ffilm am 3pm). Bydd angen bwcio isafswm o leoedd. £15 y plentyn. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at learning@chapter.org.
Make a Minion Drop in Workshops / Gweithdai Galw Draw ‘Gwneud Minions’ Suitable for Age 4+ / Addas i blant 4+ oed 23.07—25.07 10am–11am + 2pm–3pm Cardboard tube Minions, Minion necklaces, Minion bookmarks or Minion bracelets. Spend some time making some fun Minion things! £1 per activity
.............. Dewch i wneud Minions cardfwrdd, mwclis Minions, llyfrnodau Minions neu freichledau arbennig. £1 am bob gweithgaredd
31
Donations Chapter is a registered charity and we rely on your support. Text ‘CHAP16’ plus the amount you wish to give to 70070, eg. CHAP16 £5. It doesn’t cost you a penny to send the text and we get 100% of the donation.
32
Get Involved / Cymryd Rhan
Get Involved
Cymryd Rhan
CLIC Reward Card
Cerdyn Gwobrwyo CLIC
Collect points when you visit the cinema/ theatre and you’ll be surprised at how quickly you can build your points up to receive a free ticket. See this and double your points! www.chapter.org
Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema/ theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Dyblwch eich pwyntiau pan welwch y symbol hwn! www.chapter.org
Chapter Friends
Ffrindiau Chapter
Become a friend and enjoy the many benefits on offer from discounts on tickets & at the Caffi bar to special events. Also doubles as a CLIC card. Gold £45/£40; Silver £35/£30; Bronze £25/£20.
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fuddion fel gostyngiadau ar bris tocynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Aur £45/£40; Arian £35/£30; Efydd £25/£20.
Chapter Students Chapter offers a free membership to students and therefore a number of benefits, including discounts on cinema/theatre tickets & Caffi bar. www.chapter.org/students.
Keep in Touch/Info Our weekly e-listings Email megan.price@chapter.org and state “Join Listings” Workshops and classes Head to www.chapter.org to see the range we have on offer. Home to resident companies and Artists For more information head to www.chapter.org
029 2030 4400
Myfyrwyr Chapter Mae Chapter yn cynnig aelodaeth am ddim i fyfyrwyr a manteision yn cynnwys gostyngiadau ar docynnau sinema/theatr a phrisiau is yn y Caffi Bar. www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter.
Cadw mewn Cysylltiad/Gwybodaeth Ein e-lythyr wythnosol: E-bostiwch megan.price@chapter.org a nodi “Cylchlythyr” ym mhwnc yr e-bost. Gweithdai a dosbarthiadau: Ewch i www.chapter.org i weld yr hyn sydd ar gael. Mae Chapter yn gartref i gwmnïau ac artistiaid preswyl: Am fwy o wybodaeth ewch i www.chapter.org
Chapter Theatres are supported by the David Seligman donation in memory of Philippa Seligman Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Chapter gratefully acknowledges the support it receives from the following: Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau canlynol: Esmée Fairbairn Foundation Garfield Weston Foundation Colwinston Charitable Trust Waitrose SEWTA Tesco The Clothworkers’ Foundation Dunhill Medical Trust Google Wales Arts International Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Western Power Distribution
Big Lottery Fund Foyle Foundation Admiral Group plc ScottishPower Green Energy Trust Australia Council for the Arts WRAP The Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust The Angel Hotel Ernest Cook Trust Dipec Plastics Nelmes Design
Moondance Foundation Biffa Award Viridor Waterloo Foundation Santander UK The Henry Moore Foundation Arts & Business Cymru Lloyds Aston Martin Austin & Hope Pilkington Trust Gibbs Charitable Trust Bruce Wake Charity
chapter.org
How to book / Sut i Archebu
How to Book
Sut i Archebu
Phone: Box Office 029 2030 4400 (major credit cards accepted). In person: Office Hrs Mon—Sun, 10.00am–8.30pm Online: 24/7 at www.chapter.org Concessions: Only applicable for Students, over 60’s, children, unemployed, disabled people, MAX card, Chapter’s Friends, and Card Holders. Proof must be shown. Group Bookings: Buy 8 tickets, get the 9th Free. Please note: Only one discount is applicable at one time. Tickets cannot be reserved without payment. No latecomers. Only bottled water allowed in the cinema auditoria.
Ffôn: Swyddfa Docynnau — 029 2030 4400 (derbynnir y prif gardiau credyd). Yn bersonol: Oriau Agor Llun-Sul, 10am-8.30pm Ar-lein: 24/7 yn www.chapter.org Consesiynau: Ar gael i fyfyrwyr, pobl 60+ oed, plant, pobl ddi-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX, Ffrindiau Chapter a Deiliaid Cardiau. Rhaid dangos prawf o’ch cymhwyster. Disgownt Grwpiau: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed am ddim Dalier sylw: Dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar y tro. Ni ellir cadw tocynnau heb dalu amdanynt. Dim hwyrddyfodiaid. Dˆwr potel yn unig yn y sinemâu.
Cinema prices
Prisiau’r sinema
Cinema Before 5pm From 5pm Full £4.50 (£4.00) £7.50 (£7.20) Concs £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Card + Conc £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) BARGAIN TUESDAY! All main screening tickets £4.40
Sinema Llawn Disg Card + Conc
(Prices in Brackets) = Any time before the day of screening / online bookings.
(Prisiau mewn cromfachau) = Unrhyw adeg cyn diwrnod y dangosiad / archebion ar-lein.
How to get to Chapter
Sut i gyrraedd Chapter
Travelling: West of the city centre, Market Road, Canton, Cardiff CF5 1QE. So from the city centre it’s a 20 minute walk. Every 5 minutes by bus, No 17 and 18. Bike racks are available on site. www.chapter.org/maps-directions. Parking: There is a car park to the rear of the building and there are a number of public car parks just off Cowbridge Rd East.
Teithio: I’r gorllewin o ganol y ddinas, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE. Mae hi’n daith gerdded o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Bysus rhif 17 ac 18, bob 5 munud. Mae raciau beic ar gael o flaen yr adeilad. www.chapter.org/cy/mapiau-cyfarwyddiadau. Parcio: Mae yna faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus oddi ar Cowbridge Rd East.
d Roa
ket
Springfield Pl.
Roa
St
n sce
Al be
t. rt S
To Cardiff City Centre / I Ganol Dinas Caerdydd
Road
— cycle rack / rac feics
Chapter welcomes disabled visitors. If you have any specific access requirements or questions, please contact our box-office on 029 2030 4400. We are proud to be part of Hynt, www.hynt.co.uk
Mynediad i Bawb
t
Church Rd.
ad
Cre
h kwit
P — car parks / meysydd parcio — bus stop / arhosfan bysus
m ha
L ec Earle Pl.
Hamilto n
Canton / Treganna
St. ay
e Ro a d Eas t
King’s Ro
nd Wy
Lane
ad rn Ro
Gray
. Library St
Gr
Cowbrid g
Penllyn Rd.
St Talbot
Orchard P l.
Se ve
St. Gray
d Harve
BARGEN DYDD MAWRTH! Tocyn i bob prif ddangosiad £4.40
e St . Glynn
Market Pl. treet yS
Ar ôl 5pm £7.50 (£7.20) £5.80 (£5.10) £5.00 (£4.50)
Access for All
af f nd Lla
Mar
from / o 6pm
Cyn 5pm £4.50 (£4.00) £3.50 (£3.00) £3.00 (£2.50)
33
ton
ling Wel
et
Stre
Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad neu gwestiynau penodol, cysylltwch â’n swyddfa docynnau ar 029 2030 4400. Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt, www.hynt.co.uk
34
Accessible Cinema / Sinema Hygyrch
Dementia Friendly Screenings / Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia
Soft Subs & AD screenings / Is-deitlau Meddal + Disgrifiadau Sain
Our new dementia friendly screenings are a great opportunity for people living with dementia to enjoy a film in a relaxed friendly environment. The screenings themselves are shown without adverts or trailers and have slightly brighter lighting throughout the auditorium. Where possible we will screen the film with soft subtitles and audio description available. Following the films there is a chance to socialise with tea and coffee. The screenings are open to anyone living with dementia i.e. those diagnosed with and their family, friends, neighbours or carers. We also welcome charity workers, medical professionals, care home staff, social workers and support staff. Our Dementia Friendly screenings and events are supported by the Rayne Foundation and the Dunhill Medical Trust. £4.50 including a cup of tea or coffee .............. Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. Cefnogir ein dangosiadau a’n digwyddiadau i Bobl â Dementia gan Sefydliad Rayne. £4.50 gan gynnwys paned o de neu goffi
Audio Description and Soft Subtitles are available on many of our films, however, the information may change before going to print so please check our website for details. chapter.org/access .............. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau.34 Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan chapter.org/cy/mynediad-i-bobl-anabl. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau.
You may notice this logo attached to certain films and performance. F–Rating is a new rating for films and performances directed by women, written by women and / or with women on screen and on stage in their own right. .............. Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
029 2030 4400
Soft Subtitles / Is-deitlau Meddal Audio description / Disgrifiadau Sain
Relaxed Screenings / Dangosiadau Hamddenol
TBC TBC
These screenings are recommended to anyone who might benefit from the subtle alterations made to the auditorium environment. Films are screened with the lights raised slightly, the volume turned down, and with the trailers and adverts removed. People can feel free to move around the cinema or make a noise as they feel comfortable. Chapter staff will be on hand to help if you need additional assistance. Unallocated seating. Regular ticket prices apply. .............. Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.
CINEMA JULY / SINEMA GORFFENAF Sat 1
Cin 1 Diary Of A Wimpy Kid: The Long Haul (U) p27 11:00am +3:00pm • A Man Called Ove(15) p16 6:10pm • My Cousin Rachel(12A) p16 8:45pm Cin 2 A Man Called Ove(15) p16 2:30pm • Harmonium(12A) p17 5:55pm • Colossal(15) p17 8:40pm +3:00pm • My Cousin Rachel(12A) p16 5:50pm • Cin 1 Diary Of A Wimpy Kid: The Long Haul (U) p27 11:00am A Man Called Ove(15) p16 8:10pm Cin 2 A Man Called Ove(15) p16 2:30pm • The Graduate(15) p20 5:00pm • Bad Film Club: 50 Shades Darker(18) p17 8:00pm Mon 3 Cin 1 A Man Called Ove(15) p16 2:30pm +6.10pm • My Cousin Rachel(12A) p16 8:45pm Cin 2 Chapter Moviemaker 6:00pm • Colossal(15) p17 8:30pm Sun 2
Tue 4 Wed 5 Thu 6 Fri 7
Cin 1 Cin 2 Cin 1 Cin 2 Cin 1 Cin 2 Cin 1
A Man Called Ove(15) p16 10:30am +8:35pm • Harmonium(12A) p17 1:30pm • My Cousin Rachel(12A) p16 6:15pm • Harmonium(12A) p17 8:20pm The Graduate(15) p20 2:30pm • Colossal(15) p17 6:05pm Colossal(15) p17 10:30am • A Man Called Ove(15) p16 2:30pm+6.10pm • My Cousin Rachel(12A) p16 8:45pm Harmonium(12A) p17 1:30pm+5:55pm • Colossal(15) p17 8:40pm +8:35pm • My Cousin Rachel(12A) p16 2:30pm+6.15pm A Man Called Ove(15) p16 10:30am • Tinted Lens: Colossal(15) p17 6:05pm • Harmonium(12A) p17 8:20pm Colossal(15) p17 1:30pm Carry On Screaming: My Cousin Rachel(12A) p16 11:00am • Churchill(PG) p21 2:30pm +6:15pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:40pm Cin 2 Slack Bay(15) p17 6:00pm • Spaceship(15) p24 8:20pm Sat 8 Cin 1 Rock Dog(PG) p27 11:00am+3:00pm • Disposession + discussion 6:00pm • Churchill(PG) p21 8:45pm Cin 2 Spaceship(15) p24 2:30pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:15pm • Slack Bay(15) p17 8:30pm Sun 9 Cin 1 Rock Dog(PG) p27 11:00am • NT Encore: Salomé 2:00pm • Churchill(PG) p21 6:05pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:25pm Cin 2 Rock Dog(PG) p27 3:00pm • La Strada(PG) p20 5:15pm • Slack Bay(15) p17 7:40pm Mon 10 Cin 1 Alone in Berlin(12A) p21 2:30pm +6:20pm • Churchill(PG) p21 8:45pm Cin 2 Spaceship(15) p24 1:30pm+8:30pm • Slack Bay(15) p17 6:00pm Tue 11 Cin 1 Slack Bay(15) p17 10:30am • Churchill(PG) p21 1:30pm +6:15pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:30pm Cin 2 La Strada(PG) p20 2:30pm • Edith Walks 6:00pm • Slack Bay(15) p17 8:25pm Wed 12 Cin 1 Summer in the Forest(PG) p18 10:30am • BAFTA: A Way Of Life + Q&A 6:00pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:45pm Cin 2 Slack Bay(15) p17 2:30pm+8:15pm • Churchill(PG) p21 6:05pm Thu 13 Cin 1 Churchill(PG) p21 10:30am +8:45pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:20pm Cin 2 Summer in the Forest(PG) p18 2:30pm+8:30pm • Destination Unknown(PG) p20 + Q&A 6:00pm Fri 14 Cin 1 Carry On Screaming: Alone in Berlin(12A) p21 11:00am • David Lynch: The Art Life(15) p22 2:30pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:20pm • Churchill(PG) p21 8:45pm Cin 2 Dementia Friendly: The Straight Story(U) p22 2:00pm • Fairy Tail: Dragon Cry 6:00pm • David Lynch: The Art Life(15) p22 8:20pm Sat 15 Cin 1 Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 11:00am+3:00pm • Churchill(PG) p21 6:15pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:40pm Cin 2 David Lynch: The Art Life(15) p22 2:30pm+6:30pm • Fairy Tail: Dragon Cry 8:30pm Sun 16 Cin 1 Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 11:00am • The Donmar Presents: Julius Ceasar 2:00pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:00pm • Churchill(PG) p21 8:20pm • Cin 2 David Lynch: The Art Life(15) p22 12:00pm + 7:30pm • Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 2:15pm Mulholland Drive + Lavender Screen 5:00pm • David Lynch: The Art Life(15) p22 7:30pm Mon 17 Cin 1 David Lynch: The Art Life(15) p22 2:30pm • Churchill(PG) p21 6:15pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:40pm Cin 2 Chapter 13: The Straight Story(U) p22 6:00pm • David Lynch: The Art Life(15) p22 8:30pm Tue 18 Cin 1 David Lynch: The Art Life(15) p22 10:30am • Churchill(PG) p21 1:30pm+8:45pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:20pm Cin 2 Fairy Tail: Dragon Cry 12:30pm+8:30pm • Mulholland Drive 2:30pm • David Lynch: The Art Life(15) p22 6:30pm Wed 19 Cin 1 David Lynch: The Art Life(15) p22 10:30am • Alone in Berlin(12A) p21 2:30pm • Queerama 6:10pm • Churchill(PG) p21 8:50pm Cin 2 Relaxed Screening: Churchill(PG) p21 1:30pm • Alone in Berlin(12A) p21 6:15pm • David Lynch: The Art Life(15) p22 8:30pm Thu 20 Cin 1 Churchill(PG) p21 10:30am • Alone in Berlin(12A) p21 2:30pm • NT Live: Angels in America - Part One 7:00pm Cin 2 David Lynch: The Art Life(15) p22 1:30pm +6:30pm • Alone in Berlin(12A) p21 8:30pm Fri 21 Cin 1 Carry On Screaming: Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 11:30am • Despicable Me 3(PG) p27 3:00pm • Norman(15) p22 6:10pm • Souvenir(ctba) p23 8:45pm Cin 2 Souvenir(ctba) p23 10:30am • Norman(15) p22 2:30pm • Black Britain on Film 6:00pm • Risk(15) p18 8:20pm Sat 22 Cin 1 Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 11:00am • Despicable Me 3(PG) p27 3:00pm • Late Night Work Club and Friends Panel 6:00pm • Norman(15) p22 8:30pm Cin 2 Hounds of Love(18) p23 12:00pm+8:15pm • Late Night Work Club: Ghost Stories 3:00pm • Late Night Work Club: Strangers 4:00pm • Souvenir(ctba) p23 6:10pm Sun 23 Cin 1 Despicable Me 3(PG) p27 11:00am • Pirates of the Caribbean: Salazar’s…(12A) p27 3:00pm • Norman(15) p22 6:00pm • Souvenir(ctba) p23 8:35pm Cin 2 Risk(15) p18 2:30pm+7:20pm • Manhattan(12A) p20 5:00pm Mon 24 Cin 1 Fireman Sam(U) p27 11:00am • Despicable Me 3(PG) p27 3:00pm • Souvenir(ctba) p23 6:20pm • Norman(15) p22 8:25pm Cin 2 Machines 12:00pm+6:00pm • Hounds of Love(18) p23 2:30pm+8:30pm Tue 25 Cin 1 Despicable Me 3(PG) p27 11:00am • Transformers: The Last…(ctba) p27 3:00pm • Norman(15) p22 6:10pm • Souvenir(ctba) p23 8:45pm Cin 2 Black Britain on Film 10:30am • Relaxed Screening: Manhattan(12A) p20 2 :30pm • Risk(15) p18 6:30pm • Machines 8:30pm Wed 26 Cin 1 Fireman Sam(U) p27 11:00am • Despicable Me 3(PG) p27 3:00pm • Souvenir(ctba) p23 6:20pm • Norman(15) p22 8:25pm Cin 2 Norman(15) p22 10:30am • Machines 1:30pm+6:25pm • Hounds of Love(18) p23 8:30pm Thu 27 Cin 1 Despicable Me 3(PG) p27 11:00am • Transformers: The Last…(ctba) p27 3:00pm • NT Live: Angels in America - Part Two(15) p26 7:00pm Cin 2 Risk(15) p18 10:30am • Souvenir(ctba) p23 1:30pm+6:30pm • Norman(15) p22 8:30pm Fri 28 Cin 1 Despicable Me 3(PG) p27 11:30am • Fireman Sam(U) p27 3:00pm • The Beguiled(ctba) p23 6:20pm • Baby Driver(15) p23 8:35pm Cin 2 Carry On Screaming: In This Corner of the World(12A) p21 10:30am • Whitney: Can I Be Me(15) p19 2:30pm+6:05pm • Seasons in Quincy: The Four Portraits of John Berger(12A) p19 8:20pm Sat 29 Cin 1 Despicable Me 3(PG) p27 11:00am • Transformers: The Last…(ctba) p27 3:00pm • Baby Driver(15) p23 6:10pm • The Beguiled(ctba) p23 8:45pm Cin 2 In This Corner of the World(12A) p21 2:30pm+6:00pm • Whitney: Can I Be Me(15) p19 8:35pm Sun 30 Cin 1 Fireman Sam(U) p27 11:00am • Despicable Me 3(PG) p27 3:00pm • The Beguiled(ctba) p23 6:10pm • Baby Driver(15) p23 8:15pm Cin 2 Whitney: Can I Be Me(15) p19 2:30pm • Destiny(PG) p20 5:00pm • In This Corner of the World(12A) p21 7:15pm Mon 31 Cin 1 Relaxed Screening: Despicable Me 3(PG) p27 11:00am • Transformers: The Last…(ctba) p27 2:30pm • Baby Driver(15) p23 6:05pm • The Beguiled(ctba) p23 8:35pm Cin 2 Summer in the Forest(PG) p18 + discussion 6:00pm • Seasons in Quincy: The Four Portraits…(12A) p19 8:50pm
For a donation of £250 you can adopt a seat as a legacy for a friend, colleague or loved one or simply for a birthday, anniversary or in rememberance. For more information or to begin the process of adopting your seat please contact Jennifer Kirkham 029 2035 3741 / jennifer.kirkham@chapter.org …………… Am gyfraniad o £250, gallwch fabwysiadu sedd fel rhodd i ffrind, cydweithiwr neu’r sawl sy’n annwyl i chi — neu fel anrheg pen-blwydd, pen-blwydd priodas neu er cof am rywun. I gael mwy o wybodaeth neu i gychwyn y broses o fabwysiadu eich sedd eich hun, cysylltwch â Jennifer Kirkham 029 2035 3741 / jennifer.kirkham@chapter.org
Rooms for Hire Chapter offers a number of flexible hire spaces which are suitable for everything from conferences, meetings and lectures to personal film screenings, live gigs, video shoots and private parties.
Hurio Ystafelloedd Rydym yn cynnig nifer o fannau hyblyg i’w hurio, sy’n addas i bopeth, o gynadleddau, cyfarfodydd a darlithoedd i ddangosiadau personol o ffilmiau, gigs byw, tynnu lluniau fideo a phartïon preifat. For more information contact / Am mwy o wybodaeth cysylltwch gyda: hires@chapter.org / 029 2031 1058.