20 16
Pen-bre Pembrey Country Park
Pembrey Country Park
parcgwledigpenbre.cymru
E M
CR
N
Wedi’i leoli mewn 500 erw o goedwig ac ar hyd wyth milltir o dywod euraidd, mae gennym bopeth i gynnig diwrnod perffaith i’r teulu, penwythnos o wersylla neu wyliau hamddenol mewn awyrgylch delfrydol. Gyda chymaint yn digwydd yma
G
W
Parc Gwledig Pen-bre, dafliad carreg o harddwch Penrhyn Gŵyr ar arfordir Bae Caerfyrddin, yw un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir a chefn gwlad.
DO
i Parc Gwledig Pen-bre
ESO I G ˆ O
O S W E LC
yn y parc byddwch yn siŵr o ganfod rhywbeth at eich dant, a’n nod yw rhoi ichi atgofion i bara oes. Diolch ichi am ymweld â’r parc, a gobeithiwn y cewch amser da yma!
CYNNWYS 2 Gwybodaeth am y wersyllfa
8
Harbwr Porth Tywyn
3 Cefn Sidan
9
Gair i Gall
5 Atyniadau
11
Map
7 Parc Arfordirol y Mileniwm
I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook - Parc Gwledig Pen-bre a hoffwch ni ar Twitter @ParkPembrey. Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni! 1
parcgwledigpenbre.cymru
i Mae gennym nifer o leiniau gyda thrydan neu heb drydan, felly p’un a ydych yn chwilio am lecyn tawel neu lain yng nghanol y wersyllfa, bydd gennym rywbeth addas ichi. Holwch warden y wersyllfa neu ewch i’r ganolfan ymwelwyr lle bydd ein staff cyfeillgar yn fwy na pharod i’ch helpu. Mae ein hardal wersylla yn cynnwys 350 o leiniau gwair gwastad, mwy o faint na’r cyffredin, gyda chyswllt trydan ar 130 ohonynt. Mae’r bloc cawodydd a thoiledau yn cynnwys chwe chiwbicl toiled dynion a menywod a chwe chiwbicl cawod gyda chyfleusterau i bobl anabl. Mae cyfleusterau golchi i’w cael y tu allan. Yn ystod y tymor prysur,
Nid ydym y n da cysylltiad tr rparu yd a n a r gyfer peby ll!
mae unedau symudol hwnt ac yma yn yr ardal wersylla hefyd. Mae lluniaeth ysgafn fel diodydd twym ac oer, brechdanau, pop a chreision ar gael yn y Llethr Sgïo. Mae bwriad i gyflwyno mwy o ddarpariaeth arlwyo yn y dyfodol agos.
Caban pren yw’r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae i’w weld ar y dde ychydig cyn cyrraedd yr ardal wersylla. Bydd staff yno rhwng 10am a 5pm bob dydd i’ch helpu i sicrhau bod eich arhosiad mor gofiadwy â phosibl. Mae cofroddion ar werth yno, yn ogystal â thocynnau tymor i’r parc a thrwydded parcio Parc Arfordirol y Mileniwm.
Yma yn y parc, ymfalchïwn yn ein tirwedd drawiadol ac amgylchedd naturiol y goedwig, a gofynnwn i bawb chwarae eu rhan i gadw’r ardal yn lân a diogel er budd a mwynhad pawb. Mae gennym ardal benodedig ar gyfer gwastraff bwyd ac ailgylchu. Mae hyn yn agos i fynedfa’r wersyllfa ac wrth ymyl y cawodydd a’r toiledau. Cofiwch waredu eich sbwriel yn y biniau cywir.
nhau wedi mwy h c y d y s O am siad, beth dd eich arho fel ymwely d ly e w h c y dd weld a dod i’n g tymhorol, ro! dro ar ôl t
parcgwledigpenbre.cymru
Mae ein lleinia u gwersylla tymhorol ar ga el rhwng Mawrth 1 - Hyd ref 31
2
Tobogan A ydych chi wedi bod ar y tobogan hiraf yng Nghymru? Os nad ydych, dyma eich cyfle! Mae hwn yn y Llethr Sgïo.
01554 834443
Llethr Sgïo Pen-bre (Tiwbio, eirafyrddio a sgïo) Nid oes angen ichi fynd yr holl ffordd i'r Alpau i ddysgu sut i sgïo a byrddio. Yn y Ganolfan Sgïo ym Mhen-bre, gallwch ddod yn arbenigwr heb roi un droed ar eira go iawn. Mae’r ddwy ardal sgïo ac eirafyrddio/tiwbio ar wahân yn cynnig cyfleoedd i bawb, p’un a ydych yn dymuno sgïo, byrddio neu diwbio am y tro cyntaf neu eisiau ymarfer eich techneg. Mae’r llethr sgïo ar agor bob dydd rhwng 10am a 6pm (9pm ar nos Lun) ac mae wedi’i leoli ar y chwith wrth ichi ddod i mewn i’r parc. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01554 834443.
Ardal Gadwraeth Llwybrau cerdded gwych drwy goedwig o binwydd Corsica a pharcdir naturiol sydd â phwll cadwraeth a mannau cudd i wylio adar. Cewch ddewis o blith wyth o lwybrau natur, neu fynd am dro ar y traeth. Mapiau ar gael yn y ganolfan ymwelwyr.
5
Llogi Beiciau Dyma ffordd wych i fwynhau harddwch naturiol y parc, a gweld golygfeydd godidog ar hyd y ffordd. Cewch seiclo ar hyd y llwybr beiciau oddi-ar-y-ffordd sy’n 2 filltir o hyd ac yn ddelfrydol i ddechreuwyr a theuluoedd. Beiciau a helmedau ar gael i’w llogi o’r llethr sgïo.
Marchogaeth Ceffylau Mae ymlwybro drwy’r goedwig ar gefn ceffyl yn brofiad gwych, neu os ydych yn brofiadol, beth am farchogaeth ar hyd y traeth? Mae’r ganolfan farchogaeth y tu mewn i fynedfa’r parc ar y chwith, ac mae’n cynnig pecynnau marchogaeth o amryw hyd a all gael eu teilwra at unrhyw allu. Galwch heibio neu ffoniwch 01554 835191 i gael mwy o wybodaeth.
Golff Disg Os ydych yn hoff o chwarae golff neu ffrisbi, byddwch yn dwlu ar y gêm hon!! Disgiau ar gael o Ganolfan Sgïo Pen-bre.
parcgwledigpenbre.cymru pa
Trên Stêm Bach
Parc Antur
Pitsio a Phytio
Beth am fynd ar daith ar y trên bach? Ar agor bob penwythnos (os yw’r tywydd yn ffafriol) yn ystod y prif dymor, i bobl o bob oed. £1 y pen. Ffoniwch 01554 742424 i ofyn am yr amserau.
Newydd eleni! Parc chwarae antur pwrpasol gyda chastell yn y coed, llithren a phont sigledig, clwb dringo gyda rhaffau, ysgolion, rhwydi a pholyn llithro, ffordd wifren a siglen bum ffordd. Llwybr heini a ffrâm ddringo ar ffurf castell sy’n siŵr o gadw’r rhai ifanc yn ddiddan am oriau.
Gêm golff ar gwrs bach lle gallwch gyrraedd y gwyrdd o’r ti gydag un trawiad. Archebwch eich gêm yn y bwth golff.
Creiriau Hanesyddol
Gweddillion y Ddau Ryfel Byd Yn ystod y ddau Ryfel Byd, roedd Parc Gwledig Pen-bre yn gartref i ffatri arfau. Mae rhai o’r gweddillion yn dal i’w gweld hyd heddiw, ar hyd a lled y parc a’r goedwig. Mae gwaith ymchwil ar y gweill i ddysgu mwy am rai o'r gweddillion hyn.
Safleoedd Picnic a Barbeciw Dewch â’ch bwyd eich hun! Beth am gael 'parti yn y parc’ yn yr ardal farbeciw, ychydig i’r dwyrain o’r Llethr Sgïo.
Golff Giamocs Gêm hwyliog, lle mae'n rhaid ichi daro'r bêl i'r twll gan osgoi amryw rwystrau. Archebwch eich gêm yn y bwth golff yn ystod cyfnodau prysur. Bryd arall, bydd clybiau ar gael yn y ganolfan ymwelwyr sydd wrth ymyl mynedfa’r rheilffordd stêm fach.
parcgwledigpenbre.cymru
Mae Cefn Sidan yn fynwent i nifer o longau a ddrylliwyd yma, gan ddyddio mor bell yn ôl ag 1668. Mae’r gweddillion llongau sydd i'w gweld yn codi o'r tywod ar ben gogleddol y traeth yn tystio i’r holl draffig môr oedd yn mynd heibio i'r arfordir hwn. Byddai gofyn cerdded tua 10 milltir er mwyn gweld y cyfan. Mae'r angorau sydd wedi'u harddangos wrth brif fynedfa'r traeth yn dwyn i gof yr hanes morol sydd i Gefn Sidan. Taflenni ar gael yn y ganolfan groeso.
6
Traeth Cefn Sidan – mae’r enw’n dweud y cyfan. Dyma le sy’n ddymunol i’r llygad, ac mae’r traeth euraidd a’r twyni tywod yn ymddangos yn ddi-ben-draw. Y traeth yw ymyl allanol Twyni Pen-bre rhwng Porth Tywyn a Chydweli, sy’n wynebu tua’r de dros Fae Caerfyrddin.
3
parcgwledigpenbre.cymru
longddrylliadau sydd i’w gweld tua phen gogleddol y traeth. Nid cerbydau’r môr yn unig y mae Cefn Sidan yn denu –nid anarferol yw gweld dolffiniaid yn neidio rhwng y tonau, morloi yn arnofio a slefrenni môr mawreddog, yn ogystal â chregyn llong mynwydd prin pan fo’r tywydd yn gynnes. Erbyn heddiw, mae traeth Cefn Sidan yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre.
E
N
DO
G
ESO I G ˆ
W
O
M
llong, gan gynnwys Adeline Coquelin, nyth 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Y mae wedi’i chladdu yn Eglwys Illtyd Sant, Pen-bre. Y llong fawr olaf i gael ei dryllio oedd SS Paul, llong pedwar hwylbren a oedd yn cludo llwyth o goed pan darodd y tir mewn storm ym 1925. Mae’r Paul yn dal i’w gweld heddiw, ac mae’n un o nifer o
CR
Cefn Sidan yw’r traeth hiraf yn Ewrop, gan ymestyn 8 milltir o dref arfordirol Porth Tywyn i bwynt Tywyn, ger Cydweli. Ganrifoedd yn ôl drylliwyd nifer o longau hwylio a llongau mawr eraill o amgylch Pen-bre, gan gynnwys "La Jeune Emma" a oedd ar ei ffordd o India’r Gorllewin i Ffrainc pan gafodd ei chwythu oddi ar ei llwybr ym 1828. Boddwyd 13 o’r 19 a oedd ar fwrdd y
O S W E LC
Ni chaniateir cŵn yn ardal baner las y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi
parcgwledigpenbre.cymru
4
Profiad
Bellach mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i dde-orllewin Cymru i ddarganfod ysblander Parc Arfordirol y Mileniwm. Bydd atgofion lu am ei brydferthwch a'i helaethrwydd gan yr holl ymwelwyr â'r parc, sydd wedi ennill llu o wobrau. O fewn ychydig dros 15 mlynedd mae'r rhan o'r arfordir sy'n ymestyn am 22 cilometr ar hyd aber afon Llwchwr wedi cael ei thrawsnewid gan greu amrywiaeth unigryw o atyniadau i dwristiaid, cynefinoedd bywyd gwyllt, a chyfleusterau hamdden. Felly pam na threuliwch y diwrnod yn darganfod rhai o’r nifer o blanhigion ac anifeiliaid rhyfeddol sy’n byw yn y parc? Mae nifer o gynefinoedd gwahanol ar gael yn cynnwys twyni tywod, llynnoedd, morfa heli, corstir, coetir, nentydd a phorfeydd lled-naturiol. Mae pob cynefin yn gartref i gasgliad unigryw o blanhigion ac anifeiliaid.
7
parcgwledigpenbre.cymru
Mae’r harbwr wedi’i leoli ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, ac yma y glaniodd Amelia Earhart wedi iddi hedfan ar draws yr Iwerydd ym 1928, y fenyw gyntaf erioed i wneud hynny. Mae yma olygfeydd trawiadol o Benrhyn Gŵyr ac nid yw’n bell o arfordir Sir Benfro. Mae’r cyfleuster, sy’n dal 250 o gychod, yn cynnig y cymysgedd perffaith o gyfleusterau hamdden mewn 14 milltir o barcdir wedi’i dirweddu. Y Clwb Cychod ynghyd ag ardaloedd eistedd a phicnic yw'r lle perffaith i gael seibiant, ymlacio a mwynhau golygfeydd hyfryd y marina. Mae’r traeth yn Harbwr Porth Tywyn yn denu syrffwyr a chanŵwyr môr, a phan fo’r amodau’n ffafriol dyma un o’r mannau gorau yn y sir i syrffio. Mae’r marina yn fan cychwyn delfrydol i archwilio arfordir de a gorllewin Cymru. Mae’n borth i Fae Caerfyrddin, dafliad carreg o ganol tref Porth Tywyn.
Gallwch feicio a cherdded ar hyd Parc Arfordirol y Mileniwm. Llynnoedd Pysgota Pysgod Breision
WC
Harbwr Pen-bre
P
Y Meysydd Gŵyl
P
P P WC Harbwr a Thraeth Porth Tywyn
Parc Dŵr y Sandy
P
Pafiliwn y Pwll Coetiroedd Sir Gaerfyrddin
47
Doc y Gogledd
Canolfan Ddarganfod Traeth Llanelli
P WC i
Canolfan Gwlyptir 8 Genedlaethol Cymru
P WC
parcgwledigpenbre.cymru
4
P
OEG
R
U MR PEN-BRE
LL
Cyfeiriad: Parc Gwledig Pen-bre, Pen-bre, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA16 0EJ. Ffôn: 01554 742424 parcgwledigpenbre.cymru
CY
Gellir dod o hyd i Barc Gwledig Pen-bre gerllaw ffordd arfordirol yr A484 o Lanelli i Gaerfyrddin ger Porth Tywyn. Mae'r Parc oddeutu taith hanner awr mewn cerbyd o Gaerfyrddin ac oddeutu'r un pellter o Gyffordd 48 yr M4. Dilynwch yr arwyddion cyfeirio brown.
Peiriant arian parod agosaf: Siop Co-op, Cydweli, ger yr A484, oddeutu 10 munud.
Pembrey Country Park
Cyfleusterau ar y safle: - Bloc cawodydd. - Gwaredu gwastraff. Ar fws: - traveline-cymru.info - firstcymru.co.uk Trên: - arrivatrainswales.co.uk - firstgreatwestern.co.uk - virgintrains.co.uk - heart-of-wales.co.uk
@ParkPembrey Gellir cael mynediad i'r Parc Gwledig ar droed neu ar feic yn rhad ac am ddim. Gellir parcio car am £5 fesul cerbyd yn ystod y tymor prysur, £2 yn ystod y tymor tawel. Taith ar hyd Llwybr 4 - Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Y Llwybr Celtaidd Gorllewinol), sy'n dilyn yr arfordir o Gasllwchwr yn y dwyrain, i Bentywyn yn y gorllewin. sustrans.org.uk
Carafanio a Gwersylla yng
Carafanio a Gwersylla yn
nghanol y tymor:
ystod y tymor prysur:
Mawrth 10 - Mawrth 28
Mawrth 24 – Ebrill 9
Mai 2 - Mai 26
Ebrill 29 - Mai 1
Mehefin 5 - Gorffennaf 19
Mai 27 – Mehefin 4
Medi 4 - Hydref 31
Gorffennaf 20 - Medi 3
9
discoverCarmarthenshire
parcgwledigpenbre.cymru
Pwyntiau pwysig... Mae gorsaf achub bywydau symudol sy’n cael redeg gan yr RNLI wedi’i leoli ar yr ardal Faner Las i’r chwith o brif fynedfa’r traeth. Mae ar agor rhwng 10am a 6pm bob dydd yn ystod y tymor prysur. Mae’r parc yn croesawu cŵn, ond cofiwch mai cyfrifoldeb y perchennog yw eu cadw dan reolaeth. Os bydd ci yn ymosodol neu’n achosi niwsans, byddwn yn gofyn i’r perchennog roi’r ci ar dennyn. O dan orchmynion newydd sy’n dod i rym ar 1af Gorffennaf, bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at hysbysiad cosb benodedig. O fis Mai hyd fis Medi ni chaniateir mynd â chŵn i ardal Baner Las y traeth. Peidiwch â chael eich dal gan y llanw! Mae amserlen llanw a
thrai ar gael yn y ganolfan ymwelwyr, felly cymrwch olwg ar yr amserau cyn ichi fynd am dro hir ar y traeth. Mae arwyddbyst sy’n dangos negeseuon diogelwch a rhifau ffôn mewn argyfwng i’w gweld ger mynedfa’r traeth. Cymrwch funud i’w darllen. Rydym eisiau ichi fwynhau eich hun, ond cofiwch fod llawer o bobl yn defnyddio’r traeth felly ceisiwch beidio ag amharu ar bob eraill. Am resymau diogelwch, ni chaniateir barbeciws tafladwy ar y traeth. Mae ardaloedd penodedig o amgylch y parc y gallwch ddefnyddio. Mae’r rhain wedi’u nodi ar ein map, neu holwch yn y ganolfan ymwelwyr. Er diogelwch, gofynnwn ichi beidio â gyrru’n gyflymach na 15
mya. Talwch sylw i gerddwyr a beicwyr wrth ichi yrru yn y parc. Os byddwch yn mynd i lawr i’r traeth, cofiwch fynd ag eli haul a het rhag ichi ddal gormod o haul. Cofiwch godi baw eich ci. Mae nifer o finiau ar hyd a lled y parc. Rhowch y baw ci mewn dau fag a’i roi mewn bin. Gallai peidio â chodi baw eich ci arwain at ddirwy. Cadwch eich eitemau gwerthfawr yn ddiogel bob amser a pheidiwch â gadael eitemau yn y golwg yn eich car. Mwynhewch, ar bob cyfri, ond cofiwch ystyried eich cymdogion a pheidiwch â gwneud llawer o sŵn, yn enwedig yn hwyr y nos.
Gofynnwch yn y Ganolfan Ymwelwyr am y Canllaw 'Bwyta ta h ac Yfed Gerllaw' lleol neu ewch i parcgwledigpenbre.cymru
parcgwledigpenbre.cymru
10
Cyfleusterau arlwyo ledled y parc. 1 Llethr Sgïo, Siop Sgïo, Rhedfa 2. Dobogan, Hurio Beiciau, a Chaffi 01554 834443. 2 Llecyn Barbeciwio.
5. 3 Pitsio a Phytio 01554 742424.
Parc Gwledig
Pen-bre Pembrey Country Park
4 Golff Giamocs. 6.
Myne
7. 5 Canolfan Ymwelwyr a Swyddfa Archebu Safle Gwersylla 01554 742424.
10
6 Maes Digwyddiadau. 8.
9. 7 Lle Chwarae.
Coedwig Pen-bre Pembrey Forest
8 Rheilffordd Fechan
11
(Galw am amseroedd gweithredu).
5
9 Ardal Gadwraeth. 10 Canolfan Farchogaeth
0783 7902726 neu 01554 835191 (grwpiau sydd wedi eu trefnu ymlaen llaw yn unig). 11 Carafannau Teulu a
8
Gwersylla. 12 Safle'r Clwb
01554 834369.
9
7
13 Disc Golff.
Dim Nudity not noethni permitted
Blue Flag Beach
Tra Traeth banner Las
• Cynghorir rhieni a gwarcheidwaid i oruchwylio eu plant bob amser. Ewch i'r Ganolfan Ymwelwyr i gael cymorth cyntaf. Mae ffôn argyfwng ger y Hen Ganolfan Ymwelwyr. • Dim tân agored yn y parc nac ar y traeth, ar y twyni, nac yn y goedwig.
11
parcgwledigpenbre.cymru
e
2. 1 Ski Slope, Ski Shop, Toboggan Ride, Cycle Hire & Cafe 01554 834443.
h
W
al
es
Co ast
at
y
Ll w
ru ym
b
Catering facilities throughout the park.
fordir r Ar C
P
12
2 BBQ Area.
4
5. 3 Pitch N Putt 01554 742424. 6. 4 Crazy Golf.
dfa’r Parc Park Entrance
N Morfa Pen-bre
2 1
6
13
Pembrey Saltings
Maes Digwyddiadau Events Field
7. 5 Visitor Centre & Camping Booking Office 01554 742424. 6 Events Field. 8. 7 Play Area. 8 Miniature Railway
(Call for operating times). 9 Conservation Area. 10 Equestrian Centre
0783 7902726 or 01554 835191 (pre-booked organised groups only).
3 4
11 Family Caravan & Camping. 12 Caravan Club Site
01554 834369. 13 Disc Golff.
a Be n ida S n Cef h t
ch Perygl i ymdrochwyr Danger zone for bathers
• Parents and guardians are advised to supervise their children at all times. Go to Visitor Centre for first aid. Emergency telephone adjacent to Old Visitor Centre. • No open fires in park or beach, dunes or in woodland.
pembreycountrypark.wales
12