Taflen Digwyddiadau - Gwyl Arfordir Llŷn 2014

Page 1

Gŵ yl Ar fo rdi r Dathlu a mwynhau treftadaeth arbennig Llŷn

Llŷn

llyfryn digwyddiadau


Cyfres o ddigwyddiadau diddorol a chyffrous yw Gŵyl Arfordir Llŷn, sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn ar gyfer y teulu i gyd – yn rhad ac am ddim! Mae Llŷn yn ardal sy’n llawn nodweddion arbennig fel y tirlun a’r arfordir hardd, bywyd gwyllt amrywiol, olion hanesyddol ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg a’r diwylliant. Y nodweddion hyn oedd y sail dros ddynodi Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nod Gŵyl Arfordir Llŷn yw dathlu a chodi ymwybyddiaeth am y nodweddion arbennig hynny. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys rhestr o’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu eleni, gan grwpiau neu fudiadau sy’n gweithio mewn partneriaeth i warchod a hyrwyddo’r ardal a’i nodweddion arbennig.


trefnwyr digwyddiadau Dyma pwy sydd yn cyd-drefnu eleni:

AHNE Llŷn Ffôn: 01758 704 176 E-Bost: ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.ahne-llyn-aonb.org

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ffôn: 01758 760 469 E-Bost: llyn@nationaltrust.org.uk Gwefan: www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula

Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Treftadaeth Llŷn Ffôn: 01758 720 430 E-Bost: amgueddfa@nefyn.net Gwefan: www.llyn-maritime-museum.co.uk

Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd Ffôn: 01286 679 381 E-Bost: bioamrywiaeth@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.gwynedd.gov.uk


rhestr digwyddiadau Mehefin •••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Blas y Môr, Aberdaron Dydd Sul, Mehefin 8fed 11yb Aberdaron Stondinau cynnyrch, arddangosiadau coginio, cyfle i flasu a phrynu cynnyrch lleol ffres. Gweithgareddau hefyd i blant, cerddoriaeth, celf a mwy!

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Blas y Môr, Porthdinllaen Dydd Sadwrn, Mehefin 21ain 12 yp Porthdinllaen Bydd arddangosiadau ar y traeth a chyfle i flasu a phrynu bwyd môr lleol ffres. Gweithgareddau hefyd i blant, cerddoriaeth, caiacio a mwy!

Gorffennaf •••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Taith Gerdded Gweision Neidr a Gloÿnnod Byw * Dydd Sul, Gorffennaf 6ed 1yp Mynydd Cilan Cwrdd ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dewch â dillad glaw/welis, rhwydi ac ysbienddrych os oes gennych un. Dim cŵn. Cyfeirnod Grid: SH295247

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

“Wales and Llŷn in Naval History” Nos Iau, Gorffennaf 10fed 7:30 yh Canolfan Nefyn Sgwrs gan J D Davies. Bydd lluniaeth ar gael.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Sgwrs -”Cymry’r Cunard a’r White Star” Nos Iau, Gorffennaf 24ain 7:30 yh Canolfan Nefyn Sgwrs gan Ifan Pleming. Bydd lluniaeth ar gael.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Diwrnod Hwyl Traeth Porthor Dydd Llun, Gorffennaf 28ain 11yb Traeth Porthor Diwrnod hwyl i’r teulu ar y traeth.


rhestr digwyddiadau Awst •••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Sgwrs -“SS Gwynfaen—110 Years On” Nos Iau, Awst 7fed 7:30 yh Canolfan Nefyn Sgwrs gan Oswestry Sub Aqua Club a Llŷn Sub Aqua Club. Lluniaeth ar gael.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Diwrnod Hwyl Traeth Llanbedrog Dydd Gwener, Awst 8fed 11yb Traeth Llanbedrog Diwrnod o hwyl i’r teulu ar y traeth.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Sgwrs - “Hanes fy Nhaid yn y Rhyfel Mawr” Nos Iau, Awst 21ain 7:30 yh Canolfan Nefyn Sgwrs gan Daniel Evans. Bydd lluniaeth ar gael.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Diwrnod Hwyl Traeth Porthdinllaen Dydd Gwener, Awst 22ain 11yb Traeth Porthdinllaen Diwrnod o hwyl i’r teulu ar y traeth.

Medi •••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Taith Gerdded Ardal Mynytho * Dydd Sul, Medi 7fed 1yp Mynytho Taith dan arweiniad John Dilwyn Williams. Cwrdd yn y maes parcio ger Ysgol Foelgron.

•••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Gwylio’r Môr ym Mhorth Ysgaden * Dydd Sul, Medi 14eg 10:30 yb Porth Ysgaden Cyfle i weld adar môr ac efallai mamaliaid fel y morloi a’r llamhidydd. Cwrdd ym maes parcio Porth Ysgaden. Cyfeirnod Grid: SH220375


rhestr digwyddiadau parhad

Medi ••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Taith Gerdded Garn Boduan * Dydd Sul, Medi 14eg 1yp Cyfarfod yn y maes parcio ger Capel Seion, Y Fron, Nefyn Taith gerdded dan arweiniad Rhys Mwyn i’r copa ac yn ôl.

••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Sgwrs - “Hanes Tafarndai Llŷn” Nos Fercher, Medi 24ain 7:30 yh Neuadd Sarn Mellteyrn Sgwrs gan John Dilwyn Williams am dafarndai ddoe a heddiw.

••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••••• Digwyddiad: Dyddiad: Amser: Lleoliad: Manylion:

Taith Gerdded Ardal Porthor * Dydd Sul, Medi 28ain 1yp Cyfarfod yn y maes parcio ym Mhorthor. (Codir tâl parcio ar y sawl nad ydynt yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Taith i flasu rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

* Rhaid cadw eich lle o flaen llaw


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.