Llygad Llŷn - Rhifyn 8 Cymraeg

Page 1

Rhif 8 • 2014 Cylchlythyr AHNE Llyˆn

Yn y rhifyn hwn... prosiectau, digwyddiadau a newyddion Crwydro

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Digwyddiadau


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

ardal arbennig

Croeso i rifyn 2014 o Llygad Llyˆn – sef newyddlen flynyddol ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llyˆn Pwrpas y newyddlen yw darparu ychydig o gefndir am yr ardal a’r dynodiad arbennig hwn ac adrodd ar waith diweddar tîm AHNE Llyˆn – yn ogystal â gwaith partneriaid eraill sy’n gweithio er lles yr ardal. Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Mae AHNE yn golygu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae Llyyˆn yn un o bump AHNE sydd wedi eu dynodi yng Nghymru, o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Yr ardaloedd eraill yw ˆ yr, Ynys Môn, Bryniau Penrhyn Gw Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Gwy. Prif bwrpas y dynodiad yw gwarchod, cynnal a meithrin harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a thirlun yr ardal. Mae'n bwysig hefyd bod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol yr ardal yn cael eu gwarchod. Am fwy o wybodaeth am yr holl Ardaloedd o Harddwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ewch i wefan Cymdeithas yr AHNE ar www.aonb.org.

Penrhyn Llyˆn Prif sail dynodi rhan o Lyyˆn yn AHNE yn ôl yn 1956 oedd yr arfordir amrywiol a diddorol a’r tirlun hardd. Mae oddeutu chwarter y penrhyn, cyfanswm o 15,500 hectar, yn yr ardal ddynodedig. Mae’r rhan fwyaf yn dir arfordirol ond mae hefyd yn ymestyn i mewn i’r tir i gynnwys Foel Gron a Garn Fadryn. Er mai’r tirlun a’r arfordir yw prif sail yr harddwch naturiol mae llawer o rinweddau eraill yn perthyn i’r ardal yn cynnwys y bywyd gwyllt amrywiol, olion hanesyddol, y môr a’i donnau, y diwylliant unigryw a’r iaith Gymraeg sy’n dal i ffynnu.

Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyˆn Sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyyˆn yn 1997 er mwyn cyfrannu at y gwaith o warchod a gofalu am yr AHNE. Ymysg yr aelodau, mae Cynghorwyr lleol, aelodau o Gynghorau Cymuned, a chynrychiolwyr o fudiadau ac asiantaethau lleol fel Cyfeillion Llyyˆn, yr Undebau Amaethyddol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn y cyfarfodydd, a gynhelir rhyw 2-3 y flwyddyn, bydd yr aelodau yn trafod materion cenedlaethol a lleol perthnasol, yn cyfrannau at y gwaith o baratoi Cynllun Rheoli a chael gwybod am waith sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r AHNE. Hefyd mae Is-Bwyllgor (a elwir yn Banel Grantiau) yn penderfynu ar geisiadau am grant o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Tîm AHNE Ll yˆn Mae dau aelod o staff yn gweithio yn yr Uned: Bleddyn Prys Jones – Swyddog AHNE Llyˆn Fel Swyddog AHNE Llyˆn mae Bleddyn yn arwain gwaith Cyngor Gwynedd ar weithgareddau creiddiol yr AHNE, materion cenedlaethol, a’r gwaith o baratoi a gweithredu’r Cynllun Rheoli.

Elin Wyn Hughes – Swyddog Prosiectau AHNE Llyˆn Fel Swyddog Prosiectau mae Elin yn arwain ar brosiectau yn deillio o’r Cynllun Rheoli ac yn gweinyddu grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Hefyd, bydd yn trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am AHNE Llyˆn a chynorthwyo i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli. Bu Jonathan Neale yn gweithio gyda’r Uned yn ystod y misoedd diwethaf fel Swyddog Prosiect dros-dro. Bu’n gwneud llawer o waith ar ddiweddaru safle wê’r AHNE ac ar brosiect dehongli gyda Phartneriaeth Tirlun Llyˆn. Bu hefyd yn cydgordio Gw ˆ yl Arfordir Llyˆn.

TUDALEN 2

Cynnwys Map o AHNE Llyˆn .....................3 Cylchdeithiau Digidol Newydd Llyˆn .......................4 a 5 Nefyn - Gefeilliwyd gyda Puerto Madryn ……......... 6 Clirio yn yr AHNE ...................7 Tyrbinau Gwynt yn Llyˆn …......…8 Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2013 …...............9 Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ........10 a 11 Crwydro Arfordir Llyˆn …..12 a 13 Digwyddiadau yn Llyˆn …...14 a 15 Cyfarfod ein Partneriaid ............16

Cyhoeddwyd gan: Uned AHNE Llyˆn Argraffwyd gan: Gwasg Carreg Gwalch, Llwyndyrys a Llanrwst Lluniau: Hawlfraint Cyngor Gwynedd (oni nodir yn wahanol) Llun Clawr: Garn Fadryn gan Gareth Jenkins

Manylion Cyswllt Uned AHNE Llyˆn, Adran Cefn Gwlad a Mynediad, Swyddfa Cyngor Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd - LL53 5AA Ffôn: 01758 704 155 / 01758 704 176 E-Bost: ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.ahne-llyn-aonb.org


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 3

m a p A H N E l l ˆy n


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

cylchdeithiau digidol

• • • •

Cylchdeithiau Digidol Newydd Llyˆn

Dros y misoedd diwethaf, bu Jonathan Gwyn Neale, Swyddog Prosiectau o’r Uned AHNE yn brysur yn rhoi gwahanol elfennau o Strategaeth Dehongli Partneriaeth Tirlun Llyˆn ar waith. Un cynllun yn arbennig oedd llunio cyfres o deithiau digidol, wedi eu seilio ar Borthdinllaen, Nefyn, Pwllheli, Llanbedrog, Rhiw ac Aberdaron. Bu Jonathan yn crwydro gyda meddalwedd arbennig sydd wedi ei osod ar ffôn symudol er mwyn cofnodi’r teithiau hyn yn fanwl gywir. Meddai: ‘Mae’r teithiau yn dilyn llwybrau cyhoeddus neu dir mynediad agored, felly does dim byd newydd o ran hynny. Yr hyn sy’n wahanol yw bod modd eu dilyn gyda ffôn neu dabled ddigidol, sydd yn adrodd straeon a gwybodaeth am nodweddion o ddiddordeb a welir hyd y daith.’ Mae hyn yn ddatblygiad newydd o ran profiad yr ymwelydd, gan y gellir llawrlwytho’r wybodaeth ar ffurf app o wefan yr AHNE gyda Wi-Fi o flaen llaw a darllen am hanes a natur ardal y daith. Does dim angen taflenni gwybodaeth nac arwyddion hyd y lle. Unwaith y byddwch wedi llawrlwytho’r system, mae’n hawdd i’w

TUDALEN 4

• • • •

ddefnyddio ac ni fydd angen signal ffôn arnoch wrth grwydro chwaith.’ Dywedodd Rheolwr Partneriaeth Tirlun Llyˆn, Arwel Jones: ‘Erbyn heddiw, mae technoleg, a’r ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio, yn rhan annatod o unrhyw fusnes llwyddiannus.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 5

Dehongli’r Bryngaerau Prosiect diddorol arall weithredwyd yn ddiweddar oedd dehongli’r bryngaerau mwyaf nodedig yn Llyˆn, sef Tre’r Ceiri, Garn Boduan a Garn Fadryn. Aed ati i geisio creu arwyddion i gyfleu naws unigryw y bryngaerau mewn ffordd weledol a hawdd i’w ddilyn, gyda John Dilwyn Williams yn paratoi’r cynnwys ysgrifenedig. Bydd yr arwyddion yn cael eu gosod ar ddechrau llwybrau Tre’r Ceiri a Garn Fadryn a nepell o gopa Garn Boduan.

Tre’r Ceiri

cylchdeithiau digidol

Mae’r Bartneriaeth yn meddwl ei fod yn bwysig felly, i gynnig yr adnodd yma i bobl leol ac ymwelwyr i’r ardal er mwyn cyfoethogi eu profiad o ddiwylliant a threftadaeth unigryw Llyˆn. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio’r ffurf newydd o gysylltu ag ymelwyr i’w denu i’r ardal a cheisio eu cael i aros yn hirach. Mae gan Lyˆn gymaint o nodweddion o ddiddordeb – o’r diwydiannau traddodiadol i naws a chymeriad unigryw ei natur a’i thirwedd. Mae’r app yn cyflwyno’r rhain i gyd o fewn clicied botwm.’ Cyflogodd y Bartneriaeth gwmni lleol Geosho o Gaernarfon sydd wedi datblygu’r feddalwedd bwrpasol ar gyfer mentrau digidol o’r fath. Gobeithir hefyd y bydd yr adnodd dwyieithog hwn ar gael mewn ieithoedd eraill cyn bo hir, gan ddenu mwy o bobl o dramor i fwynhau treftadaeth yr ardal.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 6

nefyn - gefeilliwyd gyda puerto madryn

‘Nefyn – Gefeilliwyd gyda Puerto Madryn’ Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r Uned AHNE wedi bod yn arwain ar brosiect i osod arwyddion traddodiadol eu naws ar gyrion pentrefi Llyˆn. Mae’r prosiect yn rhan o’r ymgais barhaus i gynnal a chadw cymeriad traddodiadol ac unigryw’r ardal. Codwyd yr arwyddion diweddaraf ar gyrion tref Nefyn. Fel dywed yr arwydd, mae Nefyn wedi ei gefeillio â Puerto Madryn. Pam hynny tybed? Ac ym mha ran o’r byd mae Puerto Madryn? Wrth ymchwilio i’r hanes daethpwyd ar draws erthygl ddiddorol gan Dave Holcroft, sy’n ysgrifennu blogiau ar wyliau teithio. Mae’r erthygl yn rhoi golwg newydd, ac annibynnol, ar y gefeillio rhwng Nefyn a Puerto Madryn a phenderfynwyd cynnwys talfyriad yn Llygad Llyˆn : Sut yn y byd medda’ chi, fod tref Nefyn ar Benrhyn Llyˆn wedi ei gefeillio â Phuerto Madryn, sydd 8,000 o filltiroedd i ffwrdd ar arfordir garw Patagonia yn yr Ariannin? Mae wastad yn ddifyr clywed sut mae trefi ym Mhrydain yn cael eu cysylltu o hyd â llefydd annelwig ym mhob cwr o’r byd. Fodd bynnag, nid yw’r cyswllt penodol hwn rhwng Cymru a’r Ariannin yn un mor ryfedd ag y byddech yn ei feddwl. Roeddwn wedi bod yn Nefyn rai wythnosau cyn cychwyn ar fy nhaith i Dde America, ac yn cofio’n glir gweld yr arwydd amheus – “Nefyn – Gefeilliwyd gyda Puerto Madryn”. Rai misoedd wedyn tra oeddwn yn yr Ariannin, roeddwn yn syllu ar yr un arwydd, oedd yn cadarnhau’r paru rhyfedd hwn rhwng dwy ardal sydd filoedd o filltiroedd ar wahân. Rhaid oedd cael gwybod mwy. Dechreuais ymchwilio i hanes hynod ddiddorol yr ardal, sy’n llawn treftadaeth Gymreig - a deall sut cychwynnodd 160 o Gymry balch, dan arweiniad y cenedlaetholwr Michael D. Jones, am yr Ariannin ar fwrdd llong o’r enw Mimosa yn 1865. Eu breuddwyd oedd sefydlu’r “Gymru Newydd” ble gallai eu crefydd, eu hiaith a’u traddodiadau ffynnu heb ymyrraeth Llywodraeth Lloegr. Yn dilyn sawl arolwg gan anturiaethwyr ac addewid o dir ffermio gan Lywodraeth yr Ariannin, aeth yr

ymsefydlwyr cynnar hyn ati i sefydlu gwlad ar y tir dieithr a garw hwn, nid ymhell o ble mae Puerto Madryn heddiw. Yn raddol, roedd cymunedau yn ffynnu. Daeth mwy o longau o Gymru – y gyntaf yn 1874 a pharodd hynny hyd 1911. Adeiladwyd capeli, nid yn unig fel addoldai crefyddol ond hefyd am resymau yn ymwneud ag addysg a chyfraith. Er eu bod yn byw o dan sofraniaeth a chyfraith yr Ariannin, ni fu unrhyw wrthwynebiad iddynt arddel eu harferion Cymreig. Wrth gyrraedd yno, tua 140 o flynyddoedd wedi’r Cymry cyntaf, roeddwn yn falch o weld traddodiadau Cymreig yn amlwg o hyd mewn cymunedau o gwmpas Puerto Madryn. Yn nhref gyfagos Gaiman, roedd tai te (neu gaffis bach) yn amlwg o dras Cymreig gydag enwau fel Tyˆ Gwyn a Phlas y Coed. Mae pobl yma sy’n parhau i siarad Cymraeg yn rhugl a chynhelir Eiteddfod yn y Gaiman bob mis Hydref. Mae tirlun arfordirol Patagonia yn hollol wahanol i fryniau gwyrddion gogledd Cymru. Mae gwastadeddau maith - sydd yn frown a diffaith, heb yr un goeden yn unman yn ymestyn am gannoedd o filltiroedd i gefnwlad talaith Chubut. Yn y gaeaf, mae’r tymheredd yn weddol fwyn o gwmpas ardaloedd Puerto Madryn a Threlew – ond yn ystod Ionawr a Chwefror, mae’r tymheredd yn chwilboeth, ac yn cyrraedd hyd at 40°c. Pur anaml y bydd glaw hyd yr arfordir yno, a bron nad oes glaw o gwbl ar diroedd anial llwyfandir Patagonia. Bydd gwyntoedd cryfion yn poenydio’r ardal gyfan – ac yn y gaeaf, mae’r rheini yn eithriadol o oer. Dyma ardal diffaith a digroeso o Batagonia – ac mae ymdrechion y sefydlwyr cynnar hynny yn llwyddo i greu argraff arbennig iawn. Yr oedd yn gamp anhygoel ar ran yr arloeswyr i adael Cymru, treulio misoedd ar y môr mawr, ac yna gweithio’n hynod o galed i ddechrau bywyd newydd yn yr Ariannin. Dros ganrif yn ddiweddarach, mae’r etifeddiaeth Gymreig yno mor fyw ag erioed ac yn amlwg iawn. Wedi i mi ddeall hanes lliwgar yr ardal a pharhad y traddodiadau Cymreig yno, credaf fod y gefeillio hwn yn rhywbeth y gall pobl gogledd Cymru ymfalchïo ynddo. Mae’r Uned AHNE yn ddiolchgar i Dave Holcroft am yr hawl i gynnwys yr erthygl hon yn Llygad Llyˆn.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 7

Bu gwaith clirio yn digwydd yn ystod y misoedd diwethaf ar safleoedd blêr o fewn yr AHNE. Roedd cyflwr y safleoedd hyn yn amharu ar y tirlun a’r amgylchedd arbennig. Porth Neigwl Daeth stormydd geirwon iawn i Lyˆn ar ddechrau 2014 – gyda gwyntoedd dros 100 milltir yr awr yn hyrddio dros y penrhyn cyfan. Difrodwyd sawl eiddo a disgynnodd llawer o goed. Gwelwyd hefyd lawer iawn o sbwriel yn cael ei olchi i’r lan ar ein traethau. Un traeth oedd yn frith o sbwriel o bob math oedd traeth Porth Neigwl. Trefnwyd dau ddiwrnod o lanhau ar ddechrau mis Mawrth gan Cadwch Cymru’n Daclus. Braf oedd gweld Disgyblion Ysgol Botwnnog cymaint o wirfoddolwyr yn barod i helpu yn cynnwys criw o ddisgyblion Ysgol Botwnnog.

Llethrau Tre’r Ceiri Daeth i sylw’r Uned AHNE fod carafán wedi ei gadael ar lethrau Tre’r Ceiri ger y llwybr sy’n arwain at y copa. Dyma safle sydd o fewn ffiniau AHNE Llyˆn – ac sydd hefyd wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dylid cofio yn ogystal fod Tre’r Ceiri yn safle hanesyddol pwysig sydd wedi ei gofrestru gan CADW. Bu’r Uned AHNE yn cydweithio â chontractwr lleol i glirio’r gweddillion. Mae hyn wedi gwella’r amgylchedd gyfagos - yn ogystal, gobeithio, â phrofiad y nifer fawr o ymwelwyr i’r safle.

Tre’r Ceiri - cyn y clirio ...

... ac ar ôl

gwaith clirio yn yr AHNE

Gwaith Clirio yn yr AHNE


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 8

t y r b i n a u g w y n t y n l l ˆy n

Tyrbinau Gwynt yn Llˆy n Yn ddiweddar mae tyrbinau gwynt wedi tyfu yn dipyn o bwnc llosg yma ym Mhenrhyn Llyˆn. Mae rhai yn gefnogol iddynt ac yn eu gweld fel dull addas o greu ynni adnewyddol sy’n lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, tra mae eraill yn eu gweld yn amharu ar dirlun a golygfeydd arbennig yr ardal. Cynyddodd y diddordeb mewn tyrbinau gwynt oherwydd fod Llywodraeth Cymru a’r DU yn hyrwyddo dulliau o greu ynni adnewyddol er mwyn lleihau dibyniaeth ar lo, nwy ac olew a lleihau allyriant carbon. Gwneir hyn drwy gynnig taliadau gwarantedig i ddatblygwyr neu berchnogion eiddo am greu ynni solar, ynni gwynt ac ati, drwy’r “feed-in tariff”. Er y gall tyrbinau gwynt greu ynni adnewyddol, ac felly leihau’r galw am drydan trwy ddulliau traddodiadol, rhaid osgoi effeithiau annerbyniol ar y tirlun a’r arfordir – yn enwedig mewn, neu gerllaw, i dirluniau gwarchodedig fel yr AHNE. Mae AHNE yn ddynodiad o’r un pwysigrwydd â Pharc Cenedlaethol ac mae’r angen i gynnal a gwarchod yr ardaloedd hyn yr un mor bwysig. Hefyd mae twristiaeth yn ddiwydiant hollbwysig yma yn Llyˆn, a’r tirlun a’r arfordir hardd yw rhai o’r prif atyniadau. Mae’r mater wedi bod yn achosi pryder i aelodau Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyˆn oherwydd yr ardrawiad posibl ar harddwch naturiol yr ardal arbennig hon o Gymru. Bu llawer o drafod yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a phenderfynwyd mabwysiadu y datganiadau canlynol i’w cyflwyno fel ymateb i bob cais cynllunio am dyrbin gwynt yn yr ardal:

? Paneli solar ar siediau amaethyddol

• “Dylid gwrthod pob cais am dyrbin gwynt o fewn AHNE Llyˆn, yn unol â’r polisi – C26 (Datblygiad Tyrbinau Gwynt) – ‘Gwrthodir cynigion ar gyfer datblygiad tyrbin gwynt ar safleoedd o fewn AHNE Llyˆn’ ”

• “Dylid gwrthod pob cais am dyrbin gwynt uwch na 11 medr o fewn ffin a golygfeydd y Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyˆn ac Ynys Enlli, rhag achosi niwed sylweddol i osodiad a golygfeydd AHNE Llyˆn.” O ran gwarchod y tirlun a golygfeydd lleol mae’n bwysig ystyried dulliau eraill o greu ynni adnewyddol. Er enghraifft, mae gosod paneli solar ar siediau amaethyddol yn ddull effeithiol ac addas o greu ynni adnewyddol heb effeithio ar y tirlun. Trwy gyfrwng Cynllun Rheoli AHNE Llyˆn, fydd yn cael ei adolygu yn ystod 2014, bydd cyfle i roi sylw i ynni adnewyddol a materion eraill pwysig o ran dyfodol yr ardal.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 9

Bu cystadleuaeth ffotograffiaeth 2013 yn llwyddiant mawr. Y thema y tro hwn oedd Fy Hoff Lecyn yn Llyˆn, a braf oedd gweld nifer fawr yn cystadlu a chyflwyno lluniau gwych. Yn fuddugol, daeth Mr Rory Trappe o Fanod ger Blaenau Ffestiniog gyda’i lun o draeth Porthor. Ei wobr oedd tocyn anrheg i’w wario yn Siop Ffotograffiaeth Dewi Wyn, Pwllheli.

Rory Trappe (canol) yn derbyn ei wobr gan Jonathan Neale o Uned AHNE Llyˆn a Gareth Jenkins, beirniad y gystadleuaeth. Cynhaliwyd y noson wobrwyo yn Oriel Tonnau, Pwllheli. Ymysg y cystadleuwyr eraill gyrhaeddodd y rhestr fer:

Llun Ynys Enlli gan Michael Ellis o Sir y Fflint.

Llun o draeth Morfa Nefyn gan Greta Hughes o Lanbedrog

Diolch i’r holl gystadleuwyr am gymryd rhan. Rydym yn arddangos rhai o’r lluniau ddaeth i law yn y galeri ar ein gwefan gan obeithio i chi fwynhau taro golwg arnynt – www.ahne-llyn-aonb.org.

cystadleuaeth ffotograffiaeth 2013

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2013


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

y gronfa datblygu cynaliadwy

••• Y

T U D A L E N 10

Gronfa Datblygu Cynaliadwy •••

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) gan Lywodraeth Cymru yn 2001. Mae’r Gronfa yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gwneud lles i’r amgylchedd, yr economi, y diwylliant neu’r gymuned mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dylai’r prosiectau fod yn arloesol ac sy’n datblygu a phrofi ffyrdd newydd o fyw yn fwy cynaliadwy. Dyma flas ar rai prosiectau yn Llyˆn a gefnogwyd yn ystod y misoedd diwethaf. Troedio Llwybrau Plwyf Llanbedrog Glywsoch chi erioed am Wil Puw y smyglar? Tybed a wyddoch beth oedd tynged hen blasdy Penyberth? Neu tybed a wyddoch pwy grogwyd ar grocbren gerllaw Carreg y Defaid – a pham? Mae’r atebion i’r rhain, a llawer iawn mwy i’w cael mewn taflen ddifyr a ddatblygwyd yn ddiweddar ar y cyd rhwng Cyngor Cymuned Llanbedrog a’r dylunydd Gareth Roberts. Mae’r daflen ddwyieithog yn cynnwys map o lwybrau cerdded yr ardal, ynghyd â gwybodaeth am safleoedd neu nodweddion hanesyddol pwysig sydd i’w gweld wrth i chi grwydro. Nod y prosiect yw annog pobl i ddysgu mwy am hanes cyfoethog yr ardal ac i fentro allan i’r awyr iach. Gallwch hawlio eich copi mewn amryw o atyniadau lleol.

Gwelliannau i Ffynnon Beuno Mae Ffynnon Beuno yn nodwedd hanesyddol pwysig iawn yn AHNE Llyˆn. Saif dafliad carreg o Eglwys Beuno Sant yn Nghlynnog Fawr, nid nepell oddi ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae hi wedi bod yn atyniad poblogaidd ers canrifoedd maith gyda phererinion yn ymgynnull yng Nghlynnog ar eu ffordd i Ynys Enlli. Yn ôl traddodiad, roedd hon yn ffynnon iachau a byddai cleifion yn cael eu trochi yn ei dyfroedd a'u rhoi i orwedd dros nos ar fedd Beuno Sant yn yr Eglwys gan obeithio am wellhad. Yn ddiweddar, penderfynodd Cyngor Cymuned Clynnog ddatblygu prosiect i wella cyflwr Ffynnon Beuno a sicrhau fod pobl yn dal i allu ymweld â hi’n ddiogel a’i gwerthfawrogi. Aeth contractwyr lleol ati i drwsio un o’r waliau sy’n ei hamgylchynu a chlirio gordyfiant o gwmpas y fynedfa.

Giatiau Mochyn Traddodiadol Ynys Enlli Datblygwyd y prosiect hwn gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (www.enlli.org). Mae’r Ynys arbennig hon yn atyniad poblogaidd ers canrifoedd maith gyda phobl o bob cwr yn ymweld yn flynyddol i fwynhau’r llonyddwch, y bywyd gwyllt anhygoel a’r olion hanesyddol diddorol. Dros dreigl amser, roedd cyflwr y camfeydd ar Enlli wedi dirywio ac mewn cyflwr peryglus. Nod y prosiect hwn oedd gosod giatiau mochyn traddodiadol yn eu lle. Daeth contractwyr lleol yno i ymgymryd â’r gwaith. Mae’r giatiau newydd yn gweddu yn dda i gymeriad yr Ynys, yn ogystal â sicrhau diogelwch y sawl sy’n crwydro o gwmpas.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 11

Mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella cyflwr Canolfan Gymunedol Llannor. Datblygwyd y prosiect hwn i gyd-fynd â hynny gan Bwyllgor y Ganolfan. Y nod oedd dod â’r gymuned ynghyd i weld y Ganolfan ar ei newydd wedd a dathlu eu treftadaeth. Sicrhaodd y Pwyllgor nawdd y Gronfa ar gyfer cynnal arddangosfa hen luniau ac hefyd i osod hysbysfwrdd tu allan i’r Ganolfan gyda map yn dangos mannau crwydro diddorol. Mwynhawyd noson o sgwrs hefyd gyda’r hanesydd Mr John Dilwyn Williams. Mae’r prosiect yn enghraifft dda o sut i hyrwyddo canolfan gymunedol a chyfleu hanes lleol mewn ffordd ddiddorol a gwahanol.

Parêd Dewi Sant Pwllheli Ar Fawrth 1af 2014, roedd tref Pwllheli yn llawn bwrlwm. Daeth cannoedd o bobl ynghyd i ddathlu Dydd Gw ˆ yl Dewi a mwynhau gorymdaith hwyliog a lliwgar drwy’r strydoedd. Ar ddiwedd yr orymdaith clywyd pwy oedd enillwyr cystadleuaeth Tapas Llyˆn – sef cystadleuaeth i arbrofi gyda chynnyrch lleol a chreu Tapas gydag enwau Cymraeg bachog. Sicrhawyd nawdd y Gronfa ar gyfer hwyluso trefniadau’r diwrnod – a hynny gan fod cyfle i gymunedau Llyˆn ddod at ei gilydd i ddathlu eu hiaith a’u diwylliant. Roedd y dathliadau hefyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd yr ardal, drwy fod yn hwb i’r economi. Llwyddwyd i ddenu tyrfa enfawr i Bwllheli a rhoddwyd llwyfan i’r holl gynnyrch o safon sydd ar gael yn lleol.

Ail-Ymweld â Phrosiectau’r Gorffennol . . . . . . Datblygu Gardd Gymunedol yn Llaniestyn Mae peth amser bellach wedi mynd heibio ers pan gefnogwyd y prosiect hwn gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. 2008 oedd hi pan gyfrannwyd oddeutu £1,800 ar gyfer datblygu a thacluso llecyn yng nghanol pentref Llaniestyn. (Yn ogystal â bod oddi fewn ffiniau AHNE Llyˆn, mae’r llecyn hwn hefyd oddi fewn ffiniau Ardal Gadwraeth ddynodedig.) Fel rhan o waith gweinyddu’r Gronfa, bydd staff yr Uned AHNE yn ail-ymweld â phrosiectau llwyddiannus y gorffennol er mwyn sicrhau eu bod wedi gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau yn Llyˆn a bod safleoedd fel hyn yn cael eu cynnal a’u cadw. Pleser oedd ail-ymweld â’r safle hwn yn ystod y misoedd diwethaf gyda’r lle yn llawn planhigion aeddfed a bywyd gwyllt o bob math. Mae’r ardd fel pin mewn papur, ac mae’r trigolion lleol yn amlwg yn ei pharchu a’i mwynhau.

Os am ragor o wybodaeth am y Gronfa, edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni: 01758 704 155 / 01758 704 176 www.ahne-llyn-aonb.org

y gronfa datblygu cynaliadwy

Dathlu Treftadaeth yn Llannor


ARDAL

c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

•••

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

C r w y d r o A r f o r d i r L l ˆy n

T U D A L E N 12

•••

Y CÔD CEFN GWLAD PARCHWCH • DIOGELWCH • MWYNHEWCH

• Byddwch yn ddiogel

Yn flynyddol, bydd Uned AHNE Llyˆn yn trefnu teithiau tywys. Dyma gyfle gwych i fwynhau’r golygfeydd, cyfarfod â phobl newydd a dod i wybod mwy am hanes cyfoethog yr ardal. Cynhaliwyd taith ddiddorol yn ystod 2013 yn ardal Llanfaelrhys dan arweiniad Mr John Dilwyn Williams. Pam na rowch gynnig ar y daith hon eich hunan? Gall gymryd tua dwy awr i’w chwblhau, ac mae’n addas ar gyfer teuluoedd.

• • • •

– cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion Gadewch giatiau ac eiddo fel yr ydych yn eu cael nhw Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt Cadwch eich ci dan reolaeth Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Uwchlaw Bae Ceredigion rhwng Aberdaron a Rhiw ym mhen draw Llyˆn, mae ardal Llanfaelrhys. Dyma ardal sy’n berwi o hanes, gyda golygfeydd trawiadol a bywyd gwyllt diddorol. Mae’n le perffaith i grwydro a mwynhau. Gallwch ddechrau eich taith yn y llecyn parcio gerllaw fferm Ysgo. Oddi yma, dilynwch arwyddion Llwybr Arfordir Cymru i lawr am y môr. Cyn hir Porth Ysgo o’r môr byddwch uwchlaw Porth Ysgo. Mae’n llecyn hyfryd, ac yn rhan o ddynodiad pwysig Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyˆn a’r Sarnau, oherwydd yr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt morol sy’n byw yma. (www.penllynarsarnau.co.uk). Oddi yma, cewch gip ar Ynys Enlli ac Ynysoedd Gwylanod yn y pellter. Un nodwedd amlwg arall yw Maen Gwenonwy - craig sy’n ymestyn allan i’r môr o Borth Cadlan. Yn ôl y chwedl, roedd Gwenonwy yn fam i Hywyn Sant (yr hwn y cysegrwyd Eglwys Aberdaron iddo) ac yn chwaer i’r Brenin Arthur. Yn ôl y chwedl, nid nepell o’r fan hon yr ymladdodd Arthur ei frwydr olaf. Mae sawl stori yn cysylltu’r cymeriad chwedlonol hwn

Porth Ysgo

Maen Gwenonwy

â Llyˆn. Er enghraifft, yr hen enw ar y frân goesgoch (a welir ar logo AHNE Llyˆn) yw Aderyn Arthur. Saif cromlech hefyd o’r enw Coetan Arthur nid ymhell ar Fynydd Cefn Amwlch ac mae chwedl hyd yn oed fod llong y Brenin Arthur wedi suddo ger Ynys Enlli. Ond dyna ddigon am hynny am y tro – dyma destun Adfail Mwynfeydd

erthygl ynddo’i hun! Ymlaen â chi ar y Llwybr, a byddwch o fewn dim yn cyrraedd Nant y Gadwen. Dyma lecyn arbennig iawn. Yn ogystal â bod oddi fewn ffiniau AHNE Llyˆn, mae wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Roedd y safle ar un adeg yn gloddfa manganîs brysur. Anodd credu hynny heddiw mewn llecyn mor dawel. Mae olion ac adfeilion o’r cyfnod pan oedd y mwyngloddio yn ei anterth i’w gweld yma o hyd.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

Eglwys Maelrhys

Os hoffech grwydo’r fynwent, mae ambell fedd yma o ddiddordeb cenedlaethol. Ymysg y rhai y claddwyd yma, mae’r artist Mildred Eldrigde, oedd yn wraig i R.S Thomas ar un adeg, sef y bardd enwog a fu hefyd yn ficer Aberdaron rhwng 1967 ac 1978. Yma hefyd claddwyd y chwiorydd Keating, oedd berchen ar Blas yn Rhiw. Y chwiorydd oedd yn gyfrifol am adfer y Plas yn ôl i’w hen ogoniant. Bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r plasdy, y gerddi a’r goedwig yn werth eu gweld gyda golygfeydd godidog o Borth Neigwl a thu hwnt. Adfail Ty’n Llan

Cyn gadael y fynwent a thynnu tua terfyn y daith ger Ysgo, cymerwch gip ar hen adfail Ty’n Llan sydd dros y ffordd i’r Eglwys. Yn ôl traddodiad, dyma gartref y smyglwr halen enwog, Huw Andro. Mae Llyˆn wedi bod yn hafan i smyglwyr a môr ladron dros y canrifoedd, gyda’r holl gilfachau ac ogofau sy’n britho’r arfordir - ond unwaith eto, stori arall yw honno!

Am fwy o wybodaeth am Lanfaelrhys a’r cyffiniau, tarwch olwg ar wefan www.rhiw.com

c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

Wrth ddilyn y llwybr i ben draw Nant y Gadwen, byddwch yn ymuno â’r lôn unwaith eto. Yma, trowch i’r chwith yn ôl am fferm Ysgo. Dyma’r unig ran o’r daith nad yw’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r lôn yn briffordd cyhoeddus, felly cymerwch ofal. Wrth ddilyn y lôn hon, byddwch toc yn cyrraedd Eglwys Maelrhys Sant. Dyma Eglwys hynafol a sefydlwyd gan Maelrhys, oedd mae’n debyg yn gefnder i Hywyn Sant ac yn un o Seintiau Ynys Enlli.

T U D A L E N 13


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 14

d i g w y d d i a d a u y n l l ˆy n

Digwyddiadau yn Llyˆ n Gw ˆ yl Arfordir Lly ˆn Bu Gw ˆ yl Arfordir Lly ˆn 2013 yn llwyddiant mawr. Mwynhawyd cyfres eang o ddigwyddiadau oedd yn dathlu’r ffaith fod treftadaeth arbennig a chyfoethog iawn yn perthyn i arfordir Lly ˆn. Dyma i chi flas ar rai o’r uchafbwyntiau …. Arddangosfa “Ailddarganfod y Cyprian” Cynhaliwyd arddangosfa arbennig iawn yn Nefyn gan Amgueddfa Forwrol Llyˆn. Arddangosfa oedd hon am hanes trist y , sef stemar a ddrylliwyd mewn storm enbyd ar greigiau ger Edern yn 1881. Boddwyd 18 o’r criw, ac fe’u claddwyd ym mynwent Edern. Boddodd y Capten hefyd, sef John Alexander Strachan – a’i weithred ddewr o sydd wedi peri i’r hanes aros yng nghof y trigolion lleol hyd heddiw. Aberthodd ei fywyd ei hun er mwyn achub bachgen ifanc 12 oed oedd yn teithio ar y llong heb yn wybod i neb. Roedd yr arddangosfa yn olrhain hanes y drychineb ac yn dangos creiriau sydd wedi eu darganfod o gwmpas y man ble mae gweddillion y llong heddiw. Llun: Jamie Davies o’r Amgueddfa Forwrol gyda chloch y Cyprian un o’r creiriau yn yr Arddangosfa.

Diwrnod Hwyl ar Draeth Llanbedrog Traeth Llanbedrog yw un o’r hyfrytaf yn Llyˆn, a dyma fan perffaith i fwynhau diwrnod yn llawn gweithgareddau hwyliog. Roedd cyfle i blant roi cynnig ar gaiacio, cynhaliwyd twrnament pêl-droed ac roedd aelod o Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd yn bresennol er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth o fywyd gwyllt diddorol sy’n trigo yma. Bu cystadleuaeth codi cestyll tywod hefyd yn ogystal â gweithgaredd paentio wynebau i blant. Llun: Alison Hargrave yn arddangos creaduriaid bach o’r môr.

Taith Gerdded Mynydd Rhiw Bu taith gerdded ddifyr ddechrau Medi ar Fynydd y Rhiw gyda Rhys Mwyn. Gwelwyd safleoedd archeolegol pwysig ymhell ac agos - fel bryngaer Castell Odo ar Fynydd Ystum sy’n dyddio’n ôl i Oes yr Haearn. Ymwelwyd â’r hen ffatri fwyelli hefyd ar ochr ddeheuol y mynydd, ble gwelir olion tyllau yn y ddaear ble bu pobl yn cloddio tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl gan fod y math o graig yno yn addas ar gyfer creu bwyelli. Llun: Rhys Mwyn a’r criw ymunodd â thaith gerdded Mynydd Rhiw


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 15

Be Sy’n Digwydd yn 2014? Tarwch olwg, mentrwch a mwynhewch! Mae rhywbeth at ddant pawb yn digwydd yn Llyˆn gydol y flwyddyn. Bydd Gw ˆ yl Arfordir Llyˆn yn dychwelyd, gyda chyfres o deithiau cerdded, diwrnodau hwyl a darlithoedd am hanes lleol. Bydd Uned AHNE Llyˆn yn cydweithio gyda nifer o fudiadau lleol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Forwrol Llyˆn a Thïm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd i gynnal gweithgareddau diddorol a chyffrous i bawb o bob oed. Mae Sioeau Amaethyddol Nefyn, Trefor a Thudweiliog yn digwydd yn ystod misoedd yr haf ac maent yn atyniadau poblogaidd gydag arddangosfa wych o anifeiliaid, cynnyrch lleol, blodau ac yn y blaen. Gallwch alw heibio Ras Aredig Sarn a’r Cylch hefyd. Dyma ddigwyddiad hanesyddol a phoblogaidd a gynhelir tua diwedd Ebrill fel arfer mewn gwahanol leoliadau bob blwyddyn. Mae pobl yn heidio o bob cwr i gystadlu neu gymdeithasu. Mae hen sgiliau cefn gwlad yn ffynnu yma megis aredig (gyda thractor neu geffyl!) a chodi cloddiau cerrig. Ceir stondinau yma hefyd o bob math. Cofiwch am yr Eisteddfodau bychain hefyd. Fe’u cynhelir mewn pentrefi fel Llanaelhaearn, Mynytho ac Uwchmynydd i enwi ond rhai. Yn ddi-os, bydd cystadlu brwd a gwledd o ddiwylliant a chelfyddyd. Bydd prif ddigwyddiadau’r ardal yn cael eu nodi yn y Calendr Digwyddiadau ar wefan AHNE Llyˆn.

Tarwch olwg, mentrwch a mwynhewch!

-

www.ahne-llyn-aonb.org Ras Ared ig Sarn a’r Cylch

od Eisteddf n Aelhaear

Gw ˆ yl Arfordir Llyˆ n

soch ˆ yl Jazz Aber Gw

Sioe Tudweiliog

Lluniau: Dewi Wyn


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 16

cyfarfod ein partneriaid

Cyfarfod Ein Partneriaid Yn ogystal â’r Uned AHNE, mae nifer o grwpiau a mudiadau yn Llyˆn yn gweithio er lles yr ardal. Dewch i gyfarfod rhai o’n partneriaid a chlywed am eu prosiectau diddorol a gwerthfawr iawn...

Enw: Laura Hughes

Enw: Meinir Pierce Jones

Teitl Swydd:

Teitl Swydd:

Ceidwad Arfordirol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rheolwr Datblygu Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Treftadaeth Llyˆn

Beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd? Nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw edrych ar ôl llefydd arbennig am byth fel gall pawb eu mwynhau. Rydw i’n gweithio fel rhan o dîm o geidwaid sy’n edrych ar ôl tua 3000 acer o dir yn Llyˆn (rhan helaeth yn dir o dan ofal tenantiaid wrth gwrs). Un o fy mhrif amcanion ydi codi ymwybyddiaeth ynglyˆn â’n gwaith cadwraeth gwerthfawr ar yr arfordir a cheisio annog a darparu cyfleoedd i bawb i fynd allan i fwynhau'r llefydd arbennig hyn. Mae’r gwaith yn amrywiol iawn. Gallaf fod yn gwneud unrhyw beth o gynllunio a chynnal digwyddiadau i fynd a grw ˆ p o blant ysgol allan i un o’n safleoedd i ddysgu am hanes a bywyd gwyllt yr ardal. Hefyd, byddaf yn gweithio ar gynnwys ein safle we a phaneli neu daflenni gwybodaeth neu weithio ar brosiectau cadwraeth penodol fel Prosiect Morwellt Porthdinllaen. Byddwn yn brysur gyda llu o ddigwyddiadau yn 2014 fel sesiynau addysgol, gwaith cynnal a chadw ar yr eiddo a phrosiectau cadwraeth. Hefyd, yn gyffrous iawn, bydd Porth y Swnt yn agor – sef ein canolfan ymwelwyr newydd yn Aberdaron. www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula

Beth ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd? Pob math o bethau. Byddaf yn ymgymryd â gwaith ariannol, llythyru, ysgrifennu adroddiadau, mynd i gyfarfodydd a phwyllgorau a gweithio efo gwirfoddolwyr. Hefyd, byddaf yn trafod creiriau (trefnu gofal ein casgliad presennol a delio gyda eitemau newydd a gynigir). Mae rhan o’r gwaith hefyd yn cynnwys trafod ein prosiect adeiladu gydag adeiladwyr ac archeolegwyr, a gweithio ar y dehongliad newydd i’r Amgueddfa. Rwyf yn casglu Cyfeillion newydd i’r Amgueddfa, a threfnu gweithgareddau fel Gw ˆ yl J Glyn Davies. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cydlynu ein Canolfan Haf, cynnal arddangosfeydd, trefnu sgyrsiau a boreau coffi. Bydd yr Amgueddfa Forwrol yn ailagor ei drysau yn 2014 yn dilyn cyfnod o gasglu arian, cynnal gweithgareddau, gwaith adnewyddu a threfnu arddangosfa newydd. Bydd rhan bwysig i wirfoddolwyr yno, a bydd gennym lwyfan perfformio, sgrin i ddangos ffilmiau, cornel ymchwil, siop a chaffi. Trefnir rhaglen o weithgareddau gyda rhywbeth at ddant pawb gobeithio, yn cynnwys plant ysgol, y gymuned, ymwelwyr a phererinion. www.llyn-maritime-museum.co.uk

Disgrifiwch eich gwaith mewn tri gair:

Disgrifiwch eich gwaith mewn tri gair:

Gwerthfawr / Diddorol / Amrywiol

Boddhaus / Cymunedol / Prysur


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.