Chapter Mawrth 2017

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Celfyddyd

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: Anneke Kampman, Instructions For A Speculative Synthesiser Performance, Delwedd: Hydra Dewachi; Rebecca Ackroyd, Taken Care, 2015; Devlin Shea, Ankle Grab, 2016


chapter.org

Celfyddyd

03

These Rotten Words Rebecca Ackroyd, David Austen, Johann Arens, Anna Barham, Marie-Michelle Deschamps, Foundation Press, Anneke Kampman, Joanna Piotrowska a Devlin Shea Wedi’i churadu gan George Vasey Sad 18 Mawrth — Sul 11 Mehefin Mae ‘These Rotten Words’ yn cwmpasu ffotograffiaeth, paentio, cerflunwaith, sain a delweddau symudol ac yn canolbwyntio ar natur gorfforol ffurfiau testunol, ystumiol a lleisiol ar gyfathrebu. Caiff pydredd ei ddiffinio fel ‘yr hyn sydd wedi mynd yn bwdr’ ac fel ‘dirywiad’, mewn byd lle mae’r disgwrs cyhoeddus yn cael ei lywio fwyfwy gan ddadleuon wedi’u polareiddio. Mae’r arddangosfa yn mabwysiadu iaith sy’n fwy amodol ac agos-atoch. Mae’r artistiaid yn tynnu sylw at briodweddau corfforol cyfathrebu: mae cyswllt annatod rhwng y geg a’r dwylo ac er bod dwylo yn ein galluogi i lywio deunyddiau, mae’r llais — a’n defnydd o iaith — yn cynnig arf pellach ar gyfer trin y byd o’n cwmpas. Caiff geiriau eu datgysylltu o fwriadau’r awdur. Mae coesau a breichiau yn arnofio. Caiff cyrff eu chwyddo a’u lleihau. Caiff y cyfarwydd ei ddieithrio. Mae pydredd — dadfeilio — yn cynnig cyfle i ail-greu. Mae artistiaid yr arddangosfa yn awgrymu math o

Oriau agor yr Oriel: Maw, Mer, Sad, Sul: 12-6pm, Iau, Gwe: 12-8pm, Llun: Ar gau

adnewyddu, ac yn archwilio posibiliadau a chyfyngiadau y corff a’r llais. Gall testun fod yn gyfrwng ar gyfer alaw yn gymaint ag ystyr. Fe allwn ni siarad cyn i ni wybod yn union beth rydym am ei ddweud. Mae lleferydd yn beth llithrig, ac mae bwriad yn ymwneud â chywair cymaint ag y mae’n ymwneud â chynnwys — mae pob iaith yn cynnwys aneffeithlonrwydd a lacwna. Comisiynwyd ‘These Rotten Words’ gan Chapter i gydfynd â gŵyl Experimentica. Cyflwynir yr Ŵyl rhwng 29 Mawrth a 2 Ebrill — i gael mwy o wybodaeth ewch i dudalennau 4–5. Mae GEORGE VASEY yn guradur ac awdur sy’n gweithio yn Newcastle. Ar hyn o bryd, mae e’n gymrawd curadurol ym Mhrifysgol Newcastle. Cyhoeddwyd ei waith yn Art Review, Art Monthly, Apollo, Frieze a chylchgrawn Kaleidoscope.


Celfyddyd

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Sheree Naqvi; Anti-Cool; Rachel Helena Walsh; Rachel Mars; Keir Cooper & Rose Biggin; Clayton Lee; A.S.

04 029 2030 4400


chapter.org

Celfyddyd

05

Getinthebackofthevan, Katy Baird, Jonny Cotsen, Tim Bromage, Dustin Scott Harvey & Adrienne Wong, Heike Roms a Gareth Llŷr Evans, Gareth Chambers, Rachel Helena Walsh, Thomas Goddard, Yoanna Blikman a Dan Robert Lahiani, Keir Cooper & Rose Biggin, Robbie Synge, Clayton Lee, A.S. (Rosa Casado/Ffion Jones/John Rowley/Richard Huw Morgan), Anti-Cool a Sheree Naqvi a Foundation Press Mer 29 Mawrth — Sul 2 Ebrill * Mae pob un o ddigwyddiadau EXPERIMENTICA yn ddigwyddiadau ‘Talwch be’ fynnwch chi’. I gael mwy o wybodaeth am archebu, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400. EXPERIMENTICA yw gŵyl flynyddol Chapter o gelfyddyd fyw ac eleni byddwn yn trafod Iaith Ddirgel: codau dosbarth cymdeithasol, codau bod yn cŵl a chodau dirgel; iaith byd celf, iaith tecstio a slang. Pwy sy’n cael dewis be’ sy’ ‘mewn’ a be’ sy’ ‘mas’? Pa ieithoedd anweledig sy’n rheoli ein bywydau?

Gan weithio gydag artistiaid lleol a rhyngwladol, nod EXPERIMENTICA yw ehangu gorwelion cynulleidfaoedd a chyflwyno gwaith ledled y ganolfan gelfyddydau — yn y theatrau, y sinemâu, yr oriel a’r caffi bar, a thu hwnt i hynny yn y ddinas ehangach. Mae’r ŵyl yn addo bod yn ddifyr, yn heriol, yn galonogol, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth ac yn boenus — ac yn bopeth arall dan haul! Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau’r ŵyl ar gael ar www.chapter.org.

Experimentica yw’r unig ŵyl o gelfyddyd fyw yng Nghymru sy’n ymroi i ddarparu llwyfan i artistiaid arbrofol ac artistiaid y tu allan i’r brif ffrwd er mwyn iddynt ddatblygu a rhannu eu gwaith. Fe’i cyflwynwyd bob blwyddyn ers 2001. Plîs ystyriwch gefnogi’r ŵyl yn Chapter. Gallwch wneud cyfraniad trwy decstio “EXPM17 £5” at 70070.


Perfformiadau

EVERYMAN YN CYFLWYNO

RIDICULUSMUS

The Romans in Britain gan Howard Brenton

Give Me Your Love

029 2030 4400

Ridiculusmus

06

Mer 1 — Gwe 3 Mawrth 7.30pm Sad 4 Mawrth 2.30pm & 7.30pm 54 CC. Mae offeiriad ifanc o Brydain ar fin cael blas o rym a llygredigaeth y fyddin Rufeinig oresgynnol. Yn y flwyddyn 515 OC, mae dwy chwaer yn ceisio ymdopi yn y byd ôl-apocalyptaidd sy’n dod yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a choncwest y Sacsoniaid o ynys Prydain. Ac, yn 1980 OC, mae swyddog gyda’r SAS yn Iwerddon yn mynd ati i geisio llofruddio arweinydd un o gelloedd lleol yr IRA ond yn ei gael ei hun wyneb yn wyneb â gweledigaethau o’r gorffennol ac awydd mynwesol am heddwch. Golygfeydd treisgar ac o natur rywiol, ynghyd â iaith gref. £12/£10.50 (disgownt ar gael ar gyfer matinées Iau a Sadwrn yn unig). Oed: 16+

Maw 7 + Mer 8 Mawrth 7.30pm Mae’r artistiaid theatr chwedlonol, Jon Haynes a David Woods o Ridiculusmus, yn eu holau â chwedl ddoniol, fregus a dwys yn seiliedig ar ymchwil meddygol arloesol a thystiolaeth go iawn o faes y gad. Mae’r cyn-filwr, Zach, sydd eisiau bod yn seren roc, wedi mynd i fyw mewn bocs cardfwrdd mewn cegin yng ngorllewin Cymru. Mae ei gyfaill Ieuan yn cyrraedd ac yn cynnig gwellhad iddo — ar ffurf capsiwl sy’n cynnwys 3,4 methylenedioxymethamphetamine. Mae e’n honni iddo drin ei straen ôl-drawmatig ei hun â’r cyffur. Wrth iddyn nhw gofio eu gorffennol darniedig, mae Zach a Ieuan yn pendilio rhwng arwriaeth a goleuedigaeth ddryslyd, mewn trafodaeth benfeddwol am wladgarwch, gwrthdaro a siopa yn yr archfarchnad. Sioe ogleisiol a fydd yn eich symud ac yn eich gwaradwyddo. £12, £10, £8. Oed: 14+


Perfformiadau

FROZEN LIGHT AR Y CYD Â’R NEW WOLSEY THEATRE, IPSWICH, YN CYFLWYNO

COMPANY OF SIRENS & GOOD COP BAD COP

07

The Nether

chapter.org

Home: Stori am gyfeillgarwch annisgwyl Gwe 10 Mawrth 11am + 1.30pm Mae Home yn archwilio byd newydd a dieithr, ac yn cwmpasu cynulleidfaoedd ag Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl) mewn stori aml-synhwyraidd am ddarganfyddiad. Home yw cynhyrchiad beiddgar a chyffrous diweddaraf Frozen Light. Nid yw’r byd fel y mae yn eu hatgofion. Ble maen nhw nawr a ble mae eu cartref? Rhaid i Scarlet ac Olive ddysgu sut i oroesi a chreu dyfodol gyda’i gilydd mewn amgylchfyd sy’n llawn pethau annisgwyl. A fydd y sêr yn gwenu ar eu cyfeillgarwch annisgwyl? A sut ân nhw ati i wynebu’r heriau sydd o’u blaenau? £12 (tocynnau am ddim i ofalwyr) Oed: 13+. Addas i gynulleidfaoedd ag Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog

“ Mae’r tîm cyfan yn creu gwaith soffistigedig iawn, â chymysgedd crefftus o gerddoriaeth ac elfennau synhwyraidd eraill. Mae’r cyfan at ei gilydd yn ffres, ac yn anad dim yn anfygythiol a hudolus.” The Herald Scotland **** (Yn sôn am gynhyrchiad blaenorol y cwmni, ‘The Forest’)

The Nether Mer 15 — Sad 18 Mawrth 8pm Mer 22 — Sad 25 Mawrth 8pm, Sad 25 2.30 & 8pm Mae The Nether yn fyd rhyfeddol rhithwir sy’n cwmpasu pob synnwyr. Logiwch i mewn, dewiswch hunaniaeth a mwynhewch bob un o’ch dyheadau. Ar ôl i dditectif ifanc ddod ar draws math annifyr o adloniant, mae ymchwiliad i gorneli tywyllaf y dychymyg yn dechrau. Mae The Nether yn archwilio canlyniadau gwireddu ein breuddwydion a’n dyheadau preifat. Mae cynyrchiadau diweddar Company of Sirens yn cynnwys premieres Cymreig o Dark Vanilla Jungle gan Philip Ridley, Tender Napalm, Mercury Fur a dramâu ffrwydrol Anthony Neilson, Stitching a The Sensor. Bu good cop bad cop yn gweithio’n broffesiynol yng Nghymru ers 1990 ac maent wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y Cyngor Prydeinig am fod ymhlith cwmnïau perfformio cyfoes mwyaf nodedig Prydain. Mae The Nether yn fodd i ddwyn y ddau gwmni ynghyd am y tro cyntaf. Maent yn cydweithio ar fersiwn o nofel gyffro wyddonias arobryn Jennifer Haley. £12/£10 Oed: 16+


Perfformiadau

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Afro Cluster, Alasdair Roberts, Johnny and the Baptists

08

NEWSOUNDWALES YN CYFLWYNO

WYRD WONDER YN CYFLWYNO

Afro Cluster LEVI+

Alasdair Roberts

Sad 11 Mawrth 8pm Mae Afro Cluster yn fand o Gaerdydd a ddewiswyd fel un o 12 grŵp Gorwelion y BBC yn 2016. Maent yn sianeli Fela Kuti, Snarky Puppy, Ozomatli, The Roots & Talking Heads ac yn cyfuno synau awthentig a rhythmau Affro-ffync â hip-hop, ynghyd â geiriau angerddol a gwleidyddol ac alawon ‘Afro-beat’ beiddgar, harmonïau cyfoethog a rhythmau cymhleth. Prawf sicr fod y gerddoriaeth orau yn bodoli rhwng a thu hwnt i ffiniau genre a ffiniau cenedlaethol; un o’r bandiau byw gorau yng Nghymru. £10 Oed: 16+

“ Sŵn awthentig a gwych; maent yn argyhoeddi’n llwyr.” Tom Robinson ***** Buzz Magazine

Johnny and the Baptists Eat The Poor Sad 25 Mawrth 7.30pm Mae tri chwarter o ASau yn filiwnyddion. Mae traean o’r wlad yn byw mewn tlodi. Beth bynnag yw eich tueddiadau gwleidyddol, mae Jonny & The Baptists yn credu ei bod hi’n werth trafod hynny. Ar ôl rhediad hynod lwyddiannus yn y Fringe yng Nghaeredin, mae Eat The Poor yn gomedi gerddorol afreolus o ddoniol am anghydraddoldeb, chwyldro, cyfeillgarwch a brad. Ymunwch â’r digrifwyr cerddorol o fri, Jonny & The Baptists — sêr rhaglenni Radio 4 The Now Show a BBC Live at Television Centre — ar gyfer stori epig am y Brydain fodern. Wrth fynd ati i archwilio’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd, mae bywydau Jonny & The Baptists yn cael eu troi wyneb i waered ar ôl i Jonny fradychu Paddy er mwyn gwneud arian. Wrth i Jonny fwynhau’r bywyd bras gydag Andrew Lloyd Webber a Jerry Hall, mae Paddy yn syrthio i bydew o anobaith a digartrefedd. £12/£11/£10 Oed 14+

Sad 25 Mawrth, Dosbarth Meistr 6pm Perfformiad 8pm Ystyrir Alasdair Roberts yn un o dalentau cerddorol mwyaf unigryw a gwreiddiol Prydain ac fe fydd yn cyflwyno’i arddull gitâr arloesol a’i lais atgofus yn Chapter mewn perfformiad personol ar y cyd â dosbarth meistr ecsgliwsif cyn y sioe. Mae e hefyd yn adnabyddus am ei gydweithrediadau, er enghraifft, yn rhan o The Furrow Collective, a enwebwyd am Wobr Gwerin BBC Radio 2. Mae Alasdair yn tynnu ar draddodiad gwerin cyfoethog ei Alban enedigol a thraddodiadau mannau eraill hefyd er mwyn creu gwaith hardd, swynol a rhyfeddol. £10/£8 Perfformiad £15 Dosbarth Meistr a Pherfformiad

“ Un o feistri technegau scordatura y gitâr ... geiriwr eithriadol ... [mae] sain a mythau newydd yn cael eu naddu o garreg amrwd canu gwerin.” Cylchgrawn Wire.


Ffilm

09

La La Land

Moviemaker Chapter

Mer 1 + Iau 2 Mawrth

Llun 6 Mawrth

UDA/2016/128mun/12A Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Emma Stone, Ryan Gosling

Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@chapter.org.

Fences

chapter.org

Mae Mia yn actores uchelgeisiol a Sebastian yn gerddor jazz. Mae’r ddau’n crafu byw — drwy weini coffi a thrwy chwarae’r piano mewn bariau coctel di-nod. Ond ar ôl blasu llwyddiant, mae ffabrig bregus eu carwriaeth yn dechrau dadfeilio. Â brwdfrydedd heintus, prif actorion carismatig, caneuon hyfryd, lliwiau bywiog a gwaith camera disglair, mae La La Land yn adfer cyfrwng y sioe gerdd i’w hen ogoniant.

Fences

Gwe 3 — Iau 16 Mawrth UDA/2016/139mun/12A. Cyf: Denzel Washington. Gyda: Denzel Washington, Viola Davis, Mykelti Williamson

Mae Troy Maxson wedi chwerwi — cafodd y rhwystrau hiliol eu chwalu ddim ond wedi i’w yrfa ei hun fel chwaraewr pêl-fas yng Nghynghreiriau Pobl Dduon ddod i ben. Erbyn hyn, mae e’n gwneud i’w deulu ddioddef o ganlyniad i’w rwystredigaeth ei hun. Mae ei wraig, Rose, yn gorfod cadw llygad ar y cymysgedd rhyfedd hwn o ddicter ac edifeirwch, mewn addasiad pwerus gan Denzel Washington o ddrama arloesol August Wilson.

RHAD AC AM DDIM (Cadwch docyn ymlaen llaw yn y Swyddfa Docynnau, 029 2030 4400)

BAFTA Cymru yn cyflwyno: Mer 8 Mawrth Ysgrifennu ar gyfer y sgrin I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd Helen Raynor (Mr Selfridge, Baker Boys, Doctor Who a Torchwood) a Cath Tregenna (Law and Order UK, Inspector Lewis, Doctor Who, The Bench a Torchwood) yn siarad am eu dulliau nhw o ysgrifennu ar gyfer y sgrin ac yn sgwrsio gyda Laura Cotton, cynhyrchydd gyda Touchpaper TV.


10

Ffilm

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: The Chamber, Don’t KnockTwice, Don’t Take Me Home

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi rydym yn cynnig tocynnau i weld pob un o’r tair ffilm Gymreig hyn am bris arbennig: £20 / £15 / £13.

Don’t Take Me Home

Don’t Knock Twice

Mer 1 Mawrth

Gwe 31 Mawrth — Iau 6 Ebrill

Cymru/2017/90mins/12Aarf Cyf: Jonny Owen.

Cymru/2016/90mun/15. Cyf: Caradog W James. Gyda: Katee Sackhoff, Lucy Boynton, Javier Botet

Stori anhygoel tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant yn nhwrnamaint Ewro 2016. Mae’r ffilm yn dechrau gyda marwolaeth drasig Gary Speed ac yn dilyn heriau personol Chris Coleman wrth iddo gamu i esgidiau ei ffrind gorau. Ond mae ei dîm yn cyrraedd y rownd gynderfynol ac yn uno’r genedl ar adeg anodd i’r DG a’i chysylltiadau Ewropeaidd.

The Chamber

Gwe 10 — Iau 16 Mawrth Cymru/2016/88mun/TiCh. Cyf: Ben Parker Gyda: Charlotte Salt, Johannes Kuhnke, Elliot Levey

Ffilm gyffro glawstroffobig wedi’i gosod dan y Môr Melyn oddi ar arfordir Gogledd Corea lle mae peilot llong danfor fechan a thîm ‘Special Ops’ o dri dyn yn eu cael eu hunain yn gaeth o dan y dŵr mewn brwydr i oroesi. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Ben Parker ar ôl y dangosiad ar Gwe 10 Mawrth.

“Cnociwch unwaith i’w deffro yn ei gwely, ddwywaith i’w chodi o’r bedd ...” Mae’r ffilm arswyd ysgytwol hon, gan y tîm a greodd The Machine, yn adrodd hanes mam sy’n taer geisio ailgysylltu â’i merch ar ôl iddi ei gadael. Pan ddaw hi’n rhan o chwedl am wrach ddiafolaidd, caiff y fam ei gorfodi i fynd i eithafion i geisio adennill ei phlentyn. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd John Giwa-Amu ar ôl y dangosiad ar Gwe 31 Mawrth.


Ffilm

11

Gyda’r cloc o’r brig: T2 Trainspotting, Lost in France, The Fits

chapter.org

The Fits

Lost in France

Mer 1 + Iau 2 Mawrth

Gwe 3 — Llun 6 Mawrth

UDA/2015/72mun/12A. Cyf: Anna Rose Holmer Gyda: Royalty Hightower, Alexis Neblett, Antonio A.B. Grant Jr.

DG/2016/100mun/TiCh Cyf: Niall McCann

Mae Toni, 11 oed, yn treulio amser gyda’i brawd yn y clwb bocsio lleol ac yn cael ei swyno gan y tîm dawns i ferched hŷn sy’n ymarfer y drws nesaf. Ar ôl i rai o aelodau’r grŵp hwnnw lewygu, mae’r tomboi Toni yn dechrau teimlo’n anesmwyth yn wyneb benyweidd-dra’r merched ac fe gaiff ei denu i gydymffurfio o ran ei gwisg a’i symudiadau.

T2 Trainspotting Mer 1 + Iau 2 Mawrth

DG/2017/117mun/18 Cyf: Danny Boyle Gyda: Ewan McGregor, Ewen Bremner, Jonny Lee Miller, Robert Carlyle

Mae mwy nag 20 mlynedd ers i Renton symud i Lundain ond, bellach, mae e yn ôl yng Nghaeredin, yn awyddus i weld ambell hen ffrind ac osgoi rhai eraill. Mae e eisiau gwybod a oedd y dewisiadau a wnaeth yn y 1990au yn rhai cywir, a gweld hefyd eu goblygiadau. Mae’r dilyniant hwn i’r clasur cinetig gwreiddiol yn cynnwys cymeriadau bythgofiadwy fel Sick Boy, Begbie a Spud.

Dathliad o sîn cerddoriaeth annibynnol yr Alban yn y 90au, a arweiniwyd gan label cwlt Chemikal Underground. Mae’n ffilm sydd yn archwilio cyfeillgarwch, creadigrwydd a cherddoriaeth ac yn cyrraedd ei huchafbwynt ag ail-lwyfaniad o gyngerdd yn Llydaw sy’n dod â chymeriadau at ei gilydd — ar y llwyfan ac oddi arno — nad ydyn nhw wedi gweld ei gilydd ers blynyddoedd. Yn ystod y daith, cawn gwrdd â The Delgados, Bis, Mogwai, Arab Strap a Franz Ferdinand.


Ffilm

029 2030 4400

Wrth i’r ffilm arobryn Certain Women gael ei rhyddhau, rydym yn bwrw golwg ar gelfyddyd fwriadus y gwneuthurwr ffilmiau, Kelly Reichardt, sy’n llwyddo i ddod o hyd i harddwch mewn straeon am bobl yn ceisio dod i ben yng Ngorllewin America.

Certain Women

Old Joy

Gwe 3 — Iau 9 Mawrth

Sul 19 + Maw 21 Mawrth

UDA/2017/107mun/12A. Cyf: Kelly Reichardt Gyda: Michelle Williams, Kristen Stewart, Laura Dern, Lily Gladstone, Jared Harris

UDA/2007/73mun/15. Cyf: Kelly Reichardt. Gyda: Daniel London, Will Oldham, Tanya Smith

Yn yr America wledig mae pedair menyw a chysylltiad llac rhyngddynt yn mynd ati, yn dawel fach, i arloesi. Mae gan y gyfreithwraig Laura gleient anodd; mae Gina yn rheoli fferm ac yn cyflogi ei gŵr di-glem; ac mae’r ranswraig Jamie yn mynychu dosbarthiadau Beth er mwyn dod i’w hadnabod hi’n well.

Mae’r hen ffrindiau, Kurt a Mark, yn aduno ar gyfer penwythnos o wersylla. I Mark, mae’r penwythnos yn gyfle i anghofio’r pwysau sy’n deillio o’r ffaith y bydd, cyn hir, yn dad am y tro cyntaf; i Kurt, mae’n rhan o gyfres hir o anturiaethau diofal. Wrth i’r pâr symud drwy’r goedwig tuag at eu cyrchfan, rhaid iddynt archwilio llwybrau gwahanol eu bywydau unigol.

Sul 5 + Maw 7 Mawrth

Sul 26 + Maw 28 Mawrth

“ Gwaith celfyddydol gan gyfarwyddwraig a chanddi reolaeth lwyr o’i deunydd ... Wrth adael y sinema, cefais fy hun yn edrych ar y merched o’m cwmpas er mwyn ceisio dychmygu eu straeon cudd nhw.” Sight & Sound

Wendy and Lucy UDA/2009/80mun/15. Cyf: Kelly Reichardt. Gyda: Michelle Williams, Will Patton, Will Oldham

Mae Wendy a’i chi, Lucy, yn pacio’r car er mwyn mynd i Alaska. Ar y ffordd, caiff Wendy ei hun yn sownd mewn tref fach yn Oregon — â char diffygiol ac heb geiniog. Mae pethau’n datblygu wrth i Wendy orfod ailgysylltu â chymdeithas er mwyn cael hyd i’r llwybr iawn.

Meek’s Cutoff

Sul 12 + Maw 14 Mawrth UDA/2011/104mun/PG. Cyf: Kelly Reichardt. Gyda: Michelle Williams, Shirley Henderson, Paul Dano

Ar Lwybr Oregon yn 1845 mae wagen goll o wladychwyr yn cymryd crwydryn o Americanwr Brodorol yn wystl, ond mae argyfwng yn codi yn y grŵp — a ddylen nhw ymddiried yn eu harweinydd neu ymddiried yn hytrach yn y gelyn? Mae Reichardt yn uno tirweddau anial â drama bersonol am oroesi mewn fersiwn arw o’r Western Americanaidd.

Night Moves

UDA/2013/112mun/15. Cyf: Kelly Reichardt. Gyda: Jesse Eisenberg, Dakota Fanning, Peter Sarsgaard

Mae tri amgylcheddwyr radical o gefndiroedd gwahanol iawn yn dod at ei gilydd i gymryd rhan ym mhrotest fwyaf difrifol eu bywydau: ffrwydro argae hydroelectrig, sydd yn symbol o’r diwylliant diwydiannol y maen nhw’n ei gasáu. Mae’r ffilm hon yn fyfyrdod llawn tensiwn ar ganlyniadau eithafiaeth wleidyddol a gweithredu i newid y byd.

Certain Women

12


Ffilm

13

20th Century Women

Hidden Figures

Mer 1 — Iau 9 Mawrth

Llun 20 — Gwe 17 Mawrth

UDA/2016/118mun/15. Cyf: Mike Mills Gyda: Annette Bening, Lucas Jade Zumann, Elle Fanning, Billy Crudup, Greta Gerwig

UDA/2017/127mun/PG. Cyf: Theodore Melfi Gyda: Taraji P. Henson, Octavia Spencer, Janelle Monáe, Kevin Costner,

Yn y gomedi gynnes a chwerw-felys hon, wedi’i gosod yn ystod haf 1979, mae’r Dorothea rydd-ei-hysbryd yn ceisio hyfforddi ei mab, Jamie, i ddeall menywod ac mae hi’n gofyn am gymorth y ffotograffydd pync Abbie, sydd yn denant yn ei thŷ preswyl afreolus. Ond er gwaethaf ymdrechion Dorothea, mae yna gryn gystadlu am sylw Jamie — gan Julie, ei ffrind gorau, a chan y tenantiaid eraill.

Stori anhygoel Katherine G. Johnson, Dorothy Vaughan a Mary Jackson a weithiodd y tu ôl i’r llen i drefnu un o’r ymgyrchoedd mwyaf arloesol erioed: lansio John Glenn i’r gofod. Llwyddodd y cyrhaeddiad hwnnw i adfer hyder cenedl a chwyldroi Ras y Gofod. Ac fe lwyddodd y drindod o fenywod AffroAmericanaidd i groesi rhwystrau rhyw a hil ac ysbrydoli cenedlaethau cyfain i freuddwydio.

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: 20th Century Woman, Elle, Hidden Figures

chapter.org

Elle

Gwe 10 — Iau 16 Mawrth Ffrainc/2016/130mun/TiCh. Cyf: Paul Verhoeven Gyda: Isabelle Huppert, Anne Consigny, Christian Berkel

Mae Michèle, rheolwraig cwmni gêmau fideo, yn ymddangos yn anorchfygol i’w chydweithwyr a’i ffrindiau. Ar ôl dioddef ymosodiad arswydus yn ei chartref, mae hi’n benderfynol o ddal y dyn sy’n gyfrifol ac mae’r ddau yn eu cael eu hunain yn rhan o frwydr beryglus am reolaeth.

“ Mae Verhoeven yn arwain y gynulleidfa drwy ffilm yn llawn dryswch ac amwysedd ac yn gwyrdroi ein rhagdybiaethau a’n disgwyliadau bob cam; mae’n anghysurus a beiddgar a heriol.” New York Times

+ Trafodaeth Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar Llun 20 Mawrth Mae Tinted Lens yn gydweithrediad rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ffilm Cymru. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg ar ffilm, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a gwahanol gyflyrau ymwybyddiaeth.


Ffilm

029 2030 4400

Moonlight

It’s Only the End of the World

Gwe 10 — Iau 23 Mawrth

Gwe 10 — Iau 16 Mawrth

UDA/2016/111mun/15. Cyf: Barry Jenkins. Gyda: Mahershala Ali, Shariff Earp, Duan Sanderson

Canada/2017/97mun/15/is-deitlau. Cyf: Xavier Dolan. Gyda: Nathalie Baye, Vincent Cassel, Marion Cotillard

Mewn tair pennod, dilynwn ieuenctid, llencyndod a bywyd Chiron fel oedolyn — mae hwnnw’n ŵr ifanc tlawd, hoyw a du ym Miami y 1980au. Yn fewnblyg ac unig, caiff ei wawdio gan y bechgyn yn yr ysgol sy’n gweld rhywbeth ynddo sydd fel petai’n gyfrinach iddo fe ei hun hefyd. Mae Chiron yn ceisio lloches mewn perthnasoedd annigonol ac mewn syniad gwenwynig o wrywdod, er mwyn ei warchod ei hun rhag y byd.

Ar ôl absenoldeb o 12 mlynedd, mae’r awdur Louis yn dychwelyd i’w dref enedigol, ac yn bwriadu cyhoeddi wrth ei deulu ei fod yn marw. Ond wrth i ddrwgdeimlad ddechrau newid cwrs y prynhawn, mae cwerylon yn datblygu. Mae’r rheiny wedi’u tanio gan unigrwydd ac amheuaeth, wrth i ymdrechion i fod yn empathetig gael eu tanseilio gan anallu pobl i wrando a charu.

Gyda’r cloc o’r brig: Multiple Maniacs, It’s Only the End of the World, Moonlight

14

+ Ymunwch â ni am drafodaeth Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LGBTQI misol, ar ôl y dangosiad am 6pm ar Mer 15 Mawrth

Chapter 13: Multiple Maniacs Llun 20 Mawrth UDA/1970/91mun/18. Cyf: John Waters. Gyda: Divine, David Lochary, Mink Stole, Cookie Mueller, Mary Vivian Pearce, Edith Massey

Dewch i ymuno â ni yn y ‘Cavalcade of Perversion’, sioe deithiol criw o ‘misfits’ y mae eu bywydau a’u dyheadau bob un yn rhyfeddol — ond ddim mor rhyfeddol â dyheadau eu harweinydd, Divine. Mae honno’n gandryll ar ôl clywed am affêr ei chariad. Mae’r ‘celluloid atrocity’ hwn wedi cael ei adfer ac mae’n cynnwys digon o bethau masweddus i wneud sbort am ben cymdeithas barchus. Ymunwch â ni am drafodaeth ar ôl y dangosiad gyda gwneuthurwr ffilmiau Chapter 13, Ben Ewart-Dean.

Clwb Ffilmiau Gwael Knock Off Sul 5 Mawrth

UDA/1998/89mun/18. Cyf: Tsui Hark. Gyda: Jean-Claude Van Damme, Rob Schneider, Lela Rochon

Yn naturiol ddigon, mae JCVD yn chwarae rhan dylunydd ffasiwn yn Hong Kong, sydd yn gorfod ymuno ag asiant gyda’r CIA i frwydro yn erbyn terfysgaeth. Yn ôl y San Francisco Chronicle, mae’r ffilm hon yn “glasur o ffilm parc adloniant, yn llawn sgrechian o’r dechrau i’r diwedd - a dim brêcs, dim plot a dim actio fel y cyfryw.” Ond a oedd eu dyfarniad yn rhy garedig? Bydd sylwebaeth fyw yn cyd-fynd â’r ffilm.


Ffilm

NT Live: Hedda Gabler

Viceroy’s House

Iau 9 Mawrth 7pm Dangosiad encore, Sul 19 Mawrth 1.30pm

Gwe 17 — Iau 30 Mawrth

15

Gyda’r cloc o’r chwith: Hedda Gabler, The Founder, Viceroy’s House

chapter.org

DG/2017/210mun/12A. Cyf: Ivo van Hove Gyda: Ruth Wilson

Mae Hedda a Tesman newydd ddychwelyd o’u mis mêl ond mae eu perthynas eisoes mewn trafferth. Yn sownd yn ei rôl ond yn benderfynol, mae Hedda yn ceisio rheoli’r bobl o’i chwmpas, wrth i’w byd ei hun ymddatod. Mae portread Ruth Wilson o fenyw yn dyheu am ei rhyddid yn rhyfeddol — a dehongliad newydd Patrick Marber o gampwaith Ibsen yn hynod.

NT Live: Twelfth Night Iau 6 Ebrill 7pm

DG/2017/210mun/12A. Cyf: Simon Godwin Gyda: Tamsin Greig, Daniel Rigby, Tamara Lawrence, Doon Mackichan, Daniel Ezra

Mae llong yn dryllio ar y creigiau. Caiff Viola ei chludo i’r lan ond mae ei hefaill, Sebastian, yn cael ei golli. Yn benderfynol o oroesi ar ei phen ei hun, mae Viola’n mynd ati i archwilio’r tir newydd hwn. Ac mae hynny’n gychwyn ar ddrama yn llawn camgymryd cymeriadau a charu angerddol.

DG/2017/106mun/12A. Cyf: Gurinder Chadha. Gyda: Gillian Anderson, Michael Gambon, Hugh Bonneville, Om Puri, Manish Dayal

Ym 1947, mae’r Arglwydd Mountbatten, gor-ŵyr y Frenhines Fictoria, yn derbyn rôl y Rhaglaw olaf, ac yn gyfrifol am drosglwyddo India yn ôl i bobl y wlad ar ôl 300 mlynedd o reolaeth drefedigaethol. Wrth i’r elît gwleidyddol ddod i’r tŷ i ffraeo am yr India annibynnol, daw gwrthdaro i’r amlwg. + Ymunwch â ni am ddangosiad Addas i Bobl â Dementia ar Maw 21 Mawrth

The Founder Gwe 20 — Iau 30 Mawrth UDA/2017/115mun/12A. Cyf: John Lee Hancock. Gyda: Michael Keaton, Nick Offerman, Laura Dern, B. J. Novak

Yn America yn ystod y 1950au, mae’r arwerthwr teithiol, Ray Kroc, yn cwrdd â pherchnogion tŷ bwyta byrgers, Mac a Dick McDonald. Mae system y brodyr o wneud bwyd cyflym yn creu argraff arno ac mae e’n gweld potensial aruthrol yn y busnes. Astudiaeth o uchelgais difoeseg a chreulondeb corfforaethol ac archwiliad amserol a chraff o’r syniad o ‘exceptionalism’ Americanaidd.

“ Ffilm ‘Trumpaidd’ gyntaf y cyfnod newydd hwn.” The New Yorker


16

Ffilm

029 2030 4400

GWYL FFILM WOW 2017 “CODI LLAIS A GWRTHWYNEBU”

Mae Pasport Gŵyl WOW, sy’n cynnig mynediad i holl ffilmiau’r rhaglen, ar gael am £25 (gost. £20).

The War Show

Shadow World

Gwe 17 Mawrth 11.30am

Gwe 17 Mawrth 6pm

Denmarc/Yr Almaen/Syria/2016/100mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Andreas Dalgaard, Obaidah Zytoon

UDA/2016/90mun/15arf. Cyf: Johan Grimonprez. Gyda: Andrew Feinstein, David Leigh, Helen Garlick

Mae’r DJ radio Obaidah Zytoon yn cynnig tystiolaeth eofn am y rhyfel cartref dinistriol yn Syria ac yn cerdded y strydoedd â gwên a chân. Ond buan y daw i deimlo holl rym adweithiol a chreulon y llywodraeth — a hwnnw’n cynnwys artaith a dinistr. Mae ei ffrindiau yn diflannu ac mae hi’n sylweddoli’n gynyddol fod y cyfryngau’n chwarae rhan hollbwysig ym mhethau — ac yn dramateiddio propaganda. Portread personol o grŵp o ffrindiau ifainc ac optimistaidd sy’n awchu am newid.

Golwg graff a deifiol ar y fasnach arfau fyd-eang, y symiau enfawr o arian sy’n cael eu hennill a’r llygredd cysylltiedig. Mae cyfweliadau diddorol yn datgelu’r realiti syfrdanol am rôl ganolog Prydain yn y fasnach fudr hon yn y gobaith y byddwn, o weld beth yn union sy’n digwydd, yn gallu dadwneud yr arswyd — a thrwy hynny sicrhau dyfodol gwell.

By The Time It Gets Dark Gwe 17 Mawrth 2pm

Ffrainc/Yr Iseldiroedd/Qatar/Gwlad Thai/2016/105mun/15arf/ is-deitlau. Cyf: Anocha Suwichakornpong. Gyda: Arak Amornsupasiri, Apinya Sakuljaroensuk, Atchara Suwan

Awn ar daith bensyfrdanol yn y ffilm feiddgar ac anarferol hon, sy’n plethu ynghyd fywydau ymgyrchydd gwleidyddol, gwneuthurwr ffilm, seren pop a gweinyddes, a phob un ohonynt wedi’i gyffwrdd gan gyflafan. Archwiliad pryfoclyd a chwareus o’r cof, o wleidyddiaeth ac o etifeddiaeth ormesol Gwlad Thai. Mae’r ffilm yn gipolwg syfrdanol hefyd ar bosibiliadau lu y cyfrwng sinematig.

+ Ymunwch â ni am drafodaeth banel ar ôl y dangosiad.

Neruda Gwe 17 Mawrth 8.30pm Chile/2016/108mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Pablo Larraín. Gyda: Luis Gnecco, Gael García Bernal, Mercedes Moran

Yn Chile, tua diwedd y 1940au, mae Pablo Neruda yn ffoi rhag gormes y llywodraeth. Mae’r ditectif dygn Peluchonneau yn ei erlid ac mae naratifau’r ddau ddyn yn cydblethu; mae’r ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hunain, un fel ditectif o fri, y llall fel bardd rhamantaidd mawr ac arwr gwerin. Archwiliad treiddgar o’r modd yr ydym yn mynd ati i ysgrifennu straeon ein bywydau ein hunain.

Neruda

Dathliad o amrywiaeth anhygoel ffilm yn fyd-eang wrth i Ŵyl Ffilm WOW ddod â’r gweithiau gorau o sinema’r byd i Chapter. Mae tymor ‘Codi Llais a Gwrthwynebu’ yn cyflwyno ffilmiau grymus i’n hysgogi ni i geisio newid y byd, ac yn cynnwys trafodaethau, gweithdai a chyfleoedd i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd lleol a byd-eang. Gwnewch fwy na gwylio — gweithredwch!


Ffilm

17

The Black Hen

Clash

Sad 18 Mawrth 11.30am

Sad 18 Mawrth 5.30pm

Nepal/2015/90 mun/12A/is-deitlau. Cyf: Min Bahadur Bham. Gyda: Khadka Raj Nepali, Sukra Raj Rokaya, Jit Bahadur Malla

Yr Aifft/2016/97mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Mohamed Diab. Gyda: Nelly Karim, Hany Adel, Tarek Abdel Aziz

Er eu bod yn perthyn i wahanol gastiau a chredoau cymdeithasol, mae Prakesh a Kiran yn ffrindiau pennaf. Mae’r bechgyn yn ffurfio cynllun i wneud ychydig o arian ac yn magu iâr er mwyn gwerthu’r wyau. Ond ar ôl i dad Prakesh werthu’r iâr, mae cyfeillgarwch y bechgyn yn cael ei brofi wrth iddynt geisio dod o hyd i’r aderyn gwerthfawr. Cyfuniad crefftus o hiwmor a thrasiedi sy’n cynnwys perfformiad campus yn y cefndir — gan fynyddoedd yr Himalaya.

Yn yr Aifft, mae cefnogwyr llywodraeth Morsi a phrotestwyr gwrth-Morsi yn ymgynnull ar strydoedd Cairo. Yn yr anhrefn, caiff pobl ddieuog, newyddiadurwyr a gwrthwynebwyr gwleidyddol eu casglu ynghyd a’u taflu i gefn lori. Maent yn llawn tensiwn wrth iddynt aros i glywed beth fydd eu tynged a hynny yn ystod diwrnod hir a phoeth dan glo. Wrth i’r terfysg ffrwydro o’u cwmpas, teimlwn glawstroffobia, dicter, ofn, arswyd ac anobaith — a gobaith hefyd, sydd yn pefrio dan yr wyneb.

Sad 18 Mawrth 2.30pm

Sad 18 Mawrth 8.30pm

Colombia/2010/90 mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Carlos César Arbeláez. Gyda: Hernan Mauricio Ocampo, Hernan Méndez, Nolberto Sanchez

Senegal/2016/95mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Daouda Coulibaly. Gyda: Ibrahim Koma, Inna Modja, Ismael N’Diaye

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: The Black Hen, Wulu, Clash

chapter.org

The Colours of the Mountain

Ym mynyddoedd syfrdanol Colombia, mae Manuel, Julian a Poca Luz yn mwynhau bywyd syml ond, â phara-filwyr a guerrillas yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau, mae rhieni Manuel yn ystyried gadael y fan. I’r bechgyn anwahanadwy, fodd bynnag, y drychineb fwyaf yw bod eu pêl droed werthfawr yn sownd ar gae sy’n llawn ffrwydron. Portread teimladwy o fywyd yng nghysgod gwrthdaro.

Wulu

Mae Ladji yn gweithio’n galed fel gyrrwr bws yn Bamako fel na fydd ei chwaer hŷn, Aminata, yn gorfod gweithio fel putain. Ond ar ôl methu ag ennill dyrchafiad, mae Ladji yn cysylltu â deliwr cyffuriau lleol y mae arno ffafr iddo. Yng nghwmni ei ddau ffrind gorau, mae Ladji yn cychwyn allan ar daith beryglus i gludo cocên. Fel rhyw fath o Scarface ym Mali, mae’r stori arwyddocaol hon am yr Affrica fodern yn llawn gwefr a chyffro.

Mae WOW yn parhau dros y ddalen...


Ffilm

Ambulance

The Future Perfect

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Tomorrow (Demain), The Happiest Day in the Life of Olli Maki

18

Sul 19 Mawrth 11.30am Palestina/2016/80mun/15arf/is-deitlau Cyf: Mohamed Jabaly Yn Gaza, mae Mohamed Jabaly yn codi ei gamera ac yn ymuno â chriw ambiwlans. Mae gwylio arswyd esblygol y rhyfel, wrth i’r criw frysio i ffilmio adladd pob ymosodiad, yn rhoi iddo bersbectif unigryw o arwriaeth a dioddefaint Palestiniaid cyffredin. Mae’r hyn a welwn yn syfrdanol ac anghysurus — ond y mae hefyd yn gwbl hanfodol. Ac mae sylwebaeth ddiemosiwn Jabaly yn chwalu’r rhethreg er mwyn dangos realiti llwm bywyd yn Gaza.

Sul 19 Mawrth 7.20pm

Yr Ariannin/2016/65mun/PGarf/is-deitlau . Cyf: Nele Wohlatz Gyda: Xiaobin Zhang, Saroj Kumar Malik, Mian Jiang

Mae dod o hyd i swydd a dysgu Sbaeneg yn flaenoriaethau pennaf i Xiaobin, ymfudwr ifanc Tseinïaidd yn Buenos Aires. Ond mae’r ddau weithgarwch hynny hefyd yn codi cyfyng-gyngor. Comedi foesau hyfryd a gwreiddiol sydd hefyd yn archwilio terfynau iaith a’r straeon sy’n ein gyrru ni. Enillydd Gwobr Ffilm Nodwedd Gyntaf Orau Gŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno yn 2016

“Dogfen hynod ddiddorol a phrawf o wytnwch personol a chyfun.” Screen International

The Happiest Day in the Life of Olli Maki

Sul 19 Mawrth 8.40pm

Those Who Jump Sul 19 Mawrth 1.30pm Denmarc/2016/80mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Moritz Siebert, Estephan Wagner, Abou Bakar Sidibe

Mewn porthladd Sbaenaidd ar arfordir Môr y Canoldir yng Ngogledd Affrica, mae Malian Abou Bakar Sidibe yn cael gafael ar gamera er mwyn dogfennu bywydau bob dydd ei gyd-ffoaduriaid. Rhwng cyfnodau o ddiflastod a thrafferth, gwelwn eu hymdrechion ofer i groesi’r ffin. Mae golygfeydd personol ac agos-atoch, yn llawn hiwmor stoicaidd, yn cyferbynnu’n huawdl â’r delweddau o deledu cylch cyfyng generig sy’n dadbersonoli bywyd ar y ffin. Dogfen uniongyrchol a dilys am fywydau ffoaduriaid.

Y Ffindir/2016/92mun/12A/is-deitlau. Cyf: Juho Kuosmanen Gyda: Jarkko Lahti, Oona Airola, Eero Milonoff

Mae’r Olli diymhongar (‘y Pobydd o Kokkola’) yn paratoi ar gyfer gornest focsio fawr ac mae’r Ffindir gyfan yn ei gefnogi. Ond ar ôl iddo syrthio mewn cariad, daw’n fwyfwy amlwg nad bocsio yw’r peth pwysicaf yn ei fywyd. Stori ramantus a thrawiadol o gynnil, mewn du a gwyn, sy’n creu teimlad hyfryd o felancoli chwerwfelys. Enillydd Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 2016

Gweithdy am 2pm gyda Hope Not Hate.

Tomorrow (Demain) Sul 19 Mawrth 3.00pm Ffrainc/2015/118 mun/PGarf/is-deitlau. Cyf: Melanie Laurent, Cyril Dion Gyda: Rob Hopkins, Jeremy Rifkin, Vandana Shiva

Wrth fynd ati i daflu goleuni ar y cynlluniau go iawn sydd eisoes yn cael effaith, cawn olwg ar yr hyn a allai fod, yfory. Mae’r ffilm ysbrydoledig a chadarnhaol hon yn archwilio atebion sydd yn hygyrch i bawb ac yn tynnu sylw at waith arloeswyr sy’n ailddiffinio amaethyddiaeth, ynni, yr economi, democratiaeth ac addysg — ac yn grymuso dinasyddion y byd er mwyn datrys ein hargyfwng ecolegol.

Gyda chymorth Cronfa Gŵyl Ffilm y BFI, sydd yn dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol


Ffilm

19

O’r chwith i’r dde: Age of Shadows, Denial

chapter.org

The Salesman

Denial

Gwe 17 — Iau 30 Mawrth

Gwe 31 Mawrth — Mer 5 Ebrill

Iran/2016/143mun/TiCh. Cyf: Asghar Farhadi. Gyda: Shahab Hosseini, Taraneh Alidoosti

DG/2016/110mun/12A. Cyf: Mick Jackson. Gyda: Rachel Weisz, Timothy Spall, Tom Wilkinson, Andrew Scott

Ar ôl i’w fflat gael ei difrodi, mae Emad a Rana, cwpwl ifanc sy’n byw yn Tehran, Iran, yn gorfod symud i fflat arall. Ar ôl cyrraedd yno, mae ffrwydrad sydyn o drais, sy’n gysylltiedig â’r tenant blaenorol, yn newid eu bywydau mewn modd dramatig ac yn creu tensiwn rhwng y gŵr a’r wraig.

Yn y 1990au, rhoddodd y Dr Deborah E. Lipstadt ddarlith am ei llyfr nodedig, ‘Denying the Holocaust’. Yn ystod y ddarlith, torrodd David Irving ar ei thraws, a’i herlyn drwy’r llysoedd wedi hynny am enllib. Roedd yn rhaid i Deborah ymladd brwydr am wirionedd hanesyddol er mwyn profi ei datganiadau am Irving. Golwg hynod amserol ar ffug newyddion a safbwyntiau’r Alt-Right.

Enwebiad am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau, enillydd Gwobr yr Actor Gorau yn Cannes.

Age of Shadows Gwe 24 — Iau 30 Mawrth De Corea/2016/140mun/TiCh. Cyf: Jee-Woon Kim. Gyda: Byung-hun Lee, Yoo Gong, Kang-ho Song

Yn ystod y 1920au, mae capten gyda’r heddlu yn Corea, Lee Jung-chool, yn mynd ar gwest arbennig ar ran y Japaneaid. Rhaid iddo ymdreiddio i’r gwrthwynebiad arfog sy’n ymladd am annibyniaeth. Mae arweinydd y gwrthwynebiad yn synhwyro ei fod yn cael ei dwyllo ac yn sylweddoli y gall — ddim ond iddo drin y sefyllfa’n iawn — arwain y dŵr i’w felin ei hun. Mae gêm gyfrwys yn datblygu rhwng Kim Woo-jin a Lee. Stori rymus am deyrngarwch cyfnewidiol a phris seicolegol ufuddhau i orchmynion.

“Mae Spall yn llwyddo’n rhyfeddol i bortreadu twyllwr slic ac obsesiynol sydd, yn ei hanfod, yn fwystfil mewn siwt ddrud.” Richard Roeper, Chicago Sun-Times + Trafodaeth Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar Llun 3 Ebrill

Mae Tinted Lens yn gydweithrediad rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ffilm Cymru. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg ar ffilm, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a gwahanol gyflyrau ymwybyddiaeth.

The Student Gwe 31 Mawrth — Mer 5 Ebrill Rwsia/2016/118mun/TiCh. Cyf: Kirill Serebrennikov. Gyda: Pyotr Skvortsov, Viktoriya Isakova, Yuliya Aug

Mae Venya yn dod i gredu bod y byd yn mynd a’i ben iddo ac, o’r herwydd, yn dechrau herio moesau a chredoau yr oedolion o’i gwmpas. O sbeit, mae e’n ymosod ar ei fam, sydd wedi ysgaru, yn protestio yn erbyn datblygiadau addysgol ac yn gelyniaethu ei gyd-ddisgyblion benywaidd. Astudiaeth achos drydanol o gymdeithas Rwsia dan arweiniad Pwtin a chanlyniadau anesmwyth y cyfuniad o grefydd a grym gwleidyddol.


20

Ffilm

029 2030 4400

Sinema Hygyrch Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

A Monster Calls Sad 4 + Sul 5, Sad 11 + Sul 12, Sad 18 Mawrth UDA/2016/120mun/12A. Cyf: JA Bayona Gyda: Felicity Jones, Sigourney Weaver, Liam Neeson, Lewis MacDougall

Mae Conor yn fachgen ifanc sy’n methu ag ymdopi â salwch ei fam. Caiff ei fwlio gan blant yr ysgol ond daw o hyd i gyfaill annisgwyl pan ddaw anghenfil i ffenest ei ystafell wely. Ac mae’r anghenfil hynafol a gwyllt hwnnw yn helpu Conor i ddod o hyd i’w ddewrder a’i ffydd. Stori ysblennydd wedi’i haddasu o nofel Patrick Ness.

Ballerina

Sad 4 + Sul 5, Sad 11 + Sul 12, Sad 18 + Sul 19 Mawrth Ffrainc/2016/89mun/U. Cyf: Éric Warin, Eric Summer Gyda lleisiau: Elle Fanning, Dane DeHaan, Maddie Ziegler, Carly Rae Jepsen

Mae’r ferch amddifad Félicie yn breuddwydio am fod yn falerina ac, â chymorth ei ffrind gorau Victor, mae hi’n llwyddo i ddianc o’r cartref i blant amddifad a theithio’r holl ffordd i Baris er mwyn dilyn ei breuddwyd.

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau. Is-deitlau Meddal

I’w cadarnhau

Disgrifiadau Sain

I’w cadarnhau

Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. Cefnogir ein dangosiadau a’n digwyddiadau i Bobl â Dementia gan Sefydliad Rayne.

The Lego Batman Sad 25 + Sul 26 Mawrth

UDA/2017/104mun/U. Cyf: Chris McKay Gyda lleisiau: Will Arnett, Jenny Slate, Ralph Fiennes, Mariah Carey, Zach Galifianakis

Mae yna newidiadau mawr ar droed yn Gotham, ac os ydyw am achub y ddinas o afael y Joker drwg, mae’n bosib y bydd yn rhaid i Batman roi’r gorau i fod yn vigilante unigol a gweithio gydag eraill. Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddo ddelio hefyd gyda’r cyfrifoldeb o fagu plentyn ac efallai, efallai, ddysgu chwerthin ryw ychydig.

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.

Dangosiadau Hamddenol Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.


chapter.org

Addysg

‘Sewcials’ Chapter — Gweithdai y Gwanwyn Dyddiau Sul: 12, 19, 26 Mawrth Dyddiau Sul: 2, 23, 30 Ebrill Dechreuwyr a Datblygwyr: 1.30pm-3pm 8 -12 oed Delfrydol ar gyfer pobl ifainc sy’n dechrau gwnïo (ac i’r rheiny sydd am ymarfer eu sgiliau sylfaenol).

Dosbarth Canolradd: 3.30pm-5pm 10-14 oed

Byddwn yn dysgu am batrymau, yn datblygu ein sgiliau gyda’r peiriant gwnïo ac yn gweithio gyda llawer o ffabrigau newydd. Cost: £40 am dymor o chwe wythnos. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, archebwch mewn da bryd rhag colli allan. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â learning@chapter.org neu ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadw lle — 02920 304400

Dangosiadau Ffilm i Ysgolion Detholiad o ddangosiadau ffilm RHAD AC AM DDIM i ysgolion. Cysylltwch â learning@chapter.org i gael mwy o wybodaeth. Mer 1 Mawrth 10am: The Fits (12A) — Wrth hyfforddi yn y gampfa leol, mae’r tomboi 11 oed, Toni, yn cael ei swyno gan grŵp o ddawnswyr. Ond wrth iddi geisio dod o hyd i’w lle yn y grŵp hwnnw, mae hi’n ei chael ei hun mewn perygl wrth i nifer o’r aelodau ddechrau llewygu. Mer 8 Mawrth 10am: The Eagle Huntress (U): Stori Aisholpan, merch 13 oed, sy’n hyfforddi i fod y ferch gyntaf erioed yn ei theulu Kazakh i hela eryrod. Mer 15 Mawrth 10am: Hunt For The Wilderpeople (12A): Mae cwest cenedlaethol yn cael ei lansio er mwyn dod o hyd i blentyn gwrthryfelgar a’i ewythr maeth sydd wedi mynd ar goll yn nhir gwyllt Seland Newydd. Mer 22 Mawrth 10am: Whale Rider (PG): Stori gyfoes am gariad, gwrthodiad a buddugoliaeth wrth i ferch Maori ifanc frwydro i wireddu tynged y mae ei thad cu yn gwrthod ei chydnabod. Mer 29 Mawrth, 10am: Queen of Katwe (PG): Mae byd merch o Uganda yn newid yn sydyn ar ôl iddi ddechrau chwarae gwyddbwyll.

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2017

Sad 4 Mawrth, Sad 11 Mawrth 10.30am–2.30pm Sesiynau unigol yn rhan o’r Academi Ffilm i Bobl Ifainc. Ym mis Mawrth, byddwn yn archwilio rolau a chyfrifoldebau’r Cyfarwyddwr a’r Golygydd, drwy gyfrwng tasgau ymarferol a thrafodaethau grŵp rhyngweithiol. Yn dilyn egwyl fer am ginio, bydd yna ddangosiad, gyda chyflwyniad arbennig, o ffilm sy’n enghreifftio’r pynciau dan sylw.

Sad 4 Mawrth: ‘Iawn, ry’ch chi eisiau bod yn gyfarwyddwr?’ Sad 11 Mawrth: ‘Sut i olygu ffilm’ Mae angen pecyn bwyd ar gyfer pob diwrnod. £12 y sesiwn

I gael mwy o fanylion neu i gadw lle, anfonwch e-bost at learning@chapter.org gan nodi ‘Academi Ffilm Pobl Ifainc’ ym mhennawd yr e-bost. Gallwch gadw lle hefyd drwy ffonio 02920 304400

21

Gwobr Ffilm Fer Ewart Parkinson 2017 Diolch i grant hael gan Sefydliad Brainwave, mae Chapter yn falch iawn o gyhoeddi cystadleuaeth ffilm newydd i bobl ifainc rhwng 15 a 21 oed. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei hategu gan ddau Ddosbarth Meistr penwythnos o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ym mis Ebrill ac ym mis Mehefin. Bydd yna dri gweithdy ffilm hanner diwrnod yr un ym mis Mai, mis Gorffennaf a mis Medi hefyd. Dylai ffilmiau fod rhwng tair a phum munud o hyd, ac fe fydd yna dri dyfarniad ariannol: am y sgript orau, am y ffilm orau ac am y defnydd gorau o animeiddio. Y dyddiad cau fydd 30 Tachwedd ac fe gyhoeddir enwau’r enillwyr mewn digwyddiad arbennig ym mis Ionawr 2018.

Dosbarth Meistr 1 — Gwneud Ffilmiau: Sad 1, Sul 2 Ebrill 10am — 4pm Wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifainc 13-19 oed, a than arweiniad aelod o’r diwydiant proffesiynol, bydd y Dosbarth Meistr hwn yn cynnwys nifer o dasgau ymarferol, cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp rhyngweithiol er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn dilyn yr arferion gwaith gorau wrth gynllunio eu ffilmiau. Cost £35. 12 o lefydd sydd ar gael.

Gweithdai ‘Crafty Pictures’

Sad 4, 11,18, 25 Mawrth, 1.50pm-2.50pm 7–12 oed Clwb Sinema Newydd Sbon Chapter i blant 7+ oed. Bob wythnos am awr, cyn y Ffilm Nodwedd i’r Teulu Cyfan, byddwn yn cyflwyno gweithdy creadigol a chyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft gwahanol, pob un ohonynt yn ymwneud â’r ffilm a gyflwynir am 3pm. Ydych chi wrth eich bodd yn gludo, yn torri a chreu, ac yn darlunio a phaentio? Os felly, ac os ydych chi’n mwynhau gwylio ffilmiau, byddwch chi wrth eich bodd â Crafty Pictures!

Sad 4 + 18 Mawrth: Ballerina Sad 11: A Monster Calls Sad 25: The Lego Batman


22

Chapter Mix

029 2030 4400

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd

Cylch Chwedleua Caerdydd

Sláinte! Gŵyl o Gwrw Gwyddelig

Iau 2 Mawrth 7.30pm

Sul 5 Mawrth 8pm

Cyfle i ddathlu cyhoeddi rhifyn y Gwanwyn o gylchgrawn Poetry Wales, yng nghwmni’r golygydd, Nia Davies. Darlleniadau gan y bardd, Eric Ngalle Charles, a’r artist / bardd, Nicky Arscott.

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

Gwe 17 Mawrth / Diwrnod Sant Padrig tan ddydd Sul 19 Mawrth

Sesiwn meic agored hefyd. £2.50 (wrth y drws)

Golden Thread Playback Theatre Sad 4 Mawrth 1pm Perfformiadau pwerus ac unigryw lle rhoddir bywyd newydd i straeon y gynulleidfa yn y fan a’r lle, o flaen eich llygaid! £7 / £5 / £3 Plant / Am ddim i blant dan 5 oed (wrth y drws)

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30-8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

Gŵyl Ddawns i’r Teulu Cyfan Gwe 7 + Sad 8 Mawrth, 4pm & 6pm, Sad 8 Ebrill am 12pm, 3pm & 5pm Sioeau awr o hyd RHAD AC AM DDIM i’r teulu cyfan!

Clwb Comedi The Drones Gwe 3 + Gwe 17 Mawrth Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau am 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis.

£4 (wrth y drws)

Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 9 Mawrth 2pm DARLUNIO LLYFRAU PLANT: JOHN ERICSON Fel oedolion, rydym yn cario yn ein pennau nifer fawr o ddelweddau plentyndod, ac mae rhai o’r rheiny’n deillio o’r darluniau a welsom mewn llyfrau pan yn blant. Yn y ddarlith liwgar ac atgofus hon, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ddarluniau o lyfrau, ac yn bwrw golwg hefyd ar fywydau diddorol nifer o ddarlunwyr enwog — pobl fel Beatrix Potter, Arthur Rackman a Howard Pyle. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

Jazz ar y Sul Sul 19 Mawrth 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM

Gêmau Chwe Gwlad Cymru Gwe 10 Mawrth 8.05pm Cymru v Iwerddon Sad 18 Mawrth 2.45pm Ffrainc v Cymru, i’w dilyn gan Iwerddon v Lloegr (Dangosir y gêmau yn y Gofod 1af)

Nid dim ond Guinness sydd gan Iwerddon i’w gynnig — mae diwydiant bragdai micro / cwrw crefftus yr ynys wedi blodeuo dros y degawd diwethaf. Mae bragwyr fel Blacks o Kinsale a’r Eight Degrees Brewing Co wedi agor y ffordd i fragdai annibynnol llai ac mae diwylliant tafarndai Iwerddon bellach yn ffynnu. Byddwn yn cyflwyno detholiad o gwrw crefftus gorau’r Ynys Werdd y mis hwn — mewn da bryd ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Sant Padrig!

ChapterLive Gwe 24 Mawrth 9pm Ymunwch â ni yn ein Caffi Bar i glywed cerddoriaeth fyw wedi’i churadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill. Y mis hwn bydd gennym setiau gan The Bug Club, sy’n cyfuno sŵn gitâr melodig gyda harmonïau lleisiol, a’r canwr/cyfansoddwr, Rob Lear. RHAD AC AM DDIM

Awr y Ddaear 2017 Sad 25 Mawrth 8.30pm-9.30pm Rhwng 8.30pm a 9.30pm ar nos Sadwrn 25 Mawrth, 2017, bydd pobl ar draws y byd yn diffodd eu goleuadau ar gyfer Awr y Ddaear — dathliad byd-eang o’n planed anhygoel wedi’i drefnu gan y WWF. Mae Chapter yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Awr y Ddaear eleni.


chapter.org

Cefnogwch Ni

23

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn — ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid.

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40

Chwilio am anrheg i ffrind neu aelod o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich mysg beth am brynu tanysgrifiad i Gynllun Ffrindiau Chapter? I gael mwy o wybodaeth am roi aelodaeth fel rhodd, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau.

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.


24

Cymryd Rhan

029 2030 4400

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA

Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds

Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs

Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda

A’r holl unigolion hynny a’n cefnogodd ni mor hael yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi hynny


chapter.org

Gwybodaeth

25

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

cen res mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.