Tafod Steddfod Gen 2006

Page 1

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS YR IAITH RHIFYN 3.26 • STEDDFOD 2006 • £1

TEDDFOD S R W A M N Y IF RH AM DDIM

YMUNWCH YN YR YMGYRCH! »NEWYDDION DIWEDDARAF »DIGWYDDIADAU »PROTESTIADAU

GI GS N

EW

UF

DT

FO

DD

TE YS

N FA L L HO

N IO YL

DY HAWL!

»COLEG AML-SAFLE CYMRAEG »YSGOLION PENTREFOL DAN FYGYTHIAD »ANRHYDEDDU EILEEN BEASLEY »RYFF GEID I ABERTAWE


2 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006 GWANWYN 2006

SENEDD CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG 2006–2007 Swyddogion Cadeirydd Steffan Cravos – cadeirydd@cymdeithas.org

Addysg: Ôl-16 Angharad Tomos – angharad.tomos@cymdeithas.org

Is-Gadeirydd Gweinyddol Sel Jones – sel@cymdeithas.org

Addysg: Cadwn ein Hysgolion Aled Davies – aled@cymdeithas.org

Is-Gadeirydd Cyfathrebu a Lobio Hedd Gwynfor – hedd@cymdeithas.org Is-Gadeirydd Ymgyrchu Hywel Griffiths – hywel@cymdeithas.org Trysorydd Danny Grehan – danny@cymdeithas.org

Gwreiddiwch yn y Gymuned Manon Wyn – manon@cymdeithas.org Gwreiddiwch yn y Gymuned Osian Jones – osian.jones@cymdeithas.org Rhanbarthau Morgannwg-Gwent: Cadeirydd Geraint Criddle – geraint@cymdeithas.org

Cymunedau Rhydd: Cadeirydd Huw Lewis – huw@cymdeithas.org Cymunedau Rhydd: Ymgyrchu Iestyn ap Hywel – iestyn@cymdeithas.org Cymunedau Rhydd: Cyfathrebu a Lobïo Menna Machreth – menna@cymdeithas.org Cymunedau Rhydd: Polisi Dafydd Tudur – dafydd.tudur@cymdeithas.org Deddf Iaith: Cadeirydd Catrin Dafydd – catrin@cymdeithas.org Deddf Iaith: Ymgyrchu Siwan Tomos – siwan@cymdeithas.org Deddf Iaith: Cyfathrebu a Lobïo Rhun Emlyn – rhun@cymdeithas.org Deddf Iaith: Polisi Sian Howys – sian@cymdeithas.org Addysg: Cadeirydd Ffred Ffransis – ffred@cymdeithas.org Addysg: Coleg Aml-safle Cymraeg Rhys Llwyd – rhys@cymdeithas.org

Clwyd: Cadeirydd Dewi Jones – dewi@cymdeithas.org Prifysgolion Bangor Bethan Williams – bethan.williams@cymdeithas.org Aberystwyth Siwan Tomos – siwan@cymdeithas.org Caerdydd Ellen Angharad – ellen@cymdeithas.org Swyddogion Cyflogedig Cenedlaethol Dafydd Morgan Lewis – dafydd@cymdeithas.org Gogledd Dewi Snelson – dewi.snelson@cymdeithas.org Dyfed Angharad Clwyd – angharad.clwyd@cymdeithas.org Morgannwg-Gwent SWYDD YN WAG – cysylltwch â geraint@cymdeithas.org am fanylion

Ymgyrchoedd

Gwynedd-Môn: Cadeirydd Angharad Tomos – angharad@cymdeithas.org

��

Adloniant Owain Schiavone – adloniant@cymdeithas.org

���

Gwefan a Dylunio Iwan Standley – iwan@cymdeithas.org

Ceredigion: Cadeirydd Angharad Clwyd – angharad.clwyd@cymdeithas.org

��� ��

Caerfyrddin-Penfro: Ysgrifennydd Catrin Howells – catrin.howells@cymdeithas.org

��

Mentrau Masnachol Gwyn Sion Ifan – gwyn@cymdeithas.org

����������������������

��������������������� ���������������������������

� �� ���

Caerfyrddin-Penfro: Cadeirydd Sioned Elin – sioned@cymdeithas.org

�������� � ��

� �� �� ��� ��

��

Morgannwg-Gwent: Ysgrifennydd Branwen Brian – branwen@cymdeithas.org

Aelodaeth Osian Rhys – osian@cymdeithas.org

Y Tafod Meilyr Hedd – meilyr@cymdeithas.org

������ �������������� �������

��

Codi Arian Aled Elwyn Jones – aled.jones@cymdeithas.org

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS YR IAITH RHIFYN 3.26 • STEDDFOD 2006 • £1

������������������������ ��������������������������������� �������������������������� ���������������������

CLAWR RHODRI MORGAN YN ANWYBYDDU’R GALWADAU CYNYDDOL AM DDEDDF IAITH NEWYDD

ytafod CYLCHGRAWN CYMDEITHAS YR IAITH CYFROL 3 — RHIFYN 26 (EISTEDDFOD 2006) ARGRAFFWYD GAN WASG MORGANNWG GOLYGYDD MEILYR HEDD DYLUNIO IWAN STANDLEY LLUNIAU OSIAN RHYS, STEFFAN CRAVOS, IWAN STANDLEY, RHYS LLWYD, MIRIMAWR.COM Os oes gennych chi unrhyw straeon neu newyddion o’ch ardal chi, danfonwch nhw atom naill ai trwy’r cyfeiriad uchod, neu at tafod@cymdeithas.org. Am fanylion am ein prisiau hysbysebu, cysylltwch â’r brif swyddfa.

º

PRIF SWYDDFA PEN ROC, RHODFA’R MÔR, ABERYSTWYTH, CEREDIGION, SY23 2AZ FFÔN 01970 624501 FFACS 01970 627122 E-BOST SWYDDFA@CYMDEITHAS.ORG Y WE WWW.CYMDEITHAS.ORG


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 3

O’R GADAIR

‘PERSWÂD’ QUANGO NEU HAWL I DDEFNYDDIO DY IAITH? Gair gan y Cadeirydd, Steffan Cravos

M

ae’r Bwrdd Iaith newydd gyhoeddi strategaeth (arall!) ar gyfer ehangu’r defnydd o’r Gymraeg mewn siopau a chwmnïau, ac a fod yn onest, mae’r ddogfen yn jôc llwyr. Maen nhw’n amlinellu sut maen nhw am ofyn yn neis iawn i fwy o gwmnïau gynnig gwasanaethau i’w cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg trwy ddefnyddio perswâd yn unig. Mae’r Bwrdd yn cydnabod fod angen ehangu’r gyfraith er mwyn gorfodi cwmnïau dŵr, trydan a nwy i gynnig biliau ac yn y blaen yn Gymraeg, ond mae nhw’n gwrthod y syniad mai Deddf Iaith Newydd yw’r ffordd ymlaen yn y sector breifat yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn gwbl groes i’r hyn y mae’r Gymdeithas wedi profi yn ystod y degawd diwethaf o ymgyrchu! Mae ymgyrchoedd a thrafodaethau’r Gymdeithas gydag Orange er enghraifft, yn tanlinellu pa mor aneffeithiol yw perswâd Bwrdd yr Iaith. Mewn datganiad gobeithiol yn 2000 dywedodd y Bwrdd: “Mae’r cwmni ffonau symudol, Orange, heddiw wedi cadarnhau fod y Gymraeg ar ben y rhestr o’r ieithoedd mae’n eu hystyried yn allweddol ar gyfer rhaglen y cwmni o ddatblygu cyfathrebu amlieithog yn y DU.” Chwe blynedd yn ddiwedd-

arach, a ry’n ni dal yn aros. Dyma oedd ymateb llefarydd Orange i ymgyrch gan y Gymdeithas: “There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide bilingual services.” Mae Orange yn parhau i wrthod cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yr un yw’r stori gyda Coca Cola ac Undeb Rygbi Cymru, dwy enghraifft arall oedd yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd i ddangos cryfder eu “perswâd”. Yn ei holl hanes, dyw’r Bwrdd ddim wedi perswâdio mwy na llond llaw o gwmnïau i gyfieithu ambell i fag plastig ac arwydd ‘Croeso’ i’r Gymraeg. Mae’n siom enbyd ac yn dangos amharodrwydd ac anallu’r Bwrdd i wynebu’r sefyllfa fel ag y mae. Mae eu methiannau yn y gorffennol gyda chwmiau amlwladol, cyfoethog fel Orange a Coca Cola, yn dangos nad yw geiriau teg y Bwrdd yn ddigon i wneud yn siwr fod y cwmnïau

yma’n darparu nwyddau a gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr unig ffordd o sicrhau gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a hawliau ieithyddol i bobl Cymru yw trwy ddeddfwriaeth gadarn a fydd yn gosod gorfodaeth ar y cwmnïau yma. Mae’r cwmnïau eu hunain yn dweud, dro ar ol tro, na fyddan nhw’n darparu gwasanethau t rwy gyfrwng y Gymraeg nes bod rheidrwydd cyfreithiol arnynt i wneud. Mae’n wirioneddol anhygoel fod y Bwrdd o blaid ehangu deddfwriaeth dros y cyfleustodau megis dŵr a thrydan, ond yn esgus nad yw hyn yn addas ar gyfer siopau megis Tesco, sydd i bob pwrpas a’r un fath o fonopoli ar gwsmeriaid â’r cwmnïau dŵr! Deallwn yn iawn fod aelodau’r Bwrdd wedi bod dan bwysau yn ddiweddar, gyda chynlluniau’r llywodraeth i ddileu eu quango a’u cyflogau hael. Falle bod y straen ychwanegol yn amharu ar eu gallu i weld yn glir beth yw sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru heddiw. Druan ohonyn nhw. Os hoffech chi ddangos y ffordd iddyn nhw, dewch gyda Chymdeithas yr Iaith i fynnu ein hawliau – mae na gyfres o ddigwyddiadau trwy wythnos yr Eisteddfod yn Abertawe, gyda digon o gyfle i godi llais! §


4 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

NEWYDDION YN ACHOS LLYS ARALL I CYMRAEG Y CYNULLIAD ANGHARAD BLYTHE CYMDEITHAS YN ANGHYTUNO BARNWR I GWYNO WRTH YR HEDDLU AM FOD GWŶS YN UNIAITH SAESNEG

B

ydd Angharad Blythe o Landwrog yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Awst 2il – ychydig ddyddiau cyn yr Eisteddfod. Mae Angharad (isod, ar y dde) yn wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol ar ôl iddi gymryd rhan yn ymgyrch weithredol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Mae hi’n un o’r 40 o aelodau sydd wedi gweithredu yn yr ymgyrch hon ers dechrau Hydref 2005. Pan aeth o flaen y llys yn wreiddiol ar Fehefin 6ed,

gohiriwyd yr achos am fod yr wŷs a dderbyniodd i ymddangos gerbron y llys yn uniaith Saesneg. Beiodd y barnwr yn yr achos Heddlu De Cymru am hyn, a dywedodd y byddai’n anfon cwyn swyddogol atynt. Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi’r drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau eu cynllun iaith. Roedd Angharad wedi paentio ‘Parch i’r Iaith!’ ar fur pencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr. § Mwy am yr ymgyrch » t9

GYDA LLYWYDD Y CYNULLIAD

M

ae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu llythyr at Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan eu gwrthwynebiad llwyr i’w awgrym y dylid cwtogi ar gyfieithu’r Cofnod er mwyn arbed arian. Yn y llythyr mae’r Gymdeithas yn nodi ein bod yn gwrthwynebu unrhyw leihad yn y defnydd o’r Gymraeg yn y Cynulliad – ein dymuniad yw gweld cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad. Byddai cwtogi ar y cyfieithu yn tanseilio’r egwyddor o gydraddoldeb rhwng y ddwy iaith. Byddai hefyd yn mynd yn groes i’r arferion gorau. Mae’r hyn sy’n cyfateb i’r Cofnod yng Nghanada, Gwlad Belg a Gwlad y Basg ar gael yn y ddwy iaith. Dafydd Elis-Thomas fyddai’r cyntaf i ddadlau na ellir rhoi pris ar ddemocratiaeth. Yma yng Nghymru yr ydym yn cynnal ein democratiaeth mewn dwy iaith a rhaid talu’r pris am hynny. Hefyd, rhaid nodi fod pob un o’r pleidiau yn y Cynulliad yn ddiweddar wedi galw ar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fabwysiadu polisi dwyieithog. Fe fydd hi yn llawer anoddach perswâdio sefydliadau o’r fath i fabwysiadu polisiau dwyieithog os ydyn nhw yn mynd i synhwyro am funud fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ‘torri corneli’. §


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 5

YMGYNGHORIAD HYWEL MEILYR GRIFFITHS Dyma’r gair sy’n mynd i newid y byd Dyma’r gwrandawiad sy’n geg i gyd. Dyma’r penderfyniad a wnaed o flaen llaw, Dyma’r ‘dan ni’n gwrando’ sy’n ‘cadwa draw!’ Dyma ddrws caeedig y pwyllgor saff, Dyma a guddiwyd mewn golygiad craff.

AR GAEL O’R STONDIN AR FAES YR EISTEDDFOD PRYNWCH GOPI LLIW LLAWN MAINT A2 O’R BILFWRDD ENFAWR FUODD O FLAEN ADEILAD Y CYNULLIAD, YN ATGOFFA RHODRI MORGAN O’I ADDEWID I GYFLWYNO DEDDF IAITH NEWYDD £3

�����������������������

���������������������������������������������������� ������������ �������������������������������������� �������������������������������������������������� �������� �������������������������������������������� ���������������������������������������� ���������

Dyma iaith mwnci sy’n clywed dim drwg, A dyma’r gweniaith sydd yn cuddio’r wg. Dyma’r gair sy’n meddwl dim byd, Ond dyma’r gair sy’n mynd i newid y byd.

���������������

������������������������� �������������������������� ���� ���������������������� �������������������������� ������������������������� ����������������������� ������������������������������� ���������������������������� ����������������������������� ����������������������������� ����������������������� ��������������������������������� ���������������������

��������������������������������������� ������������������������������������ ���������������������������������� ������������������������������������������� ���������������������������������������������

����������������� ��������������������������������������� ��������������������

������ ����������� ������������ ������������������������������� ������������������ ����������������������������� ���������������


� � � � � � � � � � � � �

������������ ���������������� �������� ���� ���

��������� I ddathlu lansiad ein gwefan newydd, rydym yn gwahodd merched Cymru i gymryd rhan yn ein ������������� ����� ������, am dipyn o �����

���������� � ��������� Bydd enillwyr i’r gwobrau £40) a shampên o (potel a dwy wobr o £20 i’r ddwy ail-orau. Caiff y storïau buddugol eu cyhoeddi yn y ������� ���� (storïau Saesneg), ����� (storïau Cymraeg), ac ar wefan Honno. Dyddiad cau ar gyfer derbyn stori yw ������������������������

����������� www.honno.co.uk

� � � � � � � � � � � � �

Cwmni Iaith Cefnogaeth wrth ddatblygu’r defnydd o Gymraeg:

- ymgynghoriaeth - rheoli prosiectau - strategaethau iaith

- ymchwil - hyfforddiant - arolygon

Cyrff cyhoeddus… llywodraeth leol… mudiadau gwirfoddol… datblygu cymunedol… addysg a hyfforddiant… iechyd a gofal cymdeithasol…

Ymgynghoriaeth cynllunio iaith flaenaf Cymru • Castellnewydd Emlyn • Llanelwy ymhol@cwmni-iaith.com

Ffôn: 01239 711668 Ffôn: 01745 585120 www.cwmni-iaith.com

Un o wasanaethau Iaith Cyf.


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 7

NEWYDDION GWREIDDIWCH YN Y GYMUNED TYNNU ARWYDD DATBLYGIAD MAWR SAESNEG DEBENHAMS

lleol. Maen nhw’n cydweithio gydag archfarchnadoedd mawr Debenhams a Tesco ar draul busnesau lleol ac yn groes i farn y mwyafrif yng Nghaerfyrddin. Dylai cwmnïau mawr o’r tu allan ymwreiddio yn y gymuned leol, gan barchu’n hiaith a chynnyrch lleol a rhoi cyfleon

Dd

euddeg awr wedi rhwystro swyddogion addysg y cyngor sir rhag ymadael a maes parcio, gweithredodd Cymdeithas yr Iaith yn erbyn un arall o benderfyniadau dadleuol Cyngor Sir Caerfyrddin. Arestiwyd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith ar y 9fed o Fehefin am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy’n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin. Tynnwyd yr arwydd gan Llyr Edwards, 29 oed o Bont Tweli, a Iestyn ap Rhobert, 24 oed o Langadog. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin obsesiwn biwrocrataidd ynghylch canoli gwasanaethau ac anwybyddu barn cymunedau

cyflogaeth da yn lleol. Mae Debenhams wedi cychwyn yn wael iawn trwy ddewis enw Saesneg anaddas (St Catherine’s Walk) ar gyfer y datblygiad, a chodi arwydd enfawr uniaith Saesneg – efallai’n arwydd o’u bwriad i drin y gymuned leol gyda dirmyg. Trwy dynnu’r arwydd, mae’r Gymdeithas yn mynnu fod Debenhams a chwmnïau eraill fel Tesco yn parchu’r gymuned.

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno sioe glybiau

JAC YN Y BOCS gan Bryn Fôn, Tony Llewelyn a Dyfan Roberts

Yng nghwmni: Lisa Jên Brown, Llyr Evans, Maldwyn John, Eilir Jones a Catrin Mara Cyfarwyddwr: Tony Llewelyn Cynllunydd: Emyr Morris Jones Cerddoriaeth: Emyr Rhys

YN NEUADD BENTREF PONTLLIW

Mae’r Gymdeithas yn ymgyrchu hefyd i Gymreigio siopau presennol y dref, ac wedi cyhoeddi siarter ‘Saith dros yr Iaith’ ar gyfer datblygiadau enfawr fel Debenhams a Tesco: 1 Arwyddion parhaol dwyieithog 2 Arwyddion a thaflenni dros dro dwyieithog 3 Hyfforddiant iaith i’r staff 4 Labeli dwyieithog ar eu nwyddau eu hunain 5 Cyhoeddiadau dros yr uchelseinydd yn ddwyieithog 6 Adran o wefan y cwmni yn ddwyieithog 7 Gwerthu cynnyrch lleol.

Byddai Deddf Iaith Newydd yn gorfodi cwmnïau preifat i ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i’w cwsmeriaid. §

Dileu’r bom!

Dim arfau niwclear newydd! Dim byd yn lle Trident! Dim ond drwy ddilyn llwybr diarfogi niwclear y gall Prydain wynebu gwir her diogelwch yn yr 21ain ganrif.

Ffordd Carmel, Pontlliw, Ger Aberatwe – ar yr A48 Bydd bar ar gael yn y neuadd Nos Fawrth 8fed o Awst – Nos Wener 11 o Awst 8.00y.h Tocynnau: £8.00 ar gael o Theatr y Maes ar faes y ’Steddfod neu drwy ffonio Linda: 07748595791 neu 07740637648 neu i archebu cyn wsnos y Steddfod: 01286 676335

Ymunwch â CND Cymru! Cysylltwch: CND Cymru, Y Drain Gwynion, Heol yr Eglwys, Talywaun, Pontypwl NP4 7EF heddwch@cndcymru.org (01495) 773 180



ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 9

DY HAWL!

RYFF GEID

DEDDF IAITH NEWYDD

Mae’r Gymdeithas, a nifer o fudiadau eraill, yn galw am Ddeddf Iaith Newydd i sicrhau hawliau i ni ddefnyddio’n hiaith – ond beth yn union fyddai hynny’n olygu?

»

STATWS Dyw’r Gymraeg ddim yn iaith swyddogol yng Nghymru. Dyw hi ddim chwaith yn briod iaith Cymru. Hynny yw, does ganddi hi ddim statws cyfartal a’r iaith Saesneg. Byddai Deddf Iaith Newydd yn sicrhau’r statws yma, fel pwynt o egwyddor ac o synnwyr cyffredin. Byddai hyn yn help enfawr i’r rhai sy’n ceisio cael yr un cymorth a statws gan Ewrop ag y mae ieithoedd swyddogol eraill fel y Gatalaneg yn ei gael.

Byddai comisiynydd, gyda’r un pwerau a statws â’r Comisiynydd Plant, yn gwbwl wahanol. Byddai ganddo’r pŵer i ymchwilio i mewn i achosion penodol ac i gosbi lle bo angen. Byddai’n ffigwr cyhoeddus o gyfrifoldeb dros yr iaith.

»

HAWLIAU IEITHYDDOL

Dyw Deddf Iaith 1993 ddim wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyrff cyhoeddus unigol yn cael penderfynu drostyn nhw eu hunain pa wasanaeth maen nhw am ei gynnig yn Gymraeg drwy lunio Er fod Llywodraeth y eu cynlluniau iaith eu hunain, Cynulliad yn tin-droi’n ac mae sefydliad yn dal yn gallu ddigyfeiriad ynglŷn a’r torri ei gynllun iaith ei hun heb peth, maen nhw dal am ddiddymu ofni’r canlyniadau. O ran y sector Bwrdd yr Iaith. Beth fydd yn ei breifat does dim rhaid i gwmnïau le? Creu swydd dyfarnydd yw gynnig unrhyw wasanaeth amcan y llywodraeth. Ni fyddai Cymraeg – ac mae sawl cwmni gan ddyfarnydd unrhyw rym i mawr wedi tynnu sylw at gosbi sefydliadau sydd ddim yn hynny wrth i ni gwyno am eu dilyn eu cynlluniau iaith neu sy’n gwasanaeth Cymraeg, gan nodi gwrthod darparu gwasanaethau nad ydyn nhw’n bwriadu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai darpariaeth Gymraeg tan y ceir hyn fel cael reffarï heb chwiban deddfwriaeth i’w gorfodi. Mae na cherdiau melyn a choch! HSBC a Nwy Prydain yn ddwy

»

COMISIYNYDD

enghraifft ddiweddar o gwmnïau sydd wedi lleihau eu darpariaeth Gymraeg. Mae Iaith Pawb yn trafod “hyrwyddo hawliau” unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg, ond siarad gwag yw hyn heb sefydlu’r hawliau hynny yn statudol mewn deddf. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn credu y dylai fod gan bawb yng Nghymru: » yr hawl i addysg Gymraeg; » yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith; » yr hawl i ddysgu Cymraeg; » yr hawl i dderbyn gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Gymraeg; » yr hawl i gael rheithgor a gwrandawiad llys yn Gymraeg.

»

GWASANAETHAU Deddf sy’n berthnasol i’r sector gyhoeddus yn unig yw Deddf Iaith 1993, heb ddim darpariaeth ar gyfer y sectorau preifat a gwirfoddol. Mae cwmnïau preifat yn hollol rydd i anwybyddu’r Gymraeg a dyna mae’r rhan fwyaf yn ei wneud i bob pwrpas, gan fodloni ar osod ambell arwydd dwyieithog yma ac acw


10 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

“dylai fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg” i dawelu’r eithafwyr. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae sawl ffactor – gan gynnwys preifateiddio llawer o’r cyfleustodau, mwy o gydweithio rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau preifat, a chynlluniau PFI – wedi cymylu’r ffin rhwng y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn credu mai natur y gwasanaeth ddylai benderfynu ar gyfrifoldeb corff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn hytrach na statws y darparwr – boed yn y sector gyhoeddus, y sector breifat neu’r sector wirfoddol. Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 wedi derbyn yr egwyddor hon eisoes. Gorfodaeth statudol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ar draws pob sector yw’r unig ffordd o sicrhau gwasanaeth cydradd i siaradwyr

Cymraeg. Ni fyddai Deddf Iaith sy’n cynnwys y sector preifat yn golygu y byddai disgwyl i bob cwmni weithredu polisi iaith i’r un graddau nac i’r un amserlen. Byddai angen edrych ar natur cwmni gan ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys o bosibl faint y cwmni, ei leoliad, adnoddau dynol a natur y gwasanaeth y mae’n ei gynnig. Yn amlwg, ni fyddai yr un disgwyliadau ar ffatri yng Nghas-gwent ag y byddai ar archfarchnad yng Nghaernarfon.

Mae mesurau ar y gweill o ran crefydd ac oedran hefyd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi bod y Gymraeg yn perthyn i’r teulu hwn o gydraddoldebau, ond mae’n gwrthod trin y Gymraeg fel y cydraddoldebau eraill. Yr egwyddor glir yn y meysydd eraill yw bod angen deddfu a gorfodaeth er mwyn gwella cydraddoldeb, a does neb yn awgrymu bod perswâdio yn ddigonol – ond mae disgwyl i “berswadio” o’r fath weithio yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg! O ran yr iaith Gymraeg, fel y meysydd eraill uchod, mae anghyfartaledd amlwg o ran grym. Mae cryfder y Saesneg a Dros y degawd diwethaf gwendid y Gymraeg yn ffaith, ac cafwyd twf sylweddol mae angen deddf iaith newydd mewn ymgyrchu hawliau, sy’n cydnabod hyn ac yn cyflwyno ac yn sgil hynny polisïau a mesurau a fydd yn newid deddfwriaeth gwrthwahaniaethol agweddau ac yn gwrthweithio’r er mwyn hybu cydraddoldeb o ran anghyfartaledd hanesyddol rhyw, rhywioldeb, hil ac anabledd. hwn. §

»

CYDRADDOLDEB

DYDD MERCHER 9 AWST, 2pm CYFARFOD CYHOEDDUS DY IAITH, DY HAWL! Panel Adam Price Plaid Cymru, Eleanor Burnham Democratiaid Rhyddfrydol, Lisa Francis Ceidwadwyr, Sian Howys Cymdeithas yr Iaith Cadeirio Huw Lewis Cymdeithas yr Iaith

PABELL Y CYMDEITHASAU, MAES YR EISTEDDFOD

DYDD IAU 10 AWST, 2pm RALI BROTEST DY IAITH, DY HAWL!

UNED CYMDEITHAS YR IAITH, MAES YR EISTEDDFOD


ytafod

DEDDF IAITH AR DAITH

Y

m mis Awst bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd â’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd ar daith ar hyd a lled Cymru. Dyma’ch cyfle chi i helpu gyda’r ymgyrch yn eich ardal leol chi. Yn ogystal â lledaenu neges deddf iaith newydd o gwmpas Cymru, prif bwrpas y daith yw casglu cymaint o enwau ag sy’n bosib ar ddeiseb Deddf Iaith Newydd. Byddwn yn cyflwyno’r ddeiseb yma i Lywodraeth y Cynulliad yn yr hydref. Os oes gennych chi awr neu ddwy i sbario felly, dewch draw i helpu! Byddwn yn casglu enwau o 11 y bore tan 3 y prynhawn ymhob lleoliad. Gallwch gysylltu gyda’r trefnwyr lleol am fwy o wybodaeth. Dyma’r dyddiadau:

ABERTAWE LLUN 14 Cyfarfod wrth Tŷ Tawe hywel@cymdeithas.org RHYDAMAN MAWRTH 15 Cyfarfod tu allan i Woolworths catrin@cymdeithas.org PONTYPRIDD MERCHER 16 Cyfarfod wrth Glwb y Bont osian@cymdeithas.org CAERDYDD IAU 17 Cyfarfod wrth gofgolofn Aneurin Bevan hywel@cymdeithas.org CASNEWYDD GWENER 18 Cyfarfod wrth y Clwb Gwyddelig hywel@cymdeithas.org

ABERYSTWYTH SADWRN 19 Cyfarfod wrth Siop y Pethe huw@cymdeithas.org

EISTEDDFOD 2006 · 11

RHUTHUN LLUN 21 Cyfarfod wrth y cloc ar y sgwâr rhun@cymdeithas.org LLANGEFNI MAWRTH 22 Cyfarfod tu allan i Dafarn y Bull dewi.snelson@cymdeithas.org PWLLHELI MERCHER 23 Cyfarfod yn y maes parcio ger y Maes dewi.snelson@cymdeithas.org CAERNARFON IAU 24 Cyfarfod wrth gofgolofn y milwyr ar y Maes dewi.snelson@cymdeithas.org

DOLGELLAU GWENER 25 Cyfarfod ar y Sgwâr dewi.snelson@cymdeithas.org ABERTEIFI SADWRN 26 Cyfarfod tu allan i Woolworths siwan@cymdeithas.org Bydd gigs, cwisiau a chyfarfodydd gwleidyddol hefyd yn cael eu cynnal ar y nosweithiau yma! Dewch yn llu!



ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 13

DY HAWL!

GŴYL FAWR DEDDF IAITH Adroddiad Hywel Griffiths o’r diwrnod hanesyddol yn Aberystwyth

R

oedd dydd Sadwrn, Mehefin y 10fed yn ddiwrnod hanesyddol. Nid oherwydd mai ar y diwrnod hwnnw y cychwynnodd tîm pêldroed Lloegr ar siwrne seithug arall drwy rowndiau cwpan y byd, ond oherwydd mai dyma’r diwrnod y cynhaliwyd Gŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd. Yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, daeth bron 500 o bobl ynghyd i ddatgan eu cefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd. Roedd gweld cynifer o bobl o bob oedran ac o bob rhan o Gymru – yn mwynhau awyrgylch anffurfiol, hwyliog y digwyddiad – yn fodd gwych o arddangos i lywodraeth Lafur y Cynulliad fod yna gonsensws gwirioneddol ymysg pobl Cymru am yr angen i ymestyn deddfwriaeth ieithyddol eu gwlad. Cafwyd areithiau gwych gan Catrin Dafydd a Siân Howys ar ran y Gymdeithas yn nodi ein union alwadau a’u cyd destun yn nhermau hawliau ieithyddol. Cafwyd araith ysbrydoledig gan arweinydd Plaid Cymru, Ieuan

Wyn Jones ynglŷn a’r angen i sefydlu statws i’r iaith Gymraeg yng Nghymru a sefydlu hawliau i bobl Cymru gael defnyddio’r iaith ymhob agwedd o’u bywydau, a gan hynny normaleiddio’r defnydd o’r iaith ymhob sector o fywyd Cymru. Cafwyd areithiau gan Siwan Tomos ar ran UMCA,

Yn ogystal, braf iawn oedd cael araith gefnogol gan Yr Arglwydd Roger Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) a Lisa Francis (Ceidadwyr). Yn wyneb y fath gefnogaeth drawsbleidiol, mae’n anodd iawn gweld sut y

Dilwyn Roberts-Young ar ran UCAC a Gwyneth Morus Jones ar ran Merched y Wawr, ill tri yn ategu yr alwad am yr hawl sylfaenol i dderbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac, eto fyth, i fyw eu bywydau yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

gall y llywodraeth Lafur barhau i wrthod ein galwadau. Cafwyd setiau cerddorol gan Pala, Coda ac Eusebio ac mi lwyddodd y tri band i godi hwyl y gynulleidfa, ac i foddi ambell i floedd a oedd yn codi o’r bar, lle’r oedd hynt a helynt tîm Lloegr yn cael ei ddangos ar sgrin


14 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

“roedd yna ryw asbri a theimlad o fomentwm tu ôl i’r ŵyl … mae consensws gwirioneddol” fawr. Yn ogystal, cafwyd sesiwn farddonol, lle bu Rhun Emlyn yn darllen cerddi o gefnogaeth gan Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd, Dewi Prysor a Guto Dafydd, ac Iwan Rhys ac Iwan Llwyd yn adrodd eu cerddi cefnogol eu hunain. Bu hyn yn llwyddiant ysgubol, mi oedd hi’n braf iawn cael awyrgylch hwyliog a chyffrous i’r ŵyl, nid nad yw areithiau gwleidyddol yn hwyl wrth gwrs(!), ond mi oedd yna ryw asbri a theimlad o fomentwm yn tu ôl i’r ŵyl, ac yn sicr mi oedd y bandiau a’r beirdd yn rhan allweddol o hyn.

Ymysg y siaradwyr roedd (o’r chwith i’r dde) Gwyneth Morus Jones – Merched y Wawr, Dilwyn Roberts-Young – UCAC, Ieuan Wyn Jones – Plaid Cymru, Roger Roberts – Democratiaid Rhyddfrydol, Siwan Tomos – UMCA, a Hywel Teifi Edwards.

Cyfle arall i chi glywed yr areithiau: mae fideo o’r rali ar gael ar wefan y Gymdeithas www.cymdeithas.org


ytafod

M

EISTEDDFOD 2006 · 15

DY HAWL! ANRHYDEDDU EILEEN BEASLEY

i oedd y diwrnod yn hanesyddol am reswm arall hefyd wrth gwrs, sef ein bod fel Cymdeithas yn talu teyrnged i un o ffigyrau dewraf a mwyaf ysbrydoledig y frwydr dros ddyfodol yr iaith Gymraeg. Dyma’r wraig a adnabyddir gan lawer fel Rosa Parks y mudiad iaith. gwnaeth Eileen Beasley a’i theulu Rhaid cofio fod Eileen Beasley Oedd, yr oedd dy iaith yn ddrud, safiad dewr, gan bwysleisio y dylai a’i theulu wedi dioddef wyth eithafol ei threth hefyd fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefmlynedd o ymweliadau gan feilïaid ond ei dyled a delaist nyddio’r Gymraeg ac i dderbyn am iddynt wrthod talu treth fwy na llawn, trwy fynnu llais, gwasanaethau trwy gyfrwng yr hyd nes y ceid ffurflen Gymraeg, trwy fynnu prynu parhad iaith. ac am iddynt fynnu cael achos yn wyneb ei diflaniad. “Ers hynny, gwelwyd nifer o llys trwy gyfrwng y Gymraeg. I Dewr oet yn ei brwydr hi ddatblygiadau pwysig, ond eto i aelodau presennol y Gymdeithas, a rhoddaist hyder iddi, gyd, mae pobl Cymru yn parhau llawer ohonom yn rhy ifanc i gofio a thra byddo dyfodol i wynebu rhwystrau pan yn protestiadau torfol y 60au a’r i’r Gymraeg yma ar ôl ceisio defnyddio’r Gymraeg wrth 70au hyd yn oed, mae’n anodd fe welir naddu filwaith gyflawni tasgau dyddiol. dirnad profiad Eileen Beasley dy enw di yn dy iaith. “Rhaid i’r llywodraeth gyflwyno wrth wneud safiad unigol o’r Deddf Iaith Newydd fydd yn fath yn y 50au. Atgoffwyd ni Gerallt Lloyd Owen sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol o hyn gan Hywel Teifi Edwards, sylfaenol i bobl Cymru. Mae arweinydd y deyrnged, wrth iddo gan Catrin Dafydd yn ei haraith consensws sylweddol bellach osod safiad Eileen Beasley yn hithau: “Flynyddoedd yn ôl o blaid mesur o’r fath. Dyma Llangennech yn ei gyd-destun cymdeithasol. Cyflwynwyd tusw o flodau iddi gan Angharad Blythe, yr aelod diweddaraf o’r Gymdeithas i wynebu achos llys yn yr ymgyrch dros gyfiawnder i’r Gymraeg, yn ogystal â chywydd penigamp gan Gerallt Lloyd Owen. Roedd y gymeradwyaeth a dderbyniodd yn tystio i wirionedd diweddglo’r cywydd: a thra byddo dyfodol i’r Gymraeg yma ar ôl, fe welir naddu filwaith dy enw di yn dy iaith. Roedd y ffaith mai Angharad Blythe (sydd dal heb gael achos llys terfynol trwy gyfrwng y Gymraeg) a gyflwynodd y cywydd iddi yn arbennig o arwyddocaol, ac yn adleisio pwynt a godwyd Angharad Blythe yn cyflwyno blodau i Eileen Beasley


Plaid Cymru Yn gadarn dros y Gymraeg! Plaid Cymru yw r unig blaid sy n rhoi r Gymraeg yn gyntaf. Tra bod Rhodri Morgan yn meddwl fod y Gymraeg yn Boring, boring, boring , gwan a gwag yw addewidion y Ceidwadwyr a r Democratiaid Rhyddfrdol.

Mae Plaid Cymru am weld: �� Deddf

Iaith Newydd i gryfhau statws y Gymraeg gan sicrhau hawliau ieithyddol mewn meysydd penodol a chryfhau'r pwerau rheolaethol yngl�n a chynlluniau iaith.

�� Uned

Iaith rymus swyddfa r Prif Weinidog,

�� Comisiynydd

wedi

ei

yr Iaith Gymraeg Gomisiynydd Plant Cymru.

lleoli

yn

tebyg

i

YMUNWCH NAWR AR STONDIN PLAID CYMRU ----------------------------------------------------I gefnogi ymgyrch Plaid Cymru dros Ddedf Iaith Newydd ac i dderbyn copi o adroddiad Comisiwn Iaith y blaid cwblhewch y bonyn isod a’i ddychwelyd i stondin Plaid Cymru: Enw : …………………………………………………………………….. Cyfeiriad : ………………………………………………………………… …………………………………………………………………………….. Cod Post : ………………………………………………………………… Cyhoeddwyd ac argraffwyd: Plaid Cymru, 18 Park Grove, Caerdydd, CF10 3BN


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 17

“mae’n anodd dirnad profiad Eileen Beasley wrth wneud safiad unigol o’r fath yn y 50au” Yn 1952 symudodd Eileen a Trefor Beasley i fyw yn Llangennech Sir Gaerfyrddin. Dyna pryd y gofynnodd i Gyngor Gwledig Llanelli am bapur treth yn y Gymraeg. Gwrthodwyd hyn iddynt a bu iddynt hwythau yn eu tro wrthod talu’r dreth. Gwysiwyd hwy gerbron y llys ddwsin o weithiau. Mynnai’r ddau fod yr achos yn cael ei gynnal yn y Gymraeg. Bu’r beilïaid yn casglu dodrefn o’u tŷ dair gwaith, a’r dodrefn wrth gwrs yn werth llawer mwy na’r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley eu papur treth yn

ddwyieithog. Trafodwyd yr achos yma gryn dipyn yn narlith radio enwog Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’ a ddarlledwyd ym 1962. §

gonsensws sy’n cwmpasu Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith, nifer o’r gwrthbleidiau a hefyd unigolion dylanwadol megis John Elfed Jones a’r Arglwydd Gwilym Prys Davies.” Do, cafwyd camau breision yn y frwydr wrth i genedlaethau ddilyn arweiniad y Beasleys. Serch hynny, mae anghyfiawnder dybryd yn bodoli o hyd, ac nid edrych i’r gorffennol yn unig yr oeddem wrth anrhydeddu Eileen Beasley, ond sylweddoli fod yn rhaid i genhedlaeth arall frwydro os ydym am ymestyn yr hawliau sydd gennym fel Cymry Cymraeg, a sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. §

� � � � � � � � �������

������������������������� �������������������������� ������������������������� ������������������� ������������������ ���������������������� �������������������� ����������������������� ���������������������� ������������������������ �������������������� ��������������

�����������

��������������


18 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

EWROP

POB IAITH YN SWYDDOGOL! Mae Haf Tomos yn llongyfarch Joan Bernat ar ei ymgais i sicrhau statws i holl ieithoedd Ewrop

“Rh

aid i bob iaith fod yn swyddogol!” Dyna y mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd Joan Bernat yn ei fynnu. Catalanwr yw Joan Bernat; mae’n aelod o blaid Chwith Gweriniaethol Catalunya, ac mae’n cadw cwmni i Jill Evans, Plaid Cymru, dau aelod o’r SNP a Tatjana Ždanoka o Latfia yn y Senedd Ewropeaidd gyda’r grŵp Cynghrair Rhydd Ewropeaid. Ac yntau’n enedigol o ynys Eivissa (eibi-sa) – sy’n fwy adnabyddus fel Ibiza (ai-bi-tha), y gyrchfan glybio enwog! – y mae’n athro prifysgol yn y Gatalaneg, yn awdur nofelau a dramâu, ac yn wleidydd. Ef hefyd yw awdur adroddiad ar y Strategaeth Fframwaith ar gyfer Amlieithrwydd yn yr Undeb Ewropeaidd a luniwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd (heb fod yn un o’i werthwyr gorau debyg). O safbwynt y Comisiwn, mae amlieithrwydd yn ymwneud â’r 21 o ieithoedd swyddogol yn yr UE, er bod rhyw 46 miliwn o bobl yn yr UE yn siarad ieithoedd answyddogol. Mae gan rai o’r ieithoedd answyddogol hyn, fel y Gatalaneg, fwy o siaradwyr na rhai o’r ieithoedd swyddogol, fel y Ddaneg. O ran hynny, mae mwy o bobl yn siarad Cymraeg nag sy’n siarad Malteg – ond ar hyn o bryd does gan siaradwyr y Gymraeg ddim hawliau ar lefel Ewropeaidd, tra bod siaradwyr iaith frodorol Malta (mewn theori o leiaf) yn cael darllen pob tamaid o ddeddfwriaeth Ewropeiadd ac annerch eu cydSeneddwyr yn eu priod iaith, am ei bod yn iaith swyddogol. Ydy hyn o bwys, chwi a ofynnwch? Pam byddwn i am ddarllen rhyw gyfarwyddebau sych yn Gymraeg? Mae eu bodoloaeth neu eu diffyg bodolaeth yn gallu bod yn bwysig iawn. Yn ddiweddar, cafwyd ffarmwr o Dreffynnon yn euog o symud gwartheg yn anghyfreithlon. Ond cyn iddo gael ei ddedfrydu, cafwyd na allai fod yn euog am nad oedd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd berthnasol ddim wedi cael ei hymgorffori yng nghyfraith y wladwriaeth

hon. Doedd dim cyfraith i’w thorri. Felly, allwn ni ddim ymddiried yn ddall bod y llywodraeth (ai yng Nghaerdydd neu yn Llundain) yn gwybod orau. Rhaid i bob dinesydd gael yr hawl i weld drosto’i hun y dogfennau sy’n gwahardd neu’n gorfodi pethau, a hynny yn ei iaith ei hun. Os yw’r Undeb Ewropeaidd o ddifrif am hyrwyddo “undod o fewn amrywiaeth”, ni all anwybyddu hawliau iaith 10% o’i ddinasyddion. Yn ei adroddiad ar strategaeth y Comisiwn, mae Joan Bernat yn galw am y canlynol: • Deddf Ieithoedd yr UE i symleiddio polisi a deddfwriaeth iaith yr UE; • Ombwdsmon Iaith i’r UE, fel yr un yng Nghanada, i sicrhau hawliau iaith; • Sefydlu Asiantaeth Ewropeaidd dros Amlieithrwydd; • Statws swyddogol i bob iaith Ewropeaidd yn yr UE • Llunio rhestr o ieithoedd Ewropeaidd yn yr UE sydd mewn perygl er mwyn blaenoriaethu cymorth i’r ieithoedd sydd yn y perygl mwyaf; • Hawl i bob dinesydd yn yr UE gyfathrebu â sefydliadau’r UE yn ei iaith ei hun. Bydd y rhan fwyaf o’r argymhellion hyn yn canu cloch gydag aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas, gan eu bod yn debyg iawn i’n galwadau ni yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd. Mae adroddiad Joan Bernat yn cadarnhau bod ein hymgyrch ni yn rhan o ymgyrch ryngwladol ehangach i sicrhau cyfiawnder a’n bod ni ar drywydd sy’n symud ymlaen gan edrych y tu allan, tra bo Llafur Prydeinig yn mynnu aros yn yr unfan yn geidwadol ynysig. Er gwaethaf ambell sylw negyddol gan Aelodau Ewropeaidd asgell dde (o’r EPP – y grŵp sy’n rhy sofft i Dave Cameron!), cafodd adroddiad Joan Bernat gefnogaeth gyffredinol yn y Pwyllgor Diwylliant ac Addysg ar 12 Gorffennaf. Trafodir yr adroddiad, ynghyd ag unrhyw welliannau, eto ar 28 Awst. §


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 19

“mae’n hymgyrchu ni yn rhan o ymgyrch rhyngwladol ehangach i sicrhau cyfiawnder” Annwyl … Yr wyf yn ysgrifennu atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ofyn ichi gefnogi adroddiad Joan Bernat ASE i’r Pwyllgor Addysg a Diwylliant (COM(2005)0596, 2006/ 2083(INI)) ar amlieithrwydd yn yr Undeb Ewropeaidd ac ichi bleidleisio dros ei gynigion pan ddeuant ger eich bron mewn cyfarfod llawn yn yr hydref. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd mae’r Gymdeithas yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ac yn rhoi hawliau statudol i ddefnyddio’r iaith. Mae consensws trawsbleidiol yn y Cynulliad ac yng Nghymru’n gyffredinol bod angen deddfwriaeth newydd o’r fath, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau yn ddiweddar y bydd yn adolygu’r angen am ddeddfwriaeth newydd. Cred y Gymdeithas fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys lefel llywodraeth Ewropeaidd, a chredwn fod gan bob un o’r 46 miliwn o bobl yn yr UE sy’n defnyddio iaith nad yw’n iaith swyddogol aelod-wladwriaeth yr un hawl. Felly cefnogwn alwad Joan Bernat ASE am y canlynol: Deddf UE i symleiddio polisi a deddfwriaeth iaith yr UE; Ombwdsmon Iaith i’r UE, fel yr un yng Nghanada, i sicrhau hawliau iaith; Sefydlu Asiantaeth Ewropeaidd dros Amlieithrwydd; Statws swyddogol i bob iaith Ewropeaidd yn yr UE; Llunio rhestr o ieithoedd Ewropeaidd yn yr UE sydd mewn perygl er mwyn blaenoriaethu cymorth i’r ieithoedd sydd yn y perygl mwyaf; Hawl i bob dinesydd yn yr UE i gyfathrebu â sefydliadau’r UE yn ei iaith ei hun. Gofynnwn i chwithau gefnogi’r cynigion hyn. Yn gywir …

Ysgrifennwch at eich aelodau seneddol Ewropeaidd i gefnogi’r ymgyrch! Glenys Kinnock gkinnock@welshlabourmeps.org.uk Jill Evans jill.evans@europarl.europa.eu Jonathan Evans jonathan.evans@europarl.europa.eu Eluned Morgan emorgan@welshlabourmeps.org.uk Ac anfonwch air at Joan Bernat i’w galonogi: bjoan@europarl.eu.int

» Os hoffech weld yr adroddiad ei hun, ewch i: http://www.eurolang.net/files/draft_multilingualism.pdf

» Mae papur trafod hefyd:

http://www.eurolang.net/files/Discussion%20doc%20final.doc

�� ������ ���� �������� �� ������ ���� � ������� Prif Swyddfa UCAC, Pen Roc, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AZ Ffôn: 01970-639950 Ffacs: 01970-626765 E-bost: ucac@athrawon.com


20 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

CYNULLIAD

O

OES GYDA NI HAWLIAU AI PEIDIO?

s nad ydych yn ddigon trist i wylio dadleuon di-fflach y Cynulliad yn fyw ar S4C2 nac yn ddigon o anorac i chwilio gwefan y Cynulliad am gofnod caboledig o’r ddadl, dyma uchafbwyntiau’r ddadl flynyddol ar y Gymraeg, sef y ddadl ar Iaith Pawb a Chynllun Iaith Llywodraeth y Cynulliad (11 Gorffennaf 2006). Ydych yn eistedd yn gyfforddus? Os ydych, dylech symud rhag ofn ichi fynd i gysgu neu lewygu mewn syndod.

LISA FRANCIS A ydych yn derbyn ei bod yn anodd mynd ati i gynllunio’n ieithyddol heb sefydlu hawliau ieithyddol? ALUN PUGH Ar hyn o bryd, mae gan lawer o siaradwyr Cymraeg yr hawliau hynny IEUAN WYN JONES Nid oes gan aelod o’r cyhoedd unrhyw hawliau o gwbl. ALUN PUGH Yr wyf yn derbyn hynny.

PWY SY’N BWYDO ALUN PUGH?

YN FYW O BLANED LLAFUR!

ALUN PUGH Cefais ginio diddorol yr wythnos ddiwethaf gyda’r CBI a nifer o gwmnïau mawr. Ar draws y sector breifat, nid oes awydd am ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn.

ALUN PUGH Byddech yn ei chael hi’n anodd, er enghraifft, dod o hyd i awdurdod lleol yn unrhyw le yng Nghymru nad yw’n dweud, fel rhan o’i gynllun, ‘Yr ydym yn ateb gohebiaeth yn y ddewis iaith’. Felly, os ysgrifennwch chi at awdurdod lleol—o Ynys Môn yn y gogledd i Gaerdydd yn y de—yn y Gymraeg, byddwch yn cael ateb yn y Gymraeg. ALUN PUGH Mae’n bosibl i chi brynu eich trydan a’ch nwy heddiw drwy gyfrwng y Gymraeg. LEIGHTON ANDREWS Mae traddodiad hir yn y Blaid Lafur o gefnogi’r iaith. ALUN PUGH O ran pŵer, er enghraifft, byddaf weithiau’n derbyn ambell lythyr yn dweud nad yw rhai cwmnïau trydan yn bilio pobl yn Gymraeg.

SÊR

D D E N E S N EI


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 21

“cefais ginio diddorol yn ddiweddar gyda’r CBI a nifer o gwmnïau mawr”— Alun Pugh Mae nifer o gwmnïau pŵer yn barod i wneud hynny ac mae gan ddefnyddwyr gryn bŵer yn y mater. Os nad yw cwmnïau yn barod i weithio yn y ddwy iaith genedlaethol ac yn gwrthod darparu’r gwasanaethau hynny, mae gan ddefnyddwyr bŵer i brynu eu trydan gan gwmni sydd yn barod i wneud hynny.

ARWRESAU’R PRYNHAWN JENNY RANDERSON A ydych yn cytuno bod y Gweinidog fel pe bai’n camddeall y sefyllfa yng Nghwebec? LISA FRANCIS Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn sylweddoli bod egwyddor hawliau iaith yn ffurfio’r sail i gynllunio iaith, ac mae hynny, ysywaeth, yn absennol i bob pwrpas yma yng Nghymru. Nid yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn rhoi sylw i hawliau iaith clir i’r cyhoedd, ac felly, dyma’r amser i gael trafodaeth fanwl ynglyn â chydnabod hawliau siaradwyr ein dwy iaith genedlaethol. LISA FRANCIS Mae’n amserol yn awr, Leighton, inni ddechrau edrych nid o reidrwydd ar statws darparwyr gwasanaethau ond ar natur y gwasanaeth a ddarparant. Rhaid wrth eglurder ynghylch beth y gall defnyddwyr iaith ei ddisgwyl, a allai, yn ei dro, hyrwyddo defnydd ymarferol o’r Gymraeg gan y cyhoedd, gan arwain, yn bwysig, at godi hyder defnyddwyr iaith. ELEANOR BURNHAM Os ydym am greu cenedl wirioneddol ddwyieithog rhaid iddi fod yn seiliedig ar gydraddoldeb. Dyna fy rheswm dros gynnig gwelliant 8, oherwydd credaf y dylai hawliau ieithyddol chwarae rhan allweddol ym mwriad y Llywodraeth Lafur i greu cenedl ddwyieithog. A minnau’n Ddemocrat Rhyddfrydol, credaf ei bod yn addas dehongli datblygu a hybu’r iaith yng nghyddestun hawliau dynol neu ryddfreintiau sifil. JENNY RANDERSON Yr ydym wedi symud ymlaen o ran ein cysyniad o hawliau. Rhoddaf enghraifft i’r Gweinidog, gan ei bod yn amlwg na ddeallodd y mater dan sylw’n gynharach, o’r hyn a olygaf wrth hynny. Daeth cynrychiolwyr o Swyddfa’r Post i drafod cangen newydd y goron yng Nghaerdydd, sydd i ddisodli’r hen adeilad. Pan holais am ddarpariaeth gwasanaethau yn Gymraeg, dywedwyd wrthyf fod swyddfa’r post yn gweithredu gwasanaeth dwyieithog,

gan ei bod wedi ymrwymo i wneud hynny gan ei rhwymedigaethau ei hun. Gwyddom pan fyddwn yn mynd i swyddfa’r post y gallwn gael taflenni dwyieithog, a bod y cyhoeddiad sydd wedi ei recordio’n un dwyieithog. Fodd bynnag, pan ofynnais faint o staff sy’n medru’r Gymraeg sy’n cael eu cyflogi yno, yr ateb a gefais oedd ‘dim’. Dywedais nad oes gennyf, felly, yr hawl i fynd yno a mynnu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ymateb oedd, ‘Wel, ni chaech hynny, oherwydd nid oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg.’ Mae diweddglo hapus i’r stori hon, gan eu bod wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar, yn amlwg ar ôl cael eu cywilyddio gan yr holl ddigwyddiad, i ddweud eu bod yn awr yn recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg. Mae hon yn gangen o swyddfa’r post yng nghanol ein prifddinas. Nid oedd y cynrychiolwyr yn ystyried bod gan eu cwsmeriaid yr hawl i allu siarad, dros y cownter, â phobl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y GORNEL ATGOFION DENISE IDRIS JONES Mae’n bleser clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad ar y trên, sy’n cychwyn yng Nghaergybi ac yn teithio drwy Fangor a Llandudno. GWENDA THOMAS Dylem ymfalchïo yn ein tafodiaith—Cymraeg carreg calch neu Gymraeg y cwm—gan mai dyna’r Gymraeg sydd yn fyw ymhlith mwyafrif pobl Gwauncaegurwen, a sawl Gwauncaegurwen arall. Beth a wnaem heb yr hen ddywediadau—’Siwmai’, ‘Gad dy lap’, ‘Ffordd aer’, ‘Twls ar y bar’ a ‘Thwll top’? Mae rhai o’r rhain wedi eu hetifeddu o’r gweithfeydd glo. JOHN GRIFFITHS Yng Nghasnewydd, er enghraifft, pan oeddwn i’n ifanc yr oedd ychydig o Gymraeg i’w glywed, ond erbyn hyn mae mwy. Mae gennym Ysgol Gymraeg Casnewydd, mae pawb sydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dysgu Cymraeg, cynhelir dosbarthiadau i oedolion, mae arwyddion Cymraeg o gwmpas y ddinas, a cheir datganiadau Cymraeg yn yr orsaf drenau.

WEDI COLLI’R PLOT? OWEN JOHN THOMAS Galwaf ar y Llywodraeth i sicrhau nad yw’r broses o roi adran 29 ar waith yn hirach na’r angen. §


22 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

ADDYSG

MYNYDD O GERRIG I GEFNOGI MYNYDDCERRIG Mae swyddogion addysg Sir Gâr wedi bod yn defnyddio’r un hen driciau unwaith eto

D

aeth 75 o gynrychiolwyr o 12 o ysgolion ynghyd â Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru i Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar Orffennaf 12fed i roi negeseuon o gefnogaeth i frwydr Ysgol Mynyddcerrig dros ei dyfodol. Daeth pob cynrychiolydd â charreg o’u hardal nhw i adeiladu mynydd bach o gerrig o flaen y neuadd fel cyfraniad pellach at y broses ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol. Dywedodd cadeirydd y cyngor, Mr Roy Llywelyn, wrth

y protestwyr fod hwn yn fater y dylai’r cyngor llawn fod yn ei drafod; ond ar hyn o bryd mae’r bwrdd gweithredol yn mynnu cymryd y penderfyniad eu hunain yn eu cyfarfod ar ddechrau Medi, ar ddiwedd y broses ymgyngorol sydd wedi ei ymestyn hyd at Awst 11eg. Yn wreiddiol, bwriadwyd cau’r cyfnod ymgynghori ar Orffennaf 10fed, gan ganiatáu mis cwta ar gyfer ystyried pob opsiwn am ddyfodol yr ysgol. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo swyddogion addysg Sir Gâr o ddefnyddio’r un hen driciau wrth geisio rhwystro trafodaeth am ei strategaeth moderneddio addysg a allai arwain at gau hyd at 40 ysgol bentrefol Gymraeg yn y sir. Mae’r ddwy adran gyntaf yn y Cynllun Addysg Sengl drafft yn gyffredinol iawn yn sôn am nodau haniaethol tra bod y drydedd adran yn ail ddatgan y strategaeth moderneddio addysg amhoblogaidd a strategaethau eraill. Mae’r swyddogion wedi dosbarthu ffurflen i’r llywodraethwyr a chyrff eraill yn gofyn am ymateb i’r ‘cwestiynau allweddol’ sy’n gyfyngedig i’r ddwy adran gyffredinol gyntaf a heb wahodd unrhyw ymateb o gwbl i’r strategaeth

moderneddio addysg. Meddai llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis, “Drwy gynnwys y Strategaeth Moderneddio Addysg mewn adran o’r Cynllun Addysg Sengl – heb dynnu sylw ato – mae’r swyddogion yn amlwg yn gobeithio honni yn nes ymlaen iddo fod allan am ymgynghoriad drwy’r sir. Unwaith eto maent yn defnyddio’r un hen driciau yn yr un modd ag y maent yn honni fod eu cyfeiriadau at ‘llai o lefydd ysgolion’ yn y Cynllun Addysg Ysgolion yn 2001 yn rhoi’r hawl iddynt ddileu dwsinau o ysgolion pentrefol Cymraeg. “Rydym yn dadlau yn ein hymateb i’r Cygor y bydd y Strategaeth Moderneddio Addysg yn tanseilio’r union werthoedd o gynhwysiant cymdeithasol, addysg gymunedol a dwyieithrwydd drwy ganoli addysg a thynnu’r ysgolion allan


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 23

“rhaid i ni sefyll dros Fynyddcerrig am eu bod nhw yn gwneud safiad dros bawb ohonom” o’u cymunedau.” Yn ogystal â’r protest tu allan i neuadd y sir, dangoswyd cryfder teimladau lleol trwy fod 100 o bobl wedi dod i gyngerdd ‘Colli Iaith, Colli Cymdeithas’, gyda Heather Jones a phlant yr ysgol, a gynhaliwyd yn Ysgol Mynyddcerrig y nos Wener cynt. Ac mae digwyddiadau eraill ar y gwell fel rhan o’r ymgyrch. Bydd cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ar ddydd Gwener Awst 11eg, sef diwrnod ola’r broses ymgynghorol, a hefyd protest pan fydd y bwrdd gweithredol yn cyfarfod ar ddechrau Medi yng Nghaerfyrddin i wneud eu penderfyniad terfynol ar ddyfodol yr ysgol. Dywed cadeirydd y Gymdeithas

yn sir Gaerfyrddin, Sioned Elin (sydd â phlant yn ysgol gyfagos Bancffosfelen, sydd hefyd tan fygythiad): “Ni allwn ganiatáu i’r cyngor drin addysg ein plant

a dyfodol ein cymunedau gyda’r fath ddirmyg. Rhaid i ni gyd sefyll dros Mynyddcerrig, am eu bod nhw yn gwneud safiad dros bawb ohonom.” §

PROTEST DYFODOL YSGOL BENTREFOL MYNYDDCERRIG GWERS I GYMRU GYFAN 2PM DYDD GWENER, 11 AWST UNED CYMDEITHAS YR IAITH (1034–1037) MAES EISTEDDFOD ABERTAWE NIGEL OWENS CYN DDISGYBL A DYFARNYDD RYGBI RHYNGWLADOL FFRED FFRANSIS GRWP ADDYSG CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG Fel y gwyddoch mae Ysgol Mynyddcerrig yn mynd trwy gyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd. Cawsant fis o estyniad ar gyfer yr ymgynghori a’r dyddiad cau yn awr yw’r 11eg o Awst. Bydd beic modur ar faes yr Eisteddod yn barod i dderbyn ymatebion pobl ar y

maes a mynd a hwy yn syth i swyddefydd Gyngor Sir Gâr cyn diwedd y dydd. Bydd Nigel Owens a Ffred Ffransis yn dweud gair byr cyn i’r beic ruthro bant gyda’r parsel hollbwysig i’w gyflwyno i’r cyngor. Gallwch helpu hefyd trwy ddanfon llythyr yn cefnogi Ysgol Mynydd Cerrig,

ac yn gwrthwynebu cau ysgolion pentrefol Sir Gâr, at y Cyfarwyddwr Addysg Vernon Morgan trwy ebostio VMorgan@sirgar.gov.uk neu trwy’r post cyffredin: Vernon Morgan, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1JP §



ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 25

ADDYSG

DEWIS Y TŶ AR Y TYWOD PROTEST COLEG FFEDERAL Mewn adroddiad diweddar, gwrthodwyd y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg. Maen nhw wedi colli cyfle euraidd meddai Menna Machreth

Y CYFLE I ADEILADU TŶ AR Y GRAIG

bydd y cynllunio at y dyfodol yn digwydd. Y mae’r siarad parhaus am gydweithio fel yr ateb yn Yr oedd yn fater syml i fyfyrwyr ddiargyhoeddiad, gan ei fod naill – rhaid cael seiliau cadarn ar ai’n digwydd yn barod neu’n gyfer strwythr newydd, seiliau y annhebygol iawn o ddigwydd wrth byddem yn gallu adeiladu’n uwch ddibynnu ar sefydliadau addysg ac yn barhaus arno. uwch Cymru, yn enwedig gyda Byddai’n haws i eraill ei weld yn dadfeiliad Prifysgol Cymru. Dim suddo’n araf. ond strwythur fel Coleg Ffederal Llwyddodd Llafur i guddio a all sicrhau datblygiad addysg rhag bwledi myfyrwyr sy’n Gymraeg ym mhob prifysgol ac ceisio astudio trwy gyfrwng y ehangu a darparu cyrsiau mewn Gymraeg trwy honni y byddai ystod o bynciau. asesiad opsiynau yn ystyried yr holl ffactorau cyn awgrymu model dewisol ar gyfer datblygiad addysg Gymraeg mewn prifysgolion. Yn ôl adroddiad Arad, roedd Ond mae’n amlwg fod Arad sefydliadau addysg uwch yng Consulting fel y dyn hufen iâ ar Nghymru yn gwrthwynebu y y traeth wedi gwerthu’r opsiwn model o Goleg Ffederal a dyw hwylusaf i’r llywodraeth yn y hynny ddim yn syndod o gwbl gobaith y byddai’n dod yn ôl am i ni fel myfyrwyr. Dydyn nhw fwy. ddim eisiau unrhyw un i gadw Y mae’r diffyg gweledigaeth trefn arnynt. Nid yw galwadau’r sy’n llethu’r adroddiad yn myfyrwyr wedi cael eu cyfrif o warthus ond eto’n hollol gwbl yn yr adroddiad ac mae ddisgwyliedig. Cwyn yr adroddiad hyn y amlwg wrth edrych ar y yw’r diffyg adnoddau i ddysgu diffyg sylw a roddir i broblemau drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn myfyrwyr wrth geisio astudio o bryd, ond dewis Coleg Ffederal trwy’r Gymraeg. Strwythur hiryw’r unig opsiwn sy’n sicrhau y dymor a chadarn sydd ei angen i

BODLONI AR DŶ AR Y TYWOD

ddatblygu addysg Gymraeg, ond er yr holl honiadau mae’n amlwg i bawb arall mai gadael addysg Gymraeg i suddo i’r tywod yw’r dynged yn nwylo y Llywodraeth. Rhaid dangos mai nawr yw’r cyfle euraidd i sefydlu strwythur newydd ac i roi cyfeiriad newydd i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac os na wnaiff y Llywodraeth dderbyn yr her hon fe fydd Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg yn parhau i ddirywio. §

UMCA/UMCB/UCMC

PROTEST

COLEG FFEDERAL DEWIS Y TŶ AR Y TYWOD! DYDD GWENER 10 AWST

3PM, UNED UMCA, MAES EISTEDDFOD ABERTAWE


26 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

AR WIB YN ROMANIA Tra roedd nifer fawr o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y Rali Fawr Deddf Iaith, roedd Menna Machreth a sawl aelod arall ar daith yn Romania er mwyn gwneud gwaith gwirfoddol gyda phlant.

M

ae llawer o bobl yn meddwl am Urdd Gobaith Cymru fel rhywbeth sy’n dathlu Cymreictod ac yn cynnal Eisteddfod, ond a ydych chi’n cofio beth y mae’r coch o fewn y triongl yn ei olygu? Golyga ein cyfrifoldeb i ofalu am ein cydddyn ac estyn ein dwylo dros ffiniau gwledydd a chenhedloedd. Felly, fe benderfynodd criw ohonom oedd ar ddiwedd cyfnod fel myfyrwyr yn Aberystwyth y byddem yn hoffi gwneud rhywbeth gwirfoddol a thrwy gysylltiad a Llinos Roberts, Swyddog Cyd-ddyn yr Urdd, y daethom i wybod am Fudiad Romania i Blant (The Romanian Foundation for Children). Bu misoedd wedyn o weithgarwch codi arian – o gynnal cyngerdd yn y Morlan yn Aberystwyth i olchi ceir, gig Frizbee a bu hyd yn oed cudynnau o wallt Rhys Llwyd ar werth ar y we! Diolch yn fawr i’r sawl a gyfrannodd – gallaf eich sicrhau fod y plant gyda help y mudiad yn Romania yn cael budd o’ch haelioni. Hedfanom o Fanceinion i Amsterdam ac oddi yno i Budapest, ac yna teithio mewn bws mini i Oredea sef tref fawr ar y ffin â Hwngari. Tiroedd gwastad sych oedd yn Hwngari

o’i gymharu a’r mynyddoedd hardd yn Romania. Yno fe brynom yr adnoddau yr oedd eu hangen ar y plant yn y ganolfan y byddem yn teithio iddi rhyw awr tu allan i Oredea, sef Popesti; popeth o fowlenni a phlatiau i bensiliau lliw ac offer chwaraeon a nifer o bethau y byddem ni yn eu cymryd yn ganiataol. Roedd yr arian yn gymysglyd iawn gan fod 10,000 RON yn gyfystyr â

plant yn disgwyl amdanom ac fe gawsom groeso mawr gan blant o 4 i 16 oed. Canolfan a oedd wedi ei agor gan y mudiad i blant oedd hwn ac yr oedd croeso i unrhyw blentyn yn yr ardal i fynd yno i chwarae ac i gael pryd o fwyd. Yn yr un pentref yr oedd ysgol arbennig gyda llety’n gyfagos i blant amddifad, plant a nam meddyliol, neu blant a oedd wedi eu camdrin. Yr oedd ysgol feithrin drws nesaf i’r ganolfan, ac yno yr arhosom am bedair noson heb gawod, ond yn ffodus iawn roeddynt wedi benthyg gwelyau o’r ysbyty leol i ni gael cysgu arnynt. Roedd hi’n rhyfedd sut y llyddom i ddarllen agweddau a theimladau’r plant heb angen £2, ac roeddem ni’n cael papur siarad yr un iaith a nhw – sef miliwn wrth newid arian Ewro ond Romaneg. Fe wnaethom ymdrech a oedd yn achosi problem wrth i ddysgu rhai cymalau o’r iaith geisio cael newid mewn siop. wrth gwrs, a’r plant yn cael Roedd Oredea yn dref hardd hwyl wrth i ni gam-ynganu rhai gyda adeiladau nodweddiadol o geiriau. Roeddem wedi cyflogi gyfnod Ymerodraeth Awstriacyfieithydd, myfyrwiwr o’r coleg Hwngari, ond wrth deithio i lleol, i fod gyda ni drwy’r wythnos Popesti lle y byddem yn treulio yn cyfieithi; mwynheuai ddysgu pum diwrnod gyda’r plant, ieithoedd a doedd hi ddim yn hir teimlem ein bod yn camu yn ôl nes y dysgodd nifer o frawddegau mewn amser wrth weld y ceffyl Cymraeg! a’r gart yn cario’r gwair newydd Ar y diwrnod llawn cyntaf ei dorri â chryman iddynt. Pan gyda’r plant fe benderfynom gyrhaeddom y ganolfan roedd y ni wneud gweithgareddau celf


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 27

Dde Menna a rhai o’r plant yn mwynhau Lo-Cut a Sleifar Isod Y criw tu allan i’r ganolfan yn Popesti

a chrefft gan ddefnyddio’r offer roeddem wedi ei brynu i dynnu lluniau o bethau oedd yn ymwneud a Romania neu Gymru. Yn ystod y gweithgareddau hyn y daethom i adnabod y plant yn dda iawn a chreu cysylltiad agos â nhw. Roeddynt yn hapus eu byd, ac wrth eu bodd o gael sylw a chael cwtsh gennym ni. Bu’r diwrnodau canlynol hefyd yn rhai hwyliog wrth chwarae gemau gyda’r parasiwt a rhannu diwylliant. Byddem ni yn canu iddynt yn Gymraeg a hwythau’n rhannu eu rhigymau nhw â ninnau. Un bore fe wnaeth criw hŷn o blant berfformio eu dawns brodorol i ni, ac yna fe gafodd plant Roma berfformio eu dawns hwythau oedd yn fywiog iawn ac yn cynnwys llawer o slapio coesau! Fe ddangosom ddawns Jac-y-Do iddynt a chyn bo hir redden nhw hefyd yn ymuno a ni ac eisiau ei wneud drwy’r amser; rwy’n sicr y bu tua 70 o blant yn dawnsio gyda ni un tro! Cyn y chwyldro yno yn 1989, bu Nicolae Ceauseascu yn mynnu fod pob teulu yn cael pump o blant; arweiniodd hyn at gynydd mawr mewn plant amddifad yn y wlad. Hefyd, y mae ethnigrwydd yn rhywbeth y mae’r bobl yn rhoi pwys mawr arno ac fe geir agwedd sarhaus yn israddoli sawl grwp ethnig; un o amcanion y mudiad yw cael gwared ar hyn o fewn y genhedlaeth newydd o blant a’u hannog i gymysgu â phawb. Yr oedd ardal Popesti wedi bod yn lewyrchus iawn yn y gorfennol oherwydd y pyllau glo yn yr ardal, dywedodd y maer wrthym, ond ar ôl iddynt gau bu dirywiad enfawr. Edrychai ymlaen at yr amser pan fydd Romania

yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd a dymunai weld isadeiledd gwell i’r wlad. Cawsom lawer o hwyl gyda’r plant nad oeddynt yn sylwi ar eu sefyllfa druenus, ac fe ddysgom wers fel unigolion i werthfawrogi yr hyn rydym yn ei gael o ddydd i ddydd. Roedd hi’n drist iawn i glywed plentyn tair oed yn esbonio fod ei fam ar gyffuriau, i weld bachgen yn gorfod gwisgo crys-t merch, neu merch yn dod atoch a gofyn am esgidiau newydd gan fod y rhai am ei thraed yn rhacs. Rydym bellach yn gobeithio sefydlu cronfa a

fydd yng ngofal y mudiad, fel y byddant yn gallu prynu dillad neu feddyginiaethau i’r plant fel bo’r angen. Y freuddwyd yw eu cael drosodd i Langrannog am wythnos! Efallai fod ein hymdrech ni yn fychan, ond roedd cael y cyfle i wneud rhywbeth a fyddai’n helpu rhywun arall yn wych yn ogystal a rhannu diwylliant â gwlad mor hardd a bobl hyfryd. “Gwnewch y pethau bychain…” meddai Dewi Sant, ac fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg rydym wedi hen arfer â’r egwyddor hynny! §


28 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

CYMUNEDAU

AR YR YMYLON? I ba raddau mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu lle teilwng i’r Gymraeg ym maes cynllunio? Huw Lewis sy’n ymchwilio

M

ae’r drefn gynllunio yn faes sy’n dylanwadu’n helaeth ar sawl agwedd o’n bywydau. Dyma’r drefn sy’n gyfrifol am reoli maint, lleoliad a natur gwahanol ddatblygiadau – boed yn dai, busnesau neu ffyrdd – a thrwy hynny siapio natur ein cymunedau. O ystyried hyn, nid yw’n syndod fod statws y Gymraeg o fewn y maes hwn wedi derbyn cryn dipyn o sylw gan ymgyrchwyr iaith dros y degawdau diwethaf. Ar ddechrau’r 1980au, aeth Cymdeithas yr Iaith ati i godi ymgyrch a oedd yn galw ar y Swyddfa Gymreig i gydnabod fod lles y Gymraeg yn ffactor y dylid ei ystyried wrth ddyfarnu ceisiadau cynllunio. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd cryn dipyn o ymgyrchu cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol, gan gynnwys cynnal trafodaethau gyda’r swyddfa Gymreig a nifer o awdurdodau cynllunio, cynnal cyfres o gynadleddau cynllunio ac hefyd ymgyrchu’n benodol yn erbyn nifer o ddatblygiadau a oedd yn debyg o danseilio rhagolygon yr iaith. Arweiniodd hyn, yn y pendraw, at gyhoeddi Cylchlythyr 53/88 Yr Iaith Gymraeg: Cynlluniau Datblygu a Rheoli Cynllunio ym 1986. Dyma gyfarwyddyd gan y Swyddfa Gymreig a oedd yn rhoi caniatâd i awdurdodau cynllunio roi sylw i’r Gymraeg wrth ystyried priodoldeb gwahanol ddatblygiadau. Yn dilyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, cafodd y cylchlythyr uchod eu hadolygu fel rhan o’r broses o adolygu natur y drefn gynllunio yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2002, cyhoeddodd y llywodraeth ei dogfen strategol Polisi Cynllunio Cymru a oedd yn cynnwys datganiadau cryfach ynglŷn â’r angen i awdurdodau cynllunio roi sylw i les y Gymraeg. Er enghraifft mae’r ddogfen yn nodi:

2.10.2 ... Dylai’r holl awdurdodau cynllunio lleol ystyried a oes ganddynt gymunedau lle mae’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’r gwead cymdeithasol a, lle mae hynny’n wir, mae’n briodol cymryd hynny i ystyriaeth wrth lunio polisïau defnydd tir ... 2.10.3 ... Dylai fod yn nod gan awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu ar gyfer datblygu tai sydd wedi eu dosbarthu’n eang a gwneud hynny fesul cyfnod gan gymryd i ystyriaeth allu’r gwahanol ardaloedd a’r cymunedau i gymhathu’r datblygiad heb erydu safle’r iaith Gymraeg ... (Polisi Cynllunio Cymru, 2002: 28) Er gwaethaf y datblygiadau hyn, nid ydynt wedi creu sefyllfa lle mae lles y Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn trafodaethau ynglŷn â gwahanol benderfyniadau cynllunio. Ystyriaeth ymylol yn unig ydyw ar y cyfan. Un o’r prif resymau yw’r ffaith na chafodd canllawiau eglur erioed eu darparu i swyddogion cynllunio a fyddai’n eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau wrth lunio polisïau neu wrth gloriannu ceisiadau cynllunio. Er enghraifft, nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig arweiniad ynglŷn â faint o bwys y dylai cynllunwyr ei roi ar ystyriaethau ieithyddol, ochr yn ochr ag ystyriaethau economaidd, neu’r angen am gartrefi, wrth ddyfarnu ar ddatblygiadau unigol. Felly, tra fod y cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan y Swyddfa Gymreig, ac yn ddiweddarach gan Lywodraeth y Cynulliad, yn nodi y dylid ystyried lles y Gymraeg, nid ydynt wedi awgrymu sut ddylid mynd ati i wneud hynny. O ganlyniad, bu’r cyfarwyddiadau, yn agored i gael ei ddehongli yn ôl mympwy, tueddfryd a lefel dealltwriaeth gwahanol


ytafod

EISTEDDFOD 2006 · 29

“yr amheuaeth yw mai nid amser yw’r broblem bellach, ond diffyg ewyllys wleidyddol” gynllunwyr gwlad a thref. Ers rhai blynyddoedd bellach, cafwyd cydnabyddiaeth o sawl gwahanol cyfeiriad fod hwn yn wendid a fyddai’n rhaid ei ystyried, os am sicrhau fod anghenion y Gymraeg yn derbyn sylw teilwng. Yn wir, cafwyd cydnabyddiaeth o hyn gan Lywodraeth y Cynulliad ei hun. Mewn cyfarfod â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith ym mis Mehefin 2002, nododd Sue Essex – y gweinidog a oedd yn gyfrifol am faterion cynllunio ar y pryd – fod y llywodraeth yn y broses o adolygu rhai o’i ganllawiau cynllunio, gyda’r bwriad o ddatblygu ‘arfau dadansoddol’ a fyddai’n galluogi swyddogion i asesu beth fyddai effaith gwahanol ddatblygiadau ar y Gymraeg. Cafwyd cadarnhad pellach o hyn pan gyhoeddodd y llywodraeth ei strategaeth ieithyddol; Iaith Pawb, ym mis Tachwedd 2003: Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i adolygu effeithiolrwydd y ffordd y gweithredir ei pholisïau cynllunio mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd rhan mewn astudiaeth effaith ieithyddol ... gyda’r nod o ddod o hyd i ddulliau ymarferol o weithredu polisi cynllunio cenedlaethol a llunio cyngor ar yr iaith Gymraeg (Iaith Pawb, 2003: 33) Flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Hydref 2004, pan gyfarfu’r Gymdeithas â Carwyn Jones – a oedd bellach wedi’i benodi’n weinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio – doedd dim byd wedi ymddangos. Eto i gyd pwysleisiodd fod y gwaith yn mynd yn ei flaen ac y byddai yn dod i ben cyn hir. Erbyn hyn, mae dros bedair mlynedd wedi mynd heibio ers addewid gwreiddiol Sue Essex, ond nid yw’r llywodraeth fyth wedi cyhoeddi canllawiau penodol ynglŷn â’r Gymraeg a all gael eu defnyddio gan swyddogion cynllunio. Wrth gwrs, mae’n siwr mai ymateb y llywodraeth fyddai fod gwaith o’r fath yn cymryd cryn dipyn o amser, gan fod angen roi sylw i amryw o gwestiynau methodolegol. Heb os, mae hyn yn wir, ond does bosib fod pedair mlynedd yn ddigon o amser. I ba raddau y byddai’r llywodraeth yn bodloni ar amserlen o’r fath ar gyfer materion eraill a ystyrir – ganddynt hwy o leiaf – fel rhai mwy pwysig? Yr amheuaeth yw mai nid amser yn unig yw’r broblem bellach, ond yn hytrach diffyg ewyllys wleidyddol. Yn y cyfamser, tra bo’r llywodraeth yn llusgo’i thraed, mae nifer helaeth o brosiectau datblygu

sylweddol yn cael eu trafod a’u cymeradwyo gan awdurdodau lleol ledled Cymru – datblygiadau tai, marinas a datblygiadau twristaidd eraill neu gynlluniau adfywio mewn ardaloedd trefol neu wledig. Mae llawer iawn o’r datblygiadau hyn yn rhai a all gael effaith sylweddol ar ragolygon yr iaith. Eto i gyd, tueddant i gael eu trafod a’u cymeradwyo heb unrhyw astudiaeth drylwyr o’u heffeithiau tymor hir. Wrth gwrs, ceir cryn dipyn o drafod llac, er enghraifft fod datblygiad arbennig yn sicr o greu swyddi a bod hyn yn sicr o gefnogi’r Gymraeg. Ond ychydig iawn o ymdrech a wneir i symud tu hwnt i hyn gan gasglu tystiolaeth er mwyn ceisio dadansoddi beth fydd effaith datblygiad ar symudiadau poblogaeth neu ar rwydweithiau cymdeithasol a ieithyddol. Dyma yn y pendraw yw canlyniad anallu’r llywodraeth – hyd yma – i sicrhau statws teilwng i’r Gymraeg ym maes cynllunio. §

AWEN MEIRION

cyf.

������������������������������������������� (2���������������������������������������������

������������������ ���������������� �����������������������

���������������� ���������������������

��������������������� ����������������������������������

������������������������� �������������������������




32 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

MAE ANGEN AELODAU AR GYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG

» »

Celwydd yw haeriad Llywodraeth y Cynulliad bod yr iaith Gymraeg wedi ei hachub.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gan bob plentyn hawl i addysg Gymraeg yn ei gymuned ei hun.

Er bod Cyfrifiad 2001 yn dangos peth cynnydd yn y nifer o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, mae’r nifer sy’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn parhau i ostwng.

Mae addysg Gymraeg yn cael ei hesgeuluso yn ein colegau addysg bellach a’n prifysgolion. Yn y sectorau hyn mae’r llywodraeth a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi methu sicrhau datblygiad digonol mewn addysg Gymraeg. Yn y sector addysg uwch mae angen coleg aml-safle Cymraeg i roi fframwaith i ddatblygiad addysg Gymraeg.

»

Yn wyneb bwriadau’r Llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith, mae cyfle nawr i sicrhau Deddf Iaith Newydd i roi statws i’r Gymraeg a hawliau i’w siaradwyr.

»

Golyga diffyg rheolaeth ar y farchnad dai yng Nghymru bod tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, sy’n arwain yn uniongyrchol at ddirywiad yr iaith yn ein cymunedau. Ateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod angen Deddf Eiddo i Gymru.

» ATEBION CROESAIR O’R RHIFYN DIWETHAF Ar draws 1 Gwrthdaro, 7 Abri, 9 Atal, 11 Segur, 12 Cul, 13 Gwir, 14 Bar Pump, 16 Sawdl, 18 Dychrynllyd, 21 Adara, 22 Sbageti, 25 Roedd, 26 Epa, 28 Amcan, 30 Egni, 31 Geni, 32 Derwyddon I lawr 2 Wyau, 3 Dalgylch, 4 Opera, 5 Llau, 6 Pilipala, 8 Brau, 10 Tlawd, 11 Sibrydion, 15 Pryd, 16 Seisnigo, 17 Dysg, 19 Llamddelw, 20 Dalen, 23 Allan, 24 Traed, 27 Pigo, 29 Mis.

Ceir cynlluniau ledled Cymru i gau ysgolion pentrefol, sy’n ergyd i gymunedau Cymraeg, ac mewn ardaloedd o dwf ym maes addysg Gymraeg mae awdurdodau yn gwrthod agor ysgolion newydd. Cred

»

» »

Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith a’i haelodau gweithgar wedi ysgogi sawl cam hollbwysig ym mrwydr yr iaith. Mae’r gwaith yn parhau ac mae angen eich cymorth.

»

Cyfraniadau gan aelodau’r Gymdeithas sy’n ariannu ein gwaith o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae gwaith ein aelodau yn gweithredu’n uniongyrchol, yn llythyru ac yn trefnu protestiadau yn hanfodol i lwyddiant y mudiad ac i ddyfodol yr iaith.

YMAELODA! OS NAD TI, PWY? OS NAD NAWR, PRYD?


WYT TI AM I’R GYMRAEG FYW? Dros y blynyddoedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi sicrhau nifer o lwyddiannau ym mrwydr yr iaith gan gynnwys arwyddion dwyieithog, deddf iaith, S4C a llawer mwy.

AELODAETH BARHAOL Mae Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau gan ei haelodau er mwyn ariannu ei hymgyrchoedd dros y Gymraeg. Y ffordd orau o gyfrannu at incwm cyson i’r Gymdeithas yw drwy lenwi archeb banc. Hefyd, drwy gyfrannu fel hyn bydd eich aelodaeth yn parhau gyhyd â’r archeb banc, felly does dim angen cofio ail-ymaelodi bob blwyddyn!

Ond mae llawer mwy i’w wneud eto. Mae ein cymunedau Cymraeg dan fygythiad, mae’r llywodraeth yn cau ein hysgolion cynradd Cymraeg tra’n gwrthod yr hawl i addysg Gymraeg yn ein prifysgolion ac mae angen deddf iaith newydd i gynnwys cwmnïau mawr y sector breifat.

ARCHEB BANC

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar gyfraniadau gan aelodau a chefnogwyr. Drwy ymaelodi drwy archeb banc, byddi’n cyfrannu at incwm sefydlog i’r Gymdeithas, ac fel aelod byddi’n derbyn newyddion a gwybodaeth am ein gwahanol ymgyrchoedd a digwyddiadau.

ENW’R BANC _______________________________

Beth yw gwerth dy iaith i ti?

RWY AM GEFNOGI CYMDEITHAS YR IAITH

§

ENW _____________________________________ CYFEIRIAD _________________________________ ________________________________________ CÔD POST _________________________________ RHIF FFÔN _________________________________

Hoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc.

CYFEIRIAD Y BANC ___________________________ ________________________________________ ENW’R CYFRIF ______________________________ RHIF Y CYFRIF ______________________________ CÔD DIDOLI ________________________________ Yr wyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfri Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 40-16-02. AR Y CYNTAF O FIS ______________________ YN Y FLWYDDYN ______ AC WEDI HYNNY BOB MIS Y SWM O ® £1

® £2

® £5

® £10

® £20

® £25

® ARALL: £ ________________________________

E-BOST ___________________________________

ARWYDDWYD ______________________________

DYDDIAD GENI ______________________________

DYDDIAD __________________________________

ENW YSGOL/COLEG/MAES GWAITH ________________ ® RWYF WEDI BOD YN AELOD O’R BLAEN ® NID WYF AM DDERBYN GOHEBIAETH Os oes gennych ddiddordeb mewn maes arbennig neu os am helpu’r Gymdeithas gydag unrhyw weithgareddau penodol, rhowch fanylion: ________________________________________ ________________________________________

AELODAETH DROS DRO Os dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig: ® Myfyriwr ysgol / chweched £3 ® Myfyriwr coleg £6 ® Di-gyflog £6 ® Pensiynwyr £6 ® Gwaith llawn amser £12 ® Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24 Nifer oedolion ________ Nifer o blant ________

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG · LLAWR GWAELOD · PEN ROC · RHODFA’R MÔR · ABERYSTWYTH · SY23 2AZ


BANDIT247.COM

Y GORAU O R SÎN GERDDORIAETH GYMRAEG YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 10 & 17 AWST SHOWCASING THE BEST OF WELSH MUSIC THE NATIONAL EISTEDDFOD 10 & 17 AUGUST

S4C digidol: (Cymru/Wales) Sky-104, Freeview-004, ntl-752. (DU/UK) Sky-135



36 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

GIGS GLAMORGAN ARMS

Clydach

Pontlliw

MAES PEBYLL MAES CARAFANNAU EISTEDDFOD

«CA

ER

MAES YR EISTEDDFOD A MAES IEUENCTID

C47

FY

RD

DIN

Penllergaer

C45

C46

M4

A B E R T A W E

CA E

RD YD

Llangyfelach

CROESO I ABERTAWE!

Treforys

Mynydd Bach

▼ CANOL Y DDINAS LLE I YFED, BWYTA A MWYNHAU YNG NGHANOL ABERTAWE Pan ych chi mewn lle diarth, does dim byd gwell na chyfaill lleol i ddangos y tafarndai a bwytai gorau i chi. Mae criw Tyrfe Tawe yn nabod y ddinas yn dda, felly dyma eu cynigion nhw am lefydd i fynd cyn dod draw i gigs y Gymdeithas yng nghlwb Barons/Bar 5 ar Stryd y Coleg »

GWERSYLLA YM MHONTLLIW GLAMORGAN ARMS, HEOL BRYNTIRION, PONTLLIW, ABERTAWE, SA4 9DY

£3 y pen y noson. Tai bach a chawodydd ar gael. Digon o le, nid oes angen cadw lle o flaen llaw. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â James ar 07862297544


ytafod

BAR MWNCI 13-14, STRYD Y CASTELL Bar/caffi/clwb nos trendi tafliad carreg o Barons. Coffi (masnach deg) neu tamaid o fwyd yn ystod y dydd. Cerddoriaeth amrywiol gyda’r nos – DJs yn cynnig themau Salsa, D&B, Reggae, Roc. Amrywiaeth o bobl yn dod fan hyn – yn aml i osgoi’r pybs cadwyn mawr. Weithiau cewch weld cyfryngis Tinopolis a Telesgop yma. Yn Abertawe y cynhyrchir Ffermio. Ffaith! Gallwch ddefnyddio’r ffaith yma os na ellir godro digon allan o “pryd gyrhaeddo chi?”, “chi ’di gweld y pafiliwn pinc eto?”, ac yn y blaen. Neu os ydych yn siarad gyda rhywun o Mach.

NO SIGN WINE BAR WIND STREET

ADDA AC EFA 207, HIGH STREET Lleoliad Tyrfe Tawe nos Wener eto eleni. Tafarn leol gartrefol rhwng yr orsaf drenau a Barons. Cwrw da a cherddoriaeth byw ar y penwythnosau. Pan fydd Catherine Zeta nôl yn yr ardal dyma lle ma’ hi’n treulio’r rhan

�� �

������

�� �

��

�����

�� �

��

�� ��

Lleoliad cyntaf Tyrfe Tawe yn

2004 (Gwyl wych gyda llaw – www.tyrfe-tawe.com). Tafarn â chymeriad yng nghanol Wind Street, a thafarn hynaf Abertawe. Wedi cael estyniad yn ddiweddar ond heb golli ei naws cartrefol. Pan ma Abertawe’n chwara adre ma Lee Trundle yn gweithio gyda’r nos yn y gegin er mwyn cael bach o arian poced ychwanegol a dwyn stwmps ffags o’r blychau llwch. Bydde ni’n argymell ei gawl cartref… mae’n ddiguro la’.

C A N O L

����� �������

���

����

���

� ��

���

��

��

��

�� �� ��

A B E R T A W E

fwyaf o’i hamser – peint o Black yn propio’r bar fyny ac yn mynd mlaen a mlaen am Michael a’r plant – ’da ni wedi dysgu ei hanwybyddu druan. Os yw hi’n gofyn am arian i brynu brechdan, peidiwch â rhoi iddi. Neith hi jyst leino haneri ar hyd y bar iddi hi’i hun. Croeso twymgalon fel arall gan bobl lleol y ddinas.

CAFE MAMBO 46, STRYD Y BRENIN Wedi ei leoli ar yr un stryd a Barons. Caffi a bwyty yn ystod y dydd a chlwb nos DJ gyda’r hwyr. Coctels amrywiol a themau Affricanaidd i nifer o’r nosweithiau. Awyrgylch eclectig a hamddenol. Cerddoriaeth da a gwersi dawnsio Affricanaidd yn cael eu harwain gan Ray Gravell.

STRYD Y GWYNT / WIND STREET Stryd fywiog tu hwnt sydd wedi cymryd mantell y Mwmbwls fel ‘y lle i fynd’. Agos iawn i Barons. Ceir amrywiaeth o dafandai a llefydd bwyta. Tipyn o lefydd cadwyn fel Lava Lounge, Walkabout, Varsity, ac yn y blaen. Ambell le mwy tawel a threndi fel Bar-ico a Pitcher & Piano, Cocktail bars fel Que Pasa a Revolution a hyd yn oed wine bars i’r crachach fel Le Prensa. Cewch chi fwyd yn y rhan fwyaf o’r llefydd yn ystod y dydd. Yma y gwelwch chi John Hartson yn gwneud keepy-ups gyda photiau blodau gyda’r hwyr.

��

LLEOLIADAU HOYW ���

���� ���

BARONS / BAR 5

EISTEDDFOD 2006 · 37

���

Jyst off Wind Street: The Exchange. Stryd Uchaf: Champers, King’s Arms, clwb a bar Creation & Eden. §


38 ·

ytafod

EISTEDDFOD 2006

GIGS GIGS STEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE 2006

5 AM 5 YM MAR 5 B

ydd cyfle i fynychwyr gigs yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe weld hyd yn oed mwy o fandiau’n perfformio yn y brifwyl eleni. I gyd-fynd â hyn bydd y thema ‘5’ yn amlwg iawn hefyd wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi y bydd pump band yn perfformio am bump noson yn eu canolfan Bar 5 yng nghlwb nos Barons yng nghanol Abertawe. Llwyddodd y Gymdeithas i gipio gwobr Digwyddiad Byw y Flwyddyn yng Ngwobrau RAP Radio Cymru am eu gigs yn Eisteddfod 2005, ac o edrych ar bwy sy’n chwarae eleni ac ar y lleoliadau gwych, mae’n argoeli fod yn wythnos cystal os nad

gwell eleni! Yn ogystal â dod â pherfformwyr mwyaf poblogaidd y sîn i Abertawe, mae’r Gymdeithas hefyd yn ymfalchïo yn ei hamcanion o gynnig gwerth am arian a rhoi cyfle i fandiau newydd. Un o aelodau pwyllgor gigs lleol y Gymdeithas eleni yw David Bryer. Meddai: “Wedi i griw’r gogledd flasu llwyddiant cystal llynedd roeddem yn benderfynol o geisio gwneud sioe dda ohoni eleni yma yn Abertawe. Mae cymaint o fandiau Cymraeg o gwmpas ar hyn o bryd a phob un yn ysu i chwarae yn y Steddfod, sy’n uchafbwynt y calendr

cerddoriaeth Cymraeg, roedd rhaid i ni geisio gwasgu gymaint â phosib i mewn i’n nosweithiau.” “Mae’n bosib iawn na fyddai artistiaid fel Radioflyers, Gola Ola a Lowri Evans yn cael cyfle i berfformio yn y Steddfod fel arall ac rydym yn frwd iawn dros hybu talent newydd.” Roedd tîm lleol y Gymdeithas hefyd yn awyddus i gynnal nosweithiau yng nghanol dinas Abertawe i ddangos i ymwelwyr cystal noson allan sydd i’w chael yno – a rhoi adloniant Gymraeg ar stepen drws y trigolion lleol. Mae clwb nos Barons (Bar 5) yn enwog fel lleoliad ffilmio golygfeydd y ffilm Twin Town, ac ni ellid bod yn fwy canolog o ran bwrlwm bywyd nos y ddinas. Ychwanegodd David, “mae Barons yn berffaith o ran lleoliad gan ei fod mor agos i holl fwrlwm Stryd y Gwynt, sef ‘y lle’ i fynd allan i fwynhau. Mae’n glwb nos o safon, sydd yn boblogaidd iawn gyda thrigolion y ddinas ers cryn amser nawr.” Yn ôl yr hen ddywediad, tri ydy’r rhif hud, ond mae’r Gymdeithas yn credu heb os mai pump fydd y rhif hud i’r rhai sydd yn edrych ymlaen at y gigs yn Abertawe eleni. §


BARONS·BAR 5

CANOL ABERTAWE

LLUN 07/08/06 £6 SIBRYDION · TANGWYSTL FFEINAL BRWYDR Y BANDIAU MAWRTH 08/08/06 £7 EUROS CHILDS · MATTOIDZ COFI BACH A TEW SHADY KENAVO · RASPUTIN MERCHER 09/08/06 £7 MEIC STEVENS · MIM TWM LLAI PWSI MERI MEW · PLANT DUW RADIOFLYERS IAU 10/08/06 £7 RADIO LUXEMBOURG LLWYBR LLAETHOG A SLEIFAR JAKOKOYAK · BOB DERWYDDON DR GONZO GWENER 11/08/06 £7 DRYMBAGO · SWCI BOSCAWEN DYFRIG TOPPER · JEN JENIRO MR HUW SADWRN 12/08/06 £7 FRIZBEE · GENOD DROOG MC SAIZMUNDO · GOLA OLA ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU YNG NGHANOL HOLL FWRLWM BYWYD NOS Y DDINAS · LLEOLIAD FFILMIO NIFER O OLYGFEYDD TWIN TOWN · UN O GANOLFANNAU ADLONIANT GORAU ABERTAWE · BYSUS YN RHEDEG O FAES YR EISTEDDFOD AC YN ÔL

GIGS STEDDFOD ABERTAWE 2006

SADWRN 05/08/06 £10 GIG LANSIO MAWREDDOG – BARONS/BAR 5 DAFYDD IWAN AC AR LOG · ELIN FFLUR · MERCHED BECA · CODA

����

GLAMORGAN

ARMS PONTLLIW

LLUN 07/08/06 £6 ALUN TAN LAN · GWILYM MORUS GWYNETH GLYN FFEINAL BEIRDD V RAPWYR MAWRTH 08/08/06 £7 HUW CHISWELL · BRIGYN PALA · GARETH PHILLIPS MERCHER 09/08/06 £12 BRYN FÔN · SARAH LOUISE LOWRI EVANS IAU 10/08/06 £7 GERAINT LØVGREEN A’R ENW DA TECWYN IFAN STRÊTS · GARETH BONELLO GWENER 11/08/06 £7 BOB DELYN A’R EBILLION DAN LLOYD A MR PINC DAN AMOR COWBOIS RHOS BOTWNNOG SADWRN 12/08/06 £7 NEIL ROSSER FFLUR DAFYDD A’R BARF UMMH · MERCHED MECCA HEFYD PICTIWRS YN Y PYB NOS FERCHER A GWENER, 5–8 LLEOLIAD TRADDODIADOL ADLONIANT CYMRAEG YR ARDAL · PELLTER CERDDED I’R MAES CARAFANNAU · BWYD A DIOD DA A BARBECIW TRWY WYTHNOS Y STEDDFOD · MAES PEBYLL RHAD A GLÂN AR GYFER YR WYTHNOS TOCYNNAU TŶ TAWE, GLAMORGAN ARMS, UNED AR FAES Y STEDDFOD


CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG YN EISTEDDFOD ABERTAWE 2006 DYDD MERCHER 9 AWST, 2pm CYFARFOD CYHOEDDUS DY IAITH, DY HAWL! Panel Adam Price AS Plaid Cymru, Eleanor Burnham Democratiaid Rhyddfrydol, Lisa Francis Ceidwadwyr, Sian Howys Cymdeithas yr Iaith Cadeirio Huw Lewis Cymdeithas yr Iaith PABELL Y CYMDEITHASAU, MAES YR EISTEDDFOD

DYDD IAU 10 AWST, 2pm RALI BROTEST DY IAITH, DY HAWL!

UNED CYMDEITHAS YR IAITH, MAES YR EISTEDDFOD

DYDD GWENER 11 AWST, 2pm DYFODOL YSGOL BENTREFOL MYNYDDCERRIG GWERS I GYMRU GYFAN UNED CYMDEITHAS YR IAITH, MAES YR EISTEDDFOD

DYDD GWENER 11 AWST, 3pm PROTEST COLEG FFEDERAL CYMRAEG Trefnwyd gan UMCA, UMCB, UCMC UNED UMCA, MAES YR EISTEDDFOD

« HOLL FANYLION GIGS YR WYTHNOS TU FEWN


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.