R H A G L E N L A W N 2 0 18 2 4 – 2 5 TA C H W E D D
SPIRIT OF 2012 INVESTING IN HAPPINESS
WOW Cardiff
WOWCardiff2018
WOW Cardiff 1
#WOWCDF
2
Rydym yn falch iawn o allu datblygu WOW, ar ôl bron i ddegawd o weithio, a sicrhau bod yr ŵyl yn gyfrwng sy’n newid pethaunewid. Felly ar ôl treulio 12 mlynedd anhygoel fel Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Southbank, dw i bellach wedi gadael y swydd honno er mwyn sefydlu Sefydliad WOW. Bydd y sefydliad hwn yn bodoli fel elusen annibynnol a bydd yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn datblygu ac ategu gwaith gwyliau WOW. Cynhelir WOW bellach mewn mwy na 15 o wledydd ar bum cyfandir. Mae dwy filiwn o fenywod yn rhan o’r symudiad, ac mae hwnnw’n tyfu bob dydd - gallwch weld ein map o wyliau byd-eang ar y dudalen gyferbyn. Mae dynion a bechgyn yn rhan bwysig o WOW hefyd - mae byd cyfartal o fudd i bob un ohonom.
Croeso
A fu yna gyfnod o newid mwy cyffrous i ferched a menywod? Mae yna gymaint i’w ddathlu a chymaint i’w wella ac mae angen i bob un gymryd rhan. Fe es i ati i sefydlu gwyliau WOW, Merched y Byd, yn 2010 am fy mod yn teimlo bod angen gofod arnom a fyddai’n caniatáu i ni ddod at ein gilydd, i siarad ac i drafod yr holl rwystrau a’r datrysiadau posib a allai arwain at fyd cyfartal o ran rhywedd, ac a allai sicrhau gwell dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n ein rhannu.
Mae WOW Caerdydd yn ŵyl - nid cynhadledd neu symposiwm - a hynny am ein bod yn awyddus i ddenu ac i ddathlu cyfraniadau merched a menywod o bob math. Er gwaetha’ difrifoldeb y materion sy’n ein dal ni’n ôl, ein nod yw creu gofod sy’n llawn cynhesrwydd, parch a hwyl. WOW Caerdydd fydd unig ŵyl lawn WOW yng Nghymru a hefyd ein gŵyl ddwyieithog gyntaf yn y DG. Mae’r anhygoel Charlotte Lewis a Rhiannon White wedi llunio’r rhaglen, a fydd yn dwyn ynghyd lawer iawn o ferched gwahanol a chanddynt lawer iawn i’w rannu. Dw i’n edrych ymlaen at benwythnos ysbrydoledig yn llawn dathlu a thrafod ac at sgwrsio gyda nifer fawr o ferched anhygoel. Jude Kelly CBE Sefydlydd, WOW - Women of the World festival a Chyfarwyddwraig Sefydliad WOW *Cyflwynwyd gwyliau WOW drwy drefniant â Southbank Centre
SEFYDLIAD WOW Mae Sefydliad WOW yn gwneud cais am statws elusennol ar hyn o bryd. Bydd y Sefydliad yn datblygu symudiad byd-eang WOW er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd trwy gyfrwng gwyliau, arweinyddiaeth a rhaglenni addysg, a thrwy gyfrwng eiriolaeth a dathlu.
3
Gallwch gael mwy o wybodaeth a chofrestru i glywed am ein gwyliau yn thewowfoundation.com
Diolch Rydym yn falch iawn o allu rhannu rhaglen WOW Caerdydd 2018 gyda chi. Bu’n daith anhygoel, ac o’r dechrau un fe’i gyrrwyd gan egni menywod a merched o Gaerdydd. O Drelái i Laneirwg, o Sblot i Butetown, cawsom ein hysbrydoli a’n synnu gan fenywod ‘badass’ ein dinas. Mae gennym lawer iawn i ymfalchïo ynddo. Mae WOW Caerdydd yn gyfle anhygoel i ddod at ein gilydd i drafod yr hyn sy’n bwysig i ni. Rydym wedi creu rhaglen sydd mor gyfoethog ac amrywiol â’n dinas, ac rydym yn sicr y dewch chi o hyd i drysorau niferus, trwy gyfrwng sgyrsiau a gweithgareddau newydd, ac y cewch chi brofiadau annisgwyl a fydd yn aros yn y cof am amser hir i ddod.
merch, shiglo’ch stwff fel Beyoncé neu ddysgu ffyrdd o ofalu amdanoch eich hun. Byddwn yn clywed gan fenywod rhyfeddol streic y glowyr, bocswyr, meddylwyr ffeministaidd blaenllaw, torwyr recordiau rhyngwladol, mamau, clowniau, pobl ifanc, goroeswyr, ymgyrchwyr rhyngwladol, gwyddonwyr a llawer iawn mwy. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ŵyl hon a gobeithiwn y byddwch yn cael cymaint o flas arni ag y gwnawn ni. Mwynhewch! Yfwch bob diferyn o’r optimistiaeth a’r egni heintus y mae WOW yn ei gynnig. Charlotte Lewis a Rhiannon White Rhaglenwyr Gŵyl Caerdydd
Fe welwch chi drafodaethau sy’n archwilio materion fel rhywioldeb, diwedd y mislif, dewrder, cam-drin domestig a hil. Fe allech chi wisgo pâr o fenig bocsio ac ymladd fel
Diwrnod Ysgolion WOW Diwrnod i fyfyrwyr ysgol uwchradd 13-18 oed a fydd yn archwilio cydraddoldeb rhywedd ac yn dathlu modelau rôl y myfyrwyr a’r merched ar hyd y blynyddoedd a fu’n ysbrydoliaeth iddynt. Dan
arweiniad nifer o artistiaid a siaradwyr, gall myfyrwyr godi llais trwy gyfrwng gweithdai creadigol, sgyrsiau rhyngweithiol, dawns a cherddoriaeth, a chael eu hysbrydoli a’u grymuso.
4
Dydd Gwener 23 Tachwedd 09:30 – 15:00 Canolfan Gelfyddydau Chapter I gael mwy o wybodaeth ebostiwch charlotte.lewis@ southbankcentre.co.uk
Gwybodaeth Pasys WOW
Prynwch bas WOW er mwyn cael mynediad i’n holl ddigwyddiadau, ac fel y gallwch chi ddewis a dethol eich amserlen eich hun o sgyrsiau, trafodaethau a pherfformiadau, boed hynny dros gyfnod o ddiwrnod neu yn dros y penwythnos cyfan. Bydd gan ddeiliaid pasys ddewis o weithgareddau trwy gydol yr ŵyl. Os yw’ch dewis cyntaf o ddigwyddiad yn llawn peidiwch â phoeni. Fe’ch anogwn i roi cynnig ar sesiynau eraill - fe allai eich ail ddewis fod y peth gorau a welwch chi! Pas diwrnod: £10 Gostyngiadau: £5
Digwyddiadau Am Ddim Tra byddwch chi gyda ni, fe’ch anogwn chi i fwynhau ein holl ddigwyddiadau rhad ac am ddim. Pa un ai a fydd gennych chi bas gŵyl ai peidio, gallwch fwynhau arddangosfeydd a pherfformiadau am ddim drwy gydol y penwythnos.
Hygyrchedd
Mae pob un o’n canolfannau yn hygyrch. Os bydd gennych ymholiadau penodol ynglŷn â hygyrchedd neu fynediad, ebostiwch Hires@chapter.org I gael taflen yn nodi digwyddiadau hygyrch a gwybodaeth bellach, ewch i Swyddfa Docynnau Chapter.
Sut i Archebu
ydd nifer o’r sesiynau’n B cynnwys dehongliad mewn iaith arwyddion BSL. Cadwch lygad yn agored am y symbolau perthnasol yn y llyfryn hwn. Mae’r rhaglen hon hefyd ar gael ar ffurf fersiwn print bras, sydd ar gael i’w lawrlwytho ar-lein. Cysylltwch â enquiries@chapter.org i ofyn am y ddolen. Nodwch os gwelwch yn dda mai nifer cyfyngedig o leoedd i gadeiriau olwyn sydd yn Sinema 1. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn ac os hoffech chi fynychu digwyddiad arbennig yn Sinema 1, cysylltwch a’r swyddfa docynnau i gadw lle ar gyfer gyfer y digwyddiad penodol hwnnw.
Gwirfoddolwyr WOW
Bydd gwirfoddolwyr WOW wrth law gydol y penwythnos i’ch croesawu chi i’r ŵ yl, i ateb eich ymholiadau, ac i gynnig help llaw a rhannu gwybodaeth am y rhaglen. Pan welwch chi nhw, ewch draw atyn nhw i ddweud helo!
WOWsers
Pobl ifanc 14-18 oed sy’n gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl yw’r WOWsers. Byddant yn creu darn o waith i’w arddangos yn WOW Caerdydd 2018. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiol baneli yn ystod y penwythnos, er
Ar-lein: www.chapter.org Swyddfa Docynnau: (0)29 2030 4400 5
mwyn sicrhau bod lleisiau, barn a diddordebau pobl ifanc Caerdydd yn cael eu cynrychioli.
Siopa, Bwyta ac Yfed Caffi Bar Chapter yw’r lle perffaith i gwrdd, bwyta a gweld ffrindiau WOW!
Kindness Matters
Mae Kindness Matters yn symudiad i bobl sydd am ledu caredigrwydd. Fel Roald Dahl, credwn taw caredigrwydd yw nodwedd bwysicaf y ddynoliaeth ac, fel grŵp, rydym yn ceisio meddwl am ffyrdd o ddangos caredigrwydd at ein ffrindiau, ein cymdogion a’n cymunedau, a ffyrdd o ledu caredigrwydd yn y mannau lle’r ydym yn gweithio, yn dysgu, yn siopa ac yn byw. Mae bod yn garedig yn golygu ein bod yn ymwneud â’n gilydd ac yn meithrin tosturi, a hynny’n golygu ein bod yn gofalu am ac yn poeni am ein gilydd ychydig bach mwy. Dewch i ymuno â ni i roi’r neges ar led. Bydd Kindness Matters yng ngŵyl WOW trwy gydol y penwythnos. Byddwn yn gwisgo’n crysau-T ac yn barod i ddangos caredigrwydd. Byddem wrth ein bodd yn sgwrsio, yn rhoi gwên neu ganmoliaeth i chi, yn rhannu eiliad o lonyddwch neu’n trafod sut y gallwch chi ymuno â’r mudiad.
Wyneb yn wyneb: Chapter, Market Road, Canton, Caerdydd, CF5 1QE
Llun: Jon Pountney Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
6
Gwener 23
Rachel Maclean: Spite Your Face
S
I
N
E
M
Tynnwch y llen aur yn ôl ac fe gyrhaeddwch chi fyd arall! Cafodd Spite Your Face, ffantasia ffilm hynod liwgar Rachel Maclean, ei ddylanwadu gan Anturiaethau Pinocchio, hanes gwerin Eidalaidd sy’n sôn am anturiaethau’r bachgen bach o byped y mae ei drwyn yn tyfu bob tro mae e’n dweud celwydd. Mae fersiwn newydd a thywyll Maclean a’i darlun o drais trachwantus mor syfrdanol ei effaith - ac yn gyfan-gwbl wrth-Disney - â’r olygfa pan gaiff mam Bambi ei saethu. Gwener a Sadwrn 10:00 – 20:00 Oriel Chapter
Gŵyl Forte a Newsoundwales Esther + HANA2K + Eadyth + Teddy Hunter
Gŵyl Forte a Newsoundwales sy’n cyflwyno noson yng nghwmni pedwar artist Cymreig anhygoel. Yn y gorffennol, roedd perfformwyr benywaidd yn aml yn eilradd i’w cymheiriaid gwrywaidd a gwelid merched mewn bandiau fel rhyw fath o nofelti. Mae pethau wedi newid, yn sicr, ac mae merched bellach yn gwneud eu marc yn gynyddol ar y diwydiant cerddoriaeth. Bydd y gig yn cynnwys rhai o’r artistiaid addawol gorau o Gymru, gan gynnwys y DJ a’r cerddor nodedig o Gaerdydd, Esther. 19:30 – 22:30 (14+) Theatr Seligman TOCYNNAU £6 WWW.CHAPTER.ORG (0)29 2030 4400
A
Esther
Bad Reputation
UDA/2018/95mun/15arf Cyf: Kevin Kerslake Dywedwyd wrth Joan Jett “nad yw merched yn chwarae roc a rôl” ond ar ôl ei llwyddiant gyda The Runaways a The Blackhearts cafodd y sîn gerddorol ei newid am byth. + trafodaeth banel (Gweler rhaglen Canolfan Gelfyddydau Chapter am fanylion)
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
7
Sadwrn 24
Araith Arbennig Jude Kelly
Bydd Sefydlydd Gwyliau WOW, Jude Kelly, yn cychwyn WOW Caerdydd â’i haraith gyweirnod. 09:45 – 10:30 Sinema 1
Mentora Cyflym
Ymunwch â’n sesiwn mentora cyflym er mwyn rhannu profiad o heriau, a chyfnewid syniadau a storïau. Bydd cyfle hefyd i ddod o hyd i fentor newydd, o bosib. Mae hwn yn gyfle i gael eich mentora gan arbenigwyr sy’n weithgar mewn sawl maes - artistiaid, entrepreneuriaid, ymgyrchwyr, academyddion, siaradwyr WOW a mwy. Bydd y sesiwn yn para awr ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn gallu cymryd rhan mewn tair sesiwn fentora o 15 munud yr un. Cofrestrwch i gymryd rhan drwy ebostio wowcardiff@ southbankcentre.co.uk gan nodi ‘Mentora Cyflym / Speed mentoring’ ym mhennawd yr e-bost. 10:45 – 11:45 a 12:00 – 13:00 Gofod Cyntaf
Merched ‘Badass’ Caerdydd
Mae Caerdydd yn llawn o ferched ‘badass’! Ymunwch â ni ar gyfer trafodaethau panel a fydd yn canolbwyntio ar fenywod ysbrydoledig y presennol a’r gorffennol. Dewch i glywed gan Dilys Price, Angela Gorman, Ffion Reynolds, Rosaleen MoriartySimmonds, Gemma Price, Sahar Al-Faifi, ac Anna Hursey am ddewrder, menter a dycnwch yr arloeswyr hynny. Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli. 10:45 – 11:45 Sinema 1
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
Digartrefedd
Mae hi’n amhosib anwybyddu’r cynnydd mewn achosion o ddigartrefedd yng Nghaerdydd. Yn ôl yr elusen leol, The Wallich, cynyddodd nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd o 12 person ym mis Hydref 2013 i 40 ym mis Mai 2018. Ymunwch â’n panel, sy’n cynnwys cyd-sylfaenydd ymgyrch rhent byw, Harriet Protheroe Davies, y Swyddog Tai a Hosteli, Cathy Elder, y gwneuthurwr ffilmiau, Tracy Jenkins, a’r Prif Swyddog Cartrefi, Charlotte Waite o Iechyd y Cyhoedd Cymru, wrth iddynt ystyried yr argyfwng cynyddol hwn a chynnig golwg arbennig ar y modd y mae’r mater yn effeithio ar fenywod. 10:45 – 11:45 Theatr Seligman
Dioddefaint Cudd: Endometriosis
Yn ôl Endometriosis UK, mae un o bob deg o ferched yn dioddef o’r cyflwr hwn. A’r niferoedd mor uchel, pam felly mai ychydig iawn o bobl sy’n gwybod go iawn am y cyflwr gynaecolegol hwn? Byddwn yn clywed gan yr awdur arobryn, Sian Harries, sylfaenydd y Jukebox Collective, Liara Barrussi, a rheolwr gyfarwyddwraig National Theatre Wales, Michelle Carwardine-Palmer, am eu profiadau nhw o fyw gydag Endometriosis. 10:45 – 11:45 Y Pwynt Cyfryngol
Cornel y Ffeministiaid Dan 10 oed - Bechgyn
Ydych chi’n hyrwyddwr cydraddoldeb ifanc? Ydych chi’n credu y dylai merched gael yr un cyfleoedd yn eu bywydau 8
The Digital Migrant
â bechgyn? Os felly, hon yw’r sesiwn berffaith i chi. Mewn gweithdy rhyngweithiol gyda bechgyn ifanc eraill, gallwch archwilio cydraddoldeb rhywiol, yr hyn y mae bod yn ferch yn ei olygu a’r hyn y gall bechgyn ei wneud i hybu cydraddoldeb. 10:45 – 11:45 (i fechgyn 8-10 oed) Ystafell Gyfarfod 1
Merched y Windrush
Roedd 22 Mehefin 2018 yn 70 mlwyddiant dyfodiad yr SS Empire Windrush i’r DG, pan laniodd 492 o deithwyr Caribïaidd ym Mhrydain ar ôl derbyn gwahoddiad gan Lywodraeth y DG i ymgartrefu yma, yn 1948.Yn 2018 hefyd gwelwyd un o sgandalau gwleidyddol mwyaf y blynyddoedd diwethaf wrth i genhedlaeth y Windrush, llawer ohonynt yn eu 70au, gael eu halltudio neu eu bygwth ag alltudiaeth, a wynebu hefyd golli eu swyddi a chael gwrthod triniaeth feddygol. Ymunwch â ni yn y drafodaeth banel arbennig hon i ddathlu merched y Windrush ac i archwilio’r effeithiau ar fenywod a’r hyn a ddylai ddigwydd nesaf.
A yw Gwrywdod yn Wenwynig?
Bydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r DG yn ymuno â ni i geisio datod rhai o gymhlethdodau’r sgandal. Bydd y panelwyr yn cynnwys: Hilary Brown, Cyfreithiwr Mewnfudo Dr Roiyah Saltus, Prif Gymrawd Ymchwil, Dan gadeiryddiaeth Melanie Hawthorne 12:00 – 13:30 Sinema 1
Paid â Chyffwrdd â ‘Ngwallt
Ers canrifoedd, mae merched o liw wedi wynebu rhagfarn ac wedi gorfod ymwneud â phenderfyniadau cymhleth o ran eu gwallt. Gall menywod duon gael eu barnu am sythu ac am beidio â sythu ei gwallt, ac mae penderfynu gadael gwallt yn ei gyflwr “naturiol” hefyd yn llawn ystyriaethau cyferbyniol ar adegau. A yw’r affro yn dal i fod yn steil gwallt gwleidyddol? Mae gwallt yn llawer mwy na rhywbeth sy’n tyfu ar ein pennau, ac yn y sesiwn hon gallwch ddisgwyl clywed chwerthin, straeon personol a
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
chwestiynau am hunaniaeth. Bydd cyfle hefyd i ymuno yn y drafodaeth gyda Lula Mebrahtu (Digital Migrant) a’r efeilliaid Hermon a Heroda Berhane, sylfaenwyr Being Her. 12:00 – 13:00 Theatr Seligman
Arddegwyr yn Ateb Yn Ôl
Y WOWsers wrth y llyw Bu’r WOWsers, grŵp o bobl ifanc frwdfrydig, yn gweithio’n ddiwyd i greu gŵyl WOW, felly dewch i gymryd rhan wrth iddyn nhw ystyried y cwestiynau a’r pynciau sydd o bwys i bobl ifanc Caerdydd heddiw. Ymunwch â’r sgwrs wrth iddyn nhw rannu eu gweledigaethau a’u dyheadau am ddyfodol disglair. Os ydych chi’n poeni am bobl ifanc, dewch draw! 12:00 – 13:00 Pwynt Cyfryngau
Sadwrn o Hunan Ofalu gyda Rebecca May
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar allu ioga i greu 9
perthynas iachach â’n cyrff a’n meddyliau, ac yn cynnig offer i’n helpu ni i ailgysylltu â’r hunan a’r dewisiadau sydd gennym o ran ein cyrff. Byddwn yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â iechyd a lles menywod o bob oed, ac o bob cefndir ac â chyrff o bob math. Fydd yna ddim ymyriadau corfforol, dim gymnasteg a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch! 12:00 – 13:00 Ystafell Gyffredin
Cornel y Ffeministiaid Dan 10 oed - Merched
Ydych chi’n ffeminist ifanc brwd? Nid peth i fenywod a merched yn eu harddegau yn unig yw ffeministiaeth. Os ydych chi’n credu y dylai merched gael yr un cyfleoedd yn eu bywydau â bechgyn, hon yw’r sesiwn berffaith i chi. Mewn gweithdy rhyngweithiol gyda ffeministiaid ifanc eraill, gallwch archwilio’r hyn y mae bod yn ferch yn ei olygu a chael cynghorion defnyddiol er mwyn cychwyn ymgyrch o’ch ystafell wely. 12:00 – 13:00 (i ferched 8-10 oed) Ystafell Gyfarfod 1
Jukebox Collective
Bydd un o brif gwmnïau dawns y DG, Jukebox Collective o Gaerdydd, yn arddangos talentau’r merched ifanc anhygoel sy’n creu stŵr ym myd dawns! 13:00 – 13:30 Caffi Bar
Call It by Its Name
O ‘Lofruddiaethau Anrhydedd’ i #MeToo bydd ein panel yn trafod dylanwad yr iaith a
ddefnyddir i ddisgrifio trais yn erbyn menywod. Ymunwch ag arweinydd Violence Against Women, Shabana Kausar, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Hayaat, Zainab Nur, Magdalene Kimani o elusen leol BAWSO, Shahien Taj o Sefydliad Henna a Gwendolyn Sterk o Cymorth i Fenywod Cymru wrth iddynt archwilio grym geiriau. 13:30 – 15:00 Gofod Cyntaf
Ymladd Fel Merch
Ymunwch â’r hyfforddwraig a sylfaenydd Boxing Pretty, Gemma Price, am gyflwyniad i focsio. Jab, pwl, gwyro, deifio byddwch yn eofn yng nghwmni un o hyfforddwyr bocsio gorau Caerdydd. 13:30 – 14:30 (I bobl o bob gallu; 10+ oed) Ystafell Gyffredin 2
Cwrdd â’r HanesWRAGEDD
Mae Cymru’n llawn safleoedd hanesyddol ac amgueddfeydd, ond ydych chi erioed wedi siarad â’r curaduron a’r arbenigwyr sy’n gweithio y tu ôl i’r llen? Ac a oeddech chi’n gwybod bod llawer iawn o’r rheiny’n ferched? Paratowch i gael eich ysbrydoli mewn gwers ‘HERstory’ annhebyg i’r un arall - o fenywod marwol teyrnas yr anifeiliaid i’r menywod Cymreig eofn a oedd wrth galon mudiad y Swffragetiaid, bydd y gosodiad rhyngweithiol hwn yn eich annog i greu eich hanes eich hun. 13:15 – 16:00 Ystafell Gyfarfod 1
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
The Digital Migrant Lula Mebrahtu
Mae Lula, sy’n hanu o Eritrea via Llundain, yn enigma creadigol, sy’n prysur ddiffinio gyrfa iddi hi’i hun fel artist amlddisgyblaethol. Yn feddyliwr anghonfensiynol a chyda chymorth technoleg, mae Lula yn torri “normau” mynegiant artistig ac yn eu hailddychmygu fel profiad synhwyraidd. Mae hi’n defnyddio’i llais i ryddhau’r gwirionedd ac i hwyluso trosgynoldeb, wrth ganu am brofiadau go iawn o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae ei thromba, sy’n cario pwysau ei threftadaeth, yn galluogi iddi deithio rhwng galaethau. Gyda chymorth technoleg flaengar Menig MiMu mae hi’n galluogi ymddyrchafael trwy gyfrwng tonnau sain. 13:30 – 14:30 Theatr Seligman
A yw Gwrywdod yn Wenwynig?
Yn 2017, ‘Ffeministiaeth’ oedd gair y flwyddyn gan eiriadur Merriam Webster. Ac ag ymgyrchoedd ac egni’n tyfu yn y mudiad at ei gilydd, byddwn yn clywed gan ddynion yn ein dinas a fydd yn ystyried cwestiynau fel ‘Beth sy’n gwneud dyn yn ddyn?’ Bydd y panel yn archwilio ffyrdd y gall dynion fod yn gynghreiriaid defnyddiol yn y frwydr dros gydraddoldeb rhywiol ac yn ystyried sut y bydd mynd i’r afael ag agweddau gwenwynig gwrywdod yn fuddiol i bob un. Yng nghwmni’r addysgwr a’r academydd Dr Tamsin Preece, bydd y siaradwyr yn cynnwys: y rapiwr Benjii Kendell o Astroid Boys, yr awdur Patrick Jones, y trefnydd cymunedol Ali Abdi, cyfarwyddwr Celfyddydau
10
Paid â Chyffwrdd â ‘Ngwallt Hermon & Heroda Berhane
Clowniau Heb Ffiniau
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
11
Anabledd Cymru, Brychan Tudor, a’r gwneuthurwr theatr ac arweinydd gweithdai Cornel y Ffeministiaid Dan 10 Oed, Justin Cliffe. 13:30 – 15:00 Y Pwynt Cyfryngol
Bydd y gweithdy hwn yn grymuso - mae yna groeso i bawb ac nid oes angen profiad o ganu arnoch. Sesiwn hudolus i bob un! 14:45 – 15:45 Ystafell Gyffredin
Codi Llais
Queen C*nt: Sacred or Profane ynghyd â thrafodaeth ar ôl y sioe
Ymunwch â’r cerddor Gwenno Saunders wrth iddi fyfyrio ar fywyd a gwaith yn y Gymru gyfoes gyda Sara Huws, cyd-sylfaenydd Amgueddfa Menywod yr East End. Wedi’u hysbrydoli gan y gyfrol Codi Llais, a ysgrifennwyd gan 14 o fenywod o Gymru, byddant yn rhannu eu profiadau personol o fod yn ffeministiaid yn y wlad hon, a’r modd y mae’r llyfr yn dathlu’r modelau rôl sydd gennym i ymfalchïo ynddynt. 14:00 – 15:00 Sinema 1
Pŵer y Llais
Ymunwch â Sian Evans, gynt o Kosheen, ar daith ysbrydoledig i ryddhau eich llais. Nod y sesiwn yw helpu cantorion i ddod o hyd i’w lleisiau eu hunain, i ddatblygu perthynas bersonol â’r llais hwnnw ac i’w helpu nhw i fagu hyder a datblygu arddull unigryw.
‘Mae ffeministiaeth yn annog menywod i adael eu gwŷr, i ladd eu plant, i fod yn wrachod, i ddinistrio cyfalafiaeth ac i fod yn lesbiaid ...’ Dewch i’n gweld ni’n gwneud hyn i gyd - a mwy! Mae Fenws ar fin dod i wrthdrawiad â’r Ddaear! Bydd cymysgedd o gymeriadau yn paentio lliwiau’r enfys ar y llwyfan, gyda secwinau hefyd, a phinc gwalltog, cnawdol. Yn gyfuniad o gerddoriaeth, comedi, drag, symudiad, dawns, bouffon a’r grotesg, mae Queen C**t yn fynegiant o rym benywaidd, dig, a synhwyraidd! Mewn oes yn llawn Harvey Weinsteins, lle mae tueddiadau byrhoedlog yn cymell rhai i gael triniaethau llawfeddygol, lle mae porn prif ffrwd wedi meddiannu’r byd synhwyraidd, dyma blymio i ddyfroedd dyfnion ein benyweidd-dra, er mwyn Queen C*nt: Sacren or Profane
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
ceisio adennill y corff mewn archwiliad gorfoleddus, tywyll ac anarchaidd. Rhybudd ‘Trigger’: Mae’r sioe hon yn archwilio materion sy’n ymwneud â chaniatâd, ymosodiadau a phornograffi. 15:00 – 17:00 Theatr Seligman
WOW Bites
Dewch i WOW Bites i glywed a gweld sgyrsiau a pherfformiadau byrion ac i fwynhau safbwyntiau tanllyd. Ymhlith y siaradwyr bydd: Sarah Simons, a fydd yn sôn am y modd y dechreuodd ei hymdaith ffeministaidd yng nghartref ei ffrind, y ddigrifwraig wobrwyol Yuriko Kotani, a sylfaenydd Ripple, Sophie Rae, a arweiniodd ymgyrch ddiflino ar-lein i sicrhau bodolaeth siop ddiwastraff yng Nghaerdydd. 15:00 – 16:00 Cyntedd y Sinema DIGWYDDIAD AM DDIM
I Will Survive
Bydd panel o ferched anhygoel yn rhannu eu straeon am oroesi. Dewch i glywed am eu profiadau nhw o gam-drin domestig, bygythiadau o farwolaeth, mudo gorfodol, trychinebau niwclear, caethiwed a chanser – a sut y llwyddon nhw i oroesi’r cwbl. Bydd y panel yn cynnwys Mitsuko Sonoda, Ailsa Jenkins, Meena Khan a Charlotte Rooks dan gadeiryddiaeth Nicola Reynolds 15:30 – 17:00 Y Pwynt Cyfryngol
12
Yn Ôl Traed y Cewri Merched dosbarth gweithiol yw sylfaen cymdeithas - maent yn creu ac yn gweu ffabrig pob cymuned at ei gilydd. Yn ystod cyfnod anodd, mae menywod yng Nghymru wedi ymgorffori’u hunain mewn symudiadau, ac wedi dod yn arweinwyr. Yma yng Nghymru rydym yn dilyn yn ôl traed y cewri. Ymunwch â Michael Sheen wrth iddo siarad â’r rheiny a fu ynghlwm â Streic y Glowyr
ac Ymgyrch Save our Steel. Byddant yn rhannu straeon am y modd y daeth merched at ei gilydd i ymuno â’r symudiadau pellgyrhaeddol hyn ac am ei profiadau’n rheoli cannoedd o eitemau bwyd yn ddyddiol ac yn cael eu harestio ar y llinell biced. Byddwn yn clywed gan ferched a roddodd ysgytwad i rolau traddodiadol er mwyn ymwneud yn eofn â brwydr a oedd yn her greiddiol i ddwy gymuned wahanol.
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
Bydd y panel yn cynnwys Michael Sheen, y cyn-AS Sian James, streic y Glowyr, Leanne Woods AC, Gary Keogh (Undeb Cymunedol) a Sian James (ymgyrchydd SOS) 15:30 – 17:00 Sinema 1
13
Nothing About Us Without Us
Mae’r Credyd Cynhwysol, Brexit a Llymder wedi rhoi straen cynyddol ar wasanaethau anabledd a hygyrchedd. Mewn oes o ansefydlogrwydd ariannol a gwleidyddol, gwahoddir y panel i fyfyrio ar faterion cyfoes ac i ddweud ychydig am y modd y bu eu dyfeisgarwch a’u celfyddyd yn llwyfan pwerus i’w mynegiant. Mae’r siaradwyr yn cynnwys y blogwyr ‘ffordd o fyw’ Hermon a Heroda Berhane, y perfformiwr Karina Jones, Sara Beer o Celfyddydau Anabledd Cymru a’r ymgyrchydd Rosy MoriartySimmonds OBE. 15:30 – 17:00 Gofod Cyntaf
Cornelia Baltes
Mae paentiadau lliwgar Cornelia Baltes yn cyfuno symlrwydd â hiwmor ac elfennau chwareus. Yn y caffi bar, aeth Baltes ati i greu dwylo, bysedd a breichiau cartŵnaidd mawr sy’n hongian o nenfydau gwydr, yn ymwthio drwy’r waliau ac yn ymgordeddu yn ei gilydd fel petai i ysgwyd dwylo. Caffi Bar DIGWYDDIAD AM DDIM
Sgwrs yn yr Oriel
Hoffech chi ddysgu mwy am arddangosfa Rachael Maclean? Beth am ymuno â ni am daith dywysedig anffurfiol felly? Mae ein Sgwrs am 4 yn ffordd wych o blymio’n ddyfnach i waith nodedig, dwys a brathog Rachel. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw. Dewch draw i’r oriel i ymuno yn y sgwrs! 16:00 DIGWYDDIAD AM DDIM
Popelei Theatre - 100 years (gwaith ar y gweill) Wedi’i osod ym mhorfeydd glaswelltog y llanos yn Venezuela, mae 100 years yn dilyn pum cenhedlaeth o ferched cyntaf-anedig un llinach benodol yn Venezuela. A phob cenhedlaeth newydd, ac a phob Isabela newydd, mae bywyd newydd yn datblygu, yn ystod canrif o gythrwfl gwleidyddol trawiadol. Dathliad herfeiddiol o realiti hudolus y teulu yn America Ladin. Wedi’u hysbrydoli gan nofel nodedig Gabriel Garcia Marquez, mae Theatr Popelei, a oedd yn gyfrifol am y ddrama wobrwyol ‘Manuelita’, yn dychwelyd â straeon ffyrnig a chomedi angerddol, ar y cyd â cherddoriaeth draddodiadol fyw. 16:00 – 17:00 Ystafell Gyffredin
TuWezeshe Akina Dada: Grŵp Trafod Grymuso Menywod Ifanc Affrica / y DG
Os ydym am weld byd lle mae hawliau menywod a merched yn hawliau cyffredinol, a lle mae menywod yn cael eu grymuso a’u cefnogi i fyw’n rhydd, i gyfrannu at eu cymunedau ac i ymladd yn erbyn anghydraddoldeb rhywiol yn Affrica a Chymru, yna rhaid i ni ddiffinio yn y lle cyntaf, ac ar y cyd, ein cynllun gweithredu - rhannu ein syniadau a’n gweledigaeth er mwyn mynd ati i gyflawni hyn. Ymunwch â grŵp trafod TuWezeshe Akina Dada er mwyn dysgu mwy am fudiad sy’n grymuso menywod a merched yn y DG / Affrica. 17:00 – 19:00 Y Cwtsh DIGWYDDIAD AM DDIM
How Making Banners Led Me to Making a Museum
Mae Sara Huws yn wneuthurwr, ymgyrchydd a hwylusydd. Pan agorodd Amgueddfa Jack the Ripper yn Llundain yn 2015, sefydlodd Sara Amgueddfa Menywod yr East End fel math o brotest gadarnhaol a chynaliadwy. Dewch i glywed sut y datblygodd yr amgueddfa, ar sail un trydariad, yn amgueddfa i adrodd hanes penodol merched – y gyntaf o’i bath yn Llundain. 16:15 – 17:00 Ystafell Gyfarfod 1
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
14
Codi Llais
Popelei Theatre: One Hundred Minutes of Solitude
How Making Banners Led me to making a Museum
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
15
Sian Evans: Gig Acwstig
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y gantores Sian Evans, a fu ar frig y siartiau gyda’u record platinwm, yn perfformio sioe agos-atoch acwstig arbennig iawn. Bydd Sian yn perfformio ar y cyd â’i phartner cyfansoddi, y gitarydd Ron McElroy. Mae ei pherfformiadau byw wastad yn mynegi gallu unigryw Sian i gyfleu ystyr pob gair i bob aelod o’r gynulleidfa. Mae hi’n gwneud hynny trwy gyfrwng ei llais dilychwin, ei swyn carismatig a’i brwdfrydedd heintus. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i weld Sian ac i glywed ei llais anhygoel. 17:30 – 18:30 Caffi Bar DIGWYDDIAD AM DDIM
Margaret and The Tapeworm
Ymunwch â Triongl am wydraid o sieri, mins pei a stori am dinsel a llyngyren ruban i gynhesu’r galon. Mae presenoldeb gwestai annisgwyl yn bwffe’r swyddfa yn arwain at ganlyniadau annisgwyl i Margaret, sy’n glaf o gariad, ac Amber, sy’n benderfynol o ddathlu’r Dolig. Wrth i’r triawd hwn gyfarfod â’i gilydd, dysgwn nad oes neb - na pherson na pharasit - sydd eisiau bod ar ei ben ei hun dros y Nadolig. Mae Triongl yn gwmni o dair menyw sy’n cynhyrchu theatr wreiddiol yn llawn hiwmor a pherthnasedd cymdeithasol. Mae Triongl yn artistiaid cyswllt gyda Rhaglen ‘Peilot’ Chapter.
19:30 Theatr Seligman TICKETS £12/10/8 WWW.CHAPTER.ORG (0)29 2030 4400
S
I
N
E
M
A
Dispossession
Pride
Cyf: Paul Sng Archwiliad treiddgar o’r methiannau a arweiniodd at greu prinder o gartrefi cymdeithasol ym Mhrydain. Gweler rhaglen Canolfan Gelfyddydau Chapter am ragor o fanylion.
Cyf: Matthew Warchus Gyda: Imelda Staunton, Paddy Costantine Yn seiliedig ar stori wir, gwelwn sut y bu i ymgyrchwyr LGB ymuno â’r glowyr yn ystod streic 1984. Gweler rhaglen Canolfan Gelfyddydau Chapter am ragor o fanylion.
DG/2017/82mun/PG
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
DG/2014/117mun/15
16
Sul 25
Pip ar y Penawdau
Dechreuwch eich diwrnod yn WOW Caerdydd gyda chip ar benawdau’r penwythnos a’r hyn y maen nhw’n ei olygu i fenywod a merched, yng nghwmni sylfaenydd Gŵyl WOW a Chyfarwyddwr Sefydliad WOW, Jude Kelly, ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe. 10:00 – 11:00 Sinema 1
Celfyddyd Gain y Clown
Ymunwch â’r clown proffesiynol a’r siaman Clare Parry-Jones ar gyfer cyflwyniad byr a chwareus i baradocs bodolaeth. Bydd y gweithdy’n cynnwys her i’r hunan, i weld ac i gael ein gweld, ac fe fydd yn ein hannog ni i wneud cysylltiadau ac i chwerthin. Yn ein cymhlethdod a’n breuder mae yna botensial ar gyfer harddwch a hurtrwydd. Byddwn yn archwilio’r llwybr hwnnw trwy gyfrwng celfyddyd y clown. Bydd y gofod yn llawn o chwilfrydedd ac ysbryd chwareus, o antur a photensial. 10:00 – 11:30 Gofod Cyntaf
‘Fi yw Hon!’: Gweithdy adrodd straeon
Oes gennych chi awydd mynwesol i adrodd straeon? Os felly, ymunwch â sesiwn “FI yw hon!” man diogel, creadigol a chyfeillgar lle gallwch chi rannu eich straeon unigryw eich hun. Dysgwch gêmau ac ymarferion ysgrifennu newydd gan yr artist Sherral Morris wrth i chi ddysgu hefyd am y llawenydd a’r hwyl sydd wrth galon yr hen draddodiad hwn. 10:45 – 11:45 (16+ oed) Ystafell Gyfarfod 1
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
Finding your Bliss: Cyflwyniad i Fyfyrdod Trosgynnol
Mae Myfyrdod Trosgynnol yn dechneg ddiymdrech sy’n aildanio’r meddwl a’r corff. Mae Myfyrio Trosgynnol yn un o’r technegau myfyrio y gwnaed y mwyaf o ymchwil gwyddonol amdano ac mae ei effeithiau’n cynnwys lleihau straen a phryder. Gall arwain hefyd at wella iechyd, hybu heddwch mewnol a helpu pobl i wynebu cyfnodau heriol. Dewch i glywed mwy gan yr Athro Helen Evans ac i weld sut y gallwch chi fynd ati i ddysgu’r technegau perthnasol yng Nghaerdydd. 10:15 – 11:30 Ystafell Gyffredin
Cynghorion Cyflym ar mwyn Trwsio eich Beic
Gallwch ddysgu sgiliau newydd neu ategu eich sgiliau presennol er mwyn datrys ambell broblem gyffredin - tyllau teiars, cadwyni - yng nghwmni tîm hawddgar I Want to Ride My Bike. Peidiwch â dod â’ch beic eich hun - bydd gennym feic arddangos i chi gael ymarfer arno! 10:30 – 12:30 Cyntedd y Sinema DIGWYDDIAD AM DDIM
Turn’d Up Fitness: Beyoncé
Mae Turn’d Up yn fwy o lawer na dosbarth ffitrwydd. Mae’n fodd i ddysgu menywod sut i deimlo’n bwerus ac i fod yn hyderus yn eu cyrff. Mae’n ymwneud ag egni da, feibs da a chaneuon anhygoel. Ymunwch â ni ar y bore dydd Sul hwn, ac ewch o’r sesiwn yn barod i goncro’r byd! 11:00 – 12:00 Theatr Seligman
17
Ymdopi â’r Gwres Mawr Personol
Pyliau o wres, hwyliau ansefydlog, colli libido ... mae gan y menopos enw gwael yn gyffredinol. Ond a yw ail hanner bywyd menyw o reidrwydd yn rhywbeth i’w ofni? Ymunwch â Lucy Owen, cyflwynydd BBC Cymru, ac aelodau Côr Only Menopause Allowed ar gyfer sgwrs ddidwyll a hwyliog am y pwnc ‘poeth’ hwn. 11:00 – 12:00 Y Pwynt Cyfryngol
Seremoni Groeso Swyddogol Merched Anhygoel: Clowniau Heb Ffiniau
Dewch i fwrw’r Sul yn Seremoni Swyddogol y Merched Anhygoel. Mae Clowniau Heb Ffiniau yn seiliedig ar ledu hapusrwydd a dealltwriaeth ddynol. Gan ddefnyddio’r themâu hynny fel ysbrydoliaeth, bydd y digwyddiad hwn yn bwyllgor croeso i unigolion - yn llawn gwerthfawrogiad, didwylledd a chonffeti pydradwy (nid clowniau brawychus!). 11:30 – 12:00 Caffi Bar - DIGWYDDIAD AM DDIM
Sgwrs Grymuso Merched Mwslemaidd
Cafodd Sefydliad Henna ei gychwyn gan Shahien Taj OBE er mwyn darparu gwasanaethau diwylliannol-sensitif i ferched a theuluoedd Mwslemaidd sydd yn wynebu bygythiad o drais. Dewch i glywed Shahien yn trafod pwysigrwydd gwasanaethau penodol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ac am y modd y gallan nhw rymuso menywod a thorri patrymau camdriniaeth. 12:00 – 13:00 Ystafell Gyfarfod 1
Empathi, Pŵer a Chwarae: Gweithdy Clowniau Heb Ffiniau
Pride
Mae Clowniau Heb Ffiniau yn elusen Brydeinig gofrestredig sy’n ceisio defnyddio chwerthin i liniaru peth ar ddioddefaint plant sy’n cael eu heffeithio gan ryfel, trychinebau naturiol neu argyfyngau.
Cymryd Tosturi o Ddifri’: Ymwybyddiaeth Gymdeithasol o Drawma
Bydd y gweithdy hwn yn archwiliad creadigol ac ymarferol o botensial gogoneddus chwarae a’i allu i greu cysylltiadau dynol ystyrlon, i esgor ar newid ac i wrthdroi hierarchaeth. Gwahoddir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfres o gêmau theatr a chlownio er mwyn ennyn creadigrwydd a thosturi. Rydym yn disgwyl i’r sesiwn hon fod yn wrthbwynt nodedig i’r perffeithydd bondigrybwyll sy’n byw y tu mewn i ni! Mae’r gweithdy wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion (18+ oed) ac mae croeso i bobl o bob gallu. Does dim angen sgiliau drama / theatr, dim ond meddwl agored a pharodrwydd i gymryd rhan.
Trwy gyfrwng eu perfformiadau a’u gweithdai, mae Clowniau Heb Ffiniau yn cydnabod angen plant am gymorth emosiynol, am lonydd ac am sicrwydd yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Drwy eu perfformiadau a gweithdai manet yn cydnabod angen plant i gael cefnogaeth emosiynol yn ystod dyddiau du. Y mis hwn, bydd yr elusen yn creu cyfnodau o lawenydd i blant Rohingya mewn gwersylloedd i ffoaduriaid yn Bangladesh. 12:00 – 13:30 Ystafell Gyffredin
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gynnwys deunyddiau LGBT yn ei rhaglen addysg rhyw ac mae’r wlad yn gartref i un o wyliau Pride blynyddol mwyaf y DG. Ond sut brofiad go iawn yw bod yn rhan o’r gymuned LGBTQIA+ yng Nghymru? Sut mae Cymru’n eich cefnogi ac yn eich grymuso chi os ydych chi’n hunan-adnabod fel person LGBTQIA+? Ac a oes angen gwneud mwy? Bydd yr awdur a’r hanesydd LGBT Norena Shopland yn sgwrsio gyda Shash Appan o Glitter Cymru, yr ymgyrchydd Shroukie el-Masry a Lucus Froud, sy’n ddisgybl yn Ysgol Plasmawr. 12:30 – 13:30 Y Pwynt Cyfryngol
Does neb yn ddiogel rhag effeithiau trawma. Mae trawma’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau trwy amharu ar ddatblygiad iach; gall effeithio’n andwyol hefyd ar berthynas a chyfrannu at broblemau iechyd meddwl gan arwain at gamddefnydd o sylweddau, trais yn y cartref a cham-drin plant. Dewch i glywed arweinydd Ymgysylltu â’r Gymuned, Laura Tranter, o Cymru Well Wales, cyfarwyddwr a sylfaenydd Clowniau Heb Ffiniau, Samantha Holdsworth, y gweithiwr theatr, Jane Boon, a’r gweithiwr lles Rebecca May, yn trafod ffyrdd o hybu ymwybyddiaeth o drawma mewn gwasanaethau ac yn y gymdeithas yn gyffredinol. 12:30 – 14:00 Gofod Cyntaf
18
GIG: HMS Morris
Mae HMS Morris yn grŵp ‘artrock’ o Gymru. Fe’i ffurfiwyd yn wreiddiol fel prosiect ymylol gan Heledd Watkins (a fu’n chwarae’r bas gyda Emmy the Great, Paper Airplanes, Chloe Howl) ond cyn hir dechreuodd y grŵp ennill ei enw da a’i hunaniaeth ei hun, pan ddechreuodd llong ddisgo euraid enfawr ymddangos ym mreuddwydion pob un o aelodau’r band. “Ag isleisiau ôl-pync, mae’r band yn arbrofi gydag allweddellau a lleisiau ac yn llwyddo i greu rhywbeth cydlynol a hudolus” (Clunk). Cafodd yr albwm diweddaraf ‘Inspirational Talks’ ei ryddhau ar label Bubblewrap yn gynharach eleni. 12:30 – 13:30 Theatr Seligman
Just B
Cadwch lygad yn agored am berfformiadau gan enillwyr cystadleuaeth Just B a gynhelir gan Ffederasiwn Dawnsio Stryd Cymru. Bydd y dawnswyr dawnus hyn yn eich syfrdanu. 13:00 – 13:30 Caffi Bar DIGWYDDIAD AM DDIM
wrth iddynt drafod eu gyrfaoedd eu hunain a’r modd y maent yn sicrhau llais a llwyfan i’w gwaith. Siaradwyr yn cynnwys: yr artist gweledol Adeola Deme, y cyfarwyddwr theatr Adele Thomas a’r cyfansoddwr Sarah Lianne Lewis. 13:30 – 14:30 Ystafell Gyffredin 1
Gwaith Menywod: Llafur Emosiynol
Mae menywod yn gweithio’n galed, on’d ydyn nhw? Ymunwch â ni i drafod cydraddoldeb a’r disgwyliadau sydd ar fenywod yn y gweithle ac yn y cartref. Bydd y panel yn cynnwys sylfaenydd yr Ymgyrch Ryngwladol i Dalu Cyflog am Waith Tŷ, Selma James, a’r trefnwyr cymunedol a’r mamau llawn-amser, Chantelle Williams a Beverley White. Bydd y panel yn trafod y nifer fawr o rolau y disgwylir i ferched eu chwarae a sut y gallai rhoi gwerth ar lafur emosiynol arwain at chwyldro diwylliannol. 14:00 – 15:30 Ystafell Gyffredin
GIG: Rachel K Collier
Mae Rachel K Collier yn beiriant cynhyrchu electronig un-fenyw ac yn ffan pybyr o feddalwedd Ableton, sy’n ei galluogi hi i ddefnyddio nifer o offerynnau ac i berfformio ei chyfansoddiadau a’i chynyrchiadau stiwdio mewn cyd-destun byw. Bydd Collier yn perfformio gyda drymiwr byw a bydd y sioe yn cynnwys deunydd gweledol trawiadol a rhyngweithiol. Cafodd y sioe fyw ei mireinio drwy gydol 2017 a 2018 ac fe enillodd Collier gydnabyddiaeth yn y DG wrth iddi gwblhau taith o naw cyngerdd a oedd yn cynnwys perfformiad BBC Introducing yn SXSW. Perfformiodd hefyd yn nigwyddiad Biggest Weekend Radio 1 yn Abertawe. 14:00 – 15:00 Theatr Seligman
Ecsbloetio Rhywiol
Yn 2018 enillodd Fiona Broadfoot frwydr y bu’n ei hymladd ers 20 mlynedd - i ryddhau’r rheiny a ddioddefodd ar draul y fasnach ryw o’u dedfrydau blaenorol, a gafwyd wrth iddynt orfod
HMS Morris
Merched yn y Celfyddydau
O Kully Thiarai yn National Theatre Wales i Karen Mackinnon yn Artes Mundi, mae Cymru ar flaen y gad o ran penodi menywod i swyddi uwch yn y byd celfyddydol. A yw proffil y merched hyn sydd ar y brig yn cael effaith ar y rheiny sy’n ystyried dilyn gyrfaoedd yn y celfyddydau a’u llwybrau gyrfaol nhw? Ymunwch â ni i glywed gan artistiaid Cymreig #WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
19
chwilio am waith. Dewch i glywed Fiona, Sefydlydd / Prif Swyddog Gweithredol Prosiect Build A Girl, Yasmin Khan, y Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, ac Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod Cymru yn trafod problem gynyddol ecsbloetio rhywiol. 14:00 – 16:00 Y Pwynt Cyfryngol
Dancing Queer: Shroukie El-Masry
Beth? Dylai bolddawnswyr gael gwallt hir ac eillio eu coesau a’u ceseiliau? Nid pob un! Yn hanu o brifddinas bolddawnsio’r byd, yr Aifft, bydd y dawnsiwr gwalltog hwn, â thatŵs a piercings, yn rhoi perfformiad dilys ond gwahanol iawn! 14:30 – 15:00 Caffi Bar DIGWYDDIAD AM DDIM
Adnabod yr Arwyddion: Gweithdy Cam-drin Domestig
Mae’r ymddygiad sydd wrth wraidd trais domestig yn aml yn cael eu camddehongli, a hynny’n golygu bod y dioddefwyr eu hunain yn ysgwyddo cyfran helaeth o’r barnu a’r cywilydd sy’n deillio o’r trais hwnnw. Ymunwch â Shabana Kasaur, Arweinydd Strategol Trais yn erbyn Menywod a Merched (Llundain), mewn gweithdy sy’n archwilio’r rhybuddion a’r arwyddion sy’n gysylltiedig ag ymddygiad treisgar. 14:30 – 17:00 Gofod Cyntaf
Merched yn Sefyll Gyda’i Gilydd: Grenfell & Aberfan
Yn y drafodaeth banel hon, bydd WOW Caerdydd yn croesawu goroeswyr, ac arweinwyr yr ymgyrchoedd am gyfiawnder a ddilynodd drychinebau Aberfan a Thŵr Grenfell. Ar 21 Hydref 1966, yn Aberfan, cwympodd rhan o bwll glo ar ysgol gynradd a 20 o dai. Collodd 144 o bobl, plant gan mwyaf, eu bywydau. Ac fe gollodd Aberfan genhedlaeth gyfan. Ym mis Mehefin 2017, bron i 51 mlynedd yn ddiweddarach, lledodd tân trwy dŵr Grenfell gan hawlio bywydau 71 o bobl a dinistrio tai a bywydau cannoedd yn rhagor. I lawer o bobl a oroesodd y digwyddiadau hyn, mae’r trychinebau’n fyw o flaen eu llygaid yn barhaol. Mae’r tebygrwydd rhwng Aberfan a Grenfell yn drawiadol. Yn union wedi’r ddau ddigwyddiad dinistriol hyn, daeth aelodau’r gymuned leol at ei gilydd er mwyn trefnu ymgyrchoedd ymateb. Roedd llawer iawn o’r aelodau cymunedol hyn yn fenywod. Ac mae menywod yn dal i arwain llawer o’r grwpiau ymgyrchu yn y frwydr barhaus am gyfiawnder. Mae WOW yn dwyn ynghyd banel o fenywod o Aberfan a Grenfell a fydd yn trafod y modd y mae’r frwydr hon yn cael ei hymladd. Panel yn cynnwys: Denise Morgan MBE, Prifathrawes wedi ymddeol Gaynor Madgewick, Awdur Lucy Masoud - Diffoddwr Tân yn Llundain Yvette Williams MBE, Justice 4 Grenfell
Mae pasys yn eich galluogi i fynd i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y dydd ond nodwch fod mynediad i ddigwyddiadau unigol yn cael ei roi ar system gyntaf i’r felin. Bydd system giwio yn cael ei defnyddio.
Sesiwn wedi’i chadeirio gan Jude Kelly, CBE, Sylfaenydd Gwyliau WOW. 14:30 – 17:00 Sinema 1
GIG: LayFullStop
Mae LayFullStop yn artist hip-hop / ‘soul’ benywaidd o Fanceinion, via Birmingham, ac mae hi wedi perfformio gyda grwpiau fel Cul Dè Sac a Roots Raddix. Enillodd LayFullStop statws cwlt ers rhyddhau ei thraciau solo ‘Ying Yang’ a ‘Aura’ ar YouTube yn 2016. Mae arddull Lay yn gymysgedd dilys o ganu ‘soul’ a hip-hop Prydeinig. Ar adegau mae’r canu’n hynod swynol yna, ar amrantiad, gall drawsnewid yn fariau o odli ffyrnig. Ond mor gelfydd yw’r trawsnewidiad fel na chaiff y naill arddull na’r llall ei gwanhau. Yn llawn cyferbyniadau a gwreiddioldeb, mae’r gantores fewnblyg a chwareus hon yn gadael i’w cherddoriaeth siarad drosti. Mae LayFullStop yn un i’w gwylio, yn bendant. 15:30 – 16:30 Theatr Seligman
Panel NTW This is: Women’s Work
Ymunwch â Chyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, Kully Thiarai, wrth iddi arwain trafodaeth agored gyda menywod ysbrydoledig yng Nghymru, a lansio cyfle newydd gan y cwmni ar gyfer artistiaid benywaidd. 15:00 – 16:00 Ystafell Gyffredin 1
20
Gwrthwynebu Creadigol Ymunwch â Jude Kelly wrth iddi sgwrsio ag artistiaid sydd ar flaen y gad ac yn creu gwaith y mae ymgyrchu’n rhan greiddiol ohono. O feirdd i wneuthurwyr ffilmiau, ac o ffotograffwyr i gerddorion, byddwn yn edrych
ar y modd y gall artistiaid gael dylanwad a chreu symudiad o gydgefnogaeth fyd-eang. Artistiaid yn cynnwys Minyung Im, Aleksandra Bilic & Lis Fields a Cian Ciaran.
13:00 – 14:30 Sinema 1
Minyung Im – Lullabies
Aleksandra Bilic – Sounds of Tehran
#WOWCDF / Facebook: WOW Cardiff / Twitter: WOWCardiff2018 / Instagram: WOW Cardiff
21
Charlotte Church yn sgwrsio gyda Jude Kelly Ar ôl bod yn olygydd gwadd rhaglen Woman’s Hour BBC Radio 4, rydym yn falch iawn o groesawu’r cerddor a’r eiriolwr cyfiawnder cymdeithasol Charlotte Church i WOW.
Bydd Charlotte yn sgwrsio â Jude Kelly, Sylfaenydd Gwyliau WOW, ac fe fyddant yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb rhywedd, gyda ffocws
22
arbennig ar addysg. 11:30 – 12:30 Sinema 1
Dancing Queer: Shroukie El-Masry
Only Menopause Allowed: Dros Dro
Dewch i fwynhau perfformiad gan gôr sy’n agored i bob un sy’n hunan-adnabod fel menyw - waeth beth fyddo’u gallu lleisiol. Mae’r côr yn cynnig cyfleoedd i wella sgiliau canu mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar, ac mae yna lawer o hwyl i’w gael ar hyd y ffordd! 15:30 – 16:00 Caffi Bar DIGWYDDIAD AM DDIM
Jude Kelly yn Cau WOW Caerdydd 2018
Jude Kelly, ssylfaenydd gwyliau WOW, fydd yn crynhoi’r penwythnos ac yn sôn am y camau nesaf i WOW yn fyd-eang. 16:30 – 17:00 Sinema 1
Ymdopi â’r Gwres Mawr Personol
Caffi Rhyw
Ymunwch â grŵp trafod y caffi rhyw am sgwrs onest a hamddenol a fydd yn archwilio cwestiynau fel y canlynol: A yw pobl yn gweld yr anabledd cyn gweld y person? A yw pobl ifanc wir yn gwylio mwy o bornograffi nag erioed? A yw bod yn HIV positif yn golygu bod yna heriau penodol wrth ddechrau perthynas newydd? Dewch i glywed safbwyntiau Wayne Curley o Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yr ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl a’r perfformiwr Karina Jones a’r ymgynghorydd a’r addysgwr rhyw a pherthnasoedd, Dr Tamse Preece, ar y pynciau hyn a mwy. 17:00 – 19:00 The Cwtch DIGWYDDIAD AM DDIM
23
S
I
N
E
M
A
I Am Not a Witch
Cymru/2017/90mun/12A Cyf: Rungano Nyoni Gyda: Maggie Mulubwa Mae’r Shula 8 mlwydd oed yn cael ei chyhuddo o fod yn wrach yn ei phentref enedigol yn Zambia. Stori lawn hiwmor sych am ddogma, rhagfarn a llygredd. Gweler rhaglen Chapter am fanylion
SPIRIT OF 2012
WOW SPIRIT
ARIANNWYD GAN SPIRIT OF 2012 INVESTING IN HAPPINESS
Mae Spirit of 2012 yn elusen ariannu, a sefydlwyd gan Gronfa Fawr y Loteri Fawr ar sail gwaddoliad o £47m gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r elusen yn ariannu prosiectau sy’n dod â phobl at ei gilydd - i ddysgu rhywbeth newydd, i wneud rhywbeth gwahanol, neu i brofi rhywbeth unigryw – a phrosiectau sy’n cael effeithiau cymdeithasol hirhoedlog ar les unigolion, ac yn cyfrannu at gymunedau hapusach a mwy cysylltiedig. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.spiritof2012.org.uk @spiritof2012
Mae WOW Spirit wedi cyflwyno naw o wyliau WOW mewn pum dinas ledled y DG dros y tair blynedd diwethaf (un yn 2016, tri yn 2017 a phump yn 2018). Mae’n un o fentrau Canolfan Southbank, a ariennir gan Spirit of 2012. Mae WOW Spirit wedi targedu ardaloedd lle mae yna ddiffyg isadeiledd diwylliannol a phroblemau o ran mynediad i adnoddau; ardaloedd hefyd lle mae yna nifer cyfyngedig o gyfleoedd i arweinwyr benywaidd, ac ardaloedd lle mae’r ffactorau hyn yn rhwystrau i gydlyniant cymunedol. Seiliwyd pob gŵyl ar syniadau a godwyd mewn cyfres o sesiynau cynllunio o’r enw ‘think-ins’. Yn y rhain, mae croeso i bob un rannu syniadau ac awgrymiadau, er mwyn sicrhau bod WOW yn ystyried materion lleol pwysig. Mae trefnu gwyliau newydd ledled y DG yn caniatáu i fenywod, dynion, merched a bechgyn (gan gynnwys rhai o’r lleisiau mwyaf ymylol yn y gymdeithas) gymryd rhan weithgar yn eu cymunedau lleol. Fel rhaglenwyr, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr, gallant helpu i greu cymdeithas decach a hapusach.
24