graen mag

Page 1

DI WY LLI AN T ANT UR Go gle dd Cym ru

ADV ENT UR E CULT UR E N ORT H WA LES

Rhify n issu e 1

haf sum m e r 2015


Nid byd Tylwyth Teg mo Ogledd Cymru. Nid cae chwarae chwedlonol na chacenni cri, na hetiau traddodiadol hurt chwaith. Ond cerrig fel pobl yn bobl fel cerrig – yn ddi-ddinistr wedi canrifoedd o erydiad. Bysedd di-dostur a phengliniau llawn cleisiau.

Nid yw pawb sy’n

crwydro r e d n wa ar goll

Not all those who

are lost

Pobl y mynydd

North Wales isn’t Hobbiton. It isn’t fairy glens or Welsh cakes, or silly traditional hats. It’s rocks like people like people like rocks – uncrushed after centuries of erosion. Calloused fingers and bruised shins.

the mountain people

Allan ymhob tywydd. Cythreuliaid yn chwarae’r diawl. Dan ni’n llamu oddi ar llethrau. Wynebu ofnau. Yn dringo carneddau i gael gwefr trwy’n gwythiennau wrth gyrraedd y copa. Y gwynt, y gwahaniaeth rhwng yr iseldiroedd cynnes ac esmwyth a’r purdeb hagr uwchlaw. Dan ni’n nabod y lle ‘ma. Fel cefn ein llaw. Ni ydi’r lle ‘ma. Tonnau du a gwyn clogwynni’r stormydd, y graig yn y niwl llaith, y faen boeth, strydoedd y trefi bychain carregog lle mae sglefyrddau a phramiau yn sgrialu. Dyna pwy ydan ni. Nid taeogion trwsiadus y taflenni twristiaeth.

The out-there-whatever-theweather people. Raised to raise hell. We jump off stuff to scare ourselves. Climb stuff to feel the rush at the top. The wind, the difference between the warm, soft lowlands and the ragged purity above. We know this place. We are this place. The storm-lashed black and white waves and sea cliffs, the mist-damp crags, the sunwarmed boulders, the small town skatepark pebbledash pushchair streets. They are us. We aren’t what the tourist brochures say we are.

Y NI YDI’R GRO, Y NI YDI’R GALON.

WE ARE

WE’RE GRAINY, GRITTY AND FULL HEARTED.

Y NI YDI’R

8 Gwyliau festivals

Beth sydd ymlaen What’s On

12 swn sounds

Freedom Soundsystem

20 sglefyrddio skate Y Ffos sy’n Brathu The Ditch that Bites

22 Boldro bouldering Clasur o lecyn A Classic Spot

30

BE? / WHAT? 3

diwylliant culture

syrffio surf

Curo’r Corff Body Bashing

COLLABORATION NATION 6 DŴR 10 11 POBOL Y MYNYDD MOUNTAIN PEOPLE 14 CREU PEDR / PEDR CREATES JODIE EVANS 15

antur adventure

GALLWCH WLYCHU 18 YOU MIGHT GET WET 24 SLABS LLECHI / SLATE SLABS JACK MEEKS 26 GYRRU I’R GWAELOD / RIDE DOWN 28 SGLEFYRDDIO PESDA 29 SKATING PESDA SYRFFIO ERYRI / SURF SNOWDONIA 32


trochwch eich hun

Mewnimmerse diwylliant yourself in www.ymuno.com ymuno festival

hazel hughes

Culture

www.hazelhughesphoto.co.uk

4

Graen.cymru

5


Collaboration

Nation

Mae Mr Kobo yn artist a darlunydd o Ogledd Cymru sydd yn brysur ennill cydnabyddiaeth am ei waith celf unigryw a dychmygus. Yn ddiweddar bu i Mr Kobo gael ei ddwylo yn fudur gyda chriw o artistiaid tebyg dan arbrawf ‘Collaboration Nation Experiment 4’ (Arbrawf 4). Mae ‘Collaboration Nation’ yn brosiect celf cydweithredol rhyngwladol ar gyfer artistiaid, darlunwyr a ‘dwdlyrs’ o bob math o gefndiroedd creadigol sy’n gweithio gyda'i gilydd i greu darnau celf hardd a digymell. Mae pob cyfranogwr yn dechrau llun ar daflen bapur A3 ac yn ei anfon ymlaen i'r artist nesaf i ychwanegu eu stamp, ac yn y blaen tan fydd pedwar artist wedi cydweithio gyda'i gilydd, gan arwain at waith gwych ac ar brydiau’n annisgwyl. Gorffennwyd Arbrawf 4 gydag arddangosfa yn arddangos pob un o'r darnau gwreiddiol, ym Mangor, Gogledd Cymru. Fel y gwelwch, roedd yn llwyddiant ysgubol. Mae'r Tîm Nation Collab yn gobeithio dechrau prosiect newydd (Arbrawf 5), yn ddiweddarach eleni (Hydref 2015)! Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: collab_nation@outlook.com neu gallwch weld unrhyw ddatblygiadau trwy'r wefan neu Collab Nation ar Facebook. Mr Kobo is a North Wales based artist and illustrator who is quickly gaining recognition for his unique and imaginative artwork. He recently lead Collaboration Nation Experiment 4; an international collaborative project for artists, illustrators and doodlers from all creative backgrounds. Each participant started a drawing on an A3 sheet of paper, sent it on to the next artist to add their mark, and so on until four artists had collaborated together, resulting in brilliant and sometimes unpredictable works of art. Experiment 4 finished off with an exhibition showcasing all of the original pieces, in Bangor. As you can see, it was a huge success. The Collab Nation team are hoping to start a new project (Experiment 5) later this year. For more info, please email: collab_nation@outlook.com or keep up to date with any developments through the Collab Nation website or Facebook page. mr.kobo mr.kobo mr kobo wes

6

Graen.cymru

7


band y mis band of the month

Y Reu

Gwyliau - Beth sydd mlaen Festivals - What’s On 25.7.15: llangollen fringe festival

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a chelfyddydau a’i lleolir yn Llangollen. Uchafbwyntiau yn cynnwys: Lee Scratch Perry a bandiau lleol Tacsi a Freedom Sounds. A festival of music, dance and arts based in Llangollen. Highlights include: Lee Scratch Perry with support from local reggae heads Tacsi and Freedom Sounds. www.llangollenfringe.co.uk

25.7.15: dh-ffest blaenau ffestiniog Cystadleuaeth Beicio lawr rallt Antur Stiniog. Cofrestrwch drwy wefan British Cycling. The 3rd Annual downhill mountain biking competition at Antur Stiniog promises to be bigger and better. Entry is available through the British Cycling website. www.britishcycling.org.uk/events/details/125559/ Antur-Stiniog-Dh-Ffest-2015 Yn ogystal, fe fydd yna nifer o fandiau yn chwarae yn y dref gyda'r diweddglo yn Cellb. Additionally there will be various bands playing in town with the grand finale at the Cellb music venue. www.anturstiniog.com

1.8.15: agoriad surf snowdonia wave garden opens

12-15.8.15: Glass Butter Beach

Gŵyl gerddoriaeth ar y traeth gyda phwyslais ar greadigrwydd, cerddoriaeth eclectig, ffrindiau da a bywyd lan môr. The beach-based music and action sports festival with a huge emphasis on creativity, eclectic music, great friends and a chilled beach lifestyle. www.glassbutterbeach.com

3-6.9.15: festival no.6

Gwledd o gerddoriaeth, celfyddydau ac adloniant ym Mhortmeirion sef lleoliad y gyfres deledu gwlt, 'The Prisoner'. A bespoke banquet of music, arts and entertainment in Portmeirion - also known as the location of the cult TV series, ‘The Prisoner’. www.festivalnumber6.com

11-14.9.15: audio farm - hendre hall

Digwyddiad unigryw sy'n cyfuno cerddoriaeth, celf, diwylliant ac ymwybyddiaeth i mewn i ymgynulliad cymunedol o gerddoriaeth a chreadigrwydd. The Audio Farm Festival is a unique and forwardthinking event that fuses music, art and culture into a communal gathering of music and creativity.

ymuno festival

hazel hughes

www.ymuno.com www.hazelhughesphoto.co.uk

8

Graen.cymru

Band 5 aelod o Nantlle/Caernarfon 5 piece band from Nantlle/Caernarfon EP newydd allan wan! keep an eye out for their new ep out now! soundcloud.com/y-reu soundcloud.com/y-reu

Dwy ferch dlos a’u dred -locs, Laura & Eve ydi: Woven Gipsy Clothing - porwch trwy’u petha’! Dreadlocked Llanberis beauties Laura & Eve are Woven Gipsy Clothing. Check ‘em out !

www.facebook .com/wovengipsy

9


Gwenodd yr haul yn ddireidus tu ôl i len y mynyddodd o’u blaenau, ar ochr arall y ffenestr. Eisteddodd dau foi ar y llawr yn edrych yn ryff. Edrychodd un o gwmpas y ‘stafell wrth i’w fêt fynd i gau y cyrtans. Roedd y llawr yn un môr o foteli cwrw a’r bwrdd bwyd yn afon o blatiau bregus gyda briwson gwyn arnyn nhw yn dal i sychu ar y to. Ar ôl sbel, safodd y dyn a’i fêt ar eu traed a cherdded tuag at y drws. Yn araf, tynnon nhw’r handlan cyn camu allan i’r dydd. Roedd yr haul bellach yn eistedd yn uchel yn yr awyr las, ac yn taflu ei waywffonau rhuddgoch i bob cornel o’r cwm. Eisteddai’r tŷ ar graig ar ochr y mynydd; hen dŷ chwarelwr. O’i gwmpas roedd rhes o bump tŷ tebyg. “BORE DA,” meddai un o’r cymdogion. Edrychodd y dau foi arno fo’n syn am eiliad.

The sun smiled mischievously behind the wall of impenetrable mountains rising up to the sky like sharpened daggers. Her rays penetrated the closed windows of a cottage where two men sat cross-legged in a sea of littered beer cans, looking rough. The table was a river of empty plates with white specks of powder glinting gleefully up at the ceiling. After a while the two men sat up and went towards the door, lifting the handle slowly, before heading out into the day. The sun was now perched high up in the blue sky, throwing her crimson javelins to pierce every corner of the wide valley. The house sat on a jagged rock on the side of the mountain; a quarryman’s cottage. Surrounding it were five other cottages in a row. “BORE DA,” said one of the neighbours. The two men looked at him with perplexity.

“WHAT DID HE SAY?” meddai un.

“WHAT DID HE SAY?” One of the men asked.

“I DON’T KNOW, BUT I THINK HE’S TALKING TO US,” atebodd y llall.

“I DON’T KNOW, BUT I THINK HE’S TALKING TO US,” replied the other.

Yn araf bach, symudodd traed y ddau foi tuag at y tŷ, a diflannon nhw i mewn i dywyllwch saff y bwthyn.

Slowly, the two men backed towards the open door of the cottage and disappeared into the safety of the darkness inside.

cai o'marah elgan jones

yannick hammer

10

Graen.cymru

11


Papa Simon

Felix wyer

Fel criw o unigolion o Fangor sy’n caru reggae, mae’r Freedom Soundsystem wedi bod yn chwalu neuaddau dawns ar draws Gogledd Cymru... 12

Graen.cymru

...a thu hwnt, gyda detholiad ffrwydrol o ganeuon newydd, ffres, hen glasuron ‘roots,’ a chaneuon unigryw ‘dublate.’ Dros y blynyddoedd, mae Soundsystem cartref y criw wedi tyfu’n gyson ynghyd â’i ‘enw da am ansawdd sain a’u pwysau bas trwm.

SŴN YR HAF Gwelwch Freedom Soundsystem: Glass Butter Beach 14eg o Awst

yng Ngŵyl Ymylol Llangollen cefnogi Lee ’Scratch’ Perry 25ain o Orffennaf.

A crew of reggaelovers from the Bangor area, Freedom Soundsystem have been smashing dancehalls across North Wales...

...and beyond with an explosive selection of fresh new releases, old roots classics and exclusive dubplate specials. Over the years the crew’s homebuilt soundsystem has steadily grown, along with its formidable reputation for quality sound and heavyweight bass.

Summer sounds See Freedom Soundsystem: Glass Butter Beach 14th August

the Llangollen Fringe Festival

supporting Lee ’Scratch’ Perry 25th July.

13


Ffotograffydd 19 oed o Harlech ydi Jodie Evans. Mae hi’n tynnu lluniau chwaraeon awyr agored megis dringo a syrffio ac yn hoffi dal symudiadau'r corff gyda delweddau sinistr a rhyfedd yn ei lluniau.

Jodie Evans is a 19 year old photographer from Harlech. She shoots outdoor sports, climbing, surfing, capturing body movements and artistic, sinister looking images. She’s strange like that.

Mae hi’n defnyddio camera Canon 70D ac yn golygu lluniau ar Photoshop CS6.

She uses a Canon 70D and Photoshop CS6 to edit.

Jodie Evans wesley brelsford

pedr parsonson

Efallai nad ydych wedi clywed am Pedr Parsonson. Mae’n artist amlddisgyblaeth yn hannu o Fethesda ac mae’n hoffi creu pethau a hynny o ddwdlo i gerfluniau ac yn mwynhau taro’r concrid ‘na ar ei sglefr fwrdd . Ar ôl gorffen cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mangor mae Pedr

14

Graen.cymru

yn ffres ar y sin ac yn cael cydnabyddiaeth. Cyn bo hir bydd arddangosfa ‘wiyrd’ ar waliau ‘Bold Street Coffee’ yn Lerpwl gyda gwaith Pedr yn cael ei arddangos ar y cyd â chelf Jasper. Mae’n mynd i’r brifysgol yn fuan i hogi ei sgiliau ymhellach, felly cadwch lygad allan am ei waith.

You might not have heard of Pedr Parsonson. He is a multidisciplinary artist hailing from Bethesda who likes creating things from doodles to sculptures and enjoys hitting the concrete on his skateboard. Having just finished his Art Foundation studies at Parc Menai in Bangor,

Pedr is fresh on the scene but is already getting noticed. The walls of Bold Street Coffee in Liverpool will be getting a bit weird with a joint exhibition showcasing Pedr and Jasper’s art. He is off to university soon to hone his skills even further so keep your eyes peeled for his creations.

15


dafydd nant


Natasha

Brooks

Artist gain wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru yw Natasha Brooks, yn gweithio gan fwyaf gyda ffotograffiaeth, fideo a gosodiadau. Mae hi hefyd yn nofwraig, syrffiwraig a phlymwraig rydd sy’n defnyddio ei phrofiad o’r dŵr o fewn ei gwaith creadigol.

Natasha Brooks is a fine artist based in North Wales working predominantly with photography, video and installation. She is also a passionate swimmer, surfer and freediver, using her experience in the water to feed into her creative work.

www.bluehues.com www.tashbrooks.com Instagram: tash_brooks natasha brooks

18

Graen.cymru

19


ricky oyola herbert oik stephen king

20

Graen.cymru

Neidio araf, triciau, rhydd - sîn sglefyrddio gogledd Cymru’r nawdegau a’r 2000au. Roedd ein parciau – a maen nhw hyd heddiw – yn wael felly mynd iddi oedd rhaid i chwilio am rhywbeth mwy diddorol. Cyn dyddiau Google Earth, daeth ffotograffau awyr i law sglefyrddiwr a gweithiwr cyngor lleol a sylwodd ar nodwedd ddiddorol yn y mynyddoedd. Gan droedio i’r bryniau mi ddarganfyddon ni ffos goncrid ar bedair lefel - llinell rhwng dwy ochr serth.

The late nineties/noughties North Wales skate scene was characterised by slow, flip trick based freestyle. The skateparks we had, and generally still have, were shoddy, so the search for something interesting to ride was on. A local skater and council employee with access to aerial photographs (pre Google Earth) noticed an interesting feature up in the mountains. Trekking into the hills he ’discovered’ a concrete ditch on four levels, steep banks either side.

Yn berl wedi ei anghofio ynghanol nunlle, ble roedd y llinellau mwyaf cyffrous a pheryg ym Mhrydain yn bodoli. Lledaenwyd y gair gan arloeswyr a dros y blynyddoedd daeth ‘y ffos’ yn Feca, wedi ei sglefyrddio bellach gan arwyr y byd hwn ac wedi ymddangos mewn sawl cylchgrawn, fideo ac hyd yn oed ar y teledu.

A forgotten jewel in the middle of nowhere, with some of the most exciting and dangerous lines anywhere in Britain. Pioneers put the word out, and over the years ‘The Ditch’ has become a bit of a Mecca, being ridden by some of skating’s greats and appearing in magazines, videos and even TV.

Wrth i ddiwylliant poblogaidd sglefyrddio bellhau oddi wrth y neidio rhydd diflas, mae’r ffos wedi dod yn chwedlonol – dim ond wrth sibrwd y sonir amdano, fel y sonir am ddewinau a chlecs cudd. Heb os, mae sglefyrddio creadigol yn dod yn boblogaidd gyda sglefyrddwyr talentog yn agor llinellau newydd a phosibiliadau yn dod i’r fei trwy’r amser. Mae’r ffos yn dangos i ni i gyd – mae cuddfannau fel hyn ymhob man – ond i chi chwilio.

Today, as mainstream skate culture drifts away from the dull freestyle, The Ditch has developed a mythical status, spoken of in hushed tones. Balls out, creative skating is becoming the mainstream for skating with talented riders opening up new lines and possibilities all the time. The ditch just goes to show that there are secret spots like this out there if you look hard enough.


GARREGHYLLDREM CLASUR O LECYN BOLDRO

A CLASSIC BOULDERING SPOT Sialc efo staeniadau chwys heb ei olchi a bysedd y cŵn meirw. Cachu defaid yn bowdr. Cregyn gwyn wedi eu gadael gan fersiynau hynafol ohonot ti dy hun, 3000 o flynyddoedd cyn i’r matresi milain arogli fel hyn. Tâp bysedd crebachlyd. Y glaw yn cael ei fwrw mewn llinell daclus 15 troedfedd o’r wal. Y don gerrig uwchlaw. Cri cwynfanllyd y hebog tramor. Morthwylion dringo rhydlyd a tapiau carpiog mewn llefydd amhosib o uchel. Yr awyr yn symud. Poen o dan dy asennau wedi ei achosi gan ormod o hyrddio, llithro, rhwystredigaeth penderfynol o’r un symudiad rwyt ti wedi bod yn ei wneud ers wythnosau. Dy 'eglwys'. Therapi. Nunlle i gynhesu. Amdani’n amrwd a marw ar ôl awr. Yn curo dy galon nes ei fod yn ymostwng ac yn llefain yn y llwch. Bysedd gwaedlyd yn cael eu golchi gan Afon Croesor, yn teimlo fel pry’genwair a’r tywyllwch tu mewn wedi diflannu, yn gadael dim ond curiad eich calon ar y garreg. Garreghylldrem. Sweat-streaked never-washed chalk and dying foxgloves. Powdered sheep shit. White seashells left by ancient versions of yourself 3,000 years before these ratty mattresses smelled like this. Withered finger tape. The rain thudding a neat line 15ft from the wall. The rock wave above. The whinging cry of peregrines. Rusted pitons and ragged tapes in impossibly high places. The moving sky. An ache under your ribcage caused by too much lunging, slipping, howling bloodyminded frustration at the same move you’ve been trying for weeks. ‘Church’ you call it. Therapy. Nowhere to warm up. Straight in raw-dog and die after an hour. Beating your broken heart into submission and crying in the dust. Bleeding fingers washed in the holy Afon Croesor, feeling afterwards like something wormlike and dark has been taken from you, just by beating your body against the rock. Garreghylldrem. ray wood

BOLDRO BOULDERING 22

Graen.cymru

wil gritten

Ewch i wefan hongian.cymru mae’n cynnal fideos, lluniau a gwybodaeth boldro diffiniol ar gyfer Blaenau a Bethesda. Check out hongian.cymru website, it hosts video’s, pictures and definitive bouldering info for Blaenau and Bethesda.

23


Slate

Slabs

llechi calum muskett

Elidir Fawr yn chwydu ei berfedd o domenni llechi tywyll a gormesol. Y gwythiennau dwfn a’r ceunentydd a grëwyd gan law dyn yn datgelu llwydni llawn posibiliadau. Wedi ei gysidro’n rhy wasgarog, llithrig a pheryglus i’w dringo tan ddaeth cenhedlaeth pync yr wyth degau o ddringwyr gwyllt yma. Erbyn hyn mae’r sîn llawn cyffro a digon o lwybrau dringo i lenwi hanner arweinlyfr. Yn fwy diweddar, mae’r ardal wedi atgyfodi gyda llawer o lwybrau newydd wedi’u dringo mewn mannau na chafodd unrhyw sylw o’r blaen ac fe’i hystyriwyd yn amhosib i’w dringo. Os ydych am gymryd cam ymlaen o’r wal ddringo i’r graig go iawn ac yn gyfforddus gydag arwain dan do, dyma’r lle perffaith i chi ddysgu. Yn yr un modd, dylai dringwyr o’r radd uchaf sydd heb gael profiad o lechi roi cynnig arni a phrofi sialens rhai o’r clasuron anodd.

Dark and brooding slate tips pile out from Elidir Fawr. Its deep veins and man-created chasms reveal a grey mass of possibility. Considered too loose, slippery and dangerous to climb until the ‘punk’ generation of the late ‘80s created a buzzing scene and half a guidebook of routes to climb.

24

More recently the area has experienced a renaissance with many new routes climbed in areas once overlooked or considered un-climbable. If you’re making the transition from the climbing wall to real rock and are comfortable leading indoors then this is the ideal place to learn. Likewise, climbers at the top of their game who haven’t experienced slate before should come and test themselves on some of the difficult classics.

25


Ew c C BYWYD? A Syrffio.. syrffio.. syrffio! Dwi’n dysgu syrffio a ‘wake boarding’ a syrffio gwynt i Offaxis.

26

Graen.cymru

C AWGRYMIADAU AR GYFER POBL IFANC SYDD ISIO SYRFFIO?

A dyro shot arni, mae geni ni llond siop o offer syrffio yma yn Offaxis ac ysgol syrffio gorau yng ngogledd Cymru.

Q WHERE YOU FROM? A Manchester. C PEN LLŶN NEU YNYS MÔN? A Yn bendant y Llŷn! Mae teithio ychydig ymhellach yr arfordir r i’r môr y Iwerydd yn golygu ei’n bod yn cael tonnau cyn Môn a hefyd mae’r sin syrffio yn cael ei gynrychioli yn well yn Abersoch.

Q BASE? A Living in Mynytho now for phew years. Q LIFE? A Surf.. surf.. surf! I teach surfing wake boarding and kite surfing for offaxis.

Q POINTERS FOR YOUTH. A Give it a go, come and see me at offaxis we hire boards and suits and also got the best surf school in north Wales.

ch

Q HOW DID YOU GET INTO SURFING? A My father is a surfer and so I was left little choice, I was chucked into the waves of Porth Neigwl from an early age.

see

C LLE TI’N BYW? A dwi’n byw ym Mynytho ers sawl mlwyddyn bellach

C SUT EST TI MEWN I SYRFFIO? A Mae fy nhad yn syrffiwr ac felly doedd gennai fawr o ddewis, o oed cynnar cefais fy nhaflu i’r tonnau ym Mhorth Neigwl.

o

C O LLE TI’N DOD? A Manceinion.

i weld G

a o ff

jodie evans wesley brelsford

h

xi o s A 01 bers 75 87 13 407

Q PEN LLYN OR YNYS MON? A Definitely the Llyn! It’s slightly better and further down into the Irish Sea, plus we get waves before Anglsesy and also the surf scene is better represented over here.

27


Gw t hio f yn y , G yrr u la wr

Sglefyrddio

Pesda Mae sglefyrddio ym Mangor yn cŵl, mae gennych bopeth dach chi angen i botsian a phob amser ewch chi yno mae’na rywbeth newydd iw sglefyrddio! Ar y llaw arall mae’r tywydd yn gallu bod yn boen; heulog yn ystod yr wythnos a bwrw glaw dros y penwythnos. Diwedd y gan yw ein bod ni i gyd yn cael cyfle

, p u Push n w o d e d i R Arferai beicio lawr allt fod yn seiliedig ar wthio tua’r copa er mwyn reidio’n gyflym i’r gwaelod ond mae digon o ffyrdd ymgodi ac erbyn hyn mae hi’n anodd iawn dweud ‘na’ gan fod y dewis hwnnw yno. Wrth wthio’r beic i’r copa rwyt ti’n gallu meddwl am y ffordd orau ymlaen a’i gofio. Ar ôl rhywfaint o ymarfer, dwi’n ystyried y gwymp, neu’r ‘death drop,’ gan wthio’r teimladau cyfoglyd o’r neilltu ac ymatal rhag yr awydd llethol i daflu fy helmed i’r affwys ar

28

Graen.cymru

ôl yr ymgais gyntaf. Bu i mi basio ar y cyfle i roi’r ffidil yn y to ac yn lle hynny, cychwyn ar wib i’r oerni. Dyma’r teimlad gorau erioed; mae popeth arall yn peidio â bodoli. Y gorfoleddu yn yr ormes a cherdded i ffwrdd yn ddianaf. Felly dyma ‘swn i’n ei ddweud, ewch allan yno, gwthiwch i’r copa gyda’ch ffrindiau gan sgwrsio wrth fynd, yn hytrach na cheisio rhuthro i ddefnyddio’r nifer fwyaf posib o ffyrdd ymgodi. Ewch yn ôl at eich gwreiddiau.

It used to be all about pushing up to ride down, but we’ve got uplifts now and, given the choice, it’s hard to say no. Pushing uphill you get to work out your line and commit it to memory. A few warm-up runs in I check out the death drop, fighting nausea and the overwhelming urge to throw my helmet into the abyss after a couple of balked attempts. Then I pass the last chance of Jerry Clelford

i sglefyrddio a chael hwyl. Mae’r gweithwyr o amgylch lle dan ni’n sglefyrddio yn troi eu trwynau arnom ni ym Mangor oherwydd y sŵn a’r busnes… Ond mae’r awyrgylch heb ei ail pan mae pawb yn sglefyrddio’n sydyn i lawr yr elltydd yn yr haul, mae wastad yn wych. Mae bob man ym Mangor yn werth chweil

ar gyfer sglefyrddio, mae cyn gymaint o lefydd! Heb son am y parciau, safle bowlio (Ffordd y Traeth), McPlaza (McDonalds). Mae sglefyrddio’n gynhwysfawr ac yn gefnogol o unrhyw un sydd yn penderfynu ei fod eisiau sglefyrddio a chaent wastad gefnogaeth gan sglefyrddwyr Bangor a’r enwog Rob Parsonson.

Skating in Bangor is rad. You've got all sorts of stuff to mess about on and every time you go there's a new thing to skate! On the other hand the weather can be a pain in the neck; weekdays sunny, weekends rainy. In the end we all get a good skate and have a blast. Skateboarding in Bangor is frowned upon by workers around where we skate because of the noise and the suing business.. But the atmosphere is sick when you have everyone skating fast down hills in the sun, it's always great. Everywhere is good for skating in Bangor, so many spots! Not to mention parks, the bowl (Beach Road), McPlaza (McDonalds). Skating is also incredibly inclusive and supportive of whoever decides to learn. You’ll always have the support of Bangor skaters and the infamous Rob Parsonson. gethin roberts herbie hofsteede

gethin

roberts stopping graciously and let loose into the icy cold sky. It’s the best feeling ever. Everything ceases to exist. The elation of fighting the beast and walking away unscathed. So get out there, push up and have a good natter with your mates instead on rushing to get in as many uplifts as possible. Get back to your roots.

Chris williamson (the Framed Bicycle co)

I am 16 years old and very passionate about photography. I currently use the canon 100D which is a great DSLR for beginners. I mostly use it to take landscape photos and skateboarding shots. Taking photos makes me more aware of what's going on around me, to understand more about nature.

Dw i’n 16 oed ac wrth fy modd gyda ffotograffiaeth. Ar hyn o bryd dw i’n defnyddio’r Canon 100D sydd yn DSLR gwych ar gyfer dechreuwyr. dw i’n ei ddefnyddio gan fwyaf i dynnu lluniau tirluniau a chwaraeon fel sglefyrddio. Mae cael diddordeb mewn ffotograffiaeth yn eich gwneud chi’n fwy

ymwybodol o beth sydd yn mynd ymlaen o’ch cwmpas, ac i ddeall mwy am natur. Astro ydi fy hoff fath o ffotograffiaeth, mae’n ffordd wych o ddeall bob nodwedd ar y camera - fel y ISO, yr agorfa a’r cyflymder caead. Er mwyn cael y ffotograffau gorau

posibl, byddwn i’n trio mynd i fyny mor uchel â phosib, ar fynydd neu fryn, y rheswm am hynny yw y cewch olygfa well ar gyfer tirluniau anhygoel, ac ymhell oddi wrth lygredd golau’r strydoedd. Byddwn i’n argymell hobi fel hyn i unrhyw un.

Astro photography is a great way to understand every feature of your camera - like ISO, aperture and shutter speed. To get the best quality photos I try to get as high up as possible, on a mountain or a hill, away from light pollution. I would highly recommend a hobby like this to anyone. gethin roberts gethin roberts

29


wil gritten

30

dafydd nant

Mae yna rywbeth gwefreiddiol am lithro trwy’r dŵr fel dolffin, pen i lawr, un law yn sglefrio trwy’r dŵr, yn pwyso i bob troad yn y don, yn reidio eich corff a dim arall.

There’s something about gliding through the water like a dolphin, head down, one hand skidding through the water, leaning into the tube with nothing but your own body to ride.

Mae’n elfennol ac hurt ac yn wahanol i syrffio gyda bwrdd syrffio, sydd yn llifo’n haws ac yn ddyfnach. Mae curo’r corff yn bleser pur, ac os fedri di ei feistroli, bydd dysgu syrffio yn gymaint haws.

It is elemental and ridiculous and different from surfing with a board, which is fluid and flowing and more profound. Body bashing is pure joy, and if you can master it, learning to surf will be so much easier.

Graen.cymru

31


32

Dychmygwch hyn... Lagŵn siâp diemwnt perffaith, yr un maint

Picture this... A perfect lozenge-shaped fresh-water lagoon,

â tua chwech o gaeau pêl-droed, wedi’i leoli yn harddwch gwyrdd Nyffryn Conwy, yng nghysgod mynyddoedd Eryri. Anadlwch y cyfan. Mae’n lân, mae’n ffres, mae’n wyllt ac mae’n hardd. Nawr, ychwanegwch rywbeth hollol annisgwyl. Ton gasgen dau fetr o uchder sy’n dechrau ynghanol y lagŵn, sy’n ymchwyddo’n berffaith am dros 150 o fetrau, ac yna’n gwasgaru’n ysgafn wrth gyrraedd y lan. Croeso i Wavegarden Surf Snowdonia.

roughly the size of six football pitches, set in the lush, green Conwy Valley in the lee of the Snowdonia mountains. Breathe it in. It’s clean, it’s fresh, it’s wild and it’s beautiful. Now add something entirely unexpected. A two-metre-high barrelling wave that starts at the centre of the lagoon, peels perfectly for more than 150 metres, and dissipates softly as it hits the shore. Welcome to the Surf Snowdonia Wavegarden.

Graen.cymru


chi you

dan ni’ch isio nt a w we Daeth Graen i’ch dwylo drwy angerdd a haelioni pobl Gogledd Cymru.

Gwefus Dysgu ieithoedd, cyfieithu, cynhyrchu ffilmiau hyrwyddol yn Eryri. Language tuition, translation, promotional film production in Snowdonia. gwefus.cymru@gmail.com 07443656271 www.gwefus.com

Graen was brought to you with love and goodness

by the people of A phobl North Wales, Gogledd Cymru for the people of - i chi mae’r North Wales. cylchgrawn hwn! If you’re a writer, artist or Os dach chi’n sgwennwr, artist neu ffotograffydd ac eisiau mynegi eich hun, neu’n bwriadu gwneud rhywbeth gwallgo’ ac yn meddwl y dylai gael ei roi ar gof a chadw, cysylltwch.

photographer and would like to express yourself, or if you’re planning on doing something crazy and think it should be documented, get in touch.

Wil

Croesor

Wes

cr

iw

cr

ew

Cai

Pedr

Chris

Ray

Nader

Gethin

Bethesda

Bethesda

Llanberis

Piwi

Llanfrothen

Bethesda

Rhys Blaenau CELLB.ORG

Jodiee Harlech

Llinos

ru

graen.cymru

cellb, park square, blaenau ffestiniog, ll413ad

Felinheli

Daf

Lowri

Mynytho

Iona

Bethesda

Blaenau Blaenau

Calum Rob

Yannick

Bethesda

Herbie

Ty Croes

Bangor

Bethesda

iawn@graen.cym

Bethesda

Nat

Llanberis Bethesda

Elgan

Waunfawr

papa simon Bethesda

felix Bangor

HAZEL Abergele


gethin roberts


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.