tach / rhag 2010
Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Peidiwch â gadael i Lundain ladd S4C ,
§
Swyddi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Pensiynau, Ysbytai, Ysgolion, Diwylliant
PROTEST* 1 1am SADWRN 4 .1 2 .1 0 Y MAES , CAERNARFON
Siaradwyr: Hywel Williams AS a Dafydd Iwan Plaid Cymru, Siaradwr o’r Blaid Lafur Hywel Roberts PCS, Silyn Roberts UNSAIN, David Donovan BECTU Marc Jones Gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau, Mair Rowlands UMCB, Bethan Russell Mantell Gwynedd, Sel Williams Undeb y Darlithwyr, Erica Jones Pobol Peblig Ceri Cunnington Cymunedau’n G yntaf / Antur Stiniog, Anwen Davies Ymgyrch Ward Alaw Menna Machreth a Sel Jones Cymdeithas yr Iaith Gymraeg * Neu yn Neuadd y Farchnad os bydd hi’n bwrw! 01 clawr.indd 2-3 Taflen CymraegCoch.indd 1
Plaid Cymru
Pwy Dalodd Amdani? Rhifyn arbennig
www.cymdeithas.org 18/11/10 22:10:53
21/11/10 21:33:00
§
cymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas yr iaith gymraeg
Gair o'r Gadair §
senedd2010/11
cymdeithas yr iaith gymraeg cymdeithas yr iaith gymraeg cymdeithas§ yr iaith gymraeg cymdeithas yr iaith gymraeg SWYDDOGION RHANBARTHAU
CADEIRYDD BethanWilliams - bethan.williams@cymdeithas.org
Cadeirydd Gwynedd-Môn Dewi Snelson - dewi@cymdeithas.org Cadeirydd Clwyd Glyn Jones - glyn@cymdeithas.org Cadeirydd Ceredigion Angharad Clwyd Edwards angharad.clwyd@cymdeithas.com Cadeirydd Caerfyrddin-Penfro Sioned Elin - sioned@cymdeithas.org
IS GADEIRYDD CYFATHREBU A LOBIO Rhys Llwyd - rhys@cymdeithas.org IS GADEIRYDD GWEINYDDOL Sel Jones - sel@cymdeithas.org IS GADEIRYDDYMGYRCHOEDD Heledd MelangellWilliams - heledd@cymdeithas.org
cymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas § o bobol sy’n gweithredu’n ddi-drais cymdeithas yr iaith gymraeg
dros y gymraeg a chymunedau cymru cymdeithas yr iaith gymraeg TRYSORYDD Danny Grehan - danny@cymdeithas.org SWYDDOG CODI ARIAN Gwyn Sion Ifan - gwyn@cymdeithas.org SWYDDOG AELODAETH Dewi Snelson - dewi@cymdeithas.org TREFNYDD GRWP adloniantY TAFOD Cai NiclasWyn - cai@cymdeithas.org SWYDDOG GWEFAN A DYLUNIO Elinor Gray-Williams - elinor@cymdeithas.org GOLYGYDDYTAFOD Llinos Roberts - tafod@cymdeithas.org SWYDDOG MENTRAU MASNACHOL Alaw Lewis - alaw@cymdeithas.org TREFNYDDYMGYRCHU ARYWE Hedd Gwynfod - hedd@cymdeithas.org CADEIRYDDYMGYRCH DYFODOL DIGIDOL Menna Machreth - menna@cymdeithas.org
SWYDDOGION PRIFYSGOL
Cadeirydd Cell Prifysgol Bangor Ffion Humphries - ffion@cymdeithas.org Cadeirydd Cell Prifysgol Aber Mair Evans - mair@cymdeithas.org Cadeirydd Cell Prifysgol Caerdydd Elain Llwyd - elain@cymdeithas.org Cadeirydd Cell MORGANNWG GWENT Iestyn ap Rhovert - iestyn@cymdeithas.org
fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol droscymdeithas hawliau§ao bobol rhyddid sy’n gweithredu’n ddi-drais 02
ytafod § Cadeirydd Grwp HAWL I'R GYMRAEG Ceri Phillips - ceri@cymdeithas.org SwyddogYmgyrchu HAWL I'R GYMRAEG Delyth Evans - delyth@cymdeithas.org Swyddog Cyfathrebu a HAWL I'R GYMRAEG Sian Howys - sian@cymdeithas.org Swyddog Polisi HAWL I'R GYMRAEG Catrin Dafydd - catrin@cymdeithas.org
cymdeithas yr iaith gymraeg
CYDLYNYDDYMGYRCH GWREIDDIWCHYNY GYMUNED Tomos Owen - tomos@cymdeithas.org CADEIRYDD GRWP CYMUNEDAU CYNALIADWY Hywel Griffiths - hywel@cymdeithas.org SWYDDOGYMGYRCHU CYMUNEDAU CYNALIADWY Euros ap Hywel - euros@cymdeithas.org SWYDDOG POLISI CYMUNEDAU CYNALIADWY Sioned Haf - sioned.haf@cymdeithas.org SWYDDOG CYFATHREBU A LOBIO CYMUNEDAU CYNALIADWY Emyr Aeron - emyr@cymdeithas.org
dros y gymraeg a chymunedau cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid
SWYDDOGION CYFLOGEDIG SwyddogYMGYRCHU CENEDLAETHOL Dafydd Morgan Lewis Ystafell 5,Y Cambria, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth. SY23 2AZ. 01970 624501 dafydd@cymdeithas.org swyddfa@cymdeithas.org Swyddog Maes Dyfed Angharad Clwyd Edwawrds Dolwerdd, Llanfihangel ar Arth, Pencader, SA39 9JU 01559 384378 angharad . clwyd@cymdeithas.org
ytafod Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cymdeithas§
cymdeithas§
Swyddog MaesY Gogledd Osian Jones 10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR 01286 662908 gogledd@cymdeithas.org Swyddog CYFATHREBU CENEDLAETHOL Colin Nosworthy Swyddfa'r De,Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon,Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ 02920 486469 colin@cymdeithas.org
Rhifyn Tachwedd / Rhagfyr 2010 [Raliau yn erbyn y TORI-adau / S4C].
ARGRAFFWYR: GWASG MORGANNWG
GOLYGYDD: DAFYDD MORGAN LEWIS DYLUNIO: ELINOR GRAY-WILLIAMS LLUNIAU: RHYS LLWYD, A CRONFA'R GYMDEITHAS
cymdeithas yr iaith gymraeg Cymdeithas yriaith Iaithgymraeg Gymraeg cymdeithas yr cymdeithas yr iaith gymraeg
Cadeirydd Grwp Addysg Ffred Ffransis - ffred@cymdeithas.org CydlynyddYmgyrch Cadwn ein Hysgolion AngharadTomos - angharad@cymdeithas.org SWYDDOG ADDYSG GYDOL-OES Adam Jones - adam@cymdeithas.org SWYDDOG HAWL I ADDYSG GYMRAEG Morgan Hopkins - morgan@cymdeithas.org SWYDDOG GRWP DYSGWYR A'R DI-GYMRAEG GWAG - Cysylltwch gyda Dafydd Morgan Lewis [dafydd@cymdeithas.org] os oes gyda chi ddiddordeb.
Os oes gennych chi unrhyw newyddion o'ch ardal, straeon, lluniau, neu syniadau i'w cyfrannu, danfonwch nhw naill ai trwy'r cyfeiriad uchod, neu at tafod@ cymdeithas.org
cymdeithas § o bobol sy’n gweithredu’n ddi-drais
dros y gymraeg a chymunedau cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid 02 03 SENEDD GAIR O'R GADAIR.indd 2-3
Wrth glywed yn gyntaf am brotestiadau myfyrwyr ym mhrif swyddfeydd y Ceidwadwyr cododd fy nghalon. O'r diwedd, dyma griw o fyfyrwyr yn bwrw nol nid yn erbyn y Llywodraeth a'u toriadau didrugaredd yn unig ond hefyd yn erbyn apathi. Ond o glywed mwy daeth yn amlwg fod eu protest yn un oedd yn dangos rhwystredigaeth, yr awydd i fwrw nol doed a ddel beth oedd y canlyniad ac nad digwyddiad adeiladol fel rhan o ymgyrch glir oedd hon.
cymdeithas yr iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gymraeg
Swyddog MAESY DE Jamie Bevan Swyddfa'r De,Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon,Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ 02920 486469 jamie@cymdeithas.org
Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Dydy ni ddim yn erbyn gweithredu uniongyrchol wrth gwrs, fel mae'r ymgyrch Deddf Iaith yn dangos
PRIF SWYDDFA Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth. SY23 2AZ. swyddfa@cymdeithas.org www.cymdeithas.org
SWYDDOGION
Bethan Williams
Petai'r myfyrwyr hynny wedi dod i rali 'Na i'r Toriadau, Ie i S4C Newydd' yng Nghaerdydd ddechrau Tachwedd byddent wedi cael agoriad llygad. Daeth y dorf a'i neges ei hun - bod pobl yn poeni am S4C ac nad ydym am adael i'r llywodraeth wneud a fynant a'n sianel genedlaethol heb i ni godi llais yn ei gylch o leiaf; a bod pobl eisiau gwneud eu cyfraniad tuag at achub S4C. Roedd y rali yn rhan o ymgyrch genedlaethol, yn dangos fod modd gweithredu yn bositif ac ysbrydoli pobl gan roi neges glir a chyfle i bob un gyfrannu'n bositif.
ar hyn o bryd. Mae'r rhanbarthau wrthi'n cynnal gweithredoedd i ddangos diffygion y Mesur Iaith, yn arwain at drafodaeth ar lawr y Cynulliad ar y Mesur. Er gwaetha'r ffaith fod y gwleidyddion yn honni fod hawliau yn y Mesur Iaith, does dim. Gyda thoriadau i wasanaethau cyhoeddus o bob math byddwn yn siwr o weld lleihad yn y gwasanaethau Cymraeg fydd ar gael. Mae swyddfa basport Casnewydd i gau, bydd hynny'n golygu na fydd gwasanaethau pasbort ar gael yng Nghymru - a fydd gwasnaethau Cymraeg ar gael yn Peterborough? Bydd y toriadau yn esgus rhy hawdd i gwmniau mawr beidio gynnig gwasanaethau Cymraeg cyflawn. Dim ond dwy o ymgyrchoedd y Gymdeithas yw'r rhain, mae nifer o ymgyrchoedd eraill ar y gweill yn gymunedol ac yn genedlaethol - cysylltwch gyda swyddogion yr ymgyrch berthnasol neu gyda'ch swyddog maes/ cadeirydd rhanbarth.
03
Mae rhywbeth y gall pawb ei wneud, a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Yr her i bob aelod dros y misoedd nesaf yw i wneud eu rhan! Fel rhan o ymgyrch S4C mae rhywbeth y gall pob un ei wneud: annog pobl i arwyddo'n deiseb; dod i'n rali yng Nghaernarfon ar Ragfyr y 4ydd i wrthwynebu'r toriadau; i gyfrannu yn ariannol tuag at yr ymgyrch neu wrth gwrs rydym yn galw ar bobl i wrthod talu trwydded teledu o fis Rhagfyr, hyd nes bydd cynlluniau'r Llywodraeth yn newid a'n bod ni'n cael sicrwydd o ddyfodol S4C. Bydd digwyddiadau eraill yn rhanbarthol - cysyllta gyda dy swyddog maes/cadeirydd rhanbarth agosaf am fwy o wybodaeth. Fel rhan o ymgyrch fel hon, os yw pawb yn gwneud eu rhan, gallwn wneud gwahaniaeth. Yr her i bob aelod dros y misoedd nesaf yw i wneud eu rhan!
18/11/10 23:17:21
Rali y Sianel
Erthygl gan Angharad Tomos Cydlynydd Ymgyrch Cadwn ein Hysgolion
Rydw i yn yr ysbyty yn sgwennu hwn. Does dim yn bod arnaf i, ond mae'r mab wedi cael ei gymryd i mewn i gael triniaeth am asthma. Picio heibio am ddôs o ffisig ddaru mi, ond roedd rhaid iddo aros dros nos, ac mae'n edrych y byddwn yma am ail noson. Felly bydd rhaid i mi ohirio fy nhruth am Niclas y Glais tan yr wythnos nesaf, gan fod y nodiadau i gyd adref. Ac i'r rhai ohonoch na lwyddodd i gyrraedd Caerdydd i Rali'r Sianel, mi gewch beth o fy araith yno yn ysgrifenedig.
04
Roedd yn rali arbennig o dda – y fwyaf ers tua ugain mlynedd mae'n siwr. Roedden ni wedi rhyw amau ers pythefnos y byddai torf go dda yn dod ynghyd. Bob tro mae'r Toriaid mewn grym, mae llawer mwy yn mynychu ralïau. Roedd yr haul yn tywynnu, roedd edrych ymlaen mawr yn ein ty ni, ac roedd y placard yn barod – 'Rhaid i CYW fyw!' (pawb a'i ddolur...) Yr unig bryder oedd fod bricsen wedi ei thaflu drwy ffenest car y g_r yn ystod y nos, ond byddai'n rhaid i'r broblem honno aros. Ar y trên i mewn o Landaf, roedd y mwyafrif yn Gymry Cymraeg, ac roedd hynny yn deimlad od. Roedd pawb a welem yn gwneud eu ffordd tuag at Barc Cathays. Erbyn unarddeg, roedd y dorf wedi chwyddo i dros fil, ac mae andros o gryfder i'w dynnu o ddod ynghyd. Mae'n rhoi grym, yn rhoi hyder i chi. Cafwyd areithiau tanbaid. Tynnodd Menna Machraeth ein sylw mai gwanc y banciau oedd yn gyfrifol am y toriadau, ond mai ni sy'n gorfod talu'r pris. Pan ddaeth Ieuan Wyn ar y grisiau, fe'i cyflwynwyd fel dirprwy Brif Weinidog. Pryd gawson ni rywun mewn swydd felly yn annerch rali Cymdeithas yr Iaith o'r blaen? Roedd yn braf cael cefnogaeth yr undebau, a chawsom annerchiad gan gynrychiolydd o undeb BECTU. Peth anghyffredin oedd cael cefnogaeth y Blaid Lafur, a gorffennodd Paul Flynn ei araith gyda'r dymuniad, “O bydded i'r sianel barhau'. Siaradodd Angharad Mair yn ddiflewyn ar dafod, a diolch i Tinopolis, roedd dwy sgrin fawr i bobl yng nghefn y dorf gallu gweld y siaradwyr. Dydyn ni erioed wedi cael hynny o'r blaen mewn rali Cymdeithas yr Iaith, na system sain mor
ar ei gopi ef) , ac roedd wedi ei gysodi mewn pryd i'r rali. Dyma ail hanner fy nhruth i. “Fe'i cawsom yn rhwydd am ddeuddeng mlynedd a mwy. Gwnaeth rhai ohonom yn dda iawn o S4C. Bellach mae'r mis mêl drosodd. Mae'r Toriaid yn ôl mewn grym, diolch i'r Rhyddfrydwyr. Tan yn ddiweddar, ron i wedi anghofio cymaint oedd casineb y Toriaid tuag at yr iaith Gymraeg. Anghofiais pa mor hunanol oeddynt, pa mor farus. Does ganddyn nhw ddim cymaint o rym ag ers talwm, ond maent mewn safle ddigon cryf i wneud llanast mawr mewn ychydig bach o amser. Y peth pwysicaf heddiw yw rhoi toriadau'r sianel yn eu cyd-destun gwleidyddol. Un agwedd yn unig o doriadau'r Toriaid yw y bygythiad i S4C. Mae bwyell y Toriaid yn bygwth pob agwedd o'r sector gyhoeddus. Rydw i'n deffro bob bore y dyddiau hyn yn diolch nad ydwi'n hen, yn wael neu yn anabl . Dwi'n diolch nad ydw i'n ddiwaith ac yn ddibynnol ar fudd-daliadau'r Llywodraeth. Achos y rhain sy'n mynd i ddioddef fwyaf – yr hen, y bregus, y diymgeledd. Y cwestiwn mawr yw – beth ydym ni am ei wneud? Yn ein pentref ni, yr ydym wedi penerfynu gwadd pawb dan yr unto. Nos Lun, Tachwedd 22, bydd gennym gyfarfod yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes i gychwyn ymgyrch, 'Dyffryn
Nantlle yn erbyn y Toriadau'. Ar Ragfyr 4ydd yng Nghaernarfon, bydd rali arall – 'Na i'r Toriadau!' ac mae croeso i chi gyd ddod yno. Y gobaith yw mai dyna fydd y patrwm drwy Gymru, pob pentref, pob tref yng Nghymru yn trefnu cyfarfod neu ddigwyddiad i fynegi ei gwrthwynebiad i'r toriadau. Gallwn, fe allwn ni newid y sefyllfa. Fedra i ddim meddal am well ffordd o baratoi ar gyfer y Refferendwm am fwy o bwerau i Gymru fis Mawrth nesaf. Oa mai fel hyn mae y Llywodraeth yn gwarchod ein sefydliadau, yna mae'n hen bryd i ni gael rhagor o rym dros ein ty ein hunian. Sut bynnag fyddwn ni'n defnyddio'r grymoedd hynny, fedrwn ni ddim gwneud gwaeth smonach nag a wnaeth y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr am ddod i Gaaerdydd heddiw. Ar y ffordd adref, trafowdwch pa gamau nesaf y gallwch ei cymryd yn yr ymgyrch hon.”
05
Fel dywedodd Ieuan Wyn Jones wrth y dorf ddydd Sadwrn, “Os yw gwarchod dyfodol ein sianel deledu genedlaethol yn ormod o faich i'r gweinidogion yn Llundain, yna datganolwch y cyfrifoldeb, datganolwch yr arian, a'i drosglwyddo i bobl Cymru.” Yn ogystal a chael rhagor o bobl i fynychu raliau, mae'r Toriaid yn gwneud peth arall yn dda. Maent yn wych am ddarlunio'r sefyllfa yn ddu a gwyn. Wedi'r ffiasco hon gyda S4C, mi dybiwn i y bydd yn anodd iawn i rywun bleidleisio yn erbyn cael rhagor o bwerau i'r Cynulliad ym mis Mawrth 2011.
wych. Ond wedyn, efo'r niferoedd arferol ddaw i raliau, does dim angen sgrin i weld dros gefnau hanner cant o bobl! Cloi y rali oedd fy ngwaith i, ac atgoffais y dorf o pa mor anodd oedd cael gweithredwyr yng nghanol y Saithdegau. I'r rhai sydd eisiau'r hanes yn fanylach, mae modd ei ddarllen yn 'S4C – Pwy dalodd amdani?' Os oes gennych gopi o'r cyhoeddiad gwreiddiol mae'n eitha prin. Mor brin fel mai dim ond copi Gwynfor Evans allen ni ddod o hyd iddo. Teipiodd ei ferch, Meinir Ffransis, y cyfan drachefn (gan fod Gwynfor wedi tanlinellu cymaint LLUNIAU: Rali S4C, Caerdydd (06.-11-10)
04 05 angh t.indd 2-3
18/11/10 23:45:42
NA I DORIADAU! . .. ? d u e n w i a Beth all
1. Arwyddwch y ddeiseb arlein - deiseb.cymdeithas.org 2. Lawr lwythwch y ddeiseb - a bwrw ati i gasglu llofnodion ffrindiau/ teulu / y dyn llaeth (gellir ei lawrlwytho o’r wefan: deiseb.cymdeithas.org )
3. Sgwennwch at eich AS/AC - lleol yn pwyso arnynt i wneud popeth yn eu pwerau i sicrhau dyfodol i’r unig sianel Gymraeg yn y byd, gan esbonio pwysigrwydd y sianel i barhad yr iaith Gymraeg, ac i hyder y bobol sy’n ei siarad. Gellir gwneud hyn ar ein gwefan: cymdeithas.org/lobi.php
4. Cyfrannwch - Bu’r frwydr wreiddiol dros sianel Cymraeg yn hir a chostus. Cyfrannwch nawr er mwyn helpu sicrhau ymgyrch llwyddiannus, nail ai trwy anfon siec at ein prif swyddfa neu arlein: cymdeithas.org/cyfrannu/ llun: Rali 'Na i Doriadau - Ie i S4C Newydd', Caerdydd 06.11.2010.
Fy Rali cyntaf Heledd Llwyd Aelod o Gymdeithas yr Iaith. (16 oed).
Roedd y cyffro a’r bwrlwm i’w deimlo’n syth wrth i mi gerdded o’r car tuag at adeilad yr hen Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Pawb llawn cyffro, a’u egni yn byrlymu wrth aros i’r rali gychwyn. Wrth gychwyn o’r ty y bore hwnnw, rhaid cyfadde’ nid oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan taw dyma’r tro cyntaf erioed i mi fynychu rali mor fawr a phwysig a hyn. Cefais sioc aruthrol wrth weld y nifer enfawr o’r bobl a
oedd wedi troi i fyny i’r rali. Roeddwn methu’n lan a chredu bod pob un yma yn rhannu’r un bwriad a gweledigaeth. Roeddwn i wedi clywed llawer iawn o son am y rali ar hyd y cyfryngau Cymraeg, ond wir nid oeddwn yn sylweddoli bod cymaint o bobl yn poeni am dynged yr iaith. Roedd pawb yma a’r un gobaith. Rhaid dweud ei fod wedi gwneud i mi deimlo’n llawn emosiwn. Roedd teimlad hapus iawn i’r diwrnod, rhywbeth nad oeddwn wedi ei ddisgwyl o gwbwl. Roedd pawb yn chwerthin gyda’i gilydd ac yn mwynhau. Wrth edrych i fyny ar y sgriniau teledu mawr, cefais sioc wrth weld wyneb mam ar y sgrin! Roedd llun ohoni rhyw 30 a mwy o flynyddoedd yn ol, adeg pan oedd yr ymgyrch i sefydlu sianel S4C yn ei hanterth. Roedd mam yma eto, yn barod i frwydro. Roedd yn drist meddwl bod nifer fawr o’r bobl oedd yma o’m cwmpas, fel mam a dad, wedi bod yma o’r blaen. Buont yn barod i ymgyrchu, mynd i garchar a hyd yn oed aberthu eu bywyd er mwyn cael sianel Gymraeg i ni, eu plant, i’w gwylio. Mae’r broses yn ail-gychwyn eto. Wrth weld yr holl wynebau ifanc brwdrydig, llawn angerdd, gwyddwn bod amser cyffrous iawn o’n blaenau.
06 07.indd 2-3
5. Peidiwch â gadael i Lundain ladd S4C , 6.
Ymaelodwch - Os nad ydych chi’n aelod cyfredol o’r Gymdeithas, ymaelodwch fel bod modd i ni adael i chi wybod beth sy’n digwydd gyda’r ymgyrch. Gellir gwneud hyn arlein: cymdeithas.org/ ymuno/ Cyfarfodydd – Cysylltwch a’ch swyddog maes am drefniadau diweddaraf eich ardal.
7. Swyddi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Pensiynau, Ysbytai, Ysgolion, Diwylliant
Protestiwch - Dewch i Rali 'Na i'r Toriadau - Ie i'n Cymunedau' yng Nghaernarfon - 04.12.10 11am ar y Maes. Gwelwyd yn barod y cefnogaeth i Rali 'Nai i Doriadau - Ie i S4C newydd' yng Nghaerdydd ar 06.11.10. Cer i cymdeithas.org am fwy o wybodaeth ac i wylio fideo Bryn Fon.
PROTEST 1 1am SADWRN Peidiwch â gadael i * 4 .1 2 .1 0 Y MAES , CAERNARFON Lundain ladd S4C , Siaradwyr: Hywel Williams AS a Dafydd Iwan Plaid Cymru, Siaradwr o’r Blaid Lafur Hywel Roberts PCS, Silyn Roberts UNSAIN, David Donovan BECTU Marc Jones Gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau,
Swyddi,
21/11/10 19:23:11
? d u e n w i a ll a Beth
...
8. Gwrthod talu’r drwydded teledu - Galwn ar bobl Cymru i ymrwymo i atal talu'r drwydded deledu o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen oni gymerir camau cyn hynny i sicrhau fod annibyniaeth S4C yn cael ei sicrhau drwy ei ryddhau o gydreolaeth y BBC a hefyd bod cyllid digonol ar gyfer sicrhau ei dyfodol yn cael ei glustnodi. Gwelwn gynlluniau’r llywodraeth i uno S4C a BBC fel dim byd llai nag ymdrech i ddiddymu’r sianel yn llwyr a hyn heb unrhyw fath o ymgynghoriad na thrafodaethau gyda gwleidyddion / pobl Cymru. Yn y 70au gwrthododd miloedd o Gymru talu eu trwydded Teledu, gorfodwyd y llywodraeth i sefydlu sianel Gymraeg. Nawr mae'n rhaid brwydro eto. Fel rhan o'r ymgyrch dros barhad S4C fe alwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Cyfafod Cyffredinol ddiwedd mis Hydref ar i aelodau wrthod talu eu trwydded deledu. Yn unionsyth mae dros 50 wedi datgan eu parodrwydd i wneud hynny er mwyn gwneud cyfraniad i ennill y frwydr, ac ysgogi eraill i ddilyn. Mae'r rhestr yn tyfu ac mae Cymdeithas yr Iaith yn galw arnoch CHI nawr i gwbwlhau'r ffurflen isod a datgan eich parodrwydd i wrthod talu eich trwydded teledu ac i ymuno'n y frwydr.... Cwblhewch y ffurflen isod i ddatgan eich parodrwydd i wrthod talu eich trwydded teledu o'r 1af o Ragfyr 2010! Dyma enwau y rhai sydd wedi datgan parodrwydd i wrthod talu eu trwydded deledu hyd yma: Sioned Elin, Osian Rhys, Gwenno Teifi, Elinor Gray-Williams ac Osian Jones, Euros ap Hywel, Selwyn Williams, Maggie Hartman, Huw Prestatyn, Simon Brooks, Arfon Rhys, Hynek Vanousek, Carol Phillips, Heledd Williams, Llyr Edwards ac Angharad Clwyd, Gwerfyl Williams, Branwen Brian ac Alun Cox, Jamie Bevan, Sel Jones ac Eirian James, Ffred Ffransis, Gari Bevan, Toni Schiavone, Pandy Tudur, Bethan Davies, Gareth Llyr Evans, Robin Campbell, S Thompson, Catrin Stevens, Iestyn ap Rhobert, Sian Bevan, Catrin Stevens, Hedd Gwynfor, Angharad Tomos, Ben Gregory, Sian Howys, Gai Toms, Peter Hughes Griffiths, Llion Bevan, Geraint Jones, Greg Bevan, Melissa Elek, Siân Cwper, Bryn Fôn ac Anna Fôn, Jodie Douglas, Aled Wyn Huws, Aran Jones, Emyr Gibson,Heledd Meleri Wilson, Euros ap Hywel, Delyth Eirwyn, Heledd ap Gwynfor, Pryderi ap Rhisiart, Guto Prys ap Gwynfor, Heddus Gwynedd ...
Datganaf na fyddaf yn adnewyddu fy nhrwydded deledu pan ddaw'n ddyledus, o'r 1af o Ragfyr 2010 ymlaen, onibai fod Llywodraeth Prydain yn sicrhau annibyniaeth a chyllido teg i S4C. Enw:__________________ Rhif ffôn: __________ e-bost:_____________________________ Cyfeiriad:___________________________________________________________________ Dychwelwch i: Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ - Ffon: 01970 624501 – Ebost: post@cymdeithas.org
08 09.indd 2-3
? d u e n w i a ll a Beth
...
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n talu am fy nhrwydded teledu? Mae’r isod yn syniad bras o’r hyn all digwydd yn seiliedig ar brofiadau personol aelodau. Mae’r dyddiadau yn rhoi syniad yn unig, fe all pethau symud yn llawer cyflymach neu’n arafach.
Cam 1 (Mis 1-4) Fe fyddwch yn derbyn llythyrau atgoffa gan yr asiantaeth ‘Trwyddedu Teledu’ (TV Licensing)
Cam 2 (Mis 4 ymlaen) Os nad ydych yn ymateb i’r llythyron atgoffa fe fyddwch yn derbyn llythyron yn bygwth ymweliad gan un o swyddogion ymholiadau’r asiantaeth.
Cam 3 (Mis 4 ymlaen) Gall Swyddog ymholiadau ymweld â’ch eiddo. Does dim rhaid gadael y Swyddog i mewn. Os ydych chi, fe fydd y Swyddog yn archwilio'r eiddo. Os yw’r Swyddog yn cadarnhau y dylech chi gael trwydded teledu fe fydd yn cymryd datganiad dan rhybydd (Statement under caution). Os nad ydych chi’n rhoi mynediad i’r Swyddog fe all wneud cais i’r llys ynadon am ‘search warrant’.
Cam 4 (2 Blwyddyn +) Fe all Trwyddedu Teledu dewis erlyn chi. Os maen nhw’n penderfynu erlyn chi clywir yr achos gan lys ynadon. Os ceir chi yn euog y ddirwy fwyaf gallwch dderbyn yw £1000. Ni all y llys cymryd eich teledu na gorchymyn i chi talu’r ffioedd dyledus. Mae'n broses hir iawn iawn iawn (gan ddefnyddio achos un aelod fel enghraifft); ”Fe all bara am flynyddoedd lawer, gyda llythyrau dau fisol yn eich cyrraedd, beili yn ymweld ar d_ unwaith bob 6 mis. Achos llys tebygol wedi 3 blynedd. Ail adrodd y llythyrau cas ac ymweliad y beili. Achos llys arall wedi 6 mlynedd. Carchar - annhebygol iawn, ond pwy a wyr.” Wrth gwrs gall yr holl broses gael ei gyflymu trwy ysgrifennu at Drwydded Teledu yn esbonio pam nad ydych chi’n bwriadu talu eich ffioedd!!
Ydy’r Cymry heddiw yn ddigon brwdfrydig i ennill y frwydr am yr eildro? 21/11/10 20:24:27
? d u e n w i a ll a Beth
...
Defnyddiwch y templed isod i sgwennu at eich AS/AC - lleol yn pwyso arnynt i sicrhau dyfodol S4C . . .
Annwyl Aelod Seneddol, Ysgrifennaf yn y gobaith y byddwch chi, fel fy AS lleol, yn addo pleidleisio yn erbyn cwtogi ar S4C, sydd yn fuddsoddiad prin a hollbwysig yn yr iaith Gymraeg. Mae bwriad Llywodraeth y DU i wneud toriadau difrifol o 24.4% i gyllideb S4C yn fygythiad cwbl glir i'r iaith Gymraeg. Mae'r penderfyniad i symud cyllideb a rhan o reolaeth S4C i'r BBC hefyd yn tanseilio annibyniaeth y sianel, ac yn y pen draw mae'n fygythiad pellach i lefel yr ariannu ar gyfer rhaglenni a deunydd Cymraeg. Ystyriaf fwriad y Llywodraeth yn weithred sy'n gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn drysor unigryw i bawb boed yn siarad yr iaith ai peidio. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i newid y fformiwla ariannu yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Fel un o'm haelodau etholedig lleol, hoffwn i dderbyn eich ymatebion i'r cwestiynau canlynol: * A fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y cymal/cymalau yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n newid cyfundrefn ariannu S4C? BYDDAF / NA FYDDAF * Nid yw darlledwyr cyhoeddus eraill yn cael eu trin yr un modd ag S4C, felly a fyddwch chi'n cefnogi newid strwythur S4C mewn Mesur Cyfathrebu ar wahân yn hytrach na thrwy'r Mesur Cyrff Cyhoeddus? BYDDAF / NA FYDDAF * Ydych chi'n cefnogi sefydlu S4C newydd, sydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gyfrifol am allbwn aml-gyfryngol? YDW / NAC YDW * Byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu y gall y BBC yn ganolog benderfynu ar gyllideb y sianel yn flynyddol o 2015 ymlaen. Ydych chi'n cytuno bod hynny'n tanseilio annibyniaeth ariannol, ac oherwydd hynny annibyniaeth olygyddol y sianel? YDW / NAC YDW * Mae'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn rhoi grym i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu S4C trwy is-ddeddfwriaeth. A fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y cymal hwnnw yn y Mesur? BYDDAF / NA FYDDAF Yn gywir, [Eich enw llawn, eich cyfeiriad ebost ac eich cyfeiriad post].
10 11.indd 2-3
Mae’n tynnu yma i lawr, Yn codi draw: llun: Myfyrwyr yn cysgu tu allan yn 2004. Protestio o’r cyfnod yna sydd wedi cael y Coleg Cymraeg i ni heddiw.
Y Gorau a'r Gwaethaf
Rhys Llwyd Is Gadeirydd Cyfathrebu a Lobio
Mae’r wythnosau diwethaf yma wedi bod yn gyfnod sur felys go-iawn o ran dyfodol yr iaith. Rai wythnosau'n ôl roeddwn i yng nghyfarfod olaf Bwrdd Gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (enw newydd, a gwell, y Coleg Ffederal Cymraeg gynt). Er na fydd y sefydliad fydd yn cael ei sefydlu dros y misoedd nesaf yr union beth oeddem ni wedi bod yn ymgyrchu amdano dros y ddegawd diwethaf, does dim dwywaith mae’r ymgyrchwyr rhagor na pobl y status quo sydd wedi cario’r dydd. Mae sefydliad newydd yn cael ei sefydlu er mwyn bod yng ngofal addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Ac mi fydd ganddo gyllideb digon derbyniol ag ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ond mae hwn yn rhywbeth i gadw llygad barcud arno. Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddadlau o blaid yr angen am un corff penodol ac annibynnol i ddatblygu a darparu addysg Gymraeg yn y sector, roeddem ni yn defnyddio S4C fel enghraifft o’r hyn roeddem ni’n deisyfu. Yn y trafodaethau yma y darganfum fod rhai gwleidyddion, hyd yn oed o fewn y Blaid, ddim yn rhy siwr iawn os oedd sefydlu S4C wedi bod yn syniad da! Ond roedd y ddadl yn tycio gyda’r rhanfwyaf o bobl. Cyn sefydlu S4C mi oedd yna beth darlledu Cymraeg ar y telibocs ond roedd y cyfan yn dameidiog. Wrth sefydlu S4C gwelwyd step change, ys dywed y Sais. Wedi sefydlu S4C roedd yna un corff a hwnnw’n gorff annibynnol a chanddo un cenhadaeth ac un ffocws yn unig sef darlledu Cymraeg o safon. Wrth ddangos i bobl y newid er gwell y gwnaeth sefydlu S4C i ddarlledu Cymraeg bu i ni ennill llawer drosodd i weld y byddai sefydlu Coleg Cymraeg yn dod a’r un dylanwad llesol i addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch. Ond, och! Ar yr wythnos lle gwthiwyd y Coleg Ffederal i’r dwr fe long ddrylliwyd S4C gan Lywodraeth Llundain gyda’r BBC yn ceisio dwyn yr ysbail. Bellach, wrth geisio esbonio i bobl pam fod cadw S4C yn sefydliad annibynnol yn bwysig mi fydda i’n defnyddio’r Coleg Cymraeg fel enghraifft. Yr eironi.
21/11/10 21:27:06