Clinc-R #1

Page 1

Cylchgrawn Miwsig Amgen

Blaenau a thu hwnt!!!

Cynnwys:

Cartilag, Bad Name, Annioddefol, Wyrligigs, Di Pravinho, DJ Hazadust, DJ Gary Lewis . .

!!

A llawer llawer llawer mwy!!


gen y sin a dj’s tanddearol a am u ia nd fa i s ai ll oi rh i ym mlaenau CylChgrawn wedi ei greu penCadlys gwallgofiaid , ll Ce yn eu gr ei di we miwsig yn gwynedd. bl ifanC y dref. ffestiniog gan griw o bo

Cynnwys :

3) Cartilag. mption. 4) Visions. / esCape rede gigs 5) polonium / gwyliau a wis + dj hazadust. 6) llan Clan / dj gary le tiCa. 7) soul explosiVe / here 8) mC tom / happy Core.

Y Tim :

Caryl McQuilling, Sion Jones, Ross Jarvis, Tara Hall, Gwion Goth, Kiki Rees-Stavros, Ellen Pugh, Wees Wobyts.

2

9) yr annioddefol. ll. 10) bad name / stiwdio Ce 11) KinKy pedestrians. assasin. 12) adolygiad Cd’s / i am 13) wyrligigs. . 14) y di praVinho. / Cwrt K. 15) adolygiad waKestoC 16) graffiti.

Diolch :

Justin Dylunio Gringo, Pete White, Gwyndaf, Emma G-R, Chris Cockerill, Mike.


mynd ac yn 3 aelod yma o ardal Porthmadog yn fflio Yn ffresh allan o’r Stiwdio mae’r band tanddaearol iau fand sig lleol. Ond, yn wahanol i lot o atynnu nifer eang o gefnogaeth ffans miw gallu i atynnu l ‘hardcore punk’ mae gan y band yma’r Gwynedd sydd yn chwarae miwsig stei dit S4C d mae’n nhw wedi ymddangos ar Sioe Ban sylw’r cyfryngau Cymraeg hefyd! Yn baro sut mae y, Fell ru. Cym cwpl o’u traciau ar C2, Radio ac mae’r DJ Huw Stephens wedi chwarae au? yng cyfr ng ffans miwsig go iawn a chrachach y Cartilag yn gallu cadw cydbwysedd rhw ni’n jyst byd sbesial na’n wahanol chwaith…..da : “Wel, da ni ddim rili yn trio neud dim eal’ ein drymar del da ni’n licio chwarae…. Ella na ‘sex app neud be da ni’n neud a chwarae miwsig a gorjys ni dio?????” nghanol taf ‘Jah No Dead’ ar Label Bonc Shafft yng gyn E.P eu au ddh rhy io eith gob yn Mae Cartilag re punk’ trwm, stormar o CD sy’n llawn caneuon ‘hardco mis Awst, ac mae’n argyhoeddi i fod yn felly be di’r hanes tu ôl teitl yr E.P?? ein cloi h ac ath hi’n chwalfa lwyr a nath ni cael : “Wel, oedda’ ni gyd lawr yn Aberystwyt i crafu wed wun rhy y pyblic toilets Aber, ac ar y wal oedd allan o tŷ Ifan so aru ni orfod crasho yn le ddaeth y syniad.” mewn ‘Jah No Dead’…..a dyna fo, dyna rwydd mae’n hollol ‘Myspace’ y band i wrando ar y gân, ohe Yn wir, mae’n werth i chi fynd ar safle ol i bawb arall mae Cartilag yn hollol unigryw a gwahan gamarweiniol i’r teitl!...Ond, dyna fo de… …oooo ydi wir!!! Mis Awst. E.P gyda y Wyrligigs sydd i’w ddod ym Gwyliwch allan am Daith hyrwyddo eu

Steff

Steff

www.myspace.com/cartilag

E.P - Jah No Dead’:

‘Jah No Dead’, ‘Weird Tunning’, ‘Dim Heno’, ‘Belveder’, ‘Dos i Fyw’ a ‘Masqs’.

Cartilag 3


Visions

Dechreuodd Vision (gynt yn ‘Venomous Kiss’) yn 2006 pan welon nhw boster yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog yn hysbysebu ystafelloedd ymarfer wag yn y Gwallgofiaid. Fe neidiodd y plant ar y cyfle o gael dechrau band ac felly ers hynny tydi’r hogiau heb edrych yn ôl. Gan dynnu dylanwadau o fandiau fel Avenged Sevenfold, Bullet For My Valentine a Slipknot, mae sŵn y band ifanc yma yn cael ei disgrifio fel ‘upbeat punk-rock’. Mae’r band yn cynnwys Siôn (drymiau), Cemlyn (gitâr) a Chris (gitâr) ar hyn o bryd oherwydd wnaeth y gantores adael y band yn gynnar wedi iddynt ffurfio. Tydi’r band heb chwarae gig eto gan mae yna dal gwaith sgwennu a chyfansoddi yn mynd ymlaen yn eu sesiynau ymarfer, ond fe ddisgrifiodd eu gig delfrydol fel gig go fach hefo gynulleidfa tua’r un oed a nhw (awwww!) Er na dim ond dechrau allan mae Visions, ma’ yna botensial go iawn iddynt ddatblygu yn gerddorol a datblygu `repertoire o ganeuon go dda!

Un o bandiau newydd sydd wedi ymuno ar CELL/Gwallgofiaid ydi Escape Redemption. Fe wnaethant ffurfio a dechrau ymarfer yn y CELL yn Ionawr 2008 hefo Tara (cantores), Gethin (gitâr), Jaime (gitâr) a dau aelod arall sydd nawr wedi gadael. Dewisodd ffurfio’r band ar ôl jamio yn eu gwersi Cerdd, oedd y gwersi yn ddiflas felly oedd rhaid gwneud rhwbath constryctif i basio’r amser! Cafodd syniad am eu henw gan ffrind, a doedd dim angen meddwl ddwywaith am ymuno’r Gwallgofiaid – Mae brodyr Tara hefyd yn neu wedi bod yn rhan o fandiau’r Gwallgofiaid! Mae fel traddodiad teuluol! Dylanwadau’r band yw Bullet For My Valentine, Paramore a YOUMEATSIX, mae gwahanol steils yma yn cyfuno i greu sŵn ‘punk/emo’ Escape Redemption. Er hyn, cytunodd y band y buasent yn hoff o gigio hefo Avenged Sevenfold gan mae nhw’n ardderchog yn fyw. Mae’r aelodau o’r band hefyd yn hoff iawn o Tenacious D ac yn hoff o wrando ar fandiau newydd sy’n dod ar y sîn. Wrth ysgrifennu caneuon, dylanwadau’r band ydi digwyddiadau pob dydd … gan gynnwys sgwennu cân am Tippex a sanau od. Er mae ganddynt lot o hyder ac maent yn awyddus i ddatblygu yn gerddorol, mae’r band dal yn ymarfer yn y CELL ac yn edrych am aelodau newydd i ymuno. Mae nhw’n fand gyda llawer o botensial, maent yn dalentog ac maent yn haeddu cael ei adnabod ar y sîn roc fel band sydd am ddat4 blygu i fod yn un o’r bandiau i weld yn fyw.

Escaped Redemption


n

Polonium

Band newydd, ifanc a cyffrous o Flaenau Ffestiniog yw Polonium. Cafodd y band yr enw ar ôl i frawd Aled awgrymu’r gair, gan ‘na metel trwm yw Polonium ac mae hyn yn adlewyrchu’r math o gerddoriaeth mae’r hogiau yn chwarae. Aelodau’r band yw Aled (canŵr, gitâr), Gwion (dryms) a Scott (basddyn). Er na ifanc di’r hogiau, mae nhw’n llawn hyder ac yn barod i wynebu’r bandiau hyn yn y sîn. Dydi nhw ddim wedi cyrraedd ei arddegau eto, ond, mae ganddyn nhw’r agwedd ymosodol yma fysa yn syfrdanu chi os gwyliwch y band yma yn chwarae! Dechreuodd y band cyn Nadolig 2007 ar ôl iddynt glywed am y Gwallgofiaid gan ffrind oedd yn aelod o’r fenter. Er mae’r band yn ffresh ac yn dod i arfer i ymarfer gyda’i gilydd, mae nhw wedi ysgrifennu cwpl o ganeuon gwych yn barod. Mae eu dylanwadau yn eang o hen fandiau metel trwm fel Metallica i fandiau newydd fel Tenacious D. Newydd recordio trac yn y CELL mae Polonium a nawr mae nhw’n gobeithio chwarae gig yn y dyfodol agos. Mae’r band yn uned gref a gyda llawer o’i blaen nhw yn y dyfodol, bydd y band yma yn dal eich sylw ac yn gwneud eu marc yn y sîn roc. ***Eisteddfod 2008 – Caerdydd – 2-9 Awst Llu o wahanol fandiau Cymreig am berfformio ym Maes A ac Maes B y blwyddyn yma! Fydd hi’n tua £12 y noson i gampio yna, sy’n fargen! ***Ripcurl Boardmasters Unleashed – Newquay – 4-10 Awst Os wnaethoch chi fethu allan ar Wakestock ac bron a marw isio gweld y Wakeboarding ath ymlaen draw yno, ewch i fama! Mae llawer o fandiau Wakestock yn perfformio yn yr Wyl yma. www.ripcurlboardmasters.com am ticedi. ***V Festival – Chelmsford/Staffordshire - 16-17 Awst Hefo bandiau fel The Kaiser Chiefs, Amy Winehouse, The Kooks, Stereophonics, Travis a llawer, llawer, llaaaaaawer mwy y chwarae, mae’n siom os dach chi heb cael ticad! www.vfestival.com am fwy o wybodaeth (mae’r ticedi wedi gwerthu allan, gewch fwy o lwc fynd ar www.ebay.co.uk i gal un nawr!) ***Creamfields – Cheshire – 23-24 Awst Ravers!? Fydd y chi yn wirion bost i fethu yr Wyl hon! Gyda Paul Van Dyk, Tiesto, Fatboy Slim, Pendulum, The Gossip, Pete Tong ac gymaint o acts eraill yn cymeryd y llwyfan, mae mynd i fod yn barti i’w gofio! Mae yna lwyth o wahanol mathau o ticedi i brynu, felly, ewch ar www.creamfields.com am fwy o wybodaeth ***Reading/Leeds Festival – 22-24 Awst Hefo llu o fandiau gwahanol di drefnu, o Metallica i Manic Street Preachers, The Killers i The Wombats, mae yna fand i bob person! www.leedsfestival.com a www.readingfestival.com (eto mae’r ticedi wedi hen fynd, www.ebay.co.uk ydi’r opsiwn gore!) Gigs sy’n werth mynd i :The Ting Tings – Medi/Hydref Enter Shikari – Hydref/Tachwedd Pendulum – Tachwedd/Rhagfyr Funeral For a Friend – Hydref/Rhagfyr

Gwyliau

5


Llan Clan

www.myspace.com/llanclan

Tair mlynedd yn ôl a’r Gwallgofiaid wedi dechrau ers blwyddyn cyfan, cafodd fand ifanc o Lan Ffestiniog ei greu. Ei enw nhw oedd Llan Clan (gan bod yr aelodau i gyd yn dod o Lan Ffestiniog) oedd yn cynnwys Tom ar y dryms, Lindsay ar y gitar fas a Siôn ar y gitar gyda Rosie a Katharine (y rhai sydd yn canu) yn ymuno yn fuan ar ôl hynny. Yn y misoedd diwethaf, mae nhw newydd orffen recordio can newydd, Unwaith Eto, yn stiwdio Cell ym Mlaenau Ffestiniog gyda Ger Ninja, yn gynt o stiwdio Sylem.

Ar y funud, mae’r band ddim yn gwneud gymaint fel yr oeddent o’r blaen gyda’r band yn canolbwyntio a’r gwaith coleg a Rosie o’r band yn mynd i brifysgol Aberystwyth. Ond, mae’r band yn gobeithio dal i barhau yn gryf Mae’r band wedi wneud llawer yn y tair mlynedd diwethaf gyda ymddangosiad a’r rhaglenni fel Bandit a Uned 5, cael ei a gobeithio gwneith y pellter ddim efchwarae ar Radio Cymru a Sioe Adam Walton ar Radio Wales, feithio ar dyfodol y band. Mae’r band hefyd yn gobeithio recordio mwy o drachwarae gigs o Flaenau Ffestiniog i Gaerdydd i chwarae ciau a chwarae mewn fwy o gigs. Ar ôl gwyliau fel Maes B ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Nhw oedd y band cyntaf i chwarae yn gig cyntaf y Cwrt gyda tair mlynedd gyda’i gilydd, mae nhw’n dal yn mynd yn gryf gyda’i cerddoriaEuros Childs. Hefyd, yn 2006, mi wnaeth y band cyrraedd eth hafaidd a diofal a gobeithio bydd y rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith/C2 gan band yn parhau am dair mlynedd arall. methu allan ar y safle cyntaf o drwch blewyn.

Superstar D.Js

D.J Gary Lewis v Hardstyle

STEIL

Technics 1210’s Pioneer CDJ 1000’s Pioneer DJM 600

OFFER

RECORD ‘08 Koas Pad Log.One:Atmosphere Creatures Eddie Haliwell Sander Van Doom Richards Darand Technoboy

HipHop-Brakes-Techno

Numark Ax159 Korg Electrybe Reson 4 (meddalwedd) Ableton live (meddalwedd) Coolkids 88

Cypress Hill DYLANWADAUThe Prodigy King Tubby James Brown Krsone

GWEFAN

Myspace.com/DJGaryLewis www.ESNIPS.com 6

D.J Hazadust

Myspace.com/Hazadust.


Soul Explosive www.myspace.com/soulexplosive

Band o Eifionydd ydi Soul Explosive a ffurfwyd pan oeddent dal yn yr ysgol yn 2006. Mae’r band yn cynnwys Michael (dryms), Dougie (bass-ddyn), Morgan (gitar), Max (gitar) a Joss (canŷr). Mae blas cerddorol y band yn drwm i’r clyw, gyda dylanwadau fel Throwdown, Metallica, 0 eBoys?! Pantera ac.... The Beastie Yn amlwg mae’r band yn reit unigryw! Mae’r gerddoriaeth mod È o Y d yn gyfyniad o’i ddylanwadau ac gwahanol mathau o Fetel i greu swn unigryw Soul Explo o W\\j ^ I Y sive. 8ed Caethant enw’r band drwy rhestru e’u hoff eiriau ac rhoi dau air hefo’i gilydd (i fandiau newydd, cymerwch nodyn, mae hyn yn ffor gret o cal enw i fand!!!) ac erbyn hyn mae’r band wedi bod yn gigio yn gyson ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys y Pafiliwn yn Llangollen i’r BMEX yn Abermaw (Bermo), ac maen’t yn awyddus i chwarae fwy o gigs wrth gwrs! Os ewch i www.myspace.com/soulexplosive cewch flas o’u gerddoriaeth ac cal oglo eu llyniau diddorol a digri! Er mae’r band hefo gallu ac dawn, mae nhw dweud does dim rhaid cymryd yr busnas yn ddifyr, fel ddwedir Joss – “Mae o i gyd am cael amser da gyda ffrindiau”. Motto bosotif ar ',$&($&- Dei M[dWh D[WkZZ ;]bmoi" 8bW[dWk <[ij_d_e]$ gyfer band gwerth chweil! :hoiWk -$)&fc # ''$'+ Fc _d\e 0 mmm$coifWY[$Yec%]mWbb]eÇW_Z

Mae’n synnu gymaint o bobol sut mae band yn gallu ennill dilyniant cryf o ffans fel mae’r band yma wedi mewn prin dipyn o amser! Ffurfiodd Heretica yn 2007, hefo dau aelod yn unig, Dan a Mike. Roeddent wedi sgwennu caneuon a riffs yn eu hymarferion cynnar ac oeddent yn teimlo dylen wneud ryw fath o ddefnydd ohonynt!

Heretica

Fel llawer o fandiau, mae aelodau wedi cael ei newid dros dro. Fe ymunodd JJ a Ben yn fuan wedi iddynt ddechrau, ond ar ôl nifer o gigs oedd rhaid newid aelodau oherwydd diffyg ymrwymiad. Ond cyn pen dim, ddaeth yna ddau aelod newydd ar y sîn, Steffan a Dewi, ac felly ddaeth y gigs yn gyson iddynt. Mae’r band felly yn cynnwys y dilynol, Dan (gitâr), Dewi (gitâr rhythm, canŷr), Mike (Basddyn), Steffan (dryms) a Ben (canŷr). Mae Heretica yn chwarae cerddoriaeth drom hefo dylanwadau fel Slayer, Iron Maiden, Hatebreed, Funeral For a Friend, ma’ hyn yn rhoi syniad o flas y gerddoriaeth maent yn gweinyddu i fynychwyr gigs. Maent yn fand sy’n werth i weld yn fyw, mae eu caneuon yn anhygoel o bwerus ac yn achosi i bobol fynd yn boncyrs, ganddynt gwydd gwefreiddiol sy’n angenrheidiol i fand sydd â photensial i fynd yn bell.

www.myspace.com/hereticaport 7


M.C Tom C

Mae’n siŷr dach chi’n ei adnabod o fel un o’r ddau o ddau foi o Blaenau neu 24pack. Cafodd y band llwyddiant gan ennill cefnogaeth frwd gyda rhai fel Huw Stephens oedd yn ffan. Ond, wnaeth pethau ddim gweithio allan, ac felly mae Tomos Cunnington neu M.C Tom C wedi dechrau project unigol ei hun. Yn barod, mae yna ddau drac ar ei wefan Myspace sef ‘Casineb’ a ‘Colli Pen’ . Yn y ddau drac, mae Tom yn hunandybus ac yn mynegi ei farn yn gryf ar y byd a’i bethau yn enwedig ‘Casineb’ gyda Tom yn rhagfarnu gwledydd pwerus y byd a’r casineb mae nhw’n defnyddio er mwyn ennill mwy o dir a dod yn fwyfwy bwerus . Recordiodd y traciau hyn gyda Gai Toms yn Stiwdio Sbensh, Tanygrisiau. Ei ddylanwadau yw rapwyr fel Eminem a Dizzie Rascal i rapwyr newydd fel Plan B a Jaime T a rapwyr Cymraeg o Pep Le Pew i Cofi Bach a Tew Shady. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o hip-hop a cherddoriaeth gwerin gan ddefnyddio samplau gwerin, traddodiadol yn ei ganeuon. Dydi Tom ddim wedi chwarae gigs eto, ond, mae’n cymryd ei amser ac yn canolbwyntio ar gael y caneuon yma allan i’r cyhoedd cael gwrando yn gyntaf. Hefyd, mae Tom wedi bod yn gwneud dipyn bach o deithio ac wedi bod yn ymweld â’r Eidal am dri mis.

www.myspace.com/mctomc

Mae’r Cunningtons o Flaenau yn deulu cerddorol gyda brawd mawr Tom, Ceri, wedi bod yn canu yn Anweledig a’i chwaer fawr, Lowri, wedi bod yn canu gyda Gwilym Morus a mwy a rŷan, mae Tom am ddangos i ni ei fod o mor ddawnus â’i frawd a’i chwaer mawr hefyd.

Happycore www.myspace.com/happycore

Ffurfiodd Happycore yn 2007 o dan yr enw ‘Lasting Memories’, erbyn hyn mae’r band wedi datblygu yn gerddorol ac mewn maint wrth gwrs! Aelodau’r band yw : Andrew Cockerill (gitar, canŷr cefn) Louis Tang (Canŷr, gitar), Liam Edwards (Canŷr, bas-ddyn) a Sion Roberts (drymiau). Mae cerddoriaeth y band yn gymysg o bôp, acwstig a roc, mae pob aelod o’r band wedi ei ddylanwadu gan wahanol artistiaid ac mae hyn yn adlewyrchu ar eu gerddoriaeth. Rhai o dylanwadau’r hogiau yw Jason Mraz, Antoine Dufour, Nickelback, Blink 182, Metallica a llawer mwy. Ar hyn o bryd, mae Happycore wedi recordio E.P. gyda’r teitl ‘Differences’, hyn oherwydd mae yna 3 neu 4 steil gwahanol wedi ei gyfuno mewn i’r E.P. yma. Mae’n amlwg mae’r band yn chwarae o safon ardderchog ac mae eu caneuon yn swynol ond hefyd wefreiddiol. Gobeithion Happycore i’r dyfodol ydi cario ymlaen ysgrifennu cerddoriaeth, chwarae gigs ac wrth gwrs, cael hwyl o fewn y band! Maent wedi ennill ddilyniaeth o ffans yn barod, wedi cael y prif slot mewn gigs fel Hendre Hall (sy’n lwyddiant i unrhyw fand) ac mae’n amlwg mae yna lot fwy i ddod 8 gan griw mor ddawnus a criw fel Happycore.


Yr Annioddefol

“Llongyfarchiadau i’r Annioddefol” – gan

Griw Clinc-R

blynyddoedd ioddefol, bellach ‘di bod wrthi ers rhai Mae’r band o Flaenau Ffestiniog ,Yr Ann r gydag aelodau dau, mae nhw o’r diwedd wedi setlo law yn nawr, wedi cryn dipyn o newid aelo cyfuniad y band eu albym cyntaf ‘I ryfel es di’, sef newydd parhaol. Yn 2007, fe ryddhaodd eu mysg a yn n uro di hyfryd iawn efo digon o glas o power pop catchy, reggae ymgodol a bale chynhyrchiad o safon uchel. wyddo efol wedi bod yn gigio yn gyson wrth hyr iodd Ann ’r mae f, etha ddiw yn ydd flw Dros y Rygbi yn Sesiwn ar nos Sadwrn Gŷyl Car Gwyllt, y Clwb eu albym. Ar ôl chwarae’r brif lwyfan dgrug ac wedi yrddin, ar faes yr Eisteddfod yn yr Wyd Fawr Dolgellau, Gŷyl Macs yng Nghaerf stal â llwyth ydr y bandiau C2/Radio Cymru (yn ogy mrw ym l yno derf gyn nd row y aedd cyrr nesaf ac yn gobeithio gigio’n gyson dros y misoedd o gigiau tafarn), mae’r Annioddefol yn oedd diwethaf! gobeithio rhyddhau eu hail albym y mis adleuaeth adlu yn Inverness, Yr Alban mewn cyst cyst yn efol iodd Ann Yr d fuod mi f, Mis diwetha y band i fe gafodd nhw lwyddiant! Dyma oedd gan i ieithoedd Celtaidd o’r enw ‘Nos-Ur’ ac ddweud : d yn deg iawn i miau i bob band arall ddefnyddio, roed “Ar ôl helpu setio fyny’r backline a’r dry rhannu’r i n ond dal yn edrych ymlaen yn fawr gael ddeud bod pob un ohonom ni’n nerfus iaw d pawb n yna. Ar ôl i ni chwarae ein cân ni roed noso y ar l aral ch gwy fand 11 a gyd fan llwy da’ ni’n gallu i d yn dda a bod ni wedi neud y gora’ oed yn teimlo bod y perfformiad wedi myn fynd drwodd ns h. Roedd ddau fand yn cael y siaw i baratoi at rownd derfynol y gystadleuaet drwy system lut yn Lapland gydag un band yn ennill i rownd derfynol y gystadleuaeth Leit Lav ydain cynrychioli ardaloedd gwahanol ym Mhr yn niad beir 5 gan yo brw gwo i wed u o bwyntia gynulleidfa. Fe ill y fwyaf o bleidleisiau ar lein a gan y a band arall yn mynd drwodd trwy enn gyhoeddi yn gyntaf ac ‘sdi be?..... gafodd enillwyr bleidlais y beirniaid ei DDARU NI ENNILL!!!” ill a phob lwc iddynt yn Sweden!!! Llongyfarchiadau enfawr i’r band am enn © www.uned5.co.uk

www.myspace.com/yrannioddefol 9


Dechreuodd Bad Name yn Ebrill 2005 ac ar ôl rhai newidiadau yn y band, mae’r band yn gyflawn rŷan gyda Ross ( yn canu), Brett (ar y bas), Ricky (gitâr) a Gwion (ar dryms). Cerddoriaeth pync a metal trwm ydi’r math o gerddoriaeth mae’r band yn chwarae, sef arddull run fath a bandiau fel The Used a Finch. Mae’r band wedi chwarae cryn dipyn o gigs o amgylch Gogledd Cymru ac ochr arall i’r ffin o nosweithiau BMEX yn Bermo i’r Barfly yn Lerpwl. Ond, un o’u gigs gorau oedd yn Neuadd yr Eglwys ym Mlaenau Ffestiniog gan fod y gynulleidfa yn gwybod sut i gael amser da bob amser! Os ewch chi erioed i weld Bad Name, cewch berfformiad a hanner ganddynt bob amser. Maent yn llawn egni ar y llwyfan a mae Ross mor hyderus pan mae o flaen y gynulleidfa. Bad Name yw un o’r bandiau y dylech chi weld yn fyw y flwyddyn hon.

Bad Name

Maent wedi recordio cwpl o ganeuon yn barod yn stiwdio Cell gyda Ger Ninja, ond, yn gobeithio ar gyfer y dyfodol i ryddhau E.P, rhywbeth bydd y cyhoedd yn gallu cael gafael a phrynu. Hefyd, maent yn gobeithio cael fwy o gigs ac efallai ennill cyhoeddusrwydd ochr arall i’r ffin fel maent wedi gwneud yn barod yng Ngogledd Cymru. I mi, mae Bad Name yn sefyll allan i fandiau eraill o’r un genre o fiwsig gyda’i gwaith gitâr arbennig, eu geiriau llawn emosiwn a’u curiadau trwm. Felly, sbïwch ar eu Myspace

www.myspace.com/badname2

Stiwdio CELL

Stiwdio Cell. Stiwdio 24 Trac sydd yn meistroli mewn recordio byw a mastro, gyda’r peirianydd Geraint ‘Ninja’ Jones yn gynt o Stiwdio Sylem, Betws y Coed. Mae Gez wedi recordio nifer eang o fandiau gan gynwys unarddeg o seshiynau i raglen John Peel ar Radio One (un o rhain ymysg ffefrynau holl seshiynau yr athryltith cerddorol gynt). Mae’r Stiwdio wedi leoli yn y ‘Cell’ yng Nghanol Dref Blaenau Ffestiniog ond mewn cul-de-sac fach distaw o fewn tafliad carreg i dafarndai, siopau, ‘takeaways’ a bwytai lleol. Cyflwysterau yn y Cell yn cynnwys : Cegin gyda popty a microdon, toiledau a cawod. I gyd fynd a’r Stiwdio bellach mae Label recordio ‘BoncShafft’ wedi ei ffurfio i rhyddhau deunydd sydd yn cael ei recordio ac sydd a potensial yw rhyddhau.

www.myspace.com/cellblaenau 10

Er mwyn gwarchod hawlfraint y deunydd sydd yn cael ei rhyddhau ar label ‘BoncShafft’ bellach mae Cwmni Cyhoeddi wedi ei ffurfio o’r enw ‘BwdaTwc’ sydd yn cofrestru traciau yr artistiad ac yn casglu arian yr hawlfraint yn rhad ac am ddim (mae’n debyg mai dyma’r unig Gwmni Cyhoeddi o’r fath yng Nghymru!). am fanylion technegol ffoniwch Gez : 07900500025 01766832001 Cell Blaenau.


Kinky Pedestrians www.myspace.com/kinkypedestrians

Does ‘na ddim llawer o fandiau merched wedi bod yn y sîn gerddorol Cymraeg ers hir. Ond, yn ddiweddar, mae yna lawer o fandiau merched wedi codi sylw yn y sîn. Un o’r bandiau hyn yw’r Kinky Pedestrians, pyncstars o Flaenau Ffestiniog. Dechreuwyd y band cwpl o flynyddoedd pan roedd Gwallgofiaid yn trio dechrau band llawn merched oherwydd doedd na’m llawer ohonynt o gwmpas. Gyda nifer o aelodau gwahanol wedi mynd a dod yn y band, mae’r band nawr yn cynnwys Caryl (cantores, allweddell), Kiki (gitarydd, bas) a Rhiannon (drymar) yn barod i gymryd drosodd y sîn ddynol yma. Mae eu dylanwadau nhw’n eang o Janis Joplin i hyd yn oed y Spice Girls. Pethau eraill sydd yn eu dylanwadu nhw i ysgrifennu yw pethau rhywiol fel “fluffy handcuffs” a’i ffrindiau doniol. Y gair gorau i ddisgrifio’i eu cerddoriaeth yw rhywiol ac wrth weld y lluniau hyn, nid cerddoriaeth yw’r unig beth rhywiol mae gan y band yma i gynnig. Mae eu caneuon nhw hefo flas eang, rhai caneuon yn ddifyr a thywyll a rhai eraill yn ddigri yn sôn am ryw, ‘PVC’ a llawer o bethau eraill sy’n gysylltiedig i’r byd . Ond, erbyn hyn mae nhw’n frwdfrydig i chwarae fwy o gigs. Yn aml fydd y band yn yfed tra’n gigio (Weithia yn beth da… weithia yn beth drwg, ond, os ydi Anweledig yn gwneud o... pam ddim!). I unrhyw un sydd am ddechrau band, mae’n nhw’n dweud mai ymroddiad yw’r peth pwysicaf sydd yna i gario blaen o fewn band. “Dydi bod mewn band ddim bob amser yn beth dda os dach yn dechrau un i fod yn gŷl”meddai’r band. “Peidiwch â gwneud o ar gyfer y ddelwedd”. Gig delfrydol nhw fuasai mewn clwb stripio gyda Marilyn Manson yn cefnogi! Erbyn hyn, mae nhw wedi bod yn recordio ac maent yn gobeithio cael mwy o gigs, mae nhw ar y funud yn ysgrifennu fwy o ganeuon i ychwanegu at eu repertoire. Yn y dyfodol agos mae’n siŷr fyddech chi’n dal nhw mewn clwb stripio neu mewn ffilm anweddus yn gwneud y peth mae nhw’n ei wneud gore! Mewn byd llawn o fandiau wedi ei ddominyddu â ddynion, dwi’n siŷr fydd y 11 band yma yn troi popeth ar ei phen!


Hadouken - Music For Accelerated Cultured Gyda’i albym gyntaf ‘Music for an accelerated culture’ wedi ei rhyddhau eleni ar Atlantic Records, mae’r band Hadouken wedi ennill cryn dipyn o gefnogaeth ar lwyfan rhyngwladol a’r Byd. Mae eu steil unigryw o ‘synthetic beats’ a’i sŷn sy’n dynwared yr arddull newydd ‘nu rave rock’ yn gwneud hi’n amhosib i wrando ar yr albym heb orfod neidio o gwmpas fel nytar ar sbid. I ddweud y gwir mae gwrando ar tiwns fel ‘Crank it up’ yn neud i chi neidio a bownsio fel sa chi mewn rave yn ffactri teiars Mitchelin. Yn bendant mae hon yn albym sy’n werth cael gwrandawiad ac mae nhw’n bendant yn fand i wylio allan am yn 2008.

Pendulum - In Silic Rhyddhawyd ‘In Silico’ Mai 2008 ar ‘Warner Music UK’, ac ar wrandawiad cyntaf oedd o’n hollol sioc clywed cantor cyson ar y traciau. Mae’r albwm yma bron iawn yn hollol gwrthgyferbyniad i ‘Hold Your Colour’, ble oedd hwnna wedi canolbwyntio fwy ar y beats ac ar yr elfen dawns o’r caneuon, tra mae ‘In Silico’ yn fwy eang, hefo defnydd o offerynnau a chantor ond yn dal i ddefnyddio synths ac elfen electronig. Y sengl gyntaf oddi ar yr albwm yw ‘Propane Nightmares’, sy’n dangos y cyfuniad llwyddiannus o offerynnau iawn, synths a beats. Mae’n gan bwerus sy’n hitio chdi fel wal o sŷn ac mae llais y cantor (Rob Swire) yn hedfan mewn i’ch pen ac yn creu anhrefn llwyr yn ei’ch ymennydd, yr unig beth a allwch neud ydi mynd yn hollol gwallgo am yr 5 munud mae’r cân yn eich dal chi.

Adolygiadau CD’s

I Am Assassin

www.myspace.com/iamassassin11

Mae I am Assasin wedi bod trwy ddigon o newidiadau ers dechrau yn 2006, ond mae’n amlwg oedd yr aelodau a ddechreuodd y band hefo’r gallu a gyrru i ddarganfod uned o aelodau fysa yn cyfrannu ac yn gweithio tuag at lwyddiant y band. Mae’r band yn cynnwys Rikki (gitâr), Kris (canŷr), Siôn (dryms) a Chubb (bas). Mae cerddoriaeth y band yn gymysg o Fetel ac Emo, hefo dylanwadau fel Funeral For a Friend, Killswitch Engage, Fightstar, A Day to Remember a 30 Seconds to Mars. Maent yn awyddus i chwarae gigs ac yn benderfynol o syfrdanu chi hefo’u cerddoriaeth pwerus, trwm a trawiadol,. Ar hyn o bryd. mae nhw’n ysgrifennu fwy o ganeuon ac yn gobeithio i recordio fwy o ganeuon, 12


Band sy’n hanu o Fethesda, mae’r Wyrligigs wedi bod yn chwarae hefo’i gilydd (neis!!) ers Chwefror 2004 pan ddechreuodd nhw i chwarae ac ysgrifennu cerddoriaeth mewn gweithdy yn yr ysgol gyda’r band (ac un o’i ddylanwadau) Kentucky AFC. Yn ôl y band, Mr Huw a ysgrifennodd geiriau cân gyntaf y band. Ysgrifennwyd a ddatblygwyd casgliad o ganeuon ac oeddent yn hoff o chwarae caneuon ‘The Ramones’ yn eu gigs cynnar. Fe ddechreuodd y band fel band punk wedi eu dylanwadu gan ‘The Ramones’ a ‘The Jam’, ond erbyn hyn wedi iddynt datblygu yn gerddorol cred fod swn y band wedi newid i swnio’n fwy ‘Indie’, a dwed mai eu dylanwadau nhw rwan yw ‘The Arctic Monkeys’. Ond un peth sy’n sicr yw mae’r band dal yn edmygu ‘Kentucky AFC’ gan y nhw oedd un o’r bandiau cyntaf a weithwyd hefo. Aelodau’r band ar y pryd oedd Tom Williams (llais a gitar), Sion Williams (dryms) a Ben Tunnicliffe (Bas, ond nawr wedi gadael) yn 13 mlwydd oed pan ddechreuodd y band. Dywedai Sion cafwyd y band eu henw pan oeddent yn chwil (oeddent yn 13!!!) ond fuasai hyn yn esbonio pam mae’r enw mor unigryw. Mae’r band nawr yn gyflawn hefo Sion Rich yn fas-ddyn i’r Wyrligigs. Maent wedi chwarae nifer fawr o gigs o amgylch Cymru, o gigs bach yn Ngwesty y Cwins, Blaenau Ffestiniog i Maes B. Maent wedi chwarae rhai hynod o llwyddianus yn ystod y blynyddoedd gyda’i gilydd. Ond pa gig ydi ei ffefryn? Gyda lot o ddadl a anghytuno, doeddent ddim yn gallu dod i gytuno ar un gig penodol, ond cytunodd nhw na y flwyddyn 2006 oedd y flwyddyn chwaraeodd nhw eu gigs gorau, gan gynnwys gig Calan Gaeaf yn Hendre Hall ac Maes B yn Awst, un o’r gigs gorau a gallai band Cymraeg chwarae yn ystod yr Haf. Mae yna gilfanteision o fod mewn band yn amlwg, mae’r Wyrligigs yn hoff o recordio a gigio, ond beth yw rhai o fanteision eraill y band? Y pres – wrth gwrs, sy’n ‘added bonus’ a groupies!!! Mae’r band bellach wedi bod hefo’i gilydd ers 4 mlynedd ac yn yr amser yna maent wedi newid aelodau’r band, wedi chwarae nifer o gigs llwyddiannus ac wedi ennill ffans o amgylch Cymru, felly beth yw dyfodol y band? Wel, mae’n debyg maent am aros hefo’i gilydd ac yn gobeithio rhyddhau EP newydd ar Label Boncshafft yng nghanol mis Awst (mae’r band wedi bod yn stiwdio CELL yn recordio, gyda Huw (Mr Huw) yn cynhyrchu a Gez Ninja Jones fel peirianydd). Gwyliwch allan am eu Taith hyrwyddo’r E.P gyda Cartilag ym mis Awst!

www.myspace.com/wyrligigsmp3

© www.uned5.co.uk

Wyrligigs

13


www.myspace.com/pravs

Di-Pravinho

, wedi arae ‘wicked reggae beats’ i Gymru fach chw yn bod i wed nho ravi Di-P ’r mae 3, Ers 200 i dipyn o flas maent wedi cymryd y reggae ac wedi rho eu dylanwadu gan y band ‘Anweledig’, freiddiol ac ool Ska’ ac ‘Funk’ iddo, sy’n creu sŷn gwe unigryw iddo gan ychwanegu ‘ Old Sch Marley’, ‘King adau eraill y band yw ‘The Specials’, ‘Bob lanw ddy o i Rha . nho ravi Di-P ’r ryw unig Tubby’ a ‘Sly Family and Stone’. fwy o aelodau 3, ac ers hynny maent wedi ychwanegu Mi wnaeth y band ffurfio ar ddiwedd 200 henw oddi ar henw? Yn ôl y band, fe gafodd y band ei i’r band, ond, sut gath y Di-Pravinho eu ‘Pravinho’ sy’n gair y ign’ arno fo, lle ddarganfuwyd gas cryno ddisg, lle oedd na ‘lot o grap fore nho’ (os dach ’r ‘Di’ o’i flaen fe ddaeth yr enw ‘Di-Pravi golygu cyfreithiol, felly wrth ychwanegu gal’…mewn rhyw ffordd…) chi dal ddim yn deall, mae’n golygu ‘ille diau C2, ond gig fio’r band, gan gynnwys Brwydr y Ban Maent wedi chwarae llawer o gigs ers ffur don Dr Gonzo a Padrig 2006 yn Hendre Hall gyda Derwyd St. d rno Diw yw hyn n erby d ban ’r gore Pama International. doedd dim lawr yn y CELL ym Mlaenau Ffestiniog, Pan ofynnwyd pwy fysa’r Di-Pravs yn cloi gloi o yn oedd yr ateb unfrydol! Fysa nhw’n ei Mw s Rhy . ateb yr am th wai dwy dwl angen med fnyddio slang Rhys Mwyn wedi mwydro’r iaith gan dde lawr am laugh wrth gwrs, ond cred fod wirion… ac mae’n bric. Gonest iawn. nt E.P. allan, sesiwn C2 gyda Gai Toms ac mae ganddy Yn ddiweddar, mae’r band wedi recordio unigryw’r sŷn o Cymraeg nawr, ond os liciwch gal flas ‘Bing Bong Be?’, mae o ar gael yn siopau nt yn chwarae’n ce.com/pravs lle gewch restr o gigs mae yspa w.m ww i draw h ewc , nho ravi Di-P fuan hefyd. i datblygu cael eu hedmygu gan fandiau eraill ac wed Mae’r band wedi recordio E.P., maent yn dywed i neud yn y dyfodol? Hefo agwedd ddigri, dill wed yn yna sydd beth felly , dda go ffan bes yn parhau i ddysgu plant sut i gyfri, fydd Marc felly fod Twm yn hedfan i ffwrdd i Awstralia a hyn… no ravslight’ (ond fysa Siôn ddim yn cytu gyda’r Di-Pravinho… ond fe elwir yn ‘Di-P ?...) ac yn ‘Tri-Pravs’ (dibynnu pwy sy dal yn fyw galw ei cael yn d ban y d byd neu g!) bery o ffwc . d yn cael reunion gig yn Nhŷ Newydd Sarn mewn 60 mlynedd i’r dyfodol fydd y ban 14

© www.uned5.co.uk


Adolygaid Wakestock

Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyfan ers llanast Wakestock 2007, hefo’r glaw yn piso lawr ar yr Wyl ac y mwd yn digon dyfn i nofio mewn. Felly, pan ddaeth Wakestock 2008 o gwmpas o’r diwedd, roedd rhaid iddynt weithio deg gwaith yn galetach y tro hwn i gyflwyno ‘line up’ fysa yn denu’r bobol nôl i Benrhos. Mae Wakestock wedi ei lleoli hefo tri llwyfan gwahanol – y pabell ‘Drum and Bass’, lle mae DJ’s yn chwarae’n gyson i’r ravers, yr pabell XFM lle oedd bandiau ‘alternative’ a ‘rock based’ yn chwarae ac yna y prif lwyfan lle oedd prif acts y noson yn chwarae. Gyda hyn, roedd yna stondinau bwyd, dillad, ‘merch’ Wakestock ac yn y blaen, mae yna sawl lle i brynu diodydd a sigarennau, mae yna ocsigen bar i gael chi ‘high as a kite!’ ac mae yna reids anferth fel ‘Booster’ ac ‘Tango’ i gael chi yn hyped hefo adrenalin neu i gael chi yn sâl fel ci ar ôl gormod o ddiod a bwyd Tseiniaidd drud. Agorwyd y Nos Wener hefo nifer o DJ’s yn adeiladu yr hype ar gyfer bandiau fwyaf y noson oedd am ddod. Hadouken oedd yn amlwg un o acts gora yr noson, hefo tiwns fel ‘That Boy, That Girl’ a ‘Crank It Up’, mae’n amhosib ravio fel nytar! Act arall oedd werth mynd yn wallgo am oedd – yn amlwg – Pendulum. Mae eu sioeau byw nhw yn cael eu canmol ledled y byd, mi oedd cynulleidfa Wakestock yn cael cyfle i fownshio’n wallgo i’r band yma. ‘Propane Nightmares’, ‘The Other Side’ a ‘Slam’ oedd dim ond rhai o ganeuon gwefreiddiol y band, ac yr unig beth allai ddeud ydi ‘Wow!’ Nos Sadwrn gafon ni flas o bopeth. Hefo rhai acts, oedd rhaid mwynhau nhw o’r dechrau neu doedd dim modd o aros gwmpas i wylio nhw. Roedd y band Yucatan yn rhy araf i rai oedd yn chwilio am buzz i adeiladu at gweddill y noson, ac oedd rhai bandiau fel Kickbox Riot oeddech yn teimlo fel – do, fe wnaethant set reit dda ond oeddech yn chwilio am rhywbeth fwy unigryw. Dyna lle ddaeth Genod Droog. Dio bwys faint o weithia welwch y criw yma yn fyw, da chi ddim yn gallu helpu ond dawnsio fel lembo, a chwara teg, mae nhw’n denu cynulleidfa anferth, mi oedd tent XFM yn llawn dop! Y bandiau i weld y noson yna oedd YouMeAtSix, band ardderchog hefo caneuon fel ‘Save It For The Bedroom’ a ‘You’ve Made Your Bed’ ac Elliot Minor oedd un arall i wylio. Perfformiodd y Happy Mondays ar y prif lwyfan gyda set oedd yn mynd a chi yn ôl i’r 90’s! Perfformiodd Calvin Harris set gwych hefo caneuon fel ‘The Girls’ ac ‘Acceptable In The 80’s’ ac hefyd Mark Ronson and The Version Players ar y prif lwyfan tra oedd Funeral For a Friend yn yr XFM tent – ar yr un adeg!! Poen tin ond na ni, dau act ffantastig wedi cau y noson hefo set oedd wedi gadael y gynulleidfa ar uchelbwynt. Y noson olaf – Nos Sul. Daeth Derwyddon Dr Gonzo ar y llwyfan. Roedd y rhai oedd wedi dod allan o’u pabelli i gael golwg ar y band yma mor gynnar yn y pnawn wedi cael blas o wallgofrwydd y bois, roedd nhw’n dawnsio’n wirion tra roedd dyn ‘di gwisgo fel banana yn rhedeg o amgylch y llwyfan. Cyflwynodd Radio Lux set dda, ond bechod doedd dim sôn am ganeuon fel ‘Lisa Majic a Porfa’ a ‘Pwer y Fflwer’. Rhai o fandiau gorau y noson oedd One Night Only, The Futureheads, The Hoosiers! (criw hefo caneuon ofnadwy o catchy mae’n… poen tin i ddeud y gwir…), Duffy wrth gwrs, dynas talentog iawn o Nefyn oedd yn mynnu siarad Cymraeg trwy ei set i gyd, a pam ddim ynde! Siawns i ddangos ei chariad at ei chartref. Ac i gloi y noson, oedd gennych ddewis rhwng Zane Lowe a The Streets… Ddim yn gymaint o ffan o Rap, ond mae Mike Skinner a’i griw hefo egni anhygoel ar lwyfan ac oedd eu ganeuon yn swnio’n ffantastig yn fyw! Roedd y gynulleidfa o dan swyn The Streets ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau, o weiddi ‘FUCK THE MUD!’ i fod yn mynd ar eu pengliniau mewn i’r mwd ac yn mynd yn hollol nyts. Wedi i nhw orffan… mae’n taro chdi. Mae Wakestock drosodd am flwyddyn gyfan eto. Ond, yn wir, hwn oedd y Wakestock gorau yn Abersoch ers cychwyn yr Wyl, ac gad i ni obeithio fydd yr Wyl yn cario ymlaen i adeiladu ac gwella. Roll on Wakestock 2009!

15


16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.