LLEOLIADAU YSBRYDOLEDIG, GWEITHGAREDDAU GWEFREIDDIOL A GWYLIAU YMLACIOL
CAEL FWY O
LLANSTEFFAN UN PENTREF… PROFIADAU NIFERUS
• Rhydaman, Dyffryn Aman a’r Mynydd Du • Porth Tywyn a Phen-bre • Caerfyrddin • Cydweli a Chwm Gwendraeth • Talacharn • Morlan Elli • Llanymddyfri a rhan orllewinol Bannau Brycheiniog • Llandeilo a Dyffryn Tywi • Castellnewydd Emlyn a Dyffryn Teifi • Pentywyn • Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr
2
GORFFENNAF 2015
Rhydaman, Dyffryn Aman a’r Mynydd Du
BYDD Y MYNYDD DU YN EICH SYFRDANU DEFNYDDIWCH EICH DYCHYMYG I’R EITHAF AR LWYBR Y CHWEDLAU Mae’r meini mawr sy’n gorwedd yma ac acw yng nghanol berw dwr ˆ gwyn afon Aman ar ei thaith o’i tharddle ym Mannau Brycheiniog yn ein hatgoffa am y cloddio a’r mwyngloddio yn y dyddiau a fu yn Nyffryn Aman Mae’r diwydiant mwyngloddio yn y bryniau mawreddog sy’n denu cynifer o gerddwyr y dyddiau hyn wedi hen ddarfod ac mae’r dirwedd bellach yn edrych ac yn teimlo’n debyg i’r hyn ydoedd yn oes chwedlau Arthur.
Y
n ôl y chwedlau bu’r Brenin Arthur a’i farchogion yn hela’r Twrch Trwyth ar lethrau Dyffryn Aman. Mae’r twrch yn nodwedd ar fyrddau gwybodaeth y llwybr hanesyddol ac yn y cerfluniau metel mawr yn Rhydaman. Nid yw’n syndod bod y dirwedd arbennig hon wedi ysbrydoli sgiliau’r actor byd-enwog John Rhys-Davies sy’n adnabyddus ym myd y ffilm am ei rolau yn ffilmiau Indiana Jones a Lord of the Rings. Wrth edrych ar y bryniau neu gerdded y llethrau, mae’n hawdd dychmygu’r ffilmiau a grëir yno. Mae’r
Mynydd Du yn rhan o’r dirwedd ddramatig hon sy’n gyson yn denu gwneuthurwyr ffilmiau ac yn atyniad arbennig i gyfresi moduro fel Top Gear oherwydd ffordd ysgubol yr A4069 sy’n brawf ar allu gyrwyr a pherfformiad ceir newydd. Mae ymgyrchoedd hysbysebu/lansio llawer o geir newydd yn cael eu ffilmio yn y bryniau hyn. Ond mae’r dirwedd a’r amgylchedd hyn yn brawf ar bobl yn ogystal â pheiriannau. Magwyd llawer o sêr byd y campau yn Nyffryn Aman. Mae Shane Williams, cyn Chwaraewr Rygbi Gorau’r Byd a seren timau Cymru a’r Llewod yn dal i fyw yn y dyffryn. P’un a fyddwch yn beicio yn y Bannau, yn barcuta gyda’r barcud, yn cerdded yn hamddenol neu’n egnïol yng nghwmni’r bywyd gwyllt, cewch eich syfrdanu gan y golygfeydd a’r profiadau a gewch yn ardal y Mynydd Du a Dyffryn Aman.
Mae hon yn reid iachusol, addas i deulu ac yn llwybr 18 milltir ar hyd lonydd deiliog sy'n llawn hanes rhyfeddol. Mae'r llwybr yn dechrau ym Mhantyffynnon nepell o'r orsaf drenau.
M
ae arwyddion cyfeirio da iawn i’r llwybr ac ar hyd-ddo. Nid oes dim traffig ar hyd y llwybr tarmac da hwn, ac ar hyd-ddo ceir aml olygfa hynod drawiadol o afon Aman. Mae digonedd o gyfleoedd i ymgolli yn yr hanes lleol drwy bori'r paneli gwybodaeth niferus sydd wedi’u cofnodi a’u dylunio’n gain ar hyd y llwybr. Beth am ddefnyddio eich dychymyg i’r eithaf a dod yn gyfarwydd â chwedlau’r Mabinogion sydd hefyd yn dod yn fyw ar y paneli gwybodaeth. Bydd y straeon yn peri ichi fwrw golwg dros eich ysgwydd rhag ofn fod baedd gwyllt neu ddau ar eich trywydd.
»
Bwyta
GORFFENNAF 2015
YN Y GOLWG… O’R GOLWG
Cerdded • Mae rhai o deithiau cerdded mwyaf rhyfeddol y sir i’w cael ar y bryniau ac yn y dyffrynnoedd hyn yng nghysgod y Bannau ac mae amrywiaeth o fywyd gwyllt o drochwyr prin i ysbryd y baedd gwyllt a arferai grwydro yma.
Coffi & Picnic • Mae paneidiau arbennig o goffi i’w cael yng Ty Felfed yn yr Arcêd, Rhydaman. Eisteddwch wrth y ffenest a gwylio’r byd yn mynd heibio, wrth ichi fwynhau teisen flasus! I greu’r picnic perffaith, prynwch ychydig o basteiod o Jenkins, neu rôl gig rhost gan Martin Jones y Cigydd ac ewch i gopa Mynydd y Betws lle gallwch fwynhau golygfeydd o Sir Gaerfyrddin gyfan o’r olygfan a’r maes picnic.
CLWB GOLFF GLYNHIR Pytio ac yna peint neu ddau
M
»
ae hwn yn em go iawn o glwb golff, nad oes llawer yn gwybod amdano. Mae adeilad y clwb yn hynod anarferol gan mai ysgubor wedi’i haddasu ydyw a dywedir mai hon yw un o’r hynaf o’i math yng Nghymru. Ar ôl ichi ymweld unwaith â’r cwrs sydd mewn parcdir aeddfed ac wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad godidog, golygfeydd bendigedig ac afonydd Llwchwr a Gwyddfan, byddwch yn dyheu am gael dychwelyd ac nid oherwydd y bwyd blasus yn unig ond er mwyn cael ambell beint o gwrw ar ôl bod wrthi’n pytio.
COPAON MYNYDDOEDD A DYFNDEROEDD Y PYLLAU GLO YN YSBRYDOLI ARLUNWYR Os ydych am weld gwaith celf anhygoel gan arlunwyr ac eraill a ysbrydolwyd gan gopaon y mynyddoedd a dyfnderoedd y pyllau dyfnaf, yna mae Oriel Tˆy Cornel, dan ofal Anthony Richards, yn lle y mae’n rhaid ichi ymweld ag ef i weld arlwy gyfoethog o gelf sy’n her a hanner i’r dychymyg.
M
ae’r gwaith yn yr oriel yn cynnwys lluniau gan David Bellamy, yr arlunydd enwog (nid y naturiaethwr), sy’n creu lluniau dyfrlliw o fynyddoedd sy’n ddarnau ac iddynt awyrgylch anhygoel ac ar yr un pryd yn creu paentiadau o byllau glo sy’n lluniau cignoeth sy’n ysgogi teimladau cryf. Mae llawer o baentiadau a phrintiau gan amrywiol arlunwyr, a hyd yn oed ambell gerflun a darnau objet d’art!
CYFLEOEDD HAMDDEN CYFEILLGAR Mae Canolfan Hamdden Dyffryn Aman yn lle gwych i nofio neu i gwrdd â ffrindiau a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau wedi’u trefnu gan staff cyfeillgar a chymwys.
M
ae modd parcio ceir am ddim ar y safle hwn yng nghanol y dref www.actifsirgar.co.uk
Mae’r llyn yng Ngharmel yn unigryw ac yn werth ei weld... ond ‘does dim sicrwydd y byddwch yn ei weld bob tro
M
ae Gwarchodfa Natur Coedwig Carmel ar safle cware enfawr ger Llandybïe ac mae’n gartref i lyn dros dro (tymhorol). Mae’r llyn hirgrwn yn gannoedd o lathenni o hyd ac yn ddigon o ryfeddod yn yr Hydref a’r Gaeaf a dechrau’r Gwanwyn, ond mae’n diflannu yn yr Haf. Peidiwch â digalonni os bydd y llyn wedi diflannu cyn eich ymweliad, gallwch fwynhau’r coetir godidog a gweld ac arogli’r garlleg gwyllt sy’n garped dan eich traed. www.darganfodsirgar.com
PYSGOTA YM MRYNCOCH Mae pysgota yn weithgaredd poblogaidd iawn ym Mhrydain, a chynigir profiad pysgota heb ei ail ar Fferm Bryncoch a hynny mewn amgylchedd dramatig.
D
ros nifer o flynyddoedd mae’r llyn, ger y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Llandyfân, Rhydaman, wedi cael ei stocio’n sensitif ag amrywiaeth o bysgod dwr ˆ croyw gan gynnwys cerpynnod, cerpynnod gloyw, ysgretennod, rhufellod a physgod rhudd. Gellir prynu tocynnau ymweliad diwrnod ond oherwydd ei fod yn atyniad poblogaidd fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod glanfa ar eich cyfer. www.southwalescamping.co.uk
MAE CROESO CYNNES YN EICH AROS Mae Rhydaman yn un o brif drefi Sir Gaerfyrddin, a bu unwaith yn ganolbwynt i’r gymuned lofaol yng Ngorllewin Cymru.
O
ganlyniad i adfywio helaeth a gofalus, parthau eang i gerddwyr, cysylltiadau trafnidiaeth newydd – gan gynnwys gorsaf fysiau a meysydd parcio helaeth a digonol, mae’r dref yn gyrchfan boblogaidd sy’n enwog am ei chroeso cynnes Cymreig a’i phobl gyfeillgar.
discovercarmarthenshire.com
Rhydaman, Dyffryn Aman a’r Mynydd Du
• Mae bwyd da, lleol i’w gael yn nhafarn y Barcud Coch, Tafarn y Cottage, bwyty’r Mountain Gate a’r Llew Coch, neu am brofiad arbennig ewch i fwyty Valens, Llandybie.
3
4
GORFFENNAF 2015
Porth Tywyn a Phen-bre
TRAETH Â LLONGDDRYLLIA DAU LU YN ATYNIAD GWEFREIDDIOL Mae traeth hynafol Cefn Sidan sy’n enwog am ei longddrylliadau yn parhau i ddatgelu ei drysorau a drysu haneswyr
Maent yn rhyfeddu ynghylch pam mae cynifer o’r brigiau, y brigantau a’r sgwneri (180 wedi’u cofrestru a 380 y gellir ond dyfalu yn eu cylch) a suddodd dros y canrifoedd ar y traeth euraidd siâp banana hwn sy’n wyth milltir o hyd, yn gallu ymddangos a diflannu mor ddisymwth.
M
ae rhai wedi’u claddu yn y twyni gan y tywod sy’n cael ei chwythu gan y gwynt ac sy’n symud yn barhaus. Mae rhai wedi cael eu sugno i mewn i’r tywod ar y traeth neu eu dryllio’n chwilfriw. Mae rhai yn gorwedd o dan y goedwig y tu ôl i’r traeth sydd wedi ymestyn allan tua’r môr dros 400 mlynedd ar benrhyn enfawr o dywod. Beth bynnag sy’n achosi iddynt fynd a dod mae’r lle hwn yn ddelfrydol ar gyfer chwilota glan môr ac mae’n cynnig diwrnodau llawn hwyl i’r teulu. Gallwch ddod o hyd i unrhyw beth ar y traeth hwn o gneuen goco i ddolffin ar ôl llanw neu hyd yn oed drysor o’r llongddrylliadau. Roedd cargoau’r llongau a suddodd yn cynnwys amrywiaeth o bethau o eithin pêr, indigo, copr a chochineal, rym a barrau arian i olew morfilod, crwyn morloi, brandi, crwyn byfflos, cotwm a choffi. Mae gan Ben-bre enw o fod yn fath ar Driongl Bermwda gyda llongau o Ffrainc yn dod i ben eu taith ar y traethau hyn llongddryllwyd yr enwog Le Jeune Emma yno yn 1828 a hithau ar ei thaith o Fartinique i Le Havre gyda’i chargo o rym, siwgr a choffi. Collodd tri ar ddeg o bobl eu bywydau gan gynnwys y Lefftenant-Cyrnol Coquelin a’i ferch Adeline, nith Josephine, gwraig Napoleon Bonaparte. Mae ei chofeb a’i bedd yn Eglwys Illtud Sant a adeiladwyd gyda’i dˆ wr Normanaidd yn 1066 yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
Dirgelwch arall tebyg oedd hanes Amelia Earhart sef y fenyw gyntaf i hedfan dros Fôr Iwerydd a laniodd ei hawyren fôr gerllaw gan feddwl ei bod yn Iwerddon. Mae llu o ddigwyddiadau tebyg o’r math “Bermwda” hwn sy’n ymwneud ag awyrennau enwog o’r Ail Ryfel Byd wedi digwydd yng nghyffiniau’r penrhyn godidog hwn sy’n cysylltu â Pharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli ac yn cwmpasu 11 milltir o forlin euraidd sy’n denu dros filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Ychydig filltiroedd ar hyd yr arfordir o Gefn Sidan mae Marina Porth Tywyn sy’n hafan ddiogel i gychod wrth iddynt siglo lan a lawr yn y dˆ wr. Yma mae pobl wrth eu boddau’n mynd i grwydro ar hyd y llwybrau a’r twyni cyfagos neu aros a mwynhau crepe neu hufen iâ. Ond Cefn Sidan a’i baradwys i chwilotwyr glan môr sy’n cadw teuluoedd cyfan wedi’u cyfareddu ddydd ar ôl dydd. Os yw’r traeth yn mynd yn rhy dwym neu os hoffech rywbeth ychydig yn wahanol yna mae llwybrau cerdded gwych yn y goedwig neu gallwch ymweld â Pharc Gwledig Pen-bre gerllaw sy’n barc 500 erw ac yn un o atyniadau awyr agored mwyaf Cymru o ran maint a phoblogrwydd. Yng nghanol y coed a’r tir glas a’r twyni ceir amrywiaeth fawr iawn o rywogaethau pili-pala a gwyfynod. Gallwch chwilota am ffyngau neu efallai weld gwenci yn y goedwig. Mae hwn yn wir yn lle hudol. Hefyd ochr yn ochr â natur a bywyd gwyllt y parc mae llwybr tobogan hiraf Cymru sydd wedi cludo 1.7 miliwn o bobl; llethr sgïo artiffisial, bwytai, rheilffordd fechan, llogi beiciau a marchogaeth ceffylau a chalendr o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn sy’n cynnwys rhyfeddodau megis cystadlaethau hwylio tywod, rasys slediau sy’n cael eu tywys gan gŵn, rasys beiciau ar y traeth a ralïau injans stêm. Ond y traeth yw’r prif atyniad. Mae’r ehangder anhygoel hwn o fôr a thywod yn gwbl wefreiddiol ac mae’n syfrdanol bod y traeth hwn wedi hedfan y Faner Las yn fwy nag unrhyw draeth arall ym Mhrydain. Mae’r traeth yn 18.5 milltir sgwâr ac yn amrywio o draeth caled fel traffordd sy’n golygu y gellir cynnal pob math o chwaraeon yno, i dywod mân fel blawd sy’n denu teuluoedd ar eu gwyliau wrth y miloedd. Mae’n amhosib gorlenwi ardal mor anferth o eang oherwydd mae’r bobl fel petai’n ymdoddi wrth i’r traeth ymestyn yn ddiddiwedd tua’r gorwel. Oherwydd ei fod mor anghysbell cafodd Cefn Sidan a’r parcdir o’i gwmpas ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer cynhyrchu arfau rhyfel yn y blynyddoedd a fu a daeth hyn i amlygrwydd am y tro cyntaf dros gan mlynedd yn ôl pan sefydlodd Nobel ffatri powdwr gwn yno. Datblygodd yr Awyrlu safle i awyrennau Spitfire i ymladd yr Ail Rhyfel Byd yng Nghanolfan yr Awyrlu ym Mhen-Bre a bellach mae’r maes awyr 500 erw yn gartref i Gylch Rasio Pen-bre sydd â chalendr llawn o rasys cerbydau yn ogystal â maes awyr bach preifat.
discovercarmarthenshire.com
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Cerdded • Boed haf neu aeaf mae’r llwybr arfordirol lle mae’r tir a’r môr yn cyfarfod yn hyfryd bob amser. Dilynwch Lwybr Illtud Sant o Barc Gwledig Pen-bre i ben y bryn. Bu milwyr Rhufeinig yn cadw golwg ar eu llongau o’u bryngaer yn yr olygfan ysblennydd hon.
Coffi & Picnic • Bu Amelia Earhart yn aros yng Ngwesty’r Ashburnham ar ôl iddi lanio yn yr harbwr. Mae’r gwesty’n cynnig golygfeydd godidog dros y môr ac un o gyrsiau golff hynaf Cymru. Mae’r lolfa haul yn llecyn delfrydol i gael coffi – a theisen neu ddwy hefyd o bosibl! Parc Gwledig Pen-bre, Harbwr Porth Tywyn.
BLODAU O BEN DRAW’R BYD YN BARADWYS BOTANEGYDD Ewch am dro hamddenol o amgylch yr harbwr ym Mhorth Tywyn. Mae’n llecyn hyfryd ac yn lle da i edmygu’r badau a’r cychod pleser sydd yno ... i ble y byddech chi’n mynd petaech chi’n berchen ar un ohonynt?
B
Beth am fentro ymhellach i gyfeiriad Pen-bre ar hyd llwybr Parc Arfordirol y Mileniwm lle gwelwch degeirianau niferus a hen harbwr Pen-bre sydd wedi llenwi â llaid. Mae llawer o’r blodau gwyllt sy’n tyfu ar ochr yr harbwr wedi dod o hadau a gludwyd i’r lan yn y balast a waredid o longau dros ganrifoedd lawer pan oedd hwn yn arfordir ffyniannus lle allforid glo. Mae botanegwyr wedi’u synnu gan yr amrywiaeth o flodau a phlanhigion y daethpwyd o hyd iddynt ac sydd wedi addasu i’w hamgylchedd yn Sir Gaerfyrddin ers iddynt gael eu mewnforio yma drwy ddamwain o wledydd tramor.
» ÔL TROED ANFERTH A GWESTY SYDD Â CHYSYLLTIADAU HANESYDDOL AG ARLOESI AWYRENNOL Yng Ngwesty’r Ashburnham yr arhosodd Amelia Earhart – y ddynes gyntaf i hedfan dros yr Iwerydd – wedi iddi lanio ym Moryd Byrri a chael ei halio yn y Friendship, ei hawyren fôr â chorff llong, i Harbwr Porth Tywyn.
O
’r gwesty ceir golygfeydd eang draw at y môr ac at un o gyrsiau golff hynaf Cymru, sef yr Ashburnham sy’n gwrs glan môr lle cynhelir pencampwriaethau. Y lolfa haul yw’r lle i gael coffi a chacen fach neu ddwy efallai cyn mynd am dro hamddenol ar hyd y llwybr sy’n mynd drwy'r maes parcio i’r
pyllau glo hynafol tua’r gogledd ac i Hen Harbwr hynod hardd ac anarferol Pen-bre tua’r de. Ar un adeg hon oedd canolfan hollbwysig y Chwyldro Diwydiannol yn Ne-orllewin Cymru a gerllaw iddi ceid un o’r camlesi hynaf yn y byd a gafodd ei chreu gan Thomas Kymer. Fymryn i’r gogledd, i fyny’r cwm, mae’r Ôl Troed Anferth chwedlonol ar lwybr troed sydd â chyfeirbwyntiau ac sy’n mynd ar hyd prif ffordd Heol y Mynydd, Pen-bre. Yr ôl troed mewn darn gwastad o wenithfaen oedd y cam olaf ar yr ochr hon i Foryd Byrri – mae’r ôl troed arall ar dir Gwyr. ˆ
AR GRWYDR AR GEFN CEFFYL (AR HYD TRAETH CEFN SIDAN) Dewch am dro ar gefn ceffyl drwy’r goedwig ac ar hyd traeth Cefn Sidan tra byddwch yn ymweld â Pharc Gwledig Pen-bre
M
ae’r stablau sydd yn y Parc yn cynnig cyfleoedd i bobl farchogaeth, pa brofiad bynnag sydd ganddynt o hynny, ac mae hyd yn oed yn cynnig sesiynau i’r rhai sydd erioed wedi marchogaeth o’r blaen. Mae cyfle i’r rhai profiadol garlamu ar hyd y lan ar draeth Cefn Sidan sy’n b r o f i a d gwirioneddol gofiadwy, i’w gofnodi a’i drysori am oes.
PEN-BRE O ochr y mynydd ym Mhen-bre, ceir golygfeydd godidog o Fae Caerfyrddin
EWCH I WELD OLWYN M Y CROCHENYDD Yng nghanol pentref Pen-bre mae Eglwys Illtud Sant a adeiladwyd yn 1066
M
ae sgwâr y pentref yn cael ei gysgodi gan yr eglwys odidog gyda’i thˆ wr Normanaidd. Yma mae cymuned fechan groesawgar o dafarndai, preswylfeydd, ystafelloedd te yr eglwys, tˆ y llety a Chrochenwaith Pen-bre lle bydd cyfle i weld crefftwr wrth ei waith. Mae crochenwaith Graham Newing yn boblogaidd gyda’r bobl leol a’r ymwelwyr ac mae’n cael ei arddangos ledled Prydain a thramor. Mae’n sicr yn werth manteisio ar y cyfle i weld Graham wrth olwyn y crochenydd yn llunio potiau a gwaith celf mewn cerameg neu garreg. www.pembreypottery.co.uk
ae’n lle gwych i weld harddwch arfordir Sir Gâr yn ei holl ogoniant, gyda golygfeydd eang o’r cyfan o Borth Tywyn, y porthladdoedd hardd a hen ffasiwn a thraeth mawreddog Cefn Sidan. Ar ddiwrnod clir, o lethr sgïo Pen-bre gellir gweld o aber afon Llwchwr draw at Ben Pyrod ar Benrhyn Gwyr, ˆ ac ymhellach at Ynys Wair a draw at Ynys Bˆ yr.
Porth Tywyn a Phen-bre
• Gwyliwch y byd yn gwibio heibio ym Mwyty Amelia, Maes Awyr Pen-bre. Mae Caffi Sidan, Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig dewis eang o goffi, danteithion melys a byrbrydau. Porth Tywyn yw’r lle i fwynhau pysgod a sglodion a bwyty ardderchog yn y Cornish Arms.
5
6
GORFFENNAF 2015
Caerfyrddin
AR LAN YR AFON – CYRYGLAU A LLONGAU HWYLIAU Wrth ichi fynd tuag at yr afon o ganol tref Caerfyrddin, a chyda chymorth hudlath Myrddin, byddwch yn camu i Faes Myrddin sef canolfan siopa arall lle saif cerflun 11 troedfedd o’r dewin ynghanol y siopwyr.
M
ae’r rhan hon o’r dref yn frith o strydoedd bychain ynghyd â thai gwˆyr mawr o’r ddeunawfed ganrif sy’n ymestyn tuag at gei Caerfyrddin, a grëwyd gyntaf gan y Rhufeiniaid. Tan ryw ganrif yn ôl byddech yn gweld llongau hwyliau anferth, a oedd yn croesi’r môr mawr, yn cael eu llwytho a’u dadlwytho wrth angorfeydd y cei. Mae afon Tywi yn enwog am eogiaid a sewiniaid, ac mae pysgotwyr yn dal i ddefnyddio cyryglau i bysgota am eog ar yr afon.
TARO ‘TWRCI’ YN XCEL Beth am fynd draw i’r Xcel Bowl, sy’n atyniad bowlio deg newydd yng Nghaerfyrddin, i roi cynnig ar gael ‘twrci’ – sef tri thrawiad mewn rhes.
M
ae 12 lôn yno ynghyd â maes parcio am ddim, llecyn chwarae i blant bach, bar trwyddedig, a bwyty o safon. www.xcelbowl.co.uk
HUD A LLEDRITH MYRDDIN Byd hudol a oedd yn gyforiog o ddirgelwch a phleserau di-ben-draw oedd Caerfyrddin y dewin Myrddin Mae’r dref hynaf yng Nghymru wedi tyfu o amgylch amddiffynfeydd cadarn y Rhufeiniaid, ac mae’n gyfuniad o elfennau modern a threftadaeth chwedlonol a milwrol.
E
rgyd carreg o’r castell Normanaidd – a saif yn rhwysgfawr uwchlaw un o’r dyffrynnoedd pertaf yng Nghymru yn ddiamheuaeth, lle mae afon Tywi yn llifo’n urddasol fel arian byw ar ei thaith hamddenol tuag at y môr – y mae Rhodfa’r Santes Catrin sy’n ganolfan fodern i’r unfed ganrif ar hugain.
Ymhlith pyrth y Rhodfa y mae tyrau gwydr ysblennydd yr holl siopau mawrion ac eto, os camwch o’r neilltu, byddwch yn crwydro strydoedd hynafol lle gallwch ddod o hyd i siopau bychain o bob math sy’n gwerthu amrywiaeth o bethau, gan gynnwys cawsiau o bob lliw a llun, dillad ffasiynol a’r gwinoedd gorau Gerllaw, mae marchnad Caerfyrddin ar ei newydd wedd (sy’n gyfuniad o’r hen a’r modern) yn lle gwych i gael gafael ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys danteithion megis Ham Caerfyrddin – y mae’r Tywysog Siarl mor hoff ohono – bara lawr a chocos. Mae hyd yn oed hen garchar
sy’n dyddio o’r 1530au yn y dref. Erbyn hyn amgueddfa yw Tˆ y’r Castell sy’n llechu rhwng muriau allanol a mewnol ysblennydd Neuadd y Sir, a saif mewn man mor amlwg wrth i bobl agosáu at y dref o’r de a’r dwyrain. Gallwch grwydro’r hen gelloedd gan synhwyro unigrwydd dirdynnol a gofidiau’r oesau a fu. Gofalwch nad ydych yn gadael i’r drysau gau’n glep arnoch oni bai fod gennych yr allweddi’n gadarn yn eich llaw. Bydd hanesion y carcharorion unigol a’r rhesymau dros eu cosbi yn peri ichi chwerthin a llefain am yn ail, yn enwedig wrth ddarllen am grogwyd yn greulon ar y grocbren ar furiau’r Castell.
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Cerdded • Ewch am dro ar lan yr afon, gallwch ddilyn y llwybr yno i Dre Ioan. Tybed a welwch chi hwyaid, elyrch – a dyfrgi o bosibl?
Coffi & Picnic • Mae digonedd o gyfleoedd i oedi i fwynhau coffi a theisen wrth ichi grwydro strydoedd hynafol Caerfyrddin. Yn ogystal, mae mannau picnic o’r neilltu ger muriau’r castell ac ar lan yr afon.
CYNNYRCH AT DDANT PAWB AR GAEL YN Y FARCHNAD Os ydych am ychwanegu cig gwiwer at eich neges siopa, dewch draw i’r stondin helgig ger Marchnad Dan Do Caerfyrddin. Mae cig carw arbenigol a baedd gwyllt ar gael yno hefyd – os ydych am greu argraff! Gallwch brynu un o hoff ddanteithion y Tywysog Siarl yn y farchnad gan fod stondin yno sy’n gwerthu Ham Caerfyrddin. Yn sgil hoffter y Tywysog o’r ham arbennig hwn mae’n dwyn y sêl cymeradwyaeth frenhinol.
CAEL BLAS AR FYWYD Y RHUFEINIAID YNG NGHAERFYRDDIN
DYSGU DIFYR A BOD DAN GLO YNG NGHANOLFAN GROESO CAERFYRDDIN Yn Nhˆy’r Castell, lle ac iddo awyrgylch arbennig, y mae Canolfan Groeso Caerfyrddin, sy'n gwasanaethu Caerfyrddin a’r sir ac mae’r Ganolfan ei hun yn atyniad i ymwelwyr.
G
allwch ddysgu pob math o bethau yma a bod dan glo! Carchar oedd yr adeilad, sy’n dyddio'n ôl i 1532 ac mae’r celloedd yn dal yma ac yn gyfle gwych i dynnu llun. Yn y Ganolfan Groeso ceir llu o wybodaeth am ardaloedd gwledig ac atyniadau’r sir, ac mae’n cynnig gwasanaeth gwybodaeth yn rhad ac am ddim, gan roi cyngor arbenigol ynghylch sut mae manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â’r ardal neu ynghylch eich gofynion llety. Yn y Ganolfan Groeso, ceir amrywiol anrhegion o safon o Gymru, crefftau lleol a llyfrau cyfeirio, arweinlyfrau
/teithlyfrau, mapiau, a llawer mwy. Oriau Agor: Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 9.30am – 4.30pm. Tˆ y’r Castell, Castell Caerfyrddin, Rhiw’r Castell, Caerfyrddin, SA31 1AD. Mae lleoedd parcio ar gael ar benwythosau neu fel arall y maes parcio agosaf yn ystod yr wythnos yw Maes Parcio San Pedr, SA31 1LN. Tˆ y’r Castell yw’r man cychwyn hefyd ar gyfer Teithiau Tref rhad ac am ddim, sy'n cael eu cynnal bron bob dydd Mercher yn ystod misoedd yr haf – os yw'r tywydd yn ffafriol. I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle ar gyfer grwpiau, ffoniwch 01267 235199.
Dewch i chwarae lle bu ar un adeg Rufeiniaid gan ryfeddu at y man lle bu gladiatoriaid yn ymladd yn yr hyn a dybir yw amffitheatr fwyaf gorllewinol yr ymerodraeth Rufeinig.
M
ae’n un o d d i m ond saith amffithe atr sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig ac er bod Caerfyrddin yn brif dref a oedd yn gadarnle i’r Rhufeiniaid, y safle hwn yw’r unig olion Rhufeinig sydd i’w gweld uwchben y ddaear yng Nghaerfyrddin. Yn Heol y Prior y mae amffitheatr Caerfyrddin. (Trowch i’r chwith wrth adael maes parcio San Pedr a mynd yn eich blaen am ryw 300 metr er mwyn cyrraedd yr amffitheatr, sydd ar y chwith. Ger y fynedfa mae llechfaen mawr sy'n dwyn y geiriau ‘Amffitheatr Caerfyrddin’). Mae’r ‘Cavea’, sef y man eistedd, yn 46 metr wrth 27 metr, sy’n eithaf mawr o ystyried maint y dref bryd hynny. n wreiddiol byddai meinciau pren wedi bod yno i’r cyhoedd. Yn ôl pob tebyg byddai’r amffitheatr yn fan cynnal
»
ar gyfer ymrysonfeydd Rhufeinig, gan gynnwys gladiatoriaid yn ymladd, helfeydd bwystfilod, a dienyddio cyhoeddus, ynghyd â sioeau /gorymdeithiau milwrol a dinesig, a gwyliau a digwyddiadau crefyddol.
A DEWCH I FLASU BWYD TEBYG I’R HYN Y BYDDAI’R RHUFEINIAID WEDI’I FWYTA... Mae’r Frenhines a Thywysog Cymru yn hoff o ham Caerfyrddin. Mae ei rysáit gyfrinachol wedi’i throsglwyddo gan genedlaethau lu o deulu Albert Rees a’i gyndeidiau ac yn ôl chwedl y teulu, cafodd y rysáit ei dwyn gan y Rhufeiniaid pan oeddent yma a’i chludo'n ôl i’r Eidal ac o hynny y deilliodd Ham Parma. Mae’n ddanteithfwyd sy’n aml yn rhan o arlwy arbennig, boed hynny ym mwyty Rick Stein neu yng ngarddwesti’r teulu Brenhinol. orders@carmarthenham.co.uk
RHEILFFORDD GWILI – DEWCH DRAW I GAEL DIWRNOD DIFYR AR DRÊN STÊM Mae hwn yn atyniad sydd wrth fodd y teulu cyfan, ac i’r bobl sy’n gwirioni ar drenau stêm mae’n baradwys heb ei hail, a hynny heb fod ymhell o dref Caerfyrddin.
D
yma gyfle i deithio ar drên stêm o’r 1960au sy’n tynnu amrywiaeth o gerbydau gan gynnwys cerbyd bwyta lle gallwch ymlacio fel gwˆ yr mawr yn null y teithwyr ar yr Orient Express wrth i’r gweinydd weini ar eich bord. Byddwch yn gallu mwynhau eich cinio rhost wrth i’r trên ddilyn yr afon yn hamddenol drwy’r dyffryn coediog serth gan adael rhuban gwyn ar ei ôl yn yr awyr. Mae Cymdeithas Rheilffordd Gwili yn trefnu amrywiaeth o deithiau arbennig drwy gydol y flwyddyn sydd yn denu pobl o bob oedran. Ymhlith y rhain y mae teithiau jazz Chattanooga Choo Choo, teithiau ‘cyfle i yrru trên’, a theithiau arbennig i blant gan gynnwys teithiau Tomos y Tanc.
PARC DYMUNOL AC ATYNIAD ANARFEROL Mae parc dymunol dros ben heb fod ymhell o ganolfan siopa Caerfyrddin ac mae ynddo atyniad anghyffredin, sef felodrom. Felly os dewch â’ch beic gyda chi i’r dref gallwch fanteisio ar gyfle prin i feicio o amgylch felodrom hirgrwn. Mae felodrom Caerfyrddin wedi ei ailwampio’n ddiweddar. Yn ogystal mae llecyn sglefyrddio, lle chwarae i’r plant, ac ystafell de ddymunol, pan fydd angen ymlacio arnoch, o fewn ffiniau helaeth y parc.
discovercarmarthenshire.com
Caerfyrddin
• Con Passionata, Blasus Deli, Caffi Waverley ar gyfer llysieuwyr.
7
8
GORFFENNAF 2015
Cydweli a Chwm Gwendraeth
Bu brwydrau ffyrnig dros y canrifoedd ym mhen isaf y cwm dan gysgod ysblander muriau Castell Cydweli.
S
aif y castell, y mae ei gyflwr yn rhyfeddol o dda, mewn llecyn amlwg ym mhen isaf y cwm. Mae’n denu lluoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Wrth grwydro’r tyrau, y rhagfuriau a’r daeargelloedd tywyll, mae modd synhwyro sut le oedd yno dan warchae. Mae tyllau lladd yn y porthdy ac mae agennau yn y porthcwlis, a byddai’r amddiffynwyr yn defnyddio’r rhain i arllwys olew berwedig ar yr ymosodwyr ac i ollwng cerrig am eu pennau. Wrth grwydro tua’r de at y môr ar y llwybr ar hyd glan yr afon byddwch yn cyrraedd cei hynafol, a oedd yn rhan o’r rhwydwaith camlesi diwydiannol hynaf yn y byd a grëwyd gan Thomas Kymer. Cludai’r camlesi hyn lo o Ben-bre ac o Lanelli. Wrth ichi grwydro tua’r gogledd byddwch yn mynd heibio i hen waith tunplat - yr ail hynaf i’w gofnodi ym Mhrydain - sydd bellach yn amgueddfa ddiwydiannol. Gerllaw mae Cae Rasio Ffos Las sef y cae rasio ceffylau cyntaf i’w greu ym Mhrydain ers 70 o flynyddoedd. Oherwydd yr hinsawdd fwyn ac oherwydd bod y cwrs yn un da am ddal traul, mae gan y cae rasio hwn galendr llawn o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae’r tyrfaoedd yn heidio i’r diwrnodau rasio hyn, sy’n achlysuron difyr i’r teulu cyfan. Dywedir bod ysbryd y Dywysoges Gwenllian yn cerdded maes y gad heb fod ymhell o Gastell Cydweli. Ymhellach lan y cwm mae gan Lyn Llech Owain, sydd yn ganolbwynt i barc 63 erw, ei hanes cyfareddol. Wrth gerdded ar hyd y llwybrau o amgylch y llyn mae’n werth cofio’r chwedl am y Tywysog Owain Lawgoch. Bu Owain Lawgoch yn arwain byddin o Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y Rhyfel Can Mlynedd. Saif Mynydd Sylen uwchlaw’r cwm gan beri inni gofio am garreg filltir bwysig arall yn ein hanes. Ar lethrau Mynydd Sylen y cynhaliwyd y cyfarfod enwog pryd y daeth miloedd ynghyd i gefnogi merched Beca a oedd yn brwydro yn erbyn talu tollau i ddefnyddio’r ffyrdd. Bu brwydrau ar hyd a lled y cwm ers y cyfnod canoloesol. Cydweli yw un o’r cymunedau hynaf yng Nghymru. Er mwyn cadarnhau gafael y Normaniaid ar yr ardal symudwyd mewnfudwyr o Fflandrys, Ffrainc a Lloegr i’r dref. Er gwaethaf ei hanes gwaedlyd mae’r cwm yn heddychlon bellach. Lle bu meysydd brwydro mae caeau ffrwythlon erbyn hyn ynghyd â bwytai sy’n cynnig prydau o safon. Heddiw heidiau o adar sydd i’w gweld yn yr wybren nid cawodydd o saethau.
«
LLE BU BRWYDRAU Ar eu taith tua’r môr mae afon Gwendraeth Fawr yn llifo heb fod ymhell o Gae Rasio Ffos Las, lle mae carnau ceffylau i’w clywed yn atseinio ar draws y cwm, ac mae afon Gwendraeth Fach yn byrlymu heibio i furiau hynafol Castell Cydweli
»
CEI CYDWELI A’I GYFOETH O ALLFORION AUR AC ADAR AMRYFAL Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i ganfod y lanfa a adwaenir bellach fel Cei Cydweli
O
ddi yno y byddent yn allforio yr aur a gloddiwyd yn Nolau Cothi i Rufain. Wedi hynny, bu llong ar ôl llong yn defnyddio’r lanfa yn ystod blynyddoedd y Chwyldro Diwydiannol, ac yna gellid defnyddio camlas Kymer sy’n ymlwybro i’r Cei o Ben-bre. Yn araf bach, cafodd dyfroedd dyfnion genau Gwendraeth Fach a Gwendraeth Fawr eu tagu â llaid y diarhebol Moryd Byrri. I gerddwyr, mae yma lwybrau aberol sy’n ddigon o ryfeddod drwy wlad a fydd yn gyfareddol i unrhyw adaregwr. Mae cyfoeth cyforiog o adar yn yr ardal hon. Yn y sir gyfan, hon yw’r ardal lle ceir yr amrywiaeth mwyaf o rywogaethau adar. Ymhlith y golfanod sy’n nythu yn y llwyni ger y gamlas mae’r Llwydfron Fach, y Llwydfron, Telor Cetti a’r Troellwr Bach. Yn yr hydref neu’r gaeaf, mae’r rhywogaethau canlynol i’w cael yma: yr Wyach Fawr Gopog, y Crëyr Bach, yr Hebog Tramor, y Dylluan Wen, yr Hwyaden Lostfain, yr Hwyaden Lygad Aur, yr Hwyaden Frongoch, y Coegylfinir, y Rhostog Cynffonddu, y Pibydd Gwyrdd, Pibydd y Dorlan, Pioden y Môr, y Cwtiad Torchog, y Cwtiad Aur, y Cwtiad Llwyd, y Gornchwiglen, Pibydd y Mawn, y Pibydd Coesgoch, y Gïach, y Gylfinir, Glas y Dorlan, y Coch Dan-aden. Mae niferoedd Hwyaid yr Eithin yn cynyddu tua diwedd y gaeaf ac mae rhai yn aros yma i nythu. Mae’r rhywogaethau Bras y Cyrs, y Siff-saff, y Telor Penddu a’r Dryw Eurben i’w gweld o amgylch y gwaith trin carthion. Mae Glas y Dorlan a Rhegen y Dwr ˆ i’w gweld ar y gamlas. Ymhlith yr adar prin a welwyd yno mae’r Pibydd Cambig, y Pibydd Coesgoch Mannog a’r Melyngoes Bach. Yn y gaeaf, bydd y Bodion Tin Wen yn hela dros y morfa ac mae’r rhywogaethau, Bod y Gwerni, yr Hwyaden Benddu, yr Hwyaden Gynffon-hir, y Dylluan Fach, y Dryw Eurben a’r Tingoch Du wedi’u cofnodi yma. Mae’r sewiniaid yn gorfod dianc rhag Gweilch y Pysgod yno a gwelwyd hyd yn oed bysgeryrod bendigedig yn bwydo yno pan fydd eira.
GOLWG AR HANES DIWYDIANNOL Y CWM Dewch i Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli i fwynhau diwrnod yn rhyfeddu at hanes diwydiannol y fro, gan gael golwg ar yr holl newidiadau syfrdanol sydd wedi bod ym myd diwydiant dros y canrifoedd.
M
ae digonedd o fannau parcio yn y cyffiniau ynghyd â rhywbeth i ddiddori’r teulu cyfan – boed yn hen locomotif stêm, yn olion y diwydiant tunplat, neu’n ddechreuadau’r diwydiant dur. Hefyd mae’r amgueddfa yn rhoi sylw i’r diwydiant argraffu gan ddangos sut yr arferai papurau newydd gael eu paratoi a’u hargraffu drwy ddefnyddio peiriant Linotype (lle’r oedd angen gosod pob llythyren blwm yn unigol). Mae’n werth dod i ryfeddu at faint y peiriannau anferth hyn. www.kidwellyindustrialmuseum.co.uk
Bwyta
MEYSYDD HWYL LLE BU TWLL DU ENFAWR
Cerdded • Beth am fynd am dro ger Cei Cydweli a Glan yr Afon lle mae llwybrau hyfryd sy’n boblogaidd iawn ag adarwyr. Gwyliwch wrth i’r llanw yrru’r adar i fyny’r aber i chwilio am fwyd.
Coffi & Picnic • Mae’r lle picnic hyfryd ar gopa Heol Mynydd Pen-bre yn cynnig golygfeydd godidog dros Gydweli a’r Cwm. Mae siopau fferm yn fannau cyfleus i gael coffi ac mae Cross Hands ym mhen uchaf y Cwm yn cynnig lluniaeth o bob math.
Mae Cwrs Golff Abaty’r Glyn, sy’n ymestyn fel cwrlid gwyrdd dros 200 o erwau gleision, yn gwrs delfrydol i’r teulu cyfan roi cynnig ar chwarae golff.
M
ae’r cwrs yn addas i chwaraewyr o bob gallu. Yn ogystal mae’r ddarpariaeth i’r dim ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn gyfarwydd â chwarae golff gan fod yno gwrs “Mission” sef cwrs naw twll i ddechreuwyr. www.glynabbey.co.uk
O
herwydd erbyn hyn mae’r ardal wedi ei thrawsnewid yn llwyr yn gae rasio sy’n denu pobl o bob cwr o Ewrop. Pan wnaed y sylw dilornus am y “twll mwyaf ” roedd Ffos Las yn ddiffeithwch du enfawr oedd wedi ei greithio yn sgil cloddio am lo brig. Mae’r ardal wedi ei gweddnewid yn llwyr a bellach mae yno gae rasio sy’n denu’r ceffylau a’r hyfforddwyr gorau i rasys o’r radd flaenaf a hynny drwy gydol y flwyddyn – yn ogystal â bod yn gyrchfan diwrnodau hwyl i’r teulu cyfan. www.ffoslasracecourse.co.uk
PARC SYDD Â LLWYBR OWAIN LAWGOCH A LLWYBR HUGAN FACH GOCH Ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain, sy’n 158 erw o goetir a llynnoedd sy’n wledd i’r llygad ac sydd ger Cross Hands, ceir llwybrau natur, llecyn antur a chanolfan i ymwelwyr.
C
anolbwynt y parc ysblennydd hwn yw’r llyn hynod sef Llyn Llech Owain, sydd wedi ei amgylchynu gan fawnog ac sy’n destun chwedl hyfryd. Yn ôl y chwedl, Owain Lawgoch (a fu’n arwain byddin o Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y Rhyfel Can Mlynedd) oedd â gofal ffynnon ar y Mynydd Mawr. Bob dydd, ar ôl cael digon o ddˆ wr i’w ddisychedu ef ei hun a’i farch, rhoddai Owain y garreg fawr, neu’r llech, yn ôl yn ofalus dros y ffynnon. Ond un tro anghofiodd Owain osod y llech yn ôl yn ei lle a llifodd ffrwd o ddw ˆ r o’r ffynnon i lawr llethr y mynydd gan ffurfio llyn. Yn sgil hynny enwyd y llyn yn Llyn Llech Owain. Codwyd llwybrau pwrpasol er mwyn galluogi pobl i grwydro dros y gors ac o amgylch y llyn yn ddiogel. Mae wyneb llyfn i’r llwybrau hyn ac mae modd i bobl mewn cadeiriau olwyn eu defnyddio’n hwylus. Mae llwybr hudolus drwy’r goedwig sef llwybr hwy Hugan Fach Goch neu gallwch feicio o amgylch y parc gwledig. Mae llwybr Beicio Mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy mentrus. Mae llawer o’r parc yn goetir conwydd, a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y 1960au, ac mae yno hefyd ardaloedd helaeth o rostir sych a choetir coed llydanddail. Mae arwyddion cyfeirio i’r Parc o’r A476 wrth deithio rhwng Cross Hands a Llandeilo. Mae gwasanaethau bysiau rheolaidd i Gors-las.
»
GWIRIONI AR GWRS GOLFF GWYCH ABATY’R GLYN
Pam y byddech am ymweld â llecyn a arferai gael ei alw’n “dwll mwyaf Ewrop”?
TYWYSOGES ARWROL Mae lle pwysig i’r castell yn hanes Cymru fel targed ymosodiad aflwyddiannus y Dywysoges Gwenllïan yn y 12fed ganrif.
M
ae cofeb i Gwenllïan, y dywysoges ryfelgar ger y porthdy. Ar adeg mewn-frwydro taer am yr olyniaeth i’r orsedd yn Lloegr, gwelodd y Cymry eu cyfle i geisio adennill rhywfaint o’r tiroedd a gollwyd ganddynt o feddiant y goresgynwyr Normanaidd. Aeth Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth i’r gogledd i geisio cymorth teulu ei wraig, Gwenllïan, yn ei frwydr. Yn ystod absenoldeb ei gŵr, aeth Gwenllïan ati i herio bygythiad newydd o du’r Normaniaid. Arweiniodd ymosodiad dewr yn erbyn Castell Cydweli, ond ni bu’n llwyddiannus a lladdwyd un o’i meibion yn y frwydr. Roedd dial y Normaniaid yn gyflym ac yn ffyrnig. Dienyddiwyd Gwenllian am frad. Yn ôl y chwedl mae nant yn tarddu o’r fan y bu farw Gwenllïan ar Faes Gwenllïan.
discovercarmarthenshire.com
9 Cydweli a Chwm Gwendraeth
• Cwmcerrig, Cross Hands yw’r lle gorau i fwynhau llond plat o ginio carferi addas i ffermwr sy’n cynnwys cig a fagwyd ar y fferm sy’n amgylchynu’r bwyty.
GORFFENNAF 2015
10
GORFFENNAF 2015
Talacharn
ANAWSTERAU AWENYDDOL YR AWEN YN L YN ANGOF I NHALACHARN LENORION YN NHALACHARN Mae Talacharn yn gyrchfan i lenorion ac awduron – diolch i Dylan Thomas
Os ydych yn chwilio Talacharn yw’r lle i chi
am
ysbrydoliaeth,
Os oes natur farddonol yn perthyn ichi, byddwch yn sicr o gael eich swyno gan lannau Talacharn, islaw’r ‘Boathouse’ byd enwog lle cafodd Dylan Thomas yr awen ar gyfer cynifer o’i greadigaethau llenyddol.
B
u Dylan yn byw yn y ‘Boathouse’ gyda’i deulu am bedair blynedd cyn iddo farw ymhell cyn pryd yn 1953. Hwn oedd ei gyfnod mwyaf llewyrchus o ran ei waith llenyddol. Mae’r adeilad pren hwn yn enwog ledled y byd am ei gysylltiad llenyddol a rhamantaidd â’r bardd mawr. Daw pobl o bedwar ban i dref Talacharn, sy’n gasgliad o adeiladau blith draphlith wrth droed bryncyn, dafliad carreg o’r môr. Gwisgwch eich esgidiau cerdded oherwydd mae cymaint i’w weld ac i ryfeddu a myfyrio yn ei gylch, ac mae’n
siwr ˆ y bydd geiriau rhai o gampweithiau Dylan fel ‘Under Milk Wood’ yn effro yn eich cof. Roedd Dylan yn yfed yng Ngwesty Browns a chewch groeso cynnes yno a chyfle efallai i gwrdd â chymeriadau tebyg i’r rhai y seiliodd Dylan gynifer o’i gymeriadau arnynt. Mae brwdfrydedd y bobl leol ynghylch yr eicon hwn yn heintus, ac maent yn dathlu canmlwyddiant ei enedigaeth gydag arddeliad. Rhyw ychydig uwchlaw’r pentref y mae mynwent Eglwys Sant Martin, lle mae Dylan a’i wraig, Caitlin, wedi’u claddu.
E
rs cyn cof bu pobl ysbrydol yn dyheu am gerdded unwaith yn ôl troed yr Iesu. Yn yr un modd heddiw mae awduron a llenorion yn dyheu am ddilyn Taith Pen-blwydd Dylan i roi awch i’w crefft. Dilynwch y llwybr a bydd yr awen yn llifo. Daw llawer o bobl ar bererindod ar ben-blwydd mawr cyn i ormod o ganhwyllau oleuo llwybr diwedd oes. Gwnânt hynny er mwyn profi’r dref neilltuol a fu’n gymaint o ysbrydoliaeth i Dylan. Ar ei ben-blwydd yn 30 oed ar 27 Hydref, 1944, ysgrifennodd Dylan y gerdd, ‘Poem in October’. Mae’n sôn am fynd am dro ar ei ben-blwydd, hyd at ochr Sir John’s Hill. Cerdd syml yw hon am ei gariad at Dalacharn a mynd yn hˆyn. Mae’n gerdd delynegol sy’n disgrifio’r cri’r adar yn y perthi, twrw’r cychod yn yr harbwr, sisial y dwr ˆ yn yr aber a’r gwynt yn chwibanu yn y coed. Y nefoedd, ansicrwydd yr oes a’r dyfodol roedd y cyfan hyn ar ei feddwl.
GORFFENNAF 2015
• Mae The Cors yn lle arbennig i fwynhau pryd o fwyd. Ceir gardd o gerfluniau hyfryd yno, ystafelloedd diddorol a bwyd bendigedig.
Cerdded • Rhowch gynnig ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas. Os byddwch yn ei cherdded ar eich penblwydd cewch beint am ddim yng Ngwesty Browns!
Coffi & Picnic • Browns Hotel, sydd wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar yn ffasiwn yr oes a fu, oedd un o hoff fannau Dylan Thomas. Roedd yn arfer defnyddio rhif ffôn y gwesty fel ei rif personol! Mae coffi bendigedig ar gael yma a gallwch eistedd yn sedd Dylan ger y ffenestr i’w fwynhau.
Mewn taith fer o 2.2 milltir (3.2 cilometr) ymlwybrodd i fyny’r bryn i fwynhau’r golygfeydd godidog dros yr aber, gan edrych ar ei gartref, a chartref ei awen, yn swatio’n simsan uwchlaw’r dˆ wr. Yn uwch i fyny gwelai Ben Pyrod yn codi fel cawr o’r dyfroedd tywyll ac yn yr heulwen, câi gipolwg ar ogledd Dyfnaint cyn troi i weld Ynys Bˆ yr fel gem ar liain glas o flaen clogwyni garw Dinbych-y-pysgod. Mae’r olygfa yn rhyfeddol ac yn cwmpasu Castell Talacharn. Mae’n hawdd deall sut y gallai’r dirwedd amrywiol a rhyfeddol hon ysbrydoli ac ysgogi pobl i ysgrifennu’n greadigol a gadael i’r dychymyg esgyn fel yr ehedydd fry uwch ben y pentir.
CORFFORAETH TALACHARN O ganlyniad i’r siarter hwn a gadarnhawyd yn ddiweddarach gan Edward I, sefydlwyd Corfforaeth Talacharn.
M
ae bron yn sefydliad unigryw a dyma’r gor fforae th ganoloesol olaf i oroesi yn y Deyrnas Unedig. Hyd at y dydd heddiw, llywyddir y Gorfforaeth gan y Porthfaer, yn sy’n gwisgo cadwyn draddodiadol o gregyn cocos aur, yr Henaduriaid a chorff o fwrdeisiaid. Mae’n dal i gynnal cwrt-lît bob chwe mis i ddelio ag achosion troseddol a chwrt-barwn bob pythefnos i ddelio ag achosion sifil o fewn yr arglwyddiaeth. Mae Neuadd y Dref, lle’r oedd carchar ar un adeg, yn adeilad hardd. Mae system caeau agored Talacharn yn un o ddwy sydd yn dal i gael eu defnyddio ym Mhrydain heddiw. Gellir gweld patrwm y caeau stribed canoloesol ar fryn Hugden, stribedi sy’n eiddo i fwrdeisiaid unigol Talacharn am oes. Bob tair blynedd, ar y Llungwyn, maent yn cerdded terfynau’r tir comin, a bydd pobl leol ac ymwelwyr yn ymlwybro tua 25 milltir o gwmpas terfynau tiroedd y Gorfforaeth. Mewn mannau o bwys hanesyddol arwyddocaol ar hyd y daith, dewisir person i enwi’r lle. Os na allant ateb, cânt eu codi’n ddiseremoni, eu troi ben i waered a’u ‘curo’ dair gwaith ar y pen ôl!
TRYSORAU YN Y SIED Ni fydd gan y rhan fwyaf o ymwelwyr atgofion o’r 1940au – ni fydd yn ddim ond cyfnod diddorol mewn hanes, yn bennaf oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
O
nd sefydlwyd amgueddfa hynod y 1940au – y Tin Shed Experience – gan ddau berson brwdfrydig, a hynny mewn garej a adeiladwyd yn 1933 gan dad un o’r perchnogion. Caiff yr hanes ei adrodd mewn modd dychmygus a doniol yn am.
discovercarmarthenshire.com
11 Talacharn
LIFO YN
Bwyta
12
GORFFENNAF 2015
…Crwydro Sir Gaerfyrddin…
…CRWYDRON SIR GAE
DYNBYCH Y PYSGOD
N
GORFFENNAF 2015
Allwedd 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42 43 44 45 46 47 48 49 50 51 52 53 54 55 56 57 58 59 60 CASTELL NEDD
61 62
Gerddi Aberglasne Taith Gerdded ar Lan yr Afon Dyffryn Aman Coedwig Brechfa a Beicio Mynydd / Cerdded Harbwr a Traeth Porth Tywyn Castell Caerfyrddin Amgueddfa y Sir Gwarchodfa Natur Carmel Bryn Gaer Garn Goch Castell Carreg Cennen Traeth Cefn Sidan, Pen-bre Siop Fferm Cwmcerrig Llwybr yr Arfordir Coedwig Crychan Parc a Chastell Dinefwr Mwyngloddiau Aur Dolaucothi (N.T.) Castell Dryslwyn Cartref Dylan Thomas Traeth Glanyfferi Rasus Ffos Las Theatr y Ffwrnes Gwarchodfa RSPB Gwenffrwd Dinas Rheilffordd Gwili Canolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn Castell Cydweli Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli Castell Talacharn Tˆy Llanelly Castell Llanymddyfri Paddlers Llandysul WWT Canolfan Gwlyptir Llanelli Traeth Llansteffan Castell Llansteffan Parc Gwledig Llyn Llech Owain Llyn y Fan Fach Canolfan Farchogaeth Marros Canolfan Bryn Merlin Parc Arfordirol y Mileniwm Canolfan Rasio Moduron Amgueddfa Cyflymder Parc Coetir Mynydd Mawr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl Amgueddfa Wlân Cymru Castell, Castell Newydd Emlyn Gerddi Norwood Oriel Myrddin Oriel ac Amgueddfa Gelf Parc Howard Maes Rygbi Parc y Scarlets Tˆwr Paxton (N.T.) Parc Gwledig Pen-bre Traeth Pentywyn Play King – Canolfan Chwarae Antur Meddal dan do i Blant Quad Challenge, Rhydaman Red Kite Feeding Centre, Llanddeusant Canolfan Siopa Rhodfa’r Santes Catrin Castell y Strade Abaty Talyllychau Y Gât, Canolfan Grefftau, Sanclêr Canolfan Siopa Parc Trostre / Pemberton Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru Bowlio Xcel Parc Natur Ynys Dawela
Heb fod ymhell o Sir Gaerfyrddin mae gennym hefyd... 63 64 65 66 67 68 69 70 71 72 73
Rhaeadr Aberdulais Maen Ceti Folly Farm Canolfan Treftadaeth y G ˆwyr Oakwood LC2 (Canolfan Hamdden) Pier y Mwmbwls Gamlas Castell Nedd Castell Ystumllwynarth Tˆy Gwledig Manor Park Heatherton Family Leisure Park
discovercarmarthenshire.com
…Crwydro Sir Gaerfyrddin…
ERFYRDDIN…
13
14
GORFFENNAF 2015
Morlan Elli
Tyfodd yr ardal dawel hon yn aruthrol gan ddod yn brif ganolfan cynhyrchu tun y byd, a ffynnu yn sgil hynny Dros ganrif trodd Llanelli o fod yn bentref bychan gwledig i fod yn ardal ddiwydiannol lle’r oedd 72 o simneiau anferth yn chwydu cymylau o fudreddi ddydd a nos. Ond bu tro ar fyd ac awyr las sydd i’w gweld yno bellach. have returned.
A
r ddechrau’r chwyldro diwydiannol gwneud llongau a chodi glo oedd prif ddiwydiannau’r dref, ac yna sefydlwyd y gweithfeydd tunplat a dur a roes i Lanelli ei henwogrwydd. Erbyn hyn tref y llecynnau glas ar gyrion glannau Bae Caerfyrddin yw Llanelli, ac mae’n tyfu fel cyrchfan h a m d d e n boblogaidd. Yn ystod y degawdau diwethaf mae fel petai rhyw ddewin wedi trawsnewid Tinopolis yn llwyr. Mae’r holl ddiwydiannau trymion oedd yn cuddio ac yn creithio’r arfordir wedi cilio i’r llyfrau hanes neu wedi symud i b a r c i a u diwydiannol modern o olwg y glannau. Rhoddwyd rhaglen adfywio anferth ar waith gan greu swyddfeydd a gweithleoedd modern newydd ynghyd â llu o fwytai, bariau, siopau (ac addewid o ragor o westai) a hynny mewn ardal lle mae galw enfawr am dai moethus a thai fforddiadwy. Mae parciau dymunol ger canol y dref, ac ar gwr y dref y mae Parc Arfordirol y Mileniwm sydd wedi ennill gwobrau lu. Yn ddiamheuaeth mae crwydro’r Parc ar droed neu ar gefn beic yn brofiad bythgofiadwy. Bydd y sawl sy’n ymweld â’r Parc yn rhyfeddu at y golygfeydd gwych dros Fae Caerfyrddin tuag at Benrhyn Gwyr ˆ ac Ynys Bˆ yr, gan gael eu cyfareddu wrth wylio’r haul yn machlud a hynny o dref sy’n frith o hanes.
«
LLANELLI AR EI NEWYDD WEDD Byddwch yn dwlu ar Lanelli ar ôl dechrau adnabod y dref hon sy’n gyforiog o drysorau cudd. Mynachod oedd y bobl gyntaf i ymsefydlu yn Llanelli gan godi mynachlog ar y glannau, a’r enw ar y llecyn hwnnw hyd heddiw yw Machynys – sef ynys y mynachod
PLASTY AG YSBRYD A NAWS ARBENNIG Ynghanol tref Llanelli y mae parc 24 erw y gallech yrru heibio iddo heb sylwi arno.
TREF FODERN LLE ERYS SWYN Y GORFFENNOL Fel sydd wedi digwydd yn achos yr arfordir mae’r dref ei hun wedi ei gweddnewid, gan gamu i’r oes fodern.
M
yrdd o gymunedau yw’r dref ac mae hynny’n sbardun i’r Llanelli newydd. Yng nghanol y dref, sy’n newid yn barhaus, mae sinema aml-sgrin newydd Odeon, theatr o’r radd flaenaf yn y Ffwrnes sy’n cynnig gwledd o adloniant, ac amrywiaeth o fwytai sy’n arlwyo bwyd at ddant pawb. Mae swyddfeydd yn cael eu datblygu yn rhan o’r gwaith adfywio gan baratoi’r ffordd ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth newydd. Ochr yn ochr â’r holl brif siopau y mae llyfrgell fodern, adeilad hanesyddol Plas Llanelly o’r cyfnod Edwardaidd a’r cyfan wedi’u cysylltu gan strydoedd, llwybrau troed a llwybrau beicio ynghyd ag adeiladau wedi’u huwchraddio. Mae’r pyramidau gwydr yn y to yn rhoi naws golau ac awyrog i Ganolfan Siopa Sant Elli. Saif y ganolfan yng nghanol y dref ger y farchnad dan do boblogaidd lle mae 64 o stondinau.
O
nd byddech ar eich colled. Mae Plasty Parc Howard yn adeilad hanesyddol lle mae ysbryd yn ôl y sôn ynghyd ag amgueddfa fechan lle cynhelir o bryd i’w gilydd arddangosfeydd o weithiau artistiaid lleol. Saif y plasty ynghanol gerddi hyfryd lle mae gwelyau blodau tymhorol ynghyd â chasgliad o goed nodedig lle mae cysgod dymunol ar dywydd crasboeth. Yno hefyd y mae lawntiau bowlio, lle chwarae i blant a Meini’r Orsedd. Adeiladwyd y plasty gan y teulu Buckley, y bragwyr, ac fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan y teulu Stepney a roddodd y plasty a’r gerddi ym 1920 i’r cyngor lleol – ac awdurdodau lleol sydd wedi cynnal Parc Howard hyd heddiw. Mae’r plasty wedi ei leoli’n hwylus ar y ffordd i Felin-foel ond prin yw’r mannau parcio, er bod modd parcio ar y strydoedd cyfagos weithiau. Taith 10 munud yw hi os penderfynwch gerdded yno o ganol y dref. Mae’n werth dod i Barc Howard i gael profiad cofiadwy.
«
Bwyta
Cerdded • Beth am fynd am dro bach o amgylch y llyn ym Mharc Dwr ˆ y Sandy? Mae’n lle gwych i gerdded, mae digonedd o adar i’w gweld yno ynghyd â golygfeydd dros yr aber a Pharc Arfordirol y Mileniwm.
Coffi & Picnic
CASTELL LLE BU TARDIS DR WHO Saif Castell y Strade, sy’n blasty urddasol o oes Fictoria, ar gwr y goedwig wrth ichi deithio tua’r gorllewin o Lanelli. Glaniodd tardis Dr Who yma un tro Dyma gartref teuluol y teulu Mansel Lewis. Mae’r plasty, sydd wedi ei adfer i’w hen ogoniant, yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd fel lleoliad ffilmio ac mae wedi ymddangos mewn cyfresi megis Dr Who. O bryd i’w gilydd cynhelir diwrnodau agored yng Nghastell y Strade ac mae’n werth cadw golwg amdanynt ynghyd â’r garddwesti elusennol, gan fod ymweld â’r plasty a’r gerddi yn brofiad bythgofiadwy. www.stradeycastle.com
• Bron nad oes gormod o ddewis o ran cael coffi da yn Llanelli. Dewiswch rhwng y balconi yng Nghlwb Golff Penrhyn Machynys, neu’r balconi yng Nghaffi Flanagan, yn y Ganolfan Ddarganfod – mae’r ddau yn cynnig golygfeydd godidog a choffi ardderchog. Beth am ymweld â’r ddau le?
» TRE’R SOSBAN, TRE’R CAMPAU Mae’r Scarlets, tîm rygbi chwedlonol Llanelli, yn enwog ledled y byd.
Y
mhlith oriel yr anfarwolion dros y 100 mlynedd diwethaf y mae Albert Jenkins, Phil Bennett a George North. Ychydig flynyddoedd yn ôl symudodd y Clwb o’i hen gartref enwog, sef Parc y Strade a oedd yn dechrau mynd ar ei waeth, i stadiwm newydd sbon Parc y Scarlets. Roedd angen cael cartref newydd modern oedd yn gweddu i ddull herfeiddiol Ewropeaidd y tîm o chwarae rygbi gan sicrhau bod y clwb yn dal i fod ar flaen y gamp. Mae’n werth ymweld â’r stadiwm newydd i flasu’r naws arbennig a hefyd i ryfeddu at holl hen hanes y clwb. Ond mae mwy na dim ond rygbi ar gael yn Llanelli gan fod modd mwynhau amrywiaeth o gampau a gweithgareddau yno, gan gynnwys bowlio, beicio, marchogaeth ceffylau a bordhwylio. Yn ogystal mae gan y dref ganolfan hamdden sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf, mynediad hygyrch a digonedd o gyfleoedd a gweithgareddau iachus yn yr awyr agored.
discovercarmarthenshire.com
15 Morlan Elli
• Mae bwyty newydd y Sosban wrth ymyl Doc y Gogledd, Llanelli yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dwlu ar fwyd. Mae’n ffasiynol iawn ac mae’r bwyd yn wych hefyd.
GORFFENNAF 2015
16
GORFFENNAF 2015
Morlan Elli
O ‘HEATHROW’ I CHWEDLAU’R MABINOGI B
Mae’r parc arfordirol yn Llanelli yn frith o bethau diddorol y gallwch eu darganfod ar droed, ar gefn beic neu mewn car Ym mhen dwyreiniol Parc Arfordirol y Mileniwm y mae Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru sy’n rhyw fath o Heathrow i fwy na 600 o rywogaethau o adar sy’n hedfan yno o bedwar ban y byd.
oed yn adarwyr o fri neu’n deuluoedd sydd â’u bryd ar fwynhau diwrnod diddorol, mae amrywiaeth anferth o adar yma, gan gynnwys fflamingos Caribïaidd pinc a cheiliogod y waun, i gyfareddu pawb. Mae hwyaid ac elyrch o bob lliw a llun i’w gweld yn y ganolfan, a chynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys teithiau cerdded i wrando ar gôr y bore bach sy’n cynnwys brecwast blasus ym mwyty’r ganolfan ar ôl y daith. Yn Noc y Gogledd, Llanelli mae promenâd ysblennydd, golygfannau, a llwybrau troed a beicio sy’n mynd i bob cyfeiriad trwy’r Parc. Gan fod meysydd parcio helaeth yn y llecyn hwn mae’n fan delfrydol i ddechrau crwydro’r parc.
Canolbwynt y parc yw’r Ganolfan Ddarganfod, sy’n cynnwys canolfan ymwelwyr a Bwyty Flanagan - sydd â balconi lle mae’r golygfeydd gorau dros Fae Caerfyrddin. Yn ogystal mae yno fwth hufen iâ ynghyd â siop hufen iâ dan do lle gwerthir mwy na 50 o wahanol flasau ynghyd ag amrywiaeth o gornedau. Ewch i ben pellaf y promenâd a mynd dros ddwy o’r pontydd tir mwyaf yn y byd sy’n croesi’r brif reilffordd, er mwyn cyrraedd Parc Dwr ˆ y Sandy ger Coed y Mabinogi. Hwnt ac yma yn y Coed, sydd wedi eu plannu ar fryncyn a grëwyd o rwbel hen waith dur Duport (sydd wedi ei ddymchwel bellach), y mae cerfluniau sy’n cyflwyno ceinciau’r Mabinogi. Wrth grwydro tua’r gorllewin ar hyd llwybr yr arfordir byddwch yn gwirioni
ar y golygfeydd gwefreiddiol, a ddisgrifiwyd fel y rhai gorau ar hyd arfordir Prydain. Oedwch ger Coetir Porth Tywyn i gael golwg ar y pyllau pysgota ac ar y cerflun tir troellog, a grëwyd ar ffurf cragen dro o dywod a phridd, y mae plant wrth eu boddau yn rhedeg ar hyd y llwybr sy’n troelli hyd at frig y cerflun. O’r man uchaf gallwch weld Ynys Bŷr tua’r gorllewin, yr Ynys Wair tua’r de a Chastell Casllwchwr tua’r dwyrain, ynghyd â’r dyfroedd sy’n llenwi Bae Caerfyrddin ddwywaith y dydd. Mae yma lwybrau a llecynnau picnic hyfryd ynghyd â thraeth euraidd diarffordd. Dyma baradwys fechan i bobl ei ddarganfod.
GORFFENNAF 2015
17 Morlan Elli
CHWARAE PLANT... Mae Play King mewn man cyfleus yn Nafen nid nepell o’r M4 ar y ffordd i Lanelli ac mae’n lle chwarae ardderchog i blant 12 oed ac iau Mae’r ganolfan sydd ar agor bob dydd yn cynnig lle chwarae meddal, pyllau peli, difyrion a chaffi lle gall yr oedolion ymlacio tra bydd y plant yn cael hwyl. www.theplayking.com
LLITHRO AR Y LLITHREN Mae Parc Sglefyrddio Ramps yn llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond mae wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos oherwydd ei leoliad cyfleus a’r amrywiaeth o rampiau sydd yno Mae yno gaffi sydd â 70 o seddi lle gall y sglefyrddwyr drafod symudiadau a chyfnewid cynghorion am eu crefft, ynghyd â siop sy’n gwerthu’r dillad a’r offer diweddaraf. www.rampskatpark.co.uk
discovercarmarthenshire.com
18
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Llanymddyfri a rhan orllewinol Bannau Brycheiniog
BETH AM WNEUD EICH FFORTIWN WRTH DDILYN ÔL TRAED Y RHUFEINIAID?
• Mae bwyd blasus yng Ngwesty’r Castell. Rhowch gynnig ar y Wyau Selsig!
Cerdydd • Cerddwch i Lyn y Fan Fach neu dilynwch lwybr rhaeadr Cil-y-cwm, sy’n llwybr ag arwyddion ac yn cynnig cipolwg arbennig ar y rhaeadr trwy’r coed. http://www.forestry.gov.uk/web site/ourwoods.nsf/LUWebDocs ByKey/WalesCarmarthenshireN oForestCwmRhaeadrCwmRhaea drCarParkWaterfallWalk
Coffi & Picnic • O ran coffi mae’n rhaid i chi alw gyda’r meistri yn yr ystafell de ym Mhenygawse i gael coffi perffaith, amgylchedd hyfryd a theisennau blasus – i’r dim!
Gall y Rhufeiniaid honni mai nhw oedd y twristiaid cyntaf i ymweld â’r rhan hon o’r byd. Roeddent ar ben eu digon pan ddaethant o hyd i aur ym mryniau Dolaucothi
M
ae cyfle gennych i wneud yr un peth oherwydd bellach, mae’r gloddfa aur yn un o atyniadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n cynnig cyfle i chi gloddio am aur. Mae ardal gysgodol a diarffordd Dyffryn Cothi lle gorwedda’r aur hwn yn gyferbyniad llwyr i fynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog, sef asgwrn cefn
PROFIAD PLESERUS YN Y PWLL Cymru. Caiff Dolaucothi ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o safbwynt daearyddol a biolegol oherwydd yr amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd sydd yno. Mae yno gasgliad gwerthfawr o fwsoglau a chennau, llysiau’r afu a rhedyn sy’n eithaf prin ac wedi’u gwarchod gan y gyfraith.
Mae’r sawna, y jacuzzi a’r staff cymwysedig sy’n gweithio ym mhwll nofio modern Llanymddyfri yn sicrhau bod y lle’n gyrchfan deuluol i’r sawl sydd eisiau mwynhau profiad pleserus ac ymlaciol.
O
a ydych yn teimlo’n fwy egnïol, cofiwch ofyn i staff am y rhaglen weithgareddau sy’n cynnwys aerobeg dˆ wr. www.actifsirgar.co.uk
GORFFENNAF 2015
Llanymddyfri a rhan orllewinol Bannau Brycheiniog
LLANYMDDYFRI Ystyr yr enw Llanymddyfri yw ‘eglwys neu anheddiad ger y dwr’ ˆ
Edrychwch ar fap ac fe welwch pam. Mae’r Tywi yn afon gref erbyn iddi gyrraedd Llanymddyfri, lle roedd rhyd hyd yn oed yn adeg y Rhufeiniaid.
Y
r afonydd eraill yw Bran (i’r gogledd) a Gwydderig (i’r dwyrain), heb anghofio dwy nant, Dyfri a Bawddwr – a oedd yn garthffos agored ar un adeg! Tref farchnad oedd ac yw hon o hyd. Sylwch ar bensaernïaeth y ganolfan grefftau a’i thˆ wr wythochrog – dyma’r farchnad gig yn wreiddiol. Rhaid mai’r 18fed ganrif oedd oes aur Llanymddyfri pan oedd y porthmyn yn dod â defaid a gwartheg yma ar eu ffordd i farchnadoedd anifeiliaid enfawr Henffordd, Canolbarth Lloegr a marchnad Smithfield yn Llundain. Sylwch ar gerflun y porthmon y tu allan i’r Ganolfan Wybodaeth Twristiaid. Un o enwogion y dref oedd Llywelyn ap Gruffydd Fychan a gafodd ei ladd oherwydd iddo gefnogi’r arweinydd Cymreig Owain Glynd w ˆ r – mae’r cerflun dur yn tystio i’r ddrama; roedd yr emynydd Cymreig William Williams Pantycelyn yn byw gerllaw ac mae wedi ei gladdu ym mynwent
Llanfair-ar-y-bryn; bu brwydr enwog y Ficer Pritchard â gafr yn ddigon iddo yntau newid ei ffyrdd. Mae’r hanes yn y Ganolfan Wybodaeth Twristiaid. Adeiladwyd y castell o dywodfaen lleol gan y Normaniaid. Cipiodd Rhys ap Gruffydd ef yn 1158 a’i ailadeiladu. Bu’n dyst i frwydrau lu rhwng y tywysogion Cymreig yn ogystal â brwydrau yn erbyn coron Lloegr dros y ddau gan mlynedd canlynol. Dim ond darnau o ddau dˆ wr a rhywfaint o’r waliau a saif yn awr. Adeiladau eraill o bwys yw’r Ganolfan Wybodaeth Twristiaid ar gyrion y maes parcio, sy’n llawn arddangosfeydd addysgiadol, ac adeilad y King’s Head, tafarn draddodiadol y goets fawr lle sefydlodd y porthmon, David Jones, Fanc yr Eidion Du. Ceir dwy eglwys – Llandingat, sydd wedi’i hadeiladu lle bu eglwys Geltaidd gynnar ar un adeg o bosib ac eglwys Llanfair ar safle gwersyll Rhufeinig; mae briciau Rhufeinig felly wedi’u defnyddio yn yr adeilad. Sylwer hefyd ar y ffenestr hardd o wydr lliw gan John Petts.
CHWILIO AM FARCUD Edrychwch i’r bryniau o’ch amgylch ac mae hi bron yn sicr y welwch chi olygfa odidog o acrobat yr awyr sef y Barcud Coch. Mae’r stori am adfer yr aderyn gwych hwn a oedd bron â diflannu yn un eithaf arbennig.
Y
chydig cyn y mileniwm, roedd llai na 30 pâr magu o’r barcudiaid hyn sydd ag arlliw o goch nodedig a chynffon daen fforchog drawiadol. Bellach, amcangyfrifir bod mwy na 500 o barau magu ac maent wedi ymledu a chytrefu tiriogaeth sy’n ymestyn i arfordir Llanelli a thu
19
hwnt. Mae’n stori eithriadol ynghylch ymyrraeth dyn yn talu ar ei ganfed er budd natur ac mae cyfle i chi brofi golygfa odidog y meistri hyn yng Nghanolfan Bwydo Barcudiaid Coch ym mhentref hynod Llanddeusant. O ddiogelwch cuddfan sydd wedi’i hadeiladu’n arbennig, gallwch weld yr adar yn cystadlu am fwyd wedi’i ddarparu’n naturiol gan y ganolfan fwydo sawl gwaith drwy gydol y flwyddyn.
discovercarmarthenshire.com
20
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Llandeilo a Dyffryn Tywi
Y CANOLOESOL A’R CYFOES CASTELL A THYˆ GWYDR
• Mae cogyddion gwych yn yr Angel ac yng Ngwesty’r Cawdor sy’n arbenigo mewn gweini prydau dychmygus gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
Cerdded • Mae digonedd o lwybrau cerdded i’ch difyrru ym Mharc Dinefwr. Dilynwch lwybr y Castell, sydd ag arwyddion, neu rhowch gynnig ar un o’r llwybrau eraill – mae digon o ddewis ac mae taflenni ar gael yn Nerbynfa Ymwelwyr Dinefwr. Mae llwybrau o bob hyd ar gyfer pob hwyl.
Coffi & Picnic
»
• Gallwch gael paned o goffi arbennig yng Nghaffi Braz neu yng nghaffi Barita sydd gyferbyn ag ef. Pa bynnag un a ddewiswch mynnwch gael darn o deisen cartref! Mae safleoedd picnic ym mhobman yn Llandeilo. Ewch i Barc Dinefwr, mae’r castell yno yn werth ei weld! I gael picnic mewn safle mwy heriol beth am gerdded i gopa Garn Goch, bryngaer Oes Haearn, ger Bethlehem.
Yn Llandeilo a’r cyffiniau yn Nyffryn Tywi ceir rhai o’r adeiladau eiconig mwyaf hynafol a mwyaf modern yng Nghymru gyfan Ffolineb fyddai cymharu harddwch godidog Castell Carreg Cennen – a saif, braidd y gwn sut, ar ben dibyn serth – ag adeilad sydd yn is i lawr y dyffryn hardd a’r un mor odidog â’r castell ac eto’n gwbl fodern sef y t yˆ gwydr sydd â’r to un bwa mwyaf yn y byd a lle mae cartref Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ffolineb, oherwydd ei bod yn beth hurt ac mor annhebygol crybwyll y ddau adeilad eiconig, ac eto mor wahanol i’w gilydd, yn yr un frawddeg.
M
ae Castell Carreg Cennen yn dyddio o’r 12fed ganrif. O’i weld wrth yrru heibio am y tro cyntaf, amhosibl yw peidio ag aros i ymweld â’r lle. Mae golygfeydd panoramig a rhyfeddol i’w cael o’i ragfuriau. Mae yno dramwyfa do bwaog sy’n ddigon i ddychryn dyn ac ogof danddaearol ac annaearol sy’n peri i chi fod yn nerfau i gyd. Rhaid rhyfeddu wrth arloesedd adeiladwyr Castell Carreg Cennen a dewrder y rhai a geisiai ymosod ar y castell. Byddent wedi wynebu her a hanner a fyddai wedi gwthio eu cyrff i’r eithaf wrth iddynt geisio straffaglu i fyny
ochrau serth y bryn neu ddringo wyneb y graig serth i’r brig lle safai muriau cedyrn y castell. Ac o un eithaf i’r llall yr awn, i’r campwaith peirianegol, bregus ei olwg hwnnw, tˆy gwydr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle mae mwy na 8,000 o blanhigion yn harddu 560 o erwau cefn gwlad. Mae gan yr Ardd raglen weithgareddau gynhwysfawr ac mae’r planhigion sydd i’w gweld ynddi yn newid drwy gydol y tymor. Bob hyn a hyn, bydd planhigion estron sy’n blodeuo’n anaml ac am gyfnod byr yn unig yn denu sylw pobl o bob cwr o’r byd. Nid nepell o’r Ardd Fotaneg mae Gerddi Aberglasne sydd wedi ysbrydoli beirdd ac arlunwyr ers ymron 550 o flynyddoedd a ffotograffwyr hefyd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Fe’i disgrifiwyd, yn ddiduedd, fel yr ardd orau yng Nghymru, ac mae mor haeddiannol o’i theitl, Gardd Dreftadaeth Arbennig. Yn ogystal, yn y wlad o’i chwmpas, mae castell hudolus Dinefwr; bylchfuriau Tywysogion Cymru yng Nghastell Dryslwyn sy’n gyfoeth o hanes Cymru – hanes llawn brad a gwaed – a’r warchodfa natur genedlaethol a chastell ym Mharc Dinefwr. Ochr yn ochr â’r holl ysblander hwn mae’r ffoledd, Twr ˆ Paxton, sydd â golygfeydd heb eu hail dros ddyffryn hynod o hardd.
CROESFAN A LLWYBR MASNACH Mae Llandeilo yn dref ar lwybr masnachu modern, a fu gynt yn dref lle roedd y goets fawr yn galw ar ei thaith, ac mae hyn i’w weld yn yr amrywiaeth arbennig o siopau From fine wools and linens to Heavenly ice cream and sweets; fashion experts there are a veritable treasure trove of unusual gift opportunities from the shops that tumble through the town.
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Cerdded • Dilynwch y daith gron o amgylch y castell, mae’n llwybr hawdd ac yn cynnig golygfeydd gwych dros y castell a’r afon.
Coffi & Picnic • Mae digon i’w wneud ac i’w fwynhau ar wyliau yn Nyffryn Teifi sy’n un o ardaloedd harddaf Cymru. Mae cyfleoedd di-rif i fwynhau picnic ar lan yr afon sy’n llifo o’r mynydd i’r môr. Gallwch ymweld â chestyll, cael golwg ar gelf a chrefft a mwynhau gweithgareddau awyr agored.
CYFLE I WERSYLLA YN Y DULL CHEROKEE A GWYLIO’R EOGIAID YN LLAMU
Mae Dyffryn Afon Teifi yn cynnig amrywiaeth o brofiadau i ymwelwyr, o gyfle i wersylla yn y dull Cherokee i wylio’r eogiaid yn llamu.
GLOYWI EICH GALLU ARTISTIG GYDA HELEN
M
ae’r cymunedau sy’n bodoli o boptu’r afon ar ei thaith drwy gefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn camu’n betrus o orffennol lle buont yn cynhyrchu bwyd a thecstilau ar gyfer y byd ehangach. Gall ymwelwyr ymhyfrydu yn y trywydd treftadaeth ar hyd yr afon, a phrofi pob math o bethau, o wehyddu a chyryglau i wersylla o dan amrywiaeth rhyngwladol o ganopïau cynfas cartref. Ar un adeg, y diwydiant gwlân oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru, ac felly nid yw’n syndod bod Amgueddfa Wlân Cymru yn adeilad hanesyddol Melin Cambrian gynt yn Nre-fach, Felindre. Gwelwyd crysau, siolau, blancedi, carthenni, a sanau o’r felin honno ym mhedwar ban byd. Ym melin fasnachol Melin Teifi gall ymwelwyr ddilyn y broses o greu gwlân ar beiriannau cymhleth, o’r cnu i’r ffabrig, a gall ymwelwyr ifanc fwynhau rhoi cynnig ar gribo, gwehyddu a gwnïo. Yn Rhaeadr Cenarth roedd yr afon nid yn unig yn cael ei defnyddio gan felinau lleol, ond hefyd yn denu pysgotwyr mewn cyryglau. Mae’r rhaeadr enwog yn gefndir i’r eogiaid a’r sewin mudol ac yn y tymor priodol fe’u gwelir yn llamu rhwng y creigiau a’r dŵr sy’n troelli i gyrraedd eu safleoedd silio. Mae Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl yng Nghenarth yn cynnwys casgliad o’r cychod bach hyn, sy’n edrych mor fregus, ond sy’n rhyfeddol o wydn.
Chewch chi ddim cyfle’n aml i weld artist neilltuol wrth ei gwaith.
« Mae safle gwneud caws yno, a hyd yn oed gyfle i fynd yn wyllt yng Nghanolfan Antur Cenarth sy’n cynnig saethu pelenni paent, brwydrau laser, saethyddiaeth coetir, a rasio bygis rheolaeth o bell oddi ar y ffordd. Mae plant wrth eu bodd yn Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru yn gweld y casgliad anferth o Eirth Tedi, ac mae’r tadau a’u meibion yn cael llawn cymaint o bleser yn gweld y lliaws o geir tegan Dinky, a fydd yn ennyn atgofion lu. Y dref fwyaf ar lannau afon Teifi yw Castellnewydd Emlyn, lle mae castell o’r 13eg ganrif, gyda phorth deudwr, yn codi’n uchel uwchlaw’r afon. Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored ac yn mwynhau gwersylla moethus (gwârsylla), mae Larkhill Tipis yn cynnig profiad rhyngwladol o fyw mewn unrhyw beth o alachigh Iranaidd i ger Mongolaidd, yn ogystal â rhywbeth a allai fod yn fwy cyfarwydd sef tipi Brodorion America.
O
nd dyna’n union a geir gan Helen Elliot – Art of Wales Tollgate Studio and Gallery yng Nghastellnewydd Emlyn, gan ei bod hi’n caniatáu i chi ei gwylio’n creu rhyfeddodau mewn paent o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn, 11am – 6pm, drwy gydol y flwyddyn. Mae oriel y stiwdio’n arddangos gweithiau newydd gwreiddiol wrth iddynt gael eu cwblhau, cyn iddynt gyrraedd yr orielau. www.helenelliot.net
discovercarmarthenshire.com
Castellnewydd Emlyn a Dyffryn Teifi
• Mae llawer o fwytai, caffis a thafarnau yn Nyffryn Teifi yn cynnig amrywiaeth eang o ˆ fwyd a diod. Byddwch yn siwr o gael gwledd sy’n gweddu i’ch anghenion.
21
22
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Pentywyn
• Mae’r Springwell Inn yn enwog am ei sglodion cartref a’r cinio dydd Sul gorau â phwdin efrog cartref.
TRAETH Y GWIBWYR Cerdded AC ARFORDIR Coffi & BLUE BIRD Picnic
• Dringwch Drwyn Gilman drwy ddilyn y grisiau i’r copa i weld yr olygfa dros Draeth Pentywyn ac Ynys Bˆyr.
• Caffi Barnacles ar y traeth. Caffi The Point. Safle picnic ger y traeth
Recordau Byd Cyflymdra ar Dir dros Filltir ar wib, Traeth Pentywyn 1920au 25 Medi 1924 21 Gorffennaf 1925 27 Ebrill 1926 8 Ebrill 1926 4 Chwefror 1927
Campbell Campbell Parry Thomas Parry Thomas Campbell
Er taw arfordir cymharol fechan sydd gan Sir Gaerfyrddin gellid dadlau bod y traethau euraid sydd ar hyd iddo ymysg y goreuon
M
ae Pentywyn yn draffordd o draeth saith milltir o hyd, sy’n enwog am orchestion Malcolm Campbell yn ‘Blue Bird’ a JG Parry-Thomas yn ‘Babs’ wrth dorri record y byd am gyflymder dros y tir. Mae yno amgueddfa sy’n adrodd yr hanes, lle gellir gweld ‘Babs’ ei hun gan fod llawer o ofal wedi cael ei gymryd i’w adfer. Ym mhen gorllewinol Pentywyn gwelir clogwyni ac arfordir garw lle ceir llwybr sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Ceir bryngaerau yma ac acw a golygfeydd ysblennydd dros Fae Caerfyrddin am ychydig dros bedair milltir hyd at gildraeth Amroth. Mae’r planhigion, yr anifeiliaid, a’r adar oddi fry yn gweddu i’r prydferthwch gerwin hwn, ac maent yn celu tystiolaeth filwrol y cyn-faes hyforddi hwn a ddefnyddiwyd adeg yr Ail Ryfel Byd.
146 milltir yr awr 150 milltir yr awr 168 milltir yr awr 170 milltir yr awr 174 milltir yr awr
PETHAU I’W WNEUD Mae Welsh Activity Holidays yn cynnig pob math o weithgareddau awyr agored i’r ymwelydd egnïol yn cynnwys arfordiro, beicio mynydd, cerdded nordig, canw ˆ nio, dringo, abseilio a hyd yn oed y cyfle i ymlacio wedyn a chael triniaeth sba bendigedig.
M
ae Morfa Bay Adventure ym Mhentywyn yn cynnig sawl gweithgaredd tebyg, ond hefyd yn rhestru cwrs ymosod mwd a sgrialfa coedwigol ymhlith y sialensiau grwp! ˆ Gall ymwelwyr ddarganfod beth sydd ar gael a bwcio ar-lein o flaen llaw am gyrsiau antur hanner diwrnod i’r teulu. Ac os yw carlamu drwy’r tonnau neu ferlota drwy goetiroedd deiliog yn denu, yna mae gan Ganolfan Farchogaeth Marros bopeth at eich dant. Caiff plant ifanc gyfle i berchen merlen am y dydd er mwyn dysgu am bob agwedd ar ofal ceffylau – ac mae pob agwedd yn golygu hynny’n llythrennol, ‘ôl a blaen’. Am brofiad bythgofiadwy!
TEIMLO’N DDA YN Y GOEDWIG Coed Castell Moel – hafan heddychlon yw hon lle mae tair coedwig hynafol o amgylch dolydd a choedwig gynhenid sydd wedi’i phlannu’n ddiweddar.
M
ae’n lle hawdd ei gyrraedd ac mae modd parcio yno am ddim. Golyga’r llwybrau drwy’r coed a’r dirwedd gyforiog ei phlanhigion a’i hanifeilaid fod hwn yn fan delfrydol i gael awyr iach ac yn lle sy’n rhoi modd i fyw i rywun. www.darganfodsirgar.com
Bwyta
GORFFENNAF 2015
Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr
• Ystafell De Amser Te, neu Bwyty Roadhouse yn Hendy-gwyn. Caffi Tollhouse yn Sanclêr, Jabajak yn Llanboidy a Tafarn Y Plash, Llanfallteg.
Cerdded ˆ cerdded yn • Mae gr wp Hendy-gwyn ar Daf sy’n mynd am dro yn rheolaidd o amgylch y dref farchnad hynod hon. Ymunwch â nhw drwy gysylltu â sawestham@btinternet.com
Coffi & Picnic • Mae gweddillion y Castell yn safle poblogaidd am bicnic ac mae llawer mwy ar hyd glannau’r Afon Taf. Ma Coffi, cacen a chroeso cynnes yn aros i chi yn Lolfa Cynin ychydig y tu allan Sanclêr.
DANTEITHION TWRCI A THRYSOR CUDD O siocledi blasus, potiau o fêl gludiog a phasteiod twrci i dlysau gwydr, crochenwaith a theis wedi’u gwau... Dyna’r amrywiaeth lliwgar o gelf a chrefft a fydd yn eich denu wrth ichi archwilio porth gorllewinol y sir. Crëwyd Canolfan Grefftau’r Gât yn Sanclêr mewn hen felin ac mae’n cynnig oriel i dechnegwyr celf a chrefft o bob rhan o’r sir.
M
ae yma siop, lle cyfarfod, stiwdio, ac mae’n cynnal arddangosfeydd celf a chrefft yn rheolaidd. Gall plant gael partïon yma a phaentio eu crochenwaith eu hunain a hyd yn oed ddilyn y broses hyd at y cam tanio. Gan barhau â’r thema celf a chrefft, mae gan Ganolfan Grefftau Glyn Coch gist drysor o roddion a wnaed gan gwmnïau teuluol bychain o Gymru a chrefftwyr unigol. Mae ganddynt hyd yn oed ganolfan decstilau lle maent yn cynhyrchu
23
dillad sy’n cael eu gwehyddu neu eu gwau o wlân eu defaid brîd prin eu hunain. Mae yma lestri tsieini, crochenwaith, sebon, printiau, lluniau olew, lluniau dyfrlliw, cyffug, dragwniaid o ddreigiau ym mhob deunydd, yn ogystal â mygiau defaid. Mae llwybr cerdded drwy’r coetir cyfagos, lle ceir golygfeydd godidog a chyfle i astudio bywyd gwyllt gan fod yma 70 o adar, ystlumod ac ymlusgiaid gwahanol, yn ogystal â chyfle i weld amffibiaid yn agos. Yn ogystal â mynd yn ôl at natur, gallwch roi cynnig ar rwbiad pres neu wrando ar hen alawon ar radios sy’n dyddio’n ôl i’r 1940au mewn amgueddfa ar y safle, sydd hefyd yn arddangos cyfrifiaduron y blynyddoedd cynnar i ddangos pa mor gyflym rydym yn datblygu. Mae Sanclêr yn dref y blynyddoedd a fu ac mae wedi’i lleoli ar groesffordd Llwybr Arfordir Cymru sy’n ymestyn am 80 milltir yn Sir Gaerfyrddin. Mae adfeilion castell mwnt a beili’r dref yn fan cychwyn perffaith ar gyfer teithiau cerdded heriol ond cyfareddol i Lansteffan a Thalacharn. Mae’r llwybr yn dilyn afon Taf droellog ond sicrhewch eich bod yn torri’ch syched yn un o’r caffis, tafarnau neu’r gerddi cwrw niferus yn Sanclêr cyn ichi symud ymlaen.
HUFEN IÂ ARBENNIG Caiff Hufen Iâ Cowpots ei wneud ar y fferm drwy ddefnyddio llaeth buches Jersey bedigri leol
M
ae’r gwartheg yn pori ar gaeau breision yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac yn cynhyrchu llaeth hufennog iawn, sy’n ddelfrydol ar gyfer gwneud hufen iâ arbennig. Bellach gallwch ymweld â Siop Hufen Iâ Cowpots ar fferm y cwmni ger Hendy-gwyn ar Daf. Y blas y mae pawb yn siarad amdano ar hyn o bryd yw caramel â mêl ac mae’r siop ar agor rhwng 9:30am a 6pm o ddydd Mawrth tan ddydd Sul.
discovercarmarthenshire.com