QUENCH magazine, FESTIVAL issue 188, May 2022

Page 41

Clebar

41

Gŵyl wrth graidd diwylliant Cymraeg Nid oes amheuaeth na’r Pafiliwn yw un o’r elfennau fwyaf eiconig o’r Eisteddfod Genedlaethol gyda’r babell binc enfawr yn denu sylw ymwelwyr ac eisoes yn ganolbwynt ar y maes. I sawl un, gig y pafiliwn yw uchafbwynt yr wythnos ble mae rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth Cymraeg yn perfformio ar yr un llwyfan am noson fythgofiadwy o adloniant. Tra bu rhaid i’r gynulleidfa wylio Gig y Pafiliwn llynedd yn rhithiol, talodd Gig y Pafiliwn 2019, sef yr un diweddaraf i gael ei gynnal o flaen gynulleidfa byw, deyrnged i ddiwylliant pop a chlwb y 90au. Yn sicr, pan fu’r Eisteddfod yn dychwelyd i’w hen ffurf yn Nhregaron eleni, bydd Gig y Pafiliwn yn un digwyddiad fydd yn siw’r o ddenu cynulleidfa enfawr. Rhan arall eiconig o’r maes yw’r Bar Gwyrdd, neu Bar Williams Parry fel y bydd yn cael ei adnabod o hyn ymlaen yn dilyn cael ei ail enwi eleni. Mae’r enw newydd yn chwarae ar eiriau ac yn cyfeirio at R. Williams Parry, y prifardd o Ddyffryn Nantlle. Mae’r bar wedi ei leoli gerbron Llwyfan y Maes ac felly’n gyfle i dorri syched wrth wrando ar berfformiadau byw gan amryw o dalentau.

Y seremoni gadeirio, fodd bynnag, yw un o draddodiadau enwocaf yr Eisteddfod a’r Gadair yw un o’r prif wobrau caiff ei ennill yn ystod yr wythnos. Yn draddodiadol, mae’r wobr yn cael ei roi i fardd yr awdl orau o dan 300 llinell, er caiff nifer y llinellau weithiau eu cwtogi i 200. Mae’r seremoni’n digwydd ar Ddydd Gwener yr Eisteddfod ac yn ystod y cadeirio mae’n draddodiad bod yr Orsedd yn bresennol ar y llwyfan, sef cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill y byd diwylliannol Cymraeg. Iolo Morgannwg oedd yn gyfrifol am sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain yn 1792 a bu’n cael ei adnabod fel Gorsedd y Beirdd hyd nes y cafodd ei ail-enwi fel Gorsedd Cymru yn 2019. Yn aml, caiff y Gadair ei wobrwyo mewn Eisteddfodau lleol ar hyd Cymru gan gynnwys mewn Eisteddfodau ysgol ac mae’n gyfle gwych i feirdd ifanc dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith llenyddol ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feirdd Cymraeg. Er mai gwactod fu ar faes arfaethedig yr Eisteddfod Genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n sicr y bydd y cyffro ar y maes eleni yn cael ei groesawu gan drefnwyr, cystadleuwyr a mynychwyr yr ŵyl. Braf bydd gweld diwylliant Cymreig yn cael ei ddathlu wyneb i wyneb unwaith yn rhagor ar ôl dwy flynedd o gael ei gyfyngu i sgrin ddigidol wrth i Dregaron baratoi at haf byrlymus, hir-ddisgwyledig. Ers dros ganrif, mae’r ŵyl wedi chwarae rôl greiddiol yn nhirlun celfyddydol Cymru ac o weld yr holl dalentau ifanc sydd wedi bod yn dod i’r amlwg dros flynyddoedd diweddar, mae’n debygol y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i chwarae ei rôl holl bwysig dros flynyddoedd i ddod. Geiriau gan: Catrin Lewis Design by: Isabel Brewster


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.