Chapter Mai 2017

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


Celfyddyd

Delwedd y clawr: Yama Warashi, From Now On, p10. Chwith: James Richards, 2017

02 029 2030 4400


Celfyddyd

03

James Richards, Astudiaeth ar gyfer Portread, delwedd o’r cynhyrchiad. Delwedd gyda charedigrwydd Amgueddfa Schwules*, Berlin.

chapter.org

Cymru Yn Fenis: James Richards Y mis hwn, rydym yn mynd i Arddangosfa Ryngwladol rhif 57 — Biennale Celfyddyd Fenis — i gyflwyno ‘Cymru yn Fenis’, arddangosfa unigol gan yr artist Cymreig nodedig, James Richards. Mae Richards, a anwyd yng Nghaerdydd, yn ymddiddori ym mhosibilrwydd y wedd bersonol oddi mewn i anhrefn y cyfryngau torfol. Mae’n cyfuno fideo, sain a delweddau llonydd er mwyn creu gosodiadau, darnau byw a digwyddiadau wedi eu curadu. Mae ei waith yn gwneud defnydd o fanc cynyddol o ddeunydd fideo sy’n cynnwys darnau o sinema, gweithiau gan artistiaid eraill, deunydd ‘camcorder’, sioeau teledu hwyr-y-nos a deunydd archif. Mae ei osodiadau bwriadus yn cynnwys elfennau cerfluniol, sinematig, acwstig, cerddorol a churadurol a’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu gwaith o ddwyster rhyfeddol. Cyflwyniad ‘Cymru yn Fenis’ yw’r comisiwn cyntaf o bwys i Richards ei dderbyn ar gyfer Biennale rhyngwladol ac fe fu’r artist ar gyfnod preswyl o ddeufis yn Chapter, lle datblygodd waith yn ei stiwdio ac ar y cyd â myfyrwyr o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Mae’r gwaith newydd yn cynnwys gosodiad sain safle-benodol sy’n symud ar hyd amrywiaeth eang o genres a ieithoedd cerddorol — o sgorau rhythmig i ddilyniannau a grëwyd ar sail recordiadau maes. Mae’r gwaith gorffenedig yn brofiad sinematig ac aml-synhwyraidd. Caiff cyfres o weithiau ychwanegol, sy’n cynnwys samplau archifol a darnau cerddorol wedi’u hailadrodd a’u hailweithio, ei harddangos yn y fan hon am y tro cyntaf, ochr yn ochr â gwaith fideo

newydd a gwblhawyd ar y cyd â’r artist, Steve Reinke. Mae Richards yn tynnu ar berthnasedd diwylliannol ac emosiynol ei ddeunyddiau ac yn creu cydchwarae trawiadol ac eliptig rhwng seiniau, delweddau symudol a delweddau llonydd. Mae e’n creu gofod myfyrgar, lle gall y gwyliwr ddod o hyd i gysylltiadau personol. Gallwch weld gweithgarwch diweddaraf tîm Fenis a thîm celfyddydau gweledol Chapter drwy ddilyn @ chaptergallery ar Twitter ac Instagram, neu ewch i wefan www.experiencewalesinvenice.org. Bu presenoldeb Cymru yn Fenis yn rhan hanfodol o’r calendr artistig ers i’r wlad ymddangos yn y Biennale Rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2003. Ers hynny bu’r Biennale yn llwyfan ardderchog ar gyfer celfyddyd weledol o Gymru a phroffil ryngwladol ein gwlad — ac yn fodd hefyd o gyfeirio yn ôl at Gymru drwy gyfrwng teithiau arddangosfeydd a mentrau cysylltiedig, fel y Rhaglen Oruchwylio, adnoddau addysgol a sgyrsiau. Cafodd arddangosfa ‘Cymru yn Fenis’ ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad gan Lywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Cafodd arddangosfa James Richards ei churadu gan Hannah Firth a’i rheoli gan Chapter, Caerdydd. Ein partneriaid yn 2017 yw g39, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


04

Celfyddyd

029 2030 4400

These Rotten Words Tan ddydd Sul 11 Mehefin

Rebecca Ackroyd, David Austen, Johann Arens, Anna Barham, Marie-Michelle Deschamps, Foundation Press, Anneke Kampman, Joanna Piotrowska a Devlin Shea Wedi’i churadu gan George Vasey

Mae ‘These Rotten Words’ yn cwmpasu ffotograffiaeth, paentio, cerflunwaith, sain a delweddau symudol ac yn canolbwyntio ar natur gorfforol ffurfiau testunol, ystumiol a lleisiol ar gyfathrebu. Caiff pydredd ei ddiffinio fel ‘yr hyn sydd wedi mynd yn bwdr’ ac fel ‘dirywiad’, mewn byd lle mae’r disgwrs cyhoeddus yn cael ei lywio fwyfwy gan ddadleuon wedi’u polareiddio. Mae’r arddangosfa yn mabwysiadu iaith sy’n fwy amodol ac agos-atoch. Mae’r artistiaid yn tynnu sylw at briodweddau corfforol cyfathrebu: mae cyswllt annatod rhwng y

geg a’r dwylo ac er bod dwylo yn ein galluogi i lywio deunyddiau, mae’r llais — a’n defnydd o iaith — yn cynnig arf pellach ar gyfer trin y byd o’n cwmpas. Caiff geiriau eu datgysylltu o fwriadau’r awdur. Mae coesau a breichiau yn arnofio. Caiff cyrff eu chwyddo a’u lleihau. Caiff y cyfarwydd ei ddieithrio. Mae pydredd — dadfeilio — yn cynnig cyfle i ail-greu. Mae artistiaid yr arddangosfa yn awgrymu math o adnewyddu, ac yn archwilio posibiliadau a chyfyngiadau y corff a’r llais. Gall testun fod yn gyfrwng ar gyfer alaw yn gymaint ag ystyr. Fe allwn ni


chapter.org

Celfyddyd

05

Gyda’r cloc o’r chwith eithaf: David Austen, Untitled, 12.4.06. Delwedd gyda chaniatâd caredig yr artist ac Ingleby, Caeredin, Edinburgh; Anneke Kampman, Instructions For A Speculative Synthesiser Performance, Delwedd: Hydra Dewachi; Devlin Shea, Ankle Grab, 2016

siarad cyn i ni wybod yn union beth rydym am ei ddweud. Mae lleferydd yn beth llithrig, ac mae bwriad yn ymwneud â chywair cymaint ag y mae’n ymwneud â chynnwys — mae pob iaith yn cynnwys aneffeithlonrwydd a lacwna. Mae GEORGE VASEY yn guradur ac awdur sy’n gweithio yn Newcastle. Ar hyn o bryd, mae e’n gymrawd curadurol ym Mhrifysgol Newcastle. Cyhoeddwyd ei waith yn Art Review, Art Monthly, Apollo, Frieze a chylchgrawn Kaleidoscope. Oriau Agor yr Oriel: Maw, Mer, Sad, Sul: 12–6pm, Iau,Gwe: 12–8pm, Ar gau ar ddydd Llun

Sgyrsiau am Bedwar Sad 6 + 20 Mai, 4pm

Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r ‘Sgyrsiau am 4’ yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni!


06

Art Car Bootique

029 2030 4400


chapter.org

Art Car Bootique

07

ART CAR BOOTIQUE 2017 Mae Chapter a Something Creatives yn falch iawn o gyflwyno Art Car Bootique eleni — CHWYLDRO! Sul 28 Mai 11am-6pm (y tu allan yn y maes parcio) 6-11.30pm (yn y Caffi Bar) Thema’r Art Car Bootique eleni yw CHWYLDRO! a bydd yn ystyried y 100 mlynedd ers un o’r adegau mwyaf radical yn hanes y byd, sef y Chwyldro yn Rwsia. Yn rhan o Ŵyl Rwsia 17 a gynhelir ledled y ddinas, rydym yn gofyn i artistiaid a chrefftwyr rannu eu gweledigaethau nhw o’r CHWYLDRO, yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Ers ei sefydlu yn 2011, bu’r digwyddiad hwn, sy’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd stryd ardderchog, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu, yn ddathliad egnïol o gymuned greadigol de Cymru. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig — bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu mwynhau ynghyd â cherddoriaeth fyw a pherfformiadau ar y llwyfan. Gyda chefnogaeth Ffrindiau Chapter.

www.facebook.com/artcarbootique www.artcarbootique.com www.chapter.org www.somethingcreatives.com

Ffrindiau Chapter Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy'n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd yn y Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. I gael manylion pellach, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 029 20 30 4400


Perfformiadau

Everyman — Top Girls

FLUX COLLECTIVE YN CYFLWYNO

029 2030 4400

Liz Agiss

08

Maw 2 — Sad 6 Mai 7.30pm Matinée Sad 2.30pm

Mae Top Girls yn agor mewn parti cinio doniol, tywyll a rhyfeddol yng nghwmni menywod o bwys yn y meysydd diwylliannol a hanesyddol. Maent yn dathlu cyraeddiadau Marlene, wrth iddi gael ei henwi’n Gyfarwyddwraig Asiantaeth Gyflogaeth ‘Top Girls’. Cawn gip ar fodolaeth gyfrwys a siarp Marlene a’r merched sy’n byw yn ei byd. Gwelwn sut mae ei bywyd hithau a bywydau’r rheiny sydd o’i chwmpas yn cael eu heffeithio gan ei phenderfyniadau. Gwelwn hefyd beth mae menywod yn ei ildio ac yn ei ennill pan fyddant yn ddigon rhydd i ymddwyn fel dynion. Beth mae Marlene wedi gorfod rhoi’r gorau iddo er mwyn bod yn ‘Top Girl’? Wedi’i gosod yn ystod blynyddoedd cynnar Thatcheriaeth, mae’r ddrama hon yn edrych ar yr hyn y mae ei angen ar ferch i lwyddo, gan ofyn a ddylid gosod yr ymdrechu digyfaddawd am gyflawniad personol uwchlaw math arall o ffeministiaeth sy’n dathlu greddf merched i ofalu am ac i ddymuno’r gorau i’r bobl o’u cwmpas. £12/£10 (disgownt ar ddydd Iau a matinée Sad yn unig)

Sioe Raddedigion CSM. Sad 13 Mai 3pm

Dewch i archwilio fflwcs cerddoriaeth. Mae’r Flux Collective yn grŵp o artistiaid creadigol sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Yn glo ar dair blynedd o astudiaethau manwl ym Mhrifysgol De Cymru, ar gwrs Sain Greadigol a Cherddoriaeth, dyma grŵp cyffrous a newydd o gerddorion sy’n dod at ei gilydd i arddangos eu talentau. Grŵp o unigolion unigryw sy’n ceisio herio, cwestiynu a mynegi eu syniadau am y llif cyson o newidiadau — y fflwcs — sydd wrth galon cerddoriaeth. Digwyddiad rhad ac am ddim


Perfformiadau

CYD-GYNHYRCHIAD GAN GANOLFAN GELFYDDYDAU BATTERSEA A THEATR IOLO

Liz Aggiss Slap and Tickle

09

Gyda'r cloc o'r chwith: Reduced Womanhood, Dark Corners, Stuart Goldsmith

chapter.org

Dark Corners gan Polarbear Llun 8 Mai, 7pm

Dw i’n anniben. Wastad wedi bod. Syniadau ar wasgar. Meddyliau wedi’u sgriblo. Dyw fy syniadau ddim yn daclus. Mae fy syniadau yn chwerthin ac yn dadlau ymysg ei gilydd. Maent yn gweiddi ac yn ymladd. Ac weithiau maent yn cuddio. Beth sy’n digwydd pan ddaw’r gorffennol i wrthdrawiad â’r dyfodol? Perfformiad storïol newydd i bobl ifanc gan Polarbear am y mannau hynny yn eich ymennydd lle mae pethau’n cuddio — a’r hyn sy’n digwydd pan ddaw’r pethau yna allan i chwarae. Polarbear, neu Steve Camden, yw un o’r artistiaid llafar mwyaf nodedig yn y DG ac mae e’n awdur y nofelau i oedolion ifanc, Tape a It’s About Love. £10. Dan 18 oed: £6 Sioe wedi'i bwriadu ar gyfer pobl ifanc 11-16 oed

CWMNI THEATR THE VOICES OF EVE

Voices of Eve: Reduced Womanhood

Maw 9 — Sad 13 Mai 7.30pm Matinée Sad 2.30pm

Mae chwech o fenywod yn adrodd hanes jig-so am eu bywydau eu hunain. Chwe moment mewn chwe bywyd. Chwe moment o ddwyster eithriadol. Mae pob un o’r merched yn adrodd stori’r blynyddoedd a’r degawdau. Maent yn rhannu pethau mawrion — momentau tyngedfennol yn hanes y ddynoliaeth. Y sbectrwm cyfan — llawenydd a galar, cariad a chasineb, bywyd a marwolaeth. Caiff tri monolog eu perfformio bob nos — gweler y wefan am fanylion. £10. £16 am ddwy sioe a chyfle i weld pob un o’r chwe monolog! Sioe’n cynnwys deunydd addas i oedolion yn unig. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen mis Dementia Chapter.

Iau 18 Mai 7.30pm

Mae Liz Aggiss wedi treulio amser mewn ystafell dywyll yn dadansoddi detholiad rhyfeddol o wrthddywediadau a dehongliadau am ferched, menywod, mamau, pensiynwyr a hen bobl. Mae hi’n datod mytholegau, ffug-ddoethinebau a straeon hen wragedd mewn sylwebaeth dywyll, gorfforol a chras am foesau diwylliannol a thabŵs rhywiol. Mae SLAP AND TICKLE yn mudferwi Liz ei hun a’r gynulleidfa mewn cawl ffeministaidd; mae yna wthio a thynnu, cosbi a gwobrwyo, a ‘slap and tickle’ tan y diwedd un. £12/£10 Argymhelliad oedran: 15+

Stuart Goldsmith — Compared to What Maw 16 Mai 8pm

Ar ôl ymddangosiadau ar ‘Russell Howard’s Stand Up Central’ (Comedy Central) ac ‘As Yet Untitled’ (Dave) ac ar ôl mis o lanw theatrau yn ‘Fringe’ Caeredin, mae Stuart Goldsmith yn cyflwyno sioe awr newydd am fod yn rhiant. Mae cyflwynydd podcast ‘Comedian’s Comedian’ (a lawrlwythwyd fwy na chwe miliwn o weithiau) yn llwyddo o’r diwedd i roi ei ieuenctid ofer y tu cefn iddo. Ar ôl cael ei ddieithrio o’i ddinas fabwysiedig, ac ar ôl cael ei orfodi i fyw bywyd gwledig gan ferch gyfrwys, mae Stu yn ystyried y cwestiynau mawr ac yn gofyn: faint o gyfaddawd sy’n ormod o gyfaddawd? £10/£9/£8 Argymhelliad oedran: 14+

‘Digrifwr cyfareddol’ — Sunday Times ‘Anhygoel o afaelgar’ — The Guardian ‘Mae e’n gwneud i bopeth edrych mor hawdd’ — Chortle.


Perfformiadau

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: Flamingods, Gruff Rhys & Roger Paez, Islet (photo: Eleanor Hardwick)

10

From Now On Gwe 19 + 20 Mai

Gruff Rhys & Roger Paez, Islet, Flamingods, Yama Warashi, Yeah You, Twinfield, Deej Dhariwal + mwy Mae From Now On yn dychwelyd am ddwy noson o gerddoriaeth amgen, sain a pherfformiadau, wedi’u curadu gan y band Cymreig, Islet. Gruff Rhys a Roger Páez yn cyflwyno: Breaking and Entry. Amgylchfyd sonig sy’n ymwneud â microcosmos Carchar Mas d’Enric — trac sain carchar yng Nghatalwnia. Yn 2014, cafodd y cerddor, Gruff Rhys, wahoddiad gan y pensaer Catalan, Roger Páez i Blanch, i ymateb yn sonig i’w gynllun arloesol am garchar. Mae’r hyn a ddeilliodd o’r cydweithio yn sgôr sy’n seiliedig ar fap o’r carchar – ac sydd hefyd yn ystyried y mathau eraill o fywyd sy’n ymddangos yn yr adeilad. Hwn fydd perfformiad cyntaf y darn. Fe’i cyflwynir gan ensemble gwadd sy’n barod i fyrfyfyrio’n harmonig, gyda chymorth peiriannau i fonitro curiad y galon.

Mae Islet yn sbectacl gweledol a cherddorol: maent yn chwalu ffiniau, yn mynd ati ffwl pelt ac yn gwyro i gyfeiriadau annisgwyl. Cerddoriaeth iwfforig i estyn eich meddwl a’ch corff. Mae’r bandiau eraill yn cynnwys y ddeuawd tad-a-merch ‘noise-pop’, Yeah You; y cynhyrchydd electronig dystopaidd, Twinfield; ac arlliwiau jazz-gwerin-seicedelig Yama Warashi. Cynhyrchwyd gan Shape a Chapter

Nawdd Enillodd Chapter gydnabyddiaeth eang am ei berthynas waith lwyddiannus â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i'n noddi ac mae'r rheiny'n cynnig buddion gwych — gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. Anfonwch e-bost at elaina.johnson@chapter.org os hoffech chi fwy o wybodaeth.


Perfformiadau

Bennett Arron Worries About…

Llwybr Mellt | Lightning Path

11

Gyda’r cloc o’r brig: Khamira, Lightning Path, Bennett Arron

chapter.org

Maw 23 Mai 7.15pm

Mae Bennett Arron yn dychwelyd i Chapter i recordio ail gyfres ei sioe lwyddiannus i Radio Wales, Bennett Arron Worries About ... Ymunwch ag ef am ddau recordiad rhad ac am ddim arbennig ar ddydd Mawrth 23 Mai a dydd Iau 1 Mehefin. Bydd yn poeni am bynciau fel teithio, perthnasau a damwain nad oedd e’n gyfrifol amdani. Digwyddiad rhad ac am ddim

“Gwirioneddol wreiddiol a doniol” The Times

Khamira

Mer 24 Mai 8pm Mae Khamira yn fand Indo-Gymreig newydd sy’n uno elfennau o ganu gwerin Cymreig, cerddoriaeth Indiaidd glasurol, jazz a roc. Ymunodd pedwar o gerddorion Cymreig o’r grŵp jazz / gwerin Burum â thri o gerddorion o India i greu Khamira, ac i chwalu genres. Mae sarangi a llais meistrolgar Suhail Yusuf Khan yn cydblethu â thrwmped Tomos Williams; mae tabla Vishal Nagar yn ychwanegu rhythmau deinamig at ddrymio Mark O’Connor ac mae unawdau gitâr Aditya Balani yn cael eu hategu gan allweddellau Dave Jones a gitâr fas Aidan Thorne. Cyfuniad o ffync Miles Davis y 1970au a grŵp Pat Metheny, ar y cyd â darnau o gerddoriaeth werin felancolaidd a meistrolaeth glasurol Indiaidd. Ar ôl perfformio mewn gwyliau cerddorol o bwys ar daith yn India yn 2015, derbyniodd Khamira gyllid gan y Cyngor Prydeinig a chronfa ‘Cymru/India 2017’ Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i deithio yng Nghymru am y tro cyntaf. Un o ddigwyddiadau swyddogol rhaglen DG/India 2017 £12/£10

Mer 31 Mai 4pm

Mae Llwybr Mellt | Lightning Path yn cyfuno pypedau cain, tafluniadau hardd wedi’u hanimeiddio a cherddoriaeth wreiddiol er mwyn adrodd hanes ein cyfnod ni. Mae Ella’n ceisio deall pam mae ei fferm deuluol yn dioddef llifogydd. Mae ei thad-cu yn poeni nad yw’r llyswennod yn dod i fyny’r afon mwyach. Taith hudolus yng nghwmni Harri’r-ysgyfarnog-sy’nhedfan i dirweddau newidiol ledled y byd. Mae Ella’n cwrdd â chreaduriaid a phobl rhyfeddol sy’n ei helpu hi i ddysgu ffyrdd newydd o ddeall a gofalu. 1pm Gweithdy: Ymunwch â gwneuthurwyr pypedau arbenigol Theatr Byd Bychan i greu pypedau syml yn seiliedig ar anifeiliaid y sioe. Dysgwch sut i drin eich creadigaethau hefyd er mwyn diddanu’ch ffrindiau adre’. Tocyn £10 / Gweithdy £7 / £16 y ddau Yn cynnwys dehongliad BSL. Perfformiad dwyieithog.

Y Coleg Cerdd a Drama — Three Days in the Country Gwe 26, Sad 27 + Maw 30 Mai — Gwe 2 Mehefin 7.30pm Iau 1 Mehefin Matinée 2.30pm

Mae Cwmni Richard Burton y Coleg Cerdd a Drama yn cyflwyno Three Days in the Country gan Patrick Marber. Ystâd wledig brydferth mewn man anghysbell. Dim byd anarferol. Ond yna, daw tiwtor newydd i gynhyrfu calonnau a thros gyfnod o dridiau, caiff yr aelwyd ei throi ben i waered wrth i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd ddysgu gwersi am gariad. Mae hon yn gomedi angerddol ac emosiynol am obsesiwn rhamantus ac yn fersiwn newydd drydanol o glasur Turgenev, A Month in the Country. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn y National Theatre, Llundain, yn 2015. Tocynnau £13/£11 consesiynau


12

Ffilm

029 2030 4400

Cezanne et Moi

FFILM

The Sense of An Ending

Cezanne et Moi

DG/2017/108mun/15. Cyf: Ritesh Batra Gyda: Jim Broadbent, Charlotte Rampling, Harriet Walter, Michelle Dockery, Joe Alwyn

Ffrainc/2017/117mun/TiCh/is-deitlau. Cyf: Daniele Thompson. Gyda: Alexandre Kouchner, Alice Pol

Mae Tony yn clywed bod ei ffrind gorau, Adrian, wedi gadael ei ddyddiadur iddo yn ei ewyllys ac mae’r newyddion yn ei anfon ar ei ben i atgofion am driongl serch a chanlyniadau’r berthynas honno dros gyfnod o sawl degawd. Stori ddeallus am y modd yr awn ati i olygu ein hatgofion er mwyn amddiffyn y fersiwn ‘iawn’ ohonom ein hunain, yn seiliedig ar nofel boblogaidd Julian Barnes.

Ffilm sy’n olrhain bywydau, cariadon ac ofnau cyfochrog yr arlunydd ôl-argraffiadol, Paul Cézanne, a’r nofelydd, Émile Zola. O’u dyddiau ysgol at eu cyfnod fel artistiaid yn gweithio gyda’i gilydd ym Mharis, gwelwn eu cariad cyfun at gelfyddyd a merched hardd. Mae Zola, a oedd yn ddi-dad ac yn dlawd, yn breuddwydio am fod yn awdur ac yn ymuno yn y pen draw â’r bourgeoisie a wawdiodd yn ystod ei ieuenctid. Mae Cézanne, ar y llaw arall, yn gwrthod cymdeithas er mwyn canolbwyntio’n gyfan-gwbl ar ei waith.

Llun 1 — Iau 11 Mai

The Lost City of Z Llun 1 — Iau 4 Mai

UDA/2017/141mun/15. Cyf: James Gray Gyda: Charlie Hunnam, Sienna Miller, Robert Pattinson, Tom Holland

Tua dechrau’r 20fed ganrif, daeth y fforiwr, y Cyrnol Percival Fawcett, i gredu bod yna wareiddiad coll yn Ne America, ac fe ddychwelodd dro ar ôl tro i’r Amazon i geisio profi ei ddamcaniaeth. Er wynebu bygythiadau naturiol a dynol, ac wrth i gefnogaeth ei deulu a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol edwino, parhaodd obsesiwn Fawcett. Stori epig a iasol am yr obsesiwn go iawn a’i meddiannodd.

Gwe 26 Mai — Iau 1 Mehefin


chapter.org

Ffilm

13

Casablanca

Merched fel Ni Ymunwch â ni am gipolwg ar fyd ffilmiau propaganda a thymor o’r ffilmiau gorau a gwblhawyd i geisio cynorthwyo’r ymgyrch ar faes y gad. Cyflwynir y dangosiadau hyn ar y cyd â ffilmiau byrion o gasgliad yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd. Mae mwy o fanylion i’w cael ar ein gwefan.

Their Finest

Casablanca

DG/2016/117mun/12A. Cyf: Lone Scherfig Gyda: Gemma Arterton, Sam Claflin, Bill Nighy, Richard E Grant, Helen McCrory

UDA/1942/102mun/tyst. Cyf: Michael Curtiz. Gyda: Humphrey Bogart, Ingrid Bergman

Ym Mhrydain yn ystod y rhyfel, a’r dynion i ffwrdd yn ymladd, mae Catrin Cole yn cael swydd yn ysgrifennu ffilmiau propaganda y mae angen “cyffyrddiad benywaidd” arnynt. Mae ei dawn naturiol yn sicrhau llwyddiant ac, â morâl y wlad yn y fantol, mae Catrin a’i chriw o gydweithwyr lliwgar yn gweithio fel lladd nadredd i wneud ffilm a fydd yn twymo calon y genedl. Ond mae hi’n dysgu bod yna gymaint o ddrama y tu ôl i’r camera ag sydd yna ar y sgrin ei hun.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ym Moroco, ac yng nghanol nyth cacwn sy’n cynnwys heddlu Ffrengig llygredig, ysbiwyr, émigrés, gamblwyr ac yfwyr, mae Café Rick yn guddfan berffaith i’r Americanwr alltud blinedig, Rick Blaine. Un diwrnod – ac o’r holl fariau, yn yr holl fyd – daw ei gariad hir-golledig, Ilsa, i’r bar hwnnw gyda’i gŵr, Victor, sydd yn un o arweinwyr y gwrthwynebiad. Caiff Rick ei dynnu ar ei ben i driongl serch a gwe o gynllwynio gwleidyddol.

Llun 1 — Mer 17 Mai

Dangosiad yn rhan o Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Dementia Tinted Lens, sydd yn cynnwys digwyddiad Tinted Lens arbennig

Sul 14 + Maw 16 Mai

The Foreman Went To France

A Canterbury Tale

Sul 21 + Maw 23 Mai

DG/1944/125mun/U. Cyf: Michael Powell, Emeric Pressburger Gyda: Eric Portman, Sheila Sim, Dennis Price

Mae’r Cymro, Fred, ar gyrch i atal peiriannau hanfodol a fenthycwyd i gwmni Ffrengig rhag syrthio i ddwylo’r gelyn. Archwiliad o fygythiad cyd-gynllwynwyr — ‘collaborators’ — sy’n seiliedig ar stori wir y fforman ffatri awyrennau, Melbourne Johns. Cafodd y stori ei hysgrifennu gan JB Priestley ac roedd y ffilm yn ddechrau arddull newydd i Stiwdios Ealing, wrth iddynt ymbellhau o straeon am y dosbarth breiniol.

Gwe 28 Ebrill — Maw 2 Mai

Mae ‘Land Girl’, GI Americanaidd a milwr Prydeinig yn eu cael eu hunain gyda’i gilydd mewn tref fechan yng Nghaint sy’n cael ei phlagio gan ‘ddyn glud’ dirgel, sydd yn tywallt glud ar wallt merched wedi iddyn nhw fynd i gwrdd â milwyr ar ôl iddi dywyllu. Mae’r tri’n ceisio dod o hyd iddo ac yn dechrau amau’r ynad lleol — ffigwr ecsentrig a chanddo weledigaeth gyfriniol o hanes Lloegr yn gyffredinol ac o Gaergaint yn benodol.

DG/1942/82mun/U. Cyf: Charles Frend Gyda: Clifford Evans, Tommy Trinder, Gordon Jackson, Constance Cummings

Unpublished Story

Piccadilly Incident

Sul 28 + Maw 30 Mai

DG/1946/102mun/tyst. Cyf: Herbert Wilcox. Gyda: Anna Neagle, Michael Wilding

Mae dau newyddiadurwr yn ymchwilio i’r ‘People for Peace Society’, sy’n ymgyrchu i gymodi â’r Almaenwyr ond yn cael sensro eu straeon byth a hefyd gan Home Security. Wrth i’r Blitz fynd rhagddo, daw’r gwirionedd sinistr i’r amlwg.

Sul 7 + Maw 9 Mai

Mae WREN goll yn dychwelyd adref ar ôl cael ei gadael ar ynys drofannol wedi i’w llong gael ei tharo gan dorpido. Mae hi’n dysgu bod ei gŵr, a dybiai ei bod hithau wedi boddi, wedi creu bywyd newydd iddo’i hun yn y cyfamser gyda gwraig newydd a mab bach. Mae’r ffilm lawn emosiwn hon yn cynnwys caneuon poblogaidd y cyfnod ac yn uno talentau Neagle a Wilding.

DG/1942/80mun/U. Cyf: Harold French Gyda: Richard Greene, Valerie Hobson, Basil Radford, Muriel George


Ffilm

029 2030 4400

Satan’s Slave

14

GWYL FFILM ANNIBYNNOL CAERDYDD

Mae Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd yn dychwelyd i ddathlu sinema ac animeiddio rhyngwladol am y pedwerydd tro, yng nghwmni siaradwyr gwadd arbennig. Ymunwch â ni yn y cyntedd am wydraid o win a chyfle i gwrdd â'r gwneuthurwyr ffilm.

MovieMaker Chapter: Sesiwn arbennig Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd

AmStarDam

Llun 1 Mai

Mae Jack yn mynd i Amsterdam i chwilio am ei dad, sy’n berchen ar siop goffi marijuana. Ar ôl cyfarfod hudolus anhygoel, daw o hyd i arf dirgel a allai drawsnewid y caffi. Mae’r ffilm hon yn cynnwys ymddangosiad olaf Howard Marks ar y sgrin. Enwebiad am Wobr y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau, Raindance 2016.

Y mis hwn, cynhelir ein sesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ar y cyd â Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd. I gael mwy o wybodaeth am fynd ati i ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. Argymhelliad oedran Moviemaker Chapter: 18+ oed RHAD AC AM DDIM (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i gadw tocynnau ymlaen llaw — 029 2030 4400)

The Last Compartment Gwe 5 Mai 3pm

Gwe 5 Mai 6pm DG/2017/105mun/15arf. Cyf: Lee Lennox, Wayne Lennox Gyda: Jonathan Readwin, Sean Power, Eline Powell, Alice Lowe

+ Rhaglen 2 Ffilmau Byrion y Gystadleuaeth (11mun) — gweler y wefan am fanylion.

Satan’s Slave Gwe 5 Mai 8.20pm

Yr Almaen/2016/104mun/18arf. Cyf: Andreas Schapp Gyda: Anna Fischer, Annelinde Gerst

DG/1976/84mun/18. Cyf: Norman J Warren Gyda: Michael Gough, Clandace Glendenning, Martin Potter

Ar ôl i'w trên gael ei daro gan avalanche yn yr Alpau, mae'r Greta 30 oed a phump o ddieithriaid yn eu cael eu hunain yn y cerbyd olaf. Ar y radio maent yn clywed bod ymgyrch i’w hachub ar y gweill, ond wrth iddynt aros am gymorth, maent yn gweld bod yna fwy mewn cerbyd trên nag yr ymddengys.

Ar ôl i'w rhieni gael eu lladd mewn damwain car, mae Catherine yn aros ym mhlasty ei hewythr ac yn cael ei phlagio gan weledigaethau gwaedlyd o ddefodau satanaidd. Ond mae gwaeth o lawer i ddod wrth iddi sylweddoli beth yw gwir fwriadau ei hewythr.

+ Rhaglen 1 Ffilmiau Byrion y Gystadleuaeth (11mun) — gweler y wefan am fanylion.

+ Ymunwch â ni am drafodaeth gyda Norman J Warren, y sgriptiwr, David McGillivray, a'r cyfansoddwr, John Scott, ar ôl y ffilm — a diod am ddim wedi hynny yng nghyntedd y sinema.


Ffilm

15

O’r chwith i’r dde: Animated Shorts: Blue Honey, TBAF

chapter.org

CLOTH CAT ANIMATIONS YN CYFLWYNO:

Ffilmiau Byrion Teuluol wedi'u Hanimeiddio Sad 6 Mai 10.15am + 11.45am Amrywiol/2017/60mun/Uarf.

Bydd stiwdio nodedig Cloth Cat o Gaerdydd yn cyflwyno dangosiad o rai o'r ffilmiau byrion gorau i deuluoedd o bedwar ban byd.

Gozo Sad 6 Mai 1pm DG/2016/84mun/15arf. Cyf: Miranda Bowen Gyda: Ophelia Lovibond, Joe Kennedy

Mae'r recordydd sain, Joe, a'i gariad, Lucille, yn ffoi i Malta ar ôl trasiedi. Ar yr olwg gyntaf, mae bywyd yn braf ac mae Joe a Lucille fel petaent wedi cyrraedd lle delfrydol. Ond mae Joe yn dechrau clywed synau rhyfedd yn ei recordiadau ac, o dipyn i beth, caiff eu paradwys ei thrawsffurfio'n llwyr. Enillydd Gwobr y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yn Raindance 2016. + Rhaglen 3 Ffilmiau Byrion y Gystadleuaeth (35mun) gweler y wefan am fanylion.

The Hook Up Sad 6 Mai 3pm

Dangosiad 1 Cystadleuaeth Animeiddio CAN Sad 6 Mai 3.30pm Amrywiol/2017/75mun/12arf

Mae Cardiff Animation Nights yn dychwelyd i gyflwyno eu detholiad cyntaf o'r ffilmiau byrion gorau o bob cwr o'r byd. I weld manylion y rhaglen, ewch i'r wefan.

Dangosiad 2 Cystadleuaeth Animeiddio CAN Sad 6 Mai 5.15pm Amrywiol/2017/75mun/18arf

Mae Cardiff Animation Nights yn dychwelyd i gyflwyno detholiad arall o'r ffilmiau byrion gorau o bob cwr o'r byd. I weld manylion y rhaglen, ewch i'r wefan.

PREMIÈRE COMEDI ARBENNIG GŴYL FFILM ANNIBYNNOL CAERDYDD:

The Great Unwashed Sad 6 Mai 7.15pm DG/2016/82mun/15arf. Cyf: Louis Fonseca

Does na'r un jôc sy’n rhy wirion i'r ffilm gomedi hon a saethwyd yn y Fenni. Mae hi’n adrodd hanes person ifanc sy’n gorfod ffoi a chuddio yng nghwmni cymuned o hipis ar ôl gweld llofruddiaeth a gyflawnwyd gan griw o drinwyr gwallt troseddol.

Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffilm? Angen dod o hyd i gast, criw a chydweithwyr ar gyfer eich prosiect nesaf? Os felly, dewch draw i'r 'Hook Up' i gwrdd â chwmnïau cynhyrchu ardderchog a thalentau lleol cyffrous.

+ Rhaglen 4 Ffilmiau Byrion y Gystadleuaeth (32mun) — gweler y wefan am fanylion.

Digwyddiad am ddim yn y Gofod Cyntaf ond bydd angen tocyn arnoch

Dewch i gystadlu yng nghwis dieflig Cylchgrawn Animeiddio Skwigly am gyfle i ennill gwobrau gwych!

Cwis Animeiddio Skwigly Sad 6 Mai 8.30pm Y Pwynt Cyfryngol


16

Ffilm

Ffilmiau Byrion gan Fyfyrwyr

Hear the Silence

Sad 6 Mai 9.20pm

Sul 7 Mai 3.30pm

DG/2017/111mun/15arf

Yr Almaen/2016/95mun/15arf. Cyf: Ed Ehrenberg Gyda: Lars Doppler, Simon Hangartner, Clarissa Molocher

Am y tro cyntaf, mae Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd yn cyflwyno deg o'r ffilmiau byrion gorau gan fyfyrwyr o bedwar ban byd. Dewiswyd y ffilmiau gan Gymdeithas Ffilm Prifysgol Caerdydd; gweler manylion y rhaglen ar y wefan. Ymunwch â ni am ddiod am ddim yng nghyntedd y sinema ar ôl y dangosiad.

Swagger Sul 7 Mai 10.30am

029 2030 4400

Yn y ffilm gyffro dywyll hon wedi'i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae uned goll o filwyr Almaenaidd yn dod ar draws pentref wedi'i boblogi gan fenywod, plant a’r henoed. Caiff y milwyr eu croesawu fel rhyddhawyr ac mae'r ddau grŵp yn nesu at ei gilydd. Ond nid pawb sydd eisiau i'r heddwch bara ac, yn fuan, caiff y milwyr a'r pentrefwyr eu hunain mewn brwydr greulon i oroesi. + Rhaglen 5 Ffilmiau Byrion y Gystadleuaeth (20mun) — gweler y wefan am fanylion.

Ffrainc/2017/84mun/15arf. Cyf: Olivier Babinet

Mae'r 'teen-movie' dogfennol, Swagger, yn ein harwain i fyd a meddyliau rhyfeddol un ar ddeg o arddegwyr yn un o gymdogaethau mwyaf difreintiedig Ffrainc. + Rhaglen 4 Ffilmiau Byrion y Gystadleuaeth (25mun) — gweler y wefan am fanylion.

Dangosiad 3 Cystadleuaeth Animeiddio CAN Sul 7 Mai 1pm Amrywiol/2017/70mun/18arf

Cardiff Animation Nights sy’n cyflwyno eu detholiad olaf o'r ffilmiau byrion gorau o bob cwr o'r byd. I weld manylion y rhaglen, ewch i'r wefan

GWOBRAU GFFAC Sul 7 Mai 6pm Mae'r gwobrau nodedig yn dychwelyd, ac yn cynnwys dangosiad o'r pum ffilm fer lleol a fydd yn ymgiprys am Wobr Brian Hibbard.

PASYS YR ŴYL Pas Aur (Pob ffilm, pob ffilm fer, pob pecyn o ffilmiau wedi’u hanimeiddio a digwyddiadau) £60 / £40 / £35 Pas Arian (pob ffilm nodwedd) £35 / £25 / £20 Pas ffilmiau wedi’u hanimeiddio £15 / £10 / £8


chapter.org

Ffilm

17

O’r chwith i’r dde: Their Finest, Mad to be Normal

WYTHNOS YMWYBYDDIAETH O DEMENTIA

Tinted Lens: Digwyddiadau Addas i Bobl â Dementia Mae croeso i bawb i ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth o Dementia. Gallwch ymuno â digwyddiadau sy'n cynnwys dangosiadau, gweithdai, profiad Rhithwir, siaradwyr gwadd a llawer mwy. Gallwch helpu i leihau'r gwahanu cymdeithasol y mae pobl â dementia yn ei ddioddef – a chael amser i'r brenin ar yr un pryd. www.chapter.org/cy/season/dangosiadau-addas-i-bobl-â-dementia

Their Finest

Forget Me Not: The documentary

Gwe 28 Ebrill—Maw 17 Mai

Mer 17 Mai

DG/2016/117mun/12A

DG/2017/20 mun/TiCh. Cyf: Grain Media ? Gyda: Aelodau Côr Forget Me Not, OMA

Dangosiad Addas i Bobl â Dementia am 10.30am

Codi Cân gyda Calamity Jane UDA/1953/99mun/U. Cyf: David Butler Gyda: Doris Day, Howard Keel, Allyn Ann McLerie

Mae'r fersiwn ysgafn hon o hanes arwres go iawn y Gorllewin Gwyllt yn sioe gerdd 'western' sydd yn llawn asbri, salŵns a gynnau. Bydd y dangosiad hwn i bobl â dementia yn cynnwys sesiwn i gynhesu'r llais a geiriau ar y sgrin i'ch helpu chi i ganu — fe'ch anogir chi i ddod mewn gwisg ffansi hefyd!

Comedïau Byrion Mud + Cyfeiliant Cerddorol Byw Mer 19 Mai

UDA/1920au/Detholiad 60mun o hyd/U

Mae Laurel & Hardy yn ei chael hi'n anodd gwerthu coed Nadolig yn Big Business ac mae Buster Keaton yn ceisio adeiladu tŷ yn y clasur, One Week. Bydd y pianydd, Paul Shallcross, yn perfformio ei gyfeiliant cerddorol byw i ddetholiad o'r ffilmiau byrion cynnar mwyaf cofiadwy a difyr.

Bu côr FMN yn canu gyda phobl â dementia ers blynyddoedd ac mae'r ffilm ddogfen hon yn cyflwyno gwaith anhygoel y côr wrth iddynt recordio cân gyda chôr Only Men Aloud. Ffilm fuddugoliaethus ac ysbrydolgar. + Ymunwch â ni am berfformiad gan Forget Me Not ac Only Men Aloud cyn y dangosiad. RHAD AC AM DDIM Mae Tinted Lens yn gydweithrediad rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ffilm Cymru. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg ar ffilm, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a gwahanol gyflyrau ymwybyddiaeth.

Mad to be Normal Gwe 12 — Iau 25 Mai

DG/2017/106mun/15. Cyf: Robert Mullan. Gyda: David Tennant, Elisabeth Moss, Gabriel Byrne

Doedd yna neb mwy carismatig a ddadleuol yng nghyfnod y “swingin' 60s” na'r seiciatrydd o'r Alban, RD Laing. Fe'i llysenwyd y "Martin Luther King gwyn" ac "archoffeiriad y mudiad gwrth-seiciatreg". Roedd Laing mor enwog â Dylan. Ym 1965, sefydlodd gymuned Kingsley Hall yn Llundain — cymuned wrth-feddyginiaeth i'r rheiny a oedd yn dioddef effeithiau sgitsoffrenia. Roedd ei ddulliau anarferol yn her i'r sefydliad meddygol a ystyriai Laing yn radical peryglus. Mae Mad to be Normal yn olwg rymus ar ei arbrofion. + Trafodaeth banel Tinted Lens ar ôl y dangosiad ar Mer 17 Mai, gyda'r cyfarwyddwr, Robert Mullan.


18

Ffilm

029 2030 4400

DIFFUSION: Gyda’r cloc o’r brig: Neruda, The Handmaiden, Earth

The Revolution Will Not Be Televised

Bydd yr ŵyl ffotograffiaeth yn archwilio themâu'n ymwneud â chwyldro — symudiadau gwleidyddol a chymdeithasol a'r unigolion sy'n arwain ac yn byw y newidiadau hynny. Mae mwy o wybodaeth am Ŵyl Diffusion ar gael ar www.diffusionfestival.org

Earth

The Handmaiden

Undeb Sofietaidd/1930/75mun/dim tyst. Cyf: Aleksandr Dovzhenko

De Korea/2016/145mun/18/is-deitlau. Cyf: Park Chan-Wook Gyda: Min-hee Kim, Jung-woo Ha, Jin-Woong Jo

Mer 10 Mai Campwaith barddonol mud sy'n cyfleu gweledigaeth ddelfrydol o bosibiliadau Comiwnyddiaeth — ac a gwblhawyd toc cyn i Staliniaeth newid ffocws y Chwyldro. Mae'r ffilm yn dangos taith pobl werin yr Wcráin at gyfnod o gyfunoli ac yn archwilio cylchredau naturiol trwy gyfrwng montage epig. Mae comisiwn cerddorol electronig newydd ac arloesol yn rhoi gwedd fodern i'r campwaith oesol hwn. + Perfformiad byw o drac sain arbennig gan R.Seiliog, a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Pontio. £12/£10

Neruda

Gwe 5 — Iau 11 Mai Chile/2016/108mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Pablo Larrain Gyda: Luis Gnecco, Gael Garcia Bernal, Mercedes Morán

Yn Chile, tua diwedd y 1940au, mae Pablo Neruda yn ffoi rhag gormes y llywodraeth. Mae'r ditectif dygn Peluchonneau yn ei erlid ac mae naratifau'r ddau ddyn yn cydblethu. Mae'r ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hunain, un fel ditectif o fri, y llall fel bardd rhamantaidd mawr ac arwr y werin. Archwiliad treiddgar o'r modd yr ydym yn mynd ati i ysgrifennu straeon ein bywydau ein hunain.

Llun 8 — Iau 18 Mai

Caiff Nam Sook-hee ei hanfon i ystâd wledig i weithio ac i berswadio nith gyfoethog y meistr Japaneaidd, y Fonesig Hideko, i briodi cydymaith iddi, sy'n esgus bod yn uchelwr. Ond mae'r cynllun yn mynd o chwith ar ôl i Sook-hee syrthio mewn cariad â Hideko. Mae'r ffilm hon yn trosi nofel Sarah Waters, Fingersmith, o Loegr oes Fictoria i arfordir Korea yn y 1930au. Sylwebaeth erotig, lawn hiwmor tywyll am y berthynas gythryblus rhwng Korea a Japan. + Ymunwch â ni am gyfarfod Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LGBTQI misol, ar ôl y dangosiad ar ddydd Llun 8 Mai. Bydd yna gyfle hefyd i drafod y nofel wreiddiol mewn sesiwn Addasiadau / Adaptations arbennig ar ddydd Mawrth 16 Mai.

I Am Not Your Negro Gwe 12 — Iau 18 Mai

UDA/2016/93mun/TiCh. Cyf: Raoul Peck Gyda: Samuel L. Jackson, James Baldwin, Harry Belafonte

Yn y darlun trawiadol hwn o'r mudiad Hawliau Sifil a naratif ehangach perthynas gythryblus America â hil, caiff ysgrif James Baldwin — a ddiffiniodd y zeitgeist ar y pryd — ei gosod i gyfeiliant cerddoriaeth, deunydd archif a delweddau o'r America gyfoes er mwyn creu mosaig pwerus sy'n dinoethi'r trais parhaus a'r anghydraddoldeb systemig y mae poblogaeth ddu America yn eu dioddef.


Ffilm

19

O’r chwith i’r dde: Napoleon, Lady Macbeth

chapter.org

Clash

Lady Macbeth

Yr Aifft/2016/97mun/15arf/is-deitlau. Cyf: Mohamed Diab Gyda: Nelly Karim, Hany Adel, Tarek Abdel Aziz

DG/2016/89mun/TiCh. Cyf: William Oldroyd. Gyda: Florence Pugh, Christopher Fairbank

Yn yr Aifft, mae cefnogwyr llywodraeth Morsi a phrotestwyr gwrth-Morsi yn protestio ar strydoedd Cairo. Yn yr anhrefn, caiff pobl ddieuog, newyddiadurwyr a gwrthwynebwyr gwleidyddol eu casglu ynghyd a'u taflu i gefn lori. Mae'r tensiwn yn cynyddu wrth iddynt aros i glywed beth fydd eu tynged, ar ddiwrnod hir a phoeth dan glo. Wrth i derfysg ffrwydro o'u cwmpas, teimlwn glawstroffobia, dicter, ofn, arswyd, anobaith — a gobaith hefyd, sy'n pefrio dan yr wyneb.

Ar ôl i'r briodferch ifanc Katherine ddechrau perthynas angerddol er mwyn ffoi rhag ei phriodas ddigariad â dyn hŷn sadistaidd, daw grym newydd i’r wyneb ynddi; grym mor bwerus fel nad oes dim a all ei atal. Mae'r drasiedi nwydus a dychrynllyd hon, wedi'i gosod yn Lloegr wledig y 19eg ganrif, yn addasiad o nofelig o 1865 gan Leskov ac mae'n dangos brwydr merch ifanc angerddol a herfeiddiol yn erbyn normau cymdeithas gul.

Gwe 19 — Iau 25 Mai

‘Ffilm 'bravura' â neges sydd fel cic i'r perfeddion’ Variety

Napoleon

Sad 20 + Mer 31 Mai Ffrainc/1927/330mun/tyst. Cyf: Abel Gance. Gyda: Gina Manès

Mae campwaith Manès yn olrhain bywyd Napoleon o'i fachgendod i'w fuddugoliaethau ar faes y gad — ac hefyd yn gwthio ffiniau'r 'biopic'. Mae datblygiadau sinematig arloesol i'w gweld ymhobman, gan gynnwys ffilmio â llaw a fformat sgrin lydan arloesol. Cafodd y gwaith o adfer y clasur hwn yn ddigidol ei wneud yma yng Nghymru gan Dragon Studios.

Citizen Jane: Battle for the City Llun 22 — Mer 24 Mai

UDA/2016/92mun. Cyf: Matt Tyrnauer

Ymladdodd yr awdur a'r ymgyrchydd trefol chwedlonol, Jane Jacobs, frwydr Dafydd a Goleiath gyda 'meistr adeiladwr' Efrog Newydd, Robert Moses, er mwyn gwarchod cymdogaethau hanesyddol Greenwich Village, Soho, a Little Italy rhag cynlluniau Moses i'w rhannu (a'u dinistrio) drwy adeiladu priffyrdd trwyddynt. Roedd llyfr Jacobs, The Death and Life of Great American Cities (1960), yn ysgytwad i fyd pensaernïaeth a chynllunio trefol. Mae'r ffilm gyffrous ac ysbrydoledig hon yn wers amserol ac angenrheidiol am y ffordd y gall grym y bobl gael y gorau ar gynlluniau hunan-wasanaethol yr élites.

Gwe 26 Mai — Iau 1 Mehefin

Letters from Baghdad Sad 27 — Mer 31 Mai

DG/2016/95mun/TiCh. Cyf: Zeva Oelbaum, Sabine Krayenbühl. Gyda llais Tilda Swinton

Mae'r ffilm ddogfen hon, sy'n beirniadu gwladychiaeth, yn archwilio bywyd rhyfeddol yr awdures, yr archeolegydd, y diplomydd a'r ysbïwraig Seisnig, Gertrude Bell, wrth iddi deithio drwy'r Dwyrain Canol. Hi oedd yr unig ferch a feddai rym gwleidyddol o bwys yn ystod cyfnod Imperialaidd Prydain. Â chyfuniad o ddeunydd archif rhyfeddol, llythyrau a thystiolaeth ei chyfoedion (a oedd yn cynnwys TE Lawrence), mae'r ffilm yn dangos ei gwaith fel gwrthbwynt i'r grym trefedigaethol dynion-yn-unig a oedd yn nodweddiadol o Brydain. Mae’n dangos hefyd bod ei syniadau am ddyfodol y rhanbarth yn syndod o agos ati mewn sawl achos.


20

Ffilm

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: The Transfiguration, The Love Witch, Mindhorn

FFILMIAU CWLT

Clwb Ffilmiau Gwael Click: The Calendar Girl Killer

The Transfiguration

UDA/1990/87mun/18. Cyf: Ross Hagen & John Stewart.

Mae'r arddegwr dioddefus Milo yn cuddio ei ddiddordeb mewn llên fampirod ond, ar ôl cwrdd â Sophie, sydd lawn mor unig ag ef, mae'r ddau'n ffurfio cyfeillgarwch sy'n dechrau herio obsesiwn tywyll Milo a chymylu'r ffin rhwng rhith a realiti. Portread iasol ond tosturiol o drais ac unigrwydd, a ffilm gyffro atmosfferig sy'n gwneud defnydd da o strydoedd geirwon Efrog Newydd.

Sul 7 Mai

Mae'r gwanwyn wedi dod o'r diwedd a pha ffordd well o ddathlu na thrwy ymuno â’r Clwb Ffilmiau Gwael i weld ffilm am ffotograffydd seicotig a llofruddgar? Mae Click: The Calendar Girl Killer, yn ôl y disgrifiad swyddogol beth bynnag, yn ffilm gyffro lawn tensiwn sy'n archwilio meddwl dadfeiliol llofrudd cyfresol wrth iddo ddefnyddio byd ffotograffiaeth ffasiwn i weithredu ei ffantasïau sadistaidd. Ond a fydd yna ormodedd o ddelweddau o 'glamour' honedig y 90au? A fydd yna bentyrru ystrydebau? A sut olwg fydd ar y llofrudd mewn wig felen a gwisg nyrs? Bydd yn rhaid i chi weld y ffilm i gael gwybod.

Chapter 13: The Love Witch Llun 15 Mai

UDA/2016/120mun/15. Cyf: Anna Biller Gyda: Elle Evans, Samantha Robinson, Jeffrey Vincent Parise

Mae gwrach ifanc hardd o'r enw Elaine yn benderfynol o ddod o hyd i wir gariad. Yn ei fflat gothig, mae hi'n gwneud swynion i geisio hudo dynion. Ond ar ôl cwrdd â chariad ei breuddwydion, mae ei hawydd i gael ei charu yn ei gyrru’n wallgo’ ... Ag arddull weledol sy'n talu gwrogaeth i ffilmiau cyffro Technicolor y 60au, mae'r ffilm hon yn archwiliad o ffantasïau benywaidd ac ôl-effeithiau narsisiaeth batholegol.

Gwe 19 — Iau 25 Mai

UDA/2016/97mun/TiCh. Cyf: Michael O'Shea Gyda: Eric Ruffin, Chloe Levine, Jelly Bean

Mindhorn

Gwe 26 Mai — Iau 1 Mehefin DG/2016/89mun. Cyf: Sean Foley. Gyda: Julian Barratt, Andrea Riseborough, Essie Davis

Mae gyrfa Richard Thorncroft wedi dirywio'n enbyd ers ei lwyddiant yn y 1980au pan oedd yn chwarae rhan y ditectif Mindhorn ar Ynys Manaw mewn sioe o'r un enw. Yn y gyfres honno roedd ei lygad robotaidd yn caniatáu iddo 'weld y gwir', yn llythrennol. Ddegawd yn ddiweddarach, ac ar ôl i droseddwr gwallgo' o'r ynys fynnu gweld ei nemesis, Mindhorn, mae Thorncroft yn dychwelyd i’r fan lle cafodd un o'i lwyddiannau pennaf er mwyn ceisio ailgynnau'r gogoniant a fu. Pastiche hoffus o sioeau ditectif Prydeinig gan Julian Barratt (The Mighty Boosh) a Simon Farnaby (Horrible History).

‘Gwirion a gwallgo'... gwaith i'w fwynhau'n arw’ **** Peter Bradshaw, The Guardian


Ffilm

21

BAFTA Cymru yn cyflwyno: B&B

Don’t Take Me Home

Cymru/2017/87mun. Cyf: Joe Ahearne Gyda: Sean Teale, Paul McGann, Tom Bateman

Cymru/2017/90mun/12A. Cyf: Jonny Owen

O’r chwith i’r dde: B&B, Don’t Take Me Home

chapter.org

Mer 10 Mai

Mae'r Llundeinwyr Mike a Fred yn dychwelyd i wely-a-brecwast anghysbell. Flwyddyn cyn hynny, fe lwyddon nhw i erlyn perchennog Cristnogol y lle am beidio â chaniatáu iddynt rannu gwely. Ond mae pethau'n cymryd tro annisgwyl — a marwol — pan ddaw llabwst o Rwsia i'r lle. Mae e’n credu bod ganddynt bethau mwy sinistr mewn golwg. Mae'r penwythnos o hwyl ac ymlacio yn troi'n frwydr waedlyd i oroesi mewn ffilm gyffro glyfar, greulon, ddoniol a thywyll.

Gwe 19 — Iau 1 Mehefin

Stori anhygoel tîm pêl-droed Cymru a'u llwyddiant yn nhwrnament Ewro 2016. Mae'r ffilm yn dechrau gyda marwolaeth drasig Gary Speed ac yn dilyn heriau personol Chris Coleman wrth iddo gamu i esgidiau ei ffrind gorau. Ond mae ei dîm yn cyrraedd y rownd gynderfynol ac yn uno'r genedl ar adeg anodd i'r DG a'i chysylltiadau Ewropeaidd.

wysia ab

du

M

Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Joe Ahearne yng nghwmni Boyd Clack. Cafodd B&B ei hariannu gan Ffilm Cymru, Creative England a buddsoddwyr preifat.

SEDD

Fe allai llawer iawn o seddi fel y rhain fod yn wag ac yn unig, heb neb i'w caru. Ond, drwy fabwysiadu sedd yn theatr neu sinema Chapter, byddwch yn sicrhau bod y seddi hyn reit yng nghanol pethau bob amser — a hynny mewn lleoliad digon moethus hefyd!

Caiff eich enw chi (neu enw o'ch dewis chi) ei ysgythru ar blac ar gefn y sedd am gyfnod o 10 mlynedd ... Nid yn unig y byddwch chi'n mabwysiadu sedd, byddwch yn ei phersonoli hefyd!


22

Ffilm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Anthony and Cleopatra, The Hippopotamus

Y LLWYFAN AR Y SGRIN

NT Live: Obsession

The Hippopotamus

DG/2017/120mun (dim egwyl)/15. Cyf: Ivo van Hove Gyda: Jude Law

DG/2017/89mun/15. Cyf: John Jencks. Gyda: Mathew Modine, Russell Tovey

Iau 11 Mai 7pm NT Encore Sul 21 Mai 2pm

Mae Gino yn 'drifter' ac, mewn bwyty ar ymyl y ffordd, mae e'n cwrdd â gŵr a gwraig o'r enw Giuseppe a Giovanna. Mae Gino a Giovanna yn cael eu denu at ei gilydd ar eu gwaethaf, ac yn cychwyn perthynas danllyd cyn cynllwynio i lofruddio ei gŵr hithau. Ond, yn y stori iasol hon am angerdd a dinistr, mae eu trosedd dreisgar yn eu gyrru ar wahân. Daw'r addasiad llwyfan newydd hwn o ffilm Visconti (1943) yn fyw o Theatr y Barbican.

+ cysylltiad byw â Stephen Fry o'r Gelli Gandryll Sul 28 Mai 7.30pm Caiff Ted Wallace — bardd a ddygodd anfri arno'i hun — ei alw i blasty ei ffrind i ymchwilio i gyfres o wyrthiau anesboniadwy. Tocynnau: £10/£8

NT Live: Who’s Afraid of Virginia Woolf? Iau 18 Mai 7pm

DG/2017/210mun/12A. Cyf: James MacDonald Gyda: Imelda Staunton, Conleth Hill, Luke Treadaway, Imogen Poots

Yn oriau mân y bore ar gampws coleg Americanaidd, mae Martha, er mawr anfodlonrwydd i’w gŵr George, yn gwahodd yr athro newydd a'i wraig i'w cartref am ddiod ar ôl parti. Wrth i'r alcohol lifo, ac wrth iddi wawrio, caiff y cwpwl ifanc eu tynnu i mewn i gemau gwenwynig George a Martha — cyn i'r noson ddod i uchafbwynt ag eiliad o wirionedd dinistriol.

RSC: Anthony and Cleopatra Mer 24 Mai 7pm

DG/2017/180mun/TiCh. Cyf: Iqbal Khan Gyda: Antony Byrne, Josette Simon, Ben Allen

Ar ôl i Cesar gael ei lofruddio, mae Mark Antony yn cyrraedd pinacl gwleidyddiaeth Rhufain. Ond mae e'n esgeuluso ei ymerodraeth er mwyn ofera gyda'i feistres, Cleopatra, Brenhines yr Aifft. Wedi'i rwygo rhwng cariad a dyletswydd, mae athrylith milwrol Antony yn diflannu ac mae ei angerdd yn arwain y cariadon at ddiweddglo trasig. Darllediadau byw: £17.50/£14/£13 Dangosiadau encore: £13/£11/£10

Clwb Chapter yw ein cynllun aelodaeth i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau yn y Caffi Bar ac ar bris llogi ystafelloedd, gwahoddiadau i sgyrsiau busnes a chyfleoedd i hysbysebu ar ddeunydd Chapter. Rydym yn falch iawn o fod wedi trefnu partneriaeth yn ddiweddar â NatWest – maen nhw’n cynnal cyfres reolaidd o drafodaethau defnyddiol i fusnesau bychain yn ogystal â sesiynau cynghori i fusnesau newydd. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ac i ymuno â Chlwb Chapter, cysylltwch ag Elaina Johnson, elaina.johnson@chapter.org, neu ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.


chapter.org

Ffilm

23

FFILMIAU I'R TEULU CYFAN

Sinema Hygyrch Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Beauty and the Beast

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau.

Sad 6 Mai – Iau 1 Mehefin

Is-deitlau Meddal

I’w cadarnhau

UDA/2017/129mun/PG. Cyf: Bill Condon Gyda: Emma Watson, Dan Stevens, Luke Evans

Disgrifiadau Sain

I’w cadarnhau

Mae Belle, merch ifanc hardd ac annibynnol, yn cael ei charcharu gan fwystfil yn ei gastell. Er gwaethaf ei hofnau, mae hi'n dod yn gyfeillgar â staff y castell, sydd wedi'u swyno, ac yn dysgu gweld y tu hwnt i olwg erchyll y bwystfil er mwyn adnabod calon lân a gwir enaid y tywysog sy'n cuddio oddi mewn.

Zip & Zap and the Marble Gang Sad 13 + Sul 14 Mai Sbaen/2013/97mun/PG/Sbaeneg gydag is-deitlau Saesneg. Cyf: Oskar Santos. Gyda: Javier Gutierrez

Mae'r efeilliaid drygionus, Zip a Zap, yn cael eu hanfon i ganolfan ail-addysgu dan arweiniad y prifathro Falconetti, sy'n cadw rheolaeth lem ar bethau. Yno, maent yn ffurfio'r Marble Gang, mudiad Gwrthwynebu i blant ac, â chymorth eu deallusrwydd, eu dewrder a'u ffydd ddi-ildio mewn cyfeillgarwch, maent yn datgelu cyfrinachau dyfnion yr ysgol ac yn mynd ar antur fwyaf cyffrous eu bywydau. Ffilm yn Sbaeneg gydag is-deitlau Saesneg.

Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. Cefnogir ein dangosiadau a’n digwyddiadau i Bobl â Dementia gan Sefydliad Rayne.

The Boss Baby Sad 20 Mai – Sul 4 Mehefin UDA/2017/97mun/U. Cyf: Tom McGrath. Gyda: Alec Baldwin

Ar ôl i fabi â siwt a 'briefcase' ddod yn rhan o fywydau teulu Templeton, dyw'r mab 7 oed Tim, ddim yn rhy hapus.

Peppa Pig: My First Cinema Experience

Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.

26 – 31 Mai

Dangosiadau Hamddenol

DG/2017/69mun/U. Cyf: Neville Astley, Mark Baker Gyda: Jo Brand, David Mitchell

Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.

Mae Peppa a'i theulu yn mynd ar wyliau i Awstralia, ac yn ymweld â Llundain gyda'i hysgol lle mae'r Frenhines yn mynd â nhw ar daith bws agored drwy Lundain cyn iddynt gael trip hyfryd i'r sw hefyd! Gwledd o ddeunydd newydd wedi'i gymysgu â deunydd rhyngweithiol o sioe lwyfan Peppa.


24

Chapter Mix

Dydd Iau Cyntaf y Mis — Barddoniaeth a Ffuglen Newydd

Clwb Comedi The Drones

Iau 4 Mai 7.30pm Awduron gwadd mis Mai yw'r bardd, Rhian Edwards, a fydd yn cyflwyno'i phamffled newydd, Brood, sy'n cynnwys darluniau gan yr artist Cymreig, Paul Edwards, a Crystal Jeans, awdur o Gaerdydd, a fydd yn darllen o'i nofel newydd o Wasg Cinnamon. Ynghyd â sesiwn meic agored. £2.50 (wrth y drws)

029 2030 4400

Gwe 5 + Gwe 19 Mai Drysau'n agor: 8.30pm. Sioe'n dechrau: 9pm Clint Edwards sy'n cyflwyno'r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen 'Identity Crisis' Rob Brydon. Un o'r 'Deg Peth Gorau i'w Gwneud yng Nghaerdydd' yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Golden Thread Playback Theatre

Jazz ar y Sul

Sad 6 Mai 1pm

Sul 11 Mai 9pm

Perfformiadau grymus ac unigryw lle daw straeon y gynulleidfa yn fyw o flaen eich llygaid, yn y fan a'r lle!

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.

£7/£5/£3 Plant / Am ddim i blant dan 5 oed (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 7 Mai 8pm Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm Ydych chi'n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!

RHAD AC AM DDIM

ChapterLive Gwe 12 + Gwe 26 Mai 9pm Ymunwch â ni yn ein Caffi Bar i glywed cerddoriaeth fyw wedi'i churadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o'u hoff grwpiau o'r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter.

Gwe 12 Mai: Bryony Sier + The Rearden Smith Leacture Gwe 26 Mai: Tendons

Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

RHAD AC AM DDIM Mwynhewch beint a phizza am £10 yn ein Caffi Bar yn ystod nosweithiau ChapterLive!

Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Gŵyl Gwrw MaiBock

RHAD AC AM DDIM

Iau 11 Mai The Rise and Fall of Napoleon Bonaparte Darlithydd: Stephen Duffy Mae'r ddarlith hon — a fydd yn cynnwys delweddau o nifer o ryfeddodau celfyddydol — yn adrodd hanes mab i gyfreithiwr ar ynys Corsica, a'r modd y daeth i fod yn Ymerawdwr y Ffrancwyr. Bydd yn trafod natur ei athrylith, ac yn asesu ei gyflawniadau a'i fethiannau, ei gryfderau a'i wendidau. Bydd yn trafod hefyd briodas Napoleon â Josephine de Beauharnais, ei berthynas â Dug Wellington, a'i le yn y llyfrau hanes. Mewn rhai ffyrdd, mae hon yn stori ddynol iawn — am un o'r dynion mwyaf rhyfeddol erioed. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

Mer 24 — Sul 28 Mai Mer + Iau 5pm–11pm Gwe 5pm–12.30am Sad 12pm–12am Sul 12pm–11.30pm Mae ein gŵyl flynyddol o gwrw gwanwyn yr Almaen yn dychwelyd! Mae cwrw Maibock o Bafaria yn ysgafnach, yn draddodiadol, ac yn fwy hopysaidd na chwrw ‘bock’ cryf — mae hynny'n adlewyrchu dyfodiad y gwanwyn ar ôl y gaeaf. Fel y llynedd, bydd y digwyddiad hwn yn cyd-fynd â'r Art Car Bootique ardderchog!


chapter.org

Addysg

25

ADDYSG

Crafty Pictures

Chapter Sewcial

Gweithdai crefft i blant 7+ oed cyn dangosiadau o ffilmiau gwych. Dewch i wneud pethau cŵl i'w cymryd adre' gyda chi cyn mynd i wylio ffilm!

Dydd Sul Arbennig Iawn! Sul 21 Mai 1pm–5pm Sgert Haf

Cost: £5 (yn cynnwys tocyn i'r ffilm)

Sad 6 Mai: Beauty and the Beast (7+) 1.50pm–2.50pm (dangosiad am 3pm) Dewch i greu eich rhosyn hud eich hun.

Sad 13 Mai: Zip and Zap and the Marble Gang (8+) 1.50pm–2.50pm (dangosiad am 3pm)

Sesiwn arbennig ar y Sul — i bob dylunydd ffasiwn brwd! Mae'r haf ar ei ffordd! Dewch i greu sgert gotwm i'w gwisgo ar ddiwrnod heulog — ac a fydd yn eich ffitio'n berffaith. Bydd y sesiwn yn addas i ddechreuwyr a disgyblion canolradd a bydd gan y sgertiau wast elastig. Bydd yna heriau ychwanegol i bwythwyr mwy profiadol hefyd. Dilledyn hollol unigryw!

Dewch i greu map poced a llyfr nodiadau (i anturiaethwyr yn unig!)

10 lle yn unig sydd ar gael. Darperir yr holl ddeunyddiau yn ogystal â diod a byrbryd. Cost: £20 y pen

Sad 20 Mai: The Boss Baby 1.50pm–2.50pm

Diwrnod Gweithgareddau Ffilm

Mae angen i bob Bos fod yn drefnus — felly dewch i wneud trefnwyr desg creadigol a chrefftus ar gyfer eich ystafell wely neu eich ystafell ddosbarth.

Gwobr Ffilm Ewart Parkinson Meddygfa Ffilmiau Sad 20 Mai 10am–1pm Ydych chi'n bwriadu gwneud ffilm fer i'w dangos yn ein dangosiad arbennig y flwyddyn nesaf? Ydych chi eisoes wedi cael syniad am ffilm fer? Hoffech chi gael cyngor gan wneuthurwr ffilm arbenigol? Dewch â'ch syniadau, neu ambell olygfa ry’ch chi eisoes wedi eu ffilmio, ac fe allwn ni eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau. Bydd y feddygfa ffilm deirawr hon yn edrych ar ffilmiau byrion gorffenedig ac yn cynnwys ymarferion, awgrymiadau a chyngor er mwyn i chi wella eich ffilmiau chi. Cost: £5. 12 o leoedd ar gael.

Rhoddion Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi. Tecstiwch 'CHAP17' yn ogystal â'r swm yr hoffech ei gyfrannu at 70070 ee. CHAP17 £5. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni'n derbyn 100% o'ch cyfraniad.

Beauty and The Beast Maw 30 Mai 10am–3.30pm Ymunwch â Thîm Addysg Chapter am ddiwrnod o weithgareddau hwyliog a gêmau creadigol yn ymwneud â Beauty and The Beast. Dewch i wneud ffrindiau newydd ac i archwilio byd y ffilm trwy gyfrwng darlunio, animeiddio, posau, drama a chelfyddyd. 7 — 11 oed £22 (yn cynnwys tocyn i'r ffilm). Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael; dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda

Gweithdy Llwybr Mellt Mer 31 Mai 1pm Cyn y perfformiad o Llwybr Mellt / Lightning Path yn Theatr Seligman, ymunwch â phypedwyr arbenigol Theatr Byd Bychan i greu pypedau syml o anifeiliaid y sioe. Dysgwch sut i drin eich creadigaethau hefyd er mwyn diddanu'ch ffrindiau adre'. Perfformiad £10, Gweithdy £7, y ddau £16 Yn cynnwys dehongliad BSL. Perfformiad dwyieithog Mae manylion y perfformiad i'w gweld ar dudalen 11


26

Cymryd Rhan

029 2030 4400

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA

Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds

Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs

Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda

A’r holl unigolion hynny a’n cefnogodd ni mor hael yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi hynny


chapter.org

Gwybodaeth

27

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

cen res mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.